– Senedd Cymru am 3:01 pm ar 30 Ebrill 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar y wybodaeth ddiweddaraf am negodiadau Brexit. A dwi'n galw ar y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, i wneud ei ddatganiad.
Diolch, Llywydd. Ar yr wyneb, o leiaf, mae llawer wedi newid ers y tro diwethaf inni gael cyfle i ystyried proses Brexit. Rwy’n siŵr bod y rhan fwyaf o’r Aelodau wedi croesawu penderfyniad cyfarfod eithriadol y Cyngor Ewropeaidd i gytuno i ymestyn dyddiad erthygl 50 hyd at 31 Hydref. Mae’r penderfyniad hwnnw’n golygu ein bod ni wedi llwyddo i osgoi, am nawr o leiaf, y peryg o Brexit chaotic, heb gytundeb—sefyllfa a oedd yn gwbl amhosibl i’r wlad baratoi yn iawn ar ei chyfer. Mae wedi rhoi cyfle inni anadlu a chyfle inni ystyried, ond dydy hynny ddim yn golygu’n bendant na fydd Brexit heb gytundeb yn digwydd. Dydy hyn yn ddim byd mwy, ar hyn o bryd, na symud y gorwel ymhellach ymlaen.
Wrth gwrs, fel yr ydw i ac eraill wedi dweud yn glir, rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r canlyniadau tebygol os na fydd cytundeb. Rwyf am fanteisio nawr ar y cyfle i gydnabod yr holl waith caled gan staff ar draws y Llywodraeth a’r sector gyhoeddus yn ehangach dros y misoedd diwethaf er mwyn gwneud yr holl gynlluniau a pharatoadau wrth gefn a oedd yn angenrheidiol. Rydyn ni wedi gweld y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar eu gorau. Yn sgil yr estyniad, rydyn ni wedi addasu dwyster ein paratoadau. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn adolygu hyn yn gyson, ond yn yr un ffordd ag y mae’n rhaid inni baratoi, mae hefyd angen inni reoli’n hadnoddau mewn ffordd gyfrifol ac ymateb pan fo’r manylion yn newid.
Er hynny, ar adeg o gyni mor ddifrifol, pan fo pwysau aruthrol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, mae’n warthus bod yn rhaid dargyfeirio adnoddau fel hyn. I beth? I amddiffyn pobl Cymru rhag bygythiad y gellid bod wedi ei osgoi pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod llawer yn gynt nad oedd modd achub y cytundeb a gafodd ei negodi a gofyn am estyniad hir.
Mae Llywodraeth y DU wedi gwastraffu biliynau o bunnau yn llythrennol ar baratoadau 'dim cytundeb', ar gyflogi staff newydd nad oes ganddyn nhw ddim neu fawr ddim i'w wneud, ar gynllunio systemau technoleg gwybodaeth na fydd o bosib eu hangen arnom ni fyth ac, yn fwyaf nodedig, ar sicrhau capasiti fferi gan gwmni heb longau ac yna talu mwy na £30,000,000 mewn iawndal i gystadleuwyr a dramgwyddwyd, i gyd mewn ymdrech ofer i ategu haeriad y Prif Weinidog fod canlyniad 'dim cytundeb' yn dderbyniol—rhan o'i strategaeth negodi fethedig sef bod cadw 'dim cytundeb' ar y bwrdd yn cryfhau ei sefyllfa pan mai'r unig fwriad, mewn gwirionedd, oedd cadw ei chydweithwyr ar y meinciau cefn led braich oddi wrthi. Ond er ei bod hi'n ymddangos ar un ystyr fod llawer wedi newid, ni ddylem ni fod ag unrhyw amheuaeth bod yr hanfodion yn aros yr un fath.
Hyd yn hyn, nid oes mwyafrif yn y Senedd ar gyfer unrhyw ffordd glir ymlaen. Mae'r trafodaethau rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid yn dal yn hanfodol. Rhaid i'r ddwy ochr ymgysylltu'n llawn, yn gyfrifol ac yn greadigol. Mae'n ymddangos bod y Llywodraeth yn gweld y trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau fel cyfle i geisio gwerthu ei chytundeb yn hytrach na cheisio cyfaddawd—cyfaddawd sydd, beth bynnag arall, angen cynnwys ymrwymiad i undeb tollau parhaol ac ymgorffori ymrwymiadau Chequers i alinio rheoleiddiol. Yn bwysicach fyth, nid oes gan fusnesau unrhyw sicrwydd o hyd ynghylch y dyfodol hirdymor—mae buddsoddiad yn cael ei ohirio neu ei ganslo ac mae swyddi'n cael eu colli. Dyma'r gwir ddifrod o ganlyniad i'r modd trychinebus y bu'r Prif Weinidog yn ymdrin â Brexit: bywoliaethau yn cael eu colli, rhagolygon economaidd cymunedau cyfan yn cael eu bygwth a niwed tymor hir i hygrededd y DU yn y dyfodol fel un o wladwriaethau mwyaf blaenllaw y byd. Ac mae hynny'n edrych yn debygol iawn o barhau. Oherwydd er y croesewir yr estyniad i Erthygl 50, mae hefyd yn golygu peryglon sylweddol. Mae'n demtasiwn i gytuno â Guy Verhofstadt, Cydlynydd Brexit Senedd Ewrop, bod chwe mis yn rhy agos i ailfeddwl yn sylweddol ynghylch Brexit ac ar yr un pryd yn rhy bell i annog unrhyw weithredu.
Mae'r hollt yn y blaid Dorïaidd yn troi'n agendor, gyda'r Prif Weinidog yn ei swydd ond heb fod mewn grym. Mae dadrithiad ac anfodlonrwydd â gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn cynyddu, gyda mwy na hanner y boblogaeth, yn ôl pob golwg, yn dymuno cael arweinydd cryf sy'n torri'r rheolau, a bron i dri chwarter yn credu bod angen diwygio ein system ddemocrataidd yn sylweddol.
Mae perygl gwirioneddol, yn hytrach na gwneud cynnydd pendant, y caiff y chwe mis ei dreulio ar ddadlau ymysg y Torïaid, rhagor o barlys Seneddol ac etholiad Ewropeaidd, a fydd, er bod gan Lafur Cymru bob rheswm i fod yn hyderus yn ei gylch, yn chwerw a chynhennus. Mae'n fwy na mis eisoes ers 29 Mawrth. Cyn inni sylweddoli hynny, bydd hi'n fis Medi ac ni fyddwn ni ymhellach ymlaen ac yn wynebu dibyn newydd—ni ddylid caniatáu i hynny ddigwydd.
Mae'r hyn sydd ei angen arnom ni yn glir: cynnydd gwirioneddol ar y negodiadau trawsbleidiol, neu gydnabyddiaeth gyflym nad yw'r Llywodraeth yn barod i symud yn ddigonol i ennill cefnogaeth y gwrthbleidiau, ac, yn gyfochrog, negodiadau difrifol, ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig i lunio cytundeb derbyniol; os nad oes cytundeb, un cyfle pellach i'r Senedd ganfod mwyafrif ar gyfer ffordd ymlaen; a pharatoadau ar gyfer refferendwm posibl, gan gynnwys deddfwriaeth ddrafft a'r camau eraill sy'n ofynnol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Byddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth yn ein gallu i bwyso ar Lywodraeth y DU a'r wrthblaid i gymryd y camau hollbwysig hyn.
