– Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
Yr eitem nesaf yw eitem 8, dadl Plaid Cymru, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6712 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiangen.
3. Yn gresynu at y ffaith bod y cytundeb yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.
4. Yn gresynu ymhellach at y ffaith bod y cytundeb yn tanseilio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru sy'n datgan 'na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn gennym'.
5. Yn galw am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diolch. Rydym wedi clywed y siarad dwbl Orwellaidd y mae'r Llywodraeth hon wedi ei ddefnyddio i gyfiawnhau ei hildiad, a'r modd y cawsom ein cyhuddo o chwifio baner cenedlaetholdeb. Wel, buaswn o leiaf yn dweud nad baner wen yr ildiwr yw ein baner ni.
Heddiw, rwy'n mynd i ddadelfennu'r cytundeb hwn. Rwyf am ei dynnu'n ddarnau, ddarn wrth ddarn, ynghyd â'r cyfiawnhad afresymegol a roddwyd dros ymrwymo iddo. Fel bod meinciau'r Llywodraeth yn deall, fe rannaf fy nghyfraniad yn dair rhan glir. Yn gyntaf, fe amlinellaf faint eu henciliad ac ehangder eu rhagrith drwy dynnu sylw at ddatganiadau a wnaed cyn y cytundeb a sut y maent yn cymharu â'r cytundeb ei hun. Yna, fe symudaf ymlaen at sylwedd y cytundeb a'r gwelliannau, gan amlinellu sut y mae eu cytundeb gyda'r Torïaid yn peryglu egwyddor datganoli mewn modd sylfaenol iawn. Yn olaf, fe amlinellaf beth y mae'r cytundeb yn ei olygu ar gyfer dyfodol datganoli, ac yn sylfaenol sut y mae'n effeithio ar bobl yma yng Nghymru.
Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf ddweud nad oes ond un gair i ddisgrifio ymagwedd y Llywodraeth hon: rhagrith. Ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog darllenais ddyfyniad gan y Prif Weinidog yn ymwneud â'i wrthwynebiad ar y pryd i'r Bil ymadael. Gan nad oedd yno ar y pryd, hoffwn ei atgoffa o'r hyn a ddywedodd ar 27 Tachwedd 2017. Dywedodd:
ni fyddem yn derbyn cymal machlud. Pwy sydd i ddweud na fyddai'n cael ei ymestyn yn ddi-ben-draw yn y dyfodol? Mae'n fater o egwyddor.
Bellach, mae cymal machlud pum mlynedd yn rhan o'r ddeddfwriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddi. Ym mis Ionawr eleni, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol erbyn hyn:
Ni chredaf am eiliad fod greddf Llywodraeth San Steffan na'r Prif Weinidog o blaid unrhyw broses a fyddai'n caniatáu'n hawdd i Gymru gael y pwerau o Frwsel yr ydym yn eu haeddu ac y mae gennym hawl iddynt.
Mae'r ddeddfwriaeth yr ydych bellach wedi ymrwymo i'w chefnogi yn golygu bod 24 o feysydd polisi datganoledig yn symud dan reolaeth San Steffan. Gadewch imi fynd ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i'r adeg pan oeddem yn gyd-awduron 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Y pryd hwnnw, roedd safbwynt y Llywodraeth yn wahanol iawn. Ar dudalen 28 y Papur Gwyn hwnnw mae'n dweud mai ei pholisi craidd
'yw na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn gennym.'
Mae 'gwrthwynebu' i'w weld yn gyfystyr ag 'ildiad' yn thesawrws Ysgrifennydd y Cabinet. Gadewch imi egluro pam fod ildio un pŵer yn wan ac ildio 26 o feysydd polisi cyfan yn druenus. Ceir nifer bron yn ddi-ben-draw, i ddyfynnu Prif Weinidog Cymru, o enghreifftiau sy'n amlygu rhagrith Llafur, ond tynnaf sylw at un arall yn unig. Yr wythnos diwethaf, yn ei ddatganiad i'r Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet
'Byddai wedi bod yn well gennym pe na bai yna gymal 11' wedi'i gynnwys yn y Bil hwn. Drwy gytuno i gytundeb gyda'r Torïaid yn San Steffan, cael gwared ar y Bil parhad ac ildio ein holl ddylanwad i bob pwrpas, mae wedi sicrhau bod yr hyn a fyddai wedi bod orau ganddo bellach wedi'i golli.
Dywed y Blaid Lafur yn yr Alban fod y Bil hwn yn ddiffygiol. Credai ef ei hun ei fod yn ddiffygiol. Mae aelodau ei feinciau cefn ei hun yn meddwl ei fod yn ddiffygiol. Eto, mae'r Llywodraeth hon wedi ein bradychu. Mae'n embaras fod y Llywodraeth hon wedi dweud y pethau a wnaeth a bellach yn ceisio dweud wrth bobl Cymru ei bod wedi sicrhau cytundeb da. Roedd gennych bryd o fwyd seren Michelin ac rydych wedi gwneud stomp ohono. Ni fyddwn yn anghofio, ac ni wnaiff pobl Cymru anghofio chwaith.
Gadewch imi droi at ail bwynt fy araith, sef sylwedd y cytundeb amheus hwn. Mae dwy ran iddo: cyfres o welliannau i'r ddeddfwriaeth a chytundeb gwleidyddol heb unrhyw bwysau cyfreithiol. Fe soniaf am y gwelliannau yn gyntaf. Cydsyniad, cytundeb, y weithdrefn gadarnhaol—nid yw'n gysyniad anodd. Mae 'ie' yn golygu 'ie', mae 'na' yn golygu 'na'. Fodd bynnag, ym myd pen-i-waered Llywodraeth Cymru, mae 'ie' yn golygu 'ie', a 'na' bellach hefyd yn golygu 'ie'.
Er mwyn inni fod yn glir, gadewch imi ddarllen, air am air, union eiriad y gwelliant y mae'r Llywodraeth yn argymell ein bod yn ildio iddo. Gwelliant 89DA, a gyflwynwyd yn enw'r Arglwydd Callanan, adran 2(4), yn y cyfeiriad at is-adran (3)— penderfyniad cydsynio yw:
(a) penderfyniad i dderbyn cynnig yn cydsynio i osod y drafft, (b) penderfyniad i beidio â derbyn cynnig yn cydsynio i osod y drafft, neu (c) penderfyniad i dderbyn cynnig yn gwrthod cydsynio i osod y drafft.
Bellach gall San Steffan ddehongli cydsyniad fel (a) cydsyniad, (b) cydsyniad i beidio, (c) unrhyw beth arall y mae'n ei ddymuno. Yr unig gymhariaeth y gall arbenigwyr cyfreithiol yn y Cynulliad hwn ddod o hyd iddo yw deddfwriaeth gynllunio Llywodraeth Leol, ac mae honno hyd yn oed yn gryfach na'r hyn sydd wedi ei dderbyn yma. Mae San Steffan yn trin y Cynulliad hwn fel cyngor lleol ac mae ein Llywodraeth yn fodlon ar hynny.
Ddoe—.
A wnewch chi ildio? Mewn ymateb i'r pwynt hwn yn gynharach, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod y gwelliant hwn a'r holl welliannau yn amodol ar gonfensiwn Sewel beth bynnag. Ond fel y nodwyd gennych, wrth gwrs, ar saith achlysur gwahanol, mae Llywodraeth San Steffan wedi anwybyddu confensiwn Sewel. Felly, nid yw'n rhoi unrhyw amddiffyniad o gwbl i ni.
Ac mae'n dangos yn union pam na ellir ymddiried yn y Torïaid ar hyn.
Ddoe, ceisiodd Ysgrifennydd y Cabinet ddadlau ynghylch semanteg penderfyniad cydsynio yn hytrach na chydsyniad. Unwaith eto, nid oes unrhyw wahaniaeth. Yr hyn rydych wedi'i ildio yw y gall San Steffan ddehongli 'na' fel 'ie', ac mae'n sefyllfa lle byddant hwy ar eu hennill a ninnau ar ein colled beth bynnag sy'n digwydd.
