7. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brexit

– Senedd Cymru am 4:49 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:49, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, i wneud y datganiad.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan gafodd y Cynulliad ei ad-alw bythefnos yn ôl, soniodd y Prif Weinidog am y camau gwarthus roedd Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol wedi'u cymryd i fygu llais y Senedd ar adeg o argyfwng i'r wlad. Ar ddiwedd y ddadl honno, fe anfonon ni neges glir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fyddem ni'n sefyll o'r neilltu tra bo penderfyniadau'n cael eu gwneud sy'n bygwth ein democratiaeth ni.

Pan gafodd y Senedd ei hatal yr wythnos diwethaf, roedd 52 diwrnod i fynd tan y diwrnod ymadael. Erbyn i'r Aelodau ddychwelyd ar ôl cael eu gorfodi o'r Senedd, dim ond 17 diwrnod fydd ar ôl. Am ddwy ran o dair o'r 52 diwrnod gwerthfawr hynny, mae'r Senedd wedi bod ar gau.

Nid oes pwynt ceisio dadlau bod cyfnod o doriad ar gyfer cynadleddau'r pleidiau wedi'i gynnwys yn yr amserlen yn barod. Penderfyniad i'r Senedd ei wneud oedd hwnnw, ac mae'n fwy na thebyg y byddai Tŷ'r Cyffredin wedi pleidleisio i'w ganslo neu ei gwtogi.

Felly, rwy'n croesawu penderfyniad Llys y Sesiwn, sydd, mewn gwirionedd, yn llys uwch na'r Uchel Lys yn Llundain, er gwaethaf sylwadau rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol, a ddyfarnodd fod y camau a gymerwyd i atal y Senedd yn anghyfreithlon. Rŷm ni'n aros nawr, wrth gwrs, am y dyfarniad terfynol gan y Goruchaf Lys.

Yn ystod yr amser gwerthfawr hwnnw pan gyfarfu'r Senedd ar ôl toriad yr haf, fe welwyd Aelodau Seneddol o sawl plaid, gan gynnwys rhai Aelodau o feinciau'r Llywodraeth a oedd yn barod i roi buddiannau'r wlad o flaen buddiannau'r Blaid Geidwadol, yn dod ynghyd i gyflwyno deddfwriaeth a oedd wedi'i chynllunio i'n hatal rhag ymadael heb gytundeb ar 31 Hydref.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:51, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Fel swyddog y gyfraith ar gyfer Llywodraeth Cymru, rwy'n hollol o ddifrif ynglŷn â fy nyletswydd i sicrhau y dilynir rheol y gyfraith. Mae hon yn egwyddor sylfaenol y mae holl ddinasyddion y DU, ac, yn wir, dinasyddion unrhyw ddemocratiaeth aeddfed, yn dibynnu arni bob un diwrnod.

Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi defnyddio iaith gref yn y Siambr hon yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid wyf yn gwneud unrhyw esgusodion dros feirniadu Gweinidogion Llywodraeth y DU pan fyddant yn methu ag ymrwymo y byddant yn ufuddhau i'r gyfraith. Mae'n gwbl warthus na all pobl y DU ddibynnu ar y Prif Weinidog i ddilyn cyfraith y Deyrnas Unedig.

Yr wythnos diwethaf, yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd), heriais Michael Gove ar hyn ac fe'm sicrhaodd y byddai'r Llywodraeth yn ufuddhau i'r gyfraith. Ond, ar yr un pryd, parhaodd i siarad fel y byddai'r DU yn bendant wedi gadael yr UE erbyn 31 Hydref. Ac mae'n rhaid inni gofio nad yw'r DU ar ei phen ei hun yn penderfynu ai dyna fydd yn digwydd; mae gan bob un o'r 27 aelod-wladwriaeth arall yn yr UE feto ar estyniad. Yr hyn sy'n glir, felly, yw bod peryglon o hyd y bydd y DU yn gadael heb gytundeb ar 31 Hydref ac mae angen i ni fwrw ymlaen â'n cynllunio ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb'.

Ddoe, fe wnaethom ni gyhoeddi cynllun gweithredu ymadael 'dim cytundeb' Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn adleisio'r dadansoddiad sobreiddiol o'r peryglon sy'n ein hwynebu fel y dangosodd cyhoeddi rhagdybiaethau Yellowhammer y Deyrnas Unedig i'r cyhoedd. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn dweud ers misoedd bod y math o ganlyniadau a grybwyllir yn y dogfennau hynny'n berygl go iawn o gael Brexit 'dim cytundeb' ac yn gwbl amhosibl ei ddychmygu, a dyna pam rydym ni wedi galw am ei ddiystyru. Rydym ni wedi bod yn glir: lle mae'r gallu gennym ni i weithredu i liniaru goblygiadau ymadael 'dim cytundeb', rydym ni wedi gwneud hynny.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd fy nghyd-Weinidogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y paratoadau a amlinellir yn y cynllun gweithredu. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dod â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru ynghyd i drafod goblygiadau ymadael 'dim cytundeb' ar Gymru a beth, os o gwbl, y gallwn ni ei wneud i gyfyngu ar y niwed a wneid.

Ond gadewch i mi fod yn glir: mae'r rhan fwyaf o'r mesurau lliniaru sydd eu hangen ar gyfer ymadael 'dim cytundeb' y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol—nid ydynt hyd yn oed dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yng nghyfarfodydd diweddar is-bwyllgor Cabinet y DU yr wyf i a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresenol ynddynt, mae canlyniadau enbyd gadael 'dim cytundeb' yn parhau i gael eu disgrifio. Mae'n rhyfeddol bod Llywodraeth y DU yn gallu ystyried difrod o'r fath i'r DU fel mater o ddewis gwleidyddol.

Ni ddylai pobl Cymru gael eu twyllo y bydd Brexit 'dim cytundeb' yn derfyn ar dair blynedd o ansicrwydd. Yn hytrach, bydd yn dechrau pennod newydd o gynnwrf aruthrol. Bydd yr economi'n dioddef poen economaidd sylweddol, gyda chwalfa yng ngwerth y bunt ac ansefydlogrwydd ehangach yn y marchnadoedd ariannol. Bydd pob dinesydd yng Nghymru a'r DU yn teimlo'r boen hon.

Mae'r holl dystiolaeth yn dangos y bydd y boen economaidd hon yn hirhoedlog ac yn barhaol. Bydd yr economi'n llai nag y byddai wedi bod fel arall, a bydd hynny'n taro incwm pob teulu yn y DU. At hynny, hyd yn oed o gael llechen lân, fel y'i gelwir, bydd yn rhaid i'r DU negodi perthynas newydd â'n partneriaid economaidd agosaf, a bydd Brexit 'dim cytundeb' yn gwneud y trafodaethau hyn yn anoddach.

