– Senedd Cymru am 4:18 pm ar 18 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar aer glan. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Cadeirydd. Llygredd aer yw'r risg fwyaf difrifol o ran iechyd yr amgylchedd yr ydym ni'n ei hwynebu heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn lleihau'r graddau y mae pobl a'r amgylchedd naturiol yn agored i lygredd aer niweidiol drwy gyflwyno seilwaith newydd, atgyfnerthu rheoleiddio a gwneud gwaith cadarn o ran monitro a chasglu tystiolaeth.
Mae aer glân yn ganolog i'n llesiant, ac mae ein dull o fynd i'r afael â llygredd aer yn cael ei arwain gan y ffyrdd o weithio a nodwyd gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae cyfradd llygredd nitrogen deuocsid yn un o'r dangosyddion cenedlaethol a sefydlwyd gan y Ddeddf, yr ydym yn ei defnyddio i fesur cynnydd tuag at ein nodau llesiant. Yn sgil yr effaith barhaus a gaiff materion ansawdd aer ar bobl a'r amgylchedd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Deddf Aer Glân newydd. Rydym ni wedi ymrwymo i gymryd pob cam ymarferol i wella ansawdd aer, nid yn unig yn y mannau mwyaf llygredig, ond ledled Cymru gyfan.
Mae llygredd aer yn cael yr effaith fwyaf ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas: plant, pobl hŷn, y rhai sydd â chyflyrau iechyd cronig, a phobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae llygredd aer yn effeithio ar gyflwr ein hamgylchedd naturiol hefyd, gan fygwth ein rhywogaethau planhigion mwyaf prin a'r rhai mewn perygl, ac yn achosi difrod mawr i gnydau a choedwigoedd. Yng Nghymru, y ffynhonnell o lygredd aer sy'n achosi'r broblem fwyaf yw traffig ar y ffyrdd, er bod llygredd gan ddiwydiant, amaethyddiaeth a thanau domestig yn gofyn am ein sylw ni ar frys hefyd.
Mae camau gweithredu gan y Llywodraeth a diwydiant dros y tri degawd diwethaf wedi arwain at gwymp sylweddol o ran rhai llygryddion aer, tra bod eraill heb newid fawr iawn ac mae rhai wedi gweld cynnydd bach hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r cyfraddau o lygredd sy'n wynebu ein dinasyddion a'n hamgylchedd naturiol yn rhy uchel o hyd, ac mae cymryd camau pellach yn ofynnol.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi canllawiau ansawdd aer sy'n seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am effaith llygryddion aer ar iechyd pobl. Gyda rhai llygryddion aer, mae unrhyw lefel yn beryglus, ac, o dan yr amgylchiadau hyn, mae'r canllawiau yn awgrymu lefelau sy'n cynrychioli'r isaf gellir ei gyflawni. Bwriedir i'r canllawiau hyn fod yn fan cychwyn i lywodraethau cenedlaethol ddatblygu mesurau sy'n adlewyrchu'r ffactorau lleol y gwyddys eu bod yn dylanwadu ar effeithiau llygredd aer. Rydym ni'n ystyried y lefelau yng nghanllaw Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer deunydd gronynnol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddeall yr agweddau ymarferol ar gyflwyno gwelliannau i ansawdd aer a llywio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae'r cyfyngiadau cyfreithiol presennol ar lygredd aer yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, ac yn pennu safon dderbyniol ofynnol. Mae'r angen am reolau ar lefel yr UE yn adlewyrchu'r ffaith nad yw llygredd aer yn parchu ffiniau cenedlaethol ac yn gofyn am ymateb ar y cyd ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Beth bynnag fydd canlyniad y broses Brexit, rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dulliau ni o ddiogelu'r amgylchedd yn gyson â'r rhai ar lefel yr UE, ac nid ydym ni am ostwng y safonau o gwbl.
Mae cyflawni yn erbyn y safonau hyn yn gofyn am weithredu ar y cyd ar draws y Llywodraeth a chymdeithas. Felly, mae'r cyfrifoldeb am fynd i'r afael â llygredd aer yn cael ei rannu ar draws y Cabinet i gyd. Rwyf i wedi bod yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar gamau i fynd i'r afael â'r gormodedd o nitrogen deuocsid mewn pum safle ar draws ein rhwydwaith strategol o draffyrdd a chefnffyrdd. Mae'n bleser gennyf i gyhoeddi y bydd terfynau cyflymder 50 milltir yr awr yn cael eu rhoi ar waith yn barhaol ym mhob un o'r pum safle erbyn canol mis Gorffennaf. Fe fyddwn ni'n ehangu'r cyfathrebu ynglŷn â'r rheswm dros y cyfyngiadau cyflymder ac yn gosod arwyddion traffig parhaol newydd ym mhob safle, fel y bydd y cyhoedd yn ymwybodol o bwysigrwydd y mesurau hyn.
Ar ddiwedd y mis hwn, rwyf i fod i gael adroddiadau astudiaeth o ddichonoldeb gan gynghorau Caerdydd a Chaerffili, yn amlinellu'r camau y byddan nhw'n eu cymryd i fodloni'r terfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr amserlen fyrraf bosibl. Bydd y cynlluniau yn cael eu hasesu yn annibynnol gan banel o arbenigwyr y mis nesaf, ac rwy'n bwriadu gwneud penderfyniad terfynol ar weithredu mesurau cyn gynted ag sy'n bosibl wedi hynny, yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor.
Mae sicrhau aer glân yn golygu ei bod yn rhaid i ni, fel cymdeithas, leihau ein dibyniaeth ar geir preifat ac annog pobl i gerdded, seiclo a defnyddio cludiant cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn helaeth mewn creu llwybrau teithio llesol ledled Cymru, ac mae dros £30 miliwn o fuddsoddiad ar y gweill a mwy yn yr arfaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd ein huchelgais ni i bob bws a phob tacsi fod yn isel eu hallyriadau carbon neu'n gwbl rydd o hynny erbyn 2028 yn sicrhau bod y defnydd cynyddol o gludiant cyhoeddus yn gallu cyfrannu at wella ansawdd yr aer, yn ogystal â'n symud ni tuag at economi carbon isel.
Mae angen newid y system gynllunio i fynd i'r afael ag ansawdd aer i atal problemau ansawdd aer cyn iddyn nhw godi. Yn dilyn newidiadau ar gyfer cryfhau'r gofynion i fynd i'r afael ag ystyriaethau ansawdd aer yn y 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig, a gyhoeddwyd y llynedd, rwy'n falch fod swyddogion cynllunio a'm rhai innau yn datblygu nodyn cyngor technegol newydd ar gyfer cynllunwyr a datblygwyr ar ansawdd aer a seinlun, yn dilyn galwad â phwyslais am dystiolaeth yn ddiweddarach eleni.
Mae bod â'r dystiolaeth orau sydd ar gael yn hanfodol er mwyn i ni fanteisio i'r eithaf ar effaith gadarnhaol y mesurau yr ydym ni'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer. Ym mis Ebrill eleni, fe wnês i gomisiynu asesiad eang o fesurau i leihau allyriadau aml-lygredd a thraws-sector. Bydd yr ymchwil hwn yn darparu'r asesiad mwyaf manwl erioed o ansawdd aer ledled Cymru. Bydd yn ystyried yr ystod lawn o ymyraethau posibl ac yn eu hasesu ar sail gwerth am arian. Yn hollbwysig, bydd yn asesu effaith bosibl y mesurau hynny ar saith nod lles ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Caiff y dystiolaeth hon ei defnyddio i lywio ein cynllun aer glân i Gymru. Yn ei dro, bydd y cynllun yn nodi'r meysydd hynny sy'n gofyn am fynd i'r afael â'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth drwy ein Deddf Aer Glân.
