– Senedd Cymru am 2:56 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr economi sylfaenol, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad—Lee Waters.
Diolch yn fawr, Llywydd. Un o'r meysydd allweddol y mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio arnyn nhw yw meithrin elfennau bob dydd ein heconomi. Y diwydiannau a'r cwmnïau sydd yno am fod pobl yn bresennol, y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, y cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw, yr ynni yr ydym ni'n ei ddefnyddio a'r gofal yr ydym ni'n ei gael: dyma sylfeini ein heconomi ni. Maen nhw'n gyfrifol am bedair ym mhob 10 swydd, a £1 ym mhob £3 a wariwn ni. Ac maen nhw'n hanfodol i lesiant. Hynny yw, fe fyddai canlyniadau unrhyw darfu arnyn nhw'n mynd y tu hwnt i effeithiau economaidd ac fe fyddai'n tanseilio bywyd diogel a gwaraidd.
Wrth inni deithio tuag at amodau economaidd sy'n fwyfwy heriol, mae ein ffocws ar yr economi sylfaenol yn dwysáu gan mai honno yw'r rhan o'r economi sy'n gallu bod yn fwy cydnerth i wrthsefyll ergydion economaidd allanol. Hyd yn oed pe byddai newid yn yr economi fyd-eang yn peri i gwmni rhyngwladol mawr ddewis peidio â buddsoddi yng Nghymru, fe fyddai'r economi sylfaenol yma o hyd. Ac mae meithrin hyn o fewn ein gallu ni—mae'r dulliau ar gyfer cyflawni hynny wedi eu datganoli ac fe ellir eu defnyddio'n gymharol gyflym.
Mae fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi pennu'r cyfeiriad yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer symud oddi wrth ddull sectoraidd o ddatblygu economaidd tuag at un sy'n canolbwyntio ar leoliad. Mae pwyslais y cynllun ar dwf cynhwysol yn rhoi mwy o bwysigrwydd ar wneud y cymunedau yr ydym ni'n byw ynddyn nhw'n fwy cadarn ac yn fwy cydnerth.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd i greu dull o feithrin sylfeini ein heconomïau lleol, gan ganolbwyntio nid yn unig ar ganlyniadau economaidd, ond hefyd ar ansawdd profiad pobl o fywyd bob dydd. Mae hyn yn rhan o fudiad sy'n digwydd mewn dinasoedd a rhanbarthau yn fyd-eang. Yn Barcelona, mae'r ddinas-ranbarth yn datblygu cynllun strategol ar gyfer hanfodion sylfaenol, ac yn Awstria mae gan yr hyn sy'n cyfateb i Gyngres yr Undebau Llafur yn y fan honno ymgyrch sylfaenol o dan y slogan 'Bywyd Da i Bawb'.
Ond Llywodraeth Cymru yw'r gyntaf yn y byd i fabwysiadu dull economi sylfaenol ar lefel genedlaethol. Ac wrth greu dull Cymreig o weithredu'r symudiad hwn tuag at newid, rydym yn canolbwyntio ar dri maes allweddol. Yn gyntaf, arbrofi: rydym wedi creu cronfa her economi sylfaenol o £4.5 miliwn i dreialu ffyrdd o feithrin a gwella'r rhan hon o'r economi. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cyhoeddi 52 o brosiectau arloesol ledled Cymru yr ydym ni'n eu cefnogi, o fwyd a gofal cymdeithasol i adeiladu ac adfywio, a chan ymgeiswyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector. Erbyn hyn, maen nhw'n arbrofi gyda gwahanol ddulliau o weithredu, ac fe fyddwn ni'n creu cymunedau ymarfer cryf ar gyfer ehangu'r hyn sy'n gweithio a dysgu o'r pethau sydd ddim yn gweithio. Ac rwy'n awyddus i gynnwys prosiectau yng nghronfa arloesi Arfor. Mae'r cynlluniau hyn, y cytunwyd arnynt â Phlaid Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb ddiwethaf, yn canolbwyntio ar gefnogi'r Gymraeg drwy gyfrwng yr economi leol, ac maen nhw'n cyd-fynd â dull economi sylfaenol. Felly, mae'n bwysig eu bod nhw'n rhan o'r rhwydweithiau dysgu yr ydym ni'n eu creu.
Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus i osgoi creu 52 o brosiectau peilot sydd mewn perygl o fynd i'r gwellt. Dyna pam mae ein hail ffocws ni ar ehangu a chynyddu arfer gorau. Mae agenda'r economi sylfaenol yn fynegiant ymarferol o'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, rwy'n gweithio gyda byrddau'r gwasanaethau cyhoeddus fel partneriaid allweddol i helpu i gymhwyso'r hyn sy'n gweithio i bob rhan o Gymru.
I ddechrau, fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar ehangu'r llwyddiant a gafwyd gan Gyngor Preston o ran defnyddio awdurdod pwrcasu lleol i feithrin cyfoeth lleol. Rydym yn penodi sefydliad partner i weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn fawr o werth cymdeithasol caffael. Gyda'i gilydd, fe fyddan nhw'n nodi darparwyr lleol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Ond nid ydym eisiau efelychu dull blaengar Preston o gaffael yn unig, rydym eisiau mynd y tu hwnt i hynny. Wrth inni ehangu, rydym yn anelu at ddatblygu dull sy'n osgoi dadleoli a dull amrwd o gyfrifo anfonebau lleol yn ôl cod post, ac rydym eisiau gweld dull sydd â'r pwyslais ar gefnogi cwmnïau sefydlog ar draws y gadwyn gyflenwi.
Mae'n hen bryd ein bod ni yma yng Nghymru yn achub y blaen eto o ran y dull hwn. Fe allwn ni dynnu sylw at nifer o enghreifftiau lle'r ydym wedi arloesi, er enghraifft y pecyn cymorth Gallu Gwneud ar gyfer tai a ddatblygwyd yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl, a gwaith mwy diweddar ar Swyddi Gwell yn Nes at Adref a gychwynnwyd gan fy nghyd-Weinidog Julie James, gan adeiladu ar waith TUC Cymru.
Roedd Cymru ar y blaen i Preston mewn llawer ffordd, ond mae cynnal yr addewid cynnar wedi bod yn anodd hyd yn hyn. Fe ddylwn i fod yn glir gyda'r Aelodau fy mod i'n pryderu ynghylch capasiti a gallu sectorau cyhoeddus a phreifat Cymru i ymateb i'r her hon, a pha mor gyflym y gallwn ni ysgogi ein hymdrechion. Ond os llwyddwn ni i ehangu a chael mwy o lwyddiant a chynnal y newid hwnnw, y tro hwn, fe allwn ni hawlio bod Cymru yn arwain yn wirioneddol ar lwyfan byd-eang. I'r perwyl hwnnw, o fewn Llywodraeth Cymru, rwyf bellach wedi creu, gyda'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, fwrdd cyflawni trawsadrannol i sicrhau bod ein gwifrau mewnol wedi eu cysylltu.
Rydym yn rhoi cynnig ar ddull newydd ac ni allwn fforddio bod yn ddihyder. Os gadawn ni'r UE ar ddiwedd mis Ionawr gyda chytundeb, neu heb gytundeb fis Rhagfyr nesaf, yna fe fydd economi Cymru yn cael ei tharo gan storm a fydd yn waeth na chwalfa 2008 a'r dad-ddiwydiannu gan Thatcher. Felly, mae angen dull sy'n gallu meithrin cydnerthedd yn ein heconomïau lleol i geisio ymdopi â hynny. Mae pob argyfwng economaidd yn golygu bod menywod yn waeth eu byd, a hynny'n anghymesur, gan atgyfnerthu'r ddadl dros ddull sy'n cefnogi'r economi ddyddiol y mae cymaint o fenywod yn dibynnu arni am waith.
