– Senedd Cymru am 3:00 pm ar 14 Ionawr 2020.
Felly, datganiad sydd nesaf: datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y strategaeth rhyngwladol. Dwi'n galw ar y Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ymhen ychydig dros bythefnos, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hwn yn newid sylfaenol i'r berthynas sydd wedi bodoli rhyngom ni a'n cymdogion agosaf ers 40 o flynyddoedd—perthynas sydd wedi dod â manteision cadarnhaol i Gymru o ran bron pob agwedd ar fywyd. Ond, nid datganiad am Brexit yw hwn, nid am y ffaith ei fod yn digwydd nac am ei ffurf; datganiad yw hwn am ein lle ni yn y byd. Efallai ei bod yn wir ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dydyn ni ddim yn troi ein cefnau ni ar yr Undeb Ewropeaidd na'r byd. Rydym ni'n benderfynol o barhau i fod yn wlad eang ei gorwelion; yn wlad sy'n barod i weithio a masnachu â'r byd; ac yn wlad gyfrifol ar lwyfan byd-eang sydd wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y dasg o fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r gymuned ryngwladol. A dyma'r union reswm, Llywydd, pam y mae'r Llywodraeth yn lansio'i strategaeth ryngwladol gyntaf heddiw.
Ers dechrau datganoli, mae Cymru wedi bod yn gwneud ei marc ar y llwyfan rhyngwladol. Rŷn ni wedi datblygu partneriaethau â gwledydd a rhanbarthau o amgylch y byd. Rŷn ni wedi rhannu ein syniadau am ieithoedd lleiafrifol a thechnoleg gyda Gwlad y Basg ac Iwerddon, rŷn ni wedi plannu 10 miliwn o goed yn Uganda fel rhan o'r gwaith sy'n parhau gyda gwledydd Affrica, ac roedd Cymru yna, reit ar y cychwyn, pan sefydlwyd cynghrair byd-eang Under2. Hwn oedd y sbardun ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd o dan gytundeb Paris.
Mae cyfrifoldeb arnom ni i gydweithredu gyda gwledydd eraill o gwmpas y byd er ein budd ni i gyd. Mae hon yn egwyddor sy'n ganolog i'n hunaniaeth ni fel cenedl. Rŷn ni'n falch i gynnig cartref i'r rheini sydd wedi gadael eu gwledydd eu hunain ac ymgartrefi yma yng Nghymru. Does dim amheuaeth bod eu cyfraniad nhw yn cyfoethogi ein cenedl mewn cymaint o ffyrdd. Mae ein nwyddau a'n gwasanaethau wedi ennill gwobrau am eu safon, ac rŷn ni'n eu hallforio dros y byd i gyd. Ac o ystyried mai cenedl fach o dair miliwn o bobl ydym ni, rŷn ni wedi rhagori yn rhyngwladol yn y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, heb anghofio'r maes chwaraeon, wrth gwrs. Cofiwn hefyd fod ein treftadaeth, ein diwylliant a'r golygfeydd arbennig o hardd yn parhau i ddenu twristiaid o bob cwr o'r byd.
Fel Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol cyntaf Cymru, roeddwn i'n meddwl ei fod yn bwysig i grynhoi'r hyn sydd wedi ei gyflawni dros yr 20 mlynedd diwethaf a defnyddio hynny fel sylfaen i lywio trywydd Cymru mewn gwaith rhyngwladol yn y dyfodol, yn enwedig yn y sefyllfa wleidyddol a chymdeithasol gyfnewidiol sydd wedi eu creu gan Brexit. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda bron i 600 o bartneriaid a rhanddeiliaid i sefydlu'r blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig o ran arwain ar yr agenda hwn, ond dim ond drwy gydweithio gyda'n gilydd y byddwn ni'n gallu sicrhau llais i Gymru ledled y byd.
Mae ein partneriaid rhyngwladol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mewn cyrff gwirfoddol ac mewn sefydliadau eraill yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw'n barod ac yn awyddus i gydweithio gyda ni. Maen nhw wedi croesawu'r ffaith ein bod ni wedi datblygu strategaeth gydlynus sydd yn uchelgeisiol ac fydd yn sail i'w gwaith nhw hefyd.
Mae gan y strategaeth dair uchelgais ganolog dros y pum mlynedd nesaf: codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, sicrhau twf yn ein heconomi, a sefydlu Cymru fel gwlad gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn ganolog i'r strategaeth, mae cydnabyddiaeth bod Cymru'n wlad fodern a bywiog. Rŷn ni'n wlad sy'n meithrin talent; rŷn ni'n wlad sy'n greadigol a chynaliadwy, ac sydd ar flaen y gad o ran technoleg.
Ein pobl, wrth gwrs, yw'n hased mwyaf ni, boed yma yng Nghymru, neu mewn gwledydd tramor. Pobl fydd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth hon. Fe fyddwn ni'n meithrin y cysylltiadau rŷn ni wedi'u datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf ac yn datblygu rhai newydd, hefyd, mewn marchnadoedd newydd sy'n dod i'r golwg.
Byddwn yn datblygu dull newydd, uchelgeisiol o estyn allan at ein rhwydwaith o alltudion a'n rhwydweithiau o gyn-fyfyrwyr. Gwyddom y bydd diwylliant, chwaraeon a'n harbenigedd mewn datblygu ieithoedd lleiafrifol yn helpu i'n gosod ni ar wahân i genhedloedd eraill. Roedd Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd yn Japan yn enghraifft wych o'r modd y gall Cymru werthu ei hun ar lwyfan y byd, gan adeiladu ar lwyddiant chwaraeon i hyrwyddo Cymru a busnesau Cymru i gynulleidfa ehangach. Daeth cromen Cymru yng nghalon Tokyo â chwaraeon, cenhadaeth fasnachu fawr, perfformiadau diwylliannol a phrofiad rhithwir 360 gradd o Gymru, ynghyd â'n sector bwyd a diod o fri, mewn ymdrech i hyrwyddo ein gwlad yn Japan.
Byddwn yn meithrin ein heconomi drwy roi mwy o egni ac arian i ddatgloi'r potensial aruthrol yng Nghymru ac mewn cwmnïau Cymreig i allforio mwy i farchnadoedd sy'n sefydledig ac i egin farchnadoedd newydd. Bydd hynny'n gymorth i gefnogi swyddi a chymunedau gartref.
Bydd cystadlu am fewnfuddsoddi yn her pan fyddwn y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond rydym yn benderfynol. Byddwn yn tynnu sylw at Gymru drwy ddangos sut yr ydym yn arweinwyr y byd mewn tri sector allweddol. Mae'r sectorau yr ydym ni wedi'u dewis yn tanlinellu ein medrusrwydd ym meysydd cynaliadwyedd, technoleg a chreadigrwydd. Mae ganddynt gyfle sylweddol i dyfu ac maent yn gydnaws â'r bargeinion twf a'r cynllun gweithredu economaidd. Ac ni ddylai Brexit effeithio'n ormodol arnynt. Y sectorau hyn yw: seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol, yn arbennig ffilm a theledu. Mae'n bwysig i mi bwysleisio nad yw'r rhain yn rhwystro sectorau eraill rhag buddsoddi ac maent yn cyfleu'r neges bod gan Gymru weithlu medrus a'i bod yn estyn croeso i fusnesau.
Mae ein huchelgais i weld Cymru'n ymsefydlu yn genedl gyfrifol fyd-eang yn cynnwys blaenoriaethau amgylcheddol a chymdeithasol. Byddwn yn bwrw ati i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy uchelgeisiau i ddod yn arweinydd byd o ran ailgylchu a chefnogi ynni adnewyddadwy yn ogystal â hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy. Mae fy ymrwymiad i ehangu'r rhaglen flaenllaw, Cymru o blaid Affrica—a elwir bellach yn 'Cymru ac Affrica'—yn cwmpasu dull a arweinir gan y gymuned sy'n fuddiol i'r ddwy ochr. Hoffwn rannu ein harbenigedd mewn datblygu ieithoedd lleiafrifol â gwledydd eraill a dysgu gan eraill yn y maes hwn.
Llywydd, mae'n bwysig ein bod yn hyrwyddo'r neges bod Cymru yn, a bydd yn parhau i fod, yn genedl Ewropeaidd. Mae'n anochel y bydd ein perthynas â'r UE a'i sefydliadau yn newid dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, ond rydym ni eisiau parhau i weithio gyda'n partneriaid Ewropeaidd lle bynnag y bo modd. Mae gennym ni berthynas hirsefydlog a chryf â llawer o wledydd a rhanbarthau Ewrop, ac Ewrop yw ein marchnad allforio bwysicaf o hyd.
Mae'r strategaeth hon yn nodi pa rai o'r gwledydd a'r rhanbarthau blaenoriaethol y byddwn yn ceisio canolbwyntio arnynt er mwyn hyrwyddo Cymru. Mae gwerthoedd wrth wraidd y strategaeth hon. Datganwn yn uchel a balch mai ni oedd y genedl gyntaf a'r unig un yn y byd sydd wedi trosi nodau cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig yn gyfraith.
