5. Cynnig i ddirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:35, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf am symud ymlaen at eitem 5, cynnig i ddirymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019. A galwaf ar Dai Lloyd i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM7057 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno y dylai Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Mai 2019, gael eu dirymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:35, 19 Mehefin 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A dwi'n codi i symud y cynnig ar ddirymu'r rheoliadau gofal sylfaenol a'r Gymraeg. Mae'r sector gofal sylfaenol—deintyddion, optegwyr, fferyllwyr, a meddygon teulu—yn gyfrifol am hyd at 90 y cant o brofiadau cleifion yn y gwasanaeth iechyd, ac, yn wir, y man cychwyn i'r rhan fwyaf ar eu taith ar hyd y llwybr gofal. Dyma bobl ar eu mwyaf bregus, yn yr angen mwyaf, lle mae derbyn triniaeth yn y Gymraeg yn gallu bod yn hanfodol, megis yn achos pobl sydd efo dementia, neu blant ifanc nad ydyn nhw'n medru unrhyw iaith heblaw'r Gymraeg.

Addawodd y Llywodraeth yn y gwanwyn y llynedd, wrth eithrio darparwyr gofal sylfaenol o'r safonau ar gyfer gweddill y gwasanaeth iechyd, y byddai rheoliadau penodol er mwyn sicrhau hawliau i'r Gymraeg ym maes gofal sylfaenol drwy'r contractau gwasanaeth. Ond, rydym ni yma heddiw yn edrych ar reoliadau nad ydyn nhw'n rhoi dim un hawl statudol, na hyd yn oed hanner disgwyliad statudol, o dderbyn gwasanaethau wyneb yn wyneb yn y Gymraeg i gleifion. Ar y gorau, fe gawn ni, dros amser, ambell i arwydd Cymraeg newydd o ganlyniad i'r rheoliadau hyn. Does dim byd yma: dim hawliau, dim disgwyliad, dim newid.

Chwarter canrif ers pasio Deddf Iaith 1993, wyth mlynedd ers pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a sefydlodd statws swyddogol i'r iaith, a saith mlynedd ers i'r Llywodraeth fabwysiadu 'Mwy na Geiriau', a oedd yn ei hymrwymo i gynnig gwasanaethau iechyd Cymraeg yn rhagweithiol, dyw'r rheoliadau pitw yma ddim hyd yn oed yn sicrhau'r pethau mwyaf sylfaenol â chofnodi angen iaith y claf—rhywbeth sy'n hanfodol er mwyn cynllunio gwasanaeth yn Gymraeg. Beth yw diben anogaeth? Hyd yn oed pe bai'r ewyllys, yr amser a'r adnoddau gan fyrddau iechyd i sicrhau bod anogaeth, dyw'r rheoliadau hyn ddim yn sicrhau bod cofnod. Dydy'r rheoliadau ddim yn sicrhau yr un hawl cyfreithadwy o werth. Ac nid ydyn nhw chwaith yn rhoi sicrwydd i wasanaeth Cymraeg, hyd yn oed pan fo hynny'n fater o angen clinigol. Mae hynny ynddo'i hun yn dangos pa mor ddiffygiol ydy'r rheoliadau yma, a pham bod angen eu dirymu a'u hail-lunio.

Ond ar ben hynny, mae'r Gweinidog wedi dangos yr un difaterwch at y Senedd hon, ac at ddemocratiaeth, wrth gyflwyno'r rheoliadau yma, ag y mae o yn ei ddangos at anghenion ieithyddol pobl mwyaf bregus cymdeithas o ran cynnwys y rheoliadau. Ni ddaeth i'r pwyllgor i ateb cwestiynau. Mae hyd yn oed wedi gwrthod cais fy nghyd-weithiwr Delyth Jewell, sy'n aelod o'r pwyllgor, i drafod y ffordd ymlaen cyn y ddadl heddiw. Cymaint yw ei ddifaterwch am y Gymraeg, doedd ei adran ddim hyd yn oed wedi trafferthu cyfieithu memorandwm esboniadol y rheoliadau hyn i'r Gymraeg adeg cyflwyno'r rheoliadau, er bod dim ond pump tudalen i gyd. Felly, wrth gyflwyno'r dyletswyddau iaith, mae'r adran wedi torri ei dyletswyddau iaith ei hun. Allech chi ddim gwneud y peth i fyny.