Diolch i'r Gweinidog Brexit am gopi ymlaen llaw o'i ddatganiad, er bod yn rhaid imi ddweud, unwaith eto, nad oedd yn ddim ond ailbobiad o ddatganiadau blaenorol y mae wedi eu gwneud—nid oedd dim byd newydd o gwbl yn y datganiad hwnnw yn ychwanegol at y pethau a ddywedodd o'r blaen.
Rwy'n credu ei bod hi braidd yn rhyfedd fod y Gweinidog Brexit a Llywodraeth Cymru yn arddel safbwynt sy'n beirniadu Prif Weinidog y DU am geisio can pen y mwdwl ar faterion drwy geisio cytundeb ar gyfer ei chytundeb ymadael pan rydych chi mewn sefyllfa, a'ch plaid mewn sefyllfa yn San Steffan, i gefnogi'r cytundeb ymadael a rhoi terfyn ar yr ansicrwydd fel y gallwn ni fynd ati i drafod y berthynas â'r UE yn y dyfodol.
Felly, a ydych chi'n derbyn fod y Blaid Lafur yn San Steffan yn rhwystr rhag rhoi terfyn ar yr ansicrwydd hwn, oherwydd y gallu sydd ganddi i gefnogi cytundeb ymadael y Prif Weinidog? Rydych chi wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o afradu biliynau o bunnau yn llythrennol ar baratoi ar gyfer 'dim cytundeb'. Onid dyna'r peth cyfrifol i'w wneud—i baratoi ar gyfer pob posibilrwydd? Gallech feirniadu eich Llywodraeth eich hun yn hawdd am wneud paratoadau tebyg, ac eto, wrth gwrs, ni fyddech chi'n meiddio, oherwydd y gwir amdani yw bod yn rhaid ichi baratoi ar gyfer y digwyddiadau hyn oherwydd nid yw hi yn ein dwylo ni—nid yw hi yn nwylo un ochr, wrth drafod a negodi, i benderfynu beth allai'r canlyniad fod mewn gwirionedd.
Nawr, fe wyddoch chi'n iawn fod yr UE wedi'i gwneud hi'n gwbl glir mai'r cytundeb ymadael yw'r unig gytundeb posib. Rydych chi'n dweud wrth Brif Weinidog a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am fynd ymaith a chyfaddawdu ac eto nid wyf wedi clywed unrhyw gyfaddawd gennych. Nid wyf wedi clywed unrhyw gyfaddawd gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt, a nodwyd ganddi yn sgil canlyniad refferendwm yr UE. Wyddoch chi, dim cyfaddawdu o gwbl—rydych chi'n dal i ganu'r un hen dôn gron ag yr oeddech chi'n ei chanu bron i dair blynedd yn ôl pan gafwyd canlyniad y refferendwm mewn gwirionedd. Nawr, fe wyddoch chi nad oes mwyafrif i'ch cynigion yn Nhŷ'r Cyffredin chwaith, a dweud y gwir. Maen nhw hefyd wedi cael eu gwrthod, y cynigion y mae eich plaid wedi'u cyflwyno. Felly, rhowch ddiwedd ar feirniadu'r Prif Weinidog. Dechreuwch gydweithio a cheisio rhoi diwedd ar yr ansicrwydd hwn. A'r un ffordd y gallwn ni i gyd wneud hynny—yr un ffordd y gallwn ni roi terfyn ar yr ansicrwydd hwn yw cefnogi'r cytundeb ymadael hwnnw.
Nawr, rwyf eisiau gofyn ichi, o ran y feirniadaeth hefyd o'r anfodlonrwydd yn y Blaid Geidwadol—wrth gwrs, mae rhaniad ym mhob plaid, gan gynnwys eich un chi. Mae hyd yn oed rhaniad ychydig seddau o'ch blaen ar y rhes flaen honno. Mae gennych chi rywun sy'n arddel barn wahanol i farn cyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth. Nid wyf yn eich clywed yn beirniadu eich ochr chi eich hun am y rhaniadau hynny. Rydym ni wedi gweld rhaniadau hyd yn oed yn eich llenyddiaeth ar gyfer etholiadau'r UE, pe bai'n rhaid i ni, yn anffodus, eu cael, yn ystod yr wythnosau diwethaf dros y toriad. Felly, rwy'n credu bod bwrw'r bai a cheisio tynnu sylw at rai o'r anawsterau o ran sicrhau cytundeb o fewn pleidiau—y dylech chi gael golwg yn y drych ar adegau, Gweinidog, a dweud y gwir, i weld yr anghysonderau hynny yn eich plaid eich hun. Rydych chi'n dweud bod gennych chi lawer o ffydd ynghylch yr etholiadau Ewropeaidd. Rwy'n credu bod llawer o hynny'n gwbl gyfeiliornus, gan ein bod, wrth gwrs, wedi gweld y problemau, fel yr wyf i newydd dynnu sylw atyn nhw, yn barod.
Nawr, rydych chi wedi tynnu sylw at nifer o wahanol ddewisiadau—pethau y credwch chi fod angen eu gwneud. Rydych chi o'r farn y byddai'n ddefnyddiol paratoi ar gyfer refferendwm posib er nad oedd hi'n glir yn eich araith yn y gynhadledd yn ddiweddar pa un a oeddech chi'n teimlo y dylem ni gael un ar ôl inni ymadael â'r UE, cyn inni ymadael â'r UE, neu beth fyddai eich safbwynt yn bennaf ar y cwestiynau y gellid eu gofyn yn y refferendwm hwnnw. A ydych chi'n derbyn y byddai cynnal refferendwm arall cyn gweithredu canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016 yn sarhad ar ddemocratiaeth, y byddai'n sarhad ar y prosesau democrataidd y mae'r wlad hon wedi eu dilyn bob amser ac y byddai'n sarhad ar y cyfansoddiad? Oherwydd, wrth gwrs, rydym ni bob amser, fel gwlad, wedi gweithredu canlyniadau refferenda ni waeth a yw'r sefydliad gwleidyddol bob amser wedi bod yn fodlon ar ganlyniad y refferenda hynny. Ac yn gwbl briodol hefyd. Felly, a ydych chi'n credu ei bod hi'n ddoeth peidio â gweithredu canlyniad y refferendwm hwnnw pan roedd hi'n amlwg iawn bod Cymru, ac yn enwedig eich etholaeth chi, wedi pleidleisio i adael yr UE?
Wel, dechreuaf drwy ddweud fy mod i yn gresynu at ddiffyg croeso'r aelod i'r cyfle i'r Siambr hon barhau i drafod sut y bydd y pwnc unigol mwyaf y mae unrhyw un ohonom yn ei wynebu, gan gynnwys ei etholwyr ei hun, yn effeithio ar Gymru. Credaf ei bod hi'n bwysig bod y fforwm hwn, y Siambr hon, yn gallu mynegi barn am y sefyllfa sy'n datblygu yn y Senedd, yn Ewrop ac yng Nghymru o ran y mater hollbwysig hwn, a byddwn yn croesawu pe byddai'n cymryd rhan yn y ddadl â'r ysbryd hwnnw.
