– Senedd Cymru am 2:19 pm ar 5 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'w hadrodd i fusnes heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar wasanaethau rheilffyrdd a metro de Cymru cyn bo hir. Ac, yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio yn gwneud datganiad ar newidiadau i gyfradd comisiwn cartrefi parc. Hefyd, mae'r amser a neilltuwyd i gwestiynau Cynulliad llafar y Cwnsler Cyffredinol yfory wedi ei leihau. Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a allem ni gael datganiad gan y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus ar y gefnogaeth a'r cymorth sydd gan gynghorau cymuned a chynghorau tref, a'r canllawiau sydd gan yr awdurdodau unedol o ran ymdrin â'n cynghorau tref a chymuned? Yn fy rhanbarth etholiadol i fy hun, mae gen i wahaniaeth mawr yn y lefel o gynghorau cymuned sydd ym Mro Morgannwg, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, ac rwy'n canfod, ar bob achlysur, bod gan awdurdodau lleol wahanol farn ar sut y maen nhw'n ymgynghori a sut y maen nhw'n ymgysylltu â'r cynghorau cymuned a thref hynny. Mae'n peri gofid gwirioneddol clywed llawer o gynghorwyr cymuned yn dweud eu bod nhw'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a'u diystyru'n llwyr ar yr hyn sy'n ris cyntaf ein proses ddemocrataidd. Byddwn yn ddiolchgar o gael deall pa swyddogaeth a pha gymorth a chanllawiau y mae'r Llywodraeth ganolog—Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn—yn eu rhoi i'r awdurdodau unedol yng Nghymru i wneud yn siŵr y ceir chwarae teg pan ddaw i'r ymgysylltu hwnnw a'r broses ymgynghori honno ar gyhoeddiadau pwysig. Diolch.
Iawn, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio'n hapus atoch chi, ac rwy'n credu ei fod yn dweud y bydd yn fwy na pharod i gyflwyno datganiad ar hyn.
A gaf i ofyn am ddadl Llywodraeth i ddathlu degfed pen-blwydd Cymru yn genedl Masnach Deg? Mae hynny'n rhywbeth y—. Rwy'n credu mai ni oedd y cyntaf yn y byd i gael y statws hwnnw, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn credu y dylem ni ei ddathlu fel Cynulliad. Ond byddai'n dda cael ei ddathlu â dadl Llywodraeth, oherwydd y byddwn ni'n defnyddio amser y Llywodraeth wedyn, sy'n beth da, gan ei fod ar ddydd Mawrth, sy'n beth da, oherwydd y bydd yn cael sylw pobl, ond oherwydd y gallwn ni hefyd gydblethu i'r ddadl honno y gwaith arall y mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn ei gwaith allestyn drwy Cymru o Blaid Affrica, ac wrth gefnogi masnach deg yn ystyr ehangach y gair. Rwyf ar ddeall bod y Llywodraeth wedi torri'r arian sy'n cael ei roi i fasnach deg yng Nghymru, felly gallwn ni ymchwilio i hynny hefyd. Ni fyddai'r ochr honno mor dda, ond rwy'n credu, ar y cyfan, ein bod ni eisiau dathlu degfed pen-blwydd Cymru yn genedl Masnach Deg yfory.
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd? Rwy'n deall y bydd ef yn ymweld ag Ysbyty'r Trallwng cyn bo hir yn dilyn y llifogydd, y llifogydd fflach sydyn iawn, a ddigwyddodd yno ryw wythnos yn ôl, a hoffwn ddiolch i'r gweithwyr a'r staff meddygol hynny a phawb a oedd yn gweithio i oresgyn yr anawsterau hynny. Pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dychwelyd, a gawn ni o leiaf ddatganiad ysgrifenedig ganddo ynghylch pa brofiadau a gwersi a ddysgwyd o hynny, yn enwedig pa gydnerthedd a chynlluniau y byddai angen eu gweithredu ar gyfer y dyfodol er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr—? Nid oes modd rheoli'r tywydd, ond mae modd gwybod effaith y fath fflachlifoedd o leiaf, a rhoi ystyriaeth i hynny.
Yn olaf, a gaf i ofyn am ddatganiad llafar efallai, rwy'n credu, gan adeiladu ar yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud—mae'n ddrwg gennyf, yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud—yn ystod cwestiynau ynghylch dyfodol y morlyn llanw ym Mae Abertawe, rhywbeth rwy'n gwybod y mae ganddi ddiddordeb mawr ynddo? Rydym ni'n clywed y sïon drwg iawn hyn o San Steffan am ddiffyg cefnogaeth ar lefel Llywodraeth y DU bellach ar gyfer y morlyn llanw a rhai sylwadau rhyfeddol o annoeth gan Alun Cairns—annoeth a chwbl anghywir, fel y mae'n digwydd, o ran ei mathemateg. Os gallwn ni gael datganiad gan y Gweinidog priodol—efallai y Prif Weinidog ei hun—gan gynnwys cyfeiriad at y llythyr, yr wyf erbyn hyn wedi'i weld, a ysgrifennodd heddiw i Greg Clark—. A byddai'n dda pe byddai'r llythyr hwnnw yn cael ei ddosbarthu nawr yn uniongyrchol i Aelodau'r Cynulliad, yn hytrach na drwy Twitter, er mwyn i ni edrych yn fanwl arno oherwydd, am y tro cyntaf, rwy'n gweld ffigur gwirioneddol o £200 miliwn yn y llythyr hwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Mae sôn wedi bod am hynny yn y gorffennol. Nid wyf wedi'i weld wedi'i ysgrifennu mewn du a gwyn o'r blaen. Yn sicr, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dydw i ddim wedi ei weld mewn unrhyw bapurau cyllideb o'r blaen. Cynllun ecwiti, cynllun cyd-ariannu: mae dull gweddol debyg wedi ei gymryd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Wylfa wrth gwrs, o ran buddsoddi mewn seilwaith ynni, ac, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU lunio contract gwahaniaethau, cytundeb tebyg i'r hwn ar gyfer Hinkley Point C. Mae hyn i gyd yn gadarnhaol o du Llywodraeth Cymru, ond mae angen inni ddeall sut y gallwn ni ddatblygu'r dull amgen hwn yn awr, a fydd yn cael ei gefnogi, rwy'n siŵr, gan bob ochr o'r Cynulliad hwn, gan fod y Cynulliad wedi pleidleisio yn unfrydol o blaid yr egwyddor o forlyn llanw, yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth reoliadol, fel y mae'r llythyr, mewn gwirionedd, yn ei ddweud. Yr hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw cynllun B wedi ei wneud gan Gymru. Mae hwn yn gyfle gwych, nid yn unig i greu swyddi, nid yn unig ar gyfer cynhyrchu ynni ym Mae Abertawe, ond hefyd ar gyfer technoleg y gall Cymru ei hun ei gwerthu dramor ac mewn gwirionedd ei harloesi a'i symud ymlaen. Mae arnaf ofn fawr iawn mai rhan o'r rheswm ein bod ni'n cael ein cadw'n ôl ac na chaniateir i ni fwrw ymlaen â hyn ein hunain yw bod rhai pobl yn meddwl y dylem ni ufuddhau ac na ddylem gymryd yr awenau gyda phethau fel hyn. Wel, dydw i ddim yn cytuno â hynny, a chredaf ei bod yn briodol iawn fod gennym ni amser yma nawr i drafod yr hyn a allai fod yn gynllun amgen: un a wnaed yng Nghymru, un lle efallai y byddwn ni yn gyd-berchnogion ar syniad o'r fath, lle rydym ni'n gweithio gyda'r cwmni, gyda'r sector preifat, ond bydd pobl Cymru ar eu hennill yn y pen draw, o'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ond gan ddod â Llywodraeth y DU, efallai â'i phen yn isel, ond, ar ddiwedd y dydd, dod â Llywodraeth y DU at y bwrdd hefyd.
