– Senedd Cymru am 4:12 pm ar 20 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf yw’r Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i wneud y cynnig. Eluned Morgan.
Diolch. Mae’n bleser mawr cael agor y drafodaeth hon ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Mae’r rheoliadau yn caniatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau iechyd, cynghorau iechyd cymunedol a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru. Maent yn gyrff sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd, ac ymhlith prif gyflogwyr Cymru. Bydd y safonau hyn yn adeiladu ar 'Mwy na geiriau', fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Mae’r fframwaith yn cyflwyno’r egwyddor o gynnig rhagweithiol, fod rhywun yn cael cynnig gwasanaeth Cymraeg heb orfod gofyn amdano. Mae 'Mwy na geiriau' yn cydnabod bod gofal ac iaith yn mynd law yn llaw â phwysigrwydd sicrhau urddas a pharch i siaradwyr Cymraeg. Mae’n fwy na chydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chynnal safonau proffesiynol yn unig. Mae’n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus da sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae’r rheoliadau yn adeiladu ar y seiliau cryf mae’r cynlluniau iaith a 'Mwy na geiriau' wedi eu creu o fewn y sector. Y peth pwysicaf am y polisi o greu safonau a’i ymestyn i gyrff newydd yw ei fod yn sicrhau bod mwy o gyrff yn cynnig gwasanaethau Cymraeg i’w defnyddwyr ac i’w staff. Ond mae llawer o waith adeiladu capasiti i’w wneud, ac mae’r safonau hyn yn adlewyrchu hynny.
Mae pawb yn defnyddio gwasanaethau iechyd ar ryw adeg neu’i gilydd, felly rwy’n falch o fedru cyflwyno y rheoliadau yma, sydd â photensial i wella profiad siaradwyr Cymraeg wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hynny.
Wrth baratoi’r rheoliadau, rydym wedi bod yn ymwybodol bod rhai o’r cyrff yn rhedeg gwasanaethau 24 awr bob diwrnod o’r flwyddyn, ac rwyf hefyd wedi ystyried yr ystod eang o wasanaethau maen nhw’n eu cynnig mewn amrywiaeth o leoliadau, o’r arferol i lawdriniaeth y galon, o ofal brys i ofal diwedd oes. Mae sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r holl wasanaethau yma yn heriol, ac mae yna ddealltwriaeth na fydd yn digwydd dros nos. Ond er mwyn llwyddo, bydd angen i'r cyrff newid eu dulliau o weithio, a byddwn yn sicrhau bod y gefnogaeth ar gael i wella gwasanaethau Cymraeg.
Wrth baratoi'r rheoliadau yma, rydw i wedi gwrando ac ystyried ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad, ac rydw i'n derbyn bod yr amserlen wedi bod yn dynn i graffu arnynt, ond mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, ein bod ni'n symud ymlaen. Mae sawl ymgynghoriad wedi bod, ac mae'n bryd, rydw i'n meddwl, nawr, i gychwyn ar y daith. Yn sgil y dystiolaeth a dderbyniwyd, rydw i wedi diwygio rhai o'r safonau drafft, ac rydw i'n credu bod y safonau yma yn cynorthwyo'r cyrff i gynllunio a chynyddu eu gallu i gynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg. Y nod yn y pen draw yw bod pawb yn medru derbyn gwasanaethau yn yr iaith o'u dewis.
Rhan o'r jig-so yw'r rheoliadau hyn. Er mwyn gwireddu'r nod o fwy o wasanaethau cyfrwng Cymraeg, mae'n gwneud synnwyr i gefnogi'r rheoliadau hyn fydd yn gosod seilwaith i weithredu gydag ymyraethau eraill er mwyn adeiladu'r capasiti yn y sector i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Er enghraifft, trwy'r prosiect Cymraeg Byd Busnes, mae swyddogion yn gweithio gyda busnesau i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg, ac mi fyddwn yn rhedeg project peilot gyda rhai clystyrau meddygon teulu yn ardaloedd byrddau iechyd Hywel Dda ac Aneurin Bevan i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg. Hefyd, fe fydd yna toolkit yn cael ei ddatblygu ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol annibynnol, gan gynnwys cyngor ar sut i weithredu yn ddwyieithog.
Mae cynllun peilot newydd wedi'i lansio gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth â phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i gynyddu nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy'n astudio meddygaeth. Mae dros 50 o ddisgyblion blwyddyn 12 wedi ymuno â'r peilot yma, ac mi welais i enghraifft wych yn Ysgol Feddygol Caerdydd o ddarlith yn cael ei chyflwyno yn y Gymraeg i ddarlithfa llawn myfyrwyr, a'r rhan fwyaf o'r rheini yn gwrando drwy glustffonau. Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn datblygu cyrsiau sy'n benodol ar gyfer y sector iechyd. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron yn rhan allweddol o'r jig-so hwn a fydd yn arwain at well gwasanaethau yn y sector iechyd dros amser.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae'r rheoliadau hyn yn amlwg yn rhan bwysig iawn o'r system safonau iaith Gymraeg a gyflwynwyd gan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011. Cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei bod yn bwysig craffu ar y rheoliadau yma mor ofalus â phosib, gyda chyfle i randdeiliaid gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ac i'r pwyllgor glywed tystiolaeth lafar.
