5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Sir Powys — Diweddariad ar Gefnogaeth o dan Fesur Llywodraeth Leol 2009

– Senedd Cymru am 4:09 pm ar 1 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:09, 1 Mai 2018

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Sir Powys—diweddariad ar gefnogaeth o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Alun Davies.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:10, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn arolygiad beirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru o wasanaethau plant Cyngor Sir Powys, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, hysbysiad rhybuddio i'r cyngor o dan Ran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ar 16 Ebrill, cafwyd diweddariad gan fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar gynnydd y camau gweithredu a oedd wedi deillio o'r hysbysiad rhybuddio.

Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Cymru ei hadroddiad o'i harolygiad o wasanaethau oedolion ym Mhowys. Mae'r arolygiad yn tynnu sylw at feysydd o bryder sylweddol y mae angen i Bowys fynd i'r afael â nhw. Roedd yn glir yn yr adroddiad blaenorol ar wasanaethau plant ac yn adroddiad heddiw ar wasanaethau oedolion fod angen gwelliannau yn yr awdurdod yn ei gyfanrwydd er mwyn caniatáu ar gyfer gwelliannau mewn gwasanaethau cymdeithasol. 

Ym mis Tachwedd y llynedd, cefais gais am gymorth ffurfiol gan arweinydd Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris. Yn dilyn hynny, fe wnes i arfer fy mhwerau o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gymorth i Bowys er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau corfforaethol. Datblygwyd hyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2017, penodais Sean Harriss, prif weithredwr awdurdod lleol profiadol ac uchel ei barch, i gynnal adolygiad cyflym o'r cyngor. Rhoddais iddo'r dasg o bennu cwmpas y prif heriau a oedd yn wynebu'r cyngor a llunio adroddiad yn nodi ei ganfyddiadau a'r camau yr oedd eu hangen i fynd i'r afael â nhw. Cyhoeddwyd ei adroddiad, 'Adolygiad o Arweinyddiaeth, Llywodraethu, Strategaeth a Gallu', ym mis Chwefror 2018, a rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ar ei ganfyddiadau allweddol. Amlygodd yr adroddiad fod y cyngor wedi gwneud cynnydd ond ei fod yn dal i wynebu heriau sylweddol wrth gryfhau ei arweinyddiaeth a'i allu corfforaethol. Pwysleisiodd yr adroddiad hefyd y gellid goresgyn yr heriau hynny, ac rwy'n dyfynnu, drwy 'gynyddu capasiti a gallu yn yr awdurdod lleol, ynghyd â phecyn dwys o welliannau dan arweiniad y sector'.

Er mwyn sicrhau parhad a chysondeb, gofynnais i Sean Harriss barhau i weithio gyda Chyngor Sir Powys a goruchwylio ail gam o gymorth. Mae wedi rhoi cymorth i'r cyngor yn y meysydd allweddol canlynol: perfformiad ac ansawdd, gweledigaeth, newid sefydliadol, ac, yn olaf, cryfhau sefyllfa'r gyllideb.

Cawsom gyfarfod eto ddoe, a rhoddodd ddiweddariad ar y cynnydd ar ddiwedd ail gam y gwaith. Yn ôl ei asesiad ef, mae'n amlwg bod cynnydd wedi'i wneud, ond mae heriau sylweddol yn parhau, ac mae angen arweinyddiaeth gorfforaethol well er mwyn cyflawni a chynnal lefel y newid sydd ei hangen. Roedd y gofyniad hwn wedi'i adlewyrchu hefyd yn ei adroddiad ym mis Chwefror, a oedd yn argymell penodi prif weithredwr dros dro profiadol, â record wedi'i brofi o weddnewid.

Mae Cyngor Powys wedi bod yn cymryd camau yn dilyn yr argymhelliad hwn, a hoffwn longyfarch Mohammed Mehmet, cyn-brif weithredwr Cyngor Sir Dinbych, ar gael ei benodi'n brif weithredwr dros dro Cyngor Sir Powys. Mae ei hanes yn Sir Ddinbych yn siarad drosto'i hun, wedi iddo arwain y cyngor drwy gyfnod o her sylweddol i fod yn un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru. Gan fod prif weithredwr dros dro newydd wedi'i benodi, bydd amser a gwaith Mr Harriss gyda Phowys yn dirwyn i ben yn awr. Hoffwn ddiolch iddo am ei waith gyda'r cyngor, ond hefyd, Dirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod gwaith David Powell, y prif weithredwr gweithredol, a'r ffordd gadarnhaol y mae'r cyngor, ei staff a'i aelodau wedi ymateb i'r heriau hyn.

Caiff arweinydd y cyngor a'r prif weithredwr dros dro newydd eu cefnogi gan fwrdd gwella a sicrwydd newydd, sydd wedi'i sefydlu â chylch gwaith ehangach ac sy'n disodli'r bwrdd gwella gwasanaethau cymdeithasol blaenorol. Rwy'n falch o ddweud bod Jack Straw, a gadeiriodd y bwrdd gwella gwasanaethau cymdeithasol, yn parhau yn gadeirydd.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys wedi penodi Bozena Allen, cyn-gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, yn aelod allanol gwasanaethau cymdeithasol, a Jaki Salisbury, cyn-brif weithredwr a chyfarwyddwr cyllid, yn aelod corfforaethol ar y Bwrdd. Byddan nhw'n darparu cymorth, her ac arweiniad i'r cyngor. Maen nhw'n arbenigwyr yn eu maes, ac mae ganddyn nhw hanes o weithredu llwyddiannus ac arwain sefydliadau yn ystod cyfnodau o weddnewid. Cynhaliodd y bwrdd ei gyfarfod cyntaf ddydd Mercher, 25 Ebrill, a bydd y bwrdd yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd ac yn rhoi cyngor ar ba gymorth pellach sydd ei angen dan arweiniad Llywodraeth Cymru neu'r sector.

Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod y camau gweithredu ar gyfer y cyngor yn amlwg. Mae'n rhaid iddo gyflawni'r cynllun gwella gwasanaethau cymdeithasol sydd ganddyn nhw ar waith ar gyfer gwasanaethau plant, a sicrhau bod cynllun tebyg yn cael ei weithredu ar gyfer gwasanaethau oedolion. Mae'n rhaid iddo hefyd gymryd y camau dilynol priodol yn unol â'r argymhellion yn adolygiad Sean Harriss o arweinyddiaeth, llywodraethu, strategaeth a gallu. Byddaf yn disgwyl i'r cyngor weithredu strategaeth ariannol tymor canolig gyfoes, gadarn a chynaliadwy, sy'n blaenoriaethu ei wariant ar wasanaethau allweddol, ac a all gyflawni'r pecyn o fesurau sydd ei angen i weddnewid y cyngor. Rwyf wedi darparu rhywfaint o fuddsoddiad i helpu yn hyn o beth.

