2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51275
Diolch am y cwestiwn. Fel y gŵyr Neil, rydym wedi blaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd cenedlaethol strategol, ac mae'r ymrwymiad hwnnw wedi'i ategu gan gyllid ychwanegol: darparwyd cyfanswm o £55 miliwn o gyllid ychwanegol rheolaidd i awdurdodau lleol ei ddefnyddio mewn gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18, ac rydym hefyd, wrth gwrs, wedi ymrwymo i ddyblu'r cyfalaf y gall pobl ei gadw wrth fynd i mewn i ofal preswyl i £50,000. Drwy'r gronfa gofal integredig, rydym yn darparu £60 miliwn ar gyfer darparu gofal integredig ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer gwasanaethau ailalluogi, cymorth ar gyfer rhyddhau pobl o'r ysbyty yn amserol ac yn effeithiol, a thimau gofal integredig yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac rwy'n ei longyfarch ar ei benodiad ac yn ei groesawu i'w rôl newydd. Fe fydd yn gwybod o'i friff, os nad oedd yn ymwybodol eisoes, fod achos cartref gofal Bodlondeb yn Aberystwyth wedi cael sylw sawl gwaith yn y Siambr hon—yn enwedig gan fy nghyd-Aelod Simon Thomas—a'r tu allan, gan neb llai na'r Llywydd ei hun. Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud y penderfyniad terfynol i gau'r cartref nyrsio hwn, ond ymddengys nad oes cynlluniau digonol yng Ngheredigion ar gyfer gofal amgen i breswylwyr y cartref hwn, ac nid oes unrhyw gynllun ar gyfer darparu gofal cymdeithasol yn y rhan honno o'r sir ar gyfer y dyfodol. Felly, er bod y Gweinidog yn iawn i ddweud faint o arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru at y dibenion hyn, beth y gellir ei wneud mewn amgylchiadau lle nad yw cynghorau sir, sef y darparwyr ar lawr gwlad, yn gwneud darpariaethau digonol ar gyfer y dyfodol? A pha bwerau sydd ganddo i lenwi'r gwacter a adewir ar ôl mewn sefyllfa o'r fath?
Mae Neil yn nodi pwynt pwysig yma, ac rydym yn credu'n gryf fod yn rhaid i Gyngor Sir Ceredigion, fel unrhyw gyngor arall, gynllunio eu darpariaeth ofal yn ddigonol yn seiliedig ar anghenion lleol ac ymdrin â'r materion sydd wedi eu codi. Nawr, rwy'n derbyn, a dylai pob un ohonom fod yn ymwybodol, fod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yr effeithiwyd arnynt gan hyn, yn enwedig y preswylwyr, a bod yn rhaid i ddiogelwch a lles y preswylwyr fod yn faterion o bwys i bob un ohonom. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, dros yr haf, fel y gŵyr Neil, cynhaliwyd ymgynghoriad gan Gyngor Sir Ceredigion ar gau cartref gofal Bodlondeb, ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 25 Medi. Cyfarfu cabinet y cyngor ar 7 Tachwedd i wneud y penderfyniad hwnnw y cyfeiriodd ato ynglŷn â chau'r cartref, a dywedwyd wrthym fod y penderfyniad hwnnw wedi'i wneud o ganlyniad i ymgynghori helaeth â'r sector a chyda phreswylwyr. Ond rwyf hefyd yn deall bod y cyngor wedi comisiynu eiriolwyr annibynnol ac eiriolwyr galluedd meddyliol annibynnol i sicrhau bod llais a barn y preswylwyr yn cael eu clywed yn ystod y broses. Ond wrth gwrs, rydych yn nodi'r pwynt pwysig ynglŷn â 'Beth nawr?' o ran y gofal parhaus hwnnw a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu'n briodol. Buasem yn disgwyl i Gyngor Sir Ceredigion, fel unrhyw awdurdod lleol arall sydd â chyfrifoldeb am hyn, ofalu am yr anghenion hynny yn y dyfodol.
A gaf fi groesawu'r Gweinidog i'w swydd newydd? Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Sir Powys yn dilyn adroddiad damniol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wrth gwrs, ar y ffyrdd y mae gwasanaethau plant yn cael eu darparu ym Mhowys. Mae darparu gwasanaethau ar draws ardal fawr a phrin ei phoblogaeth yn heriol iawn. A gaf fi ofyn pa ystyriaethau a roddwyd i ddarparu cyllid ychwanegol i'r awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r broses o newid ac ailgynllunio'r gwasanaeth, sy'n angenrheidiol, ac yn wir, wrth gwrs, y costau parhaus sydd ynghlwm wrth weithredu gwasanaeth allweddol, yn enwedig ar draws ardal fawr a phrin ei phoblogaeth yn y Gymru wledig?
