– Senedd Cymru ar 13 Mawrth 2018.
Daw hyn â ni felly at y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig yma. Vaughan Gething.
Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl heddiw a chynnig y cynnig ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol fis Hydref diwethaf. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar y Bil penodol hwn am nifer o flynyddoedd. Gwnaethom ymgynghori i ddechrau ar isafbris ar gyfer alcohol yn 2014 yn rhan o Bapur Gwyn iechyd y cyhoedd cyn yr etholiad diwethaf. Fel Dirprwy Weinidog dros Iechyd, cyhoeddais Fil drafft ar isafbris fesul uned. Hoffwn ddiolch i'm cyd-Weinidogion Mark Drakeford a Rebecca Evans am eu gwaith wrth helpu i lunio'r darn hwn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd pwysig.
Rwy'n ddiolchgar i aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am graffu ar y Bil. Dydw i ddim yn mynd i geisio ymdrin â phob un o'r argymhellion yn yr amser sydd gennym y prynhawn yma, ond bydd y Llywodraeth yn ystyried pob un ohonyn nhw'n ofalus wrth i ni symud tuag at Gyfnod 2. Yn benodol, byddaf yn gwrando'n ofalus ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud heddiw, oherwydd y gallai yn sicr effeithio ar fy ymateb i ac ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion. Byddaf hefyd yn ei gwneud yn glir y byddaf yn cyhoeddi ymateb i'r argymhellion cyn toriad y Pasg, fel y gall Aelodau weld y rheini cyn ein bod ni'n rhy bell i mewn i Gyfnod 2, pe byddai'r Cynulliad yn bwrw ymlaen beth bynnag.
Ni ddylai fod yn syndod y byddwn yn pleidleisio yn erbyn gwelliant UKIP. Credwn y bydd y Bil hwn yn cael canlyniad cadarnhaol ar leihau yfed peryglus a niweidiol, a'r niwed cysylltiedig y mae hynny'n ei achosi i gymunedau ledled Cymru. Nid Bil yw hwn sy'n ceisio cosbi yfwyr drwy wneud alcohol yn eithriadol o ddrud. Mae'r Bil hwn yn cymryd agwedd synhwyrol a dargedir at broblem go iawn ac amlwg iawn yng Nghymru heddiw. Fel cymaint o wledydd eraill yn y gorllewin, mae gennym ni broblem ag alcohol rhad, cryf sydd ar gael yn rhwydd.
Mae effaith y niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn anodd ei ddarllen. Yn 2015-16 yn unig, roedd 54,000 o dderbyniadau i'r ysbyty i'w priodoli i alcohol yma yng Nghymru. Amcangyfrifwyd bod y derbyniadau hynny'n costio £120 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Yn 2016, bu farw 504 o bobl oherwydd alcohol, ac roedd pob un o'r marwolaethau hynny yn un y gellid bod wedi'i hatal. Mae'r Bil hwn yn ymwneud â helpu i leihau'r niweidiau hynny, ond nid yw'n ateb hawdd neu'n fwled arian hud i'r holl heriau. Mae'n un ffordd arall a fydd gennym i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, a'i atal.
Mae yna dystiolaeth sylweddol o amgylch y byd ar y berthynas rhwng pris alcohol a faint o alcohol sy'n cael ei yfed. Rydym ni'n gwybod hefyd fod yna berthynas gref rhwng faint y mae rhywun yn ei yfed a'r niwed y maen nhw'n ei brofi. Mae pobl sy'n yfed lefelau peryglus a niweidiol o alcohol yn llawer mwy tebygol hefyd o yfed alcohol rhatach. Felly, er gwaethaf gwaharddiad Llywodraeth y DU ar werthu alcohol islaw lefel treth a threth gwerth ychwanegol, rydym ni'n parhau i weld alcohol yn cael ei werthu am brisiau arian poced. Mae rhai diodydd yn costio llai na photel o ddŵr.
Rydym ni'n gweld effeithiau yfed niweidiol bob dydd yn ein GIG, yn ein gweithleoedd, yn ein cymunedau ac yn ein teuluoedd. Rydym ni o'r farn y bydd cyflwyno isafbris uned yn lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig ag yfed peryglus a niweidiol ac yn cryfhau ymhellach ein mesurau i leihau niwed sy'n bodoli eisoes. Mae yna nifer o faterion y bydd angen eu hystyried ymhellach, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am dynnu sylw at y rheini wrth graffu ar y Bil.
Mae un o'r rhain yn ymwneud ag effaith bosibl isafbris uned ar yfwyr dibynnol, fel yr amlygwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Bydd cyflwyno isafbris uned yn effeithio ar yfwyr dibynnol. Maen nhw ymhlith y grwpiau o yfwyr peryglus a niweidiol y mae'r Bil hwn yn eu targedu'n benodol. Ac rwy'n cydnabod rhai pryderon na fydd yfwyr dibynnol, o bosibl, yn gallu lleihau eu lefelau yfed heb gymorth neu, fel arall, os byddan nhw yn lleihau faint y maen nhw'n ei yfed efallai y bydd hynny'n achosi iddynt ddioddef symptomau rhoi'r gorau i yfed alcohol.
Rydw i wedi nodi galwadau a wnaed am adnoddau ychwanegol i'w dyrannu i wasanaethau camddefnyddio sylweddau wrth ragweld cynnydd posibl mewn galw wrth i bobl geisio cael triniaeth neu gymorth. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau cynllunio ardal i sicrhau, pan gyflwynir y ddeddfwriaeth hon, yn amodol ar ewyllys y Cynulliad, bod y gwasanaethau hyn yno ar gyfer y rhai mewn angen, oherwydd rydym ni'n parhau i gynnal ein buddsoddiad o bron i £50 miliwn y flwyddyn i gefnogi pobl ag anawsterau camddefnyddio sylweddau. Mae bron i hanner yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r saith bwrdd cynllunio ardal, sy'n comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer eu rhanbarthau. Mae £17.1 miliwn ychwanegol wedi'i neilltuo ar hyn o bryd ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau o fewn byrddau iechyd, a bydd hwnnw'n cynyddu ar gyfer gwasanaethau rheng flaen i £18 miliwn y flwyddyn o fis Ebrill eleni. Rydym ni hefyd yn gweithio i ostwng amseroedd aros am driniaeth fel yr wyf wedi pwysleisio mewn dadleuon blaenorol yn y Siambr hon.
Yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 o'r Bil, codwyd pryderon ynghylch pa un a fyddai'r Bil yn cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol a'r rheini o deuluoedd incwm isel, a gofynnodd rhai a fyddai yfwyr trwm yn dewis gwario incwm ar alcohol drutach yn hytrach na gwres a bwyd. Dengys y gwaith modelu wedi'i ddiweddaru o Brifysgol Sheffield na fydd effaith ar yfwyr cymhedrol i raddau helaeth yn sgil cyflwyno isafbris uned. Mae hynny oherwydd nad yw yfwyr cymedrol yn yfed llawer iawn o alcohol yn rheolaidd a'u bod yn llai tebygol o yfed alcohol rhad.
Rydym ni'n disgwyl y bydd effaith ar bobl mewn cartrefi incwm isel sy'n yfed lefelau peryglus neu niweidiol, ond dyna hefyd lle'r ydym ni'n rhagweld gwneud y cynnydd mwyaf o ran iechyd. Mae pobl sydd â'r lleiaf o adnoddau sy'n yfed ar lefelau niweidiol yn llawer mwy tebygol o brofi salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol a bod ag angen gofal iechyd sylweddol a hirdymor, ac a dweud y gwir hefyd, maen nhw'n llawer mwy tebygol o farw oherwydd alcohol. Mae'r ystadegau ar hyn yn drawiadol. Felly, ni allwn anwybyddu'r lefel honno o anghydraddoldeb iechyd.
Mae adroddiad y pwyllgor iechyd yn tynnu sylw at y risg posibl o amnewid alcohol â sylweddau niweidiol eraill. Mae'r sail dystiolaeth ar gyfer hynny yn gyfyngedig, ond rwy'n cydnabod y pryder. Dyna pam yr wyf i'n hapus i gadarnhau eto fy mod wedi gofyn i banel cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau edrych ar y mater hwnnw ac adrodd yn ôl yn yr wythnosau nesaf. Ac, yn amlwg, caiff yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi a'i ddarparu i'r Aelodau a'r cyhoedd ehangach i graffu arno.
Rwyf hefyd yn dymuno ymdrin â chyd-destun materion traws-ffiniol. Mae rhai pobl wedi dadlau y gellid anwybyddu isafbris uned mewn rhannau mawr o Gymru gan eu bod mor agos at y ffin â Lloegr, neu gan y bydd pobl yn troi at alcohol anghyfreithlon. Mae rhai pobl wedi sôn am criwsiau cwrw i Fryste. Byddai cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn golygu gwahanol gyfundrefnau prisiau rhwng Cymru a Lloegr, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod costau teithio dros unrhyw bellter a chost amser person yn debygol o wrthbwyso arbedion posibl. Rwy'n parhau i fod yn obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn dilyn ein hesiampl ni ac arweiniad yr Alban ac yn cyflwyno isafbris uned, yn union fel y gwnaeth ddilyn ein harweiniad ar y gwaharddiad ar ysmygu a'r taliadau am fagiau siopa hefyd.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi unrhyw effeithiau i'r isafbris uned ar werthu neu yfed alcohol anghyfreithlon—eto, mater a godwyd yn adroddiad y pwyllgor iechyd.
Yn y misoedd diwethaf, bu trafodaeth ynghylch pa un a ddylai lefel yr isafbris uned fod ar wyneb y Bil ai peidio. Mae barn y Llywodraeth yn parhau i fod yr un peth: mae pennu lefel mewn rheoliadau yn rhoi cyfle inni barhau i fod yn hyblyg ac ymateb i amgylchiadau sy'n newid. Cefnogwyd y safbwynt hwnnw gan y pwyllgor iechyd a rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond rwy'n cydnabod bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dod i farn wahanol yn eu argymhellion nhw. Felly, byddwn yn parhau ar y sail o bennu lefel isafbris uned mewn rheoliadau, i'w gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y weithdrefn gadarnhaol.
