2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 6 Mawrth 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i ofyn—? Wrth i 29 Mawrth agosáu, yn amlwg, ceir rhai cyfleoedd i Gymru yn ogystal â rhai o'r pryderon a godwyd. Un o'r cyfleoedd hynny yw'r cyfle i'r Deyrnas Unedig lunio ei chytundebau masnach ei hun â gwledydd eraill ledled y byd. Beth a wnewch fel Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall Cymru fod ar flaen y gad o ran y penderfyniadau masnach hynny a'r cyfleoedd y gallent eu cynnig?
Wel, rydym eisoes yn cael trafodaethau helaeth gyda'r Gweinidog cyfrifol yn yr Adran Masnach Ryngwladol ynglŷn â sut y gallwn gymryd rhan yn y broses. Felly, rydym wrthi'n sefydlu strwythur ffurfiol iawn, fel y gallwn nid yn unig gyfrannu at yr hyn a ddylai fod yn feysydd blaenoriaethol i Lywodraeth Cymru, o ran y gwledydd a fydd yn cael effaith—ac ni fyddant bob amser yr un peth â gweddill y Deyrnas Unedig, o reidrwydd. Mae'r Unol Daleithiau, er enghraifft, ar frig y rhestr ar gyfer y Deyrnas Unedig; nid dyna lle byddai ein blaenoriaeth ni o reidrwydd ar hyn o bryd. Felly, rydym am allu dylanwadu, yn gyntaf oll, ar bwy rydym yn llunio cytundebau masnach â hwy, ond yna dylanwadu ar y ddadl, a'r cwestiwn wedyn yw i ba raddau y gallwn ddylanwadu arni—a allwn fod wrth y bwrdd, sef wrth gwrs, yr opsiwn a ffafrir gennym? Os na allwn, pa mor agos y gallwn fod i'r broses o negodi? Ond rydym wedi dweud un peth yn hollol glir, sef y byddem yn disgwyl bod yn rhan o unrhyw drafodaeth ynglŷn ag unrhyw faes lle ceir cyfrifoldeb datganoledig cyn iddynt ddechrau trafod ag unrhyw wlad arall.
Rwy'n falch iawn o weld eich bod wedi cydnabod yr angen i fod wrth y bwrdd, a bu'n ddiddorol gweld y synau a wnaed gan Busnes Cymru, sy'n amlwg wedi bod yn annog a hyrwyddo masnach mewn ffordd wahanol iawn i'r mathau o negeseuon a glywsom yn y Siambr hon gan y Prif Weinidog ac aelodau o'r Cabinet ar brydiau, negeseuon sydd wedi bod yn negyddol iawn ar y cyfan ynghylch Brexit a'r cyfleoedd y gallai eu cynnig. Nawr, wrth gwrs, mae fy mhlaid i wedi awgrymu y dylid cael cynrychiolwyr masnach mewn sawl rhan wahanol o'r byd, yn hyrwyddo Cymru, yn cymryd rhan yn y trafodaethau, yn gweithio'n agos iawn gyda llysgenadaethau Prydain mewn gwahanol wledydd lle ceir cyfleoedd masnach i fusnesau Cymru. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych fel Llywodraeth Cymru nid yn unig i gefnogi'r seilwaith sydd gennych eisoes yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y gwahanol wledydd, ond i gefnogi'r seilwaith o fewn llysgenadaethau Prydain hefyd, i sicrhau bod llais Cymru—llais arbennig Cymru—yn cael ei glywed?
Diolch, Darren. Nid wyf am i chi fod o dan yr argraff fy mod yn awyddus i wneud cytundebau masnach â gwledydd eraill er ei fwyn ei hun yn unig. Rwy'n gwbl argyhoeddedig mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod y berthynas fasnach bwysicaf—ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd, lle'r aiff 60 y cant o'n nwyddau—y dylai honno fod yn flaenoriaeth uwch na'r holl flaenoriaethau eraill. A chredaf ei bod yn warthus ein bod lai na 30 diwrnod i ffwrdd o sefyllfa lle gallem fod yn gadael yr UE heb unrhyw syniad o gwbl sut beth yw'r berthynas honno. Felly, mae gennyf bryderon enfawr ynglŷn â'r berthynas honno. Ond yn y cyfamser, rydym yn deall bod Llywodraeth y DU yn cael trafodaethau, ac nid ydym am gael ein gadael allan ohonynt. Felly, hoffwn sicrhau bod hynny'n gwbl glir.
