2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2018.
2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltedd band-eang yn Arfon? OAQ52897
Gwnaf, yn sicr. Er nad oes gennym wybodaeth sy'n ymwneud ag Arfon yn benodol, gallaf gadarnhau bod cynllun Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i dros 58,440 o gartrefi a busnesau yng Ngwynedd, gan ddarparu cyflymder cyfartalog o dros 102 Mbps a buddsoddi dros £16.2 miliwn.
Diolch. Mae safon y cysylltedd i fand eang yn Arfon yn anghyson, boed mewn ardal wledig neu ddinesig. Er enghraifft, ym mharc busnes Menai ym Mangor, mae busnesau yn cael eu rhoi dan anfantais sylweddol oherwydd diffyg safon y cysylltedd. Mae nifer o etholwyr wedi sôn am enghreifftiau lle y mae llond llaw o dai yn cael eu heithrio er bod ffibr i’r adeilad wedi’i osod i’r rhan fwyaf o’r tai, nid ydy’r gwaith wedi cael ei orffen. Mae yna rai tai wedi cael eu gadael ar ôl yn Waen Pentir, Nebo, Nasareth, Tregarth a Thal-y-bont. A ydy hyn yn arwydd o ddiffyg cynllunio’r gwaith yn briodol? Gyda llaw, rydw i yn edrych ymlaen i’ch croesawu chi i etholaeth Arfon ar 29 Tachwedd lle cawn ni wyntyllu’r problemau yma’n llawn.
Rwy'n edrych ymlaen yn arw at ddod. Mae'n ddefnyddiol iawn imi fynd o amgylch Cymru yn siarad yn benodol ag unigolion a'u cymunedau ynglŷn â pham rydym yn y sefyllfa sydd ohoni a beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael yn benodol â'u problemau fel unigolion a chymunedau. Gwyddom ei bod yn rhwystredig iawn os ydych yn un o'r bobl a gafodd eu hepgor o'r rhaglen flaenorol. Darparwyd cysylltedd i 733,000 eiddo, ond wrth gwrs, os ydych yn un o'r bobl yn y ganran fechan sy'n weddill, mae'n rhwystredig dros ben, a dyna pam rwy'n gwneud y daith—er mwyn ceisio deall beth yn union y gallwn ei wneud. Rydym newydd gwblhau'r broses gaffael ar gyfer lotiau 1 a 3. Mae hynny wedi'i gwblhau; y cynigydd llwyddiannus yw BT plc, a llofnodwyd cytundeb grant ddoe, fel y mae'n digwydd. Byddwn yn gofyn iddynt egluro yn awr pa safleoedd yn union sydd wedi'u cynnwys yn eu cynlluniau cyflwyno, a chyn gynted ag y bydd y wybodaeth honno gennym, bydd modd inni ei rhoi i gynrychiolwyr lleol, fel y gallant sicrhau bod pobl yn ymwybodol. Wedyn, wrth gwrs, byddwn yn gwybod pwy sydd heb eu cynnwys, fel y gallwn gyflwyno nifer fawr o gynlluniau eraill rydym yn eu cynllunio, i ddod â chymunedau at ei gilydd, i gael atebion unigol pwrpasol, i edrych ar sut y gallwn addasu ein cynlluniau talebau, ac yn gyffredinol, i ganfod ateb i'r bobl sydd heb eu cynnwys. Felly, dyna'r ffordd ymlaen, ac edrychaf ymlaen yn arw at drafod y manylion yn eich etholaeth chi pan fyddaf yn dod yno.
Diolch. Joyce Watson.
Na.
Na. Iawn. Mark Isherwood.
Diolch. Roedd yr ymatebion a gefais gan Openreach ar ran etholwyr o Arfon ac Ynys Môn, ar draws i Sir y Fflint a Wrecsam, ar ôl i brosiect Cyflymu Cymru ddod i ben ar 31 Rhagfyr y llynedd, i gyd yn cynnwys brawddeg yn dweud bod y gwaith gweithredol ar unrhyw brosiectau nad ydynt wedi'u cwblhau wedi dod i ben. Ar 23 Hydref, yn eich datganiad i'r Cynulliad, gwnaethoch gadarnhau bod lot 1 gogledd Cymru ar gyfer y rhaglen olynol bellach wedi'i gwblhau, y byddai'r gwaith ar y rhwydwaith sylfaenol i gefnogi'r prosiect yn dechrau cyn bo hir, a bod y broses werthuso ar gyfer dwyrain Cymru yn parhau. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech egluro lle mae ffiniau gogledd Cymru a dwyrain Cymru yn dechrau ac yn gorffen. Ond ers hynny, mae etholwyr wedi gofyn a fydd gwaith a oedd yn dal heb ei gwblhau wedi i gytundeb BT ddod i ben fis Rhagfyr diwethaf yn cael blaenoriaeth yng ngogledd Cymru, wrth i ni symud ymlaen yn awr o dan lot 1.
