8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Colli Golwg

– Senedd Cymru ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:21, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar golli golwg. Galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig. Angela.

Cynnig NDM7110 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod 111,000 o bobl yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg;

b) y rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn dyblu erbyn 2050.

2. Yn croesawu cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid.

3. Yn gresynu bod 1 o bob 3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

a) bod yn gadarn wrth ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith;

b) datblygu cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol;

c) gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;

d) cyhoeddi amserlen, ar frys, ar gyfer datblygu a chyhoeddi cynllun cyflawni newydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:21, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i agor y ddadl heddiw, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Elin a'r tîm yn RNIB Cymru am eu cymorth yn darparu astudiaethau achos rhagorol ac am alluogi a goleuo a gweithredu'r panel cleifion, a gwn fod nifer fawr ohonynt gyda ni heddiw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:21, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddadl amserol oherwydd bod y mesurau perfformiad newydd wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar, yn enwedig gan fod colli golwg yn bwnc a fydd yn effeithio ar lawer ohonom, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gydol ein bywydau. Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am wrando ar ddefnyddwyr ac arbenigwyr, ac am gyflwyno'r mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid. Mae'n wych mai Cymru yw'r rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno'r mesurau newydd hyn sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, a dylai helpu byrddau iechyd i roi blaenoriaeth i gleifion yn ôl eu hanghenion clinigol. Yr her a wynebwn yn awr yw sicrhau nad yw'r ffordd newydd hon o fesur yn arwain at golli ffocws ar y ddarpariaeth, a bod y cleifion sydd fwyaf o angen llawdriniaeth neu gymorth ar frys yn eu cael, a hynny cyn y gwneir niwed parhaol i'w golwg.

Fel y noda ein cynnig, rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030, sy'n ganran syfrdanol mewn gwirionedd, ac y bydd wedi dyblu erbyn 2050. Ar hyn o bryd, mae tua 111,000 o bobl yn byw gyda nam ar eu golwg yng Nghymru, ac yn y ddwy sir rwy'n eu cynrychioli, mae dros 13,500 o bobl yn byw gyda rhyw fath o nam ar eu golwg, ac mae tua 1,500 o bobl wedi'u cofrestru'n ddall. Gadewch inni oedi ac ystyried beth y mae hyn yn ei olygu. Ymhen 30 mlynedd, bydd gan oddeutu 7 y cant o boblogaeth Cymru nam ar eu golwg. Golyga hyn y byddant yn byw gyda nam ar un o'n synhwyrau pwysicaf. Nawr, mae llawer ohonom yn y Siambr, a minnau yn eu plith, yn gwisgo sbectol i gywiro ein golwg, ac onid yw'n rhwystredig pan na allwn ddod o hyd iddynt am gyfnod byr, ac ni allwn weld yn glir iawn? Meddyliwch sut beth yw hynny ar sail barhaol, ac yn aml heb obaith o allu gweld yn glir eto, neu ar ei waethaf, heb obaith o allu gweld o gwbl. Meddyliwch wedyn am yr effaith hirdymor ar iechyd meddwl claf o orfod derbyn eu bod yn colli eu golwg, ac yna ystyriwch y gost i'r GIG a'r wladwriaeth o gefnogi unigolyn â nam ar eu golwg neu sydd wedi colli eu golwg.

Mae'r costau anuniongyrchol hyn sy'n gysylltiedig â cholli golwg yn costio tua £268 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn, ac yn ôl ffigurau Access Economics a gynhyrchwyd yn 2017 gan Deloitte, mae'r lleihad cysylltiedig mewn iechyd a lles o ganlyniad i fyw gyda nam ar y golwg yn £1 biliwn bob blwyddyn yng Nghymru. A dim ond am arian rwy'n sôn yn y fan hon. Rhaid i ni gofio'r gost bersonol i'r unigolyn. A dywedodd RNIB hynny'n glir iawn: mae'r rhwystrau y mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn eu hwynebu bob dydd eisoes yn creu anghydraddoldeb dwfn, a bydd yn troi'n drychineb genedlaethol oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth radical. Mae'r sefyllfa bresennol yn dangos bod rhestrau aros offthalmoleg wedi tyfu y tu hwnt i reolaeth, ac ystyrir bod un o bob tri chlaf mewn perygl mawr o golli eu golwg neu o aros yn hwy na'u hamseroedd aros targed. Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae'r ffigur hwn yn waeth o lawer—bron 50 y cant o bobl—a ledled Cymru offthalmoleg yw'r ail waethaf o'r holl ddisgyblaethau o ran amseroedd aros.

Cyfarfûm â nifer o bobl drwy fy ngwaith yn yr etholaeth a thrwy grŵp cleifion yr RNIB, ac mae rhai ohonynt yn eistedd yma fel y dywedais eisoes, ac rwyf am atgyfnerthu'r neges nad oes yr un o'r cleifion hyn yn beirniadu'r meddygon, y clinigwyr, y staff gofal iechyd gweithgar. Pan gânt y driniaeth, mae'n wych; cael y driniaeth sy'n anodd. Maent am wneud yn siŵr ei fod yn well gwasanaeth i bobl eraill. Weinidog, y bywydau hyn, y bobl hyn, sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau y mae eich Llywodraeth yn eu gwneud, ac mae un o'r prif bryderon yn ymwneud ag apwyntiadau. Mae yna restrau aros. Ac wrth gwrs, mae pawb ohonom yn derbyn y bydd rhestrau aros yn bodoli ar gyfer rhai cyflyrau. Ac wrth gwrs, mae llwyddiant yn creu rhestrau aros. Roeddwn yn meddwl ei bod hi'n ddiddorol darllen dros y penwythnos mai'r llawdriniaeth ar gyfer trwsio cataractau yw'r fwyaf llwyddiannus bellach a'r fwyaf poblogaidd a mwyaf cyffredin o unrhyw lawdriniaeth a wneir gan y GIG yn y DU. Ond mae pris i'w dalu am y llwyddiant hwn—sef bod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio, rhestrau aros hwy heb y gyllideb ychwanegol o reidrwydd. Dychmygwch y rhwystredigaeth; ateb o'r radd flaenaf sydd mor gyffredin fel y gellir mynd ag arbenigwyr i wledydd â chyfleusterau meddygol gwael a darparu llawdriniaeth i achub eu golwg, ond yn ein gwlad gymharol gyfoethog ni, caiff mynediad at lawdriniaeth cataract ei ddyrannu'n anghyson.

