5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diogelu’r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn

– Senedd Cymru am 4:51 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:51, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ddiogelu'r hawl i bob plentyn gael addysg addas. Rwy'n gwahodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i wneud y datganiad hwnnw.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn addysg sy'n ysbrydoli, yn cymell ac yn rhoi iddyn nhw'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni eu potensial. Yng Nghymru, mae gennym system addysg sy'n paru cydraddoldeb â rhagoriaeth. Mae ein system yn darparu ystod o ddewisiadau i ddiwallu gwahanol anghenion a galluoedd dysgwyr o bob oed a gallu. Er bod y rhan fwyaf o rieni yn dewis bod eu plant yn cael eu haddysg mewn ysgol, mae cyfran yn penderfynu addysgu eu plant gartref. Bydd yr Aelodau yn gwybod y gelwir hynny'n addysg ddewisol yn y cartref.

Mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i ddarganfod pwy yw'r plant sydd o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn derbyn addysg addas. Ar hyn o bryd mae ganddynt bwerau o ran presenoldeb yn yr ysgol, ond mae'n her iddynt nodi'r plant nad ydynt wedi eu cofrestru mewn ysgol neu'n derbyn addysg addas ar wahân i'r ysgol. A dweud y gwir, rydym mewn sefyllfa lle na all Llywodraeth Cymru roi ffigurau dibynadwy am faint o blant sydd yn cael eu haddysgu yn y cartref, ac nid yw hynny'n dderbyniol.

Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r angen i gryfhau'r polisi a'r fframwaith deddfwriaethol ynghylch addysg yn y cartref. Wrth ddatblygu'r dull hwn, rydym wedi edrych ar ddulliau gweithredu rhyngwladol eraill, a chredaf, Dirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud mai'r ddeddfwriaeth addysg yn y cartref yng Nghymru yw un o'r rhai llai manwl yn Ewrop. Mewn cymhariaeth, mae gan nifer o gymdogion Ewropeaidd systemau cofrestru ar waith ers peth amser.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mwriad i gynorthwyo awdurdodau lleol i fodloni eu dyletswyddau presennol i nodi'r plant nad ydynt yn cael addysg addas. Rwy'n bwriadu ymgynghori ar ddefnyddio pwerau presennol a geir yn adran 29 Deddf Plant 2004 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata i'w helpu i nodi plant nad ydynt yn cael addysg addas. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn ystyried pa bartneriaid fydd yn gallu rhoi'r gronfa ddata fwyaf cyflawn, megis byrddau iechyd lleol.

Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd nid oes rhwymedigaeth ar ysgolion annibynnol i hysbysu awdurdodau lleol am y plant yn eu gofal. Felly, byddaf yn ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 537A o Ddeddf Addysg 1996 i orfodi perchnogion ysgolion annibynnol i roi gwybodaeth benodol i awdurdodau lleol o ran disgyblion sy'n mynychu eu hysgolion.

Prif bwyslais ein dull ni fydd cynorthwyo awdurdodau lleol i nodi pwy sy'n cael eu haddysg yn y cartref, ac asesu a ydynt yn derbyn addysg addas. Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i weithredu'r gronfa ddata a'u cefnogi gyda threfniadau asesu addasrwydd yr addysg i blant sydd ar y gronfa ddata, rwy'n cynnig ymgynghori ar ganllawiau statudol a gyhoeddir i awdurdodau lleol o dan adran 436A o Ddeddf Addysg 1996. Bydd y dull hwn o weithredu yn gyfle inni ystyried sut y caiff ein gwasanaethau, rhaglenni a mentrau cyffredinol eu cyflwyno i phlant sy'n cael eu haddysgu gartref. Mae hyn yn golygu y byddwn mewn sefyllfa well i gyflawni ein hamcan, a nodir yn 'Ffyniant i Bawb', sef cefnogi'r holl blant a phobl ifanc i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd ac i gyflawni eu dyheadau.

Ond gadewch i mi fod yn hollol glir: nid fyddwn yn gorfodi rhieni i gofrestru bod eu plentyn yn cael ei addysg yn y cartref. Yn hytrach, bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i lunio cronfa ddata o blant nad ydyn nhw ar unrhyw gofrestr addysg awdurdod lleol neu ysgol annibynnol. Bydd y dull hwn yn caniatáu inni roi prawf ar gyfyngiadau'r ddeddfwriaeth bresennol a gallwn ddechrau ar unwaith ar y gwaith o ddatblygu rheoliadau a chanllawiau statudol. Bydd yn sicrhau na fydd lefel yr ymgysylltu gan awdurdodau lleol yn anghyson mwyach.

Rwy'n ymwybodol, Dirprwy Lywydd, mai cyfyngedig ac amrywiol yw'r cymorth sydd ar gael oddi wrth yr awdurdodau lleol ar hyn o bryd i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, a dim cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi ymrwymo i gryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i addysgwyr cartref, ac, i'r perwyl hwnnw, rydym yn datblygu pecyn cymorth addysgol. Bydd y pecyn hwn yn sicrhau bod Hwb ar gael i blant a gaiff eu haddysgu yn y cartref, a bydd cymorth anghenion dysgu ychwanegol ar gael a chymorth gyda chofrestru ar gyfer arholiadau. Bydd y pecyn hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer teuluoedd sy'n addysgu gartref i ddysgu Cymraeg, a bydd cynnig clir o gefnogaeth gan Gyrfa Cymru. Bydd fy swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac addysgwyr yn y cartref i sicrhau bod y pecyn cymorth yn diwallu anghenion y gymuned addysg yn y cartref.