Ond beth sydd yn glir yw bod y Llywodraeth yn poeni am farn y proffesiwn. Yn wir, yr unig gyrff sy'n cael eu rhestru yn y memorandwm esboniadol fel cyrff a gafodd wrandawiad y Llywodraeth yw'r pump corff proffesiynol. Mae'n glir bod eu barn nhw yn bwysicach na chynrychiolwyr etholedig y lle hwn. Fe gawson nhw lawer iawn mwy na 21 diwrnod i ddweud eu dweud; yn wir, fe gawson nhw dros flwyddyn. Roedd yn rhaid i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fynnu cynnal ymchwiliad byr iawn o fewn y 21 diwrnod a oedd gyda nhw, a saith o'r dyddiau hynny yn y toriad. Os nad yw Cadeirydd pwyllgor yn haeddu parch y Llywodraeth hon, pwy sydd? I bwy maen nhw'n atebol? Dyw hi ddim y ffordd i drin ein Senedd genedlaethol.

Yn lle trafodaeth agored, dryloyw, ar y materion hyn, er mwyn sicrhau'r gorau i gleifion a defnyddwyr y Gymraeg, mae gennym ni Lywodraeth sydd wedi gwneud popeth i osgoi atebolrwydd y Senedd hon am gynnwys y rheoliadau yma. Rydw i fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cwyno, ond dydych chi ddim yn gwrando. Mae'n ddamniol. Mae'r strategaethau, mae'r geiriau cynnes, wedi methu. Nid nawr yw'r amser am y camau cyntaf ac anogaeth; mae'n bryd am reoliadau llawer cadarnach i warchod ac ehangu hawliau i'r Gymraeg. Mae gan Aelodau'r Cynulliad gyfle i sicrhau hynny'r prynhawn yma drwy bleidleisio i ddirymu'r rheoliadau yma.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:40, 19 Mehefin 2019

Byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn i ddirymu'r rheoliadau hyn, nid ar sail eu cynnwys, ond oherwydd eu bod yn anwybyddu rôl graffu'r Senedd hon. Yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn hawdd i ymarferwyr fodloni gofynion y rheoliadau—mae rhywun arall yn talu amdanyn nhw a dydyn nhw ddim yn heriol. Dwi ddim am osod safonau ar fusnesau bach, hyd yn oed yn uniongyrchol, ond camau syml yw'r rhain sy'n costio bron dim byd, a, mewn ffordd, mae'n destun embaras bod angen deddfwriaeth o gwbl ar gyfer y camau yma. Ond fe fydd pobl eraill sy'n meddwl y dylen nhw fod yn fwy heriol neu'n llai heriol neu'n wahanol yn gyfan gwbl. Dŷn ni ddim yn gwybod gan nad oes digon o amser wedi bod i graffu ar y rheoliadau hyn. Os yw Cadeiryddion dau bwyllgor yn dweud wrth Lywodraeth Cymru fod angen mwy o amser ar y Cynulliad hwn, wel, fe ddylem ni gael mwy o amser. Ni sydd yn deddfu; ni sydd yn penderfynu ar y ddeddfwriaeth.

A hefyd, rydym eisoes wedi bod yn dal ein trwynau yn derbyn sicrwydd gan y Llywodraeth ynghylch derbynioldeb peth is-ddeddfwriaeth gan y Deyrnas Unedig, mewn meysydd sydd wedi'u datganoli'n barod, heb edrych arnyn nhw ein hunain, mewn gwirionedd. Ni ddylem ni orfod gwneud hyn gydag is-ddeddfwriaeth a gyflwynir gan ein Llywodraeth ein hunain. Rydym wedi gwrthwynebu dro ar ôl tro ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gyfiawnhau defnyddio'r weithdrefn negyddol ar gyfer is-ddeddfwriaeth ar sail nad oes gan y Senedd hon ddigon o amser i graffu neu oherwydd mai dim ond rhai technegol y byddai unrhyw newidiadau, ac rydym wedi cael digon o hynny. Mae'r modd y cyflwynwyd y rheoliadau hyn yn profi ein pwynt. A wnewch chi barchu'r Senedd hon a chefnogi'r cynnig heddiw? Diolch.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:42, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Bethan Sayed, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

Diolch i Dai Lloyd am gyflwyno'r cynnig hwn. Rwyf am ddechrau drwy bwysleisio pwysigrwydd y rheoliadau hyn. Maent i fod i fynd â ni’n agosach at ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn y Gymraeg—rhywbeth y gwnaeth pawb a ddaeth i siarad â’r pwyllgor ei gydnabod fel rhywbeth sy’n angenrheidiol i rai pobl, ac nid dim ond dewis a ffafrir. Gall fod yn hanfodol i gleifion sy’n agored i niwed siarad â’u meddyg yn eu hiaith gyntaf. Er fy mod yn credu’n bersonol y dylai’r rheoliadau cael eu dirymu, mae aelodau’r pwyllgor mewn dau feddwl ar y mater hwn a dylwn ei gwneud yn glir fy mod yn siarad ar ran y pwyllgor.

