– Senedd Cymru am 2:23 pm ar 7 Mai 2019.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes yw'r eitem nesaf. Diolch i'r Prif Weinidog am ei atebion. Felly, dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am ddyfodol rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru? Dyfynnwyd ysgrifennydd clwb rygbi iau yn ddiweddar yn dweud bod rygbi ar lawr gwlad, yn ei eiriau ef, yn 'marw ar ei draed' wrth i dimau amatur frwydro i ddenu chwaraewyr. Dywedodd fod tua 30 y cant o dimau yn yr ail a thrydedd adran amatur wedi gohirio gemau'r tymor hwn oherwydd prinder chwaraewyr. Dywedodd fod 80 y cant, wyth allan o bob 10—wedi gorfod gohirio o leiaf un gêm gan na allai'r gwrthwynebwyr ffurfio tîm. A gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog am ba drafodaethau y mae wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch sicrhau bod gan rygbi ar lawr gwlad ddyfodol hyfyw yng Nghymru? A pheidiwch ag anghofio: dwi'n meddwl mai rygbi yw Cymru a Chymru yw rygbi. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am hynny, a byddwn yn sicr yn cytuno â chi o ran y pwysigrwydd a roddwn yng Nghymru i'n camp genedlaethol. Gwn y bydd y Dirprwy Weinidog yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â Chwaraeon Cymru a chyda chydweithwyr yn Undeb Rygbi Cymru i drafod materion sy'n ymwneud â chwaraeon ar lawr gwlad yn eu cyfanrwydd, ond yn benodol i gefnogi rygbi ar lawr gwlad, a gofynnaf iddo ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth am ei drafodaethau diweddaraf.
Trefnydd, mae adroddiad a gyflwynwyd yn ddiweddar i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi bygwth tynnu'n ôl o Fargen Ddinesig Bae Abertawe os na wneir digon o gynnydd dros y misoedd nesaf. Bydd yr Aelodau yn gweld cyffelybiaethau yma â bygythiad tebyg i'r consortiwm addysg, ERW, gan yr un awdurdod. Serch hynny, mae'n amlwg na fyddai croeso i golli cefnogaeth awdurdod lleol o'r fargen ddinesig, gyda'r ansicrwydd a'r cynnwrf fyddai'n deillio o hynny, yn enwedig o gofio'r anawsterau diweddar. Mae'r adroddiad, a ysgrifennwyd gan Brif Weithredwr y Cyngor, Steve Phillips, hefyd yn sôn am ailfodelu tri o'r pedwar prosiect y mae'n eu harwain ar hyn o bryd yn rhan o'r Fargen Ddinesig honno.
Yn bersonol, ni allaf weld pam y byddai unrhyw awdurdod lleol yn dymuno gwrthod cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a allai helpu i sicrhau twf economaidd yn eu hardal. Yn amlwg, fel Aelod Cynulliad rhanbarthol, byddwn yn awyddus i weld Castell-nedd Port Talbot yn manteisio ar y cyllid Bargen Ddinesig sydd ar gael, fel y gall geisio mynd i'r afael â'r gyfres o amgylchiadau economaidd heriol iawn y mae'n eu hwynebu. Gyda Chastell-nedd Port Talbot ar fin gwneud penderfyniad terfynol ar eu haelodaeth o'r Fargen Ddinesig erbyn diwedd y flwyddyn hon, a wnaiff y Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y maent yn ei wneud gyda Chastell-nedd Port Talbot ar y mater hwn? Byddwn hefyd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau pe bai Castell-nedd Port Talbot yn tynnu'n ôl o'r Fargen Ddinesig, y byddai awdurdodau lleol eraill o fewn y rhanbarth wedyn yn gallu cael gafael ar y cyllid a oedd ar gael er budd Castell-nedd Port Talbot.
Wel, mater i arweinwyr y pedwar awdurdod lleol yn y pen draw, wrth gwrs, yw penderfynu ymysg ei gilydd sut y maent am gryfhau swyddfa rheoli rhaglenni'r rhanbarth mewn ymateb i'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mater iddyn nhw hefyd yw ystyried swyddogaethau eu pwyllgorau a blaenoriaethu'r cynlluniau a'r rhaglenni a'r prosiectau y byddant yn eu cyflwyno. Mae'r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi ailadrodd ei ymrwymiad i Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn ddiweddar, ac rydym yn barod, wrth gwrs, i ryddhau arian i brosiectau sy'n dangos yn hyderus eu bod yn addas i'w diben ac yn gallu rhoi gwerth am arian cyhoeddus. Ond, a gaf i awgrymu eich bod yn ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog gyda'ch pryderon penodol, a phan fydd mewn sefyllfa i wneud hynny, y bydd yn ymateb o ran y camau penodol y gallai Castell-nedd Port Talbot eu cymryd, ai peidio?