Gan droi at sut y caiff y lefel ei phennu, byddwn yn edrych ar effeithiau gwahanol lefelau o isafbris uned sydd wedi'u modelu, ac wedyn yn gwneud penderfyniad cytbwys. Unwaith eto, hoffwn ailadrodd y byddaf yn ymgynghori ar y lefel arfaethedig ac yn cyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol gydag asesiad ariannol trylwyr o'r effeithiau ochr yn ochr â'r rheoliadau drafft. Gofynnodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i mi nodi ein cyfiawnhad gan gynnwys enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil. Dyna'n union yw'r rhain. Maen nhw'n esbonio sut i gyfrifo'r isafbris perthnasol ar gyfer alcohol. Yn benodol, gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar sut yr ydym yn bwriadu osgoi dryswch, os yw lefel yr isafbris yn wahanol yn y pen draw i'r un a geir yn yr enghreifftiau yn y Bil. Mae hyn yn rhan o geisio gwneud y ddeddfwriaeth yn hygyrch ac yn hawdd ei deall. Maent yn cynnwys cyfrifiadau mathemategol ac roeddem ni o'r farn y byddai enghreifftiau ar y Bil yn helpu pobl i ddeall. Mae hynny hefyd wedi'i groesawu yn gyffredinol gan randdeiliaid mewn ymateb i'r Bil drafft. Felly, mae'r Bil a'r dogfennau ategol yn nodi'n glir iawn mai'r isafbris uned fydd pa bris bynnag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb cadarnhaol y Cynulliad hwn, a byddwn hefyd yn gwneud hynny'n glir yn y canllawiau ac wrth gyfathrebu yn y dyfodol.
Trof yn awr at y mater ynghylch ardoll gwirfoddol. Mae'r mater hwn wedi codi yn adroddiadau dau bwyllgor o leiaf, felly gallai peth o'r refeniw ychwanegol yr ydym yn disgwyl ei godi gael ei roi o'r neilltu i gael ei fuddsoddi yn iechyd y cyhoeddus. Rwy'n agored i ymchwilio i'r mater hwn. Nid wyf yn meddwl bod gennym bwerau i godi ardoll orfodol, ond rwy'n hapus i edrych ar waith ymchwil i roi dealltwriaeth lawnach i ni o ganlyniad cyflwyno'r ddeddfwriaeth a deall yn well unrhyw gynnydd yn y refeniw i fanwerthwyr a lle y byddai llwythi'r gadwyn gyflenwi yn cwympo, i geisio deall a fyddai cynllun gwirfoddol yn cynhyrchu adenillion gwirioneddol i'w buddsoddi yn iechyd y cyhoedd.
Fel y dywedaf, nid yw isafbris uned yn fwled arian, Llywydd. Mae'n rhaid ei weld fel rhan o'n dull ehangach o leihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed ac i fod â pherthynas iachach ag alcohol. Felly, mae polisi yma yng Nghymru yn mynnu amrywiaeth o ymagweddau, a all, o'u defnyddio gyda'i gilydd, esgor ar newid go iawn ac ystyrlon a budd iechyd gwirioneddol ac ystyrlon. Felly, rydym yn bwriadu defnyddio'r holl gymorth sydd ar gael ledled Cymru i ddatblygu perthynas iachach ag alcohol a rhoi diwedd ar yr hanesion trist o bobl yn marw o ganlyniad i yfed.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma y prynhawn yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor. Mae ein gwaith craffu ar y Bil wedi bod yn hynod drylwyr, ac rydym wedi llwyddo i ddatblygu argymhellion clir ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud ein bod yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ysgrifennu atom a chyflwyno tystiolaeth inni mewn un o'n cyfarfodydd ffurfiol. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r bobl a roddodd o'u hamser er mwyn caniatáu i Aelodau a staff y pwyllgor siarad â hwy mewn lleoliadau llai ffurfiol.
Dyma'r ail Fil ar iechyd y cyhoedd a gafwyd yn y Cynulliad hwn, a'r ail Fil y mae ein pwyllgor ni wedi craffu arno. Er ei fod yn ymdrin efo materion polisi gwahanol i'r rhai a oedd wedi'u cynnwys yn y Bil cyntaf, mae gan y Bil hwn hefyd y potensial i gyfrannu at y nod o wella a diogelu iechyd pobl Cymru.
Er gwaethaf y sylwadau hynny, credwn fod angen rhoi ystyriaeth bellach i'r Bil a'r polisi ehangach. Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd inni yn awgrymu bod angen cymryd camau pellach i wella’r Bil, i baratoi ar gyfer ei gychwyn, ac i gefnogi’r broses o’i weithredu. Mae angen cymryd camau pellach hefyd i sicrhau bod effeithiau isafbris uned yn cael eu monitro a’u deall. Rydym ni wedi gwneud nifer o argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn cryfhau'r ddeddfwriaeth a'r broses o'i gweithredu. Byddant hefyd yn fodd o osgoi rhai canlyniadau anfwriadol posibl, yn enwedig mewn perthynas ag yfwyr dibynnol. Yn fy sylwadau, byddaf yn canolbwyntio ar rai o'r pethau yma.
Er ein bod yn cytuno efo'r cynnig i bennu'r isafbris uned drwy reoliadau eilaidd, credwn y dylid rhoi cyfleoedd craffu mwy helaeth i'r Cynulliad yma a'i bwyllgorau. Mae lefel yr isafbris uned yn ganolog i lwyddiant y Bil, wedi'r cwbl. Credwn y dylai'r rheoliadau gael eu gwneud gan ddefnyddio'r weithdrefn uwchgadarnhaol, a hynny er mwyn caniatáu digon o amser i'r pwyllgorau graffu arnynt, gan gynnwys gwahodd sylwadau gan randdeiliaid a holi’r Gweinidog perthnasol, cyn ei bod yn ofynnol i’r Cynulliad bleidleisio arnynt.
Rydym ni wedi clywed amheuon ynghylch y grwpiau y bydd y ddeddfwriaeth yn cael yr effaith fwyaf arnynt. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi datgan y bydd yr isafbris uned ar gyfer alcohol yn cael yr effaith fuddiol fwyaf ar yfwyr peryglus a niweidiol. Fodd bynnag, cawsom dystiolaeth glir y bydd cynyddu’r pris gwaelodol, sef y pris nad oes modd gwerthu alcohol islaw iddo, yn cael effaith andwyol ar yfwyr sy’n ddibynnol ar alcohol rhad a chryf fel seidr gwyn. Felly, rydym ni'n pryderu ynghylch argaeledd gwasanaethau triniaeth a chymorth digonol i’r rhai sy’n camddefnyddio alcohol. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru, cyn cychwyn y ddeddfwriaeth, yn cynnal asesiad cadarn o’r angen presennol am wasanaethau triniaeth a chymorth yng Nghymru i sicrhau bod darpariaeth ddigonol, sydd wedi’i diogelu ar gyfer y dyfodol, ar gael. Dyna argymhelliad 7.
Rydym ni hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fonitro effeithiau'r gyfundrefn sydd ar fin cael ei gweithredu yn yr Alban er mwyn sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgir yn gallu llywio'r modd y cyflwynir y gwasanaethau hyn yma yng Nghymru. Dyna ydy argymhelliad 8.
Rydym ni hefyd yn pryderu mai un o ganlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth fydd peri i rai pobl â chanddynt broblem yfed ddefnyddio sylweddau mwy peryglus ac anghyfreithlon yn lle alcohol. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i ddarganfod faint o broblem yw defnyddio sylweddau eraill yn lle alcohol yn debygol o fod pe bai isafbris uned yn cael ei gyflwyno. Dyna argymhelliad 9.
Argymhellodd nifer o randdeiliaid fod Llywodraeth Cymru yn codi ardoll ar fanwerthwyr neu’n cyflwyno cynllun cyfraniad gwirfoddol er mwyn cyfeirio cyfran o unrhyw gynnydd mewn elw o ganlyniad i isafbris uned at wasanaethau gofal iechyd a chymorth. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ymarferoldeb cyflwyno ardoll orfodol, neu gynllun talu gwirfoddol, i fanwerthwyr. Dyna argymhelliad 10, a gwnaeth nifer o bobl sôn am hynny. Dylid defnyddio’r arian a godir gan yr ardoll yn gyfan gwbl at ddibenion mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyfrannu at y nod ehangach o wella a diogelu iechyd pobl Cymru.
Wrth graffu ar y Bil hwn, roeddem yn ymwybodol iawn bod llawer yn amheus ohono. Rydym ni hefyd yn ymwybodol bod llawer o gamsyniadau ynghylch yr effaith y bydd y ddeddfwriaeth yn ei chael ar rai grwpiau. Yn sgil hyn, credwn y bydd cyfathrebu pwrpas y ddeddfwriaeth i’r cyhoedd a’r busnesau yr effeithir arnynt yn hollbwysig i’w llwyddiant fel mesur gwella iechyd. Rydym ni'n nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch dyrannu arian ar gyfer cynllun cyfathrebu, ond nid ydym ni'n credu bod £100,000 yn swm digonol i ariannu’r gwaith yma. Felly, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r amcangyfrifon o’r costau sydd wedi'u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y gweithgarwch cyfathrebu arfaethedig gyda’r nod o gynyddu cyfanswm y cyllid sydd ar gael i roi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau ymysg busnesau ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Dyna argymhelliad 2.