Mae gwefan Cyflymu Cymru yn amlinellu'r map—gallaf anfon y ddolen i'r Aelod eto; mae'n dangos yn union lle mae'r lotiau, a beth sydd wedi'i gynnwys a heb ei gynnwys. Fel y dywedais, rydym wrthi'n negodi yn union pa safleoedd, oherwydd rydym yn awyddus iawn i ddysgu o rai o'r profiadau cyfathrebu yng nghynllun cyntaf Cyflymu Cymru, o ran rhoi sicrwydd i bobl ynglŷn â ble maent arni yn y rhaglen, a beth y gallant ei ddisgwyl, yn ogystal â rhoi sicrwydd iddynt nad ydynt yn y rhaglen, fel y gallwn ymdrin â phroblemau yn y modd hwnnw. Mewn gwirionedd, rydym yn dal i sgwrsio gydag Openreach am yr hyn a elwir yn adnoddau a adawyd ar ôl—y buddsoddiad a wnaed ganddynt yn y ddaear na chafodd ei gwblhau. Rwyf eisiau dweud yn glir iawn unwaith eto, Ddirprwy Lywydd, nad ydym wedi talu'r un geiniog tuag at yr adnoddau hynny a adawyd ar ôl; mae'r sgwrs yn ymwneud ag a ydynt eisiau cyfrannu eu harian masnachol tuag at hynny, neu a ydynt eisiau cael eu cynnwys yn y lot hwn, neu a oes unrhyw drefniant arall y gallwn gytuno arno mewn perthynas â rhannu'r budd er mwyn cysylltu'r safleoedd hynny. Ond eu gwariant masnachol hwy ydyw—hwy sydd wedi buddsoddi'r arian i'w wneud; nid yw'n cael ei wneud ag arian cyhoeddus, a mater masnachol iddynt hwy ydyw yn y pen draw.
Diolch. Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Ac yn gyntaf y prynhawn yma mae llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ofyn i arweinydd y tŷ pam ei bod yn dal gwybodaeth yn ôl am gam 2 o gynllun Cyflymu Cymru?
Nid wyf yn dal unrhyw wybodaeth rwy'n ymwybodol ohoni yn ôl. Fel y dywedais, rydym wedi gosod lot 1 a lot 3. Rydym yn parhau i negodi mewn perthynas â lot 2. Rwy'n rhwystredig iawn ynglŷn â pha mor hir y mae hynny'n ei gymryd, ond cyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i ddweud beth sy'n digwydd mewn perthynas â hynny, byddaf yn gwneud hynny wrth gwrs.
Wel, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth, arweinydd y tŷ. Cyflwynais gwestiynau ysgrifenedig i chi dros wythnos yn ôl. Ddoe oedd y dyddiad ar gyfer ateb, ac rwy'n meddwl tybed pam fod yna oedi. Ai'r rheswm yw eich bod eisiau osgoi craffu yn y cwestiynau heddiw? Hefyd, fe wnaethoch awgrymu yn y datganiad busnes ddoe eich bod yn aros tan y cwestiynau heddiw i wneud rhyw fath o gyhoeddiad am lot 2, neu gam 2, o gynllun Cyflymu Cymru. Nawr, fel llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon, rwy'n cael cwestiynau bob dydd gan etholwyr sy'n rhwystredig iawn ynglŷn â'r diffyg gwybodaeth, yn cwyno am y diffyg gwybodaeth a'r oedi mewn perthynas â gweithredu'r cynllun nesaf. Felly, rwy'n cwestiynu pam nad yw'r wybodaeth hon am lot 2, a gwybodaeth arall rwyf wedi gofyn amdani, wedi cael ei rhyddhau ar y cyfle cyntaf. Fe fyddwch yn ymwybodol na lwyddodd rhai safleoedd a oedd yn destun adolygiad yng nghontract cyntaf Cyflymu Cymru i gael band eang cyflym iawn. Sut a phryd y cawn wybod a fydd y safleoedd hyn yn rhan o'r contract i ddarparu band eang cyflym iawn, a pha strategaeth gynhwysfawr fydd ar gael i alluogi safleoedd nad ydynt yn rhan o'r cynllun i gael band eang cyflym iawn?
