– Senedd Cymru am 3:05 pm ar 2 Ebrill 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar y diweddaraf am drafodaethau'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, rŷm ni wedi gweld ymgais gan y Senedd i geisio llywio'r Deyrnas Unedig o'r moroedd tymhestlog sydd wedi dod yn agos at suddo'n gwlad. Mewn cyfres o bleidleisiau, gwelwyd Tŷ'r Cyffredin yn nesáu’n raddol tuag at weledigaeth wahanol ar gyfer Brexit. Ychydig iawn o amser sydd ar ôl, ond, mewn ychydig ddyddiau, mae'r Aelodau Seneddol wedi llwyddo i gael persbectif sy'n gyffredin i fwy o bobl nag y llwyddodd y Prif Weinidog a'i Chabinet ei wneud mewn bron i dair blynedd.
Gadewch imi ddechrau, felly, a hynny'n anarferol, o bosib, drwy dalu teyrnged i rai o'r Aelodau Seneddol sydd wedi rhoi buddiannau eu gwlad o flaen teyrngarwch pleidiol ac wedi mynd ati o ddifrif i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen a allai sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin, hyd yn oed os yw hynny weithiau'n golygu rhoi eu gyrfaoedd gwleidyddol eu hunain yn y fantol—Aelodau fel Nick Boles ar ochr y Ceidwadwyr, Yvette Cooper a Hilary Benn ar yr ochr Llafur, ac yn wir, Aelodau Plaid Cymru a dynnodd sylw yn ystod y pleidleisio neithiwr at 'Diogelu Dyfodol Cymru', dogfen a gefnogwyd gan y Cynulliad yma fel un ffordd ymlaen drwy hyn oll. Ond mae gormod o Aelodau o hyd, rwy'n ofni, yn chwarae gêm double or quits. Dim ond y dewis y maen nhw'n ei ffafrio y maen nhw'n fodlon pleidleisio drosto, yn hytrach na'r dewisiadau ehangach a fyddai'n arwain at gonsensws i'n hatal rhag ymadael heb gytundeb ac o leiaf yn ein gwarchod rhag y rhan fwyaf o'r niwed economaidd a chymdeithasol a fyddai'n cael ei achosi gan Brexit caled yr ERG.
Ac mae'n hollol glir erbyn hyn mai'r prif rwystr i sicrhau datrysiad gyda chefnogaeth eang yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Llywodraeth yw hon sydd ddim yn fodlon derbyn 'na' fel ateb. Llywodraeth a alwodd y bleidlais ddydd Gwener nid am fod ganddyn nhw unrhyw obaith gwirioneddol o ennill, ond am eu bod eisiau gallu bwrw'r bai ar y Senedd am yr anallu i ddod i gytundeb, yn hytrach nag ar eu hystyfnigrwydd nhw eu hunain. Gweinidogion sy'n meddwl mwy am eu huchelgais arweinyddol eu hunain nag am yr hyn sydd orau i ddyfodol y wlad.
Pleidleisiodd pob un o bleidiau'r wrthblaid yn erbyn cytundeb ymadael cyfreithiol gyfrwymol y byddai bron bob un ohonyn nhw, yn wahanol i'r grwp cyfeirio arbenigol a'r DUP, wedi ymrwymo iddo. Ac roedd hyn oherwydd nad oedd y Llywodraeth hyd yn oed wedi ceisio ymdrin â'r pryderon dilys fod y datganiad gwleidyddol—rhan annatod o gytundeb ymadael y Prif Weinidog—yn rhy amwys ac nad oedd yn rhoi unrhyw warant, yn ystod cam nesaf y trafodaethau, y byddai buddiannau economaidd sylfaenol y DU yn cael eu rhoi yn gyntaf. Yn hytrach, fe gawson nhw wared ar y datganiad gwleidyddol yn llwyr. Pa Lywodraeth allai o bosib gredu y gallai disodli rhestr o ddyheadau amwys gyda dalen wag o bapur erioed argyhoeddi yr amheuwyr bod dyfodol perthynas ein gwlad ag Ewrop mewn dwylo diogel? Mae hon yn Llywodraeth o ystrywiau.
A hyn lai na 48 awr ar ôl i'r Prif Weinidog addo, neu fygwth, ymddiswyddo pe cai ei chytundeb sêl bendith, gan fraenaru'r tir, oni bai bod etholiad cyffredinol a newid Llywodraeth, ar gyfer y Prif Weinidog Johnson, Rabb neu Rees-Mogg, y byddai unrhyw un ohonyn nhw'n fodlon rhoi'r ymgais am sofraniaeth chwedlonol cyn swyddi gwirioneddol, bywoliaethau gwirioneddol ac incwm gwirioneddol. O ganlyniad i'r methiant digyffelyb hwn o arweinyddiaeth a llywodraethu, rydym ni unwaith eto prin wythnos o'r posibilrwydd o gael Brexit heb gytundeb, gyda'r holl anhrefn tymor byr a'r difrod economaidd tymor hir y byddai hynny'n ei olygu. A gadewch imi atgoffa'r cyd-Aelodau o rai agweddau ar realiti gwleidyddol y mae llawer gormod o gyfryngwn Prydain yn eu cael yn anghyfleus.
Nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi unrhyw estyniad os nad oes gennym ni strategaeth glir ar gyfer y ffordd ymlaen, gyda mwyafrif yn y Senedd a Llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu hynny. Fel y gwelais yn Strasbourg y mis diwethaf, mae llawer o wleidyddion ledled Ewrop eisiau cael gwared ar yr ansicrwydd a'r tarfu diddiwedd sy'n ganlyniad i fethiant y sefydliad gwleidyddol yn y DU i ddeall hyd yn oed gwirioneddau sylfaenol trafodaethau rhyngwladol—er enghraifft, bod yn rhaid ichi ddechrau drwy ddeall buddiannau sylfaenol y blaid wrthwynebus ac adnabod ac adeiladu ar feysydd sydd o fantais i'r ddwy ochr, y bydd yn rhaid i'r blaid economaidd wannach wastad ildio mwy, na all neb gael popeth y maen nhw ei eisiau, yn arbennig pan fo rhai o'r amcanion negodi yn eithrio'r ochr arall yn llwyr, a bod yn rhaid ichi bob amser gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethoch chi. Ni fyddai'n rhyfedd iddyn nhw ddod i'r casgliad y byddai'r difrod economaidd i 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd—a fydd yn sylweddol ond y bydd modd ei reoli—ac unrhyw anghytuno gwleidyddol, yn werth eu goddef pe caen nhw rwydd hynt i fynd i'r afael â'u blaenoriaethau eu hunain, nid ein rhai ni.
Mae cytundeb y Prif Weinidog wedi cael ergyd farwol. Nid oes unrhyw obaith, fel sydd wedi ei gadarnhau droeon yn ystod y dyddiau diwethaf, y bydd y DUP yn ei gefnogi, ac ar ôl neithiwr, bydd eiriolwyr ymadael heb gytundeb yn synhwyro buddugoliaeth. Ni fydd yr holl bleidiau eraill ond yn cydsynio iddo os oes cynnydd ynghylch y datganiad gwleidyddol a/neu ail bleidlais gyhoeddus. Mae bygythiad diweddaraf y Prif Weinidog o etholiad cyffredinol—nawr, mae'n debyg, i fod yn gysylltiedig â chynnig o hyder yn ei chytundeb—yn fygythiad gwag. Nid oes ganddi unrhyw awdurdod i ysgrifennu maniffesto nac i arwain ei phlaid, a byddai cystadleuaeth arweinyddiaeth Dorïaidd cyn inni naill ai gwblhau'r cytundeb ymadael neu ymadael yn ddisymwth heb unrhyw gytundeb yn hunanfaldod sylweddol ar y naw.
