– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 15 Ionawr 2019.
Symudwn ymlaen at eitem 6, sydd yn ddadl ar y gyllideb derfynol, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n fraint i arwain y ddadl ar y gyllideb derfynol heddiw, ac rwy'n talu teyrnged ac yn diolch i fy rhagflaenydd, Mark Drakeford, am ei waith ar y gyllideb dros y flwyddyn ddiwethaf.
Diolch hefyd i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar y gyllideb, ac rwyf wedi ymateb yn ffurfiol ac yn gadarnhaol i'r argymhellion a gyflwynwyd gan y pwyllgor. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid a gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, wrth i ni ddatblygu'r gyllideb ar gyfer 2020-21 a symud ymlaen at adolygiad cynhwysfawr o wariant.
Bydd cyd-destun y gyllideb hon yn gyfarwydd. Cafodd y gyllideb ei llunio yng nghysgod hir naw mlynedd o gyni; dewis gwleidyddol gan Lywodraeth Geidwadol y DU sydd wedi achosi difrod a niwed i wead ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae gan Gymru £850 miliwn yn llai i'w wario, mewn termau real, ar wasanaethau cyhoeddus yn 2019-20 nag yn 2010-11, o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU. Petai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu ar yr un raddfa â thwf cynnyrch domestig ers 2010-11, fe fyddai gennym ni £4 biliwn yn fwy yn 2019-20—mae hynny 20 y cant yn uwch nag ein cyllideb bresennol.
Pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ym mis Hydref, roedd y Prif Weinidog yn addo bod cyni wedi dod i ben a bod cytundeb Brexit o fewn cyrraedd. Ac eto, heddiw, mae Senedd y DU yn cynnal ei phleidlais ystyrlon ac mae'r posibilrwydd y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb yn un real. Yng nghyllideb Hydref y DU, prin oedd y dystiolaeth bod cyni wedi dod i ben. O'r arian ychwanegol a ddaeth i law, roedd y rhan fwyaf o'r cyllid canlyniadol a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer y GIG. Bydd ein cyllideb gyfalaf yng Nghymru yn cynyddu £2.6 miliwn yn unig yn 2019-20. O ganlyniad i gyni, bydd arian y pen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus beunyddiol datganoledig yn 2019-20, 7 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11.
Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym ni'n parhau i gyflawni mewn cyfnod anodd. Rydym ni'n parhau i roi blaenoriaeth i fuddsoddi yn y GIG yng Nghymru, addysg a gofal cymdeithasol. Rydym ni'n buddsoddi yn ein hysgolion a'n colegau, yn creu gwasanaeth iechyd y dyfodol, adeiladu economi gyda phwrpas cymdeithasol gwirioneddol.
Pan wnaethom ni gyhoeddi'r gyllideb ddrafft, roeddwn ni'n cydnabod ei bod hi'n cynrychioli setliad heriol ar gyfer llywodraeth leol. Fe weithiom ni'n galed a chyflym i gyhoeddi, ym mis Tachwedd, becyn ychwanegol o arian ar gyfer awdurdodau lleol werth £141.5 miliwn dros dair blynedd, gan gynnwys arian ychwanegol ar gyfer addysg, gwasanaethau cymdeithasol i blant a chynnydd o £100 miliwn mewn cyllid cyfalaf. A byddwn yn trafod y setliad llywodraeth leol terfynol yn ddiweddarach heddiw.
Mae'r gyllideb derfynol yn cyflawni ein hymrwymiadau. Mae'n cynnwys £26 miliwn ychwanegol i roi mwy o gefnogaeth i fanwerthwyr y stryd fawr a busnesau eraill i'w helpu nhw i dalu eu biliau ardrethi. Bydd awdurdodau lleol yn cael £7 miliwn yn ychwanegol i gwrdd â'n hymrwymiad blaenllaw i godi'r terfyn cyfalaf i £50,000 ddwy flynedd yn gynnar. O fis Ebrill, bydd pobl yn gallu cadw mwy o'u cynilion y maen nhw wedi gweithio'n galed i'w hennill cyn gorfod talu am ofal preswyl.
Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau swm o £6.8 miliwn ychwanegol i gefnogi ein hymrwymiad i greu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys rhai dyraniadau penodol i helpu i drechu tlodi plant, tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft. Bydd £1.6 miliwn ychwanegol ar gael yn 2019-20 ar gyfer y cynllun mynediad grant datblygu disgyblion er mwyn sicrhau y gall rhieni dalu'r costau beunyddiol sy'n gysylltiedig ag anfon eu plant i'r ysgol a gweithgareddau ehangach. A defnyddir £0.4 miliwn yn ychwanegol i ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl, sy'n rhoi pryd o fwyd i'r plant a chyfleoedd dysgu yn ystod gwyliau'r haf.
Ceir rhai dyraniadau llai yn y gyllideb derfynol hon yr hoffwn i eu cofnodi'r prynhawn yma: £0.5 miliwn ychwanegol i wella'r cymorth ar gyfer gweithgareddau cerddoriaeth i bobl ifanc; £0.9 miliwn yn ychwanegol i leihau gwastraff bwyd, gan adeiladu ar y £15 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft; a £0.8 miliwn o refeniw ychwanegol a £3 miliwn o arian cyfalaf ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r gyllideb hon hefyd yn nodi ail flwyddyn y cytundeb dwy flynedd ar y gyllideb â Phlaid Cymru. Rwy'n diolch i lefarydd cyllid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, am yr ymgysylltiad cynnar a gawsom ni ynghylch materion cyllid. Yn unol â'n cytundeb, rydym ni wedi darparu cyllid cyfalaf ychwanegol i adnewyddu gwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn. Rydym ni hefyd yn darparu £10 miliwn yn 2019-20 i ddatblygu canlyniadau astudiaethau dichonoldeb ynghylch amgueddfa genedlaethol ac oriel gelf.
Rydym ni'n parhau i ddatblygu cynlluniau i ddefnyddio cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol, gan gynnwys mesurau i ysgogi ein marchnad tai ac eiddo. Byddwn yn darparu cyllid trafodiadau ariannol yn y flwyddyn ariannol hon i sefydlu cronfa hunan-adeiladu Cymru gwerth £40 miliwn. Bydd y cynllun yn dechrau o ddifrif yn 2019-20. Darperir rhagor o fanylion am ein cynlluniau yn yr ail gyllideb atodol.
