– Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2019.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar leihau gwastraff plastig, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7065 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff plastig y gellir ei osgoi drwy hefyd:
a) gwahardd cyflenwi gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau;
b) atal y cyflenwad o ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; ac
c) gwahardd trowyr diodydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf wneud y cynnig hwn y prynhawn yma a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Rydym yn y cyfnos ar brynhawn dydd Mercher, ond rwy'n falch o weld bod Aelodau o bob plaid wedi aros ar gyfer y ddadl y prynhawn yma. Os caf ymdrin â'r gwelliannau yn gyntaf, yna fe symudaf at brif ran fy araith.
Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi dychwelyd at ei harfer o ffurfio gwelliant 'dileu popeth'. Nid wyf yn hollol siŵr pam y mae angen dileu ein cynnig cyfan, ac yna rydych yn cymryd dau bwynt o'r cynnig hwnnw ac yn eu mewnosod yn eich gwelliant. Mae hynny'n ymddangos braidd yn rhyfedd i mi. Ar welliannau Plaid Cymru, rydym yn hapus i gefnogi'r cyntaf o welliannau Plaid Cymru, a byddwn yn ymatal ar yr ail, nid am ein bod yn anghytuno â'r gwelliant hwnnw ond am ein bod yn ansicr a yw'r dechnoleg yno i gyflawni'r dyhead hwnnw mewn gwirionedd. Os gallwch ein hargyhoeddi o hynny ym mhwyntiau llefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, byddwn yn hapus i'w gefnogi, ond ar hyn o bryd nid ydym yn credu bod y dechnoleg yno i'w symud yn ei flaen.
Felly, i symud ymlaen, mae'r cynnig heddiw'n dweud bod hwn yn fater sy'n ennyn sylw'r cyhoedd yng Nghymru ac yn un y mae'n rhoi pwysau cynyddol arnom ni fel gwleidyddion i fynd i'r afael ag ef. Dengys yr arolygon barn diweddaraf fod mwyafrif llethol o'r cyhoedd yn pryderu am y defnydd o blastig ac yn rhannol, cafodd hynny ei sbarduno gan gyfres wych ac addysgiadol Blue Planet David Attenborough, sydd wedi tynnu sylw at effaith gynyddol niweidiol sbwriel plastig ar ein hamgylchedd naturiol.
Yn anffodus, nid oes ond rhaid ichi edrych dafliad carreg o Fae Caerdydd ei hun i weld y lefelau sylweddol o blastig sy'n mynd i mewn i'n hamgylchedd morol, ac mae'n amlwg, fel gwleidyddion, fod gennym ddyletswydd i weithredu. Yn wir, canfu astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd fod un o bob dau o bryfed yn system afon Taf yn cynnwys microblastigion, a cheir tystiolaeth fod y gronynnau microblastig hyn yn cael eu llyncu gan adar afon. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod plastig yn achosi hafoc yn ein hamgylchedd, yn cael effaith ofnadwy ar anifeiliaid a bywyd gwyllt ac yn diraddio ein cynefinoedd mwyaf gwerthfawr.
Ac nid yw'n gyfyngedig i fywyd morol. Mae hefyd yn cael effaith andwyol ar ein strydoedd a'n cymdogaethau. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gweithredu yn awr i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn ac i leihau'r miliynau o boteli plastig y gwelwn yn cael eu taflu bob dydd heb eu hanfon i'w hailgylchu. Mae angen i ni addysgu a sicrhau newid mawr yn ymddygiad ac arferion pobl. Heb weithredu ar frys i leihau'r galw, amcangyfrifir y bydd 34 biliwn o dunelli o blastig wedi cael ei gynhyrchu yn fyd-eang erbyn 2050.
Golyga oes silff plastigion y gallant bara am ganrifoedd mewn safleoedd tirlenwi neu fel arall, fel sbwriel yn yr amgylchedd naturiol. Yn ei dro, gall lygru priddoedd, afonydd a chefnforoedd a niweidio'r creaduriaid sy'n byw ynddynt. Mae yn y pysgod a fwytawn; mae hyd yn oed yn y dŵr potel rydym yn ei yfed. Mae'r amcangyfrifon yn amrywio, ond mae'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Phrifysgol Coventry yn amcangyfrif bod 14 miliwn o ddarnau o blastig yn cyrraedd afonydd a chamlesi Prydain bob blwyddyn, gydag oddeutu 0.5 miliwn o eitemau o blastig yn cael eu cario i'r cefnfor.
Credaf ein bod i gyd yn cytuno yn y Siambr hon mai rhan allweddol o'n cenhadaeth fel ACau yw gadael yr amgylchedd a'n gwlad mewn cyflwr gwell. Ar lefel y DU, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi cymryd camau breision i fynd i'r afael â phla plastigion, drwy ei chynllun amgylcheddol 25 mlynedd, sydd wedi cyflwyno mesurau pwysig, megis y gwaharddiad ar ficrobelenni mewn cynhyrchion gofal personol a chynnyrch coluro, a gwaharddiad ar wellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm. Ac er bod lefel dda o gydweithredu rhwng y ddwy Lywodraeth ar y materion hyn, mae'n amlwg y gallwn fod yn gwneud mwy yng Nghymru.
Fel yr amlygwyd ddoe gan yr aelod diweddaraf o rengoedd y gwrthbleidiau, yr Aelod dros Flaenau Gwent, nad yw gyda ni heddiw yn anffodus, a ddywedodd ei bod yn ymddangos bod Cymru'n cael trafferth yn y maes polisi penodol hwn yn ddiweddar, ac y gallem ac y dylem fod yn llawer mwy uchelgeisiol. Oherwydd er fy mod yn cefnogi cyflawniadau Llywodraeth y DU ar lwyfannau polisi, rwyf am weld Cymru yn arwain o'r blaen ar y mater hwn, ac ar hyn o bryd, rydym ar ei hôl hi yn mynd i'r afael â'r broblem, nid yn unig o gymharu â gweddill y DU, ond o gymharu â gwledydd eraill ar draws y byd.
Cyhoeddodd Canada yr wythnos hon y bydd yn anelu i wahardd plastigion untro niweidiol erbyn 2021. Er clod iddi—ac nid wyf yn aml yn dweud hyn—mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau rhai cyfraddau ailgylchu trawiadol yng Nghymru, ond am y tro cyntaf yn 2017-18, gostyngodd cyfanswm y gwastraff a ailgylchwyd mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, fe wnaeth Cymru gymryd yr awenau drwy gyflwyno'r tâl am fagiau siopa plastig yn 2011, ond credaf ei bod yn deg dweud bod y polisïau arloesol hyn wedi bod braidd yn brin yn ddiweddar. Y Llywodraeth sy'n gwybod p'un a yw'n fater sy'n ymwneud â gallu neu arweinyddiaeth, ond mae'n amlwg i lawer fod angen inni wella yma yng Nghymru, ac nid cyfrifoldeb adran yr amgylchedd yn unig yw hynny, ond holl adrannau'r Llywodraeth.
Ddoe ddiwethaf, cefais nodyn gan etholwr a oedd wedi dychryn ynglŷn â'r lefel uchel o wastraff plastig a welir ar hyn o bryd ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er enghraifft. Mae angen i ni gydgysylltu'r dull o weithredu ar draws y Llywodraeth gyda thargedau a strategaethau pwrpasol nad ydynt yn gadael dim heb ei wneud. A pham hynny? Oherwydd bod gwastraff plastig yn dianc i'n hamgylchedd yn gyflym iawn. Mae'n diraddio'n ficroblastigion a chaiff hyn ei amsugno'n hawdd wedyn i'r amgylchedd naturiol. Ni cheir dealltwriaeth dda o'r effaith a gaiff hyn ar ein bywyd gwyllt, ein hecosystemau a'n hiechyd dynol. Mae'r canlyniadau'n beryglus a negyddol i bobl a natur yma yng Nghymru.