Mae'n sôn bod fy mhlaid i'n faen tramgwydd yn San Steffan. Y gwir amdani yw y gallai'r Prif Weinidog fod wedi osgoi'r sefyllfa yr ydym ni ynddi a gallai fod wedi osgoi'r sarhad i ddemocratiaeth y cyfeiriodd ato'n anuniongyrchol yn ei sylwadau diwethaf pe bai hi wedi gwneud yr hyn y mynnodd arweinyddiaeth genedlaethol y dylai ei wneud a pheidio â cheisio tawelu'r carfanau sy'n cystadlu yn ei phlaid ei hun, ond ceisio ymestyn ar draws Tŷ'r Cyffredin ac ar draws y wlad, mewn gwirionedd, er mwyn ceisio canfod, er mor anodd y byddai, ffurf ar gonsensws yn deillio o ganlyniad refferendwm 2016. Dyna'r dasg a oedd o'i blaen. Cyfrifoldeb arweinyddiaeth genedlaethol oedd hynny, ac mae hi wedi methu â gwneud hynny, ac mae ei sylwadau yntau yn methu â chydnabod hynny. Fe wnaeth hi edrych tuag at i mewn yn hytrach nag edrych tuag allan ar adeg pan mai dyna oedd yr her o'i blaen. Mae'n sôn am gyfaddawdu: rydym ni wedi bod yn gwbl glir ar y meinciau hyn mai'r dasg i'r Llywodraeth a'r wrthblaid yw dechrau ar y trafodaethau hynny gan geisio canfod cytundeb ac y bydd hynny'n gofyn am gyfaddawd. Rydym ni wedi bod yn glir yma ers dros ddwy flynedd a hanner yn y papur y gwnaethom ni ei lunio ar y cyd â Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru ', o'r math o drefniant y byddem yn ei weld fel un sy'n gwarchod buddiannau Cymru yn dilyn Brexit. Rydym ni wedi bod yn gwbl glir bod yn rhaid i'r pethau hynny fod yn rhan annatod o'r trafodaethau hynny ond mae'n rhaid caniatáu i'r trafodaethau barhau i geisio dod o hyd, fel y dywedais yn fy natganiad, i ganlyniad i'r drafodaeth hon, a hynny mewn modd cyflawn, cyfrifol a chreadigol. Ac rwyf yn gwrthod yn llwyr ei farn nad yw safbwynt Tŷ'r Cyffredin wedi newid yn hyn o beth. Y rheswm nad ydym ni ond yn darganfod yn awr beth yw barn Tŷ'r Cyffredin ar y materion hyn yw bod y Prif Weinidog wedi eu hatal yn gyson rhag cael dadl ar hyn mewn fforwm democrataidd drwy osod cyfyngiadau arnyn nhw a olygai mai dim ond ei chytundeb hi—nad oedd byth yn dderbyniol i Dŷ'r Cyffredin a phrin yn dderbyniol i'r rhan fwyaf o'i phlaid—oedd i'w drafod yn Nhŷ'r Cyffredin. Rydym ni bellach ar yr unfed awr ar ddeg yn ymdrin â hyn pan ddylem ni fod wedi bod yn ymdrin ag ef ym mis Mehefin 2016, a'i methiant hi i fynd i'r afael â hynny yn yr ysbryd priodol ym mis Mehefin 2016 sy'n ein rhoi ni yn y sefyllfa hon
Gofynnodd am y gwastraffu arian, ac rwyf yn cydnabod bod arian wedi'i wario yn yr holl Lywodraethau ym mhob rhan o'r DU, ond pwy sy'n rheoli'r penderfyniad hwnnw? Y Prif Weinidog, ac, mewn gwirionedd, mae hi wedi negodi mewn ffordd a oedd yn caniatáu i 'ddim cytundeb' barhau i fod yn bosibilrwydd, gan beidio, yn anghyfrifol, â pharatoi ar gyfer y posibilrwydd hwnnw dros y tair blynedd diwethaf. Ei bai hi yw hynny, nid bai'r Llywodraeth hon. Ac er mor falch yr wyf i o glywed bod yr Aelod wedi gwrando ar fy araith a wnes yn y gynhadledd, efallai pe byddai wedi gwrando ychydig yn fwy—[Torri ar draws.] Efallai pe byddai wedi gwrando ychydig yn fwy astud y byddai wedi clywed yr ateb i rai o'r cwestiynau y mae wedi eu holi heddiw.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Dechreuaf gyda materion yr ydym ni'n cytuno arnyn nhw. Fe hoffwn i ategu eich geiriau o ddiolch i staff Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus sydd wedi bod yn gweithio mor ddiwyd i baratoi Cymru ar gyfer y posibilrwydd trychinebus o Brexit heb gytundeb. Gwerthfawrogir eu gwaith caled. Cytunaf â chi hefyd ei bod hi'n gywilyddus bod adnoddau'n cael eu gwastraffu ar baratoi ar gyfer digwyddiad a ddylai fod wedi cael ei ddiystyru o'r cychwyn. Mae'n arbennig o anodd meddwl sut y gellid bod wedi gwario'r arian hwn fel arall, o gofio bod ein gwasanaethau cyhoeddus o dan y fath bwysau ariannol o ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth Prydain.
Mae gweithredoedd Prif Weinidog y DU yn hyn o beth yn gwbl warthus, gan afradu arian er mwyn tawelu'r eithafwyr yn ei phlaid ei hun—arian y gellid bod wedi ei wario fel arall ar y GIG, ar ysgolion, ar wella seilwaith, ar wella bywydau pobl. Mae'n dangos nad yw lles dinasyddion Cymru yn golygu dim i'r wladwriaeth Brydeinig esgeulus ac mai'r unig ffordd o sicrhau ein dyfodol ein hunain yw drwy ei roi yn ein dwylo ein hunain fel gwlad annibynnol. Nid yw San Steffan yn gwneud unrhyw gymwynas â'i hun ar hyn o bryd.
Ond, Gweinidog, fe hoffwn i droi at eich beirniadaeth o hyd estyniad Erthygl 50 fel un nad yw'n ddigon byr i orfodi canlyniad nac yn ddigon hir i ailfeddwl am yr ymgais ffaeledig. Gofynnais ichi ar 30 Mawrth pa mor hir y credech chi y dylai'r estyniad fod, ond fe wnaethoch chi ddewis peidio ag Fcyhydateb fy nghwestiwn. Bryd hynny, roeddech chi'n dibynnu ar amwysedd strategol yn hytrach na datgan barn, ac mae'n eironig eich bod bellach yn feirniadol o eraill am wneud yr un peth. Roedd Plaid Cymru yn glir y dylai'r estyniad fod yn un hir, hyd at ddiwedd 2020, i roi amser a modd i ymdrin â Brexit yn briodol. A ydych chi'n edifar, felly, am beidio â chefnogi ein galwad yn hyn o beth?
