2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 27 Mawrth 2019.
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Wel, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am wasanaethau tân ac achub yng Nghymru, rydych wedi etifeddu'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd ar 'Ddiwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru' fis Tachwedd diwethaf, gyda'r ymgynghoriad yn cau ar 5 Chwefror. Fel y dywed ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,
Mae parch mawr i'r gwasanaethau tân ac achub. Afraid dweud, felly, y byddai unrhyw gynigion i newid y ffordd y caiff awdurdodau tân ac achub eu strwythuro, eu hariannu neu eu gweithredu yn bwysig iawn, nid yn unig i'r awdurdodau eu hunain, ond hefyd i'r nifer o sefydliadau, cymunedau, grwpiau ac unigolion sy'n dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdodau.
Sut, felly, yr ymatebwch i'r datganiad hwn?
O gofio bod achos Llywodraeth Cymru dros newid yn seiliedig ar gred na fydd y trefniadau sydd wedi cynhyrchu canlyniadau rhagorol yn y gorffennol yn effeithiol yn y dyfodol, ychydig iawn sydd yn y Papur Gwyn i gadarnhau'r gred honno. Nid oes unrhyw beth, er enghraifft, i ddangos bod y trefniadau presennol yn dechrau peri i safonau ddirywio neu i berfformiad waethygu, neu fod ganddynt lai o allu i ymdopi â heriau, arloesi neu newid nag a oedd ganddynt pan gawsant eu sefydlu yn 1996.
Rydym wedi cynnal ymgynghoriad, fel y dywedodd yr Aelod yn gwbl gywir. Rydym wedi cael nifer fawr o ymatebion. Rydym yn ystyried yr ymatebion hynny'n ofalus. Mae'n ymgynghoriad cyffredinol. Ar ôl inni ddadansoddi'r ymatebion yn drwyadl, bydd modd imi ddweud wrth yr Aelod a'r Aelodau yn gyffredinol sut y byddwn yn symud ymlaen ar hyn, ond rwyf wedi cyfarfod â'r prif swyddogion tân a'u cadeiryddion yn ddiweddar iawn, ac wedi pwysleisio'r ffaith ei fod yn ymgynghoriad llawn a dilys. Mae gennyf gryn diddordeb mewn gweld y dadansoddiad o'r ymatebion y maent wedi'u darparu, ac yng ngoleuni'r ymatebion hynny, bydd modd imi ateb yr Aelod ynglŷn â sut rydym yn symud y gwasanaeth hwn yn ei flaen.
Wel, roeddent yn dweud hefyd mai'r amcan arfaethedig, yn rhyfedd braidd, yw ceisio gwarchod safonau uchel presennol y gwasanaethau tân ac achub drwy ddiwygio'r trefniadau a gynhyrchodd y safonau hynny. Ceir diffyg cysondeb yn y Papur Gwyn yn yr ystyr ei fod yn cynnig atebion i broblemau y mae'n derbyn nad ydynt yn bodoli, ac mae'r Papur Gwyn yn cyfeirio at ganfyddiad nad yw awdurdodau tân ac achub yn atebol. A ydych chi felly o leiaf yn cydymdeimlo â'r datganiad hwn?
O ran atebolrwydd cyhoeddus, nid ydym yn derbyn bod awdurdodau tân ac achub yn anatebol. Mae ein cyfarfodydd yn agored i'r cyhoedd a bellach yn cael eu gweddarlledu fel y gellir eu gwylio o bell, caiff gwariant a chynlluniau eraill eu cyhoeddi'n flynyddol, ceir cyfleusterau i bobl wneud ceisiadau o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth, ac mae'r gwasanaeth yn gwneud ymdrech arbennig i gyfarfod â grwpiau cynrychiadol ac i gymryd rhan weithredol mewn gwaith cydweithredol gyda sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau gwirfoddol cyhoeddus eraill.