Mae hon yn gyllideb a ddatblygwyd dan gysgod ansicrwydd Brexit. Mae'r llanastr a'r anhrefn yn sgil cytundeb Prif Weinidog y DU yn ein gwthio ni tuag at y posibilrwydd o ddim cytundeb ac yn sgil hynny y perygl o aflonyddwch sylweddol yn peryglu swyddi a bywoliaeth. Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth heb gytundeb, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddarparu'r adnoddau y byddwn ni eu hangen i ymateb i'r sefyllfa drychinebus honno.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer Brexit ac i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru, sefydliadau, busnesau a phartneriaid yn barod ar gyfer pob canlyniad. I wneud hyn, rydym ni'n buddsoddi hyd at £50 miliwn mewn cronfa bontio UE benodedig. Heddiw, gallaf gyhoeddi'r gyfres nesaf o brosiectau o'r gronfa hon i ddarparu cymorth i'n sectorau allweddol, partneriaid a chymunedau. Mae'r prosiectau'n cynnwys cyllid ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gefnogi ein sector gofal cymdeithasol rhag effaith Brexit. Byddwn ni hefyd yn darparu cyllid ar gyfer cydnerthedd partneriaeth yr heddlu, er mwyn galluogi gwasanaethau heddlu Cymru i gefnogi paratoadau ar gyfer Brexit. Byddwn yn ehangu paratoadau ar gyfer trefniadau olynol i gronfeydd strwythurol yr UE, gan adeiladu ar waith i gefnogi gweithredu model buddsoddi rhanbarthol ar ôl gadael yr UE i Gymru. Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau gyda CLlLC ynghylch cymorth Brexit ar gyfer llywodraeth leol, gyda manylion pellach i ddilyn.
Nid oes gennym ni gyllideb y tu hwnt i 2021, ac rydym ni'n wynebu adolygiad cynhwysfawr o wariant eleni. Mae'r Canghellor hefyd wedi dweud yn glir os bydd y rhagolygon economaidd neu ariannol yn newid yn sylweddol o ganlyniad i Brexit, gallai datganiad y gwanwyn gael ei ddiweddaru i greu digwyddiad cyllidol llawn. Rwy'n realistig wrth ddweud efallai y bydd yn rhaid inni newid ein cynlluniau cyllideb, ac os digwydd hyn yna y byddaf wrth gwrs yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau. Mae'r flwyddyn hon yn garreg filltir arall ar ein taith ers datganoli. Am y tro cyntaf, mae'r gyllideb hon yn cynnwys refeniw o gyfraddau treth incwm yng Nghymru. O fis Ebrill, bydd mwy na £2 biliwn o gyllideb Cymru yn dod o drethi a godir yng Nghymru, gan gryfhau ein hatebolrwydd i bobl Cymru. Heddiw, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud penderfyniad ynghylch cyfraddau treth incwm yng Nghymru. Yn unol â'n hymrwymiad yn ein maniffesto, rydym ni wedi cytuno i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm eleni.
Dirprwy Lywydd, mae'r gyllideb hon yn ceisio darparu a gwarchod y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl yng Nghymru yn dibynnu arnyn nhw. Mae'n gwneud hyn drwy reoli ein hadnoddau yn ofalus a dilyn polisïau a blaenoriaethau blaengar sy'n diffinio Llywodraeth Cymru. Cymeradwyaf y gyllideb derfynol i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma ar y gyllideb derfynol heddiw, sydd wedi newid, wrth gwrs, ers y gyllideb ddrafft wnaethon ni graffu arni fel pwyllgor yn yr hydref. Mae'r gyllideb derfynol yn dangos yr arian canlyniadol a ddaeth o gyllideb y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn nhymor yr hydref y llynedd. Mae hefyd yn dangos gostyngiad o £40 miliwn yn rhagolygon y dreth incwm, gostyngiad o £2 filiwn yn y dreth trafodiadau tir, a diwygio targed refeniw o'r dreth tirlenwi i fod £3 miliwn yn fwy.
Fe wnaethon ni groesawu'r sylwadau cynnar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol yn ystod ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft, wrth iddo fe ddweud y byddai llywodraeth leol yn flaenoriaeth pe byddai rhagor o arian canlyniadol yn dod o gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'n dda gen i weld bod dyraniadau o fewn y gyllideb derfynol o ganlyniad i'r ymrwymiad hwnnw.
Wrth gwrs, mae pwerau'r lle yma yn y cyd-destun yma yn dal i esblygu, yn dal i ddatblygu, ac mi fydd y pwyllgor hefyd yn parhau i ddatblygu ein dull ni o graffu ar bwerau trethu newydd yn y dyfodol. Ac mi fyddwn ni hefyd yn adolygu pa opsiynau sydd yna o ran prosesau'r gyllideb sydd ar gael i'r Cynulliad mewn blynyddoedd i ddod.
Mae yna nifer o ddyraniadau a wneir yn y gyllideb derfynol hon fydd heb fod yn destun gwaith craffu hefyd, wrth gwrs. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi codi'r mater yma gyda'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol. Pan wneir penderfyniadau ariannol yn ystod y flwyddyn, mae'n rhaid sicrhau bod digon o wybodaeth ariannol ar gael. Byddwn yn annog y Gweinidog cyllid newydd i ystyried hyn yn y dyfodol, a dwi hefyd yn annog fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor ac eraill sydd yma'n bresennol heddiw i sicrhau eu bod yn ystyried unrhyw newidiadau a wneir mewn dyraniadau mewn sesiynau craffu yn y dyfodol. Nid dim ond wrth graffu'n ffurfiol ar gyllideb yr hydref y mae angen cynnal gwaith craffu ariannol, wrth gwrs.
Yn olaf, dwi hefyd yn falch o fod wedi derbyn ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft. Yn anffodus, ddaeth e ddim tan y bore yma, ac, o ganlyniad, dydw i ddim wedi cael cyfle i ystyried y cynnwys. Dwi hefyd yn deall fod y pwyllgorau polisi hefyd ond wedi derbyn eu hymatebion nhw y bore yma, a thra fy mod i'n llawn gwerthfawrogi cymaint o waith yw hi i'r Llywodraeth i symud o gyllideb ddrafft i gyllideb derfynol, dyw hi ddim yn dderbyniol bod yr ymatebion wedi dod mor hwyr yn y dydd.
Fel pwyllgor, mi fyddwn ni yn ystyried ac yn edrych yn ôl ar y broses o graffu ar y gyllideb yn ein cyfarfod ni'r wythnos nesaf, ac mi fydda i hefyd yn gobeithio trafod gyda'r Gweinidog cyllid newydd sut y gallwn ni osgoi sefyllfa o'r fath yn y dyfodol.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad i'r ddadl heddiw—ac, yn wir, y briff a roesoch imi yn gynharach yn ôl traed eich rhagflaenydd? Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith ichi ddod i mewn bron ar ddiwedd y broses gosod cyllideb hon, felly nid wyf yn disgwyl ichi fod yn arbenigwr ar bopeth. Roedd yn dda gweld, fodd bynnag, fod y gêm o feio Llywodraeth y DU yn parhau ar garlam fel yr oedd o'r blaen. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw ddadl gan Lywodraeth Cymru yn gyflawn heb rywun yn beio Llywodraeth y DU a'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ond dyna ni.