Gadewch inni droi at y cytundeb fel y'i gelwir. Ymddiriedaeth nid cyfraith sy'n sail i'r cytundeb hwn, ac nid wyf yn ymddiried yn y Torïaid yn San Steffan i weithredu er budd cenedlaethol Cymru, ond mae'n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn gwneud hynny. A'r cysyniad o ymddiriedaeth sydd wrth wraidd y cytundeb hwn gyda'r Torïaid. Fel rhan o'r cytundeb, mae Llafur yn ymddiried mai'r 26 maes polisi a amlinellir yn y cytundeb yn unig y bydd San Steffan eisiau adfer rheolaeth arnynt. Ni chodeiddiwyd hyn yn unman yn y ddeddfwriaeth, a gallai gynyddu i unrhyw nifer ag y gwelant yn addas. A gadewch i ni fod yn glir: ni ddatganolir unrhyw bwerau ychwanegol o ganlyniad i'r cytundeb hwn. Yn syml, pwerau a oedd gan y Cynulliad hwn eisoes a arferir gan y Cynulliad hwn, ac nid yw hynny'n gyfystyr â phwerau ychwanegol. Dyma'r isafswm lleiaf y mae'r setliad datganoli yn ei ganiatáu, ac mae honni fel arall yn camarwain y Cynulliad hwn a phobl Cymru.
Ond nid dyna'r peth gwaethaf. Mae'r ddogfen fer sy'n amlinellu'r cytundeb yn cynnwys nifer trawiadol o gonsesiynau. Bydd fy nghyd-Aelodau'n tynnu sylw at lawer mwy, ond un o'r rhai mwyaf annifyr yw'r modd y caiff Cymru ei thrin yn wahanol i Loegr. Rwy'n cyfaddef bod hyn yn gymhleth, ond yn y cytundeb nad yw'n rhwymo—[Torri ar draws.]—ceir ymrwymiad niwlog i ddeddfu ar faterion Lloegr yn unig.
Diolch. I fynd â chi yn ôl ychydig eiliadau ar gwestiwn pwerau, oherwydd rwyf wedi drysu braidd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd pwerau mewn meysydd—maent yn feysydd datganoledig—ond bydd pwerau a ddelir ym Mrwsel ar hyn o bryd o ganlyniad i'r cytundeb hwn yn dod i'r Cynulliad hwn, yn hytrach nag i San Steffan. Felly, sut y gallwch ddweud na ddaw unrhyw bwerau ychwanegol i'r Cynulliad hwn? Byddant yn dod.
Mater i San Steffan yw penderfynu hyn i gyd. Partner iau ydym ni yn y broses.
Nawr, yn y cytundeb nad yw'n rhwymol ceir ymrwymiad niwlog i beidio â deddfu ar faterion Lloegr yn unig, ond yn y gwelliant sy'n rhwymol yn gyfreithiol caiff Cymru ei gwahardd yn eglur rhag deddfu ar faterion Cymru yn unig. Gadewch imi roi enghraifft i'r Aelodau. Gall San Steffan ddeddfu ar ffermio, sy'n faes polisi a ddatganolwyd, gymaint ag y dymuna, ac o ran hynny, gallant ddeddfu i newid y rheolau ar gyfer ffermwyr Cymru heb gydsyniad y Cynulliad. Eto, yn y maes polisi datganoledig hwn, ni fydd Cymru'n cael deddfu, ac ni cheir enghraifft amlycach o gipio pwerau na hynny. Yn y bôn, mae goruchafiaeth seneddol drosom a'r modd y caiff Lloegr driniaeth arbennig yn dangos lefel y dirmyg, y diffyg ymddiriedaeth a'r diffyg diddordeb sydd gan San Steffan tuag at Gymru. Mae ein dwylo wedi'u clymu gan y gyfraith, lle mae Lloegr yn gallu gwneud beth bynnag y mae'n ei ddymuno.
Rwyf am symud ymlaen yn awr at drydedd ran, a rhan olaf hyn: beth y mae'r cytundeb hwn gan Lafur a'r Torïaid yn ei olygu i fywydau pobl? Mae'r cwestiynau cyfansoddiadol cymhleth yn aml yn haniaethol, ond ceir llawer o ganlyniadau eglur a syml i'r ildiad hwn. Gadewch inni ddechrau gyda'r 26 maes polisi lle bydd San Steffan bellach yn dal yr holl awenau. Diolch i Lafur, bydd y Torïaid yn San Steffan yn gallu penderfynu ar fframwaith taliadau fferm, cymorth a phob math o reoliadau amaethyddol eraill, heb unrhyw ystyriaeth o sylwedd i'r hyn y mae Cymru ei eisiau. Nawr, bydd fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd yn amlinellu goblygiadau'r cytundeb hwn i ffermydd yn fwy manwl, ond hoffwn ofyn rhai cwestiynau i'r Prif Weinidog. A yw'n credu mai barwniaid barlys Lloegr neu ffermwyr mynydd Cymru fydd yn ennill cefnogaeth San Steffan? Pan fydd cytundebau masnach yn ei gwneud hi'n angenrheidiol i agor marchnadoedd bwyd, beth y mae'n argymell y dylem ei wneud, gan wybod ein bod wedi colli'r holl bwerau i'w atal rhag digwydd?
Gadewch inni edrych ar y peth mewn ffordd arall. Yn y cytundeb hwn, mae gennym gwestiwn ynghylch caffael cyhoeddus. Boed yn ddur, yn gymorth gwladwriaethol neu ein GIG, mae caffael cyhoeddus yn hanfodol i economi Cymru ac i'n sefydliadau cymunedol. Bellach, bydd y pwerau dros gaffael cyhoeddus yn San Steffan. A ydynt yn ymddiried yn y Torïaid i beidio ag agor ein GIG i gwmnïau preifat? Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn eisoes yn Wrecsam, ond gan eich bod bellach wedi rhoi pwerau y gallech chi fod wedi'u cael i rymuso San Steffan, pa obaith sydd gennych o'u hatal rhag agor ein GIG i fwy o gwmnïau preifat? Boed yn gytundeb masnach a buddsoddi trawsatlantig dull partneriaeth neu ryw gytundeb masnach arall, mae awydd y Torïaid i gyfiawnhau Brexit â chytundebau rhyngwladol newydd yn rhoi ein GIG mewn perygl, ac mae'r Llywodraeth hon newydd roi pwerau i'r Torïaid ddifetha ein gwasanaeth iechyd yn y weithred ofer hon.
Roedd datganoli'n cynnig ffordd well i ni, ffordd wahanol, ac rydych wedi dewis ildio hynny. Dros y dyddiau diwethaf, mae fy mhlaid wedi siarad ag arbenigwyr cyfansoddiadol, deddfwyr a chyfreithwyr. Maent i gyd yn dilorni hyn fel cytundeb amheus. Mae ein harweiniad wedi mynd, ein dylanwad wedi'i golli, a'n Cynulliad wedi'i wanhau, ac nid wyf hyd yn oed yn argyhoeddedig fod y Llywodraeth hon yn deall yn iawn beth y mae wedi ei wneud. Mae 'na' yn golygu 'ie' bellach; nid yw dau refferendwm datganoli yn golygu dim mwyach; ac mae San Steffan yn adfer ei goruchafiaeth dros Gymru. Rydym mewn byd cwbl newydd.
Rydym bob amser wedi derbyn y bydd angen fframweithiau a mecanweithiau i sicrhau gweithrediad y llyfr statud, ond nid fel hyn. Heno, byddwn yn pleidleisio ar y cytundeb amheus hwn, ac i gloi hoffwn wneud apêl: os ydych yn credu mewn datganoli, os ydych yn credu mewn Cymru well, os ydych yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru, yna ymunwch â ni. Mae'r gyfraith ar ein hochr ni a bydd hanes ar ein hochr ni hefyd. Aelodau'r Cynulliad, mae eich dewis chi heno yn syml: ymuno â'r rhai sy'n credu mewn Brexit a phleidleisio dros y cytundeb amheus hwn neu sefyll dros Gymru a phleidleisio yn erbyn y fath frad.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi alw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies?
Gwelliant 1. Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu:
a) y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael);
b) y bydd hyn yn amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau;
c) bod hyn yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i seneddau a chynulliadau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE;
d) y ddyletswydd a osodir ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i roi maes polisi o dan y pwerau sydd wedi'u rhewi yng nghymal 11;
e) y terfyn amser a gyflwynwyd ar y cyfyngiad dros dro ar gymhwysedd datganoledig; ac
f) bod hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil (Ymadael) yr UE.
Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eu bod wedi dod i gytundeb ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i'w gyflwyno yn dilyn hynny yn Senedd y DU. Golyga hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn argymell yn awr fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Felly, gadewch imi ailadrodd y diolch a'r llongyfarchiadau a roddais i Mark Drakeford a David Lidington, Gweinidog Swyddfa Cabinet y DU, am y ffordd bwyllog, aeddfed a phragmatig y maent wedi cynnal trafodaethau i sicrhau cytundeb pan drafodasom hyn yn faith yma yr wythnos diwethaf.