Yn yr amser cyfyngedig iawn oedd ar gael, roedd y pwyllgor yn gallu gwahodd a derbyn ystod o dystiolaeth ysgrifenedig, a hefyd cwestiynu peth o'r dystiolaeth honno mewn cyfarfod cyhoeddus o'r pwyllgor. Hoffwn gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad a darparu tystiolaeth lafar, a hynny ar fyr rybudd. Cafodd y pwyllgor sesiwn friffio technegol preifat gan swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth, a hoffwn hefyd gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i'r swyddogion hynny. Mae'r holl dystiolaeth a gawsom wedi'i hatodi i'n hadroddiad neu wedi'i chyhoeddi yn nhrawsgrifiad ein cyfarfod ar 14 Mawrth.
Casgliadau'r pwyllgor, ac amser ar gael i graffu: wel, dim ond 21 diwrnod gafodd eu caniatáu y tro hwn o'r rheoliadau yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad tan y ddadl hon. Er bod hyn wedi caniatáu i ni gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig sylfaenol iawn, a threfnu rhywfaint o dystiolaeth lafar, prin yw hynny'n ddigonol er mwyn craffu ar reoliadau mor arwyddocaol â'r rhain. Er enghraifft, dim ond pum diwrnod gwaith oedd ar gael i dderbyn ymatebion ysgrifenedig, a dim ond 10 diwrnod gwaith rhwng gosod y rheoliadau a'r dyddiad olaf i'r pwyllgor eu hystyried nhw. Oherwydd gofynion y Rheolau Sefydlog a briffio'r pwyllgor, roedd yr amser a oedd wirioneddol ar gael rhywfaint yn llai na hyn.
Nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm penodol pam na ellid fod wedi cynnal y ddadl hon yn nes ymlaen er mwyn caniatáu amser ar gyfer craffu mwy cynhwysfawr. Er y gallai hyn fod wedi achosi ychydig o oedi o ran y gwaith paratoi ar weithredu'r rheoliadau, byddai wedi caniatáu i'n pwyllgor ni ystyried y mater yma'n fanylach. Felly, byddai'r pwyllgor yn falch pe byddai'r Llywodraeth yn caniatáu mwy o amser i graffu ar reoliadau safonau'r Gymraeg yn y dyfodol.
Gellid cyflawni hyn yn haws trwy ei wneud yn glir yn y memorandwm esboniadol na fydd yn ceisio cymeradwyaeth o ran rheoliadau tan fod cyfnod hwy na'r isafswm o 20 diwrnod wedi mynd heibio. Byddai 40 diwrnod yn caniatáu craffu rhesymol gan y pwyllgor—gan gynnwys pwyllgorau eraill sydd â diddordeb—ac ni fyddai hynny'n achosi oedi gormodol o ran eu gweithredu.
Cytunodd y pwyllgor ei fod wedi cymryd yn rhy hir i ddod â'r rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad—rhyw dair blynedd o'r dechrau i'r diwedd. Cytunom fod angen dybryd bellach i roi safonau Cymraeg cadarn ar waith ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Ac ni chlywsom unrhyw dystiolaeth oedd yn nodi nad oes angen safonau er mwyn symud darpariaeth y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd yn ei blaen.
Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor bryderon sylweddol am agweddau o'r rheoliadau. Mewn sawl ffordd, y gwasanaeth iechyd yw'r gwasanaeth cyhoeddus pwysicaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio. Efallai mai'r pryder mwyaf a glywsom oedd diffyg unrhyw hawl i dderbyn gwasanaethau gofal iechyd clinigol wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Wrth gwrs, am resymau ymarferol, ni all hawl i dderbyn y gwasanaethau hyn fod yn absoliwt. Ond mae pwysigrwydd iaith mewn diagnosis a gofal yn glir iawn. Hefyd, dylai'r hawl i dderbyn gwasanaeth yn eich dewis iaith fod yn egwyddor sefydledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, hyd yn oed os ceir achlysuron pan fydd amgylchiadau ymarferol yn cwtogi ar yr hyn y gellir ei ddarparu. Nid yw'r syniad na ddylai'r egwyddor sylfaenol hon hefyd fod yn gymwys i'r gwasanaeth iechyd, yn ein barn ni, yn dderbyniol. Felly, rydym am i'r Llywodraeth ystyried cyflwyno rheoliadau ychwanegol cyn gynted ag y bo'n ymarferol posib i sefydlu hawliau cliriach i dderbyn gwasanaethau gofal iechyd wyneb yn wyneb yn y Gymraeg.
