1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 7 Mawrth 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywed yr adroddiad ar ddyfodol y cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas yng Nghymru, ar hyn o bryd, fod llwyddiant addysg rhyw a chydberthynas yn dibynnu’n rhy aml ar ddiddordebau a brwdfrydedd athrawon unigol neu arweinwyr ysgolion â chyfrifoldebau addysg rhyw a chydberthynas/addysg bersonol a chymdeithasol. Yn y maes hwn, nid yw gwybodaeth ynddi’i hun yn ddangosydd llwyddiant. Nid yw beichiogrwydd anfwriadol ymysg pobl ifanc yn eu harddegau o reidrwydd yn deillio o ddiffyg gwybodaeth neu ddealltwriaeth, a gall plentyn neu berson ifanc fod yn gwbl ymwybodol eu bod yn cael eu cam-drin heb allu gwneud unrhyw beth i atal hynny. Sut rydych yn mesur llwyddiant addysg rhyw a chydberthynas ar hyn o bryd, a sut y byddwch yn mesur llwyddiant yn y dyfodol?
Diolch am eich cwestiwn. Pan ddeuthum i’r swydd, roeddwn yn bryderus nad yw darpariaeth addysg rhyw a chydberthynas cystal ag y dylai fod, ac wrth wrando ar blant a phobl ifanc, wrth imi deithio o gwmpas ysgolion Cymru, maent wedi dweud yn glir iawn wrthyf nad yw darpariaeth bresennol addysg rhyw a chydberthynas, yn aml, yn diwallu eu hanghenion unigol. Dyna pam y comisiynais yr Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd, sy'n arbenigwr rhyngwladol ar y materion hyn, i lunio adroddiad annibynnol. Rwyf wedi derbyn yr adroddiad hwnnw bellach. Rydym yn ystyried yr argymhellion ynglŷn â sut y gallwn wella darpariaeth bresennol addysg rhyw a chydberthynas a sut y gallwn sicrhau bod ein cwricwlwm newydd yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn yr un adroddiad, dywed fod plant, hyd yn oed cyn oedran ysgol, yn derbyn negeseuon ynghylch rhywedd, rhywioldeb a pherthnasoedd o amrywiaeth eang o ffynonellau, er enghraifft hysbysebion, llyfrau, cyfryngau cymdeithasol, teledu ac aelodau o'r teulu, ac ati. Buaswn yn dweud bod y rhan fwyaf o'r rhain naill ai o dan reolaeth rhieni neu y gallant fod o dan reolaeth rhieni, yn enwedig rhieni plant dan oed ysgol. Does bosibl nad oes gan rieni'r hawl i fagu eu plentyn yn unol â'u gwerthoedd a'u credoau eu hunain? Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd hawl gan rieni o hyd i eithrio eu plentyn o addysg rhyw a chydberthynas os ydynt yn teimlo nad yw'r cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas yn addas ar gyfer eu plentyn hwy?
Wel, wrth gwrs, mae gan rieni hawliau a chyfrifoldebau, ond weithiau, mae'r materion y soniwch amdanynt y tu hwnt i reolaeth y rhiant. Pan oedd fy mhlant yn fach iawn, rwy'n cofio mynd i siop adnabyddus iawn ar y stryd fawr a gweld, yn y siop, fod y gwisgoedd ar gyfer gwisgo i fyny fel meddygon yn yr adran deganau bechgyn a'r adran wisgo i fyny ar gyfer merched yn cynnwys gwisg nyrs. Mae'r pethau hyn, weithiau, y tu hwnt i reolaeth rhieni.
O ran rôl a natur orfodol addysg rhyw a chydberthynas yn y dyfodol, rwyf wedi derbyn argymhelliad clir iawn gan Emma Renold. Mae'r adroddiad a ddatblygwyd ganddi ar fy nghyfer yn cael ei ystyried, a gobeithiaf allu dod i'r Siambr hon cyn bo hir gyda fy ymateb llawn i'r adroddiad hwnnw, gan amlinellu sut rydym yn bwriadu gwella addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae'n ddealladwy y bydd rhieni, yn enwedig rhieni plant dan oed ysgol, yn bryderus ynglŷn â beth fydd cynnwys y cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas. Efallai y bydd rhai rhieni, am resymau crefyddol a gwahanol resymau eraill, o'r farn fod y cwricwlwm yn annymunol. Felly, mae'n debyg fod dau ran i fy nghwestiwn olaf. Faint o fewnbwn fydd gan rieni i'r cwricwlwm newydd ac a yw rhiant—. Mae'n ddrwg gennyf, dyna fy nghwestiwn: faint o fewnbwn fydd gan rieni i'r cwricwlwm hwnnw?