O ran cynrychiolwyr masnach, credaf eich bod yn llygad eich lle—mae cyfle go iawn i'w gael. Un o'r pethau rwy'n argyhoeddedig yn eu cylch, mewn gwirionedd, yw bod gennym bobl o Gymru ledled y byd sydd ag arbenigedd gwych mewn sawl maes, ac mae angen inni ddefnyddio'r arbenigedd hwnnw mewn ffordd lle na all rhai o'n swyddogion cyffredinol ein rhoi mewn cysylltiad â'r cwmnïau ar y lefel uchaf. Ond os oes gennym bobl â chysylltiadau, gallant ein rhoi mewn cysylltiad â'r bobl ar frig y sefydliadau hyn. Felly, byddwn yn gweithio ar sut y gallwn ddatblygu strategaeth ddiaspora—beth yw ein perthynas. Ond rwy'n gwbl argyhoeddedig y dylai'r diaspora, a'r cynrychiolwyr masnach, ar ba ffurf bynnag—felly, gall fod yn rhywbeth answyddogol iawn, gall fod yn rhywbeth ychydig yn fwy ffurfiol; nid ydym wedi mapio sut y gallai hynny edrych eto—yn gwbl allweddol.
Ond y peth arall a nodwch, a chytunaf yn llwyr ag ef, yw bod gennym rwydwaith o lysgenadaethau Prydeinig ym mhob cwr o'r byd, lle mae ganddynt adnoddau aruthrol, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn gwneud llawer mwy o waith ar ein rhan. Felly, byddwn yn gwneud llawer o waith i geisio rhoi llawer mwy o arweiniad iddynt o ran yr hyn rydym yn ei ddisgwyl ganddynt fel Llywodraeth Cymru.
Yn amlwg, Weinidog, ceir busnesau yng Nghymru sydd eisoes yn masnachu â gweddill y byd, hyd yn oed yn absenoldeb cytundebau masnach penodol gyda llawer o'r gwledydd hynny. Pa waith y bwriadwch ei wneud i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny, lle mae pobl eisoes wedi cael troed ar yr ysgol, os mynnwch, wrth fasnachu gyda rhai economïau sylweddol iawn ledled y byd lle nad oes cytundebau masnach ar waith yn barod? Rwy'n meddwl yn benodol am Awstralasia a rhannau eraill o farchnad Gogledd America. Clywais yr hyn a ddywedoch ynglŷn â'r syniad na fydd Gogledd America yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Credaf fod hynny'n siomedig iawn mewn gwirionedd, gan y credaf fod cyfleoedd enfawr i fusnesau Cymru yng Ngogledd America. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau bod unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn rhai da ac yn rhai priodol i fod o fudd i Gymru, ond mae'n amlwg bod cyfleoedd i'w cael oherwydd cysylltiadau busnes presennol. Pa drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, gyda Sefydliad y Cyfarwyddwyr, i sicrhau ein bod yn manteisio ar y cysylltiadau sydd yno eisoes, nid yn unig o ran y diaspora, ond o ran y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt eisoes a'r cysylltiadau masnach sydd eisoes ar gael i ni?