Gwasanaethau gofal sylfaenol yw'r rhai sy'n cael eu defnyddio amlaf gan y cyhoedd, a'r prif faes pryder arall am y rheoliadau yw nad yw'r mwyafrif ohonynt yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol. Unwaith eto, mae'r pwyllgor yn cydnabod y problemau ymarferol, ond mae absenoldeb unrhyw safonau o gwbl ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol annibynnol yn wendid clir yn ein tyb ni. Nid ydym yn argyhoeddedig ei fod yn afresymol gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd lleol i sicrhau bod darparwyr gofal sylfaenol annibynnol yn cydymffurfio â safonau. [Torri ar draws.] Rwy'n credu taw datganiad yw hwn.
Ydych chi eisiau ymyriad?
Gaf i?
Cewch, cewch wneud hynny.
Roeddwn i'n meddwl mai datganiad oedd hwn. Mae'n ddrwg gennyf.
Na, mae'n ddadl.
Mae'n ddadl nawr.
Mae'n ddadl nawr, ie. Y pwynt roeddwn i jest eisiau ei godi, ac rwy'n gwybod nad yw'r pwyllgor wedi cael lot o amser i edrych ar hyn, ond mae yna ddarpariaeth benodol yn y Mesur ar gyfer yr hyn y mae Cadeirydd y pwyllgor newydd ei amlinellu. Mae modd i'r Llywodraeth benodi, drwy reoliadau, drwy ddeddfwriaeth, unrhyw un i ddod o dan y Mesur sydd yn derbyn mwy na £400,000 y flwyddyn o arian cyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf, nid pob un, ond y rhan fwyaf o ymarferwyr gofal sylfaenol yn derbyn y swm yna, ac felly yn gallu cael eu cynnwys o dan y Mesur yma. A oedd unrhyw ystyriaeth yn y pwyllgor, neu gan y Gweinidog, o pam nad oedden nhw wedi iwso'r ffordd yma?
Gwnaethom ni ofyn i bobl a oedd wedi dod gerbron ynglŷn â'r syniad hwnnw, ond nid ydym wedi cael digon o amser i sgrwtineiddio'n effeithlon. Ond rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth rydym wedi'i godi fel rhywbeth y gellid ei ystyried.
Mae gen i dipyn bach o amser ar ôl. Mater i'r Llywodraeth yw cyflwyno safonau y gellir eu cymhwyso'n synhwyrol i ofal sylfaenol ac i rymuso a chefnogi byrddau iechyd lleol i helpu darparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol i gydymffurfio â safonau a datblygu gwasanaethau.
Mewn gwirionedd, mae'r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn bwriadu gosod nifer bach o ddyletswyddau Cymraeg gan ddefnyddio'r contract gofal sylfaenol. Ond fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae yna fodd gwneud hyn yn ehangach, ac nid yw'n glir inni pam na ellir nodi'r dyletswyddau penodol a osodir mewn contractau mewn safonau ar gyfer byrddau iechyd lleol a fyddai'n creu llwybr ar gyfer cwynion i Gomisiynydd y Gymraeg a mwy o dryloywder.
O dan y system sydd yn cael ei phenodi gan y Gweinidog, yn ôl beth rwy'n deall, ni fydd y comisiynydd yn ymatebol i unrhyw gwynion neu unrhyw faterion yn ei chylch. Felly, daeth y pwyllgor i'r casgliad y dylai'r Llywodraeth gyflwyno rheoliadau diwygiedig, gyda safonau cliriach ar gyfer datblygu gwasanaethau Cymraeg yn y sector gofal sylfaenol.
Yn olaf, a sori am redeg dros amser, thema sy'n rhedeg drwy'r dystiolaeth a glywsom oedd yr angen i wella recriwtio a sgiliau perthnasol staff sy'n siarad Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd. Rydym ni yn cytuno bod hwn yn fater o bryder. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr bod y polisïau ehangach hyn yn cael eu sicrhau yn gyflym a gydag uchelgais i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion ymarferol y mae tystion wedi tynnu sylw atynt. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n rhaid imi gyfaddef, mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd. Mae'n rhaid imi ddweud hynny. Ar yr un llaw, mae gyda ni system o hawliau yr ydym yn ceisio eu hymestyn, ac, ar y llaw arall, mae gyda ni sector sydd ddim yn barod ar gyfer hawliau ystyrlon, sef cyfathrebu wyneb yn wyneb a darpariaeth yn y sector gofal sylfaenol. Mae'r safonau fel ag y maen nhw yn cynnwys gwahaniaethu anffodus rhwng cleifion sy'n mynychu meddygfa a gynhelir gan yr awdurdodau iechyd a'r rhai sy'n mynd i feddygfa annibynnol. Maen nhw'n cynnwys gwahaniaethu anffodus rhwng cleifion mewnol a chleifion allanol.
Serch y ffaith bod ymgynghoriad eang ar fersiwn drafft y rheoliadau wedi digwydd, ni chafodd y fersiwn terfynol gyfnod hir o ymgynghori, ac mae’n cynnwys nifer fach o newidiadau o bwys. Nid oedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad byr o’r un farn chwaith. Yn gyffredinol, mae’r safonau fel ag y maent yn glir ac yn gallu cael eu cymhwyso’n rhesymol ac yn gyfatebol mewn ardaloedd gwahanol o Gymru, ond rydym yn methu ag anwybyddu’r anghysondebau cynhenid am byth.
