– Senedd Cymru am 3:11 pm ar 26 Medi 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Wrth eich Gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar, ac yn benodol, y rhai a rannodd eu profiadau personol o wahaniaethu yn y gweithle.
Roeddem yn gallu clywed y lleisiau hyn yn uniongyrchol, drwy ein fforwm ar-lein, grwpiau ffocws, a thrwy'r rhai a rannodd eu straeon â'r dylanwadwr cymdeithasol enwog a'r ymgyrchydd dros weithio hyblyg, Anna Whitehouse, a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Mae'n bwysig clywed profiadau bywyd pobl, ac fe gyfoethogodd y dystiolaeth hon ein dealltwriaeth yn fawr.
Yn 2016, canfu arolwg gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth eang o wahaniaethu yn y gweithle tuag at fenywod beichiog a rhieni. Canfu fod hyd at 54,000 o fenywod ym Mhrydain yn colli eu swyddi bob blwyddyn—[Torri ar draws.]. Ymddiheuriadau, Lywydd. Ac wrth gwrs, mae pob un o'r swyddi hynny a gollir yn drychineb bersonol i'r bobl yr effeithir arnynt, a'u teuluoedd yn wir. Ac o edrych ar y cyfanswm, mae'n golled fawr i'r economi.
Ym mis Mawrth, Lywydd, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i wneud Cymru'n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rydym yn credu bod ein hargymhellion a'n casgliadau yn nodi materion hollbwysig y mae angen rhoi sylw iddynt er mwyn cyflawni'r nod hwn. Mae atal cyfran fawr o'r boblogaeth rhag cyfrannu eu sgiliau a'u profiadau i'r gweithlu yn annheg ac nid yw'n gwneud synnwyr economaidd. Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gallai cydraddoldeb i fenywod arwain at gynnydd o 10% yn economi'r DU. Er nad yw cyfraith cyflogaeth wedi'i ddatganoli, mae digon o arfau ar gael at ddefnydd Llywodraeth Cymru, fel sy'n cael ei gydnabod yn ei hymateb i'n hadroddiad.
Mae gweithio hyblyg yn allweddol i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Clywsom dystiolaeth rymus gan amrywiaeth o dystion ar ba mor bwysig yw ei gynnig i weithwyr. Eto, yn anffodus, ymhlith gwledydd y DU, Cymru sydd â'r gyfran isaf o gyflogwyr sy'n sicrhau ei fod ar gael. Mae'n galonogol gweld Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un ond un o'n hargymhellion ar y materion arbennig hyn. Ac mae hefyd yn galonogol fod Llywodraeth Cymru, fel cyflogwr, eisoes yn hysbysebu pob swydd fel swyddi hyblyg yn ddiofyn. Credwn y dylai awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu'r arfer ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hyn.
Mae'n bwysig iawn fod pobl sy'n chwilio am waith yn gwybod bod gweithio hyblyg yn opsiwn a'i fod yn eglur yn hysbyseb a disgrifiad y swydd. Mewn gwirionedd, byddai'n dda cynnwys slogan debyg i slogan Llywodraeth yr Alban, 'hapus i drafod gweithio hyblyg' ar gyfer pob un o hysbysebion swyddi Llywodraeth Cymru, a byddai'n ddefnyddiol cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn annog sefydliadau sector cyhoeddus eraill i ddilyn ei hesiampl.
Clywsom am yr heriau penodol sy'n wynebu athrawon. Mae argymhellion 5, 6 a 7 yn galw am fwy o hyblygrwydd iddynt. Mae ymateb y Llywodraeth yn galonogol, ond byddem yn croesawu rhagor o eglurhad mewn perthynas â phryd y bydd y canllawiau recriwtio perthnasol yn cael eu hadolygu a'u diweddaru.
Er ein bod yn gweld arwyddion calonogol yn y sector cyhoeddus, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweithio mewn mentrau preifat, felly mae angen i ni newid agweddau a chyfleoedd ar gyfer gweithio hyblyg yn y sector hwn hefyd ac mae nifer o ysgogiadau ar gael i Lywodraeth Cymru ddylanwadu ar newid o'r fath, yn bennaf drwy'r cynllun gweithredu economaidd a'r contract economaidd, caffael, a'r cyngor a'r cymorth a gynigir gan Busnes Cymru.
Os yw Llywodraeth Cymru am arddel yr uchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae'n rhaid iddi weithio'n galetach i sicrhau bod gweithio hyblyg ar gael ar draws y sector preifat. Gydag arweiniad da a meddwl creadigol, dangosodd ein tystiolaeth y gall weithio ym mhob math o weithleoedd, gan gynnwys ffatrïoedd fel ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion perthnasol, a chredaf mai dyma lle mae'r ymateb braidd yn wan. Mae argymhelliad 9 yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod busnesau sy'n manteisio ar eu cymorth ariannol yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a bod hwn yn cael ei wneud yn ofyniad allweddol yn y contract economaidd. Caiff hyn ei dderbyn mewn egwyddor, ond byddem yn hoffi ymrwymiad cryfach i sicrhau bod cwmnïau sy'n derbyn cymorth ariannol yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg mewn gwirionedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer o bwyslais ar waith y Comisiwn Gwaith Teg, mewn perthynas â'r argymhelliad hwn ac eraill. Byddem yn hoffi cael ymrwymiad i ddarparu ymateb pellach i'r argymhellion perthnasol ar ôl cael adroddiad y Comisiwn. Clywsom fod gan Busnes Cymru rôl hanfodol i'w chwarae yn darparu cymorth a chyngor i'r sector preifat ond nad yw'n cyflawni'n ddigonol ar hyn o bryd, a gellid sicrhau newid cadarnhaol yn hawdd.
Derbyniwyd argymhellion 4 a 23, sy'n galw ar Busnes Cymru i roi cyngor arbenigol i gyflogwyr ar sut i ymdrin â cheisiadau am weithio hyblyg, ac i'r gefnogaeth gynnwys cyngor a chymorth ar recriwtio niwtral o ran y rhywiau, ond rydym yn credu y dylai fod ymrwymiad clir i adolygu sut y mae Busnes Cymru yn darparu'r cyngor a'r cymorth hwn. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen yr adolygiad hwn yn awr.