Ddydd Iau, bydd Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi eu hadroddiad, 'Datrys Heriau Sgiliau'r Dyfodol yng Nghymru', a bydd yn cael ei lansio yng nghyfarfod brecwast ddydd Iau o'r grŵp trawsbleidiol ar brifysgolion yr wyf yn gadeirydd arno. Mae gwahoddiad i'r holl Aelodau i fod yno, a disgwylir eu presenoldeb. Noda'r adroddiad fod ein poblogaeth yma yng Nghymru yn hŷn yn gyffredinol nag yn Lloegr a'r Alban. Hefyd mae gandddi lefelau is o gymwysterau. Mae'r Aelodau wedi sôn llawer yma am effaith bosibl awtomatiaeth a dyfodol gwaith yng Nghymru, a sut y byddai hyn yn effeithio ar fywoliaeth pobl yn gyffredinol, a'u cyflogadwyedd yn benodol.
Cwestiwn allweddol y mae adroddiad Prifysgol Cymru yn ei ofyn yw: sut y gallwn gael mwy o bobl o bob oed yn uwch i fyny'r ysgol sgiliau? Bydd hynny'n destun trafodaeth yn y grŵp trawsbleidiol. A fyddai'r Trefnydd felly'n barod i ymrwymo i ddadl ar y pwnc hwn yn amser Llywodraeth Cymru, fel y gallwn glywed barn y Gweinidog Addysg a'r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a chael cynllun manwl o ran yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud a sut y maent yn bwriadu ymateb i'r adroddiad hwnnw?
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghydweithwyr yn y Llywodraeth yn edrych yn ofalus iawn ar yr adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau'r wythnos hon, ac rwy'n sicr yn disgwyl presenoldeb da ar gyfer eich digwyddiad hefyd. O ran y materion yr ydych wedi'u codi, rydym yn ymateb i lawer ohonynt drwy'r dull gweithredu yr ydym yn ei ddilyn drwy'r rhaglen gyflogadwyedd, sy'n mynd ati mewn ffordd wahanol i'r un a fu gennym o'r blaen, a oedd yn aml yn ymwneud ag ymyrryd yn gynnar i sicrhau bod pobl yn cael y dechrau gorau o ran eu gyrfa. Ond, mewn gwirionedd, rydym yn gwybod bod angen cymorth ar bobl drwy gydol eu gyrfa i uwchsgilio a symud ymlaen i swyddi uwch, a bod ar bobl o bob oed angen y math o gymorth y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei ddarparu. Credaf fod hynny wedi'i grisialu yn y cynllun cyflogadwyedd, ond bydd fy nghyd-aelodau wedi clywed eich cais am ddatganiad a'r cyfle i gael dadl arno yn y Siambr.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â chymorth i bobl anabl sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais gyfarfod ar y cyd rhwng y grwpiau trawsbleidiol ar anabledd ac ar drais yn erbyn menywod a phlant, gan edrych ar effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar fenywod anabl. Lluniwyd adroddiad gennym—neu, yn bwysicach, lansiwyd adroddiad gennym—adroddiad a luniwyd ar y cyd gan Anabledd Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru ar gefnogi pobl anabl yn y meysydd hyn. Mae tystiolaeth yn parhau i ddangos bod pobl anabl yn fwy tebygol o brofi trais, cam-drin a thrais rhywiol yn y meysydd hyn. Ond eto i gyd, mae'r cymorth a'r adnoddau ar eu cyfer yn dal yn gyfyngedig. Gwnaed cyfres o argymhellion—nid oes gennyf amser yn awr i'w rhestru i gyd, ond byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar yr argymhellion hynny ac ymateb yn unol â hynny.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am adroddiad ar gymorth i bobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw yng Nghymru? Oherwydd mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar—6 i 12 Mai. Rydym yn gwybod, er enghraifft, bod ymgyrch Hyderus o Ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn annog cyflogwyr Hyderus o Ran Anabledd i hybu ymwybyddiaeth o fyddardod drwy edrych ar ganolfan cyflogwyr 'Action on Hearing Loss'. Gwyddom fod gwaith a rhaglen iechyd Remploy Cymru yn cynnwys pobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw sydd angen cymorth arnynt. Cysylltwyd â mi'r penwythnos hwn gan COS, y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, sydd wedi'i lleoli ym Mae Colwyn ac sy'n cael ei chefnogi gennyf i, yn siarad am eu prosiect ar ymwybyddiaeth o fyddardod i blant, a'r llu o weithgareddau y maent yn eu trefnu ar draws y Gogledd yr wythnos hon. Ac rydym hefyd yn gwybod—ychydig wythnosau yn ôl, cawsom ddadl ar ddeiseb DEFFO!, llais pobl ifanc fyddar yng Nghymru, pan wnaethant nodi yn 2003 fod Llywodraeth y DU ac yn 2004, y lle hwn, fod y Cynulliad yn cydnabod iaith arwyddion Prydain fel iaith yn ei rhinwedd ei hun. Ond 16 mlynedd yn ddiweddarach, nid ydym wedi gwneud llawer o gynnydd mewn rhai meysydd, ac mae ein haddysg yn gyffredinol, genhedlaeth yn ddiweddarach, yn dal i wneud cam â'n pobl ifanc fyddar. Rhaid rhoi diwedd ar hyn, a rhaid inni wneud rhywbeth am y peth. O ystyried yr holl feysydd hyn, y cynnydd a wnaed, y newyddion da, gwaith y trydydd sector, ond hefyd y problemau sy'n parhau i gael eu hamlygu, galwaf am ddatganiad i gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod yn unol â hynny.