Serch hynny, mae’n rhaid ystyried y rhesymau pam mae’r gwendidau hyn yn ymddangos. Yn flaenorol, rwyf i wedi dweud yn fan hyn, yn y Cynulliad, bod safonau heriol yn gallu gwthio cynghorau ystyfnig i gymryd camau, er enghraifft. Ac, ar gyfer rhannau mawr o’r gwasanaeth iechyd, dywedwn yr un peth. Roeddem yn gwybod bod safonau ar y ffordd ers 2010, a dylent fod wedi bod yn paratoi ar eu cyfer. Yn sicr, gall y rhan fwyaf o’r safonau fel ag y maent wedi cael eu rhagweld. Dyna pam hoffwn i fwrw ymlaen gyda nhw nawr.
Gallwn ni ystyried pam nad yw rhai o’r safonau wedi cael eu cynnwys, pan, o safbwynt hawliau, efallai y dylent fod. Beth rydw i’n gweld yw: pam ydy'n anodd recriwtio ymarferwyr meddygol o safon berthnasol? Pam ydy hwn yn fwy anodd nag yw recriwtio staff i’r cyngor? Achos dyna beth sydd wedi bod yn digwydd, yn anffodus. Gyda chyn lleied o ymarferwyr meddygol allweddol perthnasol sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru, mae’r hawl i ymgynghoriad trwy gyfrwng y Gymraeg, ar hyn o bryd, yn rhywbeth ni ellir ei orfodi, ac felly ni ddylied ei eirio fel hawl. Yn wahanol i awdurdod lleol, mae'r garfan o feddygon a meddygon dan hyfforddiant yn dod o bob cornel y byd ac nid wyf yn gweld hwn fel cwestiwn o'r gwasanaeth iechyd yn anwybyddu sgiliau'r gweithlu meddygol; mae’n gwestiwn o sicrhau gweithlu o gwbl, pa bynnag iaith maen nhw’n ei siarad.
Ond ni fyddwn yn derbyn y rheswm hwn am byth. Weinidog, byddwn yn pleidleisio dros y rheoliadau heddiw achos mae angen rhywbeth ar ôl cymaint o amser, ac mae dros 100 o safonau y gellir eu cymhwyso ar unwaith. Ond byddwn yn eich cadw at safon 110, a byddwn yn disgwyl i hyn fod yn gam tuag at unrhyw set newydd o safonau maes o law—y rhan nesaf o’r jig-so, fel y dywedoch chi. Rydym ni’n cydnabod, er bod recriwtio’n parhau i fod yn broblem, ei bod yn bosib y bydd sicrhau hawliau i ymgynghoriadau wyneb yn wyneb dros bob disgyblaeth yn dal i fod yn anodd, ond byddwn yn disgwyl iddynt gael eu cyflwyno mewn meysydd allweddol megis dementia, iechyd meddwl, plant ac awtistiaeth o leiaf, fel canlyniad i safon 110, a chyn, os yw'n bosib, i'r pum mlynedd, sef yr hyd y tu mewn i’r safon yna, ddod i ben.
Felly, dyna pam roeddwn i’n fodlon arwyddo adroddiad y pwyllgor, achos rwyf i o’r farn ei bod yn bosib gwneud rhywbeth cyn y pum mlynedd, os yw'n bosib, sef pan fo’n ymarferol. Nid oes angen i ni aros am bum mlynedd os oes yna siawns i wneud rhywbeth cyn hynny. Diolch.
Mae'n siomedig bod y Llywodraeth yn benderfynol o fwrw ymlaen i gynnal pleidlais heddiw ar y safonau pwysig sydd i'w pennu mewn perthynas â'r Gymraeg yn y maes iechyd, sef Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018. Mae Plaid Cymru yn credu y dylid gohirio'r penderfyniad er mwyn rhoi cyfle i'r Llywodraeth ychwanegu at y safonau sydd gerbron heddiw. Mae pwyllgor trawsbleidiol y Gymraeg, diwylliant a chyfathrebu wedi dweud y dylai'r Llywodraeth ystyried rhoi mwy o amser i'r pwyllgor gael mwy o gyfle i graffu ar y safonau.
Mae'r pwyllgor hefyd yn dod i'r casgliad y dylid cyflwyno safonau ychwanegol. Fel y mae pethau'n sefyll, mae'r safonau yn gwbl annigonol a diffygiol. Gan y bydd yna bleidlais heddiw, nid oes gennym ni yn rhengoedd Plaid Cymru ddim dewis ond pleidleisio yn erbyn y safonau gwan yma. Nid yw'r safonau sydd gerbron yn gosod unrhyw safon sy'n cydnabod yr angen am wasanaethau wyneb yn wyneb drwy'r Gymraeg yn ein hysbytai. Nid ydyn nhw chwaith yn gosod safonau ar gyfer y mwyafrif helaeth o ddarparwyr gofal sylfaenol, sef y prif gysylltiad rhwng trigolion a'r byd iechyd.