Mae trydedd elfen ein dull ni yn hollbwysig yn hyn o beth: sef cefnogi cwmnïau sefydlog, gan feithrin yr hyn a elwir yn 'ganol coll', a chyfuno'r galw lleol i'n helpu ni i wneud hynny. Fy nod i yw cynyddu nifer y cwmnïau sydd â'u gwreiddiau yn eu heconomïau lleol, gan gynnwys microfusnesau, busnesau bach a chanolig eu maint, mentrau cymdeithasol, mudiadau cydweithredol a grwpiau buddiannau cymunedol sydd, yn y sectorau masnachadwy, â'r gallu i werthu y tu allan i Gymru, ond sydd â'u penderfyniadau wedi eu gwreiddio yn ein cymunedau ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ym mhob rhan o Gymru i gael gwaith teg.
Yn rhy aml, bydd cwmnïau sy'n tyfu yng Nghymru yn mynd ar goll i ni pan fydd eu sylfaenwyr nhw'n eu gwerthu am arian parod. Drwy ein banc datblygu ni a thrwy Busnes Cymru, rydym eisoes yn gwneud llawer i feithrin a chadw cwmnïau yng Nghymru ac rwy'n gweithio gydag is-grŵp o fwrdd cynghori'r Gweinidog i weld beth yn fwy y gallwn ni ei wneud. Rydym wedi cael llwyddiant mawr wrth gefnogi cwmnïau i dyfu'n gyflym. Mae ein rhaglen i gyflymu twf yn dod â gwerth ychwanegol gwirioneddol i gwmnïau, fel y gwnes i ei ddarganfod wrth gyfarfod—[Anghlywadwy.]—ym Mhorth Tywyn yn fy etholaeth i ddydd Gwener diwethaf, sy'n cael cymorth o dan y cynllun. Mae'n cynhyrchu £17 o fudd i economi Cymru am bob £1 yr ydym ni'n buddsoddi ynddo.
Rydym wrthi nawr yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i ddarparu cymorth amyneddgar hefyd i gwmnïau cynaliadwy sy'n tyfu'n arafach. Ymhen ychydig dros flwyddyn, fe fydd y cyllid yr ydym ni'n ei ddefnyddio i ariannu ein gwasanaethau cymorth Busnes Cymru yn diflannu wrth inni adael yr UE. Rydym yn dal yn aros i glywed gan Lywodraeth y DU pa gyllid, os o gwbl, fel yr addawyd. Ond wrth inni fynd ati i lunio'r fersiwn nesaf o gymorth i fusnesau, fe fyddwn ni'n sicrhau ein bod yn ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd yn sgil ein gwaith ar gefnogi cwmnïau sefydlog yn yr economi sylfaenol.
Dirprwy Lywydd, mae cynnydd da wedi bod hyd yn hyn, ond wrth inni roi'r dull hwn ar waith, mae'n galw am gydberthnasau newydd a ffyrdd newydd o weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth, yn ogystal â rhwng y Llywodraeth, y busnesau a'r cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i sbarduno newid, ond ni ddaw'r budd mawr heb i ni gynghreirio ar gyfer y newid. Mae'n rhaid inni weld gweithio cydgysylltiedig ar draws adrannau'r Llywodraeth a rhwng cyrff cyhoeddus sy'n torri trwy'r gwahanol agendâu a rheolau cyllidebol a all fod yn rhwystrau.
Mae modd elwa ar gaffael, ond mae modd elwa llawer mwy drwy feddwl yn ochrol am y ffordd yr ydym ni'n cydlynu cyllidebau sector cyhoeddus. Ac mae hon yn her i ni gyd ond yn gyfle hefyd, nid yn lleiaf, i arweinyddiaeth leol. Fe gymerodd Cyngor Bwrdeistref Preston ei gamau ei hunan, ac rwy'n dymuno gweld y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu hunain yn dangos eu potensial, nid drwy aros i rywun ofyn iddyn nhw, ond drwy ddefnyddio eu partneriaethau lleol grymus i ddod â'r agenda hon yn fwy. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei rhan, ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae'r cymunedau yr ydym i gyd yn bodoli i'w gwasanaethu yn mynnu ein bod yn cael hyn yn iawn. Diolch.
Diolch i chi. Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am y copi ymlaen llaw a ddarparwyd hefyd?
Fe fydd y Gweinidog yn ymwybodol o waith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gaffael a sut y gall hynny chwarae ei ran yn yr economi sylfaenol. Nid yw'r Pwyllgor wedi gwneud unrhyw argymhellion hyd yn hyn na chyflwyno ei adroddiad, ond un o'r negeseuon allweddol a gyflwynwyd yw nad yw'n ymddangos bod arfer da yn cael taith hwylus drwy Gymru. O ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau a gefnogir ar draws y gwahanol brosiectau a'r gwahanol amserlenni, a'r allbynnau a'r canlyniadau amrywiol, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu monitro a gwerthuso'r ystod eang o brosiectau er mwyn cyrraedd safbwynt o ran y rhai sy'n esiamplau o arfer da ac y dylid eu lledaenu a'u gwella?
Yn y gorffennol, mae Busnes Cymru wedi canolbwyntio ar dargedau o ran swyddi a thwf economaidd. Felly tybed a fyddech chi, Dirprwy Weinidog, yn cytuno â mi y dylai Busnes Cymru ganolbwyntio nesaf ar gefnogi cwmnïau yn yr economi sylfaenol ac y dylai'r cynllun nesaf geisio cefnogi cwmnïau i ddatblygu modelau busnes hirdymor mewn amrywiaeth ehangach o faterion fel cynhyrchiant a throsiant, yn ogystal ag anelu'r mesuriadau traddodiadol hynny o lefelau cynnyrch domestig gros a chyflogaeth. Pa fesuriadau cymdeithasol ac economaidd eraill a gydnabyddir yn rhyngwladol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i fesur llesiant a monitro llwyddiant prosiectau penodol?
Fe wn i fod yna her wirioneddol wedi bod o ran cwmnïau bach yn ceisio tyfu i faint canolig, ac awgrymodd adroddiad gan fanc datblygu yn ddiweddar mai dim ond nifer fach o gwmnïau canolig eu maint oedd yn tyfu. Roedd adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach ar Gymru, sef 'Canol Coll Cymru'—ac fe wnaethoch chi eich hun gyfeirio at y canol coll yn eich datganiad heddiw—yn pwysleisio hefyd fod Cymru'n cael ei dominyddu gan y microfusnesau a'r busnesau amlwladol hynny. Felly, sut y bydd dull y Llywodraeth o weithredu'r economi sylfaenol yn mynd i'r afael â hyn sydd, yn fy marn i, yn anomaledd, ac yn helpu'r busnesau bach hynny i dyfu?
Sut yr ydych chi yn bwriadu datblygu cadwyni cyflenwi yng Nghymru o dan eich cynllun gweithredu economaidd i gefnogi'r economi sylfaenol wrth ddyfarnu cyllid grant i brif gwmnïau i annog mewnfuddsoddiad? Tybed hefyd, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n credu bod y dull sectoraidd o ymdrin â chysyniad economi sylfaenol yn rhoi digon o hyblygrwydd, yn adeiladu cynghreiriau traws-sectoraidd, yn sicrhau nad yw'r cysyniad o'r economi sylfaenol yn gweithredu mewn ysguboriau ar wahân, ond yn adlewyrchu'r gwahanol angenrheidiau economaidd mewn gwahanol rannau o Gymru a fydd mewn gwirionedd yn darparu'r atebion a'r gwasanaethau ymarferol hynny y mae pobl yn awyddus i'w cael? Rwy'n bendant yn un sy'n cefnogi dull yr economi sylfaenol, felly fe gewch chi fy nghefnogaeth i yn hynny o beth.
