2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, cafwyd nifer o geisiadau cynllunio llwyddiannus ar gyfer llety myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae rhai pobl wedi sylwi bod bron bob bloc mawr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yng nghanol Caerdydd yn y 18 mis diwethaf wedi bod ar gyfer llety myfyrwyr. Ar yr un pryd, mae gennym ail floc myfyrwyr fel y'i gelwir yn ystyried gwneud cais am newid defnydd fel y gellir rhentu'r ystafelloedd i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr, o ganlyniad i ddiffyg galw gan y myfyrwyr. Mae gennym hefyd floc mawr yng Nghasnewydd nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr yn unig mwyach. Os oes diffyg galw am y blociau sydd eisoes wedi'u hadeiladu, pam fod mwy o flociau myfyrwyr yn cael eu hadeiladu, tybed. A yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r mater hwn, a beth rydych yn ei wneud i reoleiddio'r maes hwn?
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n sicr yn ymwybodol fod nifer fawr o adeiladau llety myfyrwyr o fewn Caerdydd nad ydynt yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr. Mae anhawster penodol o ran newid yr adeiladau llety hynny'n adeiladau llety i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr, wrth gwrs, oherwydd fy nealltwriaeth i yw bod y rheoliadau sy'n ymwneud â gwahanol fathau o adeiladau llety yn wahanol, felly mae yna broblem gyda hynny o ran gofod, ac ati. Gwn fod hwn yn fater y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio yn effro iawn iddo hefyd. Ond fy nghyngor i awdurdodau lleol, yn sicr, fyddai iddynt edrych yn agos iawn ar eu dadansoddiad o anghenion tai lleol, a threfnu eu gwaith cynllunio a'u prosesau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â chynllunio yn unol â'r anghenion tai lleol hynny.
Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n falch eich bod yn ymwybodol o'r mater. Credaf efallai fod angen i Lywodraeth Cymru chwarae rôl fwy yn y maes hwn, gan nad yw'r awdurdodau lleol o bosibl—yn sicr yng Nghaerdydd a Chasnewydd—yn gwneud digon am y peth. Credaf ei bod yn bosibl y bydd gennym ormod o adeiladau llety myfyrwyr. Yn sicr, rydym yn gwybod na all yr ehangu mewn addysg uwch barhau am byth; ni fydd cyflenwad diddiwedd o niferoedd myfyrwyr yng Nghaerdydd, Casnewydd, nag unrhyw le arall yng Nghymru, yn ôl pob tebyg. Credaf efallai fod rhyw fath o sgiâm ar waith yma. Mae'n bosibl fod y prifysgolion yn mynd ati'n fwriadol i greu gorgyflenwad o fflatiau ar gyfer y farchnad myfyrwyr, fel y gallant newid eu defnydd drwy'r drws cefn, a'u defnyddio wedyn i'w rhentu'n fasnachol. Rydym yn gwybod bod rheolau llai llym yn gymwys ar gyfer fflatiau myfyriwr nag ar gyfer datblygiadau masnachol, er enghraifft, ac rydych wedi cyfeirio at hynny yn eich ateb. A ydych yn ymwybodol y gallai prifysgolion fod yn twyllo'r cynghorau lleol i ganiatáu iddynt ddatblygu'r blociau myfyriwr hyn, a bod penaethiaid y prifysgolion yn gwybod yn iawn y byddant yn eu rhentu'n fasnachol wedyn?
Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar brifysgolion ac awdurdodau lleol i gael trafodaethau difrifol ynglŷn â'u hamcanestyniadau o anghenion lleol ar gyfer myfyrwyr a phobl nad ydynt yn fyfyrwyr, ac i gynllunio eu cynlluniau adeiladu newydd a'r hyn sydd ar gael yn lleol fel llety yn y ffordd honno. Nid wyf yn siŵr fod yna rôl i Lywodraeth Cymru o ran pennu'r nifer o adeiladau llety myfyrwyr a ddylai fod ar gael, ond dylai'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud ar sail tystiolaeth a thrwy ddull o weithredu sy'n seiliedig ar anghenion.
Dylent. Rydych yn cyfeirio at yr angen am ddull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n siŵr eich bod yn iawn yn hynny o beth. Ond efallai y bydd goblygiadau o ran eich dyheadau am dai fforddiadwy yng Nghymru, y buoch yn dweud wrthym amdanynt yn y Cynulliad yr wythnos hon. Yn sicr, roeddem yn cytuno bod gennym brinder tai fforddiadwy yma.