Ac mae'n cyfeirio at y ffaith bod gwybodaeth ariannol yn hygyrch ac ati. Rwy'n derbyn na allwch ragfynegi eich ymateb i'r ymgynghoriad, ond a ydych o leiaf yn cydymdeimlo â'r pryderon a godir yma?
Mae newid yn anodd i bawb. Cawsom drafodaeth dda iawn, fel y dywedais, cyn i'r ymgynghoriad gau. Fe anogais bob un ohonynt i gyflwyno pob un o'r pwyntiau—ac rydych yn gwneud rhai ar eu rhan yn awr. Pan fyddwn wedi dadansoddi'r holl ymatebion, addewais gyfarfod arall iddynt cyn inni eu cyhoeddi a chyfle i siarad â mi'n uniongyrchol, yr holl brif swyddogion tân a'u cadeiryddion, fel y gallwn drafod ffordd ymlaen gyda'n gilydd.
Ni chredaf fod problem ynglŷn â bod yn awyddus i adolygu gwasanaeth sydd wedi bodoli ers amser maith a gweld a oes pethau y gellir eu gwella. Rydym yn trafod rhai pethau gyda diffoddwyr tân, fel y gwyddoch, o ran ehangu eu rolau, gan eu bod wedi llwyddo'n dda iawn i ostwng nifer y tanau ledled Cymru ac rydym yn falch iawn o hynny. Rwy'n talu teyrnged hefyd i waith caled ac ymroddiad holl ddiffoddwyr tân Cymru a'r gwaith a wnânt. Ond mae'n bryd edrych ar sut y cânt eu trefnu ac a wneir hynny yn y ffordd orau. Ac fel y dywedais, mae'n ymgynghoriad go iawn, a phan fyddwn yn gwybod beth yw'r canlyniad, byddwn yn fwy na pharod i adrodd yn ôl.
Ond wrth gwrs, nid oes a wnelo hyn â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn unig, gan fod ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i'r ymgynghoriad, er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb yn y Papur Gwyn—yn amlwg, credaf y bydd hyn yn digio pobl ledled Cymru—yn dweud bod aelodau presennol o'r awdurdod tân ac achub yn parhau i fod yn atebol i'w hawdurdodau cartref, ond yn y modd y maent yn cyflawni eu rôl, maent hefyd yn atebol i'r etholwyr drwy'r adroddiadau blynyddol y maent yn eu paratoi.
Felly sut rydych yn ymateb i'r datganiad gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn llwyr gefnogi'r dymuniad i osgoi unrhyw newidiadau andwyol i adnoddau neu weithgarwch rheng flaen, a'u bod o'r farn nad oes modd cyflawni hyn drwy rai o'r atebion a gynigiwyd? Mae'n debygol iawn y gallai mecanweithiau cyllidebol sy'n caniatáu i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud y tu allan i endid cyfreithiol yr awdurdod achosi newidiadau sylweddol posibl i wasanaethau, darpariaeth ac adnoddau'r rheng flaen, er anfantais i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a chreu goblygiadau cyfreithiol ac atebolrwydd diddorol pe bai lefelau'r cyllid yn annigonol neu'n arwain at ganlyniadau andwyol.
Felly, yn amlwg, mae hyn yn mynd y tu hwnt i argymhellion sefydliadol yn unig, ac mae'n treiddio'n ddyfnach i ystyriaethau ariannol, ac ystyriaethau cyfreithiol o bosibl. Unwaith eto, sut rydych yn ymateb i bryderon Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ynghyd â phryderon awdurdodau eraill ledled Cymru?
[Anghlywadwy.]—gwasanaeth ymladd tân. Mae amrywiaeth o safbwyntiau wedi eu mynegi, a chyn gynted ag y byddwn wedi dadansoddi'r holl safbwyntiau—rwyf wedi cael trafodaeth bellach, addewais i'r gwasanaethau tân, gyda hwy—a gallwn ddod i rai casgliadau, bydd modd imi adrodd yn ôl i'r Aelod, sydd wedi cael hwyl ar ddarllen rhai o'r pryderon allan i'r Senedd heddiw.
Llefarydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ôl StatsCymru, mae awdurdodau lleol wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiadau tai a ddylai fod wedi arwain at ddarparu 13,355 o dai fforddiadwy, ond mewn gwirionedd, 6,746 yn unig sydd wedi'u hadeiladu, sef ychydig dros 50 y cant o'r hyn y dylem fod wedi'i gael. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae'r ffigur hyd yn oed yn waeth: yn Wrecsam, er enghraifft, 16 y cant yn unig o'r cartrefi fforddiadwy a addawyd mewn datblygiadau a gafodd eu darparu. Mewn rhai achosion, ymddengys mai'r hyn sydd wedi digwydd yw bod—[Anghlywadwy.]—caniatâd cynllunio, wedi negodi eu gofynion tai fforddiadwy i lawr fel y gall y datblygiad fod yn fwy proffidiol yn y pen draw, ac wrth wneud hyn, maent yn bygwth yr awdurdod lleol drwy ddweud y byddant yn mynd at yr Arolygiaeth Gynllunio, nad yw, fel y gŵyr pob un ohonom, wedi'i lleoli yng Nghymru, os na chânt eu ffordd eu hunain. O gofio ein bod wedi colli bron i 7,000 o gartrefi fforddiadwy y dylem fod wedi'u cael oherwydd hyn, a ydych yn hyderus fod y system gynllunio bresennol yn gallu eich helpu i gyflawni eich amcanion mewn perthynas â thai?
Credaf fod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, gan fod yr awdurdodau lleol, sydd, fel y gŵyr pob un ohonom, wedi dioddef—dyma'u nawfed blwyddyn o gyni—wedi colli nifer o sgiliau o bob awdurdod lleol unigol sy'n eu galluogi i wrthsefyll cyflwyniadau cyfreithiol gan ddatblygwyr, er enghraifft, yn enwedig datblygwyr mawr ledled Cymru, nid yn gymaint gyda'r sector busnesau bach a chanolig, ac maent yn ei chael hi'n anodd negodi'r lefelau cywir o dai cymdeithasol a phethau eraill, mewn gwirionedd, o'u cytundebau 106 a'u cytundebau priffyrdd ac yn y blaen. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Rydym yn cael trafodaethau gyda hwy ynghylch datblygu cronfa o adnoddau medrus i alluogi awdurdodau i wrthsefyll y math hwnnw o negodi yn well.
Fel y dywedais, rydym hefyd yn annog y rhai nad oes ganddynt gynllun datblygu lleol cadarn neu gyfredol iawn i roi un ar waith. Byddaf yn edrych ar fframwaith cenedlaethol Cymru i sicrhau bod gennym fframwaith cenedlaethol wedi'i gyfansoddi'n briodol, fel y gall yr awdurdodau lleol weithredu o'i fewn yn fwy cyfforddus, sy'n rhywbeth nad ydym wedi'i wneud eto, ond rydym yn ei ddatblygu. Ac yn ddiweddar, bûm yn siarad gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ynglŷn ag ehangu eu cylch gwaith i gynnwys tai er mwyn eu galluogi i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud hynny.
Felly, mae angen rhoi nifer o gamau ar waith. Rwy'n cydnabod y perygl a amlinellodd yr Aelod. Rydym wedi cael y trafodaethau hynny, a byddaf yn parhau â hwy dros y misoedd nesaf.
Weinidog, gwn nad ydych yn gyfrifol am gynllunio, ond yn amlwg, mae'n hanfodol o ran darparu—
Ydw.
Chi sy'n gyfrifol. O'r gorau, rwyf am barhau gyda fy nghwestiynau felly.