Diolch am eich cwestiwn. Roeddech yn iawn i godi mater teneurwydd poblogaeth a'r heriau o ddarparu unrhyw wasanaethau cyhoeddus, heb sôn am ofal cymdeithasol i blant a gofal cymdeithasol i oedolion, mewn rhanbarth o'r fath, ond wrth gwrs, nid yw hynny'n lleihau'r angen i sicrhau bod pob unigolyn, er gwaethaf natur wledig yr etholaeth honno, yn cael gofal priodol.
Soniais yn fy ateb blaenorol ynglŷn â'r cyllid ychwanegol rydym wedi'i ddarparu ar gyfer gofal cymdeithasol mewn sawl ffordd wahanol, ac mae hynny'n cynnwys cyfraniadau a wnaed i Bowys hefyd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol gwybod fy mod, cyn bo hir, yn disgwyl gweld canlyniadau 20 diwrnod cyntaf y gwaith ar y cynllun gwella o fewn y ddarpariaeth ofal ym Mhowys. Rwy'n deall ei fod wedi mynd i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a'u bod yn ei ddadansoddi ac yn ei archwilio ar hyn o bryd i weld a oes digon o gynnydd wedi'i wneud, gan ei bod yn bwysig, wrth symud ymlaen, y gallwn roi'r sicrwydd fod anghenion pawb ym Mhowys sy'n cael gofal cymdeithasol yn cael eu diwallu'n briodol. Rwy'n gobeithio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad cyn bo hir, wedi imi weld yr adroddiad gwella hwnnw.
A gaf innau longyfarch y Gweinidog ar ei rôl newydd? Rwyf mewn penbleth nawr achos rwyf eisiau gofyn am Bodlondeb a Phowys, ond ni chaf i get away gyda hynny. So, mi wnaf i ei ddweud fel hyn: fy mod innau yn cefnogi cadw cartref Bodlondeb ar agor, am y tro, tra'n bod ni'n chwilio am asesiad ehangach o sefyllfa gwelyau gofal a nyrsio yn y canolbarth, ac yn gofyn yn benodol i'r Gweinidog heddiw, gan ei fod wedi addo gwneud adroddiad ar sail yr adroddiad gan CSSIW ar y gwasanaethau plant ym Mhowys, a fydd modd i ni, fel Aelodau'r Cynulliad, weld yr adroddiad hwnnw. Achos, yn ôl beth rwy'n ei ddeall, mae'n gynllun gwella, ac rwy'n credu bod angen craffu ehangach gan y cyhoedd ar y cynllun gwella yma. Un ffordd o wneud hynny, wrth gwrs, yw rhannu hynny gyda'r Aelodau Cynulliad.
Simon, rwyf wedi ymrwymo i rannu popeth y gallaf ei rannu gydag Aelodau'r Cynulliad. Yn gyntaf oll, mae angen iddo fynd at Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru er mwyn iddynt ei ystyried. Bydd angen i minnau ei weld yn gyntaf hefyd, ond er tryloywder, rwy'n awyddus i sicrhau bod popeth y gallaf ei rannu gydag Aelodau'r Cynulliad yn cael ei rannu gan ei bod hefyd yn bwysig, wrth wneud hynny, ein bod yn gallu rhoi sicrwydd ynghylch yr hyn a wnaed, ond ein bod hefyd yn edrych ar y cynnydd sydd angen ei wneud o hyd, mewn gwirionedd.
O ran cartref gofal Bodlondeb, fel y dywedais yn fy ymateb blaenorol, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn pan oedd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud, ond ni ddylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru gamu'n syth i ganol y ddadl a phennu'r hyn a ddylai fod yn asesiad o anghenion lleol gan y darparwyr yno, ar lawr gwlad, gan yr awdurdod lleol. Ond rwy'n siŵr y byddant wedi clywed ei bryderon unwaith eto, a chredaf fod pob un ohonom yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolion a arferai fod yn breswylwyr ym Modlondeb, ond hefyd ar anghenion unigolion a fydd angen darpariaeth ofal yn yr ardal honno yn y dyfodol.