Mae gan y Bil botensial mawr i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon iechyd hirsefydlog ynghylch effaith yfed alcohol yn ormodol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae isafbris uned yn parhau i fod yn theori—yn ddamcaniaeth—sydd heb ei phrofi, ac rydym wedi clywed rhai amheuon ynghylch ei effaith debygol. Yn sgil hynny, mae gwerthuso effaith cyflwyno isafbris uned yng Nghymru yn elfen hanfodol ac angenrheidiol o’r ddeddfwriaeth yma. Credwn y dylid diwygio’r Bil i gynnwys darpariaeth fwy manwl ynghylch y gwerthusiad sy’n ofynnol, ac rydym wedi argymell bod yn rhaid i'r gwerthusiad gyfeirio at nifer o bethau, gan gynnwys effeithiau isafbris uned ar yfwyr cymedrol, yfwyr dibynnol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, a masnach drawsffiniol. Dyna argymhellion 13 ac 14.
Mae’r dystiolaeth a gawsom wedi pwysleisio na fydd isafbris yn effeithiol ar ei ben ei hun, a bod angen ystod o fesurau i fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol. Credwn ei bod yn werth cymryd camau mewn perthynas â rhai o’r mesurau ychwanegol a nodwyd gan randdeiliaid, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod rhybuddion iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth gan gorff rheoleiddio annibynnol yn cael eu rhoi ar labeli pob cynnyrch alcohol, a chyfyngu ar hysbysebu alcohol. Rydym ni'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio'n llawn i'r holl gyfleoedd, gan gynnwys pwyso am gamau gweithredu ar lefel y DU, i sicrhau bod set gynhwysfawr o fesurau ar waith i leihau niwed oherwydd alcohol.
I gloi, yn gyffredinol, rydym, fel pwyllgor, yn croesawu'r cynigion yn y Bil, ac rydym o'r farn y bydd y Bil yn cyfrannu at y dull strategol ehangach o fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Am y rheswm hwn, rydym yn argymell bod y Cynulliad yn derbyn yr egwyddorion cyffredinol. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Yn gyntaf oll a gaf i atgoffa'r Aelodau, wrth gwrs, nad diben adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw ymdrin â'r polisi penodol a'r materion tystiolaethol cysylltiedig ynghylch polisi, ond yn hytrach i edrych ar y grym technegol a deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â'r Bil a chydbwysedd y pwerau a'r ffordd y caiff y pwerau hynny eu harfer yn y Bil?
Felly, gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 5 Mawrth a gwnaethom chwe argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio bod ein hadroddiad yn ddefnyddiol i Aelodau'r Cynulliad wrth wneud penderfyniadau ar y Bil hwn. Mae ystyried hawliau dynol yn un o'r gofynion pwysig wrth asesu materion cymhwysedd deddfwriaethol. O ystyried hyn, mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â materion hawliau dynol yng nghyd-destun adran 16 o'r Bil, ac mae'r adran hon yn galluogi swyddogion awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre o dan adrannau 13, 14 a 15 o'r Bil i gymryd
'personau eraill o'r fath...y mae'r swyddog yn eu hystyried yn briodol'.
Yn ystod ein gwaith craffu, gwnaethom ystyried ehangder yr ymadrodd hwn, ac yn arbennig i sicrhau na chaiff y pŵer yn adran 16 ei gamddefnyddio. Nodwyd yn Neddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984—PACE—fod cod B yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog sy'n mynd i mewn i fangre gyflwyno ei hun ac unrhyw un sydd gydag ef. Ar y llaw arall, o dan adran 16(2) o'r Bil hwn, y cyfan y mae'n rhaid i'r swyddog wneud yw
'hysbysu'r meddiannydd o enw'r swyddog'.
Ni welwn unrhyw reswm paham na ddylai gofyniad o'r fath fod yn gymwys i bersonau eraill sy'n dod gyda'r swyddog i'r safle. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwelliant i adran 16 o'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gael gwybod enw'r personau sydd gyda'r swyddog pan fyddant yn mynd i mewn i'r safle. Credwn y dylid gosod dyletswydd ar y swyddog i roi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae ein hail argymhelliad, felly, yn awgrymu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno gwelliannau i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau ar arfer yr holl bwerau a'r dyletswyddau o dan y Bil ac i sicrhau bod y Bil yn cynnwys dyletswyddau priodol i roi sylw i'r canllawiau hynny. Fel yn achos ein gwaith craffu ar bob Bil, rydym yn ystyried y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil hwn a'r hyn sydd ar ôl ar gyfer is-ddeddfwriaeth.
Bydd Aelodau yn ymwybodol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet a Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eisoes wedi ei ddweud, fod yr isafbris uned ar gyfer alcohol yn cael ei osod gan ddefnyddio pŵer gwneud rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Drwy roi'r isafbris uned yn y rheoliadau, byddai'n golygu na allai Aelodau'r Cynulliad gyflwyno gwelliannau i'r Bil i osod pris uwch neu is na'r hyn a awgrymwyd. Yn yr unig ddewis a fyddai ar gael i Aelodau'r Cynulliad fyddai derbyn neu wrthod yr isafbris uned fel y nodir yn y rheoliadau, oherwydd ni ellir eu diwygio. Ac, fel y cyfryw, rydym ni'n credu y gallai'r dull hwn mewn gwirionedd gyfyngu ar bŵer y ddeddfwrfa. Rydym ni'n credu felly y byddai'n well gosod yr isafbris uned ar wyneb y Bil a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio'r ffigur hwnnw gan ddefnyddio rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uwchgadarnhaol. Yn ein barn ni, byddai hyn yn arwain at ddadl lawer mwy trylwyr ar egwyddor ganolog y Bil, sef yr hyn y dylai'r isafbris uned ar gyfer alcohol fod. Mae argymhellion 3 a 4 yn ein hadroddiad yn adlewyrchu ein safbwynt ar y pwyntiau hyn.
Wrth wneud argymhelliad 3, gwnaethom nodi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch gwelliannau deddfwriaeth sylfaenol drwy is-ddeddfwriaeth, sef pwerau Harri VIII, fel y'u gelwir. Mae'r pwyllgor hwn wedi mynegi pryder am y defnydd gormodol o bwerau o'r fath yn gyson. Rydym wedi derbyn bod yna amgylchiadau lle maent yn cynrychioli cyfaddawd synhwyrol a phriodol, ar yr amod eu bod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Nid ydym felly yn ei hystyried yn briodol i ddadlau y dylai materion sylweddol o bolisi cyhoeddus gael eu neilltuo i bwerau gwneud rheoliadau oherwydd efallai y bydd angen newid y polisi yn y dyfodol ac oherwydd nad yw deddfwrfeydd yn hoffi pwerau Harri'r VIII. Dylid penderfynu a yw mater yn ymddangos ar wyneb y Bil gan ei arwyddocâd polisi yn hytrach nag a yw'n bosibl y bydd angen ei newid neu beidio yn y dyfodol.
Hoffwn gloi, felly, drwy grynhoi ein barn ar gynnwys enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil, ac ar gynnwys cymal machlud. Gallwn weld rhinwedd mewn cynnwys enghreifftiau darluniadol o gyfrifiadau o'r isafbris alcohol perthnasol ar wyneb y Bil. Fodd bynnag, ein barn ni oedd y gallai fod yn ddryslyd pe byddai'r isafbris uned wedi'i gynnwys yn y rheoliadau a'i fod yn wahanol i'r gwerth a ddefnyddir yn yr enghraifft ddarluniadol. Nid yw'n glir ychwaith pam nad oes enghraifft ddarluniadol wedi'i chynnwys, mewn gwirionedd, ar gyfer 7.1. Rwy'n sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi codi ac ymdrin â'r mater hwn yn ei gyfeiriadau at hygyrchedd, ac, wrth gwrs, y cydbwysedd rhwng y dehongliad o hygyrchedd o'i gymharu â'r pryderon a godwyd gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o ran dryswch posibl.
Yn gyffredinol, nid ydym o'r farn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi esbonio'n ddigon clir pam y mae'n meddwl ei bod orau ac yn angenrheidiol rhoi enghreifftiau darluniadol ar wyneb y Bil yn hytrach na dewis amgen—[torri ar draws.] Mae'n flin gen i. Iawn.
Diolch am ildio. Rwy'n cytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am bwysigrwydd bod â ffigurau ar wyneb y Bil yn y lle cyntaf. A fyddech chi'n dweud bod yna fater ehangach gyda Llywodraeth Cymru? Yn sicr, yn natblygiad y trethi yn ddiweddar, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, roedd y Llywodraeth yn amharod i roi ffigurau ar wyneb y Bil hefyd. Er mwyn bod yn dryloyw, oni fyddai hynny'n fuddiol yn y dyfodol, yn yr holl faterion hyn?
Wel, rwy'n credu bod yna wahaniaethau rhyngddyn nhw. Rwy'n credu bod yna amgylchiadau penodol iawn yma, oherwydd mae gosod isafbris gwirioneddol ar wyneb y Bil, sef y mater yr ydych yn ei godi rwy'n credu, yn mynd i union wraidd pa mor effeithiol yw'r ddeddfwriaeth ynddi'i hun mewn gwirionedd, ac, yn absenoldeb hynny, bydd hynny'n penderfynu sut y gallai'r Cynulliad hwn ystyried beth yw'r lefel honno a beth fyddai'r effaith ar faint o alcohol yn union sy'n cael ei yfed, a'r holl bethau y mae'r ddeddfwriaeth yn dymuno ymdrin â nhw mewn gwirionedd.
Rydym ni'n credu mai dewis amgen, o ran yr enghreifftiau darluniadol, er hynny, fyddai defnyddio'r canllawiau a'u diweddaru fel sy'n ofynnol. Byddai hyn yn sicrhau dull cyson rhwng yr isafbris uned a'r ffigur a ddefnyddir yn yr enghreifftiau darluniadol. Felly roedd ein hargymhelliad 5 yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â'n pryderon yn y ddadl hon. Rwy'n deall y pwyntiau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet, felly yr hyn yr wyf yn ei wneud yw amlinellu'r pryderon fel y cawsant eu cyfleu yn y pwyllgor, ac rydym yn edrych ymlaen at ystyried eich ymatebion ysgrifenedig.