Roedd cynllun tebyg gan y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad ar gyfer glawcoma yn llwyddiannus iawn, a chafodd groeso mawr, ond arweiniodd at bwysau ychwanegol ar glinigau. A chlywais nad yw'n anarferol i gleifion aros am dros bedair awr i fynychu eu hapwyntiadau. Nid dim ond yr amser aros ar gyfer apwyntiadau a godwyd, ond mater canslo apwyntiadau. Nododd cais rhyddid gwybodaeth i Betsi Cadwaladr fod y bwrdd iechyd hwnnw, dros y pum mlynedd diwethaf, wedi canslo'n agos i 40,000 o apwyntiadau offthalmoleg; roedd tua 7,900 ohonynt yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. A chlywais gleifion yn dweud pethau fel, 'Rwyf wedi cael digon o lythyrau canslo i bapuro wal fy ystafell wely.' Cawsom wybod sut oedd pobl yn sefyll yno yn y ciw yn aros i gael eu gweld a byddent yn clywed y derbynnydd ar y ffôn â rhiant neu briod yn ôl yn eu cartref yn dweud, 'O, dywedwch wrtho na all ddod i mewn', ac maent yn sefyll o flaen y derbynnydd, yn aros i gael eu derbyn.

Mae angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Weinidog, rwy'n gofyn i chi wneud rhywbeth yn ei gylch, oherwydd mae hyn yn gwbl hanfodol. Mae cleifion yn sôn sut y mae colli golwg a dirywiad eu golwg yn effeithio'n enfawr ar eu hiechyd meddwl. Mae'n arwain at arwahanrwydd, dicter, colli ffrindiau. Rhaid i bobl roi'r gorau i'w trwyddedau gyrru, sy'n cael effaith aruthrol, yn enwedig os ydych yn byw mewn cymuned wledig. Dywedodd un claf, a ddefnyddiai ei ganolfan hamdden leol i nofio, fod rhywun wedi dweud wrtho na allai ddefnyddio'r ganolfan pan ddaeth yn amlwg ei fod yn colli ei olwg am ei fod yn berygl iechyd a diogelwch. Yn anffodus, mae colli golwg yn rhywbeth sydd â llawer iawn o stigma ynghlwm wrtho.

A hoffwn nodi hefyd, Weinidog, nad yw pob claf yn cael ei eni â phroblemau llygaid neu'n dioddef problemau sy'n gysylltiedig â heneiddio. Rwy'n pryderu nad oes digon o ddealltwriaeth neu gymorth yn cael ei roi i'r rhai sy'n colli eu golwg yn sydyn oherwydd anaf i'r ymennydd neu achosion eraill o golli golwg yn gyflym. Weinidog, hoffwn i chi edrych ar eich strategaeth gofal llygaid a mynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys. Rwy'n mynd i roi'r gorau iddi yn awr; nid wyf yn mynd i gael digon o le i orffen yn y bôn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed beth y mae pawb arall yn ei ddweud. Weinidog, rydych yn gwneud yn dda; gallem wneud yn well. Gwrandewch yn ofalus iawn arnom os gwelwch yn dda.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:28, 3 Gorffennaf 2019

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a dwi’n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth ar ôl is-bwynt 4a a rhoi yn ei le:

bwrw ymlaen â chyhoeddi a gweithredu’r cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol;

gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;

parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch. Y cyfraniadau nawr i fod yn dri munud yn unig, felly. Helen Mary Jones.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r grŵp Ceidwadol ac Angela Burns am ddod â’r cynnig hwn gerbron heddiw. Byddwn yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio. Hoffwn hefyd gysylltu fy hun â diolchiadau Angela i’r RNIB am y wybodaeth ddefnyddiol a grymus iawn, a buaswn yn cytuno â phob dim y mae Angela wedi’i ddweud yn eu chyfraniad ac nid wyf am ei ailadrodd i’r Cynulliad.

Hoffwn siarad am ddau beth, ac un ohonynt yw sôn ychydig bach am yr effaith ar fywydau pobl, oherwydd mae hon yn sefyllfa a ddigwyddodd yn fy nheulu fy hun. Cafodd fy nhad ddiagnosis o gataractau; roedd yr amseroedd aros yn hir iawn—roedd hyn amser maith yn ôl, ar ddechrau'r 1990au. Ni allem ei berswadio i fynd yn groes i’w egwyddorion a gadael i ni fel ei blant dalu am driniaeth breifat. Teimlai y byddai hynny'n anghywir. Pleidleisiodd dros y Llywodraeth yn 1945 a greodd y gwasanaeth iechyd gwladol ac nid oedd yn mynd i neidio i flaen unrhyw giw. Ond pen draw hyn oedd nad oedd modd ei drin mwyach erbyn iddo ddod yn gymwys i gael ei lawdriniaeth GIG; roedd niwed o dan y cataract.

