1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Mawrth 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i eich atgoffa chi, Ysgrifennydd Cabinet, tua 18 mis yn ôl gwnaethoch chi gychwyn ar y broses o ymgynghori ar y parthau nitradau yng Nghymru a'r angen i fynd i afael â'r rheini. Jest cyn y Nadolig, gwnaethoch chi gyhoeddi y byddech chi'n chwilio am gydweithredu gwirfoddol er pwrpas gwella'r amgylchedd o gwmpas nitradau. Mae Plaid Cymru yn cefnogi hynny achos rŷm ni o'r farn bod modd, efallai, cyrraedd gwell safon drwy gydweithio gyda'r gorau sydd yn y diwydiant. Ond, yn y cyfamser, wrth gwrs, mae Afonydd Cymru wedi colli amynedd, mae'n ymddangos, gyda'r broses hirfaith yma ac wedi dweud y byddan nhw'n cwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'ch perfformiad chi ar y mater yma. Beth fydd eich ymateb chi i'r Comisiwn Ewropeaidd ac a fedrwch chi ddweud wrth y Cynulliad beth yw'r amserlen bellach ar gyfer gosod yn ei le y gweithredu sydd ei angen yn y maes yma, ond gweithredu ar y cyd gyda'r diwydiant, nid yn orfodaeth dros y diwydiant?
Diolch. Ie, fe sonioch fy mod wedi gwneud datganiad ym mis Rhagfyr y llynedd, yn dilyn yr ymgynghoriad a gawsom ar Barthau Perygl Nitradau. Sefydlais is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol, sy'n edrych ar hynny i mi. Rwyf hefyd wedi cyfarfod gyda'r grŵp yn ddiweddar, ac rwy'n disgwyl iddynt gyflwyno rhai argymhellion i mi erbyn diwedd mis Mawrth. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol a chyfreithiol, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad o symud ymlaen â dull gweithredu nad yw'n cyflawni'r gofynion hynny. Nid yw'r dull gwirfoddol wedi gweithio ar ei ben ei hun. Nid oeddwn yn awyddus i gael deddfwriaeth lawn; roeddwn yn awyddus i sicrhau cymysgedd o'r ddau beth. Fodd bynnag, mae'n hynod o siomedig ein bod yn dal i weld cymaint o lygredd amaethyddol yn ein hafonydd.
Rwy'n ddiolchgar am yr amlinelliad yna ac yn edrych ymlaen at weithredu yn fuan iawn, felly, a gweld argymhellion yn dod gerbron, ac rwy'n cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet fod angen i'r diwydiant amaeth hefyd edrych ar ei arferion ei hun ynglŷn â gollwng slyri i mewn i rai o'n hafonydd ni. Ond, beth mae'r mater yma yn tanlinellu wrth gwrs yw bod y Comisiwn Ewropeaidd, rheolau Ewropeaidd, i gyd yn bwysig yn y ffordd yr ŷm ni'n rheoli'r amgylchedd yng Nghymru, ac rŷm ni bellach yn deall yn sicr sut y mae Llywodraeth San Steffan yn edrych ar gadw'r pwerau hyn, os nad ŷm ni'n gwella'r Bil sydd yn San Steffan ar hyn o bryd, neu os nad yw'r Bil yr ŷm ni am ei drafod yn nes ymlaen heno yn llwyddo. Felly, mae meysydd mwy amrywiol, a physgodfeydd, lles anifeiliaid, ffermio organig a chwynladdwyr, pesticides—maen nhw i gyd yn feysydd lle mae San Steffan yn chwilio i ymyrryd ac sydd yn briodol i'r Cynulliad hwn. A fedrwch chi ddweud, beth bynnag yw'r dull a fydd yn digwydd yn deillio o ddelio â hyn—naill ai'r Ddeddf, y Bil heno fan hyn, neu'r Bill sy'n mynd drwy San Steffan—a fyddwch chi'n gallu ymrwymo i gadw'r egwyddorion Ewropeaidd hyn yn y ddeddfwriaeth a fydd yma yng Nghymru? Ac a ydych chi'n credu felly, efallai, er na dderbyniwch chi y gwelliant sydd gan Blaid Cymru ar gyfer yn nes ymlaen prynhawn yma, eich bod chi'n derbyn yr egwyddorion sydd y tu ôl i'r gwelliant hwnnw?
Ydw, yn sicr. Ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn rhan o'r UE, felly rydym yn gorfod cydymffurfio â'r cyfarwyddebau Ewropeaidd hynny. Yn sicr, buaswn yn ymrwymo i gadw'r un safonau, o leiaf, os nad eu gwella.