Yn olaf, rydym wedi cofnodi ein cytundeb i ddefnyddio'r cymal machlud, fel y nodir yn adran 22. Rydym wedi nodi y gallai'r rheoliadau o dan adran 22(3) wneud darpariaeth 'fel y gall fod yn angenrheidiol neu'n hwylus' a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd â'r materion hyn, gan eu bod yn cael eu codi yn gyson gan y pwyllgor hwn: pe byddai'r Bil yn cael ei ddirymu, byddai'r pŵer, yn ein barn ni, i wneud newidiadau 'angenrheidiol' yn ddigon. O ganlyniad, mae ein hargymhelliad 6 yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwelliant i'r Bil i ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus' o adran 22(3). Diolch ichi, Llywydd.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Caroline Jones i gyflwyno gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Neil Hamilton.
Yn dilyn ein hadroddiad yn y Pwyllgor, mae llawer o sefydliadau wedi ysgrifennu ataf, ynghyd ag etholwyr, â phawb yn gwrthwynebu'r isafbris uned. Felly, ni allaf rannu yn y cynsail mai cyflwyno isafbris uned yw'r ffordd gywir i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Ni fydd gwneud alcohol yn ddrutach yn atal pobl rhag yfed yn ormodol, a cheir y canfyddiad ei fod yn annheg ac yn cosbi'r rhai hynny sy'n yfed mewn ffordd gyfrifol, yn enwedig y rhai hynny ar incwm isel. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos mai'r grŵp mwyaf o bobol sy'n goryfed mewn pyliau yw'r bobl canol oed sy'n ennill llawer o arian ac, yn ôl Arolwg Iechyd Cymru, mae 47 y cant o'r bobl lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn yfed mwy na'r swm a argymhellir ac mae 28 y cant o'r lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn goryfed mewn pyliau. Roedd tri deg pedwar y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod wedi yfed mwy na'r terfynau a argymhellir ar un diwrnod o leiaf yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae oedolion sy'n byw mewn aelwydydd sydd yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm o'u cymharu ag oedolion yn y braced incwm isaf. Roedd tystiolaeth ar ymddygiad prynu a gyflwynwyd i Bwyllgor Iechyd a Chwaraeon Senedd yr Alban yn dangos y rhagwelir y bydd yfwyr niweidiol yn y cwintel incwm uchaf yn prynu 80 o unedau yr wythnos o alcohol rhad. Ni fydd cynyddu prisiau yn gwneud fawr ddim i atal y bobl hyn. Mae'r bobl hynny sydd o blaid isafbris uned ar gyfer alcohol yn aml yn cyfeirio at Ganada fel enghraifft wych o'r polisi'n gweithio, ond dengys tystiolaeth o British Columbia, rhwng 2002 a 2011, bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu, mewn gwirionedd, fel y gwnaeth derbyniadau i ysbytai a briodolir i alcohol. Dylem fod wedi dysgu o'r mesurau i reoli tybaco nad yw cynyddu prisiau yn atal ysmygwyr trwm; y cyfan mae'n ei wneud yw eu gwneud nhw'n dlotach. A'm pryder i yn y fan yma bob amser yw trafferthion plant mewn teulu lle mae rhieni yn yfed yn drwm. Yn aml, gyda chynnydd ym mhris alcohol, mae'r plant yn mynd heb bethau hanfodol, ac mae ganddynt ansawdd bywyd tlotach, gan felly gynyddu anghydraddoldeb.
Mae arnaf i ofn y bydd isafbris uned yn gwneud dim ond arwain at fwy o elw i'r archfarchnadoedd, ac na fydd yn gwneud llawer i annog yfed yn gyfrifol. Mae pryderon a amlygwyd gan y Ganolfan Huggard y gallai deddfwriaeth o'r fath achosi i'r bobl hynny sy'n cael trafferthion â chaethiwed i alcohol gael eu gwthio tuag at gyffuriau anghyfreithlon rhatach sydd ar gael yn rhwydd, fel sbeis. Hefyd, ceir pryder y gallai'r ddeddfwriaeth hon sbarduno symudiad at farchnad anghyfreithlon ar gyfer alcohol, fel y gwelwyd gyda'r fasnach tybaco, sydd wedi gweld y fasnach mewn sigaréts ffug sy'n cynnwys cemegau niweidiol iawn yn ffynnu.
Mae'n rhaid inni hefyd ystyried y ffaith bod yna fanteision iechyd i yfed alcohol yn gyfrifol, ac mae mwy na 100 o astudiaethau wedi dangos bod yfed un neu ddwy o unedau o alcohol y dydd, mewn gwirionedd, yn gallu lleihau'r risg o ddatblygu clefydau cardiofasgwlaidd gan gymaint â 45 y cant. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y gall yfed mwy na'r hyn a argymhellir gynyddu eich risg o glefyd yr afu, gall niweidio eich calon a chynyddu eich siawns o ddatblygu rhai mathau o ganser. Mae'n gydbwysedd y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei reoli, ond yn anffodus, mae sawl un nad ydynt yn gwneud hynny.
Rwy'n cytuno â Llywodraeth Cymru bod yn rhaid inni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r cannoedd o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r degau o filoedd o dderbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn. Nid isafbris uned, yn fy marn i, yw'r ffordd o wneud hynny. Mae'n rhaid i ni addysgu'r cyhoedd yn well am niwed alcohol, a helpu'r rhai hynny sy'n gaeth i alcohol yn well, ond nid cosbi'r rhai sy'n yfed yn gyfrifol. Diolch.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy nodi y bydd Ceidwadwyr Cymru yn cefnogi'r Bil hwn yng Nghyfnod 1. Fodd bynnag, rydym yn gwneud hynny gyda rhestr hir iawn o gafeatau a phryderon y byddem ni'n hoffi eu gweld yn cael sylw dros y cyfnodau nesaf, ac yn y gwelliannau yr ydym yn bwriadu eu cyflwyno.
Credwn y dylai'r Llywodraeth fod yn ddoeth wrth ddeddfu. Dydych chi ddim yn deddfu dim ond er mwyn deddfu. Mae'n rhaid inni fod yn gwbl glir ynghylch buddion pasio deddfwriaeth sydd wedi'i thargedu at nifer bach iawn o bobl, a dylem gofio, yn ein holl sgyrsiau, nad yw alcohol ei hun yn broblem. Mae'n gwbl gyfreithlon, ac mae'n cael ei ddefnyddio'n gwbl iawn gan nifer fawr o bobl ledled y byd. Yr hyn sydd dan sylw yw bod gan rai pobl broblem o ran sut y maen nhw'n ymdrin ag alcohol, ac mae angen inni fod yn benodol iawn yn ein pwyslais o ran sut y gallwn gynorthwyo'r bobl hynny a'u rhoi yn ôl ben y ffordd er mwyn iddynt gael gwell canlyniad ar gyfer eu hiechyd yn y tymor hir.
Wrth adolygu hyn yn ystod dadl Cyfnod 1, un o'r pryderon i mi—ac roeddwn yn falch iawn o nodi bod y Pwyllgor Cyllid hefyd wedi ei nodi—yw bod diffyg tystiolaeth ystadegol, mewn gwirionedd, ynghylch beth fydd manteision isafbris uned ar gyfer alcohol. Wrth wrando ar y dystiolaeth sydd ger ein bron, Ysgrifennydd y Cabinet, meddyliais am ddau beth. Roedd un grŵp sydd wedi seilio set fawr iawn a rhagfarnllyd iawn o baramedrau, os mynnwch chi, ar fodelu yn gyfan gwbl, ac roedd y grŵp gyferbyn, a oedd mewn gwirionedd yn nodi pam na ddylem ni ei wneud, pam na ddylem ni fwrw ymlaen â hyn. Ond roedden nhw'n oddrychol iawn yn eu tystiolaeth. Yr hyn na chefais i oedd unrhyw ymdeimlad clir o 'Dyma'r dystiolaeth; gwnewch chi eich penderfyniad'. Roedd y cyfan mor rhagfarnllyd, y naill ffordd neu'r llall, drwy gydol y sesiwn dystiolaeth, felly byddwn i'n hoffi gweld llawer o ymhelaethu yn y cyfnod nesaf er mwyn cael ymdeimlad llawer cliriach o ymchwil empirig, dilys, go iawn sy'n dangos lle mewn gwirionedd y gall isafbris uned helpu i dynnu pobl oddi ar lwybr trychinebus o ran eu perthynas gymhleth ag alcohol.
Mewn gwirionedd, dywedodd y Pwyllgor Cyllid—ac rwy'n dyfynnu—
'nid oes unrhyw dystiolaeth ystadegol sy'n dangos y bydd cyflwyno isafbris uned yn arwain at ostyngiad o ran faint o alcohol sy'n cael ei yfed.'
O ystyried yr hyn a ddywedais ar y dechrau ynghylch pan fyddwch chi'n gwneud deddfwriaeth mae'n rhaid i chi ei gwneud yn gyfrifol, mae'n rhaid bod gennych ddarlun clir iawn o'r hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni. Dyna, rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, yw un o'r cyfrifoldebau clir y mae'n rhaid i chi fel Llywodraeth ei gyflawni yng nghyfnod nesaf y Bil hwn. Mae'n rhaid inni fod yn gwbl glîr ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w gyflawni a sicrhau bod gennym y dystiolaeth ar ei gyfer. Os nad yw'r dystiolaeth honno yno, mae angen inni feddwl yn hir ac yn ofalus ynghylch pa un a ddylem ni eistedd yn ôl ac aros i weld beth fydd yr arbrawf yn yr Alban yn ei wneud cyn inni ei dilyn. Ac rwy'n deall bod llawer o resymau eraill pam y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno prosesu hyn—oherwydd yr amserlenni sy'n gysylltiedig â Brexit ac ati—ond rwyf i'n credu mai ein cyfrifoldeb ni yw edrych ar hynny. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, maddeuwch imi. Rwy'n credu ein bod ni yn cytuno'n llwyr, y Ceidwadwyr Cymreig—[torri ar draws.] Mae gen i ddŵr, diolch—gyda'r ymateb gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a sut y dylem ni ystyried rhoi ar wyneb y Bil baramedrau allweddol penodol ynghylch sut y byddwn ni'n symud ymlaen gyda hyn, a hoffwn weld hynny'n cael ei archwilio yng Nghyfnod 2 wrth i'r Llywodraeth fwrw ymlaen.