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi pwyso a mesur yr hyn y bydd rhai addysgwyr yn y cartref yn ei ystyried yn ymyrraeth anghymesur â'u bywyd teuluol yn erbyn yr hyn a ystyriaf i'n  fanteision ehangach i'r holl blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref o ran eu haddysg a'u lles cyffredinol.

Wrth gloi, hoffwn wneud un peth olaf yn glir: rwy'n llwyr barchu dewis rhieni i addysgu eu plant yn y cartref, ac ni fydd unrhyw beth yr wyf yn ei ystyried neu'n ei gynnig yn newid hynny. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod mwyafrif llethol y rhieni sy'n addysgwyr cartref yn dewis gwneud hynny am resymau dilys, ac, mewn rhai achosion, gallai hynny fod y dewis gorau ar gyfer y plentyn. Ond credaf hefyd fod y Llywodraeth dan ddyletswydd foesol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas, a bod disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu ar eu dyletswyddau cyfreithiol i ymyrryd pan nad yw plentyn yn derbyn addysg addas neu o bosib yn cael ei esgeuluso. Rwyf wedi fy argyhoeddi bod y cynigion a gyflwynir heddiw yn gymesur, yn rhesymol, ac er lles ein pobl ifanc i gyd.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:58, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac am y briff a roesoch i minnau a llefarwyr eraill cyn heddiw. A gaf i ddweud fy mod yn croesawu eich datganiad? Credaf ei fod yn ddull o weithredu cytbwys. Credaf ei fod yn un sydd, yn fy marn i, yn ymdrin â llawer o'r pryderon a godwyd yn y Siambr hon ar sawl achlysur o ran sicrhau bod cymorth digonol ar gael i rieni a gwarcheidwaid eraill sy'n addysgu eu plant gartref. Rwyf hefyd yn falch o'ch clywed chi, ar ran y Llywodraeth, yn ailddatgan eich ymrwymiad i hawl rhieni i addysgu eu plant gartref, eu cymryd allan o'r system ysgol.

Mae'n rhaid imi ddweud, fodd bynnag, bod yna rai materion y byddwn i'n gofyn i chi eu hegluro i mi. Fe wnaethoch chi gyhoeddi canllawiau 12 mis yn ôl—canllawiau anstatudol—i awdurdodau lleol eu dilyn. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw asesiad ar effaith y canllawiau hynny ac a oedden nhw mewn gwirionedd yn cyflawni unrhyw newid o ran lefelau'r gefnogaeth i rieni ac i blant nad ydynt yn cael eu haddysgu mewn ysgol. A fyddech yn gallu rhannu gydag Aelodau'r Cynulliad werthusiad o'ch asesiad chi o effeithiolrwydd y canllawiau hynny? Oherwydd rwyf i o'r farn ei bod ychydig yn rhy gynnar i neidio i safiad o ran canllawiau statudol heb ddangos inni'r dystiolaeth nad yw'r canllawiau anstatudol presennol yn gweithio.

Rydym hefyd yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod llawer o rieni yn dewis addysgu eu plant yn y cartref oherwydd nad ydyn nhw'n fodlon ar yr addysg sydd ar gael yn ysgolion eu hawdurdod lleol. Rydym wedi clywed tystiolaeth nad yw disgyblion a dysgwyr sydd ag  anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymorth digonol gan eu hawdurdodau lleol. Mae hynny'n achosi i lawer ohonyn nhw dynnu eu plant allan o'r ysgol, hyd yn oed gyda'r system cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n bodoli. Gwyddom hefyd fod rhai rhieni, oherwydd eu bod yn pryderu am y safonau mewn ysgolion lleol, yn tynnu eu plant o'r ysgol ac yn dewis eu haddysgu mewn ffordd wahanol. Tybed a fydd y system newydd hon, y system gronfa ddata newydd hon, yn cynnwys unrhyw sylwadau gan rieni ac efallai gan ddisgyblion am y rhesymau dros dynnu eu plant o system y wladwriaeth, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n rhoi syniad inni, mewn gwirionedd, ai problem o ran safonau ein hysgolion sy'n arwain at y ffenomen benodol hon, oherwydd rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn y blynyddoedd diwethaf.

Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle i gael dull sy'n edrych ar ymestyn hawliau plant, os hoffech chi. Rwy'n gwybod bod y Comisiynydd Plant wedi sôn am ei phryderon ynglŷn â'r diffyg wrth fynd i system lawn o gofrestru gorfodol, ond rwy'n anghytuno â'r Comisiynydd Plant ar hynny. Un peth yr wyf yn cytuno arno gyda'r Comisiynydd Plant yw bod angen inni wireddu hawliau plant. I bob pwrpas, rydych yn awyddus i ymestyn yr hawliau hynny, mae'n ymddangos i mi, ar gyfer sicrhau bod cefnogaeth ar gael i anghenion dysgu ychwanegol, cyfle ar gael i ddysgu Cymraeg, a bod technoleg a chymorth arall ar gael i'r dysgwyr hynny na fydden nhw ar gael fel arall i ddysgwyr sydd yn cael eu haddysg yn y cartref. Byddai'n dda inni gael gwybod eich bod mewn gwirionedd wedi asesu eich penderfyniad yn ôl asesiadau effaith ar hawliau plant y dylai'r holl benderfyniadau gweinidogol gael eu sgrinio drwyddyn nhw, os hoffech chi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod inni a chadarnhau y gwnaed asesiad o effaith y penderfyniad yr ydych wedi ei gyhoeddi gerbron y Siambr heddiw ar hawliau plant.

