2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 2:18 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:18, 23 Ionawr 2018

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w cael ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, mae Chwarae Teg wedi amlygu mai Gwlad yr Iâ yw'r wlad gyntaf yn y byd i orfodi'n gyfreithlon gyflog cyfartal i ddynion a menywod. A wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog syfrdanol rhwng y rhywiau, sydd wedi ymestyn 23 y cant yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn ôl adroddiad yr wythnos hon, yn ogystal â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi menter 'FairPlay Employer' Chwarae Teg?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny. Mae'n hollol wych gweld bod Gwlad yr Iâ yn wir wedi deddfu i sicrhau cyflog cyfartal. Wrth gwrs, mae Deddf cyflog cyfartal  wedi bod ar waith yn y Deyrnas Unedig ers cryn amser, a gwyddom nad yw hynny wedi arwain at y cydraddoldeb cyflog yr hoffem ni ei weld. Yng Nghymru, rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sector cyhoeddus. Wrth gwrs, yn anffodus, nid oes gennym y pŵer i wneud hynny yn y sector preifat. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rheoliadau ar lunio adroddiadau ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer cyflogwyr mawr yn y sectorau preifat a gwirfoddol ledled Prydain Fawr—sydd â 250 o weithwyr neu fwy, rwy'n deall—ac mewn gwirionedd, rydym yn archwilio ffyrdd y gallwn ni gael cytundeb gwirfoddol yma, mewn partneriaeth gymdeithasol â'n busnesau, i weld os gallwn ni ymestyn hynny yn is i lawr y strwythurau yng Nghymru, oherwydd mae nifer fawr o'r cwmnïau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, wrth gwrs. Rwyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi bod yn archwilio ffyrdd o wneud hynny gan ddefnyddio ein pwerau caffael hefyd, ers cryn amser.

Mae menter Chwarae Teg yn un diddorol iawn mewn gwirionedd. Rwy'n gadeirydd y bwrdd gwaith teg, ac rydym ni'n chwilio am ffyrdd o gyflwyno enghreifftiau tebyg. Byddwn yn gwneud argymhellion cyn hir ynghylch comisiwn gwaith teg yng Nghymru, a gwn y caiff cynigion Chwarae Teg eu hystyried yn ddifrifol iawn yno fel ffordd o ymestyn y gwasanaeth. Hoffwn i hefyd argymell rhaglenni megis y prosiect Cenedl Hyblyg 2, a gynhelir gan Chwarae Teg. Rwyf i'n bersonol wedi bod i weld yr effaith ar fenywod sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni hynny. Rwy'n credu mai tua £3,000 yw'r codiad cyflog cyfartalog ar gyfer y menywod sydd wedi cwblhau'r rhaglen honno, sy'n wych, ac mae'n dangos yr hyn y gallwch chi ei gyflawni pan fyddwch chi'n cynyddu pwerau pobl i ddeall beth yw eu hawliau yn y gweithle. Ond does dim amheuaeth bod hynny'n broblem barhaus. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod y sector cyhoeddus yma yng Nghymru yn arwain y ffordd, trwy esiampl a thrwy ein pŵer gwario, yn waith pwysig iawn, i weld beth arall y gallwn ni ei gyflawni yng Nghymru tra bod Llywodraeth y DU yn methu â gweithredu.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:20, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno dau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae'r datganiad cyntaf yn ymwneud â chynigion newid gwasanaeth newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sydd wedi codi eisoes yn y Siambr hon y prynhawn yma. Nawr, gallai rhai o'r cynigion hyn achosi i wasanaethau gael eu canoli ymhellach i ffwrdd o sir Benfro, a gallai rhai o'r cynigion hyn hyd yn oed arwain at gau Ysbyty Llwynhelyg yn gyfan gwbl yn y dyfodol. Bydd Aelodau'n gwybod fy mod i wedi codi'r mater hwn yn gyson yn y gorffennol, gan dynnu sylw at effeithiau canoli gwasanaethau ar adrannau eraill, sydd, yn eu tro, yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa waeth yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi cael fy nghyhuddo'n aml o godi bwganod, ac mae'n ymddangos mai dyna sy'n digwydd yma heddiw eto wrth godi sgil-effeithiau canoli gwasanaethau ar ysbytai yn y gorllewin. Mae'n ymddangos bod y pryderon hynny yn gyflym ddod yn realiti, gan gofio bod rhai o'r dewisiadau a ystyriwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn golygu y byddai ysbyty Llwynhelyg yn cael ei gau yn gyfan gwbl. Nawr, ni ddylid hyd yn oed ystyried cau'r ysbyty, yn fy marn i, a bydd gwneud hynny yn gwbl annerbyniol i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli. Mae'n bwysig nawr inni glywed gan Lywodraeth Cymru beth yw ei safbwynt ar y mater difrifol hwn. 

Gwrandewais yn ofalus ar atebion y Prif Weinidog yn gynharach, a oedd yn awgrymu nad oes gan Lywodraeth Cymru farn o gwbl. Llywodraeth Cymru, yn sicr, sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yng Nghymru, ac rwy'n bryderus iawn bod y Llywodraeth yn gwrthod ymateb i wasanaethau iechyd yn y gorllewin. Yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad, nid oedd cau ysbyty Llwynhelyg yn rhan o bolisi'r blaid sy'n llywodraethu. Felly, mae ond yn rhesymol bod y Llywodraeth bellach yn dweud wrth y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli beth yw ei barn ar ddyfodol ysbyty Llwynhelyg. Felly, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gyflwyno datganiad brys ynglŷn â dyfodol darpariaeth gwasanaethau iechyd yn y gorllewin, ac yn arbennig yn sir Benfro, cyn gynted ag y bo modd? Oherwydd dylai Llywodraeth Cymru nodi ei safbwynt ar y mater difrifol hwn. 

Yn ail, a gaf i hefyd ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am ddatganiad ar strategaeth recriwtio Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr meddygol proffesiynol yn y gorllewin? Mae Meddygfa St Clement yn Neyland, yn fy etholaeth i, wedi cyflwyno cais i'r bwrdd iechyd lleol i gau'r feddygfa, yn rhannol, yn sgil prinder staff, gan amlygu unwaith eto pam mae angen gwneud mwy i ddenu gweithwyr meddygol proffesiynol i swyddi yn y gorllewin. Mae hwn yn fater difrifol iawn i'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli, gan gofio ein bod wedi gweld problemau eraill wrth recriwtio meddygon teulu yn Wdig, yng ngogledd fy etholaeth. Felly, a wnewch chi bwyso ar Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i gyflwyno datganiad yn amlinellu strategaeth recriwtio Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ardal os gwelwch yn dda—[Torri ar draws.]—fel nad yw meddygfeydd eraill fel hyn yn cau, o ganlyniad i brinder staff, yn y dyfodol?