Rwy'n dal yn anghyfforddus ynglŷn â hyn—nad ydych am ddweud a fydd hawl gan rieni i eithrio eu plentyn, oherwydd yn y pen draw, gall rhieni eithrio eu plentyn o ran o'r cwricwlwm nad ydynt yn eu hoffi drwy dynnu eu plentyn o'r ysgol ac addysgu eu plentyn gartref. Bydd hynny'n cael effaith andwyol, yn enwedig ar fenywod, a fydd yn gorfod gofalu am y plentyn, pan allent, fel arall, fod mewn ysgolion. Felly, sut rydych yn mynd i fynd i'r afael â hynny?
Nid wyf yn awyddus i achub y blaen ar y trafodaethau terfynol a'r penderfyniadau y byddaf yn eu gwneud mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw. Ac rwyf wedi rhoi ymrwymiad yma y prynhawn yma, Michelle, y byddaf, ar ôl gwneud hynny, yn dychwelyd i'r Siambr â datganiad llawn ar sut rydym yn bwriadu datblygu polisi yn y maes hwn.
Mae'n rhaid imi ddweud, nid ydym yn caniatáu i rieni i dynnu eu plant allan o wersi mathemateg neu wersi Saesneg, ac yn ôl yr hyn a glywaf gan blant a phobl ifanc, maent yn teimlo bod hon yn agwedd bwysig iawn ar eu haddysg, ac mae angen inni sicrhau ei bod yn iawn ar eu cyfer. Wrth gwrs, mae'n rhaid cyflawni hynny mewn ffordd sy'n addas i oedran ac mewn ffordd sy'n hygyrch, hyd yn oed i'n plant ieuengaf. Ac nid wyf yn credu bod unrhyw blentyn yn rhy ifanc i ddechrau siarad am gydberthynas, bod yn ddiogel, cydsyniad a beth yw ystyr hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Lywydd.
Mae Plaid Cymru'n gwrthwynebu diwygiadau pensiwn arfaethedig Universities UK ac rydym yn cefnogi streiciau darlithwyr yr Undeb Prifysgolion a Cholegau. A ydych yn cefnogi camau gweithredu'r Undeb Prifysgolion a Cholegau yn erbyn y toriadau pensiwn?
Wel, Llyr, rwyf wedi cyfarfod â swyddogion yr Undeb Prifysgolion a Cholegau ar gyfer y DU gyfan yn ogystal â chynrychiolwyr o Gymru, ac rwy'n parhau i ohebu â hwy. Yn anffodus, oherwydd y tywydd gwael yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, nid oedd modd imi fynychu cynhadledd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau, gan i'r gynhadledd gael ei chanslo. Mae swyddogion yn parhau i gysylltu â'r cyflogwyr a'r gweithwyr, ac rwyf innau, ar bob cyfle, wedi annog y cyflogwyr i ddychwelyd at y bwrdd i drafod y pryderon hyn, gan fy mod yn bryderus iawn ynghylch amharu ar fyfyrwyr, ac rwy'n cydymdeimlo â'r aelodau sy'n wynebu newidiadau sylweddol posibl i'w pensiynau, ac rwy'n deall pam eu bod yn bryderus. Yn anffodus, mae'r cyflogwyr yn sefydliadau unigol, ond beth bynnag y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod y partïon hyn yn dychwelyd at y bwrdd i ddod o hyd ateb i'r broblem, byddwn yn gwneud hynny.
Rwy'n falch o glywed eich bod wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Yn amlwg, mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi dweud bod pensiynau eu cydweithwyr mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill mewn prifysgolion ôl-1992, ysgolion, colegau addysg bellach, y GIG a'r Llywodraeth wedi'u tanysgrifennu a'u gwarantu gan y wladwriaeth, wrth gwrs, ac maent yn gofyn pam y dylai fod gan brifysgolion cyn-1992 y DU gynllun pensiwn heb unrhyw warant gan y Llywodraeth. Felly, hoffwn wybod pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i Lywodraeth y DU, ac yn wir, pa ymyriadau rydych wedi galw arnynt i'w cyflawni yn hyn o beth.