Cyn siarad am gynnwys y rheoliadau, hoffwn drafod y ffordd y cawsant eu gosod gerbron y Cynulliad. Ym mis Mawrth y llynedd, craffodd y pwyllgor ar reoliadau’r safonau yn ymwneud â’r Gymraeg a’r sector iechyd, a dywedodd Gweinidog y Gymraeg ar y pryd wrthym y byddem yn cael mwy na’r isafswm o 21 diwrnod i drafod y rheoliadau hyn.

Ysgrifennodd clerc y pwyllgor at Lywodraeth Cymru dair gwaith i ofyn am amserlen y rheoliadau a chadarnhau y byddai gennym fwy na 21 diwrnod i graffu arnynt. Ar ôl dim ateb, dywedwyd wrth glerc y pwyllgor dros y ffôn y byddent yn dod 'cyn y Pasg' ac wedyn 'cyn diwedd Mai'. Heb unrhyw rybudd ymlaen llaw, fe’u gosodwyd ar 9 Mai a daethant i rym ar 30 Mai.

Mae’r Llywodraeth wedi methu’n llwyr yn ei thriniaeth o’r rheoliadau hyn. Pan ysgrifennais at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi bod yr amserlen yn golygu mai dim ond 10 diwrnod gwaith oedd gan y pwyllgor i ymgynghori â rhanddeiliaid, i drafod y rheoliadau ac i adrodd yn ôl arnynt cyn iddynt ddod i rym, cefais ateb anfoddhaol iawn. Atebodd y Gweinidog: 

'dan Reolau Sefydlog 21 a 27, does dim darpariaeth i Bwyllgor ac eithrio Pwyllgor cyfrifol...roi gwybod am offeryn sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.'

Mae hyn yn anwybyddu’r ffaith ein bod ni, fel pwyllgor, wedi bod yn nodi ein bwriad i graffu ar y rheoliadau hyn ers dros 12 mis.

Rhoddodd y Gweinidog iechyd ymateb mwy graslon i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr un mater.  Dywedodd wrth Mick Antoniw:

'Ni chafwyd yr un math o ddiddordeb yn y diwygiadau blaenorol i’r Rheoliadau hyn, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sicrhau yn y dyfodol, os byddant yn ymwneud â’r Gymraeg, ein bod yn rhybuddio’r Pwyllgor Diwylliant ac yn ymgysylltu â hwy yn gynharach yn y broses.'

Mae Dai Lloyd eisoes wedi trafod y ffaith bod y memorandwm esboniadol i reoliadau ar ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wedi’i gyflwyno yn Saesneg yn unig. Byddai hynny’n ddoniol pe na bai mor amharchus. Nodaf fod y Gweinidog iechyd hefyd yn nodi bod ei swyddogion wedi, a dwi'n dyfynnu,

‘cytuno mewn egwyddor y byddwn yn cynyddu yn raddol nifer y memoranda esboniadol ar gyfer offerynnau statudol sy’n cael eu gosod gerbron y Cynulliad yn Gymraeg.’

Ai ymrwymiad mor wan â hyn yw’r gorau y gallwn ei ddisgwyl gan Lywodraeth sydd ag uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050?

Fel pwyllgor, rydym am i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi’r cyfle inni graffu ar yr holl ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â dyletswyddau’r Gymraeg ar ddarparwyr gofal sylfaenol cyn iddi gael ei gwneud neu ei gosod yn y Cynulliad. Ni ddylai fod angen dweud y dylid cyflwyno’r holl ddogfennau ategol yn ddwyieithog, ond yn yr achos hwn byddaf yn dweud hynny er mwyn iddo fod ar gofnod.