A'r cwestiwn olaf sydd gennyf i yw hwn: sut y dylid diffinio caffael lleol, a sut y dylid monitro gwariant lleol? Ac os nad ydych chi mewn sefyllfa i allu ateb y cwestiwn hwnnw neu gynnig y diffiniad hwnnw heddiw, pryd yr ydych chi'n credu y byddwch chi mewn sefyllfa i allu gwneud hynny?
Wel, diolch yn fawr i chi. Yn gyntaf oll, i ymdrin ag un o'r pwyntiau olaf ynglŷn â'r cymorth a gaiff ei gynnig, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, fe fydd yr Aelodau yn cofio mai rhan o fudiad cymdeithas sifil oedd y mudiad a oedd wrth wraidd yr agenda polisi hwn yn y Cynulliad. Fe ddaeth yr ysgogiad o'r prifysgolion, o'r trydydd sector, ac o sefydliadau busnes, yn ogystal ag o ymdrech drawsbleidiol, ac rwyf i'n gwerthfawrogi hynny ac yn gobeithio y gallwn ni gadw at hynny. Felly rwy'n croesawu ei gefnogaeth ef i gysyniad hyn.
Manylion hyn—rydym yn darganfod ein ffordd wrth fwrw ymlaen. Mae'r Basgiaid, maen nhw'n dweud wrthyf i, yn defnyddio'r ymadrodd barddonol, eu bod nhw'n ceibio'r ffordd wrth deithio arni. Rwyf i'n defnyddio ymadrodd llai barddonol, ein bod ni'n meddwl am bethau wrth inni fynd yn ein blaenau. Dyna'r oeddwn i'n cyfeirio ato, y dull arbrofol hwn yn benodol, yn hytrach na dweud, 'Mae gennym dempled, gwyddom sut mae'n gweithio.' Holl ddiben yr agenda hon—dyna pam mae'n gyffrous ac yn frawychus braidd—yw ein bod ni'n ailadrodd ac yn datblygu mewn amser real, ac mae perygl i hynny, fel y gallaf dystio, ond dyna'r bwriad y tu ôl i'r polisi. Mae hwn yn ddull gwahanol ac mae'n amlwg wedi ennyn rhywfaint o ddadlau, ond rwy'n credu mai hwn yw'r un cywir, o ystyried yr ansicrwydd yr ydym ni'n ei wynebu.
Mae'r Aelod wedi gofyn rhyw saith o gwestiynau sylweddol i mi, ac ni fyddaf i'n gallu gwneud gwir gyfiawnder â nhw, ond fe geisiaf wneud hynny'n fyr, Dirprwy Lywydd. O ran yr ymchwiliad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, rwy'n edrych ymlaen at weld yr adroddiad ac at ystyried eich argymhellion chi, oherwydd mae hwn yn rhywbeth sy'n agored i'w fowldio ac i ddylanwadu arno.
Mae'r cwestiwn y mae Russell George yn ei ofyn am fonitro a gwerthuso yn un rhesymol iawn, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried ar hyn o bryd gydag is-grŵp y bwrdd cynghori gweinidogol a sefydlais i, sy'n fwrdd cynghori gwirioneddol, yr ydym ni'n gwahodd her a mewnbwn iddo gan amrywiaeth o sefydliadau cymdeithas sifil ac academyddion. Felly, rydym ni'n creu'r cymunedau ymarfer hyn. Nid ydynt mewn ysguboriau ar wahân, fel y dywedodd ef ar y diwedd; nid dull sectoraidd mo hwn o fewn yr economi sylfaenol. Dull gweithredu sy'n niwtral o ran sectorau ydyw. Yn y cynllun gweithredu economaidd gwreiddiol, fe nodwyd sectorau; rydym wedi symud y tu hwnt i hynny nawr i gael barn agnostig o ran sectorau, ac edrych ar hyd a lled yr economi sylfaenol gyfan. Os edrychwch ar y rhestr lawn o brosiectau sy'n cael eu cyhoeddi ar wefan Busnes Cymru, ceir amrywiaeth wirioneddol yn y fan honno, gan gynnwys rhai prosiectau polisi hefyd i brofi ffiniau ein meddylfryd ni.
O ran ei gwestiwn ynglŷn â thargedau swyddi gyda Busnes Cymru, mae hynny, hefyd, yn gwestiwn byw, ac yn rhywbeth yr wyf yn ei drafod gyda'r bwrdd cynghori—sut y gallwn ni fesur hyn. Fe soniodd am yr her sydd gennym o ran symud o gwmnïau micro i gwmnïau maint canolig, ac mae'r ystadegau yn syfrdanol: mae gan 95 y cant o fusnesau Cymru lai na naw o weithwyr; mae'r cwmnïau canolig eu maint, sydd â rhwng 50 a 249 o weithwyr, yn cyfrif am lai nag 1 y cant o'r holl fusnesau yng Nghymru, ond maen nhw'n gyfrifol am drosiant sy'n fwy na'r cyfan o'r 95 y cant o fusnesau. Felly, mae gennym nifer fach o gwmnïau sy'n gwneud llawer mwy na'r disgwyl yn economi Cymru, a'r hyn yr ydym ni'n awyddus i'w wneud yw cynyddu maint y micro i fod yn fach, y bach i fod yn ganolig, ac yna, pan fyddant yn ganolig, eu cadw nhw wedi eu gwreiddio'n ddwfn yng Nghymru. Mae pethau fel perchenogaeth gweithwyr yn ddewis atyniadol ar gyfer gwneud yn siŵr eu bod nhw'n aros wedi eu gwreiddio yn ein heconomi ni.
Gweithio ar hyd y cadwyni cyflenwi, meddai ef, yw'r her allweddol yma unwaith yn rhagor, a dyma'r gwaith y mae angen i ni ei wneud gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, gan ddefnyddio data i'w ddeall yn iawn. Mae'r prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref y mae Julie James wedi arwain arno wedi gwneud llawer o waith eisoes gyda rhai gweision sifil ymroddedig iawn o fewn Llywodraeth Cymru i ddeall yn iawn y data o ran ble mae'r gwariant yn gostwng, y bylchau o fewn hynny, a sut yr ydym yn gwneud ymholiadau i wneud y gorau o'r sefyllfa. Felly, dyna'r hyn yr ydym yn bwriadu gweithio arno ar draws y sector cyhoeddus.
Yr hyn y byddwn yn hoffi ei wneud hefyd yw hyn—rydym wedi gweld nifer fawr o gwmnïau sector preifat yn gwneud cais i'r gronfa her, ac rwy'n awyddus nawr i weld sut y gallwn ni ddatblygu'r agenda hon gyda chwmnïau mwy yn y sector preifat, fel bod y prif gwmnïau mawr yn defnyddio eu gwariant, eu gwariant dewisol nhw, ynghlwm wrth yr agenda hon fel ein bod ni'n gwneud yn fawr o'r cyllid hwnnw hefyd. Nid agenda i'r sector cyhoeddus yn unig yw hon.
Rwy'n credu fy mod i wedi ceisio ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau. Mae'r diffiniad o, maddeuwch i mi—
Caffael lleol.