Diolch ichi am godi'r materion hynny. O ran y trais yn erbyn menywod, ac yn enwedig yn erbyn menywod anabl, byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn rhannu copi o'r adroddiad y cyfeiriasoch ato gyda mi, a byddaf yn sicr y gall y Gweinidog perthnasol, felly, archwilio'r adroddiad ac edrych ar yr argymhellion i Lywodraeth Cymru sydd ynddi. Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi dweud y byddai'n fodlon ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth i bobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw ar yr holl faterion yr ydych wedi sôn amdanynt yn eich cwestiwn heddiw.
Rwyf i, fel llawer o bobl eraill, yn pryderu am y modd y caiff pobl ddigartref eu trin yn y wlad hon. Roeddwn yn arswydo o weld Cyngor Caerdydd, sy'n cael ei redeg gan Lafur, yn troi pobl ddigartref allan o barcdir yn Rhodfa'r Amgueddfa. Efallai fod pobl wedi gweld un dyn digartref yn gweiddi gan fod ei eiddo wedi'i daflu i gefn fan, a phwy a ŵyr i ble yr aeth honno. 'Maen nhw wedi cymryd fy myd i, yn y bôn' oedd ei ymateb. Nawr, gwn nad oedd y Gweinidog sy'n gyfrifol am ddigartrefedd yn hapus â'r dull o gosbi a gymerodd ei chyd-aelodau yn y Blaid Lafur ar Gyngor Caerdydd wrth fynd i'r afael â digartrefedd yng nghanol y ddinas. Mae'n debyg ei bod hi, fel minnau, yn meddwl tybed pam yr oeddent fel petai'n cymryd cyngor gan gynghorydd Torïaidd a ddywedodd, 'Tynnwch y pebyll yng nghanol y ddinas i lawr'. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymuno â mi i gondemnio'r camau a gymerwyd gan Gyngor Caerdydd? Ac a gawn ni hefyd ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu arfer dda a thosturiol o ran ymdrin â phobl ddigartref, sydd ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac, wrth gwrs, sy'n cynyddu mewn niferoedd? Byddai gweithredu mewn modd tosturiol wrth fynd i'r afael â digartrefedd hefyd yn golygu diddymu Deddf Crwydradaeth 1824. Oherwydd eu hymreolaeth ychwanegol, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wedi diddymu'r ddeddfwriaeth hynafol hon, sy'n barnu bod cysgu allan a chardota yn drosedd. Allwn ni ddim aros i San Steffan gael gwared ar ddeddfwriaeth sydd wedi bodoli ers bron 200 o flynyddoedd. Mae hwn yn rheswm arall eto pam mae angen datganoli ein system cyfiawnder troseddol yn llawn, er mwyn inni allu datblygu deddfau ymarferol, tosturiol a seiliedig ar dystiolaeth sy'n mynd i'r afael â'r problemau sydd gennym mewn cymdeithas ac nid yn caniatáu ychwanegu atynt.
Rydym yn cydnabod yn glir y cydbwysedd cymhleth ac anodd y mae awdurdodau lleol yn gorfod ei sicrhau rhwng cefnogi unigolion a hefyd ymateb i faterion ehangach sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol, ac mae'r rheini'n heriau y mae'n rhaid i'r heddlu eu hwynebu hefyd. Nid yw cefnogi'r rhai sy'n cysgu allan ar y strydoedd a sicrhau llety iddynt bob amser yn hawdd, ond rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol a gwasanaethau, gan gynnwys yr heddlu, fynd ati i wneud hynny ar sail gwybodaeth am drawma, a sicrhau bod yr unigolyn wrth wraidd unrhyw gamau a gymerir.