Gellir dadlau nad yw'r system gynllunio yn cyflawni ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i chi fod yn barod i wneud diwygiadau mawr o ran cynllunio yn awr. Mae awdurdodau lleol yn un o'ch cyfrifoldebau hefyd. Nawr, ar hyn o bryd, gwyddom y gall datblygwyr mawr bob amser fygwth apelio i arolygiaeth gynllunio ynghylch penderfyniadau a hawlio eu costau cyfreithiol yn ôl, ac mae honno'n hawl nad oes gan gymunedau a gwrthwynebwyr lleol, wrth gwrs. Nawr, mae adrannau cynllunio, fel y dywedasoch, wedi wynebu toriadau, ac o ganlyniad, maent yn dibynnu fwyfwy ar ffioedd am eu gwasanaethau fel ffrwd incwm, a chredaf fod hynny'n enghraifft amlwg o wrthdaro buddiannau. Felly, pa gefnogaeth rydych yn ei rhoi ar waith i atal awdurdodau lleol rhag cael eu bwlio gan ddatblygwyr tai i lastwreiddio tai fforddiadwy, a gofynion cynllunio eraill, ac i roi diwedd ar y cytundebau adran 106 di-fflach a allai waethygu rhaniadau cymunedol, fel y gwelsom yn Llundain?
Fel y dywedais, rwy'n cydnabod y broblem a amlinellodd yr Aelod, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau i roi'r sgiliau yn ôl i mewn lle bo angen, ac i rannu sgiliau prin, mewn gwirionedd, ymysg awdurdodau lleol mewn meysydd penodol. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod hefyd yn annog awdurdodau i roi cynlluniau datblygu strategol ar waith, y gall eu CDLl fod yn rhan ohonynt, er mwyn rhoi lefel arall o amddiffyniad iddynt rhag datblygiadau tai hapfasnachol ac wrth negodi rhai o'r datblygiadau llai.
Ond mewn gwirionedd, hoffwn weld newid diwylliannol llwyr mewn awdurdodau lleol. Gan fod y cap ar y cyfrif refeniw tai wedi'i ddiddymu, gallant bellach fenthyca er mwyn buddsoddi mewn tai cymdeithasol y maent yn eu hadeiladu eu hunain. Felly, ni fyddent yn chwilio am ddatblygwr i gael datblygiad fforddiadwy cyffredinol, gyda rhywfaint o dai cymdeithasol ynddo—byddent yn ceisio prynu'r tir yn orfodol, ac adeiladu cymuned gynaliadwy eu hunain, gan gael gwared ar y broblem. Fodd bynnag, nid oes ganddynt yr holl sgiliau i wneud hynny ychwaith, felly rydym yn siarad â hwy ynglŷn â rhannu sgiliau prin, fel sgiliau prynu gorfodol, er enghraifft, sgiliau crynhoi tir, sgiliau cynllunio strategol—yr holl sgiliau sydd ynghlwm wrth ailgyflunio rhaglen adeiladu, neu weithio mewn partneriaeth â'u cwmnïau bach a chanolig lleol, i sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy, ac nad ydynt yn wynebu'r broblem ofnadwy hon, fel y gŵyr yr Aelod. Mae'n rhaid i gwmni bach fuddsoddi llawer o arian ymlaen llaw yn y system gynllunio ac efallai y bydd ganddo fwlch ar gyfer ei weithlu, ac mae'n wynebu trafferthion o ran cadw'r sgiliau ac ati.
Felly, rydym yn bwriadu gwneud pethau mewn sawl ffordd. Yn gyntaf oll, annog yr awdurdodau i adeiladu'r tai eu hunain, mewn datblygiadau cynaliadwy y maent yn gosod briffiau cynllunio arbennig ar eu cyfer; gweithio ar y cyd â chwmnïau adeiladu lleol, fel y gallant leddfu'r llif arian, a sicrhau bod ganddynt y cyfrifon adeiladu, ac yn y blaen, y mae llawer o gyd-Aelodau wedi sôn amdanynt dros y blynyddoedd; ac yn drydydd, rhoi cynllun strategol ar waith, ar draws nifer o awdurdodau, sy'n nodi'r safleoedd tai hynny, fel bod y cynnydd yng ngwerth y tir yn sgil hynny yn mynd yn ôl i'r awdurdod lleol yn hytrach nag i boced y datblygwr.