Ie. Sut y diffinnir caffael lleol oedd hynny? Fel y dywedais i, rydym yn gobeithio symud y tu hwnt i fodel Preston, a geisiodd ei ddiffinio o fewn gwariant yn nherfynau'r cod post lleol, a rhoi dull perthynol ar waith. Felly, yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, ceir prosiect cyffrous iawn i gael bwyd lleol i ysgolion lleol ac ysbytai lleol. Nawr, er enghraifft—rwy'n defnyddio hyn at ddibenion enghreifftiol yn unig—pe na fydden nhw'n gallu dod o hyd i'w holl gynnyrch yn y prosiect hwnnw nac yn unrhyw un fan arall o fewn eu cod post lleol nhw, ond yn gallu ei gael oddi wrth gwmni sydd wedi'i sefydlu mewn rhan arall o Gymru, fe fyddai hynny'n beth da. Felly, ni ddylem gyfyngu ein hunain drwy edrych ar godau post yn unig, oherwydd gall hynny amharu ar yr effeithiau. Yr enghraifft yr ydym ni wedi ei chrybwyll yn y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, er enghraifft, yw pe byddai awdurdod lleol yn gwario arian drwy brynu teiars yn Kwik-Fit, fe allai hynny edrych yn dda o ran caffael yn y cod post lleol, ond ni fyddai'r arian yn aros yn yr ardal—byddai'n mynd allan o'r ardal i gwmni Kwik-Fit. Mae'n bosibl defnyddio'r ffigurau hyn er mwyn iddynt edrych yn dda, neu roi camargraff. Felly rydym ni'n dymuno mynd ati mewn ffordd fwy deallus, a dyna pam rydym yn awyddus i gymryd ein hamser i weithio trwy sut mae hynny'n gweithio'n ymarferol.
Gaf innau ddiolch am y datganiad? Mi fydd y Dirprwy Weinidog yn gwybod ei fod o a fi yn gweld llygad yn llygad yn eang iawn yn y maes hwn. Dwi'n falch iawn o'r arweiniad sydd wedi cael ei roi gan Blaid Cymru yn hynny o beth, ac yn falch ein bod ni, mewn cytundeb efo'r Llywodraeth ar y gyllideb, wedi gallu rhoi'r sylfaen mewn lle, efo £1.5 miliwn os dwi'n cofio yn iawn, ar gyfer gallu adeiladu arno fo. Dwi'n falch o weld bod yna ddatblygu yn digwydd o ganlyniad i'r gwaith hwnnw a wnaed ychydig o flynyddoedd yn ôl gennym ni. Dwi hefyd yn falch o weld crybwyll Arfor ac ati, sydd eto yn syniad sy'n deillio gennym ni, yn benodol ynglŷn â gwreiddio datblygiadau a ffyniant economaidd yn ein cymunedau ni yng Nghymru, ac dwi'n edrych ymlaen at weld rhagor o ddatblygu wrth i brosiectau peilot ac ati, gobeithio, ddwyn ffrwyth yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Dwi'n falch bod yna grybwyll yma o'r angen i weithio ar draws adrannau'r Llywodraeth ac mae yna gyfeiriad gan y Dirprwy Weinidog at y grŵp newydd yma, ar y cyd efo'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, i wneud yn siŵr bod weirio mewnol y Llywodraeth wedi'i gysylltu yn gywir. Dwi'n synnu, i raddau, fod yna ddim y math yna o gydweithio trawsadrannol yn digwydd yn barod. O bosibl, gallwch chi egluro mwy yn union am beth yr ydych chi'n cyfeirio ato yn fan hyn. Ai dim ond y gwaith trawsadrannol ar yr economi sylfaen ydy hwn, ynteu ydy o'n rhywbeth arloesol o ran yr adran datblygu economaidd ac adran gyllid y Llywodraeth? Achos y byddwn i'n tybio y dylai hwnnw fod yn gweithio yn drawsadrannol yn barod, mewn difri.
Cwpl o gwestiynau. Un, sut ydych chi'n disgwyl gweld llywodraeth leol a'r rhai sy'n gweithio mewn datblygu economaidd ar lawr gwlad yn ymateb i'r agenda yma? Gaf i roi enghraifft i chi o'm hetholaeth i? Dwi ddim yn disgwyl i chi ymateb i'r enghraifft benodol, a gwnaf i ddim hyn yn oed yn enwi'r cwmni, ond lle mae yna gwmni sydd wedi'u gwreiddio mewn un rhan o Gymru, ac yn teimlo eu bod nhw'n cael eu perswadio braidd i symud i ffwrdd er mwyn tyfu, maen nhw eisiau gwreiddio yn yr ardal honno, mae'n gwmni sydd yn yr economi sylfaenol, mae o'n ymwneud ag adeiladu tai a chynnal a chadw tai, ac ati, ac mae'n gwmni mawr a llwyddiannus, ond maen nhw eisiau help er mwyn gallu ehangu, er mwyn gwreiddio yn ddyfnach yn eu bro eu hunain—eisiau mwy o dir ar ystâd ddiwydiannol, mewn ffordd. Ond beth fyddech chi'n disgwyl i'r agwedd fod gan dimau datblygu economaidd tuag at helpu'r math yna o gwmni?
Wedyn, efo targedau, oes, mae yna elfen fawr o arbrofi yn yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud yn fan hyn, ond mae'n rhaid ichi gael syniad at beth yr ydych chi'n anelu. Pa fath o arwyddion o lwyddiant y dylem ni fod yn edrych amdanyn nhw? Mae'n bosibl ei bod hi'n anodd gosod KPIs cadarn pan mae'n dod at arbrofi efo rhywbeth, ond siawns bod yna rywbeth y gallem ni edrych arno fo ymhen amser, mewn blwyddyn neu ddwy, a fydd yn gallu penderfynu, ydyn, mi ydym ni'n gweld llwyddiant yn fan hyn o ran yr effaith ar GDP neu ar swyddi sy'n cael eu creu, ac yn allweddol ar lefel y cyflogau yn y swyddi hynny.
Hefyd o ran targedau, mi fyddwn i'n croesawu eich sylwadau chi ynglŷn ag at beth yr ydym ni'n anelu o ran targedau caffael yn lleol. Dwi'n gwybod ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi sôn am anelu at o gwmpas 50 y cant o gyllid cyhoeddus Cymru sy'n cael ei wario yng Nghymru ar hyn o bryd at dua 75 y cant, sy'n dal yn modest iawn, rydym ni'n teimlo, ond o osod nod, a tharo'r nod yna, rydych chi'n sôn am greu 40,000 o swyddi, os ydych chi'n cymryd y ffigwr 2,000 o swyddi i bob 1 y cant o GDP yn ychwanegol sy'n cael ei wario yn lleol. Felly, ydych chi'n fodlon gosod targed ar gyfer lle rydym ni'n mynd o ran cynyddu caffael yn lleol?
Diolch i chi unwaith eto. Fe geisiaf i godi'r pwyntiau hynny yn eu trefn ac ailadrodd y pwynt eto bod y gefnogaeth i'r agenda hon wedi dod o bob cwr o'r Siambr, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Ac yn wir, fel y soniais i yn y datganiad, fe ddaeth yr ymrwymiad cychwynnol o £1.5 miliwn ar gyfer cronfa arbrofol yn sgil y trafodaethau a'r cytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru. Rwy'n hynod falch fy mod i wedi gallu treblu hynny gyda chefnogaeth y Gweinidog Cyllid a Gweinidog yr economi a'r Prif Weinidog drwy'r cylch cyllideb hwn.
Ac o ran Arfor, fe wnaeth Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a minnau gyfarfod ag arweinyddion rhaglen Arfor o bob rhan o Gymru yn ddiweddar, a chawsom drafodaeth hir ynghylch sut y mae'r prosiect hwnnw'n gweithio. Fe'm trawyd i bryd hynny ein bod ni'n codi ysgubor ar wahân yn hynny o beth, a bod cymaint yn gyffredin rhwng yr agenda hon ac agenda'r economi sylfaenol, ac mae angen inni eu cyplysu â'i gilydd. Ac mae angen i'r hyn a gaiff ei ddysgu o'u prosiectau nhw groesbeillio â'r lleill, ac i'r gwrthwyneb. Felly, rwyf wedi ymrwymo i wneud hynny. Ac rydym ni, rwy'n credu, yn gwneud cysylltiadau wrth inni fwrw ymlaen.