Llywydd, gallaf glywed rhai Aelodau Llafur yn chwerthin am y materion ddifrifol iawn hyn. [Torri ar draws.] Dylai fod cywilydd arnyn nhw. 

Photo of Julie James Julie James Labour 2:24, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y ddau gwestiwn yna, a oedd yn debycach i areithiau. Rwy'n credu mai dyna oedd yr Aelodau Llafur yn gwneud sylwadau yn ei gylch. [Torri ar draws.] O ran yr un cyntaf, fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yma i glywed eich datganiad neu gwestiwn eto i mi, ond mae'n amlwg bod proses briodol ar gyfer bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad. Rwy'n synnu bod yr Aelod yn credu y dylwn ni fod â barn ar yr ymgynghoriad ar hyn o bryd, cyn diwedd yr ymgynghoriad. Rydym yn ystyried ymgynghoriadau yn hynod ddifrifol. Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben a'n bod wedi dilyn proses briodol i edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno canlyniadau'r ymgynghoriad ac ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad hwnnw ar yr adeg honno.

O ran eich ail bwynt, fe wnaethoch chi sôn am hynny yn gynharach ac rydych chi wedi sôn amdano eto nawr. Dydw i ddim yn credu mai cwestiwn oedd ef mewn gwirionedd. Clywodd Ysgrifennydd y Cabinet y pwyntiau a wnaethoch chi, fel y gwnaeth pawb arall.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:25, 23 Ionawr 2018

A gaf i ddechrau gan ofyn am ddiweddariad ar ddiogelwch ffyrdd, yn benodol ar yr A487? Efallai bod arweinydd y tŷ yn cofio, tua phythefnos yn ôl, roedd damwain angheuol rhwng Gellilydan a Maentwrog, pan fu farw baban a'i modryb mewn car. Mae cydymdeimladau gen i tuag at y teulu a'r gymuned leol, sydd yn galaru dros y ddamwain honno. Ond yn benodol, o edrych ar y ffigyrau, mae yna 26 o ddamweiniau wedi bod ar yr un darn o hewl, sef, i'r rhai sy'n ei nabod e, y troadau yn mynd lawr y bryn rhwng Gellilydan a Maentwrog. Mae 26 wedi bod mewn blwyddyn yn unig—yn y flwyddyn lawn ddiweddaraf. Felly, er mwyn osgoi'r posibiliadau, neu o leiaf lleihau'r posibiliadau, o ddamweiniau difrifol ar y darn yna o'r hewl, rydw i'n gofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar edrych i mewn i ddiogelwch y ffordd. Yn benodol, mae'r bobl leol yn gofyn am ostwng y cyflymder dros dro tra eu bod nhw'n edrych i mewn i ffordd arall o wneud y ffordd yn fwy diogel. Mae'n werth cofio bod rhannau eraill o'r ffordd yma rhwng de a gogledd Cymru wedi'u gwneud yn fwy saff yn ddiweddar drwy fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r darn yma yn aros fel roedd e yn nyddiau'r goetsh, a dweud y gwir, ac mae angen edrych, yn sicr, ar ddiogelwch y ffordd yna.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:26, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw diolch ar goedd i'r llawer o bobl a wnaeth weithio yn ystod y penwythnos. Cawsom lifogydd, unwaith eto, yn llawer o rannau o orllewin Cymru. Cafodd Ceredigion yn arbennig ei effeithio'n wael. Yn sicr nid oedd modd i mi fy hunan gwblhau taith ddydd Sul, oherwydd cefais fy nhroi'n ôl gan yr heddlu, a gwn fod problemau llifogydd difrifol yn Ninbych y Pysgod, hefyd, ar y ffordd ddwyreiniol allan o'r dref. Mae'r pethau hyn yn digwydd. Mae gennym broblemau mawr â dŵr wyneb yng Nghymru, ond weithiau gellir ymdrin â'r problemau hyn drwy well peirianneg a gwell dealltwriaeth o sut i wneud ychydig o beirianneg meddal wrth i ni ymdopi â llifogydd. Felly, wrth i ni ddiolch i bobl am eu gwaith caled—staff a swyddogion y cyngor a'r heddlu hefyd—byddai'n dda, yn fy marn i, efallai nid ar unwaith, ond o fewn yr ychydig wythnosau nesaf, i gael cyfle i fyfyrio fel Cynulliad, naill ai drwy ddatganiad neu drwy ddadl, ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i ddelio â llifogydd, ac atal rhai o effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn rhan o hynny, a beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i cynllunio ar gyfer helpu rhai cymunedau i nodi problemau a cheisio mynd i'r afael â nhw.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:27, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

O ran yr A487, hoffwn hefyd estyn ein cydymdeimladau i'r teulu. Cydymdeimlwn yn fawr â phob un a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad traffig ofnadwy hwn. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn teimlo'n gryf iawn am ei ymrwymiad i wella diogelwch ar y ffyrdd ac i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru. Nid wyf wedi cael cyfle eto i drafod ag ef ynghylch gostwng y terfynau cyflymder. Byddem yn ddiolchgar iawn pe byddai'r Aelod yn ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu hynny yn benodol. Rwy'n siŵr y bydd yn cymryd hynny o ddifri, gan fy mod i'n gwybod ei fod wedi cydymdeimlo â theuluoedd y rhai y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt. Roedd yn ddigwyddiad difrifol iawn.

