1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Chwefror 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Faint o adeiladau fydd yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn a dibynadwy o dan ail gam cynllun Cyflymu Cymru, ac ar ba gost i bwrs y wlad?
Fel y gŵyr yr Aelod, rydym yn bwriadu darparu band eang cyflym iawn i 26,000 o adeiladau erbyn mis Mawrth 2021, ar gost o bron i £22.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE drwy'r broses hyblyg o gyflwyno ffeibr. Dylid nodi hefyd nad yw hwn yn faes datganoledig. Mae hwn yn faes y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano. O'i adael i'r farchnad ei hun, oddeutu 45 y cant yn unig o adeiladau Cymru fyddai'n cael cysylltedd band eang cyflym iawn. O ganlyniad i gamau gweithredu'r Llywodraeth hon, mae'r ffigur hwnnw bellach wedi codi i 95 y cant. Rydym wedi gwario £200 miliwn i sicrhau bod y bwlch a adawyd gan y farchnad a Llywodraeth y DU wedi'i lenwi. Ond yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth na allwn barhau i'w ddatblygu heb weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i geisio llenwi'r bwlch hwnnw.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Rydych wedi cyhoeddi'r £22 miliwn a ddyrannwyd. Cyhoeddodd eich rhagflaenydd y llynedd y byddai £85 miliwn yn cael ei ddyrannu i gam 2. Felly, a gaf fi ofyn i chi—yn ôl fy nghyfrif i, mae £62 miliwn yn weddill—sut rydych yn bwriadu gwario'r £62 miliwn hwnnw mewn perthynas â cham 2?
Mae hwnnw'n gwestiwn cwbl deg, a chredaf ei bod yn deg dweud ein bod yn dal i ystyried goblygiadau'r ffordd y gwnawn hynny. Un o'r problemau sydd gennym yw diffyg awydd y sector preifat i ymwneud yn y maes hwn. Mae mwy o elw ar gael i gwmnïau preifat drwy ddarparu cyflymderau uwch i bobl sydd â band eang eisoes na thrwy gyrraedd y rheini nad oes band eang ganddynt, ac mae hynny'n ddiffyg yn y farchnad. Felly, mae angen inni feddwl sut y gallwn lenwi'r bwlch hwnnw yn greadigol, drwy weithio gyda chymaint o bartneriaid ag y gallwn i sicrhau bod yr hyn sydd bellach yn gyfleustod allweddol ar gael i gynifer o dai â phosibl.
Credaf mai'r hyn sydd ei wir angen yw i Lywodraeth y DU gydnabod bod band eang a ffeibr a digidol bellach yn wasanaeth cyffredinol, ac y dylid cael rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, fel y ceir gyda chyfleustodau allweddol eraill, fel nad ydym yn dibynnu ar faint o elw y gellir ei gynhyrchu neu faint o arian ychwanegol y gallwn ddod o hyd iddo er mwyn llenwi'r bwlch hwnnw. Ond mae hynny'n rhywbeth sydd ei angen gan ddarparwyr i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, mae Cyflymu Cymru yn un o gynlluniau Llywodraeth Cymru, a chroesawaf rai elfennau o gynlluniau eraill a gyhoeddwyd gennych y llynedd a'r blynyddoedd cyn hynny, ond nid ydynt yn mynd i gynnwys pob safle ledled Cymru nac yn mynd i fod yn berthnasol i bob safle ledled Cymru. Nawr, os edrychwn ar gam 1, roedd yna ardaloedd ledled Cymru ar ôl diwedd cam 1 lle roedd y ddarpariaeth band eang waethaf, ac roeddent yn cynnwys etholaeth y Llywydd yng Ngheredigion, fy etholaeth i ym Mhowys, yn Sir Benfro ac yn Sir Gaerfyrddin. Dyna'r ardaloedd gwaethaf yng Nghymru gyfan o ran darpariaeth band eang.