Roedd ei syndod o ddeall bod y Llywodraeth yn gweithio mewn ysguboriau ar wahân yn ddigon annwyl, yn fy marn i, ond mae sefydliadau mawr yn tueddu i wneud hyn. Mae caffael, er enghraifft, yn torri ar draws y gwaith y mae'r Gweinidog Cyllid yn ei wneud. Mae'n torri ar draws yr agenda gyfan, felly mae gwaith traws-lywodraethol eisoes yn cael ei wneud ar hynny. Yr hyn a welais i pan oeddwn i'n dechrau yn y swydd hon oedd y cynlluniau yr oeddwn i'n gyfrifol amdanyn nhw nid yn unig yn gorwedd y tu allan i'n hadran ni ond y tu allan i'n grŵp ni o fewn y Llywodraeth hefyd, ac roedd yn anodd iawn i'r gweision sifil, o ystyried eu strwythurau gwaith, gyfathrebu'n effeithiol â'i gilydd. Dyna pam y sefydlwyd y grŵp hwn ar yr economi sylfaenol yn benodol. Rwyf i wedi sefydlu grŵp arall, a gyfarfu ddoe gyda'r Gweinidog Cyllid, ar ddeallusrwydd artiffisial a dyfeisgarwch a yrrir gan ddata, yn yr un modd, er mwyn ceisio torri ar draws echelin lorweddol y Llywodraeth.
Felly, mae hyn yn rhan o'r dysgu sy'n digwydd, sef bod hyn yn un o'r rhwystrau i ledaenu ac uwchraddio yn y gorffennol, ac rwyf wedi nodi'r rhwystredigaeth o brosiectau peilot yn dangos llwyddiant ysgubol yn y gorffennol. Cyfeiriais at y pecyn cymorth Gallu Gwneud, lle'r oeddem ni ar flaen y gad. Ond yna bu'r anallu i wreiddio hynny i fod yn arfer cyffredin ac i weithio ar draws ffiniau, mewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, yn llyffethair ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei oresgyn. Ond nid wyf i dan unrhyw gamargraff pa mor anodd yw hyn a pha mor anodd y bydd hyn, ac efallai na fydd yn gweithio. Rwy'n credu bod yn rhaid inni wynebu'r ffaith na fydd hyn yn gweithio o bosib, ond rwy'n agored ac yn onest ynglŷn â hynny, ac ar ôl sôn am y perygl hwnnw, mae angen inni wneud yn siŵr na fydd yn digwydd.
Roeddech chi'n sôn am y benbleth o ran sut yr ydych chi'n caniatáu i gwmnïau ehangu ond eu cadw wedi eu gwreiddio ar yr un pryd. Ac rwy'n credu mai dyma pam mae angen inni weithredu dull rhanbarthol o ddatblygu economaidd, a sut mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydweithio. Nid yw'r cyrff a arferai fod ganddynt mewn adrannau datblygu economaidd ar gael erbyn hyn. Mae'n rhaid iddyn nhw rannu gydag awdurdodau cyfagos yn yr ôl-troed rhanbarthol, fel y gwelwn ni o dan y Bil Llywodraeth Leol, a chyd-leoli a gweithio gyda thimau economaidd rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru a phrif swyddogion economaidd rhanbarthol i weithredu dull rhanbarthol. Felly, hyd yn oed os nad yw'r cwmni bach yn yr enghraifft ddamcaniaethol yn gallu tyfu ar yr union ôl troed y'i sefydlwyd arno, fe all dyfu o fewn y rhanbarth, serch hynny. [Torri ar draws.] Mae'n mynd i fod yn anodd ei gyflawni, ond, yn amlwg, fe fyddem yn dymuno iddynt dyfu yn y man lle maen nhw wedi eu gwreiddio. Mae'n anodd cyffredinoli ar sail enghraifft ddamcaniaethol. Os yw'r Aelod, sy'n torri ar fy nhraws ac yn dweud nad yw hynny'n ddigon da, yn dymuno rhoi enghraifft benodol imi, nad yw'n awyddus i'w gwneud yn gyhoeddus efallai, fe fyddwn yn hapus i gyfarfod ag ef a thrafod yr enghraifft benodol honno, oherwydd mae'n swnio fel y math o broblem yr ydym ni'n awyddus i'w hosgoi, ac fe hoffwn i weithio gydag ef i weld a allwn ni ei datrys.
O ran dangosyddion perfformiad allweddol a thargedau, mae risg bob amser y ceir canlyniadau anfwriadol i dargedau oherwydd yn y gorffennol, yn sicr pan oedd Jane Hutt yn Weinidog Cyllid, llwyddwyd i sicrhau dros 50 y cant o gaffael. Dylid cofio bod 75 y cant o arian y sector cyhoeddus, yn y rhan fwyaf o sefydliadau, yn mynd ar staff, a bod y rhan fwyaf o'r staff hynny'n byw mewn dalgylch gweddol fach lle caiff y cwmni ei leoli. Fe allwch chi, heb ormod o drafferth, gyflwyno ffigurau ynglŷn â chaffael lleol sy'n edrych yn drawiadol iawn, ond nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn adrodd y stori'n llawn, ac felly rwy'n credu bod angen inni gael dull mwy deallus a manwl o ymdrin â thargedau. Rydym yn arbrofi yma. Rwy'n amharod i ymrwymo i ddangosyddion perfformiad allweddol a thargedau ar hyn o bryd oherwydd nid wyf i'n dymuno iddyn nhw fod yn gamarweiniol. Mae angen inni fonitro'n ofalus sut mae hyn yn gweithio, ac yna ar ôl inni ddysgu rhai o'r gwersi, efallai y byddwn ni mewn sefyllfa i osod rhai targedau yn y cam nesaf. Ond o ran y cwestiwn eang—ac rwy'n meiddio dweud fy mod i'n gobeithio y bydd gan adroddiad y Pwyllgor EIS rai syniadau ynglŷn â hyn—'Sut y gwyddom ni sut beth fydd llwyddiant?', dyna her dda, ac yn sicr cyfeiriodd Russell George yn gynharach at y wireb mai teithiwr gwael yw arfer da. Rwy'n credu, yn y lle cyntaf, o ystyried ein man cychwyn, mai llwyddiant fyddai cael rhyw ddwsin o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn amgyffred yr agenda hon ac yn ei defnyddio'n gyson ar draws ei ffiniau. Y tu hwnt i hynny, mae gennyf feddwl agored o ran sut yr ydym yn deall rhai o'r metrigau gronynnog ar gyfer mesur llwyddiant. Rwy'n cytuno ag ef bod angen targedau a dangosyddion perfformiad arnom yn y tymor canolig, ond fe fyddwn i'n gyndyn o roi'r drol o flaen y ceffyl.
Diolch. Fe fydd yn rhaid imi ofyn am gwestiynau mwy cryno ac atebion mwy cryno. Mae gennyf i bump i siarad a thua 15 munud ar ôl, felly mi gewch chi wneud y rhifyddeg ynglŷn â hynny. Jenny Rathbone.
Diolch. Rwy'n falch iawn eich bod chi am fynd i'r afael â'r mater o arfer da ddim yn teithio. Pan oeddwn i'n cadeirio pwyllgor monitro'r rhaglen Ewropeaidd, roedd rhaglenni rhagorol o'r gwaelod i fyny y gellid eu defnyddio nhw gyda chymunedau eraill a oedd yn debyg iawn iddynt, a gwn fod Huw Irranca-Davies yn gweithio ar hyn yn y rhaglen bresennol, ond ni allwn ni fforddio taflu arferion da i ffwrdd, wir. Felly rwy'n gobeithio y bydd bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd, o gofio eu bod wedi llwyddo i ennill contract ar gyfer yr economi sylfaenol ym maes caffael bwyd.
Rwy'n credu yr hoffwn ganolbwyntio am eiliad ar eich rhybudd iasoer chi, os byddwn ni'n gadael yr UE ar ddiwedd mis Ionawr gyda chytundeb neu heb gytundeb fis Rhagfyr nesaf, sef cynllun Farage/Johnson wrth gwrs, yna ychydig iawn o amser fydd gennym i baratoi ein heconomi ar gyfer y storm ofnadwy sy'n debygol o ddeillio o hyn, sy'n waeth o lawer nag unrhyw beth a gyflawnodd Mrs Thatcher yn ei rhuthr i ddad-ddiwydiannu.