Ie, wel, mae Simon Thomas, fel arfer, yn gwneud nifer o bwyntiau diddorol iawn. Rwy’n credu bod ein pen-blwydd yn Genedl Masnach Deg yn rhywbeth nad ydym ni wedi ei anghofio. Mae'n bwysig iawn ei ddathlu; rwy'n hapus iawn i ystyried beth y gallwn ei wneud i greu'r cyfle i wneud hynny. Mae'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn falch iawn ohono, ac rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr. Rwy'n sicr yn hapus i edrych ar sut y gallwn ni gynnig cyfle o'r fath.
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd eisiau rhoi diweddariad i'r Aelodau ar faterion sy'n gysylltiedig ag ysbyty'r Trallwng. Fe wnaf innau edrych gydag ef ar y ffordd orau o wneud yn siŵr bod yr wybodaeth ddiweddaraf honno yn cael ei chyflwyno. Dydw i ddim yn gwbl sicr beth yw graddau hynny, ond rwy'n hapus i archwilio sut i wneud hynny gydag ef.
O ran y morlyn llanw, cefais yr anffawd i ddigwydd clywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, y bore yma ar Radio Wales, ac roeddwn i'n meddwl bod yr hyn a wnaeth yn warthus. I ddyfynnu un o Ysgrifenyddion y Cabinet, 'â ffrindiau fel'na, pwy sydd angen gelynion?', wrth iddo dal i geisio honni ei fod ef yn gyfaill i'r lagŵn. Rwy'n credu bod ymddygiad Llywodraeth y DU yn y mater hwn wedi bod yn warthus. Roedd Adroddiad Hendry yn ei gwneud yn eithriadol o glir sut y gellid ei ddatblygu. Nid oes unrhyw esgus o gwbl ar gyfer droi yn ôl unwaith eto at ffigurau anghywir a chyfatebiaethau gwael. Mae'r syniad bod rhywun erioed wedi cynnig cymhariaeth debyg am debyg â Wylfa a, rywsut neu'i gilydd, os byddwch chi'n cynnwys Wylfa Newydd ar sail wahanol, yna bydd y morlyn llanw o reidrwydd yn syrthio, neu, yn wir, bydd unrhyw fath o fuddsoddiad yng Nghymru yn gwneud y tro, ac os yw yng Nghymru, mae'n rhaid bod y pethau hyn yn eithaf agos at ei gilydd ta beth, felly does dim ots wir os yw hyn yn y gogledd neu yn y de, sef yr argraff llethol a gefais o'r hyn yr oedd yn ei ddweud, nid yw hynny'n ddigon da.
Rydym ni'n hynod o falch o'r hyn yr ydym wedi'i wneud i geisio sicrhau bod y morlyn llanw yn mynd rhagddo. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny o ddifrif calon. Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud ei farn yn glir iawn, yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac o ganlyniad i hynny. Byddaf yn gwneud yn siŵr y caiff ei ddosbarthu i'r holl Aelodau, naill ai drwy ei roi yn y Llyfrgell neu drwy ryw ddull arall. Mae ar gael. Mae'n llythyr cyhoeddus. Rydym ni'n falch iawn o allu cefnogi'r morlyn. Rydym ni'n drist iawn y bu angen llythyr o'r fath heddiw. Fe ddywedaf i, er hynny, wrth gwrs, nad ydym ni wedi cael penderfyniad o hyd. Yr hyn yr ydym ni wedi'i gael yw llwyth o bethau wedi'u gollwng, a sïon, ac Ysgrifenyddion Gwladol yn mynd ar y radio i ddweud pethau, ond mewn gwirionedd nid ydym ni wedi cael unrhyw benderfyniad. Felly, byddwn i'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y dicter aruthrol a deimlir, mewn gwirionedd, tuag at y penderfyniad arfaethedig, yn gwneud iddynt feddwl ddwywaith ac y gallwn ni gael y penderfyniad iawn yn wir. Ond yn sicr rydym ni yn gefnogol iawn ohono, a byddaf i yn sicr yn archwilio yr hyn y gallwn ni ei wneud i wneud yn siŵr y gall Aelodau fynegi eu barn ar y pwnc yn rymus iawn.
Arweinydd y tŷ, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig ail-strwythuro gwasanaethau ieuenctid yn fy etholaeth, a allai arwain at golli hyd at 30 o weithwyr ieuenctid rhan-amser hyfforddedig. Rwy'n deall na fu unrhyw ymgynghori â'r bobl ifanc yn uniongyrchol, Fforwm Ieuenctid y Fro, na chyda chabinet ieuenctid etholedig, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn. Rwy'n deall hefyd nad ydyn nhw wedi ymgynghori â chomisiynydd Heddlu De Cymru o ran yr effeithiau ar bobl ifanc ac atal troseddu. Ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol â'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr ieuenctid. Byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad ar y mater hwn.