Dengys hyn fod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn i leihau'r defnydd o blastigion untro wrth i ni geisio gwella amgylchedd naturiol Cymru a lleihau effaith gweithgarwch dynol ar ein planed. Ac mae hynny'n dechrau gyda chryfhau ein cadwyni cyflenwi yma yng Nghymru er mwyn atal llygredd amgylcheddol rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw hyder y cyhoedd.
Efallai eich bod wedi gweld rhaglen ddogfen y BBC ddydd Llun gyda Hugh Fearnley-Whittingstall, War on Plastic with Hugh and Anita. Datgelodd dystiolaeth frawychus am wastraff plastig ailgylchadwy o Gymru a oedd wedi'i allforio i'w ailgylchu ond a gafodd ei ddympio ym Malaysia mewn gwirionedd. Ymhlith llu o eitemau o'r DU, dangosodd darllediadau o'r rhaglen ddogfen fod bagiau ailgylchu o Rondda Cynon Taf yn rhan o'r gwastraff a gafodd ei ddympio, sydd wrth gwrs yn codi cwestiynau ynglŷn â chadwyn gyflenwi a strategaeth gaffael Llywodraeth Cymru. Mae pentwr o wastraff plastig 20 troedfedd o uchder ym Malaysia sydd wedi'i allforio o wledydd eraill yn warth ac yn amlwg yn annerbyniol, ac mae'n dangos nad ydym yn trin ein gwastraff yn briodol. Gwaethygwyd mater allforio llygredd amgylcheddol gan y ffaith bod Malaysia yn anfon bron i 3,000 tunnell fetrig o wastraff plastig na ellir ei ailgylchu yn ôl i'r lle y tarddodd ohono, gan gynnwys y DU, tra bod Tsieina wedi gwahardd mewnforio gwastraff plastig i'w ailgylchu yn ddiweddar oherwydd problemau amgylcheddol a achosir gan y gwastraff halogedig.
Mae'n hollbwysig fod gan y cyhoedd hyder yn y systemau rheoli gwastraff a bod gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei drin mewn ffordd gyfrifol a bod gwastraff sy'n cael ei anfon i'w ailgylchu yn cael ei ailgylchu mewn gwirionedd. Does bosibl fod hwnnw'n uchelgais rhy fawr. Mae cronfa economi gylchol Llywodraeth Cymru yn gam i'w groesawu, ond fel nifer o gyhoeddiadau o'ch meinciau yn ddiweddar, ni chawn lawer iawn o fanylion ynglŷn â sut y caiff ei weithredu, ei fonitro a'i asesu.
Mae arbenigwyr ar yr economi gylchol, WRAP Cymru, wedi gwneud nifer o argymhellion gyda'r nod o greu mwy o dryloywder gwyrddach yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod cynnydd pedwarplyg yn y capasiti ailbrosesu i oddeutu 200,000 tunnell y flwyddyn ac annog gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr i ddweud faint o blastig newydd neu blastig wedi'i ailgylchu y maent yn ei defnyddio yn eu prosesau. Yn eu barn hwy, bydd hyn yn lleihau'r gwastraff plastig a allforir y tu allan i Gymru i'w ailgylchu i 25 y cant. Fel y cyfryw, ar y meinciau hyn, rydym am weld Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar greu cadwyn gyflenwi gylchol sy'n gosod cynaliadwyedd a'r amgylchedd wrth wraidd prosesau'r gadwyn gyflenwi, gan gadw deunyddiau a chynhyrchion, a sicrhau eu bod yn cael eu hailddefnyddio i gyfyngu ar faint o adnoddau naturiol a ddefnyddir a'r allyriadau carbon a gynhyrchir. Ar ben hynny, rhaid cyfyngu ar allforio gwastraff er mwyn atal llygredd amgylcheddol rhag cael ei allforio i wledydd eraill, sy'n lleihau ymdrechion yng Nghymru i greu cymdeithas fwy gwyrdd a chyfartal. Dylai'r strategaeth hon amlinellu camau i leihau'r gwastraff a grëir yn y gadwyn gyflenwi, hyrwyddo prosesau mwy cynaliadwy yn y gadwyn gyflenwi, a lleihau'r broses o allforio gwastraff a materion amgylcheddol eraill er mwyn adfer hyder y cyhoedd.
Fel Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n falch o'r ffaith ein bod wedi arwain y ffordd yn ôl yn 2015, gan alw am gynllun dychwelyd blaendal ar boteli. Yn anffodus, tua phedair blynedd yn ddiweddarach, nid ydym wedi gweld cymaint o gynnydd yn y maes hwn ag yr hoffem fod wedi'i weld, ac ar y meinciau hyn, mae bellach yn hanfodol fod y Llywodraeth yn dangos mwy o uchelgais. Mae angen i ni newid o fod yn gymdeithas wastraffus a glanhau ein strydoedd a'n hamgylchedd, ein traethau a'n hafonydd. Bydd cynllun dychwelyd blaendal yn effeithio'n eang ar gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau allyriadau a helpu i leihau defnydd anghynaliadwy o adnoddau a deunyddiau naturiol. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan a'r seneddau a chynulliadau datganoledig eraill i helpu i ddileu gwastraff y gellir ei osgoi drwy sicrhau gwaharddiad ar gyflenwi gwellt plastig, ond gan eithrio unigolion sydd ag anableddau; atal y cyflenwad o ffyn cotwm plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; a gwahardd trowyr diodydd. Fel Ceidwadwr, mae'r gair 'gwaharddiad' yn gyrru ias i lawr fy nghefn, ond rydym yn cyrraedd pwynt na ellir troi nôl ohono.
Ni allwn dincran o gwmpas yr ymylon mwyach. Mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar frys ac yn bendant i fynd i'r afael â llygredd plastig a diogelu ein hamgylchedd. Mae angen inni arwain ac mae angen inni fynd â'r cyhoedd gyda ni, ac mae angen i gyrff cyhoeddus mawr a diwydiant gefnogi hyn. Yn aml, ni chaiff eitemau plastig eu defnyddio am fwy nag ychydig funudau'n unig, ond maent yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu, gan gyrraedd ein moroedd a'n cefnforoedd a niweidio ein bywyd morol gwerthfawr. Ni allwn fodloni ar wneud dim bellach. Felly, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd ger eu bron heno a chefnogi'r hyn y ceisiwn ei wneud, sef trosglwyddo amgylchedd gwell i'r genhedlaeth nesaf na'r un a etifeddwyd gennym.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.
2. Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.
4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.
5. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.
6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.
Yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth? Dai.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy, a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm blastig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac mae’n bleser bod yn rhan o’r ddadl bwysig yma ar blastigau ar ôl agoriad da iawn yn fanna gan Andrew R.T. Davies. Wrth gwrs, fel plaid, rydym ni’n edrych i gyfoethogi’r cynnig gerbron gyda dau welliant. Mae'r cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’i phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro. A’r ail welliant ydy, eto, ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig sydd yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw’n fioddiraddiadwy a fyddi’n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm blastig yn ogystal—galw am wahardd y rheini a phlastigau untro.
Achos mae yna her sylweddol. Ac, wrth gwrs, mae Andrew, fel minnau, yn aelod o’r pwyllgor newid hinsawdd sydd newydd gyhoeddi adroddiad yr wythnos yma, a dweud y gwir—y pwyllgor newid hinsawdd yma yn y Senedd—ar lygredd plastig, sydd yn amlinellu bod llygredd plastig yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed. Dyna eiriau cyntaf rhagair y Cadeirydd yn fan hyn achos mae meicroblastigau ym mhob man. Ac wrth gwrs cefndir hyn oll ydy bod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd, yn naturiol, ac o wneud y fath gyhoeddiad, mae angen camu i fyny wedyn i fod yn weithredol. Nid mater o ddim ond cyhoeddi argyfwng hinsawdd; mae angen gwneud rhywbeth cyffredinol amdano fe. Mae’r adroddiad yma gan y pwyllgor newid hinsawdd yn nodi’n gyffredinol ein bod ni’n siomedig fel pwyllgor nad yw’r Llywodraeth yn y gorffennol wedi mynd i’r afael â maint y broblem yma, yn enwedig yn nhermau plastigau.