Rwyf i wedi cyfarfod ag arweinydd y cyngor heddiw, ac mae hi wedi fy sicrhau ei bod yn ymrwymedig i gyflawni'r cynnydd a sicrhau bod Cyngor Sir Powys yn gallu cynnig y gwasanaethau o ansawdd uchel y mae gan bobl bob hawl i'w disgwyl. Ymunodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol â ni yn y cyfarfod hwnnw hefyd. Byddaf i a fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn parhau i roi diweddariadau i Aelodau ar y cynnydd a wneir. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:16, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Russell George.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? A gaf i hefyd ddiolch a rhoi ar gofnod fy niolch i Huw Irranca-Davies a'i ragflaenydd Rebecca Evans am fod yn agored iawn i roi briff i Aelodau perthnasol a rhoi'r newyddion diweddaraf i ni am y sefyllfa, yn dilyn yr arolygiad o wasanaethau plant Powys? Hefyd, rwy'n gwerthfawrogi cynnig Ysgrifennydd y Cabinet, i gyfarfod am sesiwn briffio. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Mae hefyd yn galonogol, yn fy marn i, bod Cyngor Sir Powys eu hunain wedi rhoi cyfle i Aelodau'r Cynulliad gael eu briffio am y materion diweddar.

Rwy'n falch o glywed bod yr awdurdod lleol yn cymryd camau gweithredu eisoes i weithredu'r argymhellion, ac ymddengys bod arweinwyr y cyngor yn bwrw ymlaen yn gadarnhaol â'r argymhellion, a hynny mewn ffordd dryloyw ac adeiladol. 

Fe wnaethoch chi nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, neu fe wnaethoch chi ddechrau eich datganiad drwy gyfeirio at adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru a gyhoeddwyd heddiw, sy'n tynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder sylweddol y mae angen i Bowys fynd i'r afael â nhw o ran gwasanaethau oedolion. Roeddwn yn falch, wrth edrych ar hynny, ei fod yn tynnu sylw at y ffaith bod morâl y staff wedi cael hwb erbyn hyn. Nid oedd hi felly beth amser yn ôl, felly mae hynny'n gadarnhaol yn fy marn i. A gaf i ofyn i chi: sut byddwch chi'n mesur y gwelliannau y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol eu gwneud? Yn y pen draw, bydd gwell canlyniadau yn pennu, wrth gwrs, a yw gwasanaethau oedolion yn ddigon da fel nad oes angen lefel mor uchel o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru mwyach. Felly, a wnewch chi amlinellu rhai targedau penodol ar gyfer gwelliannau ac egluro pa waith sy'n cael ei wneud gyda Phowys ar hyn o bryd i ddatblygu'r rhain?

Hefyd, mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn tynnu sylw sawl gwaith at y ffaith bod gan y gweithlu sy'n darparu gwasanaethau oedolion gyfradd uchel o salwch ac absenoldeb, trosiant uchel a lefelau anghyson o oruchwyliaeth. Felly, tybed pa swyddogaeth fydd gan Lywodraeth Cymru wrth sefydlu strategaeth gweithlu sy'n gallu meithrin cryfder y gweithlu a darparu gwasanaeth amserol, gwybodus ac effeithiol.

Rydych chi wedi llongyfarch Mohammed Mehmet ar ei benodiad yn brif weithredwr dros dro. Fy nealltwriaeth i o'r sefyllfa yw ei fod yn brif weithredwr gweithredol, yn hytrach na phrif weithredwr dros dro—a wnewch chi egluro hynny? Ond rwyf innau wedi clywed sylwadau cadarnhaol iawn mewn ymateb i'w benodiad. Fe wnaethoch chi sôn am ei hanes da yn eich datganiad. A ydych chi'n hyderus bod penodiad y prif weithredwr newydd neu'r prif weithredwr gweithredol yn gywir? Efallai byddai'n ddefnyddiol gwybod, hefyd, am y broses recriwtio—beth yw swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses recriwtio honno.

Yn olaf, a ydych chi'n cydnabod, er mwyn meithrin gallu a sicrhau bod y gwelliannau hyn yn parhau, bod sefydlogrwydd o ran y dirwedd wleidyddol yn bwysig? Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod y cynigion yn y Papur Gwyrdd ar ddiwygio llywodraeth leol i gadw Powys yn un awdurdod lleol â'r un ôl-troed â'r bwrdd iechyd yn cyfrannu at y sefydlogrwydd hwnnw ac yn rhoi'r cyfle gorau un o sicrhau bod gwelliannau parhaus yn cael eu gwneud?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:20, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei eiriau caredig ar ddechrau ei gyfraniad, a hefyd am ei ddyfeisgarwch wrth sleifio'i sylwadau ar ddiwygio llywodraeth leol i ddiweddglo'r araith honno.

Fe ddechreuaf, efallai, y peth hawsaf, drwy ateb rhai o'ch cwestiynau olaf yn gyntaf. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad wrth benodi prif weithredwr Powys nac unrhyw awdurdod arall. Mater i'r awdurdod yw gwneud penderfyniadau o'r fath. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn barod i helpu a chefnogi, ond mae'n iawn ac yn briodol i'r llywodraeth leol ei hun wneud y penderfyniadau hyn. Penodwyd Mohammed Mehmet gan Gyngor Sir Powys, yn unol â'i weithdrefnau, ac rwyf i'n croesawu’r penodiad. Mae gen i bob ffydd ynddo ef a'i allu i arwain y gweithlu proffesiynol yng Nghyngor Sir Powys a chynnig yr arweinyddiaeth broffesiynol sydd ei hangen er mwyn adfer y cyngor i'r sefyllfa yr ydym ni i gyd yn dymuno iddo fod ynddi yn y dyfodol.

O ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru, mae llefarydd y Ceidwadwyr, Dirprwy Lywydd, wedi holi nifer o gwestiynau sy'n cyfeirio at swyddogaeth bosibl Llywodraeth Cymru, o ran strategaeth y gweithlu a chyflawni cyfres o ymyriadau. Gadewch imi ddweud hyn: un o'r pethau cadarnhaol, yn fy marn i, wrth edrych ar yr ymyraethau a gyflawnwyd i Bowys gyda chymorth Powys, yw bod y gwaith hwn wedi'i arwain i raddau helaeth iawn gan bobl sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol a phrofiad o lywodraeth leol, ac sydd wedi'u gwreiddio ynddynt. Dyma llywodraeth leol yn cynnal ac yn cefnogi llywodraeth leol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni, yn ystod y blynyddoedd nesaf, roi mwy o strwythurau ar waith a fydd yn galluogi llywodraeth leol i gynnal a chefnogi gwasanaethau llywodraeth leol.

Rwy'n gobeithio y bydd y dyddiau o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru yn dod i ben yn fuan, mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu rhoi strwythurau a dulliau a phrosesau ar waith y gall llywodraeth leol eu defnyddio er mwyn cymryd cyfrifoldeb am wella'r gwasanaethau a ddarperir i, gan ac ar gyfer llywodraeth leol. Dyna sut y dylai hi fod. Mae'n iawn ac yn briodol bod gan lywodraeth leol y strwythurau hynny ar waith ac, yn sicr, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud popeth yn ei gallu i ddarparu'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i gyrraedd y pwynt hwnnw.

Mae'r Aelod Ceidwadol wedi holi nifer o gwestiynau ynghylch sut y byddwn yn mesur gwelliannau a'r lefel uchel o ymyrraeth sydd ei hangen er mwyn cyflawni ein targedau a'n hamcanion. Dywedaf wrtho fy mod i'n disgwyl i'r bwrdd gwella gyhoeddi ei amcanion a chyhoeddi ei ffrydiau gwaith maes o law, a byddwn ni'n gallu dwyn y bwrdd gwella i gyfrif am sut y mae'n mynd ati i gyflawni a gwireddu'r uchelgeisiau hynny.

Ond gadewch imi ddweud hyn hefyd: rwyf i, fel ef, wedi darllen yr adroddiad ar wasanaethau oedolion, a gyhoeddwyd amser cinio heddiw. Rydym yn gweld methiannau yn y fan yna. Rydym yn cydnabod y methiannau, ond rydym ni hefyd yn cydnabod yr hyn a ddywedwyd am y gwasanaethau a ddarperir yno. Mae'r pwynt y gwnaeth Russell George yn ei gyfraniad ef, am forâl y staff a'r gweithlu, yn fy marn i, yn gwbl ganolog i bopeth arall yr ydym yn ceisio'i gyflawni yma. Rydym yn rhoi strwythurau ar waith ac yn sicrhau bod y bobl iawn yno i allu helpu i sicrhau bod gennym ni'r sgiliau technegol a'r sgiliau rheoli i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen, ac sydd gan bobl Powys bob hawl i'w disgwyl. Ond yn fwy na hynny, mae angen i ni fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'r diwylliant corfforaethol; mae angen i ni fynd i'r afael â diwylliant corfforaethol ym Mhowys, ac weithiau mewn mannau eraill hefyd.

Rwy'n gobeithio y bydd y newidiadau ehangach, y mae'r arweinydd yn cydnabod yn hollol eu bod yn cael eu gwneud, yn sicrhau'r newid hwnnw mewn diwylliant o fewn y sefydliad hefyd. Dywedaf, Dirprwy Lywydd, wrth yr Aelodau fod y cyfarfod a gefais â'r Cynghorydd Harris y prynhawn yma yn un da iawn a chadarnhaol iawn. Wrth adael y cyfarfod, roedd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a minnau yn teimlo'n gadarnhaol iawn am yr ymrwymiad y mae'r Cynghorydd Harris yn ei wneud i wella, a'r daith y mae'n ei harwain ym Mhowys. Ac mae'n sicr yn fater i mi a'r holl gydweithwyr gweinidogol sy'n ymwneud â hyn, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu pob cymorth sydd ei angen ar Bowys er mwyn cyrraedd pen y daith hon.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:24, 1 Mai 2018

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad ac am y cyfle i drafod nifer o faterion tebyg yn y gorffennol, gyda'r Gweinidog yn ogystal. A gaf i ddechrau gyda'r pwynt y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet bennu arno? Mae'n dda gen i glywed ei fod e'n ffyddiog bod pethau wedi gwella ym Mhowys, ond o edrych ar dri pheth, a dweud y gwir—yr adroddiad ar wasanaethau plant, yr adroddiad heddiw ar wasanaethau i oedolion ac, wrth gwrs, y gwaith y mae yntau wedi ei wneud ynglŷn â llywodraethiant y tu fewn i gyngor Powys—rydym ni yn gweld mai, yn fras iawn, yr un bobl sydd nawr yn gwella'r gwasanaethau a oedd yn gyfrifol pan aeth y gwasanaethau i drafferth yn y lle cyntaf. Er eu bod nhw wedi newid eu swyddogaethau, maen nhw'n dal yn rhan o'r un criw, i bob pwrpas, sydd wedi bod yno ers gwnaed rhai o'r penderfyniadau, yn enwedig y penderfyniadau cyllido, a wnaeth ein harwain ni i mewn i'r gors arbennig yma.

Felly, a gaf i ddechrau gyda'r trosolwg hwnnw, gan groesawu a dymuno'n dda i Mohammed Mehmet, pan fydd yn dechrau ar ei waith fel prif weithredwr dros dro, gan ddweud hefyd fy mod innau wedi cwrdd—ac Aelodau Cynulliad eraill—tuag wythnos yn ôl, gyda phrif swyddogion ac arweinydd y cyngor? Roeddem ni wedi ein plesio gydag atebion y prif swyddogion, yn sicr. Roeddwn i'n meddwl eu bod nhw wedi cael gafael ar y sefyllfa. Ond, erbyn hyn, a ydych chi o'r farn, fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am lywodraeth leol, fod y diffyg capasiti a oedd wedi cael ei amlinellu bellach wedi'i lanw o ran y staff hŷn, o ran y Cabinet ym Mhowys yn deall eu rôl hwythau yn gyrru'r gwaith yma ymlaen, ac o ran y dynodiad cyllidol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem yma? Felly, o ran y diffyg capasiti a'r tri chwestiwn penodol hynny, a ydych chi bellach—ac yn sgil eich cyfarfod heddiw—yn hapus gyda hynny?