Mae'n ymddangos y bydd y berthynas rhwng y DU a'r UE ar adeg yr ymadawiad yn fwyfwy chwerw, gyda diffyg cyfaddawdu, ychydig iawn o debygolrwydd cael cytundeb yn y dyfodol yn y tymor agos, a Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar feio'r Undeb Ewropeaidd. Ychwanegwch at hynny y bygythiad na fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu'r ymrwymiadau ariannol mewn sefyllfa o adael 'dim cytundeb', ac mae'n amlwg y bydd angen i'r DU adeiladu pontydd newydd ac adfer cydberthnasau sydd wedi'u difrodi, hyd yn oed cyn i'r trafodaethau ddechrau.

Y gwir amdani yw y bydd y DU yn cyd-drafod yn gyson â'r UE am byth os byddwn yn gadael. Mae'r ffaith y bydd y berthynas newydd hon yn dechrau ar nodyn mor wael yn peri pryder mawr ac yn niweidiol i'n henw da yn rhyngwladol. Mae'r Senedd wedi rhoi cyfarwyddiadau clir i Brif Weinidog y DU. Mae'r broses ar gyfer osgoi ymadael 'dim cytundeb' wedi'i nodi mewn deddfwriaeth. Mae'r camau yno i'w cymryd. Ac eto, clywn gan Brif Weinidog y DU mai ei bolisi ef yw i'r DU adael ar 31 Hydref hyd yn oed os na ellir dod i gytundeb. Pe bai'r Prif Weinidog yn anwybyddu'r cyfarwyddyd gan y Senedd, yna byddai'n benderfyniad y byddai'n rhaid iddo fod â goblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol difrifol.

Bydd ymadael 'dim cytundeb' yn drychinebus a dylai fod y tu hwnt i bob amgyffred. Rydym ni'n parhau'n ymrwymedig i'r llwybr amgen. Mae dyfodol mwy disglair i Gymru, sef dewis parhau yn aelod a helpu i lunio Undeb Ewropeaidd diwygiedig.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:56, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Pe gallwn i atgoffa'r Gweinidog heddiw, cyn diolch iddo am ei ddatganiad, gyda llaw, fod yna wirionedd anghyfleus, am ryw reswm, nad yw'r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn y Siambr hon eisiau ei gydnabod, a hynny yw bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi hynny. Pleidleisiodd y bobl yn eich etholaeth eich hun i adael yr Undeb Ewropeaidd drwy fwyafrif, ac mewn llawer o'ch etholaethau ledled Cymru yn y lleoedd hynny lle'r ydych chi'n eiriol dros aros.

Nawr, rydych chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i rwystro ewyllys y bobl. Rydych chi newydd gyfeirio—rydych chi newydd gyfeirio at y Prif Weinidog yn cael cyfarwyddiadau clir gan y Senedd. Beth am y cyfarwyddiadau clir gan bobl y Deyrnas Unedig a Chymru a roddwyd i'r Senedd? Mae'n hen bryd inni gael ychydig o barch at benderfyniad ac ewyllys y bobl, a gweithredu'r Brexit y pleidleisiodd pobl drosto.

Nawr, gallaf weld yr holl—gallaf weld yr holl ymdrech i greu dychryn ymhlith y cyhoedd drwy'r prosiect codi bwganod, cyfres 2, yr ymddengys eich bod chi wedi cychwyn arno. Gwelsom y ddogfen denau iawn a gyhoeddwyd yr wythnos hon o ran paratoi Llywodraeth Cymru, a'r tybiaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio iddynt. Ond, wrth gwrs, fe glywsom ni i gyd yr un rhagfynegiadau o'r blaen, a dyma pam nad yw pobl yn cael eu perswadio gan y dadleuon rydych chi'n eu rhoi gerbron. Clywsom y rhagfynegiadau hyn o'r blaen ynglŷn â beth fyddai'n digwydd ar y diwrnod cyntaf un petaem yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac ni wireddwyd yr un ohonyn nhw—ni wireddwyd yr un ohonyn nhw. Felly, rwy'n ofni fy mod yn ei chael hi'n anodd iawn clywed Llywodraeth Cymru yn rhygnu ar yr un hen ddadleuon eto yn y Siambr hon, ac ymddengys fod ymdrech fwy penderfynol fyth y dyddiau hyn i ddileu ewyllys y bobl a gwrthdroi'r mandad democrataidd hwnnw y dylai pawb fod yn canolbwyntio ar ei weithredu.

Clywsom heddiw fod Plaid Cymru wedi ymuno â'r eithafwyr Brexit yn y Democratiaid honedig Rhyddfrydol drwy fod eisiau mewn gwirionedd ddileu Brexit yn llwyr hyd yn oed heb refferendwm. Mae hynny'n rhyfedd. Mae eich safbwynt yn un rhyfedd gan eich bod eisiau ceisio negodi bargen ac yna annog pobl i bleidleisio yn ei erbyn mewn refferendwm. Dydw i ddim yn gwybod pam nad ydych chi'n meddwl bod hynny'n beth anarferol i'r Undeb Ewropeaidd ei feirniadu, a dyna pam, wrth gwrs, y buon nhw yn ei feirniadu. Felly, fe'i caf hi'n anodd gwrando ar y dagrau ffug o amgylch y Siambr pan fo'n gwbl amlwg bod pobl eisiau gadael, fod pobl eisiau inni fwrw ymlaen â hyn, eu bod ni wedi cael llond bol ar lusgo traed, a dyna pam fy mod i'n llwyr gefnogi'r Prif Weinidog wrth iddo geisio gweithredu'r penderfyniad hwn erbyn 31 Hydref.

Nawr, does neb—does neb yn y Siambr hon eisiau ymadael 'dim cytundeb'. Byddai'n well gan bawb gael cytundeb, ond dim ond un ochr i'r bwrdd bargeinio ydym ni. Mae'n ymddangos bod yr ochr arall i'r bwrdd bargeinio yn floc o genedl-wladwriaethau sy'n gwrthod cyfaddawdu ar eu hanhyblygbrwydd o ran diwygio'r cytundeb ymadael. Nawr, rydych chi'n dweud eich bod eisiau rhywfaint o ddilyniant, rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau rhywfaint o sicrwydd, rydych chi'n dweud eich bod eisiau'r gallu i bobl barhau i fasnachu, ac, wrth gwrs, roedd hynny i gyd wedi ei gynnwys yn y cytundeb ymadael, y bu i bob un ohonoch chi bleidleisio'n gyson yn ei erbyn. Felly, rydym ni mewn sefyllfa lle mae gennym ni Brif Weinidog sy'n ceisio gwireddu ewyllys y Senedd wrth geisio sicrhau newidiadau i'r cytundeb ymadael, ac mae wedi'i gwneud hi'n glir os na all sicrhau cytundeb o ran y newidiadau angenrheidiol hynny y bydd yn benderfynol o adael heb gytundeb.

