1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 21 Tachwedd 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid yr UE ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru? OAQ52961
O fewn y portffolio sgiliau, rydym yn arwain ar naw prosiect cronfa gymdeithasol Ewrop, gyda £340 miliwn wedi'i gymeradwyo hyd nes fis Rhagfyr 2023. Cefnogwyd tua 105,000 o gyfranogwyr hyd yn hyn, ac rydym yn disgwyl cefnogi 125,000 pellach i ategu nifer o ymrwymiadau 'Ffyniant i Bawb' a chyflawni'r blaenoriaethau gweinidogol allweddol hynny.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n amlwg i mi fod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod o fudd mawr ar gyfer cyllido sgiliau a chyfleoedd hyfforddi. Yn sicr yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, mae gan yr arian a ddarperir gan gronfa gymdeithasol Ewrop ffocws clir ar y dasg hanfodol o gael llawer o bobl sy'n agored i niwed yn ôl i mewn i'r farchnad lafur. Felly, a allwch chi roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd yr hanes cadarn o fuddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau yn parhau os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Wel, wrth gwrs mae'n anodd rhoi sicrwydd ynglŷn ag unrhyw beth ar hyn o bryd, ond gobeithio y gallwn ddibynnu ar y sicrwydd a roddwyd gan y Trysorlys, beth bynnag sy'n digwydd, hyd yn oed mewn sefyllfa 'dim bargen', y gwarentir y bydd y cyllid hwnnw'n parhau tan 2020. Os ceir cytundeb pontio, bydd swyddogion yn ceisio sicrhau bod unrhyw arian sy'n weddill o fewn y pot hwnnw gan gronfa gymdeithasol Ewrop o ganlyniad i'r amrywiadau enfawr a fu yn y gyfradd gyfnewid, yn golygu y gallwn barhau i wario'r arian hwnnw hyd 2023, rwy'n gobeithio. Ond mae'n werth tanlinellu'r swm enfawr o gymorth y mae cymunedau fel eich un chi wedi'i dderbyn o ganlyniad i arian Ewropeaidd. Mae'n drueni efallai nad oes rhagor o'r bobl sydd wedi elwa o'r cyrsiau hynny wedi deall mewn gwirionedd o ble y dôi'r arian hwnnw.
Rydym ni wedi clywed o adroddiad Graeme Reid bod yna, efallai, orddibyniaeth ar y ffynonellau Ewropeaidd. Yn amlwg, mae hynny wedi bod yn rhywbeth naturiol oherwydd bod yr arian hwnnw wedi bod ar gael, ond bod yna ffynonellau arloesedd ac yn y blaen ar gael o lefydd eraill o fewn Prydain y gellir bod prifysgolion a cholegau addysg bellach yn ceisio bidio amdanynt fel eu bod nhw'n gallu gwneud mwy fel prifysgol ac wedyn ceisio gwneud hynny ar lefel fasnachol. Beth ydych chi'n ei ddweud wrth y cais hwnnw gan Graeme Reid ac a ydych chi fel Llywodraeth yn gwneud digon i hybu prifysgolion a cholegau i geisio yn y meysydd yma?
Wel, rwy'n meddwl bod fy nghyfaill i yn arwain ar hwn, ond beth y gallaf i ei ddweud yw, rwy'n meddwl bod yna ffynonellau eraill lle y gallwn ni geisio sicrhau ein bod ni'n cael mwy o'r arian yna i mewn i Gymru. Ond rwyf hefyd yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni bwysleisio nad cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw hi i roi arian i mewn i ymchwil a datblygu. Mae'n rhaid i'r sector preifat hefyd roi eu dwylo nhw yn eu pocedi nhw. Os ydych chi'n edrych dros y byd, rŷm ni'n gwario tua 1.5 y cant o'n GDP ni yn llwyr ar R&D; yn yr Unol Daleithiau, maen nhw'n gwario tua 3 y cant. Felly, mae ffordd gyda ni i fynd i wella faint o arian—. Mae'r gwahaniaeth mwyaf yn dod oherwydd nad yw’r sector preifat yn y wlad yma efallai yn rhoi cymaint o’u harian nhw i mewn i’r system.
Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd unrhyw fwlch yn y cyllid ar gyfer twf rhanbarthol os ceir Brexit 'dim bargen'. Mae'r warant hon yn cynnwys prosiectau'r gronfa gymdeithasol Ewropeaidd. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau, os yw Llywodraeth Cymru yn methu cyflawni ei haddewid o 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor hwn, mai cyfrifoldeb a methiant Llywodraeth Cymru fydd hynny?
Wel, Mohammad, rwy'n falch o ddweud ein bod yn gwneud yn well na'r disgwyl o ran y targed ar gyfer darparu prentisiaethau, ac rwy'n weddol hyderus y gallaf ddweud ein bod yn mynd i chwalu'r targed hwnnw o 100,000 o brentisiaethau. Credwn y bydd mwy o arian yn dod yn y maes hwnnw. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn gwbl ymrwymedig iddo fel Llywodraeth Cymru. Rydym yn falch iawn o'r hyn a wnaethom. Felly, rwy'n weddol hyderus y gallaf ddweud y byddwn yn cyrraedd y targed hwnnw ac mewn gwirionedd, y byddwn yn rhagori arno.