Rwy'n cytuno y gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus fod yn bartneriaid allweddol i helpu i gymhwyso'r hyn sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru, ac mae'n beth ardderchog bod yr uchelgais hwnnw gennych chi, ond fe hoffwn i ofyn ichi hefyd am y gwaith y gallai'r cynghorau cymuned ei wneud hefyd. Ddoe, roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn craffu ar swyddogion y Llywodraeth ynghylch y swyddogaeth sydd wedi bod gan gynghorau cymuned a thref, ac rydym ni'n gwybod ers rhai blynyddoedd fod llawer gormod ohonyn nhw'n eistedd ar gyfalaf na chafodd ei wario. Anaml y maen nhw'n ymgynghori â'u cymunedau ac nid ydyn nhw'n manteisio ar y cyfleoedd y gallen nhw fod yn eu defnyddio i gryfhau eu heconomïau bychain eu hunain. Serch hynny, ddoe, fe glywsom ni am yr arferion da, er enghraifft, yn Gofal Solfach yn sir Benfro, sy'n darparu dull sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn o ran gofalu am bobl hŷn. Ac roedd yn hyfryd clywed bod cynghorau cymuned—. Rwy'n credu mai gweddol brin ydyn nhw, mae'n debyg, ond fe geir cynghorau cymuned sydd wedi sefydlu cynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned. Haleliwia. Sut yr ydym yn mynd i sicrhau bod pob cyngor cymuned yn meddwl ar hyd y trywydd hwn ac yn defnyddio'r cyfleoedd sydd ymhlyg yn yr adnoddau naturiol o'u cwmpas i gyfoethogi eu cymunedau lleol?
Diolch. Wel, er parch i rybudd y Dirprwy Lywydd, fe geisiaf i gadw fy ateb yn fyr. Rwy'n ymwybodol bod rhai cynghorau cymuned wedi gwneud cais i'r gronfa her, ond nid wyf yn credu bod unrhyw un wedi bod yn llwyddiannus. Roedd hon yn gronfa gystadleuol ac roedd yna lawer mwy o gynlluniau o ansawdd nag arian ar eu cyfer nhw, hyd yn oed ar ôl treblu'r gyllideb. Ond rwy'n credu, yn fy natganiad, fy mod i'n amlinellu'r her i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn hyn o beth, ac fe ddylai byrddau gwasanaethau cyhoeddus gynnwys cynghorau cymuned. Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Jenny Rathbone am y cyfraniad sydd ganddyn nhw i'w roi yn hyn o beth. Ac mae'r ffaith bod llawer ohonyn nhw'n gwneud cais yn dangos bod yr awydd yno ymysg rhai ohonyn nhw.
Rwy'n credu mai'r perygl sydd gennym o ran y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yw eu bod nhw'n mynd yn ffatrïoedd strategaeth. Ac mae llawer iawn o amheuaeth nad ydyn nhw wedi cyflwyno unrhyw beth o sylwedd eto, ac rwy'n credu mai hwn fydd eu cyfle nhw. Bydd yn darged ymestynnol i rai ohonyn nhw, ond mae'n rhaid iddyn nhw brofi eu gwerth. Mae hon yn agenda sy'n gwbl gydnaws â'r mandad sydd ganddyn nhw. Ac felly rwy'n trafod gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i ddatblygu rhai canllawiau ar y cyd i'n galluogi i fanteisio i'r eithaf ar botensial y byrddau gwasanaethau cyhoeddus i wneud yn fawr o'r agenda hon, a byddaf yn ystyried y pwynt a wnaeth am swyddogaeth cynghorau cymuned wrth inni ymaflyd yn y dasg honno.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n ofni bod llawer o'r hyn yr wyf i wedi ei ysgrifennu yma yn ailadrodd llawer o'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud, ond nid wyf am wneud esgusodion am hynny, oherwydd mae'n dangos ein bod ni i gyd yn meddwl yn yr un ffordd.
Felly, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd yr economi sylfaenol, gyda ffigur ar gyfer y DU o 40 y cant o'r gweithlu, ac yn cyfrif am £1 am bob £3 yr ydym yn eu gwario. Ac fe gydnabyddir mai'r economi sylfaenol, mewn llawer o fannau, yw'r economi—y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta, y cartrefi yr ydym ni'n byw ynddyn nhw, yr ynni a ddefnyddiwn ni, a'r gofal a gawn ni. Er gwaethaf y niferoedd a gaiff eu cyflogi, nodweddir y swyddi hyn yn aml gan gyflogau isel, patrymau cyflogaeth hynod fregus ac amodau gwaith drwg. Felly, mae'r rhain yn fethiannau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw os yw'r economi sylfaenol hon am weithio. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai gan economi sylfaenol sydd wedi'i hadfywio y potensial i sicrhau budd cymdeithasol i bob cymuned ddifreintiedig, drwy ddarparu gweithgaredd economaidd wedi ei thargedu'n well sydd â'r potensial ychwanegol hefyd o gyflawni manteision amgylcheddol a hynny'n deillio o economi fwy lleol, lle mae nwyddau a gwasanaethau yn teithio llai o bellter.
Er y derbyniwyd yr economi sylfaenol yn eang, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ei chynllun gweithredu economaidd i gael pedwar sector yn unig—bwyd, manwerthu, twristiaeth a gofal—yn rhy gyfyng yn fy marn i. Oni ddylem ni fod wedi cynnwys adeiladu a chynhyrchu ynni yn hyn? Fe grybwyllwyd hynny yn eich datganiadau cynharach, ond ni wnaethoch ei gynnwys yn yr un diwethaf. Wrth gwrs, rydym yn croesawu'r arian a ddyrennir o dan y gronfa her, gan gyrraedd £3 miliwn, a'r dyraniad olaf ym mis Hydref, sef £1.077 miliwn, gan wthio'r cyfanswm dros £4 miliwn.
Yn eich cyhoeddiad chi heddiw, roeddech yn siarad am y drydedd elfen ac adeiladu'r canol coll ar gyfer cynyddu nifer y cwmnïau sydd â'u gwreiddiau mewn cymunedau lleol. Mae angen ichi sicrhau yn y lle cyntaf bod y seilwaith ar gael i alluogi nwyddau i symud yn gyflym ac yn effeithlon. Fe fyddai hyn nid yn unig yn annog cwmnïau newydd i ymsefydlu mewn cymunedau, ond fe fyddai hefyd yn hwyluso twf y rhai sydd yno eisoes. Fe all cynghorau lleol, fel y crybwyllwyd, fod â rhan fawr hefyd yn y gwaith o gadw pethau'n lleol drwy sicrhau bod tendrau o fewn cyrraedd microfusnesau lleol, efallai drwy eu torri i lawr yn fodiwlau, yn hytrach na thendrau mawr sy'n cael eu galw gan gwmnïau mawr yn unig, sydd, yn aml iawn, nid yn unig y tu allan i'r ardal, ond yn aml y tu allan i Gymru.
Rydym yn cydnabod bod cynnydd wedi bod o ran cryfhau'r economi sylfaenol yng Nghymru, ond ni ddylai hyn fod yn seiliedig ar ehangu'r sector cyhoeddus yn unig, ond ar feithrin y sector preifat hefyd. Gyda llaw, roeddech chi'n sôn na wnaiff hyn weithio, o bosibl, ac rwy'n credu, wrth wneud hynny, eich bod chi mewn perygl o fod yn wleidydd sy'n dweud y gwirionedd.
