Dyma ni'n cyrraedd yr eitem ar y ddadl ar ansawdd aer. Rwy'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.
Cynnig NDM6602 Julie James
Cefnogwyd gan Jayne Bryant
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen am gymryd camau brys, gan gynnwys gweithio ar draws pob adran o Lywodraeth Cymru, i fynd i’r afael ag ansawdd aer gwael sy’n effeithio ar iechyd pobl ac amgylchedd naturiol Cymru
2. Yn cefnogi datblygu cynllun aer glân i Gymru i sicrhau mwy o welliannau na’r lleiafswm cyfreithiol ar gyfer ein holl ddinasyddion, gan gynnwys:
a) llunio fframwaith parth aer glân i sicrhau bod y parthau aer glân yn cael eu cynnal yn gyson ac effeithlon gan yr awdurdodau lleol, lle’r bo’r angen;
b) gwella’r ffordd y mae’r awdurdodau lleol yn adrodd ar faterion sy’n ymwneud ag ansawdd aer yn eu rhanbarthau, a’r ffordd y maent yn mynd i’r afael â nhw;
c) sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru, ar gyfer cynghori llywodraethau lleol a chenedlaethol ar faint o ansawdd aer gwael sydd ac ar effeithiolrwydd camau gweithredu, nawr ac yn y dyfodol;
d) sefydlu ymgyrch barhaus sy’n ymwneud ag ansawdd aer ac ymyriadau eraill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael ac i newid ymddygiad.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i gael gwared ar geir a faniau diesel a phetrol erbyn 2040 drwy osod cerrig milltir penodol i’w cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw, gan gyflymu’r newid i system drafnidiaeth dim allyriadau yn y DU a chan sicrhau canlyniadau iechyd y cyhoedd yn gynharach.
Diolch, Llywydd. Mae gwella ansawdd yr aer yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', ac yn yr un modd mae'n flaenoriaeth portffolio allweddol i mi. Mae cymryd camau i wella ansawdd yr aer yn cyfrannu'n sylweddol at y rhan fwyaf o'r nodau llesiant yn ein deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ac rwyf wedi ymrwymo'n gadarn i weithredu yn y maes hwn. Nid dim ond mater o gydymffurfio â’r gyfraith yw’r angen am weithredu brys; mae'n hollbwysig a dyna’r peth iawn i'w wneud o ran iechyd a lles ein pobl a'n cymunedau. Does dim un ateb syml i'r her, ond mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd ac mae gan y Llywodraeth ar bob lefel ran i’w chwarae—yn lleol, yn y DU ac yma yng Nghymru. Rwy’n gobeithio defnyddio dadl heddiw i ddatblygu'r drafodaeth am y camau gweithredu traws-lywodraethol sydd eu hangen i wella ansawdd yr aer yng Nghymru.
Heddiw, mae gennym ni aer glanach yng Nghymru nag yn y degawdau diwethaf, ond fel bob amser, rydym ni'n gwybod bod mwy inni ei wneud. Fy nod yw i ni fod yn arweinydd wrth ddarparu atebion arloesol ac effeithiol i fynd i'r afael â llygredd aer, gan sicrhau aer glân i bawb. Rwyf felly'n cymryd camau ar unwaith, drwy raglen waith traws-Lywodraethol gynhwysfawr, i wella ansawdd yr aer yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a chyhoeddi cynllun aer glân ar gyfer Cymru yn 2018. Bydd y cynllun yn cynnwys gwelliannau i brosesau adrodd awdurdodau lleol ar broblemau ansawdd yr aer a'u cynlluniau i ymdrin â nhw, fframwaith parth aer glân ar gyfer Cymru i sicrhau sefydlu parthau aer glân yn gyson ac yn effeithiol gan awdurdodau lleol, lle bynnag y mae eu hangen, sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd yr aer genedlaethol ar gyfer Cymru, a chyflawni cyfathrebu ac ymyraethau traws-Lywodraethol parhaus i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael.
Bydd y fframwaith parthau aer glân yn nodi ein hegwyddorion ar gyfer gweithredu parthau aer glân yng Nghymru a'n disgwyliadau o ran sut y dylid eu sefydlu a beth y dylent ei gyflawni, gyda phwyslais clir ar ganlyniadau iechyd. Parth aer glân yw ardal lle y cymerir camau gweithredu wedi'u targedu i wella ansawdd yr aer. Y nod yw lleihau pob math o lygredd aer, gan gynnwys nitrogen deuocsid a gronynnau. Mae'r parthau yn benodol i ardal, felly ni fydd yr hyn sy'n gweithio mewn un ddinas neu le o reidrwydd yn cael yr un effaith neu effeithiolrwydd mewn mannau eraill. Yn ogystal â sicrhau gweithredu cyson ac effeithiol, bydd y fframwaith yn helpu i wneud yn siŵr bod disgwyliad clir gan fusnesau ac aelodau o'r cyhoedd o beth yw parth a sut y gallai effeithio arnyn nhw.
Yn ogystal â hyn, bydd datblygu gwelliannau i drefniadau adrodd ar ansawdd aer awdurdodau lleol yn rhyddhau eu hamser i ganolbwyntio ar y camau sydd eu hangen i ymdrin â'r problemau y maen nhw'n eu nodi. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gynllunio a sefydlu canolfan genedlaethol i asesu a monitro ansawdd yr aer. Bydd y ganolfan yn gam pwysig i sicrhau'r wybodaeth fyw a'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud penderfyniadau prydlon, cydlynol ac effeithiol ar faterion ansawdd aer ar lefel leol ac ar lefel Llywodraeth genedlaethol. Bydd y ganolfan hon yn rhoi pwyslais parhaus ar sicrhau cydymffurfiad â therfynau cyfreithiol ac ardaloedd penodol lle ceir problemau, gan leihau amlygiad i lygredd yn fwy eang, a bydd yn helpu i dargedu camau gweithredu er mwyn sicrhau'r manteision mwyaf o ran iechyd a lles y cyhoedd .
Bydd fy swyddogion hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws gweddill Llywodraeth Cymru i gydgynllunio a chyflwyno camau cyson wedi'u cydgysylltu'n dda i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o lygredd aer a'i effeithiau ar iechyd. Y nod fydd helpu dinasyddion i leihau eu hallyriadau a'u hamlygiad eu hunain i lygredd. Yn rhan o'r gwaith hwn, gallaf gyhoeddi heddiw ail-lansio ein gwefan Ansawdd Aer yng Nghymru yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd y wefan ar ei newydd wedd yn cynnwys gwell gallu i ragweld ansawdd aer, adrannau newydd ar gyfer ysgolion a chyngor iechyd. Bydd cynlluniwr llwybr llygredd newydd yn cael ei ychwanegu at y wefan cyn bo hir i lywio teithio iachach ar draws canolfannau trefol.
Ym mis Gorffennaf eleni, er mwyn mynd i'r afael â llygredd aer, ymrwymodd Llywodraeth y DU i roi terfyn ar werthu pob car a fan petrol a diesel confensiynol newydd erbyn 2040. Mae hwn yn gam angenrheidiol a chadarnhaol i gyflawni ein dyheadau, ond mae 2040 yn parhau i fod ymhell i ffwrdd, felly rwyf yn gofyn i bawb yn y lle hwn ymuno gyda'i gilydd i gefnogi a galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu, gyda'n cefnogaeth a'n cydweithrediad ni, amserlenni clir ar gyfer pontio blaengar i drafnidiaeth ffyrdd di-allyriadau.