Os oes estyniad hwy, bydd yn rhaid cael etholiadau Ewropeaidd, ac mae'r dyddiad cau o ran dechrau'r broses ar gyfer yr etholiadau hynny ymhen naw diwrnod. Er efallai nad oes fawr o risg o gyflwyno her gyfreithiol ynglŷn â chyfreithlondeb Senedd Ewrop, mae'n risg nad yw ein cymdogion yn Ewrop yn barod i'w oddef, oherwydd gallai ddiweddu gyda datganiad bod y Comisiwn Ewropeaidd ei hun wedi ei gyfansoddi'n annilys. Maen nhw eisiau ateb y gellir ei weithredu cyn y bydd y Senedd newydd yn cynnull ar 2 Gorffennaf. Byddai hynny, os mai felly y bydd hi, yn diystyru etholiad cyffredinol ac, yn wir, refferendwm.
Nid yw dirymiad yn ffordd hawdd o brynu mwy o amser. Roedd Llys Cyfiawnder Ewrop, yn ei ddyfarniad diweddar yn gwbl glir bod yn rhaid i ddiddymiad fod 'yn ddiamwys a diamod'. Felly, nid yw dirymiad yn ffordd o ddim ond arafu'r broses Brexit er mwyn rhoi mwy o amser ar gyfer refferendwm, cynulliadau dinasyddion neu ailnegodi. Felly, mae ein dewisiadau yn parhau i gyfyngu.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol sicrhau cyfaddawd. Rydym ni'n annog y Senedd i geisio sicrhau consensws sefydlog. Mae pleidleisiau'r dyddiau diwethaf yn dangos cefnogaeth ar gyfer canlyniad gwahanol—perthynas agosach ar ôl Brexit drwy undeb tollau ac aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Er ein bod yn parhau i gredu mai'r canlyniad gorau fyddai perthynas economaidd yn y dyfodol sy'n gwarantu cymryd rhan lawn yn y farchnad sengl ym mhob agwedd ar yr economi yn ogystal â bod yn rhan o undeb tollau, rydym yn croesawu'n gryf yr hyn yr wyf yn ei obeithio yw clymblaid sy'n dod i'r amlwg o blaid y math hwnnw o undeb tollau. Os deëllir yn glir fod hyn yn ychwanegol at yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth y DU eisoes o ran cael cyfatebiaeth i reolau'r farchnad sengl o ran nwyddau ac amaethyddiaeth, fe allem ni gefnogi datganiad gwleidyddol wedi ei ailysgrifennu i adlewyrchu hyn fel y sail ar gyfer derbyn y cytundeb ymadael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos sut y gellid ymgorffori ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r amcanion negodi hyn mewn deddfwriaeth, ac rydym ni'n croesawu awgrym Prif Weinidog y DU a'r Twrnai Cyffredinol yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener diwethaf bod y Llywodraeth yn bwriadu derbyn ymagwedd o'r fath. Byddai canlyniad felly, wrth gwrs, yn ei gwneud hi bron yn sicr na fyddai byth angen y cytundeb wrth gefn. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at David Lidington i annog Llywodraeth y DU ar yr un pryd i ymrwymo i sicrhau bod swyddogaeth statudol i'r gweinyddiaethau datganoledig yn y negodiadau hynny yn y dyfodol.
Yn ogystal â'r ffaith bod canlyniad o sylwedd yn ymddangos yn fwyfwy tebygol, mae cefnogaeth gynyddol o ran cael canlyniad cyfansoddiadol—pleidlais gadarnhau. Rydym ni bob amser wedi cefnogi mwy nag un ffordd o ddatrys yr argyfwng hwn ac mae'n dda gweld y Senedd bellach yn mabwysiadu'r dull hwn. Er ein bod yn dal i gredu mai uno i gefnogi Brexit meddal fydd y ffordd gyflymaf o sicrhau Brexit llai niweidiol, mae'n rhaid i'r Senedd hefyd gefnogi'r dewis o gynnal refferendwm fel dewis arall. Mae cyfaddawd bellach yn hanfodol. Felly, er bod pob dydd heb gytundeb ddiwrnod yn nes at ymadael heb gytundeb, a gyda 12 Ebrill bron ar ein gwarthaf, mae hynny yn awr yn bosibilrwydd gwirioneddol iawn, iawn. Yn yr un modd, os gallai'r Senedd ddod ynghyd â gweithio yn y ffordd yr ydym yn ei hawgrymu, nid ydym ni o bosib mor bell â hynny o sicrhau cytundeb a allai ddileu'r posibilrwydd hwnnw o blymio dros y dibyn, ond nid oes mymryn o amser i'w golli.
Diolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'r datganiad a wnaed. Mae'n rhaid imi ddweud, nid ydym ni wedi dysgu unrhyw beth newydd gan y Llywodraeth o ran y datganiad. Nid wyf yn hollol siŵr pam rydych chi'n teimlo ei bod hi'n gwbl angenrheidiol parhau i wneud datganiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol mor aml pan nad oes gennych chi ddim byd newydd i'w ddweud, ond o gofio eich bod wedi llwyddo i siarad am oddeutu 10 munud i ddweud dim, fe wnaf i geisio gofyn i chi mewn gwirionedd yr hyn yr wyf yn credu sy'n gwestiynau pwysig.
Un peth y gwyddom ni yw hyn: nid oes neb arall yng ngwleidyddiaeth Prydain, heblaw am Lywodraeth y DU, â chynllun manwl ar gyfer ein perthynas yn y dyfodol sy'n anrhydeddu cyfarwyddyd pobl Prydain ac sydd wedi'i negodi gyda'r UE. Bydd cytundeb ymadael y Prif Weinidog yn sicrhau y gallwn ni adael yr UE nawr ar 12 Ebrill. Bydd yn rhoi terfyn ar ryddid i symud. Bydd yn fodd o gael model tollau newydd sy'n ystyriol o fusnesau a ble mae rhyddid i lunio cytundebau masnach newydd ledled y byd. Mae'n cynnwys ymrwymiadau ynglŷn â hawliau cyflogaeth a defnyddwyr, ac o ran yr amgylchedd. Ac, wrth gwrs, byddwn yn gallu gadael y polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin, byddwn ni'n gallu rhoi terfyn ar awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop, ac ni fydd angen ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Rydych chi'n dweud fel Llywodraeth eich bod eisiau rhoi terfyn ar yr ansicrwydd—rwyf innau hefyd, cymaint â chithau—ond dim ond un ffordd sydd yna o roi terfyn ar yr ansicrwydd yn gyflym iawn, a hynny yw pleidleisio o blaid y cytundeb ymadael, y cytundeb sydd wedi ei sicrhau rhwng Prif Weinidog y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Felly, gofynnaf ichi eto, Gweinidog Brexit, fel yr wyf i wedi gwneud droeon yn y Siambr hon: pam na allwch chi gefnogi'r cytundeb a negodwyd, y mae'r UE eisiau ichi ei gefnogi, y mae Llywodraeth y DU wedi llwyddo i'w gyflawni a'i negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd, a fydd yn rhoi terfyn ar yr holl ansicrwydd hwn yr ydych chi'n rhefru'n gyson fod angen inni roi terfyn arno?