Mae datblygwyr masnachol, pan fyddant yn adeiladu ystadau tai newydd, wedi'u rhwymo'n gyfreithiol i ddarparu elfen o dai fforddiadwy. Nid oes unrhyw reidrwydd o'r fath ar ddatblygwyr sy'n adeiladu blociau myfyriwr fel y'u gelwir. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r prifysgolion yn ei wneud o bosibl, ac yn ymchwilio i'r arfer, mae perygl eich bod yn caniatáu i'r prifysgolion, a'u partneriaid yn y busnes adeiladu, danseilio eich dyheadau am dai fforddiadwy. Felly, a ydych yn ymwybodol o'r bygythiad hwn? A gofynnaf i chi eto: a ydych yn bwriadu gwneud unrhyw beth yn ei gylch?
Wel, mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio eisoes wedi dweud ei bod yn bwriadu cyhoeddi adolygiad eang o'r rheolau tai a chynllunio yn ystod yr haf. Felly, rwy'n siŵr y bydd hwn yn un o'r materion a fydd yn dod i'r amlwg ac yn cael sylw yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw, a bydd yn gyfle i ystyried yr angen am newidiadau yn hynny o beth.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Iawn. Rwyf am sôn am faterion yn ymwneud â chyffuriau, felly nid wyf yn gwybod a yw hynny—. Ni ofynnwyd i mi os mai Rebecca—.
Rydych wedi nodi bod eich cwestiwn ar gyfer y Gweinidog.
O, iawn. Wel, yn y lle cyntaf—
A ydych chi wedi gwneud hynny? Ai dyna a ddealloch chi?
Un i Vaughan Gething ydyw, ond rwy'n hapus i dderbyn y cwestiwn.
Ie, wel, iawn, fe gawn weld a oes yna waith trawslywodraethol yn digwydd felly. [Chwerthin.]
Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â defnyddio cyffuriau, a chamddefnyddio cyffuriau mewn rhai mannau, sydd wedi cyrraedd lefelau dychrynllyd o uchel, ac fe ddangosodd adroddiad yn gynharach eleni fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddefnyddio heroin wedi cynyddu'n sylweddol ers 1993. Yn ogystal â hyn, mae cynnydd sy'n peri pryder wedi bod mewn troseddau llinellau cyffuriau, gyda gwerthwyr cyffuriau a gangiau yn gynyddol yn targedu cymunedau llai ac yn symud o ddinasoedd mawr yn Lloegr i ddod yma. Gwn ein bod wedi clywed straeon yn Abertawe ac yng Nghastell-nedd yng Ngorllewin De Cymru. Mae'n un o'r 10 lle yng Nghymru a Lloegr lle mae nifer y marwolaethau wedi codi fwyaf, ac mae defnydd o gyffuriau eraill, fel spice, hefyd ar gynnydd. Deallaf eich bod yn gweithio gyda'r heddlu mewn perthynas â hyn, ond roeddwn eisiau deall sut rydych yn gweithio gyda hwy fel y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol.
O, chi ydyw. Iawn.
Nid ydych wedi clywed yr ateb eto. [Chwerthin.]
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar y mater hwn. Rwyf wedi cyfarfod â swyddogion sy'n ymdrin â throseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru i drafod y materion a nododd. Maent yn faterion difrifol iawn, wrth gwrs, sy'n effeithio ar bob un o'n lluoedd ar draws y wlad. Felly, rydym yn gweithio gyda hwy. Dros yr haf, rwy'n gobeithio sefydlu strwythurau lle y gallwn ffurfioli'r gwaith a wnawn gyda'r heddluoedd ar hyn o bryd. Mae'r Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, nad yw'r rhain yn faterion datganoledig—nid yw polisi cyffuriau na phlismona wedi'u datganoli. Felly, rydym yn gweithio mewn meysydd lle nad oes gennym reolaeth dros yr agenda polisi, ond yn amlwg mae gennym ddylanwad mawr, gobeithio, yn y ffordd y gellir cyflawni'r gwaith o blismona. Felly, rydym yn ymwybodol o'r broblem. Rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau rydych yn eu disgrifio yng Nghastell-nedd, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gweithio gyda heddluoedd i gyflawni'r math o ymateb rydych wedi'i ddisgrifio.