Rwy'n ddiolchgar am yr ymrwymiad gwleidyddol hwnnw os na chawn yr un deddfwriaethol maes o law.
Heddiw, fe gyhoeddoch chi hefyd eich pum egwyddor craidd ar gyfer dyfodol tir a'r rheini sy'n rheoli'r tir. Mae hyn yn cynnwys cynllun cymorth fferm newydd yn lle cynllun y taliad sylfaenol. Ond os yw'r arian sy'n cael ei ailddyrannu wrth inni adael yr UE yn cael ei ddyrannu i Gymru yn ôl unrhyw beth sy'n ymdebygu i fformiwla Barnett, yn hytrach na'n cyfran gyfartal a theg ein hunain o'r arian hwn, gŵyr pob un ohonom y byddwn o leiaf 40 y cant yn dlotach, gyda rhai rhannau o Gymru lawer yn waeth eu byd nag eraill. Felly, a allwch ddweud wrthym pa sicrwydd pellach y byddwch yn ei geisio gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid? Rydym wedi sôn am bwerau, ond mae hyn yn ymwneud â'r arian. Ac a ydych mewn sefyllfa i roi sicrwydd eich bod yn credu y byddwn yn cael cyfran deg o'r arian, beth bynnag am unrhyw benderfyniadau y gellid eu gwneud ynghylch Biliau yma neu yn San Steffan?
Yn anffodus, ni allaf roi unrhyw sicrwydd i chi ynglŷn â chyllid. Maent yn sgyrsiau parhaus. Byddaf yn cael fy nghyfarfod pedairochrog nesaf yn Llundain ddydd Llun. Mae arian yn eitem sefydlog ar yr agenda yn awr; mae fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau wedi mynnu hynny. Cytunaf yn llwyr; rydym yn llwyr wrthwynebu unrhyw Farnetteiddio mewn perthynas â'r cyllid hwnnw. Ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n mynd yn ôl i mewn i'r byd amaeth, hyd at 2022—yr un fath â rhannau eraill o'r DU.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, mae'n siŵr y byddwch yn gwybod y cafwyd ymchwiliad digynsail, rwy'n credu, ar y cyd gan bedwar o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, a ddywedai fod ansawdd aer gwael bellach yn argyfwng iechyd cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, maent yn sôn am bob Llywodraeth; nid eich un chi yn unig. Maent wedi galw am Ddeddf aer glân. Diolch i'n hasiantaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwyddom fod llygredd aer bellach yn cael ei ystyried yn argyfwng iechyd sy'n ail i ysmygu yn unig, ac yn fwy o bryder na gordewdra ac alcohol. Felly, a yw bellach yn bryd inni gael Deddf aer glân yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n llygad ei le; mae hwn yn un o faterion pwysicaf ein hoes, ac mae mynd i'r afael ag ansawdd aer, fel yr eglurais cyn y Nadolig, yn flaenoriaeth i mi yn y rôl hon. Rydych yn gwybod am ein hymrwymiad i ymgynghori ar y fframwaith parth aer glân, a bydd hyn yn cyd-fynd â chynllun ansawdd aer y DU. Ond y syniad yw y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn erbyn diwedd mis Ebrill, gyda'r bwriad o gynhyrchu dogfen ddiwedd mis Gorffennaf. Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio ar draws y Llywodraeth, yn enwedig—. Er yr ystyrir mai mater amgylcheddol yw hwn, mewn gwirionedd, fel y dywedwch, mae'n llawer ehangach na hynny. Mae'n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Ac mae llawer o'r dulliau sydd gennym yng Nghymru i fynd i'r afael ag ansawdd aer yn drawslywodraethol—felly trafnidiaeth, awdurdodau lleol ac iechyd, wrth gwrs.