Doeddwn i ddim yn mynd i olrhain nifer o’r pwyntiau mae Andrew eisoes wedi’u holrhain, ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi gweld y rhaglenni teledu, megis 'Y Blaned Las' ac ati, a’r rhaglen yna nos Lun wnaeth ddarganfod llygredd plastig o Rhondda Cynon Taf yng nghefn gwlad Malaysia. Dim ond i ganolbwyntio ar sgil-effeithiau darnau bach, bach iawn o blastig sydd yn her gynyddol i’n hiechyd ni fel pobl. Mae yna gryn dipyn o astudiaethau yn mynd ymlaen sydd wedi darganfod bod meicroblastigau—darnau bach iawn—a nanoblastigau, sydd yn ddarnau bach hyd yn oed yn llai, yn ymdreiddio i bob lle. Maen nhw yn ein priddoedd ni, maen nhw yn ein hafonydd ni, maen nhw yn ein moroedd ni ac maen nhw hyd yn oed yn rhew môr yr Arctig. Dyna’r dystiolaeth cawsom ni o flaen y pwyllgor. Ac o ymdreiddio i bob man, mae’r meicroblastigau yma, felly, yn ymddangos yn ein bwydydd ni, beth dŷn ni'n bwyta; yn yr awyr dŷn ni'n ei anadlu—mae'n rhan o lygredd awyr. Achos mae'r nanoblastigau yma mor fach, rŷch chi'n cael nhw, hyd yn oed, ar rwber ein teiars ni, sydd yn cynhyrchu nanoblastigau sydd yn ymddangos wedyn fel llygredd awyr. Dŷn ni'n anadlu'r nanoblastigau yma i mewn i'n cyrff, i mewn i'n hysgyfaint ni, ac maen nhw mor fach, fach, nid yn unig mae'r nanoblastigau yma'n ymdreiddio i'n hysgyfaint ni, maen nhw'n ymdreiddio hefyd i mewn i gylchrediad y gwaed achos maen nhw mor fach. Ac mae'r plastig, felly, yn ein gwaed ni a hefyd, felly, yn ein calonnau ni, fel cynifer o ronynnau bychain iawn eraill, nid jest plastigau, ond mae maint gronynnau bach sydd yn rhan o lygredd awyr, maen nhw mor fach, rŵan, eu bod nhw'n ymdreiddio i bob rhan o'n cyrff ni.
Wedyn, mae yna her sylweddol yn fan hyn o fater iechyd cyhoeddus ac mae angen i Lywodraethau ym mhob man gamu i fyny at y plât. Achos mae yna her uniongyrchol i iechyd y cyhoedd yn fan hyn; mae angen i Lywodraeth Cymru, wedi datgan bod yna argyfwng hinsawdd, gwneud rhywbeth gweithredol ynglŷn â'r peth, ac mae'n rhaid ei bod o ddifrif ynglŷn â chael gwared ar blastig. Rhaid edrych ar blastig fel y gelyn, ac, yn bendant, mae angen cael gwared ar ddefnyddio plastigau untro a hefyd mae angen mynd i'r afael â deunydd pacio polystyren a ffilm plastig ym mhob man. Dydy allforio i wledydd dros y byd i gyd ddim yn ateb y broblem; mae'n rhaid ei daclo fe yn fan hyn a gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio llawer iawn yn llai, gyda'r bwriad, yn y bôn, o gael gwared ar y defnydd o blastig yn y pen draw. Ond, wrth gwrs, fel mae Andrew wedi cyfeirio ato, maen nhw'n para am flynyddoedd, canrifoedd. Mae yna her gyda ni i ddelio â'r plastig dŷn ni eisoes wedi'i greu. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon—amserol iawn; fel y mae Dai newydd ddweud, mae adroddiad newydd gael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pwnc hwn, ac roeddwn innau hefyd o'r farn fod rhagair y Cadeirydd yn ardderchog ac yn sobreiddiol iawn, ac rwy'n dyfynnu:
'Llygredd plastig yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed. Ni all Cymru ddatrys y broblem fyd-eang hon ar ei phen ei hun, ond ni allwn aros mwyach, mae’n bwysig ein bod yn camu ymlaen ac yn arwain lle y gallwn.'
A dyna'n wir beth y dylem ei wneud. Gwn fod rhai pobl yn y Cynulliad sy'n credu, am fod Cymru'n rhan mor fach o boblogaeth y byd, ein bod yn cael ein rhyddhau rywsut rhag chwarae ein rhan yn yr heriau hyn. Wel, nid dyna sut y dylai fod; dylem fod yn gwbl ymwybodol o'n cyfrifoldeb a dylem geisio arwain lle y gallwn, ac rydym wedi siarad ychydig am ailgylchu, ac mae problemau dyfnach ynghlwm wrth hynny. Ond yn gyffredinol, rwy'n credu bod Cymru wedi gwneud yn dda ar hynny, ac wedi arwain y ffordd mewn sawl ystyr.
Ddirprwy Lywydd, darllenais heddiw yn un o'n papurau newydd cenedlaethol fod Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd newydd gyhoeddi adroddiad yn dweud bod y person cyffredin ym Mhrydain yn llyncu'r hyn sy'n cyfateb i gerdyn credyd o blastig yr wythnos, a bod 90 y cant ohono drwy ddŵr. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd rhaglen More or Less Radio 4 yn edrych ar yr honiad hwnnw, oherwydd mae'n ymddangos yn gwbl anhygoel i mi ein bod yn gallu llyncu cymaint o blastig yn uniongyrchol. Ond mae'n ein hatgoffa, yn enwedig yn ein defnydd o ddŵr ac wrth fwyta cynhyrchion sy'n dod mewn cynwysyddion plastig, fel y gwna mwy a mwy ohonynt, pan fyddai llawer ohonynt, yn aml, wedi bod mewn gwydr neu beth bynnag—wyddoch chi, mae'n rhaid cadw'r pethau hyn mewn cof.
Felly, dywedais fy mod yn canmol y Llywodraeth lle mae wedi gweithredu a chredaf mai ysbryd y cynnig hwn yw ein bod yn bancio hynny ond wedyn yn mynd ymhellach ac mae angen inni sicrhau, fel y dywedodd Andrew, fod y genhedlaeth nesaf yn cael amgylchedd gwyrddach a mwy cynaliadwy na'r un a etifeddwyd gennym, ac a grëwyd gennym yn rhannol.
Rwyf am edrych ar y cynllun dychwelyd blaendal yn gyntaf, oherwydd credaf ei bod yn ddiddorol fod y cyhoedd nid yn unig yn derbyn bod angen hyn, ond maent wedi bod ar y blaen inni, maent wedi bod yn ein gwthio i edrych ar y cynlluniau hyn. Credaf fod hyn yn wir am lawer o faterion amgylcheddol hefyd, ac mae angen inni fanteisio ar y brwdfrydedd hwnnw. A bod yn deg â Llywodraeth Cymru, maent wedi noddi adroddiad a edrychodd ar ehangu cyfrifoldeb cynhyrchwyr, ac mae hynny'n dangos y gellid cyflawni cyfradd ailgylchu o 90 y cant a mwy yn y maes hwn, ac yn wir, ceir rhai arferion gorau ledled y byd sy'n dangos hynny. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn iawn i wthio yn y maes hwn. Hefyd, os edrychwch chi ar gynllun dychwelyd blaendal yn benodol, un o fanteision hynny yw y byddem hefyd yn datblygu data o ansawdd uchel iawn yn y ffordd y tuedda'r cynlluniau hynny i gael eu rhedeg. Unwaith eto, rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i ni, ac rydym wedi clywed am faterion yn ymwneud â'r economi gylchol y cyfeiriwyd ati.