Yr ochr arall i'r un geiniog yw pa mor bwysig yw hi i rieni a darpar rieni gael mynediad at gyngor manwl o ansawdd da am eu hawliau a rhwymedigaethau eu cyflogwyr. Mae hwn yn faes arall lle teimlwn y gellir gwneud llawer mwy. Mae Maternity Action yn gweithredu llinell gyngor ledled y DU, ac nid oes digon o bobl i ymdopi â nifer y galwadau. Dywedwyd wrthym nad ydynt ond yn gallu ateb un o bob pump galwad. Adlewyrchwyd hyn yn y dystiolaeth a glywsom gan unigolion a geisiodd gael gafael ar gyngor a chymorth arbenigol. Felly, mae argymhelliad 28 yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i gynyddu'r ddarpariaeth o gyngor arbenigol ar faterion rhianta a chyflogaeth. Wrth dderbyn yr argymhelliad, mae'r Llywodraeth yn datgan bod Busnes Cymru yn darparu cyngor ac y bydd y Llywodraeth yn ystyried darparu cyngor sy'n ymwneud â chyflogaeth ar ôl i adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg gael ei gyflwyno, ond nid ydym yn cyfeirio at gyngor i gyflogwyr yn yr adroddiad hwn, ond yn hytrach, at gyngor i gyflogeion, ac nid ydym yn credu bod angen i hynny aros am adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Byddem yn gofyn i ystyriaeth bellach gael ei rhoi i'r mater pwysig hwn yn awr. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru'n cymryd camau i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ansawdd cyngor gyrfaoedd ar gyfer rhieni sy'n dychwelyd i'r gwaith. Rydym yn falch o weld yr ymrwymiad i ofyn i Gyrfa Cymru ystyried rhieni sy'n dychwelyd i'r gwaith wrth ddatblygu porth cyngor cyflogaeth. Rydym yn gobeithio y bydd y rheini a fydd yn darparu cymorth gyrfa i bobl yn meddu ar arbenigedd mewn materion sy'n ymwneud â rhianta a gwaith.
Wrth gwrs, wrth wraidd yr holl faterion hyn mae syniadau diwylliannol sydd wedi hen ymwreiddio ynglŷn â menywod a rhianta, ac maent yn creu rhwystr aruthrol i ymdrechion i newid deddfwriaeth a blaenoriaethau'r Llywodraeth oherwydd y realti sylfaenol hwnnw sy'n galw am newid yn y gymdeithas ehangach a chymorth ar gyfer newid angenrheidiol, boed drwy ddeddfwriaeth neu strategaeth a pholisi. Rydym yn gwybod na fyddwn yn dileu gwahaniaethu ar sail mamolaeth neu feichiogrwydd tra bo gofal di-dâl yn cael ei ystyried fel cyfrifoldeb i fenywod yn unig. Codwyd y materion hyn dro ar ôl tro. Clywsom am achosion o wahaniaethu yn erbyn pobl ar y cam recriwtio a rhoi dyrchafiad oherwydd eu bod yn fenywod ac oherwydd ei bod yn bosibl y byddent angen absenoldeb mamolaeth ar ryw adeg yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, gall hyn weithio'r ddwy ffordd, gydag agweddau sydd wedi ymwreiddio ynglŷn â rolau rhywedd yn atal dynion rhag gallu ysgwyddo cyfrifoldebau gofal plant pan fyddant yn dymuno gwneud hynny.
Mae gan bawb rôl i'w chwarae yn herio'r stereoteipiau hyn sy'n atal menywod a dynion fel ei gilydd, ond y dull gorau yw atal y syniadau hyn rhag dod yn norm yn y lle cyntaf, ac addysg yw'r arf gorau i wneud hynny. Felly, rwy'n falch fod argymhelliad 22, sy'n galw am gynnwys rolau rhywiau a rhianta yn yr addysg rhyw a pherthnasoedd newydd, wedi cael ei derbyn.
Fel rhan o'n gwaith craffu, buom yn ystyried cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, a gwnaethom argymhellion 13 i 15. Derbyniodd y Llywodraeth un o'r rhain mewn egwyddor, a gwrthod y ddau arall. Wrth gwrs, cafodd y materion hyn eu gwyntyllu yn y Siambr yr wythnos diwethaf pan drafodwyd y ddeddfwriaeth, ac nid wyf yn bwriadu eu hailadrodd, ond gan fod yr egwyddorion cyffredinol wedi'u cytuno bellach, rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu polisïau a fydd yn ehangu mynediad at ofal plant fforddiadwy, gan fod hwn yn arf hanfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Yn olaf, daethom i'r casgliad fod angen data gwell mewn perthynas â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyfraddau cadw staff ar famolaeth. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad yn yr ymateb i gyhoeddi data cyflogaeth a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn un lleoliad, ac rydym yn falch o weld y bydd y Llywodraeth yn rhoi mwy o ystyriaeth fanwl i argymhelliad 24, lle roeddem yn galw am gasglu cyfraddau cadw staff ar famolaeth fel rhan o ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
Yn fwy cyffredinol, rydym yn croesawu'r adolygiad o'r dyletswyddau cydraddoldeb hyn, a fydd hefyd yn ystyried lleihau'r baich gweinyddol ar y sector cyhoeddus. Hoffem eglurder ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer yr adolygiad hwn ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd a phenderfyniadau erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Ddirprwy Lywydd, os yw Cymru am fod yn arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, bydd gwneud newidiadau mewn perthynas â rhianta a chyflogaeth yn cyfrannu'n sylweddol tuag at wireddu hyn. Ni allwn ganiatáu i bethau barhau fel y maent. Mae'n bryd i'r byd gwaith addasu a newid er mwyn ystyried y newidiadau yn y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio.
Rwy'n edrych ymlaen yn awr at gyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr.
Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd—yn sicr, am yr amser yr oeddwn ar y pwyllgor hwnnw—i'r clerc ac i aelodau eraill y pwyllgor. Roedd hwn yn waith diddorol iawn i'w wneud, ac i mi roedd yn dda iawn oherwydd ei fod, wrth gymryd tystiolaeth, yn dod â phobl ynghyd o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol. Gwnaeth ein hadroddiad 34 o argymhellion cynhwysfawr, a bwriad pob un yw mynd i'r afael â rhai o'r materion cyfredol sy'n ymwneud â hyblygrwydd swyddi, gwahaniaethu ar sail mamolaeth a rhagfarn ar sail rhywedd o fewn cwmpas cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru yn y gweithle.
Mewn Cymru ddatganoledig, mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i'n gweithleoedd ddod yn arweinwyr byd mewn hawliau menywod, cydraddoldeb rhwng y rhywiau—uchelgais rwy'n gobeithio y bydd llawer yn y Siambr hon yn ei rhannu. Ond er mwyn cyflawni hyn, mae angen uchelgais, arloesedd a dyhead. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 30 argymhelliad mewn egwyddor allan o 34 argymhelliad. Gan ddechrau mor gynnar ag argymhelliad 1, os caiff ei roi ar waith, bydd yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn hysbysebu pob swydd fewnol fel rhai hyblyg yn ddiofyn, a bydd hefyd yn darparu canllawiau i annog awdurdodau cyhoeddus—yr holl awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru—i wneud yr un peth. Mae argymhelliad 4 yn sicrhau y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i annog Busnes Cymru i ddarparu cyngor priodol ac arbenigol i gyflogwyr ynglŷn â sut i ymdrin â cheisiadau i weithio'n hyblyg mewn modd effeithiol—cam pwysig, o ystyried y gwacter a amlygwyd gan lawer o dystion. Fel y mae'r adroddiad yn ei nodi, nid gweithio rhan-amser yn unig y mae gweithio hyblyg yn ei olygu. Mae'n cynnwys unrhyw ffordd o weithio sy'n gweddu i anghenion y cyflogai: rhannu swydd, amseroedd dechrau a gorffen hyblyg, gweithio yn ystod y tymor a threfniadau eraill. Bydd y gwelliannau hyn yn rhoi dewis i ddynion a menywod fel bod rhieni yng Nghymru yn gallu gweithio mewn ffordd sy'n addas iddynt hwy a'u teuluoedd, tra'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau cyfredol rhwng y rhywiau. Bydd hefyd yn gwella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle.