O ran llifogydd, yn wir roedd yna lifogydd. Roedd yn arllwys y glaw, rwy'n siŵr y byddem oll yn cytuno, ddydd Sul, ac roedd llifogydd ym mhobman. Torrodd y llifogydd ar draws fy nhaith i hefyd. Unwaith eto, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn ystyried hynny'n ddifrifol iawn, a byddwn ni'n ystyried ffordd o ddod â hynny i lawr y Cynulliad, oherwydd mae'n fater difrifol iawn i nifer fawr ohonom yng Nghymru. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:28, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, rydym wedi clywed bod y Prif Weinidog yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym wasanaeth bysiau cynaliadwy, a gefnogir gan y cyhoedd yng Nghymru, ond rydym wedi clywed hefyd, mewn nifer o rannau o Gymru, gan gynnwys Caerdydd, fod y system bysiau bresennol yn dirywio'n gynyddol. Cwblhaodd y Llywodraeth ei hymgynghoriad bysiau yn ôl ym mis Mai. Rwy'n sylweddoli eich bod chi'n aros i Lywodraeth y DU drosglwyddo'r pwerau sydd eu hangen arnom ni i gomisiynu gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru, ond yn y cyfamser, a yw'n bosibl cael dadl ynghylch modelau posibl ar gyfer y system bysiau yn y dyfodol, boed hynny drwy greu masnachfraint ar gyfer cymunedau cyfan neu drwy systemau o ddarparu gwasanaethau bysiau a gefnogir yn gyhoeddus neu'n gymunedol?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:29, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn hollol iawn; daeth ein hymgynghoriad i ben ar 31 Mai y llynedd. Roedd yn hwnnw nifer o gynigion amlinellol i wella sut y caiff gwasanaethau bysiau lleol eu cynllunio a'u darparu. Roedd saith deg pump y cant o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad hwnnw yn dweud eu bod nhw'n hoffi i'n diwygiadau alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno rhyw fath o fasnachfreintiau bysiau yn eu hardaloedd er mwyn diwallu anghenion lleol yn well. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arall, y tro hwn ar y cynigion manwl a ddaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyntaf, ynghyd â rhai eraill, gan gynnwys rhai o'r pethau y mae'r Aelod newydd eu codi. A chredaf mai ei fwriad yw cyhoeddi'r ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw yn y Siambr bryd hynny. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei gyflwyno.

Mae'n werth atgoffa ein hunain, fel y nododd y Prif Weinidog yn gynharach hefyd, fod gan awdurdodau lleol amryw o bwerau eisoes i gael mwy o ddylanwad ar y gwasanaethau bysiau. Er enghraifft, gallant greu cynlluniau tocynnau; yn fy awdurdod lleol, mae tocynnau o-un-pen-i'r-llall wedi bod yn broblem fawr, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau o Abertawe a'r Gŵyr. Hefyd, mae cytundebau gwirfoddol y gellir eu gwneud â gweithredwyr bysiau i gydgysylltu buddsoddiad mewn cynlluniau gwahanol, ac i lunio cynlluniau partneriaeth ansawdd bysiau y gellir eu gorfodi'n statudol. Felly, nid ydym ni heb unrhyw bwerau ar lefel yr awdurdod lleol, ond fe fyddwn ni'n ymgynghori ar bwerau ychwanegol, wrth iddyn nhw gael eu trosglwyddo i ni maes o law.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:30, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau cysylltiadau agosach rhwng de-ddwyrain Cymru a Bryste a gorllewin Lloegr? Ddoe, cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, uwchgynhadledd twf Hafren yng Nghasnewydd ar sut y gallwn ni ddatblygu cysylltiadau economaidd, gan adeiladu ar ostwng y tollau ar bont Hafren, cyn iddyn nhw gael eu diddymu. A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cysylltiadau er mwyn gwella safonau byw a'r rhagolygon am swyddi yn y de-ddwyrain?

Ac mae'r cais am ail ddatganiad, gan yr un Gweinidog, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn gofyn—mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud rhai cynlluniau, ond roedd un sefydliad pwysig iawn o'r enw Defnyddwyr Bysiau Cymru nad oedd wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hyd yn oed. Mae gan y sefydliad hwnnw safbwyntiau mewn gwirionedd, mae ganddo bryderon, mae ganddo strategaethau, ac mae ganddo faterion technegol i'w trafod. A llynedd, fe wnaethon nhw gyflwyno mwy na 430 o gwynion, ac maen nhw i gyd wedi cael sylw—y rhan fwyaf ohonynt. Felly, mae eu cyfraniad yn hanfodol iawn ar gyfer ein defnyddwyr bysiau, yn enwedig ar gyfer ein dinasyddion hŷn, a phobl anabl. Felly, byddem yn ddiolchgar iawn pe byddech yn gofyn i'r Gweinidog wneud datganiad ar Ddefnyddwyr Bysiau Cymru yn y Siambr hon, os gwelwch yn dda.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:32, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael cyfres helaeth o gyfarfodydd ynghylch ardal Hafren, a diddymu'r tollau ac ati. Gwn fod ganddo nifer fawr o faterion yn mynd rhagddynt yr ardal benodol honno. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r pwynt am ymgynghori â Defnyddwyr Bysiau Cymru. Rwyf yn awgrymu i'r Aelod ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gan dynnu sylw at y mater hwnnw. Nid wyf yn credu ei fod yn fater ar gyfer datganiad yn y Tŷ, ond rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i ymholiad ynghylch, os ydynt wedi eu hepgor o'r ymgynghoriad, pam y digwyddodd hynny ac ati. Yn anffodus, nid wyf yn gwybod yr ateb penodol i hynny.

Fel y dywedais mewn ymateb i Jenny Rathbone, bydd ymgynghori ymhellach ynghylch y sefyllfa o ran bysiau, a bydd hynny'n rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth integredig, ac, yn amlwg, mae yn effeithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth integredig hefyd. Ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth i hynny wrth iddo gyflwyno ymgynghoriad ar agweddau penodol o'r rhwydwaith bysiau.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:33, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Cawsom ddatganiad ysgrifenedig yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf ar gaffael dur, ac rwy'n croesawu hynny. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad ysgrifenedig neu lafar ar elfennau eraill y cytundeb â Phlaid Cymru a wnaethom o ran y diwydiant dur, yn benodol ar gyllid ar gyfer gwaith pŵer? Rwy'n awyddus i wybod beth yw'r sefyllfa ynglŷn â hyn. Yn ystod yr wythnos diwethaf, rydym wedi gweld materion o ran problemau â chyngor pensiwn, ac roeddwn i am fod yn sicr, a sicrhau bod y gweithwyr yn sicr, nad yw'r newidiadau yn eu pensiynau yn ofer. Ac felly, diweddariad ar y gwaith pŵer, a chroesawir hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil a datblygu.