A gaf i ddweud nad ydwyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau? Byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddech chi'n rhannu'r amgylchiadau â mi, ac fe fyddaf i'n ystyried beth y gallwn ni ei wneud unwaith y byddwch chi wedi rhoi'r wybodaeth honno i ni.
Nick Ramsay.
Clywch, clywch.
Diolch, Llywydd. A gaf i—? [Chwerthin.] Diolch i chi am eich cefnogaeth, Oscar. A gaf i gytuno â sylwadau Simon Thomas yn gynharach, pan soniodd am bwysigrwydd dathlu statws Masnach Deg Cymru, rwy'n credu, y degfed pen-blwydd? Nid Cymru'n unig sydd wedi cyflawni'r statws masnach deg. Enillodd y Fenni statws tref masnach deg 11 mlynedd yn ôl. Fe es i, a helpu i dorri'r gacen y llynedd. Felly, a gawn ni hefyd longyfarch y trefi a'r aneddiadau ledled Cymru sydd hefyd yn gwneud eu rhan i gyfrannu at agenda masnach deg Cymru a chefnogi'r neges yn gyffredinol? Mae llawer o waith caled yn digwydd dros y wlad.
Yn ail, ac yn olaf, yn ddiweddar—. Bydd y rhai ohonoch sy'n dilyn fy Facebook wedi gweld fy mod i wedi bod mewn cyfres o weithdai yn niwrnod agored Cymdeithas Bysgota Gwent, a sefydlwyd i annog pobl yn sir Fynwy a de-ddwyrain Cymru i ddechrau pysgota a gwireddu’r manteision. Dysgais i lawer. Yn benodol, dysgais ei fod yn weithgaredd sy'n gwneud i chi dawelu'ch meddwl. Cydnabyddir erbyn hyn ei fod yn dda iawn ar gyfer problemau iechyd meddwl ac ar gyfer y rhai sy'n dioddef o straen, sydd wrth gwrs yn ganolog i ymwybyddiaeth o iechyd meddwl eleni. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad—dydw i ddim yn hollol siŵr pa Weinidog fyddai'n gwneud hyn, materion gwledig o bosibl. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i gefnogi gweithgareddau fel pysgota, ond nid pysgota'n unig, sy'n cael effaith lesol ar iechyd corfforol pobl, ond hefyd ar eu hiechyd meddwl?
Wrth gwrs, mae bob amser yn bleser gennyf longyfarch pob ardal yng Nghymru sydd wedi gwneud yr ymdrech i gefnogi masnach deg. Rydym ni'n falch iawn o fod yn Genedl Masnach Deg, ond wrth nid yw'n bosibl bod yn genedl Masnach Deg heb gefnogaeth pob un o'r cymunedau bach a grwpiau gwirfoddol a'r dinasoedd a'r trefi—pob math o gymunedau ledled Cymru—sy'n dod at ei gilydd i wneud hynny'n bosibl. Rwy'n hapus iawn i longyfarch y Fenni. Ceir rhestr fawr o drefi a chymunedau eraill sy'n ei gefnogi hefyd. Ac, fel y dywedodd Simon Thomas hefyd, mae'n gyfle i brynu nwyddau hyfryd iawn, gan wybod eich bod chi'n cefnogi cymuned o bobl sy'n gwneud y nwyddau hynny, sydd yn cael cyflog teg, ac yn cael bargen well, ond mae hefyd yn gyfle i gefnogi'r gwledydd o ble daw'r nwyddau, drwy estyn llaw o gyfeillgarwch a masnach iddyn nhw. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymuno ag ef wrth wneud hynny, ac, fel y dywedais wrth Simon Thomas, byddwn yn chwilio am gyfle i gael rhyw fath o gydnabyddiaeth ar gyfer y dathliad hwnnw yma yn y Senedd.
O ran pysgota, rwy'n falch iawn o glywed hynny—dydw i ddim yn dilyn eich cyfrif Twitter mor agos â hynny, na'ch cyfrif Facebook ychwaith, fel y byddwn ni wedi sylwi ar eich ymweliad â physgotwyr dros y penwythnos, rwy'n ofni, ond byddaf yn fy ngheryddu fy hun ac yn rhoi sylw mwy manwl yn y dyfodol. Ond wrth gwrs mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn; mae nifer fawr o weithgareddau awyr agored, gweithgareddau cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol yn fuddiol iawn i iechyd meddwl. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o hynny, ac mae'n rhan bwysig iawn o'n strategaeth iechyd meddwl—bod ymagwedd gyfan tuag at iechyd meddwl, gan gynnwys gweithgareddau corfforol, cymunedol a chymdeithasol yn rhan bwysig o hynny. Mae'r Aelod yn gwneud gwaith da iawn wrth dynnu sylw at effeithiolrwydd cymunedau megis y gymuned bysgota i gefnogi prosiectau iechyd meddwl o'r fath.
A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad brys? Yn dilyn ôl-troed cyfraniad ardderchog Simon Thomas i raddau helaeth, mae'n ymwneud â morlyn llanw Bae Abertawe. Yn amlwg, mae'r adroddiadau dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, fel y byddwch yn ymwybodol, yn peri siom enfawr. Yn Abertawe, yn amlwg, mae trydaneiddio'r brif linell reilffordd yn awr yn farw—bydd yn rhaid inni ymdopi â threnau diesel yn y dyfodol, tra bod diesel yn dod i ben ym mhobman arall oherwydd pryderon iechyd. Fel y gwyddoch, mae cefnogaeth fawr yn lleol ar gyfer datblygu morlyn llanw yn Abertawe, nid yn unig oherwydd y manteision amgylcheddol, ond hefyd o ran y potensial economaidd ar gyfer Abertawe a gweddill Cymru i ddod yn arweinydd y byd yn y maes. Byddai methiant Llywodraeth y DU i gefnogi'r cynllun hwn, yn wyneb yr adroddiad gan Charles Hendry a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ei hunan ac a alwodd y cynllun yn ddewis cwbl amlwg y llynedd, yn weithred warthus arall a fyddai'n bradychu Cymru.