Bu llawer o drafod ar werthoedd a hawliau dynol drwy ddatblygu'r strategaeth hon, ac rwyf wedi croesawu'r her hon. Rwyf eisiau i Gymru gael ei hadnabod fel cenedl groesawgar, fel cenedl noddfa, fel cenedl deg, gan hyrwyddo gwaith teg, masnach deg a chwarae teg. Byddwn yn sicrhau bod y byd yn gwybod mai Cymru oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r GIG, ac rydym yn dal yn driw i'w werthoedd craidd.
Y strategaeth ryngwladol yw ein canllaw mewn byd heriol a newidiol. Mae perthnasoedd yn newid yn barhaus, mae economïau'n amrywio, ac mae blaenoriaethau'n datblygu, ond byddwn yn dal yn driw i'n gwerthoedd, beth bynnag a ddaw. Byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau'r amodau masnachu gorau posib i Gymru a fydd yn allweddol i'n llwyddiant economaidd yn y dyfodol. Mae Cymru yn wlad fach sydd ag uchelgeisiau mawr, a bydd y strategaeth hon yn helpu i roi Cymru ar y map rhyngwladol. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gopi o flaen llaw o'i datganiad a'i llongyfarch ar gynhyrchu'r strategaeth ryngwladol? Mae 21 mlynedd wedi mynd heibio ers dyfodiad datganoli ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod Cymru yn ymestyn y tu hwnt i'w ffiniau i'r gwledydd hynny dramor lle mae gennym ni gysylltiadau cryf a lle ceir cyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd newydd. Rwy'n credu ei bod hi'n resyn ei bod wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y sefyllfa hon lle mae gennym ni strategaeth o'n blaen. A gaf i hefyd groesawu ysbryd datganiad y Gweinidog? Mae'n hynod wahanol i'r datganiad a gawsom yr wythnos diwethaf ar fasnach ryngwladol.
Mae llawer y gallwn ei groesawu ar yr ochr hon i'r Siambr yn y strategaeth ryngwladol. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol bod Llywodraeth Cymru yn ymdrechu'n fwriadol i gryfhau presenoldeb Llywodraeth Cymru dramor ar ôl Brexit. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol bod rhai uchelgeisiau allweddol a chreiddiol iawn i'w gweld yn y ddogfen gyfan. Ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol ein bod yn ceisio sicrhau bod y Llywodraeth yn canolbwyntio ar ddarparu canolfannau rhagoriaeth yn y tri sector penodol hynny y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw: seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol. Oherwydd fy mod yn credu pan fo gennym ni gryfderau, mae'n rhaid i ni fanteisio arnyn nhw, a gallwn yn sicr wneud mwy i fanteisio ar y rheini ac, yn wir, i fanteisio ar ein harbenigedd wrth sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith swyddogol bwysig iawn, ond iaith leiafrifol serch hynny. Felly, a gaf fi eich llongyfarch ar yr holl bethau hynny, Gweinidog, cyn imi droi at rai cwestiynau?
Un o'r pethau yr ydych chi wedi'i nodi yn y ddogfen, ac y gwnaethoch chi gyfeirio ati'n fyr yn eich datganiad, yw pwysigrwydd digwyddiadau chwaraeon fel cyfleoedd i ymgysylltu'n rhyngwladol. Wrth gwrs, fe welsom ni rywfaint o lwyddiant yn helpu i wneud yn fawr o'r cyfleoedd a ddaeth yn sgil Cwpan Rygbi'r Byd. Mae Pencampwriaeth Ewrop ar y gweill yr haf hwn, a tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am eich cynlluniau i fanteisio ar y cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig hefyd.
Fe wnaethoch chi gyfeirio, tuag at ddiwedd eich datganiad, hefyd, at bwysigrwydd hawliau dynol i bawb ohonom ni yma yng Nghymru, ar bob ochr i'r Siambr yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac rwy'n cytuno â'ch sylwadau ar y rheini, ond, wrth gwrs, ychydig iawn o gyfeirio sydd yn y ddogfen at hawliau dynol. Rwy'n credu y sonir amdanynt ryw bum gwaith, ac mae'n anodd iawn gweld sut byddwch yn gwireddu'r nod o gyflwyno Cymru fel enghraifft ddisglair o hawliau dynol. Nawr, byddwch yn cofio fy mod wedi cyflwyno—. Roeddwn yn ffodus iawn o gael fy newis yn y bleidlais ddeddfwriaethol i gyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth o'r meinciau cefn, a dewisais gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn. Wrth gwrs, pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn bwrw ymlaen â'r Bil ac, yn hytrach, dywedodd y byddai'n gwneud mwy o waith trawsbynciol ar hawliau dynol. Nid ydym ni eto wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny ac, wrth gwrs, rydym yn nesáu at ddiwedd y Cynulliad hwn a'r cyfle i ddeddfu yn y Cynulliad hwn. Felly, efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae eich ymrwymiad i hawliau dynol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau dynol yn gyson â'r hyn sy'n ymddangos yn ddiffyg gweithredu wrth fwrw ymlaen ag unrhyw beth.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd am bwysigrwydd y Cymry alltud, ac rydych chi yn llygad eich lle, lle mae gennym ni unigolion dramor, gallant ein helpu i chwifio'r faner i ni yma gartref. Ond cefais fy synnu gan y diffyg cyfeiriad penodol yn y ddogfen at bwysigrwydd cymunedau ffydd a'r Cymry alltud a'r cyfle a'r rhwydweithiau y cysylltir cymunedau ffydd yn aml iawn â nhw. Byddwch yn gwybod, Gweinidog, gystal â minnau, fod gan gynulleidfaoedd Cristnogol, cymunedau Mwslimaidd ac eraill ledled Cymru gysylltiadau lu â chymunedau dramor. Mewn llawer o achosion, mae cymunedau Cristnogol yn ceisio hyrwyddo cyfleoedd datblygu rhyngwladol mewn llawer o genhedloedd sy'n datblygu, ac, wrth gwrs, mae llawer o gymunedau Mwslimaidd yn fewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf i'r wlad hon ac mae ganddynt gysylltiadau uniongyrchol â theuluoedd yn eu gwledydd eu hunain. Tybed a yw hynny'n gyfle a gollwyd, mewn gwirionedd, yn y strategaeth hon, ac a allech chi wneud ychydig mwy o waith ar hynny yn y dyfodol.
Mae nifer o sectorau allweddol yn y ddogfen. Un ohonynt y soniwch amdano yw twristiaeth, ac nid ydych chi wedi anghofio crybwyll pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru, wrth gwrs, yn y ddogfen hon. Rydych chi'n sôn bod twristiaeth antur, er enghraifft, yn ddiwydiant sy'n tyfu. Wrth gwrs, mae twristiaeth ffydd hefyd yn ddiwydiant twf sylweddol, ac mae gennym ni rwydwaith gwych o ffyrdd pererinion ar draws Cymru a rhai adeiladau hanesyddol cysegredig gwych y mae gennym ni gyfle, unwaith eto, i helpu eu hyrwyddo ychydig bach yn fwy. Felly, rwy'n credu bod hynny, o bosibl, yn gyfle a gollwyd hefyd, ac efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni a yw hynny'n rhywbeth yr ydych yn barod i'w wneud ar wahan i'r strategaeth hon o ran y ffaith y gallai fod o fudd i'r rhan o'r economi a'r sector sy'n ymwneud â thwristiaeth.
Wrth gwrs, un o'r problemau y gallai'r sector hwnnw ei wynebu yn y dyfodol yw dyfodiad posib trethi twristiaeth oherwydd safbwyntiau polisi eich Llywodraeth. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni os yw, a sut y mae hynny'n rhan â'ch meddylfryd .
Fe wnaethoch chi sôn am y rhwydwaith swyddfeydd dramor—mae hi'n dda iawn eich bod wedi agor rhai swyddfeydd newydd eleni, ac rydych chi wedi sôn mewn datganiadau blaenorol am eich bwriad i wneud mwy. Ond, yn amlwg, mae hefyd yn bwysig eu bod yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn a bod llinell atebolrwydd uniongyrchol yn ôl. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n mynd i fesur llwyddiant y swyddfeydd hynny a'u cynhyrchiant, neu fel arall.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, buddsoddiad uniongyrchol o dramor—rydych chi wedi sôn mai'r Unol Daleithiau yw'r ardal neu'r genedl fwyaf o ran buddsoddiad uniongyrchol o dramor i Gymru. Wrth gwrs, ni fydd rhai o'r sylwadau gan Lywodraeth Cymru ynghylch gweinyddiaeth Trump yn llesol wrth geisio cael mwy o fuddsoddiad uniongyrchol tramor i'r wlad ac, unwaith eto, efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych yn mynd i newid eich cân yn hynny o beth er mwyn cael perthynas gynhesach yn y dyfodol.