Fy ail gais yw gofyn am ddiweddariad ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar geiswyr lloches a ffoaduriaid. Yfory, rwy'n cynnal digwyddiad yn y Senedd ar bwnc Cymru fel noddfa i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ac yn yr adroddiad hwnnw fe wnaethom ni argymell bod Cymru'n dod yn genedl noddfa. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yr adroddiad hwnnw, gan ystyried bod llawer o ddiddordeb yn hyn gan y sector hwnnw, a llawer o frwdfrydedd, mewn gwirionedd, gan geiswyr lloches a ffoaduriaid ledled Cymru.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:34, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ateb y cwestiynau gan ddechrau â'r olaf yn gyntaf, gan fod yr un hwnnw yn rhan o'm cyfrifoldeb portffolio. Fe wnes i gyfarfod â nifer o'r grwpiau dan sylw yn yr adroddiad hwnnw yn ddiweddar. Rwy'n gobeithio picio i mewn i'ch digwyddiad yfory, ac rydym yn edrych yn ffafriol iawn ar hynny, a byddaf yn adrodd yn fuan ar ein hymateb i'r adroddiad hwnnw. Cawsom gyfarfod da iawn â nifer fawr o'r grwpiau, sefydliadau ymbarél ac ati. Felly, byddaf yn cyflwyno ymateb ar hynny cyn bo hir. Byddaf yn galw heibio i weld digwyddiad coffa Holocost Julie Morgan ar risiau'r Senedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yfory hefyd, ond rwy'n gobeithio mynd i'r ddau ddigwyddiad. Mae'n wych gweld dau ddigwyddiad mawr o'r fath yn y Senedd yfory.

O ran y gwaith ymchwil a datblygu dur, ma'r trafodaethau hynny ar y gweill.  Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno—a bod yn onest, dwi ddim yn siŵr os bydd yn ddatganiad neu'n ddadl—ond byddwn yn cyflwyno rhywbeth cyn bo hir i ddiweddaru Aelodau ar hynny a beth yw ein sefyllfa, a phwysigrwydd hynny i'r gweithwyr. Yn sicr, mae David Rees bob amser yn fy holi i ynghylch pa gyfeiriad yr ydym yn mynd â hynny, a'r Aelod hefyd, felly byddwn yn gwneud hynny'n fuan iawn hefyd.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:35, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Fel y byddwch yn ymwybodol, arweinydd y tŷ, mae Brexit ar ddechrau cyfnod arbennig o ddwys. Mae Nigel Farage wedi bod yn galw am ail refferendwm. Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, hyd yn oed, wedi dweud ar y radio os bydd y ffeithiau'n newid, y bydd yn rhaid i chi bleidleisio eto, er rwy'n credu yr oedd yn cyfeirio at arweinyddiaeth UKIP. Ond o gofio'r cyfnod yr ydym ar fin mynd iddo nawr, a fyddai'n briodol i Lywodraeth Cymru gael, er enghraifft, datganiadau bob pythefnos ar gyflwr presennol Brexit? Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a bod trafodaeth barhaus yn cael ei chynnal gan fod pethau'n datblygu'n gyflym iawn, iawn, ac mae'r materion hyn yn hanfodol bwysig i'r Cynulliad hwn ac i'r DU yn ei chyfanrwydd.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:36, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, mae'r Aelod yn llygad ei le—mae'n eithriadol o bwysig. Rwyf i fy hun mewn sefyllfa braidd yn anghyfforddus gan fy mod i'n cytuno â Nigel Farage, ond dyna ni—nid yw hynny'n sefyllfa y byddwch chi'n dymuno bod ynddi yn aml. Mae Llywodraeth Cymru yn eithriadol o awyddus i adeiladu ar ein gwaith ardderchog, yn fy marn i, o ran rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ddatblygiadau diweddaraf Brexit. Ers canlyniad y refferendwm, rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rhagweithiol i'r Cynulliad, er enghraifft, drwy ddatganiadau ysgrifenedig a llafar, yn dilyn cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, a digwyddiadau arwyddocaol neu ddatblygiadau. Er enghraifft, cawsom dri datganiad ysgrifenedig yn ystod yr wythnos cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr ar wahanol agweddau ar bolisi a thrafodiadau'r Undeb Ewropeaidd—ar y cytundeb cam 1, ar gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 12 Rhagfyr ac ar lansio ein dogfen bolisi ranbarthol. Hefyd, mae'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi bod yn adrodd yn ôl yn rheolaidd ar y cynnydd, i system bwyllgor y Cynulliad.

Wrth inni symud ymlaen at gam nesaf y trafodaethau, byddwn yn parhau i adeiladu ar y dulliau sefydledig hyn o ddiweddaru'r Cynulliad. Fodd bynnag, bydd yr Aelod yn gwybod bod angen inni weld cynigion pendant mewn gwirionedd gan Lywodraeth y DU ar lefel ymgysylltiad Llywodraeth Cymru yn ystod yr ail gam o drafodaethau cyn i ni allu amlinellu yn fanwl sut y gallwn sicrhau bod cyfres o drefniadau sy'n addas at eu diben ar waith, lle gellir adrodd y datblygiadau diweddaraf a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y ddwy lefel. Ac rydym wedi gwneud yr achos i Lywodraeth y DU y dylai'r model ar gyfer yr ail gam ddilyn y strwythur sydd gan y DU eisoes wrth gyflawni busnes yr UE ar hyn o bryd, yn seiliedig ar yr egwyddor y bydd Llywodraeth y DU yn cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn llawn wrth ddatblygu safbwyntiau polisi y DU ar faterion yr UE, fel y gallwn sicrhau bod y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn briodol.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:37, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, soniais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog fy mod i wedi mynd i  uwchgynhadledd twf Hafren yn y Celtic Manor, sy'n edrych ar ffyrdd o adeiladu ar newidiadau megis diddymu tollau Pont Hafren yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A fyddai'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar sut yr ydych chi hefyd yn bwriadu, fel Llywodraeth, i weithio i ddatblygu economi'r de-ddwyrain yng ngoleuni'r newidiadau hyn, a hefyd edrych ar y materion trawsffiniol a grybwyllodd y Prif Weinidog? Mae'n bwysig, yn fy marn i, ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn yng ngoleuni'r newidiadau hyn i ddatblygu economi'r rhan hon o Gymru sy'n symud i ochr arall y ffin.