Unwaith eto, ar ôl trafod y mater hyd syrffed un wythnos, mae Plaid Cymru yn ceisio mynd ar ei drywydd y tu hwnt i syrffed. Ni allant help, a hwythau'n gaeth i hualau ideolegol canfyddiadau ffug a rhagfarn ymrannol. Cyrhaeddodd y cytundeb y cyfaddawd sy'n ofynnol ar y ddwy ochr, lle roedd pob ochr yn cydnabod yr angen am fframweithiau ledled y DU mewn meysydd penodol er mwyn osgoi amharu ar farchnad fewnol y DU. Mae'n drueni nad yw Plaid Cymru i'w gweld yn rhannu'r gydnabyddiaeth honno.
Bydd y newidiadau arfaethedig i'r Bil yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i'r Seneddau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE. Er y bydd pwerau dros bolisi datganoledig yn parhau i fod yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, bydd Llywodraeth y DU yn cael pwerau dros dro dros nifer fach o feysydd polisi a fydd yn dychwelyd iddynt fel y gellir gosod fframweithiau ledled y DU yn lle llyfr rheolau yr UE er mwyn sicrhau na chaiff rhwystrau newydd eu creu o fewn y DU i ddefnyddwyr a busnesau.
Rwy'n cynnig gwelliant 1 felly, sy'n cynnig bod y Cynulliad yn croesawu'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn croesawu y bydd hyn yn amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau, yn croesawu bod hyn yn golygu y bydd y mwyafrif llethol o bwerau'r UE sy'n croestorri â chymwyseddau datganoledig yn mynd yn uniongyrchol i seneddau a chynulliadau datganoledig pan fydd y DU yn gadael yr UE, yn croesawu'r ddyletswydd a osodir ar Weinidogion y DU i geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i roi maes polisi o dan yr hyn a elwir yn bwerau 'wedi'u rhewi yng nghymal 11', yn croesawu'r terfyn amser a gyflwynwyd ar y cyfyngiad dros dro ar gymhwysedd datganoledig, ac yn croesawu bod hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn argymell bod y Cynulliad hwn yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil (Ymadael) yr UE.
Er y bydd Gweinidogion y DU yn gallu nodi drwy reoliadau y meysydd polisi lle byddai cymhwysedd datganoledig yn cael ei rewi tra bo'r fframweithiau newydd yn cael eu cytuno, mae'r cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn golygu bod yn rhaid iddynt geisio cytundeb y deddfwrfeydd datganoledig bob tro y maent yn bwriadu gwneud rheoliadau i gynnwys maes polisi o dan y pwerau a fydd wedi'u rhewi yng nghymal 11. Er y bydd Senedd y DU yn rhydd i allu cymeradwyo'r rheoliadau ar gyfer y rhewi os caiff cytundeb deddfwrfa ddatganoledig ei wrthod neu os na chaiff ei ddarparu o fewn 40 niwrnod, bydd hyn yn ddarostyngedig i ddatganiad a wneir gan Weinidogion y DU i Senedd y DU yn egluro pam eu bod wedi penderfynu gwneud rheoliadau heb gytundeb deddfwrfa ddatganoledig, a gosod unrhyw ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pham na roddwyd cydsyniad gan y Cynulliad hwn. Bydd yr Aelodau'n rhydd wedyn i drafod a phleidleisio ar hynny yn Senedd y DU.
Yn groes i honiadau Plaid Cymru, hysbysodd cyfreithwyr y Cynulliad y pwyllgor materion allanol ddydd Llun na fydd Senedd y DU yn gallu cymryd yn ganiataol fod y Cynulliad wedi cydsynio os mai ei phenderfyniad cydsynio fyddai gwrthod cydsyniad. Dyna oedd y cyngor gan gyfreithwyr y Cynulliad. Rydym wedi galw ers tro am derfyn amser neu gymal machlud ar unrhyw gyfyngiad dros dro ar gymwyseddau datganoledig, ac mae'r cytundeb hwn yn darparu terfyn amser o ddwy flynedd ar ôl y diwrnod gadael ar y pŵer i wneud rheoliad os na chaiff ei ddirwyn i ben yn gynt, ac o bum mlynedd wedi iddynt ddod i rym ar y rheoliadau eu hunain os na chânt eu dirymu cyn hynny.
Wrth ddyfynnu'r Prif Weinidog yma ddoe a heddiw eto, gofynnodd Leanne Wood pwy sydd i ddweud na châi cymal machlud ei ymestyn yn ddi-ben-draw yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, mae'r cytundeb rhynglywodraethol hwn yn golygu y gellir byrhau cymal machlud er na ellir ei ymestyn. Fel y mae gwelliant y Blaid Lafur hefyd yn ei ddweud, bydd unrhyw fframweithiau DU gyfan yn lle fframweithiau presennol yr UE yn cael eu negodi'n rhydd rhwng y Llywodraethau, byddant yn amodol ar gonfensiwn Sewel, ac er bod y fframweithiau hyn wedi'u negodi, ni fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi wrth y status quo. Am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd yn y Cynulliad, rwy'n falch o allu datgan o blaid cydran o welliant Llafur. Diolch i chi.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Prif Weinidog i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?
Gwelliant 2. Julie James
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
3. Yn cytuno bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad.
4. Yn croesawu'r ffaith y caiff unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol.
5. Yn nodi ymhellach y caiff y Cynulliad Cenedlaethol y cyfle am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb pan fydd yn ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol sydd i'w gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Llyr Gruffydd. Dewch, deffrwch.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ie, wel, mae'n dweud y cwbl, onid yw ef? Am y tro cyntaf ers 15 mlynedd, mae'r Ceidwadwyr yn falch i allu llongyfarch y Llywodraeth Lafur ar ei gweithredoedd. Wel, trwy eu gweithredoedd yr adnabyddir rhywun, onid ife?
Mae wythnos yn amser hir, wrth gwrs, mewn gwleidyddiaeth, ond yn yr achos yma, mae wythnos a dau ddiwrnod ers i'r Ysgrifennydd dros Gyllid ymweld â Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yma gan honni yn fanna nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu cyrraedd cytundeb, wrth gwrs, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar welliannau i gymal 11 yn Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Ond, llai na diwrnod yn ddiweddarach, fe gawsom ni ddatganiad personol gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau bod y Llywodraeth wedi cyrraedd cytundeb. Ac, ers hynny, wrth gwrs, mae goblygiadau'r cytundeb yna i gymunedau gwledig yn enwedig, wrth gwrs, sef ffocws fy nghyfraniad i yn bennaf dros y munudau nesaf yma, wedi dod i'r amlwg.
Ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o ddatganiadau bwriad a pholisi sy'n ymwneud â dyfodol amaeth, gan gynnwys sicrhau bod ffermwyr Cymru am dderbyn pob ceiniog y maen nhw'n ei dderbyn nawr yn dilyn Brexit. Dim ond pythefnos yn ôl, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig fod gan y Llywodraeth gyfle unigryw i ail-lunio ein polisïau amaethyddol yn unol ag ymagwedd unigryw ac integredig Cymru at ein economi, cymdeithas a'n hamgylchedd naturiol. Ond, wrth gwrs, yn dilyn y cytundeb yma, wel, mae yna ddryswch llwyr ynglŷn â hynny nawr, a gallu Llywodraeth Cymru i wireddu yr uchelgais mae hi wedi bod yn ei hamlinellu.
Er enghraifft, fe gadarnhaodd Gweinidog Llywodraeth Prydain dros amaethyddiaeth, George Eustice, ddoe yn y Pwyllgor Materion Cymreig mai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fydd yn penderfynu faint o arian fydd ar gael i ffermwyr yn amodol ar adolygiad gwariant cynhwysfawr y Llywodraeth—y comprehensive spending review—gan gynnwys, wrth gwrs, sut y bydd yn cael ei ddosbarthu ar draws y Deyrnas Gyfunol. Nawr, yn syth, mae amaethwyr wedi'i gwneud hi'n glir eu bod nhw'n poeni os ydy hynny'n digwydd y byddwn ni o bosib yn symud i gylch tair blynedd yn lle saith mlynedd o safbwynt ariannu fel oedd gan CAP. Mae cwestiynau wedyn yn codi o ran eu gallu nhw i gynllunio tymor hir i ddiwydiant sydd yn ddibynnol ar fuddsoddiad cyfalaf sylweddol ac i ddiwydiant sydd â’i reolaeth strategol, wrth gwrs, yn seiliedig ar y tymhorau; ni allwch newid cyfeiriad dros nos, nac, yn wir, mewn cylchdro mor fyr â thair blynedd, yn aml iawn. Ac os ydyw’n ddibynnol ar yr adolygiad gwariant cyhoeddus, yna mi fydd yr arian hwnnw’n cystadlu â’r holl flaenoriaethau eraill. Eisoes rŷm ni wedi cael y cwestiwn wedi’i ofyn: pa mor uchel fydd ffermwyr mynydd Cymru yn ystyriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig pan fydd hi’n dod i’r materion yma? Mae ffermio, wrth gwrs, yn cynrychioli cyfran helaethach economi Cymru nag economïau gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac felly mae’r risg yn uwch o gael effaith ddifäol.