Mae cael cysylltiad wyneb yn wyneb yn eich mamiaith i drafod agweddau o'ch gofal iechyd yn gwbl angenrheidiol i ansawdd y gwasanaeth hwnnw, yn arbennig felly os ydych chi'n blentyn bach sydd heb gaffael yr iaith Saesneg eto, neu os ydych chi'n dioddef o broblemau cof megis dementia sy'n golygu mai yn eich mamiaith yn unig y byddwch chi'n cyfathrebu, neu os ydych chi'n dioddef salwch meddwl ac am drin emosiynau dyrys mewn ffordd ystyrlon. Mae ansawdd y gofal, ac, mewn rhai achosion, diogelwch y claf, yn cael eu cyfaddawdu os oes yna broblemau cyfathrebu. Mae'r angen hwnnw yn cael ei gydnabod yn gwbl glir yn strategaeth arloesol Llywodraeth Cymru 'Mwy na geiriau', ond, yn anffodus, nid ydy ysbryd y strategaeth honno yn cael ei adlewyrchu yn y safonau gwan sydd gerbron heddiw.
A gawn ni oedi am funud i ystyried beth yn union yw safonau? Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau, sef dull o bennu safonau ymddygiad mewn perthynas â'r Gymraeg. Yn achos y sector iechyd, mae yna 114 safon yn cael eu pennu, yn ymwneud yn bennaf â gohebiaeth, galwadau ffôn, cyfarfodydd staff, arwyddion, cyfweliadau swyddi, llunio polisi ac yn y blaen. Ond nid oes disgwyl i gorff iechyd neidio yn syth i gyflawni hynny dros nos. Mae proses lle bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio ar y corff dan sylw, ond, ac mae hwn yn 'ond' pwysig, nid oes rheidrwydd ar y comisiynydd i'w gwneud hi'n ofynnol i bob corff gydymffurfio â phob safon. Yn hytrach, rhestr yw safonau—bwydlen, os liciwch chi—ac os yw hi'n amlwg yn gwbl anymarferol i gorff weithredu yn unol ag unrhyw un o'r safonau yna nid oes rhaid i'r safon benodol yna fod yn yr hysbysiad cydymffurfiol. Nid oes yn rhaid chwaith i'r safonau fod yn weithredol yn syth. Mae hyblygrwydd mawr yn y system yn galluogi'r comisiynydd i osod diwrnod gosod i'r dyfodol.
Beth sy'n cael ei anghofio fel rhan o'r drafodaeth yma i gyd yw llais y claf. Prin iawn yw'r sôn am hawliau cleifion mewn ysbyty. Mae yna un safon o blith y rhain yn sôn am yr angen i gofnodi dymuniad i siarad Cymraeg, ond, ar ôl gwneud hynny, nid yw'n sôn am beth i'w wneud efo'r wybodaeth. Wedyn mae yna safon arall yn sôn am gyhoeddi cynlluniau pum mlynedd am y camau sy'n bwriadu cael eu cymryd i gynyddu'r gallu i gynnal ymgynghoriad clinigol yn y Gymraeg, ond, eto, nid oes yna safon benodol sydd yn gosod yr hawl i wasanaeth Cymraeg, ac felly mae hyd yn oed y safon bum mlynedd yn mynd yn ddiystyr oherwydd nad ydy'r safon yna yn cael ei diffinio yn glir fel rhan o'r rheoliadau yma. Nid oes yna gyfeiriad o gwbl at osod safonau yn y sector gofal sylfaenol annibynnol, sydd yn wendid amlwg.
Fy nadl i ydy y dylai'r safonau osod hawliau am wasanaeth wyneb yn wyneb yn y Gymraeg—hawliau clir. Wrth gwrs, mae yna heriau mawr, rydym ni i gyd yn gwybod hynny, ond mae yna newid ar droed wrth i fwy a mwy o nyrsys a doctoriaid dderbyn eu hyfforddiant drwy'r Gymraeg. Mae angen ymateb yn greadigol i'r heriau sydd yn wynebu'r gwasanaeth iechyd. Mae modd ychwanegu at y safonau yma heb achosi problemau mawr, a byddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, yn troi pob carreg i ganfod yr atebion creadigol, a byddai Plaid Cymru, mewn Llywodraeth, efo'r ewyllys wleidyddol gadarn i fynnu bod anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyfarch yn llawn.
Mae'n hawdd gweld y rheoliadau hyn—yn anghywir—fel rhan o bolisi ar ddiwylliant; trafod mesur iechyd yr ydym ni heddiw mewn gwirionedd, a byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau ar y sail bod hanner torth yn well na dim bara. Clywais apêl huawdl Siân Gwenllian heddiw i fynd ymhellach, a chydymdeimlaf yn fawr iawn â hynny. Ni fydd clywed hyn yn ei phlesio hi, ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno rhywfaint o dystiolaeth ysgrifenedig yr wyf yn cytuno â hi i raddau helaeth. Maen nhw'n dweud eu bod yn argymell y dylid ychwanegu safbwynt penodol yn cadarnhau hawliau cleifion mewnol a chleifion allanol i gael ymgynghoriad clinigol, triniaeth a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae Siân Gwenllian wedi egluro pam mae hyn yn angenrheidiol i blant ifanc iawn, efallai i'r rhai sy'n hen iawn, ac efallai i'r rhai nad ydynt mor hen, sydd yn anffodus yn dioddef o ddementia neu gyflyrau sy'n gysylltiedig â hynny. Mae cael ymgynghoriad drwy'r iaith y gallwch fynegi eich hun orau ynddi, yn golygu mai'r iaith honno yw'r orau ar gyfer cael y diagnosis gorau ac felly cael y driniaeth orau. Mae hynny'n fater hanfodol bwysig, ac mae angen ei gydnabod yn briodol.