O'n hanadl gyntaf hyd ein hanadl olaf, mae angen aer glân arnom ni i fyw bywydau iachach a hapusach. Mae'r camau yr wyf wedi eu disgrifio yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu seilwaith, tystiolaeth a rheoliadau newydd i helpu i gyflawni'r nod hwn. Ceir camau hefyd y gall pob un ohonom ni eu cymryd heddiw i osgoi peryglon llygredd aer. Fe allwn ni i gyd leihau ein cyfraniadau personol ni tuag at lygredd yn yr aer a'r amser y byddwn ni'n agored iddo. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Global Action Plan am y tro cyntaf i ddathlu Diwrnod Aer Glân ar yr 20 o fis Mehefin. Mae'n hanfodol ein bod ni'n hysbysu pawb am achosion llygredd aer a'r swyddogaeth sydd gan bob un ohonom ni wrth fynd i'r afael ag ef. Felly, rwy'n annog Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol i gyd a phawb sy'n gwrando ar y ddadl hon i gefnogi'r ymgyrch Diwrnod Aer Glân ac ystyried yr hyn y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod Cymru'n anadlu aer glân.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies.
Diolch, Comisiynydd. Gweinidog, diolch am eich datganiad chi heddiw. Dyma un o'r meysydd lle'r ydym ni mewn angen taer o weld cynnydd sylweddol, gyda 2,000 o farwolaethau cynamserol y flwyddyn ddim ond yng Nghymru yn unig. Mae hynny'n bump o unigolion y dydd sy'n marw'n gynamserol oherwydd yr ansawdd aer gwael sydd gennym ni yma yng Nghymru. Er enghraifft, mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefel uwch o ronynnau yn yr aer y mae pobl yn ei anadlu yn y ddwy ardal hynny nac yn Birmingham neu Fanceinion, ac, fel un sydd wedi bod yn ardal Birmingham a Manceinion dros y penwythnos, pan feddyliwch chi am faint y ddwy ardal hynny a lefel y llygredd a fyddai'n bosibl yn yr ardaloedd hynny, mae hynny'n ei gwneud hi mor amlwg pa mor bell ar ei hôl hi yr ydym ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu a gwella'r camau y mae'n eu cymryd yn y maes penodol hwn. Yn arbennig, ym mis Ionawr eleni, wrth gwrs, cyfaddefwyd nad oedden nhw'n bodloni eu gofynion cyfreithiol—neu nad oedd Llywodraeth Cymru yn bodloni ei gofynion cyfreithiol—felly, a wnewch chi gadarnhau, Gweinidog, y byddai hynny'n golygu, ar ôl y datganiad heddiw a'r camau gweithredu yr ydych chi wedi eu hamlinellu yn y datganiad, bod Llywodraeth Cymru bellach yn bodloni ei gofynion cyfreithiol o ran ansawdd aer, neu, os nad ydych chi'n bodloni'r gofynion cyfreithiol hynny, pryd fyddwch chi'n debygol o gyrraedd y lefelau sylfaenol a osodir o dan y gyfraith i chi fel Llywodraeth?
Roeddech chi'n sôn yn y datganiad am derfynau cyflymder o 50 milltir yr awr y byddwch chi'n eu sefydlu ar y rhwydwaith gefnffordd a thraffordd yng Nghymru; mae'n rhaid i mi ddweud, y byddai hynny'n gwireddu breuddwyd i lawer sy'n sefyll yn stond ar yr M4 bob dydd, ac mae'r llygredd sy'n deillio o draffig sy'n sefyll ar dair lôn—wel, chwe lôn, i bob pwrpas, oherwydd yn aml iawn bydd hyn i'r ddau gyfeiriad—yn broblem enfawr i bobl sy'n byw yng Nghasnewydd ac yn ardal y de-ddwyrain. Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi o ran eich ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus, ond, os ydych chi'n sôn am 50 milltir yr awr, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud na fyddech chi'n beiddio mynd yn agos at 50 milltir yr awr y rhan fwyaf o adegau'r dydd ar y draffordd arbennig honno.
Ond rwyf yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n deall pam nad ydych chi'n dod i'r Siambr heddiw ac efallai'n croesawu rhai o'r camau y mae Llywodraeth y DU wedi eu cymryd ynghylch ansawdd aer. [Torri ar draws.] Wel, dyna'r gwirionedd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd ei hun wedi dweud bod y datganiad a'r strategaeth y mae Llywodraeth y DU—ac rwy'n clywed rhywrai, ar eu heistedd, yn chwerthin, ond dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod y strategaeth y mae Llywodraeth y DU wedi ei rhoi ar waith yn esiampl i weddill y byd ei dilyn. Felly, nid gwleidyddion sy'n dweud hynny, ond Sefydliad Iechyd y Byd. Ond rwy'n siŵr bod y cenedlaetholwyr yn gwybod yn well na Sefydliad Iechyd y Byd.
Felly, a gaf i ofyn—[Torri ar draws.] A gaf i ofyn pam nad yw'r Gweinidog wedi gweld yn dda efallai i fabwysiadu strategaeth o'r math hwn yng Nghymru, o gofio na fyddwn i'n awgrymu bod gwahaniaethau enfawr rhwng ein heconomi ni a'r hyn sy'n digwydd dros y ffin a Chlawdd Offa? Ac, os yw'r strategaeth honno'n ddigon cadarn gan Sefydliad Iechyd y Byd, pam nad ydym ni wedi mabwysiadu honno yma yng Nghymru?
Hefyd, rwy'n sylwi yn y datganiad fod y Gweinidog yn dweud bod ein polisïau a'n cyfreithiau yn seiliedig ar safonau'r UE. Mae'n ffaith bod safonau Sefydliad Iechyd y Byd, yn amlwg, yn uwch na'r safonau Ewropeaidd hynny ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fodloni'r safonau hynny. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y byddai'n sicr yn uchelgais gan Lywodraeth Cymru i ddarparu hyd at safonau Sefydliad Iechyd y Byd yn hytrach na safonau'r UE? Oherwydd fe fyddai hynny'n gweld newid sylweddol eto yn yr hyn y gallem ni ei gyflawni yma yng Nghymru. Rydych chi wedi sôn am Ddeddf aer glanach, Gweinidog; byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod—gan sôn am 2021, bod y Ddeddf honno'n dod ymlaen gan Lywodraeth Cymru, rwy'n amau fy mod i'n cofio bod honno'n flwyddyn etholiad i ni yma yn y Cynulliad, felly a yw hynny'n fwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai hyn yn eu maniffesto, neu a gaiff hyn ei gyflwyno a'i weithredu mewn gwirionedd erbyn 2021? Beth yw'r amserlen y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arni i gyflwyno Deddf o'r fath? Oherwydd rwy'n siŵr—. Credaf fod yna gefnogaeth drawsbleidiol i Ddeddf o'r fath, a byddai honno'n broses ddeddfwriaethol gymharol syml—efallai ei bod hi'n anghywir i ddweud bod unrhyw broses ddeddfwriaethol yn syml, ond mae cefnogaeth eang i weld deddfwriaeth yn y maes arbennig hwn.