Yn bwysig, rwy'n falch o weld y bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio'r posibilrwydd o hysbysebu swyddi addysgu fel rhai hyblyg yn ddiofyn yn y Canllaw i'r Gyfraith i Lywodraethwyr, a amlinellwyd yn argymhelliad 6. Mae hyn yn gynyddol bwysig, gan fod dadansoddiad gan y Gyfnewidfa Bolisi wedi awgrymu y dylai ysgolion groesawu gweithio hyblyg er mwyn atal menywod rhag rhoi'r gorau i addysgu yn barhaol ar ol cyfnod mamolaeth. Bydd hyn eto yn gwella cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Er bod addysgu'n cael ei ystyried yn sector sy'n cael ei ddominyddu gan fenywod, 33 y cant yn unig o benaethiaid ysgolion uwchradd sy'n fenywod. Gyda dynion yn dal y swyddi uchaf o hyd, bydd caniatàu i fenywod ddychwelyd i'r gwaith ar eu telerau eu hunain yn gwella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y sector yn helaeth heb fod angen i fenywod aberthu eu teuluoedd.
Os bydd rhiant yn gallu dychwelyd i waith hyblyg, bydd angen gofal plant yn ddi-os. Mae argymhelliad 14 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r camau pellach y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r angen am ofal plant ar gyfer plant rhwng un a thair blwydd oed. Gwrthodwyd yr argymhelliad hwn i gynorthwyo rhieni sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithle'n gynt. Roeddwn yn siomedig am hynny, o ystyried faint o dystiolaeth a gawsom lle mae menywod yn dymuno dychwelyd i'r gwaith pan fo'r plentyn tua blwydd oed.
Nawr, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad heddiw ynglŷn â sut y bydd mwy a mwy o awdurdodau lleol yn gweithredu'r cynnig cyfredol, ac rwy'n falch o weld y bydd fy awdurdod fy hun, Conwy, yn symud ymlaen i awdurdod llawn o fis Ionawr 2019 ymlaen. Ond rwy'n dal i deimlo nad ydych yn llwyddo i fynd i'r afael â'r gwaith o ddarparu cymorth o oedran iau, er gwaethaf y dystiolaeth a gafodd ein pwyllgor yn tynnu sylw at yr angen am y cymorth estynedig hwn. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd bod digon o gymorth ar gael eisoes i helpu rhieni gyda chostau gofal plant, gan ddefnyddio credyd cynhwysol fel enghraifft. Er bod gofal a ariennir gan y Llywodraeth ar gael i bawb ar gyfer plant rhwng tair a phedair oed, ac ar gael i rai sy'n gymwys ar gyfer plant rhwng dwy a thair oed, nid oes unrhyw gymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant o dan ddwy oed ar hyn o bryd—cyfle a gollwyd. Awgrymodd YESS (Your Employment Settlement Service) y dylai'r cynnig gofal plant fod ar gael o naw mis oed ymlaen. Galwodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru am i'r cynnig fod ar gael o chwe mis oed ymlaen. Mae'r Llywodraeth wedi gwrthod y galwadau hyn, ac i blaid sydd wedi ymrwymo i weithredu gofal iechyd ac yn fwy diweddar, addysg, o'r crud i'r bedd, mae'n ymddangos yn eironig eu bod yn rhwystro plant a theuluoedd rhag derbyn cymorth pan fo'i angen fwyaf, gan ddisgwyl i rieni aros dwy neu dair blynedd cyn derbyn y cymorth ariannol mawr ei angen hwn. Felly, hoffwn wybod pa sail resymegol sydd wrth wraidd y penderfyniad hwn i gefnogi cynlluniau rhwng dwy a phedair oed yn unig.
Roedd argymhelliad 15 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailasesu'r cynnig, gan ddefnyddio gwahanol fathau o dystiolaeth a gwybodaeth—ac unwaith eto, cafodd ei wrthod. Clywodd y pwyllgor gan Chwarae Teg, a bwysleisiodd na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwbl gaeth i'r cynnig presennol. Yn amlwg, mae'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn gwbl gaeth i delerau eu cynnig gofal plant presennol ac nid ydynt yn barod i newid cwmpas y cynnig er bod galw clir amdano. Yn eu hymateb, mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod yn deall y ddadl ynglŷn â pharamedrau'r cynnig, ond yn amlwg nid oes ganddynt unrhyw fwriad o fynd i'r afael â'r materion a godwyd.
Yn gyffredinol, rwy'n fodlon ag ymateb Llywodraeth Cymru, ond mae mwy i'w wneud. Darparwch y gofal angenrheidiol i blant o flwydd oed ymlaen i rieni sy'n dychwelyd i'r gwaith os gwelwch yn dda.
Rydw i yn falch iawn o gyfrannu at y drafodaeth yma ar rianta a chyflogaeth. Mae fy mhrofiad i fel menyw yn magu pedwar o blant ar fy mhen fy hun a'r rheidrwydd i barhau i weithio drwy'r cyfnod hwnnw yn gefndir defnyddiol, rydw i'n credu. Nid ydy cymryd rhan yn yr ymchwiliad gan y pwyllgor ddim wedi bod yn brofiad pleserus, mae'n rhaid dweud, achos rydym yn canfod bod menywod yn dal i wynebu rhagfarn a gwahaniaethu ar lefelau cwbl annerbyniol yn y byd gwaith hyd heddiw. Mae'n achos pryder bod peth o'r dystiolaeth a glywodd y pwyllgor yn awgrymu bod pethau yn gwaethygu yn lle gwella, gydag ACAS, er enghraifft, yn adrodd y bu cynnydd o 10 y cant mewn galwadau yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.
Mae yna un peth yn hollol amlwg: mae bod yn fam yn arwain at gosb ariannol gan greu anghyfartaledd cyflogau ar sail rhywedd a'r anghyfartaledd yna yn gwrthod shifftio. Nid ydy enillion tadau, ar y llaw arall, ddim yn cael eu heffeithio yn gyffredinol gan fagu plant. Mae yna gamau ymarferol y gellid eu cymryd ac mae'r pwyllgor yn nodi gweithio hyblyg a gofal plant fel dau fater penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw. Law yn llaw â hynny, mae angen creu newid diwylliannol anferth er mwyn creu newid pellgyrhaeddol a llawn. Fel mae Cadeirydd y pwyllgor wedi ei grybwyll, mae gan y byd addysg rôl amlwg iawn i chwarae yn hynny ac rydw i'n edrych ymlaen at weld y cwricwlwm newydd yn gwreiddio yn y maes perthnasau a rhyw.