Soniasoch am y dull tosturiol hwnnw, ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn hyfforddiant sy'n seiliedig ar seicoleg ar gyfer gweithwyr tai proffesiynol yn y rheng flaen, a byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol hefyd fynd ati i weithredu ar sail gwybodaeth am drawma o ran pob gwasanaeth cyflawni. Bydd gwasanaethau rheng flaen yn aml yn ymdrin ag unigolion sy'n agored iawn i niwed, yn enwedig pobl sy'n cysgu allan, ac os yw'r mater dan sylw yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddefnyddio cyffuriau, mae cynorthwyo'r unigolyn hwnnw i gael y cymorth y mae ei angen arno'n ganolog i unrhyw ymateb. Gwn fod y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol yn cymryd diddordeb mawr yn hyn ac yn dangos arweiniad cryf yn y maes hwn. Mae wedi sefydlu tasglu gyda Chyngor Caerdydd a'r gwasanaeth carchardai, a fydd yn ceisio cynnig llety i bobl sydd yn y sefyllfaoedd bregus iawn hyn, drwy'r model tai cyntaf yng Nghaerdydd.
Yr wythnos diwethaf cefais y pleser o gwrdd â'r Fforwm 'Go Girls, Go Brothers,' pobl, rhieni a phobl ifanc Casnewydd i drafod wyneb yn wyneb am eu profiadau gyda chredyd cynhwysol. Siaradwyd yn rymus am yr effaith ar eu bywydau eu hunain. Un pwynt allweddol a drafodwyd oedd bod rhieni dan 25 oed ar eu colled o £66 y mis ers cyflwyno'r cynllun hwn. Nawr, nid ystadegau ar ddarn o bapur yn unig yw'r teuluoedd hyn, ac mae'n boenus o amlwg bod y polisi niweidiol ac annheg hwn gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn cosbi ac yn caethiwo'r bobl ifanc hyn. A gawn ni ddatganiad a diweddariad ynglŷn â pha bwysau y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar Lywodraeth y DU i newid y polisi hwn, ac a wnewch chi ymuno â mi i ganmol y Fforwm Go Girls, Go Brothers, pobl, rhieni a phobl ifanc Casnewydd am eu hymgyrch benderfynol? Yn sicr, maent yn garfan hynod effeithiol.
Yn sicr, ymunaf â chi i ganmol y sefydliadau hynny am y gwaith a wnânt i rannu eu profiadau real eu hunain a'r heriau y maent yn eu hwynebu, ac i siarad mor agored am y pethau hynny gyda phobl y maent yn gobeithio y byddant yn gallu gwneud gwahaniaeth iddynt. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ein cyswllt â Llywodraeth y DU ar yr holl faterion sy'n ymwneud â diwygio lles yn aml yn codi amryw o bryderon ynghylch credyd cynhwysol. Byddaf yn siŵr o sicrhau bod y materion sy'n ymwneud yn benodol â phobl ifanc—a'r ffaith eu bod yn waeth eu byd yn awr, ac, fel y dywedwch, eu bod yn cael eu cosbi a'u caethiwo yn eu sefyllfaoedd presennol— yn faterion a godir gyda Llywodraeth y DU, ac fe ofynnaf i'r Gweinidog roi gwybod ichi am y sylwadau diweddaraf a wnaed.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu eglurhad Gweinidogol yn sicr? Mae un yn ymwneud â'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yr wyf wedi'i ofyn i chi a'ch rhagflaenwyr tua 101 o weithiau am losgydd y Barri. Yr ydym mewn tymor newydd, yr wyf yn byw mewn gobaith—mae Duw o blaid y rhai sy'n ymdrechu— ac yr wyf wedi gwneud hynny gyda'm holl egni am amser hir yn y Siambr hon i geisio cael unrhyw ymateb gan y Gweinidog am hyn. Mae trigolion y Barri a thu hwnt yn awyddus iawn i ddeall pam nad yw'r Gweinidog wedi ymgymryd â'r hyn a ddywedodd oedd ei hoff opsiwn, ac a ddywedodd y byddai asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal ar gyfer y safle penodol hwn. Deallaf iddo fod yn ceisio eglurhad cyfreithiol a chyngor cyfreithiol. Yr ydym bellach 15 mis—15 mis— ar ôl nodi'r parodrwydd hwnnw gan y Gweinidog mewn cwestiynau i Weinidogion yn ôl ym mis Chwefror y llynedd. Siawns na all y Llywodraeth gyflwyno safbwynt ar hyn ar ôl 15 mis.