Rydych chi wedi dweud bod cytundeb y Prif Weinidog wedi cael ergyd farwol ond, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod o ran cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd, y sicrhaodd fwy o bleidleisiau o ran cefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin nag unrhyw ddewisiadau eraill, gan gynnwys eich hoff ddewis chi o undeb tollau. Nid oes digon o gefnogaeth am ail refferendwm neu farchnad gyffredin 2.0, ond yr hyn sydd gennym ni yw mwy o bobl yn pleidleisio yn y pleidleisiau ystyrlon sydd wedi eu cyflwyno i'r Senedd ar gyfer y cytundeb ymadael, gan gynnwys yn y bleidlais ystyrlon a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, nag ar gyfer unrhyw un o'r dewisiadau eraill hynny yn lle. Felly, byddwn yn awgrymu mai'r hyn sydd ei angen arnom ni mewn gwirionedd yw rhoi terfyn ar y tin-droi ar eich meinciau chi, a chaniatáu rhywfaint o gefnogaeth gan y gwrthbleidiau mewn ffordd gyfrifol er mwyn sicrhau y gallwn ni roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn a symud ymlaen gyda'n bywydau.
Ymddengys eich bod yn ofni etholiad cyffredinol. Nid yw'r Prif Weinidog yn galw etholiad cyffredinol. Rwy'n credu eich bod yn fwy ofnus—. [Torri ar draws.] A dweud y gwir, mae'r rhan fwyaf ohonoch chi'n fwy ofnus o gael Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog na dim arall, a dyna pam fwy na thebyg eich bod yn ceisio wfftio at unrhyw syniad y byddai etholiad cyffredinol yn syniad da. Nid wyf i eisiau gweld etholiad cyffredinol ychwaith; byddai'n well o lawer gennyf weld y Llywodraeth hon yn sicrhau cytundeb ymadael gweddus ar ein cyfer, sef yr hyn y credaf fod gennym ni, sydd, wrth gwrs, yn gyfaddawd.
Nawr, a ydych chi'n derbyn pe byddem yn ceisio gweithredu eich ffordd chi o fynd i'r afael â Brexit, y byddech chi'n bradychu, fel plaid, llawer o'r pethau yr ydych chi wedi addo eu cyflawni o ran yr ymrwymiadau a wnaethoch chi ac y mae eich arweinydd wedi eu gwneud—ac rwy'n cyfeirio at Jeremy Corbyn—yn y gorffennol? Mae wedi sôn am ddatrys y mater hwn o ryddid i symud, gwneud yn siŵr nad yw awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop yn berthnasol yn y DU a pheidio â chaniatáu talu symiau sylweddol o arian i'r UE er mwyn cael mynediad at eu marchnadoedd. Mae wedi dweud pob un o'r pethau hyn ar goedd yn y gorffennol, ac eto am ryw reswm rydych chi'n credu ei bod hi'n dderbyniol gwrthdroi'r holl sylwadau a'r addewidion a wnaethpwyd er mwyn ein cadw ni mewn undeb tollau a fyddai'n atal ein gallu i wneud ein cytundebau masnach rydd ledled y byd—un o'r pethau y pleidleisiodd pobl o'i blaid yn y refferendwm.
A ydych chi'n derbyn bod eich plaid chi, Plaid Lafur Cymru, yn ddim byd ond plaid 'aros' sydd eisiau ceisio ein cadw wedi ein clymu i'r UE ac sydd eisiau gwrthdroi'r canlyniad ac yn sicr nid gweithredu canlyniad refferendwm mis Mehefin 2016, ble pleidleisiodd pobl Cymru ac etholaeth y Gweinidog ei hun i adael yr UE? Wn i ddim amdanoch chi, ond rwy'n ddemocrat, ac rwy'n credu pan fo pobl Cymru yn pleidleisio mewn refferendwm, y dylem ni ufuddhau i'w cyfarwyddiadau fel Aelodau o'r Cynulliad hwn, ac y dylai ein Haelodau Seneddol wneud yr un peth hefyd. Mae'n ymddangos i mi mai'r cwbl yr ydych chi'n ceisio ei wneud yw llesteirio'r broses o gyflawni ar y cyfarwyddyd hwnnw drwy beidio â chefnogi cytundeb y Prif Weinidog, a fydd yn anrhydeddu cyfarwyddyd pobl Prydain a phobl Cymru a bleidleisiodd i adael yr UE.
Felly, pryd fyddwch chi'n newid eich cân? Rydych chi'n dweud wrth bawb arall i gyfaddawdu. Pryd wnewch chi gyfaddawdu a derbyn bod cytundeb o gyfaddawd yn cael ei gynnig sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm ac a fydd yn sicrhau ein bod yn gadael yr UE mewn modd trefnus, gyda digon o amser i allu negodi perthynas newydd ar ôl diwedd y cyfnod ymadael hwnnw?
Wel, fe wnaf i wrthsefyll y demtasiwn i wneud y sylw amlwg ynghylch cynnwys newydd, ond mae'n ofid imi ei fod yn teimlo ei bod hi'n amhriodol i'r Cynulliad gael cyfle i drafod yr hyn yw'r mater pwysicaf y mae'r rhan fwyaf o'n hetholwyr yn ei wynebu, gan gynnwys ei etholwyr ei hun, ar adeg pan fo'r sefyllfa sy'n wynebu'r Senedd ac yr ydym ni yn ei hwynebu yma yng Nghymru mor enbydus. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn edrych i'r lle hwn er mwyn trafod sut rydym ni'n teimlo y dylai'r broses hon ddatblygu er budd gorau Cymru. Rwy'n croesawu'r cyfle i gael y drafodaeth hon gydag ef yn y Siambr.
Mae'n gwneud sylwadau ynglŷn â chefnogi cytundeb y Prif Weinidog. Mae cytundeb y Prif Weinidog yn cynnwys dwy ran, er y byddai'n hoffi inni gredu ar hyn o bryd nad yw ond yn cynnwys un rhan. Ond fe wyddom ni am y diffygion sylfaenol yn y datganiad gwleidyddol: nid yw'n cynnwys yr ymrwymiad hwnnw i undeb tollau parhaol, tymor hir, nid yw'n cynnwys ymrwymiad llawn i gael cyfatebiaeth o ran rheoleiddio gyda'r farchnad sengl. Yn y bôn nid yw er budd Cymru. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ein bod yn edrych ar beth sy'n digwydd yn y Senedd ac rydym ni'n gweld lle mae consensws, neu ymdeimlad o gyfaddawd, yn dechrau dod i'r amlwg.
Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud nifer o ymrwymiadau yn ogystal â beth sydd yn y datganiad gwleidyddol, nad ydyn nhw yn y datganiad. Pe baen nhw yno—ymrwymiadau ynghylch cyfatebiaeth rheoleiddiol ddeinamig gyda'r farchnad sengl a'r trefniant hwnnw ynglŷn â'r undeb tollau y mae Kenneth Clarke ac eraill wedi ei gyflwyno yn y Senedd—ac y byddai modd ei ymgorffori yn y datganiad gwleidyddol newydd, dyna'r math o gytundeb y gallem ni ei gymeradwyo. Rydych chi'n gofyn ym mha fodd ydym ni wedi cyfaddawdu; mae hynny'n gyfaddawd ymarferol. Nid yw'n gwestiwn o lynu at safbwyntiau. Nid yw'n gwestiwn o guddio rhag y gwir, fel mae Prif Weinidog y DU yn ei wneud, ac anwybyddu'r hyn sy'n digwydd ar bob llaw iddi yn y Senedd gydag ychydig dros wythnos i fynd. Dyna yw diffyg arweinyddiaeth. Dyna yw absenoldeb cyfaddawd.
Mae'n dweud ein bod yn ofni etholiad cyffredinol. Rwyf i'n dweud, 'amdani', a dweud y gwir. Byddwn yn croesawu'r cyfle i ddisodli Theresa May gyda Jeremy Corbyn yn y Senedd ac ymgyrchu mewn etholaethau ledled Cymru. Byddwn yn falch iawn o fod yn y sefyllfa honno. Ond gadewch inni fod yn glir ynghylch hynny. Mae'r Prif Weinidog, er ei bod hi'n dweud y gwnaiff hi gysylltu cynnig o hyder â'i chytundeb marw, nid yw hi mewn unrhyw sefyllfa i arwain y Blaid Geidwadol i etholiad cyffredinol. Nid oes ganddi unrhyw awdurdod. Sut fyddai hi'n mynd ati i ysgrifennu maniffesto? Sut fyddai hi'n cynnull Cabinet sy'n chwalu? Mae ganddi gabinet sy'n pleidleisio mewn tair gwahanol ffordd ar bethau. Nid yw hi mewn unrhyw sefyllfa i alw etholiad cyffredinol.
Mae'r Aelod yn holi, yn olaf, am frad. Dyna'r iaith mae'n ei ddefnyddio. Nid wyf i eisiau defnyddio'r iaith honno. Rwy'n credu bod y math hwnnw o iaith yn iaith sy'n iselhau'r ddadl mewn ffordd y gwyddom ni beth yw ei ben draw. Rwy'n derbyn nad dyna oedd y bwriad, ond rwy'n credu y dylem ni fod yn ofalus ynglŷn â'r math hwnnw o iaith. Ond os yw eisiau defnyddio'r gair 'brad', gadewch i mi ddweud beth sydd yn frad: y math o Brexit heb gytundeb y mae'r Prif Weinidog yn ein harwain tuag ato. Bydd hynny'n bradychu'r rhai a bleidleisiodd i adael a'r rhai a bleidleisiodd i aros. Nid dyna a addawyd, ac nid yw hynny'n syndod oherwydd mae'n ganlyniad dinistriol. Ac o ran pob person a bleidleisiodd i adael, ni fyddent yn disgwyl colli eu swyddi o ganlyniad i hynny, ond dyna'r math o sefyllfa y bydd pobl yn ei wynebu yng Nghymru os cyrhaeddwn y sefyllfa honno ddydd Gwener nesaf. A chyfrifoldeb Prif Weinidog y DU yw cydnabod hynny ac arwain clymblaid o gefnogaeth o blaid gwahanol fath o gytundeb.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ysgrifennu at David Lidington i geisio sicrhau swyddogaeth statudol ar gyfer y Llywodraethau datganoledig yn negodiadau'r dyfodol, ond rwyf yn ei chael hi'n syfrdanol mai dim ond nawr y ceir y cadarnhad hwn, bedwar diwrnod ar ôl yr oeddem ni i fod i adael yr UE. Dylai'r Llywodraeth fod wedi cyhoeddi hyn yn amod yn ystod y trafodaethau ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol, yn hytrach nag fel cais ar ôl ildio faint bynnag o rym a oedd gennym ni, oherwydd mae profiad yn dweud wrthym ni na fydd y wladwriaeth Brydeinig ond yn cyfaddawdu os oes gan yr ochr arall rywbeth y mae arni ei eisiau. Ni waeth heb ag apelio am degwch.
Rydym ni bellach dim ond 10 diwrnod o'r diwrnod dynodedig nesaf ar gyfer gadael yr UE. Mae'r dyddiad cau terfynol o ran gwneud penderfyniad yn prysur agosáu ac os ydym ni i ddod o hyd i ateb ymarferol sy'n osgoi trychineb ymadael heb gytundeb, mae Llafur yn mynd i orfod cael trefn arni hi ei hun. Ofer yw disgwyl i'r Blaid Geidwadol gefnogi unrhyw gynigion rhesymol yn San Steffan oherwydd maen nhw wedi gadael y byd go iawn ers amser maith ac yng ngyddfau ei gilydd mewn byd breuddwyd o'u gwneuthuriad eu hunain. Daeth AS Grantham a Stamford, Nick Boles, i'r un casgliad ddoe ac ymddiswyddodd chwip y blaid Dorïaidd o ganlyniad.
O ran y cynigion a gyflwynwyd neithiwr, pleidleisiodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru, yn yr ysbryd o gyfaddawd adeiladol, o blaid tri dewis sy'n dderbyniol i ni fel ffordd ymlaen. Wnaethom ni ddim cefnogi gwelliant Clarke, sy'n galw yn syml am aelodaeth o'r undeb tollau, oherwydd nad yw'n cynnig y gwarantau sydd eu hangen arnom ni o ran yr economi, hawliau gweithwyr a diogelu'r amgylchedd. Pleidleisiodd ein Haelodau Seneddol am y cynnig farchnad gyffredin 2.0 a phleidlais gadarnhau, a chredwn y dylid cyfuno'r ddau ddewis yma fel y gellid cynnal refferendwm rhwng cynllun Brexit ymarferol sy'n seiliedig ar y farchnad sengl ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, byddai'r ddau ddewis hyn wedi cario'r dydd neithiwr pe bai'r holl Aelodau Seneddol Llafur yn eu cefnogi. Mae gan Llafur lawer i ateb drosto yn hyn o beth, ac rwy'n rhyfeddu'n arbennig bod dirprwy arweinydd Llafur Cymru, Carolyn Harris, yn un o'r Aelodau Seneddol i ymatal ar refferendwm, a hyd yn oed yn fwy syfrdanol nad yw Ms Harris ac Aelodau Seneddol Llafur eraill a aeth yn groes i'r chwip wedi colli'r chwip wedyn o ganlyniad.
Y dewis arall a drafodwyd neithiwr oedd cynnig Joanna Cherry, y polisi yswiriant Brexit—rhwyd ddiogelwch wedi'i chynllunio i wneud dirymu erthygl 50 y dewis diofyn yn hytrach nag ymadael heb gytundeb os na chytunwyd i ymadael heb gytundeb neu i ofyn am estyniad erbyn 10 Ebrill, gydag ymchwiliad cyhoeddus llawn i ddilyn i weld a ddylid cynnal refferendwm pellach ar gytundeb Brexit a allai fod yn ymarferol ac ennyn cefnogaeth y cyhoedd.
