– Senedd Cymru am 3:22 pm ar 17 Hydref 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar yr economi sylfaenol, a galwaf ar Lee Waters i wneud y cynnig. Lee.
Cynnig NDM6782 Lee Waters, David Melding, Jenny Rathbone, Hefin David, Adam Price, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu economaidd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach o ran croesawu egwyddorion yr economi sylfaenol.
2. Yn credu bod dull Cyngor Dinas Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol yn amlwg wedi llwyddo i fynd i'r afael ag amddifadedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr o Gyngor Dinas Preston i drafod y gwersi y gellir eu dysgu.
3. Yn credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnig cyfle sylweddol i ail-fframio gwerth gorau yng nghyd-destun caffael yng Nghymru, i gefnogi dull yr economi sylfaenol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu modelau uchelgeisiol o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull lleol ac yn treialu modelau amgen lluosog o ddarparu gofal, fel rhan o ddull gweithredu yr economi sylfaenol yng Nghymru.
Diolch. Mae'r paratoadau'n cyflymu ar gyfer Brexit 'dim bargen'. Mae storio meddyginiaeth a bwyd yn cael sylw'r cyfryngau, ond gallai'r realiti i economi Cymru fod yn llawer gwaeth. Mae ein polisi economaidd wedi canolbwyntio ar roi cymorth i gwmnïau angori fel y'u gelwir—cwmnïau rhyngwladol mawr gyda chanolfannau yng Nghymru a gefnogwyd gennym â grantiau a chymhellion eraill. Ond pan fydd rhwystrau'n dechrau cael eu codi a fydd yn creu oedi costus, buan iawn y bydd y penderfyniadau a wneir yn y prif swyddfeydd byd-eang ynglŷn â ble i fuddsoddi arian yn y dyfodol yn anffafrio Cymru. Fel y dangosodd sylwadau Ford in Europe yr wythnos hon, mae'n bosibl y bydd yr angorau'n cael eu codi cyn bo hir.
Mae'n ymddangos i mi mai rhan o'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw wynebu'r ffaith na allwn barhau i roi grantiau mawr i gorfforaethau enfawr er mwyn eu denu i aros yn ein cymunedau pan fydd pethau'n mynd yn anodd. Mae pethau'n anodd eisoes, ac rydym yn arllwys adnoddau mawr eu hangen i mewn i ogr, ac yn gwylio ein buddsoddiadau'n llifo i hafanau trethi, a hynny am ychydig iawn o enillion ar lawr gwlad. Mae Cymru wedi cael llwyddiant mawr yn mynd ar drywydd cyfalaf tramor. Rydym wedi gweld y lefelau isaf erioed o ddiweithdra. Mae gennym y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad uniongyrchol tramor. Ac eto, mae llawer o bobl wedi'u datgysylltu'n enbyd, yn gweithio mewn swyddi bregus am gyflogau isel.
Lywydd, nid â gwerth ychwanegol gros yn unig y mae a wnelo'r economi. Mae'n ymwneud hefyd â phrofiadau bywyd pobl, ac mae dull o weithredu ar sail economi sylfaenol yn caniatáu inni ailystyried ein sefyllfa. Mae bron i hanner pobl Cymru'n cael eu cyflogi yn yr hyn y gallwn ei hystyried yn economi sylfaenol: y rhan gyffredin, bob dydd o'n heconomi; y rhannau sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol yn eu cymunedau—gofal, bwyd, ynni a thai, i enwi rhai yn unig—y rhannau nad ydynt yn gallu addasu'n hawdd pan fo'r economi ryngwladol yn dioddef. Ac mae'r sector sylfaenol hwn wedi cael ei esgeuluso gan bolisïau ar draws y DU wrth inni ganolbwyntio ar y prosiect sgleiniog nesaf, a'r cyfle nesaf i dorri rhuban. Ac mae'n rhaid i ni newid hynny.
Pwrpas y cynnig heddiw, a gyflwynwyd gennyf fi, Vikki Howells, Jenny Rathbone, Hefin David, Adam Price a David Melding, yw edrych eto ar bwysigrwydd canolog y sector hwn a ddiystyrwyd yn ein heconomi. O gofio’r ymrwymiad trawsbleidiol i’r cynnig hwn, mae'n amlwg fod yna awydd am ddull newydd o weithredu.
Yn ddiweddar, gyda fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, ymwelais â Preston i ddysgu mwy am eu dull hwy o weithredu'r hyn y maent yn ei alw'n 'adeiladu cyfoeth cymunedol'. Ers yr argyfwng ariannol, a methiant canolfan siopa fawreddog newydd yr oeddent yn dibynnu arni i roi hwb i Preston, ac yn wyneb cyni parhaus, gorfodwyd y cyngor i ailystyried eu hymagwedd tuag at ddatblygu economaidd. Nawr, mae eu diffiniad o sefydliad angori yn gwbl wahanol i’n diffiniad ni. Maent yn defnyddio’r term i ddisgrifio sefydliadau sydd wedi’u gwreiddio’n lleol a'u lleoli'n gadarn—y brifysgol leol, y coleg addysg bellach, y coleg chweched dosbarth, y cyngor sir, y gymdeithas dai leol a'r heddlu. Gyda'i gilydd roedd yr angorau hyn yn gwario £750 miliwn y flwyddyn ar brynu nwyddau a gwasanaethau, ond 5 y cant ohono'n unig a werid yn Preston, a llai na 40 y cant yn ardal ehangach Swydd Gaerhirfryn. Felly, roedd tua £458 miliwn o arian cyhoeddus yn cael ei golli o economi Swydd Gaerhirfryn bob blwyddyn.
O ganlyniad i’w dull newydd o harneisio eu heconomi sylfaenol, mae'r sefydliadau angori lleol hyn bellach yn defnyddio caffael i sicrhau’r gwerth cymdeithasol gorau yn lleol. Drwy archwilio'r 300 contract mwyaf gwerthfawr a oedd gan bob un, maent wedi gallu ailgyfeirio gwariant i gwmnïau lleol heb effeithio ar gost nac ansawdd. Mae hwnnw'n bwynt hollbwysig. Bellach, cedwir 17 y cant o wariant y sefydliadau angori lleol o fewn Preston—o 5 y cant i 17 y cant—a 79 y cant yn economi ehangach Swydd Gaerhirfryn, i fyny o 39 y cant.
Mae hyn wedi cael effaith amlwg yn Preston. Dyma ardal a oedd unwaith ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Lloegr, ac mae bellach yn codi o'r dyfnderoedd. Tra bo cyflogau wedi aros heb symud yn y rhan fwyaf o'r DU ers dros ddegawd, maent yn codi yn Preston. Ac mae’r sefydliadau angori lleol wedi cyfrannu'n helaeth at hynny. Mae pump o’r chwe sefydliad bellach yn gyflogwyr cyflog byw achrededig.