Nid oes dim byd yn y cytundeb rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn rhoi hyder i fi y bydd llais Cymru yn cael ei gryfhau yn y prosesau trafod yma ynglŷn â dyfodol y diwydiant amaeth. Ac os ydym ni mewn unrhyw amheuaeth o ran beth sydd wedi digwydd fan hyn, yna mae’r llythyr gan y Chancellor of the Duchy of Lancaster—nid oeddwn am drio cyfieithu hynny—wedi ei gwneud hi’n gwbl glir: os nad yw caniatâd yn cael ei roi gan y Llywodraethau neu’r Seneddau datganoledig, yna mi fydd Senedd y Deyrnas Unedig yn eu cymeradwyo nhw beth bynnag. Mae e mewn du a gwyn, felly lle mae yna ddryswch ynglŷn â hynny? Mae’r Llywodraeth yma yn gamblo gyda dyfodol cefn gwlad er mwyn bodloni ei thueddiadau unoliaethol, yn fy marn i.
Cwestiwn leiciwn i ofyn hefyd yw: pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o effaith y cytundeb yma ar Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol? Fel rhywun fuodd yn rhan o graffu'r Ddeddf yna, mae’n egwyddor drefniadol ganolog—dyna oedd y lein: central organising principle—y sector gyhoeddus yng Nghymru, ac mae disgwyl bod polisïau fel amaeth, fel yr amgylchedd, fel caffael cyhoeddus yn cwrdd â gofynion y Ddeddf yna. Mae yna gwestiynau yn fy meddwl i, lle rŷm ni’n mynd yn hynny o beth, ac efallai cawn ni eglurder gan y Prif Weinidog. Ble mae’n ein gadael ni o safbwynt polisi gwrth-GM? Ble mae’n ein gadael ni o ran cig eidion llawn hormonau a allai fod yn dod i’r wlad yma? Cyw iâr wedi’i glorineiddio yn dilyn cytundeb posib gyda Donald Trump, newidiadau i safonau lles anifeiliaid ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Yn olaf, gan fod y cloc yn fy nghuro i, nid dim ond Llafur, wrth gwrs, sy’n rhan o’r weinyddiaeth yma sydd wedi dod i gytundeb. Yn anffodus, nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn ei sedd, ond byddwn i’n leicio gwybod beth yw safbwynt Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y mater yma. A ydyn nhw, fel Llafur, yn ochri gyda’r Ceidwadwyr a UKIP, neu a ydyn nhw’n ochri gyda Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban? Rwy’n meddwl bod angen inni wybod yn union lle maen nhw’n sefyll.
Ac i gloi, mae Llafur yn gwybod—rŷch chi yn gwybod—pan fo UKIP a’r Ceidwadwyr yn ciwio i fyny i’ch llongyfarch chi am wneud rhywbeth, rŷch chi’n gwybod eich bod chi naill ai wedi cael eich twyllo, neu rŷch chi wedi gwneud camgymeriad. A’r tristwch fan hyn, wrth gwrs, yw mai pobl Cymru fydd yn talu’r pris.
Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma, mewn gwirionedd, drwy roi cydnabyddiaeth i'r gwaith a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Dylai pawb yn y Siambr hon gydnabod ymrwymiad Mark Drakeford i'r gwaith hwnnw. Ond nid yn unig Mark Drakeford, ond ei swyddogion hefyd oherwydd ni fydd llawer o bobl yn sylweddoli, efallai, mai'r trafodaethau dwys sydd wedi bod yn digwydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU sydd wedi caniatáu'r cyfleoedd ar gyfer cyrraedd lle rydym heddiw. Rhaid inni gydnabod yr holl waith a wnaed gan y swyddogion hynny, dan arweiniad Mark.
Ond hefyd, mae dull o weithredu Mark Drakeford a'i Weinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban, Mike Russell, wedi bod yn adeiladol ac yn eglur. Maent wedi bod yn sicrhau bod safbwynt y ddwy Lywodraeth wedi ei gyflwyno i gyfres o Ysgrifenyddion Gwladol yn San Steffan oherwydd rhaid inni gofio bod amryw o gadeiryddion wedi bod, a hyd nes yn ddiweddar nid oedd y cadeiryddion i'w gweld yn gwrando arnynt.
O ganlyniad i'r safbwynt negodi pendant hwn, rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn symud oddi wrth eu safbwynt cychwynnol chwerthinllyd o anwadalwch i safbwynt sydd bellach yn cynnig ateb ymarferol a gaiff ei ystyried yn fanwl pan fyddwn yn trafod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ymhen llai na phythefnos, a dyna pryd y cawn y bleidlais ystyrlon ar y cytundeb a'r gwelliannau.
Rwy'n gobeithio osgoi unrhyw agweddau technegol yn fy nghyfraniad y prynhawn yma oherwydd byddaf yn eu cyflwyno o bosibl yn ystod y ddadl honno pan fydd yn fwy ystyrlon cael dadl ynglŷn â'r agweddau technegol, rwy'n credu. Ond yn anffodus, mae un neu ddau o bwyntiau yr wyf am i'r Prif Weinidog eu hegluro i mi cyn gynted â phosibl. Nid oes unrhyw amheuaeth fod y cymal 11 sy'n dod i'r amlwg heddiw, os derbynnir y gwelliannau hynny yn Nhy'r Arglwyddi heddiw, yn dra gwahanol i'r un sy'n bodoli ar hyn o bryd yn y Bil. Ac mae'r cwestiwn parhaus gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, ynghyd â phwyllgorau eu Seneddau, wedi gallu dylanwadu ar y newid hwnnw. Y cwestiwn sydd i'w ateb cyn inni bleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar 15 Mai, nid heddiw, fydd: a yw'r newidiadau hynny wedi mynd yn ddigon pell i ganiatáu i'r Aelodau gefnogi'r Bil diwygiedig? Dyna'r cwestiwn y bydd pawb ohonom yn gorfod ei ateb ar 15 Mai. Unwaith eto, nid heddiw. Fodd bynnag, rwy'n gofyn am eglurhad ar un neu ddau o bwyntiau gan y Prif Weinidog.
Roedd y Bil gwreiddiol yn caniatáu i Lywodraeth y DU newid agweddau ar y Bil heb fynd gerbron y Senedd, a byddai hyn wedi cynnwys cyfle i ymestyn y cymal machlud—credaf fod hynny wedi'i amlygu eisoes gan nifer o bobl yn y ddadl y prynhawn yma—am gyfnod amhenodol o bosibl, drwy gadw'r pwerau yn San Steffan, a diwygio'r Bil dro ar ôl tro ar ôl tro. Os yw hynny'n wir, mae hynny'n amlwg yn anghywir.
Nawr, rwy'n deall y bydd y cytundeb bellach yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU fynd gerbron dau Dŷ'r Senedd, gan gynnwys Tŷ'r Arglwyddi, cyn y gellid gwneud newidiadau o'r fath, sydd felly'n gosod amddiffyniad cryfach i sicrhau nad yw parhad posibilrwydd amhenodol yn realiti mwyach. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi unrhyw eglurhad pellach i'r Siambr ar y pwynt penodol hwnnw? Oherwydd—yn fy marn i'n bersonol, mae pum mlynedd yn dal i fod yn rhy hir; mae'n mynd â ni i mewn i'r Cynulliad nesaf, ac mewn gwirionedd i mewn i Lywodraeth nesaf y DU yn ogystal. Hynny yw, os nad yw'n mynd cyn hynny. Ond efallai ei fod yn ein hatal rhag cael trafodaeth ynglŷn â beth y gallwn ei roi yn ein maniffestos, o ran pa bolisïau y gallwn eu gosod, cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2021.
Yn ail, rwy'n siomedig nad yw'r cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyflwyno adroddiadau neu reoliadau gerbron y Cynulliad cyn gynted ag y bydd yn eu cael gan Lywodraeth San Steffan. Nawr, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae'r cyfnod o 40 diwrnod yn cychwyn pan fydd Gweinidogion y DU yn rhoi'r adroddiadau neu'r rheoliadau hyn i'w cymheiriaid yng Nghymru, ond nid oes unrhyw ofyniad i chi eu cyflwyno ar unwaith gerbron y Cynulliad mewn gwirionedd; mae yna bosibilrwydd o oedi. Buaswn yn ceisio sicrwydd mai dyna yw bwriad Llywodraeth Cymru, gosod unrhyw adroddiad neu reoliadau gerbron y Cynulliad—ac fe roddaf amser i chi—heb fod dros 48 awr ar ôl i chi eu derbyn, felly mae'n rhoi cymaint o amser â phosibl i ni allu craffu ar yr hyn a ddaw gerbron.