Ni fydd yn syndod ichi glywed na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gyllideb hon heddiw. Ar yr ochr olau, eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli'r gyllideb fwyaf ers datganoli, dros £16 biliwn erbyn 2020. Hyd yn oed cyn addasiadau ar gyfer datganoli trethi, mae gan Lywodraeth Cymru fwy o gyfle i wario arian lle mae ei angen. Am y tro cyntaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu codi £2.1 biliwn mewn trethi, fel y clywsom ni gan y Gweinidog. Bydd diddymu tollau Pont Hafren yn golygu budd o dros £100 miliwn y flwyddyn i economi De Cymru. Nid fy ffigurau i yw'r rheini; dyna amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ei hun. Mae'r cytundeb fframwaith cyllidol rhwng y DU a Llywodraeth Cymru yn cyflawni dros Gymru. O fewn cyllideb 2018, mae mwy na £550 miliwn o arian ychwanegol wedi'i addo i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â dros £100 miliwn ar gyfer bargen twf y gogledd, a fydd yn creu buddsoddiad, swyddi a ffyniant yn y rhanbarth. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni gefnogaeth barhaus ar gyfer bargen twf y canolbarth.
Nawr, er ein bod yn derbyn y bu llong Llywodraeth Cymru yn hwylio drwy amseroedd heriol, swyddogaeth Llywodraeth yw blaenoriaethu a bellach swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod symiau canlyniadol cyllideb Llywodraeth y DU yn cyrraedd y mannau pwysig, ac, yn bwysicaf oll, y rheng flaen. Soniodd y Gweinidog am y GIG, blaenoriaeth pobl Cymru, ac ein blaenoriaeth ni hefyd—o leiaf, dylai fod. O'r diwedd mae Llywodraeth Cymru yn talu sylw i gyngor gan Geidwadwyr Cymru nifer o flynyddoedd yn ôl y dylid cynyddu'r arian ar gyfer ein gwasanaeth iechyd. Rydym ni'n gwybod nad oedd y gyllideb iechyd yn cael ei gwarchod mewn termau real rhwng 2011 a 2016 ac, o ganlyniad, rydym ni ar ei hôl hi. Ond dyma ble'r ydym ni. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £550 miliwn yn ychwanegol yn ei chyllideb. Fel y dywedaf, bydd cyllid y GIG yn codi a cheir cynnydd yng nghyflogau staff y GIG ac arian ar gyfer staffio yno.
Nid yw'r gyllideb derfynol yn ateb yn llawn y pryderon sylweddol a amlinellir gan y pwyllgorau. Rydym ni wedi clywed y sylwadau gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rwyf yn croesawu'r cyllid ychwanegol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Gwyddom am yr anawsterau y bu'r sefydliad hwnnw yn eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf, drwy gael ei gyfrifon wedi'u cymhwyso ar gyfer blwyddyn arall eto. A gawn ni sicrwydd y bydd amodau ynghlwm wrth yr arian hwn, ac y bydd argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cael eu gweithredu'n llawn fel y gallwn ni osgoi rhai o'r helyntion a welsom ni yn y sefydliad hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf?
Mae'r Gweinidog wedi amlinellu rhai o'r newidiadau rhwng y drafft a'r cyllidebau terfynol, ac yr wyf yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwario £13 miliwn yn ychwanegol ar y setliad llywodraeth leol—fe wnaethoch chi sôn y byddai hynny'n cael ei drafod yn ddiweddarach—sy'n darparu mwy o arian i awdurdodau lleol. Er hynny, mewn llawer o achosion, mae'r rhain yn setliadau arian gwastad. Nid ydym ni'n edrych ar warchod mewn termau real. Ond, serch hynny, bydd yn gyllid a gaiff ei groesawu gan Lywodraeth Leol ledled Cymru.
Rydych chi wedi sôn am gymorth i fusnesau. Mae symiau canlyniadol Llywodraeth y DU ar gael ar gyfer rhyddhad ardrethi'r stryd fawr. Fe wn ein bod wedi cael trafodaethau yn y Siambr hon am ffurf posibl y rhyddhad hwnnw. Rydym ni wedi cael nifer o adroddiadau a rhybuddion dros y blynyddoedd diwethaf ynghylch cyflwr ein strydoedd mawr a'r problemau y maen nhw'n eu hwynebu, felly rydym yn gobeithio cael sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r math o ryddhad ardrethi teg y mae busnesau wedi bod yn galw amdano.
Os gaf i grybwyll gofal cymdeithasol, er y cafwyd arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, sydd i'w groesawu, mae hyn llawer is na'r hyn yr ydym ni i gyd yn credu sydd ei angen i ateb y galw dros y blynyddoedd nesaf. Mae amcanestyniadau'n awgrymu y bydd angen dyblu'r gwariant bron ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar gyfer pobl hŷn rhwng 2015 a 2030. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif y bydd gwerth £344 miliwn o bwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol erbyn 2021-22, testun adroddiad y Pwyllgor Cyllid a dadl yn y Siambr hon yn ddiweddar.
Yn fyr, ar dai, rwy'n croesawu'r cynigion hunan-adeiladu newydd a wnaethoch chi grybwyll i mi yn gynharach, Gweinidog; Mae hynny'n wirioneddol arloesol ac i'w groesawu. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno yng ngoleuni'r dadleuon diweddar ar dai, bod gwir angen cynyddu'r stoc tai sydd ar gael yng Nghymru a'r lefel o dai priodol hefyd. Felly, rydym ni'n croesawu cynigion arloesol. Beth bynnag a ddigwydd, mae angen cynnydd yn y stoc tai, ac yn bwysicaf oll yn y stoc tai fforddiadwy.
Nid wyf wedi sôn am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol—fe wn i nad oes gennyf yr amser—ac fe wnaethoch chi sôn am y comisiynydd. Yn y gorffennol, rydym ni wedi galw am gyllidebau sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol a rhoi Cymru ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae angen i gyllidebau wneud mwy o hynny yn y dyfodol, felly fe'ch anogaf chi a Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod cyllidebau yn y fan yma yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.
Ie, cyllideb derfynol, a tipyn o newidiadau ers y gyllideb ddrafft. Yn anffodus, dim digon o newidiadau o'r gyllideb ddrafft, yn enwedig pan mae'n dod at gyllid i lywodraeth leol. Wrth i fi groesawu'r Gweinidog cyllid newydd i'w swydd, mi allwn i bwyntio allan ei bod hi'n bosib gwneud pethau'n wahanol pan mae yna newid personél mewn swydd, ond o bosib mae hi'n anodd pan mai eich rhagflaenydd chi ydy'r bòs erbyn hyn. Ond, yn sicr, mae yna wendidau, dwi'n meddwl, fydd yn costio'n ddrud, yn enwedig, fel rwy'n dweud, ym maes llywodraeth leol.
Dwi'n gwerthfawrogi sylwadau y Gweinidog cyllid yn croesawu'r trafod rydym ni wedi ei gael ynglŷn â'r gyllideb yma cyn heddiw, ond fe wnaf i unwaith eto dalu teyrnged i Steffan yn y fan hyn, oherwydd fy rhagflaenydd i fel llefarydd cyllid oedd yn gyfrifol am osod y seiliau ar gyfer y cytundeb fu a sydd wedi bod rhyngom ni fel Plaid, a chytundeb sydd yn gweld ôl ei llwyddiant hi drwy'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno i ni heddiw.