Nid yw'n glir i mi a oes gwahaniaeth rhwng yr awdurdodau lleol sydd wedi trosglwyddo eu stoc dai a'r rheini sydd wedi'i chadw'n fewnol. Ond fe ddychwelaf at hynny maes o law.
Un o lwyddiannau'r sefydliad hwn—a chlod i'r Dirprwy Lywydd yma—yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i eiddo preswyl newydd beidio â bod, yn y bôn, yn lleoedd sy'n creu perygl i fywyd. Nawr, roedd hwnnw'n Fesur a wrthwynebwyd gan ddatblygwyr tai mawr, gan eu bod yn ofni y byddai'n cynyddu'r gost. Ac roedd cyn-gyfarwyddwr Redrow Homes, Steve Morgan, yn feirniadol iawn o hwnnw, a rheoliadau tai eraill, gan ddweud y byddai'n gwneud datblygwyr yn llai awyddus i adeiladu yng Nghymru. Wrth gwrs, dangosodd Grenfell pwy sydd ar yr ochr iawn i'r ddadl honno. Nid oes amheuaeth gennyf fod yn rhaid inni newid o dai o ansawdd gwael fel yr arferent fod i gartrefi newydd gyda'r safonau adeiladu a'r safonau amgylcheddol uchaf. Felly, a wnewch chi roi sicrwydd inni heddiw y byddwch yn cynnal adolygiad Llywodraeth gyfan o'r ddeddfwriaeth gynllunio a rheoliadau cynllunio i sicrhau bod gennym sector tai sydd ymhlith y gorau yn y byd o ran safonau adeiladu a safonau amgylcheddol, ac un lle mae'r datblygwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau i'r gymuned, yn wahanol i'r system sydd gennym ar hyn o bryd?
Gwnaf, rwy'n rhannu ei huchelgais am system sy'n cynhyrchu hynny. Ni chredaf fod angen adolygiad cynhwysfawr arnom; mae gennym nifer fawr o adolygiadau ar waith, mewn gwirionedd. Mae gennym yr adolygiad o dai fforddiadwy—cyfarfûm â'r cadeirydd bore ddoe; nid yw fy synnwyr o amser yn dda iawn, efallai mai bore heddiw oedd hi—yn ddiweddar iawn yn sicr. Cefais sgwrs dda iawn gyda hi ynglŷn â'r hyn rydym yn disgwyl iddi ei gynnwys yn ei hadolygiad. Rwyf wedi cyfarfod â'r gweithgor datgarboneiddio, a chyfarfu fy nghyd-Aelod Lesley â hwy hefyd, i siarad am rai o'r problemau gydag ôl-osod ein stoc dai bresennol, sy'n broblem wirioneddol ar gyfer datgarboneiddio—sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon; ynglŷn â pharhad safon ansawdd tai Cymru i'w hail gyfnod, i godi safon allbynnau carbon, effeithlonrwydd ynni, cyfleustodau ac ati yn y stoc dai bresennol. Mae oddeutu 91 y cant o dai yn cyrraedd safon ansawdd tai Cymru ar hyn o bryd, felly rydym bron â chyrraedd y pwynt lle gallwn ddweud ein bod wedi cyflawni'r cam cyntaf o hynny.