Yn ail, ar hyn o bryd rwyf yn noddi arddangosfa o gwiltiau coffa'r Rhyfel Byd cyntaf yn adeilad y Pierhead; efallai bod rhai ohonoch chi wedi'u gweld nhw eisoes. Mae yna ddau ohonynt; maen nhw'n anhygoel. Cawson nhw eu creu, eu gwnïo a'u brodio gan blant ysgol o bum ysgol yn fy etholaeth, ac maen nhw wir yn werth eu gweld. Cawson nhw eu creu i ddathlu 100 mlynedd ers diwedd y rhyfel byd cyntaf, ac yr ydym bellach—nid yw'n teimlo fel amser maith ers inni goffáu dechrau'r rhyfel mawr—bellach rydym yn coffáu y diwedd. Felly, rwy'n apelio ar yr Aelodau Cynulliad, os nad ydyn nhw wedi bod eto, i fynd i weld rhai o'r cwiltiau hyn am weddill yr wythnos hon, ond hefyd os gallai Llywodraeth Cymru egluro'n union sut yr ydych chi am i ni ddathlu diwedd y rhyfel mawr. Yn amlwg, roedd yn rhan sylweddol a phwysig iawn o'n hanes ac yn rhyfel lle gollodd llawer o bobl Cymru eu bywydau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael rhywfaint o arweiniad o ran pa gyfeiriad yr ydym ni'n ei ddilyn ar gyfer dathlu diwedd y rhyfel hwnnw.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:39, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, dau bwynt pwysig iawn. O ran ardal twf Hafren, fel y dywedais wrth Mohammad Asghar yn gynharach, ceir nifer o gyfarfodydd ynghylch hyn—mae'n bwynt pwysig iawn. Gwn fod gan Ysgrifennydd y Cabinet nifer o faterion heb eu datrys yno, a'i bod mewn trafodaethau ar hyn o bryd. Bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad wrth i'r trafodaethau hynny fynd rhagddynt. Os oes gan yr Aelod unrhyw beth penodol iawn a ddaeth yn sgil y gynhadledd yr aeth iddi,  byddai'n ddefnyddiol iawn i wybod beth yw'r pwyntiau penodol hynny er mwyn gallu ymdrin â nhw.

O ran y cwiltiau coffa, rwy'n gobeithio mynd i'w gweld nhw hefyd. Credaf fod hynny'n fenter wych iawn, ac rwy'n canmol yr Aelod am ei noddi. Nid wyf wedi gallu mynd draw i'w gweld eto ond rwyf wir yn gobeithio y caf y cyfle i fynd. Mae'n ffordd dda iawn o wneud hynny. Byddwn yn cyflwyno rhai digwyddiadau coffa ac ati maes o law, oherwydd mae'r Aelod yn llygad ei le—bu llawer iawn o Gymry yn ymladd yn ddewr, a rhai wedi aberthu eu bywydau, wrth gwrs, yn y rhyfel mawr. Mae'n bwysig iawn inni goffáu'r bobl hynny, ond hefyd ein bod yn addysgu ein pobl ifanc am effeithiau rhyfel byd-eang o'r fath a'r goblygiadau, gartref a thramor, o'r fath bethau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r mater pwysig yna.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:40, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y strategaeth cynhwysiant ariannol i Gymru? Cefais adroddiad defnyddiol iawn yn ddiweddar gan fy nghanolfan Cyngor ar Bopeth leol am yr effeithiau ar gymuned Aberpennar yn sgil cau banc olaf y dref. Gan fod Aberdâr hefyd wedi gweld yr effaith gyda thri banc mawr yn cau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf—gan gynnwys y Banc Cydweithredol, a gyhoeddodd yr wythnos diwethaf y bydd yn cau—credaf fod hwn yn gyfle da inni fyfyrio ar y strategaeth, gan fod llawer o gymunedau eraill, fe wn, yn gweld yn union yr un peth yn digwydd. Ond mae hefyd yn caniatáu inni ystyried yr ymyriadau sy'n fwyaf priodol i sicrhau y gall holl aelodau ein cymuned ddefnyddio'r gwasanaethau bancio hynny a oedd yn arfer bod ar gael iddynt ar y stryd fawr leol.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:41, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig. Rydym yn hyrwyddo cynhwysiant ariannol ac mae'n flaenoriaeth allweddol i raddau helaeth iawn gan Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, roedd gan Bethan Jenkins ran fawr wrth gyflwyno'r mater hwnnw hefyd. Rydym yn gweithio'n galed iawn gyda sefydliadau partner drwy gyfrwng y grŵp llywio cynhwysiant ariannol i ddatblygu ystod eang o gamau gweithredu yn y cynllun cyflawni a byddwn yn adrodd yn ôl ar gynnydd yn ystod y misoedd nesaf.

O ran cau banciau, mae'r Aelod yn llygad ei lle. Rydym i gyd wedi bod yn trafod cau banciau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau etholaethol ein hunain, ac mae nifer mawr ohonom wedi codi'r problemau gyda rheolwyr banc lleol pan fo banciau wedi'u clustnodi i'w cau. Mae rhai o'r ymatebion a gewch am y cymunedau yr effeithir arnyn nhw ac ati yn wirioneddol siomedig. Mae'n werth nodi bod gwasanaeth cownteri Swyddfa'r Post yn darparu gwasanaethau bancio mewn rhai ardaloedd, mae hynny'n sicr yn wir yn fy etholaeth i fy hun ac yn y ddwy arall, etholaethau Dwyrain Abertawe a Gŵyr, ac rydym wedi cael rhai cyfarfodydd sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn ynghylch sut i ymdrin â hynny. Ond rydym yn parhau i fod yn siomedig iawn ynglŷn â'r mater.

Un o'r pethau yr ydym yn eu gwneud hefyd yw ceisio sicrhau bod ein cynllun cynhwysiant digidol yn cynnwys bancio ar-lein, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a allai fod wedi eu heithrio o'r gwasanaethau ar-lein sydd yn cael eu defnyddio i gymryd lle gwasanaethau'r stryd fawr i raddau helaeth. Nid wyf i'n awgrymu am funud bod hwn yn newid cywir, a gwn fod yr Aelod wedi pwyso'n galed i gadw rhai o'r banciau yn agored yn ei hardal, fel yr ydym ni i gyd wedi gwneud. Ond mae'n bwysig, lle mae cwtogi ar y gwasanaethau, fod pobl yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio'r dechnoleg sy'n caniatáu iddyn nhw barhau i fancio o'u cartrefi, os mai dyna'r broblem, er nad yw hynny'n helpu busnesau bach sy'n awyddus i allu bancio arian parod ac ati, sy'n broblem enfawr.