Mae'n ddrwg gennyf am yr atebion ysgrifenedig. Mewn gwirionedd, rydych wedi cael ateb heddiw, ac ni fydd yn eich plesio o gwbl, sef nad oeddem yn gallu casglu'r data yn yr amser a oedd ar gael. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddweud hynny wrthych. Roeddwn yn gobeithio gallu rhannu'r wybodaeth gyda chi yn yr ateb, yn yr amser a oedd gennym, ond nid yw wedi bod yn bosibl i mi wneud hynny. Felly, rwy'n sicr y bydd gennych neges gennyf yn eich mewnflwch ar ddiwedd y sesiwn hon yn ymddiheuro am hynny. Yr ateb, yn syml, yw nad yw'r data ar gael gennym ar hyn o bryd. Mae'r problemau rydym yn eu hwynebu gyda chontract lot 2 yn fy ngwneud yr un mor rhwystredig â chi. Cyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i ddweud rhywbeth wrthych amdano, byddaf yn gwneud hynny. Gallwch glywed fy mod yn gobeithio gallu gwneud hynny bob dydd. Mae'r ffaith nad wyf yn gallu gwneud hynny'n peri rhwystredigaeth ddofn i mi. Mae nifer fawr o anawsterau wedi bod, ac rwy'n fwy na pharod i'w rhannu gyda'r Siambr cyn gynted ag y gallaf wneud hynny.
Diolch. Rwy'n falch o glywed eich bod yn profi'r un rhwystredigaethau â minnau, ac mae fy rhwystredigaethau'n deillio o'r negeseuon rwy'n eu derbyn gan fy etholwyr. Rwy'n derbyn eich bod yn aros am y wybodaeth hon gan swyddogion, ond rwy'n cwestiynu pam nad yw'r wybodaeth hon eisoes ar gael, ond diolch i chi am ymrwymo i rannu'r wybodaeth honno gyda mi cyn gynted ag y bydd ar gael i chi.
Rydych yn gwybod beth yw fy marn ar gam 1 a cham 2. Dylid bod wedi sicrhau pontio di-dor rhwng y ddau gynllun. Cynhaliwyd adolygiad o'r farchnad agored a fyddai wedi rhoi syniad ynglŷn â pha safleoedd y mae angen eu cynnwys yng ngham 2, neu pa safleoedd na fyddai wedi cael eu cwblhau yng ngham 1. Ond mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud ag adeiladau newydd ac adeiladau a adeiladwyd yn ddiweddar, nad ydynt, o bosibl, yn cael eu hystyried ar gyfer yr ail gontract hwn. Pa ddull sydd ar waith i sicrhau bod safleoedd o'r fath yn cael eu cynnwys cyn gynted ag y bo modd heb orfod aros am adolygiad mynediad agored hirfaith arall ar gyfer y genhedlaeth nesaf?
Os yw o unrhyw werth, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth. Mae llawer o'ch etholwyr yn ysgrifennu'n uniongyrchol ataf fi yn ogystal. Felly, mae gennyf sach fawr iawn o ohebiaeth gan bobl rwystredig ac rwy'n rhannu eu rhwystredigaeth. Ac mae hyn, heb fynd i ailadrodd yr un hen ddadleuon, yn rhan o'r ffordd y cawn ein cyfyngu wrth wneud hyn. Nid yw'n cael ei ystyried yn seilwaith. Caiff ei ystyried fel ymyrraeth y farchnad mewn marchnad sydd eisoes yn bodoli. Felly, bob tro rydym yn ymyrryd, mae'n rhaid i ni ddangos unwaith eto ein bod wedi ein heithrio o'r rheol cymorth gwladol. Mae'n rhaid i ni wneud hynny drwy'r Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU, a thrwy Broadband Development UK. Mae'n broses hir ac arteithiol. Rydym yn cael sgyrsiau parhaus â hwy ynglŷn â sut i gyflymu'r broses honno. Rydym wedi cael llawer o sgyrsiau. Mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog dros dai a minnau, a fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros gynllunio, wedi cael nifer o sgyrsiau gydag adeiladwyr tai newydd ledled Cymru ynglŷn â chynnwys y gwaith o osod y ceblau i'r ffordd, o leiaf, pan fabwysiedir y ffordd ac ati, fel y gellir cysylltu â'r band eang yn hawdd pan fydd yn dod ar hyd y briffordd y tu allan. Ceir cytundeb ar gyfer cynlluniau sy'n cynnwys dros 30 o dai, ond mae'r gweddill yn ddibynnol ar y farchnad o hyd. Ac yna, bob tro, mae'n rhaid i mi brofi methiant yn y farchnad.