O ran ymgynghoriad, cyn symud ymlaen at gynnwys y rheoliadau, rwyf am nodi ein pryderon am y broses ymgynghori. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn ffurfiol â chyrff cynrychioliadol meddygon, deintyddion, optegwyr ac yn y blaen. Ond wedyn, gwnaethon nhw ddweud wrthym ni eu bod nhw wedi cael trafodaethau gyda'r comisiynydd, ond nid oes unrhyw beth o'r cofnod hynny yn gyhoeddus. Rwy’n synnu bod y Llywodraeth wedi methu ag ymgynghori â’r grŵp pwysicaf, sef y cleifion. Mae’r ffaith na ofynnwyd i gleifion am wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn adrodd cyfrolau am ba randdeiliaid y mae Llywodraeth yn eu blaenoriaethu. Mae’r pwyllgor yn galw am i’r rheoliadau gael eu diwygio yn dilyn ymgynghoriad pellach a fydd yn cynnwys grwpiau cleifion a Chomisiynydd y Gymraeg.

O ran y gofynion, hoffwn siarad am ba ddyletswyddau fydd yn cael eu gosod ar ddarparwyr gofal sylfaenol a barn y darparwyr hynny ar y dyletswyddau perthnasol. Nid yw’r rheoliadau ond yn mynd mor bell â mynnu bod darparwyr yn trefnu bod ffurflenni ar gael yn Gymraeg a bod arwyddion newydd ar gael yn Gymraeg, a’u bod yn annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i wisgo bathodyn, yn annog staff i fynd ar gyrsiau hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ac yn nodi dewis iaith claf.

Yn ein hadroddiad blaenorol, gwnaethom ysgrifennu am ein pryderon nad oes hawl o hyd i dderbyn gwasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg, ac y dylai’r hawl i dderbyn gwasanaethau yn newis iaith yr unigolyn fod yn egwyddor sefydlog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwy’n dal i gredu hyn, ac rwy’n falch o ddweud bod aelodau’r pwyllgor wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at ddatblygu’r capasiti hwn. 

Mae gen i lot fawr i'w ychwanegu, ond dwi'n ymwybodol o amser. Rydyn ni yn siomedig â gwendidau'r rheoliadau hyn, a’r diffyg goruchwyliaeth, y pryderon a fynegwyd gan y cyrff proffesiynol, a’r diffyg ymgynghori â chleifion a’r comisiynydd. Mae’r holl elfennau hyn yn arwain at reoliadau sy’n llwyddo i fod yn hwyr ac wedi’u rhuthro.

Disgrifiwyd hyn fel 'cam cyntaf’ ar daith tuag at ddarparu mwy o wasanaethau gofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae hyn yn peri pryder. Os na chytunir ar gyfeiriad y daith, os nad yw’r costau’n dryloyw ac os nad yw’r darparwyr yn rhan o’r broses, yna ni all y daith hyd yn oed gychwyn. Dwi'n annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori eto ac i ddiwygio’r rheoliadau yma.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:48, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 20 Mai 2019 ac adroddasom ar y pwyntiau technegol a theilyngdod i'r Cynulliad. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pwynt adrodd technegol sy'n ymwneud â drafftio'r rheoliadau, a'i bod yn cynnig unioni'r mater drwy slip cywiro.

O ran y pwyntiau teilyngdod, nodasom fod y rheoliadau hyn yn gosod chwe dyletswydd gytundebol sy'n ymwneud â'r Gymraeg ar gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol i'r GIG. Roedd hyn yn cyferbynnu â'r 121 o safonau iaith Gymraeg sy'n berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd eraill. Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn nodi mai'r dyletswyddau a osodir gan y rheoliadau hyn yw'r dyletswyddau cyntaf sy'n ymwneud â'r Gymraeg i fod yn berthnasol i ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol, a'u bod yn wahanol i'r safonau iaith Gymraeg sy'n berthnasol i fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG.

Nodasom hefyd fod y rheoliadau y mewnosodir y dyletswyddau ychwanegol hyn ynddynt yn ei gwneud yn glir eu bod yn rhan o ddyletswyddau cytundebol contractwyr o 30 Mai 2019 ymlaen. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn y memorandwm esboniadol nac yn dod gyda'r memorandwm esboniadol i esbonio bod y gwelliannau'n berthnasol i bob contract o'r dyddiad hwnnw ymlaen ac nad ydynt wedi'u cyfyngu i gontractau newydd yr ymrwymwyd iddynt ar ôl y dyddiad hwnnw. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r pwynt hwn drwy ddweud ei bod wedi ymgynghori a gohebu â chyrff cynrychiadol perthnasol y darparwyr gofal sylfaenol annibynnol, a'i bod yn fodlon fod y cyrff perthnasol yn ymwybodol nad yw'r dyletswyddau'n gyfyngedig i drefniadau newydd a wnaed ar ôl y dyddiad y daeth y rheoliadau i rym.  