Yn olaf, os caf i, rydym ni wedi dadlau ar yr ochr hon i'r tŷ am y cyfleoedd a allai ddod i'n rhan pe baem yn mabwysiadu mwy o ysbryd tîm Cymru ar sail drawsbleidiol, er mwyn hyrwyddo'r genedl wych hon yr ydym yn byw ynddi. Un o'r pethau y sylwais arno yn eich dogfen yw eich bod yn dweud mewn gwirionedd eich bod chi, Llywodraeth Cymru, yn dymuno buddsoddi mewn cyfleoedd i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Aelodau, ar yr hyn sy'n ymddangos fel pe bai ar sail drawsbleidiol, i ymgysylltu'n rhyngwladol mewn rhwydweithiau. Rwy'n credu bod hynny'n dderbyniol iawn, yn wir. Hoffem weld hynny'n cael ei ffurfioli ychydig yn fwy drwy sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon ar ran Cymru. Rydym yn cyflawni llawer pan fyddwn yn cydweithio, a chyda'r adnoddau priodol gallwn fanteisio'n sylweddol ar y cyfleoedd y mae hynny'n eu cynnig. Felly, efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni a yw hynny'n rhywbeth yr hoffech ei ffurfioli yn y ffordd yna, fel y gallwn ni i gyd symud gyda'n gilydd fel tîm Cymru o ran hyrwyddo ein hunain i'r byd.
Rwy'n gwybod fy mod wedi dweud 'yn olaf', ond rwy'n mynd i ddweud un 'yn olaf' arall, os yw hynny'n iawn, Llywydd, ac mae hynny o ran y rhaglen Cymru o Blaid Affrica, rhywbeth yr ydym yn cymeradwyo'r Llywodraeth am fuddsoddi ynddi. Tybed a wnewch chi ystyried ehangu'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica fel y daw yn Gymru o blaid y byd, oherwydd gwyddom y gellid gwneud cysylltiadau ag America Ladin, mae cysylltiadau â'r dwyrain canol ac Asia y gellid eu gwneud hefyd, dim ond gydag ychydig mwy o fuddsoddi. Mae gan lawer o grwpiau a chymdeithasau dinesig y cysylltiadau hynny eisoes, ac rwy'n credu y byddai rhyw fath o bwyslais ar hynny gan Lywodraeth Cymru yn mynd ati i ymestyn y tu hwnt i'r gwledydd hynny yn Affrica sydd i'r de o'r Sahara yn rhywbeth y byddem yn ei groesawu'n fawr ar yr ochr hon i'r siambr. Diolch am fod mor hyblyg.
Diolch, Darren, a diolch am eich diddordeb parhaus yn y gwaith rhyngwladol yr ydym yn ei wneud. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod bod angen i ni gryfhau a dyfnhau ein perthynas â'r UE a chenhedloedd a rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd, er gwaetha'r ffaith y byddwn nawr yn gadael. Diolch hefyd am dynnu sylw at y ffaith ein bod wedi pwysleisio tri sector yr ydym yn awyddus i'w hyrwyddo, ac mae hyn mewn gwirionedd oherwydd ein bod mewn byd lle mae llawer o gystadleuaeth am sylw, felly mae'n rhaid i chi weithio allan sut yr ydych chi'n mynd i ddal sylw—beth sy'n ein gwneud yn wahanol, ac rwy'n credu bod y tri sector hyn yn sicr yn gwneud hynny i ni.
Mae ein gallu ym myd chwaraeon yn rhywbeth y dylem fod yn falch iawn ohono, ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud gwaith da iawn yn Japan, ac mae her nawr i weld beth y gallwn ni ei wneud ym mhencampwriaethau Ewrop. Os ydym ni'n onest, dydw i ddim yn meddwl bod Azerbaijan yn farchnad enfawr i ni, ond byddwn ni'n sicr yn canolbwyntio ymgyrch yn yr Eidal, felly mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n edrych ymlaen at ei wneud. Yn amlwg, byddwn yn aros i weld pwy fyddwn ni'n chwarae yn eu herbyn, a bydd yna gyfleoedd efallai i hyrwyddo ein hunain ar gorn hynny.
Mae hawliau dynol, rwy'n gwybod, yn rhywbeth y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo. Ceir atodiad yn y cefn sydd ag adran ar hawliau dynol, ond yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn y fan yma yw gwneud yn siŵr bod pobl yn deall bod Cymru eisiau cyflwyno'i hun fel cenedl deg. Ac rwy'n gweld yr agenda hawliau fel chwarae teg, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio hynny. Pan fyddaf yn cwrdd â llysgenhadon o bob cwr o'r byd, os oes materion hawliau dynol, yna dydw i byth yn swil i godi'r materion hynny gyda nhw.
Credaf o ran cymunedau ffydd, yn sicr, os edrychwch chi ar nifer y sefydliadau a sefydliadau ffydd sy'n gweithio gydag Affrica, un o'r pethau yr ydym wedi'i wneud yw ceisio dynodi pwy yw'r bobl hynny a beth y maen nhw'n ei wneud, ac, yn sicr, mae 'Hub Cymru Africa' yn fforwm gwych i hynny ddigwydd. Ac rwy'n credu hefyd o ran y gwaith twristiaeth mewn perthynas â ffydd, wel mi wn fod eleni yn 100 mlynedd ers sefydlu'r Eglwys yng Nghymru, a bod eu pwyslais ar bererindod, ac felly efallai fod cyfle yn hynny o beth, ac, yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y byddaf efallai'n siarad â'r Dirprwy Weinidog twristiaeth yn ei gylch. Yn sicr, yr hyn nad wyf ei eisiau yw ein bod yn eithrio ardaloedd eraill mewn cysylltiad ag Affrica. Felly, yn amlwg, gall pobl fwrw ymlaen â'u gwaith o ran datblygiadau a pherthnasoedd gyda gwledydd sy'n datblygu, ond o ran yr awgrym ein bod yn ymestyn allan ac yn ei ehangu y tu hwnt i Affrica, yr hyn a welsom ni, mewn gwirionedd, gydag adnoddau bach iawn, os ydych chi eisiau cael effaith, mae'n gwneud mwy o synnwyr i ganolbwyntio, a dyna pam yr ydym ni wedi mynd ati fel yna. Efallai y bydd gennym ni farn wahanol am hynny, ond dyna'r penderfyniad yr ydym ni wedi'i wneud.
O ran swyddfeydd Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi penodi rheolwr cyffredinol nawr i sicrhau ein bod yn monitro'r swyddfeydd hynny. Rwy'n credu eu bod yn gwneud gwaith da iawn, ond yr hyn nad ydym ni wedi'i gael, efallai, a'r hyn nad yw'r Cynulliad wedi'i gael efallai, yw'r adborth. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei gyfrannu'n fwy rheolaidd nawr i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, felly byddant yn cael y rheini ar sail fwy rheolaidd er mwyn cael gwell syniad o'r hyn y mae'r swyddfeydd hynny'n ei wneud.
Mae ein perthynas â'r Unol Daleithiau yn hanfodol iawn. Byddaf yn mynd yno tua diwedd mis Chwefror. Mae 1,250 o gwmnïau tramor sy'n buddsoddi yng Nghymru ac mae chwarter o'r rheini yn rhai Americanaidd, felly rydym yn gwbl glir ynglŷn â pha mor bwysig yw'r berthynas honno.
O ran y berthynas â llysgenhadon masnach, mae perthynas wych yn bodoli eisoes. Rwy'n gwybod bod y Cynulliad Cenedlaethol yn anfon pobl o amgylch y byd ar brydiau. Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gwneud yn siŵr bod cyfle i'r Aelodau Cynulliad hynny ganu yr un gân â Llywodraeth Cymru a phobl Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn awyddus i'w wneud yn y dyfodol.
O ran y llysgenhadon, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o ran y Cymry alltud, felly mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei archwilio ymhellach. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny wedi mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu'r strategaeth ryngwladol yn gyffredinol. Mae hi yn hwyr iawn arni'n cael ei chyhoeddi, tua saith mis, yn ôl fy nghyfrif i, ac mae'n dilyn dogfen ymgynghori a feirniadwyd yn eang a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, ond y newyddion da yw bod llawer i'w groesawu yn hyn o beth. Nid wyf ond wedi cael cyfle i ddarllen y strategaeth yn gyflym cyn y cyfarfod llawn heddiw, ond rwy'n hapus i ddweud bod llawer o bethau wedi gwella yma. Mae'n ymddangos, am unwaith, fod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd wedi gwrando ar feirniadaeth gan wrthbleidiau a chynrychiolwyr o'r sector, ac mae'r cyhoeddiad diwygiedig yn gymaint gwell o'r herwydd.
Roedd rhai o'r prif feirniadaethau a wnaed gennym ym mis Medi yn cynnwys y diffyg cydlynu rhwng gwahanol adrannau o Lywodraeth Cymru, y ffaith ei fod yn gymysgedd o orgyffredinoli a gormod o fanylder, a dryswch cyffredinol ynghylch ei ddiben. Ond mae'r ddogfen newydd yn gliriach ac mae'n cynnwys esboniadau am sut y bydd y strategaeth ryngwladol yn cefnogi nodau cyffredinol Llywodraeth Cymru, ac, unwaith eto, mae hynny i'w groesawu.