Mae'r angen am y newid diwylliannol yma i'w weld yn reit glir pan rydym yn trafod gweithio'n hyblyg, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys rhannu swyddi, ac yn bwnc rydw i wedi ei godi yn fan hyn sawl gwaith. Wrth ymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn derbyn yr egwyddor o weithio hyblyg ar gyfer eu staff. Ond yn y pwyllgor mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth mai dim ond chwarter o staff y Llywodraeth sydd yn gweithio ar sail polisïau gweithio'n hyblyg. Nid ydy hynny'n unigryw i'r Llywodraeth; mae'n debyg ei fod yn wir ar draws sefydliadau yng Nghymru. Hynny yw, mae modd, efallai, gwneud rhywbeth mewn theori—gweithio'n hyblyg mewn theori—ond nid ydy o wedyn yn trosglwyddo i rywbeth sydd yn digwydd ar lawr gwlad.
Rŵan, rydw i'n gredwr cryf bod angen i Lywodraeth arwain drwy esiampl. Ac, felly, rydw i'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud darn o waith i ganfod pam fod cyn lleied o'u staff nhw yn dewis gweithio'n hyblyg. Beth ydy'r rhwystrau rhag symud ymlaen i wneud yr hyn mae gan bobl yr hawl i wneud? Beth sy'n dal pobl yn ôl? Ac o ganfod rhai o'r rhwystrau yma, sydd, mae'n debyg, yn wir i ddynion yn ogystal â merched—beth ydy'r rhwystrau sydd yn dal pobl yn ôl? Ac o ganfod hynny, efallai y gwnawn ni symud tuag at sefyllfa lle mae gweithio'n hyblyg yn llawer mwy naturiol fel rhan o fywyd y gweithlu yng Nghymru. A beth am gynnig hynny fel ffordd dda iawn o roi ffocws i ddyhead y Prif Weinidog i greu Llywodraeth ffeministaidd? Rydw i'n deall bod yna grŵp o weision sifil wedi gwneud 12 o argymhellion ar rannu swyddi a gweithio'n rhan amser yn y gwasanaeth sifil uwch. Buaswn i'n licio clywed mwy am sut mae'r gwaith yna yn mynd ymlaen. A ydy'r argymhellion yma wedi cael eu derbyn? Ac a ydyn nhw'n cael eu gweithredu yn llawn erbyn hyn?
Yn y maes addysg, rydw i'n siomedig nad ydy'r Llywodraeth yn meddwl y gall hi ddiwygio taliadau neu lwfansau addysgu a dysgu er mwyn caniatáu i gyfrifoldebau gael eu rhannu rhwng dau neu ddwy aelod o staff. Mae'r pwyllgor wedi nodi bod menywod yn y proffesiwn dysgu yn wynebu llawer o rwystrau ac nid wyf yn deall y rhesymeg dros wrthod yr argymhelliad yma. Roedd yr argymhelliad yn galw am ddiwygio'r taliadau, ond beth gawn ni gan y Llywodraeth ydy esboniad nad ydy'r system bresennol yn caniatáu hynny. Wel, dyna'r union bwynt o roi'r argymhelliad ymlaen—er mwyn creu newid o fewn y system.
A jest i droi, ar y diwedd fel hyn, at ofal plant. Ac mae argymhellion y pwyllgor, sydd â'u bwriad o wella'r polisi gofal plant y mae'r Llywodraeth wrthi'n ei gyflwyno ar hyn o bryd—mae'r argymhellion yma wedi cael eu gwrthod. A dyma'r ail bwyllgor i ddod i ganlyniadau tebyg ond, eto, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn benderfynol o lynu at y polisi diffygiol. A rhan o'r rheswm sy'n cael ei gynnig dros wneud hynny ydy bod y cynnig gofal plant yn rhan greiddiol o faniffesto'r Blaid Lafur, ac yn nodwedd ganolog o'r rhaglen ar gyfer llywodraeth. Wel, yn fy marn i, nid ydy gwrthod argymhelliad oherwydd ymrwymiad maniffesto ddim yn arwydd o agwedd aeddfed tuag at waith craffu, ac mae yna dystiolaeth sylweddol erbyn hyn bod polisi'r Llywodraeth yn anghywir. Mae barn yr arbenigwyr yn glir, mae barn y comisiynydd plant yn glir, ac eto mae'r Llywodraeth yn parhau ar hyd llwybr a fydd yn creu system gofal plant na fydd yn addas i bwrpas.
Rwy'n tawelu efo hynny. Mae llawer o argymhellion eraill y pwyllgor wedi cael eu derbyn, ac rwyf yn edrych ymlaen rŵan at ddod yn ôl at y pwnc pwysig yma, ac i weld mwy o gynnydd y tro nesaf.
Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwy'n cefnogi'r holl argymhellion, sy'n cyd-fynd â fy ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau chwarae teg yn y gweithlu yng Nghymru. Yn wir, mae'n mynd â mi yn ôl i fy amser fel cydgysylltydd cyntaf Chwarae Teg ar ddechrau'r 1990au, ac mae llawer o'r materion a oedd gyda ni bryd hynny yn dal i fod gyda ni heddiw. Ond mae yna gynnydd, a chyfle yn awr, drwy'r Cynulliad, i ddod â'r dystiolaeth hon at ei gilydd. Roeddwn yn falch hefyd o chwarae fy rôl fel Gweinidog wrth gyflwyno'r dyletswyddau cydraddoldeb penodol, fel y'u pennwyd yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Ac rwyf wedi croesawu'r adolygiad cam 1 o gydraddoldeb rhywiol. Felly, mae gennym Lywodraeth Cymru yn awr sy'n gallu ymateb i'r dystiolaeth hon, a'r argymhellion hyn—Llywodraeth Cymru flaengar i ymateb i argymhellion y pwyllgor.
Rwy'n croesawu'n arbennig ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1, 2 a 3, sy'n ymwneud â gweithio hyblyg yn ddiofyn, ac argymhellion ac anogaeth i Lywodraeth Cymru arwain drwy esiampl—i arwain o'r brig. Rwy'n cytuno'n gryf â safbwyntiau Siân Gwenllian ar y pwynt hwn. Mae angen inni weld hynny ar waith yn awr, drwy annog rhannu swyddi mewn rolau arweinyddol; beth yw'r rhwystrau i fwrw ymlaen â hyn? Yn wir, mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 yn dderbyniol iawn—fod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr angen i ystyried yr achos dros newid y ddeddfwriaeth mewn perthynas â swyddogaethau gweinidogol, gyda Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod eisoes yn croesawu ceisiadau i rannu swyddi ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Ond byddai'n rhaid imi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a oes gennym unrhyw enghreifftiau o hyn mewn gwirionedd? Os oes, rwy'n falch iawn; gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgwyd ei phen. Ond nid wyf yn siŵr faint o bobl sy'n ymwybodol fod hyn—. Ac wrth gwrs, mae hyn ar gyfer dynion yn ogystal â menywod, o ran y cyfleoedd.