Heddiw, hoffwn dynnu sylw at waith arall sy'n cael ei wneud i gyflawni'r hyn yr hoffem ni ei weld yn ein symud ymlaen at uchelgeisiau cynllun aer glân ar gyfer aer glanach yng Nghymru. Mae rheoliadau wedi'u gosod yn y Cynulliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaeth cyhoeddus ystyried adroddiadau ar gynnydd ansawdd aer gan awdurdodau lleol wrth lunio'r asesiadau llesiant lleol. Mae hyn bellach yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhagor o waith cydweithredol ar ansawdd aer rhwng cyrff cyhoeddus. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda swyddogion iechyd yr amgylchedd ac awdurdodau lleol i gryfhau'r darpariaethau ansawdd aer a seinwedd yn 'Polisi Cynllunio Cymru', ac mae fy adran i'n sicrhau bod arian ar gael ar gyfer grant refeniw sengl i awdurdodau lleol i gefnogi camau gweithredu lleol ar ansawdd aer. Yn ogystal â hyn, bydd ein cynllun gweithredu cenedlaethol newydd ar sŵn, a fydd yn dod y flwyddyn nesaf, yn integreiddio polisïau ansawdd aer a sŵn yng Nghymru ymhellach.
Mae'n amlwg nad yw'n ddigon i ddatblygu cynllun ar gyfer ansawdd aer mewn un maes yn unig. Rwyf i'n dymuno gweld ansawdd aer yn dod yn rhan annatod o bolisïau cynllunio, seilwaith, trafnidiaeth, teithio llesol ac iechyd y cyhoedd. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael o bob cyfeiriad, o'r cynlluniau cenedlaethol a lleol a chamau trafnidiaeth i gynllunio trefol a phlannu coed a gwrychoedd mewn modd sydd wedi'i gynllunio'n dda. Fe allwn ni, wrth gwrs, geisio cryfhau'r mesurau deddfwriaethol a rheoliadol, ac rwy'n hollol barod i archwilio achosion cryf dros wneud hynny. Gellir priodoli rhan fawr o'r her a wynebwn gydag ansawdd ein haer i allyriadau trafnidiaeth, ond mae rhai mathau o gynhyrchu ynni a phrosesau diwydiannol, ffermio ac arferion busnes eraill, a rhai o'r ffyrdd y mae pobl yn eu defnyddio i wresogi eu cartrefi, i gyd yn ffactorau cyfrannol. Mae'r rhain i gyd yn feysydd y mae angen mynd i'r afael â nhw drwy ymdrech ar y cyd ar draws y Llywodraeth gan ddefnyddio'r holl arfau sydd gennym.
Mae llygredd aer yn aml iawn yn tarddu o'r un gweithgareddau ag sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Felly, mae'n rhaid i'n hymdrechion fynd i'r afael â'r ddau fod wedi'u hintegreiddio'n llwyr, ac felly bydd datgarboneiddio yn gysylltiedig â chynhyrchu pŵer a diwydiannau mawr yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at aer glanach yng Nghymru. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni yng Nghymru i weithredu ac i helpu i wneud gwelliannau gwirioneddol a pharhaol i ansawdd yr aer yr ydym ni i gyd yn ei anadlu. Gydag ewyllys ac ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda'n gilydd, gallwn wireddu'r gwelliannau hyn a'r cyfleoedd y maen nhw'n eu darparu ar gyfer Cymru iachach, mwy llewyrchus a mwy cyfartal. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau y prynhawn yma ynghylch ble'r ydym ni, ble dylem ni fod yn mynd, a beth arall y bydden nhw'n hoffi eu gweld o ran ansawdd aer yn ystod gweddill y tymor hwn. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Simon.
Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd.
Gwelliant 2 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar lygredd aer.
Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar hysbysu trigolion ynghylch lefelau llygredd aer.
Gwelliant 4 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar sut y dylid monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion ac ar lwybrau teithio llesol.
Gwelliant 6 Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ac yn croesawu'r ddarpariaeth o £2 miliwn tuag at drydanu cerbydau trydan o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid yw Plaid Cymru, wrth gynnig y gwelliannau hyn, yn gwrthwynebu'r cynnig gwreiddiol, na chwaith y rhan fwyaf o gynnwys Gweinidog yr Amgylchedd yn ei haraith gyntaf, rydw i'n meddwl, yn y Siambr o dan ei dyletswyddau newydd. Ond beth rydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi ffocws ar lle'r ydym ni'n credu bod angen gweithredu ar frys er mwyn mynd i'r afael â'r broblem iechyd cyhoeddus hon.
Mae ein gwelliannau ni yn ffocysu ar yr angen i symud oedd wrth gynllun i rywbeth llawer mwy statudol, lle mae yna oblygiadau a dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus i fonitro a gweithredu ar lygredd awyr. Gan ein bod ni'n rhannu hen anrhegion Nadolig o'r llynedd, nid wyf i'n mynd i ymddiheuro bod y cynigion hyn yn seiliedig ar y gwelliannau gwnaethom ni drio eu gwneud fel Plaid Cymru i'r Bil iechyd cyhoeddus ryw chwe mis yn ôl. Rydym ni'n aildwymo'r cawl yna achos rydym ni'n meddwl ei fod e'n berthnasol ac angen ei weithredu arno fe.
Ac er fy mod i'n cytuno â'r rhan fwyaf o beth ddywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol, ni wnaeth hi sôn am y ffaith bod Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yn wynebu achos llys nawr gan ClientEarth am fethiannau o ran darparu awyr glân yng Nghymru. Er bod yna ryw ymgais yn yr hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud i fwrw bai ar San Steffan, mae'r maes yma wedi ei ddatganoli yn llwyr, ac mae'r gallu i fynd i'r afael â llygredd awyr yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Felly, rwy'n credu, wrth gymryd hyn wir o ddifrif, bod angen inni symud o fyd o gynlluniau a byd o uchelgais i un o gyflawni statudol gwirioneddol ac un lle y gallwn ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Nid oes unrhyw amheuaeth mai llygredd aer yw pob un o'r problemau amgylcheddol sydd wedi'u disgrifio, ond mae hefyd yn broblem iechyd cyhoeddus wirioneddol. Hwn yw'r ail achos o farwolaeth gynamserol yng Nghymru. Yn ail dim ond i ysmygu, y gallech chi ddweud ei fod yn broblem llygredd aer ei hun, felly maen nhw'n gysylltiedig. Ond mae'n achosi problemau mawr i blant a phobl oedrannus sydd â salwch cronig sy'n bodoli eisoes.
Mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn credu y dylem ni wir ei ystyried o ddifrif yn y fan yma. Mae'r effaith fwyaf i'w gweld yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Nid yw'r bobl gyfoethocaf yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd â phroblemau ansawdd aer. Maen nhw'n byw yn agos i fannau agored gyda choed a pharciau gyda rhywfaint o brysgwydd naturiol, fel petai. Er enghraifft, mae 10 y cant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig â lefelau pum gwaith yn uwch o lygredd aer carsinogenig. Mae'n amlwg iawn yn fater iechyd y cyhoedd ac yn fater cyfiawnder cymdeithasol. Os edrychwn ni ar y trefi a'r dinasoedd hynny, ac, yn enwog, ffordd Hafod-yr-Ynys yng Nghrymlyn yng Nghaerffili, sydd yn un o'r ffyrdd mwyaf llygredig yn y DU, heb sôn am Gymru, rydym ni'n gweld yn glir iawn y cysylltiad rhwng problemau ansawdd aer a chymunedau difreintiedig a chymunedau sy'n cael trafferth i ymdopi yn economaidd hefyd. Felly, nid yw pobl yn gallu symud allan o'r cymunedau hynny a gwneud eu dewisiadau eu hunain.
Rwy'n credu, wrth ymdrin â hyn, nad ydym ni ddim ond eisiau clywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i nodi; rydym ni eisiau clywed mwy am ba dargedau yn union a gaiff eu pennu a pha waith monitro statudol fydd yn cael ei wneud. Roeddwn i'n falch bod y Gweinidog wedi sôn am goed a llwyni, ond rwy'n credu bod angen inni glywed ychydig mwy am gynllun penodol i blannu coed—y math iawn o goed, oherwydd mewn gwirionedd mae'n dibynnu pa fath o goed yr ydych chi'n eu plannu ym mha ardaloedd, yn ôl yr hyn a ddeallaf—i sicrhau bod gennym ni ffordd naturiol o geisio glanhau ein haer. Ond mae angen inni hefyd gael mwy o bwyslais, ie, ar y problemau a grëwyd gan y seilwaith trafnidiaeth sydd gennym, ond ar y cyfleoedd hefyd i ddatgarboneiddio hynny yn y ffordd symlaf bosibl, sef ei gwneud yn haws i gerdded a beicio—dim ond ei gwneud yn haws i fynd o gwmpas.