Mae angen i ni wneud yr un peth—nodi pwy yw'r chwaraewyr mawr yn ein heconomïau lleol a gofyn iddynt wneud eu rhan. Mae’n rhaid i ni ei gwneud yn glir i'r holl sefydliadau hyn ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat y bydd adeiladu eu heconomïau lleol yn rhoi sylfaen gadarn a dyfodol sicr iddynt. I gymdeithasau tai, bydd eu rhenti’n cael eu talu; i’r gwasanaeth iechyd, bydd llai o alw a achosir gan dlodi ar wasanaethau; i’r heddlu, bydd achosion troseddau’n lleihau. Yng Nghymru, mae'r sector cyhoeddus yn gwario £5.5 biliwn bob blwyddyn yn prynu nwyddau a gwasanaethau i mewn, a gallem ddefnyddio’r arian hwnnw i hybu ein heconomi sylfaenol yn uniongyrchol.
Mae hyn yn golygu bod angen dull newydd o weithredu, dull sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd, fel y mae pwynt 3 ein cynnig yn ei nodi, yn cynnig cyfle sylweddol a fyddai’n caniatáu i ni fynd ymhellach na Preston hyd yn oed. Ond i wneud hynny mae angen i ni wneud newidiadau. Bydd angen grymuso ein sector cyhoeddus i gaffael mewn ffordd sy'n sicrhau llawer mwy na'r pris isaf. Bydd busnesau lleol angen mwy o gymorth i gyflawni ac ennill contractau sector cyhoeddus, ac mewn perthynas â llywodraeth leol, bydd angen i ni fuddsoddi mewn staff mwy medrus sy’n meddu ar sgiliau prynu arbenigol i ysgogi'r newid hwn yn ein dull o weithredu.
Ond rydym wedi argyhoeddi ein hunain fod y rhwystrau i wneud y pethau hyn yn uwch nag y maent mewn gwirionedd. Mae’r profiad yn Preston yn dangos nad yw rheolau caffael Ewropeaidd yn broblem mor fawr ag y credwn. Yn wir, dywedodd arweinydd y cyngor, Matthew Brown, a'i uwch swyddogion, wrth Jenny Rathbone a minnau fod y diwygiadau wedi bod yn llawer haws eu cyflawni nag y rhagwelwyd ganddynt yn wreiddiol. Felly mae pwynt 2 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Chyngor Dinas Preston i drafod y gwersi y gellir eu dysgu.
Roeddent yn pwysleisio wrthym nad yw eu dull o weithredu yn un y dylid ei gymhwyso yn yr un modd ym mhobman. Mae gan leoedd gwahanol atebion gwahanol i broblemau gwahanol. Er enghraifft, yn Islington, lle mae gofod gwaith fforddiadwy’n brin, mae’r cyngor wedi buddsoddi mewn cynlluniau i ddod ag adeiladau yn ôl i ddwylo'r gymuned er mwyn caniatáu i ficrofusnesau a mentrau bach rentu ar gyfraddau is na chyfraddau'r farchnad. Dyna yw eu ffocws wedi bod. Ym Manceinion Fwyaf, mae’r gronfa bensiwn wedi darparu £50 miliwn o fenthyciadau a chyfalaf ecwiti i fentrau bach a chanolig. Dyna a nodwyd ganddynt fel eu prif broblem. Yn yr Alban, mae Highlands and Islands Enterprise wedi arwain ar ddatblygu asedau ynni cymunedol, gan ddarparu buddsoddiad mewn maes sy’n cael ei anwybyddu gan gynlluniau ariannu traddodiadol.
Nawr, yng Nghymru, mae gennym ninnau hefyd gnewyllyn dull gweithredu cynhwysfawr. Ceir arwyddion o agwedd newydd tuag at brynu. Mae adolygiad y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynnig cyfle i symud oddi wrth y ffocws ar gontractau mawr am y pris isaf. Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn ein hymrwymo i gefnogi sectorau sylfaenol ac mae angen i ni fod yn glir ynglŷn â'r hyn a olygwn, ac i ba raddau y mae'n golygu cael gwared ar yr hen ffyrdd o weithio. Ond mae’r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’i gynlluniau ar gyfer dull o weithredu sylfaenol trawsbynciol yn ystod ei ymddangosiad diweddaraf gerbron pwyllgor yr economi yn galonogol iawn, ac rwy’n gobeithio y cawn glywed rhagor heddiw.
Ond mae rhagor i'w wneud. Mae pwynt 4 ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu amrywiaeth o wahanol fodelau o ofal cymdeithasol i oedolion sy'n cydnabod pwysigrwydd dull sylfaenol lleol. Yn rhy aml, mae pobl sy'n gweithio yn y sector ar gytundebau dim oriau a chyflogau isel, heb unrhyw obaith o gamu ymlaen yn eu gwaith. Mae cwmnïau mawr yn symud i'r sector ac yn gwneud elw sylweddol tra bo’r enillion yn brin iawn i ddefnyddwyr gofal a’r cyhoedd sy’n eu hariannu. Er ein bod wedi rhoi £1 miliwn tuag at archwilio dulliau sylfaenol o weithredu mewn gofal cymdeithasol, rydym yn rhoi symiau llawer mwy o arian i rai o gwmnïau mwyaf y byd i’w denu i symud yma neu i aros yma, ac mae angen i ni droi’r fantol, ym maes gofal cymdeithasol ac ar draws ein heconomi.
Yr hyn a ddysgais yn Preston, Ddirprwy Lywydd, yn anad dim arall, oedd bod eu llwyddiant yn deillio o weledigaeth ac arweinyddiaeth â ffocws. Mae wedi'i wreiddio yn niwylliant gweithio eu cwmnïau angori a thrwy ymdrech barhaus arweinwyr ymrwymedig. Gall ymagwedd sylfaenol tuag at yr economi fod yn weledigaeth i ni, a gall Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau. Mae realiti'r hyn y bydd Brexit yn ei olygu i'n heconomi yn golygu bod angen i ni wneud hyn ar frys. Diolch.
Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ac rwy'n falch ein bod yn y pumed Cynulliad hwn wedi canolbwyntio ar hyn, holl fater yr economi sylfaenol, oherwydd ers yr argyfwng ariannol credaf fod gwir angen edrych eto ar sut yr edrychwn ar yr economi, gan fod yn rhaid iddi fod yn llawer mwy na'r hyn y gellir ei ddisgrifio fel 'globaleiddio', 'marchnadoedd rhesymegol' ac 'uchafswm defnydd-deb'. Mae economïau'n lleol, yn genedlaethol, yn ogystal â byd-eang, a diystyrwyd yr economi leol yn rhy hir o lawer, ac yn fy marn i mae hyn wedi creu llawer o le i ddylanwad poblyddwyr a diffyndollwyr allu cynyddu, a beirniadu agweddau ar yr economi fyd-eang sy'n eithaf cynhyrchiol i ni, yn ogystal â chanolbwyntio ar faterion sy'n galw am fwy o graffu.
Ond mae'n rhaid bod o ddifrif ynghylch yr ymadrodd, 'adfer rheolaeth'. Wrth gwrs, y drychineb gyda Brexit yw nad yw'n glir iawn sut rydym yn adfer rheolaeth. Bydd yn sicr yn waith sydd ar y gweill ac mae angen iddo fod yn waith sy'n llywio'r economi wleidyddol gyfan, os gallaf ddefnyddio cysyniad sy'n perthyn i'r ddeunawfed ganrif, ond credaf ei bod yn bryd iddo ddychwelyd gan fod gwleidyddiaeth ac economeg yn gwbl gysylltiedig. Wrth edrych ar rywbeth fel 'adfer rheolaeth', mae angen inni i ystyried cysyniadau fel tegwch, gwerth, dinasyddiaeth, oherwydd mae'r rhain yn elfennau hanfodol o gymdeithas gydlynus ac economi wleidyddol iach. Yn anochel cânt eu hybu gan y cysyniad o'r economi sylfaenol, ac eisoes mae Lee Waters wedi rhoi disgrifiad ardderchog o'r rheswm pam. Ac rwyf finnau'n credu hefyd, fel y soniodd Lee, mai dyma sydd wrth wraidd rhywbeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Credaf fod honno'n brism da iawn i ni ei ddefnyddio i gael mwy o sylw a ffocws ar economïau lleol a'u twf.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ganmol y Ffederasiwn Busnesau Bach a'u partneriaid am yr adroddiad a gynhyrchwyd ganddynt, a hefyd yr adroddiad gan Sefydliad Bevan y credaf ei bod yn ddogfen allweddol arall? Nodaf fod Sefydliad Bevan wedi annog y Llywodraeth i lunio strategaeth ar gyfer yr economi sylfaenol, ac i wneud hynny'n gyflym. A dywedant y dylai fod yn dasg lawn mor bwysig â'r strategaeth ddiwydiannol i Lywodraeth y DU, a chymerodd chwe mis yn ôl y sôn i roi honno at ei gilydd. Felly, gobeithio y byddwch yn mynd ati gyda'r un ymdeimlad o frys.
A gaf fi symud at rai materion ymarferol, o ran yr hyn y dylem ganolbwyntio arno? Mae caffael clyfrach, fel sy'n digwydd yn Preston yn awr, ac sy'n cynhyrchu gwariant mwy lleol, yn bwysig tu hwnt. Nawr, gallem wynebu ddiffyndollaeth ar raddfa fach os nad ydym yn ofalus. Nid oes dim o'i le ar i bobl o'r tu allan i'r ardal leol fod yn weithgar yn yr economi honno. Ond mae angen inni wario mwy o fewn ardaloedd lleol—ar ddarparu gofal cymdeithasol, er enghraifft. Mae'n ffordd ardderchog o uwchsgilio'r rhai sy'n aml yn anweithgar yn economaidd, a chael hyder, a gallu dod i mewn i'r farchnad lafur leol wedyn. Gall llawer iawn o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ganolbwyntio ar y bobl y maent yn eu cyflogi—yn ardaloedd mwy llewyrchus yr economi ranbarthol, er enghraifft. Ac mae pobl yn teithio i leoedd fel Merthyr Tudful a'r Cymoedd uchaf o Gaerdydd a choridor yr M4, pan allem fod yn cynhyrchu mwy o'r gwaith hwnnw'n lleol.
Mae BBaCh yn amlwg yn allweddol yn yr economi sylfaenol. Ac edrychwch beth sydd wedi digwydd yn y sector tai—rydym wedi colli llawer o'n gallu i adeiladu ar raddfa fawr, am fod BBaCh i raddau helaeth wedi troi cefn ar adeiladu tai ac wedi troi at feysydd eraill cysylltiedig fel gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ac addasu.
Mae sgiliau'n greiddiol i hyn. Pe baem yn gallu mynd i'r afael â diffyg sgiliau sylfaenol gyda'r parodrwydd a ddangoswn tuag at fynd i'r afael â sgiliau uwch a sgiliau technolegol—ac mae angen inni wneud hynny, wrth gwrs—byddem yn gweld gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd. Dyna yw prif ddangosydd lefelau tlodi—nifer y bobl o oedran gweithio ond nad ydynt yn gweithio. Ac mae hwn yn faes pwysig iawn.
A gaf fi orffen gyda hyn, ac mae'n dasg y tu hwnt i Llywodraeth Cymru'n unig—mae hyn yn rhywbeth rydym yn mynd i fod angen ei wneud ar lefel y DU? Nid yw ardrethi busnes yn addas at y diben mwyach. Maent yn gyrru entrepreneuriaid lleol o'r stryd fawr, ac mewn llawer o ardaloedd o gwmpas y parciau busnes ac yn y blaen. Rydym yn y sefyllfa afresymol yn awr lle mae economïau lleol yn talu mwy mewn ardrethi busnes nag y mae rhai cwmnïau rhyngwladol yn ei dalu mewn trethi yn yr holl fusnes y maent yn ei gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig. Ni all hynny fod yn iawn.
Hoffwn ddweud 'diolch' wrth Lee Waters a Jenny Rathbone am wneud y daith i Preston; ni allwn wneud hynny fy hun, am resymau teuluol. Ond mae'n wych eu bod wedi cynhyrchu adroddiad, fel y byddech yn ei ddisgwyl, o ganlyniad i'w taith, ac rwyf wedi ei ddarllen gyda diddordeb. Mae'n datgelu bod yna bethau y gellir eu trosglwyddo o fodel Preston i'n cymunedau, heb ormod o drafferth. Rwy'n derbyn y pwynt am fod ag anghenion lleol penodol yn ogystal, ond mae yna rai egwyddorion y gallem eu trosglwyddo.
Mae'r Athro Kevin Morgan yn aml wedi canmol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn benodol am eu gwaith caffael, ac mae wedi enwi Liz Lucas a'i thîm yno fel arbenigwyr ac esiamplau ym maes caffael. Felly, achubais ar y cyfle y prynhawn yma i siarad â'r tîm yng nghyngor Caerffili, ac un o'r pethau a atseiniai'n glir oedd y llinell o adroddiad Lee a Jenny ar Preston:
Dywedodd y dirprwy brif weithredwr yn Preston wrthym eu bod wedi cael rheolau caffael yr UE yn haws na'r disgwyl ar ôl cael clywed eu bod yn rhwystr.