Ceir nifer o bethau eraill hefyd. Rydym yn awyddus i godi'r safon o ran pa fath o dai y dywedwn yn 'Polisi Cynllunio Cymru' y dylid caniatáu eu hadeiladu, mewn perthynas â gofynion o ran gofod ac inswleiddio. Yn bersonol, mae gennyf chwilen fawr yn fy mhen, fel y gwyddoch o bortffolio blaenorol, ynglŷn â sicrhau bod adeiladwyr yn gosod ceblau mewn ystadau i sicrhau y gallant dderbyn band eang o ansawdd uchel, hyd yn oed os na allant ei gysylltu, felly nad oes angen ei ôl-osod, a cheir nifer o bethau eraill o'r fath y mae cynghorau ledled Cymru yn awyddus i'w rhoi ar waith sy'n safonol yng ngofynion adeiladu unrhyw ddatblygiad a gaiff ei adeiladu. Ac yn ychwanegol at hynny, mae gennym lawer o waith yn mynd rhagddo mewn perthynas â safleoedd segur a phroblemau cynllunio, lle rydym yn ceisio darparu llwybrau llyfnach i fentrau bach a chanolig ledled Cymru, fel nad ydynt yn dioddef newidiadau sydyn o ran llif arian pan fyddant yn wynebu anawsterau wrth gynllunio ac yn y blaen. Felly, rydym yn gwneud nifer o bethau gyda Banc Datblygu Cymru, a'r gronfa safleoedd segur ac ati, i ddarparu cyflenwad o arian i adeiladwyr lleol sydd am wneud y peth iawn, fel y gallwn annog y gweithlu lleol i adeiladu'r tai sydd eu hangen ar eu cymunedau eu hunain, yn hytrach na bod yr adeiladwyr mawr yn dod i mewn ac yn adeiladu'r math o gartrefi unffurf nad sydd eu hangen ar ein cymunedau yn fy marn i.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar, codais fater y swm mawr o arian trethdalwyr sy'n cael ei wastraffu mewn perthynas â saga hirhoedlog swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Yr ymateb a gefais gan y Prif Weinidog oedd mai mater i'r cyngor ei hun yw hwn yn bennaf, sef yr ymateb a gawn yn aml pan fyddwn yn codi materion llywodraeth leol yma yn y Siambr, er bod goruchwylio llywodraeth leol yng Nghymru yn amlwg yn rhan o'ch cylch gwaith, Weinidog, a dyna pam fod pob un ohonom yma yn gofyn cwestiynau i'r Gweinidog llywodraeth leol heddiw.
Nawr, ers imi dynnu sylw'r Prif Weinidog at y mater hwn, mae wedi dod i'r amlwg nad £4 miliwn, sef y ffigur a ddyfynnais, yw'r ffigur a wastraffwyd ar saga Caerffili. Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth wedi datgelu bod y ffigur mewn gwirionedd yn fwy na £6 miliwn. Ac eto, mae prif weithredwr y cyngor yn dal i ennill £130,000 y flwyddyn am wneud dim, sef yr hyn y mae wedi bod yn ei wneud dros y chwe blynedd diwethaf. Weinidog, a oes gennych unrhyw amcangyfrif cywir bellach pa bryd y caiff y saga druenus hon ei datrys?
Deallaf o fy nghyfarfod diweddar gydag arweinydd a phrif weithredwr Caerffili eu bod yn disgwyl i'r unigolyn annibynnol dynodedig gyflwyno eu hadroddiad rywbryd ym mis Ebrill. Felly, gallaf drosglwyddo mai dyna maent yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog yn llygad ei le: mater i'r cyngor yn llwyr yw materion cyflogaeth, ac nid ydym mewn sefyllfa i roi unrhyw fewnbwn yn hynny o beth.