Fe hoffwn i hefyd ddeall pam mae Caerdydd a Chaerffili—ac rwy'n gallu deall pam, oherwydd bod ganddyn nhw lefelau uchel iawn o lygredd—yn cyflwyno cynlluniau i chi ac rydych chi'n aros am y cynlluniau hynny, ond pam nad yw ardaloedd eraill yng Nghymru—ac rwyf i wedi tynnu sylw at Bort Talbot, er enghraifft—â'r un ymrwymiad i gyflwyno cynlluniau gweithredu o ran y ffordd y byddan nhw'n mynd ati i wella ansawdd yr aer y mae preswylwyr a busnesau yn yr ardaloedd hynny'n ei ddioddef ar hyn o bryd.
Fe hoffwn i dynnu eich sylw chi hefyd at y cynigion a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, o dan fy rhagflaenydd o ran y cyfrifoldeb portffolio hwn, sef David Melding, yn y ddogfen 'Liveable Cities', a oedd yn sôn am ddefnyddio'r system gynllunio ac yn sôn am greu parthau awyr glân. Ceir trywydd parod i gael cynnydd yn gyflym yn y maes arbennig hwn, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i wedi fy argyhoeddi, o ddarllen y datganiad hwn, ein bod ni'n mynd i gyflawni hynny. Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed eich atebion.
Diolch, Andrew, am y cwestiynau a'r sylwadau yna. Yn benodol, mae gan Gaerdydd a Chaerffili bryderon penodol iawn ynghylch llygredd aer ac rwy'n gwybod bod fy swyddogion i wedi bod yn gweithio'n agos iawn, nid yn unig ers i mi fod yn y portffolio ond pan oedd Hannah Blythyn yn Weinidog yr Amgylchedd, i fynd i'r afael â'r pryderon hynny. Rydym ni wedi helpu i ariannu eu hastudiaethau dichonoldeb nhw ac fe fyddan nhw'n adrodd i mi erbyn diwedd y mis.
Roeddech chi'n sôn yn benodol am Bort Talbot, ac mae'n amlwg ein bod ni wedi cwblhau llawer o waith ar gyfer deall y problemau yn yr ardal honno o ran ansawdd aer. Hyd yma eleni, nid yw'r lefelau o ronynnau a gaiff eu monitro ar draws yr holl safleoedd monitro sydd gennym ni ym Mhort Talbot wedi sbarduno gweithredu drwy'r cynllun gweithredu tymor byr sydd gennym ni yn y fan honno ac rydym ni'n parhau i fod o fewn terfynau rhesymol. Ond eto, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw ar ben y gwaith, felly rwyf i wedi gofyn i'm swyddogion ailedrych ar y cynllun gweithredu tymor byr hwn i sicrhau mai honno yw'r ffordd orau o fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ym Mhort Talbot.
Roeddech chi'n sôn am y pum safle 50 milltir yr awr. Mae hwn yn rhywbeth diddorol iawn yr ydym ni wedi ei gyflwyno. Mae gennyf i un yn fy etholaeth i fy hun, felly mae'n amlwg mai hwnnw yr wyf i'n gwybod y mwyaf amdano. Rwy'n aros i glywed beth yw canlyniad y parth 50 milltir yr awr neilltuol hwn. Fy mhryder i yw nad yw pobl yn cadw ato. Fe fyddaf i'n gyrru ar 50 milltir yr awr a bydd pobl yn fy ngoddiweddyd i, fe fyddwn i'n dweud, drwy'r amser. Rwy'n credu mai un o'r meysydd lle mae gennyf i bryderon—ac fe roddir sylw i hyn pan fyddwn ni'n cyflwyno'r pum safle ar sail barhaol—yw nad yw pobl yn deall pam maen nhw'n safleoedd 50 milltir yr awr. Felly, rwyf i o'r farn fod angen arwyddion yn dweud, 'Mae ansawdd aer gwael yn lladd, peidiwch â mynd mor gyflym.' Felly, rydym ni'n gweithio ar yr arwyddion hynny, oherwydd rwyf i'n sicr wedi clywed pobl yn dweud yn Wrecsam eu bod nhw'n credu mai'r cyflymder yw holl ystyr hyn ac yn holi pam nad yw'r heddlu'n ei orfodi. Felly, rwy'n credu bod angen i ni roi gwybod i'r cyhoedd pam y byddwn ni'n cyflwyno'r safleoedd 50 milltir yr awr—pam yr ydym ni wedi eu cyflwyno nhw, mae'n ddrwg gennyf i—a pham y byddwn ni'n eu gwneud nhw'n barhaol.
O ran Llywodraeth y DU, rwy'n hapus iawn i ddysgu oddi wrth Lywodraeth y DU pan fyddan nhw'n cyflwyno syniadau a chynlluniau a fyddai'n ein helpu ni, ac yn sicr rydym ni'n ymgysylltu â nhw ar faterion perthnasol o ran ansawdd aer, oherwydd fel y gwyddoch chi, swyddogaethau gweithredol cyfyngedig sydd gan Weinidogion Cymru. Os meddyliwch chi am reoleiddio adeiladu, er enghraifft, sy'n amlwg yn effeithio ar hyn, cyflenwad cerbydau modur, safonau i fanylebau cerbydau, er enghraifft—felly, rydym ni yn gweithio gyda Llywodraeth y DU.
Rydych chi yn llygad eich lle am ganllawiau iechyd y byd. Yn sicr, rwyf i wedi gofyn—rwy'n meddwl fy mod i wedi crybwyll yn fy natganiad fy mod i wedi gofyn i swyddogion edrych arnyn nhw. Rwy'n credu eu bod oddeutu 50 y cant yn fwy llym na lefelau'r UE. Felly, mae hwn yn sicr yn rhywbeth yr wyf i wedi gofyn i swyddogion edrych arno, ac rwy'n disgwyl am gyngor pellach ar y mater hwnnw.
Roeddech chi'n gofyn am y Ddeddf aer glân—roedd hwnnw'n ymrwymiad gan y Prif Weinidog yn ei faniffesto—ac roeddech chi'n holi ynghylch yr amserlen. Rydym ni am ymgynghori ar gynllun aer glân i Gymru yn yr hydref a bydd y cynllun yn nodi'r llygrynnau allweddol a'u heffeithiau ar iechyd y cyhoedd ac, wrth gwrs, ein hamgylchedd. Bydd yn cynnwys mesurau i sicrhau cydymffurfiad â'r holl ofynion deddfwriaethol. Bydd hynny wedyn yn llywio yr hyn y byddwn ni'n ei gyflwyno mewn Deddf.
Felly, ni allaf i roi amserlen i chi, ond yn sicr mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gyflwyno hyn cyn gynted ag sy'n bosibl. Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi am gytundeb trawsbleidiol—os oes unrhyw broses o ddeddfu yn hawdd, rwy'n credu eich bod chi'n iawn; fe allai hyn fod yn rhywbeth y gallem ni edrych arno. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr amserlen yn dilyn yr ymgynghoriad yn yr hydref.