Ac fe ategir hyn gan brofiad cyngor Caerffili, oherwydd yr hyn a wnaethant â rhaglen safon ansawdd tai Cymru oedd datblygu eu fersiwn eu hunain o system brynu ddynamig ar gyfer Caerffili, fersiwn sy'n caniatáu mynediad wedi'i symleiddio—rhywbeth a alwent yn basbort i fasnach—er mwyn i gontractwyr lleol allu cael mynediad at waith ar gyfer safon ansawdd tai Cymru. Roedd yn rhywbeth sy'n cyd-fynd yn bendant iawn â'r hyn a darllenais yn yr adroddiad Preston gan Lee Waters a Jenny Rathbone.
Un o'r pethau eraill y dywedodd Caerffili eu bod yn gwneud yn dda yw cydweithio ag awdurdodau lleol eraill. Ac roeddent yn teimlo nad oedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn caniatáu hynny, neu nad oedd wedi'i ymgorffori yn egwyddorion y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ond eu bod er hynny yn cynnal y cydweithio hwnnw'n lleol. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedwn wrth edrych ar y sefydliadau angori a nodir yn yr adroddiad a gynhyrchodd Lee a Jenny o ganlyniad i'r ymweliad â Preston, yw nad oes gan Gaerffili yr un lefel o systemeiddio a strwythuro ag a welir yno, ac rwy'n credu bod gwersi i'w dysgu yno: sut y mae gwneud y mwyaf o'r ddealltwriaeth o'n hamgylchedd uniongyrchol? Credaf fod hynny'n rhywbeth rydym yn parhau i fod yn eithaf pell o'i gyflawni.
Rwyf wedi sôn cyn hyn am waith Mark Granovetter, 'The Strength of Weak Ties' a'r ffaith mai cysylltiadau gwan â chyfalaf cymdeithasol yw'r rhai sy'n galluogi twf. Felly, heb ddibynnu fel busnes ar eich teulu a'ch ffrindiau, ond dibynnu ar y trefniadau cydweithredol gyda busnesau eraill yn eich rhwydwaith cymdeithasol uniongyrchol—cryfder cysylltiadau gwan o'r fath mewn cyfalaf cymdeithasol.
Un o'r pethau y gwelodd Caerffili oedd bod cymeriadau cryf iawn yn dod gyda'r cysylltiadau gwan hynny. Ni all cwmnïau bach sy'n ceisio cydweithio gynnal cydweithio o'r fath pan fyddant yn gwneud ceisiadau ac yn ymgeisio am gontractau. Weithiau, mae'n deillio o anghydfod ynglŷn â phwy y dylid ei dalu faint ac am beth, ac mae'n dod yn anhawster wrth gynnal cydweithio mewn cwmnïau bach ar draws contractau. Efallai eu bod yn llwyddo i gyflawni un contract, ond ni fyddant yn cydweithio drachefn ar gyflawni contract arall. Mae hynny'n golygu rhywfaint o addysg yn ein cwmnïau bach, yn ein cymuned BBaCh, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig.
Yn olaf, y mater arall a dynnodd cyngor Caerffili i fy sylw oedd y cysylltiad â gofal cymdeithasol. Rwy'n falch o weld bod un o'n hymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur Cymru yma ac wedi nodi'r angen am wasanaeth gofal gwladol. Credaf fod gwasanaeth gofal gwladol yn hanfodol ar gyfer ein helpu i ddarparu gofal cymdeithasol. Yn rhy aml, rydym wedi rhoi ein gofal cymdeithasol ar gontract allanol heb feddwl i bwy rydym yn ei roi. Mae Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru wedi cynhyrchu adroddiad a ddywedai y dylem fod yn adeiladu mentrau cymdeithasol i mewn i'n systemau darparu gofal, i mewn i'r modd rydym yn darparu gofal cymdeithasol. Nid ydym wedi llwyddo yn hynny o beth yng Nghymru, a chredaf fod angen inni ailedrych ar sut rydym yn darparu gofal cymdeithasol. Credaf y bydd y fframwaith gwasanaeth gofal gwladol hwnnw'n allweddol ar gyfer caniatáu hynny.
Felly, credaf fod hon yn ddadl bwysig ar yr adeg hon. Cawsom ddadleuon ar yr economi sylfaenol cyn hyn. Buaswn yn dweud un peth: mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando oherwydd fe'i gwelsom yn cael ei gyflwyno yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, ond bellach mae angen inni ei weld yn cael ei roi ar waith. Credaf y bydd peth o'r drafodaeth yn y ddadl hon heddiw yn rhoi cymhelliant pellach i Ysgrifennydd y Cabinet fwrw ymlaen â'r syniadau hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed ei ymateb i'r ddadl heddiw hefyd.
Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, i siarad ar ran fy nghyd-Aelod, Adam Price. Mae angen gallu gwirioneddol, ewyllys wleidyddol a dewrder sylweddol i symud oddi wrth y ffyrdd confensiynol o feddwl am bolisi economaidd, symud oddi wrth yr obsesiwn gyda dangosyddion economaidd cenedlaethol fel gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros, obsesiwn y mae'r cyfryngau a phob plaid wleidyddol wedi bod yn euog ohono yn y gorffennol, ac edrych ar sut y gallwn wella bywydau pob dydd ein cyd-ddinasyddion mewn termau real. Mae i werth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros le yn y broses o fesur cyfoeth cenedlaethol cyffredinol wrth gwrs, ond nid yw'r dangosyddion hyn yn ein galluogi i fesur a deall mynediad pobl go iawn at adnoddau go iawn, gan gynnwys cyfoeth ariannol, heb sôn am iechyd a hapusrwydd a lles ein cyd-ddinasyddion, a hynny, wrth gwrs, sy'n bwysig go iawn i bobl yn eu bywydau bob dydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi canolbwyntio ein polisi economaidd ar gyflawni 'prif enillion' fel y'u gelwir—y cwmnïau angori y cyfeiriodd Lee Waters atynt eisoes. Cafwyd rhywfaint o lwyddiant yn denu cwmnïau mawr rhyngwladol, cwmnïau dan berchnogaeth dramor yn bennaf, i Gymru, a'u cadw yma. Er y gallwn weld atyniad y dull hwn o weithredu, mae'n achosi problemau; mae bob amser wedi achosi problemau, ond fel y nododd Lee Waters yn gynharach, mae wedi dod yn fwy o broblem bellach.