Diolch i chi am y sylwadau. Maen nhw'n dweud mai efelychu yw'r ffurf fwyaf didwyll ar weniaith. Felly, mae'r ffaith fy mod i mor gyfarwydd â chymaint o eiriau yn eich datganiad chi'n tystio i wirionedd hynny. Rwy'n gweld bod llawer o dir cyffredin yma. I fynd i'r afael â dau bwynt penodol a wnaethoch chi—roeddech chi'n sôn ein bod ni, yn y cynllun gweithredu economaidd, wedi nodi pedwar sector sylfaen, ac roeddech chi'n dweud bod hynny'n rhy gyfyng. Ac, fel y crybwyllais i yn fy natganiad, rwy'n credu bod y ffaith ein bod ni bellach wedi mynd y tu hwnt i hynny ac wedi gweithredu dull niwtral o ran sectorau, fel nad ydym wedi cyfyngu hyn i bedwar yn unig, ac na fydd y cynllun galluogi o ran yr economi sylfaenol yr ymrwymwyd iddo yn y Cynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth yn cael ei gyfyngu i'r pedwar hwn yn unig ac y byddwn yn cymryd trosolwg ehangach, yn adlewyrchu'r ffaith bod ein meddylfryd ni wedi datblygu.
O ran y pwynt ynghylch a ddylai tendrau fod o faint hydrin, rwy'n cytuno'n llwyr, a dyna'r gwaith y mae Rebecca Evans, fel Gweinidog Cyllid, yn ei wneud ynglŷn â diwygio caffael er mwyn ei agor allan, ac uwchsgilio'r proffesiwn, i allu cynnig tendrau sy'n cynnwys cwmnïau bach. Mae un o'r prosiectau yr ydym ni'n eu hariannu drwy'r gronfa her gyda Chyngor Abertawe. Cynllun distadl iawn yw hwn, ond ei ddiben yw cynllunio a phennu contractau gan y Cyngor i wneud yn fawr o gyfleoedd i fusnesau bach gynnig am waith—er enghraifft, contractau sy'n seiliedig ar adeiladu. Ceir cais tebyg gan Gymdeithas Tai Gorllewin Cymru, sef Pobl, i agor ei waith allan i fasnachwyr unigol a phobl mân swyddi, fel rhan o'r gronfa arbrofol hefyd. Felly, rydym wedi bod yn monitro'r ddeubeth hynny'n ofalus, a holl ddiben y gronfa arbrofol yw ein bod ni'n rhoi cynnig ar y gwahanol bethau hyn, ac os ydyn nhw'n gweithio, fe fyddwn ni'n galw ar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus i fabwysiadu neu gyfiawnhau hynny. Nawr, yn amlwg, nid ydym yn dweud y bydd popeth yn gweithio ym mhobman—ni allwch godi a symud rhywbeth sy'n gweithio mewn un ardal yn awtomatig i ardal arall. Ond rwyf i o'r farn y byddwn ni'n troi hynny ar ei ben, ac yn dweud wrth awdurdodau lleol, 'Mae hyn yn gweithio yma—mae angen ichi roi rheswm da i ni pam na allai hyn weithio gyda chi, neu rydym yn disgwyl i chi fabwysiadu'r arfer da hwnnw.'
Dirprwy Weinidog, fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi bod yn bleidiol bob amser i'r economi sylfaenol, a pheth ardderchog iawn yw eich gweld chi nawr, yn aelod o Lywodraeth Cymru, yn gweithio i sefydlu rhai o'r syniadau y buom ni'n gweithio mor agos ar y meinciau cefn arnyn nhw.
Felly, rwy'n dal yma y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, y mae'r Prif Weinidog, yn y rhagair, yn ei ddisgrifio fel un sy'n nodi
'lle rydyn ni'n credu y dylen ni geisio tyfu a'r mathau o ddatblygiadau sydd eu hangen arnom dros yr ugain mlynedd nesaf i'n helpu ni i fod yn gymdeithas gynaliadwy a llewyrchus.'
Pan gaiff ei chwblhau, yn fy marn i, hon fydd y ddogfen bwysicaf a gaiff ei chynhyrchu gan y Llywodraeth. Felly, roedd yn syndod i mi weld nad oes unrhyw gyfeiriad at yr economi sylfaenol o fewn yr FfDC drafft o gwbl, ac mae hynny'n peri peth pryder i mi. Beth fyddai eich ateb chi i hynny?
Diolch yn fawr iawn. Ac mae'n rhaid i mi gydnabod y gwaith a wnaeth Vikki Howells, gyda nifer o gyd-Aelodau eraill, i gefnogi'r agenda hon hyd yn hyn. Ac rwy'n awyddus ein bod ni'n parhau i gydweithio arno, ac mae'n briodol bod y gwaith hwnnw'n waith heriol. Felly, rwy'n croesawu'r cwestiwn, sy'n nodi bod rhywfaint o waith eto i'w wneud o ran tynnu'r ysguboriau i lawr. Nid enghraifft unigryw mo'r FfDC; ceir rhai meysydd eraill o bolisi lle gellir gwneud mwy, yn fy marn i. Ein strategaeth ni o ran bwyd, er enghraifft—rwy'n credu bod lle i gynnwys agenda'r economi sylfaenol o fewn hyn i raddau helaethach na'r hyn a wneir ar hyn o bryd. A dyna'r hyn y bydd yn rhaid inni weithio drwyddo yn y Llywodraeth. Felly, rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r pwynt arbennig hwnnw. Fe fyddaf i'n codi hynny'n benodol gyda'r Gweinidog, ac fe fyddaf i'n ysgrifennu atoch gyda'r ateb.
Rwy'n credu y caiff hyn ei groesawu nid yn unig gan bob un o'r cyd-Aelodau Llafur yn y fan hon, ond gan gyd-Aelodau Llafur a Phlaid Cydweithredol Cymru hefyd. Mae'r syniad o ddatblygu mentrau i ennill cyfoeth cymunedol sy'n cael eu gwreiddio'n ddwfn yn eich cymuned yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei gefnogi ers amser maith. Felly, roeddwn i'n awyddus i holi am ddau faes penodol yr hoffwn i'r Gweinidog ymhelaethu arnyn nhw'n fras—mae Project Skyline a wahoddwyd yma gennym ni'n ddiweddar yn un. Roedd yr enghreifftiau cychwynnol a gafodd eu cefnogi ganddyn nhw yng Nghaerau, Treherbert ac Ynysowen. Fe gafodd rhywfaint o'r arian ei roi tuag at adeiladu ar hyn nawr, a'i ddatblygu. Syniad cyffrous iawn yw y gall cymunedau, ym mhob peth y gallant ei weld yn eu cwm nhw, gyfrannu at y gwaith o'u rheoli a'u perchenogi a chynhyrchu'r enillion a ddaw, ac ail-fuddsoddi yn eu cymunedau nhw. Felly, tybed a allai ymhelaethu rhywfaint, a sut y gallem ni fwrw ymlaen â hynny? Dyna un sydd fel pe bai'n barod am y ffwrn, ar un ystyr—fel y byddai ambell i wleidydd arall yn defnyddio'r un ymadrodd hwnnw yn ddisymwth nawr.
Yr un arall yw, pe byddai mentrau eraill, mentrau yn y gymuned, a fyddai'n awyddus i ddatblygu syniadau cyffelyb—felly, er enghraifft, mae gennyf i gwmni lleol, sy'n defnyddio llawer iawn o ynni, sy'n fodlon rhoi rhodd o dir a'u hegni a'u gwres sydd dros ben er mwyn gwneud rhywbeth hollol wahanol i'r hyn y maen nhw'n ei wneud: mentrau garddwriaethol, sy'n cael eu rhedeg gan fentrau cymdeithasol, ar garreg eu drws. Mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi siarad amdano ers tro, o ran rhwydweithiau bwyd lleol a thyfiant yng nghymoedd y de. Sut fydden nhw'n cymryd rhan yn y dull hwn o weithredu drwy'r economi sylfaenol, sy'n seiliedig ar y grwpiau buddiant cymunedol hynny, mentrau cydweithredol, perchenogaeth gweithwyr, ac ati? Sut y gallen nhw ddechrau bwrw ymlaen â hyn, hyd yn oed, o fewn y fframwaith a luniodd ef?