Nawr, rwy'n ymwybodol fod aelodau o gabinet cyngor dinas Abertawe yn rhannu swydd, Mike Hedges—ac efallai ei fod am wneud sylw ar hyn yn ogystal. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion i hwyluso rhannu swyddi rolau cabinet mewn llywodraeth leol. Ac rwy'n dweud, Ddirprwy Lywydd, fod hwn yn fater y buom yn ei drafod ers degawdau. Yn wir, cyfeiriais mewn dadl flaenorol at lyfr a ysgrifennais yn 1992, 'Gwneud Cyfleoedd: Canllaw i Fenywod a Chyflogwyr', a byddai'n dweud yr un pethau heddiw, er y gallai'r iaith newid ychydig:
Mae rhannu swyddi'n cael ei weld fel atyniad mawr wrth recriwtio a chadw gweithwyr benywaidd, yn enwedig i'r rheini sy'n cael, neu sydd wedi cael seibiant gyrfa. Caiff ei ddefnyddio hefyd gan weithwyr gwrywaidd fel ffordd o gyfuno cyfrifoldebau'r cartref a gwaith, ac arallgyfeirio profiadau gwaith.
Wel, yn 1992 oedd hynny, ac rydym yn dal i ddweud yr un pethau heddiw. Mae gwir raid inni symud hyn yn ei flaen.
Hefyd, Dirprwy Lywydd, rwyf wedi bod yn gofyn cwestiynau am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac yn wir, Fforwm Economaidd y Byd a ddywedodd y byddai'n rhaid i fenywod aros am 217 o flynyddoedd cyn eu bod yn ennill cymaint â dynion, a hynny yn ôl yr adolygiad byd-eang o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Unwaith eto, sut y gallwn sicrhau nad ydym yn colli golwg ar y ddyletswydd statudol, a gafodd gyhoeddusrwydd yn gynharach eleni wrth gwrs, gan ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddatgan eu proffil o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau? Felly, hoffwn wybod hefyd a fydd Llywodraeth Cymru'n ymateb i faniffesto'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i haneru'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 15 y cant i 7 y cant erbyn 2028. Byddai'n dda hefyd pe bai'r Llywodraeth yn cefnogi hynny.
Yn olaf, rwy'n croesawu argymhellion 9 a 10, o ran cydnabod y cyfleoedd a'r ymateb i'r argymhellion yn ogystal—i Lywodraeth Cymru ysgogi newid fel meini prawf allweddol yn y cytundeb economaidd. Contractau cyllido, cod caffael—y rhain yw'r ffactorau sy'n sbarduno newid. Rwy'n croesawu, yn ogystal, o ran gofal plant, argymhelliad 16 yn arbennig ynghylch gofal plant cofleidiol. Buaswn yn dweud, rwy'n credu, bod darparu brecwast ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd—rwyf wedi dweud bob amser y byddai wedi bod yn dda gennyf fod wedi cael hynny pan oedd fy mhlant yn ifanc, oherwydd mae'n darparu gofal plant am ddim o 08:15 yn y bore, yn ogystal â brecwast maethlon, yn rhad ac am ddim.
Yn olaf, hoffwn groesawu'r dystiolaeth a'r argymhellion ar absenoldeb rhiant, i archwilio'r defnydd gwirioneddol o absenoldeb rhiant a rennir, gan ei fod yn ymwneud â'r ddau riant; nid â hawliau menywod yn unig y mae'n ymwneud, ond â newid yn y gymdeithas a dull gwaith/teulu o weithredu, fel y gwelwch yn glir iawn yn Sweden wrth gwrs. Rwy'n croesawu'r argymhelliad ar ddatblygu gwasanaethau cynghori arbenigol. Dylem allu cymryd yr awenau o ganlyniad i'r adroddiad pwyllgor hwn, ac rwyf hefyd yn gobeithio y gellid ei adlewyrchu yn y ffordd yr edrychwn ar faterion ehangach amrywiaeth a chydraddoldeb, nid yn unig yn y gweithlu, ond yma yn y Senedd hon.
Rwy'n croesawu'r adroddiad, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno â'r cyfan ohono bron, ond ar y pwynt hwn buaswn yn anghytuno rhywfaint â Jane Hutt, nid ar y peth diwethaf a dywedodd—rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd am absenoldeb rhiant a rennir a'r lefelau isel o ddefnydd ohono—ond ar argymhelliad 3. Cyn i mi ymhelaethu ar hynny, hoffwn nodi'r cyflwyniad—paragraff 1, tudalen 15:
'Mae cael plant yn cael effaith gydol oes ar gyfraddau cyflogaeth menywod, eu cyfleoedd gyrfa a’u hincwm. Nid yw cyfran syfrdanol o fenywod yn mynd yn ôl i’r gwaith ar ôl cael plant, neu maent yn dychwelyd i swyddi rhan-amser am dâl is sy’n cyd-fynd â gofal plant.'
Yn hollol. Mae'n sicr yn wir, ac mae'r dystiolaeth yn ei ategu'n bendant ac yn eglur, a'r ffaith na theimlir yr un peth gan dadau. Ond hoffwn ychwanegu at hynny, oherwydd rhagdybiaethau'n ymwneud â'r rhywiau mewn perthynas â gofal plant, fod gan dadau—a chredaf fod John Griffiths wedi cydnabod hynny—fath gwahanol o bwysau yn eu bywydau sef gadael eu plant i fynd i weithio a darparu incwm sy'n llai o ganlyniad i gael plant, ac roeddwn yn teimlo hynny fy hun. Rwy'n dal i'w deimlo—rwy'n dad i ddau o blant bach. Ac o ran argymhelliad 3, gadewch imi ddweud pe bawn i mewn sefyllfa i gael cynnig lle yn y Llywodraeth, ni fuaswn yn ei dderbyn. Ni fuaswn yn gallu derbyn swydd yn y Llywodraeth yn y tymor Cynulliad hwn, ac nid oes unrhyw aelodau o ymgyrch arweinyddiaeth Llafur yma i ddweud, 'Wel, ni fyddem yn cynnig un iddo beth bynnag'. Ond os wyf fi eisiau chwarae rhan ym mywydau fy mhlant, rhaid i mi i wneud yr aberth hwnnw. Felly, rwy'n cydnabod yr aberth hwnnw, ond os edrychaf ar argymhelliad 3, ni allaf weld sut y byddai rhannu swyddi'n gweithio i Weinidogion, yn yr ystyr nad yw'n swydd yn yr ystyr gonfensiynol. Ac mae'r un peth yn wir am Aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol. Gyda Llywodraeth gyfrifol a Llywodraeth sefydlog, credaf y gallwch weithio'n hyblyg o fewn eich rolau ac nid wyf yn gweld sut y byddai'n dderbyniol i'r cyhoedd weld rhannu swyddi ar adeg etholiad. Ond gwn fod gan Aelodau yn y Siambr farn wahanol. Y rheswm pam rwy'n sôn am fy sefyllfa bersonol yw oherwydd fy mod yn dweud hynny o brofiad, rwy'n credu.