Rwy'n credu hefyd ei fod yn beth da bod datblygu cynaliadwy a gweithredu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd bellach yn rhan flaenllaw o'r strategaeth. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru bellach wedi sylweddoli bod datgan argyfwng hinsawdd yn gorfod golygu rhywbeth. Mae angen inni wneud mwy na siarad yn huawdl am hyn, fodd bynnag, hoffwn ofyn i'r Gweinidog sut y bydd yn datblygu'r agenda ynni gwyrdd o ran ei dyletswyddau rhyngwladol. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf pa mor ymarferol fydd hi i fwrw ymlaen â hyn?
Nawr, ynglŷn â masnach, mae Plaid Cymru yn cytuno bod yn rhaid i gynnal ein perthynas fasnachu gyda thir mawr Ewrop fod yn brif flaenoriaeth. Rwy'n croesawu'r gofynion clir a wnaed ar Lywodraeth y DU, ac mae'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldeb am hyn am y tro cyntaf. Mae eich galwad ar i Lywodraeth y DU geisio cytundeb Llywodraethau datganoledig cyn cytuno ar ei mandad negodi yn swnio'n amheus o debyg i'r feto y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ac i'ch Llywodraeth ei wrthod dim ond ychydig wythnosau'n ôl. Fodd bynnag, ni fyddwn yn dal dig a byddwn yn cefnogi ymdrech Llywodraeth Cymru i orfodi Llywodraeth y DU i wrando ar Gymru cyn i drafodaethau masnach ddechrau. Cytunwn â chi hefyd y dylai swyddogion Cymru fod yn rhan o'r trafodaethau yn ystod pob cam o'r broses.
Er mwyn cryfhau eich cais, Gweinidog, a wnewch chi ystyried cyhoeddi dogfen sy'n manylu ar beth yn union y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld o ran amddiffyn buddiannau Cymru ym mandad negodi'r DU, fel y gallwn ni fel Senedd ddiwygio a phleidleisio ar y cynigion? Byddai cael y Senedd i gytuno ar safbwynt Cymreig ar negodiadau masnach yn anfon neges gref i Lywodraeth y DU fod angen iddyn nhw wrando ar ein pryderon a'n huchelgeisiau ac amlygu hyn fel mater sydd uwchlaw cylch gwleidyddol y pleidiau.
Rwy'n falch eich bod o'r diwedd wedi cyhoeddi manylion am sut yr ydych yn bwriadu ymgysylltu â'r Cymry alltud o bob cwr o'r byd, gan fod hyn yn dir ffrwythlon y bu Plaid Cymru yn galw ar i'r Llywodraeth fuddsoddi ynddo ers blynyddoedd. Rydym ymhell y tu ôl i wledydd fel Iwerddon a'r Alban, felly mae sefydlu cronfa ddata y Cymry alltud yn gam cyntaf cadarnhaol a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fynd ati mewn ffordd fwy rhagweithiol. Nawr, bydd hynny'n ein helpu'n ddiwylliannol ac yn economaidd, a bydd o fudd i Gymru, ac rwy'n falch o weld hynny yn y strategaeth, ond a wnewch chi roi ychydig mwy o fanylion o ran sut y byddwch chi'n ymgysylltu â'r cymunedau alltud hyn ar ôl i chi eu nodi?
Nawr, mae mentrau i'w croesawu, eto, yn y strategaeth am y Gymraeg, gan gynnwys datblygu technolegau a chamau i hyrwyddo cerddorion Cymru ar raddfa fyd-eang. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos bod ymrwymiad i wneud y Gymraeg yn agwedd allweddol ar hyrwyddo Cymru dramor. Nawr, nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i'ch nod o wneud Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes twristiaeth antur gynaliadwy, ond oni ddylem ni hefyd geisio hyrwyddo ein hunain fel enghraifft o wlad yr unfed ganrif ar hugain, sydd ag iaith frodorol sy'n blodeuo, y gall pobl sy'n ymweld â hi ymgolli ynddi? Nawr, byddwn yn awgrymu eich bod yn cyd-drefnu eich gwaith gyda Gweinidog y Gymraeg, ond mae gennych y ddwy swyddogaeth, felly rwy'n gobeithio'n fawr y gallwch chi ailedrych ar hyn. Rwyf, fodd bynnag, yn croesawu'r cynlluniau i ymgysylltu'n agosach â Gwlad y Basg, Fflandrys a Llydaw, a byddwn yn croesawu'r cyfle i drafod eich cynlluniau â chi yn y dyfodol.
Ond, Gweinidog, mae dau brif beth ar goll o'r strategaeth hon. Targedau a moeseg yw'r pethau hynny. Ni allaf ond nodi un targed yn y 40 tudalen gyfan—unwaith eto, darllenais hon yn gyflym cyn y cyfarfod llawn, felly cywirwch fi os wyf yn anghywir yn hynny o beth—ond heb dargedau, byddai'n anodd iawn i ni ar y meinciau hyn eich dwyn i gyfrif. Rwy'n credu eich bod wedi sôn yn y gorffennol am y posibilrwydd o gyhoeddi dogfen gyfochrog i'r strategaeth sy'n gosod targedau, ac os mai dyna yw eich nod, a allwch chi ddweud wrthym ni pryd y caiff honno ei chyhoeddi, ac os na allwch chi, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa fesurau yr ydych chi'n eu hawgrymu y dylem eu defnyddio i olrhain llwyddiant y strategaeth?
Ac yn olaf, er yr holl sôn am gyfrifoldeb byd-eang, mae yna ddiffyg amlwg o ran gweledigaeth glir ar gyfer Cymru fel gwlad foesegol yn y strategaeth. Hoffwn fod wedi gweld ymrwymiad, er enghraifft, i gaffael deunyddiau dim ond o ardaloedd lle nad oes gwrthdaro treisgar i'w defnyddio yng nghadwyn gyflenwi dechnolegol Cymru. Ac mae'n ymddangos bod methiant parhaus i sicrhau nad yw Cymru yn chwarae unrhyw ran yn y fasnach arfau. Gweinidog, pam mae Llywodraeth Cymru mor gyndyn i ddilyn strategaeth economaidd a rhyngwladol foesegol yn hyn o beth? Byddwn yn gwerthfawrogi eich atebion i'r cwestiynau hyn.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu, er gwaethaf y ffaith bod hyn yn hwyrach na'r disgwyl o ran cyhoeddi'r strategaeth, bod yr amseru wedi gweithio'n dda iawn mewn gwirionedd. Mae sefyllfaoedd wedi newid gryn dipyn, gadewch inni wynebu hynny, yn y misoedd diwethaf, a nawr o leiaf rydym yn gwybod beth yw'r sefyllfa o ran Brexit, ac mae'n golygu ei bod yn haws. A chredaf fod yr amseru yn bwysig iawn, o ran y ffaith y byddaf yn teithio, er enghraifft, i Frwsel i lansio'r strategaeth hon ddydd Iau, a bydd hynny'n anfon neges glir iawn, gobeithio, nad ydym yn tynnu'n ôl o'r berthynas yr ydym yn gobeithio ei pharhau â'r Undeb Ewropeaidd o ran y berthynas honno yr ydym wedi ei meithrin a'i datblygu dros ddegawdau lawer.
Mae'r gwaith o gydgysylltu'r strategaeth hon wedi bod yn drawslywodraethol, a bu Gweinidogion yn cyfrannu ato. Ac rydych chi'n llygad eich lle: bu cynaliadwyedd yn ganolog i'r hyn y buom yn ceisio ei gyflawni yn hyn o beth. Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn greiddiol, ac mae o wir ddiddordeb. Pryd bynnag y byddwn yn siarad â phobl o wahanol wledydd ar draws y byd, dyna'r peth y mae llawer ohonynt yn sôn amdano, sef ein bod yn wirioneddol unigryw, rydym yn arloesi, yn hyn o beth, ac maent i gyd eisiau dysgu mwy am yr agwedd benodol honno.
Ar agweddau eraill ar yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yn ymarferol, fe welwch chi yn y strategaeth y byddwn yn hyrwyddo prosiectau magned, ac un o'r prosiectau magned y byddwn yn ei hyrwyddo yw technoleg tonnau a llanw, a fydd yn symud y pwyslais, gobeithio, o ran mewnfuddsoddiad, i'r gogledd a'r gorllewin. Felly, mae hynny'n weithred fwriadol iawn. A'r peth arall y mae angen i chi ei ddeall yw bod lled-ddargludyddion cyfansawdd yn dechnolegol iawn, ond yr hyn y maen nhw'n ei wneud, mewn gwirionedd, yw arbed ynni. Maen nhw'n arbed ynni, ac mae'r effaith y gallant ei chael ar ganolfannau data, er enghraifft, o ran lleihau ynni, yn sylweddol. Ac felly mae hynny'n gwbl ganolog i'r agwedd honno yr ydym yn ceisio ei phwysleisio i bobl o ran ein hymrwymiad i gynaliadwyedd.