Mae hi, wrth gwrs, yn wythnos aer glân ac mae'n rhaid i fi ddweud, Weinidog, roeddwn i wedi disgwyl rhyw ddatganiad neu ryw gyhoeddiad arwyddocaol yn eich datganiad chi y prynhawn yma, ond y cyfan rŷm ni wedi ei gael yw ategu, yn amlwg, eich bod chi'n ymrwymedig i Ddeddf aer glân i Gymru, ond dim manylion pellach ynglŷn â chynnwys posib i'r Ddeddf, a bach iawn o fanylion ynglŷn ag amserlen gosod Deddf o'r fath. Pa gynnydd ydych chi fel Llywodraeth wedi ei wneud yn y gwaith i ddatblygu'r Ddeddf yma?
Rŷch chi'n dweud yn y datganiad eich bod chi'n ymrwymiedig i gynllun aer glân i Gymru—rwy'n gwybod hynny'n barod—ond dim cynnydd. Hynny yw, rŷch chi newydd gyfeirio at ryw ddyddiad anelwig yn yr hydref ar gyfer ymgynghoriad, heb sôn am gyflwyno cynllun. Rŷch chi'n dweud yn eich datganiad eich bod chi'n ymrwymiedig i gymryd pob mesur ymarferol i wella ansawdd aer. Wel, ble mae'r camau ychwanegol, yn hytrach na ryw gyfeiriad at beth rŷch chi eisoes wedi ei gyhoeddi? Y cyfan sydd yn y datganiad yma yw re-hash o gyhoeddiadau blaenorol, ac mae'n rhaid i fi ddweud, mae hynny'n hynod, hynod siomedig.
Nawr, mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi codi'r mater yma'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi'n cofio dadleuon yn y Siambr yma flwyddyn a mwy yn ôl yn galw am weithredu brys. Mae Dr Dai Lloyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân yn y Cynulliad yma. Felly, pryd welwn ni gynllun aer glân yn gweld golau dydd? Nid yr ymgynghoriad—pryd ydych chi'n bwriadu gosod y cynllun ar waith? Pryd mae'r Llywodraeth yma yn bwriadu gosod Bil aer glân o flaen y Cynulliad yma? Roeddwn i'n gobeithio mai dydd Iau yma fyddai'r Dydd Aer Glân olaf inni yng Nghymru heb fod yna ddeddfwriaeth wedi ei mabwysiadu yn ei lle. A byddai hynny, wedyn, wrth gwrs, yn ein helpu ni i daclo melltith llygredd aer unwaith ac am byth. Felly, pryd ddaw e? Oherwydd os bydd yn rhaid inni aros blwyddyn arall, yna yr hyn mae hynny'n ei olygu, wrth gwrs, yw y bydd Llywodraeth Cymru yn goddef 2,000 o farwolaethau ychwanegol yn sgil llygredd aer oherwydd yr oedi hynny, ac mae hynny'n sgandal. Mae'n sgandal cenedlaethol ac mae'n warthus.
Mae'r Llywodraeth, eich Llywodraeth chi, a'r Cynulliad yma wedi datgan argyfwng hinsawdd—argyfwng hinsawdd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgan bod llygredd aer yn grisis iechyd cyhoeddus—yn grisis iechyd cyhoeddus. Nawr, nid diweddariad roeddwn i'n gobeithio ei gael yn y datganiad yma. Nid busnes fel arfer. Mae'n amser nawr i newid gêr ac i roi troed i lawr, ond beth rŷm ni'n ei gael yw Llywodraeth mewn awtopeilot, a dyw hynny ddim yn dderbyniol.
Rwy'n siomedig iawn bod Llŷr wedi cymryd y safiad yna. Rydych chi wedi clywed fy ateb i Andrew R.T. Davies ynghylch y Ddeddf aer glân. Hefyd, rydych chi wedi clywed—rwy'n credu eich bod chi yn y Siambr—Vaughan Gething yn dweud am y—. O ran deddfwriaeth, roedd Vaughan Gething yn siarad am offerynnau statudol; rwyf i wedi cwblhau 95 o offerynnau statudol eleni. Mae'n rhaid i chi sylweddoli'r cyfyngiadau sydd arnom ni o ran deddfwriaeth. Byddaf yn ymgynghori ar y cynllun aer glân yn ystod yr hydref. Byddwn yn gobeithio dod â Bil gerbron y flwyddyn nesaf, ond bydd yn rhaid i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r Aelodau ynglŷn â hynny ar ôl yr ymgynghoriad. Ond i'r Prif Weinidog, roedd hwn yn un o'i ymrwymiadau maniffesto pan ddaeth yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr, felly rwy'n gwybod ei fod ef yn awyddus iawn i gyflwyno Deddf.
Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud ar draws y Llywodraeth. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen i ni wneud cynnydd yn y fan yma, ac fe soniais i yn fy natganiad mai un o'r prif faterion y mae'n rhaid i ni ymdrin â nhw yw traffig ar y ffyrdd. Ac rwy'n credu po fwyaf y gallwn ni ei wneud o ran cyflwyno cynlluniau i sicrhau bod modd i bobl allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn haws, ein bod yn annog cerdded, ein bod yn annog pobl i feicio—. Mae gennym ni deithio llesol ac rydym ni wedi rhoi cyllid sylweddol i hynny—£30 miliwn. Gwneir llawer iawn o waith monitro ledled Cymru gyda'r awdurdodau lleol sydd wedi cael yr arian hwnnw i gyflwyno eu cynlluniau.
Roeddech chi'n sôn am yr argyfwng hinsawdd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym ni'n cymysgu rhwng newid yn yr hinsawdd, ansawdd aer a datgarboneiddio. Er eu bod nhw'n integredig, wrth gwrs, pethau ar wahân ydyn nhw. Yn sicr, darllenais rywbeth yn y wasg yr wythnos hon a wnaeth i mi feddwl bod pobl yn dechrau rhoi'r pethau hyn at ei gilydd. Ac, fel y dywedais i, ceir integreiddio yn amlwg, ond rwy'n credu bod angen i ni sicrhau ein bod ni'n eu cadw nhw ar wahân pan fyddwn ni'n edrych ar faterion penodol.
Roeddech chi'n gofyn pa bethau ychwanegol yr ydym ni wedi eu gwneud. Rydym ni wedi dyrannu dros £20 miliwn ar gyfer cronfa ansawdd aer a fydd yn mynd â ni hyd at 2021. Mae hyn yn ein helpu i gyflymu cydymffurfiad â therfynau ar nitrogen deuocsid a gwella ansawdd yr aer ledled Cymru.
Rwyf i'n croesawu'r datganiad. Un o'r problemau sydd gennym ni yw na ellir gweld deunydd gronynnol o fathau PM2.5 a PM10, ond maen nhw'n difrodi'r ysgyfaint drwy lidio a difa'r wal alfeolaidd ac, o ganlyniad, yn amharu ar weithrediad yr ysgyfaint. Mae angen aer glân arnom ni. A wnaiff y Gweinidog, ar y cyd â'i chyd-Weinidogion, ystyried y canlynol: gwahardd llosgyddion newydd heblaw am losgyddion meddygol i ymdrin â phathogenau; cynhyrchu cynlluniau i leihau llygredd aer mewn ardaloedd fel Hafod a Ffordd Fabian yn Abertawe, lle nad y cyfyngiad ar gyflymder yw'r achos ond y cerbydau sy'n symud yn araf ac yn sefyll sy'n achosi'r broblem; ac, yn olaf, gwahardd llosgi gwastraff gan unigolion yn eu gerddi, sy'n aml yn cynnwys plastigau ac eitemau eraill sy'n gwneud difrod difrifol i'r aer?