A oes amserlen ar gyfer gweithredu'r holl waith hwn? Ni wnaethoch grybwyll yn benodol amserlen o ran y cyhoeddiadau yr ydych wedi eu gwneud. Byddwn yn falch o gael gwybod yn union pryd yr ydych yn disgwyl cwblhau eich ymgynghoriad â rhanddeiliaid amrywiol a phryd y cawn ni weld rhywfaint o ddatblygiad sylweddol pellach o ran cyhoeddi cyfres o ganllawiau statudol a'u bod ar gael yn hawdd, a hoffwn wybod pryd y byddwch yn disgwyl y bydd y rheini'n cael eu rhoi ar waith. Byddwn hefyd yn hoffi cael gwybod am y costau a allai godi yn sgil hyn, ar gyfer Llywodraeth Cymru ac yn wir yr awdurdodau lleol. Unwaith yn rhagor, nid oes unrhyw wybodaeth ariannol yn eich datganiad. Rwy'n cymryd y bu rhyw fath o asesiad o'r effaith ariannol, yn arbennig felly os ydych chi'n mynd i gyhoeddi canllawiau statudol. Byddai'n ddiddorol cael gweld canlyniadau hynny.

Ond ar y cyfan, rwyf i o'r farn eich bod yn weddol agos i'ch lle. Rwy'n credu. a dweud y gwir, mai anfodlon fydd dwy ochr y ddadl hon, y rhai nad ydyn nhw'n dymuno cael cofrestru gorfodol a'r rhai sy'n dymuno gweld hynny, â'r datganiad a wnaethoch chi heddiw. Ond, rydych chi'n iawn i ganolbwyntio ar y rhwymedigaethau sydd eisoes gan awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod pobl yn cael addysg briodol pan fyddant o oedran addysg orfodol. A dweud y gwir, rwy'n credu bod yr awdurdodau lleol gorau eisoes wedi mabwysiadu'r math hwn o ddull yr ydych yn gobeithio ei gyflwyno a'i wneud yn gyson ledled y wlad. Felly, croesawaf eich datganiad, ond edrychaf ymlaen at eich atebion i'm cwestiynau.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:03, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi, Darren. Mae'n debyg mai croeso gofalus yw'r gorau y gallwn i fod wedi gobeithio amdano gan Darren Millar, o ystyried y datganiadau y mae wedi eu gwneud ar y pwnc hwn yn flaenorol.

A gaf i ddweud mai fy mwriad i yw—yn wir, mae'n ofyniad arnaf yn ôl y Rheolau Sefydlog—y bydd ymgynghoriad llawn ar y materion hyn, gyda Chymru gyfan ac unrhyw un yng Nghymru sydd â diddordeb yn hyn o beth? Bydd fy swyddogion yn dechrau gwaith ar unwaith i ddatblygu rheoliadau drafft a'r canllawiau statudol i alluogi'r ymgynghoriad hwnnw i ddigwydd. Rwy'n disgwyl y bydd hynny'n cael ei wneud mewn modd amserol. Rwy'n awyddus i gael cynnydd, ond, Darren, byddwch yn ymwybodol o ymdrechion blaenorol gan Weinidogion blaenorol o ran yr agenda hon eu bod fel arfer yn ennyn llawer o ymateb,ac  felly rwy'n rhagweld y bydd yn adeg brysur iawn. Nid wyf yn dymuno dweud yn bendant y bydd wedi ei orffen erbyn diwedd y flwyddyn, oherwydd bydd yn rhaid aros i bwyso a mesur yr ymatebion a ddaw i law, ac rwyf yn dymuno iddo fod yn ymgynghoriad gwirioneddol a fydd yn adlewyrchu pob barn. Ond bydd gwaith yn dechrau ar unwaith yn hyn o beth. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn wir yn rhoi i'r gymuned addysg yn y cartref, yn ogystal ag awdurdodau lleol a'r plant eu hunain, gyfle i fwydo i mewn i'r broses o ran y rheoliadau, y canllawiau statudol a ffurf y pecyn cynhwysfawr o gymorth i rieni sy'n addysgu yn y cartref.

Rwy'n ymwybodol y bydd yna rai rhieni sy'n addysgu yn y cartref yn teimlo nad oes angen cymorth arnyn nhw neu nad ydyn nhw'n dymuno ei gael. Ond rwy'n ymwybodol bod rhai rhieni sy'n addysgu yn y cartref yn awyddus i gael cymorth, a'u bod wedi ei chael hi'n rhwystredig bod awdurdodau lleol yn aml o bosib wedi golchi eu dwylo o ran y plant hynny ac yna mae'r mynediad i allu sefyll arholiadau wedi bod yn anodd—llu o bethau. Rydym yn awyddus i weithio gyda'r gymuned honno i ddod o hyd i becyn o gymorth, pe byddai teuluoedd yn dymuno manteisio arno.