Yn ogystal â'n hadroddiad arferol, ysgrifenasom at y Gweinidog hefyd i gefnogi'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, pwyllgor rwyf hefyd yn aelod ohono. A nodaf fod y Gweinidog wedi dweud, yn ei ymateb i ni yr wythnos diwethaf, ei fod wedi gofyn i'w swyddogion sicrhau eu bod yn ymgysylltu â phwyllgorau yn llawer cynharach yn y broses ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i bwysleisio unwaith eto, i bob rhan o Lywodraeth Cymru, pa mor bwysig yw ymgysylltu â'r pwyllgorau pwnc perthnasol ar reoliadau arwyddocaol, yn enwedig pan fo pwyllgor wedi gofyn am yr ymgysylltiad hwnnw.

Ac mae gennyf bwyntiau pellach. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r pwyntiau a wnaeth Dai Lloyd ac mewn perthynas â'r diffygion gweithdrefnol sydd wedi digwydd, yn enwedig o ran y gallu i graffu'n briodol ar reoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad hwn. Mae honno'n rhan sylfaenol o'r broses seneddol, ac mae'r pryder a godwyd yn un a rennir gan bawb rwy'n credu, yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hefyd yn y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg rwy'n aelod ohono. Rwy'n credu bod rhai ohonom wedi methu cefnogi'r syniad o ddirymu, yn bennaf oherwydd y difrod y teimlem y gallai ei wneud, neu oblygiadau peidio â bwrw ymlaen â rheoliadau sy'n ceisio hybu buddiannau'r Gymraeg. Ond ni ddylai hynny olygu nad oes rhybudd i bawb ohonom ar draws y Llywodraeth, os na ddilynir gweithdrefnau'n briodol, os nad oes cyfle priodol i graffu, credaf fod dirymu'n fater y mae ein strwythur pwyllgor yn rhoi sylw difrifol iddo. Ac rwy'n credu y gallai fod yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried yn y dyfodol. Felly, buaswn yn sicr yn ceisio sicrwydd heddiw fod y gwersi hynny wedi'u dysgu, fod y pwysigrwydd cyfansoddiadol hwnnw'n cael ei gydnabod, ac na fydd hyn yn digwydd eto yn ystod prosesau seneddol yn y Cynulliad hwn.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:52, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae darparu gwasanaethau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. I rai cleifion, nid mater o ddewis iaith ydyw—dyna eu hunig ddewis. Dyna pam fod fy ngrŵp a minnau'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r rheoliadau hyn. Fel y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei ddweud yn gywir, mae'r rheoliadau hyn yn gam cyntaf pwysig tuag at ddarparu mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir ar gyfer diwallu anghenion cleifion heb atgyfnerthu'r canfyddiadau bod yn rhaid i chi siarad Cymraeg yn rhugl er mwyn gweithio yn GIG Cymru. Dyma un o'r pryderon a fynegwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol yng nghyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yr wythnos diwethaf. Ac er fy mod o'r farn fod y rheoliadau hyn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir, rwy'n derbyn nad fi yw'r unig un sydd angen ei argyhoeddi—mae angen i'r rheini sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol, y rheini sydd ar y rheng flaen yn darparu gwasanaethau, gefnogi'r rheoliadau.

Roedd yn siomedig felly fod Llywodraeth Cymru wedi dewis defnyddio'r weithdrefn negyddol, a chaniatáu'r lleiafswm o 21 diwrnod yn unig ar gyfer craffu. Nid oedd hyn yn caniatáu amser i ymgynghori â grwpiau cleifion, y cyrff proffesiynol sy'n cynrychioli'r gweithlu iechyd a gofal na'r darparwyr gwasanaethau. A dyna pam y bydd fy ngrŵp yn ymatal ar y cynnig i ddirymu. Nid wyf yn credu y dylai'r Llywodraeth ddiddymu'r rheoliadau hyn, ond buaswn yn annog y Gweinidog i weithio gyda darparwyr i sicrhau eu bod yn gefnogol.