O ran argymhelliad 6—pob swydd addysgu i gael ei hysbysebu fel swydd hyblyg—mae'r Llywodraeth wedi derbyn hynny, ond mewn gwirionedd maent yn dweud, 'Wel, mewn gwirionedd mater i gyrff llywodraethu ydyw'. Hoffwn rywfaint o eglurder lle maent yn dweud:
'Bydd yn hanfodol bod yr adolygiad o dâl ac amodau athrawon yn ystyried yn llawn yr hyblygrwydd sydd ei angen i gynnal yr amrywiaeth o batrymau gwaith sydd ei angen ar ysgolion.'
Hoffwn wybod beth y mae hynny'n ei olygu. Rwy'n cymryd ei fod yn golygu hyblygrwydd o ran darparu cyflog, ond hoffwn fwy o wybodaeth am hynny. Mae'n dda gweld bod argymhelliad 8 yn adeiladu ar yr economi sylfaenol ac yn sôn am yr economi sylfaenol a'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yno. Mae'n braf gweld y ddeialog ar yr economi sylfaenol yn cael ei hystyried mewn pwyllgorau y tu hwnt i'r rhai y mae'r Aelodau sy'n hyrwyddo'r economi sylfaenol yn aelodau ohonynt.
Mae argymhelliad 16 yn annog y Llywodraeth i adolygu argaeledd presennol a chost gofal cofleidiol. Rydym wedi cael llawer o sgyrsiau gyda'r Gweinidog mewn perthynas â'r cynnig gofal plant, ac yn gwybod bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar gael hyn yn gywir. Unwaith eto, o brofiad personol, rwyf wedi'i weld yn digwydd ac rwy'n credu bod angen i gyd-leoli gofal plant y cyfnod sylfaen, mewn ysgolion a chan ddarparwyr gofal, gael ei nodi a bod yn rhan o egwyddorion yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud.
Mae argymhelliad 30 yn annog Llywodraeth Cymru i greu ffynhonnell o gyngor ar gyfer yr holl faterion sy'n ymwneud â rhianta a chyflogaeth, gyda chymorth penodol wedi'i deilwra ar gyfer busnesau bach a chanolig. Wel, bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi siarad llawer am fy mhrofiad gyda busnesau bach a chanolig, yn enwedig drwy fy ymchwil, a bûm yn siarad â rheolwr-berchennog ar un achlysur, a ddywedodd, 'Byddai fy staff yn bendant yn gweithio'n hyblyg. Nid gwneud y cyfrifon yn unig y mae fy nghyfrifydd, ef hefyd sy'n glanhau'r toiledau.' Ac o ran hynny, nid yw gweithio hyblyg wedi ei ddeall yn llawn ym mhob un o'r cymunedau sector preifat yr ydym wedi sôn amdanynt. Rhaid i weithio hyblyg fod er budd y gweithiwr, nid y cyflogwr. Nid yw hynny wedi'i ddeall. Rydym yn sôn am weithio hyblyg ac ar unwaith, mae cyflogwyr yn meddwl 'hyblygrwydd o ran sgiliau'. Nid dyna ydyw; 'hyblygrwydd o ran oriau' ydyw, ac mae angen i hynny gael ei ddeall yn iawn.
O'm rhan i, rwy'n cydnabod—ac rwyf wedi bod â diddordeb yn hyn ers amser maith fel athro mewn prifysgol—fod swydd naw tan bump y tu ôl i ddesg yn dod yn rhywbeth mwyfwy prin, a swyddi hyblyg sydd eu hangen arnom, nid yn lleiaf oherwydd problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Yn fy swyddfa, rwy'n annog gweithio hyblyg. Felly, caiff fy staff eu hannog i weithio'n hyblyg ac i weithio mor hyblyg â phosibl. Nid oes raid iddynt fod i mewn ar ddiwrnod pan nad yw'n ofynnol iddynt fod i mewn, gallant weithio o adref cymaint ag y bo modd, a chânt eu hannog i fynd ar drywydd datblygiad proffesiynol y tu allan i'r gwaith, ond datblygiad proffesiynol y maent yn eu dymuno ei weld.
Credaf y gall pawb ohonom, fel Aelodau Cynulliad, roi ystyriaeth ddifrifol i'r adroddiad hwn a'i ddefnyddio fel esiampl yn y ffordd y cyflogwn ein staff a'u galluogi i weithio'n hyblyg. Felly, gydag un cafeat bach iawn, rwy'n cefnogi'r adroddiad hwn.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn a chynhyrchu adroddiad mor gynhwysfawr ac ystyriol. Mae'n faes pwysig iawn o ystyried y goblygiadau pellgyrhaeddol i gynifer o bobl yng Nghymru. A hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Cadeirydd, John Griffiths, a lywiodd yr ymchwiliad mewn modd sensitif a diwyd drwyddo draw. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch hefyd i'r holl unigolion a sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, rhywbeth nad yw bob amser yn dasg hawdd, ond sy'n werthfawr dros ben serch hynny wrth lunio argymhellion y pwyllgor, fel y gwnaed yn eglur gan bawb o'r siaradwyr a gyfrannodd at y ddadl.
Mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i wella amodau i'r holl bobl sy'n gweithio yng Nghymru, ac rydym yn arbennig o awyddus i leihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn gwaith a gofal plant o fewn cwmpas ein cyfrifoldebau datganoledig. Fel y nodwyd gennym yn ein hymateb ffurfiol i'r pwyllgor, mae Prif Weinidog Cymru wedi arwain y ffordd o ran lleihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac mae wedi pennu targed beiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer Llywodraeth Cymru i ddod yn arweinydd byd mewn hawliau menywod a chydraddoldeb rhwng y rhywiau. I'r perwyl hwnnw, mae'r adroddiadau o gam 1 yr adolygiad cydraddoldeb rhywiol a gynhaliwyd gan Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno canfyddiadau heriol i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn ystyried y rheini ymhellach wrth inni symud at gam 2. Wrth gwrs, yr her yw sicrhau gweithio trawslywodraethol effeithiol a gwaith amlasiantaethol di-dor. Mae'r rheini'n ymadroddion hawdd i'w dweud, ond yn llawer anos eu cyflawni. A hefyd, ar yr un pryd, ceisio dylanwadu ar y meysydd hynny lle nad yw cymhwysedd wedi'i ddatganoli ond sydd er hynny'n rhan bwysig iawn o'n heconomi.