Nawr, fe adawaf faterion technegol eraill, Ddirprwy Lywydd, tan y ddadl ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ond gan symud ymlaen, rydym am ganolbwyntio ar y fframweithiau hefyd a sicrhau bod y rhain yn gweithio i bobl a busnesau yng Nghymru. Dyna yw hanfod hyn: gweithio ar gyfer busnesau a phobl yng Nghymru, gwneud yn siŵr fod yna barhad, gwneud yn siŵr y gallwn barhau â gweithrediadau ac y gallwn dyfu ein heconomi.
Ond rhaid inni hefyd roi sylw i Filiau eraill a fydd yn dod drwodd—gadewch inni siarad am fwy na'r Bil ymadael â'r UE yn unig. Mae'r Bil Masnach yn un arall sydd â materion tebyg yn codi yn ei gylch ac mae angen inni sicrhau ei fod yn cael ei ddiwygio mewn modd tebyg, fel nad ydym yn caniatáu i un Bil newid rhywbeth sydd gan Fil arall mewn gwirionedd—ac edrychwch i weld a oes angen i chi edrych ar hynny—a dyna sy'n bwysig yn hynny o beth. Hefyd, fe fuom yn trafod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion. Soniwyd am y cytundeb, sut y caiff ei lywodraethu, sut y caiff ei ddyfarnu, sut y gallwn sicrhau bod pethau'n digwydd: mae yna bethau sydd angen rhoi sylw iddynt o hyd ynglŷn â Chyd-bwyllgor y Gweinidogion.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, felly fe roddaf y gorau iddi ar y pwynt hwn, ond hoffwn bwysleisio fy mod yn siomedig gyda'r cyfraniad ar ddechrau'r ddadl gan arweinydd Plaid Cymru, oherwydd teimlwn ei bod yn enghraifft arall o'r hyn a elwir yn 'brosiect ofn' yn hytrach nag edrych ar agweddau ar y cytundeb hwn a ble y gallwn symud ymlaen mewn gwirionedd. A dyna beth y mae pawb ohonom eisiau ei wneud. Nid oes neb yn y Siambr hon eisiau gweld pethau'n mynd tuag yn ôl; rydym am symud ymlaen. Dyna pam y cynhwyswyd y gwelliannau a awgrymwyd gennym ymlaen llaw. Gadewch i ni wneud yn siŵr y cawn y gorau y gallwn ei gael.
Ddoe, estynnodd Donald Trump ei derfyn amser ar gyfer penderfynu a fydd yn parhau i eithrio gwledydd yr UE rhag ei dariffau 25 y cant ar ddur ac alwminiwm sy'n mynd i mewn i'r Unol Daleithiau ai peidio. Ni ddylem danbrisio'r ansicrwydd i fusnes a'r farchnad y gall tariffau a rhwystrau masnach eu creu i ddiwydiannau o bob math, ond yn enwedig i ddiwydiannau sy'n dibynnu ar allforion megis dur. Mae'n allweddol i ganolfan ddiwydiannol fwyaf Cymru ac un o gyflogwyr preifat mwyaf Cymru yn Tata ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill yng Nghymru.
Nid yw'n gyfrinach ychwaith fod Llywodraeth y DU yn enbyd o awyddus i brofi ei bod yn ymdopi â chanlyniad Brexit, a'r dirywiad economaidd hirdymor y mae'n debygol o arwain ato, drwy hyrwyddo'r syniad o gytundebau masnach ar draws y byd. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r rhain fod yn gytundebau wedi'u teilwra'n bwrpasol, ac yn groes i'r byd ffantasi economaidd y mae Torïaid ac UKIP i'w gweld yn byw ynddo, lle mae Prydain yn dal i fod yn ymerodraeth fasnachol fyd-eang, mae'n amlwg nad yw gwledydd eraill yn baglu dros ei gilydd i ddatblygu cytundebau masnach rydd gyda'r DU. Daeth Theresa May yn ôl yn waglaw o'r India yn ôl yr hyn a welais yn ddiweddar.
Felly, yr hyn sy'n destun pryder mawr i mi ac eraill, yn enwedig y rheini sy'n gweithio mewn diwydiannau megis dur, yw beth yn union y mae Llywodraeth y DU yn mynd i ildio er mwyn denu cytundebau masnach. Mae pawb ohonom yn gyfarwydd â'r posibilrwydd o fwyd rhad wedi'i lenwi â chemegau o'r Unol Daleithiau yn tagu ein marchnadoedd, ond beth am y modd y mae gwledydd eraill yn mynnu ein bod yn aberthu rhannau eraill o'n sylfaen economaidd a'n cryfder er mwyn hwyluso cytundebau masnach? O ystyried bod yr Arlywydd Trump—i barhau i ddefnyddio'r enghraifft—wedi dangos tuedd i wneud penderfyniadau polisi sy'n ymwneud yn llwyr â bodloni ei gefnogwyr a fawr ddim arall, nid yw'n realistig tybio y gellid rhoi dur o'r DU a diwydiannau eraill ar y bwrdd fel rhan o gytundebau masnach yn y dyfodol.
Felly, yn fy marn i, mae ildio pwerau cymorth gwladwriaethol a phwerau caffael fel rhan o'r cytundeb Brexit ar bwerau yn eithriadol o fyrbwyll. Un o'r ychydig iawn o bethau cadarnhaol, rhaid imi ddweud, sy'n deillio o adael yr UE yw ein bod yn fwy rhydd o ran rheolau cymorth gwladwriaethol a chaffael cyhoeddus, a dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bachu'r rhain â dwy law, ond yn lle hynny, maent wedi eu hildio. Efallai fod yna gymal machlud, ond faint o bŵer a dylanwad a gaiff Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd mewn trefniadau cydsynio pan fo penderfyniad y Torïaid yn San Steffan yn un ar gytundeb masnach y DU? A ydynt o ddifrif yn mynd i flaenoriaethu elfennau o economi Cymru sydd mor hanfodol i gynnal yr economi fregus sydd gennym yma yng Nghymru?
Na foed inni anghofio, pan wynebodd Tata Steel fygythiad difrifol o gau neu golli swyddi ar raddfa fawr yn 2015 a 2016, Llywodraeth Cymru a ymrwymodd i gymorth gwladwriaethol fel rhan o becyn ehangach o fesurau i achub y diwydiant yma yng Nghymru. A gaiff y pŵer ei newid? Cafwyd cyhoeddiadau cymorth gwladwriaethol ar gyfer dur fel rhan o'r gyllideb ddiweddaraf, fel y gwyddom. Yn dechnegol, ni fydd y pŵer hwnnw gan Lywodraeth Cymru mwyach o ganlyniad i gytundeb Bil ymadael yr UE—a hyn ar adeg pan fo llawer o'r Aelodau Llafur yn dal i wisgo bathodynnau 'Achubwch ein Dur'.
I lawer o bobl a fu'n gwylio'r hyn a ddigwyddodd dros yr wythnosau diwethaf, bydd yn ymddangos yn glir iawn fod Llafur wedi penderfynu ei bod yn well i San Steffan arfer pwerau ymyrraeth economaidd allweddol, yn hytrach na'r fan hon ganddynt hwy eu hunain a'u Llywodraeth eu hunain.
Credaf fod angen inni fyfyrio ar ble roedd ein man cychwyn yn y broses hon. Roedd cymal 11, fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, i bob pwrpas yn Fil i ail-ganoli pwerau, a greai lanastr o'r setliad datganoli. Cynnyrch meddylfryd Llywodraeth y DU ydoedd, sy'n dal heb ymgodymu â datganoli, ac roedd yn parhau â'r math o feddwl sydd wedi arwain at fethiant llwyr i anrhydeddu'r holl addewidion a wnaed i gynnwys, ymgysylltu ac ymgynghori â'r Llywodraethau datganoledig.