Fe wnaeth Darren ofyn cwestiwn dilys ynghylch y ffaith, 12 mis yn ôl, ein bod ni wedi cyflwyno canllawiau anstatudol, a pham symud. Wel, mae ymchwil yn y maes hwn yn cael ei ddatblygu'n barhaus, ac felly rydym yn derbyn yr adroddiad rhaeadru sydd wedi'i wneud a nododd eto nad oes gennym ni syniad mewn gwirionedd o faint y boblogaeth addysgu yn y cartref. Nid ydym yn gwybod beth sy'n digwydd, er ein bod yn disgwyl bod y duedd yn cynyddu. Mae darllen hynny'n achos gofid mawr i mi. Mae awdurdodau lleol yn parhau i ddweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu dyletswyddau o ran sicrhau bod plant yn ei dderbyn. Felly, o ystyried adborth parhaus ac ymchwil barhaus, fel yr ymrwymais i'w wneud y llynedd—y byddem yn parhau i edrych ar y materion hyn—dyna'r hyn yr wyf yn parhau i'w wneud, a deuthum i'r casgliad mai hon yw'r ffordd briodol ymlaen.

O ran asesiad ariannol, bydd hynny'n cael ei ddatblygu'n gyfochrog â'r rheoliadau statudol. Rydym eisoes wedi sicrhau bod swm bach o arian ar gael i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddechrau gweithio ar rai o'r costau, ac i gael peth adborth ganddyn nhw ar sut y gellid rheoli cronfa ddata a'r costau cysylltiedig. Felly, rydym eisoes wedi sicrhau ychydig bach o arian ysgogi er mwyn inni gael rhagor o wybodaeth wrth inni symud ymlaen gyda'r ymchwil hon. Wrth gwrs, byddai Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol imi allu bodloni'r Aelodau gydag asesiad ariannol yn gyfochrog â'r ddeddfwriaeth.

Rwy'n ddiolchgar am feddwl agored Darren yn y Siambr heddiw wrth edrych ar sut y gallwn wella'r system hon sydd, yn fy marn i, yn rhoi cydbwysedd da rhwng hawliau'r rhiant i ddewis addysgu yn y cartref os dymunant, a hawliau'r plentyn i gael addysg addas a digonol.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:07, 30 Ionawr 2018

A gaf innau ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Efallai y byddech chi'n disgwyl bod gen i deimladau cymysg am y datganiad sydd wedi cael ei wneud. Yn sicr, rwy'n falch eich bod chi yn ailgydio yn y mater yma wedi o leiaf ddau o'ch rhagflaenwyr fethu, yn fy marn i, â mynd i'r afael yn ddigonol â'r mater yma. Ond rydych chi yn stopio'n fyr o beth mae nifer ohonom ni wedi bod yn galw amdano fe ers blynyddoedd—ac rwyf i a Phlaid Cymru wedi bod yn glir ynglŷn â'r hyn y byddem ni yn dymuno ei weld—ond rwyf yn cydnabod bod hwn yn gam i'r cyfeiriad iawn, beth bynnag, os nad yw'n mynd i'r union bwynt y byddwn i'n dymuno i chi fynd iddo. 

Mi fydd, hyd y gwelaf i, yn cryfhau'r fframwaith polisi a deddfwriaethol o gwmpas addysgu gartref, ond mae yn gadael rhai cwestiynau yn fy meddwl i o hyd, ac mae'n bosibl y daw'r rhain yn gliriach wrth i fwy o fanylion gael eu rhyddhau. Byddwn i yn gofyn eto pam nad ydych chi yn dilyn cyngor y comisiynydd plant, yr NSPCC, y bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol a'r adolygiad arfer plant—y child practice review diweddar—sydd oll wedi galw am gofrestr statudol. Rydych chi yn cydnabod yn y datganiad bod gwledydd eraill wedi gweithredu systemau cofrestru ers blynyddoedd, ond eto rydych chi'n gwrthod hynny yma yng Nghymru. 

Hefyd, sut fydd gofyn i awdurdodau lleol ddod o hyd i'r plant yma sy'n cael eu haddysgu adref a'u rhoi nhw ar fas data yn fwy effeithiol na rhoi disgwyliad ar y rhieni i'w cofrestru nhw? Byddwn yn tybio y byddai mwy o blant yn cael eu hadnabod os yw rhieni yn gorfod eu cofrestru nhw, yn hytrach na rhywsut bod awdurdodau lleol yn gorfod trio eu tracio nhw lawr. Felly, rwy'n dal yn stryglo gyda hynny i raddau, ac fe fyddwn i yn ddiolchgar pe baech chi'n gallu jest ymateb i hynny. Roeddwn i hefyd am godi'r goblygiadau cyllidebol ac a oedd yna rai, gan y byddai yna ddisgwyliad ychwanegol ar awdurdodau lleol. A fyddai yna adnoddau ychwanegol yn cael eu gwneud ar gael iddyn nhw?  

Mae yna lot o bethau positif yn y datganiad—peidiwch â'm camddeall i. Rydw i yn gweld hwn yn gyfle i sicrhau gwell cysondeb ar draws Cymru o safbwynt y modd y mae awdurdodau lleol yn ymwneud â, ac yn cefnogi, teuluoedd sydd yn dewis addysgu eu plant gartref. Rŷch chi wedi cyfeirio at well mynediad i adnoddau fel labordai, Hwb ac yn y blaen, ac mae gen i ddiddordeb arbennig yn y cyfeiriad rŷch chi wedi ei wneud at, wrth gwrs, yr ymdrech efallai i gynnig cyfle i ddysgu Cymraeg. Rwy'n gwybod eich bod chi'n mynd i edrych i mewn i'r opsiynau hynny. Os oes gennych chi rai syniadau penodol, byddwn i'n falch i'w clywed nhw nawr, achos, yn amlwg, mae hynny yn rhywbeth y byddwn i â diddordeb ynddo fe. 