Nid wyf bob amser yn siarad am brofiadau personol, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny yma, oherwydd mae’r effaith ar fywyd rhywun, y colli annibyniaeth y siaradodd Angela amdano, methu darllen llyfr, methu teithio heb orfod ein cael ni gydag ef, a’r effaith ar ei urddas oedd y peth gwaethaf oll rwy'n credu—o fod yn ddibynnol, ac yntau wedi bod yn berson mor annibynnol. Felly rwy’n credu ei bod hi’n bwysig beth bynnag a wnawn, ac yn wir, pan siaradwn am faterion iechyd eraill, fod rhaid inni gofio sut y mae’n effeithio ar bobl. Rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedodd Angela ei bod hi’n gadarnhaol yn awr fod y problemau hyn yn weladwy yn y gwasanaeth oherwydd y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd, ond credaf fod angen iddynt weithredu ar fwy o frys nag y byddai gwelliant y Llywodraeth yn awgrymu sy'n bodoli.

A'r pwynt penodol arall yr hoffwn ei wneud yn ogystal â’r effaith ar fywydau pobl yw’r angen am wybodaeth hygyrch. Os yw pobl yn colli apwyntiadau, ac mae rhywfaint o ymateb gwrthwynebus yn y system yn dweud 'Wel, nid ein bai ni yw bod cynifer o apwyntiadau’n cael eu colli', meddai’r byrddau iechyd, 'Nid yw pobl yn dod i’w hapwyntiadau', wel, os nad ydych yn anfon gwybodaeth i berson dall ar ffurf hygyrch, os nad ydych yn eu ffonio, os nad ydych yn eu cael i ddynodi rhywun arall a allai dderbyn y wybodaeth ar eu rhan, fe fyddant yn colli apwyntiadau a bydd hynny’n effeithio ar y system. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog heddiw edrych yn agos wrth iddo wthio ei agenda yn ei blaen i weld i ba raddau y mae byrddau iechyd yn gyson yn darparu gwybodaeth ar ffurf hygyrch. Ni ddylai pobl ddal orfod cael eu plant a’u hwyrion i ddarllen llythyrau apwyntiad iddynt—nid yw’n briodol—na phobl sy’n colli eu golwg. Unwaith eto, rwy’n ddiolchgar, ac ni ddywedaf lawer mwy, i’r Ceidwadwyr am gyflwyno hyn. Mae hon yn agenda bwysig tu hwnt, ac rwy’n credu’n gryf fod yn rhaid inni gael ymdeimlad o frys oherwydd bob dydd bydd un o’n cyd-ddinasyddion yn colli eu gallu i weld, a hynny’n ddiangen, ac rwy’n siŵr na all neb ohonom fod yn fodlon ynglŷn â hynny.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:31, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae ffigurau Angela’n golygu bod disgwyl i nifer y bobl sydd â nam ar eu golwg yng Nghymru ddyblu i 222,000 erbyn 2050 ac mae nam ar y golwg a cholli golwg yn effeithio ar annibyniaeth a symudedd, yn cynnwys y perygl o gwympo, o gael anaf, iechyd meddwl, gwybyddiaeth, cyflogaeth, a chyrhaeddiad addysgol. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol yn cael eu dwyn i gyfrif yn gadarn ynglŷn â’u methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi mesurau gofal llygaid ar waith.

Fis Hydref diwethaf, adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru fod rhestrau aros ar gyfer apwyntiadau dilynol GIG Cymru wedi tyfu'n sylweddol gydag offthalmoleg yn ail waethaf o'r holl ddisgyblaethau. Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata perfformiad cyntaf y byrddau iechyd yn erbyn y mesurau gofal llygaid newydd ar gyfer cleifion allanol y GIG. Mae RNIB Cymru yn credu bod cyhoeddi’r data hwn yn gam mawr ymlaen tuag at wneud byrddau iechyd yn fwy atebol am y modd y maent yn darparu gwasanaethau gofal llygaid. Mae'r elusen wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu targedau newydd ar gyfer apwyntiadau newydd neu apwyntiadau dilynol yn ôl y risg i’r claf o golli eu golwg yn barhaol—rhywbeth y rhannodd Helen Mary â ni a ddigwyddodd i’w theulu hi yn anffodus. Fodd bynnag, dangosodd data mis Ebrill nad oes yr un bwrdd iechyd yn cyrraedd targedau newydd Llywodraeth Cymru hyd yma. Mae RNIB Cymru yn nodi ei fod yn adlewyrchu'r hyn y bu cleifion yng Nghymru yn ei ddweud ers blynyddoedd, gyda miloedd ohonynt wedi dioddef apwyntiadau’n cael eu canslo a’u gohirio dro ar ôl tro, gan eu rhoi mewn perygl gwirioneddol o golli eu golwg am nad ydynt yn cael y gofal a’r driniaeth iawn ar yr adeg iawn.

RNIB Cymru sy’n galw felly am ddwyn byrddau iechyd i gyfrif yn gadarn, ymgyrch fawr i ailgynllunio gwasanaethau a dull cenedlaethol ac amlddisgyblaethol strategol o gynllunio’r gweithlu offthalmoleg. Mae Action on Hearing Loss hefyd yn nodi ein bod yn dal i weld methiannau bum mlynedd ar ôl cyflwyno’r safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch ar gyfer Cymru gyfan i bobl â nam ar eu synwhyrau—y golwg a’r clyw—yn y GIG, na chaiff y safonau eu mesur na’u rheoleiddio ar hyn o bryd, ac y dylai hyn fod yn rhan o waith gwella ansawdd gan Weinidogion Cymru a chyrff y GIG i gynnwys profiad y claf. Wedi'r cyfan, mae Llywodraeth Cymru’n datgan ei chefnogaeth i’r model cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod mai’r gymdeithas sy’n gwneud pobl yn anabl, nid y nam sydd arnynt, fod yn rhaid inni fynd i’r afael â’r rhwystrau i fynediad a chynhwysiant i bawb, a bod yn rhaid caniatáu i bawb gael annibyniaeth, llais, dewis a rheolaeth yn eu bywydau—dim byd amdanom ni hebom ni. Mae cod ymarfer Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan fod hyn,

‘yn rhoi system ar waith lle mae pobl yn bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a gweithredu gofal a chymorth.’