Os caf i droi at yr adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, wrth gwrs rydym ni'n trafod hwnnw yng nghyd-destun adroddiad gwaeth o lawer yng nghyd-destun gwasanaethau plant, sydd yn lliwio i raddau beth yr ydym ni'n—. Mae'n anodd gwybod sut y byddem ni wedi ymateb i adroddiad heddiw oni bai ein bod ni wedi cael yr adroddiad cynt. Achos, fel roedd Russell George yn ei grybwyll, mae nifer o'r pethau a ddylai fod wedi digwydd nawr ar y gweill, ac rydym ni'n croesawu hynny, ond un o'r pethau sy'n gyffredin rhwng y ddau adroddiad yw diffyg dealltwriaeth—ac nid jest diffyg dealltwriaeth, ond absenoldeb dealltwriaeth—o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. A ydych chi o'r farn bod yr hyfforddiant bellach yn ei le i wneud yn siŵr bod pob swyddog ym Mhowys sydd yn gyfrifol, o dan y Ddeddf honno, bellach yn derbyn yr hyfforddiant yna?

Yr ail beth sy'n gyffredin rhwng y ddau adroddiad yw trosiant staff difrifol—staff yn symud, staff yn mynd, diffyg parhad staff. Mae wedi cael ei awgrymu i fi fod—os liciwch chi—y drefn fwy llym yn ddiweddar wedi gyrru rhai staff i benderfynu efallai eu bod nhw am adael y gwasanaeth, ond y mae'n dal yn drosiant, ac y mae'n dal angen i'r staff ddeall y sefyllfa ym Mhowys a bod yn glir ynglŷn â'u cyfrifoldebau. Beth sy'n gyfrifol am y diffyg dealltwriaeth yma? Ai'r trosiant naturiol sy'n digwydd? Ai natur Powys, fel cyngor cefn gwlad? Ai'r ffaith eu bod nhw'n delio, weithiau, dros y ffin â Lloegr hefyd? A ydych chi'n hapus bellach fod y mater yna wedi'i ddatrys, yn enwedig o safbwynt hyfforddi?

Un o'r pethau eraill sy'n dod allan o'r adroddiad heddiw yw bod gofal wedi'i ohirio ymysg oedolion yn effeithio ar wasanaethau ehangach ym Mhowys yn y gwasanaeth ysbytai a gofal. Byddwn i jest yn hoffi gwybod a oes gennych chi fwy i'w ddweud am fynd i'r afael â'r broblem arbennig honno hefyd.

Ac yn olaf, un o'r pethau rydw i'n meddwl sydd wedi ein harwain ni i'r sefyllfa yma ym Mhowys yw'r diwylliant gwleidyddol sydd wedi bod yn y cyngor sir yn y gorffennol: y diffyg herio, y diffyg rhannu gwybodaeth, diffyg tryloywder ymysg rhai o aelodau'r cabinet hŷn. Efallai bod hynny'n newid. Rwyf i'n gwybod bod rhai o'r grwpiau gwleidyddol yn fwy awyddus y tro yma i ddal pobl i gyfrif, ac yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi o'r farn bod y cyngor sir ei hun yn rhoi digon o gefnogaeth—hyfforddiant a chefnogaeth yn ystyr ehangach y gair—i'r gwrthbleidiau, i gynghorwyr unigol, fel eu bod nhw'n gallu dal y cabinet presennol i gyfrif, a hefyd fel bod ganddyn nhw arfau i ddeall y broblem yna, ac i fod yn rhan o'r ateb i ddatrys y broblem yn ogystal?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:29, 1 Mai 2018

Rydw i'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd, i'r Aelod am y ffordd y mae wedi dod â'i gyfraniad y prynhawn yma—cyfraniad adeiladol a phositif, ac rwy'n gobeithio bod yna gytundeb ar draws y Siambr y mae ei angen arnom ni pan rydym ni'n delio â rhai o'r problemau rydym ni'n eu hwynebu ym Mhowys.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:30, 1 Mai 2018

Rydych chi wedi gofyn sawl cwestiwn, ac, yn anffodus, rydw i'n credu fy mod yn mynd i ateb bron bob un yn yr un ffordd. Ydy, mae'r sefyllfa wedi gwella, ac mae yna welliant yn digwydd yn sir Powys, ond nid yw hynny yn meddwl ein bod ni'n gallu camu yn ôl, ac nid yw'n meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd y math o amcanion ac uchelgais yr oedd Russell George wedi'i awgrymu yn ei gyfraniad e. Felly, pan ydw i'n edrych—. Ac rydw i'n cytuno gyda chi bod eisiau trosolwg o'r sefyllfa ym Mhowys, ac nid i edrych ar wasanaethau plant neu oedolion neu'r mater o lywodraethiant y cyngor ar wahân ac yn unigol. Mae'n rhaid edrych ar draws pob un o'r adroddiadau a'r dadansoddiadau yma. 

Nid ydw i'n yn siŵr fy mod i'n cytuno mai'r un bobl sydd, yn eich geiriau chi, wedi achosi'r problemau ydy'r un bobl sy'n trio datrys y problemau. Rydym ni wedi gweld penodiadau newydd, fel rydw i wedi awgrymu yn fy natganiad i, ac rydw i'n gobeithio mi fyddan nhw yn gallu newid y ffordd mae'r cyngor yn cael ei redeg, a hefyd y steil a'r diwylliant. Rŷch chi wedi sôn amboutu'r diwylliant yn y cyngor, ac rydw i yn cytuno gyda chi ar hynny. Rydw i'n credu bod angen newid, nid jest yn y ffordd y mae pobl yn gweithio, ond sut maen nhw'n gweithio hefyd, ac mae hynny yn meddwl bod eisiau newid diwylliant, ac mae Aelodau, rydw i'n credu, o bob ochr y Siambr yn cydnabod bod hynny'n cymryd amser. Nid yw'n digwydd dros nos, a hefyd, mae'n rhaid i ni sicrhau ym mhob un rhan o'r Siambr ein bod ni'n rhoi tipyn bach o gefnogaeth i'r arweinyddiaeth i'w galluogi nhw i wneud hynny, er bod angen ar yr un pryd sicrhau bod y tensiynau priodol o sgrwtini ac atebolrwydd yn dal i ddigwydd y tu fewn i'r cyngor. Ac rydw i'n cytuno bod angen cydbwysedd yno, ac mae'n gydbwysedd sy'n gallu bod yn anodd ambell waith.  