Mae problem hefyd o ran gwneud i ffwrdd â pheiriannau ATM. Nid wyf yn gwybod a yw'r Aelod yn ymwybodol ohoni. Mae problem yn codi o ran faint o arian a delir i bobl i gynnal peiriant ATM a sut mae'n cael ei leoli. Felly mae'n rhaid inni edrych ar hynny hefyd i weld a allwn ni wneud unrhyw beth i helpu, o ran y darpariaeth o beiriannau ATM. Mae yna nifer o fannau ledled Cymru erbyn hyn lle mae'n rhaid ichi deithio'n bell er mwyn cael arian parod, a phroblem fawr yw honno.

Felly, rwy'n diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y pwynt pwysig hwnnw. Rydym ni'n cael trafodaeth ar sut y gallwn leddfu rhai o effeithiau cau'r banciau.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:43, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i alw am ddau ddatganiad gan arweinydd y tŷ, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar berfformiad adrannau achosion brys ledled Cymru? Mae'r ffigurau diweddaraf, wrth gwrs, yn sobor o wael, yn wir ichi. Yn anffodus, unwaith yn rhagor, y bwrdd iechyd a gaiff ei redeg ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru sy'n perfformio waethaf o'r holl fyrddau iechyd yng Nghymru yn erbyn y targed pedair awr. Mewn gwirionedd, dim ond pedair siawns o bob 10 sydd gennych o fynd i mewn ac allan o'r adran honno dros y targed pedair awr. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol i'r cannoedd o gleifion yn fy etholaeth i ac mewn mannau eraill o'r gogledd sy'n gorfod dioddef y cyfnodau hirfaith hynny mewn adrannau achosion brys prysur iawn. Felly, rwy'n credu ei bod yn angenrheidiol inni gael datganiad ar berfformiad adrannau achosion brys, yn arbennig o ystyried y sefyllfa, yr argyfwng, sy'n amlwg yn datblygu mewn rhai o'n hysbytai.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad, gennych chi, mae'n debyg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gymunedau ffydd? Yn amlwg, clywais eich sylwadau ynglŷn â Diwrnod Cofio'r Holocost. Cefais y fraint o fod yn bresennol mewn digwyddiad yn Llandudno i goffáu'r Holocost dros y penwythnos a gwrando ar Dr Martin Stern, un a wnaeth oroesi'r Holocost. Roedd ganddo stori rymus ac ysgytiol iawn i'w rhannu wrth iddo draddodi ei brofiadau yn ystod yr Holocost a phrofiadau rhai o blith ei deulu. Yn amlwg, mae goroeswyr yr Holocost yn lleihau yn eu nifer. Rwy'n arbennig o awyddus i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hysbysu cymaint o bobl ifanc â phosibl am yr hanesion uniongyrchol hynny gan oroeswyr yr Holocost tra bod gennym bobl gyda ni o hyd sydd yn gallu dweud eu hanesion yn uniongyrchol wrthym. Gwn fod y Llywodraeth wedi gwneud gwaith da ar hyn yn y gorffennol ac wedi cefnogi pobl ifanc i ymweld â mannau fel Auschwitz a chymryd rhan mewn digwyddiadau i goffáu'r Holocost. Ond nid oes dim byd yn debyg i gyfarfod â rhywun sydd wedi goroesi'r Holocost a gwrando ar ei hanesion yn uniongyrchol i drawsnewid ffordd o feddwl pobl am yr Holocost ac i ymdrin â'r broblem gynyddol sydd gennym drwy'r byd gyda'r rhai sy'n gwadu'r Holocost.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:46, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

O ran y datganiad iechyd, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad ar y GIG dros gyfnod y gaeaf, ac rwy'n siŵr y bydd yn cynnwys rhai o'r materion yr ydych chi wedi eu codi. Mae'n nodio ei ben i ddangos y bydd yn gwneud hynny, felly bydd yn gwneud hynny yn yr ychydig wythnosau nesaf.

O ran cymunedau ffydd a mater coffáu'r Holocost, rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod nad oes dim byd tebyg i gael yr hanes yn uniongyrchol, ond mewn gwirionedd weithiau, yn fy etholaeth i fy hunan, er enghraifft, mae merch un o'r rhai a wnaeth oroesi'r Holocost—a roddodd dystiolaeth rymus ei hunan lawer tro, ond yn drist iawn sydd wedi ymadael â ni oddi ar hynny—yn ddadleuwraig daer iawn, os hoffech, dros yr hyn yr aeth ei mam drwyddo ac wedi ei magu, yn amlwg iawn, gyda'r wybodaeth honno. Felly, mae ffyrdd ar gael o drosglwyddo'r wybodaeth. Ond cytunaf yn llwyr â chi ei bod yn hanfodol inni wneud yn siŵr fod pawb yn deall yr hyn a ddigwyddodd a pham y digwyddodd hynny a sut y mae'n rhaid inni wneud yn siŵr na fydd hynny'n digwydd byth eto.

Nid wyf i wedi ystyried cyflwyno datganiad, ond fe wnaf i ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau ein bod yn myfyrio'n wastadol ar hynny. Mae yna nifer o weithgareddau yn yr arfaeth, a byddwn yn hapus iawn i ddiweddaru'r Senedd, naill ai drwy ddatganiad neu ddull arall, pan fyddwn ni wedi cael trefn arnyn nhw.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:47, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, dau fater oedd gennyf i i'w codi. Yr wythnos diwethaf, helpais i lansio comic o'r enw Anturiaethau Ada ym Myd Gwyddoniaeth i blant pump a chwe blwydd oed er mwyn annog mwy ohonyn nhw, yn enwedig merched, i astudio gwyddoniaeth—pwnc sy'n agos at galon Ysgrifennydd y Cabinet, mi wn. Daeth y syniad hwn gan un o'm hetholwyr, Dr Edward Gomez, sydd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. A fyddai'n bosibl inni gael datganiad am yr hyn y gellir ei wneud i lenwi'r bwlch a geir yng Nghymru o ran nifer y bobl ifanc sydd yn mynd ymlaen i astudio pynciau STEM, yn arbennig i lefel A, gan fod lleihad mawr yn digwydd ar ôl TGAU yn nifer y rhai sy'n dilyn gyrfaoedd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth?