Hoffwn hefyd ofyn i chi am rywfaint o eglurder o ran eich honiad eich bod yn rhoi pwysau ar y gwrthbleidiau, hynny yw, eich plaid eich hun, i sicrhau cynnydd gwirioneddol mewn trafodaethau trawsbleidiol. A yw hyn yn golygu bod blaenoriaethau negodi Llywodraeth Cymru yn wahanol mewn rhyw ffordd i rai Jeremy Corbyn, ac, os felly, a allech chi roi manylion i'r Siambr hon o ran yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano'n benodol?
Rydych chi hefyd yn dweud eich bod yn pwyso am drafodaeth gyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Rwyf yn croesawu hyn, ac rwy'n gobeithio eich bod yn llwyddo i sicrhau'r cyd-drafodaethau ystyrlon cyfochrog yr ydych chi wedi'u crybwyll. Wrth gwrs, mewn realiti cyfochrog, byddai'r Blaid Lafur wedi gwneud safiad egwyddorol o ran Brexit a byddai ganddi bolisi clir ynglŷn â chynnal pleidlais gyhoeddus fel bod unrhyw gytundeb yn mynd yn ôl at y bobl i benderfynu a ddylid ei dderbyn neu aros yn yr UE. Yn hytrach, mae gennym ni bolisi annealladwy sy'n ddryslyd ar y naw. Pan ofynnwyd iddo gan newyddiadurwyr y BBC heddiw sut y byddai'n pleidleisio ar y mater ym Mhwyllgor Gweithredu Lleol Llafur, rhoddodd cynrychiolydd Llafur Cymru, Mick Antoniw, ateb a lwyddodd i wneud dim ond creu mwy fyth o ddryswch. Dywedodd ei fod o blaid dilysu unrhyw gytundeb Brexit drwy bleidlais, ond na ddylai hyn fod ar ffurf refferendwm, gan fod refferenda yn rhoi amrywiaeth o ddewisiadau, yn hytrach na bod pobl yn cael dewis syml o dderbyn neu wrthod cytundeb nad yw'n bodoli. Os mai'r diffiniad o refferendwm yw 'dewis rhwng ystod o ddewisiadau', yna nid wyf yn siŵr beth yn union ddigwyddodd ar 23 Mehefin 2016. Yr hyn yr oedd yn ei ddweud am wn i oedd bod y polisi wedi ymffurfio bellach i gefnogi refferendwm mewn gwirionedd—heb ei alw'n hynny—ar yr amod nad yw aros yn ddewis ar y papur pleidleisio. Efallai fy mod i wedi ei gamddeall, felly dyfynnaf ei ymateb. Dywedodd gall refferendwm roi nifer o ddewisiadau i chi. Mewn gwirionedd, fe allech chi ofyn y cwestiwn allweddol, sef a ydym ni eisiau aros yn yr UE ai peidio; gallai dilysu olygu dweud mewn gwirionedd, "Dyma'r cytundeb sydd gennym ni. A ydych chi'n barod i dderbyn y cytundeb hwn a'r trafodaethau hyn?" Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau felly a yw Mick Antoniw yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor hwnnw, neu a yw safiad Llafur Cymru rywsut yn wahanol i safbwynt y Llywodraeth? Nid wyf yn siŵr a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cael pleidlais gadarnhau ar unrhyw gytundeb neu dim ond ar gytundeb nad yw'n cytuno ag ef. Os felly, beth yw'r cyfiawnhad democrataidd dros y safiad hwn?
Yn olaf, croesawaf eich galwad ar i Lywodraeth y DU ddechrau paratoi ar gyfer refferendwm, er nad yw hi'n glir ar hyn o bryd a ydych chi'n dymuno i'r refferendwm hwn ddigwydd mewn gwirionedd ai peidio. Cytunodd y Cynulliad ar 13 Ionawr y dylai gwaith ddechrau ar unwaith i baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus. A allwch chi amlinellu beth mae eich Llywodraeth wedi ei wneud yn hyn o beth, naill ai o ran camau gweithredol neu wrth ddadlau'r achos i Lywodraeth y DU neu'r wrthblaid?
Diolch i'r Aelod am y gyfres honno o gwestiynau. Rwyf yn croesawu ei sylwadau agoriadol, a oedd yn diolch i weision sifil ac i bobl ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru am yr holl waith y maen nhw wedi bod yn ei wneud. Bydd hynny wedi cael derbyniad da iawn gan y rhai sydd wedi bod yn gweithio mor galed dros y cyfnod hwnnw. Ac rwyf hefyd yn croesawu'r modd y mae hi'n dal sylw yn ei chwestiwn ar y berthynas rhwng Brexit a'r paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb yn arbennig a phwysau cyni. Mae'r ddwy her hynny, rwy'n credu, yn rhoi pwysau arbennig o drwm ar bob rhan o'r Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, y trydydd sector a'r sector preifat hefyd, felly rwy'n croesawu'r sylw yna.
O ran y cwestiwn ynghylch hyd, roeddwn i mewn gwirionedd yn dyfynnu sylw Guy Verhofstadt ynglŷn â'r hyd. Bydd hi'n gwybod ein bod ni wedi nodi, yn ein barn ni, fod ailnegodi’r datganiad gwleidyddol i adlewyrchu'r math o egwyddorion a osododd ei phlaid hi a minnau ar y cyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn rhywbeth y gellid ei wneud mewn amser cymharol fyr pryd na fyddai angen estyniad mor hir â hynny—y math o estyniad a roddwyd bellach gan y Cyngor Ewropeaidd. Ond mae'n amlwg, yn yr un modd, bod bodolaeth yr estyniad hwnnw yn adlewyrchu, rwy'n credu, ar eu rhan nhw, ymdeimlad o flinder o ran parhau i drin a thrafod ac, fel y bydden nhw'n ei ddisgrifio efallai, y tynnu sylw oddi ar y materion a'r blaenoriaethau eraill a fydd yn anochel gan ein cydweithwyr yn yr Undeb Ewropeaidd. Ond, ar ôl darparu'r estyniad sylweddol hwnnw, y sylw a wneuthum i oedd dweud yn syml fod angen inni barhau i bwyso i sicrhau bod y trafodaethau sydd ar y gweill yn ystyrlon ac nad ydyn nhw'n gweld y cyfnod hwnnw yn gyfnod o ddychwelyd i'r status quo ac efallai i ymdeimlad nad oes angen i ni ymgysylltu. Byddai hynny'n ddehongliad anghywir o'r cyfnod hwnnw o amser, o'r estyniad hwnnw.