Nawr, a gaf i ofyn rhai cwestiynau i chi? Rydych chi wedi ei gwneud hi'n glir—. Rydych chi wedi awgrymu heddiw bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefyllfa lle, hyd yn oed os byddwn ni'n gadael yr UE heb gytundeb, rydych chi'n teimlo y dylem ni dalu'r cyfraniad hwnnw o £39 biliwn, sydd yn frawychus iawn i mi. A allwch chi gadarnhau mai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru? Oherwydd dyna'r hyn yr oeddech chi fel petaech yn ei awgrymu wrth sôn am yr angen i anrhydeddu ymrwymiadau ariannol. Oherwydd mae'r ymrwymiadau hynny, wrth gwrs, yn gysylltiedig â'r cytundeb ymadael ar hyn o bryd.

A ydych chi'n derbyn bod y Senedd wedi cael cyfarwyddiadau clir gan bobl y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl Cymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd? A ydych chi'n derbyn—? Rydych chi'n sôn am oblygiadau cyfansoddiadol anufuddhau i'r Senedd, ond beth am y goblygiadau cyfansoddiadol a'r cymhlethdodau a fyddai'n ynghlwm wrth beidio â gweithredu canlyniad refferendwm? Dyma fyddai'r tro cyntaf yn hanes y Deyrnas Unedig na fyddai canlyniad refferendwm wedi'i gweithredu.

Ac os caf i droi at eich dogfen, os caf i, y cyhoeddwyd gennych chi y diwrnod o'r blaen, un peth nad ydych chi'n cyfeirio ato, i bob golwg—ac ychydig iawn o ddiweddariad sydd, mewn gwirionedd, yn nhestun eich datganiad heddiw—nid ydych chi'n cyfeirio at yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o ran pobl yn elwa ar y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Rydych chi wedi neilltuo cronfa drawsnewid o £50 miliwn. Nid yw hynny i gyd wedi'i ddyrannu eto. Hynny yw, pa mor agos y mae'n rhaid inni fod at y dyddiad cyn dechrau dyrannu'r arian hwn a'i gael o'r gronfa i bocedi'r sefydliadau y mae angen iddyn nhw baratoi ar gyfer Brexit? A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny? Byddai hynny wedi bod yn fwy defnyddiol na'r lol botes a glywsom ni y prynhawn yma.

A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd faint o fusnesau sydd wedi defnyddio porthol Brexit Busnes Cymru? Oherwydd nid wyf yn credu bod llawer o bobl yn ei ddefnyddio, a dweud y gwir. Wyddoch chi, cewch fy nghywiro os ydych yn dymuno. Byddaf yn hapus i—. Os yw hynny'n wir, byddaf yn hapus os oes miloedd lawer wedi ac nid, mewn gwirionedd, yn clicio arno unwaith ond yn defnyddio'r wefan er mwyn elwa ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:02, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

A beth am wefan Paratoi Cymru, hefyd? Rwyf yn dirwyn i ben, Dirprwy Lywydd. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o bobl sydd wedi manteisio ar hynny o ran y sefydliadau eraill nad ydynt yn fusnesau y gallai fod angen cymorth arnynt? Felly, yn hytrach na rhygnu ar yr un hen dant, hoffwn glywed yn union pa gynnydd rydych chi'n ei wneud trwy weithio gyda Llywodraeth y DU i wireddu ewyllys pobl Cymru wrth gyflwyno Brexit cyn gynted â phosib.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gobeithio y cafodd detholwyr Plaid Geidwadol Gorllewin Clwyd fwy o wybodaeth o hynny na'r gweddill ohonom ni yn y Siambr hon. Mae'r Aelod yn sôn am Brexit 'dim cytundeb' gyda rhyw ddihidrwydd y credaf fod y rhan fwyaf ohonom ar y meinciau hyn yn ei chael hi'n frawychus iawn. Mae'n honni ei fod yn poeni am elwa ar wasanaethau a ariennir gan y Llywodraeth a'r cyfraniadau yr ydym ni wedi'u gwneud i gadernid. Nid wyf yn credu am eiliad fod y rheini'n gyfres ddilys o ymholiadau, ond rwy'n hapus i ateb rhai o'r cwestiynau.

Mae'n sôn am anrhydeddu'r refferendwm. Beth am anrhydeddu'r addewidion a wnaed i bobl yn 2016? Gadewch i ni ddechrau gyda hynny. Gadewch i ni ddechrau gyda'r addewidion y byddai bargeinion masnach y pethau hawsaf yn y byd ac eto rydym ni bellach mewn sefyllfa lle rydym ni wedi normaleiddio'r syniad o droi cefn ar rwydwaith masnach, a fyddai'n ergyd farwol i rannau o'n heconomi, ac mae rhannau o'r Siambr hon yn ystyried hynny'n berffaith dderbyniol. Mae'n warth.

Mae'n sôn am ymgais i godi bwganod. Mae'r Llywodraeth y mae'n ei chefnogi yn San Steffan wedi datgelu eu rhagdybiaethau cynllunio. Dyna Lywodraeth sy'n fodlon cael Brexit 'dim cytundeb' er gwaethaf y darluniad llwm yn y ddogfen honno o'r niwed a gai ei achosi—[Torri ar draws.] Mae'n mwmian ar ei eistedd mai'r sefyllfa waethaf yw honno—[Torri ar draws.] Os yw'n gwrando, fe gaiff yr atebion. Dogfen yw honno sy'n dangos beth yw asesiad person rhesymol o ba mor wael y gall pethau fod.

Os nad yw hynny i gyd yn digwydd, beth y mae'n barod goddef iddyn nhw fynd o chwith yn y rhestr honno o bethau? Ai prisiau trydan yn cynyddu? Ai anghydfod sifil? Ai cynnydd mewn prisiau yn cael effaith anghymesur ar grwpiau incwm isel? Ai oedi i gael cyflenwad meddyginiaeth? Beth o blith hynny y mae'n barod i oddef wrth iddo ddisgrifio'n hollol bwyllog y posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb'? Rydym ni'n cymryd camau sy'n gymesur yn wyneb y math hwnnw o fygythiad er mwyn lliniaru, gorau y gallwn ni, y difrod ar Gymru. Ond gadewch i ni fod yn gwbl bendant: ni all faint bynnag o waith paratoi, waeth pa mor effeithiol, pa mor gydweithredol bynnag, gael unrhyw effaith sylweddol ar beth o'r difrod a ddisgrifir yn y ddogfen honno, a dylai ganolbwyntio ar hynny yn hytrach na'r dicter ffug y mae wedi'i ddangos heddiw.