Fe fyddaf i'n bendant yn hapus iawn i gael y trafodaethau hynny gydag ystod o gyd-Weinidogion. Yn amlwg, mae ansawdd aer yn fater ar draws y Llywodraeth, ac yn sicr fe gaiff ei drafod yn y Cabinet. Ond byddaf i'n edrych ar yr holl faterion hynny ac yn ysgrifennu atoch chi ymhellach.
Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn briodol yn eich datganiad, Gweinidog, mae'n amlwg bod traffig ar y ffyrdd yn agwedd arwyddocaol iawn ar lygredd aer, ac rydym ni wedi clywed cyfeiriad eisoes at y problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod i'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog yn fawr i fwrw ymlaen ag ymateb integredig i'r problemau hyn o ran trafnidiaeth? Mae'n ymddangos i mi nad yw'r syniad y gallwch chi ymdrin â'r problemau a achosir gan draffig ar y ffyrdd drwy adeiladu rhagor o ffyrdd eto, sy'n llenwi â mwy fyth o deithiau traffig, yn gasgliad rhesymegol iawn i ddod iddo. Yr hyn sydd arnom ei angen mewn gwirionedd yw newid sylweddol a'r symudiad moddol hwnnw o ran dulliau teithio i weld pobl a nwyddau yn gynyddol oddi ar ein ffyrdd ac ar ein trenau a'n bysiau ac, wrth gwrs, cynyddu teithio llesol yn rhan o hynny, i ni gael gweld y manteision corfforol o ran iechyd yn ogystal ag aer glanach i'w anadlu.
A ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, fod parthau 20 milltir yr awr yn cyd-fynd yn dda iawn â'r math o gynnydd mewn teithio llesol yr ydym ni'n awyddus i'w weld, a'u bod nhw'n cyd-fynd yn dda iawn hefyd gydag anogaeth i'n plant i feicio, cerdded a sgwtera i'r ysgol, a fyddai'n gyfraniad pwysig iawn, yn fy marn i, ar gyfer ymdrin â llygredd aer ar ein ffyrdd, ar ein strydoedd? Oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod pan fo'r ysgolion ar eu gwyliau, bod llawer llai o draffig o gwmpas a llawer llai o lygredd aer. Rydym ni'n gweld yn aml yr anhrefn sydd i'w gael o gwmpas ysgolion pan fydd rhieni'n cael lleoedd annhebygol i barcio lle na ddylen nhw barcio mewn gwirionedd, mae injans yn cael eu gadael yn troi, gadewir cerbydau yn sefyll a'u hinjans yn troi, ac mae'r plant yng nghanol hyn i gyd, ynghyd â staff yr ysgol ac, yn wir, y rhieni sy'n cerdded i'r ysgol gyda'u plant.
Gellir gwneud llawer o bethau i ymdrin â'r materion hyn: bysiau cerdded, polisïau i wobrwyo plant a'i gwneud hi'n nod i'r ysgol i gynyddu cerdded, sgwtera a beicio. Yn wir, mae ysgol gynradd Ringland yn fy etholaeth i wedi cynyddu'r teithio llesol i'r ysgolion gan 20 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac erbyn hyn mae ychydig llai na hanner y disgyblion yn teithio i'r ysgol yn y dull hwnnw. Mae hi'n berffaith bosibl, ond mae'n ymddangos i mi fod angen rhywbeth mwy cynhwysfawr ledled Cymru, rhywbeth mwy systemig, Gweinidog, fel nad yw hyn yn gyfrifoldeb i ysgolion unigol nac, yn wir, i awdurdodau lleol.
Dim ond dau fater arall y byddwn i'n hoffi eu crybwyll. Un ohonyn nhw yw fflydoedd tacsis. Rwyf i wedi sôn wrthych chi o'r blaen, Gweinidog, pe byddem ni'n trawsnewid fflydoedd tacsis i redeg ar Nwy Calor, er enghraifft, byddem ni'n gweld gwelliant enfawr o ran materion llygredd aer. Ac mae cost y trawsnewidiadau fel arfer yn eu had-dalu eu hunain mewn dim ond rhyw flwyddyn neu ddwy. Mae hi'n achos dryswch i mi, mewn gwirionedd, pam nad ydym ni wedi gweld mwy o fentrau o'r fath. Hefyd, a yw eich cylch gwaith chi ar lygredd aer yn ymestyn i ysmygu mewn mannau cyhoeddus? Gan fy mod i'n gwybod bod llawer o bobl yn teimlo'n gryf iawn, yn enwedig pobl â chyflyrau fel asthma, bod anadlu mwg i mewn ym mannau awyr agored caffis a bwytai, mewn parciau, yng nghanol trefi a dinasoedd, yn wirioneddol beryglus i'w hiechyd ac yn llygryn mawr yn yr aer y maen nhw'n ei anadlu.
Diolch i John Griffiths, am y cwestiynau yna. Rwyf i wedi gofyn i swyddogion, am fy mod i'n credu i chi ofyn i mi sawl tro ynglŷn â thacsis, ac rwyf i wedi gofyn i swyddogion edrych yn benodol ar Nwy Calor ac edrych ym mhle arall yn y byd y maen nhw'n cael eu defnyddio i allu cael mwy o wybodaeth am hynny.
Ysmygu mewn mannau cyhoeddus, nac ydi, nid yw hynny'n rhan o'm cylch gwaith i, ond, fel y dywedais i, mae hwn yn fater i bob aelod o'r Llywodraeth, ac felly fe fyddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn clywed eich sylwadau chi. I'r rhai ohonom ni nad ydym ni'n dioddef o glefyd anadlol, mae mwg—y newid yn sicr, a Chymru, yn amlwg, oedd y wlad gyntaf i wahardd ysmygu mewn mannau caeedig, ac rydym ni'n derbyn bod hynny'n rhywbeth cwbl arferol erbyn hyn, ond heb fod mor bell yn ôl â hynny, pan fyddech chi'n mynd i dafarn, er enghraifft, roedd hawl i ysmygu a'r effaith yr oedd hynny siŵr o'i gael ar gynifer ohonom ni—.
O ran ysgolion, credaf eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, a hefyd ynghylch newid mewn ymddygiad. Mae'r ysgol gynradd yr ydych chi'n sôn amdani yn eich etholaeth eich hun yn amlwg yn enghraifft dda o hynny. Os ydym ni'n ystyried sut y dechreuasom ni godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a newid ymddygiad o ran ailgylchu, er enghraifft, a'r newid yn yr hinsawdd, gyda phobl ifanc y digwyddodd hynny, felly, mae hon yn enghraifft wych, yn fy marn i, o ddanfon plant i'r ysgol, i ddefnyddio'r priod-ddull hwnnw. Yn sicr, rydym ni'n gwybod bod danfon plant i'r ysgol yn gwneud cyfraniad sylweddol at lefelau llygredd aer a thagfeydd traffig ar ein ffyrdd mewn llawer o ddalgylchoedd ysgolion, ac mae hynny'n sicr yn ystod yr oriau prysuraf yn ystod tymor yr ysgol, fel y gwnaethoch chi ei grybwyll. Credaf fod potensial hefyd, gan fynd yn ôl at y newid mewn ymddygiad sydd ei angen, i ysgolion helpu i ddysgu plant a rhieni am y materion sy'n ymwneud ag ansawdd aer a'n helpu ni i archwilio atebion posibl, fel rhannu ceir ac a oes unrhyw bolisïau hefyd o ran peidio â gadael i injans droi yn segur ar dir yr ysgol ac o'i amgylch. Felly, rydym ni yn rhoi canllawiau statudol i awdurdodau lleol, oherwydd rydym ni yn cydnabod bod ysgolion a llwybrau teithio llesol, ymhlith pethau eraill, yn lleoliadau derbynnydd sensitif, i ryw raddau.