O ran masnach, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym y berthynas honno â Llywodraeth y DU cyn i drafodaethau masnach ddechrau, ac rydym yn dal i aros am ddyddiad; rydym yn gobeithio y caiff dyddiad ei gyhoeddi'r wythnos nesaf i ni ddechrau mewn difrif gwyntyllu manylion ymarferol ynghylch i ba gyfeiriad y dylem fod yn mynd nesaf. Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn amddiffyn buddiannau Cymru. Mae'n anodd iawn canfod pryd y gallwn ddod i'r Cynulliad a dweud, 'Dyma beth yw ein strategaeth', oherwydd bydd amgylchiadau'n newid yn gyflym iawn, ac nid ydym yn gwybod o hyd beth yw rheolau'r ymgysylltu. Ac felly mae'n anodd iawn i ni wneud ymrwymiad i'r Cynulliad pan fyddwn ni mewn sefyllfa lle nad ydym yn gwybod ble yr ydym ni'n sefyll. Felly, byddaf yn ceisio rhoi gwybod i chi o ran pryd y cawn ni fwy o eglurder ynghylch sut y bwriadwn ymgysylltu â'r Cynulliad ynglŷn â hynny.
O ran y Cymry alltud, rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae angen i ni wneud mwy o waith sylweddol. Rydym ni eisoes wedi comisiynu rhywfaint o waith ar sut y gallwn ni ymgysylltu'n ddigidol ar draws y byd, a sut orau y gallwn ni gael effaith a gwneud cysylltiad â phobl. Felly, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi'i gomisiynu. Rydym ni wedi cael cyfarfodydd gyda'r bobl sy'n ymwneud â gwahanol gymunedau alltud, fel y gallwn ni dynnu ein gwaith ynghyd, ac rwy'n credu bod yna gyfle enfawr i ni yn hynny o beth. Mae pob un o'r swyddfeydd wedi cael y targed erbyn hyn o sicrhau eu bod yn datblygu'r rhwydwaith alltud hwnnw hefyd.
O ran hyrwyddo Cymru dramor, a'r Gymraeg dramor, rydym ni eisoes wedi comisiynu dogfen, a rhoddais gyflwyniad ar y strategaeth ryngwladol sydd ar y gweill i grŵp o lysgenhadon ac is-genhadon yn Llundain cyn y Nadolig. Ac un o'r pethau a ddangosais iddyn nhw oedd fideo wedi'i gomisiynu'n arbennig yn dangos yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Gymraeg. Felly, mae hynny eisoes ar y gweill ac yn rhywbeth yr ydym ni eisoes yn ei ddefnyddio.
O ran targedau—gwrandewch, yn gyffredinol, rwy'n rhywun sy'n hoffi gweld targedau. Y broblem yw bod gennym ni sefyllfa yn y fan yma lle mae gennym ni amgylchiadau sy'n newid yn gyflym iawn. Ac felly, er mwyn i ni osod targedau, mae'n anodd iawn. A rhoddaf enghraifft i chi. O ran addysg, petaem yn dweud, 'Iawn, rydym ni eisiau gweld miloedd yn fwy o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd yn dod i astudio yng Nghymru', byddem wedi gosod y targed hwnnw'n rhy isel cyn—. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud nawr y caiff y myfyrwyr hynny aros am ddwy flynedd yn ychwanegol. Mae'n debyg bod hynny'n mynd i annog llawer mwy o fyfyrwyr i ddod. Felly, byddem wedi cyrraedd y targedau hynny'n llawer cynt nag y dylem fod wedi'i wneud. Dyna enghraifft o le mae'n mynd i fod yn anodd.
O ran mewnfuddsoddi, yn yr un modd, nes ein bod yn gwybod beth yw'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd, bydd yn anodd inni asesu i ba raddau y mae pobl yn debygol o fod eisiau buddsoddi yn ein gwlad. Ac nid wyf yn cytuno â'r ffaith nad yw'n ddogfen foesegol. Mae'r gwerthoedd yn gwbl greiddiol i'r hyn yr ydym yn ei gyflwyno yn y fan yma. Ac rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn ag amddiffyn. Mae amddiffyn yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ac mae awyrofod yn ddiwydiant pwysig. Mae gennym ni 160 o gwmnïau sy'n cyflogi 20,000 o bobl, yn y cwmnïau awyrofod ac amddiffyn. Rydych chi newydd glywed Dawn Bowden yn siarad ynghylch sut mae hi'n awyddus i weld y cerbydau y maen nhw'n eu cynhyrchu yn ei hardal yn cael eu defnyddio gan y lluoedd arfog. Felly, nid wyf yn credu y dylem osgoi'r ffaith mai un o'r rhesymau craidd dros Lywodraeth yw amddiffyn ei phobl, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth y byddem yn falch iawn o'i weld. Ac mae'r ffaith ein bod wedi rhoi seiberddiogelwch yn ganolog i hyn—. Mae seiberddiogelwch yn greiddiol i'r hyn y mae angen inni ei wneud nawr fel cenedl i amddiffyn ein GIG, i amddiffyn y gwaith a wnawn fel seneddwyr, oherwydd fe ymosodwyd eisoes ar Senedd Llywodraeth y DU. Felly, mae'r rhain yn faterion o bwys. Mae'r ffin rhwng amddiffyn a gwaith masnachol yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohoni, ond mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ac nid wyf yn credu y dylem ni ymbellhau oddi wrtho.
Gweinidog, mae llawer o bwyntiau yn y datganiad hwn yr wyf yn eu croesawu. Rwy'n credu mewn Teyrnas Unedig fyd-eang yn masnachu ac yn gweithio'n rhydd gyda'r byd i gyd. Credaf y gall hyn ddarparu'r sylfaen ar gyfer dyfodol disglair a llewyrchus i Gymru. Mae'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis. Mae ewyllys ddemocrataidd pobl y DU a Chymru yn cael ei pharchu o'r diwedd ac mae'n ymddangos bod y datganiad hwn yn cydnabod y cyfleoedd y mae gadael yn eu cynnig i Gymru fel cenedl ryngwladol eangfrydig.
Rydych chi newydd ddweud bod llawer o gystadleuaeth ac, fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried y posibilrwydd o gynnal uwchgynhadledd fasnach newydd yma yng Nghymru ar gyfer gwledydd y Gymanwlad. Gallai hyn hyrwyddo masnach a hefyd dathlu diwylliannau, hanes a pherthnasoedd yn y dyfodol. Nid wyf yn gweld hyn fel rhywbeth sy'n disodli perthynas yr UE, ond fel perthynas ychwanegol â gwledydd sydd hefyd yn rhannu ein hamcanion a'n gwerthoedd.
Gweinidog, rydych chi wedi sôn am gynyddu presenoldeb Llywodraeth Cymru yn aelod-wladwriaethau'r UE a gweithio i sicrhau bod yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod ein partner cryfaf. O gofio y bydd y rhan fwyaf o'r penderfyniadau ar fasnach a pholisi rhyngwladol yn cael eu penderfynu ar gyfer aelod-wladwriaethau'r UE ym Mrwsel gan Senedd yr UE, a fyddech cystal â rhoi gwybod inni am swyddogaethau'r swyddfeydd yn aelod-wladwriaethau'r UE? A pha mor dda, o ran ein swyddogaeth graffu, y byddwn yn gallu gweld y gwerth am arian i'r trethdalwr?
Rwyf yn croesawu'r datganiad llawer gwell hwn gan y Gweinidog heddiw. Diolch.
Diolch, Mandy. A diolch ichi am y ffaith eich bod yn croesawu'r datganiad, ond hefyd am bwysleisio pwysigrwydd gweithio gyda Llywodraeth y DU, gan fod ganddynt adnoddau enfawr y mae angen inni fanteisio arnynt, a rhan o'r hyn y ceisiwn ei wneud yn hyn o beth yw sicrhau eu bod yn gweithio ar ein rhan. Ond er mwyn iddyn nhw weithio'n effeithiol ar ein rhan mae angen i ni wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r cyfarwyddyd cywir—cyfarwyddyd y gallan nhw ei ddilyn—a dyna yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud yn hyn o beth: datblygu cyfarwyddyd y gallan nhw ei ddilyn. A byddwn mewn gwirionedd yn rhoi llawer mwy o bwysau, gobeithio, ar Adran Fasnach a Buddsoddi'r DU a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu er ein lles ac ar ein rhan ledled y byd. Ond mae yna asiantaethau eraill y mae angen i ni eu hystyried hefyd. BBC World Service, y Cyngor Prydeinig—mae'r rheini'n sefydliadau a allai wneud ac sydd yn gwneud gwaith gwych i ni ond lle mae'r cyfle iddynt wneud mwy, a sut y gallwn ni eu helpu yn yr ymdrech honno?
A diolch i chi unwaith eto am grybwyll y mater hwn o'r cyfleoedd gyda gwledydd y Gymanwlad. Mae gennym ni berthynas wych yma yng Nghymru â'r Cymry alltud, yn enwedig rhai o'r rhai hynny drwy—mae India a Bangladesh wedi eu cynrychioli'n dda iawn, iawn ac yn llafar iawn. Ac roedd gennym ni rywun o India ar y grŵp a oedd yn ein helpu i ddatblygu'r strategaeth hon. Felly, mae cyfleoedd ar gael ac mae gennym ni genadaethau masnach ac ati sy'n mynd i'r gwledydd hyn i wneud yn siŵr bod y cysylltiadau hynny'n datblygu.