Gan fod hyn mor strategol bwysig i Abertawe, a gweddill Cymru, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu'n glir yr hyn y mae wedi ei wneud yn y dyddiau diwethaf i ymateb i sïon bod y cynllun yn ymbalfalu. Clywaf yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, a hefyd eich ateb yn gynharach, ond rwy'n dal i feddwl bod angen i ni gael datganiad brys, fel y gallwn ni edrych yn fanwl ac o ddifrif ar yr hyn sy'n mynd ymlaen. Yn ychwanegol at yr hyn sydd wedi'i ddweud, a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio hwyluso cyfarfodydd â Llywodraeth y DU a datblygwyr yn y dyddiau diwethaf, er enghraifft? Oherwydd, mae angen inni wybod pa gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru wedi eu sefydlu, ac a yw'n barod i edrych ar fodelau arloesol i gyflawni'r cynllun hwn, fel y dywedodd Simon Thomas. Gallai Llywodraeth Cymru geisio defnyddio ei phwerau benthyca cyfalaf i fuddsoddi ym morlyn llanw Bae Abertawe, er enghraifft, yn hytrach na dilyn llwybr du drud ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Drwy sefydlu cwmni ynni Cymru sy'n eiddo cyhoeddus, gallai'r Llywodraeth ei hun gael y prosiect hwn yn ôl ar ei draed.
Dair wythnos yn ôl, yn y bleidlais cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma i gymeradwyo colli pwerau ym Mil ymadael yr UE, roedd y Llafur yn hapus ac yn falch o fod yn unoliaethol, ac yn gosod ei hymddiriedaeth yn Llywodraeth Geidwadol y DU. Nawr, wrth gwrs, anfantais o beidio â bod yn gyfrifol am eich tynged eich hun yw bod penderfyniadau sydd yn niweidiol i chi, yn niweidiol i Gymru, yn digwydd. Cic arall yn y dannedd, fel y dywedodd y Prif Weinidog. Faint o ddannedd sydd gennym ni ar ôl fel cenedl? Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddangos pa mor ymrwymedig yw hi i gyflawni'r cynllun hwn. Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu bradychu Cymru, yna mae angen inni feddwl am ffyrdd y gallwn ni ei gyflawni hebddyn nhw. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddatganiad brys ar y mater hollbwysig hwn?
Wel, rwy'n credu i mi gytuno â rhan o araith Dai Lloyd ar y morlyn llanw o leiaf. Dydw i ddim yn siŵr iawn mai'r datganiad busnes oedd y lle iawn ar ei chyfer, Llywydd, ond fel rwy'n dweud—
Roeddwn i'n hael.
Byddwn yn chwilio am gyfle i wneud yn siŵr bod y Senedd yn cael y cyfle i fynegi ei safbwyntiau dwys iawn ar hyn. Byddwn i, fodd bynnag, yn dweud, wrth gwrs, hyd y gwn i, wrth imi sefyll yma, nad oes unrhyw benderfyniad gwirioneddol wedi'i wneud. Rydym ni wedi cael cyfres o ollyngiadau a threialon ac ati. Rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth y DU wedi nodi'r croeso oer iawn y mae'r treial hwn wedi'i gael, ac felly rwy'n mawr obeithio y byddan nhw'n dod at eu coed ac yn gwneud y penderfyniad y mae'r adroddiad Hendry wedi gofyn iddyn nhw ei wneud. A gobeithio bod y meinciau gyferbyn â mi yn gwrando ar hyn—oherwydd gwn eu bod hefyd yn cefnogi'r prosiect—ac y byddan nhw'n rhoi rhywfaint o bwysau ar eu Llywodraeth eu hunain yn y DU i wneud y penderfyniad iawn.
Felly, dydyn nhw ddim wedi gwneud y penderfyniad eto, hyd y gwn i. Rwy'n mawr obeithio na fyddan nhw'n gwneud y penderfyniad hwnnw ac y byddan nhw'n callio. Fodd bynnag, os daw'r penderfyniad hwnnw maes o law, wedyn wrth gwrs, byddwn ni mewn sefyllfa i gymryd camau, ac mae'r llythyr yn nodi'r ffaith ein bod ni eisoes yn ei gwneud hi'n eithriadol o glir ein bod ni eisiau i'r prosiect hwn fynd yn ei flaen a'i fod yn bwysig i bobl Cymru. Fel y dywedais yn gynharach, os yw set o amgylchiadau yn ddigon da ar gyfer Hinkley, yna dylent fod yn ddigon da ar gyfer Gymru hefyd.
Rwy'n credu y bu croeso eang i'r bleidlais benderfynol yng Ngweriniaeth Iwerddon yr wythnos diwethaf i ddiddymu'r wythfed diwygiad a gwrthdroi'r gwaharddiad llwyr bron ar erthyliad. Credaf mewn gwirionedd ei fod yn achlysur pwysig iawn, ond mae'n amlygu'r ffaith mai Gogledd Iwerddon yw'r unig le yn y DU ac yn wir bron yr unig le yn Ewrop lle nad yw erthyliad yn gyfreithiol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn. Gwn ein bod wedi trafod yma yn y Siambr hon fynediad at erthyliadau i fenywod Gogledd Iwerddon drwy'r GIG yng Nghymru, ond a yw arweinydd y tŷ yn credu bod unrhyw achos ar gyfer dadl ynghylch sut y gallwn ni sicrhau bod menywod Gogledd Iwerddon yn gallu cael mynediad at erthyliadau yn yr un ffordd ag y gallwn ni yma? Rwy'n gwybod bod materion datganoli cymhleth yno, ond a oes gan arweinydd y tŷ farn ar sut y gallem fynegi ein barn yn y Siambr hon o bosibl?
Ydw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ei gwneud yn glir iawn bod gennym drefniadau ar waith i sicrhau bod menywod sydd angen gadael y lle y maen nhw'n byw ynddo a dod i Gymru i gael erthyliad pan fyddant yn canfod eu hunain yn yr amgylchiadau trist hynny—bod y trefniadau hynny'n parhau i fod ar gael. Rwy'n falch iawn ei fod wedi gwneud hynny'n glir iawn, ond yn amlwg nid yw'r sefyllfa honno yn ddelfrydol, ac mae angen i bobl gael cefnogaeth eu teuluoedd a'u cymunedau o'u cwmpas hefyd. Yn anffodus, rwy'n credu bod y fargen a wnaed rhwng Llywodraeth y DU a'r DUP yn golygu bod unrhyw debygolrwydd y byddwn ni'n gallu sicrhau newid yn y setliadau datganoli yn gyffredinol, i gael chwarae teg yno yn annhebygol iawn ar hyn o bryd, ond yma yng Nghymru, rydym yn hapus iawn—ac rwy'n falch, fel y dywedais, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ailadrodd hyn—i sicrhau y gallwn gynnig cymorth meddygol i fenywod sydd ei angen.
Gadewch i mi dalu teyrnged i ymgyrchwyr ar yr wythfed diwygiad yn ne Iwerddon. Roeddwn i'n falch iawn o weld hynny'n llwyddo. Roeddwn i'n synnu—Llywydd, maddeuwch imi, nid fy ngwybodaeth i fy hunan yw hyn gan nad wyf wedi cael y cyfle i ymchwilio i'r peth—ond cefais fy synnu i glywed un o'r ymgyrchwyr yn dweud fod ganddynt bethau eraill i'w gwneud yn awr, a bod cyfansoddiad Gweriniaeth Iwerddon yn dweud mai yn y cartref y mae lle'r fenyw, a'i bod hi'n teimlo'n siŵr y bydden nhw nawr yn gallu diwygio hynny hefyd. Rwy'n gresynu i glywed fod y cyfansoddiad yn cynnwys y fath beth, os yw hynny'n wir, ac rwy'n gobeithio y gallant ddwyn y diwygiad hwnnw yn ei flaen yn fuan iawn hefyd.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar waith gwasanaeth atal twyll yn y GIG yng Nghymru? Mae'r cyn-Brif Weithredwr gwasanaeth atal twyll yn y GIG wedi honni y gallai'r GIG yng Nghymru golli hyd at £200 miliwn y flwyddyn drwy dwyll ac nad oes digon yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hynny. Y llynedd, roedd y gwasanaeth yng Nghymru yn adennill ychydig o dan £350,000, sy'n biso drwy bach yn y môr, mewn gwirionedd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ba un a yw'n cytuno â'r cyn-Brif Weithredwr ynghylch graddau'r twyll yn GIG Cymru a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, os gwelwch yn dda?
Mae'n fater pwysig iawn, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gweld yr adroddiad dan sylw. Rwy'n credu y byddai'n briodol i'r Aelod ofyn cwestiwn yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad i gael deall beth yn union y mae'n ei wneud yng ngoleuni'r adroddiad hwnnw.
Yn ystod y toriad, gwelsom y cwmni Lush yn mynegi ei gefnogaeth i'r ymgyrch Spy Cops, sef ymgyrch i ddatgelu'r ffaith bod llawer o swyddogion yr heddlu, yn y 1980au hyd heddiw, yn treiddio i grwpiau ymgyrchu yma yng Nghymru a ledled y DU, yn cael merched yn feichiog ac yn cael perthynas rhywiol â merched heb iddynt wybod bod hyn yn wir. Nawr, roeddwn i eisiau deall beth yw barn Llywodraeth Cymru ar hyn ac a ydych chi'n fy nghefnogi wrth ymestyn yr ymchwiliad i weddill y DU—rwyf ar ddeall bod adolygiad barnwrol i geisio cynnwys Gogledd Iwerddon—a hefyd i ymestyn yr ymchwiliad cyhoeddus i ddatgeliad llawn. Oherwydd, ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod i ba raddau y mae hyn wedi effeithio ar fywyd Cymru. Gwn fod ymgyrchwyr o'r enw 'Lisa Jones' a 'Deborah'—ffugenwau yw'r rhain i'w cadw'n anhysbys—sydd wedi cael problemau difrifol ar lefel bersonol o ganlyniad i'r perthnasoedd hyn â swyddogion yr heddlu. Nawr, nid bwriad yr ymgyrch hon yw ceisio tanseilio'r heddlu cyfan, ac rwy'n credu bod angen gwneud hynny'n glir. Ond rwyf i hefyd yn credu mai'r mater pwysicaf yma yw bod bywydau menywod wedi'u heffeithio'n ddifrifol, a dylai pob un ohonom fod yn pryderu am hyn ac, o bosib, am y newyddion nad ydym yn gwybod am rai o'r straeon o Gymru yn hyn o beth ar hyn o bryd. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r menywod hynny sydd wedi dioddef a chefnogi'r ymgyrch.
Ie, roeddem ni i gyd wedi ein brawychu pan ddechreuodd y newyddion am y gweithrediadau cudd hyn ddod i'r amlwg ychydig o flynyddoedd yn ôl. Ni ellir dychmygu'r trawma y mae rhywun yn mynd trwyddo wrth ddarganfod nad yw ei bartner y person y dywedodd yr oedd o gwbl a bod ei fywyd cyfan, wedi bod yn gelwydd llwyr mewn gwirionedd. Mae'n ffordd warthus i unrhyw heddlu ymddwyn mewn unrhyw wlad, heb sôn am mewn democratiaeth. Nid oes gen i eiriau i fynegi pa mor ddig yr wyf i am y peth. Byddwn i'n fwy na pharod i ymchwilio gyda fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus p'un a oes unrhyw faterion nad ydyn nhw wedi dod i'r amlwg yng Nghymru a sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael y newyddion diweddaraf. Os oes gan Bethan Sayed unrhyw wybodaeth benodol y mae hi'n credu y byddai o gymorth yn hynny o beth, byddem yn falch iawn o'i chael.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni amser am ddadl ar y fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr? Diben y fframwaith yw sicrhau bod y rhai sydd wedi goroesi trais yn erbyn menywod yn gallu llywio a dylanwadu ar waith y Llywodraeth yn ymwneud â cham-drin domestig a thrais rhywiol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mai. Pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei hymateb, byddai'n dda cael sesiwn holi ac ateb yma yn y Siambr hon. Rwy'n siŵr y bydd rhai Aelodau wedi gweld a chlywed barn Germaine Greer a oedd yn ceisio denu sylw ar drais rhywiol a adroddwyd yn y newyddion yr wythnos diwethaf. Mae sylwadau fel hynny, yn fy marn i, yn beryglus, oherwydd gallan nhw niweidio a digalonni a thanseilio ymgysylltiad goroeswr, ond yn bwysicach, ar adeg pan fo angen cymorth ar bobl, mae hi'n tynnu oddi arnynt, drwy ei sylwadau, drwy eu rhannu, y ddealltwriaeth a'r urddas sydd eisoes wedi ei dynnu oddi arnynt. Felly, nod y fframwaith cenedlaethol yw gwneud yn gwbl i'r gwrthwyneb i'r hyn y ceisiodd hithau ei wneud, sef grymuso menywod i lywio ac arwain y polisïau Llywodraeth sy'n effeithio arnyn nhw. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni neilltuo rhywfaint o amser i gael dadl resymegol ac ar yr un pryd, condemnio'r math hwnnw o drafodaeth yma yng Nghymru—yn fy marn i, dim ond i dynnu sylw at ei hun yn hytrach nag unrhyw ddiben ystyrlon o gwbl.
Ie, rwy'n credu bod Joyce Watson yn gwneud pwynt da iawn, gan ei bod hi bob amser yn siarad ar ran goroeswyr y mathau hyn o warth. Byddwn yn parhau â'n cynllun uchelgeisiol i wella'r ymateb i holl ddioddefwyr cam-drin a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol medrus iawn, yn ein holl wasanaethau cyhoeddus, sy'n barod ac yn gallu cynnig y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar goroeswyr. Rydym yn rhoi goroeswyr yn ganolbwynt ein hymateb i bob trais domestig, trais rhywiol a throseddau eraill o drais, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni wneud hynny. Felly, heb dynnu i ffwrdd—rwy'n deall bod Germaine Greer yn mynegi ei barn ei hun o'i phrofiad ei hun ac, yn ffodus i mi, ni chlywais yr hyn yr oedd ganddi i'w ddweud, ond rydym ni wedi dysgu llawer iawn trwy ein gwaith ymgysylltu helaeth â goroeswr bod goroeswyr yn ymateb i'r profiad yn wahanol iawn ac mewn ffyrdd gwahanol iawn, ac, i lawer, mae iddo ganlyniadau tymor hir a difrifol iawn, fel y nododd Joyce Watson. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ystyried hynny.
Yr wythnos hon, fe wnes i gyfarfod â'r comisiynydd heddlu a throseddu—ein cyd-Aelod blaenorol—Jeff Cuthbert, i drafod ag ef beth oedd yn digwydd yng Ngwent o ran yr adolygiad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd o achosion o drais rhywiol. Yr oedd yn fy sicrhau eu bod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod cynrychiolaeth briodol ar bob ochr o'r adolygiad o dreialon trais rhywiol, y dioddefwyr a'r goroeswyr ac, yn wir, wrth gwrs, y cyflawnir cyfiawnder i'r rhai sydd wedi'u cyhuddo o drais rhywiol a chyn euogfarn. Cefais fy nghalonogi gan eu dull cyfannol o wneud hynny, ac rwyf i wedi cael nifer o drafodaethau â fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn hyn o beth hefyd. Felly, rwy'n credu bod Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn, a byddwn yn ei ystyried yn ofalus iawn yn ein strategaeth dioddefwr sydd ar ddod.
Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater o ddiogelwch trydanol a phobl hŷn yng Nghymru. Mewn digwyddiad Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, dros chwe mis yn ôl, lansiodd yr unig elusen sy'n ymdrin â lleihau ac atal niwed, anafiadau a marwolaethau yn sgil trydan, Electrical Safety First, eu hadroddiad, 'Sut gallwn ni gadw pobl hŷn yng Nghymru yn ddiogel?' Mae mwy na hanner y tanau damweiniol yng Nghymru wedi'u hachosi gan drydan, a chanfu'r adroddiad fod pobl hŷn yn sylweddol fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o ddioddef tân trydan yn y cartref. Mae pobl hŷn yn cyfrif am dros draean o'r anafiadau yn sgil tân trydan, ac mae pobl dros 80 oed o leiaf pedair gwaith yn fwy tebygol na'r grwpiau oedran eraill o gael eu hanafu yn y tanau hyn. Disgwylir i nifer y bobl 80 oed neu hŷn ddyblu erbyn 2035, gyda rhyw 50,000 o bobl dros 65 oed yn byw â dementia. Mae mwyafrif y bobl hŷn yng Nghymru—rhyw 80 y cant—yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, a'r rhan fwyaf o'r rhain yn stoc tai hŷn nad ydyn nhw erioed wedi cael archwiliad tân diogelwch trydanol. Ar sail yr ymchwil, mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, ac mae'r cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru am gynllun sy'n cyflawni archwiliadau diogelwch trydanol yn y cartref am ddim bob pum mlynedd i bobl dros 80 oed, ni waeth pa ddeiliadaeth eiddo sydd ganddynt. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw ddweud ers lansio eu hadroddiad nad ydynt wedi gweld unrhyw gynnydd arall gan Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r mater a sicrhau ei fod yn flaenoriaeth i leihau nifer y bobl hŷn y mae tanau trydanol yn effeithio arnynt yng Nghymru. O ystyried eu pryder sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad.
Diolch ichi am hynny. Mae'n amlwg yn bwynt pwysig iawn. Rydym ni newydd gyhoeddi penodiad y comisiynydd pobl hŷn newydd, mewn gwirionedd, ac rwy'n siŵr y bydd gan y comisiynydd newydd ddiddordeb mawr yn hyn hefyd. Mae'r cyfrifoldeb wedi'i rannu rhwng nifer o gyd-Aelodau yn y Cabinet, felly byddaf yn sicrhau y ceir ymateb cydgysylltiedig a byddwn yn ysgrifennu at yr Aelod yn nodi'r sefyllfa yn Llywodraeth Cymru o ran y pwynt pwysig iawn hwnnw.
Yr wythnos diwethaf, daeth menyw a oedd eisiau cymorth ag asesiad taliad annibyniaeth personol ei mam i fy ngweld i. Mae'r fam, sydd wedi goroesi cam-drin domestig, yn dioddef amryw o gyflyrau parhaus o ganlyniad i ymosodiad treisgar gan ei phartner yn ôl yn 2009. Mae arthritis arni, mae ganddi amrywiaeth o gyflyrau croen, problemau â'i horganau mewnol, ar ôl dioddef ymosodiad treisgar â morthwyl a chyllell Stanley a'i gadael i farw. A hawdd yw deall ei bod hi hefyd yn dioddef o anhwylder straen wedi trawma.
Nawr, gwnaeth aelod o staff Capita weiddi arni wrth geisio trefnu ymweliad cartref ar gyfer yr asesiad PIP hwn. Mae Capita wedi derbyn bod angen ymweliad cartref erbyn hyn, ond nid ydyn nhw'n gallu rhoi amser addas oherwydd apwyntiadau meddygol sydd ganddi eisoes, ac os na fydd yr ymweliad nesaf hwn yn digwydd, mae'n bosibl y bydd hi'n colli'r taliadau annibyniaeth personol, y taliadau y mae hi'n disgwyl eu cael.
Nawr, ni ellir gwadu natur greulon a dideimlad y system fudd-daliadau, a phan fyddwch yn clywed hanesion dirdynnol o'r fath yn eich cymhorthfa yn eich etholaeth chi, gallwch chi weld wyneb dynol y trychineb hwnnw'n drosoch eich hun. Nid hon yw'r ffordd y dylai'r wladwriaeth drin merch sydd wedi ei thrin yn y ffordd hon. Byddai datganoli lles yn galluogi Llywodraeth Cymru i liniaru llawer o'r problemau sy'n gysylltiedig â'r system ddideimlad hon. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ gyflwyno dadl neu ddatganiad ar beth y gall y Llywodraeth hon ei wneud i liniaru'r boen ofnadwy a'r dioddefaint a ddaw yn sgil y system lles bresennol?
Mae gen i ail fater hefyd, ac mae hynny'n ymwneud ag adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru a gyhoeddwyd heddiw, gyda Phrifysgol De Cymru, ar gyflwr carchardai yng Nghymru. Daeth i'r casgliad bod diogelwch a chyflwr carchardai yma yn waeth o lawer na'r rhai yn Lloegr, ac, yn wir, mae nifer yr achosion o hunan-niweidio ac ymosodiadau carchar a gofnodwyd yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag mewn carchardai yn Lloegr ers 2010, ac roedd mwy o helbulon carchar yn HMP Parc yn 2016 a 2017 nag mewn unrhyw garchar arall yng Nghymru a Lloegr. Mae miloedd o swyddi swyddogion carchar wedi'u dileu, maen nhw'n wynebu gostyngiad mewn cyflogau mewn termau real, ac mae staff a throseddwyr yn agored i berygl o ganlyniad i hyn. Dylai penderfyniadau ar gyflwr carchardai yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru ac mae'r dystiolaeth hon yn gwneud hynny'n glir. Felly, a wnaiff arweinydd y tŷ gyflwyno dadl ar gyflwr carchardai yng Nghymru a sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod dinasyddion sy'n gweithio fel staff carchardai, neu'r rhai sydd wedi'u dal yn droseddwyr, yn gallu gweithio neu dreulio'u dedfrydau mewn amgylchedd diogel?
Ie, o ran yr ail un, rwy'n credu y byddem ni'n falch iawn o gyflwyno dadl ar gyflwr carchardai o ganlyniad i'r adroddiad hwnnw. Mae'r rheiny ohonom sydd â charchardai yn ein hetholaethau, ac rwyf i'n un ohonynt, yn gwybod yn iawn am gyflwr carchardai a'u problemau o ymweld â nhw. Bu'n uchelgais ers tro byd gan ein Llywodraeth i ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru ac un o'r rhesymau gwirioneddol dros hynny yw, mewn gwirionedd, bod y polisïau dedfrydu a arferir gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd yn arwain at lawer o'r problemau hynny y mae Leanne Wood yn tynnu sylw atyn nhw. Nid yw'n ymwneud dim ond â beth sy'n digwydd i bobl pan fyddan nhw'n mynd i'r carchar; mae'n ymwneud â pham maen nhw yn y carchar yn y lle cyntaf ac a yw hynny'n gwbl effeithiol, a beth yw diben, mewn democratiaeth fodern, carcharu cymaint o ddynion ifanc dosbarth gweithiol mewn gwirionedd.
Ac, i ddefnyddio iaith anseneddol iawn, peidiwch â hyd yn oed dechrau sôn am sefyllfa menywod mewn carchardai, oherwydd dadl arall yw honno. Rwy'n credu bod fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd Cabinet a fi wedi cael llawer o drafodaethau ynghylch hyn a byddwn i'n fwy na pharod i gael y ddadl honno, oherwydd bod amrywiaeth o faterion sy'n cyfrannu at y sefyllfa niweidiol a welir yn ein carchardai, yn arbennig yng ngharchar y Parc sydd wedi'i breifateiddio. Felly, mae gen i lawer o gydymdeimlad tuag at hynny ac mae gennym ni lawer i'w drafod yma yn Llywodraeth Cymru ynghylch yr amwysedd o ran y setliad datganoli a'r anawsterau y mae hynny'n eu cyflwyno o ran yr hyn y gallwn ni ac na allwn ni ei wneud ar hyn o bryd a pham mae angen i ni gytuno ar y setliad datganoli yn hynny o beth.
O ran yr etholwr â phroblemau cymhleth gyda'r taliad annibyniaeth personol, rwy'n teimlo'n fawr iawn drosti. Mae gen i gymhorthfa yn llawn o bobl â phroblemau tebyg yn aml iawn. Nid oes dim amheuaeth o gwbl bod y rhaglen gyni y mae Llywodraeth bresennol y DU yn ei dilyn yn achosi dioddefaint difesur i unigolion ledled Prydain, gan gynnwys yng Nghymru. Rwy'n anghytuno â hi ynghylch datganoli lles. Rwy'n credu mai un o unig ddibenion y DU yw ailddosbarthu cyfoeth o'r de-ddwyrain a Llundain. Mae'n drueni mai Llywodraeth Dorïaidd sy'n gyfrifol amdano ar hyn o bryd ac nad oes ganddi unrhyw ddiben o'r fath. Nid wyf yn sicr a fyddai gweinyddu system warthus ag ychydig iawn o'r arian a'r empathi ynddi yn lleddfu'r sefyllfa ryw lawer, mewn gwirionedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn, hyd eithaf ein gallu, i helpu pobl, ac mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â pham mae'n ymddangos yn ddeniadol gwneud hynny ac mae gen i lawer o gydymdeimlad â phobl sydd wedi'u dal yn y system. Ond rwyf i'n annog Llywodraeth y DU i roi'r gorau i'w rhaglen gyni oherwydd fy mod i'n credu bod y dewis gwleidyddol hwnnw wrth wraidd y gwahaniaethu y mae pobl ag anableddau yn ei ddioddef yn y DU heddiw.
Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu pobl sy'n gweithio i Virgin Media? Adroddwyd yn South Wales Evening Post bod amser wedi'i wrthod i weithwyr i fynychu profion gwaith ac i chyfweliadau am swyddi, er gwaethaf y ffaith bod eu swyddi o dan fygythiad difrifol. A yw tasglu Llywodraeth Cymru wedi cael mynediad at Virgin Media a chyfle i siarad â'r staff yno i roi cymorth iddynt? Mae colli bron i 800 o swyddi unrhyw le yn sicr o gael effaith fawr ar yr economi leol.
Yr ail gwestiwn sydd gen i yw: a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gynnal archwiliadau mewnfudo yn y GIG yng Nghymru? Byddai gwrthod triniaeth i ddioddefwyr canser a phlant yn aruthrol o greulon. Byddai methu â thrin pobl sydd â chlefydau hynod o heintus yn berygl i bob un ohonom ni sy'n byw yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Llywodraeth roi sicrwydd nad yw'n bwriadu dilyn yr un cyfeiriad â'r GIG yn Lloegr?
Ie, o ran yr ail bwynt, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ei gwneud yn fwy na phlaen nad oes gennym unrhyw fwriad o gwbl i godi tâl am unrhyw driniaeth na gofal y bydd unrhyw geisiwr lloches yn ei dderbyn yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd wedi methu â chael caniatâd i aros. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru i GIG Cymru yn nodi hynny'n glir iawn, ac rwy'n cymeradwyo'r polisi hwnnw am y rhesymau y mae Mike Hedges wedi'u nodi'n gryno iawn yno.
O ran Virgin Media, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn cyfarfod yn fuan iawn ag uwch reolwyr Virgin Media i drafod y cynlluniau i gau'r cwmni, y rhesymau dros y penderfyniad, a chynnig unrhyw gymorth y gallwn i helpu i wrthdroi'r penderfyniad os yn bosibl. Mae'r tasglu yn barod i gefnogi unrhyw aelodau staff yr effeithir arnynt os nad ydym yn gallu gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw. Mae swyddogion wedi cynnal cyfarfodydd yn ddiweddar â rheolwyr Virgin Media a chynrychiolwyr y cyflogwyr i asesu'r sefyllfa bresennol a chynnig cymorth os yw'n briodol. Rwyf ar ddeall y dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar y cyd ar 23 Mai ac y bydd yn para am o leiaf 45 diwrnod. Bydd gwrthgynnig gan gynrychiolwyr y gweithwyr â'r nod o gadw'r safle ar agor yn cael ei ystyried yn rhan o hyn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i ochr y gweithwyr er mwyn helpu i lunio'r gwrthgynnig hwnnw.
Fe wnaethom ni drafod y mwd o'r tu allan i atomfa Hinkley Point bythefnos yn ôl, ond chawson ni ddim atebion i rai cwestiynau difrifol iawn. Felly, rwyf eisiau gofyn cwestiwn unwaith eto am y profion. Yn Kosovo, pan oedd amheuaeth bod mwd yn ymbelydrol, roeddent yn ei brofi gan ddefnyddio sbectrometreg alffa, sbectrometreg gama a hefyd sbectrometreg màs plasma. Ac eto, ynghylch y mwd a gaiff ei wagu nid nepell o'r adeilad hwn—ac y bydd pobl mewn cwmpas o 10 milltir ar y tir mawr yn anadlu gronynnau o'r mwd hwnnw; dyna’r dystiolaeth wyddonol yr ydym ni wedi ei chael—pam mai dim ond â sbectrometreg gama y cafodd ei brofi? A pham ar y ddaear na wnaiff y Llywodraeth hon gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ailbrofi’r mwd gan ddefnyddio’r tri dull a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r byd pan fyddant yn amau bod mwd yn halogedig?
Soniodd yr Aelod am hyn wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig pan oedd hi yma yn y Siambr yr wythnos cyn y toriad, ac fe gafodd y ddau ohonyn nhw sgwrs gynhwysfawr iawn gan roi sylw manwl i’r holl faterion hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd? Efallai y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod yr wythnos hon yn wythnos ymwybyddiaeth o glawcoma ac mae cyfraddau glawcoma yng Nghymru yn eithaf uchel. Mae tua 38,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o glawcoma, ac nid yw tua 19,000 o'r achosion hynny wedi cael diagnosis a bydd llawer o'r achosion hynny’n mynd heb ddiagnosis hyd nes y bydd o leiaf 40 y cant o olwg ymylol wedi’i golli. Eisteddodd nifer o Aelodau'r Cynulliad ar efelychydd heddiw i brofi sut beth yw bod â glawcoma os ydych chi'n yrrwr, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae'n eithaf anniogel. Rwy'n credu bod pawb wedi cael damwain car erbyn diwedd eu cyfnod ar yr efelychydd. Felly, yn amlwg, mae hyn yn broblem fawr. Rwy’n gwybod fod gan Lywodraeth Cymru fframwaith diogelwch ffyrdd. Nid yw hwnnw’n sôn am yr angen i bobl gael profion llygaid yn rheolaidd. Rwy’n gwybod fy mod wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn y gorffennol a’i fod ef wedi arddangos ar rai o'r arwyddion wrth ymyl y ffordd bod angen cael profion llygaid, ond a gaf i ofyn am ddatganiad am y fframwaith diogelwch ffyrdd, oherwydd rwyf wir yn credu bod angen ei adnewyddu i gyfeirio at brofion llygaid fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod ein ffyrdd mor ddiogel â phosibl?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awgrymu imi ei fod yn hapus i weithio gyda’n cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, i gyflwyno rhywbeth o ganlyniad i'r materion y mae'r Aelod yn eu crybwyll.
Diolch i arweinydd y tŷ.