Mae'r cwestiwn nesaf yn ymwneud â'r mater hwn a thai, felly caf weld os gall y ddau ohonoch godi, o bosibl.
Na, na. Nid yw'n fater o daflu'r cwestiwn allan a—
I fod yn onest, ni ofynnwyd i mi y tro hwn, fel sy'n arfer digwydd, pa Weinidog roeddwn yn cyfeirio'r cwestiwn ato, felly rwy'n credu mai dyna pam y bu dryswch.
I bwy rydych yn gofyn y cwestiwn? Gwnewch hynny'n glir yn awr, ac rwyf am ofyn i'r Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb. Pa un ydych chi—? Na, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb a pheidiwch â fy rhoi yn y sefyllfa hon eto.
Dyma pam fod hwn yn fater a allai fod yn ddryslyd i'r Llywodraeth o ran pwy sy'n ymateb i beth, oherwydd bod yna broblem mewn perthynas â'r cyswllt rhwng amddifadedd a chyffuriau, a'r broblem o ran tai, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'r Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau wedi'i gadarnhau mewn perthynas â'r mater hwn.
Y llynedd, dywedodd Wales Online fod un dyn a oedd yn gaeth i heroin wedi dweud wrthynt ei fod eisiau dychwelyd i'r carchar lle roedd mwy o gymorth ar gael, ac roedd y dyn yn ddigartref, heb fynediad realistig at dai yn y cyflwr roedd ynddo. Ond mae hynny'n golygu ein bod angen y math cywir o dai. A gwyddom am achosion mewn cymunedau yn y Cymoedd, er enghraifft, lle y gall fod rhes o fflatiau, neu res o dai, lle bydd gan yr holl bobl mewn fflat broblemau camddefnyddio cyffuriau, ac os cânt eu rhoi yn yr un sefyllfa, ni fyddant yn gallu goresgyn y ddibyniaeth honno.
Felly, roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â chynllun peilot tai yn gyntaf a sut y gallem sicrhau, os ydych am sicrhau y bydd y cynlluniau peilot yn gweithio, fod y rhai sy'n brwydro yn erbyn problemau camddefnyddio cyffuriau yn gallu eu goresgyn os cânt eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn teimlo efallai na allant wneud hynny, os cânt eu rhoi mewn tai nad ydynt yn addas ar eu cyfer.
Rwyf am ddweud yn garedig iawn wrth yr Aelod: nid y Llywodraeth sydd wedi drysu ar y mater hwn. Serch hynny, mae'r materion a ddisgrifiwyd yn amlwg yn bwysig ac yn effeithio ar nifer fawr o bobl. Rwyf wedi cyfarfod â llywodraethwyr carchardai yng Nghymru i drafod rhai o'r materion y mae'n eu codi o ran effaith camddefnyddio sylweddau ar y rhai sy'n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel yng Nghymru, a'r driniaeth y maent yn ei chael o fewn y sefydliadau hynny a phan fyddant yn gadael. Credaf fod enghreifftiau da ledled Cymru lle mae cyfleoedd rhagorol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer byrddau iechyd yn arbennig i ymyrryd, i ddarparu cymorth i bobl sy'n camddefnyddio sylweddau mewn sefydliadau diogel ac yna i sicrhau bod triniaeth ar gael iddynt pan fyddant yn cael eu rhyddhau. Rwy'n derbyn yn llwyr fod llawer o waith i'w wneud eto ar hyn, ac nid wyf yn credu bod yr amgylchedd polisi a grëwyd gan y Swyddfa Gartref bob amser yn ddefnyddiol iawn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Ond mae'n rhywbeth rydym yn ei drafod ar hyn o bryd gyda'n heddluoedd a'n cyfleusterau carchardai a'r gwasanaeth carchardai yng Nghymru, ond hefyd gyda'r trydydd sector a gwasanaethau cymorth eraill sy'n darparu gwasanaethau i bobl sydd yn y sefyllfa hon.