Weinidog, rwy'n amau a yw'r ymagwedd dameidiog hon, er ei bod wedi'i cydgysylltu'n dda, yn ddigon, a dyna pam rwy'n pwyso arnoch mewn perthynas â Deddf aer glân. A gaf fi eich atgoffa bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at 40,000 o farwolaethau cynnar yn y DU—yng Nghymru, 1,300—a bod cost flynyddol hynny, ar lefel y DU, yn fwy na £27 biliwn? Trafnidiaeth ffordd sy'n gyfrifol am 80 y cant o grynodiadau nitrogen deuocsid ar ochr y ffordd, ac mae'r rhain yn gyffredin iawn yn ein hardaloedd trefol. Rwyf newydd gael gwybodaeth gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sy'n dangos, ar draws fy rhanbarth i, Canol De Cymru, fod oddeutu 3,230 o flynyddoedd o fywyd a gollwyd ar gyfartaledd yn gysylltiedig â deunydd gronynnol. Yng Nghaerdydd yn unig, byddai hynny'n cyfateb i 1,543 o flynyddoedd o fywyd a gollwyd. Mae'r difrod yn enfawr, ac mae llawer o hyn yn deillio o lif y traffig yn ein dinasoedd, nifer y cerbydau, a'r diffyg dewisiadau amgen a dulliau cynaliadwy o deithio nad ydynt yn dibynnu ar draffig modurol. Felly, gofynnaf ichi eto: onid yw'n bryd inni gael Deddf aer glân, yn ogystal â strategaethau strwythuredig iawn i ymdrin â thagfeydd trefol?
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at bwynt pwysig iawn yn ymwneud ag effaith trafnidiaeth, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol. Credaf imi sylwi, yr wythnos hon, fod cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi diwrnod di-gar eto eleni ym mis Mai, ac rwyf wedi cyfarfod â chyngor Caerdydd yn benodol i drafod y parth aer glân ar gyfer Caerdydd, a sut y gallwn fynd i'r afael â thagfeydd yn rhan o hynny. Dyna pam fy mod hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ar sut rydym yn ymdrin â phwysau allyriadau ac ansawdd aer ein cefnffyrdd. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu dull trawslywodraethol a strwythuredig o fynd i'r afael â'r mater hwn, ac mae ansawdd aer yn flaenoriaeth allweddol yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'.
Unwaith eto, rwyf am bwyso arnoch. Credaf fod diwrnodau di-gar yn wych. Cefais brofiad o un am y tro cyntaf erioed oddeutu 20 mlynedd yn ôl pan oeddwn ym Mrwsel, ac roeddwn yn crwydro o gwmpas yn meddwl—[Torri ar draws.] Wel, na, nid wyf yn rhannu'r ffobiâu sydd i'w cael mewn rhai rhannau o'r Siambr. [Chwerthin.] Ond rwy'n cofio teimlo, 'Beth sy'n rhyfedd? Beth sy'n anarferol' ac yna meddyliais, 'Jiw, gallaf glywed plant yn chwarae.' Dyna'r hyn y gallwn ei glywed, gan nad oedd unrhyw sŵn traffig. Ond mae'r rhain yn achosion unigol, onid ydynt? Yr hyn sydd arnom ei angen yw strategaeth fwy uchelgeisiol o lawer. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, os yw cyfartaledd cyflymder traffig trefol yn gostwng 4 cya, o 16 cya i 12 cya, er enghraifft, ceir cynnydd o 10 y cant yn lefelau llygredd ceir a faniau diesel, a 25 y cant mewn perthynas â bysiau a lorïau. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn lleihau traffig modurol ac yn gwella ei lif. Rwy'n amheus iawn o'r mentrau a welwn weithiau gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'r diwrnodau di-gar yn ein dinasoedd yn fy mhoeni, ond ymddengys i mi fod y fenter ddiweddar—agor lonydd bysiau i gerbydau nwyddau trwm, fel y gall hynny fod yn ffordd o wella llif y traffig—yn methu'r pwynt. Mae arnom angen strategaeth i symud lorïau trwm oddi ar ein ffyrdd, ar adegau prysur o leiaf. Ceir ffyrdd eraill o gludo nwyddau mewn ardaloedd dinesig. Gallwch weld hynny ledled y cyfandir bellach—trefniadau prif ganolfannau a lloerennau, lle y ceir faniau llai yn cludo nwyddau i ddinasoedd heb ddibynnu ar y lorïau cymalog enfawr hyn. Mae arnom angen dull mwy strwythuredig. Mae arnom angen strategaeth drefol er mwyn sicrhau eu bod yn lleoedd sy'n byw'n lân, ac mae arnom angen Deddf aer glân. Pryd y byddwn yn ei chael?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiynau ynglŷn â hyn? Rydych yn llygad eich lle o ran sut y mae diwrnodau di-gar yn rhywbeth cadarnhaol, ond cam bach yn unig ydynt i'r cyfeiriad rydym am fynd iddo, a'r hyn sydd arnom ei angen mewn gwirionedd yw newid moddol clir o ran sut rydym yn byw ein bywydau bob dydd, a sut y mae'r seilwaith yn gweithio. Dyna pam ei bod mor bwysig mynd i'r afael â hyn ar draws y Llywodraeth.