Nawr, mae'r comisiynydd plant, wrth gwrs, yn gyson wedi ein hatgoffa ni bod yna feini prawf penodol y byddai hi'n chwilio amdanyn nhw mewn unrhyw approach i'r maes yma. 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:10, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r comisiynydd plant yn eglur iawn fod cyfres o brofion litmws, os mynnwch, o ran beth fyddai hi yn ei geisio—yn bennaf, wrth gwrs, y gellir rhoi cyfrif o bob plentyn yng Nghymru ac nac oes un yr yn ohonyn nhw yn golledig i'r gwasanaethau cyffredinol a chymdeithas yn fwy eang. Wel, wyddoch chi, ni all hyd yn oed gofrestr statudol warantu hynny ac mae hynny'n rhywbeth y gwn ein bod wedi'i gyffwrdd o'r blaen. Ond rwy'n credu'n wir y byddai'n cyrraedd y nod hwnnw'n well na chronfa ddata awdurdod lleol, er y byddai hynny, mae'n debyg, yn symud yn nes at yr hoffwn ei weld.

Yr ail brawf litmws, wrth gwrs, yw fod pob plentyn yn cael addysg addas. Credaf, yn hynny o beth, mai dyma'r man y caf i'r agwedd fwyaf cadarnhaol yn eich datganiad heddiw, yw fod hynny'n cael ei atgyfnerthu. Gobeithio y cawn weld hynny'n cael ei fynegi a'i weithredu yn fwy effeithiol. Ond hefyd, wrth gwrs, y dylai pob plentyn gael y cyfle i'w gweld a chlywed ei farn a'i brofiadau. Mae hynny'n brawf allweddol arall ar gyfer y Comisiynydd Plant. Felly, dim ond angen mwy o eglurder sydd arnaf i, mewn gwirionedd, am a fydd eich canllawiau statudol arfaethedig yn cynnwys y cyfle hwnnw i blant ond hefyd yn cynnwys yr hawl i awdurdodau i gael mynd at y disgyblion hynny sy'n cael eu haddysg yn y cartref. Un ffordd o brofi hyn i gyd, wrth gwrs, yw drwy asesiad o'r effaith ar hawliau plant a hoffwn ichi gadarnhau a bydd y Llywodraeth yn llunio asesiad effaith hawliau plant manwl ar y cynigion hyn yn rhan o'r broses. Fel yr wy'n ei ddweud, gobeithio y bydd hynny'n mynd ffordd bell i ddangos eich bod yn bodloni rhai o brofion y Comisiynydd Plant.

Yn olaf, dau gwestiwn i gloi. Bydd rhai aelodau o'r gymuned addysg yn y cartref yn fwy parod nac eraill i ymgysylltu ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru efallai, felly sut y gwnewch chi sicrhau y clywir lleisiau'r plant sy'n fwy anodd eu cyrraedd yn y broses hon? Byddai gennyf ddiddordeb i glywed eich ateb i hynny. Ac yn olaf hefyd, mae carfan gyfan arall, wrth gwrs, o blant sydd heb ddechrau yn yr ysgol neu heb gyrraedd oedran ysgol eto, a byddai gennyf ddiddordeb i glywed pa drafodaethau sydd wedi digwydd ledled Llywodraeth Cymru ar sut gallai'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg weithio gyda'i gilydd i gynnwys yn fwy effeithiol blant o dan oedran ysgol gorfodol yn ogystal â'r rhai yn y meysydd hyn yr ydym ni'n eu trafod ar hyn o bryd.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:13, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llŷr. A gaf i ddechrau â mater—? Ymddiheuriadau i Darren Millar. Wrth i mi ystyried y dull gweithredu, rwyf yn wir wedi edrych ar y rhwymedigaethau cyfreithiol sydd arnom ni fel Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n cynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae gwella canlyniadau ar gyfer pob dysgwr, boed hynny mewn addysg ddewisol yn y cartref neu mewn addysg brif ffrwd, yn fy marn i, yn cyfrannu at erthygl 3, erthygl 4, erthygl 5, erthygl 12, ac erthyglau 18, 19, 24, 28 a 29 y Confensiwn, a byddwn yn parhau, wrth inni ddatblygu'r canllawiau statudol, i sicrhau y cynhelir asesiad llawn o'r effaith ar hawliau plant ar y camau hynny. Yn sicr, mae'r rheini wedi bod yn flaenllaw yn fy ystyriaethau wrth imi edrych ar y materion hyn.