Ac yn olaf, Gweinidog, fe fuoch chi mor ddewr â dweud efallai na fydd hyn yn gweithio. Fe fyddwn i'n dweud wrthych chi: yn gyntaf, nid wyf i erioed wedi clywed Gweinidog yn dweud hynny o'r blaen, ond rwy'n credu, wrth roi cynnig ar y pethau hyn, ac yna gymhwyso'r egwyddorion cydweithredol—sef profi ei fod yn gweithio, a chynyddu wedyn a dysgu eraill sut i wneud yr un fath—y bydd hyn yn gweithio.
Diolch yn fawr iawn i chi. I ymdrin â'r pwyntiau hyn yn gyflym, mae Project Skyline yn brosiect cyffrous iawn yn fy marn i. Y cam cyntaf, fel y gwyddoch chi, oedd cael astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar sut y gallai cymunedau reoli'r dirwedd sy'n amgylchynu eu tref neu eu pentref nhw. Ac fe weithiodd cwmni buddiannau cymunedol y Cymoedd Gwyrdd gyda Treherbert, Ynysowen a Chaerau. Nawr, maen nhw wedi llwyddo i gyflwyno cais i'r gronfa hon, ar gyfer y cam nesaf, gan weithio gyda Croeso i'n Coetiroedd, i edrych ar Ynysowen a Chaerau, a chymryd hynny i'r cam datblygu nesaf. Ac mae hwn yn brosiect arbrofol ailadroddol ynddo'i hunan. Felly, rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi dod ohoni'n llwyddiannus, ac fe fyddaf i'n gwylio'r prosiect hwnnw gyda diddordeb.
O ran garddwriaeth, rwy'n cytuno bod yna botensial aruthrol. Fe fyddaf i'n cwrdd yn fuan, rwy'n gobeithio, â Phrifddinas-ranbarth Caerdydd i drafod sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i edrych ar botensial garddwriaeth, yn enwedig o fewn tasglu'r Cymoedd. Mae tasglu'r Cymoedd wedi gwneud ei gyfraniad sylweddol ei hun i'r gronfa arbrofol, ac felly mae nifer o brosiectau arbrofol wedi cael eu clustnodi yn ardal y Tasglu. Rydym yn sefydlu, gyda chymorth Josh Miles o'r Ffederasiwn Busnesau Bach, un o is-grwpiau tasglu'r Cymoedd i edrych ar gwmnïau sydd wedi ei gwreiddio a'r economi sylfaenol i ystyried sut y gallwn ni gael ffocws penodol ar y Cymoedd. Felly fe fyddwn i'n annog yr Aelod i roi mwy o wybodaeth imi am y cwmni y soniodd ef amdano i weld a oes yna botensial inni ddatblygu hynny ymhellach.
Diolch. Ac yn olaf, Dawn Bowden.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn sicr, Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu'r camau yr ydych eisoes wedi'u cymryd, yn enwedig ar y cyd â thasglu'r Cymoedd i fuddsoddi ac i ledaenu'n gyflym yr arferion gorau a'r arloesedd a gawn yn yr economi sylfaenol. Nid wyf am fynd drwy fy holl raglith, oherwydd fy mod yn ymwybodol o gyfyngiadau amser, ond gwn fod rhai o'r buddiolwyr yn y rownd ariannu cychwynnol yn brosiectau a arweinir gan Sefydliad Bevan, ac maen nhw'n cynnwys datblygu melin drafod adfywio cymunedol mewn partneriaeth â TUC Cymru i helpu i gynyddu gwaith teg mewn busnesau yn y sector sylfaenol, ac rwy'n mynd i gadw golwg brwd ar hynny, oherwydd fy mod i'n gwybod beth yr hoffwn ei weld yn digwydd o ganlyniad i hynny. Ond a wnewch chi ddweud mwy wrthym am eich disgwyliadau o'r prosiect hwn a'r manteision yr ydych yn credu y gall eu darparu i gymunedau yng Nghymoedd De Cymru?
Wel, fel y dywedais, mae gan yr arian yr ydym wedi ei gyhoeddi eisoes, er enghraifft y £10 miliwn drwy dasglu'r Cymoedd ar gyfer dechrau defnyddio tai gwag eto, ac oherwydd ein bod wedi bwriadu ehangu hynny i ystyried siopau gwag hefyd, botensial enfawr o fewn yr economi sylfaenol ar gyfer busnesau sefydledig, oherwydd cwmnïau lleol fydd yn gwneud y gwaith hwnnw yn bennaf. Es i gyda Vikki Howells i Ynysybwl i weld un o'r prosiectau cyntaf a ariannwyd o dan y prosiect hwnnw, ac roedd yn amlwg o'r enghraifft honno taw crefftwyr lleol oedd wedi gwneud y gwaith. Felly, rwy'n meddwl bod potensial mawr yn y gwaith yr ydym yn ei wneud o dan y prosiect hwn, ac yn y gwaith cysylltiedig drwy dasglu'r Cymoedd, yr ydym, fel rwy'n ei ddweud drwy'r grŵp traws-lywodraethol hwn, yn ceisio edrych arno yn un peth.
Rydych yn sôn am waith Sefydliad Bevan a'r cyllid y mae wedi ei gael ar gyfer TUC Cymru. Mae dau brosiect wedi'u hariannu. Yr hyn rwy'n ei ddisgwyl o hynny yw her i'r agenda hon. Nid yw hon yn agenda hawdd na llipa. Mae rhai problemau gwirioneddol anodd o ran polisi yn yr agenda hon a rhai materion dyrys. Y farn draddodiadol yw bod yr economi sylfaenol yn cael ei nodweddu gan gyflogau isel, cynhyrchiant isel, a diwydiannau a gweithgareddau â gwerth isel, ac yn hytrach na cheisio eu cynnal, dylem ni fod yn ceisio mynd i'r gwrthwyneb, a fyddai'n golygu y bydd cwmnïau'n tyfu'n gyflym a chynhyrchiant yn uchel. A fy ymateb i hynny yw, 'Nid ydym yn dymuno tyfu'r economi sylfaenol fel y mae, rydym yn dymuno newid yr economi sylfaenol.' Nid oes unrhyw wrthddweud yn fy marn i. Nid wyf yn gweld pam na ellir bod arloesedd cynhyrchiant uchel o fewn yr economi sylfaenol. Nid wyf yn gweld pam na ellir bod deallusrwydd artiffisial a roboteg yn yr economi sylfaenol. Ond mae yna fater yn ymwneud â gwaith teg a chyflogau isel a diffyg trefniadaeth a chydnabyddiaeth gan weithwyr sy'n nodweddu sawl rhan o'r economïau hyn, ac mae hynny'n rhywbeth, drwy'r gwaith hwn, mae angen i ni ei herio.
Y gwaith a wnaeth Preston, er enghraifft, wrth nodi'r sefydliadau angori lleol—roedd pump o'r chwe sefydliad angori lleol a nodwyd drwy'r gwaith hwnnw yn gyflogwyr cyflog byw yn y pen draw. Felly, rwy'n ystyried bod hyn yn gwella'n wirioneddol y ffordd y mae'r rhan honno o'r economi'n gweithio. Ond yn sicr, mae'n rhaid i ni gydnabod, ar hyn o bryd, nad yw sawl rhan o'r economi sylfaenol fel y byddwn yn dymuno iddyn nhw fod. Felly, rwyf am i hyn fod yn rym aflonyddgar o fewn yr economi sylfaenol, nid un cyfforddus.
Diolch yn fawr, Gweinidog.