Felly, byddech wedi meddwl y byddai cam 2 yn canolbwyntio'n gyfan gwbl, neu o leiaf yn blaenoriaethu'r ardaloedd hynny—blaenoriaeth ar gyfer yr ardaloedd hynny. Mewn gwirionedd, gwelwyd y gwrthwyneb a rhoddwyd sylw i'r ardaloedd sydd eisoes yn cael gwasanaeth da. Dyma'r rwystredigaeth i lawer o bobl mewn rhannau gwledig o Gymru. Nawr, os caf ystyried Sir Benfro er enghraifft, o'r holl safleoedd na chafodd eu cysylltu â Cyflymu Cymru yng ngham 1, 4 y cant yn unig o'r nifer honno fydd yn cael eu cysylltu yng ngham 2. Dyna sydd mor siomedig, a dyna'r rhwystredigaeth i lawer o bobl yn y Gymru wledig. Felly, a allwch dderbyn bod y dull hwn o ddarparu band eang ffeibr yn ddiffygiol, a beth rydych yn bwriadu ei wneud ynglŷn â'r 67,000 o adeiladau a fydd yn dal i fod mewn twll ymhen dwy flynedd?
Wel, rhannaf y rwystredigaeth yn llwyr. Rydym wedi darparu cryn dipyn o gyllid i fynd i'r afael â'r mater hwn, sydd, fel rwy'n dweud, yn faes sydd heb ei ddatganoli. Nid ydym yn cael cyllid canlyniadol Barnett am hyn. Rydym yn gwneud hyn o'n cyllidebau ein hunain am nad yw Llywodraeth y DU ac Ofcom yn diwallu anghenion Cymru, felly rydym wedi camu i'r adwy. Ond ceir cyfyngiadau i'r effaith y gallwn ei chael.
Mewn unrhyw chwyldro telathrebu, mae rhannau o Gymru wedi bod yn anodd eu cyrraedd. Nid cefn gwlad Cymru oedd y lle cyntaf i gael signalau teledu neu linellau ffôn sefydlog, felly nid yw'n syndod, oherwydd y topograffi, ein bod yn wynebu heriau wrth gyflwyno ffeibr llawn i'r holl ardaloedd gwledig. Nid ydym yn canolbwyntio'n fwriadol ar yr ardaloedd hawdd. Yr hyn rydym wedi'i wneud yw—. Rydym wedi clywed yr Aelod a'i feinciau yn ein hannog yn gyson i weithio mewn partneriaeth gyda'r sector preifat, a dyna rydym yn ei wneud. Mae'r sector preifat wedi penderfynu ei bod yn haws iddynt wneud cynnig am rywfaint o'r arian sydd ar gael yn unig er mwyn sicrhau'r enillion y maent yn disgwyl eu cael am eu buddsoddiad. Felly, rydym wedi gorfod dibynnu ar eu penderfyniad hwy ynglŷn â pha waith y maent am dendro amdano a pha waith rydym wedi gallu ei ddyfarnu. Mae hynny wedi gadael bwlch yr ydym yn awyddus i'w lenwi, ac rydym yn edrych ar ffyrdd creadigol y gallwn ei lenwi. Ond fel rwy'n dal i ddweud, pe bai'r blaid gyferbyn yn siarad â'u cymheiriaid yn San Steffan ac yn dadlau'r achos dros rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol—[Torri ar draws.] Mae Russell George yn dweud mai cynllun Llywodraeth Cymru ydyw. Mae'n gynllun Llywodraeth Cymru, ond nid lle Llywodraeth Cymru yw llenwi'r bwlch hwn. Mae hwn yn faes sydd heb ei ddatganoli. Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros seilwaith digidol ledled y DU. Hwy a ddylai fod yn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael eu cyrraedd. Maent wedi methu gwneud hynny—maent wedi methu gwneud hynny. Rydym wedi camu i'r adwy gydag arian Llywodraeth Cymru er mwyn llenwi'r bwlch hwn, gan weithio gyda'r sector preifat. Nid oes diddordeb gan y sector preifat, a dweud y gwir, mewn cyrraedd pob eiddo sydd ar gael, ac felly, rydym yn chwilio am ffyrdd o lenwi'r bwlch hwnnw, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny. A buaswn yn gwerthfawrogi ei gymorth yn hytrach na'i sylwadau difeddwl yn unig.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Diolch. Roeddwn am ofyn y cwestiwn cyntaf ynglŷn ag a ydych wedi gwneud dadansoddiad economaidd o'r toriadau posibl i addysg uwch. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn ymwneud yn bennaf â'r portffolio addysg, ond os edrychwn ar hyn mewn ffordd gyfannol, mae colli unrhyw swyddi—boed y swyddi hynny ym Mangor, yng Nghaerfyrddin, neu yng Nghaerdydd, gyda chyhoeddiad diweddar ynghylch diffyg o £21 miliwn yn eu cyllideb—yn mynd i effeithio ar economi Cymru. Mae'n eithaf eironig, yn yr wythnos a elwir yn 'HeartUnions', fod yn rhaid i undebau llafur yng Nghymru baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad economaidd rydych yn ei wneud o'r posibilrwydd o golli'r swyddi hyn i'n cymunedau?