Pa un a allwn ni ystyried y posibilrwydd o weld a allwn ni gynnal rhyw fath o ddigwyddiad—. Fe wnawn ni gloriannu hynny. Ar hyn o bryd, rwy'n tybio o ran unrhyw beth sy'n ymwneud â masnach, o ran Llywodraeth y DU, byddant yn ymlafnio am y flwyddyn nesaf, a bydd yn anodd iawn, iawn, rwy'n credu, iddynt gymryd hoe fach i ystyried unrhyw beth arall mewn unrhyw ffordd. Felly, credaf fod hwn yn fater ymarferol yn ôl pob tebyg. Ond erbyn hyn mae gennym ni'r ganolfan, y ganolfan gynadledda ryngwladol, sy'n gyfle gwirioneddol, ac fe welwch chi fod honno wedi'i hamlinellu hefyd yn y strategaeth hon fel man lle gallwn ni gynnal y mathau hynny o ddigwyddiadau pe baen nhw'n dod yma.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a chroesawu hefyd y strategaeth ryngwladol, sydd yn ei fersiwn derfynol nawr? Ac rwy'n gobeithio bod adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi rhoi rhyw fath o oleuni ychwanegol i chi cyn i chi roi'r strategaeth honno at ei gilydd.
Mae'r strategaeth yn werthfawrogol iawn o'r hyn y mae arnom ni eisiau ei wneud, ond mae'n dal i ganolbwyntio ar ein cryfderau weithiau ac efallai nad yw yn weledigaeth gynhwysfawr o ble y byddwn ni ymhen pump neu 10 mlynedd, sy'n hollbwysig yn fy marn i. Mae'r hyn y dymunwch i Gymru fod ymhen 10 mlynedd yn dyngedfennol ac yn rhan o'ch gweledigaeth. Felly, rwy'n credu bod angen inni sicrhau ein bod, efallai yn y misoedd sydd i ddod, yn canolbwyntio ar hynny'n benodol.
Un neu ddau sylw am y strategaeth. Ceisiaf fod yn fyr, Llywydd, oherwydd rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o'r amser. Dydych chi ddim yn sôn llawer am raglenni'r UE. Soniwyd y prynhawn yma wrth y Prif Weinidog am Erasmus. Sonnir am hyn ddwywaith, a dywedir y byddwch yn pwyso am gael bod yn rhan o'r rhaglenni hyn, ond y cwestiwn yw: beth mae hynny yn ei olygu mewn gwirionedd? A fyddwch chi, o safbwynt Cymru, yn edrych ar sut y gallwch chi gymryd rhan yn y rhaglenni hyn y tu allan i'r UE? Oherwydd bydd Horizon Europe, sef y rhaglen olynol, ac Erasmus+ yn hanfodol i'n sectorau addysg. Felly, beth yw ein hanes ni gyda hynny?
Sut y byddwn yn cynyddu ein presenoldeb mewn mannau eraill? Oherwydd sylwais, o'r memoranda dealltwriaeth sydd gennych chi gydag amrywiol ranbarthau a chenhedloedd, mae tri ohonynt mewn rhanbarthau o Sbaen. Rydych chi'n sôn am berthynas â Sbaen yng nghyswllt addysg. Nid oes gennym ni swyddfa yn Sbaen nac yn unman yn Sbaen. Felly, a ydych chi'n bwriadu sefydlu swyddfa rywle yn Sbaen i gysylltu â'r holl gymdeithasau hynny sydd gennych chi ar hyn o bryd? A hefyd sut byddwch chi'n defnyddio'r swyddfeydd hynny? Oherwydd mae gennym ni bresenoldeb ym Mrwsel, tair swyddfa yn yr Almaen, rwy'n credu—neu ddwy yn yr Almaen yn bendant—un yn Ffrainc, ond mae angen inni ehangu i Ewrop. Oherwydd doeddwn i ddim yn gweld Ewrop fel endid ar wahân yn hynny o beth yn y drafodaeth. Mae'n ymddangos i mi mai'r hanfod oedd y byddai pawb yn cael eu trin yr un fath. A ydych chi'n mynd i ganolbwyntio mwy ar Ewrop ac, os felly, sut mae gwahanu'r agenda Ewropeaidd oddi wrth yr agenda fyd-eang? Hefyd o ran Ewrop, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar sicrhau ein bod yn datblygu'r cysylltiadau hynny? Oherwydd y tu allan i Tsieina, gydag Ewrop mae gennych chi femoranda dealltwriaeth, i bob pwrpas—rwy'n credu bod Quebec yn un, o ran awyrofod, ond dyma yw pwyslais buddiannau Llywodraeth Cymru. Felly, mae angen inni adeiladu ein swyddfeydd yn yr ardaloedd hynny ac mae angen—fel y dywedodd Delyth Jewell, rwy'n credu—ffordd o asesu llwyddiant y swyddfeydd hynny sydd gan Lywodraeth Cymru o ran y strategaeth yr ydych wedi'i hamlinellu yn y ddogfen hon.
Hefyd, rwy'n cytuno â Delyth, ac mae'r pwyllgor wedi sôn am hyn droeon, am fasnach a Llywodraeth y DU a chyfraniad Llywodraeth Cymru at yr ail fandad trafod, ynghyd â'r broses drwyddi draw. Ond, ar wahân i hynny, a ydych chi wedi cael trafodaethau gydag adrannau eraill y DU ynghylch sut y gallwch chi weithio gyda'ch gilydd mewn gwirionedd? Oherwydd bydd angen cydgysylltu a chydweithio ag adrannau'r DU. Fe wnaethoch chi gyfeirio eich hun, yn eich dogfen, y byddwch yn dibynnu ar rai o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. A ydych chi wedi cael y trafodaethau hynny a lle ydym ni arni o ran y trafodaethau hynny, er mwyn inni ddangos sut y gallwn ni gyflawni hyn drwy ein cydweithrediad?
Edrychais hefyd ar y sectorau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw. Fe wnaethom ni sylwi ar dri. Rwy'n deall y tri. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd y tri hynny. Ond rwy'n poeni ein bod ni'n canolbwyntio ar y tri yna'n unig, oherwydd mae ein hanes hir o ddiwydiannu yng Nghymru a'n diwydiannau trwm, sy'n datblygu yn yr unfed ganrif ar hugain—. Soniaf am ddur fel enghraifft berffaith. Nid dur y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydym ni; dur yr unfed ganrif ar hugain ydym ni. Felly, a ydych chi'n sicrhau y bydd y sectorau hynny hefyd yn cael eu parchu'n gyfartal ac y bydd y farchnad fyd-eang yn gweithio arnynt ac yn eu cefnogi fel y gallwn ni eu datblygu? Byddai awyrofod yn enghraifft glir arall. Mae'r rhain yn ddiwydiannau sydd wedi bod yn sylfaenol i economi Cymru ac y byddant yn dal yn sylfaenol i economi Cymru yn y dyfodol, nid dim ond y tri yr ydych chi wedi'u crybwyll yn y ddogfen.
Yn olaf, pŵer meddal. Cytunaf yn llwyr y bydd pŵer meddal yn dyngedfennol. Mae'r Swyddfa Gymreig ym Mrwsel yn arbenigwr ar bŵer meddal. Rwy'n gobeithio y gallwch chi ehangu hynny a sut y byddwch yn defnyddio pŵer meddal, nid dim ond ymhlith y Cymry alltud, ond y pŵer meddal sydd gennym ni ar hyn o bryd a'r sgiliau sydd gennym ni mewn pŵer meddal i fod yn wirioneddol fuddiol i economi Cymru a'r strategaeth i sicrhau ein bod yn datblygu hyn drwyddi draw, ym Mrwsel, yn Ewrop ac ar draws y byd.
Diolch yn fawr, David, a diolch am waith y pwyllgor hefyd.
Diolch yn fawr iawn am yr holl waith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud i gyfrannu at y ddogfen hon hefyd. Mewn gwirionedd, nid wyf yn derbyn y ffaith na fyddwn yn gwybod lle fyddwn ni ymhen pum mlynedd. Os edrychwch chi ar y crynodeb gweithredol, mae'n gwbl glir beth yr ydym ni eisiau bod yn ei wneud ymhen pum mlynedd. A dyna sut y gallwch ein mesur. Wyddoch chi, 500,000 o gysylltiadau o ran y Cymry alltud; rwy'n credu bod hynny'n eithaf clir o ran y sefyllfa yr hoffem ni fod ynddi.
O ran rhaglenni'r UE, rwy'n credu ein bod wedi ei gwneud hi'n glir, nid yn unig yn y ddogfen hon ond yn y Siambr hon ar sawl achlysur a chan nifer o Weinidogion, ein bod yn awyddus iawn i barhau i fod yn rhan o'r rhaglenni UE hynny; yn arbennig, rwy'n credu, Erasmus, yr ydym ni wedi'i drafod y prynhawn yma. Rydym yn arbennig o bryderus ei bod hi'n edrych fel bod Llywodraeth y DU yn mynd i gefnu ar ran alwedigaethol hynny. Dydyn nhw ddim yn ceisio hyrwyddo hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Y ffaith yw ein bod, mewn gwirionedd, wedi buddsoddi rhywfaint o arian i geisio datblygu perthynas alwedigaethol a sefydlu teithiau cyfnewid gyda Llydaw, dim ond i wneud yn siŵr y gallwn ni barhau â'r berthynas honno yn ystod y cyfnod pontio anodd hwn.