Mae Sustrans—[torri ar draws.] Clywais 'Clywch, clywch' gan gyn berson Sustrans yn y fan yna, rwy'n credu. Mae Sustrans, dim ond yn yr ychydig wythnosau diwethaf, wedi archwilio'r cynlluniau cerdded a beicio ar gyfer Lloegr a'r Alban—ni allwn ddod o hyd i'r un ar gyfer Cymru; Dydw i ddim yn gwybod os gwnaethon nhw un ar gyfer Cymru ai peidio, ond yn sicr fe wnaethon nhw un ar gyfer yr Alban a Lloegr—a oedd yn dweud, dim ond pe byddai'r cynlluniau'n cael eu gweithredu, heb ofyn am fwy nag y mae'r ddwy lywodraeth wedi dweud eu bod yn mynd i'w wneud beth bynnag, y byddai'n lleihau marwolaethau o ganlyniad i lygredd aer gan fwy na 13,000 yn y ddwy wlad honno dros y 10 mlynedd nesaf ac y byddai'n arbed bron i £10 biliwn. Felly, mae gwir angen inni integreiddio mesurau llygredd aer—a mesurau aer glân, i fod yn fwy cadarnhaol—yn y ffordd yr ydym yn strwythuro ein system drafnidiaeth, yn y ffordd yr ydym yn adeiladu ein hysgolion, a lle'r ydym yn adeiladu ein hysgolion. Mae'n rhaid inni gael, fel mesur dros dro, yn sicr, gyfrifoldeb statudol i fonitro ansawdd yr aer y tu allan i'n hysgolion, oherwydd bod plant sy'n agored i lygredd aer difrifol bum gwaith yn fwy tebygol o fod â datblygiad ysgyfaint gwael ac yn fwy tueddol o gael heintiau.
Felly, mae hyn i gyd, i mi, yn golygu nad yw llygredd aer wedi cael y sylw y mae'n ei haeddu gan y Llywodraeth hyd yma, na gennym ninnau fel Aelodau Cynulliad. Mae hynny wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni wedi dechrau siarad mwy am y peth; rydym ni wedi dechrau ei gymryd yn fwy o ddifrif. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn symud tuag at gynllun gweithredu, ond nid wyf yn credu y byddwn yn ymdrin â hyn yn llawn tan y byddwn wedi ei roi ar ein llyfr statud a bod gennym ymagwedd statudol wirioneddol i aer glân yng Nghymru.
Diolch. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 5 Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r mesurau arloesol a hyrwyddir gan Lywodraeth y DU, fel cael gwared ar bob injan diesel a phetrol erbyn 2040—ac yn galw am fwy o gysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi hwn, er mwyn sicrhau'r newid i drafnidiaeth ffordd dim allyriadau yn y DU a chyflwyno'r canlyniadau cysylltiedig iechyd y cyhoedd.
Cynigiaf y gwelliant, Dirprwy Lywydd. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ansawdd amgylchynol yr aer yn y DU ar y cyfan, wedi gwella'n gyson dros y degawdau diweddar, yn bennaf o ganlyniad i leihad mewn allyriadau diwydiannol a gwell rheoleiddio a datblygiadau technolegol mewn tanwydd cerbydau glân a pheiriannau mwy effeithlon. Ond mae'n drasiedi fawr, mewn gwirionedd, o ystyried bod ansawdd aer yn gwella ar y cyfan, bod gennym ni broblemau gwirioneddol o hyd, ac mae llawer o'r enillion yn cael eu gwrthbwyso gan y nifer gynyddol o gerbydau ar y ffyrdd, ac maen nhw yn aml yn crynhoi mewn ardaloedd difreintiedig iawn, fel y mae Simon newydd ei amlinellu. Rwy'n credu felly bod angen inni ddychwelyd at hyn a chael dull wedi'i dargedu, ymagwedd leol iawn, ac i sylweddoli pa mor integredig yw hyn â rhai o'r ffactorau ehangach fel amddifadedd—a hefyd y materion iechyd, sy'n amlwg iawn, yn fy marn i, ac ni wnaf eu hailadrodd, gan fod Simon wedi nodi hynny. Ond dim ond i ddweud, yn ogystal â'r costau unigol ofnadwy, mae'r costau cymdeithasol a amcangyfrifwyd gan DEFRA yn sylweddol iawn, sef cyfanswm bob blwyddyn o rywbeth fel £27.5 biliwn. Amcangyfrifir bod gronynnau ar eu pennau eu hunain yn £16 biliwn y flwyddyn, felly mae'n amlwg bod angen inni gymryd camau yn y fan yma mewn modd grymus iawn.
A gaf i ddweud bod gwelliant y Ceidwadwyr, yn fy marn i, yn angenrheidiol? Dim ond oherwydd bod pwynt 3 y cynnig hwn, yn fy marn i, ychydig yn anfoddog ac yn anghydweithredol o ran ei nod. Felly, rwy'n ceisio unioni hynny, oherwydd bod angen ymdrech gydgysylltiedig arnom ar draws y pleidiau ac ar draws y Llywodraeth, yr oedd, er tegwch i'r Gweinidog, tôn ei haraith yn ei adlewyrchu. Byddem yn croesawu'r prif fesurau yn fawr fel cael gwared ar geir a faniau petrol a diesel newydd yn raddol erbyn 2040. Dylem ni fod yn annog partneriaeth gyda hynny, gan sicrhau ei fod yn cael ei orfodi yn effeithiol ac, o bosibl, wrth i'r farn gyhoeddus efallai ddod yn fwy grymus hefyd a heriol, yna gallem ni hyd yn oed wneud ychydig yn well na'r targedau. Felly, yn gyffredinol, rwy'n credu bod angen inni adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud mewn ffordd arloesol iawn gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu mai hi yw'r cyntaf i gyhoeddi'r targedau hyn, ac rwy'n credu mai dyna'r math o weledigaeth y dylem ni fod yn ei hailadrodd yn y meysydd sydd o dan ein rheolaeth.
Yn gyffredinol, rwy'n croesawu gwelliannau Plaid Cymru, ar wahân i'r gwelliant olaf, a byddwn ni'n ymatal ar hwnnw oherwydd ei dôn hunanglodforus, gan nad ydym yn arbennig eisiau bod felly—[torri ar draws.] Roeddwn i o'r farn bod y gwelliannau eraill yn eithaf adeiladol; gwelliant 1 yn ailadrodd y pwyntiau hynny ynghylch yr agweddau ar iechyd y cyhoedd. Roeddwn i'n meddwl yn arbennig bod gwelliant 4 yn ddefnyddiol, o ran rheoli ansawdd aer o amgylch ysgolion. Os edrychwch chi ar amlygiad plant i lygredd aer difrifol ac effeithiau hynny, mae'n codi cryn bryder. Rwy'n gwybod bod cais rhyddid gwybodaeth diweddar a gyflwynwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i awdurdodau lleol wedi canfod nad oedd 57 y cant ohonyn nhw'n monitro llygredd aer o fewn 10m i ysgolion. Nawr, mae honno'n broblem ledled y DU—rwy'n derbyn nad dim ond yng Nghymru y mae hyn. Ond rwy'n credu bod hynny'n arwydd clir iawn o'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud, mewn gwirionedd, i sicrhau ein bod ni'n gwella safonau ac yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn benodol.