Wel, diolch am roi amserlen i mi, sy'n ddefnyddiol. Er fy mod yn derbyn y pwynt rydych newydd ei wneud, a gaf fi nodi hefyd fod hwn yn fater sy'n cyffwrdd â chyflog gormodol weithiau i uwch-swyddogion mewn sawl cyngor yng Nghymru—a llawer ohonynt yn gynghorau Lafur? A gaf fi dynnu eich sylw at y ffaith bod dau gynghorydd yn Nhorfaen wedi ymddiswyddo o'r grŵp Llafur am eu bod yn tynnu sylw at y toriadau posibl y gellid eu gwneud—yn ôl yr hyn a ddywedasant—i'r swm gormodol roeddent yn honni bod cyngor Torfaen yn ei wario ar reoli corfforaethol. Mae Torfaen yn gwario bron i £3 miliwn y flwyddyn ar reoli corfforaethol, sydd bron ddwywaith cymaint â'r hyn a werir ar yr un peth yng nghyngor cyfagos Casnewydd. Weinidog, gyda gwasanaethau cynghorau dan fygythiad oherwydd cyni fel y dywedwch wrthym o hyd, a oes achos i'w wneud dros ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru i weld a yw cynghorau yng Nghymru yn gwario gormod o arian ar gyflogau swyddogion ar yr haen uchaf?
Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi mynd i'r afael â'r mater hwn yn ei gyfanrwydd ar ran awdurdodau lleol a chafwyd ymrwymiad gan y Prif Weinidog, pan fydd y prosesau yng Nghaerffili wedi dod i ben, y byddwn yn cynnal adolygiad o gamau disgyblu ar gyfer haenau uchaf swyddogion awdurdodau lleol. Ni chredaf ei bod yn iawn cymharu dau awdurdod lleol fel y gwnaethoch, gan y bydd nifer fawr o faterion eraill yn effeithio ar sut y mae awdurdod lleol yn strwythuro ei graidd corfforaethol: pa wasanaethau y mae'n eu darparu a pham y gall rhywbeth gostio mwy nag mewn awdurdod lleol arall.
Y gwir yw bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ei chael hi'n wirioneddol anodd oherwydd cyni. Mae eu cyllidebau naill ai wedi aros yn llonydd neu wedi eu torri am y naw mlynedd ddiwethaf. Gwyddom fod pob awdurdod lleol yn ei chael hi'n anodd iawn darparu gwasanaethau lleol gwerthfawr, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud gwaith da o ddewisiadau gwael iawn, yn yr ystyr nad oes unrhyw ddewisiadau da pan fyddwch yn torri gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.
[Anghlywadwy.]—realiti economaidd cyni, a ddisgrifiwyd gennych yn rhan gyntaf eich ateb, ond gall fod yn wir y gall tâl gormodol ar ben uchaf sefydliad olygu nad yw pobl ar y lefelau is yn cael digon o dâl. A gwyddom, o ymchwiliad a gynhaliwyd gan BBC Wales yn 2017, fod y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn talu cyflog sy'n llai na'r cyflog byw go iawn i rai o'u staff. Onid ydych yn credu, Weinidog, ei bod yn bryd ichi edrych ar gyflogau haen uchaf awdurdodau lleol yng Nghymru i weld a allwn sicrhau bod y cynghorau hyn yn talu llai i'w gweithwyr blonegog a mwy i'r gweithwyr ar waelod eu graddfeydd cyflog?
Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb y cwestiwn—a chytunaf yn llwyr—rwy'n cytuno y dylid cael lluosydd. Fel arfer, mae'r ffigur yn 20 rhwng y cyflogau isaf a'r cyflogau uchaf mewn unrhyw sefydliad. Bydd cyngor partneriaeth y gweithlu, a fydd yn cael ei gadeirio ar ei newydd wedd yn ddiweddarach eleni gan y Dirprwy Weinidog, yn ystyried cyflogau ac amodau staff ar draws y sector cyhoeddus, ac nid oes amheuaeth y bydd gan gyngor partneriaeth y gweithlu rywbeth i'w ddweud am y lluosyddion a ddylai fod ar waith.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OAQ53669] yn ôl, felly cwestiwn 4, Jenny Rathbone.