Rydym ni wedi gweithio efo'r Llywodraeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyllidebau, ac rwy'n sicr yn siarad ar ran pob un ohonom ni ar yr ochr yma i'r Siambr drwy ddweud ein bod ni'n hynod o falch o'r hyn rydym ni wedi ei gyflawni drwy ein cytundeb cyllideb ni—a gafodd ei chytuno rhwng Steffan a'r Prif Weinidog presennol, y Gweinidog Cyllid blaenorol—sef £0.5 biliwn o ymrwymiadau sydd wedi'n galluogi ni i weithredu'n maniffesto o feinciau gwrthblaid.
Mae'n cynnwys nifer o bethau rydym ni'n falch iawn iawn ohonyn nhw: £40 miliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, cyllid pellach ar gyfer datblygu hyfforddiant meddygol sydd wedi arwain at sefydlu addysg feddygol ar gyfer y gogledd, cefnogaeth i fusnesau yn ystod Brexit ac ar ôl hynny, yr amgueddfa bel-droed a'r amgueddfa celf fodern yn cael eu datblygu ymhellach, arian ar gyfer Glan-llyn a Llangrannog—pethau fydd yn cael effaith go iawn ar fywydau pobl a phlant yng Nghymru. Os gallwn ni gyflawni hyn fel gwrthblaid, dychmygwch beth allwn ni gyflawni mewn Llywodraeth.
Ymatal fyddwn ni ar y gyllideb heddiw i adlewyrchu'r cytundeb sydd gennym ni, ond mae'r cyd-destun, wrth gwrs, wedi newid yn sylfaenol ers y cytundeb. Y newid mawr wrth gwrs ydy bod gan y Llywodraeth yma fwyafrif gweithredol erbyn hyn, felly cyllideb y Llywodraeth ydy hon, heb y gallu i gael ei threchu gan wrthbleidiau, ac mi rydym ni'n sicr yn gresynu yn fawr at sawl elfen ohoni. Mae'r Llywodraeth yn dal yn methu â sylweddoli dyfnder trafferthion ariannol llywodraeth leol. Oes, mae yna rywfaint o arian yn rhagor wedi dod, £50 miliwn ers y gyllideb gyntaf, ond dydy hyn ddim yn agos at yr hyn yr oedd ei angen. Mae'r grant craidd yng Nghymru i awdurdodau lleol wedi gostwng 22 y cant ers 2010, ac er, yn ôl y penawdau, nad oes yr un llywodraeth leol yn gweld gostyngiad o fawr ddim, yn fwy na ryw 0.53 y cant yn ei chyllidebau, celwydd golau ydy hyn. Mi fydd yr effaith wirioneddol ar wasanaethau yn ddwfn iawn.
Ac ydyn, rydyn ni'n cytuno efo chi fod angen pwyntio'r bys at Lywodraeth Geidwadol greulon yn San Steffan, a'r hyn sydd wedi cael ei wneud trwy bolisi annheg ac anghyfiawn llymder, ond dewis gwleidyddol Llywodraeth Lafur Cymru oedd peidio â gwneud y buddsoddiad yr oedd gennych chi'r gallu i'w wneud mewn llywodraeth leol yn y gyllideb y tro hwn. Allwch chi ddim osgoi rhag y ffaith eich bod chi wedi penderfynu gwneud penderfyniad gwleidyddol amgen a oedd yn methu â rhoi'r gefnogaeth yna i'n cynghorau ni.
Mae iechyd wedi gweld cynnydd o £0.5 biliwn ers y gyllideb atodol gyntaf, ond, wrth gwrs, all y gwasanaeth iechyd ddim gweithio mewn vacuum. Mae angen llywodraeth leol wedi'i chyllido yn dda, sydd yn gallu rhoi'r gefnogaeth iawn a phriodol i wasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gallu gweithredu yn gynaliadwy. Ac nid dyna'r sefyllfa sydd gennym ni.
Rydyn ni wedi codi'r materion yma dro ar ôl tro. Mae'r Llywodraeth yma yn gwybod bod pobl o fewn eu plaid eu hunain yn teimlo'r un fath â ni. Mae Anthony Hunt, llefarydd cyllid ar ran y WLGA, arweinydd cyngor Torfaen, hefyd yn mynegi ei bryder fod y Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniadau anghywir efo'r gyllideb hon. Ac yn ddiweddarach heddiw mi bleidleisiwn ni yn erbyn y setliad llywodraeth leol, achos dydyn ni ddim yn credu bod y penderfyniadau cywir, y penderfyniadau a oedd â photensial i drawsnewid llywodraeth leol, neu dynnu'r pwysau oddi arnyn nhw o leiaf, wedi cael eu gwneud y tro hwn. Ond ymatal y byddwn ni ar y gyllideb, ond hwn fydd y tro olaf.
Wrth i gyni barhau, nid yw'r swm o arian sydd ei angen i redeg gwasanaethau cyhoeddus ar y lefel y mae'r cyhoedd yn ei ddymuno a'i angen yn cael ei ddarparu. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi nad yw cyni'n bolisi economaidd ond yn gyfeiriad teithio gwleidyddol. Mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan eisiau lleihau gwariant cyhoeddus a lleihau'r ddarpariaeth o wasanaethau gan y wladwriaeth.
Wrth i ni fynd heibio'r ddegfed flwyddyn o dwf economaidd araf ar y gorau, mae angen newid cyfeiriad arnom ac y mae arnom ni angen twf economaidd. Mae'r swm o arian sydd ar gael i redeg y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn annigonol. Yn anffodus, mae'n rhaid inni gael cyllideb yn seiliedig ar yr hyn sydd ar gael yn hytrach na'r hyn y mae pobl Cymru ei angen.
Byddaf yn cefnogi'r gyllideb heddiw, ond fe fyddwn yn methu yn fy nyletswydd i'm hetholwyr pe na bawn i'n codi'r pryderon difrifol sydd gennyf. Yn gyntaf, nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod y gyllideb wedi'i hysgogi gan naill ai'r rhaglen ar gyfer llywodraethu na ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Yr hyn a wnaeth y gyllideb hon, yn unol â'r rhai diweddar i gyd, yw cynyddu cyfran cyllideb Llywodraeth Cymru a gafodd ei wario ar iechyd a lleihau cyfran y gwario ar lywodraeth leol a gwasanaethau eraill, gyda rhywfaint o ddiogelu'r economi a thrafnidiaeth. Mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Cyllid, nododd Michael Trickey pryd y byddai'r ganran o gyllideb Cymru a ddyrannwyd i iechyd yn cyrraedd 60 y cant pe byddai'r polisi presennol yn parhau.