Rydw i yn meddwl bod y capasiti y tu fewn i'r cyngor, fel y mae hi heddiw, yn ddigonol i alluogi nhw i gyrraedd yr amcanion rydym ni wedi'u gosod iddyn nhw. Rydw i yn meddwl bod gyda nhw y capasiti presennol i wneud hynny. Wrth gwrs, os ydym ni yn darganfod yn ystod y misoedd nesaf bod eisiau neu angen gymorth neu gefnogaeth ychwanegol, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon sicrhau eu bod nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Ein hamcan ni yw galluogi Powys i wella Powys. Ein hamcan ni yw sicrhau bod Powys yn gallu symud ar y daith yma gyda'n cefnogaeth ni, ac i sicrhau bod gyda nhw bob un o'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud hynny. 

Rydw i'n cytuno, ac rydw i'n gweld, bod yna ddiffyg deallusrwydd ambell waith amboutu—. Rydych chi wedi enw'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol; rydw i'n cytuno gyda chi ar hynny. Rydw i'n meddwl bod e'n mynd tipyn bach tu hwnt i hynny ac yn bellach na hynny ambell waith hefyd, ond mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod pobl yn cael y math o hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw i alluogi nhw i wneud y gwaith rydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud, ac rydw i'n hyderus bod hynny yn gallu digwydd a bod hynny yn mynd i ddigwydd. 

Rydych chi wedi gofyn amboutu drosiad staff a morâl ymhlith y gweithlu ym Mhowys, ac yn y gweithlu yn yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn benodol. Rydw i'n cydnabod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud. Nid yw i fi gynnig fy marn ar natur Powys fel cyngor sy'n gwasanaethau ardal neu ranbarth wledig. Ni fuaswn i'n cytuno bod problem yn y fan honno. Rydw i'n credu bod y problemau y mae Powys wedi eu hwynebu wedi bod yn broblemau y tu fewn i'r cyngor, ac wedi bod yn broblemau oherwydd y diwylliant sydd wedi bod tu fewn i'r cyngor. Ac rydw i'n gobeithio, fel yr ydym ni'n gwella'r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu rhedeg ym Mhowys, mi fyddwn ni'n gweld diwylliant gwell ym Mhowys hefyd. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n deall yr impact ar wasanaethau ychwanegol y tu fewn i'r cyngor, rydw i'n cytuno gyda chi ar hynny, ac rydw i'n hyderus mi fydd y prif weithredwr ac arweinyddiaeth newydd yn gallu gwneud hynny.

Ac a gaf i bennu ateb eich cwestiynau gyda hyn? Mae diwylliant gwleidyddol ym Mhowys wedi bod yn un Powysaidd iawn dros y blynyddoedd ac mae pob un ohonom ni sydd wedi cynrychioli'r sir yn y lle yma, a'r rhai sy'n cynrychioli'r sir heddiw, yn deall hynny. Rydym ni hefyd yn gweld, ambell waith, nad yw'r diwylliant gwleidyddol—rydw i'n ofalus gyda'm geiriau fan hyn—wedi bod yn ddiwylliant sydd wedi hybu sgrwtini ac wedi hybu'r math o densiynau sy'n angenrheidiol mewn unrhyw sefydliad democrataidd. Rydw i'n credu bod hynny yn newid ac mae'n rhaid i gynghorwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol ym Mhowys dderbyn y cyfrifoldeb dros wella Powys, gwella'r ffordd maen nhw'n rhedeg y cyngor a gwella hefyd sut maen nhw'n sgrwtineiddio'r executive ym Mhowys. Rydw i wedi gweld hyn yn digwydd yn fy nghyngor i ym Mlaenau Gwent ac rydw i'n hyderus bod y newid diwylliant gwleidyddol sydd ei angen—ac rydw i'n cytuno gyda chi ar hynny—yn bosibl ym Mhowys hefyd.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:36, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf innau hefyd ganmol Ysgrifennydd y Cabinet a'i ddau gydweithiwr am y ffordd y maent wedi bod yn agored a thryloyw— [Anghlywadwy.]—mater trasig. Nid yw hwn yn bwnc y mae unrhyw yn ceisio'i ddefnyddio i wneud unrhyw bwyntiau gwleidyddol, gan y byddai hynny'n gwbl anghywir, ac rwy'n credu bod y sensitifrwydd y mae Gweinidogion y Llywodraeth wedi'i ddangos wrth fynd i'r afael â'r dasg anodd hon yn gymeradwy iawn. Oherwydd, yn sicr, ni fyddech chi eisiau lleihau'r morâl mwy fyth yng Nghyngor Sir Powys, ac rydym ni i gyd yn cydnabod pa mor anodd yw gweinyddiaeth leol mewn sir sydd mor fawr, lle mae cysylltiadau trafnidiaeth yn anodd ac mae'r boblogaeth yn wasgaredig iawn. Mewn ardaloedd gwledig, mae problemau cymdeithasol yn aml yn llawer mwy anodd eu datrys nag y maent mewn ardaloedd trefol mwy dwys. Felly, mae gennym bob cydymdeimlad â'r cyngor sir a'r gwaith anodd sydd ganddynt i'w wneud. Ond, yn y pen draw, fel ym mhob achos o'r fath, methiant o ran arweinyddiaeth sy'n gyfrifol ac rwy'n derbyn pwynt Simon Thomas, bod llawer o'r un bobl a oedd yn rhan o'r penderfyniadau a'n harweiniodd ni at y pwynt hwn yn dal i fod yno. Y cwestiwn yw, i ba raddau y mae ganddyn nhw'r gallu i ddysgu o'r camgymeriadau hynny, a pheidio â'u hailadrodd. Mae hynny, ar hyn o bryd, yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei dderbyn ar eu gair, ac rwy'n gwerthfawrogi pa mor anodd yw hi i Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad fel hwn heddiw. Y cyfan sydd wedi digwydd, yn y bôn, yw ein bod ni wedi rhoi pobl newydd ar y brig yn y lleoedd hyn sy'n gorfod gwneud y penderfyniadau sylfaenol a fydd, gobeithio, yn datrys pethau yn y dyfodol. Ac yn sicr, rwy'n dymuno'n dda i Mr Mehmet yn y dasg anodd sydd o'i flaen.