Hoffwn inni ystyried yn hir ac yn ofalus iawn yr effaith amnewid. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sydd wedi ei anwybyddu. Unwaith eto, pan wnaethom edrych ar y sail dystiolaeth a oedd gennym ger ein bron, gwnaethom ofyn fel pwyllgor, dro ar ôl tro, y dylem ni fod yn gallu dod o hyd i dystiolaeth gan elusennau cyffuriau a grwpiau eraill sy'n ymdrin â phobl yn camddefnyddio sylweddau ynghylch beth fyddai'r daith i rywun sydd â phroblem caethiwed. Doedd y dystiolaeth ddim ar gael. Mae'n rhywbeth nad yw pobl wedi gwneud ymchwil arno, ac roeddwn i'n bersonol o'r farn bod hynny'n eithaf rhyfeddol. Doedd dim digon o ddeunydd deifiol a allai ddweud, os oes rhywun yn gaeth i alcohol neu â pherthynas gymhleth ag alcohol, sy'n eu galluogi i fynd allan a goryfed mewn pyliau neu unrhyw arfer niweidiol arall, na fyddant o reidrwydd yn mynd ar daith a allai eu harwain at sylwedd arall. Rwy'n credu, yn ystod Cyfnod 2, y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn hoffi gweld llawer iawn mwy o waith yn cael ei wneud ar y ddamcaniaeth amnewid gyfan honno. Aethom ni allan a siarad â'r Ganolfan Huggard. Rydym ni wedi siarad â rhai o'r elusennau eraill. Mae'n rhaid i'r dystiolaeth fod ar gael. Llywodraeth Cymru: eich dyletswydd chi yw mynd allan a dod o hyd i'r dystiolaeth honno, fel y gallwn, yma yn y ddeddfwrfa hon, wneud penderfyniad clir iawn ynghylch a yw hyn, mewn gwirionedd, yn mynd i dargedu y bobl sydd ei angen fwyaf.
Yn olaf—mae yna lawer o bwyntiau yr hoffwn i eu gwneud, ond rwy'n ymwybodol iawn fy mod yn brin o amser—Llywydd, hoffwn i sôn am yr effaith ar incwm teulu i'r rhai hynny sydd prin yn ymdopi. Rydym ni'n sôn, fel yr wyf wedi darganfod—. Byddaf i'n onest â chi: doeddwn i ddim yn sylweddoli bod y gair 'seidr'—roeddwn i bob amser yn meddwl ei fod yn golygu bod yn rhaid bod afal ynddo. Rydym ni wedi canfod bod yna fathau o seidr allan yno sydd erioed wedi gweld afal, byth wedi bod ar gyfyl afal, ac maen nhw'n ddim ond cemegau pur. Dyma'r math o bethau yr ydych chi'n ceisio ei ddileu drwy'r Bil hwn, a wyddoch chi, rwy'n credu bod hwnnw'n nod gwerth chweil iawn. Fodd bynnag, mae llawer o bobl sydd prin yn ymdopi a fydd yn mynd allan ac yn prynu brandiau rhad. Maen nhw'n yfed yn gyfrifol. Wyddoch chi, mae'n un o'r pleserau sydd ganddyn nhw mewn bywyd. Ond, bydd brand rhad hefyd yn dioddef oherwydd y Bil isafbris uned ar gyfer alcohol. Gallech chi ystyried efallai person hŷn sy'n mynd allan ac yn prynu pecyn pedwar o seidr—nid y rhai nad wyf yn cael sôn amdanyn nhw nad ydynt erioed wedi gweld afal, ond y rhai sydd ychydig yn uwch na hynny, ond maen nhw'n frandiau rhad. Byddai eu bil yfed nhw yn cynyddu rhyw £150 y flwyddyn. Mae'r bobl hyn yn rai heb lawer iawn o arian, mae'n bleser bach iawn, dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw beth o'i le, a dydyn nhw ddim yn bod yn anghyfrifol. Rwy'n credu, fel y dywedodd Caroline o bosibl yn ei chyfraniad hi, bod yn rhaid inni sicrhau bod y Bil hwn yn gyfiawn ac yn deg. Nid yw'n golygu bod y rhai hynny sydd ag arian ond sy'n yfed yn anghyfrifol yn gallu parhau i wneud hynny, a'r rhai hynny sydd ddim yn yfed yn anghyfrifol ond y mae diod fach yn rhan angenrheidiol o'u bywydau—eu bod, yn y diwedd, yn cael eu cosbi'n annheg. Rwy'n credu y byddai hynny'n mynd yn groes i'r holl amcanion tegwch y byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru am eu lledaenu.
Felly, rwy'n gofyn am eich maddeuant am fy anallu i gyflawni hyn mewn ffordd fwy cyflym ac amserol. Byddwn ni'n ei gefnogi ar hyn o bryd, ond mae llawer mwy o gwestiynau i'w gofyn. Llywodraeth Cymru: mae dyletswydd arnoch chi i ddarparu rhai o'r atebion hyn os ydych chi'n dymuno i'r Ceidwadwyr Cymreig barhau i gefnogi'r Bil hwn tan iddo ddwyn ffrwyth.
'Egwyddor' ydy'r gair pwysig heddiw. Mi ddechreuaf i drwy gadarnhau fy mod i yn cytuno efo'r egwyddor sylfaenol yn y Bil yma, sef bod yna le i edrych ar gymelliadau ariannol er mwyn ceisio lleihau'r defnydd peryglus o alcohol. Mae alcohol yn costio'n ddrud iawn inni fel cymdeithas. Mae'n costio bywydau. A phan mae tystiolaeth o'ch blaen chi yn awgrymu y gallai'r Bil yma, pe bai'n Ddeddf, arbed 65 o fywydau y flwyddyn, rydych chi'n cymryd y math yna o dystiolaeth o ddifri. Mae yna sgil-effeithiau positif posibl ar gyfer tafarndai yma, efo prisiau mewn tafarndai ddim yn mynd i godi. Mae hynny yn apelio. Rydw i'n gobeithio hefyd y gallai fo annog cynhyrchwyr i greu diodydd efo cynnwys alcohol is. Mae hynny hefyd yn beth da. Mae'r nod yn anrhydeddus, felly, ac mi fyddwn ni, felly, fel Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid yr egwyddor heddiw.
Ond, fel rydym ni wedi clywed gan sawl un yn barod, mae angen cryfhau'r Bil, ond hefyd cryfhau, rydw i'n meddwl, y sail dystiolaeth sydd yna yn gefn i'r hyn sydd o'n blaenau ni. I raddau helaeth, rydym ni wedi bod yn dibynnu, yn llwyr, bron, ar waith ymchwil gan grŵp ymchwiliadol Sheffield. Nid oes gennyf reswm i amau dilysrwydd y gwaith hwnnw o gwbl, ond mae ein hanallu ni i astudio modelau eraill yn ddigonol, dysgu o brofiadau eraill o'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, yn anfantais—nid oes yna ddianc rhag hynny. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i herio'r dystiolaeth yno yn ystod taith y ddeddfwriaeth yma drwy'r Cynulliad. Mae'n rhaid perswadio'r cyhoedd o effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth a thegwch y ddeddfwriaeth hefyd. Mae eisiau edrych yn fanwl—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Rhun, am dderbyn fy ymyriad, ond roeddwn i eisiau ailadrodd unwaith eto yr hyn yr ydych newydd ei ddweud. Nid yw modelu yr un peth â thystiolaeth. Mae tystiolaeth wedi'i seilio ar beth sydd wedi digwydd. Mae modelu bob amser yn cynnwys rhagdybiaethau, a gall rhagdybiaethau bob amser gael eu gwyro un ffordd neu'r llall.
Mae'r ddau'n ddefnyddiol mewn gwirionedd, ac mae diffyg gennym yn y ddau beth—boed modelu damcaniaethol neu dystiolaeth.
Fel roeddwn i'n ei ddweud, mae angen perswadio'r cyhoedd am effeithlonrwydd a thegwch yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Mae eisiau edrych yn fanwl ar y casgliad yma y byddai cyflwyno'r Mesur ond yn costio £3 y flwyddyn i yfwr cymedrol—£3 y flwyddyn. Ni allwn ni anwybyddu senarios lle gallai'r Ddeddf daro mwy o lawer ar yfwyr cymedrol sydd ag incwm is, ac sydd, o'r herwydd, ar hyn o bryd, yn dewis diodydd rhatach, fel rydym ni wedi clywed yn cael ei grybwyll gan Aelodau eraill. Yn ychwanegol, efo canolfan Sheffield yn awgrymu mai dim ond 2.4 uned yn llai fyddai'r yfwr cymedrol yna yn ei yfed mewn blwyddyn, mae angen i'r Llywodraeth brofi bod y gost ychwanegol o werth iddyn nhw o ran eu hiechyd.
Mae'n amlwg, serch hynny, bod y ddeddfwriaeth yma wedi'i llunio yn bennaf i dargedu yfwyr peryglus, a mwy felly yfwyr niweidiol. Mae yna dystiolaeth gryf iawn, heb os, y gallai fo arwain at ostyngiad sylweddol yn y defnydd alcohol gan y grwpiau yma. Mae hynny yn beth da. Rydw i'n siŵr y gallem ni gytuno ar hynny, ond—ac mae yna 'ond' yma—eto, mae yna ofnau y gallai rhai o'r defnyddwyr alcohol hynny droi at gyffuriau eraill. Eto, mae angen i ni fod yn gwbl eglur am y dystiolaeth. Mi fyddwn ni angen sicrwydd y byddai rhagor o adnoddau yn cael eu buddsoddi mewn helpu'r defnyddwyr yna, eu helpu nhw i frwydro yn erbyn eu camddefnydd o alcohol a'r effaith y mae hynny yn ei gael ar eu teuluoedd nhw, ar eu plant nhw. Ni allwn ni edrych ar gyflwyno cymhelliad ariannol i drio cael pobl i yfed llai heb ystyried yr holl ystod o wasanaethau cefnogi sydd angen eu datblygu a'u buddsoddi ynddyn nhw hefyd.