O ran y trafodaethau a gawsom ni gyda'r fainc flaen, yn amlwg, trafodaethau o fewn y blaid yw'r rheini, ond mae'n gwbl glir bod y rheini'n adlewyrchu'r egwyddorion a arddelwyd gennym ni yn gyhoeddus yma, ac, eto, fel y dywedaf, ar y cyd â'i phlaid yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', er mwyn cysoni hawliau mewn modd deinamig, cael perthynas agos â'r farchnad sengl ac aelodaeth o undeb tollau, ymysg pethau eraill. A bydd hi'n gyfarwydd, rwy'n gwybod, â'r blaenoriaethau yr ydym ni wedi'u gosod ar y cyd. Rwyf wedi bod yn glir ac rwyf wedi defnyddio ieithwedd statudol a fyddai'n ei gwneud hi'n bosib cynnal trafodaethau cyfochrog â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch datblygu'r trafodaethau ar y datganiad gwleidyddol. Rwy'n gwybod fod hynny'n uchelgais gan Lywodraeth yr Alban hefyd, na fydd yn syndod ganddi glywed. Ac, wedi ysgrifennu at David Lidington ar yr union bwynt hwnnw, fe wnes i hefyd holi eto ynghylch hynny mewn sgwrs gydag ef efallai bythefnos yn ôl i ddweud eto pa mor bwysig oedd hi i hynny barhau. Rwy'n croesawu'r sylw parhaus y mae'r Aelod yn ei roi ynghylch y mater hwn. Credaf, o ran paratoadau yn arbennig, ei sylw terfynol, i fod yn glir—rwy'n credu fy mod i wedi dweud hyn yn gyhoeddus o'r blaen—rydym ni wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth y DU, sy'n bennaf gyfrifol am hyn, a'r Comisiwn Etholiadol, yn gweithredu. Codais hynny eto gyda David Lidington yn yr un sgwrs dim ond dwy neu dair wythnos yn ôl. A gwn hefyd fod Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn iddi ystyried beth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer hynny. Ond bydd yn clywed o'm datganiad y sail statudol ar gyfer y rhan fwyaf o'r camau hynny, a San Steffan sy'n bennaf gyfrifol am y camau hynny.
Wel, nid oedd unrhyw beth newydd yn y datganiad heddiw, ond rwy'n dal i groesawu'r cyfle i gael dadl ar y mater hwn, gan ei fod yn tynnu sylw at ffolineb llwyr safbwynt y Blaid Lafur ar y cytundeb y mae arni ei eisiau gyda'r UE, wedi'i chrynhoi mewn un frawddeg yn y datganiad, sy'n dweud eu bod eisiau cyfaddawd sydd angen cynnwys ymrwymiad o leiaf i Undeb Tollau parhaol yn ychwanegol at ac yn arddel ymrwymiadau Chequers o ran cyfliniad rheoleiddiol.
Wel, am sefyllfa hurt yw hynny. Byddwn yn parhau'n ddarostyngedig i benderfyniadau a wneir gan yr UE, ond lle nad ydym ni wedi cael unrhyw fodd i gymryd rhan ac nad ydym mi wedi cael pleidlais arnyn nhw. Mae'r Comisiwn—. Mae gennym ni ar hyn o bryd un Comisiynydd o 28. Cyngor y Gweinidogion—. Mae gennym ni 8.5 y cant o'r pleidleisiau ar benderfyniadau pleidleisio mwyafrifol amodol ac mae gennym ni oddeutu 10 y cant o'r seddi yn Senedd Ewrop. Petaem ni'n gadael yr UE ar y math o drefniadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u hamlinellu heddiw, ni fyddai gennym ni bleidleisiau o gwbl ar unrhyw un o'r penderfyniadau hynny, ac eto byddem yn ddarostyngedig i ba benderfyniadau bynnag y byddai'r UE yn eu gwneud. Nid yw hynny, beth bynnag ydyw, yn Brexit. Ac mae hyn, rwy'n credu, yn tynnu sylw at ragrith sylfaenol safbwynt y Blaid Lafur, gan eu bod yn honni eu bod eisiau parchu canlyniad y refferendwm pan fo nhw ar y llaw arall yn ymrwymo i bolisi sydd mewn gwirionedd yn creu'r gwrthwyneb llwyr i adael yr UE ac eithrio yn y sefyllfa hyd yn oed yn fwy niweidiol lle na allwn ni ddylanwadu o gwbl ar benderfyniadau y mae gennym ni ar hyn o bryd o leiaf rhan fach i'w chwarae ynddyn nhw.
A gadewch i ni fod yn gwbl sicr na fyddai gan yr UE unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn gwneud penderfyniadau a fyddai o fudd i ni ac yn wir, yn aml iawn, byddai ganddi bob diddordeb mewn gwneud y gwrthwyneb er mwyn ffafrio eu haelod-wladwriaethau eu hunain dros fuddiannau Prydain. Byddem ni mewn gwirionedd mewn sefyllfa waeth na mae Twrci ynddi ar hyn o bryd, ond o leiaf mae Twrci'n barod i dderbyn y cywilydd hwnnw gan fod awydd arni, yn ddamcaniaethol o leiaf, bod yn aelod o'r UE, ond byddem ni i'r gwrthwyneb; byddem ar fin gadael, felly pam ar y ddaear y byddem ni eisiau gwneud yr ymrwymiadau hynny pan fyddem ni yn gyfreithiol y tu allan i'r UE? Mae'n mynd at wraidd yr hyn y dylai gadael yr UE i gyd fod yn ymwneud ag ef—adfer rheolaeth, gwneud penderfyniadau drosom ni ein hunain, gwneud ein deddfau ein hunain a chael pobl Prydain, yn y pen draw, fel y corff sofran sy'n pennu'r ffordd y mae Llywodraethau'n ymddwyn. Oherwydd bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei gwneud hi'n gwbl glir beth yw ystyr yr undeb tollau. Mae'n ymwneud â system o reolau cyffredin—rwy'n dyfynnu o un o'u dogfennau—sy'n mynd y tu hwnt i: yr Undeb tollau fel y cyfryw—gyda'i dariff cyffredin—ac sy'n ymestyn i bob agwedd ar bolisi masnach, megis masnach ffafriol, rheolaethau iechyd ac amgylcheddol, y polisïau amaethyddol a physgodfeydd cyffredin, diogelu ein buddiannau economaidd drwy gael offerynnau di-dariff a mesurau polisi cysylltiadau allanol.
Mae hynny'n bopeth sydd wrth wraidd masnach a byddem yn ildio hynny i gyd o dan gynigion y Blaid Lafur. Mewn gwirionedd, byddem yn wladwriaeth gaeth, fel y mae Boris Johnson wedi ei ddweud o'r blaen. Ac fel y dywedodd Mervyn King, cyn-lywodraethwr Banc Lloegr, mae dadleuon o blaid aros yn yr UE ac mae dadleuon o blaid gadael yr UE, ond nid oes achos o gwbl dros roi'r gorau i'r buddion o aros heb gael y manteision o adael. A dyna'n union fyddai polisi Llafur yn ei olygu.