Dyna oedd y cyntaf. Yr ail yw hwn. Ddydd Sadwrn, cynhaliais ddigwyddiad yn fy etholaeth i annog pobl i ddechrau seiclo wrth fynd ar deithiau beunyddiol, teithiau byr. Cawsom ymateb hollol wych gan y gymuned. Daeth llawer o faterion i'r amlwg, fel llwybrau beicio di-gar a lle i gael cawod ar ôl cyrraedd y gwaith. Wrth gwrs, yng Nghaerdydd, mae gennym ni ddau gyflogwr mawr yn symud i ganol Caerdydd—Cyllid a Thollau EM a'r BBC. Gobeithio y bydd llawer o'u staff yn seiclo i'r gwaith. Gan hynnny, a gawn ni ddatganiad am yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cyflogwyr i hybu seiclo i'r gwaith a darparu cyfleusterau ar gyfer beicwyr, fel lle i gadw beiciau a chael cawod?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:49, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

O ran y cwestiwn cyntaf a ofynnodd Julie Morgan, rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â Dr Edward Gomez, ac mae e'n astroffisegwr brwdfrydig iawn. Mae'r llyfrau comic yn rhagorol a byddaf yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sut y gallwn wneud defnydd gwell o gyfleusterau o'r fath, naill ai yn bersonol neu drwy Hwb, sydd bellach yn ymestyn allan i tua 70 y cant o ysgolion Cymru. Cefais gyfarfod brwdfrydig iawn gydag ef ynghylch sut y gallem ddatblygu hynny, ac maen nhw'n adnoddau gwych yn wir.

Mae'r Aelod yn llygad ei lle: mae'n rhaid inni gael ffordd o ddenu mwy o blant i gael diddordeb mewn gyrfa o'r fath ym myd gwyddoniaeth, yn enwedig merched. Mae gennym  amrywiaeth o bethau ar waith, ond mae gan Dr Gomez y gallu arbennig i danio brwdfrydedd plant iau a gwneud pwnc cymhleth iawn yn gwbl dryloyw ac yn wirioneddol ddiddorol. Felly, roeddwn i o'r farn fod ei ddull ef o wneud hynny'n wirioneddol ardderchog a bydd yn sicr yn dwyn hynny'n ei flaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Rwy'n dal i gadeirio Bwrdd menywod yn STEM ar gyfer Llywodraeth Cymru, felly byddaf yn edrych ar y mater yno o ran sut mae modd ennyn diddordeb merched mewn rhai o'r pynciau gwyddoniaeth sy'n fwy damcaniaethol hefyd. Mae e'n ddyn diddorol iawn i'r rhai ohonoch chi sydd efallai heb gwrdd ag ef; mae ganddo sgwrs ddiddorol.

O ran y teithio llesol, mae hynny'n bwysig iawn mewn gwirionedd. Mae'r holl fater ynghylch seiclo yn fodd o deithio yn hytrach na defnydd hamdden yn eithriadol o bwysig. Mae'r Aelod yn codi pwyntiau da iawn am barodrwydd y sefydliadau mwy o faint hynny o ran cyfleusterau i gadw beiciau yn ddiogel a hefyd gyfleusterau newid ac ati a bod yn barod i'r  gwaith. Rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i wella teithio llesol drwy gyllid buddsoddi cyfalaf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud cyhoeddiad maes o law am ganlyniad rhai o'r trafodaethau hynny a'r buddsoddiad hwnnw, gyda'r union bwynt y mae'r Aelod yn ei godi dan sylw. Nid oes a wnelo hyn â seiclo am hwyl; mae'n ymwneud â beicio fel modd o deithio o un lle i'r llall mewn ffordd iach a chynaliadwy. Ac mae'n arbennig o bwysig yn ein dinasoedd mawr ein bod yn annog hynny o ran y ddadl ansawdd aer yr ydym wedi bod yn ei chael yn ddiweddar hefyd.

Roeddwn am godi un pwynt arall, sef bod problem wirioneddol ynghylch anabledd ar gyfer beicio hefyd. Mae sefydliad gwych yn fy etholaeth i fy hunan, os gwnaiff y Llywydd faddau i mi, o'r enw BikeAbility. Mae'n gyfleuster ardderchog iawn ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a fydd hefyd yn gallu bod yn egnïol ar eu beiciau, ac mae'n bwysig fod cyflogwyr yn rhoi ystyriaeth i hyn hefyd wrth ddylunio'r cynlluniau hyn.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:51, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, byddwch fwy na thebyg wedi clywed rhai o'r sylwadau yn y cyfryngau heddiw am bryderon Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am brofiad pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, rai blynyddoedd wedi iddi wneud ei hargymhellion gwreiddiol. Er ei bod hi'n gwneud rhai sylwadau cadarnhaol iawn am y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd ers hynny, yn ogystal â'r arolwg seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, roedd hi'n dweud bod rhai pethau sylfaenol iawn fel rheoli ymataliaeth ac—ni allaf gofio beth arall oedd ganddi, erbyn hyn—atal codymau, yn mynd ar goll. Tybed a oes modd inni gael diweddariad ar gynnydd gan y Llywodraeth yn erbyn yr argymhellion, gan ganolbwyntio'n benodol ar y pethau sy'n mynd ar goll. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:52, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Gweinidog yn bresennol i glywed hyn. Fe'i clywais ar Radio Wales y bore yma gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru—fe gawson nhw ddadl dda ar y pwnc. Mae'n rhoi arwydd i mi y byddwn ni'n cyflwyno rhywbeth i ymateb i hynny o fewn 28 diwrnod.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y Siambr, ar 22 Mawrth 2016, ar ôl yr ymosodiad terfysgol erchyll ym Mrwsel, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n hoffi mynegi ei gydymdeimlad a'i gydsafiad â phobl Gwlad Belg. Aeth yn ei flaen i ddweud ei bod yn rhaid gwrthwynebu pla terfysgaeth ym mhobman a'i bod yn rhaid inni wrthsefyll y bygythiad i'n ffordd o fyw.