O ran Horizon 2020, mae'n hanfodol i lwyddiant ein gwyddonwyr yn y wlad hon a'n hymchwilwyr. Ac os ydych yn meddwl am y ffaith ein bod, ar hyn o bryd, yn talu tua £5 biliwn i Horizon 2020, ond ein bod yn cael £7 biliwn yn ôl, mewn unrhyw berthynas newydd, dim ond yr hyn yr ydych yn ei fuddsoddi a gewch yn ôl. Dyna'r gwahaniaeth rhwng bod i mewn a bod allan. Mae Israel yn rhan o'r rhaglen Horizon 2020, felly does dim rheswm pam na allwn ni fod. Felly, mater o ewyllys gwleidyddol yw hwn, ond gadewch inni fod yn glir na fyddwn yn cael cymaint allan ac na fyddwn yno i fframio ac i lunio'r rhaglenni yn y ffordd y buom yn gwneud hynny yn y gorffennol.
Rwy'n credu ei bod hi'n glir iawn yn y ddogfen ein bod yn canolbwyntio ar yr UE—mai dyna yw ein prif berthynas, dyna le'r ydym ni eisiau datblygu—ond yn amlwg mae angen inni gydnabod bod y byd yn newid hefyd, a bod gennym y cysylltiadau pwysig hynny, yn enwedig gyda Gogledd America, a bod gennym y cyfrifoldeb byd-eang hwnnw, yn enwedig i ddatblygu rhai o rannau tlotaf y byd, ac rydym ni wedi dewis canolbwyntio ar Affrica, ac ar ddwy ran arbennig o Affrica.
Sut ydym ni'n asesu llwyddiant y swyddfeydd? Wel, maen nhw i gyd wedi cael cyfarwyddyd clir iawn nawr o ran beth yw'r disgwyliad. Byddaf yn cael adroddiadau misol am hynny, a bydd eich pwyllgor nawr yn cael adroddiadau eithaf rheolaidd.
O ran masnach, bydd Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn gweithio ar lawer o wahanol agweddau mewn cysylltiad â'r trafodaethau masnach. Os meddyliwch chi am amaethyddiaeth, bydd hynny'n sylfaenol, ac mae Lesley Griffiths yn ymwneud i raddau helaeth â hynny. Ar ryw adeg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fasnach yn y fan yma, bydd yn rhaid imi weld sut yr ydym yn cydbwyso'r cysylltiadau a'r blaenoriaethau rhwng y defnyddwyr a'r cynhyrchwyr, rhwng gwahanol sectorau'r economi, rhwng y berthynas â'r UE a gweddill y byd. Mae'r pethau hynny i gyd yn drafodaethau y bydd yn rhaid inni eu cael gyda phob rhan o'r Llywodraeth, ac mae'r rheini'n bethau, unwaith eto, lle nad ydym yn gwybod beth fydd mandad negodi Llywodraeth y DU. Ar ôl gweld hynny, byddwn yn gallu gwneud asesiad mwy deallus, rwy'n credu.
Gadewch imi ddatgan yn gwbl glir nad canolbwyntio ar dri sector yn unig ydym ni. Dim ond i gael sylw pobl ar y dechrau y mae'r tri sector hynny. Gwnaethom hynny pan aethom i'r Almaen y llynedd. Fe wnaethom ni wahodd pobl i gyfarfod technoleg, dywedwyd wrthynt y byddem yn siarad am led-ddargludyddion seiber a chyfansawdd; fe wnaethom ni orffen drwy siarad am dechnoleg yswiriant. Felly, mae'n ymwneud â dal sylw pobl ac ennyn eu diddordeb. Ac yn sicr, nid ydym yn cau'r trafodaethau ar fuddsoddi mewn unrhyw un o'r sectorau. Diben hyn yn syml yw rhoi ychydig o gyfeiriad i bobl, oherwydd yn y bôn mae gennych chi ychydig funudau i gael effaith, ac ni allwch chi ddechrau siarad am bob sector.
O ran pŵer meddal, cawsom gynhadledd ar hyn yn ddiweddar, a drefnwyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ac roedd hwnnw'n lleoliad defnyddiol iawn inni ganfod y ffordd orau i ddefnyddio pŵer meddal. Rwy'n credu mai un enghraifft ohonom ni'n defnyddio pŵer meddal yn dda oedd Japan; mae angen inni wneud mwy o hynny. Ond mae hefyd angen i ni fanteisio ar gorn pethau, fel y ffaith fod yna ddau unigolyn wedi eu henwebu o Gymru am Oscars nawr, a bod y mathau hynny o bethau yn gwneud gwahaniaeth. Dyna'r math o beth sy'n rhoi amlygrwydd inni ar y llwyfan byd-eang. Felly, rwy'n credu bod yna gyfleoedd gwirioneddol ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gydweithio'n dda nawr fel adran a chyda'ch pwyllgor chi. Byddem yn barod iawn i glywed a gwrando ar rai o'ch syniadau.
Mae ein hamser ar ben ar y datganiad hwn, ond fel y dywedodd Darren Millar, dyma'r strategaeth ryngwladol gyntaf yn ystod 21 mlynedd bodolaeth y lle hwn, felly byddai 10 munud arall, rwy'n credu, yn gymesur â hynny. Mae gennyf dri siaradwr arall i'w galw, ac os gallant fod yn weddol gryno, a chryno mewn atebion hefyd, yna gallwn glywed pawb sydd â diddordeb. Mick Antoniw.
Diolch. Gweinidog, yfory, byddaf yn cynnal dadl fer yn sôn am rai o arwyr Cymru—sy'n cael eu cydnabod a'u hanwybyddu—y credaf y bydd ganddynt, mewn gwirionedd, ran yn y strategaeth ryngwladol, a'r angen am y cysylltiadau yr ydym yn eu sefydlu gyda gwledydd rhyngwladol. Ond yr hyn roedd arnaf eisiau ei wneud nawr yw cyfeirio at thema yr wyf wedi ei chodi yn y Siambr hon a gyda chi nifer o weithiau ynglŷn â sut yr ydym yn hyrwyddo delwedd Cymru mewn gwirionedd, a hynny drwy gyfrwng ein celfyddyd a'n diwylliant.
Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol iawn o Fand Cory, sy'n bencampwyr byd, sydd wedi bod yn bencampwyr y byd gymaint o weithiau ac sy'n llysgenhadon gwych dros Gymru. Pan edrychwch ar eu taith: maen nhw newydd ddychwelyd o America, sy'n amlwg yn faes yr ydym eisiau datblygu ein perthynas ag ef; byddant yn Lithwania, yn Palanga ym mis Ebrill 2020 ar gyfer pencampwriaethau Ewrop; byddant wedyn yn Ne Korea ym mis Awst 2020; byddant yn Iwerddon, yn Kilkenny, yn Ebrill 2020; byddant yn Japan yn 2021; Mae ganddynt gyngherddau yn Awstria, Lille yn Ffrainc, ac ym Mrwsel. Tybed, Gweinidog, a allech chi efallai roi ychydig mwy o fanylion ynglŷn â'r strategaeth o ran sut, pan fydd gennym ni lysgenhadon fel hyn, y gallwn ni integreiddio eu teithiau a'u gweithgareddau diwylliannol ledled y byd gydag agenda Llywodraeth Cymru, hyrwyddo Cymru, hyrwyddo ein cysylltiadau diwylliannol a'n cysylltiadau economaidd.
Un o'r problemau sydd gennym ni yng Nghymru yw, wrth gwrs, nad yw llawer o rannau'r byd yn gwybod yn iawn ble yr ydym ni; dydyn nhw ddim yn gwybod llawer am Gymru. Drwy ddiwylliant y gall pobl ddysgu cymaint a magu diddordeb. Ac mae'n ymddangos i mi, dros y degawd neu ddwy ddiwethaf, ein bod wedi colli cyfle gyda bandiau fel Band Cory, ond hefyd gyda rhai o'r grwpiau dawnsio gwerin a rhai o'r nifer o asedau diwylliannol gwych eraill sydd gennym ni.
Diolch, ac mae'n ddrwg iawn gennyf y byddaf yn absennol o'r ddadl honno yfory, gan ei bod yn swnio'n ddiddorol iawn. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn cael cyfleoedd yn y strategaeth ryngwladol hon. Rhywbeth rwy'n gobeithio ei wneud pan fyddaf yn mynd i'r Unol Daleithiau yw mynd ati o ddifrif i hyrwyddo'r ffaith bod gennym ni, er enghraifft, ddeiseb heddwch menywod, y gwn i fod y Llywydd wedi sôn amdani yn y gorffennol. Llofnododd tua thraean o fenywod Cymru ddeiseb i ofyn i'r Unol Daleithiau ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd; adeg anhygoel mewn hanes a rhywbeth y dylem fod yn falch o'i adrodd. Felly, mae arwyr, ac mae menywod ymhlith yr arwyr hynny.