Wel, ni chredaf fod angen cytundeb masnach arnoch bob amser er mwyn cael cysylltiadau masnach cryf iawn. Un enghraifft o hynny yw'r Unol Daleithiau. Felly, mae gennym fwy o fuddsoddiad yng Nghymru o'r Unol Daleithiau nag unrhyw wlad arall yn y byd. Nid wyf yn dweud na ddylem fasnachu gyda'r Unol Daleithiau; rwy'n dweud nad ydym o reidrwydd o'r farn fod cael cytundeb masnach yn flaenoriaeth. Yr hyn y credaf y gallwn ei wneud, a'r hyn rydym yn ei wneud eisoes, yw rhoi cwmnïau o Gymru sydd â diddordeb mewn ehangu i mewn i farchnad yr Unol Daleithiau mewn cysylltiad â gweithredwyr yn y farchnad honno sydd eisoes yno ac sydd â chysylltiadau Cymreig, a all sicrhau eu bod yn cyrraedd lefel o drafodaeth a dadl o ran sut i gael mynediad at y farchnad, a'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw efelychu hynny ledled y byd. Felly, rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud dros yr ychydig fisoedd a blynyddoedd nesaf yw sicrhau bod y gronfa ddata honno o gysylltiadau yn effeithiol iawn fel ein bod yn gwybod pwy yn union sy'n gweithredu yn lle a phwy sydd â'r awydd i'n cynorthwyo fel cenedl.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siwr bod cefnogwyr ar hyd a lled y wlad wedi bod yn dilyn datblygiadau ym myd rygbi Cymru'r wythnos hon gyda chymysgedd o ddryswch, cyffro, gobaith ac ofn. Bydd trigolion y gogledd yn siwr o fod wrth eu boddau bod posibiliad y byddan nhw'n cael rhanbarth proffesiynol o'r diwedd, a fyddai'n golygu bydd rygbi yn gwbl broffesiynol ar lefel genedlaethol gan ysgogi cyfleon ar gyfer datblygu chwaraewyr ifanc ar gyfer y dyfodol. Ond, daeth ymateb chwyrn gan gefngwyr y Scarlets a'r Gweilch, gyda phryderon y bydd y cynlluniau yn dinistrio hunaniaeth y timau maen nhw wedi eu dilyn ers amser maith, ac yn niweidio'r gêm ar lefel llawr gwlad. Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru ynghylch y cynlluniau ac a oes gwirionedd y tu ôl i'r adroddiadau bod yr undeb wedi gofyn am gymorth ariannol gan y Llywodraeth er mwyn bwrw'r cynlluniau yn eu blaen.
Gaf i yn gyntaf ateb rhan ola'r cwestiwn? Does yna ddim unrhyw gais am gymorth ariannol ychwanegol wedi dod i Lywodraeth Cymru eleni gan yr undeb rygbi. Rydym ni wedi cyfrannu i'r undeb y swm arferol, £880,000—£853,000, mae'n ddrwg gen i—eleni. Dŷn ni hefyd wedi cyfrannu tuag at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lle rydw i yn digwydd byw—mae'n well i mi ddatgan didddordeb felly—ar gyfer gwaith i ddatblygu Parc Eirias. Mae hwnna'n fuddsoddiad cyfalafol.
Dwi'n siarad yn gyson â'r undeb rygbi, fel rydw i'n siarad â Chymdeithas Bêl Droed Cymru a nifer o fudiadau chwaraeon a thimau a chymdeithasau o bob math, ac, wrth gwrs, Chwaraeon Cymru. Ond does yna ddim trafodaethau wedi bod, a byddwn i ddim yn disgwyl trafodaethau, gan ei bod yn amlwg i fi nad yw'r undeb rygbi unwaith eto na'r rhanbarthau wedi cytuno beth maen nhw'n dymuno ei wneud. Fel un sydd yn cofio'r trafodaethau a fu o'r blaen, yn ôl yn nechrau 2003 yn arbennig, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod y trafodaethau yma yn cael eu cynnal rhwng y clybiau ac, wrth gwrs, y bwrdd proffesiynol newydd fel y gallan nhw ganfod ffordd ymlaen cyn eu bod nhw yn ystyried unrhyw fath o gyllid. Dwi'n dymuno'n dda iddyn nhw yn y broses o wneud hynny, oherwydd dwi eisiau gweld cryfhau'r gêm. Ond, mae eisiau ei chryfhau hi drwy Gymru, ac rydw i'n dal i edrych ar lwyddiant Iwerddon—y sefyllfa ddiddorol yno—lle mae'r timoedd rhanbarthol yn cael eu perchnogi gan yr undeb rygbi. Dyw e ddim yn lle i fi, fel Gweinidog chwaraeon, i argymell unrhyw lwybr o'r natur yna yng Nghymru, ond mae yna fodelau gwahanol o gefnogaeth yn bosib.
Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb. Hoffwn droi y nawr at y maes darlledu. Yr wythnos diwethaf, clywsom y bydd darllediadau boreol Cymreig ar orsafoedd Heart a Capital yn cael eu dirwyn i ben, gyda darllediad Prydeinig yn cael ei ddarparu yn eu lle. Yn amlwg, roedd llawer o bobl yn siomedig tu hwnt â'r cyhoeddiad hwn. Y rheswm pam bod y cwmni rhiant Global wedi gallu sgrapio’r rhaglenni hyn yw bod Ofcom yn ddiweddar wedi llacio rheolau er mwyn lleihau y nifer gofynnol o ddarllediadau sydd wedi eu creu yn lleol.