Sy'n dod â ni at fater arall: drwy godi prisiau rhai diodydd, mi fydd cynhyrchwyr a manwerthwyr yn rhydd i wneud rhagor o elw. Rydw i'n credu bod yn rhaid i'r Llywodraeth amlinellu llwybr tuag at sefyllfa lle gellid cael gafael ar yr arian ychwanegol sydd yn newid dwylo er mwyn gallu gwneud y buddsoddiad angenrheidiol mewn gwasanaethau taclo camddefnydd a helpu'r bobl hynny sydd yn yfed gormod o alcohol. Y gwir amdani, rydw i'n meddwl, ydy mai'r ffordd mwyaf effeithiol i wneud beth rydym ni'n trio ei wneud yn fan hyn fyddai i ni yng Nghymru gael pwerau i drethu alcohol. Mi allwn ni wedyn ailddiffinio yn llwyr, os mynnwn ni, sut y mae trethu alcohol yng Nghymru yn gweithio, a helpu tafarndai, o bosibl, os ydym ni eisiau. Gallwn drethu a thargedu diodydd volume uchel sydd yn uchel eu canran o alcohol, fel y seidr di-afal rydym wedi clywed yn cael ei grybwyll, tra'n cadw'r arian yn y pwrs cyhoeddus.
Ac efo'r ddadl yna ynglŷn â'r angen inni yng Nghymru gael y pwerau i weithredu fel rydym ni wir angen ei wneud, fe wnaf i orffen, Llywydd. Deddfwriaeth yn erbyn y cloc ydy hwn, a hynny oherwydd yr hyn y rhybuddiom ni ar y meinciau yma ynglŷn ag o ar y pryd, sef bod Deddf Cymru, Deddf San Steffan, a ddaeth i rym yn erbyn ein hewyllys ni, yn tynnu y pwerau a oedd gennym ni i ddeddfu yn y maes yma oddi arnom ni yn y dyfodol agos. Os ydym am weithredu, rydym ni'n gorfod gweithredu rŵan, neu golli'r hawl. Rydym ni yn cefnogi'r egwyddor. Beth rydym ni angen bod yn sicr ohono fo ydy ein bod ni yn cymryd y camau cywir i warchod iechyd a buddiannau eraill ein dinasyddion ni yma yng Nghymru. Senedd Prydain sydd wedi ein rhoi ni mewn cornel.
Rwy'n dymuno siarad yn fyr i gefnogi egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth arfaethedig. Rwy'n credu bod llawer wedi'i gofnodi ynghylch sgil-effeithiau yfed gormod o alcohol a'r effeithiau ar iechyd pobl ac mae'r salwch a ddaw yn sgil hynny, unwaith eto wedi'i nodi a'i dderbyn yn helaeth. Ac wrth gwrs, mae'n effeithio hefyd ar y teulu ehangach, yn ogystal â'r unigolyn sy'n yfed gormod. Ceir perthynas rhwng hyn a niwed i'r economi o ran amser a gollir o'r gwaith, a cheir llawer o dystiolaeth bod gormod o alcohol yn arwain at droseddau treisgar, trais yn erbyn menywod, a llawer iawn o droseddau eraill. Felly, mae unrhyw beth sy'n lleihau'r camddefnydd o alcohol, yn werthfawr iawn yn fy marn i.
Rwy'n credu bod llawer o dystiolaeth bod pris yn perthyn yn agos i yfed, ac yn wir gor-yfed. Felly, rwy'n credu bod y sail resymegol i'r ddeddfwriaeth hon yn gryf iawn yn wir, Llywydd, i gydnabod bod problem gydag alcohol rhad, cryf. Ac os byddwn yn cynyddu pris yr alcohol rhad, cryf hwnnw, byddwn yn gwneud rhywbeth arwyddocaol a phwysig i fynd i'r afael â'r problemau a'r materion hyn. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn ymwybodol, bob un ohonom, nad hwn yw'r unig ateb i ymdrin â phroblemau goryfed alcohol yng Nghymru. Ceir amrywiaeth o ddulliau a fydd yn ein helpu ni i gyflawni'r cynnydd angenrheidiol, ond mae hyn yn rhan sylweddol a phwysig o hynny.
Yr unig beth arall yr hoffwn ei ddweud, Llywydd, yw, fel y mae eraill wedi'i grybwyll, ei bod yn amlwg mai rhan bwysig o wneud y cynnydd angenrheidiol fydd sicrhau bod y gwasanaethau cymorth priodol gennym ledled Cymru i helpu pobl i fynd i'r afael â'u problemau goryfed alcohol, o ystyried y pwyslais y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei roi ar y materion hynny. Rwy'n gyfarwydd iawn â gwaith Kaleidoscope, er enghraifft, a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol Gwent. Rwy'n credu bod y rhain yn bwysig ac yn fuddiol iawn yn fy ardal i, ac rwy'n yn gwybod bod gwasanaethau tebyg ledled Cymru, ynghyd ag amrywiaeth o ddulliau eraill mwy cyffredinol yn ein sector iechyd. Bydd yn bwysig iawn i ni sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn ddigonol i ymdrin â'r galw cynyddol posibl ar y gwasanaethau pe rhoddir y ddeddfwriaeth hon ar waith, fel yr wyf yn gobeithio y bydd yn digwydd. Unwaith eto, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o'r materion hynny hefyd.
Bydd UKIP yn gwrthwynebu'r penderfyniad hwn heddiw. Mae'n ddrwg gen i weld na fydd yr un o'r pleidiau eraill yn y Cynulliad yn gwneud hynny hefyd. Yn ei gyflwyniad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai Mesur wedi'i dargedu yw hwn. Mae hyn yn wir mewn un ystyr oherwydd ei fod yn targedu'r llawer heb fod yn fuddiol mewn gwirionedd i'r ychydig sy'n yfed yn anghyfrifol. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn hoffi diod ac yn yfed mewn ffordd gyfrifol, ceir lleiafrif bach iawn sy'n achosi problemau i'w hunain ac i weddill y gymdeithas. Y cwestiwn allweddol yw—. Nid oes neb yn amau effeithiau niweidiol yfed gormodol, fel y mae John Griffiths newydd gyfeirio atynt, ond y cwestiwn yw a yw Mesur o'r fath yn debygol o fod yn effeithiol o ran targedu'r bobl hynny. Mae'r dystiolaeth, fel ag y mae, yn profi i'r gwrthwyneb, mewn gwirionedd, a daw hyn i'r amlwg yn adroddiad y pwyllgor iechyd ac, yn wir, yn y dystiolaeth a gawsom yn y Pwyllgor Cyllid hefyd.
Mae arnaf ofn bod Angela Burns yn mynd ar drywydd y greal sanctaidd os yw hi'n credu y bydd unrhyw astudiaeth fathemategol neu astudiaethau econometrig yn debygol o daflu llawer o oleuni ar y mater hwn. Mae cymariaethau rhyngwladol bron yn amhosibl i gymharu â'r sefyllfa mewn unrhyw wlad arall, oherwydd bod rhagdybiaethau diwylliannol gwahanol wledydd yn amrywio'n sylweddol, ac mae'r byd sefydliadol y mae pobl yn yfed ynddo yn wahanol iawn, iawn o un wlad i'r llall. Mae astudiaeth Sheffield y cyfeiriwyd ato yn gynharach mewn gwirionedd yn gwneud rhagdybiaeth sy'n peri syndod, mai'r yfwyr trymaf fydd yn ymateb mwyaf i gynnydd yn y pris. Mae hynny'n groes i bob greddf mewn gwirionedd. Y bobl sydd lleiaf tebygol o gael eu heffeithio gan gynnydd mewn pris yw'r rhai sydd fwyaf dibynnol ar alcohol, felly byddan nhw'n parhau i yfed—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Felly, pan godwyd pris sigaréts, a wnaeth hynny gynyddu neu leihau y defnydd o dybaco mewn gwirionedd?
Wel, nid dyna'r cwestiwn. Mae'r cwestiwn ynghylch y rhai sy'n wirioneddol gaeth: adictiaid. Nid ydym yn gwybod, wrth gwrs, beth fydd yr isafbris. Wrth gwrs, pe byddech yn ychwanegu £5 at isafbris alcohol yn hytrach na 50c, fe fyddai'n cael effaith sylweddol, ond hyd nes y gwyddom beth fydd isafbris uned, ni allwn ond siarad mewn termau cyffredinol. Ond yr hyn y gallwn ei ddweud, rwy'n credu, yn weddol ffyddiog yw mai'r bobl sydd leiaf tebygol o newid eu hymddygiad o ganlyniad i gynnydd cymedrol yn y pris yw'r rhai sydd fwyaf dibynnol ar alcohol. Mewn gwirionedd, byddan nhw'n gwario llai ar bethau eraill er mwyn bwydo eu dibyniaeth. Rwy'n credu mai dyna yw natur y ddibyniaeth.
Gwnaethpwyd astudiaeth o British Columbia, a wnaeth gyflwyno isafbris, ac fe nodwyd hyn fel cyfiawnhad dros y Bil hwn, ond, mewn gwirionedd, mae hynny hefyd yn dioddef o bob math o ddiffygion methodolegol. Yn un peth, mae gwerthiant diod feddwol yn British Columbia yn fonopoli llwyr i'r wladwriaeth ac mae hynny'n wahanol iawn i'r sefyllfa yn y wlad hon. Priodolwyd y gostyngiad mewn troseddu yn British Columbia i'r isafbris ar gyfer alcohol a gyflwynwyd heb, wrth gwrs, nodi y gwelwyd gostyngiadau tebyg mewn troseddu ym mhobman arall yng Nghanada lle nad oedd isafbris ar gyfer alcohol.