Os ydym am wella'r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod cefnogaeth gyffredinol i'r rheoliadau, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:54, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i siarad—Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gadeirydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Dai Lloyd, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, am gyflwyno'r cynnig hwn a rhoi'r cyfle i nodi'r rhesymeg a phwysigrwydd sefydlu'r dyletswyddau iaith Gymraeg hyn ar gyfer contractwyr gofal sylfaenol annibynnol yn ogystal â'r gwasanaethau gofal sylfaenol hynny a ddarperir yn uniongyrchol gan y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs.

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi dangos llawer o ddiddordeb yn ddeddfwriaeth hon, fel rydym wedi'i glywed y prynhawn yma. Ar ôl cydnabod diddordeb penodol y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, cynigiais gyfarfod briffio technegol i'r pwyllgor, gyda fy swyddogion, a chynhaliwyd hwnnw ar 6 Mehefin. Rwy'n croesawu'r adroddiad rwyf bellach wedi'i gael gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, o'r cyfarfod ar 6 Mehefin, ar y rheoliadau, ac wrth gwrs, byddaf yn ystyried yr adroddiad o'r cyfarfod yn llawn ac yn ymateb iddo.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:55, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed heddiw. Rwyf wedi gofyn i swyddogion sicrhau, yn y dyfodol, pan fyddwn yn gwneud rheoliadau ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg drwy iechyd a gofal cymdeithasol, ein bod yn rhybuddio ac yn ymgysylltu â'r pwyllgor pwnc penodol ond hefyd â'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn gynharach yn y broses. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed, nid yn unig am bolisi iechyd a gofal cymdeithasol a pholisïau a rheoliadau pellach, ond am y sylwadau a wnaed am ddull ehangach y Llywodraeth, oherwydd rwy'n croesawu craffu gan Aelodau yn y Siambr hon. Rwy'n dal i gofio bod yn aelod o'r meinciau cefn a fy awydd i gymryd rhan briodol yn y broses graffu, i herio a hefyd i wella deddfwriaeth hefyd.  

Ond hoffwn gofnodi fy siom wirioneddol a diffuant na chafodd y fersiwn Gymraeg o'r memorandwm esboniadol ei chyflwyno ar yr un pryd â'r fersiwn Saesneg, fel y dylai. Ond ni fuaswn eisiau i'r amryfusedd diffuant hwnnw—ac rwy'n cydnabod nad wyf yn ceisio gwenieithio na cheisio dweud na ddigwyddodd hynny—ni fuaswn eisiau i hynny dynnu oddi ar y manteision y bydd y dyletswyddau hyn, yn fy marn i, yn eu sicrhau i gleifion er mwyn iddynt allu cael gofal iechyd mewn lleoliad gofal sylfaenol. Ac yma, rwy'n credu, mae yna wyro oddi wrth y ddadl a wnaeth Dai Lloyd wrth wneud y cynnig.

Ar bwynt cyffredinol, fodd bynnag, o ran cyfieithu'r memorandwm esboniadol, mae swyddogion yn trafod hyn gyda swyddogion Comisiwn y Cynulliad ac maent wedi dod i gytundeb mewn egwyddor y byddwn yn cynyddu nifer y memoranda esboniadol yn raddol ar gyfer offerynnau statudol sy'n cael eu gosod yn Gymraeg gerbron y Cynulliad. Mae gwaith pellach ar y gweill i edrych ar arwyddocâd hynny o ran yr amser sydd ei angen i gyflwyno deddfwriaeth a dogfennau ategol gerbron y Cynulliad yn y ddwy iaith swyddogol.

Fel y nodwyd, daeth y dyletswyddau i rym ar 30 Mai mewn gwirionedd, felly gan fod y rheoliadau eisoes wedi'u gwneud, byddai derbyn y cynnig yn golygu dirymu'r rheoliadau a'u hail-wneud, a byddai hynny'n gohirio'r broses o gyflwyno'r dyletswyddau. Efallai na fydd rhai Aelodau yn cefnogi'r cynllun neu'r rheoliadau, ond rydym wedi gweithio, nid yn unig gyda darparwyr, nid yn unig gyda rhanddeiliaid i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys y cyrff sy'n eu cynrychioli, ond mae Comisiynydd y Gymraeg, a'r Comisiynydd blaenorol, yn cefnogi'r cynllun sydd gennym.  