Cyn imi gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i sôn yn gyflym am swyddogaeth trefi a dinasoedd yn yr ymdrechion hyn? Mae ardaloedd trefol Cymru yn rheng flaen y frwydr i leihau allyriadau ac i wella ansawdd aer. Rwyf wedi cydnabod hyn ers amser maith ac wedi galw am fesurau mwy sylweddol i fynd i'r afael â hyn. Rwy'n falch bod hyn yn llawer uwch ar yr agenda erbyn hyn. Roedd dadl leiafrifol Geidwadol ar hyn yn gynnar iawn yn y Cynulliad hwn, yn ystod haf 2016, gan nad oedd wedi ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu—ansawdd aer—ac roeddem ni'n bryderus iawn am hynny. Felly, fe wnaethom godi'r mater bryd hynny. Er tegwch i Lywodraeth Cymru, maen nhw wedi rhoi mwy o sylw iddo, ond rwy'n credu bod rhai pwyntiau perthnasol iawn sydd eisoes wedi'u gwneud gan Simon am yr angen i sefydlu targedau nawr.
Adroddodd pum tref a dinas yng Nghymru—Port Talbot, Cas-gwent, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe—lefelau anghyfreithlon a niweidiol o lygredd aer yn 2016, ac nid yw hi'n anodd gweld pam, a'r math o gamau y mae eu hangen arnom o ran lleihau'r defnydd o geir a mwy o gynlluniau teithio llesol. Mae'r broblem sydd gennym o allyriadau cerbydau yn fater tra phwysig, a dyma sy'n gyfrifol am tua 70 y cant o'r llygryddion yn yr aer. Rwy'n falch o weld un neu ddau o ddatganiadau barn ar hyn, ac rwyf i wedi gosod un yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cynllun treialu parth aer glân yng Nghaerdydd. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Hyd yma, mae swyddogaeth arweiniol awdurdodau lleol wedi bod yn rhan amlwg o'r polisi ansawdd aer, ond mae'n rhaid inni hefyd gydnabod yr angen am arweiniad cenedlaethol. Rydym ni wedi gweld hynny gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod angen inni weld mwy erbyn hyn gan Lywodraeth Cymru, ond byddant yn cael ein cydweithrediad pan fyddant yn gwneud y peth iawn.
Er ein bod wedi gwella'r cynnig, rwy'n siŵr y byddwn yn cefnogi beth bynnag y bydd y Cynulliad yn ei fabwysiadu y prynhawn yma yn y ddadl bwysig hon. Diolch.
Mae ansawdd yr aer yn sicr yn fater pwysig ar gyfer iechyd y cyhoedd, a hefyd ar gyfer yr amgylchedd. Rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed rhai themâu pwysig iawn y mae angen mynd i'r afael â nhw yn llawn os ydym ni am wneud y math o gynnydd yr wyf yn siŵr yr hoffai pawb ohonom ei weld.
Ydy, mae'n her fawr mewn ardaloedd trefol yng Nghymru, yn ein dinasoedd a'n trefi, yn ogystal â mewn mannau eraill. O ran y trefi a'r dinasoedd, mae Casnewydd yn un o'r dinasoedd sydd â heriau sylweddol, ac rwy'n credu bod y math o faterion sydd eisoes wedi eu codi heddiw wrth wraidd gwneud y cynnydd angenrheidiol yr hoffwn i ei weld yng Nghasnewydd ac yn wir ei weld ledled Cymru.
Rwyf i'n credu bod ein Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gyfle pwysig i wneud cynnydd angenrheidiol. Mae gennym awdurdodau lleol yn cyflwyno eu mapiau llwybrau integredig ar hyn o bryd, ac mae angen i ni ymgysylltu â'r ddeddfwriaeth honno, y Ddeddf ei hun, ac yn wir y cynlluniau gweithredu, gydag ymrwymiad a brwdfrydedd. Os byddwn yn gwneud hynny'n effeithiol, Dirprwy Lywydd, byddwn yn cymryd camau bras i fynd i'r afael â'r defnydd o gerbydau, sydd wrth wraidd llawer o'r problemau ansawdd aer gwael hyn.
Gwyddom, yn y blynyddoedd i ddod, y gallem ni weld datblygiadau pwysig a fydd yn ein helpu o ran yr agenda hon—er enghraifft, cerbydau trydan. Ond nid dyna'r stori gyfan, gan fod llawer o'r problemau o ran mater gronynnol 2.5, sy'n llai na lled blewyn dynol, yn dod o frêcs a theiars cerbydau. Gellid ymdrin â nhw drwy newid technolegol, ond mae hynny yn rhan o'r ddadl ynghylch cerbydau trydan.
Felly, mae angen inni ostwng y defnydd o gerbydau, a cheir cyfle pwysig i wneud hynny drwy'r ddeddfwriaeth teithio llesol. Felly, wyddoch chi, mae gwir angen inni weld ymrwymiad a brwdfrydedd parhaus wedi'i ailfywiogi gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a phawb yng Nghymru ar yr agenda honno.
Credaf hefyd, unwaith eto, fel y crybwyllwyd eisoes, y gallasem ni wneud llawer mwy o ran gwyrddu amgylcheddau trefol. Rwy'n cytuno â Simon Thomas bod hyn hefyd am y math iawn o goed, oherwydd ein bod wedi gweld enghreifftiau pan fo coed wedi'u plannu mewn ardaloedd trefol a'u bod wedi creu problemau nas rhagwelwyd, neu os y'u rhagwelwyd ni chymerwyd camau ar eu cyfer, ac yna flynyddoedd yn ddiweddarach mae'r coed hynny wedi eu tynnu oddi yno. Mae angen inni wneud hyn mewn modd cynaliadwy ac mae angen inni wneud ein gwaith cartref ymlaen llaw.
Fflydoedd tacsi—rwy'n credu fy mod wedi crybwyll hyn o'r blaen, a gwn bod eraill wedi gwneud hynny hefyd—mae'n enghraifft ymarferol iawn o rywbeth y gellid ei wneud. Maen nhw'n cyfrannu'n sylweddol at y problemau cerbydau trafnidiaeth ffyrdd yn ein hamgylchedd trefol. Os, er enghraifft, y byddai fflydoedd tacsi yn cael eu trosi i LPG, gyda costau y gellid eu hadennill ar gyfartaledd o fewn dwy flynedd, gallai hynny, yn y tymor byr, cyn inni gael cerbydau trydan a datblygiadau eraill defnyddiol, helpu i fynd i'r afael â'r problemau llygredd trefol hyn o gerbydau. Gallem weithredu menter ymarferol yn hynny o beth a fyddai'n talu ar ei ganfed.
Ac yn ehangach wrth gwrs, mae angen inni symud yn gyflymach ac yn fwy effeithiol o ran trafnidiaeth integredig. I mi, yn y de, mae llawer o hyn yn ymwneud â'r system metro, ac mae dewisiadau pwysig i'w gwneud yn hynny o beth o ran y buddsoddiad a allai wneud hynny yn llwyddiant yn gyflymach ac yn fwy helaeth o'i gymharu â mathau eraill o ddefnydd o arian cyfalaf sydd ar gael.
Felly, rwy'n cytuno â llawer o'r themâu y mae'r Aelodau eisoes wedi tynnu sylw atynt yn y datganiad hwn heddiw, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod ffiniau'r ddadl hon a'r camau a allai ddigwydd yn eithaf hysbys ac mae'n debyg bod consensws eithaf cryf y tu ôl i'r hyn y mae llawer ohonom ni'n gredu y dylai ddigwydd yng Nghymru. Yr her yn amlwg yw bwrw ymlaen a gwneud hynny, i gymryd y camau ymarferol hyn. A pan fyddwch yn ystyried y materion iechyd cyhoeddus a'n hamgylchedd, mae brys gwirioneddol y tu ôl iddo, ac rwyf yn meddwl bod angen i ni weld y mesurau ymarferol hynny yn digwydd mor gyflym ac mor effeithiol â phosibl.
Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn. Fel y dywedais yn ystod y cwestiynau yr wythnos diwethaf, mae ansawdd aer gwael yn un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir yn y rhanbarth yr wyf i'n ei chynrychioli, Gorllewin De Cymru, sydd â pheth o'r aer butraf yn y DU, lle mae mater gronynnol 10 yn aml yn llawer uwch na'r terfyn dyddiol diogel, ac mewn ysgolion yn fy rhanbarth i rydym ni wedi cael sawl diwrnod yn yr ychydig fisoedd diwethaf pan yr oeddent ddwywaith yn uwch na'r terfyn dyddiol diogel.
Llygryddion aer sydd ar fai am farwolaethau o leiaf pump o bobl bob dydd yng Nghymru, a'r cyfrannwr mwyaf i lygredd aer yw trafnidiaeth. Ers i Lywodraeth Lafur y DU gymell y newid i ddiesel, mae nifer y gronynnau a nitrogen deuocsid yn ein hatmosffer wedi cynyddu'n sylweddol. Er tegwch, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ceisio gwrthdroi'r polisi hwn ac wedi cyflwyno system dreth cerbyd newydd i gosbi'r cerbydau sy'n llygru fwyaf. Maen nhw hefyd wedi cyflwyno cynllun sgrapio newydd, sydd wedi'i gynllunio i dynnu hen gerbydau sy'n llygru oddi ar y ffordd, ac maen nhw wedi gwneud ymrwymiad i symud i ddyfodol â cherbydau trydan yn unig drwy gael gwared ar bob injan tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2040. Rwy'n croesawu'r symudiadau hyn a byddaf yn cefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae angen i'r cam hwn gan Lywodraeth y DU gael ei ategu gan gamau gan Lywodraeth Cymru. Fel y clywsom y bore yma, mae Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i'r Llys am ei diffyg gweithredu ar fynd i'r afael â llygredd aer. Mae'n bryd iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau i'r cyhoedd yng Nghymru. Gallen nhw ddechrau drwy gymryd camau i leihau tagfeydd traffig, sy'n chwyddo effaith llygredd traffig. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system gynllunio yn ystyried effeithiau datblygiadau newydd ar dagfeydd traffig.
Bydd UKIP yn cefnogi y rhan fwyaf o welliannau Plaid Cymru. Rydym wedi dweud o'r dechrau bod llygredd aer yn fater iechyd y cyhoedd a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ar lefel genedlaethol. Edrychaf ymlaen at weithio gydag unrhyw blaid—pob plaid—er mwyn i ni allu helpu i sicrhau strategaeth i helpu ym maes llygredd aer.
Rydym ni'n cytuno bod angen system adrodd i rybuddio trigolion am ansawdd aer gwael, ond dylai hyn gael ei wneud ar lefel genedlaethol ac nid ei adael i fyrddau iechyd lleol. Gellid defnyddio datblygiadau newydd fel y lloeren Sentinel Five P a wnaethpwyd ym Mhrydain, sy'n monitro llygryddion aer, ar lefel genedlaethol er mwyn gwella'r modd o ragweld lefelau uchel o lygredd aer a dylid eu defnyddio i rybuddio'r cyhoedd ynghylch digwyddiadau o'r fath, yn yr un modd ag y mae adroddiadau'r tywydd yn cynnwys lefel y paill. Mae angen i Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU weithredu ar hyn ar fyrder. Mae lefelau uchel o lygredd yn lladd. Byddwn, felly, yn ymatal ar welliant 3 ond byddwn yn cefnogi holl welliannau eraill Plaid Cymru.
Mae buddsoddi mewn gwefru trydan i'w groesawu, ond mae'n rhaid inni ystyried yr heriau seilwaith enfawr sy'n cyd-fynd â thrydaneiddio trafnidiaeth. Sut gallwn ni ddarparu mannau gwefru i'r bobl hynny nad ydyn nhw'n ddigon ffodus i gael dreif neu garej? Byddwn yn annog y Llywodraethau yng Nghymru ac yn San Steffan, i fuddsoddi mewn datblygu modd o wefru cerbyd yn ddi-wifr. Mae angen i'r ddwy Lywodraeth hefyd sicrhau nad yw'r system gynllunio yn amharu ar gyflwyno gwefru cerbydau trydan. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r her fawr iechyd y cyhoedd hon yn uniongyrchol. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i wella ansawdd yr aer. Rwy'n edrych ymlaen at weld cynlluniau aer glân Llywodraeth Cymru ac yn gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau na fydd unrhyw un yn marw o ganlyniad i ansawdd aer gwael yn y dyfodol. Diolch.
Mae perygl bod y consensws ymddangosiadol hwn yn rhoi'r argraff bod hyn yn mynd i fod yn hawdd, ond hoffwn eich atgoffa bod y lobi ceir yn bwerus iawn, ac os ydym ni'n mynd i wneud unrhyw beth ynglŷn â hyn, bydd yn rhaid i ni wynebu'r lobi ceir. Rwy'n croesawu'n fawr yr egni—a, gobeithio, y trylwyredd—a ddangosir gan y Gweinidog newydd dros yr amgylchedd wrth fynd ar drywydd y mater pwysig hwn, a bellach mae angen gweithredu arnom, nid geiriau.
Os edrychwn ni ar sut y mae pob math arall o drafnidiaeth wedi ei dagu gan oruchafiaeth y car: yn y 1950au cynnar, roedd 42 y cant o bob taith ar y bws, ac mae hynny i lawr i bump y cant heddiw, er mai hwn yn amlwg yw'r unig fodd o drafnidiaeth ar gyfer y rhan fwyaf o'n dinasyddion tlotaf. Seiclo: 11 y cant yn 1952; 1 y cant heddiw. Ac yn y car: 27 y cant yn y 1950au cynnar, a bellach mae mwy na 80 y cant o deithiau mewn car. Felly, mae gennym ni broblem enfawr sy'n cael ei hybu gan bolisïau cyllidol a thrafnidiaeth sydd wedi bod yn digwydd ers cenedlaethau. Mae cost car yn dod yn rhatach ac yn rhatach, ond mae prisiau tocynnau trên a bws yn parhau i gynyddu a chynyddu. Yn y pum mlynedd diwethaf yn unig, mae tocynnau trên wedi codi 15 y cant, prisiau bysiau a thacsis wedi codi 14 y cant, ac mae'r gost o redeg car wedi gostwng gan 5 y cant. Does fawr o obaith o newid gan Lywodraeth y DU, gan fod Canghellor y Trysorlys unwaith eto wedi rhewi y dreth tanwydd newid yn yr hinsawdd, a heddiw clywsom y bydd prisiau tocynnau trên y flwyddyn nesaf yn gweld y cynnydd mwyaf mewn pum mlynedd. A hyn i gyd tra bod cyflogau yn ddisymud, felly ni all fod yn syndod, mewn gwirionedd, bod pedwar o bob pump cymudwyr i mewn i Gaerdydd—dros 60,000 o bobl bob dydd—yn teithio i'r gwaith mewn car.
Mae adeiladu mwy o ffyrdd yn golygu bod mwy o bobl yn newid i gymudo mewn ceir. Felly, mae'n rhaid i ni fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus well, cynyddu capasiti ein rheilffyrdd, cyflawni ar y metro, a darparu bysiau gwell a mwy ohonyn nhw yn y cyfamser, sy'n gorfod mynd law yn llaw â mesurau llym i ddatrys y broblem hon ymhell cyn 2040. Oherwydd, mae'n rhaid inni gydnabod mai'r rheswm y mae hon yn broblem iechyd cyhoeddus mor enfawr yw bod un o bob pump o'r holl achosion o fabanod â phwysau geni isel oherwydd llygredd aer yn sgil traffig, a'r niwed mwyaf yn digwydd yn ystod beichiogrwydd cynnar, cyn bod menywod yn sylweddoli eu bod yn feichiog hyd yn oed. Rydym ni'n credu bod amlygiad mamau i benso[a]pyren, a gynhyrchir gan injan ddiesel, yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl mewn plant ac oedi niwrowybyddol. Mae lefel nitrogen deuocsid mewn ardaloedd preswyl yng Nghaerdydd a'r Fro yr uchaf yng Nghymru—rydym yn gwybod bod hynny'n gysylltiedig â mwy o risg o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd.