Mae iechyd, yn fy marn i, yn gamenw. Caiff yr arian ei ddyrannu i iechyd, yna mae'n mynd i'r byrddau iechyd, yna mae'n mynd i wasanaethau ysbyty yn bennaf. Mae'r gyfran o'r gyllideb iechyd sy'n cael ei wario ar ofal sylfaenol yn gostwng. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi'n rheolaidd y gostyngiad cymharol a geir mewn gwariant gofal sylfaenol. Mae hyn yn effeithio ar arferion gofal sylfaenol. Rhwng Hydref 2015 a mis Hydref 2018, caeodd 21 o bractisau meddygon teulu, cyflwynodd 37 ohonyn nhw gais cynaliadwyedd i'r bwrdd iechyd, ac roedd 45 o bractisau mewn perygl. Mae gormod o bobl bellach yn defnyddio adrannau damweiniau ac achosion brys fel eu gwasanaeth gofal sylfaenol, sy'n achosi problemau enfawr mewn unedau damweiniau ac achosion brys. Bu trafodaethau ar iechyd darbodus: deiet, gordewdra, ymarfer corff, peidio ag ysmygu, yfed llai o alcohol—mae pob un yn lleihau afiechyd, ac rwy'n credu y dylem ni sôn llawer mwy am leihau afiechyd yn hytrach na sôn am geisio trin pobl yn ddiweddarach. Gadewch inni gael llai o bobl sâl.
Tua 2015 fe luniodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad ar ymyriadau meddygol sy'n gwneud dim lles i'r claf, ac amcangyfrifwyd ar y pryd eu bod yn costio sawl can miliwn o bunnoedd. Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant pryd y bu'r llawdriniaeth yn llwyddiannus, ond ar ôl bod yn yr ysbyty nid oedd yr unigolyn yn gallu edrych ar ôl ei hun mwyach ac yn y pen draw bu'n rhaid iddo fynd i gartref nyrsio. Yn rhy aml mae pobl oedrannus sydd fwy neu lai dim ond yn gallu ymdopi gartref gyda chymorth gofal cymunedol, yn y pen draw yn mynd i gartref gofal ar ôl llawdriniaeth lwyddiannus. Ac roedd gen i un etholwr na fu'n rhaid iddo fynd i gartref, diolch byth, oherwydd ei fod yn yr ysbyty am wythnos yn unig—fe ddaeth yn ôl ar ôl colli 10 pwys, ac roedd yn ei chael hi'n anodd iawn symud o amgylch, ond fe wellodd. Pe byddai wedi bod yn yr ysbyty am saith diwrnod arall, rwyf bron yn sicr y byddai wedi gorfod mynd i gartref nyrsio. A dyma le ceir un o'r problemau rwy'n credu: rydym ni'n trin rhannau o'r person, nid y person cyfan. Rwy'n siŵr petaech chi'n gofyn i lawer o bobl oedrannus ddewis rhwng parhau mewn poen oherwydd eu pen-glin neu fynd i gartref nyrsio, y bydden nhw'n dewis parhau i fyw gydag ychydig o boen yn eu pen-glin.
Nododd y diweddar Dr Julian Tudor Hart, gydag eraill, wariant ar bethau fel lleihau pwysedd gwaed a oedd dim ond wedi codi ychydig, rhywbeth nad oedd yn gwneud dim lles amlwg i'r claf, ac eto rydym ni'n dal i dalu symiau sylweddol am y feddyginiaeth. Fe nododd y Prif Weinidog, pan oedd yn Ysgrifennydd iechyd, gyfraddau ymyrryd gwahanol ar gyfer tynnu tonsiliau a gafwyd mewn dwy ardal yn yr un bwrdd iechyd—roedd yn ddwywaith mwy tebygol i donsiliau gael eu tynnu yn un nag yr oedd yn y llall.
Cyflwynodd Sefydliad Nuffield ymchwil yn dangos y bu gostyngiad o dros 25 y cant yng nghyfanswm y nifer o dderbyniadau cleifion mewnol fesul meddyg gwasanaethau iechyd ysbytai cymunedol rhwng 1999 a 2000 a rhwng 2011 a 2012. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw iechyd yn bwysig, ond y mae byrddau iechyd yn tueddu i weithredu mewn gwactod, ac mae llawer iawn o bethau eraill yn digwydd y mae angen ymdrin â nhw. Nid oes amser imi ymhelaethu ar y datganiad hwn, ond rwy'n credu bod strwythur presennol y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn llai na'r optimwm.
Ynghylch gweddill y gyllideb, mae llywodraeth leol yn parhau i fod o dan bwysau, er ei bod yn darparu gwasanaethau a all wella ffordd o fyw ac felly, iechyd. Mae pwysigrwydd gofal cymunedol er mwyn galluogi pobl i adael yr ysbyty a hefyd i'w cadw allan o'r ysbyty—. Rwy'n credu ein bod ni'n tanbrisio'r gwaith a wneir gan nifer â chyflogau cymharol isel, menywod yn bennaf, yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol, sy'n cadw pobl yn eu cartrefi ac yn cynnig ffordd o fyw dda iddyn nhw. Rwy'n credu ein bod ni'n tanbrisio pa mor ddefnyddiol ydyn nhw, ac yn anffodus, oherwydd pwysau cyllideb, mae gormod o'r rheini wedi symud allan o gyflogaeth uniongyrchol yr awdurdodau lleol ac wedi symud i'r sector preifat.
Hefyd, mae llywodraeth leol yn darparu'r gwasanaethau a ddefnyddiwn yn barhaus: y ffyrdd, y palmentydd, casglu sbwriel, glanhau strydoedd, parciau, llyfrgelloedd, yn ogystal ag addysg. Dyna'r ffordd mewn gwirionedd i lawer o bobl wella eu ffyrdd o fyw a'u cyfleoedd bywyd nhw a'u teuluoedd. Rwy'n credu bod angen inni sôn mwy am ddarparu adnoddau ychwanegol i addysg, fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i wneud y gorau y gall.
Rwy'n falch iawn o ddilyn Mike Hedges oherwydd rwy'n credu iddo wneud rhai pwyntiau pwysig iawn, yn ogystal â rhai synhwyrol iawn am yr angen i wario mwy ar iechyd ataliol, er mwyn inni leihau'r baich y mae'r GIG yn mynd i'w ddioddef yn y dyfodol. Hoffwn i weld, fel y byddai ef, y flaenoriaeth a roddir i wariant yn y maes hwn yn cynyddu o fewn cyllideb bresennol Cymru.
Dylwn i hefyd groesawu'r Gweinidog Cyllid i'w swydd—nid wyf i'n credu fy mod wedi cael y cyfle i gofnodi hynny yn y Siambr hyd yn hyn—a'i llongyfarch hi ar ei cham cyntaf llawn sicrwydd a wnaeth hi, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ac yn y Siambr hon heddiw. Dymunaf yn dda iddi yn ei swydd, a gobeithio y byddaf yn gallu parhau â'r trefniant adeiladol a oedd gennyf gyda'i rhagflaenydd pan oedd yn Weinidog Cyllid, pryd, er gwaethaf ein safbwyntiau gwleidyddol gwahanol, y gallwn ni serch hynny ymuno gyda'n gilydd i geisio sicrhau lles cyffredin pawb yn ein gwlad.