Felly, gan symud ymlaen at y dyletswyddau eu hunain, mae'r ymagwedd tuag at ddyletswyddau iaith Gymraeg yn y contractau, o ran gwasanaethau i gontractwyr annibynnol, yn deillio o ystyriaeth ac ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft ar safonau'r Gymraeg ar gyfer y sector iechyd yn 2016. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn nodi bod yna gred gyffredinol nad oedd yn rhesymol gosod safonau ar fyrddau iechyd lleol a fyddai'n eu gwneud yn gyfrifol am unrhyw fethiant i gydymffurfio ar ran un o'r contractwyr gofal sylfaenol annibynnol. Mae hynny, wrth gwrs, yn deillio o'r ffordd y darperir gwasanaethau o dan delerau gwasanaethau a chontractau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Ond bydd gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd lleol yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg a nodir yn yr hysbysiadau cydymffurfio ar gyfer byrddau iechyd unigol.

Ceir rhesymau ymarferol sydd angen eu hystyried ymhellach—[Torri ar draws.] Ie.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:58, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Yn rhyfedd ddigon, dyma'r union bwynt a wneuthum i'ch swyddogion. Os gallwn osod safonau sy'n uwch ar gyfer y gwasanaethau gofal sylfaenol hynny a ddarparwn yn uniongyrchol drwy'r gwahanol fyrddau iechyd lleol, pam na edrychwyd ar y safonau uwch hynny'n fanwl mewn ymgynghoriad llawn â chleifion a grwpiau fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gerbron y pwyllgor neu'r pwyllgorau perthnasol—oherwydd, yn yr achos hwn, rydym yn sôn am hawliau'r Gymraeg yn ogystal â darpariaeth gofal iechyd effeithiol? Rydych wedi osgoi hynny. Mae'n ddiddorol eich bod yn dweud—ac rydych yn llygad eich lle, ei bod yn hwyrfrydig iawn, a dweud y lleiaf, na chyhoeddwyd y memorandwm esboniadol yn Gymraeg ar yr un pryd ag y gosodwyd y rheoliadau hyn gennych. Ond y broblem go iawn yw eich bod yn gosod lefel o safon heb graffu yma. Dylem gael y ddadl lawn honno yma. Gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yw'r gwasanaethau mwyaf uniongyrchol a gawn, a byddem yn sicr eisiau gweld hawliau Cymraeg effeithiol yn cael eu hyrwyddo yn y gwasanaethau hyn.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:59, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae yna benderfyniad gonest i'w wneud ynglŷn â sut i gyflwyno'r dyletswyddau cam cyntaf hyn, fel y maent wedi cael eu disgrifio. Roedd yna gwestiynau ymarferol roedd angen eu harchwilio ymhellach ynglŷn â sut i osod a rheoleiddio rhwymedigaethau iaith Gymraeg ar gyfer miloedd o feddygon teulu, optegwyr, fferyllwyr a deintyddion sy'n gweithio ac yn darparu gofal yma yng Nghymru—[Torri ar draws.] Rwy'n cofio pan oedd yr Aelod yn y Gadair, roedd yn sôn yn rheolaidd am synau o'r cyrion ac Aelodau'n siarad o'u seddau.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:00, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, atebwch y cwestiwn canolog.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ceisio egluro'r dull rydym wedi'i fabwysiadu, ac rwy'n bod yn ddidwyll ac yn onest yn hynny o beth. Efallai na fydd yr Aelodau'n cytuno â'r dull a fabwysiadwyd gennym, ond dyma'r dull rydym wedi'i ddefnyddio i gyflwyno'r dyletswyddau hyn ar draws gofal sylfaenol am y tro cyntaf. Ac roedd consensws yn yr ymgynghoriad mai'r ffordd fwyaf priodol o osod dyletswyddau iaith Gymraeg ar ddarparwyr gofal sylfaenol oedd cytuno ar y rhain yn genedlaethol a'u cynnwys yn y telerau gwasanaeth cytundebol rhwng contractwyr a byrddau iechyd. A defnyddiodd y dull hwnnw systemau cofnodi contractau cyfredol sy'n gyfarwydd i'r sector. Nodwyd—[Torri ar draws.] Ni allaf; rwyf eisoes wedi cymryd gormod o amser.

Nodwyd, yn wahanol i'r mwyafrif o gyrff y sector iechyd sy'n gorfod cydymffurfio â safonau'r Gymraeg, nad yw darparwyr gofal sylfaenol annibynnol wedi bod yn ddarostyngedig i gynlluniau iaith Gymraeg o'r blaen. Felly, rydym wedi ystyried hyn ochr yn ochr â sgiliau yn y Gymraeg, gallu, materion recriwtio a chadw staff ym maes gofal sylfaenol. Mae'n bwysig cyflwyno'r dyletswyddau cam cyntaf mewn ffordd sy'n gymesur ac mewn amgylchedd cefnogol. Mae'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod ar ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol, fel safonau ar gyfer y sector gofal iechyd, yn rhan o jig-so o ymyriadau sy'n cefnogi ac yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn 'Mwy na Geiriau...'.