Mae'r Aelod yn gofyn, 'Pam ddim cofrestr?' ac mewn gwirionedd oni fyddai cofrestr yn haws. Wel, mae cofrestr orfodol—cofrestr orfodol a fyddai o bosibl yn gwneud rhieni'n droseddwyr pe na byddent yn cofrestru—yn dibynnu ar y rhieni i wneud fel hynny. Y broblem yw na fyddai'r ddeddfwriaeth honno ond cystal a'n gallu ni i'w gorfodi, sy'n golygu eich bod yn gwybod pwy sydd heb gofrestru. Felly, y cwestiwn i ryw raddau yw pa un ddaeth gyntaf, yr ŵy ynteu'r iâr? Rwyf wedi ystyried y peth yn ofalus iawn. Os yw rhiant, am ba reswm bynnag, yn benderfynol o beidio a rhoi gwybod i'r gwasanaethau am eu plentyn, yr amheuaeth sydd gennyf i yw y gallai'r elfen hon o orfodaeth gael y canlyniad anfwriadol—y canlyniad anfwriadol gwirioneddol—o yrru'r rhieni ymhellach i ffwrdd o unrhyw ymgysylltiad â'r gwasanaethau statudol. Drwy osod y gofyniad hwn ar awdurdodau lleol yn hytrach nag ar y rhieni, credaf fod hynny'n rhoi'r cyfle gorau posib o nodi cymaint o blant â phosib, gan gydnabod—a, Llŷr, rydych chi a minnau wedi cael y sgwrs hon o'r blaen—nid dyma'r ateb i'r holl faterion sy'n ymwneud â diogelu plant. Os oes gennych gofrestr orfodol sy'n rhoi'r  pwyslais cyfreithiol ar y rhieni, neu os ydych yn defnyddio'r dull hwn, sy'n rhoi'r pwyslais ar awdurdodau lleol, mae hyn ond yn berthnasol i blant o oedran addysg orfodol, rhwng pump ac 16 oed. Felly, byddem ar fai i feddwl y byddai unrhyw ddull sy'n golygu mwy o reoleiddio o ran addysg ddewisol yn y cartref yn datrys y broblem honno o nifer fach iawn o deuluoedd sydd, am ba resymau bynnag, yn penderfynu cadw eu plant rhag cael mynediad i wasanaethau cyffredinol.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:15, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yr hyn sy'n hollbwysig yw ein bod yn gwneud y gronfa ddata mor gadarn ag y gall fod, a dyna pam ein bod yn cau'r bwlch, er enghraifft, o ran ysgolion annibynnol, fel y gallwn roi'r plant hynny yn y gronfa ddata honno. Dyna pam y byddwn yn gweithio ledled y Llywodraeth gyda chydweithwyr ym maes iechyd i allu gwirio cofrestrau genedigaethau byw ochr yn ochr â chofrestrau ysgolion awdurdodau lleol i ddod o hyd i'r plant hynny nad ydyn nhw, yn sydyn, yn ymddangos.

Felly, rwyf i o'r farn fod hyn yn rhoi'r cyfle gorau inni—. Drwy roi'r pwyslais a'r cyfrifoldeb ar y wladwriaeth i wneud y gwaith hwn, credaf ei bod yn rhoi'r cyfle gorau inni allu nodi, os oes modd o gwbl, ble mae'r plant hyn ac, yn hollbwysig, yna allu asesu a yw'r plant hynny'n derbyn addysg addas. Mae'r dull hwn yn caniatáu inni weithredu nawr, tra byddai deddfwriaeth sylfaenol yn cymryd mwy o amser, ac mae hynny eto'n ystyriaeth. Ond, Llŷr, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, ar ôl profi'n llawn hyd a lled yr hyn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn caniatáu inni ei wneud—ac mae pryderon o hyd—y bydd yn rhaid inni edrych eto. Ond mae hyn yn gyfle inni weithredu nawr, ac mae'n gyfle gwirioneddol inni brofi hyd a lled eithaf y ddeddfwriaeth bresennol. Ond rydych chi'n iawn fod angen inni barhau i weithio ar draws y Llywodraeth, o dan oedran addysg orfodol a thros yr oedran hwnnw, a dyna pam yr wyf i, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a'r Gweinidog dros wasanaethau cymdeithasol yn parhau i gwrdd a gweithio ar yr agenda hon.

Byddwch yn ymwybodol fod grŵp gorchwyl a gorffen wedi cael ei sefydlu gan Keith Towler, y Comisiynydd Plant blaenorol, i roi cyngor i'r Llywodraeth ar faterion sy'n ymwneud â bod yn anweledig i wasanaethau cyffredinol. Rydym yn parhau i weithio gyda'r bwrdd diogelu cenedlaethol annibynnol ar y modd y gallwn wella materion sy'n ymwneud â phlant sydd o dan oedran addysg orfodol a thros yr oedran hwnnw.

Mae angen inni fod yn lled ofalus. Nid yw hyn yn ymwneud â mynd ar drywydd unrhyw un, Llŷr, gan bod hynny'n rhoi'r argraff anghywir, yn fy marn i, o'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yn y fan hon. Rydym yn ceisio cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd i sicrhau bod plant yn cael addysg addas. Felly, nid ydym yn bwriadu mynd ar drywydd unrhyw un. Credaf mai'r geiriau y gwnaethoch chi eu defnyddio oedd, efallai mewn dyfynodau, 'mynd ar drywydd pobl'.