Yn erbyn y cefndir, wrth gwrs, o gyni fel y'i gelwir, ac o ystyried natur y sefyllfa bresennol, pan fo Llywodraeth Cymru yn hynod ddibynnol ar grant bloc o San Steffan, mae'r rhyddid sydd gan Weinidog Cyllid Cymru yn anochel yn gyfyngedig, ac mae'r eitemau mawr bob amser yn mynd i lowcio cyfran fawr o'r gyllideb. Iechyd erbyn hyn yw hanner y gyllideb, fwy neu lai. Mae llywodraeth leol yn cael £4 biliwn o'r gyllideb bresennol ac mae £4 biliwn arall yn mynd i addysg. Nid oes llawer y gellir ei wneud ynglŷn â'r ffigurau hynny, felly'r hyn yr ydym ni'n dadlau yn eu cylch yn y dadleuon hyn ar gyllideb, yn gyffredinol, yw'r lleiafrif bach iawn o brosiectau gwario dewisol y mae'n rhaid i'r Gweinidog Cyllid benderfynu arnyn nhw.
Yn bersonol, nid wyf yn credu bod polisi cwtogi'r Llywodraeth—polisi Llywodraeth y DU hynny yw—yn ddewis gwleidyddol. Rwy'n credu ei fod yn gwbl hanfodol. Yn 2010, roedd y Llywodraeth yn benthyca swm bob blwyddyn yn cyfateb i 10 y cant o'n cynnyrch domestig gros. Roedd hynny'n amlwg yn gwbl anghynaliadwy, a dros y blynyddoedd bu'n rhaid iddo gwtogi'n barhaus. Eleni, mae'n 2 y cant sy'n fwy cynaliadwy. Nid wyf yn ystyried benthyca ffigur o 2 y cant o gynnyrch domestig gros yn gyni. Dyna'r cyfartaledd tymor hir a gafodd Llywodraeth Prydain. Byw yn ôl eich gallu yw hynny, rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ei wneud yn y pen draw, oni bai eich bod am ddilyn y math o bolisi a welid yn Zimbabwe sef yn syml, argraffu arian, sy'n dinistrio'r economi yn y pen draw, oherwydd ymhen amser, wrth gwrs, rydych chi'n rhedeg allan o arian pobl eraill i'w wario mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu bod polisi o bwyll, sef yr hyn a bregethodd Gordon Brown 20 mlynedd yn ôl cyn gwyro oddi wrtho'n drychinebus ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon, yn bolisi sy'n angenrheidiol. Wedi dweud hynny, mae Cymru wedi llithro i lawr y raddfa, fel y nodwyd heddiw gan fy nghyd-Aelod Gareth Bennett, adeg y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae hi'n gorwedd ar waelod y rhestr o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, ac mae Gogledd Iwerddon wedi mynd heibio iddi yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. A cheir pocedi sylweddol o dlodi yng Nghymru o hyd—Cymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig, ond hefyd mae'n un o rannau tlotaf gorllewin Ewrop—ac mae'r Resolution Foundation yn amcangyfrif y bydd y ddegfed ran dlotaf o aelwydydd yng Nghymru £30 yr wythnos yn well eu byd o ganlyniad i'r newidiadau treth a budd-dal yn 2019-20, sydd yn gynnydd o 0.33 y cant, tra bydd y ddegfed ran fwyaf cyfoethog £410 yr wythnos yn well eu byd—cynnydd o 41 y cant.
Felly, o ran anghydraddoldeb, mae Cymru mewn gwirionedd yn mynd tuag yn ôl yn hytrach nag ymlaen, ac mae gan Lywodraeth Lafur Cymru bolisi o geisio lleihau anghydraddoldeb, ond nid yw hynny'n digwydd. Rydym ni'n gwybod, fel y nodwyd yn gynharach gan Leanne Wood yn ei chwestiynau, y ceir pocedi o ddiweithdra yng Nghymru sy'n sylweddol iawn. Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2018, roedd diweithdra yn uwch o lawer na chyfartaledd Cymru, Rhondda Cynon Taf yn 7.2 y cant, Caerffili yn 7 y cant, a Chaerdydd, er syndod, yn 6.8 y cant. Mae'n arbennig o uchel ymhlith dynion ifanc—14.7 y cant ar gyfer Cymru, yn codi i bron i un o bob pedwar o bobl 16 i 24 oed yn Rhondda Cynon Taf, a 21.6 y cant yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Felly, mae gennym ni lawer i'w wneud o hyd fel Llywodraeth yng Nghymru, i drechu tlodi a thlodi cymharol hefyd. Yr unig ffordd y gallwn ni wneud hynny, fel y crybwyllodd Mark Drakeford yn ei ymateb i Gareth Bennet yn gynharach, ac fel yr wyf i wedi ei argymell sawl gwaith o'r blaen, yw tyfu economi Cymru drwy ddefnyddio pwerau trethu newydd sydd gennym mewn modd llawn dychymyg i greu cyfoeth—i annog mwy o bobl gyfoethog i ddod i Gymru, os mynnwch chi—ac i sefydlu busnesau ac ehangu busnesau sy'n bodoli eisoes. Hanner can mlynedd yn ôl, roedd Singapôr yn ynys fechan ger Malaysia ag incwm cyfartalog o $500 y flwyddyn; eleni, yr incwm cyfartalog yn Singapôr, y wlad gyfoethocaf yn y byd, yw $55,500. Ni ddigwyddodd hynny drwy ddamwain; fe ddigwyddodd oherwydd polisïau Llywodraeth Singapôr.
Felly, cymeradwyaf y Gweinidog Cyllid ar ei dechrau addawol, a gobeithio y bydd hi efallai yn ystyried rhai o'r pwyntiau a godais i, a byddwn yn gallu cytuno ar fwy yn y blynyddoedd i ddod.
A gaf i ddechrau drwy ganmol, yn gyffredinol, y llaw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae, nid yn unig yn y gyllideb derfynol, ond yn ystod y flwyddyn hon? Mae wedi bod yn anodd iawn. Gallwch chi ond chwarae'r llaw a roddwyd i chi, ac rydym ni'n dal—nid yw hwn yn bwynt gwleidyddol; mae'n realiti llym—ar gynffon hir cyni. Mae gennym ni gyllideb sy'n dirywio na allwch chi ei defnyddio ond mewn nifer penodol o ffyrdd, fel y mae Neil Hamilton newydd ei ddweud. Mae'n rhaid ichi wneud rhai dewisiadau anodd iawn iawn. Ond yr hyn sydd wedi ychwanegu at yr anhawster eleni yw'r ffaith—ac mae'n ddiddorol gweld hyn o safbwynt rhywun sydd yn teithio i lawr yr M4 i ddod i'r sefydliad democrataidd hwn—bod y mwg a'r drychau hyd yn oed yn fwy amlwg pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad mawr am fuddsoddiad mewn llywodraeth leol neu mewn gofal iechyd ac ati, ac yna fe fyddwch yn canfod, wel, mewn gwirionedd maen nhw eisoes wedi dyrannu rhannau sylweddol o hynny i hwn a'r llall. Felly nid oes gan Lywodraeth Cymru rwydd hynt i'w ddefnyddio fel y mynna, maen nhw wedi ei dorri eisoes.