Yn wir, ceir tueddiadau fel hyn ar draws y byd hefyd. Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol, mewn gwirionedd, yn lefelau yfed alcohol yn gyffredinol yn y wlad hon yn y blynyddoedd diwethaf—gostyngiad o 12 y cant rhwng 2004 a 2011. Felly, mae gwahanu'r holl effeithiau gwahanol hyn o un achos unigol bron yn amhosibl ei gyflawni. Felly, rwy'n credu y dylem ddadlau am hyn mewn termau cyffredinol, yn hytrach na cheisio cyflwyno rhyw fath o fanyldeb fathemategol ffug sy'n debygol o gynnal neu danseilio'r rhagfarnau y deuwn gyda ni i'r ddadl.
Gwyddom fod lefelau yfed alcohol mewn rhai gwledydd yn llawer uwch nag yn y wlad hon, ac eto mae ganddyn nhw lai o broblemau goryfed. Un ohonynt yw Ffrainc y cyfeiriwyd ati yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd ym mharagraff 73. Ym mharagraff 75 yn yr adroddiad hwn hefyd, dywedir bod y defnydd o alcohol yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ond na fu gostyngiad cyfochrog yn y niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Felly, nid yw'r ddau beth hyn o reidrwydd yn gysylltiedig â'i gilydd. Os yw hwn yn mynd i fod yn fesur wedi'i dargedu, mae'n rhaid iddo dargedu'r bobl sy'n creu'r broblem, nid y mwyafrif llethol o bobl sy'n yfed alcohol nad ydynt yn broblem o gwbl i neb, hyd yn oed i'w hunain.
Bydd cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yn effeithio'n wael ar y rhai tlawd a'r rhai sydd ar yr incwm isaf, fel y nodwyd gan lawer o bobl yn ystod y ddadl hon. Ni fydd y mesur hwn yn effeithio ar yfwyr siampên, ond bydd yn effeithio ar y rhai sy'n mynd i brynu ychydig o ganiau o lager yn Aldi neu Lidl neu ble bynnag, ac rwy'n credu ei fod yn fesur annheg na all fod yn unrhyw beth ond mesur atchweliadol.
Hoffwn dynnu sylw hefyd at baragraff 178 o adroddiad y pwyllgor iechyd am yr effaith debygol ar y digartref a'r rhai sydd â phroblem yfed sy'n byw ar y stryd, a'r hyn sy'n debygol o ddigwydd i'r rheini. Mae hynny'n dangos, mewn gwirionedd, y gall mesurau o'r fath greu problemau gwaeth iddynt. Does gen i ddim amser i fanylu ar hyn nawr, ond bydd gennym ddigon o amser yn ystod taith proses y Bil hwn i archwilio'r pethau hyn yn fanwl. Yn sicr, credaf mai'r pwynt sydd wedi codi yn araith bron pawb heddiw yw bod angen inni gael sail dystiolaeth i unrhyw benderfyniad a wneir yn y pen draw.
Hoffwn siarad o blaid y Bil hwn. Mae'n Fil pwysig sydd â'r nod o fynd i'r afael â drwg cymdeithasol sydd wedi bod o gwmpas yn rhy hir o lawer. Mae hefyd yn Fil y gwnaethpwyd ymrwymiad iddo ym maniffesto Llafur Cymru 2016, maniffesto yr oeddwn i'n falch o gael fy ethol ar ei sail.
Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Credaf eu bod wedi gwneud gwaith pwysig wrth graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru a hefyd awgrymu meysydd lle gellid cryfhau'r Bil.
Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r achos dros isafbris uned yn eithaf clir, ond mae'n ffaith bod goryfed alcohol yn achosi niwed. Mae'n ffaith y bu 463 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2015. Ac mae hefyd yn ffaith bod dros 50,000 o dderbyniadau i'r ysbyty yn 2015-16 wedi eu priodoli i gamddefnydd o alcohol.
Mae camddefnyddio alcohol yn achosi troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n niweidio ein heconomi ac yn niweidio bywyd teuluol hefyd. Mae'r grŵp hollbleidiol yn San Steffan ar blant pobl sy'n gaeth i alcohol wedi gwneud rhywfaint o waith ar hyn, gwaith sydd wedi bod yn wirioneddol hanfodol o ran dangos ei effaith. Maen nhw'n awgrymu bod un ym mhob pump o blant ledled y DU yn byw gyda rhiant sy'n yfed gormod. Mae hynny dros 2.5 miliwn o blant. Mae'r grŵp hollbleidiol yn nodi bod y plant hyn ddwywaith yn fwy tebygol o brofi anawsterau yn yr ysgol na'u cyfoedion, dair gwaith yn fwy tebygol o ystyried hunanladdiad, bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau bwyta, a phedair gwaith yn fwy tebygol o ddod yn gaeth i alcohol eu hunain.
Mae'n rhaid inni gymryd camau i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir pam mai isafbris uned yw'r ffordd ymlaen. Mae hefyd wedi nodi rhai o effeithiau manteisiol isafbris o 50c. Bob blwyddyn, gallai hyn arwain at 53 yn llai o farwolaethau, 1,400 yn llai yn cael eu derbyn i'r ysbyty, a gallai, mewn gwirionedd, arbed £882 miliwn i economi Cymru.
Fodd bynnag, rwyf eisiau tynnu sylw at un neu ddau o faterion heddiw. Yn gyntaf, tra'r oeddwn yn ymchwilio ar gyfer heddiw, deuthum ar draws ystadegyn diddorol arall. Y llynedd, gwerthwyd 51 miliwn o boteli o jin yn y DU. Mae hynny bron i 10 miliwn yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol. Nawr, nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i drafodaeth am jin crefft, ond drwy ragdybio bod hyn yn gysylltiedig â phatrymau yfed mwy dosbarth canol, mae hyn yn fy helpu i egluro fy mhwynt cyntaf. Mae'n ymddangos bod mesurau'r Bil yn canolbwyntio ar y mathau rhataf a chryfaf o alcohol. Os gall pobl fforddio i dalu mwy, oni fyddant ond yn gwario mwy ar alcohol? A fydd gosod isafbris uned yn ein helpu i fynd i'r afael â phroblem yfed y rhai mwy cefnog? Neu a fydd ond yn taro'r rhai nad ydyn nhw'n gallu fforddio'r codiad mewn pris?
Yn ail, hoffwn grybwyll mater a godwyd yn ystod y gweithdy Cefnogi Pobl a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Codwyd pryderon yno y gallai gosod isafbris, yn anfwriadol, hybu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fod pobl mewn cyfyngder—y rhai sy'n gaeth—yn troi at gyflawni gweithredoedd difrifol i fwydo eu dibyniaeth. Rwy'n awyddus i gael sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y gallwn ni wneud yn siŵr na fydd hyn yn digwydd.
Yn y dyfodol, byddwn yn gobeithio y byddai gosod isafbris o unrhyw fath yn cael ei adolygu'n flynyddol. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r craffu a wnaed gan bwyllgorau ar yr egwyddorion cyffredinol wedi ei awgrymu. [Torri ar draws.]
Fel y gwnaethoch chi sôn, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—ac yn amlwg roedd y ddau ohonom yn rhan o'r sesiwn dystiolaeth honno ar Gefnogi Pobl—. A ydych chi'n cytuno â mi pan ddywedaf fod pawb yn y Siambr hon yn unfryd yn eu hawydd i fynd i'r afael â'r problemau yr ydych chi wedi eu nodi'n glir iawn yn eich araith? Y cwestiwn yw: a fydd y mesur penodol hwn yn cyflawni'r newid hwnnw mewn gwirionedd? Oherwydd credaf ar hyn o bryd o beth rwy'n synhwyro nad oes argyhoeddiad yn y Siambr hon y bydd yn gwneud hynny.
Rwy'n credu mewn gwirionedd bod yn rhaid i'r Bil gael ei weld fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â hynny, a ni fydd gennym ni amser i drafod hynny heddiw.
Ond byddai gosod hyn o dan adolygiad blynyddol hefyd yn helpu i dawelu meddyliau'r rhai o'm hetholwyr sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r Bil. Byddai yn ein galluogi i fonitro ei effaith. Byddai hefyd yn caniatáu i ni gadw llygad arno i weld os oes unrhyw broblemau a achosir gan y ffin dyllog rhyngom ni a Lloegr, a byddai hefyd yn caniatáu inni adolygu pa un a allai'r arian a godir drwy osod isafbris, mewn amser, ddychwelyd i Lywodraeth Cymru.
Argymhellodd y pwyllgor iechyd fod y Llywodraeth yn ceisio canfod a fyddai sefydlu ardoll orfodol neu gynllun taliad gwirfoddol i fanwerthwyr yn bosibl. Byddai'r arian a godid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yn unig. Petai hyn yn bosib, byddai'n sicr yn rhywbeth y byddwn i yn ei gefnogi'n llawn.
I gloi, hoffwn ailadrodd eto fy nghefnogaeth i'r Bil. Mae dadleuon wedi'u datgan yn erbyn y Bil yn y Siambr hon, ond nid wyf yn credu eu bod mewn unrhyw ffordd yn argyhoeddi yn fwy na'r rhai a ddefnyddiwyd yn erbyn y gwaharddiad ysmygu, a bu hwnnw'n llwyddiannus o ran lleihau'r nifer o oedolion sy'n ysmygu. Gobeithio caiff y Bil hwn gystal llwyddiant gyda phroblem goryfed alcohol.