Yn ogystal, mae llawer o sylw wedi bod i'r rhaglen BBC Cymru newydd, Pitching In—rhaglen wedi ei hysgrifennu yn Lloegr, o bersbectif Saesnig, gyda hunaniaeth Ynys Môn, lle mae'r rhaglen wedi ei lleoli, yn cael ei neilltuo'n llwyr. Yn wir, mae'r prin gymeriadau Cymreig ar y rhaglen ag acenion y Cymoedd ac mae’r rhaglen yn portreadu darlun o'r gogledd-orllewin sy'n gwbl ddieithr i drigolion yr ardal. Mae Ofcom hyd yma wedi gwrthod gosod rheoliadau o ran gorfodi cynhyrchwyr rhaglenni o'r fath i gastio'n lleol. Petai hyn yn digwydd, byddai'n osgoi llanast o'r fath rhag digwydd eto gan y byddai lleisiau lleol yn cael eu clywed o'r dechrau. Dro ar ôl tro, mae rheoleiddwyr Llundeinig yn blaenoriaethu buddiannau cwmnïau masnachol cyfoethog yn hytrach na lles dinasyddion Cymru. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd hyd yma i roi pwysau ar Ofcom i ystyried lles cynulleidfaoedd a'r sector greadigol Gymreig wrth wneud penderfyniadau, a pha gamau rydych chi'n bwriadu eu cymryd yn y dyfodol er mwyn dadwneud y niwed hwn a cheisio sicrhau y bydd blaenoriaethau Cymru yn cael gwell gwrandawiad yn y dyfodol?
Mae gan Ofcom gynrychiolydd o Gymru ar fwrdd Ofcom yn ganolog. Mae gan Ofcom hefyd bwyllgor ymgynghorol sy'n cynrychioli Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd y materion yma yn cael eu trafod yn y ffordd briodol o fewn y cyrff yna.
Fel mae'n digwydd, mae gen i un o fy nghyfarfodydd rheolaidd efo Ofcom yn digwydd yn ystod y pythefnos sydd yn dod ac mi fyddaf i'n sicr yn gwrando i gael gwybod yn fanylach sut y mae Ofcom yng Nghymru yn ceisio dylanwadu ar Ofcom yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Dwi ddim yn meddwl bod y drefn sydd gyda rheoleiddio darlledu yn drefn sydd yn gweithredu er lles darlledu Cymreig ar ei orau, ac felly dwi'n awyddus i weld unrhyw argymhellion sy'n bosib eu gwneud i gryfhau'r sefyllfa. Ac os yw hi'n wir—i ateb yr ail gwestiwn neu'r trydydd cwestiwn—fod y lleihad mewn deunydd Cymraeg a dwyieithog—a gwnaf orffen nawr mewn dau funud—neu nifer yr achlysuron darlledu Cymraeg a dwyieithog ar radio masnachol lleol wedi lleihau oherwydd penderfyniad gan Ofcom, yna dwi'n meddwl bod hwn yn fater y dylem ni allu ei drafod yn fanwl gydag Ofcom.
Mae gen i rywfaint o brofiad yn y maes yma fel cyn-gyfarwyddwr cwmni Marcher a greodd yr orsaf radio nid anenwog yn ei ddydd, Champion FM, yng Nghaernarfon. A dyma'r pwynt roeddwn i am ei wneud: bwriad yr orsaf honno oedd darlledu yn ddwyieithog. Hynny yw, darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn brawddegau gwahanol ond agos at ei gilydd gan gynnwys, wrth gwrs, lawer iawn o gerddoriaeth yn y ddwy iaith er mwyn creu radio masnachol dwyieithog y byddai pobl mewn cymdeithas lle mae'r iaith yn cael ei newid yn gyson ar draws yr ardal—bod yr ieithoedd yna yn cael eu gwrando fel bod mwy o bobl yn gwrando ar Gymraeg nad sydd efallai yn gwrando ar ddarllediadau Cymraeg yn benodol, fel rydym ni'n eu cael gan y BBC, gan Radio Cymru.
Felly, dwi'n meddwl bod yna lawer mwy o waith i'w wneud yn y maes yma ynglŷn â sut ydym ni'n cynyddu'r dwyieithrwydd sydd yn ein darlledu ni mewn ffordd sydd yn sicrhau bod y gynulleidfa, sydd yn raddol gynyddu o bobl ddwyieithog, yn gallu defnyddio'r cyfrwng a manteisio a chlywed y Gymraeg a Saesneg Cymreig—mae hynna'n bwysig hefyd—yn hawdd.