Felly, mewn gwirionedd, wrth inni gyrraedd y gyllideb derfynol, mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithaf anodd i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddelio â'r cymhlethdod hwnnw, y mwg a'r drychau, ac i wneud rhai dewisiadau anodd iawn. Nawr, rwy'n cytuno â phwynt Mike, mae hwn yn faes anodd iawn o hyd i lawer o sefydliadau'r sector cyhoeddus, yn bennaf llywodraeth leol. Ond yn y llaw a gafodd ei rhannu, rwy'n credu gwnaed rhai penderfyniadau anodd ond rhai deallus. Nid yw wedi bod yn hawdd.
Ond hoffwn i droi at ambell un o'r rhai llai, yn gyntaf oll, oherwydd o fewn hyn ceir rhai clapiau gwerthfawr hefyd. Un o'r rhai diddorol—£5 miliwn ychwanegol i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel gelf genedlaethol ac amgueddfa bêl-droed genedlaethol—a gaf i wneud apêl yn y fan hyn? Fe wn y cafodd ei grybwyll, wn i ddim pa un ai cellwair oedd ai peidio, ond ceir hen draddodiad ym maes democrateiddio'r celfyddydau i fynd â'r celfyddydau i'r mannau annisgwyl, ac nid oes rhaid iddo fod yn y Guggenheim yn Bilbao. Gall fod yn orielau celf Whitehall a roddwyd yn fwriadol mewn ardaloedd lle y byddai pobl dosbarth gweithiol yn cael profiad o'r gelfyddyd orau. Neu Tracey Emin yn mynd â'i horiel allan o Lundain i Margate. Wel, fe ddywedaf hyn wrthych chi, ewch â hi i Bort Talbot. Mae rhyw 20 munud i lawr y ffordd o'm lle i, ond dyma'r union boblogaeth—[Torri ar draws.] Ie, ac mae'r cyhoeddusrwydd oherwydd Banksy yn helpu gyda hyn. Ond ewch â hi i le fel yna. Ewch â'r gelf at y bobl; democrateiddiwch y gelfyddyd. Peidiwch â mynd â hi i'r lleoedd arferol ac at y bobl arferol; ewch â hi i rywle arall. Defnyddiwch yr astudiaeth ddichonoldeb honno yn ddoeth. Gallwch wneud rhai pethau anhygoel gyda symiau cymharol fach o arian yma.
Mae rhywfaint o arian yma i gefnogi plannu coed yng Nghymru. Mae llawer o bobl yn dweud, 'Wel, dyna braf iawn' ac ati. Ond os edrychwch ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud yng nghwm Llynfi uchaf gyda Choetir Ysbryd Llynfi, gydag ychydig o blannu coed ynghyd ag ymgysylltu â chwe phractis meddyg teulu mewn clwstwr, ochr yn ochr ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, ochr yn ochr â gweuwyr a gwniadwyr, brasgamwyr ac ati, mae'n cael effaith ar y cymunedau 20:20 sydd gennym ni, lle ceir gwahaniaeth o 20 mlynedd yn y gyfradd marwolaethau rhwng pen uchaf Llynfi a Phorthcawl. Y math hwnnw o arian, yn cael ei fuddsoddi'n ddoeth—gall symiau bach wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
A gaf i siarad hefyd o blaid Cyfoeth Naturiol Cymru am unwaith, oherwydd ei fod yn dod dan y lach yn aml yma? Fe wn i am bobl sy'n gweithio yng nghrombil Cyfoeth Naturiol Cymru ac maen nhw'n amgylcheddwyr brwd ac ymroddedig. Y swm o arian—wel, mae wedi bod yn ergyd drom, ond bydd hyn yn gwneud rhywfaint o les i ysbryd y bobl hynny, oherwydd eu bod nhw'n teimlo'n angerddol ynghylch ein bioamrywiaeth, ynghylch mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, am y rhywogaethau sydd gennym ni yn ein hamgylchedd morol a daearol. Mae'n dda gweld y symiau hyn o arian—hyd yn oed rhai Llangrannog a Glan-llyn, a minnau'n rhywun a aeth yno fel bachgen ifanc a gollodd canŵ i waelod y llyn yn y Bala hefyd. [Chwerthin.] Rhyfeddol, gan iddyn nhw ddweud na fyddai'r canŵ hwn yn suddo, roedd fel y Titanic, roedd yn llawn ewyn. Wel, fe ddangosais i eu bod nhw'n anghywir—i lawr i'r gwaelod â fe.
Ond er nad yw'n mynd i fod yr ateb—ac rwy'n cymeradwyo'r gwaith a wnaeth Rhianon yn hyrwyddo achos cerddoriaeth a cherddoriaeth mewn addysg a cherddoriaeth mewn cymunedau hefyd, a hefyd Beverley Humphreys, Beverley Humphreys o Beverley's World of Music ar nos Sul ar BBC Radio Wales. Fel y dywed hi'n aml o'i llwyfan, mae pobl yn mynd i gysgu gyda hi ar nos Sul. Nawr, Beverley sy'n dweud hynny, nid fi, iawn, o'r gorau. [Chwerthin.] Ond mae hi hefyd—pa bryd bynnag y mae hi'n sefyll yn y neuadd ym Mhorthcawl, yn Neuadd y Dref Maesteg ac ati, mae hi bob amser yn hybu'r achos hwn yn gryf. Nawr ni fydd y swm hwnnw'n newid y byd, ond mae'n gyfraniad a tybed, pan fyddwn yn ei roi ochr yn ochr â gwaith pobl fel ffrindiau, grwpiau ffrindiau sydd wedi dod ymlaen i roi arian tuag at addysg gerddorol ac ati, onid oes cymaint yn fwy y gallwn ei wneud â hynny.
Ond yr wyf am droi yn fyr iawn—. O ran awdurdodau lleol, mae croeso iddo—yr arian ychwanegol a gafodd ei wasgu allan o hyn. Rwy'n credu bod angen inni ddweud wrth awdurdodau lleol hefyd: gwnewch y gorau o'r arian sy'n mynd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Ond rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod eu bod mewn cyfnod anodd, ac fe fyddwn i'n annog y Llywodraeth, hyd yn oed gyda'r setliad cyllido a gawsom ni yma, i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac i ddod o hyd i ffyrdd, nid yn unig ffyrdd cyllido ond ffyrdd creadigol, llawn dychymyg i wneud adnoddau fynd ymhellach. Rwy'n credu bydd hynny'n gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru, cymorth partneriaeth ranbarthol, cymorth consortia a gwneud pethau'n wahanol yn ogystal â rhoi arian yno. Diolch Dirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu y daeth sawl thema allweddol i'r amlwg yn ystod y ddadl. Wrth gwrs, y cyntaf fyddai cyni, oherwydd bod y pwysau a orfodwyd arnom gan bron i ddegawd o ideoleg crebachu'r wladwriaeth drwy gyni Llywodraeth y DU wedi bod yn niweidiol iawn. Mae yna hualau cadarn ar ein gallu i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Rydym ni wedi defnyddio'r ychydig arian ychwanegol y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddarparu, ond wrth gwrs nid ydym ni wedi gweld diwedd ar gyni, fel yr addawodd y Prif Weinidog.