Fel rwyf wedi'i ddweud, Llyr, rydym wedi annog pob parti i ddychwelyd at y bwrdd, ac roedd penderfyniad y partïon i ddychwelyd at y bwrdd negodi gyda chymorth y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu yn galonogol iawn. Credaf mai dyna sy'n rhoi'r cyfle gorau inni ganfod ateb i'r broblem sylweddol hon. Fel y dywedais, mae'r rôl uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn hyn yn gyfyngedig i raddau, ond byddwn yn defnyddio ein holl allu i ddylanwadu er mwyn sicrhau bod y trafodaethau hyn yn llwyddiannus, ac rwy'n parhau i siarad â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fyfyrwyr unigol.
Yn amlwg, mae yna agwedd economaidd i'r camau gweithredu hyn, ond credaf fod mater moesol yn y fantol yma hefyd, gan fod hyn oll yn mynd rhagddo mewn cyd-destun lle mae is-gangellorion, wrth gwrs, yn derbyn cyflogau anferthol sy'n llawer mwy na chyflogau’r Prif Weinidog neu Brif Weinidog y DU yn San Steffan, hyd yn oed. Yn wir, datgelwyd yn ddiweddar fod oddeutu £8 miliwn wedi'i dalu mewn treuliau i brif swyddogion prifysgolion dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig. Rydych wedi dweud yn flaenorol y dylid cyfyngu ar gyflogau uwch swyddogion ac y dylid canolbwyntio hefyd ar ben isaf y raddfa gyflog. Felly, sut y mae hynny'n cyd-fynd â'r cynigion hyn ar gyfer pensiynau, a ystyrir yn ymosodiad uniongyrchol ar amodau gwaith y staff hynny?
Wel, Llyr, buaswn yn ailadrodd y safbwynt hwnnw yma heddiw. Rwy'n disgwyl ataliaeth gan fy is-gangellorion ym mhrifysgolion Cymru, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gan weithio gyda'r sector, wedi cyhoeddi adroddiad ar lefelau cyflog ym mhrifysgolion Cymru, ac nid yw ein his-gangellorion yn wahanol iawn i'r rhai ledled y DU. Ond o ran cyfiawnder cymdeithasol, yr hyn sy'n bwysig iawn i mi yw bod y gweithwyr ar y cyflogau isaf yn y sector yn cael eu trin yn deg, a dyna pam rwyf wrth fy modd mai sefydliadau addysg uwch Cymru a'n sector ni fydd rhan gyntaf y sector drwy'r Deyrnas Unedig i dalu'r cyflog byw go iawn i bob un o'u gweithwyr. Rydym yn parhau i negodi hynny mewn perthynas â phob agwedd ar y bobl sy'n gweithio mewn addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys pobl sy'n gweithio yn swyddfa'r cwmni benthyciadau i fyfyrwyr yn Llandudno.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymchwil yn dangos mai'r gymuned Sipsi/Roma/Teithwyr sydd â'r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru mewn perthynas ag addysg. Dywedwch wrthym, pam y cawsoch wared ar y grant gwella addysg, a gynlluniwyd i gefnogi a chynyddu cyfraddau cyrhaeddiad ymhlith y grŵp penodol hwn?
Lywydd, nid wyf wedi cael gwared ar y grant gwella addysg.