Rwyf yn deall yn iawn y rhesymau pam nad yw'r Gweinidog wedi teimlo y gall fynd mor bell, ond rwyf yn credu bod Siân Gwenllian wedi gwneud pwynt da pan gyfeiriodd at faint o hyblygrwydd sy'n bodoli o fewn y cynllun a sefydlwyd gan Fesur 2011. Rwyf i'n credu y dylid gosod nod mewn deddfwriaeth ar gyfer yr hawl i gael triniaeth neu ddiagnosis wyneb yn wyneb drwy gyfrwng iaith o'ch dewis, ac mae'r memorandwm esboniadol ar gyfer y rheoliadau hyn yn egluro pam na fyddai hyn, o reidrwydd yn gwrthdaro â'r anawsterau ymarferol amlwg sydd gennym, sef y prinder o weithwyr proffesiynol sy'n gallu ymdrin â chleifion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r dystiolaeth a welsom gan Gymdeithas Feddygol Prydain hefyd yn bwynt diddorol i'w ychwanegu at hynny: Allwn ni ddim gadael i'r Gymraeg gael ei gweld o'r tu allan i Gymru fel rhwystr i recriwtio gweithwyr proffesiynol yng Nghymru, ac rwyf i'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig y mae'n rhaid inni ei gadw mewn cof bob amser. Ond mae'r memorandwm esboniadol ar gyfer y rheoliadau hyn, yn fy marn i, yn esbonio'n glir iawn bod y cynllun y mae'r Comisiynydd yn gorfod gweithredu yn rhoi iddi hi—'hi' ar hyn o bryd, beth bynnag, y pŵer i fod yn hyblyg, fel y dywedodd Siân Gwenllian. Gallai'r Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un safon mewn rhai amgylchiadau ac â safon arall mewn amgylchiadau eraill. gall y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â'r safon mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn eraill, neu ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safon mewn rhai meysydd yn unig.'
Yn yr un modd, pan fo dwy neu fwy o safonau sy'n ymwneud ag ymddygiad penodol, gall y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o'r safonau hynny yn unig, neu â gwahanol safonau ar wahanol adegau, mewn amgylchiadau gwahanol, neu mewn meysydd gwahanol.
Credaf fod hynny'n ei gwneud hi'n gwbl bosibl i gyflwyno hyblygrwydd i'r cynllun. Felly, rwy'n gobeithio, er byddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw—a gwn yn sicr yr hoffai'r gweinidog fynd ymhellach a'i bod yn cael ei chyfyngu dim ond gan yr hyn y mae'n eu gweld fel anawsterau ymarferol ar hyn o bryd—y byddwn, o fewn cyfnod cymharol fyr, yn gallu mynd ymhellach tuag at wireddu'r amcan hwn. Oherwydd rwyf i'n credu ei bod hi'n bwysig i bobl fod yn sicr y gallant ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd mewn ffordd sydd orau iddyn nhw. Mae'n wasanaeth iechyd cenedlaethol, ac mae hynny'n cynnwys, yn amlwg, siaradwyr Cymraeg—ac, yn wir, Cymry uniaith, o ran hynny—yn ogystal â phawb arall, ac felly mae'n bwysig o ran cynwysoldeb. Mae'n bwysig am y rheswm, fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, ein bod eisiau cyflawni, os gallwn ni, y dasg o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, ond mae'n bwysicach, rwy'n credu, ein bod ni'n gweld hwn fel mesur sy'n mynd i ddarparu'r gwasanaeth iechyd gorau posibl ar gyfer pawb yn ein gwlad.
Wel, rwyf yn cytuno i raddau helaeth â Neil Hamilton ynglŷn â hyn, o ran ei bod hi'n bwysig iawn, beth bynnag fo'r mesurau yr ydym ni'n eu cyflwyno, nad ydym ni'n creu'r argraff mai dim ond y rhai sy'n siarad Cymraeg gaiff weithio yn GIG Cymru, oherwydd byddai hynny'n llwybr peryglus iawn i'w droedio. Croesawaf y mesur; cafodd feichiogrwydd hir, ond bellach mae angen rhoi genedigaeth i'r babi. Felly, byddaf yn pleidleisio o blaid y mesur. Mae'n rhaid inni gydnabod hynny—. Cytunaf yn llwyr â Siân Gwenllian, mewn rhai achosion, nad yw'n fater o ansawdd yn unig. Gall fod yn fater o ddiogelwch. Os yw plentyn yn Gymraeg ei iaith a bod angen iddo fynegi ei deimladau am y boen neu ble mae'r boen, bydd ansawdd yr ymgynghoriad yn ddibynnol ar y gallu i ddeall beth mae'r plentyn hwnnw yn ei ddweud. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn mewn ardaloedd lle mae plant yn cael eu magu yn Gymraeg eu hiaith. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fyddwn ni'n trafod materion iechyd meddwl neu ddementia, pryd y bydd pobl efallai yn dychwelyd i fod yn uniaith o ganlyniad i'r dementia.