Wel, rwy'n falch eich bod wedi dweud bod llawer o waith i'w wneud, oherwydd rwyf wedi cyfathrebu'n benodol â gweithgor digartrefedd cyngor Abertawe, dan gadeiryddiaeth yr Aelod Cynulliad blaenorol, Peter Black, a ysgrifennodd at y Cynghorydd Andrea Lewis yn ddiweddar, yr aelod cabinet â chyfrifoldeb, gydag amlinelliad eithaf damniol o sut y mae'r ddinas yn ymdrin â'r broblem, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion cymhleth. Nododd y gweithgor fod yn rhaid i unrhyw gleient sy'n dymuno cael cymorth yn Abertawe, hunanatgyfeirio at Wasanaeth Asesu Alcohol a Chyffuriau Abertawe yn gyntaf, ar ddydd Llun neu fore Mawrth, ac mae angen gwneud yr oriau atgyfeirio hyn yn fwy hyblyg a'u hymestyn yn ddramatig oherwydd mae'n rhaid i'r cleientiaid nad ydynt yn gallu mynd ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth aros wythnos am gyfle arall. Ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio, bydd yn rhaid iddynt fod ar restr aros am gymaint â chwe mis i gael cymorth ac mae rhestr aros am 12 mis arall i gael cymorth adsefydlu. Does bosib fod ymateb o'r fath yn ddigon da i'r broblem gynyddol hon.
Rwyf wedi gweld y gwaith a wnaeth y gweithgor yn Abertawe, ac nid oes neb i'w weld eisiau cymryd cyfrifoldeb—Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, y cyngor nac iechyd. Felly, os ydym am sicrhau bod y bobl hynny'n cael y gefnogaeth y maent ei hangen, sut y gallwn wneud hynny pan fo'r system i'w gweld yn symud mor araf?
A gaf fi ddweud fy mod yn cydnabod yr anawsterau y mae'r Aelod yn eu disgrifio? A chredaf fod yna broblemau lle mae gennym setliad sy'n aneglur ac wedi torri, ac rwyf wedi gwneud yr achos hwnnw ar sawl achlysur. Nid yw'r ffordd y caiff plismona yn arbennig, a'r gwasanaethau cosbi eu darparu ar hyn o bryd yn rhoi'r ateb gorau i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau, fel y mae'n disgrifio, i bobl ledled Cymru. Rwy'n derbyn hynny, a gobeithiaf y bydd y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a rhannau eraill o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ar yr achos hwnnw.
O ran y gwasanaethau a ddarperir yn ardal Abertawe, yn amlwg, nid wyf yn gyfarwydd â'r materion a godwyd ganddi y prynhawn yma. Ond os yw'n barod i ysgrifennu ataf, rwy'n fodlon codi'r materion hynny a sicrhau ei bod yn cael ymateb yn y modd cyfannol a chynhwysfawr y mae'n disgwyl ei weld, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd rwy'n cytuno â hynny. Rwy'n credu ein bod angen ymagwedd lawer mwy cynhwysfawr tuag at gamddefnyddio sylweddau o ran trin pobl, cynnal pobl mewn llety, a lle bo angen, sicrhau bod ganddynt y modd i gael eu trin, a'u trin yn briodol, er mwyn rhoi diwedd ar gamddefnyddio sylweddau, a'u galluogi i symud ymlaen a byw eu bywydau. Dyna ein huchelgais, a dyna rydym yn gweithio tuag ato.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn dilyn y ddadl ddoe ar dai fforddiadwy yng Nghymru, hoffwn gyffwrdd ar rai pryderon ehangach pwysig na chawsant eu codi yn y ddadl. Mae fy mhryderon yn ymwneud yn arbennig â sicrhau bod y cyflenwad cynyddol o dai sydd eu hangen arnom yn addas ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn adeiladu digon o gartrefi i ddiwallu anghenion a gofynion cenedlaethau'r dyfodol, yn enwedig o ran effeithlonrwydd ynni. Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu'r her o foderneiddio cartrefi na chawsant eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol pan gawsant eu hadeiladu'n wreiddiol, na chydag unrhyw hyblygrwydd i allu addasu, ac yn ddelfrydol, mae angen i ni ddysgu o hanes a pheidio ag ailadrodd y camgymeriad hwn. Felly, pa gymorth sy'n cael ei roi i'r sector fel y gallant adeiladu'r niferoedd mawr o dai o safon sydd eu hangen i fod yn gynaliadwy yn yr unfed ganrif ar hugain?