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r rhain yn gyrff cwbl ymreolaethol, ac felly'r prifysgolion sy'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyllidebau.
Credaf fod honno'n agwedd ddi-hid, mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, gan y bydd hyn yn effeithio ar bobl ar lawr gwlad—eu bywoliaeth, lle maent yn gwario eu harian, sut y maent yn gwario eu harian, y swyddi y bydd modd iddynt fynd iddynt a'r sgiliau a fydd gennym yn ein cymunedau. Felly, gofynnaf ichi unwaith eto: pa ddadansoddiad economaidd a wnewch ar sail Cymru gyfan ynghylch effaith y toriadau ar ein sector addysg uwch? Heb sôn am y ffaith na fydd swyddi eraill ar gael iddynt fynd iddynt oherwydd—[Torri ar draws.]—clywaf o'r cyrion y Gweinidog addysg yn gofyn, 'Pa doriadau?' Rydym wedi clywed yn y cyfryngau yn ystod y dyddiau diwethaf fod Prifysgol Caerdydd yn mynd i ystyried gwneud diswyddiadau gorfodol oherwydd y diffyg ariannol yn y sector addysg uwch. Pa effaith a gaiff hynny ar economi Cymru?
Na, mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid inni fod yn glir: beth yw'r toriadau? Nid oes a wnelo hyn â thoriadau gan Lywodraeth Cymru—gan yr adran addysg a sgiliau. Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniadau a wneir gan brifysgolion, yn seiliedig ar y ffordd y maent yn rheoli eu materion eu hunain. Nid yw hyn yn seiliedig ar doriadau gan Lywodraeth Cymru.
Nid wyf yn dweud bod hyn yn seiliedig ar doriadau Llywodraeth Cymru; rwy'n dweud ei fod yn seiliedig ar ba ddadansoddiad rydych yn ei wneud o'r posibilrwydd y bydd y toriadau hynny'n digwydd, yma yng Nghymru, lle bydd swyddi'n cael eu colli. Rydym yn clywed hynny o'r cyfarfodydd y mae pob un o fy nghyd-Aelodau wedi bod yn eu trefnu ledled Cymru. Felly, yn hytrach na chladdu'ch pen yn y tywod, beth y bwriadwch ei wneud ynglŷn â hynny fel y gallwn sicrhau y gall y sector addysg uwch fod yn llwyddiannus?
Roeddwn yn awyddus i ofyn cwestiwn hefyd ynghylch partneriaethau sgiliau rhanbarthol yma heddiw. Amlinellodd y cyn Ddirprwy Weinidog sgiliau gynlluniau ar gyfer addysg bellach fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r sector sgiliau a hyfforddiant. Ceir llawer o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny nad ydynt yn cael eu cyllido'n ddigonol, a dywedwyd wrthym y byddai Lywodraeth Cymru yn comisiynu cynghorydd annibynnol ar gyfer y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny. A allwch roi'r newyddion diweddaraf inni ynglŷn â hynny ac a ydych yn dal i fwrw ymlaen gyda'r cynllun hwnnw a oedd gan Eluned Morgan mewn perthynas â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol?
Yn gyntaf oll, diolch i'r Aelod am gydnabod nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw doriadau i addysg uwch. Credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn egluro hynny, a chredaf, wrth fyfyrio ar y ffaith honno, y dylwn ddweud hefyd ein bod wedi ymladd yn ddi-baid ar ran y sector addysg uwch, yn union fel rydym wedi cefnogi'r sector addysg bellach yn ddi-baid hefyd. Ond rydym yn dal i frwydro yn erbyn naw mlynedd o gyni llym.