Ac yn olaf, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn datgan bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus arddangos ymwneud y bobl y mae gwasanaethau neu weithgareddau’n mynd i fod o fudd iddynt neu’n mynd i’w heffeithio o gam mor fuan â phosibl. Nid yw deddfwriaeth ond yn ystyrlon os caiff ei gweithredu. Diolch yn fawr.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:35, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ond rwy'n siomedig mai dadl 30 munud yn unig ydyw yn hytrach nag un awr, oherwydd rwy'n credu ei fod yn destun pwysig iawn. Mae’r ffaith bod pobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth—

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Clywais yr hyn a ddywedoch chi ac rwy’n credu ei fod yn angharedig iawn. Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi gyflwyno dadl ar ofal llygad, ac a oedd gennych unrhyw fwriad o wneud hynny cyn heddiw?

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi ddweud, Darren, fy mod yn credu ei fod yn bwnc pwysig iawn, felly eich canmol ar hynny roeddwn i’n ei wneud, wyddoch chi? Ond dyna ni, nid ydych yn adnabod canmoliaeth pan fyddwch yn ei chlywed, felly—

Dylai’r ffaith bod pobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth fod yn destun cywilydd mawr i'n gwlad. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn bwrw iddi i fuddsoddi yn y gwaith o drawsnewid gwasanaethau gofal llygaid.

Mae RNIB Cymru wedi croesawu’r mesurau newydd a fydd, am y tro cyntaf, yn caniatáu inni weld gwir faint yr heriau sy’n wynebu offthalmoleg yng Nghymru. Mae'r mesurau newydd a amlinellwyd gan y Gweinidog yn rhoi'r claf yn gyntaf o’r diwedd, gan roi blaenoriaeth i’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Mater i’r byrddau iechyd yw cyflawni’r gwelliannau hyn yn awr a gwneud defnydd llawn o’r canllawiau newydd. Ac rwy’n gobeithio y bydd byrddau iechyd lleol yn cyflawni y tro hwn. Mae’r £7 miliwn a neilltuwyd ar gyfer y system ddigidol newydd ar gyfer gofal llygaid i’w groesawu’n fawr. Y gobaith yw y gall Llywodraeth Cymru wrthdroi'r duedd gyda phrosiectau TG yn y gorffennol a darparu'r system yn gyflym ac yn effeithlon. Pan fydd y system newydd ar waith gydag atgyfeiriadau uniongyrchol, dylem ddileu amseroedd aros hir am driniaeth. Tan hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y byrddau iechyd yn symleiddio’r broses atgyfeirio i'w gwneud mor effeithlon â phosibl. Bydd atgyfeiriadau cyflym yn helpu i gyflymu’r broses o wneud diagnosis a rhoi triniaeth ac yn sicrhau nad yw cleifion yn colli eu golwg oherwydd amseroedd aros hir.

Ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd, ac mae prinder swyddogion adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg yn sicr yn creu risg i ddiogelwch pobl. Nid ydym yn cynnig y triniaethau gorau sydd ar gael, triniaethau a allai sicrhau nad yw cleifion yn colli eu golwg. Ac er y byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw er mwyn cydnabod y cynnydd sy’n cael ei wneud, rwy’n annog y Gweinidog i sicrhau bod y cynllun cyflawni nesaf yn mynd i’r afael â diffygion o ran opsiynau triniaeth a chymorth. Edrychaf ymlaen at argymhellion y prif gynghorydd optometrig, a hynny'n gynt yn hytrach na’n hwyrach, rwy'n gobeithio. Gadewch i ni sicrhau nad oes unrhyw un arall yn colli eu golwg wrth aros am driniaeth a chymorth, gan na ddylai’r achos erchyll a ddisgrifiodd Angela Burns yn gynharach byth ddigwydd, a dylai roi cyfle i bawb ohonom ystyried faint o welliant sydd ei angen yng Nghymru. Diolch yn fawr.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 5:38, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae 13 o bobl yn colli eu golwg yng Nghymru bob diwrnod, gan ychwanegu at y ffaith syfrdanol fod 111,000 o bobl yn byw gyda nam ar eu golwg yma. Mae nam ar y golwg a cholli golwg yn cael effaith sylweddol ar unigolion. Er enghraifft, credir bod dros 14,000 o bobl dros 65 oed sydd â nam ar eu golwg yn dioddef un gwymp bob blwyddyn; mae 40 y cant o bobl ddall neu rannol ddall wedi dweud eu bod wedi’u hynysu o’r gymdeithas i raddau cymedrol neu'n llwyr; ac yn ôl RNIB, dim ond un o bob pedwar o bobl ddall a rhannol ddall sy'n gweithio yn y DU.

Bob tro rwy’n ôl yng ngogledd Cymru, caf fy atgoffa am y rhai yr effeithir arnynt gan nam ar y golwg. Yn wir, mae'r dref lle mae fy swyddfa a lle rwy'n byw, Llandudno, yn ffodus i fod yn gartref i’r ganolfan hyfforddi ac adsefydlu i gyn-filwyr dall; gwesty gydag ystafelloedd wedi'u neilltuo ar gyfer gwesteion â nam ar eu golwg; ac mae gennym Mr Billy Baxter, ein crïwr tref gwych, yr unig grïwr tref dall yn Ewrop a'r ail yn hanes y DU.

Nawr, ni fydd yn syndod i chi felly fy mod yn hoffi meddwl am gymuned Aberconwy fel un sy’n ceisio bod, ac sy’n llwyddo i fod yn ystyriol o bobl sydd â nam ar eu golwg. Fodd bynnag, rwy'n ofni bod miloedd o fy etholwyr yn cael cam yn sgil diffyg triniaeth briodol. Diolch i’r mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid, rwy'n ymwybodol fod 11,310 o gleifion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn aros y tu hwnt i lefelau clinigol ddiogel am apwyntiadau cleifion allanol. Dyna'r nifer uchaf o bobl yn aros y tu hwnt i’r targedau mewn unrhyw fwrdd iechyd.

Yn anffodus, mae'r drafferth ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn rhan o ddarlun cenedlaethol digalon lle mae un o bob tri chlaf y bernir eu bod yn wynebu risg uchel o golli eu golwg yn aros yn hwy na’r amser aros targed am apwyntiadau offthalmoleg yn unig. Mae hyn yn arbennig o wael i gleifion dilynol, gan fod RNIB Cymru wedi amcangyfrif fod 90 y cant wedyn yn wynebu’r risg o golli golwg yn barhaol. Fodd bynnag, mae’n debygol fod y sefyllfa hyd yn oed yn waeth, gan nad yw’r mesurau gofal llygaid ond yn dangos y nifer o gleifion R1 sy’n aros i gael eu trin, nid y rhai a gategoreiddir fel rhai R2 neu R3. Rhaid i’r byrddau iechyd a chi fel Llywodraeth Cymru gael eich dwyn i gyfrif am y ffigurau hyn.

Ar hyn o bryd, ceir dibyniaeth enfawr ar ddarpariaeth locwm. Er enghraifft, mae 50 y cant o swyddi staff a meddygon cyswllt offthalmoleg arbenigol sydd heb eu llenwi angen darpariaeth locwm yng Nghymru. Mae hynny'n fwy na chyfartaledd y DU. Yn amlwg, mae angen gweithlu cenedlaethol a chynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid er mwyn helpu i sicrhau bod y galw’n cael ei ddiwallu ac y gall byrddau iechyd fynd i’r afael â’r argyfwng ar sail genedlaethol.

Gyda'r disgwyl y bydd y niferoedd a fydd angen gofal llygaid yn y dyfodol yn codi’n sylweddol dros y degawd nesaf, mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu yn awr. Felly, rwy'n erfyn ar yr Aelodau yma heddiw i gefnogi’r cynnig er mwyn inni allu helpu unigolion sydd â nam ar eu golwg ledled Cymru, ac i mi yn arbennig, yn Aberconwy, lle mae’r problemau dan ofal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn sylweddol. Unwaith eto, ni ddylai fy etholwyr fod ar eu colled yn y maes pwysig hwn.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn a diolch am fy ngalw. Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn casglu cryn dipyn o dystiolaeth ar hyn, ac roedd ansawdd y dystiolaeth a roddodd yr RNIB yn rhagorol iawn. Hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith a wnânt—yn enwedig Gareth Davies, sef arweinydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yr RNIB—yn cynghori pobl ynghylch arwyddocâd yr ohebiaeth a gânt gan eu bwrdd iechyd, oherwydd mae’n bwysig iawn i gleifion wybod a yw canslo apwyntiad yn rhywbeth y dylent ei herio oherwydd y brys gyda’u problem, neu a yw’n rhywbeth cwbl arferol. Roedd yr RNIB yn pryderu fod apwyntiadau pobl yn cael eu canslo bron cyn iddynt gael y llythyr yn eu hysbysu am yr apwyntiad. Yn amlwg, mae Caerdydd a’r Fro wedi wynebu problem fawr, sydd wedi achosi i mi gael llawer o ohebiaeth gan unigolion—

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:42, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Un o'r pethau a welaf yn fy etholaeth yw pobl yn cael llythyrau’n canslo eu hapwyntiadau, weithiau ar ddiwrnod yr apwyntiad, ac yn aml iawn, nid yw’r llythyrau hynny hyd yn oed yn addas ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Maent mewn ffont bach a phethau. Ai dyma'r math o broblem rydych chi'n ei chael yng Nghaerdydd a'r Fro hefyd?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Yn bendant nid wyf wedi gweld llythyrau mewn print mân, ond yn sicr rwyf wedi—dyma oedd peth o’r dystiolaeth a gawsom gan yr RNIB, ac ni allaf ddweud ai yng Nghaerdydd a’r Fro y digwyddodd hynny ai peidio.

Hoffwn wneud dau neu dri phwynt cyflym. Un yw nad yw’r cynnydd o 7 y cant yn nifer y bobl sydd angen gofal llygaid yn fai ar y Llywodraeth mewn unrhyw ffordd. Mewn rhai achosion, mae hyn yn rhywbeth i’w ganmol, yn yr ystyr fod mwy o bobl yn dod i gael eu gweld am eu bod yn sylweddoli nad yw eu golwg cystal ag y mae angen iddo fod.

Yn ail, mae pobl yn byw'n hirach, felly, yn amlwg, wrth inni dyfu’n hŷn, mae'n rhaid i ni ddechrau defnyddio sbectol, ac wrth inni dyfu’n hŷn eto—rwy’n rhagweld y bydd gennyf broblemau llygaid difrifol oherwydd hanes fy nheulu. Y broblem yma yw sut y trefnwn y gwasanaethau i ddiwallu’r galw cynyddol, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru’n gweithio arno, a dyna pam y byddaf yn pleidleisio dros y gwelliant.

Ond ceir materion eraill y mae angen i ni wneud pethau yn eu cylch hefyd. Un ohonynt yw na ddylai fod angen i rywun sydd wedi cael ei weld gan optometrydd ar y stryd fawr, sydd wedi nodi bod angen i’r unigolyn weld arbenigwr, fynd drwy eu meddyg teulu er mwyn cael llythyr 'Annwyl Feddyg' cyn y gall fynd i’r adran arbenigol. Mae'n wastraff gwarthus ar amser y gwasanaeth gofal sylfaenol, yn ogystal â bod yn ddiangen i'r claf unigol.

Yn ail, mae technoleg newydd yn galluogi'r offthalmolegydd yn yr ysbyty i edrych ar ba mor ddifrifol yw'r achos unigol heb fod angen cael y claf o'u blaen. Oherwydd, gyda'r Gweinidog iechyd, ymwelais ag optometrydd cwbl ragorol ym Mhentwyn a gwelais eu bod yn gallu anfon delweddau o safon uchel iawn o'r llygad yn uniongyrchol at yr arbenigwr yn yr ysbyty. Mae hynny'n arloesedd gwych, ac yn un y dylem ei gymeradwyo, gan ei fod yn eu galluogi i flaenoriaethu'r rhai y mae eu hachosion yn rhai y mae brys gwirioneddol yn eu cylch ac angen eu gweld ar unwaith am fod risg i'w golwg, yn hytrach na'r rheini sydd â phroblem yn ôl pob tebyg, ond nad oes angen iddynt gael eu gweld yr wythnos hon. Felly, mae hynny'n rhywbeth arall sy'n wirioneddol bwysig.

Ond y trydydd peth yr ydym wedi cael llawer o anhawster yn ei gylch yng Nghaerdydd a'r Fro yw sicrhau nad oes angen i'r rhai sydd wedi cael llawdriniaethau cataract rheolaidd, sy'n cael eu gwneud wrth y miloedd ar y diwrnod yn y rhannau mwyaf anghysbell o India, fel Bihar—nad oes angen iddynt fynd yn ôl i'r ysbyty oni bai fod rheswm arbenigol dros wneud hynny. Gellir eu gweld yn ôl ar y stryd fawr gan yr optometrydd i sicrhau bod y llawdriniaeth cataract, sy'n llawdriniaeth reolaidd y dyddiau hyn, wedi bod yn llwyddiant ac nad oes problem—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben yn awr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch am fy ngalw, Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:46, 3 Gorffennaf 2019

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gethin.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd, ac i'r Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl heddiw, ac rwy'n falch iawn o ymateb iddi. Fel y mae pawb wedi cydnabod, mae iechyd llygaid gwael yn broblem gyffredin a all gael effaith ddinistriol ar bobl a'u teuluoedd. Ac fel rydym yn cydnabod, rhagwelir y bydd nifer y bobl yng Nghymru sydd â nam ar eu golwg yn dyblu erbyn 2050. Felly, o ystyried pwysigrwydd gofal iechyd llygaid, rwy'n croesawu'r cyfle i amlinellu'r newidiadau rydym yn eu gwneud i wella gwasanaethau i bobl sy'n eu defnyddio yn awr ac i sicrhau eu bod yn gynaliadwy ac yn barod i ymateb i'r galw yn y dyfodol.

Ceir pobl yng Nghymru sy'n dal i aros yn rhy hir am eu triniaeth gyntaf, ac rwy'n cydnabod nad yw hynny'n ddigon da. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd yn nifer y bobl sydd angen ein gwasanaethau, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn yr amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ddiwedd mis Mawrth 2019, roedd 218 o bobl yn aros am fwy na 36 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf, a dyna'r sefyllfa orau ers mis Mawrth 2012, a gwelliant o 93 y cant ers y pwynt isaf ym mis Mawrth 2015, pan oedd dros 3,500 o bobl yn y sefyllfa honno. Ond yn bwysig—a dyma'r rheswm am y mesurau newydd—gwyddom mai ar gyfer cleifion newydd yn unig y mae mesurau amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn berthnasol. Mae'r rhan fwyaf o gleifion offthalmoleg angen archwiliadau a thriniaeth reolaidd a pharhaus i sicrhau eu bod yn gweld yn well neu i leihau'r risg o golli golwg yn ddiangen, ac mae tystiolaeth glinigol yn awgrymu bod tua 10 y cant o gleifion newydd mewn perygl o golli eu golwg yn barhaol o'i gymharu â 90 y cant o gleifion dilynol.

Unwaith eto, rwy'n derbyn y pwyntiau y mae Jenny Rathbone wedi'u gwneud am y ffordd yr ydym yn ceisio ad-drefnu ein system er mwyn gwneud gwell defnydd o'r gweithwyr proffesiynol ar ein stryd fawr, lle gellir rheoli pobl yn ddiogel ac yn briodol y tu allan i wasanaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol mewn ysbyty. Ond mae'r ffigurau a ddyfynnwyd ac a drafodwyd gennym yn y ddadl hon yn rhai digalon. Mynegodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r trydydd sector bryderon nad oedd mesurau amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn adlewyrchu'r pethau pwysicaf. Ac yn ddiddorol, cafwyd llawer o drafod ar gataractau, a rhan o'n her, wrth gwrs, os ydym am wella hen fesurau amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth, oherwydd eich bod ar restr aros i ddechrau ar gyfer cataractau ac eto mae'n fwy diogel yn glinigol i aros gyda chataract na chyda chyflyrau eraill—. Nid yw hynny'n golygu y gallwch aros am byth, ond roedd ein mesurau blaenorol yn ein gyrru tuag at gyrraedd targed heb ystyried angen clinigol yn briodol.

Felly, nid oedd yr hen fesurau'n cofnodi oedi yn ddiweddarach ar lwybr y claf ac fel y dywedais, gallai wneud i wasanaethau flaenoriaethu apwyntiadau ar gyfer cleifion newydd. O ganlyniad, gwrandewais ar yr hyn a ddywedodd clinigwyr a'r trydydd sector, a chynrychiolwyr cleifion yn enwedig, ac rydym wedi bwrw iddi i dreialu ffordd newydd o ddeall sut y gallai mesurau newydd edrych a sut y gellid eu cynllunio. Ac ar ddiwedd y broses honno, rwyf wedi cyflwyno'r mesurau newydd a gyhoeddais yn ddiweddar. Fe'u dyfeisiwyd i gynnwys cleifion newydd a chleifion presennol, yn seiliedig ar angen clinigol a risg o ganlyniad anffafriol. Ac mae'r gwaith wedi cael ei gefnogi'n llawn gan y grŵp trawsbleidiol ar olwg, ac rwy'n cydnabod ac yn croesawu eu cefnogaeth.

Ac mae hyn wedi bod yn gam beiddgar i ni oherwydd yr hyn a wnaethom fel Llywodraeth yn y bôn yw nodi'r meysydd lle mae angen inni wneud mwy mewn ffordd lawer mwy gonest, oherwydd a dweud y gwir, gallem fod wedi gadael yr hen fesurau a dweud, 'Rydym yn cyrraedd ein targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth', ac yn y bôn, gallem fod wedi methu datgelu natur yr her yn briodol. A ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn. Soniwn yn rheolaidd ynglŷn ag a oes modd cymharu mesurau rhwng gwledydd y DU? Wel, nid oes modd gwneud hynny, oherwydd fe wnaethom ddewis bwriadol i newid ein mesurau, ac rwy'n credu nid yn unig fod hynny'n briodol yn glinigol oherwydd y cyngor a gefais, ond mewn gwirionedd credaf y dylai pobl yng Nghymru gael gwell gwasanaeth oherwydd yr ymgyrch i gyrraedd y targedau newydd a gyflwynwyd gennym.

Fe gymeraf yr ymyriad, yna dylwn wneud rhywfaint o gynnydd.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 5:50, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Roeddwn eisiau dweud yn fyr, am na chefais amser i ddod i mewn—rwyf am ddatgan buddiant, mae gan fy nhad glawcoma—yr hyn na soniwyd amdano yn y ddadl hon oedd y ffordd y mae rhai o'r systemau sydd y tu ôl i driniaethau colli golwg yn cael eu preifateiddio. Cafodd fy nhad alwad ffôn gan gwmni preifat yn Preston i newid ei apwyntiad o ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac nid yw wedi cael apwyntiad ers misoedd lawer. Nid ef yn unig; mae wedi gwneud rhywfaint o waith cyhoeddus ar hyn, mae pobl yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau y tu allan i'w hardaloedd, oherwydd, yn syml, nid yw'r apwyntiadau—nid oes arbenigwyr yn yr ardaloedd hynny, felly ni ellir eu gweld yn lleol. Beth ydych chi'n ei wneud i herio rhai o'r gweithredoedd y tu ôl i'r mater hwn, os oes gennych y weledigaeth newydd hon? Pam y mae cwmnïau preifat yn rhan o'r broses hon?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Credaf fod hynny'n symud i ffwrdd o destun y cynnig, ond rydym yn defnyddio darparwyr y tu allan i'r gwasanaeth iechyd i ddal i fyny. Dyna a wnawn mewn amrywiaeth o feysydd er mwyn gwneud y defnydd gorau o gapasiti'r GIG, ond yr her yw, os defnyddiwn wasanaethau y tu allan i'r gwasanaeth iechyd gwladol, y realiti yw bod mwy o bobl yn aros yn hwy. Ac mewn gwirionedd, rhan o'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw cael mesur sy'n briodol yn glinigol ac sy'n dweud wrthym yn onest beth yw maint yr her sy'n ein hwynebu. Yna, mae angen inni fuddsoddi yn ein gwasanaeth, o ran diwygio'r system, ond hefyd y buddsoddiad wedi'i dargedu a gyhoeddais yn flaenorol, i wella capasiti lle bo angen er mwyn i'n system fod yn gytbwys, ac fel nad oes angen i ni wneud defnydd rheolaidd o wasanaethau y tu allan i'r gwasanaeth iechyd gwladol i wneud yn siŵr nad yw pobl yn aros yn rhy hir.

Cyhoeddais berfformiad yn erbyn y mesur newydd ym mis Mehefin eleni a byddaf yn parhau i adrodd yn ôl bob mis. Dengys y data fod dwy ran o dair o gleifion yr aseswyd eu bod ar y lefel uchaf o risg yn aros o fewn eu hamser targed neu o fewn 25 y cant i'r dyddiad, ac mae hynny'n dderbyniol yn glinigol yn ôl y clinigwyr sydd wedi cynllunio a threialu'r mesur newydd cyn imi wneud y penderfyniad i'w gyflwyno ar draws Cymru. Ac mae'r data'n taflu goleuni ar draws llwybr y claf ac yn dangos yn glir fod angen gwneud mwy o waith i wella gwasanaethau i gleifion newydd a chleifion sy'n dychwelyd.

Felly, mae byrddau iechyd wedi datblygu cynlluniau i wella eu sefyllfa, ac rwyf wedi darparu buddsoddiad wedi'i dargedu yn erbyn hynny i gefnogi datblygiad. A bydd y camau a gymerir ganddynt yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed ers lansio 'Law yn llaw at iechyd' yn 2013. Mae ein dull o weithredu yn cyd-fynd ag egwyddorion gofal iechyd darbodus a'r cyfeiriad a amlinellais yn flaenorol yn 'Cymru Iachach'. Felly, bydd ffocws newydd a pharhaus ar ddarparu mwy o driniaeth a gofal yn y gymuned a gwneud gwell defnydd o optometryddion i sicrhau bod offthalmolegwyr yn rhydd i weld pobl y mae gwir angen iddynt eu gweld.

Mae ein gwasanaeth gofal llygaid yng Nghymru a ddarperir gan optometryddion yn arwain y ffordd yn y DU a chaiff ei gydnabod yn eang fel cam mawr ymlaen yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal llygaid sylfaenol ac mae wedi helpu i leihau'r ôl-groniad, ac mae mwy i'w wneud.  

Rwy'n tynnu tua'r terfyn, Lywydd, gan y gallaf weld bod y cloc wedi fy nhrechu. Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn ystyried yn ofalus gyda phartneriaid pa gamau y dylem eu cymryd pan ddaw'r cynllun cyflawni ar gyfer gofal iechyd llygaid i ben. A bydd adolygu perfformiad yn erbyn y mesur newydd yn rhan bwysig o hynny. Mae llawer i'w wneud o hyd, ond gwnaed cynnydd gwirioneddol yng Nghymru ar ddarparu gwasanaethau gofal iechyd llygaid ac unwaith eto, hoffwn gydnabod cyfraniad gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd oherwydd y ffordd y maent wedi cynllunio a chyflawni'r newid a wnawn yn awr yn y gwasanaethau. Hefyd, hoffwn ddiolch i bartneriaid, gan gynnwys cynrychiolwyr cleifion a'r trydydd sector, am yr her a'r cydweithio sy'n parhau i lywio ein dull o weithredu: mesurau newydd sy'n briodol yn glinigol a'r wlad gyntaf yn y DU i dargedu buddsoddiad sy'n helpu i ddiwygio'r system. Ac yn awr bydd gennym lawer mwy o onestrwydd a chraffu ar yr her sy'n ein hwynebu. Ein targed yn awr yw cyflawni.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y dywedais ar ddechrau fy araith, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddewr, ond mae angen i chi fod yn ddewrach byth, ac mae rhai pethau clir iawn y gallech eu gwneud. Nid yw'r triniaethau yma'n ddrud. Yr hyn sydd ei angen yw cysondeb, mae angen gwneud y byrddau iechyd yn atebol i'w hatal rhag canslo dro ar ôl tro, oherwydd mae nifer o bobl yn wynebu canslo lluosog—nid unwaith neu ddwy, ond pump, chwech, saith gwaith. Dyna'r peth cyntaf. Yr ail beth yw bod angen inni edrych ar golli golwg yn sydyn yn eich strategaeth. Os yw pobl yn colli eu golwg drwy anafiadau i'r ymennydd a phethau o'r fath, ni ddarperir ar eu cyfer, maent angen math gwahanol o gymorth a gallech wneud hynny. Byddwch yn ddewr. Rwy'n gofyn i chi wneud hynny.

Mae angen inni edrych hefyd ar optometryddion. Rydych wedi dweud eich hun am y gwasanaeth gwych y maent yn ei ddarparu. Rwy'n cytuno â chi 100 y cant. Fodd bynnag, nid ydynt yn gallu gwneud dau beth. Un: nid ydynt yn gallu presgripsiynu, ac felly, os daw rhywun atynt a bod angen presgripsiwn arnynt, rhaid iddynt eu hanfon yn ôl at y meddyg teulu—gan wastraffu amser pawb. Rhaid bod rhyw ffordd o weithio o gwmpas hyn. Yr ail beth na all optometrydd ei wneud: nid wyf yn gwybod am y rhan fwyaf ohonoch—ac rwy'n ceisio brysio a siarad mor gyflym ag y gallaf, Lywydd—ond bydd llawer ohonom yn mynd at yr optegydd sy'n agos at ein gwaith. Rwy'n byw yn Sir Benfro, mae fy optegydd yma yng Nghaerdydd, ond os oes gennyf broblem gyda fy llygaid, ni all fy nghyfeirio at fwrdd iechyd Sir Benfro. Mae'n rhaid iddo fy atgyfeirio at yr un hwn, neu mae'n rhaid i mi fynd i chwilio am optegydd. Felly, pam na allwn gael gwared ar hynny, oherwydd mae'n rhwystr diangen?

'Cymru Iachach'—mae'n ymwneud ag atal, mae'n ymwneud â chadw pobl yn gall, yn ddiogel ac mewn amgylchedd y maent yn hapus ag ef. I'r rhan fwyaf ohonom, ein cartref yw hwnnw a chyda'n ffrindiau, heb orfod cael holl bwysau eraill bywyd. Os ydym am gadw ein poblogaeth yn y fath fodd, os ydym am atal, rhaid inni gadw pobl a rhoi'r adnoddau i'w galluogi i aros yn eu cartrefi. Mae colli eich golwg yn creu unigrwydd, arwahanrwydd a phob math o straen iechyd meddwl. Mae'r byd yn lle anodd iawn i'w lywio heb arwyddbyst. Rydych wedi gwneud gwaith da iawn hyd yn hyn—byddwch yn ddewrach, oherwydd dyma un rhan o'r gwasanaeth iechyd y gallai pob un ohonom ei gael yn iawn mewn gwirionedd, a byddai'n helpu cymaint o bobl ar gyfer y dyfodol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:56, 3 Gorffennaf 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.