Mae gennym ni bedwar i siarad eto a 15 munud ar ôl. Rwyf i eisiau tynnu sylw at hynny. Y siaradwr nesaf yw Mark Reckless.
Gweinidog, a wnewch chi egluro'r cyfyngiadau 50 milltir yr awr ymhellach? Mae pump ohonyn nhw, rydych chi'n dweud, yn cae eu gwneud yn rhai parhaol ar hyn o bryd. Pa dystiolaeth sydd gennym ni o ran sut y maen nhw wedi bod yn effeithiol o ran lleihau'r llygryddion yr ydym ni'n pryderu yn eu cylch? Rwyf i'n cael cwynion yn arbennig ynghylch y cyfyngiad 50 milltir yr awr wrth i chi ddod at dwneli Bryn-glas, ac rwy'n gwybod y gallai fod rhesymau eraill am hynny, ond mae'r pwyslais wedi bod ar lygredd aer yn ddiweddar pan fy mod i wedi cael ymatebion. Pa mor llwyddiannus neu fel arall fu hyn, tybed? Mae rhai pobl yn awgrymu bod y gostyngiad i 50 milltir yr awr yn achosi traffig i fynd yn agos at ei gilydd fel consertina mewn modd sy'n arwain at ran o'r tagfeydd, a dywedodd arolygydd ar y M4 y byddai'r ffordd liniaru yn lleihau allyriadau newid yn yr hinsawdd a llygredd aer. Yn amlwg, nid ydych chi am fwrw ymlaen â hynny, ond a yw'r cyfyngiad 50 milltir yr awr yn cael yr effaith y byddech chi'n hoffi ei gweld?
A wnewch chi egluro hefyd—? Rwy'n credu i chi wneud sylw am yr un yn eich etholaeth chi neu'n agos ati, am nad yw'r heddlu, efallai, yn gorfodi yn yr un ffordd ag y bydden nhw pe byddai hi'n fater arferol o oryrru. A yw'r heddlu'n trin y cyfyngiadau hyn yn yr un modd â'r rhai lle mae hi'n fater o ddiogelwch yn hytrach na llygredd aer?
Roeddech chi'n dweud yn eich datganiad fod yr angen am reolau ar lefel yr UE yn adlewyrchu'r ffaith nad yw llygredd aer yn parchu ffiniau cenedlaethol. Efallai fod hynny'n wir am rai llygryddion—fe fyddai sylffwr deuocsid yn enghraifft amlwg—ond o ran y rhai yr ydym ni'n pryderu fwyaf yn eu cylch nhw yn y fan hon—y nitrogen deuocsid a'r gronynnau—maen nhw mewn gwirionedd yn lleol tu hwnt. Fe fyddaf i'n ofalus iawn pan fyddaf i'n cerdded â'm tri o blant ar hyd y brif ffordd yn rhan o'u taith nhw i'r ysgol. Hyd yn oed os mai dim ond cerdded ar y palmant a wnewch chi, ryw ychydig oddi wrth y ceir, mae'r cyngor meddygol yn dweud bod hynny'n sylweddol well.
Rydych chi'n dweud nad ydych chi eisiau i ni gymysgu newid yn yr hinsawdd ac ansawdd aer, ond mae polisi cyhoeddus wedi gwneud hynny. O'r Undeb Ewropeaidd gyda'i safonau diesel a'r orfodaeth lac ohonyn nhw os o gwbl, hyd at Gordon Brown â'i gymhellion treth i symud oddi wrth betrol at ddiesel, y rhain mewn cyfuniad sydd wedi ein harwain ni at lawer o'r broblem llygredd sydd gennym ni erbyn hyn gydag ansawdd aer o ran y nitrogen deuocsid a'r gronynnau, sydd mor ddifrifol ac sydd, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, yn lladd 2,000 o bobl y flwyddyn yn gynamserol. A ydych chi dderbyn erbyn hyn mai camgymeriad oedd cymell pobl i newid o betrol i ddiesel? Ac er y byddai hi'n well gennych chi, yn ddiamau, weld pobl yn defnyddio cerbydau trydanol a bod Llywodraeth y DU newydd dynnu rhai o'r cymhellion yn ôl ynglŷn â hynny, a yw hi'n well i bobl brynu ceir petrol yn hytrach na rhai diesel, er gwaethaf yr allyriadau carbon deuocsid uwch yn yr ardal honno? Diolch.
Diolch. O ran y parthau 50 milltir yr awr, rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud bod y dystiolaeth yn gymysg. O ran yr un yn Wrecsam, yr hyn a ddywedais i oedd nad oeddwn i o'r farn bod pobl yn deall pam mae'r parth 50 milltir yr awr wedi ei orfodi yno. Maen nhw'n meddwl bod hyn i dawelu traffig neu i leihau cyflymder ac maen nhw'n gofyn pam nad yw'r heddlu'n ei orfodi. Wnes i ddim dweud y byddai'r heddlu'n ei orfodi o ran allyriadau carbon. Felly, yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud yw y byddwn i'n hoffi parhau â'r safleoedd 50 milltir yr awr, y pump ohonyn nhw, ond bod yn rhaid cael arwyddion yn egluro'r union reswm am y gostyngiad am nad wyf i'n credu bod pobl yn deall hynny. Felly, yn sicr yr un yn Wrecsam, rwy'n gwybod am hwnnw'n well am ei fod yn fy etholaeth i, mae hwnnw'n dweud 'Lleihau allyriadau'. Dim ond arwydd bach sy'n dweud, 'Lleihau allyriadau', nad yw'n ddealladwy i bobl, yn amlwg. Felly, rwyf i'n credu nad yw pobl wedi bod yn cadw ato oherwydd rwy'n credu bod ychydig o ddryswch ynglŷn â'r rheswm amdano ac oherwydd os ydyn nhw'n meddwl bod hyn oherwydd cyflymder ac nad yw'n cael ei orfodi, yna ni fyddan nhw'n cadw at 50 milltir yr awr. Yn bendant, mae'r dystiolaeth yr wyf i wedi ei chael o'r pum safle yn gymysg, ond rwy'n credu pe byddai gennym ni arwyddion sy'n dweud yn glir iawn bod ansawdd aer gwael yn lladd—a chredaf ei bod yn rhaid i chi roi sioc i bobl weithiau—bydd pobl yn fwy parod i gadw at y gostyngiad.