Awgrymodd y Gweinidog yn ei ateb i mi yr wythnos diwethaf fy mod i wedi rhoi camargraff o'r sefyllfa yn hyn o beth, gan ei fod yn credu fod dirymu erthygl 50 gyda refferendwm pellach posib i ddilyn hyn yn amhosib. Tybed a fyddai'n barod i roi eglurhad ynghylch hyn, oherwydd dywedodd ei gydweithiwr Keir Starmer yn glir iawn ddoe nad oedd yn gwrthod yr egwyddor y tu ôl i gynnig dirymu Joanna Cherry, neu i'w roi mewn ffordd arall: a yw'r Gweinidog yn cytuno gyda Mr Starmer neu ef ei hun yn hyn o beth? Mae'n bwynt syml o resymeg na all yr hawl i ddirymu fod yn unochrog ac yn amodol ar yr un pryd, ac mae arbenigwyr ar gyfraith yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud na fyddai unrhyw dir cyfreithiol i herio dirymu yn y llysoedd Ewropeaidd, gan mai'r unig amodau sydd angen eu bodloni yw'r rheini mewn cysylltiad â dirymu gofynion cyfansoddiadol aelod wladwriaethau. Dywedodd Mr Starmer mai rheswm y Blaid Lafur dros beidio â chefnogi'r cynnig neithiwr oedd oherwydd nad oedd hi'n bryd mynd i'r afael â'r mater eto. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Prif Weinidog Cymru wedi dweud y prynhawn yma y byddai'n well gan y Llywodraeth ddirymu dros beidio â chael cytundeb, ond rwy'n awgrymu'n gryf ei bod hi'n hen bryd bellach mynd i'r afael â'r mater a'i bod hi bellach yn bryd gweithredu.
Hoffwn gloi drwy ofyn i'r Gweinidog ddweud ar goedd beth yw dewis cyntaf Llywodraeth Cymru o ran y dewisiadau sydd bellach ar gael a hefyd a yw'r Gweinidog yn cytuno â Phlaid Cymru, sef, os yw dewis dros Brexit yn y pen draw yn sicrhau mwyafrif, y dylai hyn fod yn destun refferendwm cadarnhau gyda dewis i aros.
Diolch i'r Aelod am nifer o gwestiynau. Rwy'n gobeithio y llwyddaf i wneud cyfiawnder â phob un ohonyn nhw. Yn gyntaf am ei sylw agoriadol, ynghylch yr amddiffyniad statudol ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig yn y trafodaethau, bydd hi'n gwybod o ddatganiadau blaenorol yr wyf i wedi eu gwneud yn y fan yma, ac y mae Prif Weinidog Cymru wedi eu gwneud, y bu hyn yn thema gyson o drafodaethau Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, sef ein bod yn teimlo, o ran y trafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw ynghylch y dyfodol, fod gan Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, swyddogaeth hanfodol.
Roedd y cyfeiriad a wnes yn fy araith yn llythyr a anfonais mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog y DU yn y blwch anfon ddydd Gwener, lle ymrwymodd i roi sail statudol i negodiadau'r datganiad gwleidyddol ei hun—nid negodiadau'r dyfodol yn fwy cyffredinol. Bydd yr Aelod yn gwybod, wythnos neu 10 diwrnod yn ôl, y gwnes i ddatganiad, ac ysgrifennu at David Lidington a Stephen Barclay yn Llywodraeth y DU, yn cynnig geiriad y gellid ei ddefnyddio o ran Bil diwygio'r cytundeb ymadael, a fyddai'n gwneud y gwaith hwnnw, a fyddai'n rhoi modd i'r Senedd oruchwylio, ond a fyddai hefyd yn rhoi swyddogaeth i'r sefydliadau datganoledig yn y gwaith o ddiwygio'r datganiad ei hun. Ar ôl clywed Prif Weinidog y DU a'r Twrnai Cyffredinol yn ymrwymo i rywfaint o hynny, roeddwn yn teimlo ei bod hi'n bwysig ceisio cael ymrwymiad ynglŷn â chydbwysedd hynny, a dyna'r rheswm yr ysgrifennais.
Mae hi'n cyfeirio at y cytundeb rhynglywodraethol. Bydd hi'n cofio efallai mai diben y cytundeb rhynglywodraethol yn wir oedd sicrhau nifer sylweddol o gonsesiynau statudol. A'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw sydd wedi galluogi datblygu fframweithiau rhwng y gweinyddiaethau yn y DU, mewn ffordd sydd, ar y cyfan, wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Roedd hi—a'i chyd-Aelodau, efallai, cyn iddi ymuno â'r tŷ—yn arfer dweud yn gyson ei fod yn fecanwaith ar gyfer dwyn pwerau ymaith. Rwyf eto i glywed am un pŵer ar y rhestr honno o bwerau a ddygwyd ymaith; y rheswm syml iawn am hynny yw oherwydd nad oes unrhyw un.
O ran y pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr, roeddwn yn gobeithio fy mod i wedi ei gwneud hi'n glir yn fy natganiad y byddai gwelliant Clarke, o'i ystyried ynghyd ag ymrwymiadau eraill a wnaeth Prif Weinidog y DU yn dilyn hynny, y byddai angen eu hystyried gyda'i gilydd mewn datganiad gwleidyddol diwygiedig. Rwy'n croesawu sut yr aeth ei chyd-Aelod Seneddol neithiwr ati yn y pleidleisiau hyn, ac fel yr aeth ati'n arbennig i eirioli dros 'Diogelu Dyfodol Cymru' fel egwyddorion y mae Plaid Cymru yn eu cymeradwyo o hyd, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad parhaus hwnnw, hyd yn oed yn Nhŷ'r Cyffredin.
Soniodd am y sylwadau a wnaed gan Keir Starmer ynghylch y dehongliad o benderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos Wightman, sef yr achos perthnasol yn hyn o beth. Mae'r dyfarniad yn glir: bod angen i'r dirymu fod yn ddiamwys ac yn ddiamod, ac nad yw'n fecanwaith y gall aelod-wladwriaeth ei ddefnyddio dim ond er mwyn gohirio proses erthygl 50. Ac mae'r rheswm am hynny yn amlwg, onid yw? Mae yna fecanwaith yn y ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r pŵer i aelod-wladwriaethau eraill gydsynio neu beidio. Pe gallai aelod arfer yr hawl honno'n annibynnol, byddai hynny'n tanseilio hawliau aelod-wladwriaethau eraill. Felly, nid yw'n syndod mai dyna gasgliad y llys.
Ac fe wnaf adleisio, os caf i, sylwadau Prif Weinidog Cymru yn gynharach yn y Siambr: nid dyma'r amser y mae modd mewn difrif gwneud penderfyniad sydd â goblygiadau cyfansoddiadol mor sylweddol. Yn y pen draw, efallai bod casgliad gwahanol ynghylch hynny, ond ar hyn o bryd, nid ydym ni wedi cyrraedd yr eiliad honno o benderfynu lle mai'r dewisiadau eraill yw dirymu neu ddim cytundeb.