Fe gyfeirioch chi at Frwsel. Roeddwn yn meddwl tybed i ble roeddech mynd â hynny am funud. Ond un o'r pethau a nodais yn ddiweddar, pan oeddwn ym Mrwsel, oedd y ffordd y maent yn defnyddio data a thechnoleg fodern i fynd i'r afael â'r materion hyn hefyd. Oherwydd rwy'n ymwybodol, ym Mrwsel, fod ganddynt ryw fath o ap sy'n dweud wrthynt os yw'n benodol—. Gall pobl fonitro ansawdd yr aer, ac os yw'n debygol y byddant yn cael ambell ddiwrnod neu gyfnod arbennig o wael, credaf fod ganddynt fentrau fel trafnidiaeth gyhoeddus am ddim bellach. Felly, credaf fod angen ystyried ac archwilio'r opsiynau hyn yn drylwyr.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae archfarchnadoedd bellach yn paratoi ar gyfer eu cyfnod blynyddol o hyrwyddo cig oen dros y Pasg, ac mae'n gyfle gwych, yn amlwg, ar gyfer cynhyrchwyr cig oen yng Nghymru. Cefais fraw wrth ddarllen, yn y fersiwn ar-lein o Farmers Weekly y bore yma, fod rhai manwerthwyr yn honni bod cig oen Prydain allan o dymor dros gyfnod y Pasg. Mae'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol wedi gwadu hyn yn llwyr, wrth gwrs, a honnant fod cig oen Prydain ar gael drwy'r flwyddyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf beth y mae'n ei wneud i sicrhau bod yr holl fanwerthwyr yn ymwybodol fod cig oen Cymru ar gael drwy'r flwyddyn, ac y dylent ei brynu?
Wel, nid yw'r mater hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw. Rwy'n cyfarfod ag archfarchnadoedd, ac yn sicr, mae fy swyddogion yn cyfarfod gydag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'r cynnyrch Cymreig anhygoel sydd gennym a phryd y mae ar gael iddynt i'w werthu yn eu harchfarchnadoedd.
Ffaith ddiddorol arall a nodais yw bod arolwg barn YouGov a gomisiynwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi canfod mai 18 y cant yn unig o bobl Cymru sy'n bwyta twrci o Gymru ar ddydd Nadolig, ac mai 29 y cant yn unig o bobl Cymru sy'n bwyta tatws o Gymru. Yn amlwg, mae cyfleoedd gwych i'w cael i fanteisio ar yr hyn y gallem eu galw'n fylchau yn y farchnad sydd wedi bodoli hyd yma, ac mae gadael yr UE yn golygu bod gennym gyfle i lenwi'r bylchau hynny, yn dibynnu ar ba fath o fargen y gallai Llywodraeth Prydain ei sicrhau ai peidio o ran cynnyrch a fewnforir. Mae Iwerddon wedi cael prosiect brandio llwyddiannus iawn ar gyfer eu cynhyrchion, ac rwy'n siŵr y gallai Cymru fod yr un mor llwyddiannus, er nad ydym am greu awtarchiaeth sy'n atal mewnforion, wrth gwrs, ac mae'n rhaid i ddefnyddwyr gael dewis—mae'n bwysig iawn fod hynny'n un o ganlyniadau Brexit. Serch hynny, mae'n rhaid inni sicrhau mwy o bwyslais nag a fu yn y gorffennol ar greu brand Cymreig newydd ar gyfer bwyd. Gwyddom am y llwyddiannau y mae Hybu Cig Cymru wedi'u cael hyd yn hyn, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sicrhau bod hyn yn un o'i blaenoriaethau, felly tybed, efallai, os gallai ymhelaethu ychydig ar beth yw ei chynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn hyn o beth.
Diolch. Roeddwn yn darllen ystadegau yr wythnos diwethaf a ddywedai y byddai'n well gan dros 50 y cant o bobl Cymru brynu bwyd a diod o Gymru bellach, a'u bod yn gwneud hynny. Felly, unwaith eto, credaf ein bod yn cael cryn effaith yn hynny o beth. Mae'n bwysig iawn, yn y dyfodol, ein bod yn sicrhau bod pobl—a chredaf fod Simon Thomas wedi crybwyll hyn ddoe o ran y ddeddfwriaeth rydym yn ei chyflwyno—mae'n bwysig iawn fod bwyd yn cael ei labelu fel bwyd o Gymru. Ddydd Llun, cyfarfûm ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a dywedais wrtho'n glir iawn nad oeddwn am weld labeli Prydeinig neu unrhyw labeli eraill ar gynnyrch o Gymru. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni gael y labeli Cymreig penodol hynny, gan eu bod yn dod â chryn dipyn o fri i'r cynnyrch. Mae'n un o'n sectorau gweithgynhyrchu pwysicaf, a chredaf mai'r hyn a wna yw cysylltu amaeth gyda defnyddwyr ledled Cymru. Mae'n faes lle mae ein proffil yn tyfu o ddifrif. Credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn yr hyn y maent yn ei fwyta a'i yfed, o ble y daw a sut y caiff ei gynhyrchu. Credaf ein bod ar flaen y gad ledled y DU.