Wrth gwrs, ceir budd economaidd uniongyrchol, yn amlwg, i'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol yn y cwmnïau hyn, ac weithiau i gwmnïau a chadwyni cyflenwi lleol, ond yn y diwedd anfonnir yr elw i fannau eraill a'i wario mewn mannau eraill, a gwyddom fod ymrwymiad y cwmnïau rhyngwladol hyn i Gymru, gyda rhai eithriadau nodedig, ar y gorau'n arwynebol. Yn rhy aml, byddant yn adleoli ar fympwy'r marchnadoedd, ac wrth gwrs, mae Brexit yn cynyddu'r perygl o hynny, fel y nodwyd eisoes.
Ymddengys bod yna gonsensws yn datblygu na allwn barhau fel hyn. Mae angen newid y patrwm meddwl o ran polisi. Rhaid inni ganolbwyntio datblygu economaidd yn fwy tuag at yr economi bob dydd, sy'n berthnasol i bob dinesydd yn eu bywydau bob dydd. Felly, mae'r ffocws newydd ar yr economi sylfaenol yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr iawn yn fy marn i, fel y mae eraill wedi dweud. Lluniwyd yr economi sylfaenol o'r nwyddau a gwasanaethau sylfaenol a ddosberthir yn lleol sy'n hanfodol i fywyd, gan gynnwys bwyd, cyfleustodau, adeiladu, manwerthu, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth Hefin am bwysigrwydd gofal cymdeithasol a sut rydym wedi rhoi llawer ohono ar gontract allanol i gwmnïau rhyngwladol mawr nad ydynt yn poeni llawer iawn mewn gwirionedd naill ai am y bobl y maent yn darparu gwasanaethau iddynt, eu gweithwyr, na'r cymunedau y maent yn darparu gwasanaethau o'u mewn. Ac wrth gwrs, mae tai'n hanfodol. Dyma'r sectorau lle mae dros hanner y bobl yng Nghymru'n gweithio, wrth gwrs, ond rydym wedi tueddu i'w diystyru, yn nhermau polisi.
Bydd gweithio ar flaenoriaethu'r economi sylfaenol yn ein galluogi i godi cyflogau yn y sectorau allweddol hyn wrth inni wella cynhyrchiant, ac atal colledion o gaffael lleol a defnydd preifat. Gwnaed pwyntiau da iawn eisoes am gyngor Preston, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed pa gysylltiadau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cael, a pha gysylltiadau pellach y bwriadant eu cael, gyda'r enghraifft drawiadol iawn honno. Ond wrth gwrs, ceir enghreifftiau da eraill, ac mae eraill wedi eu crybwyll.
Wrth gwrs, byddai canolbwyntio ar yr economi sylfaenol yn caniatáu inni gadw cyfran fwy o'r elw trwy berchnogaeth leol a chymdeithasol uwch. A gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd. Mae Plaid Cymru wedi bod yn ystyried syniadau, gan gynnwys sefydlu cwmnïau datblygu economaidd cymunedol ledled Cymru sy'n gallu nodi cyfleoedd yn y farchnad ar gyfer mentrau cydweithredol lleol a sefydlu rhwydwaith a strwythur gwell ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd y gwahanol randdeiliaid ym meysydd amaethyddiaeth, prosesu bwyd, iechyd, maeth a'r amgylchedd. Gallai hyn greu un polisi cydgysylltiedig sy'n gosod bwyd iach, maethlon a gynhyrchwyd yn lleol fel nod trosfwaol allweddol i Lywodraeth Cymru.
Fel popeth arall mewn gwleidyddiaeth, mater o flaenoriaethau yw newid ffocws polisi economaidd. Os yw'r sectorau sylfaenol a'r economi sydd wedi'i diystyru yn symud i fyny rhestr flaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd, a bod yr arwyddion yn dda—mae'n amlwg fod yna symud ar hyn—yna gellir defnyddio adnoddau'n well i gefnogi a datblygu polisïau gwell i ymgysylltu â'r microgwmnïau er elw sydd i gyfrif am dros 30 y cant o gyflogaeth yng Nghymru.
Rhaid inni ddatblygu cymorth effeithiol i fusnesau bach, ac er y bu rhywfaint o lwyddiant yn y gorffennol, rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cydnabod bod modelau blaenorol o gymorth i fusnesau bach ar y cyfan wedi methu cyrraedd y busnesau gyda'r potensial mwyaf i dyfu ac a allai eu defnyddio fwyaf.
Os gallwn gael hyn yn iawn, gallwn ddylanwadu'n gadarnhaol ar fywydau nifer fawr o ddinasyddion, a chreu swyddi da tra'n cefnogi twf a llywio diwylliant y genhedlaeth nesaf o gwmnïau gwreiddiedig canolig eu maint—y canol coll y clywn amdano. Mae llawer o'r sylfeini a rhai o'r sefydliadau a all gynnal yr economi sylfaenol eisoes yn bodoli. Er enghraifft, mae gan y banc datblygu botensial enfawr i adeiladu'r canol coll. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddo symud tuag at wneud cymorth ariannol hirdymor ar gyfer y cwmnïau hyn sy'n wreiddiedig yng Nghymru drwy fenthyciadau amyneddgar, lle nad oes disgwyl gallu cynhyrchu elw cyflym neu adenillion cyflym iawn ar fuddsoddiad, a helpu cwmnïau lleol i dyfu, a phan fo angen, i gael eu prynu o bosibl gan y staff eu hunain.
Gallaf weld, Ddirprwy Lywydd, fod fy amser yn brin. Mae llawer mwy y gellid ei ddweud.
Mae wedi dod i ben.
Mae wedi dod i ben. Diolch. Fe orffennaf drwy ddweud bod y newid patrwm hwn yn galw am lawer o waith gan y Llywodraeth, gweision sifil, y trydydd sector, academyddion ac eraill sydd â diddordeb, er mwyn llunio'r corff o dystiolaeth a gweithio i'w gyflawni. Mae Plaid Cymru yn barod iawn i chwarae ein rhan yn hyn.
Rwy'n petruso cyn anghytuno â David Melding, ond hoffwn ein hatgoffa nad pobl sy'n economaidd anweithgar sy'n byw yn y tlodi mwyaf, ond yn hytrach, pobl sy'n gweithio; mae eu cyflogau'n annigonol iddynt fyw arnynt. Rhoddwyd hwn i mi dros amser cinio:
Teimlo'n llwglyd? Dyma rywbeth i gnoi cil arno. Yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o bobl Cymru wedi rhedeg allan o fwyd cyn y gallent fforddio prynu rhagor.
Pobl mewn gwaith yw'r rheini'n bennaf. Nid ydynt yn ennill digon, a dyna arwydd clir nad yw'r economi'n gweithio i Brydain ac mae angen diwygio sylfaenol.