Ac yn ail, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a materion gwledig, a gaf i geisio rhyw fath o amserlen pryd y bydd hi'n ymateb i hyn—credaf mai eich gweithgor chi ydoedd eleni, Weinidog, yn mynd i'r afael â llygredd amaethyddol? Yr oedd yn grŵp amrywiol iawn o unigolion a sefydliadau a ddaeth at ei gilydd i gyflwyno argymhellion i'r Gweinidog fel y gallai ddeall sut y gellid mynd i'r afael â llygredd amaethyddol heb orfod troi'n ôl at y cynigion parthau perygl nitradau y mae'r Gweinidog wedi'u cyflwyno ar hyn o bryd. Mae disgwyl i'r cynigion hynny gael eu deddfu ar 1 Ionawr 2020. Mae'n ymddangos braidd yn rhyfedd i mi nad oes ymateb ffurfiol wedi bod, o leiaf i'r argymhellion ar gyfer y Llywodraeth sydd yn yr adroddiad hwn. Felly, a allwn gael syniad ynghylch pryd y bydd y Gweinidog efallai'n ymateb i'r argymhellion hynny? Mae'n ymddangos eu bod wedi cael cefnogaeth eang gan yr holl gyrff a'u lluniodd, lle'r oedd pob plaid yn barod i gyfaddawdu, i gyflwyno glasbrint na fyddai'n troi'n ôl at ddeddfwriaeth. Felly, os gallwn ni ddeall sut mae hynny'n mynd rhagddo, byddwn yn ddiolchgar iawn.
Diolch ichi am godi'r ddau fater hyn, ac fe fyddai'n well gen i beidio gorfod trafod llosgydd y Barri gyda chi mewn datganiad busnes wythnos ar ôl wythnos, ond, gwaetha'r modd, nid oes gennym eto'r eglurhad cyfreithiol sydd ei angen inni allu datrys hyn.
Ar fater llygredd amaethyddol, mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yn cyflwyno datganiad cyn diwedd y tymor hwn.
Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae nifer o ddisgyblion yn cael eu rhoi o dan anfantais am nad ydy llyfrynnau adolygu rhai o'r pynciau TGAU ar gael drwy'r Gymraeg, a hynny wythnosau yn unig cyn yr arholiadau. Yn benodol, dwi'n sôn am fathemateg uwch a busnes. Does yna ddim pwynt o gwbl iddyn nhw gyrraedd mewn pryd i'r arholiad, fel mae CBAC yn ei ddatgan heddiw.
Yr haf y llynedd, fe gyhoeddwyd adroddiad ar yr union bwnc yma gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, efo nifer o argymhellion cynhwysfawr i geisio rhoi trefn ar y sefyllfa, ond dyma ni unwaith eto yn trafod y broblem. Mi fyddai'n ddefnyddiol iawn i Aelodau'r Cynulliad gael gwybod beth ddigwyddodd i'r argymhellion hynny, a pha weithredu fu arnyn nhw. Ac felly, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth yn nodi hynny, a hefyd pa gamau fydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth i wneud yn siŵr na fyddwn ni ddim yn trafod hyn yn fan hyn eto y flwyddyn nesa. Mae'n bryd i hyn gael ei sortio, ac mae'n bryd i bobl ifanc yng Nghymru gael chwarae teg llawn ym mha bynnag iaith maen nhw'n dewis gwneud eu cyrsiau.
Gan droi at bwnc arall: mae naw o awdurdodau lleol yng Nghymru bellach o'r farn bod angen i'r Llywodraeth ddileu'r anomali yma sy'n golygu nad ydy rhai perchnogion tai gwyliau yn talu unrhyw drethi. A dwi'n llongyfarch y naw awdurdod yma sydd wedi datgan hynny yn glir wythnos diwethaf. Dwi yn cyfarfod eich swyddogion chi i drafod hyn cyn bo hir, ond mae angen yr arweiniad gwleidyddol. Felly, a gaf i ofyn i chi am ddatganiad ar ba gamau mae eich Llywodraeth chi yn eu hystyried er mwyn datrys y sefyllfa anfoddhaol hon? Mi allai'r £2 filiwn sy'n cael ei cholli o goffrau Cyngor Gwynedd oherwydd hyn—. Mi fyddai'r arian yna yn medru cael ei ddefnyddio i ddiwallu'r angen am dai yn y maes cymdeithasol ac i gynyddu'r stoc tai ar gyfer pobl leol.
Diolch yn fawr iawn. O ran y mater cyntaf yn ymwneud â'r adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi cymwysterau CBAC, gallaf ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, sef ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adnoddau perthnasol ar gael i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn buddsoddi dros £2.7 miliwn bob blwyddyn i sicrhau'r ddarpariaeth hon. Yn 2018-19, dyfarnwyd swm o £1.1 miliwn o arian grant i CBAC i ddarparu fersiynau Cymraeg o werslyfrau, gan gynnwys deunyddiau adolygu a gyhoeddir yn fasnachol gan gyhoeddwyr yn Lloegr. Byddwn yn cynyddu'r arian grant hwn yn 2019-20 i £1.25 miliwn, a bydd hynny'n cyfateb i 50 o deitlau newydd eraill. Cymerwyd camau cadarnhaol y llynedd gan CBAC a'r cyhoeddwyr i leihau'r amser paratoi rhwng cynhyrchu gwerslyfrau Saesneg a phryd mae'r fersiynau Cymraeg ar gael i ysgolion, ac o dan y cwricwlwm newydd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu seilwaith newydd yng Nghymru ar gyfer cynhyrchu adnoddau perthnasol yn y ddwy iaith ar yr un pryd yn y dyfodol.