Credaf fod y Llywodraeth yn anfon y neges gywir, ond fel Andrew, credaf fod angen ichi symud ymlaen, ac mae angen inni weld bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud yn weddol fuan. Roeddwn yn falch fod nifer sylweddol o'r Aelodau, Ddirprwy Lywydd, wedi mynychu'r digwyddiad a noddwyd gennyf yn gynharach eleni, pan ddaethpwyd â pheiriant y cynllun dychwelyd blaendal i'r Cynulliad, a chawsom i gyd gyfle i'w ddefnyddio a'i weld ar waith. Rwy'n credu ein bod wedi synnu'n fawr at ba mor ymarferol ac effeithiol ydoedd, a diolch yn arbennig i'r Gymdeithas Cadwraeth Forol am helpu i drefnu'r digwyddiad hwnnw, ac yn wir, diolch iddynt am y gwaith ehangach a wnânt yng Nghymru yn arwain y frwydr yn erbyn llygredd plastig.
Rwy'n credu bod yr effaith weladwy yn peri cryn dipyn o bryder hefyd. Soniodd Andrew ein bod yn ei weld yn ein cyrsiau dŵr. Byddaf yn cerdded i'r Cynulliad ar fwy o ddiwrnodau nag y byddaf yn gyrru, a byddaf yn cerdded ar draws y morglawdd, ac mae gweld y gwastraff plastig sy'n cael ei olchi yn erbyn y morglawdd yn ddychrynllyd iawn. Felly, credaf fod angen inni edrych ar ffyrdd arloesol, wedi'u harwain gan ddiwydiant. Dyna'r peth gwych am y cynllun blaendal, y byddent hwy'n gyfrifol amdano, gyda'r model a ffafrir o leiaf, ac mae angen inni fwrw ymlaen i wneud hynny.
A gaf fi orffen drwy ddweud cymaint o sioc a gefais wrth wylio'r rhaglenni dogfen yn dangos i ble'r ydym yn anfon ein gwastraff plastig, a ninnau'n tybio ei fod yn cael ei ailgylchu? Soniwyd am Malaysia a Tsieina, ac mae angen inni edrych ar y ffeithiau yma, oherwydd mae angen newid yr agwedd 'allan o'r golwg, allan o'r meddwl', ac mae angen inni gael sicrwydd, pan fyddwn yn anfon ein gwastraff dramor, ei fod yn cael ei ailgylchu go iawn, ac nad ydym yn anfon ein problem dramor i economïau a chymdeithasau sy'n llai abl i ailgylchu na ni. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf am ganolbwyntio ar un agwedd ar lygredd plastig, ac mae wedi'i grybwyll yma'n gynharach wrth gwrs, sef dychwelyd blaendal. Rydym wedi cael nifer o drafodaethau a dadleuon yn y Siambr ar gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli plastig, ond ymddengys na fu fawr ddim cynnydd, os o gwbl, o ran deddfu ar y mater. Mae bron yn sicr fod cefnogaeth ar draws y Siambr i ddeddfwriaeth o'r fath, fel y gwelwyd mewn cyfraniadau cynharach, yn enwedig un David Melding yn awr. Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd, Hannah Blythyn, mor bell yn ôl â mis Mai y llynedd ei bod am sefydlu trafodaethau â chymheiriaid yn yr Alban, y DU a Gogledd Iwerddon gyda'r bwriad o gyflwyno deddfwriaeth o'r fath. A gafodd y trafodaethau hyn eu cynnal a beth oedd y canlyniad?
Mae malltod llygredd plastig yn amlwg ble bynnag yr edrychwn: o ganol ein trefi i bron bob rhodfa ac wrth gwrs, yn y pentwr anferth o sbwriel a welwn wedi'i olchi ar ein glannau. Mae'n bryd gweithredu yn awr. Ni allwn dindroi tra bod y math ofnadwy hwn o lygredd nid yn unig yn parhau, ond yn tyfu bob dydd.
Ceir dau brif ateb: cynhyrchu a dosbarthu llai, a ddylai fod yn nod i ni yn y pen draw, ac ailgylchu'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu. Pam y gallasom fod yn wlad gyntaf i roi treth ar fagiau siopa plastig, ond nid ydym wedi gallu camu ymlaen ar ein pennau ein hunain i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal nid yn unig ar gyfer poteli plastig, ond ar gyfer poteli gwydr a chaniau diodydd hefyd?
Un gair o rybudd: os ydym yn mynd i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal, rhaid i'r blaendal fod ar lefel sy'n annog pawb i ailgylchu. Ni fydd yn fawr o werth rhoi 5c ar eitem—nid yw plant, yn enwedig, yn gweld gwerth mewn symiau o'r fath. Yn y gorffennol, roedd potel Corona lawn yn costio tua swllt, ond roedd y blaendal mor uchel â thair ceiniog. Nawr, i'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r hen arian, dyna 25 y cant o'r gwerth yn dychwelyd. Fel bachgen ifanc, gallaf eich sicrhau bod digon o gymhelliad i ddychwelyd eich poteli, ac wrth gwrs, unrhyw rai eraill yr oeddech yn ffodus i'w casglu. Rwy'n siŵr y byddai cynllun dychwelyd blaendal yn seiliedig ar oddeutu'r un canrannau yn cael effaith aruthrol ar gyfraddau ailgylchu nid yn unig plastig ond gwydr ac alwminiwm hefyd. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithio gyda phawb ohonom yn y Siambr hon i sicrhau bod y ddeddfwriaeth ar waith i wneud yn siŵr fod y cynllun hwn yn mynd rhagddo.
Mae malltod a llygredd plastig yn ofid byd-eang. Mae hefyd yn broblem enfawr i ni yma yng Nghymru, ac yn Aberconwy yn enwedig. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod Cynulliad—rydym wedi cynnal sesiynau glanhau traethau gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol, NFU Mutual, a llawer o'n trigolion. Mae'r pethau y cawn hyd iddynt yno—plastig yn bennaf, o boteli i stympiau sigaréts, sy'n cynnwys plastig hefyd. Pan gymerais ran mewn sesiwn lanhau traeth ddiwethaf, treuliodd un aelod o'r cyhoedd oddeutu hanner awr yn glanhau o gwmpas un o'r meinciau ar y promenâd yn Llandudno, lle cafodd hyd i 308 o stympiau sigaréts. Yn anffodus, mae hynny'n nodweddiadol o gynifer o'n traethau ledled Cymru. Am bob 100 metr o draethau Cymru a gaiff ei lanhau, ceir hyd i 53 o gynwysyddion diod ar gyfartaledd. Mae preswylwyr yn rhoi gwybod am wastraff plastig mewn gwrychoedd ger yr A470. Mae cyngor cymuned Trefriw yn gweithio'n rhagorol i wrthsefyll y gwastraff a achosir gan wersylla gwyllt o gwmpas Llyn Geirionydd. A dydd Gwener diwethaf, cefais gyfarfod â phreswylydd a oedd yn hyrwyddo dewisiadau amgen yn lle plastig. Roedd hi wedi bod yn Kenya mewn gwirionedd ac wedi dod yn ôl â—. Hyd yn oed yn Kenya, draw yno, maent mor ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd, ac maent bellach yn gwahardd y defnydd o fagiau plastig mewn archfarchnadoedd a siopau a phethau felly.
Yn amlwg, mae mynd i'r afael â gwastraff plastig yn flaenoriaeth, felly rwy'n croesawu'r ddadl heddiw i dynnu sylw at sut y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy dros Gymru, a'r mwyafrif llethol o'r trigolion sydd bellach yn ymwybodol o'r broblem, ac maent yn anhapus ynglŷn â'n cymdeithas sy'n defnyddio ac yn taflu plastig. Canfu adroddiad 'Pa Mor Lân yw ein Strydoedd?' Cadwch Gymru'n Daclus mai prin fu'r newid yn lefelau sbwriel diodydd ers 2013-14. Mae digwyddiadau cysylltiedig â phlastig y rhoddwyd gwybod i'r RSPCA amdanynt wedi cynyddu bron 29 y cant rhwng 2015 a 2018, ac yn ôl WRAP Cymru, er bod Cymru'n cynhyrchu 400,000 tunnell o wastraff plastig y flwyddyn—ffigur sy'n cynyddu—dim ond 33 y cant o blastigion sy'n cael eu hailgylchu.