Peth hawdd iawn yw bod yn ddoeth wedi'r digwydd. Yn sicr, rwy'n cofio'n iawn pan oedden nhw'n dweud wrthym ni i gyd am gael ceir diesel. Yr hyn yr hoffwn i ei weld nawr yw mwy o symudiad tuag at gerbydau trydan. Yn anffodus, mae angen i ni gael y seilwaith i gyd-fynd â hyn, ac rydym ni wedi rhoi £2 filiwn i gael mwy o leoedd gwefru cerbydau trydan, er enghraifft, ledled Cymru gan fod angen i ni sicrhau bod pobl yn gallu mynd o gwmpas heb boeni am wagio'r batri ac wedyn heb fod yn gallu dod o hyd i bwynt gwefru. Rwy'n credu bod angen gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod y seilwaith ar gael.
Mae tri siaradwr gennyf i nawr, ac os byddan nhw i gyd yn gryno, efallai y byddaf i'n gallu rhoi cyfle i bob un ohonoch chi. Felly, yn eich dwylo chi mae hyn. Y siaradwr nesaf yw Vikki Howells.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae hwn yn fater mor bwysig, yn enwedig a ninnau i gyd yn gwybod am y niwed y mae llygredd aer yn ei achosi. Fel cynifer o gymunedau'r Cymoedd, mae fy ardal i yn un lle y cafodd aer ei lygru gan ddiwydiant trwm gyda'r gwaith tanwydd di-fwg Phurnacite eiconig yn cau 30 mlynedd yn ôl, ond mae etifeddiaeth hynny, yn enwedig o ran cyflyrau anadlol yn y gymuned, yn parhau i fod yn fater parhaus yn wir.
Mae gennyf i ddau gwestiwn i chi heddiw. Mae'r cyntaf hefyd yn ymwneud â pharthau 50 milltir yr awr. Mae un, fel y gwyddoch chi, ym Mhontypridd a Glan-bad, sydd ychydig y tu allan i'm hetholaeth i, ac fe fyddwn i'n cytuno â'r sylwadau a wnaethoch chi nawr. Rwyf i'n teithio drwy'r parth hwnnw bron bob dydd ac rwy'n teimlo mai fi yw'r unig un sy'n teithio ar 50 milltir yr awr, ac yn sicr nid oes unrhyw arwyddion yno i egluro pam mae'n barth 50 milltir yr awr. Rwyf i yn credu y byddai pobl leol mewn gwirionedd yn llawer mwy cefnogol pe bydden nhw'n gwybod y rheswm am hynny, i'r graddau fy mod i mewn gwirionedd wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n byw rywfaint i'r gogledd o'r parth hwnnw yn fy etholaeth i, yng Nghilfynydd, sydd wedi gofyn i mi pam na ellir ymestyn y parth i gwmpasu eu hardal nhw hefyd. Maen nhw yn gwybod fod a wnelo hyn ag allyriadau ac ansawdd aer ac maen nhw'n arbennig o ofidus oherwydd bod ysgol uwchradd Pontypridd yn sefyll yn union wrth ymyl yr A470 yn y fan honno ac mae cynnig i gydleoli Ysgol Gynradd Cilfynydd ar yr un safle. Rwyf i wedi cael sylwadau cryf iawn gan bobl yn y fan honno a fyddai'n croesawu ymestyn y parth 50 milltir yr awr i gynnwys ac amddiffyn plant yn yr ardal honno. Felly, rwy'n meddwl tybed beth yw eich barn chi ynglŷn â hynny.
A'r cwestiwn olaf sydd gennyf i yw nodi'r agwedd gyfiawnder cymdeithasol yn hyn hefyd, y gwnaethoch chi gyfeirio ati yn eich datganiad. Rydym ni'n gwybod bod cysylltiad agos iawn rhwng amddifadedd, anghydraddoldebau iechyd a llygredd aer, felly tybed pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda chyd-Weinidogion eraill ynghylch sut y gallwn ni fynd i'r afael â hynny.
Diolch i Vikki Howells am y ddau gwestiwn yna ac rwyf i'n cytuno'n llwyr â chi oherwydd rwyf i wedi cael sylwadau gan fy etholwyr fy hunan ynghylch y 50 milltir yr awr hwn, ac rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle y byddai pobl leol yn llawer mwy parod i yrru ar gyflymder o 50 milltir yr awr, oherwydd rwy'n teimlo weithiau mai fi yw'r unig un sy'n gyrru ar 50 milltir yr awr. Nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd, ond mae hi'n teimlo felly, ac yn enwedig pan fydd pobl yn gwibio heibio i chi. Ond pe byddai yno arwydd yn dweud yn union beth oedd y rheswm am hynny ac, fel y dywedaf, mae hi'n angenrheidiol i roi sioc i bobl weithiau. Felly, mae fy swyddogion a minnau wedi bod yn trafod pa eiriad i'w ddefnyddio gan mai dim ond rhyw bedwar gair sydd gennych i'w defnyddio, ac yn amlwg bydd angen i hynny fod yn ddwyieithog. Felly, nid oes eisiau arwyddion enfawr arnoch chi, ond yn yr un modd mae angen i hwnnw fod yn drawiadol iawn, yn fy marn i, ar gyfer gwneud i bobl sylweddoli.
O ran estyniad, mae'n debyg y byddaf i'n bwrw golwg ar y dystiolaeth barhaus—fel y dywedais i, mae'n gymysg iawn ar hyn o bryd, ond credaf ei bod yn gymysg am nad yw pobl yn deall diben hyn—cyn ystyried unrhyw estyniadau. Ac rydych chi'n llygad eich lle, mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hynny. Roeddech chi'n sôn am ddiwydiant trwm yn eich sylwadau agoriadol, ac yn sicr mae sgyrsiau yn digwydd ynglŷn ag estyniad pellach i'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus y cyfeiriodd John Griffiths ato, felly rwyf i yn cael y trafodaethau hynny ar draws y Llywodraeth.
Fel y dywedwch chi, yr un ffynhonnell o lygredd aer sy'n achosi'r broblem fwyaf yw traffig ar y ffyrdd, felly nid yw hi'n ddigon i symud o ddiesel i betrol, neu hyd yn oed, mewn gwirionedd, i geir trydan. Mae llawer iawn o ronynnau yn dod o'r olwynion beth bynnag.
Rydych chi'n sôn y byddwch chi'n cael yr astudiaethau dichonoldeb hyn gan gynghorau Caerdydd a Chaerffili ynghylch sut y maen nhw'n mynd i fodloni terfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr amser byrraf posibl, felly rwy'n gobeithio y bydd eich panel o arbenigwyr yn sylwi ar y ffaith, er bod y cynllun ar gyfer canol y ddinas yn newyddion da iawn, yn enwedig i drigolion Heol y Porth, lle maen nhw'n dioddef lefelau sylweddol iawn o lygredd aer, nid oes llawer iawn i ymdrin â'r materion ehangach o ran llygredd aer y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies atyn nhw yn ei gyfraniad cychwynnol.
Nid oes plant yn byw yng nghanol y ddinas. Er fy mod i'n croesawu'r bysiau di-allyriadau sydd ar fin mynd i lawr Heol Casnewydd, sef lle mae sawl ysgol yn ogystal â chryn dipyn o ardaloedd preswyl adeiledig iawn, yn arbennig tai amlfeddiannaeth—nid yw'r rhain yn bobl sy'n cael dewis lle maen nhw'n byw—er hynny, bydd ardal arall heb unrhyw welliant o gwbl i'r ysgolion o amgylch cyfnewidfa Llanedeyrn â'r A48. Ceir tair ysgol a meithrinfa a lefelau sylweddol iawn o lygredd yn yr aer, ac rwy'n gwybod bod problemau anadlol sylweddol yn y fan honno. Felly, rwy'n teimlo bod angen mwy gan Gaerdydd i sicrhau bod pobl ar draws y ddinas yn ymdrin â'r mater hwn ac yn gwneud y newid hwnnw i deithio llesol.