O ran y cartrefi sy'n symud o dalu'r dreth gyngor i geisio talu ardrethi busnes, wrth gwrs fe anfonais lythyr eithaf manwl atoch yn nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn, ac rwy'n falch eich bod yn gallu manteisio ar y cyfle i gael sesiwn friffio gyda swyddogion o ran camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Rydym yn cydnabod bod problem o bosibl ac y dylid cael mesurau diogelu ar waith, yn yr ystyr fod yn rhaid i dai neu gartrefi fod ar gael i'w rhentu am nifer penodol o ddyddiau'r flwyddyn. Ond os oes yna unigolion sy'n ceisio gweithredu o amgylch y rheolau hynny, yna efallai fod angen inni edrych ar ffyrdd o fynd rhagddi i dynhau'r rheolau hynny.
Trefnydd, yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i ymweld â fferyllfa gymunedol yng Nghaergwrle yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy. Ac mae'n gwneud gwaith gwych ac yn arwain y ffordd ar y cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth profi a thrin dolur gwddf yng Nghymru. Mae wedi cael canlyniadau gwych eisoes drwy leihau'n sylweddol nifer y meddyginiaethau a ragnodir a lleihau'r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu lleol. Felly, a wnaiff y Gweinidog Iechyd gyflwyno datganiad a diweddariad am y cynllun peilot hwn, oherwydd credaf y byddai o fudd mawr i Gymru ac i'n gwasanaethau meddygon teulu gyflwyno hyn, er mwyn bod ymhell ar y blaen, cyn inni wynebu pwysau'r gaeaf eleni?
Yn ail, Llywydd, yng Nghymru, fel y gŵyr llawer o bobl, rydym yn dathlu 20 mlynedd o ddatganoli. Rwy'n edrych ymlaen yn wir at eich anerchiad chi a'r Prif Weinidog i Siambr y Senedd yn nes ymlaen. Ond, gyda'ch caniatâd chi, a gaf i dalu teyrnged bersonol i bob un o'r Aelodau Cynulliad hynny, gan gynnwys fy nhad, sydd ddim gyda ni mwyach? Mae'n ddeunaw mis yn ôl i heddiw ers inni golli dad yn anffodus, a gwn y byddai wrth ei fodd yn cael bod yma gyda ni. Felly, a gaf fi ddweud 'Diolch' wrth yr holl Aelodau Cynulliad hynny nad ydynt yma bellach ar ran Cymru, i'w teuluoedd hefyd, am eu hymroddiad a'u gwaith caled dros eu cymunedau a phobl Cymru? [Cymeradwyaeth.]
Diolch yn fawr iawn, Jack. O ran fferyllfeydd cymunedol, gwn fod y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd. Gwn fod datganiad ysgrifenedig wedi ei chyflwyno ychydig amser yn ôl yn ymwneud â fferylliaeth gymunedol, ond byddwch yn sicr yn gwylio'r cynllun peilot hwnnw'n agos iawn, a byddaf yn gofyn i'r Gweinidog ystyried pryd fydd y tro nesaf y bydd yn briodol siarad am hynny.FootnoteLink
Byddwn yn llwyr gefnogi popeth yr ydych wedi'i ddweud, ar ran Llywodraeth Cymru, o ran dathlu'r cyfraniad a chofio cyfraniad holl Aelodau'r Cynulliad nad ydynt yma mwyach.
Gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phrosesau ymgynghori'r Llywodraeth, oherwydd bydd nifer ohonom ni, dwi'n siwr, weid cael tipyn o fraw o ddeall yn ddiweddar fod yna ddeiseb a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deisebau yn y Cynulliad yma, er bod yna filoedd lawer o enwau arni hi, dim ond 12 y cant o'r enwau hynny oedd â chyfeiriadau yng Nghymru? Ac, felly, roedd hynny'n codi cwestiwn, a mater i'r Pwyllgor Deisebau yw hynny, ond, wrth gwrs, mi gododd e yn fy meddwl i wedyn, 'Wel, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn ymatebion maen nhw'n eu derbyn i ymgynghoriadau? Sut gallwn ni, fel Aelodau fan hyn, fod yn sicr bod y Llywodraeth yn rhoi weighting addas i ymatebion o Gymru, oherwydd mi fydd deisebau yn cael eu cyflwyno fel rhan o ymatebion i ymgynghoriadau?' Mi fydd ymatebion sy'n cael eu cynhyrchu ar y we gan grwpiau, mudiadau ymgyrchu a lobio hefyd yn cyfrannu at yr ymgynghoriadau hynny. A dwi'n meddwl, o ran tryloywder, a wnewch chi, fel Llywodraeth, ystyried cyhoeddi pa ganran o bob ymgynhoriad rŷch chi'n derbyn—a ddim restrospectively efallai, ond o hyn ymlaen—eich bod chi'n cyhoeddi pa ganran o bob ymateb neu o bob ymgynghoriad sydd â'r ymatebion yn dod o Gymru, fel ein bod ni'n gallu bod yn glir bod y Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth lawn i'r ymatebion hynny sy'n dod gan etholwyr Cymreig.