Gallai Cymru fod yn un o arweinwyr y byd ar ailgylchu, ac mae'n ymhonni ei bod yn un eisoes, ond mae 17 o awdurdodau lleol wedi nodi gostyngiad yn y cyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu. Mae'r sefyllfa'n waeth byth, fel y gwyddom—nododd Andrew Davies yn gwbl briodol fod gwastraff plastig a allforiwyd o Gymru wedi'i ganfod wedi'i ddympio ym Malaysia, ac yn bersonol, nid wyf yn beio Malaysia am ddychwelyd gwastraff plastig, oherwydd credaf fod gennym ninnau hefyd gyfrifoldeb moesol ac amgylcheddol i dargedu a thrin ein trafferthion sbwriel ein hunain.
Yn y pen draw, mae rheoli gwastraff yn wael a pheidio â mynd i'r afael yn briodol â llygredd plastig yn gwrth-ddweud y nod—un o'r prif nodau—yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o sicrhau bod Cymru'n wlad gyfrifol yn fyd-eang. Gellir gwneud cynnydd cadarnhaol drwy greu economi blastig cylchol, a allai gael ei hwyluso'n fawr gan grantiau gwell i helpu busnesau i hybu'r defnydd o blastigion a ailgylchir. Gellir defnyddio cyllid fel cymhelliad i'r cyhoedd ehangach ailgylchu hefyd, yn enwedig drwy ddefnyddio cynllun dychwelyd blaendal, ac roeddwn yn credu bod y fenter y cyfeiriodd David Melding ati'n gwbl wych. Nid oes gennyf syniad pam nad oes gennym y rheini yn y Cynulliad yn awr.
Mae'r ateb hwn yn agos iawn at fy nghalon. Mae'r angen am hyn yn glir wrth ystyried y plastigion y deuir o hyd iddynt yn awr, fod ein cyfradd ailgylchu ar gyfer poteli yn is na rhannau eraill o Ewrop—tua 70 y cant yma o'i gymharu â 94.5 y cant yn Norwy—a'r ffaith bod 3 biliwn o boteli plastig yn cael eu taflu yn y DU. Mae Lloegr a'r Alban wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal, ac mae'n ymddangos mai'r cyfan a wnawn yma yw siarad amdano, ymgynghori yn ei gylch, ond nid ei weithredu mewn gwirionedd. Mae YouGov ac MCS wedi dangos bod 71 y cant o bobl Cymru o blaid cyflwyno'r cynllun, fel y mae fy Aelod cyfatebol, Julie Morgan. Felly, erfyniaf ar y Gweinidog i roi un inni.
Yn yr un modd, mae angen inni roi ystyriaeth ddifrifol i feysydd eraill lle mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn arwain y ffordd. Mae'r rhain yn cynnwys y bwriad i wahardd, gydag eithriadau rhesymol, gwerthiant gwellt plastig, ffyn cotwm â throwyr diodydd plastig yn Lloegr. Mae'n debyg y gallwn enwi 100 o eitemau eraill yr hoffwn eu gweld yn cael eu gwahardd. Yn ôl Surfers Against Sewage, mae hwn yn gam cadarnhaol a beiddgar iawn i'r cyfeiriad cywir yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig.
Rwy'n cytuno, ac yn gynharach y mis hwn ysgrifennais at fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn AC, i holi ynghylch y defnydd o wellt plastig ym Maes Awyr Caerdydd, a chanfod mai WHSmith yn unig sy'n dal i fod â gwellt o'r fath yn eu siopau. Yn gyffredinol, mae'r DU yn ail yn yr UE o ran y defnydd y pen o wellt a throwyr diodydd ac yn gyntaf o ran ffyn cotwm. Nid yw'r ffigurau hyn, sy'n creu embaras, yn syndod o ystyried bod nifer y gwellt plastig a ddefnyddir yn y sector cyhoeddus yn cynyddu mewn gwirionedd, a gwelwyd cynnydd o dros 0.25 miliwn ohonynt ers 2013-14. Felly, wrth inni siarad amdano yma heddiw, mae'n dal i ddigwydd. Felly, Weinidog, gwrandewch ar ein dadl, os gwelwch yn da. Peidiwch â 'dileu popeth'. Cefnogwch ein cynnig, a gadewch i bawb ohonom gydweithio ar draws y Siambr hon i sicrhau bod plastig yn cael ei ddileu ym mhobman. Diolch.
Ni fyddai unrhyw berson rhesymol yn anghytuno â'r cynnig hwn nac ag unrhyw un o'r gwelliannau a gyflwynwyd heddiw. Rwy'n falch o'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd i leihau'r defnydd o blastig yn ein deunyddiau traul. Torrodd y tâl am fagiau siopa yng Nghymru dir newydd ac mae wedi cael effaith wirioneddol ar y defnydd o'r bagiau hyn. Mae wedi newid ymddygiad, a gwelwn dystiolaeth o hyn pan awn i'r archfarchnad a gweld pobl yn estyn eu bagiau defnydd, eu bagiau troli a'u bagiau am oes. Yn yr un modd, mae cyfraddau ailgylchu'n gwella ac yn arwain yn y byd. Mae biniau llai o faint, llai o gasgliadau sbwriel a mwy o gasgliadau deunydd ailgylchadwy oll yn help yn hyn o beth.
Ond mae mwy i'w wneud. Gwelaf bobl yn eu ceir yn taflu sbwriel o ffenestri eu ceir wrth oleuadau traffig y maent yn gyrru heibio iddynt. Nid ydynt yn byw yno felly nid oes ots. O amgylch siopau lleol ac o amgylch arosfannau bysiau, plastigion, gwastraff bwyd papur—mae'r cyfan yn cael eu taflu ar y llawr am nad ydynt yn meddwl nac yn malio, a bydd rhywun arall yn ei glirio yn y pen draw. A pheidiwch â gadael i mi ddechrau sôn am siopau bwyd tecawê neu ein traethau. Pwy sy'n credu ei bod hi'n iawn i adael clytiau budr ar draeth, neu ai ddim yn meddwl y maent? Pwy ar y ddaear sy'n meddwl ei bod yn iawn i daflu eu bwyd a'u deunydd pecynnu allan o'r car pan fyddant droedfeddi'n llythrennol o gyrraedd bin, neu ai ddim yn meddwl y maent unwaith eto? Credaf fod gwerth i bob un o'r argymhellion a grybwyllwyd heddiw, ac felly rwy'n dweud, 'Bwriwch ymlaen i'w wneud'.
Credaf fod y wlad i gyd wedi cael ei chyffwrdd gan y gyfres Blue Planet y llynedd. Yno, mewn lliw llawn hyfryd, fe welodd pob un ohonom ganlyniad torcalonnus ein cymdeithas wastraffus. Ond a yw hyn wedi arwain at y newid ymddygiad fel sydd ei angen? Nac ydy. Mae'n ymddangos i mi mai un o brif ystyriaethau'r ddadl hon na soniwyd amdani yw newid ymddygiad, a hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru'n edrych ar wyddor ymddygiad a'i defnydd yn y maes hwn.
Rydym wedi gweld damcaniaeth berswâd o'r fath yn cael ei defnyddio'n dda o'r blaen yn y trefniadau ar gyfer optio allan rhag rhoi organau a threfniadau phensiynau. Fel un sy'n hoff iawn o anifeiliaid, rwy'n poeni'n fawr am yr effaith niweidiol y mae plastig yn ei chael ar anifeiliaid yn ein moroedd ac ar ein tiroedd. Yn fy marn i, mae angen i'r math hwn o ddull gweithredu fod yn y gymysgedd i annog triniaeth fwy ystyriol o'n hamgylchedd a lle plastigion ynddo. Diolch.