Diolch i chi am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae ein rhaglen tai arloesol yn sicr yn ganolog i'n hymateb i'r her ddifrifol sy'n ein hwynebu mewn perthynas â chreu cartrefi carbon isel—di-garbon yn ddelfrydol—ac mae gennym brosiectau rhagorol yn cael eu cyflwyno yn awr ac yn cael eu hadeiladu ac rydym eisoes yn dysgu oddi wrthynt o'n ffrwd o brosiectau y llynedd. Ond, y tro hwn, rydym yn awyddus iawn i adeiladu ar rai o'r prosiectau hynny ers y llynedd, ond hefyd i edrych am brosiectau lle rydym yn uwchraddio. Felly, rydym wedi gwahodd prosiectau ar gyfer yr ail flwyddyn hon, ac mae dyddiad cau'r ceisiadau yr wythnos hon ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy mewn gwirionedd, fel y gallwn ddechrau uwchraddio rhywfaint o'r gwaith cyffrous sydd eisoes yn cael ei wneud drwy'r rhaglen tai arloesol.
Hefyd, er ein bod yn gwneud llawer iawn o waith i geisio estyn cymorth i fusnesau bach a chanolig ddychwelyd i'r sector, gwyddom fod angen i ni sicrhau bod yr adeiladwyr mwy o faint yn gweithio yn y ffordd hon hefyd. Felly, rydym wedi gwneud gwaith gyda'n rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr cartrefi ar yr hyn y gallwn ei wneud yn y dyfodol, gan edrych ar ddyfodol Cymorth i Brynu o bosibl. Mae hwnnw wedi bod yn hynod boblogaidd, fel y gallwch ei ddychmygu, ymhlith yr adeiladwyr mwy, ond mae'n ddull pwysig sydd gennym, felly mae angen i ni ystyried sut rydym yn ei defnyddio i gyflawni ein hamcanion ehangach ar draws y Llywodraeth.
Diolch i chi am hynny, sydd, yn rhannol, yn galonogol. Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod yn edrych ar holl fater effeithlonrwydd ynni mewn tai. Mae ein tystiolaeth wedi awgrymu bod nifer sylweddol o rwystrau i gyflawni newid trawsnewidiol yn y gwaith o adeiladu tai yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r Ffederasiwn Adeiladu Cartrefi wedi mynegi pryder y bydd newid trawsnewidiol yn arwain at lai o dai yn cael eu hadeiladu, ac mae sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru, wedi adleisio pryderon fod yna nifer o heriau eisoes i adeiladu'r nifer angenrheidiol o dai fforddiadwy, yn enwedig os yw targedau tai'n mynd i gael eu cyrraedd.
Nid yw'n swnio fel pe bai'r sector yn barod am yr heriau sy'n ei wynebu, a chredaf fod yn rhaid i ni eu gwthio o ddifrif oherwydd rydym angen llawer mwy o ymateb ganddynt, ac uchelgais. Er enghraifft, rydym wedi gweld yr wythnos hon fod Llywodraeth y DU wedi rhyddhau ei strategaeth uchelgeisiol 'Road to Zero', sy'n cynnwys cynnig i osod mannau gwefru ceir electronig ym mhob cartref newydd ym maestrefi Lloegr. Dyma'r math o bolisi integredig rydym ei angen, ac rwy'n gobeithio—. Mae'r gronfa arloesi yn syniad gwych, ond mae angen iddo arwain yn gyflym at brif ffrydio'r datblygiadau mawr y gwyddom y byddant yn gweithio, fel gosod mannau gwefru mewn cartrefi newydd fel mater o drefn. Rwy'n gobeithio y byddwch yn herio'r sector, yn enwedig yr adeiladwyr tai preifat, i wella eu harferion.
Diolch i chi, ac rwy'n sicr yn credu ei bod yn bryd i ni gael y drafodaeth heriol honno gyda'r adeiladwyr tai mawr yn awr, yn enwedig am fy mod yn siomedig i ddarllen peth o'r dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi'i chael, a oedd bron yn awgrymu bod popeth yn iawn, 'Gadewch i ni beidio â newid unrhyw beth'. Ond nid yw popeth yn iawn, ac mae angen i ni newid pethau. Ar hyn o bryd, rydym yn adeiladu tai, ond rwy'n amau, mewn blynyddoedd i ddod, y byddwn yn dychwelyd er mwyn ôl-osod yn ogystal, ac mae honno'n gost nad yw perchnogion tai ei heisiau ac mae'n gost nad yw'r Llywodraeth ei heisiau. Felly, mae angen i ni newid y ffordd rydym yn adeiladu tai. Rwy'n teimlo bod y rhaglen tai arloesol sydd gennym yma yng Nghymru, ochr yn ochr â'r holl arferion gwych rydym yn eu gweld yn datblygu mewn rhannau eraill o'r byd hefyd, yn ein harwain at bwynt pan ydym ar drothwy chwyldro yn y ffordd rydym yn adeiladu tai. Buaswn wrth fy modd pe bai'r adeiladwyr tai mawr yn rhan o'r chwyldro hwnnw.