Mae'n rhaid cymryd pwyll wrth inni gyflwyno'r mesur hwn, yn syml oherwydd bod llawer o'r gwasanaethau, yn sicr yn fy ardal i yng Nghaerdydd a'r Fro, yn dibynnu nid yn unig ar ddenu pobl o rannau eraill o Brydain, ond ar ddenu clinigwyr Ewropeaidd y mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn siarad Saesneg yn ddigon da, heb sôn am y Gymraeg, ac mae'n annhebygol iawn y byddan nhw'n siarad Cymraeg os ydyn nhw'n dod o wledydd eraill. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r hawl a'r ddyletswydd sydd arnom ni i symud ymlaen o ran sicrhau bod gwasanaethau yn cynnig y dewis o Gymraeg neu Saesneg i bobl, ond fel yn achos y mudiad i alluogi menywod i gael gweld clinigwyr benywaidd, yn enwedig ar faterion iechyd menywod, pan fo bywyd rhywun mewn perygl, yn amlwg nid ydym yn mynd i gynnig na all rhywun weld meddyg oherwydd nad oes meddyg benywaidd ar gael. Mewn amgylchiadau o argyfwng, yn amlwg mae'n rhaid inni dderbyn y clinigwr sydd o'u blaenau.
Felly, cefnogaf y mesur hwn, ond credaf fod angen inni droedio'n ofalus rhag i ni, mewn modd artiffisial, annog pobl i beidio â dod i weithio i GIG Cymru pan fo anhawster sylweddol ar hyn o bryd i lenwi swyddi gwag gyda phobl sy'n siarad y naill iaith neu'r llall, heb sôn am y ddwy iaith.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, a diolch, yn gyntaf, i'r pwyllgor am yr adroddiad. Rydw i'n ymwybodol iawn nad ydych chi wedi cael lot o amser i edrych ar hyn, ond rydym ni wedi cydymffurfio â'r 21 diwrnod sydd fel arfer yn cael eu cydnabod. Ond rydw i yn derbyn efallai y gallwn ni edrych ar ehangu hynny, os mae hynny wedi creu problem y tro yma. Ond dyna'r ffordd y mae wastad wedi cael ei wneud. O ran egwyddor, rydw i'n meddwl y gallwn ni edrych ar ymestyn yr amser yn y dyfodol.
Roedd Cadeirydd y pwyllgor yn iawn i ddweud ei bod hi wedi cymryd amser hir. Wrth gwrs, roedd yna ymgynghoriad a oedd wedi mynd ymlaen am amser hir. Mae e'n wasanaeth sy'n eithaf soffistigedig, yn eithaf eang, ac roeddwn i'n awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n cael ymateb oddi wrth bob math o lefelau yn yr adran iechyd. Ond dyna pam rydym ni'n awyddus i fwrw ymlaen heddiw.
Nawr, mae'r mater yma o'r ymgynghoriad clinigol wyneb yn wyneb yn un eithaf caled, achos, yn rhannol, y problemau ymarferol. Unwaith rydych chi'n sefydlu hawliau, ar ba bwynt ydych chi'n dweud, 'Wel, actually, mae'n rhaid ichi gael y driniaeth yma ar y foment yma'? Nid ydych chi, ambell waith, eisiau stopio'r broses yna o helpu'r claf drwy'r system. Felly, mae'n rhaid inni gael y balans yna'n iawn. Dyna pam beth rydym ni wedi'i ddweud yw ein bod ni eisiau dechrau byrddau iechyd ar y trywydd yma o sicrhau eu bod nhw'n gwybod, yn y pen draw, y bydd angen iddyn nhw roi gwasanaeth—symud tuag at roi gwasanaeth clinigol i'r claf. A dyna pam rydym ni wedi cyflwyno'r syniad yma o gynlluniau pum mlynedd, a dyna pam y mae'n rhaid iddyn nhw ddangos inni sut y maen nhw'n mynd i ymateb, a'u bod nhw'n gallu newid o ran beth y maen nhw eisiau ei wneud yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae beth sy'n iawn ar gyfer rhan o Wynedd, efallai, yn hollol wahanol i beth sy'n iawn ar gyfer rhan arall o Betsi Cadwaladr. Felly, bydd lle gyda nhw i ymateb i beth sy'n ddelfrydol yn lleol.