Felly, rwy'n gobeithio y gallwch glywed fy mod yr un mor rhwystredig â chi ynglŷn â'r sefyllfa hon. Byddai'n help pe bai Llywodraeth y DU yn gallu bwrw ymlaen â'i dyletswydd i ddarparu band eang i bawb, ac os gallem ni ddeall sut yn union y mae gwneud hynny, gallem fynd ati i wneud yr un peth. Rydym yn cael sgwrs helaeth gyda hwy ynglŷn â sut i wneud hynny, a chyn gynted ag y bydd gennyf unrhyw wybodaeth am hynny, rwy'n fwy na pharod i'w rhannu. Ond yn y pen draw, mae band eang yn dal i gael ei drin fel cynnyrch moethus, pan fo'n seilwaith hanfodol mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid inni newid yr agwedd honno er mwyn gallu symud yr agenda hon yn ei blaen.
Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Arweinydd y tŷ, mae eich rhestr o gyfrifoldebau yn cynnwys hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. A allwch chi egluro sut rydych yn gweithio gydag adrannau a Gweinidogion eraill, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i sicrhau cydymffurfiaeth â hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd?
Gallaf. Mae gennyf gyfres o gyfarfodydd ar y gweill, cyfarfodydd dwyochrog fel rydym yn eu galw, ar sail un i un gyda phob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog y Llywodraeth ar raglen dreigl. Rwyf newydd gwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn y portffolio hwn. Rwyf wedi cyfarfod â hwy i gyd o leiaf unwaith, ac rwyf ar yr ail rownd gyda rhai ohonynt. Diben hyn oll yw trafod eu cyfrifoldebau portffolio a siarad ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod egwyddorion sylfaenol y confensiynau, hawliau dynol a'r Cenhedloedd Unedig, ac mewn gwirionedd, yr holl faterion cydraddoldeb, yn cael eu cynnwys yn briodol yn eu portffolio ac yn cael lle blaenllaw. Rwy'n gwneud yr un peth ar gyfer yr adolygiad rhywedd, mewn gwirionedd. Rwyf bron â gorffen y gyfres o gyfarfodydd lle rwy'n gwneud yr un peth ar gyfer hwnnw.
Iawn, diolch i chi am eich ateb. Mae eich cyd-Aelod ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi'i restru fel siaradwr gwadd mewn ffair arfau a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys gwerthu arfau i gyfundrefnau ag enw gwarthus iddynt mewn perthynas â hawliau dynol ac sy'n weithredol mewn achosion o wrthdaro arfog difrifol, gan gynnwys Saudi Arabia, gwlad a fyddai'n cael ei hystyried yn wladwriaeth sy'n noddi terfysgaeth oni bai am ei buddiannau olew, fel y byddai unrhyw ddadansoddiad gonest yn ei gasglu. A allwch chi egluro sut y mae cymeradwyaeth eich cyd-Aelod i'r ffair greulondeb hon yn gydnaws â chydymffurfiaeth â chyfrifoldebau hawliau dynol?
Nid oeddwn yn gwybod bod trefniadau i fy nghyd-Aelod siarad yno, ac rwy'n fwy na pharod i drafod hynny gydag ef.