Yn wahanol i Darren Millar, rwy'n croesawu'r cyfleoedd hyn, oherwydd mae'n rhoi inni enghraifft arall o ba mor ddi-glem yw'r sefydliad hwn—fel yn wir y mae'r Tŷ'r Cyffredin—o ran y farn boblogaidd. Y broblem sylfaenol a greodd yr anhrefn a'r dryswch hwn yw bod Prif Weinidog y DU o blaid aros, gyda Chabinet sy'n gryf o blaid aros, a Phlaid Seneddol—y Blaid Geidwadol—yn Nhŷ'r Cyffredin sydd â mwyafrif o bobl sydd eisiau aros, bod gennym ni yng Nghymru Lywodraeth sy'n gryf o blaid aros, roedd pob un Aelod Cynulliad Llafur, pob un Aelod Cynulliad Plaid Cymru o blaid aros, ac maen nhw i gyd yn dal i fod. A'r hyn sy'n digwydd yma, gyda'r holl anhrefn a'r dryswch yn Nhŷ'r Cyffredin dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yw bod arhoswyr didrugaredd yn ceisio gohirio'r broses tan, yn y pen draw, maen nhw'n gobeithio, y gellir dad-wneud canlyniad y refferendwm. Mae'r datganiad yn dweud mai'r broblem yw Llywodraeth na all dderbyn 'na' yn ateb—ac wrth gwrs mae hynny'n wir mewn perthynas â chytundeb Theresa May. Ond y tu hwnt i hynny, y broblem yw ei bod yn Llywodraeth na wnaiff dderbyn 'ymadael' yn ateb, ac mae hynny'n broblem gyda Llywodraeth Cymru hefyd. Gwyddom fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, a rhai ardaloedd a gynrychiolir gan ASau Llafur, gan fwyafrifoedd mawr iawn, iawn, o blaid 'ymadael', ac nid oes unrhyw dystiolaeth wirioneddol fod barn y cyhoedd wedi newid yn y ddwy a hanner i dair blynedd diwethaf. Y broblem yw na allwn ni gyflawni ar ganlyniad y refferendwm, a ddigwyddodd er gwaethaf ymdrechion gorau y Llywodraeth, busnesau mawr, y cyfryngau a chymaint o fuddiannau breintiedig eraill o blaid 'aros'. Roedd y llyfryn enwog, a anfonodd y Llywodraeth ar ein traul ein hunain i bob cartref yn y wlad, a oedd yn dweud, heb unrhyw amod neu amwysedd, 'Dyma eich penderfyniad'—i'r bobl —'bydd y Llywodraeth yn gweithredu yr hyn yr ydych chi'n ei benderfynu, heb anwadalu'—y broblem yw nad oes neb sydd mewn sefyllfa i gyflawni eisiau cyflawni, ac ymdrechion cyson y sefydliad, mewn un ffordd neu'r llall, i rwystro'r penderfyniad hwnnw sydd yn y pen draw wedi creu'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw.
O ran y cynigion undeb tollau o wahanol fathau, cyhoeddwyd y pôl piniwn ComRes diweddaraf ynglŷn â hyn ddoe, ac mae 57 y cant o'r cyhoedd yn dweud bod aros mewn undeb tollau yn golygu nad ydym ni wedi gadael. Felly, nid oes unrhyw ddiben breuddwydio, pe byddai Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn ei uchelgeisiau nad ydym ni yn ymarferol yn gadael yr UE, nad yw hynny'n mynd i arwain at ddicter cyhoeddus eang, a allai droi'n annifyr iawn, y byddem ni i gyd—[Torri ar draws.] Nid dweud yr wyf i mai hyn sydd arnaf i eisiau digwydd, ond rydym ni yn gwybod bod yna gyfran sylweddol o'r cyhoedd yn teimlo wedi'u bradychu, nid yn unig o ran y mater penodol hwn, ond o ran amryw o faterion, gan y sefydliad gwleidyddol. Ac roedd y bleidlais Brexit yn gymhleth iawn, ac nid oedd dim ond, i lawer o bobl, am yr UE, ond roedd yn crisialu ymdeimlad o ymddieithrio oddi wrth y prosesau gwleidyddol yn gyfan gwbl. Os nad ydym ni'n cyflawni ar ganlyniad Brexit y refferendwm diwethaf, caiff hynny ei waethygu ymhellach, a phe byddem ni'n cael refferendwm arall, pam fyddem ni'n credu y dylai hynny fod yn bendant os nad oedd yr un cyntaf yn bendant? A ddylem ni ei wneud y gorau o dri? Y gorau o bump? Y gorau o 10? A ddylem ni ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol fel y Nadolig, y gallwn ni ei ddathlu'n gyson bob blwyddyn?
Yn y pen draw, mae hwn yn gwestiwn o ymddiriedaeth rhwng gwleidyddion a phobl, ac yn y bôn, rwy'n credu mai dyna bellach y mae hyn wedi datblygu i fod. Mae'r cyhoedd ym Mhrydain yn teimlo'n gyffredinol—[Torri ar draws.] Ydych, rydych chi yn cael pregeth gennyf i, oherwydd chi sydd eisiau bradychu ymddiriedaeth pobl Cymru a phobl Prydain, oherwydd eich bod yn coleddu barn wahanol iddyn nhw y mae'r Senedd yn San Steffan—
Nid oes angen ichi ymateb i Aelodau sy'n eistedd—nid ydych chi'n gyfrifol am ymateb, Neil Hamilton.
Penderfynodd y Senedd yn San Steffan, pan wnaethpwyd y penderfyniad gyda'r refferendwm, na allent wneud y penderfyniad hwnnw yn San Steffan, am resymau sydd wedi eu dangos yn amlwg ddigon yn yr hyn a welsom ni yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac, felly, y bobl fyddai'n penderfynu. A dywedodd y Llywodraeth yn ddiamwys, 'byddwn yn gweithredu'r hyn y byddwch yn penderfynu arno', ac oherwydd nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny, ac oherwydd nad yw'r sefydliad eisiau gwneud hynny, mae'r dryswch hwn yn parhau.
Felly, rwy'n gobeithio na fydd cytundeb ar 12 Ebrill, oherwydd nid oes unrhyw obaith o unrhyw beth arall ar gael a fydd yn gweithio, ac yna gall Prydain gref a rhydd wneud ei ffordd yng ngweddill y byd gyda gwledydd sydd eisiau gwneud cytundebau masnach gyda ni yn y rhan o'r 85 y cant o'r economi fyd-eang sy'n ehangu, yn wahanol i'r UE, sydd yn awr mewn dirwasgiad.
Wel, mae'n ddrwg gennyf siomi'r Aelod, ond mae'r syniad nad yw'n rhan o'r sefydliad yn eithaf chwerthinllyd, ac yn sicr nid wyf am droi ato ef am unrhyw wersi am ddidwylledd ac ymddiriedaeth, ac rwy'n credu y gwelwn ni ddydd Iau faint mae'n arddel y farn gyhoeddus pan fo pleidleiswyr Casnewydd yn lleisio'u barn. Y pwynt, o ddifrif, y mae'n ei wneud—mae'r syniad bod pobl yn cwmpasu môr a thir i beidio â pharchu canlyniad refferendwm 2016 yn rhan o'r naratif ehangach sydd wedi creu natur annifyr y ddadl ynghylch Brexit yn y wlad hon.