Ac onid yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi bod y tariff tollau y mae eisiau inni ymrwymo ein hunain iddo am byth yn dreth ar y tlodion mewn gwirionedd, yn dreth ar bobl sy'n gweithio? Mae treth o 15 y cant ar ddillad ac esgidiau sy'n cael eu mewnforio, er enghraifft, treth o 11.5 y cant ar goffi, treth o 17 y cant ar orennau, na allwn ni eu tyfu yn y wlad hon yn unman, mwy nag y gallwn ni dyfu coffi. Ac mae llawer o dariffau di-synnwyr hefyd. Mae tariff o 1.7 y cant ar gleddyfau, cytlasau, bidogau, gwaywffyn a gweiniau; treth o 15 y cant ar feiciau un olwyn. Nawr, wn i ddim faint o fygythiad yw mewnforio beiciau un olwyn i'r diwydiant gwneud beiciau ym Mhrydain, ond ni allaf weld unrhyw gyfiawnhad dros hynny o gwbl. Mae treth o 4.7 y cant hyd yn oed ar ymbarelau gyda choesau telesgopig. Mae 12,160 o'r beichiau hurt hyn ar bobl sy'n gweithio. Ond hefyd, wrth gwrs, mewn sawl ffordd arall, ceir trethi ar fwyd ac angenrheidiau eraill bywyd—Treth Ar Werth o 5 y cant ar danwydd gwres canolog, er enghraifft. Mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n mynd i daro'r tlotaf galetaf, a dyna mae'r Blaid Lafur yn ymrwymo ei hun iddo.
Felly, rwyf yn cytuno â'r Cwnsler Cyffredinol ar un ystyr: mai trychineb y sefyllfa yr ydym ni wedi'i chyrraedd yn awr—a dywedodd hyn wrth ateb llefarydd y Ceidwadwyr—yw nad yw Theresa May wedi gwneud unrhyw baratoadau o gwbl ar gyfer ymdopi â'r dryswch a fyddai yn anochel yn dod yn sgil trefniant o ymadael heb gytundeb. Dylem ni fod wedi treulio'r tair blynedd diwethaf yn llunio, yn fras, ein cytundebau masnach â gweddill y byd. Nid ydym ni hyd yn oed wedi dechrau'r broses honno. A hefyd fe ddylem ni fod wedi dechrau ar y broses o sefydlu'r seilwaith technegol ar gyfer sut i ymdopi â llif masnach ar draws ffiniau'r Deyrnas Unedig, gyda chyfundrefn dariff os byddai un yn cael ei gosod. Ond hefyd—a fy mhwynt olaf yw hyn—rhan annatod o'r hyn y mae'r Blaid Lafur yn ei gynnig yw polisi mewnfudo agored parhaol, i bob pwrpas, gan fod hynny hefyd yn rhan hanfodol o'r pedwar rhyddid y mae'r farchnad sengl yn ei olygu.
Ac rydym ni'n gorffen lle, dybiwn i, y byddai wedi bod yn well gan yr aelod ddechrau. Rwy'n falch ei fod yn croesawu'r cyfle i drafod y mater yn y Siambr. Mae'n sôn am golli dylanwad democrataidd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n sicr yn wir. Ond os caf y dewis rhwng y math o Brexit caled y mae'n amlwg yn ei ffafrio a'r math o Brexit yr wyf i wedi bod yn ei ddisgrifio, sydd, er ei fod yn dod ar draul dylanwad gwleidyddol uniongyrchol, yn gwneud yr hyn a all, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, i ddiogelu swyddi a bywoliaeth pobl Cymru—byddwn ni ar y meinciau hyn bob amser yn dewis yr ail ddewis hwnnw.
Mae ei elyniaeth at undeb tollau wedi'i briodoli i'r dewis amgen cadarnhaol o bolisi masnachu llewyrchus yn y DU, llunio cytundebau masnach rydd gogoneddus gyda chenhedloedd diolchgar ledled y byd sy'n teimlo eu bod wedi'u heithrio gan ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Addawyd 40 o gytundebau masnach inni erbyn y dyddiad ymadael. Rydym ni bellach wedi cyrraedd 29 Ebrill, ac mae gennym ni wyth cytundeb o gydnabyddiaeth ddwyochrog, ac nid oes yr un ohonyn nhw—heblaw am un—yn gwneud unrhyw gyfraniad o bwys i allforion o Gymru, gan beryglu nid dim ond y 60 y cant o allforion Cymru a aiff i'r Undeb Ewropeaidd, ond y 10 y cant o allforion Cymru sy'n mynd i wledydd y lluniwyd y cytundebau masnach hynny gyda nhw. Mae'n mynd yn ôl i ryw orffennol dychmygol pan oedd gennym ni allu rhagorol i negodi cytundeb masnach annibynnol, nad yw'n adlewyrchiad o wirioneddau gwleidyddol y Deyrnas Unedig ers degawdau, efallai ers canrif a mwy hyd yn oed. Ac mae'n ffolineb peryglus i ddarbwyllo pobl, neu geisio darbwyllo pobl, bod hynny'n ddyfodol amgen cyfrifol i'w ddisgrifio iddynt.
Mae'n gorffen drwy sôn am yr effaith ar y tlodion. Wel, y cyfan yr wyf i yn ei ddweud wrtho yw y bydd y math o Brexit y mae'n ei ffafrio, ar unrhyw gyfrif, yn arwain at economi yng Nghymru sydd rhwng 8 y cant a 10 y cant yn llai nag y byddai wedi bod fel arall. Ac nid rhif ar graff yn unig mo hynny, nid ystadegyn yn unig ydyw, nid cyfrifiad mathemategol yn unig ydyw—mae'n golygu swyddi, mae'n golygu bywoliaeth pobl, mae'n golygu safonau byw, mae'n golygu cymunedau, mae'n golygu sefydliadau, ledled Cymru. Byddwn bob amser yn sefyll dros y bobl hynny.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf, y Gweinidog dros Brexit—am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac a gaf i hefyd ategu Delyth Jewell a chefnogi'r sylwadau am waith caled ac ymroddiad y gweision cyhoeddus sy'n gweithio ar hyn, ac sydd wedi bod yn gweithio arno ers misoedd lawer? Rydych chi wedi nodi'n glir yn eich datganiad y llanast yr ydym ni'n ei weld yn sgil methiant Prif Weinidog presennol y DU i arwain y ffordd. Y prynhawn yma, rydym ni wedi clywed y Ceidwadwyr yn ceisio amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn, ac rydym ni wedi clywed UKIP yn ceisio gwadu'r dystiolaeth economaidd sydd wedi ei chyflwyno o ran effaith Brexit ar Gymru, yn enwedig 'dim cytundeb' a rheolau Sefydliad Masnach y Byd, a fyddai'n niweidio economi Cymru yn ddifrifol.
Ond fe wnaethoch chi ganolbwyntio ar rai pethau o ran yr hyn sydd wedi bod yn digwydd, ac rydym ni i gyd yn gwybod mai'r unig beth mewn difrif sydd wedi newid yn wirioneddol ers i ni gyfarfod ddiwethaf yw'r ffaith bod y dyddiad gadael bellach wedi ei ymestyn tan Calan Gaeaf, o bob noson. Ond rydym ni'n dal mewn cyfyngder, oherwydd mae'r Prif Weinidog wedi methu ag argyhoeddi ei phlaid fod ei chytundeb yn deilwng o gael ei gefnogi. Ac rydym ni i gyd yn gwybod pam: gan nad yw mewn gwirionedd yn dda i'r wlad, ac mae angen iddi hi ddechrau newid ei safbwyntiau. Nid yw hi wedi cyfaddawdu o gwbl. Mae ei safbwyntiau yn dal yr un fath ag yr oedden nhw 12 mis yn ôl, ac rwy'n credu mai dyna'r rheswm pam ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Does dim dwywaith am hynny.