Yr hyn sydd gennym erbyn hyn, yn ddiamau, yw cymal 11 gwahanol iawn. Mae'n amlwg fod Llywodraeth y DU wedi symud gryn bellter o'i safbwynt gwreiddiol, a chredaf fod hyn yn deillio o nifer o ffactorau: gwrthod y model cymal 11 gwreiddiol yn gadarn, cryfder y safbwynt cyffredin rhyngom a'r Alban ar faes o ddiddordeb cyffredin, a throsoledd y Bil parhad. Effaith hyn oll oedd rhoi pwysigrwydd cyfansoddiadol confensiwn Sewel yn flaenllaw yn y negodiadau fel mater o egwyddor, yn ogystal ag egwyddorion rhannu sofraniaeth sy'n sail i'r setliad datganoli. Hefyd, ni ddylid tanbrisio dylanwad dyfarniad y Goruchaf Lys nodedig yn yr achos erthygl 50—Miller—ar feddwl y Llywodraeth, a phwysigrwydd gwleidyddol y confensiwn yn arbennig. Yn ogystal â hyn, roedd doethineb gwleidyddol ac arweiniad yr Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford mewn trafodaethau hynod anodd a chymhleth yn ffactor pendant. Mae angen cydnabod y medrusrwydd a ddangosodd yn y trafodaethau hyn.
Fel gydag unrhyw negodi, nid yw'r cytundeb a gawsom yn rhoi popeth yr oeddem ei eisiau. Yr ateb symlaf fyddai dileu cymal 11 yn ei gyfanrwydd. Rwy'n dal o'r farn mai dyna fyddai'r ateb gorau wedi bod, ond fe ddywedaf eto fod cyfaddawdu yn y sefyllfaoedd rhynglywodraethol cymhleth hyn yn anochel. Nid oes gan Lywodraethau'r moethusrwydd sydd gan wrthblaid barhaol ac amhenodol. Y cwestiwn ger ein bron yw a yw'r cyfaddawdau a'r consesiynau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn ddigonol. A ydym wedi cyflawni digon o newid i ddiogelu buddiannau Cymru? Yn y pen draw, mater o farn wleidyddol yw hynny.
Yr hyn a gyflawnwyd yw trawsffurfio cymal 11. Mae'n gwrthdroi safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y DU. Mae meysydd datganoledig yn parhau wedi'u datganoli. Mae rhai pwerau a gydnabyddir gennym oll fel rhai hanfodol i ddatblygu fframweithiau diddordeb cyffredin i'w rhewi a'u gwneud yn amodol ar broses gydsynio Sewel well, rhyw fath o Sewel uwchgadarnhaol. Mae'r diwygiadau'n caniatáu rhai cyfyngiadau ar y pwerau i Gymru, ond ar yr un pryd, yn gosod cyfyngiadau ar Lywodraeth y DU a Gweinidogion Lloegr. Mae hyn nid yn unig yn ddull arloesol yn gyfansoddiadol o oresgyn y ddadl ynghylch tegwch a amlinellwyd gan y Prif Weinidog, mae hefyd yn gam cyfansoddiadol cyntaf, yn gynsail nodedig, o natur ffederal—cydnabyddiaeth o swyddogaeth weinidogol Seisnig yn ein setliad cyfansoddiadol sy'n gosod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa gydradd at ddibenion datblygu'r fframweithiau.
Mae hefyd yn gam cyfansoddiadol cyntaf yn yr ystyr, pe bai Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru cydsyniad, ni chaff wneud hynny heb ganiatâd eglur dau Dŷ'r Senedd a hawl clir Llywodraeth Cymru i gyflwyno datganiad yn amlinellu ei gwrthwynebiad—fel y dywedais, math o Sewel uwchgadarnhaol, sy'n codi statws cyfansoddiadol Sewel, gan ei gynnwys mewn proses seneddol ffurfiol a thraddodadwy.
Nawr, o farnu llwyddiant safbwynt negodi Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, mae angen inni ystyried canlyniadau peidio â rhoi cydsyniad. Byddai hynny, fel y gŵyr pawb ohonom, yn arwain at argyfwng cyfansoddiadol difrifol a fyddai'n niweidiol i Gymru, a hefyd yn niweidiol i'r DU. Felly, y cwestiwn yw: a ydym wedi cyflawni digon i roi cydsyniad? Rwyf o'r farn ein bod.
Nid dyma ddiwedd y mater fodd bynnag. Wrth symud ymlaen, mae'r cymal 11 newydd hwn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â datblygu'r fframweithiau, sy'n hollbwysig i fusnesau Cymru ac i economi Cymru. Mae hefyd yn gosod y paramedrau ar gyfer y Bil Masnach a deddfwriaeth ganlyniadol arall. Mae hefyd yn ein galluogi yn awr i ganolbwyntio ar fater undeb tollau a buddiannau Cymru mewn masnach sy'n rhydd o dariffau a rheoliadau, ac mae'n ein galluogi i fwrw ymlaen â datblygu gweithdrefnau a diwygio rhyngseneddol, sy'n hanfodol ar gyfer Prydain ôl-Brexit a datblygu cysylltiadau cyfansoddiadol mwy ffederal. Ychydig sydd gennym i'w ennill drwy ryfel neu anghytundeb cyfansoddiadol, a llawer i'w golli, ac rwy'n credu, drwy gefnogi'r cytundeb, ein bod yn rhoi buddiannau Cymru a phobl Cymru yn gyntaf.
Nawr, mae'n rhaid imi ymateb i'r hyn y credaf eu bod yn sylwadau eithaf sarhaus a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru pan gyfeiriodd at ildio, baneri gwyn ac ati. Fe ddywedaf hyn: rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Plaid Cymru yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf yn hytrach na rhai'r Alban. Mae'n resynus iawn nad yw Plaid Cymru yn gallu sefyll dros Gymru, a bod yn well ganddi ymostwng i Blaid Genedlaethol yr Alban wrth iddi fynd ar drywydd eu hideoleg ymwahanol gul. Ein dyletswydd ni yw hyrwyddo buddiannau Cymru, nid yr Alban. Bydd Llafur Cymru bob amser yn rhoi Cymru yn gyntaf, gan mai ni yw gwir blaid Cymru a phobl Cymru.
A gaf fi yn awr—[Torri ar draws.] A gaf fi alw yn awr—[Torri ar draws.] Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Os caf ymdrin, ar y cychwyn, â'r materion a godwyd gan David Rees a Bethan Sayed yn gyntaf oll, mewn perthynas â sefyllfa'r cytundeb, mae'n gywir ynglŷn â hynny. Byddwn yn edrych ar sut y mae'r Cynulliad yn cael adroddiadau cyn gynted â phosibl. Credaf fod hynny er budd pawb. Wrth gwrs, crybwyllwyd materion heddiw y bydd yn fwy priodol ymdrin â hwy pan edrychir ar y Bil Masnach, ac maent y tu allan i gwmpas y Bil ymadael. Ac wrth gwrs, bydd angen gwneud mwy o waith ar brosesau rhynglywodraethol, ond mae'r ffaith bod yna gytundeb rhynglywodraethol yn awr, am y tro cyntaf erioed, yn arwydd y gellir dangos bod y peirianwaith hwnnw'n gweithio.
Mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd Bethan Sayed, gallaf ddweud nad ydym yn cytuno bod cymorth gwladwriaethol y rhywbeth y dylid ei gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Ceir dau fater na chafwyd cytundeb arnynt eto: un yw natur cymorth gwladwriaethol, a pha un a yw wedi'i ddatganoli ai peidio; y llall yw dynodiad daearyddol bwyd. Felly, nid ydym yn cytuno â Llywodraeth y DU y dylai cymorth gwladwriaethol fod yn rhywbeth sy'n gyfan gwbl yn eu dwylo hwy, neu rywbeth a ddylai fod yn y pantri, y rhewgell, beth bynnag y dymunwch ei alw.
Wel, Lywydd, a gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, fod dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU i amddiffyn datganoli rhag jygarnot eu polisïau Brexit bob amser yn mynd i alw am benderfyniad, yn ogystal a rhoi a derbyn, ond weithiau rwy'n meddwl tybed a oes gennym ddealltwriaeth lawn o'r hyn y mae'r cytundeb hwn yn ei ddweud mewn gwirionedd. Yn y bôn, mae'n ymdrin â'r holl broblemau a nodwyd gyda'r Bil ymadael gwreiddiol. Fel y mae eraill yn y Siambr hon wedi dweud yn gywir, yn wreiddiol nid oedd Llywodraeth y DU yn barod i ildio dim ar gymal 11, a byddai pob un o'r 64 maes polisi wedi parhau yn San Steffan, heb unrhyw sicrwydd pryd y byddai'r pwerau hynny wedi cael eu rhyddhau i'r gweinyddiaethau datganoledig, a'r hyn a fyddai wedi bod yn gymal machlud amhenodol i bob pwrpas.