Yr hyn sydd gennym ni mewn gwirionedd yn digwydd, yn y Senedd yn bennaf—ac rwy'n gobeithio ei fod yn gwybod hyn, ac yntau'n gyn-Aelod Seneddol, ac yn cydnabod—yw bod pobl yn ymgodymu â chyfuniad cymhleth iawn o syniadau ynghylch sut orau i barchu'r refferendwm hwnnw mewn ffordd nad yw'n niweidio bywoliaeth unigolion a chymunedau y maen nhw a ninnau yn eu cynrychioli. 'Diogelu Dyfodol Cymru' oedd ein hymgais i wneud hynny—cydnabod canlyniad y refferendwm a disgrifio math o berthynas ar ôl Brexit rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, sy'n gweithio orau er budd Cymru. Ac nid wyf yn credu bod y farn gor-syml yma, i raddau, bod 'gadael yn golygu gadael', fel bod gan hynny ryw fath o ystyr sy'n annibynnol i'r broses gymhleth hon, o unrhyw fudd i'r ddadl o gwbl. Ac fe wnaf i ailadrodd y pwynt a wnes i yn glir wrth Darren Millar, nad yw hi, yn ein hiaith, nid yw hi'n unrhyw ran o arweinyddiaeth gyhoeddus i bedlera geiriau fel 'brad' mewn cyd-destun arbennig o gynhennus. Mae'r rhain yn bobl o ewyllys da sy'n gwneud penderfyniadau anodd mewn amgylchiadau ymfflamychol iawn, iawn, ac fe ddylem ni i gyd wneud ein gorau i geisio ymdrin â'r materion ar y sail honno.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae hi yn bwysig bod gennym ni yn y Siambr hon gyfle i drafod y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod yn symud yn gyflym, yn newid yn gyflym, ac mae ganddyn nhw oblygiadau enfawr ar yr etholwyr yr ydym ni yma i'w cynrychioli, ac, felly, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ddatganiad y Gweinidog ynghylch y sefyllfa bresennol. Rwy'n gwybod hefyd y cafwyd trafodaethau yr wythnos diwethaf—y Prif Weinidog yn Llundain yn trafod amryw faterion. Mae'n hollbwysig bod gennym ni gyfle i ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru am yr hyn sy'n digwydd, ac mae'n arbennig o bwysig ein bod yn edrych ar yr anhrefn yn San Steffan a'r traed moch a welwn ni yn y Senedd. Roedd Darren Millar yn llygad ei le—edrychais ar y ffigurau—y bleidlais ddiwethaf hawliodd y mwyaf mewn gwirionedd. Roedd y ddwy flaenorol, wrth gwrs, yn rhai o'r gwaethaf, ond ni chafodd yr un o'r pleidleisiau hynny neithiwr y nifer yn pleidleisio yn eu herbyn ag a bleidleisiodd yn erbyn cytundeb y Prif Weinidog. Dim un. Collwyd cytundeb y Prif Weinidog o 58, a dyna'r gorau y mae hi wedi gwneud. Roedd y cytundebau hyn neithiwr yn dri, 12 a 21, sef y tri phrif rai, felly mae hi'n amlwg yn agos ac o fewn yr ystod yma.
Ond ceir rhai cwestiynau y mae angen inni fod yn realistig yn eu cylch oherwydd yr hyn nad ydym ni wedi ei drafod eto yw'r posibilrwydd y daw'r cytundeb yn ei ôl, oherwydd rwy'n credu bod Darren Millar yn gywir. Gwelais wyneb Prif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf, ar ddydd Gwener, a chefais yr argraff glir nad oedd hi eto wedi gorffen gyda'r cytundeb hwn. Gallai ddod yn ei ôl, ac fe allai hi lwyddo i ddarbwyllo digon o bobl trwy ddirgel ffyrdd i'w cael nhw mewn gwirionedd i bleidleisio dros y cytundeb hwn. Nawr, os mai dyna'r achos, a bod cytundeb, a allwch chi ddweud wrthyf i pa amserlenni y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio iddyn nhw er mwyn cyflawni dyfarniad ar unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol angenrheidiol a ddaw o ganlyniad i gyflwyno Bil ymadael? Ar ba amserlenni ydych chi wedi cael trafodaethau am y Bil ymadael hwnnw? Oherwydd, yn amlwg, mae'n bosib iawn ein bod yn dal yn gweithio i gyflawni dyddiad 22 Mai ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd, sy'n golygu y bydd gennym ni gyfnod hir o—. Mae gennym ni doriad am dair wythnos. Mae angen inni ddeall pryd fydd angen inni ddod yn ôl a thrafod cynigion cydsyniad deddfwriaethol a goblygiadau'r Bil ymadael hwnnw, yn arbennig oherwydd fy mod i'n gwybod yr awgrymodd Llywodraeth Cymru rai cymalau ynglŷn â'r Bil hwnnw. Nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod a ydyn nhw wedi eu cynnwys eto na goblygiadau hynny.
Hefyd, a allwch chi ddweud wrthyf pa baratoi pellach ydym ni wedi ei wneud ar gyfer ymadael heb gytundeb? Mae pawb yn gwybod ynglŷn â'r gwaith paratoadol. Mae'r UE bellach yn dweud ei fod yn barod—nad yw eisiau hynny, ond ei fod yn barod os ydym yn gadael heb gytundeb. Dywedodd Michel Barnier y bore yma, mewn gwirionedd, ei fod yn credu ein bod yn llawer agosach at Brexit heb gytundeb nag erioed o'r blaen. Felly, lle mae Llywodraeth Cymru arni o ran paratoi ar gyfer ymadael heb gytundeb? A ydym ni mewn sefyllfa bellach lle os yw hynny'n digwydd, y gallwn ni sicrhau ein hunain ein bod ni wedi gwneud popeth posib i amddiffyn Cymru orau allwn ni yn yr amgylchiadau hynny? Rwy'n sylweddoli fod Prif Weinidog Cymru ar sawl achlysur wedi dangos na allem ni fyth ein hamddiffyn ein hunain rhag yr holl bethau allai ddigwydd, ond gallwn edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i liniaru rhai o'r pethau a fydd yn digwydd.
Rwy'n sylweddoli bod y datganiad gwleidyddol yn fan gwan, ac yn bersonol rwy'n credu mai dyna'r maes y mae angen mynd i'r afael ag ef. A allwch chi gadarnhad pa fath o drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, oherwydd mae gennym ni Theresa May yn addo, rydym ni i gyd yn gwybod na fydd hi yno ar ôl y sefyllfa, a'i bod hi'n bosib na chaiff unrhyw ddatganiad gwleidyddol y mae hi'n ei gofleidio ei anrhydeddu? Felly, pa ymrwymiadau sydd gennych chi gan Lywodraeth y DU y byddant yn anrhydeddu unrhyw gytundeb gwleidyddol a wneir, ni waeth pwy yw'r Prif Weinidog yn y blaid Dorïaidd, oherwydd pa un ai Raab neu Michael Gove neu Boris Johnson—rydym ni eisiau i bwy bynnag sydd wrth y llyw, os byddant yn parhau mewn grym, i anrhydeddu ymrwymiad sy'n gweithio i Gymru mewn gwirionedd.
Rwy'n cytuno â chi hefyd ynghylch yr iaith a ddefnyddir, ond fe wnaf i hefyd dynnu sylw, yn anffodus, at yr iaith a ddefnyddiwyd gan Nigel Farage pan ddywedodd ddydd Gwener diwethaf—'Dyma ni yn nhiriogaeth y gelyn'. Roedd yn cyflyru pobl yn erbyn y Senedd a seneddwyr, ac rwy'n credu bod hynny'n warthus i unrhyw wleidydd. Rwy'n gobeithio na fydd neb yn y Siambr hon yn ailadrodd iaith fel hynny naill ai y tu mewn neu y tu allan i'r Siambr hon. Rwy'n falch hefyd eich bod wedi ysgrifennu at David Lidington. Gwyddoch yn iawn fod Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dilyn yr agenda hon ar gyfer ymrwymiad statudol, oherwydd, unwaith eto, os nad oes gennym ni'r sylfaen statudol honno, os nad oes gennym ni'r ymrwymiad a'r gonestrwydd gan Brif Weinidog yn y dyfodol i gyflawni'r math honno o berthynas sydd ei hangen i Gymru gymryd rhan yn y trafodaethau hyn? Nid dyfodol y DU yn unig yw hyn, ein dyfodol ni ydyw, a dyfodol ein dinasyddion. Mae angen inni gael hynny, ac mae angen yr ymrwymiadau hynny arnom ni.