Felly, o ystyried y daeargryn y gallai Brexit ei achosi, mae angen inni feddwl yn galed iawn sut y gallwn ddatblygu economi leol sy'n gallu gwrthsefyll y corwyntoedd hyn, economi sy'n decach, yn defnyddio'r adnoddau sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau ac y talwyd amdanynt gan ein cymunedau, yn hytrach na dibynnu ar y rhai y gellir eu sugno i ffwrdd i'r hafan dreth fwyaf cyfleus. Er enghraifft, fel yn Preston, gyda methiant canolfan siopa fawr, mae'r modd y mae Sports Direct wedi prynu House of Fraser yn annhebygol o fod yn achubiaeth i ganol dinas Caerdydd. Mae'n gohirio'r anochel, ond nid yw'n ateb hirdymor i batrymau newidiol. Prin ei fod ronyn yn fwy gwreiddiedig yn ei economi na'i landlord, sydd â buddiannau ar draws y DU a'r Unol Daleithiau. Felly, credaf fod gwir angen inni ganolbwyntio ar sut y gallwn gryfhau ein heconomi sylfaenol, ac mae gan bawb ohonom fuddiant yn hynny.
Er enghraifft, rwy'n cymeradwyo cyngor Caerdydd ar ddefnyddio trosglwyddiadau asedau cymunedol pan na allant ddod o hyd i'r adnoddau i ddatblygu rhai o'u hasedau cyfalaf, er enghraifft drwy drosglwyddo canolfan gymunedol Plasnewydd i'r YMCA, ac mae bellach yn ganolfan gymunedol lewyrchus lle roedd yn methu yn y gorffennol. Trosglwyddo llyfrgell y Rhath, a oedd angen gwaith atgyweirio dybryd i'r to—mae bellach wedi'i throsglwyddo i Rubicon Dance, sefydliad gwirfoddol lleol, y bydd llawer ohonoch yn gwybod amdano, sy'n gallu codi'r asedau nad ydynt yn gyhoeddus ac nad yw cyngor Caerdydd yn gallu eu sicrhau ar yr adeg anodd hon.
Ddoe, yn y Senedd, croesewais y wobr tai arloesol, sy'n golygu y byddwn yn cael datblygiad hollol wych y tŵr coed o 50 o fflatiau i bobl, gyda rhenti fforddiadwy ac yn hollol groes i'r cytiau cwningod y mae'r chwe adeiladwr tai mawr mor frwdfrydig yn eu cylch. Felly, bydd hynny'n adeiladu sgiliau lleol, yn adeiladu arbenigedd yn y math o dai sydd eu hangen arnom ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â rhoi mwy o arian i mewn yn yr economi leol. Oherwydd os nad yw pobl yn gorfod gwario rhan fawr o'u hincwm ar wresogi eu cartref, mae'n cryfhau'r swm o arian sy'n cylchredeg yn yr economi leol i'w wario ar fwyd ac adloniant ac unrhyw beth arall.
Felly, credaf fod yna fanteision enfawr i'w dysgu o'n hymweliad â Preston, a chredaf fod angen i'n awdurdodau lleol a'n holl gwmnïau angori feddwl o ddifrif amdanynt. Nid yw'n—. Hefyd, mae'r trydydd sector yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn. Ymwelais â fy siop ddodrefn Sefydliad Prydeinig y Galon leol yr wythnos diwethaf—cyfleoedd gwych ar gyfer gwirfoddoli, sy'n golygu bod pobl nad ydynt yn ddigon iach i wneud swyddi lleol neu bobl nad ydynt yn teimlo'n barod i fynd yn ôl i'r gweithle yn gwneud cyfraniad serch hynny, yn ogystal â sicrhau bod y myfyrwyr sy'n byw gerllaw yn rhoi'r dodrefn nad ydynt eu hangen mwyach yn ôl i'w cylchredeg ymhlith y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr. Mae honno'n sefyllfa lle bydd pawb ar ei ennill.
Un o'r llefydd yr ymwelais â hwy gyda Lee Waters oedd Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, lle mae'r fenter Propeller yn gwneud gwahaniaeth mawr. Fe'i sefydlwyd fel canolfan datblygu busnes, cwmni cydweithredol sy'n eiddo i'r gweithwyr yn y cyfryngau digidol, er mwyn atal y draen dawn i Fanceinion. Felly, mae'n cyd-fynd â'r hyn roedd David Melding yn ei ddweud, nad oes angen lleoli pob busnes yng Nghaerdydd. Gellid eu lleoli'n hawdd mewn mannau eraill yn y Cymoedd, yn hytrach na thagu'r ffyrdd. Felly, er bod Prifysgol Caerdydd lawer yn fwy o faint na Phrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, mae'n gwmni angori pwysig y mae un o bob 130 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu arno. Mae'r patentau y maent yn eu datblygu a'r £29 miliwn a gynhyrchir trwy fusnesau newydd myfyrwyr a staff yn dangos y math o swyddi newydd sy'n debygol o aros yng Nghymru ac aros yng Nghaerdydd yn arbennig. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y cyfle i ymateb i'r ddadl. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ystyrlon. Heddiw, mae gennym ddwy ddadl gefn wrth gefn y credaf eu bod yn adlewyrchu'r nodau deuol a geir yn ein cynllun gweithredu economaidd: un nod o drydanu diwydiannau yfory wrth inni gychwyn, neu wrth inni symud ymlaen drwy'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, a'r ail nod o gefnogi ac ysgogi twf cynhwysol. Ac rwy'n meddwl ei bod hi wedi bod yn ddadl ardderchog. Ni allwn ddweud hyn am bob mater sy'n codi, ond rwy'n credu bod cytundeb trawsbleidiol gwirioneddol ar bwysigrwydd yr economi sylfaenol.
Cefais fy nharo gan nifer o gyfraniadau, gan gynnwys yr hyn a ddywedodd David Melding. Roedd ei gyfraniad meddylgar yn cyfeirio at y ffaith bod llawer o effeithiau cymdeithasol, seicolegol a gwleidyddol i iechyd yr economi sylfaenol. Credaf fod y cyhoeddiad diweddaraf ynghylch—neu'r cyhoeddiad rhagorol diweddaraf ynghylch—yr economi sylfaenol gan Manchester University Press yn cyfleu'n dda iawn, pan fydd gennych ddarpariaeth gwasanaethau a nwyddau sy'n amrywio o ran ansawdd yn ôl statws cymdeithasol, bydd gennych raniadau cymdeithasol yn sgil hynny. Pan fo hynny'n digwydd, bydd gennych y math o fanteisiaeth wleidyddol y nododd David Melding yn gywir, a hefyd, wrth gwrs, y ddiffyndollaeth a welsom yn cael ei harddel ym mhob cwr o'r byd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol ac ar lefel ficro yn ogystal.
Roeddwn yn falch iawn hefyd o glywed Helen Mary Jones yn siarad o blaid yr hyn y bûm yn ei ddadlau yma ers dros ddwy flynedd—fod gwerth ychwanegol gros yn llai pwysig i fywydau pobl na'u hapusrwydd a'u lles, na ellir eu mesur bob amser drwy ddefnyddio'r mesuriadau y mae gormod o wleidyddion yn hoffi cyfeirio atynt wrth golbio Llywodraeth mewn perthynas â pherfformiad economaidd. Nod y cynllun gweithredu economaidd yw codi lefel cyfoeth, ie, ond hefyd—yn fwy pwysig yn fy marn i—lefel lles, a sicrhau ein bod yn lleihau anghydraddoldebau yn y ddau.
Credaf ei bod yn iawn ein bod ni, fel cynrychiolwyr etholedig waeth beth fo lliw ein plaid, yn canolbwyntio ar yr economi sylfaenol, oherwydd ni waeth pa etholaeth a gynrychiolir gennym, mae'r economi sylfaenol yn berthnasol i bawb ohonom a'r holl bobl a wasanaethir gennym. Mae wrth galon ein cymunedau a'n profiadau dyddiol, yn ddibynnol fel yr ydym ar nwyddau a gwasanaethau'r economi sylfaenol.
Felly, mae'n hen bryd, yn fy marn i, fod yr hyn y cyfeiriwyd ato yn y gorffennol fel yr 'economi bob dydd' yn cael y ffocws a'r sylw y mae'n eu llawn haeddu. Unwaith eto, dyna pam y mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi mwy o fin ar ein dull o weithredu pedair rhan benodol o'r economi sylfaenol—y meysydd hynny sy'n ymwneud â bwyd a diod, twristiaeth, gofal a manwerthu—lle byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r sectorau hyn i fynd i'r afael â thair her allweddol, sef yn gyntaf, gwella ansawdd, cynaliadwyedd a rhagolygon y bobl a gyflogir o fewn yr economi sylfaenol. Mae cynhyrchiant, arweinyddiaeth ac arloesedd yn berthnasol i'n holl economi, ond maent yr un mor berthnasol i'r economi sylfaenol.
Yn ail, mae angen inni newid canfyddiadau ynglŷn â gwaith yn yr economi sylfaenol—yn wir, canfyddiadau ynglŷn â'r economi sylfaenol ei hun. Mae angen inni hybu'r gwerth y mae pob unigolyn yn ei roi ar rôl yr economi sylfaenol yn ein cymdeithas, gan mai pobl a'u sgiliau a'u hymrwymiad sy'n gwneud i'r economi sylfaenol wasanaethu cymdeithas yn llwyddiannus, ac felly mae angen inni fuddsoddi mwy yn y bobl a gyflogir o fewn yr economi sylfaenol.
Yn drydydd, rwy'n credu bod rhaid inni fanteisio i'r eithaf ar effaith yr economi sylfaenol ar ein lleoedd. Mae gan fusnesau a gwasanaethau a nwyddau sy'n ffurfio'r economi sylfaenol ran hollbwysig i'w chwarae yn hybu'r balchder sydd gan bobl yn ein lleoedd a chydlyniant yn ein lleoedd yn ogystal. Felly, mae ein ffocws bellach ar ddatblygu cynllun galluogi sy'n ystyried yr amcanion hynny ac a fydd yn arwain gweithgarwch ar draws y Llywodraeth, oherwydd mae adeiladu economi sylfaenol gref ac effeithiol yn ymwneud â mwy nag ysgogiadau'r economi a thrafnidiaeth sydd at ein defnydd—mae'n ymwneud â dod at ein gilydd a gwneud ymdrech gyfunol ac unedig ar draws y Llywodraeth.
Gan droi at elfennau penodol y cynnig, rwy'n cydnabod yr alwad i fynd ymhellach wrth groesawu egwyddorion yr economi sylfaenol. Rwy'n credu bod yna sail resymegol gref dros ddewis y pedwar gweithgaredd sylfaenol sydd gennyf. Rhaid inni ddechrau yn rhywle, Ddirprwy Lywydd, a chydag adnoddau cyfyngedig, mae cael ymdeimlad o ddiben a ffocws yn eithriadol o bwysig. Ond nid yw hyn yn golygu na allwn groesawu egwyddorion ehangach yr economi sylfaenol. Yn wir, rwyf wedi gofyn i fy mwrdd cynghori gweinidogol edrych ar arferion gorau a'r gwersi y gallwn eu dysgu o enghreifftiau rhagorol fel model Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol y cyfeiriodd rhai o'r Aelodau ato. Gwn ein bod eisoes wedi cymhwyso gwersi o fodel Preston yn ein polisïau caffael, ac mae dysgu gan eraill yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i wneud. Dywedodd Hefin David yn gywir ei bod hi'n gwbl bosibl mabwysiadu arferion o fannau eraill, y dylid gwneud hynny pryd bynnag a lle bynnag y bo awydd i'w wneud, a nododd Jenny Rathbone enghreifftiau o arloesi ac arferion gorau yn agosach at adref y dylid eu cyflwyno'n eang ar draws Cymru.
Ac rwy'n cytuno'n gryf gyda'r pwyslais yn y cynnig ar ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae gwreiddio ffyrdd o weithio a nodau cenedlaethol y Ddeddf llesiant yn cynnig cyfle gwych, yn fy marn i, ar gyfer darparu gwerth ehangach drwy gaffael. Gwn fod adnoddau caffael ar gael i'w defnyddio gan y sector cyhoeddus yng Nghymru i ymgorffori'r Deddf llesiant wrth gyflawni gwaith caffael.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cydnabod bod y cynnig yn gywir i dynnu sylw at rôl gofal, a'r cyfle sydd gennym, rwy'n credu, i dorri cwys newydd drwy edrych ar fodelau cyflawni newydd ledled ein gwlad. Rydym wedi gweld rhai datblygiadau cadarnhaol iawn yn y maes hwn; mae rhai Aelodau eisoes wedi nodi rhai o'r datblygiadau hynny. Rydym wedi ymgysylltu â Chanolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi datblygu ac ehangu modelau cyflawni amgen sy'n llawer mwy cynaliadwy, ac yn gwasanaethu'r cymunedau y maent yn rhan annatod ohonynt. Rydym hefyd wedi cyflawni cynllun peilot cymorth busnes yn ardal tasglu'r Cymoedd i roi cyngor gyda'r nod o wella gwybodaeth, hyder a sgiliau ymarferol. Ac mae ein dull newydd, fe gredaf, yn rhoi cyfle inni gynyddu gweithgareddau o'r fath o bosibl ac ymwneud yn ehangach â mentrau cymdeithasol ac eraill wrth ddatblygu modelau busnes amgen.