Diolch i grŵp y Torïaid am gyflwyno'r cynnig hwn. Mae'r cynnig yn hollol iawn yn y modd y mae'n ceisio atal y defnydd o blastigion ac allforio cynhyrchion plastig, yn hytrach na rhai o'r gwelliannau sydd i'w gwneud i'r cynnig, sy'n ceisio awgrymu mai ailgylchu yw'r ateb i broblem gorddefnyddio plastig. Ni ddylem gael ein cyflyru i gredu bod deunydd y gellir ei ailgylchu neu ddeunydd sy'n fioddiraddiadwy yn iawn i'w ddefnyddio. Er mwyn bioddiraddio, mae angen aer a dŵr ar y deunydd, ac nid yw'n eu cael os caiff ei ddal o dan dunelli o wastraff arall mewn safleoedd tirlenwi. Mae ailgylchu ei hun yn defnyddio cryn dipyn o ynni. Ystyrir yn aml bod rhywbeth a wneir o ddeunydd sydd wedi'i ailgylchu 100 y cant wedi'i ailgylchu yn gwbl ecogyfeillgar, ac eto mae'n bosibl y gall fod angen defnyddio mwy o ynni i'w weithgynhyrchu na'r hyn sydd ei angen i greu'r cynnyrch gwreiddiol. Dylid newid y labeli i adlewyrchu'n fwy cywir beth yw cyfanswm cost amgylcheddol plastigion—wedi'u hailgylchu neu fel arall.
Yn nodweddiadol, mae gwelliant Llafur yn llongyfarch ei hun yn hytrach na meddwl am syniadau ychwanegol i symud y ddadl yn ei blaen, ac mae cyfyngu ar y defnydd o blastigion yn ymrwymiad llawer mwy cyfyngedig ar ran Llywodraeth Cymru nag awgrym y cynnig gwreiddiol i wahardd y cynhyrchion plastig mwyaf diangen sy'n achosi llawer iawn o niwed. Y prif reswm pam ein bod wedi allforio gwastraff plastig i wledydd eraill yw oherwydd treth tirlenwi'r UE, a oedd yn gosod ardoll ar bob tunnell o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi, heb wneud unrhyw ymdrech i sicrhau bod dim ohono'n cael ei ailgylchu mewn gwirionedd. O ganlyniad, yn lle anfon ein sbwriel i safleoedd tirlenwi neu i'n ffatrïoedd ailgylchu ein hunain, fe'i hanfonwyd i Tsieina a lleoedd eraill. Ni ystyriwyd cost amgylcheddol cludo'r cyfan yr holl ffordd, er ei bod yn enfawr. Ond mae wedi caniatáu i'r UE a Llywodraeth Cymru hawlio buddugoliaeth fod eu rheolau wedi arbed tunelli o sbwriel rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Yn hytrach, mae'n gorwedd ar ffurf mynyddoedd enfawr o wastraff nad yw'n cael ei ailgylchu a heb wneud unrhyw beth i leihau'r galw am greu plastig newydd. Mae cyfarwyddeb yr UE wedi costio'n ddrud iawn i'r amgylchedd byd-eang, ac yn lle hynny, i bob pwrpas, mae wedi arwain at greu safleoedd tirlenwi yn Tsieina a llefydd tebyg. Yn synhwyrol, mae'r gwledydd hynny bellach yn dechrau dweud wrth wledydd fel ni am drin ein sbwriel ein hunain yn hytrach na'i ddympio arnynt hwy. Mae cyfarwyddeb tirlenwi'r UE yn enghraifft berffaith o'r union fath o rinwedd dwyllodrus a niweidiol sy'n arwydd y dylai Llywodraeth Cymru a phawb arall ei osgoi er mwyn y blaned a phob peth byw arni.
Byddaf yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, ond rwy'n meddwl y dylid rhoi mwy o bwysau ar weithgynhyrchwyr a chynhyrchwyr sy'n defnyddio plastig i roi'r gorau i wneud hynny. Pam y dylai'r cyhoedd neu awdurdodau lleol—sy'n cael eu hariannu gan arian cyhoeddus—dalu am brosesu gwastraff a gynhyrchir yn unswydd i helpu cynhyrchwyr i werthu eu cynnyrch? Yn aml, nid oes dewis gan y defnyddiwr ond derbyn llawer o blastig nad oes arnynt mo'i angen na'i awydd. Pam y dylent orfod ariannu'r gwaith o'i brosesu wedyn? Pe gosodid ardoll neu rwymedigaeth ar archfarchnadoedd a gweithgynhyrchwyr i gymryd y plastig y maent yn ei greu yn ôl, a thalu'r gost ailgylchu neu waredu o ganlyniad i hynny, efallai y byddent yn meddwl ddwywaith cyn ei orfodi ar ddefnyddwyr yn y lle cyntaf.
A pham fod rhaid gwneud popeth o blastig? Gellir creu popeth fwy neu lai y gellir ei greu o blastig o ddeunyddiau eraill—deunyddiau y gellid eu tyfu yng Nghymru a darparu cnwd ychwanegol o arian i ffermwyr Cymru. Oes, weithiau mae angen i weithgynhyrchwyr ddiogelu eu cynnyrch wrth ei gludo, ond maent yn gwneud llawer gormod ohono—er enghraifft, poteli inc sy'n cael eu cau mewn plastig trwchus iawn ar ôl iddynt fod yn ei werthu am ddegawdau heb fawr o ddeunydd pacio. Efallai y gallai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig archwilio a herio gweithgynhyrchwyr ac archfarchnadoedd i egluro eu penderfyniadau ynglŷn â'u defnydd o blastigion.
Ond mae'n ymwneud â mwy na'r deunydd pecynnu a'r eitemau a restrir yng nghynnig y Ceidwadwyr yn unig—ac rwy'n cefnogi pob un ohonynt. Defnyddir plastigion hefyd mewn cerbydau ac offer cartref—mae'r rhestr yn gwbl ddiddiwedd. Mae gan rai eitemau broses sefydledig ar gyfer gwaredu ac ailgylchu'r cydrannau plastig, ond mae angen i lywodraethau ar y ddwy ochr i'r ffin ac ar draws y byd annog pobl i beidio â defnyddio plastig yn gyffredinol. Felly, yn olaf, er bod awgrymiadau cynnig y Ceidwadwyr yn ddechrau da iawn, mae angen ymagwedd gydgysylltiedig tuag at y defnydd o blastig i ymdrin â'i holl ffynonellau, a dileu'r defnydd ohono'n gyfan gwbl yn y pen draw. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy groesawu'n ddiffuant y cyfle i gael y ddadl hon heddiw ar y pwnc pwysig hwn—pwnc sy'n cael sylw mawr yn ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwleidyddiaeth. Mae plastig yn ddeunydd modern sydd wedi trawsnewid ein bywydau—mewn sawl ffordd er gwell. Yn y ffordd gywir, mae'n ddeunydd pwysig a defnyddiol y gellir ei ddefnyddio mewn llawer iawn o ffyrdd, nid yn lleiaf at ddefnydd meddygol, ond bellach, yn gynyddol ac yn ddidostur yn aml iawn, rydym wedi sylweddoli'r modd y mae'r diwylliant gwastraffus a ddatblygodd yn rhan olaf y ganrif ddiwethaf yn costio'n ddrud i'n hamgylchedd.
Rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd arloesol ac effeithiol o ymdrin â gwastraff plastig a rhoi diwedd ar y defnydd o blastigion untro diangen a deunyddiau na ellir eu hailgylchu na'u hailbrosesu. Rydym wedi clywed heddiw sut y mae'n rhaid i ni weithredu er mwyn ein hamgylchedd ac er mwyn cenedlaethau'r dyfodol. Ac mae cymaint o'r gwaith i fynd i'r afael â llygredd plastig yn cael ei arwain gan bobl ifanc, boed drwy ein rhwydwaith eco-ysgolion, camau gweithredu lleol a digwyddiadau yn ein Senedd Ieuenctid ein hunain. Gallwn ymfalchïo yn yr hyn rydym wedi'i gyflawni yng Nghymru hyd yma. Gwyddom ein bod yn arwain yn y DU ar ailgylchu trefol gyda chyfraddau o 67.2 y cant, ond ni allwn, ac nid ydym yn llaesu dwylo. Roeddwn yn hoffi'r ffordd y dywedodd David Melding y gallwn fancio'r hyn a wnaethom a mynd ymhellach wedyn, a dyna rydym wedi ymrwymo i'w wneud.