Roedd y Bil yn wreiddiol yn cadw llu o faterion datganoledig yn ôl i Lywodraeth y DU ar ôl inni adael yr UE, ac yn ddi-os y Bil gwreiddiol fyddai'r ymosodiad mwyaf sylfaenol ar ddatganoli ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol. Ond mae'r cytundeb wedi cael gwared ar y bygythiad hwnnw. Mae'n gam mawr ymlaen, a dylai unrhyw un sy'n credu mewn datganoli ei groesawu. Mae'n diogelu datganoli mewn modd mor llawn â phosibl wrth inni fynd i'r afael â chanlyniadau diddiwedd a dryslyd Brexit, ac fe nodaf y prif resymau, gan gynnwys yr amddiffyniadau yr ydym wedi'u sicrhau.
Yn gyntaf, ac yn hynod bwysig, yr hyn a welwn yn awr yw cytundeb sy'n cadarnhau gwrthdroad cymal 11. Ni chredaf y gall unrhyw un orbwysleisio pa mor arwyddocaol yw'r newid hwnnw. Mae'n dangos bod Llywodraeth y DU wedi dod yn bell o'i safbwynt gwreiddiol fod cymal 11 yn rhywbeth na ellid ymyrryd ag ef mewn unrhyw ffordd. Mae'n cadarnhau bod popeth wedi'i ddatganoli, ac eithrio categori penodol o faterion—mae'n fodel pwerau a gadwyd yn ôl, i bob pwrpas, yn y modd y mae wedi'i wrthdroi—lle rydym yn cytuno bod angen fframweithiau ar gyfer y DU.
Nawr, byddai'r cynnig gwreiddiol wedi cadw holl bwerau'r UE dros feysydd polisi datganoledig yn San Steffan. Byddai Gweinidogion y Goron wedyn yn eu rhyddhau os a phan fyddent hwy yn unig yn penderfynu gwneud hynny. Dyna oedd y cynnig gwreiddiol. Mae hwnnw bellach wedi'i wrthdroi. Delir pwerau dros feysydd polisi datganoledig yng Nghaerdydd a Chaeredin, ac eithrio meysydd fframwaith, a gaiff eu cynnwys mewn cyfres o gyfyngiadau manwl sy'n berthnasol i'r holl lywodraethau. Mae hynny'n bwysig, a byddaf yn dychwelyd at hynny.
Yn fyr, mae'r cytundeb yn gwbl gyson â'r model cadw pwerau a ymgorfforir yn Neddf yr Alban a Deddf Cymru 2017, ac mewn rhai ffyrdd mae'n cryfhau'r model hwnnw, fel y byddaf yn egluro. Yr ail bwynt i'w wneud yw y caiff fframweithiau eu nodi a'u cytuno drwy broses rynglywodraethol gydweithredol, yn seiliedig ar Sewel. Yn wreiddiol, bydd yr Aelodau'n cofio, barn Llywodraeth y DU oedd y byddai fframweithiau'n cael eu llunio a'u pennu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU. Unwaith eto, gwelwn symud enfawr oddi wrth eu safbwynt gwreiddiol. Bydd y broses hon bellach yn datblygu'r rheoliadau drafft sy'n nodi pa bwerau UE a gaiff eu rhewi. A gadewch i mi fod yn hollol glir: nid ydym wedi cytuno i unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd datganoledig. Felly, byddai'n anghywir honni y bydd y pwerau UE presennol dros y 26 polisi yn yr atodiad i'r cytundeb bellach yn San Steffan. Y realiti yw nad yw'r Bil a'r cytundeb eu hunain yn ildio dim. Y rheoliadau drafft, sydd eto i'w datblygu, a fydd yn cynnig cadw'r cyfyngiadau UE presennol mewn perthynas â rhai o'r elfennau o fewn y 26 maes—rhai elfennau, nid pob un ohonynt yn eu cyfanrwydd.
Nawr, yn hollbwysig, bydd y rheoliadau drafft hynny'n dod i'r Cynulliad i ni eu hystyried, ac i benderfynu a ydym yn rhoi ein caniatâd i'r cyfyngiadau hyn cyn eu gosod gerbron Senedd y DU. Mae'r cytundeb hwnnw wedyn yn cymhwyso'r un egwyddor ag sy'n gymwys ar hyn o bryd i ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n effeithio ar faterion datganoledig. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae gwelliannau'r Arglwydd Callanan yn ei wneud yw ymestyn confensiwn Sewel i gynnwys is-ddeddfwriaeth mewn modd na ddigwyddodd cyn hyn. Felly, mewn gwirionedd, mae'n ymestyn datganoli. Mae'n golygu na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn bwrw ymlaen i gyflwyno rheoliadau drafft gerbron y Senedd os yw'r Cynulliad wedi gwrthod rhoi cydsyniad. Nawr, bydd rhai yn dweud, 'nid fel arfer', ond dyna'n syml y mae'r trefniadau datganoli presennol yn ei ddweud. Dyna a ddywedai'r Deddfau a ddarparodd ddatganoli i'r Cymry yn dilyn y bleidlais—mae wedi'i fynegi yn yr un ffordd yn union yn setliad datganoli yr Alban. Felly, y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw defnyddio'r un dull a'r un iaith sydd eisoes wedi'i sefydlu'n rhan o'r broses ddatganoli. Mae pa un a ddylai hynny barhau yn y dyfodol yn ddadl y credaf fod angen inni ei chael, ond dyna lle rydym ni, yn gyfansoddiadol. Felly, mae'n symud Sewel gam ymlaen. Mae Sewel, cofiwch, yn rhywbeth a oedd yn perthyn i ddeddfwriaeth sylfaenol yn wreiddiol. I bob pwrpas, cafodd ei ymestyn bellach i gynnwys is-ddeddfwriaeth yn ogystal.
Nawr, pe bai Llywodraeth y DU yn dymuno, mewn amgylchiadau eithafol, ei bod am fwrw ymlaen â'r rheoliadau heb gydsyniad—rhywbeth y gall ei wneud yn gyfreithiol, mae pawb ohonom yn gwybod hynny, oherwydd sofraniaeth y Senedd, pa un a ydym yn cytuno â hynny ai peidio; yn digwydd bod, nid wyf yn cytuno â hynny, ond mater at rywdro eto yw hynny—wel, rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy na chyflwyno'i safbwynt ei hun yn unig, a rhoddir barn y deddfwrfeydd datganoledig gerbron Senedd y DU. Mae Senedd y DU yn ystyried y ffaith y byddai'r ddeddfwrfa hon wedi gwrthod cydsyniad. Felly, mae hynny'n rhoi Senedd y DU mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddi wrando ar fwy na barn Llywodraeth y DU.
Y trydydd pwynt: wrth gwrs, yr hyn a fydd yn digwydd yn awr yw y bydd y cymalau machlud yno ar wyneb y Bil o ran y pŵer i greu rheoliadau ddwy flynedd o ddiwrnod Brexit, a bydd unrhyw reoliadau'n cael eu gwneud am uchafswm o bum mlynedd. O'r herwydd, mae unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd felly'n rhai dros dro. Nawr, roedd Aelodau'n gofyn y cwestiwn: a ellir ymestyn y cymal machlud? Wel, yn yr ystyr y gall Senedd y DU wneud yr hyn a ddymuna, yn ddamcaniaethol mae hynny'n bosibl. Ond ceir cytundeb bellach, a rhywbeth sy'n llawer mwy pendant a real, na fydd hynny'n digwydd. Mewn gwirionedd, mae pwysau arall hefyd ar Lywodraeth y DU sy'n rhoi'r cysur sydd ei angen arnom na fyddwn yn gweld y cymal machlud yn cael ei ymestyn, sef hyn: mae'r cytundeb yn gosod cyfyngiadau pwysig pellach ar Lywodraeth y DU yn y ffordd hon, oherwydd mae'n rhoi sicrwydd diamwys na fydd Gweinidogion y DU yn dod ag unrhyw ddeddfwriaeth gerbron y Senedd i Loegr allu gwneud newidiadau i gyfraith yr UE a gedwir yn ôl mewn meysydd fframwaith. Mae'n golygu bod pawb ohonom yn cael yr un chwarae teg, ac un o'r materion y dadleuais yn gryf â David Lidington yn ei gylch yn y negodiadau a gefais gydag ef oedd nad yw'n deg y dylai Lloegr gael rhyddid a wrthodir i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn cael gwared ar y rhyddid. Felly, mewn gwirionedd, ceir pob cymhelliad bellach i wneud y cymalau machlud yn fyrrach, oherwydd nid yw o fudd i Lywodraeth y DU sy'n gweithredu mewn perthynas â Lloegr i gael ei chyfyngu yn yr un modd ag y byddem ni, ond mewn ffordd na fyddent wedi'u cyfyngu heb y cytundeb hwn. Gallent fod wedi gwneud beth bynnag y dymunent a byddai cyfyngiadau ar y Llywodraethau eraill yn y DU, ac mae hwnnw'n newid pwysig. Mae'n sefydlu chwarae teg i bawb er mwyn cadw fframweithiau presennol yr UE, ie—mae arnom angen hynny—ond hyd nes y bydd fframweithiau newydd wedi cael eu negodi a'u cytuno. Felly, gwelwn fod yna gymhelliad cryf i Lywodraeth y DU gytuno ar fframweithiau ymhell cyn diwedd y cyfnod o bum mlynedd ar ei hiraf, oherwydd fel arall ni allant wneud newidiadau yn Lloegr, er enghraifft i ddiwygio polisi amaethyddol yn Lloegr.