Yn anad dim, mae angen inni gyfleu i rieni sy'n mynd â'u plant i'r ysgol bod angen inni wrando ar yr Athro Syr David King, cyn brif gynghorydd gwyddonol y llywodraeth, sy'n dweud bod plant sy'n eistedd yn sedd gefn cerbydau yn fwy tebygol o fod yn agored i lefelau peryglus o lygredd aer. Pe byddai mwy o yrwyr yn ymwybodol o'r difrod y gallent fod yn ei wneud i'w plant, rwy'n credu y bydden nhw'n meddwl ddwywaith am fynd yn y car.
Nid yw pobl yn clywed y neges hon ar hyn o bryd, a gallwn weld y dystiolaeth yn llenwi'r lle o amgylch bron pob un o'n hysgolion cynradd, ac mae'r bobl hyn yn amlwg yn byw o fewn pellter cerdded i'r ysgol oherwydd, fel arall, ni fyddai modd i'r plant fynd i'r ysgol honno.
Gwyddom pa mor fuddiol yw ymarfer corff o ran gwella gallu pobl i ganolbwyntio yn yr ysgol, ac eto mae'r sefyllfa sydd gennym yn dal gennym. Nid plant sydd angen eu perswadio, ond yr oedolion. Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae chwarter yr holl oedolion yn anactif, yn ôl cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd; hynny yw, maen nhw'n gwneud llai na hanner awr o ymarfer corff yr wythnos—dim ond symud oddi ar y soffa i'r car i'r ddesg ac yn ôl eto.
Felly, mae angen ymgyrch addysg gyhoeddus enfawr i berswadio pobl i wneud teithiau byr o lai na 2 km—ychydig dros filltir—ar droed neu ar feic. Mae angen inni fod yn llym gydag awdurdodau lleol sy'n methu â gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Does dim angen rhagor o ddeddfwriaeth arnom ni—dim ond angen inni weithredu'r ddeddfwriaeth sydd gennym.
Rydym ni'n gwybod bod gosod parthau tagfeydd—er enghraifft, yn Llundain—wedi arwain at gynnydd o 80 y cant mewn pobl yn defnyddio beiciau. Felly, rwy'n credu bod hwn yn ddangosydd clir iawn o'r hyn y mae angen inni ei wneud. Mae angen inni fwrw ymlaen a gwneud hynny.
Rwy'n falch iawn ein bod yn trafod ansawdd aer yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, a hoffwn fynd â ni o'r cyffredinol i'r penodol, a thaith i lawr Heol Sandy yn Llanelli. Dyma'r ffordd, i'r rhai hynny ohonoch chi nad ydych chi'n gyfarwydd â'r ardal, sy'n arwain allan o Lanelli tuag at Borth Tywyn a Chydweli. Ar hyd y ffordd honno ceir dwy ysgol—Coleg Sir Gâr ac Ysgol y Strade—ac wrth ei hymyl ceir ysgol arall i fyny Denham Avenue, Ysgol Gymraeg Ffwrnes. Hon yw'r brif dramwyfa allan o Lanelli, ym Mhorth Tywyn mae datblygiadau tai parhaus a mae'r datblygiad tai Parc y Strade newydd anferth ar safle hen gae rygbi'r Scarlets yng nghanol y ffordd.
Mae hon yn ardal sydd eisoes â lefelau niweidiol o nitrogen deuocsid, ac mae'r sefyllfa yn gwaethygu. Mae'n ardal rheoli ansawdd aer, ac mae'r trigolion yn gynyddol bryderus am y tagfeydd traffig yn yr ardal hon. Mae'n lle annymunol i gerdded, mae'n lle annymunol i fyw a, drwy wneud yr un peth dro ar ôl tro, rydym ni'n gwaethygu'r broblem yn hytrach na'i lliniaru.
I mi, mae Heol Sandy yn astudiaeth achos glasurol yn y cyfyng-gyngor polisi a wynebwn, y dull digyswllt yr ydym ni'n ei ddilyn ar gyfer y prosiect hwn, blaenoriaethu anghenion tymor byr a diffyg meddwl hirdymor—yn union beth y gwnaethom gynllunio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fynd i'r afael ag ef. Mae hyn yn enghraifft o lle mae gwir angen meddwl am y dyfodol, oherwydd pe byddai hynny wedi digwydd yn y gorffennol, ni fyddem ni yn y sefyllfa hon nawr.
Rwy'n teimlo trueni enbyd dros bobl ar Heol Sandy, ac rwy'n deall eu rhwystredigaeth—rwy'n deall hefyd eu bod yn ceisio meddwl am atebion. Yn anffodus, rwy'n ofni na fydd llawer o'r atebion ond yn ychwanegu at y broblem yr ydym ni wedi bod yn ei thrafod yma y prynhawn yma.
Mae Ray Jones, sy'n byw ar Heol Sandy, yn ymgyrchydd pybyr ar y materion hyn, ac mae ef wedi nodi effaith dim ond creu yr Ysgol Gymraeg Ffwrnes newydd heb fesurau priodol i annog pobl i beidio â defnyddio'u ceir i hebrwng eu plant. Mae ef wedi nodi digwyddiad yn ddiweddar lle y gwnaeth car daro i mewn i bram, oherwydd, fel y gwyddom o'r holl ysgolion yn ein hetholaethau, ceir tagfeydd y tu allan i ysgolion yn y bore. Ei ateb ef, ac ateb bron i 2,000 o bobl sydd wedi llofnodi deiseb, yw creu ffordd osgoi ar hyd Heol Sandy. Unwaith eto, i'r rhai ohonoch chi nad ydych chi'n gwybod, byddai'r llwybr a awgrymir yn mynd dros y datblygiad tai Parc Dŵr Sandy, sydd ddim ond rhyw 300 metr o'r brif ffordd, ac sydd yn un o'r ardaloedd mwyaf tawel yn yr ardal gyda natur hyfryd ac yn agos at y lle y cynhaliwyd dwy Eisteddfod Genedlaethol, y'i canmolwyd yn briodol fel lle hyfryd i gynnal yr ŵyl yn Llanelli.
Felly, er fy mod yn deall yr awydd i liniaru'r tagfeydd yr ydym wedi'u creu ar Heol Sandy, nid wyf i o'r farn y bydd creu ffordd ddrud—rydym ni'n gwybod bod ffyrdd ar gyfartaledd yn costio £20 miliwn y filltir—dros ardal o lonyddwch lle ceir eisoes ddatblygiad tai, yn datrys y broblem; ni fyddai ond yn ei symud. Gwn o siarad ag arbenigwyr ansawdd aer ym Mhrifysgol Abertawe—maen nhw o'r farn, o ystyried lleoliad tebygol y ffordd newydd hon mor agos at dai a lle y byddai'r gwynt yn debygol o chwythu'r gronynnau yn ôl tuag at Heol Sandy, na fyddai hyn yn datrys y broblem ansawdd aer ychwaith.
Ond dyma'r math o fesurau enbyd y caiff pobl eu gorfodi i'w hystyried, gan nad ydym ni'n cynnig unrhyw ddewis arall iddyn nhw. A dyma'r broblem yr wyf i'n ei hwynebu wrth siarad â Ray Jones, a thrigolion eraill yn yr ardaloedd. Rwy'n deall y broblem. Nid wyf i'n credu y byddai'n ateb tymor byr hwn yn datrys hyn, ond beth arall ydym ni'n ei gynnig i bobl yn y sefyllfa hon? A bod yn onest, nid ydynt yn credu'r addewidion hyn ynghylch gwell cludiant cyhoeddus yn y tymor hwy; nid ydynt yn credu y caiff ei gyflawni. Ac yn union fel yr ydym ni wedi clywed yr achos a wnaed ar gyfer ffordd osgoi yn Llandeilo yn ddiweddar ar sail ansawdd aer, mae ar bobl eisiau rhywbeth gwirioneddol sy'n mynd i ddatrys y broblem yn y tymor byr.