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â Hybu Cig Cymru. Rwyf wedi darparu arian ychwanegol iddynt er mwyn sicrhau y gallant redeg rhaglen allforio well. Wrth inni adael yr UE, dyna un o'r cyfleoedd y mae angen inni edrych amdanynt. Fe fyddwch yn gwybod am nifer o deithiau masnach ac ymweliadau datblygu masnach sydd ar y gweill i sicrhau ein bod yn hybu Cymru.
Yn olaf, hoffwn ddychwelyd at gwestiwn cychwynnol Simon Thomas ynglŷn ag achos Afonydd yn erbyn Llywodraeth Cymru yn y Comisiwn Ewropeaidd, a'r ymgynghoriad ar Barthau Perygl Nitradau, sy'n dal i achosi cryn bryder i ffermwyr gyda'r holl ansicrwydd, a hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth i'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â llwyddiant cynlluniau megis y cynllun baner las yn Sir Benfro, lle mae ffermwyr wedi dod at ei gilydd i nodi beth y gallem eu galw'n atebion bychain i'r broblem anferth hon. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn llwyr: fod yn rhaid i ffermwyr dorchi llewys ledled Cymru mewn perthynas â llygredd nitradau mewn priddoedd ac afonydd. Ond credaf mai'r dull rwyf wedi'i hyrwyddo'n gyson—a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i'w dderbyn—yw defnyddio dull abwyd yn hytrach na dull ffon, ac yn sicr, peidio â mynd ar drywydd un ateb sy'n datrys pob agwedd ar y broblem hon. Yn amlwg, gwn na all gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad a'r penderfyniadau y bydd yn eu gwneud o ganlyniad iddo heddiw, ond hoffwn pe bai'n rhoi sicrwydd i ffermwyr unwaith eto ei bod yn ymwybodol o'r pryderon hyn ac y bydd yn ceisio sicrhau'r cynllun mwyaf hyblyg posibl er mwyn rhoi sylw i'r amodau gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru ac ar wahanol fathau o dir.
Wel, credaf fy mod wedi gwneud hynny yn fy natganiad ym mis Rhagfyr. Nid wyf yn derbyn bod cymaint â hynny o ansicrwydd yn y sector amaethyddol. Yn sicr, pan siaradais yng nghynhadledd Undeb yr Amaethwyr yn Birmingham, yr un genedlaethol y mis diwethaf—. Yn dilyn hynny, cyfarfûm â'r grŵp, a rhai o'r ffermwyr yn y cynllun baner las hwnnw y cyfeirioch ato—cefais gyflwyniad ganddynt, ac maent yn rhan o'r grŵp sy'n fy nghynghori. Cytunaf yn llwyr y dylid defnyddio'r abwyd yn hytrach na'r ffon. Dyna pam yr awgrymais y ffordd ymlaen mewn perthynas â chael peth o'r dull gwirfoddol a'r dull rheoleiddiol.
Rwyf wedi gofyn am argymhellion y grŵp hwnnw erbyn diwedd mis Mawrth. Byddwn yn edrych ar yr argymhellion hynny ac yn gweld beth y gellir bwrw ymlaen ag ef, ond rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Simon Thomas: rwy'n bryderus ynglŷn â faint o lygredd amaethyddol rydym yn dal i'w weld. Cawsom chwe diwrnod o eira trwm dros y mis diwethaf, ac rwyf wedi cael sawl neges e-bost, gyda lluniau, ynglŷn â slyri'n cael ei wasgaru ar ben yr eira, ac ati. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud â gweithio—. Rwy'n awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda'r sector. Credaf y byddai hynny'n llawer mwy llwyddiannus na phe bai gennym reoliadau yn unig. Fodd bynnag, mae angen monitro'r gwaith hwnnw'n fanwl. Er bod gennyf Weinidog yr Amgylchedd bellach, mae'r amgylchedd yn dal i fod yn rhan o fy mhortffolio, ac mae'n ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd cywir.