Fel y gwyddoch, rydych wedi ailddosbarthu'r grant gwella addysg—elfen y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig ohono—i mewn i'r grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol, ac maent yn honni na allant ddod o hyd i unrhyw arwydd ohono o fewn llinellau'r cyllidebau hynny a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru. Maent yn credu bod oddeutu £13 miliwn wedi mynd ar goll o'r dyraniad addysg a gawsant gan Lywodraeth Cymru a bod hynny'n cael effaith sylweddol ar eu gallu i ddiwallu anghenion addysgol y gymuned Sipsi/Roma/Teithwyr, ac yn wir, cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill sydd angen cymorth penodol ac ychwanegol. Beth a wnewch i leihau eu pryderon?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod nifer o grantiau wedi dod yn rhan o'r grant gwella addysg bedair blynedd yn ôl. Galwyd rhan o hynny yn 'Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig' sydd yno er mwyn cefnogi addysg grwpiau lleiafrifoedd ethnig, ac roedd yna gynllun grant ar wahân i gefnogi Sipsiwn a Theithwyr. Nid yw'r Aelod yn anghywir i ddweud bod angen inni ddwysáu’n hymdrechion o ran canlyniadau i blant Sipsiwn/Teithwyr. Er ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol o ran cyrhaeddiad addysgol pob grŵp lleiafrifol ethnig ond un, mae cyrhaeddiad Sipsiwn/Teithwyr yn parhau i beri pryder i mi.
Mae'r Aelod yn llygad ei le yn dweud bod y grant gwella addysg, fel cyfraniad at yr arian sydd ar gael i'r awdurdod addysg lleol drwy'r grant cynnal refeniw, wedi’i ychwanegu fel cyfraniad. Rwyf wedi cydnabod bod hynny, oherwydd gwahanol ffyrdd o ddosbarthu, wedi golygu efallai bod rhai awdurdodau lleol o dan anfantais. Felly, rwyf wedi darparu £5 miliwn i unioni'r anfantais honno i Gaerdydd, i Gasnewydd ac i Abertawe, a byddwn yn darparu £2.5 miliwn ychwanegol dros y flwyddyn ariannol newydd hon i'r consortia rhanbarthol i weithio gydag awdurdodau lleol arweiniol, gan gynnwys Wrecsam yng ngogledd Cymru, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu cael gwell canlyniadau i'r plant hyn.
Felly, byddwch yn darparu'r £7.5 miliwn hwnnw, fel yr awgrymoch, i dri awdurdod lleol yn bennaf, sy'n digwydd bod yn awdurdodau Llafur yn ne Cymru, gydag ond ychydig iawn ar ôl ar gyfer gweddill y wlad. Y gwir amdani yw bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnwys pobl ifanc sydd angen y math hwn o gefnogaeth. Felly, gofynnaf i chi unwaith eto: pa bryd y byddwch yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru, boed yng ngogledd Cymru, canolbarth Cymru, gorllewin Cymru neu dde Cymru, er mwyn sicrhau y gallant fodloni nid yn unig anghenion y gymuned Sipsiwn/Teithwyr, ond cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill a all fod angen cefnogaeth ychwanegol gyda'u dysgu?
Wel, Darren, fel y dywedais, bydd pob awdurdod lleol wedi elwa ar gyfraniad y grant gwella addysg yn mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw. Rwyf wedi cydnabod, ar gyfer rhai awdurdodau lleol, fod newidiadau o ran y fformiwla ddosbarthu wedi cael effaith negyddol. Y gwir amdani, Darren, yw bod y tri awdurdod lleol hynny wedi eu heffeithio gan mai dyna lle mae trwch y boblogaeth, ac felly nid yw'n syndod mai'r awdurdodau hynny yw Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, gan mai dyna ble mae’r rhan fwyaf o'r myfyrwyr hynny yn byw. Yn ychwanegol at hynny, fel y dywedais, byddwn yn darparu adnoddau yn ystod y flwyddyn ariannol hon i'r holl gonsortia rhanbarthol fel y gallant ddatblygu polisi a chymorth yn y maes hwn. Mae'n wir, er enghraifft, fod rhai o'r ymyriadau mwyaf llwyddiannus eisoes ar waith ar lefel y consortia neu gan awdurdod lleol unigol ar gyfer y rhanbarth cyfan, ond rwy’n cydnabod bod mwy i’w wneud ar gyfer y grŵp hwn o blant. Ond gadewch i mi ddweud hyn: nid yw'n deg ystyried pob plentyn o gefndir ethnig lleiafrifol fel un achos penodol. Mae plant Tsieineaidd Cymreig, plant Indiaidd Cymreig, plant Pacistanaidd Cymreig, a phlant Bangladeshaidd Cymreig yn perfformio cystal neu’n well na'r cyfartaledd yng Nghymru.