Dyma'r cyfyng-gyngor arweinyddiaeth wleidyddol a wynebwn yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae'r ateb cyflym yn haws na'r ateb tymor hir. Mae digon o dystiolaeth yn dangos bod angen inni wneud y newid hwn, ac mae Jenny Rathbone o fy mlaen i wedi cyffwrdd ar lawer o hynny. Mae angen newid ymddygiad arnom ni ac mae angen inni fuddsoddi mewn dulliau amgen i ddefnyddio ceir, a rhoi'r gorau i adeiladu tai mewn ardaloedd lle mae'r cludiant cyhoeddus yn wael, a chyflwyno gwelliannau yn rhan o hynny. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio cynllun ardal rheoli ansawdd aer sydd ond yn sôn am y posibiliadau; nid ydyn nhw'n sôn am gamau gweithredu. Rydym ni'n gohirio'r broblem yn gyson, gan ei gadael i genedlaethau'r dyfodol. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog ddweud wrthym, tra ein bod yn gofyn i'r awdurdodau hyn lunio'r cynlluniau hyn, beth yw'r canlyniadau ar gyfer torri lefelau llygredd niweidiol.
Mae'n bryd i ni fynd i'r afael â'r achosion, nid y canlyniadau. Mae angen adolygiad ar raddfa eang i'r hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill yn y DU a thramor i wella ansawdd yr aer, ac mae'n rhaid, rhaid inni roi'r gorau i fonitro methiant a dechrau modelu llwyddiant. Diolch.
'Nid oes unrhyw un heddiw a fyddai’n amau bod llygredd aer yn ddrwg cymdeithasol ac, o fod yn ddrwg cymdeithasol, y dylid delio ag ef ar unwaith ac yn sylweddol.'
Dyna eiriau Gordon Macdonald, cyn-löwr, AS a Llywodraethwr Newfoundland a aned yn Sir y Fflint. Roedd Macdonald yn siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond roedd yn gwneud hynny yn 1955. Fel y dengys ei eiriau, nid yw cydnabod peryglon llygredd aer yn beth newydd. Yn bennaf ymhlith y peryglon hyn mae effaith llygredd aer ar ein hiechyd corfforol, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn drwy gysylltu'r ddau fater yn ei strategaeth genedlaethol.
Efallai y bydd Aelodau wedi gweld y papur briffio gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru sy'n cynnwys y gwir plaen am y peth. Mae llygredd aer yn gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint, a gweithrediad yr ysgyfaint salach i bobl ag asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae cysylltiadau wedi'u gwneud rhwng llygredd aer a chlefyd cardiofasgwlaidd, dirywiad gwybyddol a diabetes math 2. Mae plant yn arbennig yn wynebu risg, gan fod llygredd yn yr aer yn effeithio ar ddatblygiad ac ymwrthedd i heintiau.
Gellir priodoli bron i 1,300 o farwolaethau cynnar y flwyddyn yng Nghymru i lygredd aer. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio hyn fel argyfwng iechyd cyhoeddus, yn ail dim ond i ysmygu ac sy'n achosi mwy o bryder na gordewdra na alcohol. Mae gennym ymwybyddiaeth gyhoeddus dda o'r peryglon hyn, gan eu bod wedi'u hategu gan ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus o'r radd flaenaf. Mae'n rhaid i lygredd aer fod yn flaenoriaeth debyg, ac rwy'n croesawu pwynt 2(d) y cynnig, sy'n ymrwymo'r Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn. Croesawaf hefyd welliant 3 Plaid Cymru, gan fod gan fyrddau iechyd swyddogaeth allweddol i'w chyflawni o ran hyn yn lleol.
Hefyd, mae elfen cyfiawnder cymdeithasol pwysig i'r mater hwn, gan mai'r cymunedau tlotaf sy'n dioddef fwyaf o lygredd aer. Yn wir, mae'r 10 y cant o'r rhannau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan bum gwaith cymaint o allyriadau carsinogenig na'r 10 y cant lleiaf difreintiedig. Daeth astudiaeth yn y Journal of Public Health yn 2016 a ddyfynnwyd gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i'r casgliad bod amddifadedd, anghydraddoldebau iechyd a llygredd aer yn gysylltiedig, a bod llygredd aer yn dwysáu cysylltiadau rhwng amddifadedd ac iechyd.
Unwaith eto, nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Os awn ni yn ôl at araith Gordon Macdonald, cyfeiriodd at y daith i gymoedd de Cymru. Disgrifiodd gwm cul, yn cynnwys dwy ffordd gyfochrog a rheilffordd. Mewn ardal 2 erw, nododd saith simdde dal yn gollwng mwg trwchus. Ar y rheilffordd roedd tair injan rheilffordd yn cystadlu â'i gilydd, yn ceisio gollwng mwy o fwg na'r saith simdde; ac roedd y cannoedd o dai glowyr yn curo'r ddau o ran gollwng mwg i mewn i'r cwm cul hwn.
Bydd hon yn ddelwedd gyfarwydd i unrhyw un a fagwyd mewn rhannau diwydiannol o Gymru. Yng Nghwm Cynon, troseddwr penodol oedd y gwaith glo caled yn Abercwmboi. Yn ei anterth, roedd yn cynhyrchu 1 filiwn o frics o lo di-fwg bob blwyddyn. Roedd glo stêm Cymru yn cael ei wasgu a'i gyfuno â thar a gâi wedyn ei gynhesu i waredu'r rhan fwyaf o'r mwg.
Er i'r cymunedau mwy cefnog hynny mewn mannau eraill o'r DU, a allai ei fforddio, elwa ar y glo caled, cafodd effaith ofnadwy ar y gymuned leol. Nhw a ddioddefodd o'r llwch, y mwg a'r mygdarth a ollyngwyd i'r atmosffer. Mae llawer o'm hetholwyr i a oedd yn gweithio yno yn parhau i deimlo effeithiau'r afiechyd sy'n gysylltiedig â hynny.
Mae'r diwydiant trwm a oedd wedi'i gysylltu'n fwyaf agos â'r llygredd aer hwn wedi diflannu i raddau helaeth erbyn hyn. Mae ei absenoldeb wedi arwain at welliannau amgylcheddol; mae'r gwyrddni toreithiog trwy ran helaeth o'r Cymoedd yn dyst i hyn. Ar yr un pryd, rydym hefyd wedi rhoi mwy o bwys ar ddiogelu ein hamgylchedd. Cynorthwywyd hyn gan ddatblygu deddfwriaeth fwy aeddfed ac empathig gan bob lefel o lywodraeth. Ond mae ffactorau niweidiol o hyd y mae'n rhaid inni roi sylw iddyn nhw.
Cyflwynais ddatganiad barn ar hyn ychydig wythnosau yn ôl. Ynddo, roeddwn yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhwydwaith o barthau aer glân ar draws ardaloedd mwyaf llygredig Cymru. Rwy'n falch bod rhan 2(a) o'r cynnig yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i hyn. Edrychaf ymlaen at yr ymgynghoriad ar y fframwaith a fydd yn sail i'r cynllun aer glân pan fydd ar gael y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaid inni hefyd gydnabod bod hwn yn fater lle na all ein pryderon a'n hymyrraeth ddod i ben ar ein ffiniau. Mae llawer o'r offerynnau angenrheidiol i wella ein haer mewn mannau eraill, mewn gwirionedd. Roedd fy natganiad barn yn galw hefyd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r galwadau ar Lywodraeth y DU i ddatblygu cynllun sgrapio diesel. Mae'n dda bod pwynt 3 y cynnig yn ymdrin â hyn, ac mewn gwirionedd yn mynd y tu hwnt iddo wrth alw am system o gerrig milltir er mwyn i ni allu monitro cynnydd.
