2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 25 Medi 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, ydych chi'n hapus efo ansawdd y wybodaeth sydd gennych chi am weithlu y gwasanaeth iechyd?
Nid wyf yn credu bod y data cyfredol sydd gennym ar y gweithlu yn caniatáu i ni gael y ffordd fwyaf cadarn o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ei ystyried. Yn wir, cefais drafodaeth ar yr union bwynt hwn yn gynharach yr wythnos hon.
Diolch am hynny. Fel rydych chi'n gwybod, yn adroddiad diweddar y pwyllgor iechyd ar nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, bu inni dderbyn tystiolaeth a oedd yn darogan—a dwi'n dyfynnu: er yn cydnabod cyfraniad allweddol ein nyrsys cymunedol a'n nyrsys ardal i ddarparu gofal iechyd i'r dyfodol, ni wyddys ryw lawer am y gwasanaeth anweledig yma—'invisible service', fel y'i gelwid. Nid oes darlun manwl gywir ar lefel genedlaethol o'r nifer na chymysgedd sgiliau y timau nyrsio nac o nifer a lefel salwch y cleifion sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Yn naturiol, bydd hyn yn cael effaith ar effeithlonrwydd cynllunio’r gweithlu.
Nawr, dyna beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud. Yn ogystal, cawsom dystiolaeth uniongyrchol o nyrsys yn y gymuned yn gorweithio, o dan straen, mewn system yn gorymestyn eu hunain i ateb y galw, tra roedd penaethiaid byrddau iechyd yn darogan darlun llawer gwahanol o wasanaeth yn cyflawni disgwyliadau. Nid oes data cyflawn ychwaith ar nifer y ffisiotherapyddion na therapyddion galwedigaethol a gyflogir yn y gymuned hefyd. Felly, sut allwch chi gynllunio i symud mwy o ofal iechyd i'r gymuned yn y dyfodol pan nad ydych yn gwybod y nifer na chymhwysedd sgiliau y staff iechyd sydd yn gweithio yna ar hyn o bryd?
Wel, ni fuaswn yn dweud ei fod yn ddarn gwag o bapur ac nid ydym yn gwybod unrhyw beth am y gweithlu presennol nac yn wir am natur y galw ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod yn gwybod, o ran ein hagenda ar gyfer symud mwy o ofal yn nes at y cartref, ei fod yn golygu parhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae'n cynnwys y modelau gofal newydd sy'n cael eu treialu o fewn y gronfa trawsnewid ac oddi allan iddi hefyd. Nid tystiolaeth anecdotaidd yn unig am rannau penodol o'r wlad yw honno, mae'n rhan o'r gwaith o ddiwygio'r system gyfan. Rydym yn fwriadol wedi dewis llwybr lle mai dim ond y prosiectau sydd â'r gallu i ehangu fydd yn cael eu cefnogi drwy'r gronfa trawsnewid. Felly, wrth gwrs, bydd y dystiolaeth a gawn o'n cynlluniau clwstwr hefyd—lle bydd yn rhaid iddynt gynllunio ar lefel clwstwr—yn llywio ein proses gynllunio tymor canolig a'r byrddau iechyd, yn ogystal â strategaeth y gweithlu sy'n cael ei datblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Felly, mae gennych ystod o wahanol ffynonellau o wybodaeth ar yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, a'r hyn y mae angen i ni wneud mwy ohono yn y dyfodol.
Ond o'i gyfnod yn y lle hwn, a'i yrfa cyn iddo gael ei ethol nad yw'n sôn amdani'n rheolaidd, gyrfa y mae'n parhau i'w dilyn ar adegau hefyd, bydd yr Aelod yn gwybod nad yw hwn byth yn bwynt statig mewn amser. Ac mae ein gallu i ddiwygio mor gyflym ag yr hoffem yn y lle hwn yn aml yn disgyn yn fyr o'r nod wrth ddod wyneb yn wyneb â realiti. Ond rwy'n credu bod yr agenda a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach' yn un y mae gennym ymrwymiad iddi ar draws y bwrdd, a byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau buddsoddi i gefnogi hynny.
Mae'r un math o bwysau gwaith a bylchau mewn rotas, stres a blinder affwysol sydd yn deillio o orweithio achos prinder staff hefyd yn effeithio ar feddygon yn ein hysbytai—blinder affwysol, cyfrifoldeb dychrynllyd dros fywyd a marwolaeth, dim amseroedd gorffwys, dwyster gwaith heb seibiant, peryglon gyrru car wedi gorffen sifftiau ganol nos, a'r teimlad o ddiffyg cefnogaeth, a diffyg cydnabyddiaeth o'r ymrwymiad anferthol i'w cleifion, a'r teimlad hefyd fod gweinyddwyr ysbytai yn ddi-hid i hyn oll ac yn ansensitif weithiau. Felly, beth ydych chi, Weinidog, yn ei wneud i hyrwyddo llesiant ein meddygon yn ein hysbytai?
Rydym yn mabwysiadu dull eang o weithredu. Ar un llaw, pan edrychwch ar y nod pedwarplyg, mae staff yn un o'r pedair colofn yn y nod pedwarplyg hwnnw. Yn benodol, o ran ochr feddygol y gweithlu, rydym eisoes wedi ymgysylltu â Chymdeithas Feddygol Prydain ar y siarter blinder. Siaradais â’r gymdeithas yn yr wythnosau diwethaf—ac mae’r gwaith hwnnw’n parhau—i geisio sicrhau ein bod yn ymdrin â rhai o’r pwyntiau y mae’r Aelod yn eu codi ynghylch y pwysau anhygoel a’r ymrwymiad y mae ein gweithlu meddygol yn eu hwynebu. Ac oherwydd yr ymrwymiad hwnnw, nid yn unig gan ein gweithlu meddygol, ond gan y gweithlu ehangach, y mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gofal eang a thosturiol o ansawdd. Ond nid ydym yn ei gymryd yn ganiataol. Dyna pam y cawsom y trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, a byddwn yn cael y trafodaethau hynny gyda chynrychiolwyr eraill y gweithlu hefyd, oherwydd nid wyf am esgus fod popeth yn berffaith iawn. Gyda'r galwadau ychwanegol a welwn yn wynebu ein system, lle y ceir yr holl broblemau eraill y tu allan i'r gwasanaethau iechyd sy’n ysgogi’r galw ac yn effeithio ar ein gweithlu, yr her i ni yw sut y parhawn i wneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i sicrhau ein bod yn gyflogwr da, a'n bod yn ystyried lles y staff yn briodol ar bob lefel.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, mai Arolygiaeth Gofal Cymru sydd â'r rôl allweddol ar gyfer archwilio a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Nawr, yn ôl adroddiad blynyddol y prif arolygydd ar gyfer 2018-19, cynhaliwyd 2,499 o arolygiadau. Mae hynny 456 yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Roedd llai o wasanaethau wedi'u rheoleiddio hefyd. Nawr, daw'r dirywiad hwn yn y gweithgaredd rheoleiddio ac arolygu er bod costau staff wedi cynyddu bron i £150,000, a chanran y gyllideb ar gyfer gweithgaredd arolygu a rheoleiddio wedi cynyddu. Felly, sut ydych chi, Ddirprwy Weinidog, yn cyfiawnhau'r cynnydd yn y costau staffio, er y bu cwymp sylweddol yn nifer yr arolygiadau mewn gwirionedd, a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i wrthdroi'r dirywiad?
Wel, yn amlwg, mae'r gwaith y mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Mae'n gofalu am y safonau sydd yn ein cartrefi gofal yn benodol, ac mae'n hollbwysig fod yr holl arolygiadau a gynhelir ganddynt yn cael eu gwneud yn ddigon manwl, ac yn cael eu gwneud mewn ffordd ystyriol iawn. Ac rwy'n credu eu bod yn cynnal arolygiadau ystyriol iawn, ac mae gennyf bob hyder ynddynt.
Wel, Ddirprwy Weinidog, diolch am yr ymateb hwnnw, ond rhaid i mi ddweud wrthych yma nawr nad wyf yn rhannu eich hyder ynddynt ar hyn o bryd. Yn ôl blaenoriaeth strategol 2, yng nghynllun strategol Arolygiaeth Gofal Cymru 2017-20, mae'r sefydliad yn ymdrechu i fod yn lle gwych i weithio ynddo. Fodd bynnag, ceir honiadau difrifol o fwlio ac aflonyddu o fewn y sefydliad, a phwysau dwys ar yr arolygwyr eu hunain. Mewn gwirionedd, gwn am arolygydd a fynegodd bryderon, gan sbarduno’r hyn a alwyd yn ymchwiliad. A dyma sut yr ymatebodd yr uwch-reolwr a oedd yng ngofal yr ymchwiliad:
Daethpwyd i'r casgliad, gan fod eich cwyn wedi canolbwyntio ar fethiant y berthynas rhwng eich rheolwr llinell a'ch uwch-reolwr, a chan i chi benderfynu ymddiswyddo o'ch swydd fel arolygydd oedolion yn Arolygiaeth Gofal Cymru, na fydd y cysylltiadau proffesiynol hyn yn bodoli mwyach, gan nad ydych bellach yn gyflogai i Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru— felly gallwch weld y sylw agos iawn yno, am Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru— gan hynny, daethpwyd i’r casgliad nad yw parhau â’r ymchwiliad hwn yn ateb unrhyw bwrpas defnyddiol.
Mae'n frawychus felly mai’r rheswm dros derfynu’r ymchwiliad oedd oherwydd bod yr unigolyn dan sylw wedi ymddiswyddo o Arolygiaeth Gofal Cymru. Ac yn dechnegol, gan eu bod hwy eu hunain—yr uwch-reolwr—wedi dweud 'Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru', mae’r cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru yn rhywle. Felly gofynnaf i chi, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymchwiliad annibynnol i driniaeth staff, y pwysau dwys sy'n faich arnynt, a hefyd sut y maent yn mynd ati i gynnal ymchwiliadau pan fydd rhywun wedi bod yn chwythwr chwiban mewn gwirionedd, ac wedi tynnu eu sylw at bryderon ynghylch diffyg gweithdrefn gywir ar gyfer cynnal arolygiadau mewn cartref gofal?
Gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda phennaeth Arolygiaeth Gofal Cymru, pan fyddwn yn trafod pob agwedd ar waith yr arolygiaeth. Yn amlwg, mae'r swydd y mae staff yr arolygiaeth yn ei chyflawni yn swydd anodd iawn, oherwydd eu bod yn edrych ar sut y mae ein hoedolion mwyaf agored i niwed yn cael gofal. Ac maent yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch unrhyw dystiolaeth o ofal gwael a welant. A gallaf sicrhau'r Aelod, mewn sefyllfaoedd lle bu’n rhaid iddynt ymyrryd—rwy'n derbyn yn llwyr eu bod yn sefyllfaoedd llawn straen—maent yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â’r gwaith, rhoddir ystyriaeth ddifrifol iawn i achosion o chwythu'r chwiban, a gallaf eich sicrhau bod perthynas dda rhwng Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru, ond eu bod yn gweithredu'n annibynnol.
Diolch unwaith eto, Ddirprwy Weinidog, ond rydym hefyd yn gwybod bod rhai erthyglau wedi'u dogfennu ar raglen Y Byd ar Bedwar ynglŷn â’u pryderon—Arolygiaeth Gofal Cymru—ac am eu gallu i gynnal arolygiadau trwyadl sy'n amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn y sefyllfaoedd hynny.
Nawr, yn olaf, mae gennyf reswm i gredu, o ffynhonnell ddibynadwy, fod yr anawsterau mewnol hyn yn effeithio'n negyddol ar ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd. Er enghraifft, er bod pryderon am ddarparwyr yn ymddangos ar y radar o fewn y sefydliad, ac er gwaethaf y ffaith bod arolygwyr, yn ôl y sôn, yn tynnu sylw rheolwyr at hyn, clywais honiad fod rhai sefyllfaoedd yn cael eu hanwybyddu am wythnosau. Mewn gwirionedd, mynegwyd un pryder ynghylch sefydliad penodol—cymerodd chwe mis i'r sefydliad roi unrhyw gamau ar waith o gwbl—chwe mis—lle teimlwyd y gallai pobl agored i niwed fod wedi wynebu risg.
Ddirprwy Weinidog, yn sgil y ffaith bod pryderon mor ddifrifol am gorff rheoleiddio, a luniwyd i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, wedi cael eu dwyn i fy sylw yn y ffordd hon, fel Aelod etholedig o'r sefydliad hwn, hoffwn ofyn i chi gymryd y rhain—[Torri ar draws.] Wel, Senedd ydyw, rydych chi'n iawn. Felly, fel Aelod etholedig o'r Senedd hon, rwy'n gofyn i chi, Ddirprwy Weinidog: os gwelwch yn dda, a wnewch chi ystyried adolygiad i waith sylfaenol Arolygiaeth Gofal Cymru? A wnewch chi edrych at y materion a godais ynglŷn â honiadau o fwlio staff, pwysau dwys? Ond yn bwysicach fyth, a wnewch chi edrych ar Arolygiaeth Gofal Cymru, gyda golwg ar edrych, yn annibynnol, i weld a yw'n gwneud yr hyn y bwriedir iddi ei wneud mewn gwirionedd—sef amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed? Diolch.
Hoffwn ofyn i'r Aelod, os oes ganddi unrhyw bryderon difrifol iawn am y ffordd y mae unrhyw bobl agored i niwed yn cael eu trin, y dylai ysgrifennu ataf am y sefyllfaoedd unigol hynny. Ac nid yw'n bosibl ymateb i 'ffynhonnell ddibynadwy'—nid yw'n bosibl ymateb i'r mathau hynny o ddigwyddiadau. Ac os oes gennych bryderon difrifol, a wnewch chi'n ysgrifennu ataf os gwelwch yn dda?
Llefarydd Plaid Brexit, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae adeiladau ein GIG mewn cyflwr gwael ac mae rhai ohonynt yn dadfeilio. Ceir ôl-groniad o waith gwerth £0.25 biliwn y bernir ei fod yn achosi risg uchel neu sylweddol. Nid yw 13 y cant o'r ystâd yn cydymffurfio â mesurau diogelwch. O adeiladau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, dim ond ychydig dros draean ohonynt a ystyrir yn addas yn ymarferol. Weinidog, rydych wedi ymrwymo tua £370 miliwn tuag at brosiectau cyfalaf iechyd eleni—faint ohono a gaiff ei wario ar sicrhau bod adeiladau'r GIG yn ddiogel i gleifion a staff?
Mae'r talp sylweddol o gyfalaf y GIG, fel y gŵyr yr Aelod, wedi'i wario ar greu a chwblhau Ysbyty Athrofaol Grange, sy'n cael ei wneud o fewn yr amser ac o fewn y gyllideb. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi ystod o ddatganiadau eraill sy'n nodi, er enghraifft, ein rhaglen gyfalaf ym maes gofal sylfaenol. Ac mae gan sefydliadau'r GIG gyfalaf yn ôl disgresiwn i geisio cyflawni'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw. Felly, rwy'n cydnabod yr heriau sy'n bodoli, ond mae hyn yn rhan o'r hyn y mae angen i fyrddau iechyd eu hunain fynd i'r afael ag ef o fewn eu dyraniadau.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ceir gwerth £0.5 biliwn o leiaf o ôl-groniad o waith cynnal a chadw adeiladau. Rwy'n dweud 'o leiaf' oherwydd nad yw'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd lleol hyd yn oed yn gallu fforddio gwneud yr asesiadau sy'n angenrheidiol i bennu graddau'r problemau cynnal a chadw—problemau cynnal a chadw sy'n effeithio ar ofal cleifion. Clywodd BBC Cymru gan staff Ysbyty Athrofaol Cymru a ddywedodd fod yna risgiau o ran heintiau oherwydd bod yn rhaid cludo gwastraff ysbytai mewn lifftiau i gleifion. Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i asesu'r risgiau i ddiogelwch cleifion oherwydd gwaith cynnal a chadw gwael, a beth fyddwch chi'n ei wneud yn y blynyddoedd i ddod i ddileu'r ôl-groniad o waith atgyweirio sydd wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn?
Wel, crybwyllodd yr Aelod y ffigur o £370 miliwn sydd ar gael ac o hwnnw, mae £80 miliwn ar gael i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wneud yn union y math hwn o waith cynnal a chadw. Mae o fewn eu dyraniad cyfalaf yn ôl disgresiwn. Ac mae deall yr ystâd sydd ganddynt a deall y risgiau sydd ganddynt yn iawn yn rhan o waith byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd. Mae'n wir, fodd bynnag, lle bu problemau uniongyrchol, er enghraifft y to a gwympodd yn ddirybudd mewn cyfleuster yn Wrecsam o fewn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ychwanegol i wneud yn siŵr fod cyfleusterau eraill ar gael tra bod y bwrdd iechyd yn cynllunio i adeiladu cyfleuster newydd priodol, gan effeithio'n sylweddol ar gapasiti endosgopi ar y safle. Felly, mae'r Llywodraeth yn cynorthwyo byrddau iechyd pan allwn a phan ddylem wneud hynny, ond mae hyn yn rhan o'r gwaith y mae'n rhaid iddynt ei wneud o ran rheoli a rhedeg ystâd y gwasanaeth iechyd gwladol yn briodol.