Mae'r pecyn cymorth yn hanfodol hefyd. Gwyddom fod plant yn yr ysgol yn gallu cael gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallai hwnnw fod o bosib yn faes y byddai rhieni sy'n addysgwyr cartref yn teimlo'n llai hyderus yn ei gylch ac nad oes ganddynt yr adnodd  cystal i allu cynnig y cyfleoedd hynny. Felly byddwn yn edrych ar weithio gyda'r gymuned addysg yn y cartref i edrych ar gynigion realistig o ran sut y gallan nhw ennill y sgiliau i gynnig y math hwnnw o addysg yn y cartref neu i weithio gyda'i gilydd fel grŵp mewn rhai amgylchiadau. Felly, rydym yn agored iawn i syniadau, ond mae'r egwyddor hon o sicrhau bod plant yn gallu cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod hynny efallai yn faes y mae rhieni'n teimlo'n llai hyderus yn ei gylch, yn un bwysig iawn i mi, yn ogystal ag edrych ar faterion eraill megis, fel y dywedasom, ganolfannau arholiadau, cyngor gyrfaoedd—. Y pethau hynny sydd ar gael i blant mewn ysgolion prif ffrwd, rwyf eisiau gwneud yn siŵr eu bod ar gael i blant sy'n cael eu haddysg yn y cartref hefyd. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhan o'n cyfrifoldeb ni tuag at y teuluoedd hynny.

Mae hyn i gyd, rwyf eisiau sicrhau pawb eto, yn destun ymgynghoriad. Felly, os oes gan yr Aelod syniadau am sut y mae e'n awyddus i gyfrannu i hyn, yna buasai hynny'n dderbyniol iawn. Ond credaf fod hyn yn gyfle inni gryfhau'r gyfraith yn y maes hwn a rhoi i'r awdurdodau lleol y gallu i fod yn sicr. A yw hynny'n golygu ein bod yn gweld y plentyn? Nid wyf i'n credu y byddai modd gwneud dyfarniad cytbwys ynghylch a yw plentyn yn derbyn addysg ddigonol heb weld y plentyn hwnnw, a byddaf yn gweithio ar sut y dylid mynd ati o ran hynny drwy gyfrwng y canllawiau statudol.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 5:20, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod pob Aelod yma wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael addysg sydd yn ysbrydoli, yn ysgogi ac yn rhoi iddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu posibiliadau, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich datganiad. Mae gennym syniadau gwahanol iawn am sut y gellir cyflawni hynny, ond rwy'n credu bod pawb yn ymdrin â hyn o'r un safbwynt—rydym yn dymuno'r gorau i holl blant a phobl ifanc Cymru.

Dylwn yn gyntaf roi clod lle mae'n ddyledus i Ysgrifennydd y Cabinet am gyfaddef nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi data dibynadwy ar faint o blant sy'n cael eu haddysg yn y cartref. I fod yn deg, mae canfod y niferoedd hynny o blant sy'n cael eu haddysg gartref ymhell o fod yn fater syml. Ni allwch yn syml gymharu cofnodion geni a marwolaeth, er enghraifft, â chofnodion ysgol, oherwydd bod teuluoedd yn symud o gwmpas, yn amlwg. Rwy'n croesawu'r mesurau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi eu cyhoeddi heddiw i geisio mynd i'r afael â'r diffyg hwn gyda gwybodaeth.

O ran y cynnig bod angen i ysgolion annibynnol roi gwybodaeth benodol i awdurdodau lleol, ni fyddwn fel arfer yn croesawu rhywbeth allai gael ei ystyried yn ymyrraeth gan y wladwriaeth. Er hynny, ar yr achlysur hwn, credaf nad oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw beth arall y gallai ei wneud, oherwydd ni allaf weld sut y gall awdurdodau lleol gasglu data cywir os nad ydyn nhw'n gwybod pa blant sydd mewn addysg annibynnol.

Rwy'n cefnogi'r amcan i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn cael addysg dda a chyflawn. Rydych wedi dweud eich bod yn awyddus i sicrhau bod plant yn cael addysg addas. Mae'n hanfodol fod yr asesiad a wneir i weld a yw plentyn yn cael addysg addas yn un teg ac nad yw 'addasrwydd' yn gyfystyr i 'gymeradwy gan y wladwriaeth'. Hanfod addysg yn y cartref i lawer o rieni yw bod gan y rhiant y gallu i benderfynu ar gwricwlwm a chyflymder addas i'r plentyn. Felly, mae angen rhoi cydnabyddiaeth i hawl y rhieni i benderfynu ar gynnwys addysg eu plentyn. Mae'n allweddol bod llais cryf gan y rhieni sy'n rhoi addysg yn y cartref i'w plant wrth ddatblygu meini prawf yr asesu a bod ganddynt y modd i herio asesiad awdurdod lleol o'r addysg a ddarperir i'w plentyn.

Rwy'n croesawu bwriad Ysgrifennydd y Cabinet i gael ymgynghoriad ar y canllawiau statudol a byddwn yn annog rhieni i wneud cyfraniad. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau heddiw pryd y caiff y dogfennau ymgynghori eu cyhoeddi a pha mor hir fydd y cyfnod ymgynghori? Rwy'n croesawu hefyd y bwriadau a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried sut y darperir gwasanaethau i blant sy'n cael addysg yn y cartref a'r ddarpariaeth o gymorth i rieni, fel cymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol. Cymeraf yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei gair mai ei bwriad yw cynorthwyo rhieni sy'n dymuno addysgu yn y cartref, yn hytrach na barnu eu penderfyniadau, ac rwy'n sicr nad yw hynny'n fwriad ganddi.