Roeddwn am ddweud mwy, ond rwy'n gweld ein bod ymhell dros yr amser, Lywydd. Ond hoffwn ddweud fy mod yn credu bod y dyletswyddau hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran hyrwyddo a chefnogi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a gwasanaethau ym maes gofal sylfaenol. Ac rwy'n falch fod cyrff cynrychioliadol darparwyr gofal sylfaenol annibynnol, er iddynt godi rhai heriau, wedi cytuno ar y dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu. Gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw, a pheidio â dadwneud y cynnydd ymarferol pwysig y mae'r rheoliadau hyn yn ei gyflwyno.  

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Llywydd. Does dim lot o amser. Gwnaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu: Suzy Davies, Bethan Sayed, Mick Antoniw, Caroline Jones, David Melding—roeddwn i'n hoffi hynna—ac, wrth gwrs, y Gweinidog, er doeddwn i ddim yn cytuno.

I gloi, roeddwn i'n mynd i ddefnyddio'r amser jest i esbonio yn ehangach pam mae hyn mor bwysig a pam mae'r rheoliadau mor annigonol. Achos mae yna fater ehangach yn fan hyn, a hynny ydy gwerth clinigol darparu gwasanaeth mewn mamiaith y claf—y bobl oedd yn absennol o'ch araith chi—sef gwella ansawdd y gofal; dyna ydy'r pwynt, ar ddiwedd y dydd. 

Mae'r dadansoddiad, mae'r diagnosis, dŷn ni'n ei wneud yn dod ar sail y hanes mae'r claf yn ei ddarparu i'r meddyg neu'r nyrs mewn 90 y cant o achosion. Felly, y pwynt allweddol yn fan hyn ydy: dŷn ni'n dod i'r ateb wrth wrando ar iaith y claf, ac mae hynny'n dibynnu ar ruglder—hynny yw, pa mor rhugl ydy'r person, fel rheol yn Saesneg, achos dyna ydy'r sefyllfa efo pobl Cymraeg iaith gyntaf. Mae pobl yn credu, 

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:02, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

'O, rydych chi i gyd yn gallu siarad Saesneg'. Mae hynny'n wir, ond nid pawb sy'n hyderus ac yn rhugl, neu'n hyderus rugl hyd yn oed, ac nid pawb sy'n meddu ar ddealltwriaeth Felding-aidd o fanylder a chystrawen yn eu hail iaith.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:03, 19 Mehefin 2019

Achos, yn enwedig efo plant, efo'r henoed, efo pobl â dementia a strôc—dŷn ni'n colli ein hail iaith. Mae darpariaeth yn y Gymraeg yn hanfodol i wella safon y gofal iechyd, iddyn nhw allu dweud wrthych chi beth sydd yn bod arnyn nhw. Ac, wrth gwrs, o ddarparu'r gofal yna, dŷch chi'n lleihau y defnydd o brofion costus fel profion gwaed, uwchsain, pelydr-x ac ati, achos dŷch chi eisoes wedi dod i'r casgliad, i'r dadansoddiad, ar sail hanes y claf yn ei mamiaith.

Nawr, mae'r gwasanaeth iechyd wedi dod yn hwyr yn y dydd i'r busnes cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg. Mae pobl wastad wedi dweud wrthyf i ei bod yn ddigon anodd cael meddyg o gwbl, heb sôn bod yn rhaid iddyn nhw siarad Cymraeg, ac rydyn ni wedi clywed hynny pnawn yma. Dyna ydy'r gri groch arferol. Ond ŷch chi'n gwybod beth? Hyd yn oed yn ninas Abertawe mae pedwar meddyg yn fy mhractis bach i yn siarad Cymraeg, heb sôn am y nyrsys ac eraill, yn Abertawe—'scersli belif' buasai pobl yn dweud, ond dyw e ddim yn syndod o gofio bod 31,000 o gleifion dinas Abertawe hefyd yn siarad Cymraeg ac yn haeddu darpariaeth safonol gan y tîm gofal sylfaenol, heb balu amheuon am y peryglon o'r fath ddarpariaeth. Pleidleisiwch o blaid y cynnig.   

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:04, 19 Mehefin 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.