Byddaf yn sicr yn rhoi ystyriaeth i'r hyn yr ydych wedi'i ddweud ac yn ysgrifennu atoch gydag ymateb o ran ein dull ni o ymdrin â'r wybodaeth a gyhoeddwn a sut rydym yn ystyried y pwysoliad hwnnw mewn termau cymharol gan y bobl sy'n ymateb o Gymru ac o fannau eraill.
Roeddwn am ddiolch i Lywodraeth Cymru, ac i'r Gweinidog dros faterion rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg yn benodol, am ysgrifennu llythyr ar fy nghais i yr wythnos diwethaf at Jeremy Hunt, yn gofyn iddo ymyrryd yn achos fy etholwr, Imam Sis. Roedd hwn yn ymyriad a groesewir yn fawr ac rwyf yn wirioneddol ddiolchgar amdano. Efallai fod yr Aelodau yn gwybod bod Imam Sis bellach yn ddifrifol wael. Mae wedi bod ar streic newyn am 142 diwrnod. Mae ei gyflwr yn ddifrifol iawn. A gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn y siambr hon am ddatblygiadau diweddar a, hefyd, i ysgrifennu at y Pwyllgor Ewropeaidd er atal artaith gan dynnu sylw at achos Abdullah Öcalan, fel y cyfarwyddwyd i'w wneud gan y lle hwn ar 20 Mawrth?
Diolch yn fawr iawn am godi mater eithriadol o bwysig, un y mae llawer o bobl yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, fel y gwelsom, fe gredaf, yma yn y ddadl a gawsom yn y Cynulliad. Fel y dywedwch, mae'r Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt, ac amgaeodd gopi o'r llythyr, lle nododd yn glir iawn ddifrifoldeb y sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd. Roedd hefyd wedi cynnwys dolen i drawsgrifiad o'r ddadl a gawsom yma yn y Cynulliad fel y gellid ystyried yr holl gyfraniadau i'r ddadl honno. Ac roedd hi'n glir iawn, o ystyried traddodiad cryf Llywodraeth y DU o wrthwynebu cam-drin hawliau dynol, y byddai'n ddiolchgar iawn pe bai modd i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r materion yr ymdriniwyd â nhw yn benodol yn y ddadl ac yn eich gohebiaeth. Ac rwyf yn siŵr y bydd hi'n rhannu copi o'r ymateb cyn gynted ag y bydd yn ei dderbyn.
Trefnydd, rwy'n siŵr y byddwn ni i gyd wedi cael ein llorio gan yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan y 450 o arbenigwyr ar eu gwaith ar gyflwr natur y byd a'r ffaith bod bron miliwn o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. Gwyddom fod rhywogaethau brodorol wedi diflannu o'n tir, ein moroedd a'n glannau, a bod cnydau mewn perygl oherwydd y dirywiad mewn pryfed peillio. Gwyddom fod y rhywogaeth ar waelod y gadwyn fwyd, sef pryfed, yn achosi dirywiad trychinebus i fywyd adar, ac yn gyffredinol mae'n rhybudd i bob un ohonom weithredu. Felly, tybed a allem gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y byddwn yn ailfeddwl yn llwyr am ein defnydd o'n tir a'n moroedd ac, yn benodol, y ffordd yr ydym yn cynhyrchu ein bwyd, oherwydd, yn syml, nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn o gwbl i'r hinsawdd drychinebus hon a'r trychineb amgylcheddol naturiol. Gwn y bydd targedau byd-eang yn cael eu gosod yn Tsieina'r flwyddyn nesaf, ond siawns na ddylai Cymru fod ar y blaen o ran newid ein hymddygiad er mwyn ceisio osgoi'r trychineb sy'n ein hwynebu ni i gyd.
Fel y dywedwch, roedd yr adroddiad hwnnw'n peri pryder mawr, a gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr Amgylchedd wedi gofyn i'w swyddogion ei astudio a rhoi cyngor ynghylch beth ymhellach y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn y maes penodol hwn. Mae'r Gweinidog hefyd wedi gwneud datganiad yn ddiweddar, rwy'n credu, ar 'Brexit a'n Moroedd', neu'n bwriadu gwneud hynny—
Mae'n mynd allan i ymgynghoriad.
Mae'n mynd allan i ymgynghoriad ar y mater penodol hwnnw yn fuan iawn, a bydd llawer o'r materion hynny, rwy'n credu, yn croesi i'r ymgynghoriad hwnnw, a'r ffordd yr ydym yn ceisio rheoli ein hardaloedd morol ar ôl Brexit. Ond mae'n broblem yn sicr, ac mae'r adroddiad yn fater y mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn ohono ac y bydd yn ceisio dysgu ohono.