Mae ambell gwestiwn yr wyf i eisiau eu gofyn, efallai y tu hwnt i'r trafodaethau, ond sy'n ganlyniad i'r trafodaethau hynny ac sy'n effeithio'n ddifrifol iawn ar Gymru. Mae hyn yn cynnwys, efallai, eich trafodaethau gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y DU ynglŷn â rhai o'r pethau hyn. Beth yw'r sefyllfa o ran cael Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar fasnach ryngwladol fel y gall Llywodraeth Cymru gael llais yn y cytundebau masnachu yn y dyfodol? Oherwydd mae hi'n bwysig, wrth inni gamu i'r dyfodol, fod gennym ni bellach ychydig o amser ychwanegol i wneud rhywfaint o waith i gael fforwm sy'n gweithio dros Gymru, ac nid un sy'n gweithio dim ond i'r blaid Dorïaidd yn Llundain.
A gaf i hefyd edrych ar rai o'r pethau y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud ynglŷn â chymorth gwladwriaethol? Rwy'n deall fod rheoliad yn cael ei gyflwyno a fyddai'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol o ran cymorth gwladwriaethol. Mae honiad ei fod yn fater a gedwir yn ôl, ond mae'n amlwg bod gennym ni lais pwysig iawn o ran goblygiadau defnyddio cymorth gwladwriaethol. Bu sôn hefyd am ei newid i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Ond ble mae'r gynrychiolaeth Gymreig ar hynny? Ble mae cynrychiolaeth Llywodraeth Cymru? Ar awdurdodau cyhoeddus eraill—. Fe gawsom ni ddadl ar y Bil Masnach ynghylch cynrychiolaeth o Gymru neu enwebiad o Gymru i'r awdurdod atebion masnachol. Beth am gyrff eraill, megis y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fudo? Ble mae'r trafodaethau'n mynd rhagddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn lle mae'n rhaid inni sicrhau bod llais Llywodraeth Cymru yn cael ei glywed mewn gwirionedd yn y cyrff hyn sy'n gwneud penderfyniadau pwysig?
Hefyd, mae'r cyd-bwyllgor craffu, sy'n rhan o'r cytundeb ymadael—a yw'r gwledydd datganoledig yn mynd i gael eu cynnwys o gwbl yn y broses hon lle bydd y cyd-bwyllgor yn craffu ar bethau? A ydym ni wedi cyrraedd y sefyllfa honno eto? A yw Llywodraeth y DU yn symud i'r cyfeiriad hwnnw? A ydyn nhw'n cydnabod bod datganoli'n bodoli, ac y dylem ni mewn gwirionedd gael llais yn rhai o'r cyrff hyn, yn enwedig y cyd-bwyllgor craffu hwn, a fydd yn goruchwylio'r cyfnod pontio, os oes un?
Gweinidog, dim ond yr wythnos hon rydym ni wedi gweld ansicrwydd y traed moch ynghylch ffioedd myfyrwyr, lle mae'n amlwg ei bod hi'n bosib y bydd hi'n ofynnol yn awr i fyfyrwyr yr UE dalu ffioedd llawn—ffioedd tramor llawn, a gaf i ychwanegu—sy'n mynd i fod yn faen tramgwydd i bobl ddod yma ac mae'n mynd i effeithio ar sefydliadau addysg uwch Cymru—maes datganoledig. Mae'n mynd i effeithio ar gydweithrediad ymchwil Addysg Uwch Cymru—maes sydd wedi'i ddatganoli. Felly, a ydych chi'n cael trafodaethau ar y materion hynny?
Nid ydych chi wedi sôn llawer yn eich datganiad am y paratoadau ar gyfer ymadael heb gytundeb, heblaw ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol. Ydych chi wedi dysgu gwersi o hynny? Rydym ni wedi pasio 12 Ebrill. Rydym ni wedi mynd y tu hwnt i hynny nawr. Rydym ni'n gwybod mai Calan Gaeaf yw ein dyddiad terfynol nesaf. Ydych chi wedi dysgu gwersi? Neu a ydych chi'n cynnal adolygiad i sicrhau y gall y gwersi a ddysgwyd o ran y paratoadau 'dim cytundeb' hyd at 12 Ebrill gael eu rhoi ar waith os bydd yn rhaid inni—oherwydd efallai y byddwn ni'n dal yn y sefyllfa honno ar 31 Hydref—edrych ar sefyllfa o 'ddim cytundeb'? Ydych chi'n dysgu gwersi? Faint o'r hyn yr ydych chi wedi'i wneud hyd yma y mae modd ei drosglwyddo i fis Hydref?
Nawr, fe wyddom ni am y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi prynu neu brydlesu warws. A fydd hynny'n parhau tan 31 Hydref? Beth yw'r sefyllfa? Ble mae'r stoc y bydd angen inni ei hel o bosib ar gyfer y cynnyrch hwnnw a chynhyrchion eraill? Ble'r ydym ni arni o ran y sefyllfaoedd hynny? A faint mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei wario yn y chwe mis nesaf wrth barhau i gynnal y sefyllfaoedd hynny, wrth inni aros am bosibilrwydd o gytundeb neu ddim cytundeb? Nid ydym ni'n gwybod. Byddai ein busnesau, rwy'n siŵr, eisiau gwybod yn union pa gymorth y byddant yn ei gael gennych hefyd.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am yr ystod honno o gwestiynau. Dechreuodd drwy siarad am yr ymateb seneddol i gytundeb y Prif Weinidog gan adlewyrchu'r egwyddor syml iawn nad oedd yn dda i'r wlad, a chredaf yn yr ymadrodd syml hwnnw ei fod wedi taro'r hoelen ar ei phen. Yn y bôn, dyna'r rheswm pam nad oes cynnydd yn cael ei wneud yn y Senedd.
Gofynnodd gwestiwn ynghylch cymorth gwladwriaethol. Rwy'n credu ei fod wedi gweld yr ohebiaeth a anfonais at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a oedd yn ymdrin yn benodol â'r cwestiwn o gymorth gwladwriaethol a'r ffordd y mae'r offerynnau statudol yn troi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig wedi gweithredu yng nghyd-destun cymorth gwladwriaethol, nad oedd Llywodraeth Cymru, fel y bydd yn gwybod, yn hapus â hi. O safbwynt polisi, o ran y canlyniad yn y pen draw, nod yr offeryn statudol y cyfeiriais ato, mewn gwirionedd, fe wnaethom ni gytuno mai dyna'r canlyniad priodol: parhau i fod yn gyson â'r trefniadau ar gyfer cymorth gwladwriaethol ledled yr UE a chael system ar gyfer y DU gyfan sy'n adlewyrchu hynny. Ond mae'r broses a'r egwyddorion democrataidd—yr egwyddorion datganoli sy'n sail i'r broses honno—rydym ni'n anghytuno â Llywodraeth y DU. Safbwynt Llywodraeth y DU, fel y bydd yn gwybod, yw nad yw cymorth gwladwriaethol yn fater datganoledig, a'n safbwynt ni yw ei fod. Felly, o safbwynt Llywodraeth y DU, roedden nhw wedi mynd rhagddynt yn y ffordd yr oedden nhw wedi'i disgrifio iddyn nhw eu hunain ac i ni fel y ffordd y teimlent y dylai weithio. Roeddem ni'n anghytuno â hynny, rydym ni wedi gwneud hynny'n glir iawn i'r Gweinidog perthnasol ac, yn wir, byddaf yn ysgrifennu yn fuan yn ehangach ar y cwestiwn o barchu'r setliad datganoli mewn trafodaethau fel hynny.