Mewn ymateb i Nick Ramsay, gallaf roi sicrwydd ein bod wedi defnyddio'r arian canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn benodol i agor ac ehangu ein cynlluniau rhyddhad ardrethi, yr ydym yn eu darparu i fusnesau bach, oherwydd ein bod yn cydnabod pa mor bwysig ydyn nhw, nid yn unig i'r stryd fawr ond i economïau lleol yn ehangach. Byddwn yn gwrthod unrhyw awgrym ein bod yn trosglwyddo'r bai, oherwydd y gwir amdani yw pan fyddwch yn gofyn i bobl a ydyn nhw'n teimlo baich ac effeithiau cyni ar eu bywydau, rwy'n credu nad oes angen mynd ymhellach na'r banciau bwyd sy'n ymddangos, ar hyd a lled ein gwlad, i siarad â phobl sy'n sicr yn gwbl bendant yn teimlo effeithiau cyni. Nid oes diddordeb ganddyn nhw pwy sydd ar fai, mae diddordeb ganddyn nhw yn yr hyn sydd orau ar gyfer eu teuluoedd a sut y gallan nhw ddiwallu anghenion eu teuluoedd heb fynd i drafferthion.
Rydym ni'n clywed yn aml gan y Ceidwadwyr sut y mae gennym ni'r gyllideb fwyaf o ran arian parod. Wrth gwrs, mae'n wir mai cyllideb 2019-20 yw'r uchaf erioed o ran arian parod, ond mae'n ddatganiad cwbl ddiystyr oherwydd ers 1948—sef, y 70 mlynedd diwethaf—mae gwariant y sector cyhoeddus ar draws y DU wedi cynyddu o ran arian parod bob blwyddyn ac eithrio un, felly, yn hynny o beth, mae pob blwyddyn bron yn flwyddyn â gwariant cyhoeddus y DU yn uwch nag erioed o'r blaen, ar y sail honno. Fodd bynnag, ar y llaw arall, mae dyraniad cyllideb y DU i Gymru, mewn gwirionedd, wedi gweld gostyngiadau arian parod yn nhair o'r 10 mlynedd ddiwethaf, felly mae hynny'n rhoi'r heriau sy'n ein hwynebu mewn rhyw fath o bersbectif.
Yr ail thema, mewn gwirionedd, fyddai Brexit, ac rydym wedi sôn llawer amdano yn ystod y prynhawn. A bydd degawd o gyni ynghyd â bygythiad cynyddol ddifrifol y cawn Brexit 'dim cytundeb' yn cael effaith drychinebus ar Gymru. Rydym wedi clywed heddiw am rai o'r cynlluniau parhaus ond hefyd am rywfaint o'r ansicrwydd parhaus, sydd mewn gwirionedd yn amharu ar ein gallu i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Ond fe wnawn bopeth yn ein gallu i ddiogelu busnesau a chymunedau rhag yr effaith bosibl ar ein gwlad. Ac, wrth gwrs, rwyf wedi cyhoeddi rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol y prynhawn yma.
Y drydedd thema, mewn gwirionedd, yw ansicrwydd, ac mae'r ansicrwydd ynghylch Brexit yn waeth yn sgil yr ansicrwydd ehangach sy'n deillio o ddiffyg gweithredu a rhagofal Llywodraeth y DU. Nid oes gennym setliad cyllido y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf, ac yn amlwg, byddwn wedyn yn wynebu adolygiad cynhwysfawr o wariant ac, o bosibl, gyllideb frys gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny yn amlwg yn cyfyngu ar ein gallu i gynllunio ymlaen llaw a darparu sefydlogrwydd i bobl a sefydliadau sy'n dibynnu ar ein cefnogaeth.
A'r bedwaredd thema, ac rwy'n credu ei bod wedi ymddangos yn gryf iawn yn y ddadl hon, yw buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym yn parhau i gyflawni mewn cyfnod anodd, a bydd y cynnig sydd gerbron yr Aelodau heddiw yn sicrhau cyllideb sy'n darparu rhywfaint o ddiogelwch ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd rydym yn buddsoddi yn ein meysydd blaenoriaeth: iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a llywodraeth leol. Ac rwyf yn cydnabod yn llwyr yr heriau sy'n wynebu llywodraeth leol, ac rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelod Julie James yn siarad am hyn nesaf yn y Cynulliad.
Ond mae'n rhaid imi ddweud nad yw'r ddadl, mewn gwirionedd, bod iechyd a llywodraeth leol yn gwbl groes i'w gilydd, o gymorth, yn fy marn i, oherwydd mae'r ddau beth yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies am grybwyll byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r gwaith pwysig sy'n digwydd yn y fan honno ynghylch cyfuno cyllidebau a gwneud y mwyaf o'r adnoddau a meddwl yn greadigol a gwneud pethau mewn ffordd wahanol. Ac rwy'n credu mai dyna le y dylem ni droi mwy o'n sylw ato yn y dyfodol.
Rwy'n derbyn yn llwyr y pwyntiau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid o ran amseriad ymatebion y Llywodraeth i'r pwyllgor craffu, ac fe fyddwn i'n barod i gael trafodaeth bellach ar hynny. Rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Cyllid wedi nodi y byddai'n well ganddo barhau â'r arfer presennol sydd gennym ni o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft cyn cyllideb yr hydref. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn hapus i ystyried awgrymiadau gan y Pwyllgor Cyllid pe byddai'n well ganddo wneud hynny mewn ffordd wahanol, ond rwy'n credu, yn yr Alban, er enghraifft, eu bod yn cyhoeddi eu cyllideb ar ôl datganiad yr hydref. Ein pryder fyddai y byddai'r math hwnnw o oedi yn gwneud pethau'n anoddach i'r partneriaid sydd gennym ni, ond beth bynnag am hynny, mae angen inni sicrhau ymatebion prydlon i bwyllgorau.
Felly, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n ein hwynebu gyda'n gilydd ac, wrth wneud hynny, byddwn i'n awyddus iawn i barhau â'r ymgysylltiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o ran pennu cyllidebau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael rhai trafodaethau da eleni ac y bu nhw'n gweithio gyda'i gilydd ar sut yr ydym yn diffinio 'gwariant ataliol', er enghraifft. Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae gennym ni ddiddordeb ynddo ar draws y Llywodraeth.
Felly, i gloi, mae hon yn gyllideb sy'n diwallu anghenion pobl Cymru, ac mae'n atgyfnerthu ein gweledigaeth i greu Cymru well, Cymru sy'n ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn weithredol, yn weithredol o ran dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig, a bod ffyniant wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'n gyllideb sy'n diogelu yn wyneb y polisi cyni niweidiol ac yn gyllideb sy'n darparu sefydlogrwydd yn wyneb yr ansicrwydd parhaus a'r posibilrwydd o gael Brexit 'dim cytundeb' trychinebus. Mae'n gyllideb sy'n gwerthfawrogi ein gwasanaethau cyhoeddus ac sy'n buddsoddi ynddyn nhw ac mae'n gyllideb yr wyf i'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn ei chymeradwyo'r prynhawn yma. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig ichi.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.