Yn draddodiadol, yr adeiladwyr bach sydd wedi gallu neu sydd wedi bod yn barod i wynebu risgiau o ran adeiladu cartrefi mewn ffordd wahanol, ac rydym yn cefnogi hynny'n llwyr. Felly, y tro hwn, mae'r rhaglen tai arloesol yn agored i fusnesau preifat gymryd y camau cyffrous hynny, ond yr adeiladwyr mawr a ddylai fod yn camu i'r adwy o ran newid y ffordd y maent yn adeiladu pethau. Rydym yn gwbl ymrwymedig i weithio gyda'r sector, ond nid oes gennym ofn gwthio'r sector i ble sydd angen inni ei wthio yn ogystal.
Weinidog, yn ddiweddar, cyhoeddwyd strategaeth drefol gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, y gobeithiwn y bydd yn creu dinasoedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac rwy'n falch fod fy nghyd-Aelodau, o leiaf, wedi darllen y papur.
A ydych chi'n siŵr? [Chwerthin.]
Rwyf wedi gosod prawf, peidiwch â phoeni.
Mae hyn yn cynnwys rhai elfennau o'r polisi tai a byddwn yn cynhyrchu dogfen arall yn benodol ar dai yn yr hydref. Ond un maes rydym wedi edrych arno yn y strategaeth yw toeon gwyrdd. Mae yna ddatblygiadau tai bellach ledled Lloegr—ac mae un enghraifft yn Barking yn Llundain—lle mae datblygwyr yn ymchwilio i'r defnydd o doeau gwyrdd ar dai oherwydd yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar inswleiddio thermol, gwanhau llif dŵr storm, gwella ansawdd aer, gwella ansawdd dŵr, creu cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio a gwella'r ymdeimlad o lesiant a nifer y mannau gwyrdd o'n cwmpas. Credaf y gallai rhaglen tai arloesol Llywodraeth Cymru fod yn ffordd amlwg o edrych ar y math hwn o arloesedd yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynlluniau peilot yn cael eu cyflwyno yn awr mewn perthynas â thoeau gwyrdd, oherwydd mae rhai dinasoedd yn y DU yn amlwg bellach yn gweld hon fel ffordd dda iawn o ddatblygu tai effeithiol yn yr unfed ganrif ar hugain.
Ie, rwy'n cytuno, ac rwy'n sicr wedi darllen eich dogfen, ac edrychaf ymlaen at weld y ddogfen ar dai yn yr hydref hefyd.
Rhannaf eich cyffro ynglŷn â thoeau gwyrdd ac rydym eisoes wedi gweld enghreifftiau da iawn. Mae'r prosiect Down to Earth yn fy etholaeth, yng Ngŵyr, wedi adeiladu adeiladau gyda thoeau gwyrdd a gwelsant fod hynny'n dda, nid yn unig o ran strwythur yr adeilad, ond yn dda i'r enaid o ran y bobl sy'n gweithio yno. Mae i'w weld yn rhywbeth sy'n creu'r math o amgylchedd sy'n sicr yn cyfrannu at lesiant, ochr yn ochr â'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae o ran datgarboneiddio ac ati. Felly, mae digonedd o gyfleoedd yno, ond rwy'n awyddus i archwilio hyn beth bynnag, nid yn unig o fewn y portffolio tai neu o fewn y rhan o fy ngwaith sy'n ymwneud â thai. Roeddwn mewn cyfarfod diweddar o'r hyb sydd wedi dechrau gweithio yn Rhydaman a Cross Hands. Maent yn edrych ar brosiectau adfywio yn ardal sir Gaerfyrddin. Mae toeau gwyrdd yn un o'r pethau y maent yn eu gwneud o ran paratoi'r adeiladau y byddant yn eu cyflwyno, er mwyn cynyddu nifer swyddi ac ati. Felly, credaf y dylid ystyried toeau gwyrdd fel rhan o'n huchelgeisiau adfywio, yn ogystal â sut rydym yn edrych ar adeiladu tai yn benodol.