Wel, diolch i chi am gytuno i wneud hynny, arweinydd y tŷ, oherwydd mae 14 miliwn o bobl yn Yemen sydd ar fin newynu, diolch i'r rhyfel y mae ein masnach arfau yn ei gefnogi—un o'r argyfyngau dyngarol gwaethaf yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfundrefn Saudi Arabia yn parhau i fod yn gyfundrefn sy'n gormesu menywod, yn cyfyngu ar ryddid sylfaenol ac yn llofruddio ei gwrthwynebwyr dramor. Mae ganddi gysylltiad cryf â thwf y Taliban, fel y gwyddoch, yn y 1990au, a'r unig reswm y mae ein Llywodraethau'n gwadu hyn yw oherwydd dylanwad cwmnïau olew mawr, BAE Systems a gwleidyddiaeth y DU. Sut yn y byd y gall eich Llywodraeth gyfiawnhau hyn?
Fel y clywsoch y Prif Weinidog yn dweud yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, mae'n fwy na pharod i edrych ar y sylwadau a wnaed ynglŷn â'r posibilrwydd fod y fasnach arfau yn cael cymorth gan unrhyw arian Llywodraeth Cymru ac adrodd yn ôl i'r Siambr. Ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn gwneud yr un peth drwy siarad â chyd-Aelodau sy'n cefnogi unrhyw beth o'r fath.
Diolch. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y gwyddoch, arweinydd y tŷ, rwyf wedi canmol Llywodraeth Cymru sawl gwaith ar lwyddiant y gwaith o gyflwyno darpariaeth ddigidol yng Nghymru. Ond arweinydd y tŷ, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod allgáu digidol yn digwydd pan nad yw person yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd. Gall hyn ddigwydd am nifer o resymau, nid yn unig oherwydd diffyg neu absenoldeb seilwaith ffisegol. Gall fod o ganlyniad i ddiffyg arian yn arwain at anallu i dalu, naill ai am y caledwedd neu'n wir, y ffi ar gyfer cysylltu â'r rhyngrwyd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i'r bobl dlotaf mewn cymdeithas, ac rydym i gyd yn cydnabod, wrth i dechnoleg ddatblygu'n gyflym, fod allgáu digidol yn gallu rhwystro pobl rhag byw bywyd llawn a chynhyrchiol. Daw'r broblem hon yn amlwg iawn pan fyddwn yn ystyried y bobl sy'n ddi-waith. Os ydych wrthi'n chwilio am waith, mae gallu defnyddio'r rhyngrwyd yn adnodd sy'n hanfodol, neu'n agos iawn at fod, ar gyfer chwilio am swydd a chwblhau ceisiadau am swyddi. A all arweinydd y tŷ nodi unrhyw ymyriadau sydd ar waith ar hyn o bryd a allai liniaru'r allgáu digidol hwn?
Gallaf, rydym yn ariannu nifer o raglenni yn y maes: rydym yn ariannu Cymunedau Digidol Cymru ac yn wir, rydym ar fin cynyddu maint hwnnw i £6 miliwn er mwyn cynnwys gweithgareddau cynhwysiant digidol ym maes iechyd. Mae arolwg cenedlaethol Cymru wedi dangos bod tua 60 y cant o'r bobl 75 oed a hŷn, ynghyd â thua 26 y cant o bobl anabl, yn profi problemau allgáu digidol. Felly, mae'r rhaglen wedi'i thargedu'n arbennig i sicrhau bod y cymunedau hynny'n gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig, yn ogystal â gwasanaethau credyd cynhwysol.
Rydym yn gweithredu nifer o raglenni eraill gan gynnwys rhaglenni datblygu busnes. Felly, wrth i ni gyflwyno'r rhaglen Cyflymu Cymru, daw tîm o bobl gyda hi yn unswydd er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar fand eang a sicrhau bod busnesau bach, yn arbennig, yn yr ardaloedd lle cyflwynir y rhaglen, yn gallu manteisio ar fynediad at y rhyngrwyd, a'u bod yn gwneud mwy na newid o'u hen systemau papur i systemau digidol, ond eu bod mewn gwirionedd yn deall sut i fanteisio'n ddigidol a sut y gallant ymestyn eu busnes yn y ffordd honno. Rydym hefyd yn cynnal cyfres gyfan o raglenni arloesi digidol yn ein hysgolion cynradd a'n hysgolion uwchradd. Ac wrth gwrs, mae ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn gydweithrediad, sy'n cynnwys buddsoddiad cyfalaf strategol ar gyfer ein hystâd addysg er mwyn sicrhau cynhwysiant digidol ym mhob rhan o'n cwricwlwm.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ac rydych wedi rhagdybio rhan o fy nhrydydd cwestiwn. Mae arolwg cenedlaethol diweddaraf Cymru wedi nodi, ar dudalen 7, nad yw 10 y cant o bobl ddi-waith yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd ac mae hyn yn cyfateb yn union i'r ffigur o 10 y cant a nodwyd y flwyddyn gynt. Nawr, er ei bod yn gadarnhaol i raddau nad yw'r ffigur hwnnw wedi codi o un flwyddyn i'r llall, mae'n ymddangos nad yw'r ymyriadau a amlinellwyd gennych yn gynharach yn cael llawer o effaith. Felly, arweinydd y tŷ, onid yw'n bryd ailedrych ar rai o'r strategaethau sydd ar waith?
Ydy, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, a dyna'n union pam rydym newydd edrych ar sut y gallwn newid y ffordd y gweithredwn y rhaglen Cymunedau Digidol Cymru. A phan ddaw'r rhaglen honno i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, bydd yn cael ei chaffael eto fel rhaglen ddwbl ei maint i gynnwys pobl sy'n ddibynnol ar wasanaethau digidol, fel y mae'n dweud—pobl sy'n ymwneud â'r credyd cynhwysol, ond mewn gwirionedd, y rheini sy'n ymwneud yn llawer mwy penodol â'r system iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd fe wyddom fod y rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef y math hwnnw o allgáu digidol yn bobl dros 75 oed ac yn fwy tebygol o fod yn rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae pobl ag anableddau hefyd yn fwy tebygol o fod yn rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ateb gonest i'r cwestiwn hwnnw.
A gaf fi symud ymlaen at agwedd arall, un y nodais yn gynharach eich bod wedi cyfeirio ati? Roeddwn yn falch o weld bod arolwg cenedlaethol Cymru wedi dangos nad oedd gwahaniaethau sylweddol o ran rhywedd mewn defnydd personol o'r rhyngrwyd ymhlith unigolion 65 oed a iau. Fodd bynnag, ar gyfer unigolion 65 oed i 74 oed, mae'r arolwg yn cofnodi ystadegyn eithaf rhyfedd: fod 75 y cant o ddynion yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd, a dim ond 68 y cant o fenywod. Fodd bynnag, ystadegyn llawer mwy arwyddocaol, ac un y soniasoch amdano'n gynharach—un sydd efallai yn peri mwy o bryder—yw'r un sy'n dangos mai 40 y cant yn unig o unigolion 75 oed a hŷn sy'n defnyddio'r rhyngrwyd. Nawr, o ystyried bod llawer o wasanaethau bellach yn newid i ddarpariaeth ar-lein, gan gynnwys gwasanaethau ariannol a meddygol, onid yw'n bryd i ni gryfhau ein hymdrechion i sicrhau bod pawb yn ymwneud mwy â'r rhyngrwyd ac yn wir, â'r chwyldro digidol sy'n digwydd o'u cwmpas?
Ydy. Fel rwy'n dweud, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae yna raniad oedran yma yn bendant. Yn amlwg, mae'r bobl a fagwyd yn y byd digidol yn tyfu fyny'n meddu ar y cymwyseddau sy'n rhaid i bobl hŷn eu caffael yn ddiweddarach yn eu bywydau, a gall hynny fod yn anos wrth i'r byd newid o'ch cwmpas. Ond mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth eang o'r sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i gyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Maent yn cynnig hyfforddiant a chymorth i ymgorffori cynhwysiant digidol o fewn sefydliadau eraill yn ogystal â helpu i hyfforddi a lleoli gwirfoddolwyr. Felly, maent yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sydd hefyd yn gweithio gyda phobl sy'n debygol o fod wedi'u hallgáu'n ddigidol. Mae hyn yn cynnwys llyfrgelloedd, er enghraifft, lle y ceir mynediad am ddim at y rhyngrwyd a chymorth i'w defnyddio ar gyfer y rhai sydd ei hangen fwyaf. Felly, mae'n goresgyn y broblem a nododd David Rowlands ynglŷn â gallu fforddio darpariaeth ryngrwyd yn y cartref. Rydym newydd ymestyn hynny, wrth inni edrych ar ddyblu maint y rhaglen i gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol.
Dychwelwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3, Rhianon Passmore.