Diolch am grybwyll Band Cory. Rwy'n credu bod yna sefydliadau celfyddydol y dylem fod yn falch iawn ohonyn nhw yng Nghymru. Mae Band Cory yn un ohonyn nhw; pencampwyr cenedlaethol 2019 a phencampwyr Ewrop 2019. Am gyfle. Rwyf eisoes wedi gofyn am grŵp cydlynu i ddwyn ynghyd y sefydliadau mawr, fel Opera Cenedlaethol Cymru ac fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, i weld sut y gallwn ni gysylltu ein teithiau masnach â'r digwyddiadau mawr hynny. Ond rwyf hefyd wedi gofyn nawr a holi a gaiff Band Cory eu gwahodd er mwyn i ni lunio map a gweld a oes unrhyw gyfleoedd i ni fanteisio ar eu hymweliadau, neu o leiaf i roi rhai adnoddau iddynt i hyrwyddo Cymru. Felly, byddant yn cael gwahoddiad i ddod i gyfarfod fel y gallwn ni gydlynu'r ymdrechion hynny yn y dyfodol.
Rwy'n gwybod bod Côr y Penrhyn ym Methesda hefyd yn gôr anhygoel, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud pethau gyda rhai o'r corau gwych, gwych hynny ledled Cymru hefyd; eu cael nhw i siarad ar ein rhan.
Gweinidog, rwy'n croesawu eich datganiad yn fawr. Mae eich uchelgais a'ch penderfyniad i godi proffil rhyngwladol Cymru yn ysbrydoledig ac mae mawr angen amdano. Rydych wedi sôn yn eich datganiad pa mor bwysig y gall chwaraeon fod o ran hyrwyddo brand Cymru. Fel y gwyddoch chi, rwy'n gefnogwr mawr, fel y Llywydd, o Uwch Gynghrair Cymru, sef Nomadiaid Cei Conna yn fy achos i, ac Aberystwyth yn achos y Llywydd.
Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon hefyd, Gweinidog, rwyf hefyd yn hoff o'r gêm FIFA ac yn chwaraewr brwd. Rhyddhawyd fersiwn ddiweddaraf y gêm ym mis Medi y llynedd, ac o fewn un mis roedd ganddo eisoes 10 miliwn o chwaraewyr yn fyd-eang. Rydych chi eisoes wedi sôn am swyddogaeth chwaraeon a pha mor dda yr ydym ni wedi gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn genedlaethol a chartref ym maes rygbi a phêl-droed. Felly, fy mwriad, Gweinidog, yw ysgrifennu at ddatblygwr y gêm, A&A Sports, a galw arnyn nhw i gynnwys Uwch Gynghrair Cymru, a thîm Cenedlaethol Cymru, pan gyflwynir y gyfres nesaf o'r gêm.
Felly, bydd hyn yn golygu, Llywydd, y bydd chwaraewyr yng Nglannau Dyfrdwy, yn Aberystwyth, yn Delhi, yn Shanghai, yn Efrog Newydd ac yn Tokyo yn gallu cymryd rheolaeth dros chwaraewyr pêl-droed fel Michael Bakare, y digymar George Horan, ac Elise Hughes o Sir y Fflint. Felly, byddai'n rhoi Uwch Gynghrair Cymru ar yr un sail â chynghreiriau yn Lloegr, Iwerddon a'r Alban, ond byddai hefyd yn rhoi trefi ledled Cymru ar y map rhyngwladol. Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod hon yn ffordd arloesol a gwych o hyrwyddo Cymru gyfan, ac a wnewch chi ymuno â mi i alw am hyn ac i alw ar Uwch Gynghrair Cymru a thîm cenedlaethol merched Cymru i fod ar gêm FIFA 2021? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn dweud wrth fy mab i adael y gêm FIFA, ond ni allaf gymryd arnaf fy mod yn deall sut mae'n gweithio. Felly, mae'n anodd i mi ddweud, 'Iawn, dyna syniad gwych', heb wybod ychydig mwy am y peth. Ond fel egwyddor, os oes unrhyw siawns y gallwn ni gael llwyfan ar y mathau hynny o systemau, yna byddai hynny'n wych. Felly, bwriwch ati, a gadewch i mi wybod sut hwyl y cewch chi.
Rydw i'n cael fy nhemtio i gario ymlaen efo'r drafodaeth yna, i ddweud y gwir, ar ôl cael trafodaeth efo fy mab ynglŷn â p'un ai i brynu'r FIFA diweddaraf er mwyn cael Aaron Ramsey mewn crys Juventus yr wythnos diwethaf. Penderfynwyd sticio efo'r hen fodel, efallai bydd rhaid i fi ailystyried.
Dwi jest yn mynd i siarad yn fyr iawn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol, ac estyn gwahoddiad, fel arfer, i holl Aelodau'r Cynulliad yma i ddod yn rhan o weithgareddau'r grŵp trawsbleidiol hwnnw. Dwi eisiau croesawu'r ffaith bod gennym ni rŵan strategaeth ryngwladol, a gwneud apêl ar i'r strategaeth honno—er mai rŵan rydym ni'n ei chael hi, mae'r inc yn dal yn gynnes arni hi—i fod yn strategaeth hyblyg, mewn difrif, ar gyfer blynyddoedd i ddod. Mae'n garreg filltir fod gennym ni'r strategaeth. Dwi'n rhoi teyrnged arall i Steffan Lewis, flwyddyn union bron iawn ers iddo fo ein gadael ni, a oedd mor frwd, wrth gwrs, dros gael Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol a strategaeth o'r math yma, ac mae o gennym ni rŵan o'n blaenau ni. Mae o mor hanfodol ein bod ni fel gwlad fach yn edrych allan i'r byd ac yn gwneud yn fawr o'r cyfleon sydd yna allan yna i gyrraedd ein potensial ni fel gwlad.
Yn wleidyddol, mae yna anghytuno yn y Senedd yma ynglŷn â sut i gyrraedd ein potensial o ran cyd-destun cyfansoddiadol. Dwi'n grediniol mai fel gwlad annibynnol yn ein hawl ein hunain y mae cyrraedd y potensial hwnnw. Mae eraill yn gweld cyfleon, wrth gwrs, fel yn y ddogfen yma, i chwilio am gyfleon newydd o hyd. Ond, mae'n rhaid i ni fod yn barod. Pan yn gweithredu'n rhyngwladol fel hyn, nid yw rhywun yn gallu bod yn ynysig. Mae'n rhaid ymateb i beth sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd a gweld sut mae Cymru'n gallu ffitio i mewn i batrymau eraill a cheisio dylanwadu ar eraill ar yr un pryd.
Gair yn sydyn iawn o ran diaspora: rydw i'n falch o weld ymrwymiad rŵan i weithio'n benodol efo y grwpiau diaspora sy'n gweithredu'n barod. Mae yna grybwyll GlobalWelsh yn y ddogfen ac wythnos Cymru yn Llundain. Mi wnâi ychwanegu at hynny—gan ddatgan diddordeb gan fod fy nhad wedi bod yn gadeirydd ar y mudiad sawl tro yn y gorffennol—mudiad Cymru a'r Byd, sydd, wrth gwrs, ers 70 mlynedd a mwy wedi bod yn gwneud cysylltiadau rhwng Cymru a Chymry alltud, neu'r Cymry ar wasgar fel roedden nhw'n arfer cael eu galw. Mae eisiau gwneud yn fawr o'r rhwydweithiau yna. Mi wnaf i ddyfynnu, i gloi, oddi ar wefan Cymru a'r Byd, geiriau Rhys Meirion, llywydd y mudiad hwnnw:
'Gyda balchder yn ein cymreictod a'n hunaniaeth Gymraeg, mewn byd sydd bellach mor fach, gallwn fod yn genedl fyd eang lle mae ganddom i gyd, yn Gymry brodorol neu'n Gymry rhyngwladol, gyfraniad pwysig i'w gynnig i'n gilydd fel Cymry, ac i Gymru ein mamwlad.'
Mae yna gyfle mawr i ni. Dwi'n falch fod gennym ni'r strategaeth yma, ond a gaf i'r sicrwydd yna y bydd hon yn ddogfen ac yn strategaeth ddeinamig wrth i ni symud yn ein blaenau?
Diolch, a diolch am yr holl waith dŷch chi'n gwneud ar y grŵp trawsbleidiol yna. Dwi'n meddwl bod hwnna'n fforwm sydd yn help aruthrol. Wrth gwrs bod rhaid inni fod yn hyblyg—dyna’r byd rŷn ni’n byw ynddi. Ac felly, mae’n bwysig ein bod ni’n cael ambell i darged ond ein bod ni hefyd yn deall efallai y bydd rhaid inni newid wrth i bethau symud ymlaen.
Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Steffan a'i angerdd e tuag at faterion rhyngwladol a'r hyn wnaeth e yn y lle yma i helpu symud y ddadl ymlaen.
O ran y diaspora, daeth Cymru a'r Byd i’r cyfarfod mi gawsom ni jest cyn y Nadolig i ddod â rhai o’r grwpiau diaspora hynny at ei gilydd, ac felly maen nhw nawr yn rhan o’r drafodaeth ynglŷn â sut allwn ni gydweithredu a sicrhau ein bod ni ddim yn dyblygu ein gwaith a'n bod ni'n defnyddio’r rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad.