5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg

– Senedd Cymru am 4:52 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:52, 5 Mehefin 2018

Yr eitem nesaf yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—diweddariad ar flaenoriaethau'r iaith Gymraeg. Galwaf ar Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ymddiheuro fy mod i wedi colli fy llais? Felly, fe wnaf i fy ngorau glas i gyflwyno'r datganiad ac i roi'r diweddariad i'r Senedd ar y camau rydym yn eu cymryd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.

Fel y byddwch chi’n ymwybodol, mae pwyslais Llywodraeth Cymru wedi bod ar greu safonau i greu hawliau statudol i bobl Cymru i gael mynnu rhai gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y symudiad yma o’r hen gynlluniau iaith i safonau yn symudiad pwysig. Erbyn heddiw, mae dros 120 o gyrff yn cael eu heffeithio gan y safonau. Roedd rhesymau da dros ganolbwyntio ar y sector cyhoeddus i gychwyn. Rhyngddynt, mae’r cyrff yma yn gyfrifol am y mwyafrif sylweddol o wariant refeniw Llywodraeth Cymru, sef £13 biliwn eleni. Ond, mae sawl peth wedi fy nharo i ers dod yn gyfrifol am yn portffolio yma.

Yn gyntaf, cododd y gwaith o ddatblygu’r safonau iechyd nifer o gwestiynau anodd ynghylch sgiliau Cymraeg y gweithlu a chapasiti cyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Yn ail, mae’r broses o wneud a gosod y safonau yn llafurus, mae'n gostus, ac mae'n gymhleth, ac mae’r broses o ymchwilio i fethiannau yn hir ac yn orfiwrocrataidd. Ond, yn bwysicaf oll, mae nod uchelgeisiol Cymraeg 2050 o gyrraedd miliwn o siaradwyr yn gofyn am newid cyfeiriad pendant. Mae’r nod yn un pellgyrhaeddol. Er mwyn llwyddo, rhaid i ni fod yn glir ynglŷn â sut i wario ein hadnoddau a'n hamser yn well.

Fel canlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Bil newydd, yn unol â’n hymrwymiad yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Mae’r gwaith hwn yn datblygu’r cynigion a wnaethon ni yn y Papur Gwyn, 'Taro’r cydbwysedd iawn', a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd. Rhaid i’r Bil adlewyrchu ein dymuniad i ailgyfeirio adnoddau er mwyn cynyddu’r nifer o bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg, yn hytrach na chanolbwyntio cyfran sylweddol o gyllideb y Gymraeg ar gyflwyno safonau newydd a’u plismona.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:55, 5 Mehefin 2018

A gaf i fod yn glir? Ni fyddwn ni ddim yn rhoi’r gorau i orfodi’r safonau. Rhaid i gyrff gyflawni eu dyletswyddau statudol. Ond, rwyf o’r farn ei bod hi bob amser yn well i ddefnyddio moron yn hytrach na ffyn lle bo hynny’n bosibl. Mae hwnnw'n gyfieithiad ofnadwy, onid yw e? Os oes rhywun yn gallu ffeindio idiom gwell, byddai hynny yn help i mi. Yn y maes ieithyddol, nid yw gorfodi yn debygol o weithio os nad allwn ni newid meddyliau a rhoi cefnogaeth i gyrff i gydymffurfio. Am y rhesymau hyn, rwyf eisiau ei gwneud hi’n glir na fyddwn ni yn cyflwyno mwy o safonau ar gyfer sectorau eraill am y tro. Yn hytrach, byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau ni ar ddatblygu’r Bil newydd. Mater i’r Prif Weinidog, wrth gwrs, fydd cadarnhau amserlen ar gyfer y Bil maes o law.

Fel rhan ganolog o’n cynigion, rydym yn bwriadu creu comisiwn y Gymraeg. Prif flaenoriaeth y comisiwn fydd hybu’r Gymraeg ar sail cynllunio ieithyddol pwrpasol. Rydym yn bwriadu mai’r comisiwn fydd hefyd yn gyfrifol am reoleiddio’r safonau, ond a gaf i bwysleisio na fyddwn yn rhwyfo nôl o’r safonau nac ar annibyniaeth y rôl rheoleiddio yn y corff newydd? Rydym am i’r comisiwn arwain newid diwylliant sylweddol. Os mai ein nod ni yw cyrraedd miliwn o siaradwyr, mae’n amlwg y bydd rhaid i’r comisiwn newydd yma wario rhan helaeth o’i amser yn dwyn perswâd ar fwy o bobl i ddysgu Cymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg ac i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant. Nid oes gobaith gennym i gyrraedd y targed oni bai ein bod ni’n darbwyllo rhai o’r 80 y cant o’r boblogaeth sydd ddim yn medru’r Gymraeg i ymuno yn y daith bwysig yma. Rhaid hefyd sicrhau bod lot mwy o gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg. Rhaid i ni ddarbwyllo mwy o arweinwyr byd busnes, gwasanaethau cyhoeddus a'r gymdeithas sifil—boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio—i weithredu o blaid y Gymraeg neu mewn modd sy’n hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Y comisiwn fydd yn arwain ac yn cydlynu’r gwaith hwn ar draws nifer o sefydliadau.

Rydym eisoes yn gosod seiliau cadarn i Cymraeg 2050. Rydym yn buddsoddi dros £2 miliwn ychwanegol dros ddwy flynedd yng ngwaith Mudiad Meithrin a Cwlwm, er mwyn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Drwy ymgyrch Darganfod Addysgu, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyrwyddo addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr. O fis Medi, bydd cymhelliant newydd o £5,000 ar gael i ddenu mwy o fyfyrwyr i hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Ein nod ni yw cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg a phynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn addysg ôl-16 yn allweddol er mwyn cadw’r rheini sydd wedi mynychu ysgolion Cymraeg yn siarad Cymraeg. Fe fydd hyn hefyd yn helpu sgiliau Cymraeg yn y gweithlu ac yn ateb anghenion cyflogwyr. Rydym hefyd yn buddsoddi £2.5 miliwn eleni yng nghynllun Cymraeg Gwaith a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r galw am y cyrsiau yn eithriadol. Yn ogystal â hyn, fe wnes i lansio cynllun Cymraeg Byd Busnes yn ddiweddar, cynllun sy’n gweithio gyda busnesau i’w helpu nhw i ddefnyddio’r Gymraeg. A chyn hir, rwy’n bwriadu lansio llinell gyswllt er mwyn rhoi cymorth rhad ac am ddim i fusnesau ac i unigolion. Rwy’n disgwyl bydd y comisiwn arfaethedig yn ehangu’r math yma o waith i feysydd eraill.

Wrth gynllunio ar gyfer y comisiwn newydd, rwy’n ymwybodol bod tymor y comisiynydd presennol yn dod i ben fis Mawrth nesaf. Er mwyn sicrhau cyfnod pontio priodol rhwng y comisiynydd presennol a’r gyfundrefn newydd, byddaf yn cychwyn trefn penodiadau cyhoeddus ar gyfer comisiynydd newydd yn fuan. Bydd y person a benodir yn chwarae rhan allweddol yn adeiladu ar waith y comisiynydd presennol ac yn gosod seiliau cadarn i’r comisiwn newydd. Byddaf i heddiw yn ysgrifennu heddiw at y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i’w gwahodd nhw i enwebu Aelod i fod ar y panel penodi.

Yn olaf, hoffwn i ddiweddaru Aelodau am gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, y WESPs. Nawr, cymeradwyais 15 o’r cynlluniau ar y 15 Mawrth eleni, ac yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw, fe wnes i siarad yn uniongyrchol gydag arweinydd pob un o’r saith awdurdod arall er mwyn gosod allan y gwelliannau roeddwn i'n eu disgwyl cyn i mi ystyried cymeradwyo’r cynlluniau. Mae’r trafodaethau hynny wedi dwyn ffrwyth yn y rhan fwyaf o achosion. Mae un cynllun ychwanegol eisoes wedi’i gymeradwyo gennyf, ac rydw i'n obeithiol bod y gweddill yn agos iawn at gael eu cymeradwyo.

Rydw i'n cydnabod bod y daith wedi bod yn un rhwystredig ar adegau, ac rydw i eisiau diolch i bob awdurdod lleol am ddangos yr ewyllys i weithio gyda’r Llywodraeth er mwyn datblygu ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd pellach yn sgil nifer uchel y ceisiadau i’r rhaglen grant cyfalaf o £30 miliwn i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a gafodd ei chyhoeddi yn gynharach eleni.

Ym mis Chwefror, penodais Aled Roberts i arwain bwrdd cynghori annibynnol. Bydd y bwrdd yn gyfrifol am roi cyngor ar sut i weithredu argymhellion yr adolygiad brys o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, a gyhoeddwyd yn 2017. Ac rydw i’n edrych ymlaen at dderbyn cyngor y bwrdd ar sut y gallwn ni gryfhau cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg fel sail i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:02, 5 Mehefin 2018

Rydw i yn yr un lle, Weinidog, ynglŷn â'r peswch yma.

Diolch am y datganiad yma. A gaf i jest ddechrau gyda lle rŷm ni'n cytuno, efallai? Mae'r broses ar gyfer gweithredu'r safonau yn gostus ac yn fiwrocrataidd a hoffwn—ac rwy'n fwy na bodlon—eich cefnogi chi gydag unrhyw ddiwygiad i hynny. Ond beth sydd hefyd yn gostus, wrth gwrs, yw gofyn i'r comisiynydd gynnal ymchwiliadau safonau ar gannoedd o sefydliadau o fewn rowndiau 3 a 4 yr amserlen, derbyn adroddiadau'r ymchwiliadau hynny yn 2016-17, ac wedyn ddim gweld unrhyw gamau gan y Llywodraeth ar gefn hynny. Felly, y cwestiwn cyntaf i fi yw: sut ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adroddiadau yna mewn unrhyw ffordd ystyrlon? Os yw'r adroddiadau hyn yn mynd, yn y bôn, yn syth i'r bin, neu os bydd hyn yn digwydd, wel, faint o arian ydych chi wedi'i wastraffu gyda'r broses yma?

Er yr hoffech feddwl bod y sefydliadau yna wedi dechrau paratoi ar gyfer cyrraedd y safonau newydd, maen nhw'n debygol o weld y cyhoeddiad heddiw fel esgus i atal gwneud mwy o hynny nawr, a jest atal beth maen nhw wedi'i wneud yn barod. Sut fyddwch chi'n gweithredu nawr—ac rydw i'n meddwl nawr—i'w hannog i barhau i fynd ymlaen â'u cynlluniau?

Nid oes dim byd newydd yn y datganiad i'm mherswadio o ran pwrpas creu comisiwn newydd, mae'n rhaid imi ddweud. Nid oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ffafrio hyn, yn arbennig o ran opsiynau eraill, ac mae'n parhau i fi i fod yn gwbl aneglur pa mor annibynnol fydd y corff hwnnw. Ac mae hyn yn bwysig, achos os nad yw'n gwbl annibynnol, nid ydych chi'n datrys y broblem hon, sef na ddylai'r corff sy'n gwneud y rheolau fod y corff sy'n gorfodi'r rheolau, ac ni ddylai'r deddfwr fod yn orfodwr deddfwriaeth. Ar hyn o bryd, mae rhwystrau a gwrthbwyso yna: mae'r Llywodraeth yn gwneud y rheolau, mae'r comisiynydd yn eu gorfodi. Os nad yw'r comisiwn newydd hwn yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth—. Nid yw hyd braich yn ddigon—mae'n anniogel o safbwynt cyfansoddiadol. 

Fel y gwyddoch, mae gan y comisiynydd ddyletswyddau hyrwyddo hefyd, ac mae'r Gweinidog blaenorol, wrth gwrs, wedi ei gwneud hi'n anodd i'r comisiynydd gyflawni'r dyletswyddau statudol hynny, ond gellir eu hadfer. Felly, yn y bôn, beth yw’r gwahaniaeth rhwng eich comisiwn a’r comisiynydd? Beth sy’n eich atal rhag diwygio swyddfa’r comisiynydd yn lle ei disodli? Byddai diwygiad yn caniatáu i gomisiynydd arwain newid diwylliannol, ac rydym yn cytuno ar y dyhead hwnnw. Mae lle hefyd, fel rydym wedi trafod o’r blaen, i ehangu pwerau lled-farnwrol y comisiynydd i greu comisiynydd ieithoedd, i sicrhau nad yw deddfwriaeth hawliau’n cael ei gweithredu mewn ffordd wahaniaethol.

Diolch am y diweddariad ar y rhaglenni cyfredol. Mae’r cwymp yn nifer yr athrawon sy’n mynd ymlaen i addysgu Cymraeg, neu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, i fi yn fygythiad clir a chyfredol i lwyddiant Cymraeg 2050. Rydym hanner ffordd, nawr, trwy dymor y Cynulliad hwn, ond dim ond nawr rŷch chi’n cyflwyno cymhelliant o £5,000 i helpu sortio hynny mas. Felly, pryd y gallwch chi ddweud bod gan y cynllun hynny effaith sylweddol? Achos rwy’n gwerthfawrogi beth rŷch chi wedi’i ddweud ynglŷn â’r cyfalaf, ond mae yna broblem yma gyda nifer y bobl sy’n fodlon gwneud y gwaith. Mae gyda fi yr un pryderon ynglŷn â’r gweithlu addysg ag y cawsoch chi ynglŷn â’r gweithlu iechyd. Mae'n dal yn broblem ac mae’n anodd wynebu hynny, rydw i’n credu.

Yn olaf, fel y gwyddoch, heb ymrwymiad gan y byd gwaith a chyflogaeth, ymhob sector, nid dim ond yn y sector preifat, i greu amgylchedd gweithio dwyieithog, mae gennym ni fygythiad clir a chyfredol arall i Cymraeg 2050. Felly, a allech chi ddweud tipyn bach mwy am y cynllun Cymraeg Gwaith? Beth sy’n eithriadol am y galw a beth yw’r lledaeniad daearyddol? Yn bwysicach, sut y gallwn ni fesur a fydd y galw’n mynd i gynhyrchu siaradwyr sydd tipyn bach mwy hyderus ac sy’n fodlon iwso eu Cymraeg yn amlach? Yn benodol, beth y dylech chi a ni ei ystyried yn ganlyniad da ym mentrau bach a chanolig? Diolch.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:07, 5 Mehefin 2018

Diolch yn fawr, Suzy. Rwy'n falch ein bod ni'n cytuno bod y system bresennol yn gostus, ei bod yn or-fiwrocrataidd a’i bod yn cymryd lot fawr o amser. Ond rydw i hefyd yn derbyn y ffaith bod lot o waith eisoes wedi’i wneud ar y cynlluniau newydd—y safonau yr oedd pobl yn disgwyl i ddod yn y dyfodol. Ni fyddwn ni'n stopio’n llwyr, ond byddwn ni'n treulio’r amser nesaf yma yn sicrhau ein bod ni’n rhoi blaenoriaeth i ddatblygu’r Bil, fel ein bod yn gallu symleiddio’r broses. Dyna yw’r syniad y tu ôl sicrhau ein bod ni’n cael Mesur newydd sydd yn edrych ar sut i symleiddio’r broses. Ond yn fwy na hynny, lot yn fwy na hynny, ac yn bwysicach o lawer, beth mae hyn yn ei wneud yw cymryd mewn i ystyriaeth y ffaith bod gyda ni bolisi i gael 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Os na fyddwn ni'n rhoi’r seilwaith yn ei le er mwyn sicrhau ein bod ni’n gweithredu tuag at y targed yna, wedyn fe fydd yn fwy anodd i ni gyrraedd y targed. Beth sydd wedi digwydd, ar hyn o bryd, yw bod cymaint o bwyslais wedi cael ei roi ar y safonau ac ar blismona’r safonau, a'n bod ni wedi colli golwg, rydw i’n meddwl, ar hyrwyddo a hybu. A dyna pam rŷm ni eisiau gweld y pwyslais gwahanol iawn yma ar hybu a hyrwyddo, yn arbennig o ran trial annog pobl, a dysgwyr yn arbennig, i ymgymryd â'r iaith Gymraeg.

Rydw i’n cymryd y pwynt ynglŷn â’r ffaith bod angen inni gael rhyw ffordd y tu fewn i’r comisiwn newydd yma—bod y plismona yma yn annibynnol ar Lywodraeth. Rydw i wedi bod yn glir iawn gyda fy swyddogion i fod yn rhaid inni gael system sydd hyd braich i ffwrdd o’r Llywodraeth, fel bod y plismona yna’n gallu digwydd hyd braich o Lywodraeth Cymru.

O ran y gweithlu, rydw i’n meddwl eich bod yn eithaf iawn. Beth sy’n ddiddorol gyda’r safonau iechyd yw, er bod pobl, yn gyffredinol, eisiau gweld y symudiad, mae’r broblem yn un ymarferol: nad yw’r boblogaeth yna i hyrwyddo. Os ydym yn cael cymaint o bobl i mewn i’r system ag yr ydym yn gobeithio, wedyn, dros amser, bydd y system yna yn newid, gobeithio. Ond rhan hanfodol o hynny yw cael pobl tu mewn i'n system addysg ni i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna pam mae'r £5,000 yna yn hollbwysig i drial annog mwy o bobl i mewn i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, rŷm ni yn gobeithio y bydd hyn yn newid y ffordd ac y bydd yn denu mwy o bobl i gymryd addysg a hyfforddi addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ymlaen yn ystod y misoedd nesaf.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:10, 5 Mehefin 2018

Fe gafwyd gwledd Gymraeg yr wythnos diwethaf wrth i gystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd ddod at ei gilydd i ddathlu eu Cymreictod—pobl ifanc o bob rhan o Gymru, yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf. A'r nodwedd oedd yn eu huno nhw oedd hyder—hyder yn y Gymraeg a hyder yn eu Cymreictod. Rydw i'n credu bod hyder yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg, a dyna pam rydw i'n anghytuno â'r cyfeiriad sy'n cael ei awgrymu gan eich datganiad chi heddiw.

Oes, mae eisiau dathlu, hyrwyddo, hybu, ac yn wir mae nifer o'r pethau sy'n cael eu crybwyll yn y datganiad heddiw yn bethau mae Plaid Cymru wedi eu sicrhau drwy gytundeb cyllideb—£2 filiwn i Mudiad Meithrin a'r buddsoddiad yng ngwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol—ond hefyd mae'n rhaid datblygu hawliau siaradwyr Cymraeg, i roi statws ac i greu mwy o hyder. Mae honno yn rhan bwysig o'r ymgyrch i greu 1 filiwn o siaradwyr. Mae'r gwaith wedi ei gychwyn, mae angen ei ledaenu, a law yn llaw efo hynny mae angen buddsoddi mewn ymgyrchoedd i hyrwyddo'r Gymraeg, mae angen buddsoddi mewn tyfu addysg Gymraeg, fel bod pob plentyn yn datblygu sgiliau yn nwy iaith ein gwlad ni, a'r rheini yn sgiliau llawn, ac mae angen buddsoddi i gynnal cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith bob dydd. Y blaenoriaethau yna i gyd, o'u plethu efo'i gilydd, a fydd yn arwain at 1 filiwn o siaradwyr. Nid ydy gollwng un elfen, sef gwanio hawliau, er mwyn cyllido elfen arall yn strategaeth uchelgeisiol, ac nid ydy o'n debygol o lwyddo i gyrraedd y nod. Felly, o ystyried llwyddiant y safonau iaith hyd yma, pam ydych chi'n cefnogi ymgais i wanio, i lastwreiddio ac i wadu hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg? Dyma ydy byrdwn eich datganiad chi heddiw yma.

Wrth lansio'r Papur Gwyn, mi oedd eich rhagflaenydd chi wedi gobeithio y byddai'r cynigion yn dod â chonsensws, ond ers hynny rydym ni wedi gweld chwalu'r consensws yna a'r gefnogaeth unfrydol a roddwyd i Fesur presennol y Gymraeg gan Aelodau'r Senedd yma yn 2011 yn diflannu, a'r bygythiad yn dod yn sgil darn o ddeddfwriaeth ar y Gymraeg a fyddai, mewn gwirionedd, yn mynd â ni nôl i Gymru 1993 y Torïaid, yn hytrach nag ymlaen i Gymru hyderus 2050 a'r 1 filiwn o siaradwyr.

Hoffwn i wybod, felly, faint o gefnogaeth sydd yna o blith siaradwyr Cymraeg i'r cynigion i wanhau'r hawliau. Yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal y llynedd, dim ond 77—so, rydw i'n ateb eich cwestiwn chi i raddau fan hyn—dim ond 77 o'r 504 ymateb a oedd yn cefnogi'r cynnig i ddisodli'r comisiynydd efo comisiwn, sef 15 y cant o'r ymatebion. Mae yna farc cwestiwn mawr, felly, a oes yna unrhyw gefnogaeth i'r cynigion yma, heb sôn am gyfiawnhad i baratoi Bil.

Mae eich datganiad chi'n cyhoeddi'ch bwriad i benodi comisiynydd newydd, penodiad o saith mlynedd o dan Fesur y Gymraeg. Mi ydych chi wedi bod yn canmol effaith bositif y safonau. Rydw i'n credu mai un effaith positif yn deillio o'r safonau ydy creu gweithlu Cymraeg ar draws sectorau a chreu mannau gwaith Cymraeg. Felly, mae'n anodd deall pam y byddech chi am golli momentwm drwy beidio â chaniatáu i'r comisiynydd newydd fwrw ymlaen efo'r gwaith o osod rhagor o safonau. Mae safonau'r cwmnïau dŵr yn eistedd ar eich desg chi, mae'r cymdeithasau tai yn aros o hyd am safonau, ac, yn wir, mi allech chi basio Gorchmynion fory nesaf i ychwanegu cyrff o bwys at setiau o reoliadau sydd eisoes wedi cael eu pasio—cyrff megis Cymwysterau Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac yn y blaen. A gaf i awgrymu eich bod chi'n cadarnhau eich ymrwymiad i'r safonau drwy ddod â Gorchmynion i'r Cynulliad hwn ar y cyfle cynharaf?

Mae cynnal hygrededd y safonau a'r gyfundrefn sy'n gwarantu hawliau i'r Gymraeg yn allweddol, ac mi ydych chi'n sôn na fyddwch chi'n rhwyfo nôl o'r safonau, na chwaith ar annibyniaeth y rôl reoleiddio mewn unrhyw gorff newydd, ond mae eich cynigion chi am gomisiwn y Gymraeg yn golygu mai Llywodraeth Cymru fyddai'n gosod y safonau; Llywodraeth Cymru fyddai'n penodi aelodau'r comisiwn; Llywodraeth Cymru fyddai'n gosod ei gyllideb; Llywodraeth Cymru fyddai'n cymeradwyo ei gynllun strategol; a Llywodraeth Cymru fyddai efo'r grym i gyfarwyddo'r corff newydd yma. Rŵan, ai dyna'ch diffiniad chi o 'annibynnol'? Nid dyna ydy fy niffiniad i.

Rydw i'n gorffen efo un darn bach arall. O ran datblygu'r Gymraeg yn y sector breifat, mi gytunodd y Cynulliad hwn y llynedd y dylid ymestyn y safonau iaith i'r sector breifat. Heddiw, rydych chi'n sôn am ddarbwyllo arweinwyr busnes i ddefnyddio'r Gymraeg, ac y dylai'r comisiwn arwain ar hynny. Mi fuodd Bwrdd yr Iaith yn ceisio perswadio yn ddyfal am 15 mlynedd. Sut ydych chi'n credu y byddwch chi'n llwyddo i ddarbwyllo busnesau mawr efo'r foronen yma rydych chi'n sôn amdani hi, er bod y cyrff eu hunain, y busnesau eu hunain, yn dweud mai i orfodaeth yn unig y byddan nhw'n ymateb?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:16, 5 Mehefin 2018

Diolch yn fawr, Siân. Fe fues i yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf hefyd, ac rydych chi'n eithaf reit: roedd yna lot o blant yna a oedd gyda lot o hyder. Beth sy'n fy mhoeni i yw nid y plant a oedd yn yr Eisteddfod yr wythnos diwethaf, ond y cannoedd o filoedd sy'n mynd i ysgolion Cymraeg nad oedd yn yr Eisteddfod: rheini sydd ddim â'r hyder. Rheini yw'r rhai y mae'n rhaid i ni eu darbwyllo, a dyna pam rydw i'n meddwl nad yw gorfodi pobl i wneud pethau ddim yn mynd i'n elwa yn y pen draw. Mae'n rhaid i ni ddarbwyllo pobl mai dyma'r cyfeiriad cywir, a dyna pam mae'r newid pwyslais yma yn hollbwysig.

Rydw i eisiau ei gwneud hi'n glir nad ydym ni'n gollwng y safonau; nid ydym yn camu nôl o'r safonau. Bydd digon o waith gan y comisiynydd presennol, a'r un newydd, i sicrhau a gweithredu'r safonau iechyd newydd. Mae lot fawr o waith a fydd yn ymwneud â'r rheini. Ond, y gwahaniaeth yw y byddwn ni'n rhoi blaenoriaeth i hybu a hyrwyddo, ac nid wyf yn mynd i esgusodi fy hunan na Llywodraeth Cymru am hynny.

Roeddech chi'n dweud bod yr ymatebion rydym ni wedi'u cael i'r Papur Gwyn wedi bod yn wahanol. Beth ddigwyddodd, actually, oedd ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth a gwahaniaethu rhwng ymatebion sy'n rhan o ymgyrch ac ymatebion sy'n dod o unigolion. Ac o ran y rheini a ddaeth o unigolion, roedd yn glir bod y mwyafrif o blaid symud i system a fyddai'n rhoi blaenoriaeth i hybu a hyrwyddo.

A gaf i fod yn hollol glir? Nid Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am benodi'r person a fydd yn gyfrifol yn y comisiwn newydd am blismona'r safonau. Rydw i eisiau ei gwneud hi'n hollol glir, ac mae hwn yn rhywbeth rydw i wedi ei wneud yn glir iawn i'r swyddogion: mae'n rhaid i'r person yna fydd yn gyfrifol am blismona fod yn hollol annibynnol. Felly, nid y Llywodraeth fydd yn cymryd rhan yn y penodiad yna o'r person fydd â chyfrifoldeb. Diolch.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:18, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Er gwaethaf y beirniadaethau miniog sydd wedi dod gan Siân Gwenllian, yr wyf yn eu deall yn iawn, rwyf i o'r farn, heddiw, ei bod yn bwysig cydnabod y ceir cytundeb eang o amgylch y Siambr hon am y cyfeiriad polisi y mae'r Llywodraeth yn mynd iddo. Er bod arddull y Gweinidog newydd ychydig yn wahanol efallai i arddull hwyliog ei rhagflaenydd, credaf ei bod yr un mor effeithiol mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Rwyf i o'r farn ei bod yn hanfodol bwysig, os ydym am briodi'r hyder yr oedd Siân Gwenllian yn sôn amdano ymhlith y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg yn naturiol—os y caf ei roi felly—gyda'r rhai y bydd yn rhaid inni fynd â nhw gyda ni ar y daith hon i gyflawni'r nodau a nodwyd gan bob un ohonom yn y rhaglen Cymraeg 2050, wrth i ni ymestyn llwyddiant y rhaglen hon y tu hwnt i gaerau'r Fro Gymraeg yn y gorllewin i ardaloedd Saesneg eu hiaith yn bennaf, credaf ei bod yn hanfodol mai'r anogaeth y dylid ei phwysleisio yn hytrach na'r cerydd, ac felly rwy'n croesawu cyfeiriad teithio'r Llywodraeth yn fawr iawn.

Nid oes, wrth gwrs, fawr iawn o sylwedd yn y datganiad penodol hwn, ond nid wyf i'n dweud hynny er mwyn beirniadu; credaf ei bod yn ddigon teg i'r Gweinidog fod yn awyddus i adrodd ar sut y mae hi'n gweld pethau'n mynd rhagddynt ychydig fisoedd ar ôl iddi ddod i'w swydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn inni fod yn ymarferol ein hymagwedd wrth gyflawni'r amcan hwn. Nid oes pwrpas mewn gosod amcanion nad oes modd eu cyrraedd, ac nid oes pwrpas mewn codi cynhennau, a fyddai'n arafu cyfradd y cynnydd yr ydym i gyd yn dymuno ei weld. Felly, nid wyf i'n beio dim ar Blaid Cymru am yr hyn y maen nhw'n ei ddweud, neu hyd yn oed sefydliadau fel Cymdeithas yr Iaith am fod yn rhwystredig o ran cyflymder y newid. Mae'n bwysig iddyn nhw gael eu llais a dylen nhw ddal at y feirniadaeth hon i wneud yn siŵr bod eu bod yn ceryddu'r Llywodraeth, sydd yn cynnig anogaeth. Felly, mae'n bwysig y gwrandewir ar lais bob un ohonom, yn fy marn i, mewn gwahanol ffyrdd gan ein bod ni i gyd yn dymuno gweld yr un amcan.

Rwyf i yn cefnogi'r cynigion i newid i'r Comisiwn o'r Comisiynydd, am resymau a nododd y Gweinidog ei hun, ac rwyf i yn credu ei bod hi'n bwysig y dylai swyddogaethau plismona'r rhaglen gael ei wneud gan rai sydd hyd braich oddi wrth y Llywodraeth. Mae'n bwysig mai dwyn perswâd y dylai'r Llywodraeth ei wneud, yn fy marn i, ac nid plismona'r system. Honno yw'r ffordd orau, rwy'n meddwl, i ni gyflawni'r nod hwnnw. Gwelsom yn y gwrthdaro anffodus, er enghraifft, yn Llangennech y llynedd, sut y gall problemau o'r fath ei gwneud yn anos cyrraedd ein hamcan, rwy'n credu, mewn ardaloedd nad ydyn nhw efallai mor argyhoeddedig o'r angen i wneud cynnydd yn y cyfeiriad yr ydym i gyd yn awyddus i'w weld. Felly, rydym yn eiddgar i geisio tawelu'r dyfroedd a chael cymaint â phosibl o ddealltwriaeth gyffredin i gyflawni'r nodau hyn.

Mae gennyf i un cwestiwn ymarferol yr hoffwn ei ofyn i'r Gweinidog. Rwy'n cymeradwyo yn fawr iawn y cymhelliant i athrawon ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, i ddysgu sut i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn y blaen, ond un peth y mae'n rhaid inni ei sicrhau yw nad yw rhieni, yn arbennig, yn credu nad oes modd gwneud hynny heb ei fod ar draul cael gafael ar yr athrawon gorau ar gyfer ysgolion penodol i addysgu eu plant. Felly, tybed beth allai'r Gweinidog ei ddweud wrthym am y modd y gellid tawelu ofnau—pa mor ddi-sail bynnag y bônt—o'r fath.

Yn ail, rhywbeth nad yw yn y datganiad, ond a oedd yn y rhaglen Cymraeg 2050. Roedd honno yn nodi ffyrdd ar gyfer cyflawni nodau ac, yn benodol, y nod o weddnewid tirweddau digidol Cymraeg, gyda phwyslais penodol ar dirwedd technoleg. A all y Gweinidog roi'r manylion diweddaraf inni ar sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau rhagweithiol tuag at gyflawniad yr ymdrech hon?

A chyda hynny, ni wnaf i ond dweud fy mod wedi fy mhlesio â'r ffordd y mae'r Llywodraeth yn datblygu'r polisi hwn, ac rwyf i o'r farn mai'r dull ymarferol, a gyflwynodd ei rhagflaenydd i hyn, ac sy'n cael ei ymestyn ymhellach gan y Gweinidog presennol, yw'r ffordd orau o gyflawni ein hamcan cyffredin.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:23, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Neil. Rwy'n credu yr hoffwn i ei gwneud yn glir pa mor bwysig yw'r newid hwn o ran pwyslais os ydym ni am gyrraedd y nod hwnnw. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud hyd yn hyn yw tynnu sylw at hawliau siaradwyr Cymraeg, ac mae hynny'n hollol iawn—mae hynny'n dda, ac mae wedi dod yn ei flaen yn sylweddol. Rydym ni wedi newid yr amgylchedd yn wirioneddol, yn arbennig mewn Llywodraeth Leol ac mewn rhai prifysgolion. Rwy'n deall iddo fod yn llwyddiannus, ond mae'r newid pwyslais, os ydym yn dymuno cyrraedd 1 miliwn o siaradwyr, yn golygu ei bod yn rhaid inni ddechrau canolbwyntio ar yr 80 y cant hynny nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg. Fel arall, ni chyrhaeddwn ni fyth—ni chyrhaeddwn ni fyth. Felly, mae'n rhaid inni newid y pwyslais hwnnw.

Ni allwn wneud popeth. Dim ond cyllideb gyfyngedig sydd gennym, a dyna pam mae hi'n bwysig, yn fy marn i, y ceir dealltwriaeth mai dyna pam yr ydym ni'n gwneud hyn. Nid oes unrhyw golli momentwm, mewn gwirionedd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ei wneud mewn ffyrdd gwahanol. Felly, er enghraifft, mae gennym y Cymraeg Byd Busnes newydd hwn. Rydym yn rhoi cefnogaeth, ac rydym wedi penodi 10 o bobl newydd i fynd o amgylch Cymru, i fynd i mewn i fusnesau bach a chanolig i ddweud, 'Pam na wnewch chi gynnig rhai gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg? Pam na wnewch chi'n siŵr fod eich cwsmeriaid yn ymwybodol bod gennych chi bobl sy'n siarad Cymraeg?' Y math o gymorth ymarferol, mewn gwirionedd, y mae pobl yn chwilio amdano—gwybodaeth am bwy sy'n gallu siarad Cymraeg.

Fyddech chi ddim yn credu'r peth. Roeddwn i gyda dau neu dri o bobl yn ddiweddar, ac roedden nhw wedi adnabod ei gilydd am bedair blynedd ac nid oedd ganddyn nhw syniad o gwbl eu bod i gyd yn siarad Cymraeg. Dim ond pan ddechreuais i siarad â nhw yn unigol y daethon nhw i wybod. Felly, dyna'r math o ddealltwriaeth ac amlygrwydd i'r iaith Gymraeg, nad yw'n ymwneud â gorfodi pobl. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn newid yr awyrgylch a'r ffordd y mae pobl yn ymateb.

Mae Cymraeg Gwaith yn rhywbeth arall, a cheir llinell gymorth newydd, fel na fyddwn yn gweld y sefyllfa lle mae gennym ni'r cyfieithiadau ofnadwy hyn o'r Saesneg i'r Gymraeg. Nid oes unrhyw reswm pam y dylai hynny ddigwydd yn y dyfodol oherwydd bydd cefnogaeth ar gyfer hynny.

Bydd y cymhelliant hwn o £5,000 ar gyfer athrawon newydd, rwy'n gobeithio, ac nid i ddwyn pobl o'r sector Saesneg i'r sector Cymraeg. Y syniad yw annog athrawon newydd, ac yn sicr rydym ni angen hynny.