Clywsom heddiw am gydraddoldeb yn gyffredinol a rheoliadau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn benodol, ac rwy'n fwy na pharod i dalu teyrnged i fy rhagflaenydd, Jane Hutt, am lywio'r ddyletswydd cydraddoldeb drwodd, ond bellach mae'n gyfrifoldeb i mi, ac rwyf wedi'i gwneud yn glir iawn fy mod yn disgwyl i weithredu cynnar wella'r modd yr adroddir ar y bylchau cyflog rhwng y rhywiau. Fel rhan o ddull cam 2, ac i ateb Siân Gwenllian a Jane Hutt yn benodol ar y cwestiwn hwn, rwy'n bwriadu gosod targed uchelgeisiol ar gyfer haneru, neu ddileu hyd yn oed, os meiddiaf ddweud, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru. Yr unig reswm nad wyf wedi cefnogi'r targed 'pryd' yw am fy mod eisiau gweld a allwn fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol na hynny. Felly, rwy'n edrych ar hynny, ac erbyn diwedd y tymor hwn, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn cyflwyno adroddiad i'r Siambr ar yr hyn y credwn y gallwn ei gyflawni o fewn amserlen resymol, oherwydd nid wyf yn meddwl ei bod yn dderbyniol o gwbl fod gennym fwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru. Mae angen inni fod yn esiampl yn hyn o beth. Sut y gallwn annog sefydliadau eraill yng Nghymru i wneud hyn yn briodol os nad ydym yn gallu ei wneud ein hunain?
Ar sail hynny, mae'n hanfodol fod gennym sylfaen dystiolaeth gywir ar gyfer gweithredu, ac felly rwy'n ei gwneud yn glir hefyd fod egwyddorion data agored—data sy'n dryloyw, yn hygyrch, ac yn hawdd ei ddefnyddio—yn ganolog i drefniadau adrodd cyrff cyhoeddus yng Nghymru fel nad oes unrhyw le i guddio. Gyda hynny mewn golwg, rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn edrych i weld pa reoliadau sydd angen eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn adrodd ar y materion hyn mewn un man hygyrch, a chyda data tryloyw, hwylus a hawdd ei gael. Felly, unwaith eto, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn dod â hynny'n ôl fel rhan o fy adroddiad cyn diwedd tymor yr hydref y Cynulliad hwn. Ai dyna'r ffordd gywir o'i ddweud? Cyn y Nadolig eleni, beth bynnag.
Rhaid i hyrwyddo gwaith teg fod wrth wraidd yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yma o ran lleihau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Fel y dywed yr adroddiad, mae hyn yn hanfodol os ydym am sicrhau economi Gymreig sy'n darparu ffyniant cenedlaethol a phersonol tra'n lledaenu cyfle ac sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, gan gynnwys anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Y flwyddyn ddiwethaf, nododd y Bwrdd Gwaith Teg beth oedd gwerthoedd sylfaenol gwaith teg, sy'n cynnwys hawl i gael eich clywed, enillion teg a fesul awr gwarantedig, diogelwch swydd a dilyniant gyrfa, ac nid yn lleiaf, gwaith o ansawdd ac amser gweithio o ansawdd. Mae'r Comisiwn Gwaith Teg yn symud y gwaith hwn yn ei flaen i'r cam nesaf, gan adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn, a bydd yn edrych yn fanwl ar y dulliau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r gwaith teg hwnnw, a bydd yn nodi a ydynt yn gamau newydd neu'n gamau ychwanegol y gellid eu cymryd, gan gynnwys edrych ar ddeddfwriaeth newydd. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i ddiwygio'r contract economaidd yn dilyn gwaith y Comisiwn Gwaith Teg, ac unwaith eto, mae angen inni gael y sylfaen dystiolaeth honno'n iawn fel y gallwn weithredu a gwneud yn siŵr fod gennym y ddeddfwriaeth orau, sy'n arwain y byd yn y cyswllt hwnnw yma yng Nghymru.
Mae'r adroddiad hefyd yn canolbwyntio'n hollol briodol ar fater gofal plant. Cyfeirir ato'n aml fel un o'r prif rwystrau sy'n wynebu rhieni rhag cael gwaith. Fel y mae pawb wedi crybwyll, rwy'n credu, cyfeirir at ofal plant fel un o'r rhesymau pam y mae rhai rhieni'n gweithio, neu'n gweithio'r oriau y maent yn eu gweithio, neu pam nad ydynt yn gweithio o gwbl, felly mae'n dal i fod yn wirionedd cas, yn yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru, fod y rhan fwyaf o'r plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn cartref lle mae o leiaf un person yn gweithio. Gwyddom mai gwaith sy'n talu'n dda yw'r llwybr gorau allan o dlodi a'r amddiffyniad gorau yn erbyn tlodi, ac rydym yn gwybod hefyd, Ddirprwy Lywydd, mai anghydraddoldeb ariannol yn y cartref yw un o brif ysgogwyr peth o'r trais rhywiol a'r trais domestig a welwn. Felly, mae'n hollbwysig ein bod yn gwthio cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhan o'r diwylliant Cymreig, ac yn hynny o beth rwyf am dynnu sylw at yr ymgyrch cydraddoldeb rhywiol 'Dyma fi' y bu Llywodraeth Cymru yn ei gweithredu. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran ei chyrhaeddiad, a gobeithiwn y bydd yn llwyddiannus iawn o ran ei heffaith, ond o ran nifer y bobl sydd wedi'i gweld, mae ei chyrhaeddiad wedi bod yn hynod o eang.
Hoffwn bwysleisio wrth aelodau'r pwyllgor ei fod yn ymwneud yn fawr iawn â chaniatáu i chi fod y person rydych chi am fod, pa un a ydych yn wryw neu'n fenyw, gan ysgogi peth o'r newid diwylliannol y soniodd John Griffiths yn arbennig amdano, lle mae'n berffaith dderbyniol i ddyn fod yn brif ofalwr y plant ac i'r fenyw beidio â bod, a'r ffordd arall, neu ba drefniant bynnag arall sy'n addas i chi. Dylem fod yn hwyluso'r holl newidiadau hynny yn ein cymdeithas. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod pobl yn gwneud penderfyniadau ar sut i wneud gofal plant yn y cartref pan na allant fforddio talu am y gofal plant sydd ei angen arnynt yn seiliedig ar wybodaeth annigonol. Felly, credaf ei bod yn deg dweud bod y dystiolaeth yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch pa bartner a ddylai roi'r gorau i weithio ac ati yn ei seilio ar bethau cul yn ymwneud ag enillion presennol ac nid ar enillion gydol oes, er enghraifft, a heb lawn ddeall yr effaith economaidd y gall cyfnodau estynedig heb fod mewn gwaith eu cael ar yrfa unrhyw un.
Gyda hynny, hoffwn ddweud ein bod yn edrych yn ofalus ar y materion a godwyd gan nifer o bobl, yn enwedig Siân Gwenllian a Jane Hutt, ond credaf fod pawb a siaradodd wedi sôn amdano, ynglŷn â defnydd o absenoldeb rhiant a rennir yn Llywodraeth Cymru, er mwyn i mi allu deall beth sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, neu beth sy'n cael ei gynnig, ond beth sy'n cael ei ddefnyddio a pham, a pha effaith sydd i hynny, a pha ddata sydd gennym ynglŷn â hynny, er mwyn i mi, unwaith eto, ddod â hynny'n ôl i'r Siambr i ddweud beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar y cynigion hynny, ac os nad ydynt, beth yw'r rhwystrau posibl, o ystyried ei fod ar gael yma yn y Llywodraeth, ac oherwydd, unwaith eto, os na allwn ni fod yn esiampl, Ddirprwy Lywydd, yna rwy'n credu y byddwn yn ei chael hi'n anodd.