Nawr, o ran y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod fy mod wedi gofyn am adolygiad allanol annibynnol o'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Yn y cyfamser, rydym yn cefnogi ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol gyda £5 miliwn o gyllid prentisiaethau penodol i gysoni'r ddarpariaeth brentisiaethau â'r hyn sydd ei angen ar fusnesau yn y rhanbarthau priodol.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd—[Anghlywadwy.]—anawsterau a wynebir gan gymudwyr Caerdydd wrth gael mynediad i'r ddinas, a allai'r Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru'r problemau hyn?
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais ran gyntaf y cwestiwn.
O'r gorau. O ystyried yr anawsterau mawr a wynebir gan gymudwyr Caerdydd i gael mynediad i'r ddinas, a allai'r Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i liniaru'r problemau hyn?
Yn sicr. Mae'r cynlluniau'n rhan o'r weledigaeth ar gyfer metro de Cymru, a bydd swm enfawr o fuddsoddiad cyfalaf yn talu amdanynt, dros £700 miliwn. Bydd elfennau allweddol o'r seilwaith yng Nghaerdydd yn cynnwys parcffyrdd newydd a datblygu gorsaf fysiau newydd i Gaerdydd, a gyda chymorth Llywodraeth y DU, os byddwn yn ei gael, rydym yn gobeithio ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon anffodus i orfod defnyddio'r ffordd fynediad ddeheuol a elwir yn Rover Way. Er fy mod yn deall nad yw'r ffordd hon, am ryw reswm dirgel, yn gefnffordd, ac nad yw felly'n rhan o'ch cylch gwaith uniongyrchol, mae'r ffordd mewn cyflwr mor warthus fel bod gwir angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Does bosib, Weinidog, nad oes rhyw fath o gymorth ariannol y gallai Llywodraeth Cymru ei ddarparu fel y gall cyngor dinas Caerdydd ailwampio'r briffordd hollbwysig hon i mewn i'n prifddinas.
A gaf fi ddweud ein bod yn cefnogi awdurdodau lleol gydag adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â thyllau yn y ffyrdd, ac rydym hefyd yn cynnig cyllid drwy'r gronfa trafnidiaeth leol i sicrhau bod ffyrdd lleol yn parhau i fod o ansawdd digon da? Credaf mai'r hyn sydd bwysicaf i Gaerdydd wrth i'r ddinas barhau i dyfu yw ei bod yn cael system drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac yn hynny o beth, bydd datblygiad y metro, ac wrth gwrs, diwygio'r gwasanaethau bws lleol yn radical, yn bwysig dros ben.
Unwaith eto, diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Fodd bynnag, gallai hyn yn wir fod yn brosiect posibl ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol, neu unwaith eto, a oes ymyrraeth bosibl y gellid ei chael gan brifddinas-ranbarth Caerdydd? Does bosib, Weinidog, nad yw dod o hyd i fecanwaith ariannu addas i fynd i'r afael â'r sefyllfa enbyd hon y tu hwnt i'ch arbenigedd sylweddol. Mae'r ffordd hon mewn cyflwr gwarthus. Nid yw'r arian a roddir ar gyfer tyllau yn y ffyrdd yn mynd i ddatrys y broblem, ac mae'n ffordd fynediad brysur iawn a phwysig iawn i mewn i Gaerdydd.
Wel, byddai'n rhaid imi ymgynghori â'r Gweinidog cyllid i weld a ellid defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol at ddiben o'r fath, ond wrth gwrs, hyd yn oed pe gellid gwneud hynny, byddai'n benderfyniad ar gyfer yr awdurdod lleol a/neu brifddinas-ranbarth Caerdydd, fel yr awgryma'r Aelod. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud popeth a allwn gyda'n hadnoddau gwerthfawr i wella seilwaith trafnidiaeth nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru, ac mae'n rhaid seilio penderfyniadau ar yr angen i fuddsoddi'n deg ledled Cymru gyfan. Byddem yn annog ein partneriaid lleol mewn llywodraeth leol i sicrhau bod yr holl ffyrdd yn cael eu cynnal hyd at safon ofynnol, ac i ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol rydym wedi eu darparu drwy'r gronfa ar gyfer tyllau yn y ffyrdd lle bynnag y bo modd.