Rwy'n diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei ateb eto, ond mae’n ymddangos i fi bod hyn yn achos o gau drws y stabl wedi i’r ferlen adael, os maddeuwch i mi am ddefnyddio idiom Saesneg. Y gwirionedd amdani yw mai’r unig ffordd o sicrhau bod lles cynulleidfaoedd Cymreig a’r sector greadigol Gymreig yn cael eu gwarchod yw trwy ddatganoli darlledu i Gymru.
Byddai datganoli darlledu yn ein galluogi ni fel cenedl i adrodd ein straeon ni o’n safbwynt ni, gan roi gwell dealltwriaeth i’n dinasyddion o’n cyfoeth diwylliannol, o realiti bywyd yn y Gymru fodern. Dyma fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd gan fod tystiolaeth ddiweddar yn dangos bod o ddeutu hanner y boblogaeth yn dal i gredu mai yn San Steffan mae ein gwasanaeth iechyd yn cael ei reoli, er bod y pŵer wedi’i ddatganoli ers 20 mlynedd. Mae gan hyn effeithiau difrifol ar atebolrwydd gan ei fod yn anodd i etholwyr ddwyn gwleidyddion i gyfrif os nad ydynt yn sicr pwy sy’n gyfrifol am redeg gwahanol wasanaethau cyhoeddus.
Yn y dystiolaeth a gafodd ei darparu ar gyfer y comisiwn Silk, roedd 60 y cant o ymatebwyr o blaid datganoli darlledu, ac mae arolygon barn yn darganfod dro ar ôl tro bod cefnogaeth eang dros fwy o ddatganoli i Gymru. Gan ei fod yn amlwg bod Llywodraeth San Steffan yn methu yn ei chyfrifoldeb tuag at ddarlledu Cymreig, a bod cefnogaeth eang dros roi mwy o bwerau i‘r Senedd hon, a yw’r Dirprwy Weinidog yn cytuno ei bod hi bellach yn angenrheidiol bod darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru cyn gynted â phosib?
Wel, nac ydy, oherwydd dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn yn y maes yma ein bod ni’n edrych nid jest ar ddarlledu ond ar yr holl gyfryngau cyfathrebu digidol. Yr hyn sy’n bwysig i mi yw bod y Gymraeg a’r Saesneg Cymreig yn ymddangos ar y mwyaf posib o gyfryngau, ac y mae hynny’n cynnwys, yn arbennig, y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau drwy’r sgriniau yma y mae pobl yn cysylltu â nhw’n gyson, nid jest edrych ar faes darlledu. Ac mi fyddai ceisio rheoleiddio darlledu ar ei ben ei hun, ar wahân i unrhyw ddulliau eraill o gyfathrebu a mathau eraill o ddiwylliant clywedol a gweledol—. Fe fyddai hwnna yn gamgymeriad, dwi’n meddwl, oherwydd nac ydyn ni, mewn gwirionedd—os ydych yn sôn am y ceffyl yn dianc o'r stabl, wel, mae hynny'n sicr—. Mi fyddai mynd ati i geisio datganoli darlledu yn unig ar hyn o bryd yn gam gwag, yn fy marn i.
Ond, wrth gwrs, mae polisi diwylliant yn gorfod cynnwys dealltwriaeth o gyfathrebu. Mae gen i drosolwg o ddarlledu, er nad ydy darlledu—gan nad ydy o ddim wedi’i ddatganoli—ddim yn fater sy’n perthyn i’n hadran ni, ond rydyn ni’n cael trafodaethau defnyddiol a chyson gyda’r darlledwyr Cymreig. Beth fuaswn i’n annog ydy i chithau, ac i Aelodau eraill, drafod y materion yma, bob cyfle y cewch chi, gyda’r darlledwyr, gyda’r cyrff, fel yr enwais i yn yr ateb cyntaf, sydd yn gyfrifol am fynegi barn ymgynghorol i’r awdurdodau—yn yr achos yna, Ofcom—ac, yn yr un modd, mae yna drefniadau tebyg ym maes darlledu ac ym maes teledu, fel bod y gynulleidfa, a barn y gynulleidfa, yn cael ei hadlewyrchu gennych chi fel Aelodau etholedig i’r cyrff sydd yn gyfrifol am ddarlledu.