Byddaf yn cadw fy nghyfraniad yn gryno gan fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau eisoes wedi'u gwneud. Mae caethiwed i alcohol yn salwch difrifol sy'n arwain at effeithiau andwyol, nid yn unig ar yr unigolyn, ond ar y teulu ehangach a ffrindiau hefyd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn ceisio ymdrin â'r problemau mewn cymdeithas a achosir gan y salwch hwn, ond rwyf yn meddwl bod y syniad o ddeddfwriaeth ar bris alcohol braidd yn annoeth.
Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad yn dweud am y mesur, ac rwy'n dyfynnu,
'nid yw'n fwled arian' a fydd yn ymdrin â'r holl niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac, mewn gwirionedd, gallai gael canlyniadau anfwriadol. A'r canlyniadau hynny yr hoffwn i roi sylw iddynt yn awr.
Ceir perygl posibl y bydd yfwyr trwm yn troi at fathau eraill o ymddygiad a fydd yn effeithio'n andwyol ar eu hiechyd, gan gynnwys dargyfeirio arian i ffwrdd o fwyd a'u cartref er mwyn prynu alcohol, neu amnewid alcohol â sylweddau anghyfreithlon nad ydynt wedi'u rheoleiddio. Gallai hyn hefyd effeithio ar eu plant a'r teulu ehangach. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ofyn i'r Llywodraeth, fel y mae llawer o bobl eraill wedi'i wneud eisoes, edrych ar ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r ddibyniaeth hon, fel addysg a chefnogaeth, yn hytrach nag, ac yn sicr ochr yn ochr ag, isafbris alcohol.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i’r ddadl.
Diolch ichi, Llywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Bu galwadau ers tro ar Gymru i newid ei pherthynas ag alcohol, a hynny o du'r holl bleidiau gwleidyddol, ac rwy'n disgwyl y bydd y Bil hwn yn gwneud cyfraniad gwirioneddol a sylweddol at leihau yfed peryglus a niweidiol ac, yn y pen draw, at achub bywydau.
Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau o'r gwahanol bleidiau—y grŵp Ceidwadol, grŵp Plaid Cymru ac, yn wir, y pwyllgor iechyd—am nodi eu cefnogaeth ar gyfer y Bil heddiw, ac rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud wrth i ni symud i Gyfnod 2 i weld rhai o'r manylion, rhai o'r pwyntiau, ac wrth gwrs ymateb ysgrifenedig y Llywodraeth i'r argymhellion yr wyf wedi'u nodi.
Hoffwn i geisio esbonio ac ymdrin â rhai o'r materion a godwyd yn y ddadl, ac yn arbennig rhai o'r pwyntiau a wnaed yng nghyfraniad Dai Lloyd, ond hefyd gan Vikki Howells ac, rwy'n credu, yn rhannol yng nghyfraniad Angela Burns hefyd, sef y pwynt ynghylch y pwynt yn y pen draw pan fydd gennym fwy o dystiolaeth. Dyna pam ein bod yn cydnabod bod hwn yn ymagwedd arloesol at ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Mae wedi'i seilio ar y gwaith modelu a helpodd yr Alban i gymryd y cam hwn ymlaen hefyd ar gyfer eu Bil isafbris uned hwy, ac maen nhw wedi defnyddio ystod o dystiolaeth ystadegol i fodelu'r effaith bosibl yn sgil hyn, ac rwy'n credu bod hynny yn sail gwbl resymol i fwrw ymlaen, ac mae gen i ffydd yn eu tystiolaeth wedi'i modelu. Ond rydym yn cydnabod ei fod yn arloesol ac rydym yn dymuno deall ei effeithiau. Dyna pam, ym Mil y Llywodraeth, yr ydym ni wedi cynnig cymal machlud. Rydym yn cynnig bod yn rhaid i ni gael gwerthusiad ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o bum mlynedd i ddeall effaith isafbris uned os bydd y Llywodraeth wedyn yn gofyn i'r Cynulliad gytuno y dylai'r drefn isafbris uned barhau yn y dyfodol. Felly, mae rhywbeth yma ynghylch a ydym ni'n fodlon cymryd y cam hwn i gyflwyno'r drefn hon, ond, beth bynnag, hyd yn oed os ydym yn gwneud hyn—ac rwy'n gobeithio y gwnawn ni—fe fyddwn ni'n cyrraedd pwynt pan fydd gennym werthusiad o'r effaith wirioneddol yma yng Nghymru yn ein cyd-destun ni.
Rwy'n cydnabod rhai o'r sylwadau a wnaed gan y pwyllgor iechyd ac, yn wir, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch yr hyn a ddylai fod ac na ddylai fod ar wyneb y Bil. Byddaf yn ystyried eto rai o'r sylwadau a wnaed ynghylch yr hyn a ddylai fod ar wyneb y Bil ac yn arbennig am y gwerthusiad. Rwy'n credu yr hoffwn i bwyllo, serch hynny, rhag ceisio rhagnodi ar wyneb y Bil y materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn y gwerthusiad ar y pwynt hwn, yn hytrach na rhedeg drwy'r hyn a ddylai fod yn y gwerthusiad ymhen pum mlynedd neu fwy ar ôl y profiad hwnnw o'r Bil ar waith—byddwn i'n nerfus ynghylch rhagnodi amryw o faterion ar wyneb y Bil ar y pwynt hwn. Ond rwy'n credu y byddwn i'n gallu rhoi rhywfaint o hyder i Aelodau am y dull y byddai'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio o bennu beth i'w gynnwys mewn unrhyw werthusiad i wneud yn siŵr ei fod yn real ac yn ystyrlon ar gyfer Aelodau a bydd gofyn iddyn nhw wedyn—o bosibl—barhau â'r drefn isafbris uned. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni ei drafod trwy Gyfnod 2 ac, rwy'n gobeithio, y tu hwnt.
Rwy'n cydnabod rhai o'r pwyntiau technegol a wnaed gan CLAC. Rwy'n meddwl am y pwynt am swyddogion a enwir. Byddaf yn ystyried hynny ac yn arbennig y darpariaethau cyfatebol yr ydych yn cyfeirio atynt yn PACE. Rwy'n dal i anghytuno y dylai'r isafbris uned fod ar wyneb y Bil. Ac eto, ceir anghytundeb rhwng y pwyllgor cyfansoddiad, ac yn wir y pwyllgor iechyd, hefyd, ar y pwynt hwnnw, a cheisiais i ymdrin â hynny yn fy sylwadau agoriadol. Ond, â phob parch, nid wyf yn derbyn y bydd cael y pris ar wyneb y Bil yn helpu i benderfynu ar ei lwyddiant. Mae'n ymwneud â mwy na hynny.
O ran UKIP, rydym yn syml yn anghytuno, ac nid wyf yn credu bod llawer o bwynt treulio llawer o amser yn egluro hynny eto heddiw. Rydym yn deall ein bod yn anghytuno. Ar y pwynt ynghylch deddfwriaeth gyfrifol, Angela, unwaith eto, rwy'n cydnabod eich pwynt, yn arbennig y pwyntiau a wnaed gennych chi ac eraill ynghylch amnewid. Dyna pam yr wyf wedi gofyn i'r panel cynghori ar gamddefnyddio sylweddau gynnal adolygiad o dystiolaeth yn y maes hwn a'i chyhoeddi hefyd, felly bydd Aelodau yn gweld hynny wrth i ni symud drwy Gyfnod 2, a dylai hynny fod o fewn yr wythnosau, nid misoedd, nesaf, er mwyn i Aelodau ei weld.
Credaf fod pwynt mewn rhai o'r cyfraniadau o ran yr egwyddor o bennu isafbris uned, ond ar ba lefel y dylai hynny fod, ac wedyn deall effaith hynny ar yfwyr cymedrol hefyd. Unwaith eto, mae mwy i ni ei wneud, wrth i'r Bil fynd rhagddo, o ran sut y gall hynny ddigwydd, o ran y dystiolaeth sydd ar gael o'r broses fodelu a faint o ystyriaeth y dylai Aelodau ei rhoi i hynny pan ofynnir iddynt gymeradwyo'r darn hwn o ddeddfwriaeth mewn gwirionedd.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau gan Rhun am effaith y ddeddfwriaeth hon a allai achub bywydau ac, unwaith eto, y pwyntiau a wnaed gan John Griffiths a Vikki Howells hefyd. Rwyf wedi nodi y byddwn yn ceisio rhoi mwy o arian ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Rydym ni'n dymuno cael mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gwasanaethau rheng flaen i'w helpu gyda heriau camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill. Bydd yn rhaid i ni bob amser feddwl am lefel yr angen sy'n dod at y gwasanaethau hynny a gwneud yn siŵr eu bod wedi eu rheoli'n dda, ond hefyd wedi'u hariannu'n briodol.
 phob parch, rwyf yn anghytuno mai trethiant yw'r ateb. Mae hyn yn rhan o'r hyn a aeth drwy'r achosion llys, pan ddywedodd y diwydiant alcohol y dylid troi at drethiant. Y broblem yw y gall manwerthwyr weithio o amgylch trethi, ac maent yn gwneud hynny ar hyn o bryd; maen nhw'n osgoi'r effaith y dylai trethiant ei chael ar y pris a delir ac yn gwerthu alcohol am golled er mwyn denu prynwyr. Mae isafbris uned yn pennu llawr ac nid oes modd mynd o dan hwnnw, a dyna pam yr ydych yn sicrhau bod yn rhaid cael isafbris uned, fel arall byddem mewn sefyllfa nid anhebyg i'r hyn yr ydym ynddi ar hyn o bryd.
Ond rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd Vikki Howells ynghylch maint yr her i ni a'n perthynas ag alcohol. Bwriad y Bil hwn yw bod yn rhan o'r ateb, nid yn fwled arian. Nid yw'n cael gwared ar yr angen am well addysg a dealltwriaeth o'r dewisiadau a wnawn fel dinasyddion, ond mae yn rhan o'n hamrywiaeth eang o ddulliau i geisio sicrhau buddion gwirioneddol ar gyfer pob cymuned ledled Cymru a pherthynas wahanol ag alcohol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r Bil hwn yma heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.