A dim ond i fod yn glir, rydym ni yn credu y dylai Llywodraeth y DU dalu ei dyledion. Rydym ni yn credu y dylai Llywodraeth y DU dalu ei dyledion. Mae'r rhain yn gyfraniadau i raglenni cyfredol, i ymrwymiadau cyfredol i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n troedio llwybr peryglus iawn os yw, mewn byd lle y mae'n credu y dylem ni fod yn negodi cytundebau masnach newydd, yn barod i lurgunio enw da'r DU drwy gefnu ar ei rwymedigaethau.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:05, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Am lanast llwyr y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o bethau. Canfyddir bod y Prif Weinidog wedi dweud celwydd wrth y Frenhines ac mae'n hapus i fygu'r Senedd a diystyru rheolaeth y gyfraith. Fel rydych chi wedi'i ddweud, Gweinidog, os yw'r gohiriad yn parhau—ac nid yw'n warant o gwbl, o ystyried hynt ymddangosiadol yr achos yn y Goruchaf Lys—ond os yw'r gwaharddiad yn parhau, bydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd gyda dim ond 17 diwrnod cyn y diwrnod pan fydd Boris Johnson yn parhau i fynnu yn groes i'r gyfraith, yn groes i bob rheswm, y byddwn yn gadael yr UE, doed a ddêl. 'Peidiwch â gwastraffu'r amser hwn' yw'r rhybudd a gawsom ni Donald Tusk. Wel, mae Llywodraeth San Steffan wedi dangos pa mor ddi-glem y gall fod—pa mor fyddar i bob cri o reswm, tosturi neu synnwyr.

Prin fod y dogfennau Yellowhammer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn sôn o gwbl am Gymru, felly mae'n ddefnyddiol bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyhoeddi ei chynllun gweithredu ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb'. O ystyried ei bod yn ddogfen swmpus, ni fentraf feirniadu'r cynlluniau cyn i mi orffen eu dadansoddi'n llawn, ond hoffwn hefyd ddiolch ar goedd i weithwyr yn y sector cyhoeddus sy'n gweithio'n ddiflino yn yr ystafelloedd cefn, y tu ôl i'r llenni, ac yn ddiwyd, i baratoi ar gyfer y drychineb bosib hon.

Ddoe, dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Pwyllgor Materion Allanol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn gwybodaeth fanylach gan Lywodraeth y DU nag a gyhoeddwyd yn y dogfennau Yellowhammer, ac mae'n amlwg y bu'r wybodaeth hon yn sail i'ch cynllun. Mae'r cynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar eu cyfer, yn seiliedig ar y cyngor hwnnw, yn ddim byd ond ffiaidd. Rwy'n credu ei bod hi'n gywilyddus bod llefarydd y Ceidwadwyr yn honni mai prosiect codi bwganod yw hyn ac y gall wfftio mor hawdd at darfu'n sylweddol ar symudiad pobl a nwyddau, anhrefn mewn porthladdoedd a meysydd awyr, prinder posib o ran bwyd a meddygaeth, tarfu'n sylweddol ar fasnach, a allai, ac rwy'n dyfynnu, beryglu cynaliadwyedd rhai busnesau a chael effaith negyddol ar swyddi a chyflogau, chwyddiant cynyddol, twf economaidd is, gydag aelwydydd incwm isel yn cael eu heffeithio waethaf, storm berffaith o golli swyddi, gostyngiad mewn cyflogau, a chostau cynyddol, y sectorau ffermio a physgota, a dyfynnaf eto, 'wedi taro'n arbennig o galed ', a gweithgynhyrchu uwch yn wynebu aflonyddwch oherwydd problemau gyda chadwyni cyflenwi union bryd, sectorau gwasanaethau sy'n debygol o gael eu heffeithio'n sylweddol, cynnydd mewn chwyddiant yn cael effaith sylweddol ar ddarparwyr gofal cymdeithasol, posibilrwydd o golli hawliau dinasyddion a gweld dyfodiad awyrgylch annifyr. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.

A gadewch i ni fod yn gwbl glir am hyn. Er bod yr effeithiau hyn yn swnio'n debyg i oblygiadau rhyfel neu drychineb naturiol, maen nhw'n ganlyniadau disgwyliedig polisi presennol Llywodraeth y DU. Os byddan nhw'n ein tywys dros ymyl y dibyn, os byddan nhw'n gorfodi sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb' ar Gymru a gweddill y DU, ni fyddan nhw byth yn cael maddeuant. Gallai hyn hyd yn oed fod yn drech na'r effeithiau trychinebus a gafodd polisïau dadddiwydiannu Thatcher ar Gymru.

Felly, rwy'n ei chael hi'n frawychus, Gweinidog, mai'r mater cyntaf un y mae'r cynllun gweithredu ymadael 'dim cytundeb' yn ei drafod yw dadlau'r achos dros undeb y Deyrnas Unedig. Siawns, pe bai Llywodraeth y DU yn gorfodi ymadawiad 'dim cytundeb' ar Gymru, ni fyddai unrhyw ddadl. Byddai gadael yr undeb yn flaenoriaeth, unwaith y byddwn ni wedi rhoi sylw i'r argyfwng tymor byr. Mae 41 y cant o boblogaeth Cymru yn dweud y bydden nhw'n pleidleisio dros annibyniaeth fel ffordd o aros yn yr UE, ac mae hynny nawr, cyn i drychineb ymadael 'dim cytundeb' ddigwydd, ac mae'r ffigur hwnnw'n digwydd nawr pan fo pobl yn gwybod mwy o'r ffeithiau hefyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i gynnal undeb a fydd wedi ein siomi. Mae Prif Weinidog Cymru ei hun wedi dweud bod y DU yn undeb gwirfoddol. Os bydd cefnogaeth i annibyniaeth yn cynyddu ymhellach, yna ni fydd hi'n bosib anwybyddu'r galwadau am refferendwm annibyniaeth. Mae angen i chi ddechrau paratoi ar ei gyfer nawr.

Hoffwn orffen drwy ofyn ambell gwestiwn. A allwch chi ddweud wrthym ni faint mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario yn paratoi ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb' ac a ydych chi'n cytuno â mi y dylai'r arian hwn gael ei ad-dalu i Gymru'n llawn, gan mai polisi gan Lywodraeth y DU sydd wedi gwneud y gwariant yn angenrheidiol? Sylwais, hefyd, nad oedd sôn yn nogfennau Yellowhammer, na'ch cynllun gweithredu, am ddyfodol purfa olew Penfro, er bod straeon a ryddhawyd i The Sunday Times yn awgrymu y gallai cannoedd o swyddi fod mewn perygl. Yn ôl pob tebyg, dyma beth mae paragraff 15 dogfen Yellowhammer yn ei olygu. A ydych chi'n pryderu am y swyddi hyn, neu a yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gywir i ddweud eu bod yn ddiogel? Ac yn olaf, a allwch chi roi sicrwydd heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian ychwanegol ar gael ar ben y £2 miliwn sydd eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer banciau bwyd os yw ymadael 'dim cytundeb' yn arwain at argyfyngau ariannu ar gyfer teuluoedd ac unigolion sydd ag incwm isel, y bydd bron yn sicr yn wir?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:10, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. A gaf i yn gyntaf ategu ei sylwadau ynghylch y diolchiadau i'r holl bobl hynny yn y gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, ym mhob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru sy'n gweithio'n galed i fynd ati i baratoi Cymru ar gyfer rhai o'r mathau o bethau a ddisgrifiwyd yn nogfennau Yellowhammer?

Soniodd am yr achos yn y Goruchaf Lys. Hoffwn ddweud wrthi fy mod wedi cael adroddiadau o'r trafodion heddiw yn y llys a bod yr Ustusiaid yn cymryd gwir ddiddordeb yn effaith gohiriad y Senedd ar waith y Cynulliad a chanlyniad hynny ar y ddeddfwriaeth a'r gwaith y mae Aelodau yma wedi ei wneud yn craffu ac yn ystyried y rheini. Byddwn yn gobeithio, o leiaf, y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yn cefnogi'r diddordeb sydd wedi'i ddangos yn yr effaith yma ar ein gwaith.

Mae hi'n gwneud sawl sylw am ddyfodol y DU o ganlyniad i Brexit caled neu 'dim cytundeb'. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud—ailadroddaf y sylw a wneuthum yn gynharach—yw mai'r rheini sy'n peri'r bygythiad mwyaf i'r undeb yw'r rheini sy'n dadlau dros Brexit caled neu 'dim cytundeb'. Gwyddom pa ganlyniadau y gallai hynny eu cael yn hawdd yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ac rwy'n credu bod dyfodol y DU yn cael ei beryglu mewn modd na fu o'r blaen oherwydd y mathau o drefniadau y mae'r bobl hynny yn berffaith fodlon eu hystyried, ac rwy'n cynnwys Prif Weinidog y DU yn hynny.

Mae'n gofyn yn benodol am y gwariant ac ati, ac rwy'n hapus iawn i gadarnhau iddi fy mod yn credu y gellid gwario arian sy'n cael ei wario yn gysylltiedig â pharatoi yn fwy cynhyrchiol ar bethau eraill. Nid oes yr un ohonom ni, rwy'n credu, o'r farn nad oedd modd gwario'r adnoddau a'r amser a dreuliwyd gan y Llywodraeth, gan lywodraeth leol a chan gyrff cyhoeddus a sefydliadau a busnesau ledled Cymru yn fwy cynhyrchiol mewn mannau eraill. A byddwn yn gwneud yn siŵr bod gennym ni gyfres o gynigion ariannol clir iawn i Lywodraeth y DU os bydd y mathau o amgylchiadau a ddisgrifir yn y dogfennau yr ydym ni wedi'u gweld yn ein hwynebu. Nid yw hi'n bosib inni ymdrin â'r canlyniadau a ragwelir yn y ddogfen honno heb gymorth ariannol sylweddol iawn, iawn gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n gwybod fod y Gweinidog cyllid yn canolbwyntio'n fanwl iawn ar y gorchwyl hwnnw.

Wnaf i ddim gwneud sylw, os nad oes ots ganddi, am gwestiwn y burfa olew; gwnaf ei chyfeirio at y sylwadau cyhoeddus y mae'r cwmni eu hunain wedi'u gwneud am eu pryderon yn gysylltiedig â Brexit. A byddaf yn cadarnhau—a gobeithiaf y bydd wedi sylwi ar hyn o'r ddogfen a ddatgelwyd ddoe—rydym ni'n credu y caiff y mathau o Brexit a ddisgrifir yn y dogfennau hyn effaith sylweddol iawn ar grwpiau agored i niwed. A gallai effaith gronnol nifer o'r effeithiau hyn fod yn niweidiol iawn, iawn yn wir i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiadau i gefnogi grwpiau amrywiol sy'n agored i niwed. Mae'r rheini'n dal i gael eu hadolygu, wrth gwrs, a byddwn yn gwneud popeth a allwn ni yn unol â'n grym â'n hadnoddau.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:14, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Rwyf innau hefyd yn diolch i Lywodraeth Cymru am eu cynllun gweithredu a gyhoeddwyd ddoe. O leiaf rydym ni yma yn y Cynulliad yn cael cyfle i graffu mewn gwirionedd ar y Llywodraeth o ran ei chynllun gweithredu, yn wahanol i'n cydweithwyr yn San Steffan sydd wedi cael eu rhwystro rhag craffu ar y gwaith ar ddogfennau Yellowhammer.

Gweinidog, digon hawdd yw dweud—. Wyddoch chi, rydym ni wedi cael areithiau gan wahanol aelodau. Nid oes a wnelo hyn ag areithiau; mae'n ymwneud â gofyn cwestiynau i chi. Felly, byddaf yn ceisio canolbwyntio ar gwestiynau, oherwydd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yw'r hyn yr ydym ni i gyd yn ei feddwl. Nawr, y pwynt yw—. Ychydig o bwyntiau. Byddwn wedi gobeithio y byddem ni wedi cael—[Torri ar draws.] A wnaiff yr Aelod roi cyfle i mi ofyn rhai cwestiynau. Diolch. Gweinidog, nid ydym ni wedi cael diweddariad ar y fframweithiau cyffredin, y byddwn wedi gobeithio amdano yn yr araith hon, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn gwybod ble'r ydym arni yn y fframweithiau cyffredin hynny. Oherwydd os byddwn yn gadael heb gytundeb ar 31 Hydref, bydd yn braf gwybod yn union pa gynnydd a fu gyda'r fframweithiau cyffredin hynny fel y gallwn ni sicrhau bod pethau'n symud yn eu blaenau hefyd. Ond hefyd, efallai y gallech chi sôn am y gwahaniaethau rydych chi'n eu profi o ganlyniad i'r Llywodraeth newydd, oherwydd rwy'n gwybod gyda'r Llywodraeth flaenorol ei bod hi'n ymddangos ein bod yn symud ymlaen, lle cawsom yr adroddiad—cyhoeddwyd hynny gennym ni yn rhan o'n papurau ddoe yn y pwyllgor—ac nid yw tri o'r Aelodau sy'n rhan o'r adroddiad hwnnw bellach yn y Llywodraeth, felly mae'n ddiddorol gweld a yw'r Llywodraeth newydd o ddifrif ynglŷn â'r cynnydd gyda'r fframweithiau cyffredin ai peidio.

A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd am unrhyw anghenion deddfwriaethol i Gymru yn y dyfodol? Unwaith eto, a oes unrhyw offerynnau statudol sy'n weddill y mae angen eu rhoi ar waith cyn 31 Hydref? A oes unrhyw offerynnau statudol yn Lloegr neu yn San Steffan y mae angen inni fod yn ymwybodol ohonyn nhw o hyd sy'n dal angen eu cymeradwyo er mwyn inni allu bod mewn sefyllfa lle mae'r ddeddfwriaeth yn ei lle ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' ar 1 Tachwedd? Hefyd, unwaith eto, a ydych chi wedi asesu'r anghenion penodol gwirioneddol yng Nghymru? Rydym ni'n gwybod fod gohirio'r Senedd—rydym ni wedi trafod hyn, ac mae Prif Weinidog Cymru wedi sôn amdano'n eithaf clir. Roedd y penderfyniad i ohirio'r Senedd yn golygu bod yr holl Filiau hynny nad ydynt wedi'u cwblhau ac nad oedd Gorchymyn wedi'u gosod arnynt—ac nid oedd gan yr un ohonyn nhw orchymyn arno—i ganiatáu iddyn nhw barhau, mewn gwirionedd rhoddwyd y farwol iddynt, ac mae'n rhaid dechrau unrhyw beth eto. Mae nifer o Filiau sydd â chanlyniadau enfawr os nad oes gennym ni gyfnod pontio ar ôl gadael.

A ydych chi hefyd wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad pellach, yn dilyn y gwaith a wnaed gan ysgol fusnes Prifysgol Caerdydd, a gyhoeddwyd gennych o'r blaen, oherwydd roedd hynny ychydig fisoedd neu beth amser yn ôl? Ble'r ydym ni arni heddiw yn eich dadansoddiad o'r effaith economaidd? Oherwydd rydych chi, rwy'n tybio—ac mae Delyth Jewell wedi sôn am hyn—wedi seilio'ch dadansoddiad a'ch cynlluniau gweithredu ar y data a gewch chi gan Lywodraeth y DU yn rhan o ddogfennau Yellowhammer. Ydych chi wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad arall eich hun neu wedi gofyn am unrhyw ddadansoddiad o'r gwaith dilynol o waith ysgol fusnes Caerdydd?

Dydym ni ddim wedi trafod hyn heddiw, ond y gronfa ffyniant gyffredin— ble rydym ni arni? Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael ynglŷn â hynny? Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith y byddai hynny mewn gwirionedd yn fwy na'r £600 miliwn a gynigir i ni mewn cytundeb nad yw'r Senedd wedi ei basio eto. Felly, ble'r ydym ni arni, a sut mae hynny'n effeithio ar yr hyn y byddwch yn ei wneud a'r cynlluniau gweithredu hyn yn dilyn hynny, oherwydd, fel y nodwyd gennych chi yn y cynllun gweithredu hwnnw, mae rhai ohonyn nhw yn rhai tymor byr ac mae goblygiadau eraill tymor hwy i'r rhain?

Unwaith eto, un o'r pethau a amlygwyd imi yn y cynllun gweithredu oedd lle rydych chi'n dweud mae Banc Lloegr wedi amcangyfrif bod aelwydydd £1,000 yn waeth eu byd bob blwyddyn.

Nawr rwy'n gwybod, beth bynnag a ddywedodd Darren Millar yn gynharach, na phleidleisiodd etholwyr yn fy etholaeth i wneud eu hunain na'u cymdogion £1,000 flwyddyn yn waeth eu byd. Felly, mae angen inni edrych ar beth yn union yw'r goblygiadau i'r rheini.

A gaf i ofyn un peth? Rydym ni wedi gweld y Prif Weinidog yn mynd i Ewrop yn y pen draw ac yn ceisio argyhoeddi Ewrop bod ei syniadau'n gweithio mewn gwirionedd a'u bod yn ystyrlon—mae'n amheus, ond mae wedi rhoi cynnig arni. Ond, ddoe, methodd ag ymddangos hyd yn oed mewn cynhadledd i'r wasg gyda Phrif Weinidog Lwcsembwrg. Penderfynodd ymneilltuo ohono. Nawr, nid yw hynny o gymorth i feithrin perthynas gyda'n partneriaid yn yr UE. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod yn cryfhau'r partneriaethau hynny a'r cydberthnasau hynny mewn sefyllfa lle gallem ni adael ar delerau drwg oherwydd y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymddwyn? Oherwydd, i Gymru, bydd parhau i gael perthynas gref â chenhedloedd yr UE a'r rhanbarthau o fewn yr UE yn hanfodol ar gyfer yr anghenion busnes fydd gennym ni. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:18, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am yr ystod honno o gwestiynau. Byddaf yn ymdrin â nhw mor gryno ag y gallaf. O ran y cwestiwn ynghylch fframweithiau cyffredin, mae gwaith yn parhau o ran y rheini. Bydd yn gwybod o sgyrsiau yn y pwyllgor a gawsom ni yn y gorffennol yr hoffem ni weld cynnydd cyflymach yn gysylltiedig â hynny, ond credaf fod y gwrthdyniad yr ydym ni wedi'i wynebu wrth gynllunio ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb' wedi cael effaith, yn anffodus, ar yr amserlenni. Bydd hefyd yn gwybod mai bwriad y rheini yw cefnogi datblygiad polisi yn fwy hirdymor, a'r hyn sy'n amlwg yw y gall fod angen gwneud addasiadau polisi yn y cyfnod interim cyn cytuno ar fframwaith cyffredin penodol a chael craffu arno a chael mewnbwn gan randdeiliaid ac yn y blaen. Felly, rydym ni'n edrych ar hyn o bryd ar yr hyn y mae angen inni ei wneud er mwyn darparu ar gyfer yr angen hwnnw.

O ran effaith y Llywodraeth newydd ar y gwaith hwnnw, credaf y bu gwaith ar y gweill ar lefel swyddogol a chredaf fod gwaith yn mynd rhagddo yn gysylltiedig â'r rheini. Credaf y bu dau neu dri gyda rhanddeiliaid er mwyn cael eu sylwadau. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r ffaith—rwy'n credu bod pob Llywodraeth yn ymwybodol o'r ffaith bod angen i ni wneud yn siŵr bod amser i ddeddfwrfeydd a rhanddeiliaid graffu ar y fframweithiau hynny wrth iddyn nhw aeddfedu a chyn iddyn nhw gael eu cytuno.

Soniodd am ddeddfwriaeth ac effaith y broses o ohirio'r Senedd. Mae pum Bil wedi diffygio oherwydd y gohirio. Un o leiaf oedd yn un yr oeddem ni wedi rhoi caniatâd ffurfiol iddo yn y fan yma, ar gyfer y Bil hwnnw; un a fyddai wedi ymestyn ein cymhwysedd yma yn y Cynulliad; ac un a fyddai wedi rhoi pwerau pwysig i alluogi taliadau i ffermwyr ac ati. Felly nid darnau bach o ddeddfwriaeth amherthnasol yw'r rhain; maen nhw'n Filiau pwysig y mae'r Cynulliad yma yn disgwyl y byddai'r Senedd yn cael cyfle i'w pasio. Rydym ni'n ystyried ar hyn o bryd beth mae hynny'n ei olygu o ran deddfwriaeth ychwanegol bosibl yn y fan yma. Yn sicr, o ran offerynnau statudol, bydd angen cyflwyno offerynnau statudol pellach, naill ai oherwydd y pethau yr ydym ni wedi'u dysgu yn y cyfamser neu newidiadau a fu yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn y cyfamser. Felly, caiff y rheini eu cyflwyno maes o law.

O ran yr effaith economaidd, gwyddom, wrth gwrs, fel yr amlinellodd yn ei gwestiwn, pa mor arwyddocaol fyddai effaith economaidd anffafriol ymadael 'dim cytundeb' neu Brexit caled, ac rydym ni hefyd yn gwybod na fydd unrhyw fath o Brexit mor fuddiol i economi Cymru ag aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y Llywodraeth yn rhyddhau'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith economaidd Brexit yn fuan. Bydd honno ar gael i'r Aelodau ei gweld.

Soniodd am y gronfa ffyniant gyffredin. Rwy'n ofni nad wyf mewn sefyllfa i roi unrhyw ddiweddariad iddo yn gysylltiedig â hynny. Yn syml iawn, nid ydym ni'n gwybod beth yw'r cynlluniau presennol yn San Steffan yn hynny o beth. Dywedodd y Gweinidog cyllid yn gynharach, rwy'n credu, ei bod wedi dechrau colli hyder bod cynllun gan Lywodraeth y DU hyd yn oed, ac mae'n anodd ymwrthod â'r casgliad hwnnw weithiau.

O ran y Prif Weinidog yn Lwcsembwrg, rwy'n credu ar ddiwedd y dydd ei bod hi'n bwysig bod ar gael ar gyfer craffu, onid yw e'? Rwy'n credu bod hynny'n dangos patrwm o ymddygiad wrth beidio â bod ar gael i'ch holi ac yn y blaen. Ond y pwynt ehangach yn y fan honno: roeddwn i yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) ddydd Iau diwethaf a gofynnais am ddiweddariad ar y trafodaethau y mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn eu cynnal, ac rwy'n ofni y gadewais heb unrhyw hyder o gwbl ein bod yn edrych ar negodi fel y byddem yn ei ddeall—proses drylwyr a manwl o fargeinio a chyfnewid. Felly nid wyf yn ffyddiog o gwbl y gallaf roi unrhyw sicrwydd iddo fod yna gyd-drafod yn y ffordd y byddem ni yn deall hynny, yn ystyrlon, yn mynd rhagddo.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 5:22, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o glywed y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei hamcangyfrif ei hun ar effaith economaidd ymadael 'dim cytundeb', gan fod y Gweinidog newydd fabwysiadu cyfeiriad David Rees at amcangyfrif Banc Lloegr—£1,000 sy'n dod o amcangyfrif o 5 y cant. Ac eto, cyfeiriodd ei gyd-Aelod gynnau, Rebecca Evans, at amcangyfrif o 10 y cant gan y Trysorlys, a arweiniodd at yr amcangyfrif hwn o £2,000. Eto, a yw'r Gweinidog yn cydnabod fod hyd yn oed yr isaf o'r amcangyfrifon hynny yn seiliedig ar ragdybiaeth gan Fanc Lloegr y bydd ymadawiad 'dim cytundeb' yn arwain at Fanc Lloegr yn codi ei gyfraddau llog o 0.75 y cant i 4.5 y cant, ac mae'n ymwybodol bod bron unrhyw economegydd sector preifat sydd wedi gwneud sylwadau ar hynny'n meddwl ei fod yn syml yn beth anhygoel i'w ddweud?

Nid wyf i'n dal ronyn callach, mewn gwirionedd, o ran beth yw polisi'r Gweinidog ynghylch sefyllfa gyffredinol Brexit. A yw eisiau gweld Llywodraeth y DU o dan ei blaid ef yn mynd i Frwsel i geisio negodi cytundeb newydd fel y gallant ddod yn ôl i'r wlad hon ac ymgyrchu yn ei herbyn mewn refferendwm? Ac a yw'n cytuno â'r ddwy lythyren a ddefnyddiodd ei gydweithiwr, yr Ysgrifennydd Iechyd, i ddisgrifio'r polisi hwnnw—BS?

Dywed yn ei ddatganiad fod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar feio'r UE, ond bydd llawer o bobl sy'n gwrando ar ein dadleuon yn gweld Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar feio Llywodraeth y DU. Pan fydd anghydfod, pryd bynnag y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwrthod cyfaddawdu ac yn ystyfnigo, gellir cyfrif ar Lywodraeth bresennol Cymru i ochri â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn erbyn Llywodraeth y DU. Soniodd yr Aelod blaenorol am fygythiad i'r undeb. Onid yw'n fygythiad i'r undeb fod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn gwrthod gweithredu dros bobl Cymru sydd eisiau aros yn y DU ond gadael yr Undeb Ewropeaidd? Dywedodd eich rhagflaenydd, y Cwnsler Cyffredinol ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.

Pryd newidiodd y polisi hwnnw?

Rydych chi'n sôn am dalu ein dyledion. Onid ydych chi'n ymwybodol bod ein cytundeb â'r Undeb Ewropeaidd yn darparu ar gyfer dull ymadael? Rydym ni'n rhoi dwy flynedd o rybudd. Am y ddwy flynedd hynny, mae'n rhaid inni barhau i dalu popeth y byddem ni wedi ei wneud fel aelod. Ar ôl hynny nid oes ymrwymiad cyfreithiol rhyngwladol, parhaus. Nid ydym ni wedi'n contractio i dalu. Nid oes dyled. Dywedodd hyd yn oed y Pwyllgor Dethol ar yr Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ'r Arglwyddi—sydd ymhell o fod yn noddfa o benboethiaid dros adael—nad oes rhwymedigaeth ariannol barhaus os byddwn yn gadael ar ddiwedd proses erthygl 50. Yr unig faes lle gallai hynny fod yn wahanol yw ar gyfer Banc Buddsoddi Ewrop, oherwydd ei fod wedi'i gyfansoddi ar wahân â'i gyfalaf ei hun. A phe baem yn mynd i'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, pam ein bod ni'n cael yn ôl dim ond £3.5 biliwn o'r cyfalaf a roesom ni yn y lle cyntaf, nid ein cyfran ni o £7.5 biliwn ychwanegol o'r cronfeydd cronedig? Mae'n siŵr y gwnaiff gefnogi'r Undeb Ewropeaidd yn hynny o beth hefyd.

A gaf i ofyn am y sefyllfa gyfreithiol? Oherwydd mae'n disgrifio llys y sesiwn, gan ddweud, sydd mewn gwirionedd yn uwchlys.

Ym mha ystyr y mae'n uwchlys? Mae mewn awdurdodaeth wahanol. Mae hefyd yn gwrando ar achosion yn y lle cyntaf mewn adolygiad barnwrol yn yr un modd ag y mae'r Uchel Lys yn Llundain yn ei wneud, neu yn wir, pan fo'n eistedd yng Nghaerdydd. Mae mewn awdurdodaeth wahanol. Pam mae'n uwchlys yn fwy nag y mae wythfed dosbarth o apeliadau ffederal yng Nghaliffornia efallai'n uwchlys? Nid yw; mae mewn awdurdodaeth wahanol. Onid yw hi'n wir mai dim ond darbwyllo y gall ei ddyfarniadau eu gwneud ar y gorau? Nid ydynt yn gyfrwymol yn ein hawdurdodaeth yng Nghymru a Lloegr. A, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n cwyno na all y DU ddibynnu ar y Prif Weinidog i ddilyn cyfraith y DU. Oni all pobl Cymru ddibynnu ar eu Prif Weinidog a'u Cwnsler Cyffredinol i ddilyn cyfraith Cymru a Lloegr?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:26, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Iawn. I ddyn a gafodd addysg mor ddrud, yn sicr nid yw wedi dysgu gwneud ei waith cartref. Y pwynt olaf hwnnw: Mae'n ffaith bod Llys y Sesiwn yn uwchlys, ac nid yw'n gwrando ar yr adolygiad barnwrol hwn fel achos cyntaf, a byddwn wedi meddwl y byddai wedi gwybod hynny.

Mae'n honni ei fod yn gwybod beth yw barn y gymuned fusnes fel petai hynny'n unfrydol a bod ganddo ryw ddirnadaeth uniongyrchol ohono. Gwyddom o'n cyswllt â phobl ledled Cymru, busnesau ledled Cymru, mor ofnus ydyn nhw o'r graddau o ansicrwydd y mae Brexit a'r posibilrwydd y bydd Brexit 'dim cytundeb' yn eu hachosi. Dyna pam rydym ni wedi canolbwyntio cymaint ar roi'r holl gymorth y gallwn ni.

Rwy'n credu ei bod yn gwbl ddi-hid iddo siarad am y DU yn peidio â thalu'r symiau sydd yn ddyledus i'r Undeb Ewropeaidd. Hyd yn oed ar ei farn ef am y byd—nad wyf yn ei rannu mewn unrhyw fodd—does bosib nad yw hi'n wir bod yn rhaid i unrhyw lywodraeth sy'n ceisio negodi cytundebau rhyngwladol a rhwymedigaethau rhyngwladol â phartneriaid eraill allu cyfeirio at ei didwylledd a'i gonestrwydd a'i huniondeb pan ddaw'n fater o dalu symiau y mae eisoes wedi cytuno i'w talu. Ac rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn peryglu'r enw da hwnnw'n sylweddol os yw'n ceisio osgoi'r taliadau hynny.

Mae'n holi am ein polisi. Gadewch imi fod yn gwbl glir: ni allem ni fod yn fwy pendant ym Mhlaid Lafur Cymru mai ein safbwynt ni yw y dylai pobl gael cyfle i ddweud eu dweud ac y byddwn yn ymgyrchu dros aros. Gobeithio y gallwn ni argyhoeddi ein cyd-Aelodau yn y Senedd i ymrwymo i aros yn yr holl amgylchiadau hynny, ond gadewch inni fod yn gwbl glir mai dyna yw ein hymrwymiad. Rydym ni wedi gwneud hynny dro ar ôl tro yn y Siambr. Mewn gwirionedd, y sefyllfa yw, yn 2016, gwnaed cyfres o addewidion i bobl sydd wedi syrthio'n ddarnau. Ac er ei fod yn sôn am barchu canlyniad y refferendwm, mae'n hen bryd i bobl ddechrau parchu'r addewidion a wnaed i bobl yn 2016.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:28, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Ac yn olaf, yn fyr iawn, Jenny Rathbone.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Beth wnaethoch chi ymgyrchu drosto yn 2016?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:29, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gelwais ar Jenny Rathbone. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae un o'r cynlluniau wrth gefn a grybwyllir yn natganiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ymwneud â'r amhariad posib ar gemegau a ddefnyddir yn y diwydiant dŵr. Tybed a allech chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ar hyn a pha drafodaethau gyda Dŵr Cymru. A allech chi ymhelaethu ar beth yw'r cemegau hyn a pham na ellir eu pentyrru, neu a ellir eu pentyrru am ddim ond cyfnod penodol o amser? A faint o amser y byddai'n ei gymryd i'r hyn a fewnforir ar hyn o bryd o rannau eraill o Ewrop gael ei weithgynhyrchu yng Nghymru? Dyna fy nghwestiwn cyntaf.

Mae'r ail gwestiwn sydd gennyf yn un am y diwydiant bwyd. Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi dweud bod archfarchnadoedd wedi rhoi sicrwydd y byddant yn cyflenwi hyd yn oed y rhannau mwyaf anghysbell o Gymru, gan sicrhau bwyd i bobl, ond dim ond meddwl oeddwn i tybed pa gyngor a roddwyd i ysgolion ac i gymunedau ynghylch tyfu llysiau'r gaeaf fel na fydd yn rhaid i ysgolion ddibynnu ar lysiau tun a llysiau wedi'u rhewi yn lle llysiau ffres.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:30, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch iddi am y cwestiwn yna. O ran y mater o gemegau trin dŵr—rwy'n credu ei bod hi'n holi ynghylch hynny—bu trafodaethau uwch gyda'r cwmnïau dŵr a chyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny fel bod cynlluniau wrth gefn ar waith mewn cysylltiad â'r rhai sydd wedi'u profi. 

Mae hi'n gywir, os caf ddweud, i dynnu sylw at bwysigrwydd cyflenwi bwyd a'r bwyd sydd ar gael yn gyffredinol. Rydym ni wedi bod yn glir wrth ganolbwyntio ar hynny yn rhan o'n cynlluniau a gwneud yn sicr bod gennym ni ymrwymiadau gan archfarchnadoedd a dosbarthwyr er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru a phob rhan o'r DU, mewn gwirionedd, yn cael eu trin yn deg o ran dosbarthu bwyd. Rydym ni mewn cysylltiad rheolaidd ag awdurdodau addysg lleol ac, yn wir, ag ysgolion yn uniongyrchol ynghylch cynllunio o ran cyflenwi bwyd. Mae'n gwneud pwynt pwysig, rwy'n credu, sy'n gysylltiedig â Brexit ond sydd â dylanwad ehangach, onid oes, o ran gallu ysgolion a chymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gynnyrch ffres a dyfir yn lleol mewn unrhyw amgylchiadau? Ond gallaf dawelu ei meddwl o safbwynt sicrhau dosbarthiad teg a sicrhau y bydd bwyd ar gael i'n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn canolbwyntio ar hynny fel blaenoriaeth.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:31, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.