O ran gofal sylfaenol—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Beth rydym wedi'i glywed gan un aelod o'r Pwyllgor, Siân Gwenllian, oedd bod modd rhoi safon yn hynny o beth, a hyblygrwydd wedyn o ran sut y byddai'r safon honno'n cael ei weithredu. Felly, gellir wedyn rhoi'r safon honno ar, er enghraifft, Gwynedd, lle bod Blaenau Gwent efallai'n mynd i gymryd mwy o amser i wneud hynny. Os nad oes yna safon, wedyn efallai nad yw'r rhwymedigaeth mor gryf—heb y safon honno yn gweithredu.
Beth rwy'n gobeithio y bydd yn digwydd nawr yw y bydd y comisiynydd yn siarad gyda'r gwasanaethau yma ac yn gweld beth sy'n ddelfrydol ac yn gwthio nhw yn yr ardaloedd lle mae hi efallai'n meddwl y gallwn ni wthio pobl ymhellach.
O ran gofal sylfaenol, bydd y gofal a fydd yn cael ei roi yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd yn dod o dan y safonau. Mae yna fater ymarferol ynglŷn â sut rydym ni'n cael pobl yng ngofal sylfaenol sy'n annibynnol i weithredu'r safonau hyn, a sut rydym yn eu cael nhw i gydymffurfio, a beth yw'r system o blismona. Mae dros 3,500 o'r rhain. Nid oes capasiti gyda'r comisiynydd iaith i fynd ar ôl cymaint â hynny o fudiadau. Felly, rwy'n meddwl ei bod yn gwneud mwy o synnwyr i wneud hwn drwy'r byrddau iechyd. Dyna pam y mae yna gytundeb. Roedd cytundeb wedi dechrau ddoe. Mae GPs wedi cael mwy o arian, a rhan o'r cytundeb yna oedd eu bod nhw wedi ymrwymo i edrych i mewn i roi mwy o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, rŷm ni wedi dechrau ar y trywydd yma, ac mae ffordd i fynd gyda'r cytundebau hynny. Ond mae plismona hefyd yn bwysig.
Suzy, mae balans hawliau yn bwysig, rwy'n cytuno. Mae'n really anodd yn y maes yma. Beth yw'ch hawl chi? A oes gyda chi yr un hawl ym Mlaenau Gwent ag sydd yng Ngwynedd? Mae'n anodd iawn pan mae'r system yma sydd gyda ni yn edrych ar beth sy'n reasonable a proportionate. Felly, rwy'n meddwl bod y system sydd gyda ni yn eithaf soffistigedig, ond mae yn gwneud sens i ymateb i beth sydd ei angen yn lleol.
Rwy'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn sensitif, Siân Gwenllian, i'r henoed ac i blant yn arbennig, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl, wrth ddod ymlaen â'r syniadau ynglŷn â chynlluniau pum mlynedd, yn edrych ar rheini fel y pwynt cyntaf i sicrhau eu bod yn symud tuag at roi cynnig clinigol i'r rheini yn gyntaf. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n ystyried hynny. Ond, rwy'n awyddus nawr i'r comisiynydd fwrw ymlaen gyda'r gwaith. Rwy'n deall bod recriwtio yn gallu bod yn broblem yn yr adran iechyd, ac nid ydym eisiau rhoi unrhyw negeseuon allan na fydd pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn cael eu croesawu yng Nghymru. Mae'n really bwysig ein bod ni'n cael y neges sensitif yma yn gywir, fel yr oedd Neil Hamilton yn ei ddweud.
A wnewch chi gymryd ymyriad ar y pwynt hwnnw?
Wel, does gan y Gweinidog ddim amser ar ôl—yn fyr iawn, felly.
Wel, dim ond ar y pwynt hwnnw, achos cawsom dystiolaeth ar y ffordd y mae darpar fyfyrwyr meddygol yn cael eu recriwtio yn ein hysgolion meddygol yng Nghymru—y ddwy sydd gyda ni. Mae canran isel iawn yn dod o Gymru yn y lle cyntaf, ac nid oes dim pwysau yn cael eu rhoi ar a ydych chi'n siarad Cymraeg ai peidio ar hyn o bryd. Dyna pam y mae pwysau cynyddol i gael ysgol feddygol ym Mangor, a fyddai, gobeithio, yn gallu gwyrdroi y math yma o bethau.
Ond eto, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud lot o waith yn y maes yma yn barod. Felly, mae lot o waith eisoes yn cael ei wneud. Felly, ni allwn ddiystyru'r pethau eraill sy'n digwydd. Dim ond safonau yw'r rhain, a phan wnes i siarad yn y cyflwyniad agoriadol, dywedais fod yn rhaid inni edrych ar y safonau hyn mewn cyd-destun sydd lot yn ehangach. Ond, rwy'n gobeithio nawr y gallwn ni fwrw ymlaen gyda hyn. Rwy'n meddwl bod angen inni ofyn i'r comisiynydd ddechrau ar y gwaith yma, ac rwy'n hyderus y bydd yr ystyriaeth a'r gwasanaeth a fydd ar gael ar gyfer pobl yn y dyfodol yn gwella o ganlyniad i'r safonau hyn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.