Rwy'n codi'r datganiad hwnnw heddiw oherwydd ei fod yn dangos yn eglur gynsail i'r Llywodraeth wrth fynd i'r afael â materion tramor. Hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth ar yr ymosodiad ciaidd yn erbyn y Cwrdiaid ac eraill yn Afrin yng ngogledd Syria. Mae'r Cwrdiaid wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ymladd yn erbyn y bygythiad o derfysgaeth y maen nhw'n ei wynebu yn Syria, ac maen nhw wedi dangos, dro ar ôl tro, eu bod yn gynghreiriad i Gymru yn y dwyrain canol, ac yn eu cannoedd, roeddent y tu allan i'r Cynulliad heddiw. Mae gan y Cwrdiaid hawl i fyw mewn heddwch a'r Cynulliad hwn yw llais etholedig pobl Cymru. A wnaiff ef ddatganiad gan y Llywodraeth i gondemnio terfysgaeth gwladwriaeth Twrci yn Syria a Cwrdistan, ac a fyddwch chi'n pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud popeth o fewn ei gallu i roi terfyn ar y trais yn ddiplomataidd?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:54, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ond mae'n ymwybodol iawn nad yw materion tramor wedi cael eu datganoli i ni. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad o'i gydymdeimlad â phobl gwlad Belg ac rwy'n siŵr y buasai'n gwneud rhywbeth tebyg i bob un drwy'r byd yr effeithir arno gan derfysgaeth. Mae'r Aelod wedi gwneud ei bwynt yn huawdl iawn, ac rwy'n siŵr fod y Cynulliad wedi'i glywed.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i'r cwestiwn brys ynghylch cwymp Carillion. Byddai llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon yn adleisio'r ffordd angerddol y pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwendid ym mholisi caffael Llywodraeth y DU sydd wedi cyfrannu at y llanastr presennol y bydd yn rhaid i'r sector cyhoeddus erbyn hyn, i raddau helaeth, ymdrin ag ef. A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ a fyddai modd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wneud datganiad manylach ar y gwersi sydd i'w dysgu o ansolfedd Carillion, yn enwedig y gwersi y gallwn eu dysgu yma yng Nghymru ynglŷn â'r modd yr ydym yn caffael gwasanaethau, a'r cyfleoedd a allai fodoli ar gyfer adfer rhywfaint o reolaeth ddemocrataidd drwy gyfrwng sefydliadau llafur uniongyrchol neu drwy fodelau cydweithredol o weithio?

A gaf i hefyd ofyn y bydd methiant Carillion yn cael ei archwilio er mwyn inni ddysgu mwy am risgiau gweithgareddau caffael ar raddfa mor fawr a sut y gallai hynny ein harwain i fyfyrio ar y gwaith caffael yr ydym yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd? Credaf y byddai'r Cynulliad cyfan yn elwa ar drafod datganiad o'r fath, ac efallai y byddai hynny'n arwain at gonsensws newydd ar y ffordd ymlaen fel y gall busnesau Cymru a threthdalwyr Cymru elwa fel ei gilydd.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:55, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch ichi am y pwynt pwysig iawn hwnnw. Yn wir, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei bwyntiau yn angerddol iawn am y rheswm pam nad ydym yn rhoi gwaith y gwasanaethau cyhoeddus allan i gwmnïau eraill ac effaith rhoi contractau allanol i'r sector preifat—yr effeithiau anfwriadol all ddod yn sgil hynny. Yn ffodus, yma yng Nghymru, nid effeithiwyd arnom ni gan Carillion fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal adolygiad o brosesau caffael ledled Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd yn adrodd hynny'n ôl i'r Cynulliad ac yn dwyn y materion hyn i gyfrif yn rhan o hynny.

Photo of David Rees David Rees Labour 2:56, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y Tŷ, tua 12 mis yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd ei fod mewn gwirionedd yn tynnu cyllid Cymunedau yn Gyntaf oddi wrth NSA Afan oherwydd adroddiad archwilio yr oedd wedi ei dderbyn. Aeth ymlaen i ddweud y byddai ymchwiliad ariannol pellach yn cael ei gynnal. Nid ydym hyd yma wedi clywed unrhyw beth ers y dyddiad hwnnw, ac rwy'n deall bod hynny bellach wedi cael ei drosglwyddo i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi pa gynnydd a wnaed o ran yr ymchwiliad hwnnw, oherwydd mae gan NSA Afan, yn amlwg, lawer o weithgareddau yn digwydd yn fy etholaeth i a llawer o ganolfannau cymunedol a fyddai'n cael trafferth pe byddai anawsterau gan NSA Afan?

A'r ail bwynt, fe'i codwyd yn y Siambr hon o'r blaen—am gyflwr y parth llifogydd ar y safle lle bydd carchar Baglan yn cael ei adeiladu. Y penwythnos hwn, fel y nododd Simon Thomas, cafwyd glaw trwm. Rydym wedi gweld llifogydd ym mhob cwr, gan gynnwys ar y safle arbennig hwnnw. Nawr, nid yw hynny'n unig oherwydd y glaw trwm a gafwyd ar un diwrnod; mae'n dangos bod y lefelau dŵr a bod y lefel trwythiad yn uchel, ac, fel y cyfryw,  mae angen mynd i'r afael â nhw. Nawr, rydym yn deall bod y parth llifogydd wedi ei symud o C2 i C1 oherwydd ailasesiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru—rwy'n deall hynny—ond, yn seiliedig ar ddigwyddiadau'r penwythnos, mae'n amlwg fod angen asesiad arall. Galwyd am hynny o'r blaen. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd i ddweud sut y mae ailasesiadau yn cael eu gwneud a phryd y cânt eu hailwneud oherwydd amgylchiadau?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:57, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

O ran y pwynt cyntaf, rwy'n deall bod hynny bellach gerbron yr heddlu, ac felly ni fyddwn ni'n gwneud sylwadau pellach ar hynny. Credaf fod yr Aelod yn ymgymryd â hynny cyn hir yn ei etholaeth ei hunan. Rwy'n siŵr y bydd yn gallu ein hysbysu am hynt y cyfarfod hwnnw, a byddwn yn gallu gwneud yn siŵr bod y mater yn gwneud cynnydd.

O ran y llifogydd a'r asesiad o hynny, yn ffodus roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol i glywed eich pwynt ar hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi rhoi ystyriaeth iddo yn ei thrafodaethau ynghylch ailasesiad o berygl llifogydd. Mae llifogydd wedi codi sawl gwaith yn y Siambr hon heddiw, ac mae'n fater sy'n agos at ein calonnau, felly rwy'n sicr y bydd yn ystyried hynny dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 2:57, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi.