– Senedd Cymru am 2:48 pm ar 5 Tachwedd 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Dwi'n galw'r Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Diolch, Llywydd. Roedd cyhoeddi adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ar 24 Hydref yn drobwynt pwysig iawn. Rwyf am ddechrau, felly, drwy dalu teyrnged i fy rhagflaenydd fel Prif Weinidog, a fu'n gyfrifol am sefydlu'r comisiwn yn y lle cyntaf. Rwyf hefyd am ddiolch i'r Arglwydd Thomas a phob aelod o'r comisiwn.
Roeddem ni'n gwybod o'r dechrau ein bod ni'n apwyntio panel o bobl uchel eu parch, pobl o gefndir amrywiol a phobl o feddylfryd annibynnol, ond doeddwn i ddim yn gwybod pa mor eang fyddai'r dasg a dderbyniwyd ganddynt. Yn syml, dyma'r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr erioed o'r system gyfiawnder yng Nghymru. Mae'n haeddu ystyriaeth fanwl a gofalus gan bob Aelod o'r Cynulliad.
Llywydd, yn wir mae hwn yn adroddiad nodedig iawn. Mae'n rhoi nid yn unig 78 o argymhellion penodol inni, ond mae'n drysor gwirioneddol o dystiolaeth a chyngor, sy'n rhoi ystyriaeth i lawer iawn o dystiolaeth a gafwyd ar lafar gan fwy na 200 o bobl a sefydliadau, a niferoedd tebyg yn ysgrifenedig. Mae'n taflu goleuni ar bob agwedd ar ein system cyfiawnder.
Nawr, mae adroddiad o'r maint hwn yn haeddu ystyriaeth lawnach o lawer nag y gellir ei roi heddiw. Ond gadewch imi ddechrau drwy nodi, yn fy marn i, gasgliad mwyaf trawiadol yr adroddiad, a hefyd drwy sôn rhywfaint am ein dull ni o ymateb iddo.
Y canfyddiad mwyaf trawiadol, mae'n ymddangos i mi, ym mharagraff cyntaf un yr adroddiad, yw bod pobl Cymru yn cael eu siomi gan y system gyfiawnder. Dyna yw casgliad diamwys y comisiwn. Ac rwy'n credu na ddylem danbrisio arwyddocâd y canfyddiad hwnnw. Mae system gyfiawnder sy'n deg, yn effeithiol ac yn hygyrch yn un o gonglfeini rhyddid a democratiaeth. Nid yw hyn, neu ni ddylai hyn fod, yn rhywbeth y gellir ei negodi. Rhaid inni beidio â chaniatáu ein hunain i ymgyfarwyddo â methiannau annatod, heb sôn am eu derbyn nhw, er mwyn bodloni'r safonau hynny.
Llywydd, gadewch imi sôn am rai materion penodol yn yr adroddiad. Nid yw cyfiawnder ar gael, meddai, fel y dylai fod. Mewn sawl ardal yng Nghymru, fel yr awgrymodd y cwestiwn gan Joyce Watson yn gynharach y prynhawn yma, mae pobl yn wynebu teithiau hir ac anodd i'w llys agosaf. Ceir risg ddifrifol, medd yr adroddiad, i gynaliadwyedd ymarfer y gyfraith, yn enwedig o ran gwasanaethau cyfreithiol traddodiadol ar y stryd fawr. Ac mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan fo gan Gymru, fel y dywed yr adroddiad, un o'r poblogaethau mwyaf o garcharorion fesul pen yng ngorllewin Ewrop, er mai'r dystiolaeth yw bod dedfrydau cymunedol cadarn yn cyflawni gwell canlyniadau mewn cymaint o achosion. Yn y cyfamser, mae nifer yr erlyniadau yn gostwng. Nid oes gennym gyfleusterau ar gyfer menywod sy'n troseddu ac mae gormod o fylchau yn y ddarpariaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Llywydd, natur gronnol y casgliadau sy'n eu gwneud nhw'n fwy grymus byth.
Nawr, ni ellir goresgyn yr her hon heb newid i swyddogaethau penodol San Steffan a'r sefydliadau datganoledig, a hefyd mewn ymarfer proffesiynol yn y gwahanol agweddau niferus ar y system gyfiawnder. Mewn un canfyddiad allweddol, mae'r comisiwn yn dweud wrthym:
Ni allwn weld sut mae modd gwneud y newidiadau sydd eu hangen mewn ffordd sy'n darparu ateb hirdymor ymarferol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru, heb ddatganoli'n sylweddol swyddogaethau cyfiawnder. Fel y dywed yr adroddiad, nid ynys yw cyfiawnder, ac mae'n rhaid i'r penderfyniadau ynghylch sut y dylai'r system weithredu gyd-fynd â blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd eraill. Ac fel y dywed yr awduron, mae angen sicrhau atebolrwydd clir a democrataidd o ran y ffordd y mae'r system yn gweithredu yng Nghymru. Mae'r canfyddiad canolog hwn yn gyson â safbwynt hirsefydlog Llywodraeth Cymru, a gadarnhawyd yn fwyaf diweddar yn ein papur ni, 'Diwygio'r Undeb ', a gyhoeddwyd fis diwethaf.
Nawr, yn y gorffennol, Llywydd, rydym wedi dadlau hyn yn aml o safbwynt cyfansoddiadol—sef y dylai cenedl sy'n pennu ac yn gweithredu ei chyfreithiau ei hun eu plismona nhw hefyd, yn ystyr ehangaf y gair hwnnw. Ond yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud wrthym yw bod heriau ymarferol gwirioneddol yn deillio o rannu cyfrifoldebau rhwng San Steffan a Chymru. Sut, felly, y dylid gweithredu argymhellion yr adroddiad a'i gynigion niferus eraill? Wel, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, o fewn llai nag wythnos ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, bu galwad am etholiad cyffredinol. Mae hyn yn golygu y bydd bwlch anorfod yn ein gallu ni i ddechrau trafod â Llywodraeth y DU, ond bydd angen i'r drafodaeth honno ddechrau cyn gynted ag y gwelwn ni Lywodraeth mewn grym unwaith eto.
Yn y cyfamser, nid yw hynny'n ein rhwystro ni, wrth gwrs, rhag canolbwyntio ar yr agweddau hynny o'r adroddiad sy'n eiddo i lawer o weithredwyr cyfiawnder yma yng Nghymru. Rhof un enghraifft yn unig, Llywydd: mae'r adroddiad yn herio ysgolion gwych y gyfraith yng Nghymru i weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd i gydnabod safle cyfraith Cymru mewn addysg gyfreithiol a sicrhau bod deunyddiau addysgu ar gael yn y ddwy iaith. Ac mae'r adroddiad, wrth gwrs, hefyd yn ystyried hanes cysylltiad Llywodraeth Cymru, yn ystod cyfnod llawn datganoli, â materion cyfiawnder troseddol, ac yn gwneud cynigion ar gyfer y dyfodol.
Yn wir, un peth y bydd llawer o ddarllenwyr yn synnu ato, rwy'n credu, yw'r amcangyfrif bod 38 y cant o'r holl wariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn dod eisoes oddi wrth Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, a hynny er gwaethaf ein swyddogaeth gyfyngedig iawn o ran llunio polisi a sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario'n fuddiol ac mewn ffordd sy'n gyson â'n blaenoriaethau ni.
Felly, mae'r comisiwn yn eglur bod angen gwneud llawer mwy. Ac yn yr achosion lle bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflawni rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad, byddwn nawr yn ystyried eu rhoi nhw ar waith. A'r prynhawn yma, rwyf eisiau rhoi tair enghraifft gryno o'r ffordd y byddwn ni'n mynd ati i wneud y gwaith pwysig hwnnw.
Mae'r comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu prentisiaethau cyfreithiol sydd wedi cael eu hariannu'n llawn fel llwybr newydd i mewn i'r proffesiwn, llwybr a all helpu pobl a fyddai o bosib yn dewis ymarfer mewn rhannau o'r wlad lle nad oes digon o ymarferwyr i'w cael erbyn hyn. Byddwn yn gweithio nawr gyda'r proffesiynau i ystyried y ffordd orau o gyflawni hyn, gan adeiladu ar y dewisiadau o brentisiaethau uwch sydd gennym eisoes ym meysydd profiant a thrawsgludo yma yng Nghymru.
Yn ail, mae'r comisiwn yn galw hefyd am greu Cyngor y Gyfraith i Gymru i hyrwyddo buddiannau addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru. Nid yw hynny'n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun, ond byddwn yn cymryd y cam cyntaf i gefnogi sefydlu hyn a chael y Cyngor i gychwyn ar ei waith pwysig.
Mewn ymateb uniongyrchol i alwad y comisiwn am fuddsoddi mewn datblygiadau technolegol, efallai y bydd yr Aelodau wedi gweld bod cyllid o £4 miliwn wedi cael ei roi tuag at labordy arloesi cyfreithiol newydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn olaf, Llywydd, mewn ymateb i alwad y comisiwn am gryfhau'r arweinyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru ar faterion cyfiawnder, rwyf wedi penderfynu sefydlu pwyllgor cyfiawnder newydd yn y Cabinet, ac mae hwnnw'n bwyllgor Cabinet y byddaf i'n ei gadeirio. Bydd y pwyllgor hwn yn gyfrifol am fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn, y rhai sy'n dod i ran Llywodraeth Cymru, a goruchwylio'r trafodaethau gyda'r Llywodraeth newydd ar lefel y DU.
Llywydd, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, bydd yr adroddiad yn gofyn am drafodaeth lawnach a thrafodaeth ehangach nag y gallwn ni ei rhoi'r prynhawn yma. Ond mae'n briodol y bydd y Cynulliad yn awyddus i wybod am y cynnydd sy'n cael ei wneud. Felly gallaf roi sicrwydd y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth, fel cam cyntaf, yn cyflwyno dadl ar yr adroddiad yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser, gadewch imi ddiolch unwaith eto i'r comisiwn am ei holl waith ac am ffrwyth y gwaith hwnnw, sef yr adroddiad pwysig hwn yr wyf i'n falch o'i groesawu yn y fan hon y prynhawn yma.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fe hoffwn i ychwanegu hefyd fy niolch innau i'r comisiynwyr ac i'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, a fu ar gael i Aelodau'r Cynulliad wrth lunio'r adroddiad hwn.
Er i rai dadleuon clodwiw iawn fodoli ynglŷn â datganoli cyfiawnder i Gymru, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn parhau i fod heb ein hargyhoeddi mai datganoli yw'r ffordd briodol ymlaen. Eto i gyd, nid yw hynny'n golygu nad oes llawer iawn o deilyngdod yn perthyn i rai o'r canfyddiadau yn adroddiad y comisiwn. Mae Pennod 10 yr adroddiad yn ystyried gwybodaeth, sgiliau ac arloesedd, ac yn galw am greu cynllun gweithredu i gefnogi a hyrwyddo addysg gyfreithiol i'r cyhoedd, yn enwedig i blant a phobl ifanc, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu'n fawr iawn.
Nawr, mae datganiad heddiw yn cydnabod, yn gywir, wrth i Lywodraeth Cymru ystyried datganoli cyfiawnder i'r dyfodol, y ceir mwy o ganolbwyntio ar y sector cyfreithiol yng Nghymru ac y caiff sylfaen wybodaeth y wlad ei ehangu. Felly, efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd yn y maes arbennig hwn i helpu i wella hyrwyddo ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau yn y diwydiant cyfreithiol yng Nghymru.
Rwy'n croesawu'n gynnes y newyddion bod £4 miliwn o gyllid ar gael i Brifysgol Abertawe ar gyfer ei labordy arloesi cyfreithiol. Serch hynny, fel y noda'r datganiad heddiw, rhoddir mwy o her i ysgolion y gyfraith yng Nghymru gydweithio'n effeithiol. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym a fydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth benodol ar lefel addysg uwch i ddatblygu rhaglenni astudiaethau cyfreithiol Cymru ym mhob rhan o'r wlad?
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod cymhlethdodau mewn rhai meysydd rhwng y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae adroddiad y comisiwn yn egluro bod cyfiawnder teuluol yn faes sy'n peri anhawster rhwng cyfrifoldebau'r ddwy Lywodraeth. Mae'r adroddiad yn gywir i gydnabod pwysigrwydd camau ataliol, ac mae hyn yn rhywbeth y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio mwy arno. Felly, yn ei ymateb, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym am y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ar gyfiawnder teuluol.
Nawr, wrth ymateb i ymgynghoriad y comisiwn, nododd tystiolaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr, ac rwy'n dyfynnu:
Mae gennym ni system gyfreithiol fyd-enwog gyda barnwyr o'r radd flaenaf. Mae'r manteision hyn wedi datblygu dros gannoedd o flynyddoedd a byddant yn parhau am flynyddoedd i ddod, ni waeth beth fydd canlyniadau ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.
Diwedd y dyfyniad. Ac felly mae'n codi'r cwestiwn y gallai'r manteision hyn gael eu colli mewn awdurdodaeth ar wahân. Felly, pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r rhai sydd o'r farn arbennig honno?
Cododd Cymdeithas y Cyfreithwyr hefyd fater ymarfer y gyfraith yng nghefn gwlad a'r angen i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â seilwaith. Fel y mae'r datganiad heddiw'n cydnabod, bydd yn gwbl hanfodol ymdrin â'r materion pwysig hyn o ran seilwaith i sicrhau bod y rheini sydd angen gwasanaethau cyfreithiol yn gallu cael gafael arnynt. Gyda lleihad yng ngwasanaethau'r stryd fawr, y mannau gwan ar gyfer band eang yn frith, a thrafnidiaeth gyhoeddus yn annibynadwy ac yn gostus yn aml, gallai hynny effeithio ar argaeledd cyfiawnder a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyfreithiol mewn ardaloedd gwledig. Felly, o ystyried daearyddiaeth Cymru, pa mor hyderus yw'r Prif Weinidog y gellid rheoli'r rhwystrau hyn ar y seilwaith fel bod y rheini sydd angen defnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol?
Wrth gwrs, mae daearyddiaeth Cymru'n golygu nad yw datganoli cyfiawnder troseddol yn hollol syml, ac fe geir rhai pryderon dealladwy ynglŷn â'r effaith y gallai datganoli cyfiawnder troseddol ei chael ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Nid yw'r alwad am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru yn cydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn ystyried ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol a bod tua 48 y cant o'r cyhoedd yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a—[Torri ar draws.] Ac mae 90 y cant o bobl—[Torri ar draws.] Ac mae 90 y cant o bobl—[Torri ar draws.] Ac mae 90 y cant o bobl yn byw o fewn 50 milltir i'r ffin. Mae hyn, wrth gwrs, yn cyferbynnu'n fawr â'r ffaith mai dim ond 5 y cant o boblogaeth gyfunol yr Alban sy'n byw o fewn 50 milltir i'r ffin. Felly, efallai—.
Hanner cant o daleithiau America.
Gadewch i arweinydd yr wrthblaid fwrw ymlaen â holi'r Prif Weinidog.
Felly, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud ychydig wrthym ni am yr effaith y gallai datganoli cyfiawnder troseddol ei chael ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a dweud wrthym pa drafodaethau sydd wedi bod eisoes ar y mater penodol hwn.
Nawr, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol hefyd o rai o'r pryderon dilys ynghylch y gallu sy'n angenrheidiol i gyflwyno system cyfiawnder troseddol effeithiol. Ar hyn o bryd, nid yw carchardai Cymru yn cynnig systemau integredig o driniaethau cyffuriau, a gwyddom ers y mis diwethaf yn unig nad yw Panel Cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau wedi cyfarfod yn y flwyddyn ddiwethaf. Yn wir, mae bron hanner y bobl a gafodd eu hatgyfeirio at i adsefydlu camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn cael eu triniaeth yn Lloegr, ac, er bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £50 miliwn i'r byrddau iechyd, mae canolfannau rhagorol ledled Cymru yn cau. Yn ogystal â chanolfannau positif ar gyfer adsefydlu, mae'n amlwg nad oes gan Gymru gyfleusterau addas ar gyfer ein carcharorion ni, fel y mae'r adroddiadau ar y newyddion heddiw yn ei gadarnhau. Felly, pa waith paratoi y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei wneud i sicrhau bod gan Gymru yr adnoddau a'r capasiti i ddarparu system cyfiawnder troseddol a all weithredu yn effeithiol mewn gwirionedd?
Llywydd, wrth i'r drafodaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch datganoli cyfiawnder troseddol barhau i dyfu, mae'n bwysicach nag erioed fod gan Gymru berthynas effeithiol â Gweinyddiaeth Gyfiawnder y Deyrnas Unedig. Felly, y dasg i Lywodraeth Cymru yw mynd ati i annog mwy o ymgysylltu i sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn adlewyrchu amgylchiadau ein gwlad. Efallai y gallai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hynny'n digwydd.
Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Er bod rhai pwyntiau ac argymhellion diddorol iawn wedi cael eu gwneud gan y comisiwn yn sicr, ni fydd yn syndod i'r Prif Weinidog nad ydym eto'n argyhoeddedig mai datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd yw'r ffordd briodol ymlaen i Gymru. Ond rwy'n edrych ymlaen at weld cyhoeddiadau pellach gan Lywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Paul Davies am ei gyfraniad? Fe ddechreuodd drwy gyfeirio at y modd y bu'r Arglwydd Thomas ar gael i Aelodau'r Cynulliad wrth baratoi'r adroddiad. Ni chefais i'r cyfle yn fy natganiad i ddweud hynny a thynnu sylw at y modd y mae'r comisiwn wedi mynd ati i wneud ei waith drwy siarad â chymaint o wahanol grwpiau, cymaint o wahanol ddiddordebau yng Nghymru, gan fod ar gael yn uniongyrchol yn y modd hwnnw. Ac mae canlyniad hynny i'w weld yn yr adroddiad ei hun.
Mae Paul Davies yn dweud nad yw ef wedi ei argyhoeddi o'r achos dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol. Tybed beth all ei argyhoeddi os nad yw'r adroddiad hwn yn gwneud hynny, oherwydd ni allwch gael achos sy'n fwy cymhellol na'r un yn yr adroddiad hwn. Rwyf i o'r farn, Llywydd, fod a wnelo diffyg argyhoeddiad y Blaid Geidwadol â'r ffaith na fydd y Blaid Geidwadol byth yn barod i gael ei hargyhoeddi o'r achos hwn oherwydd, yn syml, nid yw'n adlewyrchu'r ffordd y maen nhw'n ystyried datganoli.
Nawr, gadewch imi ddweud, wedi dweud hynny, roedd nifer o bwyntiau a wnaeth Paul Davies a oedd yn cynrychioli ymdrech gadarnhaol rwy'n credu i dynnu sylw at yr agweddau hynny ar yr adroddiad y mae ef yn cytuno â nhw. Rwy'n edrych ymlaen at allu parhau i'w trafod nhw gydag ef wrth i'r adroddiad fynd rhagddo.
Mae ef yn iawn, wrth gwrs—mae'r adroddiad yn sôn llawer am addysg gyfreithiol a chryn dipyn am gyflwr y proffesiwn cyfreithiol. Dyna pam y sefydlodd fy nghydweithiwr, y Cwnsler Cyffredinol, adolygiad cyflym o'r sefyllfa yma yng Nghymru yn ystod y cyfnod pan oedd Arglwydd Thomas yn eistedd, ar gyfer llywio'r adroddiad. Ceir tystiolaeth dda o hynny yn nhudalennau'r adroddiad, ac rydym wedi defnyddio'r hyn y mae'r proffesiwn wedi ei ddweud wrthym. Ac un o'r pethau y credaf fod yr adroddiad yn ei ddweud—. Ac rwy'n credu efallai nad oeddwn i'n cytuno'n hollol â'r hyn a ddywedodd Paul Davies. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir na all y proffesiwn na'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau bob amser. Mae ysgolion y gyfraith yng Nghymru yn cael eu staffio gan bobl ar lefel uchel iawn, sy'n fawr eu parch a chanddynt enw da iawn, ac nid oes angen inni wneud pethau drostyn nhw. O ran y pethau yn yr adroddiad sy'n gyfrifoldeb iddyn nhw, mae'r adroddiad yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw roi arweiniad. Mae'n rhaid i'r proffesiwn roi arweiniad wrth ymdrin â'r materion y mae'r adroddiad yn eu nodi fel rhai sy'n bwysig iddyn nhw. Byddwn yn dymuno bod yno gyda nhw, gan eu cefnogi nhw yn y gwaith hwnnw, ond nid yw'r adroddiad byth yn dweud, 'Bob tro mae 'na broblem, Llywodraeth Cymru sy'n gorfod dod o hyd i ateb.' Mae'n rhaid iddo fod yn llawer ehangach na hynny.
Hoffwn i ddiolch i Paul Davies am dynnu sylw at y bennod yn yr adroddiad, Pennod 7, ar gyfiawnder teuluol. Mae hwn yn adroddiad sylweddol iawn. Mae dadleuon yr adroddiad yn gymhellol. Nid wyf am ailadrodd unwaith eto ran o'r drafodaeth a gefais i ar lawr y Cynulliad bythefnos yn ôl ynglŷn â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â materion plant sy'n derbyn gofal. Ond fe welwch chi yn yr adroddiad hwn yr hyn y mae'n cyfeirio ato fel tystiolaeth anorchfygol o'r angen am ddiwygio'r ffordd y mae'r gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu yma yng Nghymru; gallai'r ffordd y gellid gwario'r costau yn y system gyfredol ar gyfer cyllid fod yn llawer gwell, medd yr adroddiad, drwy osgoi'r angen i blant gael eu cymryd i ofal awdurdodau lleol; y dystiolaeth y mae'n ei nodi gan y bobl ifanc eu hunain a gafodd eu rhoi mewn gofal, a ddywedodd wrth Arglwydd Thomas, pe byddai cyfran fechan o'r arian a wariwyd ar ofalu amdanyn nhw mewn gofal wedi cael ei wario ar eu teuluoedd i'w helpu i barhau i ofalu amdanyn nhw, byddai hynny wedi bod yn ganlyniad gwell iddyn nhw ac ar gyfer y teuluoedd hynny. Mae hwn yn adroddiad y gallai unrhyw Aelod Cynulliad nad yw'n ystyried hyn yn rhywbeth sy'n ganolog i'w fuddiannau yma—pe bai un bennod unigol yn yr adroddiad hwn y byddwn i'n gofyn i'r Aelod hwnnw ei ddarllen, y bennod am gyfiawnder teuluol fyddai'n teilyngu'r ystyriaeth honno, yn fy marn i.
Tynnodd Paul Davies sylw at fater awdurdodaeth ar wahân. Nid yw'r adroddiad mewn gwirionedd yn argymell, gan ddefnyddio'r geiriau hynny, 'awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân', ond mae yn argymell gwahanu'r farnwriaeth—ac y dylid creu llysoedd Cymru a barnwriaeth i Gymru yn ffurfiol, Ac rwy'n credu bod hyn dangos, yn llawn argyhoeddiad, pam na fyddai hynny'n arwain at unrhyw rai o'r anawsterau a nodwyd gan Paul Davies yn ei ddatganiad. Wrth gwrs, nid yw'n syml datganoli rhywbeth mor enfawr â'r system gyfiawnder, ond nid yw allan o gyrraedd chwaith. Mae rhai o'r materion a gododd Paul Davies yn wir yn hen esgusodion yr ydym wedi eu clywed dro ar ôl tro yn y ddadl hon. Mae 50 o daleithiau yn America lle mae pobl yn gallu symud rhwng y naill a'r llall, ac nid yw hynny'n llesteirio'r system gyfiawnder, fel nad yw'n cael ei llesteirio gan y ffaith fod yna system ar wahân yn yr Alban ac yn Lloegr.
Wrth gwrs ein bod ni'n awyddus i gael perthynas effeithiol â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac yn ystod y cyfnod byr hwnnw pan oedd gennym ni Ysgrifennydd Gwladol yn David Gauke a Gweinidog yn Rory Stewart, roeddem yn gallu cytuno ar lasbrintiau ar gyfer troseddwyr benywaidd, glasbrintiau ar gyfer troseddwyr ifanc—i gael dull o garcharu y byddem wedi bod yn barod i gydweithio arno yma yng Nghymru. Y broblem yr ydym yn ei hwynebu, Llywydd, yw hyn. Cyn gynted ag y byddwch chi'n meithrin perthynas gyda thîm o Weinidogion, bydd y chwrligwgan yn San Steffan yn eu symud nhw i rywle arall ac rydym yn ôl yn y dechrau un unwaith eto. Fe fyddwn ni'n parhau gyda'r ymdrechion hynny, ond weithiau mae'n teimlo fel gwaith caled iawn ac yn groes i'r graen o ran y ffordd y mae Whitehall yn gweithredu ar y materion hyn.
Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad, ac wrth gwrs diolch i'r Arglwydd Thomas ac aelodau'r comisiwn am eu gwaith rhyfeddol o drwyadl yn cyrraedd at y pwynt lle y cyflwynwyd yr adroddiad arbennig yma i ni fel Cynulliad Cenedlaethol? Dechrau taith ydy hwn rŵan mewn difrif. Dwi'n falch ein bod ni'n cael datganiad heddiw a chyfle i wneud ychydig o sylwadau. Dwi'n falch hefyd bod amser yn mynd i gael ei neilltuo yn gynnar yn y flwyddyn newydd er mwyn cael dadl lawnach er mwyn gallu gwyntyllu'r pwyntiau mewn dipyn mwy o fanylder. Ond wedyn mi fydd angen cydweithio ar draws pleidiau gwleidyddol, ar draws Seneddau hefyd, wrth gwrs, er mwyn mynd â'r argymhellion yma yn eu blaen.
Dwi'n croesawu’r ffaith bod y Ceidwadwyr, sydd ddim yn gweld gwerth ar hyn o bryd mewn gwireddu'r argymhellion yma—eu bod nhw yn gofyn cwestiynau ynglŷn â sut i symud hyn ymlaen. Mae o'n fater o rywfaint o bryder i fi bod y mathau o gwestiynau sydd wedi cael eu gofyn heddiw gan arweinydd y Ceidwadwyr ar lefel mor sylfaenol—mae o bosib yn codi amheuon i fi o ran faint o sylw sydd wedi cael ei gymryd gan y blaid Geidwadol o'r argymhellion manwl yma a'r gwaith trwyadl sydd wedi cael ei wneud gan yr Arglwydd Thomas a'i dîm. Ond dwi'n barod i dderbyn bod yn rhaid gofyn cwestiwn ar bob lefel er mwyn inni allu symud ymlaen.
Mae yna gymaint o resymau pam dylem ni fel deddfwrfa fod yn gafael yn annwyl iawn yn yr argymhellion yma sydd wedi cael eu rhoi o'n blaenau ni. Ar bwynt o egwyddor yn unig, fel llunwyr deddfau, mae'n bwysig i lawer ohonom ni fan hyn ein bod ni'n gallu troi yn Senedd sy'n gorff deddfwriaethol sydd yn ymwneud â'r system gyfiawnder fel mater o egwyddor. Mae yna elfennau ymarferol o'r anhawster gennym ni ar hyn o bryd mewn gallu cael cydlyniad rhwng cyfiawnder a'r mathau o bolisïau sydd yn effeithio ar y system gyflawnder.
Wrth gwrs, yn Lloegr a'r Alban, maen nhw'n gallu llunio polisi o fewn cyd-destun gwahanol. Ond y prif reswm—a'r prif reswm sy'n cael ei amlinellu'n glir iawn yn yr adroddiad gan yr Arglwydd Thomas—dros fod eisiau bwrw ymlaen efo'r argymhellion yma ydy bod y diffygion sydd wedi cael eu hamlygu yn effeithio ar fywydau pobl go iawn yng Nghymru a'r ffordd mae'r system gyfiawnder yn ymdrin â nhw, p'un ai sut ydym ni'n trin merched o fewn y system gyfiawnder, sut ydym ni'n trin pobl o leiafrifoedd ethnig o fewn y system gyfiawnder, sut rydym ni yn gweithredu deddfwriaeth o fewn y llysoedd teulu mewn ffordd sydd yn sensitif i anghenion ein pobl ifanc ni a'n plant ni yng Nghymru, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato fo.
Mi fydd llawer ohonoch chi, dwi'n siŵr, fel finnau, wedi darllen—neu wedi dechrau darllen yn fy achos i—The Secret Barrister, sydd yn edrych ar wendidau y system gyfiawnder ym Mhrydain, neu yng Nghymru a Lloegr i gyd ar hyn o bryd. Wel, mae gennym ni gyfle yng Nghymru erbyn hyn i fynd i'r afael â'r gwendidau yna, sydd yn hysbys i gymaint o bobl sy'n gweithio o fewn y system gyfiawnder, ac i weithredu mewn ffordd am y tro cyntaf sy'n gadael i ni lunio system sydd yn sensitif i anghenion pobl Cymru yn benodol. Felly, mi gydweithiwn ni efo'n gilydd ar y cwestiynau yma.
Cwpwl o gwestiynau ichi: dwi'n croesawu'r ffaith y bydd yna is-bwyllgor o'r Cabinet, wedi ei gadeirio gan y Prif Weinidog; beth am rôl y gwasanaeth sifil yn hyn oll? Mae yna gwpwl o bethau yn codi amheuon ynof i ynglŷn ag agwedd y gwasanaeth sifil. Mi ddywedodd y gwasanaeth sifil Cymreig y byddai angen 200 yn fwy o swyddogion polisi, ar gost o ryw £14 miliwn, er mwyn gweithredu'r math yma o newidiadau. Awgrym yr Arglwydd Thomas oedd mai 10 o bobl fyddai eu hangen ac y byddem ni'n gallu creu model newydd o weithio, yn tynnu ar arbenigedd ein prifysgolion ni, ac ati, yn adlewyrchu mantais gwlad fach fel Cymru o ran effeithlonrwydd. Nid copïo beth maen nhw'n ei wneud ar lefel Cymru a Lloegr, ond llunio rhywbeth neilltuol Gymreig. Buaswn i'n croesawu sylwadau gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r hyder sydd ganddo fo y gall y gwasanaeth sifil ddod i fod yn bartner pwysig wrth ddelifro hyn.
O ran, wedyn, yn olaf, y rôl y bydd yna, wrth gwrs, i wleidyddion ar lefel Brydeinig i ddelifro'r newidiadau yma, mi glywsom ni'r Prif Weinidog yn dweud yn gynharach ei fod o'n ymgyrchu ers 1985 yn galw am y mathau yma o newidiadau. Wel, mae'n rhaid imi godi cwestiynau ynglŷn â'r dylanwad rydych chi wedi ei llwyddo i'w gael ar eich cyd-aelodau Llafur chi yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod, onid ydym, fod Aelodau Seneddol Llafur ymhell iawn, iawn, iawn ar ôl 1985, wedi bod yn floc ar ddatganoli elfennau o gyfiawnder. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, pa mor hyderus ydych chi rŵan y gallwch chi berswadio eich plaid chi ar lefel Brydeinig, (1) i roi'r argymhellion yma mewn maniffesto ar gyfer etholiad rŵan? Mae'r argymhellion sydd o'n blaenau ni mor eglur, mor ddiamwys, does yna ddim rheswm pam na allai unrhyw blaid, mwy neu lai, symud ymlaen at addo gweithredu'r rhain. Felly, dangoswch i ni fod gennych chi'r dylanwad o fewn eich plaid chi, achos dwi'n addo ichi mi fydd gweithredu ar argymhellion yr Arglwydd Thomas yn gryf iawn yn ein maniffesto ni wrth fynd i mewn i'r etholiad yma rŵan.
Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd e ar ddechrau beth roedd e'n ei ddweud. Rŷn ni ar ddechrau taith yn fan hyn, ac mae'n mynd i gymryd amser i fynd i lawr y llwybr i gyd, ac i wneud hynny, mae'n bwysig i gydweithio'n drawsbleidiol. Croesawais i nifer o bethau roedd Paul Davies wedi eu dweud a oedd yn adeiladol am nifer o bethau yn yr adroddiad. Mae diddordeb ganddo fe i weld sut rŷn ni'n gallu rhoi pethau fel yna ar waith, a bydd yn rhaid inni hefyd weithio nid jest yn fewnol yn y Cynulliad, ond gyda phobl y tu fas i'r Cynulliad yng Nghymru a hefyd gyda phobl yn San Steffan.
Dwi'n cytuno hefyd gyda beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth am y pethau ymarferol sydd yn yr adroddiad. I nifer o bobl fan hyn, mater o egwyddor yw e i gael system cyfiawnder yn nwylo pobl yma yn y Cynulliad. Ond, yn yr adroddiad, maen nhw jest yn gwneud yr achos yn fwy ymarferol na hynny. Mae jest yn dangos yr effaith y mae'r system bresennol yn ei chael ar fywydau pobl bob dydd yma yng Nghymru.
I droi at y cwestiynau am y gwasanaeth sifil, wel, roeddem ni wedi dweud 200 o bobl am fod 300 o bobl yn Llywodraeth yr Alban yn gweithio ar y pethau y mae'r adroddiad eisiau eu trosglwyddo inni yng Nghymru. Nawr, mae'r Arglwydd Thomas yn dweud 10 o bobl—10 o bobl i wneud popeth yn yr adroddiad yma. Dwi yn cytuno gyda fe a gyda Rhun hefyd nad oes yn rhaid inni jest gwneud pethau yn y ffyrdd rydym ni wedi gwneud pethau o'r blaen, ac i gydweithio â phobl yn y prifysgolion, i wneud mwy o waith i dynnu pobl i mewn i gydweithio â ni—dwi'n hollol agored i'w wneud e fel yna—ond os ydyn ni'n mynd i redeg y system i gyd—y llysoedd, prawf, cyfiawnder i bobl ifanc, y proffesiwn, popeth sydd i mewn fan hyn—mae'n anodd i mi ar hyn o bryd i weld sut y bydd 10 o bobl yn gallu gwneud hynny. Ond mae hynny'n rhywbeth i ni siarad â'n gilydd amdano pan fyddwn ni ar y daith, fel roedd Rhun yn dweud.
Llywydd, dwi wedi ymdrechu mewn mwy nag un peth heb lwyddo am gyfnod hir. Dwi'n siwr ei fod e wedi ymdrechu am annibyniaeth am amser hir hefyd, a dydy e ddim wedi llwyddo i berswadio pobl am hynny ychwaith. Mae e'n dal yma yn trio perswadio pobl, a dwi'n dal i drio perswadio pobl hefyd, ac mae'r adroddiad yn help mawr i ni jest i ddangos y dystiolaeth gan griw o bobl hollol annibynnol sydd wedi dod at y casgliadau maen nhw wedi dod atynt.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ddod â'r datganiad hwn gerbron heddiw, ac yn fwy byth os caf i ddiolch i Arglwydd Thomas a'i gyd-gomisiynwyr am gyflwyno'r adroddiad hynod drawiadol hwn? Hoffwn i longyfarch y cyn-Brif Weinidog hefyd am yr adroddiad trawiadol iawn hwn a sefydlodd ar ein cyfer.
Hoffwn i ddilyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog sef bod yr adroddiad hwn yn haeddu ystyriaeth lawnach o lawer nag y gellir ei rhoi heddiw. Roeddwn wedi cynllunio ymlaen llaw i roi ymateb mwy pendant efallai, ond rwy'n credu mai'r peth iawn yw ymatal er mwyn ei ystyried ymhellach ac ymgynghori'n ehangach. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd ef am ei ddull o ymateb i'r adroddiad yn synhwyrol, ac rwy'n edrych ymlaen at gael y ddadl lawn honno a chyfrannu yn llawnach ar rai o'r materion yno.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud o ran un pwynt o egwyddor, o bosib, yw bod y Comisiwn yn cyfeirio at yr 'ymyl garw', a ddisgrifiwyd, er yn fwy rhyddieithol yn y cyd-destun hwn, yn natganiad y Prif Weinidog yn
'heriau ymarferol yn deillio o rannu cyfrifoldebau rhwng San Steffan a Chymru'
Ac fe sylwais i pan oedd arweinydd yr wrthblaid yn rhoi ei ymateb ef, y cafodd ei heclo gryn dipyn am fod yn wrthwynebus i ddatganoli. Ond rwy'n credu, yn anochel, i rai ohonom ni, beth bynnag fo'r rhaniadau rhwng yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn sydd heb ei ddatganoli, bydd yn parhau i fod yn rhyw fath o ymyl garw; bydd yna rywfaint o anhawster bob amser ar y lefel honno pan fydd dwy wahanol ffurflywodraeth yn cwrdd â'i gilydd. Ond mae'r adroddiad hwn yn cymryd yn ganiataol, lle bynnag y digwydd hynny—er enghraifft, ynglŷn â chyfiawnder—mai'r ateb yw datganoli i Gymru bob amser. Mae rhai ohonom wedi dechrau pryderu, os yw datganoli yn llwybr unffordd parhaol a phellach o bwerau cynyddol bob amser ac ym mhob achos, efallai nad yw hynny'n rhywbeth y mae pobl Cymru'n dymuno ei weld, ac y bydd hefyd yn peryglu'r llif sylweddol iawn o adnoddau ariannol y mae Cymru'n eu cael o Loegr mewn amgylchiadau lle mae gennym fwlch o £13.7 miliwn o ran cyllid. Credaf fod angen cadw hynny mewn cof.
Hefyd, os caf i fynd ar ôl pwynt Rhun, a oedd yn un da iawn yn fy marn i. Fe ddyfynnodd ef lyfr o'r enw The Secret Barrister, yr wyf innau wedi ei ddarllen hefyd, a'i gael yn frawychus iawn o ran cyflwr system y llysoedd yng Nghymru a Lloegr. Pan oeddwn i'n Aelod Seneddol yn Lloegr fe welais i rywfaint ar hyn, ond, a dweud y gwir, mae wedi gwaethygu llawer ers hynny, ac mae'r gostyngiad mewn gwariant ar y system gyfiawnder wedi bod yn fwy sylweddol bron nag yn unrhyw faes arall o weithgarwch y Llywodraeth, ac mae'r goblygiadau yn gwbl ddychrynllyd. Credaf fod yr adroddiad hwn nid yn unig yn dweud wrthym ni am Gymru; mae'n dweud wrthym ni am y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, ac i fod yn onest, nid i ni'n unig y mae'n ddefnyddiol, ond fe ddylai fod yn ddefnyddiol i Lywodraeth y DU a Senedd y DU. Os nad yw'r Ceidwadwyr yn argyhoeddedig o'u safiad cyffredinol, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n defnyddio'r adroddiad hwn i ddangos yr hyn sy'n digwydd i ardal yng Nghymru a Lloegr sydd wedi gweld yr ymdrech ryfeddol hon a'r meddyliau dawnus a gweithio deheuig i dynnu sylw at sylwedd y problemau. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn cael ei ddarllen y tu hwnt i Gymru yn unig, ac mae llawer o'r problemau hyn yn cael eu hachosi o ganlyniad i Lywodraeth y DU ar lefel Cymru a Lloegr, ac mae angen mynd i'r afael â nhw.
A gaf i groesawu rhai o'r materion penodol y mae'r Prif Weinidog wedi eu nodi heddiw, yn benodol y cynlluniau ar gyfer prentisiaethau yn y proffesiwn cyfreithiol a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i hynny? Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da; rwyf i'n croesawu hynny. Rwy'n credu ar y cychwyn efallai y dylem ganolbwyntio ar gynllun peilot ar gyfer hynny, a hoffwn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at weithredwyr cyfreithiol siartredig a'r cefndir a'r effaith gadarnhaol y maen nhw'n ei chael ar y gyfraith. Efallai, o ystyried sut mae eu system gymwysterau a chymorth nhw'n gweithio, fe allai fod yn fan da ar gyfer ymgysylltiad cychwynnol ac ystyried sut y gall Llywodraeth Cymru helpu hynny i ddatblygu.
O ran rhai o'r meysydd eraill, Cyngor y Gyfraith, y labordy arloesedd cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe, pwyllgor cyfiawnder yn y Cabinet, os caf fenthyca ymadrodd gan Lywodraeth Cymru, rwy'n credu bod y rhain yn bethau y byddem ni'n eu cefnogi nhw mewn egwyddor.
Un pwynt pwysig yr wyf yn awyddus i'w wneud—ac fe fydd ymateb y Prif Weinidog o ddiddordeb i mi—ynglŷn â'r adroddiad ar lefel fwy technegol yw ym maes penodi i'r Goruchaf Lys. Rwyf wedi fy siomi gan y dull gweithredu a'r sail dystiolaeth yn yr adroddiad yn hyn o beth oherwydd mae'n rhywbeth y gwnaethom ni ei drafod ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr ac rwy'n cytuno â'r argymhelliad pwysig a wna'r adroddiad fod yn rhaid i'r Goruchaf Lys gael barnwr sydd â'r wybodaeth a'r profiad o ymarfer â chyfraith Cymru, ond hefyd o'r cynllun datganoli i Gymru a Chymru yn rhan ar wahân o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod hynny'n iawn ac rwy'n credu y dylid rhoi hynny ar waith beth bynnag a ddigwyddith o ran argymhellion eraill, ond fe ddywed yr adroddiad eu bod nhw'n argymell rhoi Cymru mewn sefyllfa debyg i'r Alban a Gogledd Iwerddon yn y Goruchaf Lys o ran penodi barnwyr i'r Goruchaf Lys.
Yn anffodus, nid yw'r hyn y maen nhw'n ei gynnig yn ddigonol i wneud hynny, a'r rheswm, mae arnaf ofn, yw bod y comisiwn cyfiawnder wedi camddisgrifio sut y penodir barnwyr i'r Goruchaf Lys ar hyn o bryd. Ym mharagraff 2.90, maen nhw'n dweud,
Gwneir penodiadau i'r Llys Apêl ac i'r Goruchaf Lys ar sail argymhelliad Comisiynau lle mae Comisiynwyr o'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn ffurfio'r mwyafrif.
Nawr, mae hynny'n gywir o ran y Llys Apêl, ond nid yw'n gywir o ran y Goruchaf Lys ac nid yw'r cyfeiriad at 'y Comisiwn Penodiadau Barnwrol' yn ddefnyddiol o ystyried y canolbwyntio ar ddatganoli a natur y Goruchaf Lys. I edrych ar ddatganiad y Goruchaf Lys ei hun ar ei wefan am y weithdrefn ar gyfer penodi ynad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, mae'n cyfeirio at banel o bump, Llywydd y Goruchaf Lys, ac yna mae hi'n enwebu uwch farnwr o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ond ni all y barnwr hwnnw fod yn ynad yn y Goruchaf Lys, ac yna, yn ogystal â hynny, ceir aelod o bob un comisiwn penodiadau barnwrol ar gyfer Cymru a Lloegr, y bwrdd penodiadau barnwrol yn yr Alban, a'r comisiynydd penodiadau barnwrol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n rhaid i o leiaf un o'r cynrychiolwyr hynny fod yn lleygwr. Caiff enwebiadau eu gwneud gan gadeirydd y Comisiwn neu'r bwrdd perthnasol.
Felly, mae'r adroddiad yn cydnabod y bydd barnwriaeth ar wahân yn gofyn am ddull annibynnol o benodi barnwrol a cheir cyfeiriad yn nes ymlaen at system benodi, ond rwy'n credu bod angen inni ddeall, yn arbennig felly os ydym am gael cydraddoldeb ym mhenodiadau i'r Goruchaf Lys, y goblygiadau o gael ein comisiwn penodiadau barnwrol ni ein hunain ar wahân, neu rywbeth o leiaf y byddai'r Goruchaf Lys yn cydnabod ei fod yn gyfystyr er mwyn caniatáu inni gael swyddogaeth gyfatebol yr awdurdodaethau eraill. Ac rwy'n credu bod hynny hefyd yn mynd i'r afael â hyn sef, 'a yw hi'n realistig mewn gwirionedd i fod â 10 yn unig o bobl ychwanegol?' Rwy'n gwybod bod y cyn Arglwydd Brif Ustus wedi gwneud adolygiad o gyfiawnder ac wedi llwyddo i wneud hynny gyda 10, ond rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog, nid yw hynny'n realistig i Lywodraeth. A tybed a ellid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hyn oherwydd rydym mewn gwirionedd yn haeddu gwell triniaeth yn y Goruchaf Lys na dim ond yr Alban yn cael un o bump, Gogledd Iwerddon yn cael un o bump, ac yna fe geir un arall o'r pump sy'n cynrychioli Cymru a Lloegr. Pe byddem ni'n dilyn y trywydd hwn o wahanu, fe fyddai hwnnw'n mynd yn gomisiwn penodiadau barnwrol ar gyfer Lloegr, ac nid oes unrhyw beth yn yr adroddiad a fyddai'n sicrhau ein bod ni'n cael ein trin yn gyfartal ac yn deg o ran y broses benodi ar gyfer y Goruchaf Lys. Felly, hoffwn i godi hynny gyda chi a gofyn i Lywodraeth Cymru, o leiaf, ymateb, o ystyried y camddehongliad hwnnw.
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am ei ymateb hynod ymroddedig ef i'r adroddiad. Fe ddechreuodd drwy gyfeirio at yr hyn y mae'r adroddiad yn ei weld yn 'ymyl garw' rhwng y cyfrifoldebau yr ydym ni eisoes yn eu hymarfer yma yng Nghymru ac mae gweithrediad effeithiol y system gyfiawnder yn dibynnu arnyn nhw. Er y bydd rhywfaint o ymylon garw bob amser, lle bynnag y byddwch chi'n tynnu'r llinell, rwyf i o'r farn fod yr adroddiad yn gwneud gwaith llawn argyhoeddiad o ddangos sut y mae'r system gyfredol honno â'r ymylon garw hynny wedi eu gwreiddio'n ddwfn yng nghrombil ei dull o weithredu, a sut y gallwch ailgynllunio hynny fel eu bod nhw'n mynd yn fwy ymylol i'r ffordd y mae'r system yn gweithredu yn hytrach na bod rhwystrau cyson yng nghanol hynny i gyd. Rwyf i'n cytuno'n llwyr ag ef fod yr adroddiad yn arwyddocaol ymhell y tu hwnt i Gymru. Mae'r toriadau i gymorth cyfreithiol, y toriadau i'r gwasanaeth llys, y ffordd y cafodd y gwasanaeth prawf ei breifateiddio a cholli hyder y llysoedd yn y broses, mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n bodoli nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd.
Rwy'n diolch i Mark Reckless am yr hyn a awgrymodd ef o ran prentisiaethau, a sut y gellid eu cynllunio nhw. Byddwn yn ystyried hynny'n ofalus. Bob hyn a hyn, Llywydd, wrth ddarllen yr adroddiad, a lyncodd gryn dipyn o'm gwyliau hanner tymor i, roeddwn i'n cael fy hun ar eithafion fy nealltwriaeth dechnegol o ran rhai o'r materion y mae'n ymdrin â nhw. Cyn belled ag y mae'r Goruchaf Lys yn y cwestiwn, yn ôl yr hyn a ddeallais i, mae adroddiad y llys yn awgrymu y dylid penodi Barnwr o Gymru i'r Goruchaf Lys yn ffurfiol, a'r pwyntiau a wnaeth Mark Reckless—ac roeddwn i'n ceisio gwneud yn siŵr fy mod i'n eu dilyn nhw—oedd nid anghytuno â'r canlyniad hwnnw, ond gofyn inni edrych yn ofalus ar yr hyn y dywed yr adroddiad am y dull o gyflwyno hynny. Ac roedd y Cwnsler Cyffredinol yn eistedd yma yn gwrando'n astud ar hynny, a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn archwilio'r pwyntiau hynny gyda'r manylder sy'n ddyledus iddyn nhw.
Prif Weinidog, mae hwn nid yn unig yn adroddiad trawiadol, ond yn banel o arbenigedd hynod drawiadol, o statws byd-eang gwirioneddol, ac fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan gyn-Arglwydd Brif Ustus, mae'r adroddiad bron ar ffurf dyfarniad miniog iawn ynglŷn â chyflwr y gyfraith yng Nghymru. Ac mae'r adroddiad, rwy'n credu, o'r fath gymhwysedd ac arbenigedd—cannoedd o dudalennau—fel ei fod wedi cymryd tua 15 munud i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder drydar eu bod wedi gwrthod ei ganfyddiadau ond y byddent yn rhoi ystyriaeth bellach iddynt, beth bynnag oedd ystyr hynny. Ac rwy'n credu bod hynny fwy na thebyg yn dweud mwy am gyflwr cyfiawnder yn y DU na dim arall.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith y bydd adroddiad llawn a manwl yn cael ei gyflwyno, ar yr adeg briodol, fel y gallwn ni drafod y pethau hyn yn iawn. Felly, dim ond eisiau gwneud sylwadau wyf i, mewn gwirionedd, ar yr un maes, ac mae'n faes yr wyf wedi'i godi dro ar ôl tro, rwy'n credu, byth ers i mi fod yn y Cynulliad, ac yn fy holl flynyddoedd, mewn gwirionedd—33 mlynedd—yn gweithio fel cyfreithiwr gweithredol, yn gweithio i undebau llafur, yn gweithio i bobl sy'n gweithio. A dyma ni: rydym ni wedi colli, ar hyd y ffordd, y ddealltwriaeth nid yn unig o bwysigrwydd cyfiawnder a rheolaeth cyfraith, ond pwysigrwydd mynediad iddo. Ac roedd hyn yn ddealltwriaeth a gawsom ni yn y Llywodraeth Lafur ar ôl 1945, pan gyflwynwyd Deddf 1949, pan roedd Viscount Simon, pan roedd ef yn cyflwyno'r Ddeddf, yn dweud mai'r hyn yr oeddem yn ei greu oedd gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer y gyfraith, oherwydd yr hyn a ddeallwyd ac a gydnabuwyd yn hanfodol mewn unrhyw gymdeithas oedd nad yw'r gyfraith yn golygu dim oni bai bod pobl gyffredin yn gallu ei defnyddio, a'u bod yn cael eu grymuso i allu defnyddio'r gyfraith honno. Felly, mae amgylchedd lle, i bob pwrpas, yn y 10 mlynedd diwethaf, y bu toriad o 27 y cant bron mewn termau real o ran ariannu materion sy'n ymwneud â chyfiawnder, yn dangos mor bell yr ydym ni wedi colli ein dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfiawnder i'r bobl. Ac mae bod yn ddeddfwrfa nawr yn golygu bod gennym ni gyfle i roi'r egwyddorion sylfaenol hynny yn ôl wrth wraidd system deddfwriaeth a chyfiawnder Cymru sy'n datblygu mewn gwirionedd.
Roedd dealltwriaeth eang ynghylch canlyniadau hyn—mynegodd yr Arglwydd Neuberger hyn droeon pan oedd yn Llywydd y Goruchaf Lys, pan ddywedodd:
Fy mhryder i yw cael gwared ar gymorth cyfreithiol i bobl gael cyngor.
Mae hynny nid yn unig yn tanseilio'r holl system gyfreithiol, mae'n arwain at bobl yn dechrau diystyru'r gyfraith a chymryd y gyfraith i'w dwylo eu huanin. Ac yn fwy diweddar, rwy'n credu bod pennaeth comisiwn y Bar yn y bôn yn cyfeirio unwaith eto, ac yn gyson, at y bygythiad enfawr i fynediad at gyfiawnder yn y wlad, ac effaith y toriadau, yn enwedig ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Y rhan y carwn gyfeirio ati ac yr hoffwn eich holi amdani mewn gwirionedd yw'r rhan ym mhennod 3, lle gwneir argymhelliad y dylai'r arian ar gyfer cymorth cyfreithiol, ac ar gyfer y trydydd sector—sy'n darparu cyngor a chymorth—gael ei ddwyn ynghyd yng Nghymru mewn un gronfa. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi'i drafod dros nifer o flynyddoedd, ac rwy'n gwybod fod gwaith wedi'i wneud ynghylch hyn, a'r ffaith bod symiau enfawr o arian Cymru yn mynd i wahanol agweddau wrth wneud iawn am y diffygion hyn yn y system gyfiawnder, er mwyn sicrhau bod rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn cael cymorth, boed drwy Cyngor ar Bopeth, boed drwy Cymorth i Fenywod, boed drwy gyfrwng y gwahanol gyrff yn y trydydd sector. A thybed a fyddech yn cytuno â mi bod cyfle nawr i ddechrau'r broses o greu system cymorth cyfreithiol i Gymru, gan adfer hynny i'r craidd, efallai mewn dwy ran, oherwydd, wrth gwrs, mae datganoli cyllid a chyfrifoldebau yn bwysig, ac ni ellir gwneud rhai pethau nes i hynny ddigwydd. Ond mae llawer o weinyddiaeth a biwrocratiaeth y system honno'n bodoli eisoes, a gellid eu dwyn o fewn cwmpas Llywodraeth Cymru pe bai'r cyllid yn dod gyda hynny. Ac, yn amlwg, mae'r cyllid ar gyfer swyddogaethau cymorth cyfreithiol yn rhywbeth na fyddai'n gofyn am feddyliau mawr i'w drosglwyddo mewn gwirionedd, ond byddai'n creu proses dau gam efallai, gan baratoi ar gyfer hynny'n awr, ond dechrau gyda llety hanner ffordd—efallai y system gymorth led-gyfreithiol nawr—tra byddwn yn dwyn hynny ynghyd. Ac rydym ni hefyd yn cydnabod y cyfraniadau pwysig y mae cyrff fel yr undebau llafur yn eu gwneud i ddarparu cyngor cyfreithiol a chefnogaeth gyfreithiol—am flynyddoedd lawer, arianwyr llawer o'r system gyfreithiol ar gyfer pobl gyffredin sy'n gweithio. A beth oedd eu gwobr gan Lywodraethau Torïaidd yn y gorffennol? Yn y bôn, y wobr oedd deddfwriaeth gyson a oedd yn ei gwneud hi'n fwy a mwy anodd i undebau llafur weithredu ac, mewn gwirionedd, i recriwtio aelodau. Felly mae'n amlwg bod ganddyn nhw ran i'w chwarae yn hyn o beth, fel sydd gan lawer o gyrff eraill. Ond rwy'n credu y dylem ni ymrwymo, neu y dylem ni ddechrau trafod ymrwymo, i greu ffordd newydd o allu cael cyngor a chymorth cyfreithiol, ffordd Gymreig gyfansawdd a fyddai'n destun balchder i system gyfiawnder gyfreithiol yng Nghymru.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Mick Antoniw am hynna? Dechreuodd drwy gyfeirio at natur drawiadol y panel. A phan gefais y fraint o helpu i gyflwyno'r adroddiad ar y diwrnod y cafodd ei lansio, cofiaf ddweud fy mod yn credu mai un o'r swyddi allweddol y bu'n rhaid i Weinidogion—ac, yn yr achos hwn, y cyn-Brif Weinidog—ei wneud, wrth gyflawni'r math hwn o waith, yw dewis y bobl briodol i wneud hynny. Ac mae'r rheini'n benderfyniadau anodd yn aml iawn. Ond os edrychwch chi ar y panel oedd yn ffurfio'r comisiwn hwn, roedd y penderfyniadau hynny yn rhai doeth iawn, ac wedi arwain at yr adroddiad sydd gennym ni heddiw.
Gwnaeth Mick Antoniw bwynt pwysig iawn, ac mae yma yn yr adroddiad, bod yr hawl i gael cyfiawnder, yn setliad gwladwriaeth les 1945, yn elfen sylfaenol yn y ffordd yr oedd y rhai a oedd yn creu hawliau newydd i bobl—hawliau cymdeithasol newydd, yn ystyr Marshall, ond hawliau newydd i gyfiawnder hefyd—roedd hyn yn rhan annatod o'r ffordd y credent y byddai hawliau dinasyddiaeth yn y Deyrnas Unedig yn cael eu cyflawni yn y dyfodol. Ac mae'r toriadau a welsom yn y degawd diwethaf, y toriadau hynny i gymorth cyfreithiol ac agweddau eraill ar hawl i gyfiawnder, i'w gweld yn glir yn yr adroddiad hwn. Os nad oeddech eisiau darllen unrhyw baragraffau eraill ynddo, darllenwch yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud am ymgyfreithwyr yn bersonol—pobl sy'n cael eu gorfodi i gynrychioli eu hunain yn y llys, oherwydd na allent gael cyngor, oherwydd nad oes neb arall i siarad drostynt, y baich ofnadwy y mae hynny'n ei roi arnyn nhw, a'r ffordd y mae'n arafu holl system y llysoedd, oherwydd bod yn rhaid eu helpu o'r fainc dro ar ôl tro i ddeall yr hyn sy'n digwydd a gwneud y pwyntiau y mae ganddyn nhw hawl i'w gwneud. Mae'n economi mor ffug, onid yw, gan nad yw ond yn taflu costau i rannau eraill o'r system?
Cefais fy synnu yn ystod y drafodaeth, Llywydd, wrth sylweddoli faint yn fwy y mae rhai Aelodau yma'n ei wybod am agweddau ar y system gyfiawnder nag yr wyf fi. Mae syniad Mick Antoniw o system cymorth cyfreithiol i Gymru wrth gwrs yn un y byddwn eisiau edrych arno wrth inni fwrw ymlaen â hyn. Dywed yr adroddiad, yn y drydedd bennod honno, am yr hawl i gael cyfiawnder, fod Llywodraeth Cymru wedi gorfod dargyfeirio arian i fynd i'r afael â swyddogaethau nad oeddent wedi'u datganoli yn hytrach na defnyddio'r adnoddau ar gyfer swyddogaethau a ddatganolwyd.
Ac yna mae'n dweud mai hyn oedd y peth iawn i'w wneud.
Ond nid oedd—ni ddylai fod wedi bod y peth angenrheidiol i'w wneud. Ond byddwn nawr yn gallu defnyddio rhywfaint o'r profiad hwnnw, a'r arian yr ydym ni wedi'i ddarparu i fudiadau'r trydydd sector, yn y system newydd honno y mae Mick Antoniw wedi'i hamlinellu y prynhawn yma.
Mi wnaf i ymestyn yr amser ar gyfer y datganiad yma rhyw gymaint, oherwydd pwysigrwydd y datganiad, ond a gaf i ofyn i'r siaradwyr sy'n weddill i fod yn fyr ac yn fachog yn eu cwestiynau? Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. [Chwerthin.] Mae gennych arferiad gwych o wneud y datganiadau hynny cyn imi godi i siarad. [Chwerthin.] Rwyf bob amser yn ddiolchgar iawn am gael fy ngalw, wrth gwrs.
Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am wneud y datganiad hwn y prynhawn yma. Rwy'n credu, fel Aelodau eraill yma, ein bod ni i gyd yn ddiolchgar iawn i'r Arglwydd Thomas a'i dîm. Roedd rhoi tystiolaeth y llynedd i'r Arglwydd Thomas, ac i'r Comisiynwyr, yn brofiad eithaf brawychus, rhaid imi ddweud, ac roedd maint y craffu a maint y pwyslais ar y materion a oedd yn cael eu trafod yn rhywbeth a oedd yn drawiadol iawn ar y pryd, ac rwy'n credu y gwelir hyn yn yr adroddiad sydd wedi'i gynhyrchu. I mi, mae hwn yn sicr yn adroddiad am y system gyfiawnder, ond mae hefyd yn adroddiad am bobl. Mae'n ymwneud â thegwch, mae'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol ac mae'n ymwneud â sefydlogrwydd cyfansoddiad y wlad hon.
Roeddwn yn darllen adroddiad Peter Clarke—y prif arolygydd carchardai—ynglŷn â charchar Caerdydd y bore yma, ac mae'r hyn a ddywed yno yn drawiadol iawn: mae rhywbeth fel hanner yr holl bobl a ryddhawyd, yr holl ddynion a ryddhawyd, o garchar Caerdydd yn ddigartref pan gânt eu rhyddhau; mae gan 65 y cant broblemau iechyd meddwl; mae 38 y cant yn gaeth i gyffuriau ac alcohol wrth gyrraedd carchar Caerdydd. Ac mae'r ffigurau hyn yn cael eu gweld fel ffigurau eithaf da, eithaf rhesymol. Dyna yw byrdwn ei adroddiad, a bod hyn yn welliant ar y sefyllfa y buom ni ynddi. Ond yr hyn y mae hynny mewn gwirionedd yn ei ddweud wrthych chi—yr hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthych chi mewn gwirionedd yw ein bod wedi arfer â system sy'n siomi pobl Cymru mor enbyd nes ein bod wedi arfer â system sy'n gweithio i bron neb. Ac mae hynny'n annerbyniol—mae'n annerbyniol. Ac nid yw'n dderbyniol dweud chwaith, 'Mae hwn yn adroddiad da iawn, rydym yn mynd i'w ffeilio', ac 'Mae hwn yn adroddiad da iawn, rydym yn mynd i gael seminar efallai neu droi i rywle arall am gyfarwyddyd.' Mae hwn yn adroddiad sy'n gofyn am weithredu, ac mae'n gofyn am weithredu o'r lle hwn.
Rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog wedi ymateb gyda'r brys y mae'r adroddiad hwn yn gofyn amdano y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud am is-bwyllgor Cabinet i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn gallu symud tuag at greu adran gyfiawnder yn Llywodraeth Cymru. Mae'r Prif Weinidog yn llygad ei le, wrth ateb cwestiwn cynharach, ynglŷn â phwysau niferoedd a'r adnoddau sydd ar gael i gyflawni hynny. Ond mae gwaith i'w wneud eisoes, hyd yn oed heb ddatganoli'r materion hyn, i gydgysylltu'n well ac i reoli systemau a rhyngwynebau gwasanaethau yn y wlad hon. Mae'r adroddiad yn gerydd i bobl sydd wedi llywodraethu'r wlad hon yn y gorffennol, yn gerydd i gyfansoddiad y wlad hon, ac mae'n ceryddu'r holl bobl hynny sy'n dweud, 'Mae'n rhy anodd, felly rwy'n mynd i wrthod ymwneud â hyn.' Gwrthod ymwneud, nid yn unig â'r anhawster sy'n ein hwynebu, ond gwrthod ymwneud ag oblygiadau dynol hefyd.
Ac felly, Prif Weinidog, rwy'n croesawu'n fawr iawn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud y prynhawn yma, wrth ateb cwestiynau ac yn eich datganiad. Gobeithiaf y byddwn yn gallu cael dadl resymol yn y flwyddyn newydd, fel yr ydych chi wedi awgrymu. Ond, Prif Weinidog, gobeithiaf y gallwch chi hefyd roi sicrwydd i bob un ohonom ni yma y byddwch chi, wrth symud ymlaen, yn gwneud hynny gyda'r brys a'r cyflymder y gwnaethoch chi sôn amdanynt y prynhawn yma, gyda'r ddealltwriaeth o'r materion dynol yr ydych chi wedi eu crybwyll y prynhawn yma, ond hefyd gyda dealltwriaeth glir o sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru ac ar berthynas Cymru â gweddill y Deyrnas Unedig.
Un o'r cwestiynau a ofynnodd yr Arglwydd Thomas imi yn ystod fy nhystiolaeth oedd bod angen cael natur gymesur i ddatganoli. Roeddem yn sôn am Brydain Fawr, yn hytrach na'r Deyrnas Unedig gyfan. Ac rwy'n credu, gyda fy mhrofiad yn y Llywodraeth, bod angen y system gymesur honno o ddatganoli arnom ni. Roedd system anghymesur yn dderbyniol yn 1999, pan roeddem yn sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ond nid yw'n darparu sefydlogrwydd llywodraethu a sefydlogrwydd setliad a fydd yn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni a'r math o sefydlogrwydd cyfansoddiadol y bydd ei angen arnom ni yn y dyfodol.
Felly, Prif Weinidog, fel eraill y prynhawn yma, rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y datganiad hwn, a gobeithio y gallwch ein sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â hyn, a bwrw ymlaen â hyn ar fyrder.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Alun Davies am hynna. Gadewch imi ymateb i dri neu bedwar pwynt yn gyflym iawn. Mae'n llygad ei le i gyfeirio at oblygiadau dynol y methiannau y mae'r adroddiad yn eu hamlinellu, ac mae'r oblygiadau dynol i'w gweld drwy'r adroddiad. Maen nhw'n amlwg iawn pan fyddwch chi'n eu darllen. Y pwynt a wneuthum yn gynharach y prynhawn yma ynglŷn â derbynioldeb ymddangosiadol dweud wrth dyst, 'mae'n rhaid i chi adael eich tŷ am 7 o'r gloch y bore, efallai nad ydych yn dychwelyd yno tan 7.30 y nos'—mae hynny'n briodol cyn belled ag y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y cwestiwn. Nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y byddech yn ei ddisgwyl i berson agored i niwed, gyda straen achos llys o'i flaen, allu ei wneud heb unrhyw oblygiadau. Felly, rhan ddynol yr adroddiad hwn—diolchaf i Alun Davies am dynnu sylw at hynny.
Nid ydym wedi siarad am adnoddau y prynhawn yma, Llywydd, ond fe'm hatgoffwyd gan Alun, a dylwn fod wedi dweud yn gynharach, y bydd yn rhaid i'r cyllid hwnnw ddilyn y swyddogaeth os yw'r adroddiad hwn i wneud yr hyn yr ydym ni eisiau iddo ei wneud. Ni all yr un Llywodraeth ymgymryd â'r cyfrifoldebau a amlinellir yn yr adroddiad hwn heb gael yr arian sy'n angenrheidiol i'w cyflawni'n briodol.
Mae gennyf ddiddordeb, wrth gwrs, yn y sylw a wnaeth Alun Davies tua'r diwedd am ddatganoli cymesur. Yr hyn yr wyf yn sicr yn credu y mae'r adroddiad yn anelu ato yw datganoli sefydlog. Mae'n anelu at ffordd gydlynol o fynd ati i sicrhau'r cyfrifoldebau hyn, gan eu rhoi at ei gilydd mewn pecyn a fydd yn darparu cydlyniad a sefydlogrwydd. Mae taer angen bwrw ymlaen â hyn. Byddwn yn gwneud hynny o ran yr argymhellion sy'n dod yn uniongyrchol i'n rhan. Ac yna byddwn yn anochel yn dibynnu ar barodrwydd eraill i wneud cynnydd ar hyn gyda'r un ymdeimlad o benderfyniad.
Prif Weinidog, fel yr ydym ni wedi clywed, mae angen gwella'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr yn fawr. Mae yna gorff o dystiolaeth sy'n sefydlu hynny, ac rwy'n credu bod yr adroddiad awdurdodol hwn yn ychwanegu'n sylweddol ato. Gwyddom y caiff llawer gormod o bobl eu hanfon i'r carchar, fel y gwnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad agoriadol, o'u cymharu â'n cymdogion yng ngorllewin Ewrop, er enghraifft, ac mae hynny'n creu gorlenwi, sy'n gwneud adsefydlu'n anodd iawn, yn wir.
Gwyddom fod gan lawer o'r bobl yno broblemau iechyd meddwl, problemau alcohol a chyffuriau, na chânt sylw priodol neu ddigonol. Ac rydym yn gwybod bod llawer o orgyffwrdd rhwng y gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw o ran y problemau hynny a'r agweddau ar gyfiawnder troseddol nad ydynt wedi'u datganoli. Rydym yn gwybod bod angen i'r cyfan fod yn gydgysylltiedig yn llawer mwy effeithiol, a byddai datganoli yn gwneud y cydgysylltu hwnnw gymaint yn haws. Byddai hefyd yn galluogi, wrth gwrs, gwaith craffu cydgysylltiedig gan y Cynulliad a chyrff allanol.
Felly, credaf fod yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yn methu'n foesol ac yn methu'n fawr iawn mewn termau ymarferol. Yr hyn sydd gennym ni o ganlyniad yw mwy o ddioddefwyr troseddau yng Nghymru, yn ein cymunedau, felly mae ein cymunedau yn gyffredinol yn dioddef o fwy o droseddu nag a fyddai'n digwydd fel arall. Ac, wrth gwrs, mae teuluoedd troseddwyr yn dioddef, yn ogystal â'r troseddwyr eu hunain. Mae'n ddarlun llwm iawn, ac mae'n rhaid imi ddweud, digalon, sydd wedi parhau'n rhy hir o lawer.
Felly, rwy'n credu mewn difrif calon fod yr adroddiad hwn bellach, yr adroddiad awdurdodol hwn, yn gyfle i wneud cynnydd ar y materion hyn gyda datganoli tymor canolig a thymor hwy, ond hefyd gyda'r camau tymor byrrach y tynnwyd sylw atynt. Ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn, Prif Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru, maes o law, yn gallu amlinellu ei hymateb yn y termau hynny—y mesurau tymor byr y gellir eu cymryd yn ogystal â'r gwelliannau tymor canolig a thymor hwy o ran datganoli. A byddwn yn gobeithio, ac rwy'n gwybod y byddai llawer yma heddiw yn gobeithio, y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu amlinellu hynny cyn gynted â phosib yn y modd mwyaf ymarferol.
Rwy'n diolch i John Griffiths am hynna Llywydd. Mae'n adroddiad awdurdodol, yn bendant, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Caiff llawer gormod o bobl eu hanfon i'r carchar yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld y ffigurau o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ac mae hynny'n fethiant o ran cael system gydlynol, ond mae hefyd yn fethiant o ran diben yn y system hefyd.
Dywedwyd wrthyf yn ddiweddar, gan rywun a oedd wedi ymweld â charchar i fenywod, lle'r oedd degau o fenywod o Gymru yn y carchar hwnnw, fod mwy na'u hanner yno oherwydd eu bod wedi methu â chadw at yr amodau yr oedd eu swyddog prawf wedi'u gosod arnyn nhw. Nid oedden nhw, hyd y gallwn ddweud, wedi cyflawni trosedd arall; nid oedden nhw, yn syml, wedi cadw at amodau eu goruchwyliaeth. Nawr, pe bawn i wedi llwyddo i gael y maen i'r wal flynyddoedd lawer yn ôl i gael y gwasanaeth prawf i ddwylo'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ni allaf ddychmygu am eiliad y byddem wedi ystyried canlyniad lle câi menywod eu gwahanu o'u teuluoedd, gyda'r holl ddifrod yr ydym yn gwybod a ddoi yn sgil hynny, am beidio â chyflawni trosedd, ond am ddim ond peidio â chadw at y rheolau y mae'n rhaid i'r gwasanaeth prawf weithredu yn unol â nhw ar hyn o bryd.
Felly, byddai, byddai gennym ni system fwy cydgysylltiedig yn ymarferol, ond byddai gennym ni ymdeimlad gwahanol o ddiben ar gyfer y system hefyd, a byddem yn gallu gwneud hynny'n rhan o ddiben y system drwyddi draw fel bod pob agwedd ar y system yn gweithredu fel yr hoffem ei gweld yn gweithredu, ac mae'r adroddiad yn rhoi'r cyfle hwnnw inni.
Yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at nifer o faterion. Clywsom gyfeiriad at gamddefnyddio sylweddau, digartrefedd, efallai addysg ac iechyd hefyd, sy'n ymwneud â gwasanaethau datganoledig. Rydych chi hefyd wedi cyfeirio at nifer o faterion sydd heb eu datganoli, megis gwasanaethau prawf, ond rydym yn gwybod eu bod yn cael eu hailintegreiddio gyda'r system carchardai, ac mae cynigion Llywodraeth y DU yn cydnabod y ffactor datganoli wrth gynllunio systemau newydd. Gwyddom eisoes fod Llywodraeth y DU wedi cytuno â Llywodraeth Cymru nad oes arnom ni angen rhagor o garchardai i fenywod, mae arnom ni angen canolfannau cymunedol. Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cefnogi o leiaf un o'r rheini yng Nghymru. Rydym ni eisoes yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn symud tuag at isafswm dedfrydau hirach, gan gydnabod bod dedfrydau byr yn niweidio adsefydlu ac yn aml yn gwneud pobl yn droseddwyr a fyddai fel arall yn gallu dod o hyd i ffordd fwy annibynnol a hapus o fyw.
Fy mhryder, felly, yw bod yr adroddiad fel pe bai'n canolbwyntio i raddau helaeth, neu i raddau sylweddol, ar bolisïau Llywodraethau yma ac acw, sy'n mynd a dod—mae llywodraethau'n dod i ben—mae polisïau'n mynd a dod, yn hytrach na chanolbwyntio, unwaith ac am byth, yn barhaol, ar ba un a fyddai'r egwyddor gyfansoddiadol o ddatganoli cyfiawnder troseddol yn creu system decach, fwy cyfiawn i bawb, er gwaetha'r ffaith y bydd Llywodraethau a pholisïau'n newid dros amser. Mae'n agwedd wahanol a mwy gwleidyddol. Tybed a fyddech chi felly'n gwneud sylwadau ynghylch yr angen i ganolbwyntio ar y mater cyfansoddiadol hwnnw yn barhaol, yn hytrach nag ein barn nawr ac yn y dyfodol am bolisïau'r Llywodraeth neu bleidiau'r Llywodraeth.
Efallai mai'r broblem amlwg sydd wedi’i hanwybyddu, unwaith eto, i mi yw natur drawsffiniol troseddu a chyfiawnder yng Nghymru. Felly y bu hi erioed. Nid yw'n ddim byd newydd—nid yw'n fygythiad i genedligrwydd, da na drwg, mae'n wir bod y rhan fwyaf o droseddau yng Nghymru yn symud rhwng y gorllewin a'r dwyrain a bod mesur troseddu, ynghyd â chymorth ac ymyrryd, wastad wedi cael eu datblygu ar y sail honno. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r ffaith na allaf ond canfod un cyfeiriad yn yr adroddiad at unrhyw droseddu trawsffiniol, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, ar hyd coridor yr M4 a Gogledd Cymru? A'r ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio rhwng y pedwar heddlu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, ond does dim cyfeiriad at bartneriaid yn gyffredinol. Felly, sut, eto, ydych chi'n ymateb i'r realiti bod Heddlu Gogledd Cymru yn dweud y buont yn cydweithio mwy gyda lluoedd Glannau Mersi a swydd Gaer ynghylch arfau, cudd-wybodaeth, gwarchodaeth, eiddo, gwaith fforensig, a'u bod hyd yn oed yn rhannu eu huned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gyda lluoedd cyfagos, sydd wedi'i leoli yn Warrington? Felly, sut mae cysoni'r realiti hwnnw, nad oes ganddo ddim i'w wneud â chenedligrwydd na hunaniaeth genedlaethol, dim ond demograffeg, daearyddiaeth a hanes, fod gennym ni'r symud hwnnw rhwng y dwyrain a'r gorllewin?
Ac mae fy nghwestiwn olaf yn ymateb i rywbeth y soniasoch amdano'n gynharach ynglŷn â system yr Unol Daleithiau, ac, os yw'n gweithio yno'n effeithiol, pam na allai weithio yma. Wrth gwrs, mae gan yr Unol Daleithiau rwydwaith integredig o systemau cyfiawnder troseddol ar lefel ffederal a gwladwriaethol. Mae'r Llywodraeth ffederal yn Washington a'r llywodraethau gwladwriaethau unigol yn goruchwylio gwahanol agweddau ar gyfiawnder troseddol ac, yn y cyd-destun hwnnw, os ydym i esblygu i fod yn system fwy effeithiol sy'n cydnabod natur fwy ffederal y DU, a'r ffederaleiddio parhaus, onid oes angen inni hefyd edrych ar system mwy rhwydweithiedig, gan gydnabod bod angen ymyrryd ar sawl haen, yn hytrach na dim ond ceisio tynnu llinellau rhwng systemau yn ôl lle mae'r ffiniau cenedlaethol?
Dirprwy Lywydd, a gaf i groesawu'r hyn a ddywedodd Mark Isherwood ar y dechrau am gefnogaeth ei blaid i'r ymagwedd at garcharu menywod y mae'r Llywodraeth hon wedi ei mabwysiadu ac wedi gweithio gyda rhai o'i gydweithwyr yn Llundain arni hefyd? Fe wnaethom ni groesawu polisi David Gauke, pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o ddiddymu dedfrydau byr o garchar. Ofnaf, Dirprwy Lywydd, yn y ffordd y dywedodd Mark Isherwood fod polisïau'n mynd a dod, ei bod yn bosib bod y polisi hwn wedi'i gyflwyno, ac efallai ei fod eisoes yn cael ei ddiddymu, gan aelod nesaf y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Holodd Mark Isherwood fi am y ddadl gyfansoddiadol, ac rwy'n credu, i mi, mae wedi bod yn gymharol syml erioed, mewn gwirionedd: dim ond pobl yng Nghymru ddylai wneud penderfyniadau sy'n effeithio yn unig ar bobl yng Nghymru. O gofio bod y penderfyniadau hyn yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yn effeithio ar bobl yng Nghymru, mae datganoli'r gwasanaethau hynny i'w penderfynu arnynt gan bobl sydd wedi'u hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn ymddangos i mi yn gwbl gyson â'r egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol honno.
Nid wyf fi fy hun yn credu bod y mater trawsffiniol yn gymaint o faen tramgwydd ag y mae rhai Aelodau yma'n ceisio'i awgrymu. Hyd yn oed mewn gwasanaeth sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr fel y gwasanaeth iechyd, mae gennym ni uned losgiadau yn Ysbyty Singleton sy'n adnodd rhanbarthol sy'n gwasanaethu De-orllewin Lloegr hefyd. Mae'n gwbl bosib, hyd yn oed pan fydd materion wedi'u datganoli, i gael cydweithio priodol ac i weithio gydag eraill er mwyn ymgyrraedd at uchelgeisiau cyffredin, ac rwy'n siŵr y byddem yn gallu gwneud hynny. Mae'r adroddiad mewn gwirionedd yn ymdrin â materion trawsffiniol yn fwy helaeth o lawer, yn fy marn i, na dim ond dal sylw ar linellau cyffuriau. Mae'n ymdrin â'r holl agwedd o benodi ynadon, sut mae cyfreithwyr yn cymhwyso ar sail Cymru a Lloegr; mae'n mynd i'r afael â materion trawsffiniol yn rheolaidd.
Ond, yn yr ysbryd adeiladol y cynhaliwyd y drafodaeth hon, terfynaf drwy ddiolch i Mark Isherwood am y sylwadau a wnaeth ar y diwedd ynghylch y modd y byddai gwahanol drefnau cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig yn ei gwneud hi'n ofynnol inni edrych yn wahanol ar sut y cai rhai o'r materion trawsffiniol hyn eu datrys, ac yn edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr er mwyn gwneud y gorau y gallwn ni o'r adroddiad pwysig hwn.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.