Dwi’n meddwl—. Dŷn ni ddim yn defnyddio digon ar y strwythurau atebolrwydd datganoledig sydd gyda ni, ac, yn sicr, dwi’n ceisio manteisio ar bob cyfle i wneud hynny er mwyn cael trafodaeth ffurfiol ac anffurfiol. Mae yna le arbennig gan bwyllgorau’r Cynulliad, wrth gwrs, fel mae’r pwyllgor diwylliant wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar yn yr astudiaeth ar radio ac ar bethau eraill, i ddilyn y cyfeiriad yna. Diolch yn fawr.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae'n Ddiwrnod y Llyfr yfory, fel y gwyddoch, mae'n debyg. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha waith newydd a pha brosiectau newydd y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn eu cyflawni yn y flwyddyn sydd i ddod?
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru brif weithredwr newydd, ac rwy'n siŵr y bydd y prif weithredwr newydd, dros yr ychydig fisoedd nesaf, yn nodi rhaglen o weithgareddau, a gobeithiaf y bydd hynny'n cynnwys cydnabyddiaeth o rôl menywod ym mywyd Cymru.
Diolch. Diolch am eich ateb, ac edrychaf ymlaen at y rhaglen newydd pan fydd y prif weithredwr newydd yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw. A ydych yn cytuno—? Mae'r llyfrgell genedlaethol wedi'i lleoli yn Aberystwyth, wrth gwrs, am resymau da, ond wrth gwrs, nid yw'n hygyrch iawn i bobl mewn llawer o rannau eraill o Gymru, felly mae'n bwysig fod y llyfrgell genedlaethol yn cyflawni prosiectau allanol fel y gall pobl ledled Cymru fanteisio ar ein treftadaeth ddiwylliannol. A ydych o'r farn ei bod yn bwysig sicrhau, yn y dyfodol, fod y llyfrgell genedlaethol yn cyflawni rôl allanol?
Ydw, ond credaf mai'r hyn sy'n fwy arwyddocaol ac yn bwysicach yw i'r llyfrgell genedlaethol sicrhau eu bod yn digidoleiddio eu hadnoddau ac yn eu gwneud yn hygyrch i bobl Cymru. A gwn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn ymgymryd â'r dasg honno dros y blynyddoedd diwethaf. Gwnaed cryn dipyn o waith ar gyflawni'r dasg honno, a bellach, rwy'n credu mai dyna sut y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael mynediad at yr adnodd gwerthfawr hwnnw, sy'n un o drysorau pwysicaf Cymru.
Ie, rwy'n cytuno y bydd y dechnoleg ar-lein yn hollbwysig hefyd. Nawr, un ffactor rydym wedi'i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyllid llywodraeth leol o dan bwysau, yw'r canlyniad anffodus fod nifer o lyfrgelloedd lleol, ymysg cyfleusterau lleol eraill, wedi cau. Mae Cymru wedi colli llawer o lyfrgelloedd—credaf fod un o bob chwech o lyfrgelloedd Cymru wedi cau ers 2010. Felly, gan gofio eich ateb blaenorol ynghylch digidoleiddio—yn amlwg, bydd hynny'n helpu i liniaru'r broblem i ryw raddau, os caiff y rhaglen honno ei chyflwyno'n effeithiol—a oes ffyrdd eraill y gall y llyfrgell genedlaethol helpu i liniaru'r broblem fod cymunedau'n colli eu llyfrgelloedd lleol?
Wel, credaf ei bod yn drychinebus ein bod yn colli cymaint o'n llyfrgelloedd ledled Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n digwydd o ganlyniad i'r cyni a orfodwyd ar ein gwlad dros y 10 mlynedd diwethaf. Wrth gwrs, gŵyr pob un ohonom mai'r meysydd anstatudol yw'r rhai cyntaf i wynebu toriadau, a dyna pam fod llyfrgelloedd wedi dioddef yn fawr mewn rhai o'n cymunedau lleol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ceir rhai modelau da iawn, yn fy marn i, lle mae cymunedau'n dod at ei gilydd er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddarparu llyfrgell, a chredaf fod llawer y gallwn ei wneud i ddysgu gan ein gilydd ledled Cymru ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y gellir cadw'r ddarpariaeth honno ar gyfer y cyhoedd lle bo modd. Wrth gwrs, y gwir ateb i hyn yw bod angen cael gwared ar y cyni a orfodwyd ar ein gwlad ers cymaint o amser.
Diolch. Cwestiwn 3—Michelle Brown.