Mi hoffwn i wneud cais am ddadl ar ddeintyddiaeth. Mae yna sawl haen o’n gwasanaeth deintyddol ni sydd angen trafodaeth a dwi’n meddwl y byddai dadl yn fodd o wyntyllu hynny. Yn gyntaf, mae pryderon difrifol ynglŷn â’r system cytundeb UDA—units of dental activity—lle mae yna, dwi’n argyhoeddedig, disincentive, os liciwch chi, i ddeintyddion ddelio â phroblemau lluosog, yn cynnwys yng nghegau plant sydd, dwi’n gwybod, yn methu â chael triniaeth.
Yn ail, mae angen inni gael trafodaeth ynglŷn â’r ddarpariaeth, yr argaeledd, sydd yna o ofal ar y gwasanaeth iechyd. Mi wnaeth syrjeri yn fy etholaeth i, Bridge Street Dental Practice ym Mhorthaethwy, gyhoeddi yn ddiweddar y bwriad i gau—problem cael gafael ar staff a oedd wrth wraidd hynny. Mi ysgrifennais i at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gofyn beth mae’r cleifion fod i’w wneud. Yr ateb ges i oedd, ‘Dywedwch wrthyn nhw ffonio o gwmpas i chwilio am ddeintyddfa sydd yn cynnig gwasanaeth NHS’. Dwi’n gwybod mai prin iawn ydy’r cyfleon i bobl gael mynediad at wasanaeth NHS, ac yn wir, ar restr ddiweddar, Caergybi, yn fy etholaeth i, oedd y lle lle oedd disgwyl i bobl deithio bellaf i gael gwasanaeth deintyddol—59 milltir, yn ôl a blaen, i’r ddeintyddfa agosaf, mae’n debyg.
Ac yn drydydd, fel y dywedais i, methiant i recriwtio deintyddion newydd oedd y broblem wrth wraidd penderfyniad Bridge Street Dental ym Mhorthaethwy. Fel ag y gwnaethom ni lwyddo efo'n hymgyrch i gael hyfforddiant meddygol ym Mangor, dwi’n meddwl y byddai’r ddadl hon hefyd yn fodd o wyntyllu’r angen am hyfforddiant deintyddol hefyd i ddatblygu oddi ar gefn yr hyfforddiant meddygol sydd yn dechrau yno’n fuan.
Fe gofiwch fod y Gweinidog Iechyd wedi gwneud datganiad yn ddiweddar iawn ar fynediad at wasanaethau deintyddol. Yn y datganiad hwnnw roedd ffocws cryf ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, o ran canlyniadau a mynediad at wasanaeth. Bydd y Gweinidog wedi clywed eich cais am ddadl lawnach ar ddeintyddiaeth, sy'n cwmpasu recriwtio ac ati, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi ystyriaeth iddo.FootnoteLink
Hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar y bwriad i gau dwy ysgol Gymraeg ym Mhontypridd. Mae Rhondda Cynon Taf o dan y blaid Lafur am gau ysgol Pont Siôn Norton ac Ysgol Heol-y-Celyn i adeiladu ysgol Gymraeg sydd filltiroedd i ffwrdd—milltiroedd i ffwrdd —o'r disgyblion. Mae yna blant mor ifanc â thair oed y bydd disgwyl iddynt deithio hyd at chwe milltir i fynd i'r ysgol. Mae'n anodd iawn i rieni sy'n mynd â'r plant i'r ysgol. Mae rhai yn dweud wrthyf y bydd yn amhosibl. Felly, yr hyn sydd gennym yma, er gwaethaf y targed o filiwn o siaradwyr, yw cyngor dan reolaeth Llafur yn gosod rhwystrau i gymunedau dosbarth gweithiol i gael mynediad i'r Gymraeg yn eu cymunedau eu hunain. Mae ysgolion yn fwy na brics a morter; maent yn gonglfeini i gymunedau, ac mae'r hyn sy'n digwydd yma yn Rhondda Cynon Taf yn warth llwyr. Felly, hoffwn wybod beth sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud am y peth.
A gaf i eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog addysg yn mynegi eich pryderon? Wrth gwrs, mater i'r awdurdod lleol fydd penderfynu ymhle mae'n lleoli ei ysgolion ac ymhle mae'n buddsoddi yn ei ysgolion o fewn ardal yr awdurdod lleol. Ond rwy'n siŵr eich bod wedi mynegi eich pryderon gyda'r awdurdod lleol o ran unrhyw effaith y gallai hynny ei gael ar y gallu i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddwn yn eich annog chi i sôn am y pryderon hynny gyda'r Gweinidog addysg.
Diolch i'r Trefnydd.