Nid oes ateb syml nac atebion perffaith i broblem plastig. Mae mynd i'r afael â gwastraff plastig yn gymhleth ac amlochrog, sy'n croesi ffiniau personol, busnes a rhynglywodraethol. Felly, rydym yn gweithio gyda phartneriaid diwydiant ac awdurdodau lleol i ddatblygu seilwaith newydd ar gyfer cynyddu'r gwaith o ddidoli ac adfeddiannu gwastraff plastig yng Nghymru. Rydym am leihau'n sylweddol y ddibyniaeth ar farchnadoedd tramor i ailgylchu'r gwastraff plastig a gesglir yma yng Nghymru. Rwyf wedi cytuno felly y dylai'r defnydd o gronfa buddsoddi cyfalaf yr economi gylchol gwerth £6.5 ar gyfer 2019-20 ganolbwyntio'n gryf ar ailgylchu plastigion. Mae WRAP Cymru yn goruchwylio'r cynllun ar ein rhan ac rwy'n hapus i ddosbarthu rhagor o fanylion i'r Aelodau.
Law yn llaw â hynny, mae angen inni ystyried rheoli plastig yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r cynlluniau dychwelyd blaendal yn profi—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y caiff yr arian hwnnw ei dargedu i wneud cyfundrefn ailgylchu gadarnach yma yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli eich bod am ddosbarthu gwybodaeth i'r Aelodau. A fydd y wybodaeth honno'n cynnwys manylion yr hyn rydych yn debygol o'i gyflawni erbyn i chi wario'r arian hwnnw? Oherwydd mae gweld y gwastraff hwnnw ym Malaysia a thrydydd gwledydd eraill yn rhywbeth sy'n tanseilio hyder pobl rhag newid i ailgylchu.
Nid ydym am i bobl roi'r gorau i ailgylchu, felly'r ateb i hynny yw sicrhau ein bod yn datblygu'r marchnadoedd hyn yn nes at adref. Rwy'n fwy na pharod i anfon cymaint o wybodaeth ag y gallwn i chi gael golwg arni.
Roeddwn yn sôn am gynlluniau dychwelyd blaendal. Maent wedi profi eu bod yn gwella'r broses o ailgylchu ar hyd y lle a lleihau sbwriel, yn ogystal â darparu casgliad safonol o gynwysyddion diodydd y gellir eu hailgylchu. Clywais feirniadaeth heddiw—rwy'n credu ein bod wedi siarad ynglŷn â sut y cawsom sgyrsiau gyda chymheiriaid ar draws y gweinyddiaethau datganoledig a'r DU, ond rydym wedi pasio hynny bellach. Nid wyf yn gwybod a oes rhai o'r Aelodau wedi bod yn hepian, ond yn ddiweddar, buom yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ynghylch rhinweddau cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ac ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr.
Daeth yr ymgynghoriad i ben fis diwethaf ac fel y byddai'r Aelodau'n disgwyl, cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb yn yr ymgynghoriad ac ymatebion iddo. Mae'n bwysig yn awr ein bod yn ystyried sut y byddai unrhyw gynllun yn cyd-fynd â'n casgliadau presennol o gartrefi yn ogystal ag edrych ar yr effeithiau ar y defnyddwyr, megis costau a hygyrchedd. Fel y dywedais, mae'r argymhellion hyn ar gyfer cynllun dychwelyd blaendal yn cydredeg â chynigion ehangach i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, sy'n creu mwy o gyfrifoldeb ar y cynhyrchwyr am y deunydd pacio y maent yn ei greu. Pe bai'r rhain yn cael eu rhoi ar waith, y dull gorau a mwyaf buddiol fyddai gwneud hyn ar yr un pryd.
Yn ystod yr ymgynghoriad ar y ddau beth hyn, cynhaliais sesiwn friffio i Aelodau'r Cynulliad yn ogystal â chyfarfod i randdeiliaid o bob maes gydag awdurdodau lleol, manwerthwyr, a'r sector amgylcheddol hefyd, a buaswn yn fwy na pharod i ailadrodd hynny wrth inni symud i gamau nesaf y broses hon. Yn gysylltiedig â hyn mae ein huchelgais i ddod yn genedl ail-lenwi gyntaf y byd. Ymgyrch dŵr tap ymarferol yw'r ymgyrch ail-lenwi i leihau faint o wastraff plastig a achosir gan boteli plastig untro. Yn dilyn ein cefnogaeth a'n gwaith hyrwyddo ar y cynlluniau ail-lenwi, rwy'n falch o rannu gyda'r Aelodau fod dros 1,000 o orsafoedd ail-lenwi ledled Cymru erbyn hyn a bod gan dros 96 y cant o'r cymunedau ar hyd llwybr arfordir Cymru bresenoldeb ail-lenwi.
Credaf mai Dai Lloyd a hefyd David Melding a siaradodd am ficroblastigion a'r effaith ar yr amgylchedd morol a'n cadwyn fwyd yn arbennig. Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon a chasglu rhagor o dystiolaeth, a hefyd mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfyngiadau ar gynhyrchion a wneir o blastigion oxo-ddiraddadwy, sy'n cynnwys ychwanegion sy'n cyflymu'r broses o ddadelfennu microblastigion niweidiol.
Mae pawb ohonom wedi clywed am y cyhoeddiad diweddar a ailadroddwyd yma heddiw gan Lywodraeth y DU i wahardd gwellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm yn Lloegr. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau ein bod ni yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfyngu ar, neu wahardd argaeledd y cynhyrchion hyn yn unol â chyfarwyddeb plastigion untro yr Undeb Ewropeaidd. Cawsom gyhoeddiadau ond yr hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu. Felly, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac yn ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer cyfyngiadau ar wellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm ac ar ystod ehangach o eitemau fel ffyn balwnau, cyllyll a ffyrc, platiau a chynwysyddion bwyd a diod polystyren.
Yn ogystal, mae Trysorlys Cymru wedi bod yn gweithio gyda Thrysorlys ei Mawrhydi ar gynigion i gymell y defnydd o blastig wedi'i ailgylchu drwy ddefnyddio treth ar bob deunydd pacio plastig sydd â llai na 30 y cant o gynnwys wedi'i ailgylchu. Byddwn yn parhau i gydweithio â Thrysorlys ei Mawrhydi hyd nes y bydd mwy o wybodaeth ar gael ar ddull arfaethedig Llywodraeth y DU, a sicrhau ein bod yn parhau i fod yn rhan o'r broses o ddatblygu a gweithredu polisi ar gyfer unrhyw fesur trethiant yn y maes hwn.
Ond mae'n amlwg fod y cyhoedd, gwleidyddion a rhanddeiliaid yn gyffredinol yn awyddus i roi camau ar waith i fynd i'r afael â gwastraff plastig yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i asesu'r potensial ar gyfer cyflwyno treth neu dâl am gynwysyddion diodydd untro yng Nghymru. Mae hyn yn parhau i fod yn opsiwn i ni, a bydd yn dibynnu ar ganlyniad cyfres o ymgyngoriadau ar wastraff a deunydd pacio a lansiwyd eleni, gan gynnwys cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a oedd yn cynnwys cwestiwn hefyd ynglŷn ag ardoll bosibl ar gynwysyddion diodydd, ynghyd â chamau pellach, a'r gwaith a wnawn gyda busnesau i gynyddu eu lefelau ailddefnyddio eu hunain.