Fe hoffwn i'n arbennig pe byddech chi, yn eich cynllun aer glân, yn edrych ar ddanfon plant i'r ysgol neu'r 'school run' fel y'i gelwir yn gyfeiliornus, gan nad yw'n rhedeg nac yn gerdded nac yn seiclo hyd yn oed. Ac, mewn gwirionedd, mae honno'n ymddangos i mi yn un o'r ffyrdd cyntaf i ni leihau traffig oherwydd mae'n amlwg pan fydd yr ysgolion ar wyliau, bod gostyngiad enfawr yn y traffig. Felly, i ddechrau cychwyn, pe gallem ni weld pob ysgol uwchradd mewn ardal drefol â llwybrau teithio llesol fel y gallai pobl ifanc naill ai feicio neu gerdded i'r ysgol, byddai hynny'n llawer gwell ar gyfer datblygiad eu hannibyniaeth nhw yn ogystal â gwella'r amgylchedd yn gyffredinol. Felly, rwy'n gobeithio y gallech chi roi sylw i hyn yn eich cynllun aer glân, yr ydym ni'n edrych ymlaen amdano.
Diolch, Jenny Rathbone, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Fel yr ydych chi'n dweud, ac fel yr wyf i wedi ei ddweud mewn atebion cynharach, mae'n ofynnol i Gyngor Caerdydd gyflwyno cynllun terfynol i mi erbyn diwedd y mis ynglŷn â sut y maen nhw am gyflawni'r gwerthoedd terfyn nitrogen deuocsid statudol yn eu hardal o fewn y cyfnod byrraf posibl. A bydd y panel adolygu arbenigol annibynnol hwn gennyf, yr wyf i wedi gofyn iddo graffu ar dystiolaeth. Rwy'n awyddus i gael yr wybodaeth honno cyn gynted ag sy'n bosibl—rwyf i wedi dweud erbyn diwedd y mis nesaf. Ar hyn o bryd, byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau pellach ar gynlluniau'r Cyngor ar y cam hwn.
Rydych chi'n hollol gywir ynglŷn â cherbydau. Mae traffig ar y ffyrdd yn cael y fath effaith aruthrol, ac mae angen i ni annog newid. Gan fynd yn ôl at yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am ddanfon plant i'r ysgol, mae angen i ni annog newid o orddibyniaeth, yn fy marn i, ar geir preifat, at drafnidiaeth sy'n llawer mwy cynaliadwy fel cerdded a seiclo a chludiant cyhoeddus, ac mae honno'n amlwg yn elfen allweddol ar ymagwedd ein polisi.
Soniais mewn ateb cynharach am deithio llesol. Rydym ni wedi rhoi cyllid sylweddol tuag at hynny—£60 miliwn dros dair blynedd. Ac fe fyddwn i'n falch iawn—unwaith eto, nid yw hyn o fewn fy mhortffolio i, ond fe fyddwn i'n falch iawn o gael gweld y monitro sy'n digwydd o ran teithio llesol a sut mae awdurdodau lleol yn sicrhau ei bod yn fwy diogel i bobl feicio a cherdded. Ac, unwaith eto, o fewn fy etholaeth i fy hun, rwyf i wedi gweld llwybrau beicio sy'n dod i derfyn yn sydyn—nid yw hynny'n dderbyniol, ac mae angen i ni sicrhau bod ein gwaith monitro yn gadarn a bod awdurdodau lleol yn cyflwyno'r math hwn o—. Wel, nid math o drafnidiaeth ydyn nhw, ond maen nhw'n ei gwneud hi'n haws i bobl roi'r car o'r neilltu. Ac rwy'n gwybod bod mwy o bobl yn defnyddio bysiau na'r rheilffyrdd, ond rwy'n credu eu bod nhw'n bwysig, y camau yr ydym ni'n eu cymryd gyda'r rheilffyrdd ac yn sicr mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi mewn cerbydau newydd, glanach, a hefyd, yn amlwg, bydd gennym ni fetro de Cymru a metro gogledd Cymru, a fydd, rwy'n gobeithio, yn dwyn ffrwyth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
A'r siaradwr olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch. Rwyf yn croesawu'r datganiad heddiw, a dim ond un cwestiwn sydd gennyf. Deallaf yn ôl ym 1854, fod meddyg ifanc o'r enw John Snow, a oedd yn gweithio yn Soho yn Llundain pan oedd yr epidemig colera ar ei anterth, wedi nodi ar fap â dotiau hynt yr achosion o golera, a chan ddefnyddio'r dystiolaeth honno, ymdriniwyd mewn gwirionedd ag achosion o golera a oedd yn gysylltiedig ag un bibell garthion halogedig a oedd yn agos at danc septig ac yn y blaen. Mae gennym y dystiolaeth yn glir yn awr o'r effaith drychinebus y mae hyn yn ei gael drwy fyrhau bywydau ifanc, ac ynghylch pa mor agos ydynt i ysgolion a lleoedd eraill, felly mae angen i ni weithredu. Felly, rwyf yn ei groesawu heddiw.
Mae fy nghwestiwn mor syml â hyn: mae gennyf ffydd enfawr yn y Gweinidog, wrth gyflwyno ei chynllun gweithredu, y bydd ganddo'r manylder yn ogystal â'r uchelgais a fydd yn helpu i wneud y newidiadau y mae eu hangen arnom ni er mwyn sicrhau na fydd hyn yn arwain at epidemig colera ein hoes ni, ar draws y DU gyfan a'r gymdeithas yn y gorllewin, ond yma yng Nghymru yn arbennig. Ond mae'r rheswm pam y cafodd hyn ei wthio mor galed dros y degawd diwethaf yn deillio o grwpiau fel ClientEarth ac eraill, sydd wedi gallu dwyn achosion yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dywedodd Andrew R.T. Davies pa mor dda y mae Llywodraeth y DU yn gweithredu—y rheswm eu bod wedi rhoi mwy o her iddynt eu hunain yw am fod ClientEarth bellach wedi dweud wrthynt, 'byddwn yn mynd â chi'n ôl ac yn ôl ac yn ôl ac yn ôl i'r llys', ac maen nhw wedi herio'u hunain i lunio strategaeth. A allwn ni gael y sicrwydd hwnnw, wrth symud ymlaen, nawr ac mewn sefyllfa ar ôl Brexit, y gall dinasyddion neu sefydliadau dinasyddion ddwyn llywodraethau i gyfrif er mwyn sicrhau, os nad oedd y Gweinidog hwnnw yno, a bod diffyg uchelgais gan ryw Weinidog neu ddiffyg gallu i gyflawni ac nad oedd hwnnw'n gwneud hynny, y gallai dinasyddion ddal y Llywodraeth yn gyfrifol—mynd â nhw i'r llys, eu herlyn a'u gorfodi i fynd i'r afael â'r epidemig hwn, nawr, sydd ledled y DU?
Diolch. I ateb eich sylw penodol: mae'n gwbl hanfodol bod yna gorff y gall trigolion ac unigolion a dinasyddion Cymru fynd ato os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.
Diolch.