Nid wyf am ganolbwyntio cymaint â hynny ar ein cynnig gofal plant. Mae wedi ei ailadrodd yn y Siambr droeon ac mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog plant, eisoes wedi disgrifio'r cynnig, ymhlith pethau eraill. Ond mae'n werth dweud hyn: nad y cynnig gofal plant yw'r unig ffordd o sicrhau gofal plant y telir amdano gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym nifer o raglenni eraill y gwn fod fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies wedi'u crybwyll yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Gyda'i gilydd fel pecyn, maent yn llawer mwy na'r cynnig gofal plant presennol sydd yn y maniffesto, ac mae wedi siarad yn aml am ddod â'r pethau hynny at ei gilydd, a bydd yn rhan o'r hyn y bydd y Comisiwn Gwaith Teg hefyd yn edrych arno er mwyn gweld pa rwystrau a geir rhag gyrru rhai o'r arferion gwaith teg yr ydym am eu gweld yng Nghymru.
Hefyd, rwyf am ddweud hyn am waith y pwyllgor: rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith a wnaethpwyd ar arferion gweithio hyblyg ac ati, ond ceir dadl hefyd dros wthio'r hyn a elwir yn arferion gweithio modern, a chyflogaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, lle nad yw cyflogau'n cael eu talu am bresenoldeb yn y gweithle. Mae hynny'n cynorthwyo pobl ag anableddau a materion eraill yn ymwneud â hygyrchedd. Felly, os yw eich cyflogaeth, os yn bosibl—ac nid yw bob amser yn bosibl; mae'n anos sicrhau hyn i athrawon, er enghraifft—ond mae yna lawer o swyddi yn yr economi fodern lle mae pecyn taliadau sy'n seiliedig ar ganlyniadau yn gweithio'n dda iawn, ac felly i bobl sydd angen trefniadau hyblyg iawn, cyhyd â'u bod yn gallu cynhyrchu'r canlyniadau angenrheidiol, pa wahaniaeth y mae'n ei wneud ble y maent yn eu cynhyrchu, sut y cânt eu cynhyrchu neu ba drefniadau mynediad a oedd ganddynt er mwyn cynhyrchu'r canlyniadau hynny? Hoffwn gyferio at waith cyn brif weithredwr GE Aviation, La-Chun Lindsay, o ran yr hyn y gallai ddangos y gellid ei wneud hyd yn oed ar linell gynhyrchu pan edrychwch ar waith sy'n seiliedig ar allbwn i sicrhau bod amrywiaeth a chyfle o fewn y gweithlu. Credaf ei bod hi'n drueni ei bod wedi dychwelyd i America bellach, ond rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â hi, ac fe ysgogodd hi rai arferion arloesol iawn.
Felly, hoffwn orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i'r pwyllgor eto am yr adroddiad cynhwysfawr hwn. Mae wedi rhoi llawer i gnoi cil arno ac mae'n rhoi darlun clir o'r problemau sy'n dal i wynebu pobl yng Nghymru, yn enwedig menywod yn y gweithle. Credaf fod y pwyllgor yn hyrwyddo cydraddoldeb yn dda, ac rwy'n gobeithio fy mod innau hefyd. Nid fy nghyfrifoldeb i yn unig yw'r portffolio hwn sydd gennyf, fodd bynnag—mae'n gyfrifoldeb ar draws y Llywodraeth. Rydym wedi derbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion y pwyllgor, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor ar ddatblygu'r gwaith pwysig hwn. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, a chredaf fod pawb wedi ategu pwysigrwydd y materion hyn i'r economi yn ogystal ag i'r unigolion a'r teuluoedd yr effeithir arnynt. Soniodd Janet Finch-Saunders am yr ystod o dystiolaeth a ddaeth i lywio gwaith y pwyllgor, a chredaf fod hynny'n arbennig o bwysig fel sylfaen i'r adroddiad a'r argymhellion a wnaed gennym. Ac roedd yn dda gweld nifer o Aelodau'r Cynulliad yn pwyso ar eu profiad personol. Cyfeiriodd Siân Gwenllian, Jane Hutt a Hefin David at eu profiad personol o'r materion hyn. Cyfeiriodd Jane Hutt at 1992, pan oeddem yn wynebu'r un heriau, ar lawer ystyr, â'r rhai a wynebwn heddiw, ac er bod cryn gynnydd wedi'i wneud, mae rhai o'r heriau sylfaenol yn dal i fod angen eu goresgyn. Mae hefyd yn wir, rwy'n meddwl, Ddirprwy Lywydd, fod gennym ymwybyddiaeth fwy cyffredinol o faint yr heriau, ond syniad cadarnhaol iawn o'r modd y gallwn symud ymlaen hefyd, a'r consensws y credaf ei fod yn bodoli ynghylch yr adroddiad penodol hwn, a'r argymhellion a wnaethom.
Mae'n eithriadol o anodd sicrhau newid diwylliannol—a newid ymddygiadol—ond mae'n hanfodol i'r cynnydd sydd ei angen arnom. Yn ganolog iddo, mae'r modd y mae'n ymwneud â dynion a menywod, tadau yn ogystal â mamau, a chredaf fod hynny'n arbennig o bwysig oherwydd os cawn fwy o gydnabyddiaeth gan ddynion a thadau o'r budd y byddent yn ei gael pe baent yn chwarae mwy o ran yng ngofal plant eu teuluoedd, byddai hynny'n helpu i symud pethau yn eu blaenau, oherwydd byddai gennym gonsensws ehangach eto ynghylch y newid angenrheidiol a ddylai ddigwydd. Felly, credaf fod yn rhaid i bawb ohonom weithio tuag at hynny, ond yn amlwg, mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom yma heddiw i ddangos arweiniad, a mwy o gyfrifoldeb byth efallai ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny.
Felly, rwy'n falch iawn o glywed yr hyn a oedd gan Julie James i'w ddweud wrth gydnabod cryfder yr argymhellion yn yr adroddiad a gwaith y pwyllgor, ond hefyd yr ymrwymiad i adrodd yn ôl, oherwydd yn ein hadroddiad, ac yn fy sylwadau yn gynharach, rydym wedi pwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru fynd y tu hwnt i'r ymateb gwerthfawr y mae eisoes wedi'i roi drwy adrodd yn ôl wedi i'r Comisiwn Gwaith Teg gyflwyno eu hadroddiad, ond yn gyffredinol. Ac rwy'n cymryd hynny o heddiw, a chredaf y byddai hynny'n plesio'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu, Ddirprwy Lywydd, os gwelwn yr ymrwymiad parhaus hwnnw gan Lywodraeth Cymru i roi gwybod i ni beth y byddant yn ei wneud i wireddu'r argymhellion hyn.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dim. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.