Yr hyn y gwnes i fyfyrio arno fwyaf yn yr adroddiad gwreiddiol am y gwasanaethau plant oedd y datganiad beiddgar

'ymddengys mai'r her fwyaf arwyddocaol oedd y peth symlaf, sef cyfathrebu da a chynllunio cydlynol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o brofiadau bywyd beunyddiol plentyn A ac effaith sylweddol trawma difrifol mewn plentyndod cynnar.'

Y gweithwyr proffesiynol, yn baradocsaidd, a oedd yn cael anawsterau wrth gyfathrebu. Roedd y plentyn ei hun yn huawdl iawn wrth allu disgrifio'i anghenion. Ac mae honno'n sefyllfa ryfeddol ar y naw i fod ynddi. Rwy'n siŵr y bu'n brofiad trawmatig i staff Cyngor Sir Powys. Ni ddylai neb danbrisio hynny a dylid dangos cydymdeimlad. Nid wyf yn hoff o fwrw bai yn yr amgylchiadau hyn, ac eithrio â'r nod o gael canlyniadau cadarnhaol. Ac rwy'n credu bod ymagwedd y Llywodraeth yn hyn o beth, gydag Ysgrifennydd y Cabinet mewn sefyllfa—wel, tebyg i'r un a ddisgrifiwyd gan Walter Bagehot yn The English Constitution am y Frenhines Fictoria, fod ganddo hawl i ymgynghori, yr hawl i annog, a'r hawl i rybuddio. Roedd yn briodol, yn fy marn i, iddo ateb Russell George, gan dynnu sylw at y rhaniad yn swyddogaethau Llywodraeth Cymru ar y naill law a llywodraeth leol ar y llaw arall. Rwyf yn credu, fodd bynnag, ac yntau'n un o'r Aelodau mwy ymosodol yn y lle hwn, fod ganddo'r sgiliau angenrheidiol i ddenu pobl i ymuno ag ef hefyd. Mae ganddo'r sgiliau arwain, sydd, heb ddymuno bod yn rhy llawdrwm am y peth, yn rhoi'r cyfle i ni wneud y gorau o'r llanastr sydd wedi'i etifeddu o'r gorffennol.

Un o'r pethau rhyfeddol, yn fy marn i, yn adroddiad Sean Harriss yw lle mae'n dweud,

'mae rhywfaint o ddiffyg dealltwriaeth o beth yw "da" yn y sefydliad' ac

'ar adegau, nid oedd y Cyngor wedi'i "ddychryn ddigon" gan faint, graddfa a natur y newid sydd ei angen.'

Gobeithio bod hynny wedi newid erbyn hyn. Dywedodd hefyd,

'Nid yw'r Cyngor yn ddigon clir ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud, a sut i wneud hynny.'

Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y penodiadau newydd yn ymdrin â'r diffyg hwnnw hefyd. Er bod adroddiad Sean Harriss yn llawn iaith rheoli, rydym ni i gyd, rwy'n credu, yn gwybod beth sydd angen ei wneud. Ac mae'n rhaid iddi fod yn fenter gydweithredol. Mae grŵp o gyfoedion wedi'u tynnu ynghyd i gydgysylltu pethau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym ba mor aml y bydd yn gallu adrodd i ni ar y cynnydd a wneir gan yr unigolion newydd a'r sefydliadau hyn? Oherwydd ar hyn o bryd, rydym yn cymryd pawb ar eu gair; nid oes gan neb unrhyw opsiwn arall. Ond byddwn ni, rwy'n credu, mewn sefyllfa yn fuan iawn i ofyn a yw'r penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud, a yw'r timau rheoli newydd yn cael eu ffurfio, a byddwn ni'n gallu dod i gasgliadau ynghylch pa wersi sydd wedi'u dysgu o'r gorffennol.

Casgliad adroddiad Sean Harriss oedd y dylai holl drigolion Powys, ymhen pum mlynedd, fod yn dawel eu meddwl bod y cyngor sir yn cael ei reoli, a bod ei holl wasanaethau yn cael eu darparu i'r safon uchaf posibl. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gael ein sicrhau yn eithaf buan bod y penderfyniadau unioni angenrheidiol yn cael eu gwneud. Felly, tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dawelu ein meddyliau ni ar y pwyntiau hynny.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:42, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i arweinydd UKIP am ei sylwadau caredig a chywair ei anerchiad i'r Siambr y prynhawn yma. Mae'n ymddangos fy mod i'n dechrau pob cyfraniad heddiw drwy ateb y cwestiynau olaf yn gyntaf. Pa mor aml y byddwn ni'n adrodd? Rwy'n credu y byddwn i'n hapus iawn i adrodd i'r Aelodau yma bob tymor, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, y mae ei gylch gwaith yn ymdrin â'r materion hyn hefyd wrth gwrs, yn fodlon ac yn hapus i wneud hynny mewn modd tebyg. Rwy'n gweld ei fod yn nodio'i ben o'i sedd, felly fe wnawn ni gymryd bod hynny'n ymrwymiad ar ran y ddau ohonom i wneud hynny. Fe wnawn ni ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i Aelodau, boed ar ffurf datganiad ffurfiol ar y llawr, neu drwy bwyllgorau neu drwy ddatganiad ysgrifenedig. Ond byddwn yn sicr yn ceisio trafod â'r Aelodau sut y bydden nhw'n dymuno derbyn y diweddariadau hynny.

Rwy'n pwysleisio unwaith eto bod Gweinidogion bob amser ar gael, yn arbennig i'r Aelodau hynny sy'n cynrychioli etholaethau Powys, i siarad yn breifat ac i gael sgwrs, os oes angen hynny, ac rydym yn hapus iawn i barhau i wneud hynny. Rwy'n credu pan gododd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, y materion hyn gyntaf, roedd hi'n glir iawn, iawn o ran ym mhle yr oedd y materion hyn yn bodoli. Rwy'n credu hefyd ei bod yn deg dweud ei bod hi'n glir o ran sut yr oedd yn dymuno gweld y Llywodraeth a llywodraeth leol yn cydweithio i ddatrys rhai o'r materion hynny. Yn amlwg, gwelwyd yn ddiweddarach fod y materion hynny yn ehangach nag yr oeddent yn ymddangos yn y lle cyntaf, ac y mae'n iawn ac yn briodol i ni edrych yn ehangach ar y materion hyn o ganlyniad i hynny.