Credaf y byddai rhieni sy'n dewis addysgu eu plant yn y cartref, er y byddent yn croesawu'r cymorth a'r gefnogaeth ychwanegol, yn pryderu y gallai hyn gynrychioli blaen y gyllell o ran ymyrraeth y wladwriaeth yn y dewisiadau y maen nhw wedi'u gwneud er mwyn eu plentyn. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod heddiw i roi ei sicrwydd personol i rieni na fydd y mesurau yr ydych yn eu cyflwyno yn cael yr effaith o roi pwysau ar rieni i roi'r gorau i addysgu eu plant gartref, nac yn arwain at awdurdodau lleol i bob pwrpas yn penderfynu ar gynnwys yr addysg a ddarperir yn y cartref? Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:23, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau? O ran y sector annibynnol, mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Ysgolion Annibynnol Cymru i amlinellu ein bwriadau i ddeddfu yn y maes hwn, ac maen nhw'n gefnogol iawn i'r dull yr ydym yn ei gymryd. Nid ydyn nhw'n poeni dim ac maen nhw'n hapus i wneud eu rhan wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Rwy'n ddiolchgar i Gyngor Ysgolion Annibynnol Cymru am eu croeso cychwynnol i'r cynigion hyn ac am eu parodrwydd i ymgysylltu â ni yn hyn o beth. Rwy'n gwerthfawrogi hynny.

Nid oes a wnelo hyn â gorfodi cwricwlwm ar rieni sy'n addysgwyr cartref, ond mae deddfwriaeth eisoes yn bodoli yng Nghymru sy'n dweud bod gan bob plentyn yr hawl i addysg addas. Nawr, rydych yn llygad eich lle, mae'n debyg fod llawer o wahanol safbwyntiau ledled y Siambr hon ynglŷn â beth yn union yw addysg addas. Ond rwy'n siŵr y gall pawb gytuno bod sicrhau bod plentyn yn llythrennog ac yn rhifog yn gonglfeini sylfaenol sydd eu hangen ar unrhyw un i fynd ymlaen i gyflawni eu potensial a chael bywyd llwyddiannus, ac nid wyf i o'r farn fod a wnelo hynny a gorfodi plentyn i ddilyn cwricwlwm sy'n cael ei redeg gan wladwriaeth. Ond y sgiliau hynny y credaf eu bod yn angenrheidiol yw'r rhai y byddwn yn canolbwyntio arnynt. Yr hyn sy'n bwysig yw cael cysondeb ledled Cymru—nad oes gennym 22 o wahanol ddulliau o'r hyn y mae addysg addas yn ei olygu, a bod tegwch i'w gael, a bod tryloywder yn y broses honno. Dyna pam, yn fy marn i, y mae'n angenrheidiol cyflwyno canllawiau statudol i awdurdodau lleol ar sut y dylen nhw gyflawni eu swyddogaethau yn hyn o beth, oherwydd nid wyf i eisiau gweld 22 o wahanol ddulliau. Rwy'n dymuno sicrhau cysondeb ac rwy'n dymuno i hynny fod yn glir o ran ein disgwyliadau ni. Bydd cyfle drwy'r ymgynghoriad, a fydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni, i'r Aelodau gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw ar ffurf y canllawiau statudol.

Roeddwn i'n credu fy mod wedi egluro yn fy natganiad fy mod yn parchu hawl rhieni i ddewis addysg yn y cartref i'w plentyn os ydyn nhw'n credu bod hynny er lles gorau eu plentyn. Rwy'n ymwybodol fod rhieni'n gwneud hynny am lu o resymau. Un o'r pethau y cyfeiriodd Darren atyn nhw yw fod rhai rhieni yn teimlo eu bod dan orfodaeth i wneud y dewis hwnnw, a chredaf fod cryn waith i'w wneud—. Os yw pobl yn teimlo'u bod nhw'n cael eu gorfodi i wneud y dewis hwn oherwydd diffyg yn y ddarpariaeth addysg prif ffrwd, mae angen inni weithio'n galetach i ymdrin â hynny. Bu peth tystiolaeth anecdotaidd ofnadwy am ysgolion yn annog rhieni i ddadgofrestru eu plant cyn yr arholiadau, fel na fydd materion yn ymwneud â phresenoldeb a materion yn ymwneud â pherfformiad mewn arholiadau yn cyfrif yn erbyn mesurau perfformiad yr ysgol. Yn amlwg, nid yw hynny'n dderbyniol. Ceir llu o ymyriadau polisi eraill, y mae angen inni eu gwneud o ran sut yr ydym yn rheoli perfformiad mewn ysgolion, er mwyn newid y pethau hynny. Felly, nid oes a wnelo hyn â barnu'r dewisiadau y mae rhieni'n eu gwneud, ond mae a wnelo â dweud, 'Wrth gydbwyso'r hawl sydd gennych fel rhiant i ddarparu addysg yn y cartref i'ch plentyn, mae angen i ni, fel gwladwriaeth, wybod ym mha le y mae'r plant hynny.' Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn synnu, fwy na thebyg, wrth wrando ar y ddadl hon neu wrth wylio'r newyddion heno, nad ydym yn gwneud hynny'n barod—nid yw'r wybodaeth gennym ni'n barod. Mae'n fater o wybod ble yn union y mae'r plant hynny a'n bod ni'n bodloni ein hunain eu bod yn cael addysg addas, gan gydbwyso hawliau'r rhieni, ond hawliau'r plentyn hefyd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:27, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. A diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.

Eitem 6, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018, ac eitem 7, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir a Deddf Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018—yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, rwy'n cynnig bod y ddau gynnig canlynol, eitem 6 ac eitem 7, yn cael eu rhoi gyda'i gilydd ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Da iawn, oherwydd ni allwn eu darllen nhw i gyd eto. [Chwerthin.]