A gaf i ddelio gyda'r pwynt wnaeth Llyr Gruffydd ei godi? Mae'n bwynt pwysig dros ben. Mae yna ddau beth yn fan hyn sy'n bwysig: yn gyntaf, ble mae'r pwerau, ac yn ail, ble mae’r arian. Mae hynny'n rhywbeth sydd ddim wedi cael ei ddatrys ar hyn o bryd. Yn fy marn i, beth ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud yw sicrhau bod yna arian yn cael ei ddodi i un ochr a bod yr arian hwnnw yn cael ei roi i Lywodraethau neu i Seneddau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn yr un ffordd a gyda'r un faint o arian â nawr. Yn fy marn i, ni all ddod drwy fformiwla Barnett. Os yw'n dod drwy Barnett, yna byddai'r fformiwla, wrth gwrs, yn sicrhau ein bod ni'n colli 75 y cant neu 80 y cant o'r cyllid sydd gyda ni ar hyn o bryd. Mae hynny'n dal i fod yn rhywbeth y mae'n rhaid inni siarad amdano a'i ddatrys. Byddai'n hollol annheg i Gymru pe bai llai o arian yn dod i Gymru ac i amaethwyr Cymru, ac ni fyddai hynny byth yn rhywbeth y byddem ni'n cytuno ag ef. Ond mae hynny'n rhywbeth sy'n rhan o drafodaethau eraill, ac nid ynglŷn â'r Mesur hwn, byddwn i'n ei ddadlau.
Y pumed pwynt yw bod y cytundeb yn gwarantu y bydd Sewel yn gymwys i unrhyw ddeddfwriaeth seneddol a ddefnyddir i roi fframweithiau ar waith ledled y DU. Wrth gwrs, mae hynny'n sicrhau nad oes unrhyw berygl y bydd unrhyw un yn awgrymu, gan fod materion y tu hwnt i'n cymhwysedd dros dro, nad yw Sewel yn gymwys—mewn geiriau eraill, 'Tra bo pwerau yn y rhewgell, peidiwch â phoeni am Sewel, oherwydd nid yw'r pwerau hyn eto'n bwerau sy'n gyfan gwbl o fewn rôl y gweinyddiaethau datganoledig.' Ac mae'n golygu wedyn y bydd yn rhaid i'r Cynulliad roi cydsyniad i unrhyw Filiau o'r fath.
Rwy'n gweld, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi mynd ymhell dros yr amser. Ac felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi'r atebion i'r Aelodau, pa un a ydynt yn eu derbyn ai peidio. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod wedi dod ffordd bell drwy broses o negodi ac rydym wedi sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu wrth inni gael ein hysgwyd gan donnau Brexit.
A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr iawn. Fe ddechreuaf ar y pwynt hwnnw: rydym wedi dod ffordd bell. Mae'n ddadl a wnaeth Mick Antoniw hefyd, ac yn sicr o ran cymal 11, yn sicr fe ddechreusom mewn man amheus iawn ar y daith benodol hon, ac nid oes unrhyw amheuaeth fod y daith wedi symud yn ei blaen, a'n bod wedi symud i le gwell. Ond ni allaf ond teimlo bod y Llywodraeth wedi penderfynu camu oddi ar y trên wrth iddo ddod i stop ar ben clogwyn. A byddai'n well gennyf fod yn parhau yn awr i weld faint ymhellach y gallem fynd ar y daith hon. Ac mae'n ddigon posibl fod y cloc yn—[Torri ar draws.] Mae'n ddigon posibl fod y cloc yn ein herbyn, ond rydym yn gweld, beth bynnag yw eich barn ar beth sy'n digwydd yn yr Alban, ei fod yn berthnasol, a bod Gweinidog Cyllid Cymru wedi eistedd gyda Gweinidogion yr Alban fel rhan o'r negodiadau hyn, ac maent hwy, gyda chefnogaeth Llafur, wrth gwrs, yn yr Alban, wedi penderfynu parhau i ymladd. Byddai'n well gennyf pe baem yn parhau i geisio gwneud safiad er mwyn diogelu buddiannau Cymru, oherwydd rydych yn iawn; nid ydym yn cytuno ein bod wedi cael y cytundeb gorau posibl i Gymru.
Beth a ddigwyddodd i wneud i Weinidog cyllid Llafur newid ei feddwl mor sylfaenol yr wythnos diwethaf? Rwy'n dal yn ansicr, oherwydd gwyddom fod y newid meddwl hwnnw wedi digwydd mewn cyfnod byr iawn o amser. Yr hyn a wyddom, fodd bynnag, yw y bydd yr ildio, fel y'i gwelwn, yn arwain at oblygiadau hirdymor i ddatganoli ac i Gymru. Roedd y Llywodraeth yn benderfynol tan y funud olaf: 'A wnewch chi dderbyn y cymal machlud?', 'Na, mae'n fater o egwyddor, rhowch sicrwydd go iawn i ni na all Gweinidogion y DU wneud rheoliadau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru oni bai fod cydsyniad wedi'i roi yma yng Nghymru.' Yr yn sydd gennym yn awr er hynny, yn rhyfedd iawn, yw cytundeb y gall Gweinidogion y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig pan wneir penderfyniad cydsynio, oherwydd gallai penderfyniad cydsynio gynnwys gwrthod cydsyniad. Ac mae hynny'n rhywbeth y cadarnhaodd ein cyfreithwyr unwaith eto y prynhawn yma. Gall fod yn bwynt yr ydym yn anghytuno yn ei gylch, ond dyna yw ein dadansoddiad ni o'r hyn y mae hynny'n ei olygu.
I nodi'r hyn a ddywedodd David Rees—ein bod rywsut yn parhau â'r prosiect ofn a oedd yn gysylltiedig â'r refferendwm Ewropeaidd ym marn rhai, neu refferendwm yr Alban—nid ydym yn gwrthwynebu fframweithiau'r DU yma. Nid ydym yn gwrthwynebu fframweithiau'r DU a'r angen i weithio ar sail y DU gyfan ar nifer o faterion. Yn syml, rydym yn credu y dylai'r fframweithiau hynny fod yn ganlyniad i weithio mewn consensws ac ar y cyd ar draws yr ynysoedd hyn, a chredwn mai'r hyn sydd gennym yn y cytundeb hwn—y mae'r pleidiau eraill yn y Cynulliad ar fin ei gefnogi—yw bygythiad i ddatganoli.
Rwyf am dalu teyrnged yn gyflym iawn i Steffan Lewis am roi hadau'r Bil parhad i ni, Bil y credaf y dylai fod yn ffurfio sylfaen i safiad parhaus i ddiogelu buddiannau Cymru. Diolch i'r Bil hwnnw am alluogi'r negodiadau i barhau cyhyd ag y gwnaethant. Mae datganoli yn dal i fod yn ifanc. Ni all prosesau na digwyddiadau ddigwydd dros nos. Rwy'n gwybod, fel y mae llawer ohonom yma'n gwybod, fod gan ddatganoli ei elynion o hyd. Ymddiriedwyd ynom yma i feithrin democratiaeth Cymru ac nid i blygu dan bwysau neu dactegau llechwraidd Llywodraeth y DU i'w hildio. Efallai fod gennych ffydd ddiderfyn yn Llywodraeth y DU, ond yma rydym yn teimlo bod Cymru yn haeddu ymagwedd fwy gofalus yn hynny o beth, ac roeddech chithau hefyd ar y meinciau Llafur yn credu hynny tan yn ddiweddar iawn. Ond hefyd, credwn fod arnom angen ymagwedd fwy beiddgar o ran diogelu lles Cymru. Felly, gadewch inni sefyll dros ein hegwyddorion a chefnogi ein cynnig heddiw.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i ddatgan ei bod hi'n amser pleidleisio yn awr. Iawn. Diolch.