Wrth inni ddatblygu'r agenda hon, mae hefyd yn hynod o bwysig ein bod yn gochel rhag canlyniadau anfwriadol, yn ogystal â bod yn deg ac yn gymesur yn unol ag egwyddorion treth a nodwyd yn y fframwaith polisi treth. Ond fel cenedl, gallwn fod yn arbennig o falch o'n llwyddiant arloesol ym maes ailgylchu, rhywbeth sy'n cael ei gydnabod ledled y byd. Mae'r flwyddyn hon yn nodi ugain mlynedd ers datganoli, ac ar drothwy datganoli, 5 y cant yn unig o'n gwastraff a oedd yn cael ei ailgylchu yng Nghymru. Rydym bellach wedi cyrraedd dros 60 y cant. Rydym wedi arwain yn y DU, gan gyflwyno tâl am fagiau siopa a chyflwyno deddfwriaeth i wahardd microbelenni. Rwyf am i Gymru arwain unwaith eto ar reoli gwastraff ac adnoddau ac ar newid i economi gylchol ddiwastraff.
Gyd-Aelodau, ni ddylem dwyllo ein hunain ynglŷn â maint y broblem. Mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth ac fel unigolion i wella pethau. Mae cymunedau ledled y wlad yn cymryd camau i leihau plastigion untro, o Aberporth i Ynys Môn. Mae hyn i'w gymeradwyo a'i gefnogi. Mae'r momentwm wedi bod ar gynnydd dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys yn yr Wyddgrug, yn fy etholaeth i, a chynhelir ail gyfarfod cymunedol o Lleihau Plastig yr Wyddgrug yr wythnos hon. Mae camau gweithredu unigol bach yn gwneud gwahaniaeth o'u cyflawni ar y cyd, felly mae'r cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu, gan gynnwys y Llywodraeth—camau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd ac y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem plastig i'n hamgylchedd, i'n cymunedau ac i'n dyfodol. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod y Gweinidog wedi taro'r hoelen ar ei phen ar ddiwedd ei haraith pan ddywedodd fod angen gweithredu ar hyn yn ogystal â geiriau da. Cadwaf fy sylwadau'n fyr, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwy'n sylweddoli faint o amser sydd gennyf, ac mae Aelodau o bob plaid, ac Aelodau annibynnol wrth gwrs, wedi gwneud pwyntiau da iawn.
Os edrychwch ar yr ystadegau, credaf eu bod yn wirioneddol frawychus. Mae llawer o siaradwyr wedi cyfeirio atynt. Ar hyn o bryd mae Cymru'n cynhyrchu cyfanswm o 400,000 tunnell o wastraff plastig y flwyddyn. Fel y clywsom, gall hirhoedledd plastigion olygu bod plastig yn para mewn safleoedd tirlenwi am ganrifoedd. Credaf fod pwyntiau Dai Lloyd yn arbennig o berthnasol i mi fel tad i fabi saith mis oed erbyn hyn. Credaf ei fod yn ddychrynllyd, nid yn unig yr hyn a ddywedoch chi am blastigion a microblastigion a nanoblastigion—mae bron ar lefel ffuglen wyddonol—yn cynyddu yn ein cyrff yn ddyddiol, ond mae'r broses honno'n dechrau'n gynnar iawn pan gaiff baban ei eni, neu cyn hynny hyd yn oed. Mae'r microblastigion a'r nanoblastigion hyn ym mhobman. Maent yn bodoli drwy'r gadwyn fwyd gyfan. Mae'n mynd i fod yn anhygoel o anodd ymdrin â'r sefyllfa hon, ond mae angen inni ymdrin â'r sefyllfa ac mae angen inni ddechrau yn awr.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, David Melding, yn ei gyfraniad, yn aml ceir yr agwedd, 'Pa wahaniaeth y mae'n ei wneud os yw Cymru'n gwneud hyn, os yw gwlad fach yn gwneud ei gorau? Oherwydd mae yna wledydd llawer mwy o faint, ac os nad ydynt hwy'n cymryd unrhyw sylw, yna ni allwn gyrraedd unman'. Wel, o leiaf mae'n ddechrau. Byddwn yn aml yn defnyddio'r ymadrodd 'maint Cymru', oni wnawn? Wel, os yw gwlad maint Cymru yn gallu dechrau ceisio ymdrin â phroblem plastigion, efallai y gallwn ledaenu arferion da ar draws y byd a bydd gwledydd eraill yn dilyn ein hesiampl. Gwyddom am achosion eraill lle rydym wedi pasio pethau yn y Siambr hon, pethau a oedd ar y pryd yn ymddangos yn chwerthinllyd i lawer o bobl. Efallai y cofiwch chi, pan oeddem yn trafod bagiau plastig untro, fod rhai pobl yn credu na fyddai byth yn gweithio, ei fod yn syniad gwallgof, y byddai pobl yn mynd â bag Morrisons i archfarchnad Sainbury ac yn defnyddio hwnnw. Wel, fe welwch hynny drwy'r amser erbyn hyn, mae'n gyffredin, ac mae gennych fagiau amlddefnydd a bagiau papur. Felly, mae yna bethau y gellir eu cyflawni yn y dyfodol, er eu bod i'w gweld yn anodd eu cyflawni ar y pryd. Felly, gadewch i ni gychwyn arni ac annog hynny i ddigwydd.
Do, fel y clywsom ac fel y dywedodd Dai, cawsom ddatganiad o argyfwng newid hinsawdd. Mae angen inni weld gweithredu ar lawr gwlad gyda newid hinsawdd, ond mae angen ymdrin â materion amgylcheddol ehangach fel plastig hefyd. Rwy'n falch fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod yn edrych ar hyn. Mae'n bwysig iawn craffu ar y maes hwn yn llawn. O ran y gwelliannau, un o'r rhesymau pam ein bod yn gwrthod gwelliant y Llywodraeth yw oherwydd y bydd yn dileu ein cynnig. Rydym yn cefnogi gwelliant 2, sy'n gwneud rhai pwyntiau da iawn am ganllawiau a roddir gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym broblem gyda gwelliant 3 ac rydym yn mynd i ymatal ar hwnnw, nid am nad yw gwahardd deunydd pecynnu bwyd plastig nad yw'n ailgylchadwy neu'n fioddiraddiadwy yn nod canmoladwy, ond rwyf am weld rhagor o wybodaeth am y dulliau o wneud hynny ac yna byddwn yn ei gefnogi'n llawn. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n fater y gall y pwyllgor newid hinsawdd a phwyllgorau eraill ystyried ei graffu a darparu atebion real iawn i'r Llywodraeth.
Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies ar y dechrau'n deg, mae angen inni drosglwyddo—rwy'n aralleirio yn awr—amgylchedd sy'n well na'r hyn a gawsom. Mae angen inni wneud hynny i'r genhedlaeth nesaf mewn perthynas â phob math o bethau. Gallwn edrych ar y gwasanaeth iechyd, gallwn edrych ar addysg, gallwn edrych ar drafnidiaeth, ar ffyrdd, fel y trafodasom, ond ar fater yr amgylchedd, y blaned hon yw ein treftadaeth a adawn ar ein holau i genedlaethau'r dyfodol. A heb y blaned lle rydym—wel, rwy'n sefyll yn awr ac rwy'n siarad â chi am amddiffyn y blaned—. Heb hynny, mae popeth arall yn ddibwys mewn gwirionedd. Felly, rwy'n meddwl eich bod wedi gwneud pwynt da iawn ar ddechrau eich araith, Andrew, sy'n atseinio drwy gyfraniadau pawb arall heddiw, ac yn wir, fe wnaeth y Gweinidog ymateb iddo.
Felly, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl heddiw? Rwy'n meddwl ei bod yn ddadl a gafodd ei dwyn i'r amlwg gan raglenni fel Blue Planet David Attenborough. Gobeithio y bydd llawer o raglenni eraill hefyd yn parhau i godi proffil y mater hwn. Mae'n rhywbeth na châi ei drafod mor bell yn ôl â hynny ac rydym yn ei drafod yn y Siambr yn awr, a thrafod problem yw'r cam cyntaf i'w datrys.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.