Nid wyf i'n dymuno rhoi sylwebaeth y prynhawn yma, neu ar unrhyw adeg arall, ar rai o'r rhesymau—fe soniodd arweinydd UKIP, Dirprwy Lywydd, am fethiant yr arweinyddiaeth. Rwy'n credu bod hynny'n glir ar rai lefelau; rwy'n credu bod hynny'n gwbl glir. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn i allu ei wneud heddiw yw sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar symud yr awdurdod yn ei flaen, yn hytrach nag edrych yn ôl ar y rhesymau pam y digwyddodd hynny. Mae'n bosibl iawn y bydd amser pan allai fod yn briodol i bwyllgor y cyngor neu bwyllgor y lle hwn edrych ar y materion hynny, ac yn sicr, byddwn i'n awyddus i gydweithredu ag unrhyw ymchwiliad a fydd yn digwydd i'r materion hynny, ond, i mi, rwy'n awyddus i ni ddarparu arweinyddiaeth yn awr, a darparu'r arweinyddiaeth y mae ar bobl a staff Powys ei heisiau, ei hangen a'i haeddu, ac fe wnawn ni hynny drwy weithio gyda'n gilydd. Fe wnawn ni hynny drwy ddysgu gyda'n gilydd a, rwy'n gobeithio, fel y dywedodd arweinydd UKIP, dysgu o'r camgymeriadau posibl a wnaed yn y gorffennol.

Mae'n llygad ei le yn yr hyn a ddywedodd am faterion cyfathrebu a chynllunio. Mae'r rhain yn faterion difrifol ac maen nhw'n faterion y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt ac a fydd yn cael sylw. Rwy'n gwbl hyderus bod gan y bobl sydd wedi eu penodi i swyddi arweinyddiaeth ym Mhowys y sgiliau i allu arwain, ond mae ganddyn nhw ddealltwriaeth hefyd o'r hyn y mae'n ei olygu i arwain ac ystyr arweinyddiaeth weddnewidiol. Nid mater o fynd ymlaen gan bwyll bach yw hyn, nid mater o dicio blychau, ac nid mater o wneud dim ond cymryd camau unioni syml i ymdrin â materion unigol o fewn un adran. Mae a wnelo â newid gweddnewidiol o fewn awdurdod i fynd i'r afael â'r diwylliant o fewn yr awdurdod, sut y mae'r awdurdod yn cynnal ei hun, ac yna'n cael ei ddwyn i gyfrif am y newidiadau hynny gan y bobl maen nhw'n eu cynrychioli ym Mhowys.

Fe wnes i gydnabod llawer iawn o'r hyn yr ysgrifennodd Sean Harriss yn ei adroddiad. Rydych chi wedi'i ddyfynnu yn dweud bod diffyg dealltwriaeth o'r hyn sy'n 'dda', a diffyg dealltwriaeth o'r hyn sydd angen ei wneud a sut i wneud hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau nad hwn yw'r tro cyntaf i mi ddarllen brawddegau o'r fath mewn adroddiad o'r fath. Gwn fod rhywfaint o gyndynrwydd mewn gwahanol rannau o'r Siambr am rai o'r cynigion yr wyf i wedi'u gwneud i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond dywedaf wrth yr Aelodau ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i edrych o ddifrif ar y strwythurau sydd gennym ar waith, a sicrhau ein bod yn gallu gwneud mwy na dim ond ymdrin â materion unigol mewn awdurdodau unigol pan fyddan nhw'n codi, ond yn hytrach, mae'n rhaid i ni sefydlu strwythurau sy'n fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Bydd yr Aelodau wedi gweld y sylw a roddwyd gan y wasg heddiw i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol, a'r hyn y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei ddweud. Dywedaf i yn y fan hon, fy mod i'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw. Nid wyf i'n credu bod y strwythurau sydd gennym ar waith yn gynaliadwy at y dyfodol. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn, iawn. Mater ar gyfer pob plaid unigol a gynrychiolir yma felly yw ystyried eu hymateb i'r heriau hynny, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni, yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, edrych tuag at weledigaeth y gallwn gytuno arni ar gyfer y dyfodol, lle bo gennym awdurdodau lleol cryf a chadarn sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb am wella gwasanaethau ar gyfer llywodraeth leol, gan gyflawni o fewn llywodraeth leol. Ac rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny mewn ysbryd cydweithredol a thrwy ymagwedd gydweithredol, sef yr union beth a awgrymwyd gan arweinydd UKIP y prynhawn yma. Dyna'r hyn rwyf i'n ceisio'i gyflawni, ac rwy'n credu bod yna gytundeb eang i hynny, nid yn unig yn y Siambr hon, ond ledled llywodraeth leol hefyd.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:48, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ychwanegu at y pwynt olaf a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, a hynny'n ymwneud â chydweithredu. Rydym ni i gyd yn gwybod, dros y blynyddoedd—ac rydym ni i gyd wedi clywed y cwestiwn yn cael ei ofyn—mae yna lawer iawn, iawn o enghreifftiau o arferion gorau mewn llywodraeth leol. Rydym ni wedi gofyn dros y blynyddoedd, pan ddaw adroddiadau fel hyn i law, ynglŷn â rhannu'r wybodaeth honno. Felly, nid yw'n beth newydd, nid yw'n astrus o gymhleth, rydym ni'n gwybod bod arferion gorau ar gael, byddai Cyngor Powys wedi gwybod eu bod ar gael, gan fod awdurdodau eraill wedi wynebu'r un problemau ac wedi llwyddo i'w datrys. Felly, mae'n debyg, mewn ffordd, dyna yw fy nghwestiwn cyntaf. 

Peth arall a allai fod yn ddefnyddiol—ac efallai wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei ystyried, ac mae wedi'i wneud cyn hyn, yn sicr ym maes amddiffyn plant—yw sicrhau bod y cynghorwyr, wrth herio'r gwelliannau hyn yn eu hawdurdod, yn deall y cwestiynau y dylen nhw fod yn eu gofyn, yn hytrach na gwneud dim ond sgorio pwyntiau gwleidyddol yn erbyn ei gilydd. Oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod—ac nid wyf i eisiau edrych yn ôl i'r gorffennol—ond rydym ni yn gwybod, rhai ohonom, hanes y methiant i gydweithio'n wleidyddol ym Mhowys, a'r anawsterau y mae hynny wedi'u creu gan nad oes arweinyddiaeth gyffredinol yno. Ac rwy'n aml iawn wedi'i chael hi'n anodd deall cyfluniad y peth a phwy sy'n gyfrifol a phwy sy'n cefnogi pwy, pam a sut. Ac fel y gwyddoch chi, rwy'n eithaf hyddysg mewn cyfluniadau gwleidyddol, felly os ydwyf i'n cael trafferth i'w ddeall, rwy'n eithaf sicr y byddai'r cyhoedd yn ei chael hi'n anodd hefyd. Felly, mae'n debyg mai fy mhle i yma heddiw, yn anad dim, yw bod y cynghorwyr a'r arweinwyr gwleidyddol yn y cyngor yn rhoi'r wleidyddiaeth o'r neilltu, yn rhoi pobl yn gyntaf ac yn ysgogi newid, ac yn codi i'r her maen nhw'n ei hwynebu yn awr. Ac mae'n eithaf amlwg mai arweinyddiaeth wleidyddol yw'r her honno, ac mae a wnelo â sicrhau bod y polisïau hynny yn cael eu gweithredu mewn fforwm y cytunir arni, gyda'n cefnogaeth ni.

Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi yw hyn: a fydd y bwrdd gwella a sicrwydd yn parhau i gydgysylltu'r gwelliannau, a hynny yng ngwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion ym Mhowys, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r broses honno hyd nes y cyrhaeddir adeg pan fyddwch chi'n teimlo y gallan nhw barhau heb y gefnogaeth honno? Hefyd, gan ddychwelyd at fy man cychwyn, a fydd hi'n wir y bydd llywodraeth leol ynddi'i hun yn dechrau helpu llywodraeth leol i wella, ac a oes modd i chi rywsut helpu i sicrhau bod arferion gorau yn batrwm i eraill ac yn cael eu hefelychu?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:51, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Cwestiynau diddorol iawn. Ie, rwy'n gobeithio y gallwn ni sicrhau bod arferion gorau—. Wyddoch chi, mae llywodraeth leol yn darparu rhai gwasanaethau gwych. Mae tuedd i ni drafod y materion hyn pan fo problemau gyda'r gwasanaethau hynny, ac rwy'n credu hefyd y dylem ni ddathlu llwyddiannau llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau i miliynau o bobl bob dydd. A dylem gydnabod, lle ceir problemau, bod y bobl orau i ddatrys y materion hynny yn digwydd bod mewn llywodraeth leol hefyd, yn fy marn i—pobl sy'n weithwyr proffesiynol profiadol yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac sy'n gallu adnabod y gwendidau yr ydym ni wedi'u disgrifio y prynhawn 'ma ac wedi'u trafod heddiw a nodi atebion i'r meysydd hynny. Felly, rwy'n gobeithio y bydd modd deall arferion gorau drwy lywodraeth leol ac y gallwn ni helpu llywodraeth leol, os oes angen, i roi'r mathau o strwythurau ar waith sydd eu hangen i wneud arferion gorau yn rhywbeth a welir ac a dystir ar draws llywodraeth leol ledled Cymru, flwyddyn ar ôl blwyddyn.

O ran ble yr ydym ni'n mynd gyda'r bwrdd gwella a sicrwydd, rydym ni wedi sefydlu'r bwrdd o dan arweinyddiaeth Jack Straw, cyn-brif weithredwr Abertawe, er mwyn darparu'r sicrwydd sydd ei angen arnom fod gwersi wedi'u dysgu a bod y gwelliannau yn cael eu cyflawni. Rwyf i wedi darparu cyllid ar gyfer y bwrdd hwnnw er mwyn iddo allu fwrw ymlaen â'i waith. Rwyf wedi rhoi ymrwymiad y prynhawn 'ma ac mae'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymrwymo hefyd i adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Aelodau ar y gwelliannau wrth iddyn nhw ddigwydd.

Bwriad y bwrdd gwella a sicrwydd yw gwella nid yn unig gwasanaethau cymdeithasol, ond materion corfforaethol ehangach hefyd o fewn y Cyngor. Rwy'n gwbl hyderus bod gennym ni'r strwythurau ar waith a fydd yn sicrhau bod y gwelliannau hyn yn digwydd, a hynny mewn modd amserol. Byddaf i'n sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei rhoi ar gael i'r Aelodau fel y gall yr Aelodau ar bob ochr o'r Siambr hon ein dwyn ni i gyfrif am yr ymrwymiadau hynny a'r sicrwydd hynny yr wyf i'n eu rhoi heddiw, y prynhawn 'ma.

O ran y diwylliant gwleidyddol o fewn unrhyw sefydliad, mae hynny yn nwylo'r Aelodau i raddau helaeth. Mae angen i'r Aelodau gyflawni swyddogaethau atebolrwydd a chraffu. Mae'n gwbl glir ac yn gywir bod yn rhaid i aelodau'r gwrthbleidiau a'r aelodau sy'n cynrychioli'r weithrediaeth ddwyn y weithrediaeth i gyfrif. Mae hynny'n wir yn y fan hon, mae'n wir ym Mhowys, mae'n wir mewn unrhyw sefydliad democrataidd. Ond mae sut y dylid dwyn arweinyddiaeth yr awdurdod i gyfrif yn gwestiwn gwahanol. Rwy'n gobeithio y bydd pob aelod o bob plaid wleidyddol, ac nid oes plaid wleidyddol nad oes cynrychiolaeth ohoni ym Mhowys, yn gwneud hynny mewn ffordd adeiladol a chadarnhaol. Efallai nad wyf i'n rhannu'n llwyr eich optimistiaeth chi, Joyce, y caiff gwleidyddiaeth ei rhoi i'r neilltu—rydym ni wedi dweud hynny o'r blaen ar adegau eraill—ond rwyf yn gobeithio, ac rwyf yn adnabod arweinwyr y gwrthbleidiau ym Mhowys—. Rwy'n adnabod Matt Dorrance, James Gibson-Watt ac Elwyn Vaughan, a gwn fod pob un ohonyn nhw wedi ymrwymo'n llwyr i bobl Powys ac i wasanaethu pobl Powys. Gwn y bydd pob un o arweinwyr y gwrthbleidiau yn gweithio'n galed i sicrhau bod Powys yn cael ei roi yn ôl ar y trywydd iawn ac y byddan nhw'n gweithio gyda'r weithrediaeth i sicrhau bod hynny'n digwydd, ac ar yr un pryd, yn dwyn y weithrediaeth i gyfrif yn y ffordd y maent wedi'u hethol i'w gwneud. Mae hynny'n gydbwysedd anodd ei gyflawni, ond rwy'n gwbl hyderus y gall aelodau Cyngor Sir Powys wneud hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:55, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.