I gloi, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau unwaith eto am eu cyfraniad heddiw? Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn gynnal ysbryd cadarnhaol y ddadl heddiw, a'r ewyllys da yn drawsbleidiol, wrth inni ddatblygu ein dull o weithredu ar sail yr economi sylfaenol, a sicrhau ei bod yn mynd o nerth i nerth.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Vikki Howells i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon heddiw. Credaf ein bod wedi cael cyfraniadau meddylgar iawn, sy'n cwmpasu amrywiaeth o feysydd polisi, ac mae hynny'n bwysig iawn wrth gwrs gan fod yr economi sylfaenol yn cynnwys cymaint o agweddau amrywiol, o soffas i ofal cymdeithasol, y bwyd a fwyteir gennym, yr ynni a ddefnyddiwn, trin gwallt i dai, trafnidiaeth i delathrebu. Mae gweithgareddau sylfaenol yn cwmpasu holl amrywiaeth bodolaeth ddynol ac ar ben hynny, maent yn cwmpasu'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae pob aelod o gymdeithas angen mynediad atynt. Maent yn sail i'r wladwriaeth les ac yn cyfoethogi ein profiad materol.
Ar gyfer fy sylwadau i gloi, hoffwn dreulio ychydig o amser yn myfyrio ar bob rhan o'r cynnig sydd ger ein bron yn ei dro. Yn gyntaf, fel y nodwn yn ein pwynt cyntaf, mae'n gadarnhaol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu, ac nid yw honno'n gamp hawdd. Fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae angen dewrder i symud oddi wrth y mesuriadau traddodiadol o lwyddiant economaidd megis gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros. Ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymwneud yn llwyr â chefnogi a gyrru twf cynhwysol, ac mae'n wych gweld bod ganddo hyder i dorri'n rhydd o hualau defnyddio gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros yn unig fel arwyddion o dwf a llwyddiant cenedl, a'i fod o ddifrif, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, yn edrych ar ffyrdd o harneisio ac o fesur lles dinasyddion.
Ond fel y gwnaeth cyfranwyr eraill yn glir, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach i ymgorffori egwyddorion ac ethos yr economi sylfaenol. Yn wir, gweithgareddau'r economi sylfaenol sy'n darparu 54 y cant o'r swyddi yng Nghymru, a 45 y cant o'n gwerth ychwanegol gros. Yn yr un modd, amcangyfrifir bod hanner gwariant rheolaidd aelwydydd yn cael ei wario ar agweddau ar yr economi sylfaenol.
I droi at fy ail bwynt, rhaid inni ddysgu o'r gwaith a wnaeth cyngor Preston yn mynd i'r afael â thlodi lleol gwreiddiedig, a buddsoddi yn yr economi sylfaenol, fel yr eglurodd Lee Waters, drwy ailddiffinio'r cysyniad o sefydliad angori. Mae busnesau a sefydliadau cymunedol wedi deor yno, a rhoddodd fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone enghreifftiau gwych o sut y gwnaed hyn yng Nghaerdydd hefyd a sut y gellid ei efelychu mewn mannau eraill. A dyma'r pwynt allweddol, yn Preston, mae'r £1.2 biliwn a wariwyd gan gyrff y sector cyhoeddus wedi cael ei ddefnyddio'n gadarn er budd yr ardal leol. Mae gwariant lleol gan y cyngor, o leiaf, wedi mwy na dyblu, gyda'r canlyniad fod yr ardal wedi gweld y newid mwyaf ond un yn ei safle ar y mynegai amddifadedd lluosog dros bum mlynedd.
Ynghylch trydedd elfen ein cynnig ar gaffael, mae hyn yn allweddol i sicrhau ein bod yn cefnogi economïau sylfaenol ledled Cymru, ac mae enghreifftiau o arferion rhagorol yn y maes hwn y gellir eu harneisio a'u lledaenu, fel y dywedodd Hefin David wrthym pan siaradodd am yr arbenigedd a ddangoswyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Pe gallem annog yr arian hwn i gael ei wario'n lleol, fel y digwyddodd yn Preston, gellid ei ddefnyddio fel arf i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl a chymunedau yng Nghymru. Fel y noda comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, nid rhywbeth braf i'w wneud yn unig yw hyn, mae dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i'w wneud o dan y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Nawr, mae pedwerydd pwynt ein cynnig yn un hollbwysig. Buaswn yn dadlau'n gryf fod gofal nid yn unig yn elfen allweddol o'r economi sylfaenol, ond drwy ei gydnabod yn y modd hwn, gallwn sicrhau canlyniadau gwell i bawb. Fodd bynnag, fel yr awgrymodd Diane Burns o brifysgol Sheffield, mae angen inni gyflwyno newidiadau sylfaenol i'r ffordd y gwnawn bethau. Mae angen inni newid y ffordd rydym yn comisiynu gofal. Mae angen inni newid o ofal sy'n canolbwyntio arno fel gwasanaeth pecyn nwyddau hawdd ei farchnata. Mae angen inni newid o seilio darpariaeth ar fusnesau heb unrhyw ymrwymiadau lleol i'r rhai sydd ag ymrwymiadau lleol. Yn wir, mae angen inni fod yn uchelgeisiol a cheisio gweld sut y gallwn ail-gydbwyso gwasanaethau i gael y fargen orau i bobl leol, gan adfer ymdeimlad o hunan-werth pobl a gwella eu sgiliau, fel y dadleuodd David Melding mor gryf.
I gloi, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Nid yw arfer dull o weithredu sylfaenol tuag at yr economi yn ymwneud â gwario mwy o'n hadnoddau cyfyngedig. Mae'n ymwneud â chysyniadoli'r modd rydym yn ei wario mewn ffordd wahanol a gwell, ac fel y nododd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn ei sylwadau agoriadol, â dod o hyd i ddulliau pwrpasol o fynd i'r afael â'r gwendidau allweddol yn economi Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau a chydnabod y rôl allweddol y mae'r gweithgareddau hyn yn ei chwarae yn ein heconomi, a buaswn yn awgrymu, â sicrhau ein bod yn gweld y gweithgareddau sy'n rhan o'r economi sylfaenol, ac sy'n sylfaen i gymunedau lleol a'r wladwriaeth les—a'r rhai a gyflogir ynddynt—fel rhai hanfodol i'n ffyniant yn y dyfodol.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.