Ac, ar yr ochr ddigidol, rydym yn gobeithio bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud llawer o waith i wneud yn siŵr mewn addysg bellach, er enghraifft—. Am y tro cyntaf, mae'r system addysg bellach yn cael ei dwyn i mewn i'r system. Yr hyn yr oeddem yn ei weld oedd gostyngiad mawr. Byddai rhai yn dod o ysgolion Cymraeg ac yn colli eu Cymraeg yn syth wrth fynd i'r colegau addysg bellach. Felly, rydym ni'n newid y system honno nawr, gan roi llawer mwy o gymorth i'r system addysg bellach. Mae hyn wedi digwydd yn y prifysgolion eisoes, ac rydym yn symud nawr at addysg bellach. Felly, gobeithio bod hynny yn ogystal â'r fframweithiau digidol sy'n digwydd yn y colegau a'r prifysgolion yn rhan o hynny hefyd.   

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:26, 5 Mehefin 2018

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Mae angen defnyddio'r iaith yn y gwaith, yn gymdeithasol, a gyda theulu. Pan fyddaf yn ymweld â Chaernarfon, Cymraeg yw iaith naturiol pobl mewn siopau, tafarndai ac ar y stryd. Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, cefais anhawster y llynedd i gael banc i dderbyn llythyr yn y Gymraeg. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen mwy o gymunedau arnom fel Caernarfon? Sut y gallwn ni gyflawni hynny? Mae arnom angen mwy o gyrsiau prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg. Beth sy'n cael ei wneud i gyflawni hynny?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:27, 5 Mehefin 2018

Diolch yn fawr, Mike. Mae dy Gymraeg di'n gwella pob munud, chwarae teg. Rwy'n falch eich bod chi wedi rhoi pwyslais ar bwysigrwydd defnyddio'r iaith. Dyna rŷch chi'n ei weld mewn cymunedau fel Caernarfon, wrth gwrs, a byddai'n dda gweld mwy o gymunedau fel Caernarfon. Y ffordd i sicrhau hynny, wrth gwrs, yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a'r ffordd fwyaf hawdd i wneud hynny, wrth gwrs, yw drwy gynyddu'r nifer sy'n mynd i ysgolion Cymraeg. Dyna pam rydym yn pwysleisio'r cynnydd hwnnw rŷm ni eisiau ei weld mewn ysgolion Cymraeg, a dyna pam mae'r cynlluniau strategol hyn mor bwysig. Rŷm ni wedi gweld gwahaniaeth yn y safbwynt sy'n dod o lywodraeth leol tuag at y cynnydd yn nifer yr ysgolion y maen nhw'n barod i fuddsoddi ynddyn nhw o ran addysg Gymraeg.

Rŷch chi'n eithaf reit: mae pethau wedi newid eisoes mewn prifysgolion. Mae eisoes lot mwy o gyrsiau yr ydych yn gallu eu cymryd trwy gyfrwng y Gymraeg achos ein bod ni wedi buddsoddi yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw sicrhau bod mwy o gyrsiau ar gael. Fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, fe fyddwn ni nawr yn symud ymlaen i weld os gallwn ni wneud yr un peth ym maes addysg bellach.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:28, 5 Mehefin 2018

Weinidog, beth ydych chi'n gallu ei ddweud heddiw am ardaloedd fel Dwyrain Casnewydd, lle mae'r iaith Gymraeg yn eithaf gwan? Pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i ddelio â'r materion hyn, yn enwedig yn Nwyrain Casnewydd ac ardaloedd tebyg yng Nghymru, i gefnogi'r iaith a'i gwneud yn fwy cryf yn y dyfodol?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:29, 5 Mehefin 2018

Diolch yn fawr, John. Rwy'n gwybod bod eich cefnogaeth chi tuag at y Gymraeg yn frwd, ac rwy'n gwybod bod yna grŵp y tu fewn i Gasnewydd sydd yn ymgyrchu'n frwd i sicrhau bod mwy o gyfleoedd gan blant, yn sicr, i gael mynediad at addysg Gymraeg. Rwyf wedi bod yn ymweld â'r ysgol ragorol yn eich etholaeth chi yng Nghasnewydd, lle mae cymaint o bobl o ardal ddifreintiedig yn cael addysg arbennig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r galw yna yn dod o’r gymdeithas. Mae Casnewydd yn un o’r ardaloedd hynny lle yr ŷm ni’n aros i weld a fydd llywodraeth leol yn barod i symud tamaid bach ymhellach ynglŷn â’i nod hi a’i ffordd hi o ddarparu addysg Gymraeg. Felly, rŷm ni’n aros i gael mwy o syniadau yn ôl oddi wrth lywodraeth leol yng Nghasnewydd.

Ond rydw i yn meddwl beth sy’n bwysig yw bod pobl yn deall nawr bod y strategaeth yma yn golygu nad ydym ni’n aros am i’r galw ddod o’r boblogaeth, ond ein bod ni’n arwain y galw, a dyna’r gwahaniaeth mawr y byddwn ni’n ei weld yn y dyfodol. Felly, rydw i yn meddwl ei bod yn bwysig hefyd ein bod ni yn rhoi help llaw i bobl, er enghraifft ym myd busnes, yn y siopau. Lle rŷm ni’n ymwybodol bod pobl yn siarad Cymraeg, cawn ni sicrhau ein bod ni’n gwybod pwy ydyn nhw a bod yna gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith unwaith eu bod yn dod mas o’r ysgol.