Gofynnodd am sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn y trefniadau ar gyfer monitro'r pontio, a gallaf gadarnhau iddo fod y trafodaethau hynny ar y gweill. Maen nhw wedi bod ar y gweill ers tro. Nid ydyn nhw wedi cyrraedd y canlyniad yr hoffem ni ei weld eto, ond rydym ni'n parhau i bwyso ar Weinidogion Llywodraeth y DU ynghylch hynny fel bod y trefniadau hynny'n amlwg yn adlewyrchu llais pobl Cymru, ond, yn bwysig, eu bod hefyd yn gredadwy ac y gallan nhw ennyn hyder, sydd mor bwysig yn y broses hon yn ei chyfanrwydd.
Yn olaf, gofynnodd am y paratoadau yr ydym ni wedi'u gwneud hyd yma a faint o hynny sy'n berthnasol i sefyllfa bosib o 'ddim cytundeb' sydd wedi'i ohirio tan ddiwedd mis Hydref. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o hynny'n mynd i fod yn berthnasol. Yn amlwg, er hynny, byddai symud, os gwnawn ni hynny, i sefyllfa—. Disgrifiais yn fy natganiad y perygl o symud y llinell derfyn, oni wnes i? Os dyna fydd yn digwydd—ac rydym ni'n gobeithio'n daer nad dyna fydd yn digwydd—yn amlwg, bydd ystyriaethau ynghylch gadael ar adeg wahanol o'r flwyddyn, er enghraifft, ac ar ôl profi oedi pellach o bump neu chwe mis. Felly, mae'r holl ffactorau hynny'n cael eu hasesu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod gennym ni'r darlun llawn.
Hoffwn groesawu'n gryf weithredoedd Llywodraeth Cymru ac, yn benodol, y Prif Weinidog a'r Gweinidog Brexit. Ar adeg o anghydfod gwleidyddol cynhennus, mae arweinwyr Llafur Cymru wedi mynd ati mewn modd digyffro, pwyllog ac adeiladol i ddiogelu economi a phobl Cymru, gan gydnabod penderfyniad gwleidyddol pobl Cymru, a chan anrhydeddu hefyd y safbwynt democrataidd a gefnogwyd gan gynhadledd y Blaid Lafur ac Aelodau, sef, os na ellir parhau i elwa ar y farchnad sengl ac undeb tollau a'r agweddau hynny sy'n amddiffyn yr amgylchedd a gweithwyr, caiff y dewis o gael pleidlais gyhoeddus ei gyflwyno. Ac rydym ni'n gweld yn glir yn San Steffan nad oes, hyd yn hyn, fwyafrif yn y Senedd ar gyfer unrhyw ffordd glir ymlaen, ac, felly, bod posibilrwydd clir o gael pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rwy'n croesawu hyn. Rwyf hefyd yn croesawu'r agwedd gyfrifol a chreadigol y mae Jeremy Corbyn a'r Blaid Lafur wedi'i dangos yn y trafodaethau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd rhwng y Llywodraeth a gwrthblaid ei Mawrhydi. Ond, unwaith eto, mae amser yn prinhau, felly pa beryglon mae'r Gweinidog Brexit yn eu rhagweld os mai Brexit caled heb gytundeb yw'r canlyniad, a beth yw'r canlyniadau tebygol i'm hetholwyr yn Islwyn? Pa wir hyder sydd yna o ran cael Llywodraeth y DU i gytuno i gynnwys Llywodraeth Cymru yn ei thrafodaethau am unrhyw ddiwygio ar y datganiad gwleidyddol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Gofynnodd i mi am effaith Brexit heb gytundeb a'n hasesiad ni o effaith hynny ar Gymru. Wel, bydd hi'n gwybod ein bod o'r farn mai dyna yw'r canlyniad gwaethaf posib i bobl Cymru. Mae'r effaith ar yr economi yn eithriadol o anffafriol—rhwng 8 y cant a 10 y cant yn llai nag y byddai fel arall. Ac mae hynny'n cael effaith wirioneddol ar bobl, busnesau a sefydliadau yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol. Hwn yw'r canlyniad gwaethaf. Clywn yn y Senedd nad oes unrhyw archwaeth am 'ddim cytundeb', ond mae angen inni fod yn gwbl glir, heb argoel o gytundeb arall, bod hynny'n dal i fod yn bosibilrwydd. Er bod yr amserlen yr ydym ni'n ei pharatoi ar gyfer hynny yn sylweddol wahanol, yn amlwg, rydym ni'n dal i adolygu'r paratoadau hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.
Gofynnodd, o ran ei chwestiwn olaf, ynglŷn â pha mor ffyddiog oedd Llywodraeth Cymru y byddai hi'n rhan o ddiwygio'r datganiad gwleidyddol. Ysgrifennais at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, David Lidington, ynghylch hyn, gan gynnig ieithwedd statudol a fyddai'n caniatáu sylfaen ddeddfwriaethol er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gymryd rhan mewn trafodaethau cyfochrog, os mynnwch chi, ynghylch esblygiad y datganiad gwleidyddol, ac ailbwysleisais bwysigrwydd hynny mewn sgwrs ag ef yn ddiweddar iawn.
O ran y berthynas ehangach rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd hi'n gwybod bod adolygiad rhynglywodraethol yn mynd rhagddo o'r cydberthnasau hynny, yr oeddem ni wedi gobeithio y byddai wedi arwain at rai canlyniadau tua'r adeg hon, ond oherwydd bod Llywodraethau wedi dargyfeirio egni i ymdrin ag agweddau eraill ar Brexit, gan gynnwys paratoadau ar gyfer sefyllfa o 'ddim cytundeb', ni fu hynny'n bosib. Ond mae Prif Weinidog Cymru, rwy'n gwybod, wedi bod yn pwyso'n galed iawn i sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cael ei gyflwyno i gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar y cyfle nesaf posib. Ac ynglŷn â bod yn rhan o negodiadau ar gyfer camau negodi Brexit yn y dyfodol, fe wnes i gyfarfod â'r Gweinidog perthnasol yn y Llywodraeth yr wythnos diwethaf, er mwyn pwysleisio iddo bwysigrwydd datrys ein ceisiadau o ran cyfranogiad llawnach yn y strwythurau trafod hynny, ac rwy'n mawr obeithio y bydd hynny'n bwnc trafod yng nghyfarfod nesaf Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE).
Diolch i chi. Diolch.