Diolch i David Rees am y cwestiynau hynny; clywais nhw'n dod mewn tri chategori, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, yn gysylltiedig â'r Bil cytundeb ymadael, buom yn gyson fel Llywodraeth yn pwyso ar yr egwyddor y dylid cadw at y confensiynau cyfansoddiadol yn llawn—hynny yw, y cyflwynir cynnig cydsyniad deddfwriaethol i'r Cynulliad, ac rydym ni'n amlwg wedi cael yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU. Ond yr amserlenni yw'r cwestiwn y mae'n holi yn ei gylch, ac rwy'n credu bod hynny'n gwestiwn difrifol. Yr hyn sy'n glir yw, os a phan gyflwynir hynny yn y Senedd, bydd yn amlwg yn mynd drwy'r Senedd mewn cyfnod byr iawn, iawn o amser. Felly, bydd yr hyn a fyddai fel arfer yn cymryd misoedd yn cymryd wythnosau, o bosib llai. Felly, yn amlwg, bydd yr amser a fydd gennym ni yn y fan yma ar gyfer myfyrio, i gydsynio, hefyd wedi ei gwtogi yn gymesur hefyd. Felly, mae'r cyfnod y gallem ni ei ddisgwyl i fwynhau ystyried y pethau hyn yn debygol o gael ei gwtogi yn sylweddol, o ystyried lle'r ydym ni arni ar hyn o bryd. Credaf fod angen inni gydnabod mai dyna yw realiti gwleidyddol y sefyllfa y cawn ein hunain ynddi ar yr unfed awr ar ddeg heb drefniadau sefydlog ar gyfer datrys y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Bydd yn sicr yn cael effaith ar yr amser sydd ar gael inni yn y fan yma i ystyried y cwestiynau pwysig hynny.
O ran pa mor barod ydym ni i adael heb gytundeb, mae'n gofyn: a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posib? Wel, rydym ni'n gwneud popeth a allwn ni, ond ceir cyfyngiadau ar bwerau a chyfyngiadau ar adnoddau, ac mae cyfyngiadau o ran gofynion cyffredinol pethau—sef nad yw rhai pethau, mewn difrif, o fewn ein rheolaeth. Ond mae yna beth wmbreth o waith yn digwydd yn y Llywodraeth ac ailddyrannu adnoddau er mwyn paratoi ar gyfer y math hwnnw o ganlyniad sef y canlyniad diwethaf mae arnom ni eisiau ei weld i Gymru. Ond, fel yr ydym ni wedi dweud yn gyson yn y fan yma, er gwaethaf hynny, ein cyfrifoldeb ni fel Llywodraeth yw gwneud hynny. Ond mae pawb o'r un farn, gobeithio, bod yr arian a'r amser a'r adnoddau a'r ynni hwnnw, er bod angen buddsoddi ynddyn nhw, gobeithio na fydd mo'u hangen maes o law, ac rydym ni'n pendroni, rwy'n credu, ynghylch y dibenion eraill y gelllid bod wedi eu defnyddio ar eu cyfer pe baem ni wedi cael cyfres fwy trefnus o drafodaethau na'r rhai yr ydym ni'n dyst iddyn nhw ar hyn o bryd.
O ran ymrwymiadau parhaus, wel, rwy'n credu, ar un ystyr, bod hynny'n dod yn ôl at sylw dechreuol yr Aelod—sail statudol. Holl ddiben ceisio sail statudol er mwyn cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn y datganiad gwleidyddol, i oruchwylio hynny—sef y geiriad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei awgrymu fel ffordd o ddiwygio'r cytundeb ymadael—holl ddiben hynny yw rhoi'r graddau hynny o sicrwydd. Yn amlwg, yr hyn yr ydym ni'n ei geisio yw perthynas a all oroesi unrhyw unigolyn neu unrhyw grŵp o unigolion—mae hynny'n sail sefydlog yr ydym ni'n gobeithio gallu symud ymlaen arni. A'r rheswm fy mod i'n gwybod bod hynny mor bwysig yw imi deimlo'r ias aeth drwy'r Siambr pan ddywedais y geiriau y Prif Weinidog Johnson, Rees Mogg neu Raab.
A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Gweinidog? Yn wahanol i rai yn y Siambr hon, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bwysig ein bod yn cael cyfleoedd rheolaidd i drafod yr hyn yw'r bygythiad mwyaf yr ydym ni wedi'i wynebu ers degawdau. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr iawn eich cais i rai yn y Siambr hon liniaru tipyn ar y rhethreg ynglŷn â Brexit oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae peth o'r rhethreg a glywn ni yn y fan yma—y sôn am frad, ac ati—yn cael ei chwyddo a'i anelu at gynrychiolwyr etholedig yn gyson.
Dim ond eisiau gofyn oeddwn i, oherwydd nid wyf yn teimlo y rhoesoch chi ateb clir i Delyth Jewell yn gynharach pan ofynnodd ichi: os cytunir ar gyfaddawd yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch marchnad gyffredin 2.0 neu undeb tollau, sy'n wahanol iawn i'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto yn y refferendwm, a ydych chi'n credu bod angen cyflwyno unrhyw gyfaddawd i'r bobl ar ffurf pleidlais gadarnhau?
Wel, ie, diolch am y sylwadau y mae'r Aelod yn eu gwneud o ran iaith a chwyddo'r hyn sy'n digwydd, yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud, yn y lleoedd hyn o ran gwleidyddion yma ac mewn mannau eraill. Rydym ni wedi bod yn glir bod dwy ffordd o ddatrys y gwrthdaro hwn. Un yw'r math o egwyddorion a adlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru': undeb tollau, marchnad gyffredin 2.0, Norwy plws. Mae'r rhai hynny i gyd yn gyfres o drefniadau, perthnasoedd, sydd mewn sefyllfa debyg, ac rwy'n credu, o ran yr union fanylion hynny ar hyn o bryd, y dylai pob un ohonom ni edrych ar ffyrdd o gyfaddawdu ynghylch hynny. Os yw'r Senedd yn cynnig cael pleidlais gadarnhau ar gyfer hynny, byddem yn cefnogi hynny. Ein barn ni, fel Llywodraeth, yw nad yw hynny'n hanfodol, felly, pe byddai modd cytuno ar gytundeb a fyddai'n sicrhau cefnogaeth seneddol ac yn adlewyrchu'r math o egwyddorion yr ydym ni wedi'u disgrifio, nid ydym ni'n credu bod angen cymeradwyaeth, ail refferendwm, i hynny. Ond, yn amlwg, os yw'r Senedd yn credu mai dyna'r ffordd orau o ddatrys y cyfyngder, byddem yn cefnogi hynny.
Diolch yn fawr iawn i chi, Cwnsler Cyffredinol. Diolch.