Ni allwn anghofio bod gennym lawer o gynnydd i'w wneud o hyd. Mae llygredd aer yn y DU yn costio £20 biliwn y flwyddyn, a channoedd o fywydau yng Nghymru yn unig. Mae deddfwriaeth arloesol fel Deddf yr amgylchedd a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn cynnig fframwaith cryf, cadarnhaol. Ond wrth i ni dynnu allan o Ewrop a'r swyddogaeth sylweddol a fu gan Ewrop yn y maes hwn dros y degawdau diwethaf, ni all ein penderfynoldeb wanhau ac mae'n rhaid inni ymdrechu i wneud gwelliannau parhaus.
Diolch. A gaf i nawr alw ar Weinidog yr Amgylchedd i ymateb i'r ddadl? Hannah Blythyn.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Gallwch chi ddweud fy mod i'n dal yn ddibrofiad gan nad oeddwn i'n barod am hynna nawr.
Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac rwy'n croesawu'r consensws ar y mater hwn ac rwy'n credu bod consensws yn cydnabod pa mor bwysig yw'r mater hwn i ni i gyd fynd i'r afael ag ef, ac mae'n un y dylid rhoi sylw iddo mewn modd cydweithredol ac ar y cyd. Roedd Simon Thomas yn iawn oherwydd hon yw fy araith gyntaf—oedd fy araith gyntaf fel Gweinidog yn y Siambr hon, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr gan ei syniad o beth yw anrheg Nadolig ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Diolch am hynna. Fe wnaethoch chi nodi fy mod i'n rhoi bai ar San Steffan, ond yr hyn yr oeddwn i'n ceisio ei bwysleisio, mewn gwirionedd, yw bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom—ar bob lefel o lywodraeth ac ym mhob rhan o'r Gymdeithas i weithredu ar hyn. Roedd yr Aelod yn iawn i ddweud bod gwella ein hansawdd aer yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, fel rwy'n credu y cydnabu'r Aelod dros Gwm Cynon—mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hwn.
Fe wnaethoch chi sôn am yr angen i blannu coed ac rydych chi yn llygaid eich lle bod yn rhaid cael y coed iawn yn y lleoedd iawn. Rwy'n deall bod potensial i awdurdodau lleol yn y dyfodol ddefnyddio'r hyn a elwir y feddalwedd i-Tree i'w helpu i allu gwneud hynny ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drafod ymhellach, yn arbennig yr wythnos nesaf yn y Siambr, wrth edrych ar ein polisi plannu coed yn gyffredinol.
O ran ymagwedd statudol, rydym ni wedi cyhoeddi canllawiau statudol eisoes, ond fel y dywedais yn fy araith agoriadol, rwy'n fodlon rhoi rhagor o ystyriaeth i fesurau deddfwriaethol pan ystyrir bod eu hangen.
Hoffwn i ddiolch i David Melding am ei eiriau caredig a'i gyfraniad i'r ddadl hon. Rydych chi'n hollol iawn y dylai'r dôn ymestyn ar draws y Llywodraeth ac ar draws yr holl wahanol lefelau o Lywodraeth hefyd, oherwydd ei bod yn iawn nad oes un ateb ac nad oes un actor yn hyn a all ddatrys y problemau yr ydym yn eu hwynebu. Fe wnaethoch chi sôn yn benodol am drefi a swyddogaeth trefi a dinasoedd. Caerdydd: o ran y fframwaith parthau aer glân, bydd y fframwaith parthau aer glân yn gallu llywio a hwyluso'r gwaith o sefydlu parthau aer glân lle bernir bod eu hangen, ac mae swyddogion eisoes yn gweithio gyda swyddogion yng Nghaerdydd oherwydd eu bod wedi nodi'r ddinas lle gallai parth aer glân gyflymu'r cydymffurfio â gwerthoedd terfyn yr UE.
Fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, diolch i chi am eich cyfraniad i'r ddadl hon. Gwn fod hwn yn fater yr ydych chi'n teimlo'n angerddol amdano, a gwn eich bod yn angerddol iawn ynghylch sut yr ydym yn cyflawni newid moddol o ran y drafnidiaeth yr ydym yn ei defnyddio a sut yr ydym yn annog y newid hwnnw mewn ymddygiad hefyd. Mae'r materion a godwyd gennych ynghylch yr angen i edrych ar ddatblygiad y metro a bysiau yn bethau yr wyf i eisoes wedi ystyried eu dwyn ymlaen. Rwy'n bwriadu cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i drafod yr union faterion hynny a sut yr ydym yn cydweithio ar y rheini, ac wrth ystyried y buddsoddiad mewn seilwaith a thrafnidiaeth, ein bod yn rhoi ystyriaeth i'r pethau hyn wrth wneud hynny.
Fy nghyd-Aelod, Lee Waters, diolch i chi am eich cyfraniad. Mae'r problemau a godwyd gennych yn dangos maint yr her yr ydym yn ei hwynebu ac rydych chi'n iawn bod angen inni dynnu'r holl elfennau ynghyd a mabwysiadu agwedd tymor hwy o edrych ar bethau o ran sicrhau newid mewn ymddygiad. Rwy'n disgwyl y bydd y mentrau sydd ar y gweill o ran y newid mewn ymddygiad yr ydym yn gobeithio ei gyflawni yn rhan o'r cynlluniau ansawdd aer, yn clymu i mewn i'n strategaeth teithio llesol hefyd, er mwyn i ni sicrhau ein bod ni mewn gwirionedd yn dwyn y pethau hyn ynghyd ar draws y Llywodraeth, ar draws cymunedau. Fel y dywedais, ni allwn wneud hyn drwy ddefnyddio un dull ac un agwedd yn unig.
Vikki Howells, rydych chi'n iawn i ddweud bod ymwybyddiaeth y cyhoedd yn fater iechyd cyhoeddus pwysig ar hyn o bryd, a dyna un o'r pethau y dylem ni edrych arnyn nhw unwaith eto, ar draws y Llywodraeth, i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i'r holl ffactorau hyn a'r rhwydwaith o—. Fe wnes i nodi eich cynnig a chyflwyniad rhwydwaith o barthau aer glân. Yr ymgynghoriad, rwy'n gobeithio y byddwch yn annog pobl i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar y fframwaith hwn ac yn cyflwyno eich syniadau chi a syniadau y bobl yr ydych chi wedi gweithio gyda nhw ar hynny. Rydych chi'n hollol gywir: mae gennym ni gynnydd. Mae cynnydd wedi'i wneud. Mae gennym ni aer glanach na fu gennym yn y gorffennol, mae pobl yn fwy ymwybodol o'r risgiau, ond mae gennym ffordd bell i fynd o hyd, ond gallaf eich sicrhau fy mod i'n hollol ymrwymedig yn y swydd hon i barhau i gyflwyno'r gwaith hwnnw ac, mewn gwirionedd, nid dim ond llunio cynllun, ond gweld camau gweithredu yn digwydd mewn gwirionedd.
Gall y cynllun hwn a'r gweithredu hwn, wrth symud ymlaen, fod yn beth bynnag y dymunwn, ac nid yw wedi'i gyfyngu mewn unrhyw fodd i'r mentrau y gwnes i eu cyhoeddi yn gynharach a byddwn i'n croesawu cyfraniadau yr holl Aelodau ar beth arall y dylid ei ystyried, a byddaf i'n ystyried pob dewis wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 1.
Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio. Byddwn yn gohirio'r holl bleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Cynigiaf symud i'r cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Mae tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Iawn. Byddwn yn canu'r gloch, felly. Diolch.
Rydym ni wedi aros pum munud fel sy'n ofynnol ar gyfer canu'r gloch, ac felly symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio.