– Senedd Cymru am 3:47 pm ar 15 Ionawr 2020.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl yma heddiw ar ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. Fel Cadeirydd y pwyllgor, wrth gwrs, mi hoffwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r ymchwiliad yma ac i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, hefyd, am ei hymateb i'n hadroddiad ni. Mae'r pwyllgor yn croesawu'n fawr iawn y ffaith bod y Gweinidog, yn ei hymateb hi, wedi derbyn pob un o argymhellion yr adroddiad.
O dan Ddeddf Cymru 2017 a'r fframwaith cyllidol cysylltiedig, ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru derfyn benthyca cyfalaf blynyddol o £150 miliwn. Ym mis Mehefin y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog becyn buddsoddi cyfalaf gwerth £85 miliwn. Yna, ar 4 Tachwedd, cyhoeddodd gyllid ychwanegol gwerth £130 miliwn ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf allweddol, ac roedd hynny'n cynnwys £53 miliwn i gefnogi busnesau yn wyneb Brexit ac i ddarparu buddsoddiad ychwanegol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, fel tai a theithio llesol. Ynghyd â'r cyhoeddiad hwn, cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o Gynllun Buddsoddi Seilwaith Cymru.
Nawr, mi gafodd yr adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru ar weithredu Rhan 2—cyllid—o Ddeddf Cymru 2014 ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae’n cyfeirio at fenthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru ac mae'n nodi—a dwi'n dyfynnu—
'Bydd ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i'r defnydd o fenthyca cynlluniedig yn ystod pob cyfnod cyllidebol, a bydd ond yn cael ei ddefnyddio pan fydd pob ffynhonnell gonfensiynol, ratach o gyllid cyfalaf sydd ar gael wedi cael ei disbyddu.'
Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid gynnal yr ymchwiliad hwn i sefydlu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ffrydiau cyllidol sydd ar gael iddi, pa mor effeithiol yw strategaeth gyllido Llywodraeth Cymru, a hefyd manteision a risgiau modelau cyllido penodol, yn enwedig y model buddsoddi cydfuddiannol, neu'r MIM fel rŷn ni'n ei adnabod e drwy'r acronym Saesneg.
O ran ei natur, mae cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi mwy o gyfyngiadau ar ddefnyddio cyfalaf, a hynny drwy gyflwyno cyfalaf trafodion ariannol. Yn 2019-20, roedd 14.2 y cant o gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar ffurf cyfalaf trafodion ariannol. Dim ond ar gyfer benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti yn y sector breifat y gellir defnyddio’r cyfalaf hwn, wrth gwrs, a rhaid ei dalu yn ôl i Drysorlys Ei Mawrhydi.
Yn ei thystiolaeth i’r ymchwiliad, nododd y Gweinidog fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru dalu yn ôl 80 y cant o gyfanswm y cyfalaf trafodion ariannol gafodd ei ddyrannu gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddarparu benthyciadau di-log neu fenthyciadau llog isel iawn i'r sector breifat fuddsoddi mewn seilwaith perthnasol, er enghraifft, mewn prosiectau tai.
Mae’r pwyllgor o’r farn bod tystiolaeth rhanddeiliaid yn dangos yr angen i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gellid defnyddio cyfalaf trafodion ariannol yn well i gefnogi darparwyr tai a hefyd sut y gellir defnyddio pwerau benthyca cyfalaf llywodraeth leol yn fwy effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y dystiolaeth bod seilwaith cyfalaf yn dirywio, felly gwnaeth y pwyllgor argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda llywodraeth leol i ddarparu dull mwy integredig o gyflawni buddsoddiad seilwaith, yn genedlaethol ac hefyd yn lleol.
Yn ystod yr ymchwiliad, un o’r prif themâu i ddod i’r amlwg oedd yr angen i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer y tymor hwy a nodi ffynonellau cyllid ar gyfer projectau er mwyn creu darlun cliriach o ran faint o gyfalaf y bydd angen ei fenthyca yn y dyfodol.
Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cynllun buddsoddi seilwaith diwygiedig, gan ei fod yn rhoi mwy o fanylion am fuddsoddiadau seilwaith arfaethedig Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn ystod yr ymchwiliad, tynnodd rhanddeiliaid sylw at y diffyg eglurder yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu projectau ar hyn o bryd. Awgrymodd un o’r tystion y dylai unrhyw gynllun buddsoddi hirdymor gael ei gyhoeddi yn llawn. Dywedodd y Gweinidog wrth y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymru i gael y golwg hirdymor hwnnw, gan edrych rhwng pump a 30 mlynedd i’r dyfodol. Ac yn ôl y Gweinidog, mi fydd y grŵp hwn yn gwneud argymhellion ynghylch anghenion y seilwaith economaidd ac amgylcheddol yn y tymor hwy ledled Cymru. Yn ei hymateb i’n hadroddiad ni, fe ychwanegodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i argymhellion y comisiwn newydd ar ôl iddo gyhoeddi ei adroddiad cyntaf yn 2021 ac yn edrych ar sut y gall hyn ddylanwadu ar ddull Llywodraeth Cymru o fenthyca.
Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth fod y risg yn amrywio drwy oes project a bod y risg uchaf yn y cyfnod adeiladu. Dylai'r risg gael ei hasesu ar bob cam o'r project, a dylid ystyried cysylltu ffynonellau cyllid â risg project ar bob cam. Mae'r pwyllgor o'r farn y byddai hyn yn ffordd fwy effeithiol o ddyrannu cyllid na’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar hyn o bryd, sef defnyddio'r ffynhonnell rataf o fenthyca yn gyntaf. Mi fyddai fe hefyd yn galluogi’r Llywodraeth i wneud y mwyaf o'r cyfalaf sydd ar gael a lleihau costau cyllid ar yr un pryd.
Roedd yr ymchwiliad gan y pwyllgor hefyd yn cynnwys cryn dipyn o dystiolaeth yn cymharu a chyferbynnu mentrau cyllid preifat, y PFI, a gyflwynwyd gyntaf, wrth gwrs, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig nôl ym 1992, a'r model buddsoddi cydfuddiannol, y MIM oeddwn i'n sôn amdano fe gynnau, a gafodd ei ddatblygu yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy na £1 biliwn i ariannu seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r model buddsoddi cydfuddiannol yn seiliedig ar fodel dosbarthu di-elw Llywodraeth yr Alban, a gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Banc Buddsoddi Ewrop i ddatblygu’r model newydd gyda’r nod o sicrhau nad oes unrhyw rwymedigaeth o ran dyledion yn cael ei chofnodi ar fantolen y Llywodraeth. Dylai hyn olygu na fydd yn cael ei chynnwys yn nherfynau benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru, ac fe ddylai ddarparu, felly, ffrwd fenthyca annibynnol i'r Llywodraeth yma yng Nghymru.
Awgrymodd y dadansoddiad cymharol fod model buddsoddi cydfuddiannol yn well o ran agweddau fel buddion cymunedol a goruchwylio contractau project, ond ei bod yn anodd gweld gwahaniaeth sylweddol rhwng y ddau fodel. Yn benodol, nid yw'n eglur sut mae’r model buddsoddi cydfuddiannol yn lleihau costau cyllido na sut mae’n cynnig mwy o werth am arian na’r model PFI blaenorol.
Yn yr ymchwiliad, un o fuddion posibl y model buddsoddi cydfuddiannol a gafodd ei amlygu oedd bod cyfle i’r sector cyhoeddus gael hyd at 20 y cant o gyfanswm yr ecwiti mewn project a chael cyfran o unrhyw enillion o ganlyniad i hynny. Byddai cael ecwiti mewn project hefyd yn galluogi'r sector cyhoeddus i gael cynrychiolaeth ar fwrdd y project fel cyfranddaliwr, a byddai hyn yn gyfle i'r sector cyhoeddus ddylanwadu ar benderfyniadau yn ymwneud â’r project. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn pryderu am y posibilrwydd na fyddai'r trefniadau llywodraethu presennol yn ddigon cadarn i liniaru gwrthdaro buddiannau posibl a allai godi o ganlyniad i’r ffaith y byddai Llywodraeth Cymru wedyn yn gyfranddaliwr ac yn gleient.
Fe glywsom ni dystiolaeth fod y gwaith i ddatblygu'r model buddsoddi cydfuddiannol wedi ceisio delio â rhai o’r materion o ran cymhlethdod ac anhyblygrwydd y contractau PFI, ond fe glywsom ni gan dystion fod contractau model buddsoddi cydfuddiannol yn dal yn gymhleth ac yn dal i fod yn weddol anhyblyg. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu, o dro i dro, lefel yr arbenigedd sydd yn ei le ar gyfer rheoli contractau, a hynny er mwyn cynnal yr arbenigedd hwn a sicrhau bod projectau o dan y model hwn yn cael eu cyflawni'n effeithiol trwy gydol eu hoes.
Mae tystiolaeth hefyd wedi awgrymu y dylid ystyried yn ofalus y projectau sy'n cael eu dewis ar gyfer eu cyflawni trwy'r model buddsoddi cydfuddiannol. Dyw projectau â gofynion cymhleth, asedau technoleg uchel a phrojectau arloesol ddim yn cael eu hystyried yn rhai priodol ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol. Mae projectau sy'n cael eu hystyried yn rhai sefydlog dros amser, megis adeiladu ffyrdd, ysgolion ac ysbytai, yn fwy priodol ar gyfer y model hwnnw. Roedd y pwyllgor yn fodlon bod projectau priodol wedi cael eu dewis ar gyfer y model buddsoddi cydfuddiannol, ac mae wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio’r model hwn i ariannu projectau sy'n gofyn am gysondeb dros oes y contract yn ogystal â phrojectau lle gall y sector preifat sicrhau'r gwerth mwyaf am arian.
Cyfeiriwyd at sawl model cyllid arall yn ystod ymchwiliad y pwyllgor, ac mae’r Aelodau’n credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i archwilio dulliau ariannu eraill er mwyn bod yn fwy arloesol gyda'r cyllid sydd ar gael ac er mwyn datgloi rhagor o fuddsoddiad preifat ar gyfer projectau cyfalaf yng Nghymru.
Yn olaf, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni hefyd ei bod yn ceisio cael pwerau benthyca darbodus—prudential borrowing powers—i gefnogi ei rhaglen seilwaith cyfalaf, a chytunodd mwyafrif aelodau'r pwyllgor y dylai'r Llywodraeth barhau i bwyso am y pwerau hynny.
Dwi wedi rhedeg trwy'r adroddiad yn sydyn iawn. Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau ac, wrth gwrs, ymateb y Gweinidog. Diolch.
Tra bod alcemyddion eisiau troi metal cyffredin yn aur, mae gwleidyddion yn awyddus i sicrhau arian preifat i brosiectau cyhoeddus yn rhad, gan osgoi tramgwyddo gofyniad benthyca'r sector cyhoeddus a chael eu capio gan y Trysorlys. Yr ymgais ddiweddaraf yng Nghymru yw'r model buddsoddi cydfuddiannol sy'n denu cyfalaf preifat i gefnogi prosiectau sector cyhoeddus. Wrth lansio'r model buddsoddi cydfuddiannol, dywedodd y Prif Weinidog newydd, pan oedd yn Weinidog Cyllid:
'Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau gorfodol pwysig tymor hir i sicrhau manteision cymunedol, i greu prentisiaethau a lleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr Cymru ac ar gyfer datblygu cynaliadwy, lle mae'r partner sector preifat yn cefnogi cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'n ymgorffori ein hymrwymiad i god cyflogaeth foesegol ac yn caniatáu i ni fanteisio i'r eithaf ar ein harferion caffael cynaliadwy. Mae'r model hefyd yn galluogi'r Llywodraeth i ddylanwadu ar y partner preifat a ddewiswyd er mwyn sicrhau bod budd y cyhoedd yn cael ei amddiffyn. Pan rydym ni'n buddsoddi mewn cynlluniau, bydd y dylanwad hwn yn cael ei arfer gan gyfarwyddwr budd y cyhoedd, ac mae hyn yn gam pwysig ymlaen o ran yr hyn sydd wedi cael ei sicrhau mewn modelau partneriaeth cyhoeddus-preifat eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn sicrhau tryloywder cadarn o ran mynediad at wybodaeth sydd ar gael i'r bwrdd, ochr yn ochr ag amrywiaeth o faterion a gedwir yn ôl i ddiogelu arian cyhoeddus a budd y cyhoedd.'
Bydd pob un o'r uchod yn costio. Bydd y sector preifat yn cynnwys cost yr holl bethau neis hyn rydym wedi'u hychwanegu pan fyddant yn cyfrifo'r pris. Chi fydd yn talu amdano, ac rwy'n meddwl weithiau ein bod i'n gweld yn credu bod y sector preifat am roi rhywbeth i ni am ddim. Nid ydynt yn mynd i wneud hynny. Mewn gwneud elw y mae eu diddordeb—nid yw honno'n feirniadaeth arnynt, ond dyna yw eu diddordeb. Gallwch ofyn iddynt wneud unrhyw beth o gwbl ac fe'i gwnânt. Yr hyn y byddant yn ei wneud, fodd bynnag, yw gwneud i chi dalu amdano.
Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Chwefror 2019, dywedodd y Gweinidog Cyllid presennol:
'O'r cychwyn cyntaf, ein bwriad erioed fu sicrhau bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn hyrwyddo budd y cyhoedd yn y diffiniad ehangaf posib o'r term hwnnw. Yn hynny o beth, bydd y model yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ychwanegol mewn cysylltiad â llesiant, gwerth am arian a thryloywder, ac wrth wneud hynny bydd yn osgoi llawer o'r beirniadu a fu ar ffurfiau hanesyddol o bartneriaethau cyhoeddus-preifat—mewn rhai achosion, beirniadaeth yr oedd Llywodraeth Cymru ymhlith y cyntaf i'w mynegi. Er enghraifft, fe gofiwch chi fod un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi beirniadu'r ffurf ar fenter cyllid preifat sydd wedi ei hanghymeradwyo bellach... O ran llesiant, bydd partneriaid preifat yr ydym ni'n contractio gyda nhw gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn gorfod helpu'r Llywodraeth i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd angen iddyn nhw gynnig manteision cymunedol eang, gyda chosbau am fethu â gwneud hynny.'
Felly, os oes cosb am fethu cyflawni, beth fyddant yn ei wneud? Byddant yn cynnwys y gosb, oherwydd mae'n anorfod. Nid elusennau ydynt; maent yn gwneud hyn er mwyn gwneud arian. Bob tro y byddwch yn cynnwys unrhyw beth tebyg i hynny, fe fyddwch yn talu pris amdano.
'Bydd angen iddyn nhw fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. A bydd angen iddyn nhw adeiladu ein seilwaith gan ystyried cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol... Rydym ni hefyd wedi datblygu dull sicrwydd prosiect newydd y bydd pob cynllun sy'n defnyddio'r model buddsoddi cyddfuddiannol yn ddibynnol arno—gwiriadau adeg cymeradwyo masnachol. Rydym ni wedi cynnal dau o'r gwiriadau hyn ar y gwaith o ddeuoli'r A465. Cefnogwyd y gwiriadau hyn gan arbenigwyr o Fanc Buddsoddi Ewrop ac Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau'r DU. Rwy'n argyhoeddedig y bydd arfarniadau buddsoddi trwyadl, ynghyd â sicrwydd prosiect cadarn gan arbenigwyr diamheuol, nid yn unig yn esgor ar well dealltwriaeth o'r peryglon dan sylw wrth ddarparu prosiectau seilwaith mawr, ond hefyd yn arwain at werthfawrogiad mwy credadwy o werth am arian prosiectau o'r fath, a pha mor fforddiadwy ydyn nhw.'
Wel, os yw'r gwaith o ddeuoli'r A465 yn dangos llwyddiant y model ariannol hwn, nid wyf yn siŵr sut y byddai methiant yn edrych. Beth bynnag yw eich barn am yr A465—ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yn crybwyll hyn yn nes ymlaen—yn ariannol, ni fu'n arbennig o lwyddiannus.
'Er mwyn cynyddu gwerth am arian ein cynlluniau, rydym ni wedi penderfynu'n fwriadol i beidio â defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol i ariannu gwasanaethau meddal, megis glanhau ac arlwyo, a oedd yn un o'r beirniadaethau mawr ar gontractau menter cyllid preifat blaenorol, ac ni chaiff ei ddefnyddio chwaith i ariannu offer cyfalaf.'
'O ran tryloywder, mae'r Llywodraeth yn bwriadu buddsoddi swm bach o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael cyfran o unrhyw elw o fuddsoddiad.'
Mae elw o fuddsoddiad yn golygu cael rhywfaint o'ch arian eich hun yn ôl. Os yw'n gwneud £1 filiwn o elw, ac mai chi sydd ag 20 y cant ohono, fe gewch chi £200,000 o'r elw, ac mae'r £800,000 arall yn mynd i'r bobl sydd ynghlwm wrtho. Rydych yn prynu eich elw eich hun.
'Caiff y cyfranddaliad hwn ei reoli gan gyfarwyddwr a benodir o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru i fyrddau'r cwmnïau hynny sy'n darparu ein hasedau.'
A ddylem fod yn dawel ein meddwl os yw deuoli'r A465 yn dangos llwyddiant y model ariannol hwn? Wedi i chi gael gwared ar yr holl eiriau cynnes, fy mhryder i yw mai'r hyn a wneir yw talu am gyfalaf preifat dros gyfnod hir o amser. Bydd y rhai sy'n darparu'r cyfalaf yn chwilio am gyfradd enillion uwch na chost benthyca i awdurdodau lleol, a byddant hefyd yn ceisio lleihau eu risg.
Er na cheir gormodedd gwaethaf menter cyllid preifat (PFI)—megis peidio ag ariannu gwasanaethau meddal a chostau offer cyfalaf, megis £20 i newid bwlb golau—mae'n dal i fod yn ymrwymiad hirdymor a fydd yn effeithio ar gyllidebau refeniw am ddegawdau. Ar gyfer ysgolion, byddai'n rhatach i Lywodraeth Cymru ariannu benthyca gan awdurdodau lleol i dalu drwy symiau cyfanredol cyllid allanol am adeiladu'r ysgolion, a gadael iddynt fenthyg gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.
Hyd nes y byddwn yn gwybod beth yw cost derfynol y prosiectau, nid ydym yn gwybod faint y bydd yn costio, ond yn olaf, Ddirprwy Lywydd, o ddifrif, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn, oherwydd maent yn gostau hirdymor am enillion tymor byr.
A gaf fi ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cyllid am ganiatáu i mi gymryd rhan yn y ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig? Darllenais yr adroddiad a gynhyrchwyd gennych gyda diddordeb mawr, a gallaf weld ei fod yn waith trylwyr iawn, felly rwyf am eich canmol i gyd ac yn wir, y clercod sydd wedi eich cefnogi trwy'r broses.
Ar ôl darllen yr adroddiad, mae'n amlwg iawn fod yna rai argymhellion allweddol ynddo y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol iawn iddynt, ac rwy'n falch o weld hynny. Mae'n amlwg, rwy'n credu, fod angen i Lywodraeth Cymru gynllunio ei buddsoddiad mewn seilwaith mewn ffordd fwy hirdymor yn y dyfodol er mwyn inni gael mwy o gysondeb a datblygu economaidd sy'n gydlynol, yn hytrach na'r hyn rwy'n credu y mae'r adroddiad wedi'i nodi fel dull tameidiog yn y gorffennol o ran y ffordd y cafodd cyfalaf ei fuddsoddi ar rai achlysuron.
Ac wrth gwrs, rydym yn agosáu at ddiwedd cynllun buddsoddi mewn seilwaith Cymru, sy’n gynllun 10 mlynedd, a gwn fod Gweinidogion yn gweithio ar y cynllun 10 mlynedd nesaf, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn gwneud argymhellion defnyddiol ac addas iawn ynglŷn â sut y gellid datblygu'r cynllun hwnnw yn y dyfodol. Wrth gwrs, gwyddom fod y Llywodraeth wedi nodi nifer o wahanol flaenoriaethau, mae gennym yr argyfwng newid hinsawdd sydd wedi’i ddatgan hefyd, a gwyddom fod yna lefel o ansicrwydd, rwy’n cydnabod hynny, o ran y ffordd y gallai cronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU weithio.
Nawr, un o'r pethau a oedd yn un o brosiectau allweddol cynllun buddsoddi mewn seilwaith Cymru, wrth gwrs, oedd ffordd liniaru’r M4. Dywedwyd wrthym fod y cynllun wedi'i roi heibio oherwydd yr argyfwng newid hinsawdd, ond ni welwn unrhyw gynigion yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd ar gyfer seilwaith gwyrdd o ran—
Diolch am ildio. Dywedodd fod y cynllun wedi’i roi heibio oherwydd yr argyfwng newid hinsawdd, ond a yw’n cofio nad oedd yr hysbysiad ynghylch y penderfyniad a oedd yn naw neu 10 tudalen o hyd yn sôn o gwbl am newid hinsawdd?
Ydw, ond roeddwn yn cyfeirio at resymeg y Prif Weinidog, o ran rhesymeg y Prif Weinidog dros wrthod y cynnig. Rydym i gyd yn gwybod, wrth gwrs, fod yr arolygydd annibynnol wedi argymell y dylid datblygu’r llwybr. Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw bod yn rhaid i chi baru eich cynlluniau buddsoddi mewn seilwaith â blaenoriaethau a nodau datganedig y Llywodraeth, ac nid wyf yn credu ein bod ni o reidrwydd wedi gweld cydgysylltiad rhwng y pethau hynny yn y gorffennol, ac mae gennym gyfle, rwy'n credu, i wneud hynny os yw rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn i gael eu gweithredu.
Sylwaf hefyd, ac rwyf wedi myfyrio ar y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganiad eich bod bob amser yn ceisio dihysbyddu'r holl ffynonellau cyllid rhatach cyn i chi droi at y ffynonellau cyllid drutach o bosibl. Nawr, mae honno'n swnio'n ffordd resymol iawn o fynd ati, oni bai a hyd nes eich bod chi'n dechrau adeiladu risg yn rhan o’r broses. Ac wrth gwrs, dyma beth o'r siarad a ddaeth drwodd yn y sesiynau tystiolaeth lafar, yn enwedig gan KPMG ac eraill, gan gyfeirio at y fenter cyllid preifat (PFI) a'r model buddsoddi cydfuddiannol (MIM), oherwydd pan allwch chi rannu'r risg â'r sector preifat, yn aml iawn mae'n gwneud synnwyr, er y gallai fod yn ffordd ddrutach o fenthyca. Felly credaf y dylai'r Llywodraeth ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y pwyllgor ynghylch y math o bolisi yr ymddengys ei bod wedi ei fabwysiadu o ran ei hamharodrwydd i ariannu o ffynonellau preifat, oherwydd, yn aml iawn, rwy’n credu—. Rydym wedi gweld enghreifftiau gwael o fentrau PFI ond mae rhai da i’w cael hefyd ac ni ddylem anwybyddu'r ffaith y bu peth gweithgarwch PFI llwyddiannus, a chredaf fod y model buddsoddi cydfuddiannol wedi cael cyfle, o bosibl, i ddangos dull gwahanol o weithredu sy'n sicrhau gwell gwerth am arian mewn ffordd nad yw'r mentrau PFI hynny yn y gorffennol wedi’i wneud bob amser o bosibl.
A allwch chi enwi cynllun PFI sydd, dros ei oes, wedi sicrhau gwerth am arian?
Gallaf dynnu sylw at enghreifftiau yng Nghonwy lle codwyd ysgolion newydd a oedd yn bendant yn sicrhau gwerth am arian. Gallaf dynnu sylw hefyd at y buddsoddiad ym Mae Colwyn yn fy etholaeth i gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei bencadlys newydd a oedd yn bartneriaeth gyda'r sector preifat, sy'n ymddangos fel pe bai'n dangos gwerth am arian. Ond gallaf hefyd dynnu sylw at enghreifftiau gwael iawn o fentrau PFI hefyd lle mae'n amlwg bod y trethdalwr heb weld gwerth am arian. Fe sonioch am ffordd Blaenau’r Cymoedd, ac rydym i gyd yn gwybod bod rheolaeth dros wariant cyfalaf wedi bod yn broblemus gyda rhai o brosiectau Llywodraeth Cymru, a chredaf ei bod yn hanfodol fod pawb ohonom yn y Cynulliad Cenedlaethol yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif lle mae pethau wedi mynd o chwith. Ond rwyf am gymeradwyo'r adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac rwy'n falch iawn o weld bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion ynddo.
Gwnaf i ddim siarad yn hir. Mae'r rhan fwyaf o'r pwyntiau pwysig wedi cael eu gwneud gan Gadeirydd y pwyllgor, ond mi oedd hwn yn ymchwiliad pwysig, dwi'n meddwl, achos rydym ni'n sôn yn fan hyn am fodd o ddatgloi potensial Cymru. Rydym ni'n sôn am un o'r ffyrdd allweddol o ddod â ni allan o'r rhigol rydym ni ynddi hi, dwi'n teimlo, fel gwlad ar hyn o bryd.
Mae buddsoddi yn isadeiledd Cymru'n gwbl hanfodol, dwi'n meddwl, ar gyfer y dyfodol: isadeiledd er mwyn gallu delifro gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn cynnwys addysg; isadeiledd i gysylltu Cymru er mwyn creu a rhannu llewyrch o gwmpas y wlad; isadeiledd digidol i wneud yn siŵr bod Cymru yn gallu chwarae ei rhan yn llawn yn yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt; ac, wrth gwrs, yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, yr isadeiledd gwyrdd i'n gwneud ni yn ffit i ymateb i'r argyfwng hinsawdd yna. Mae angen cyllid cyfalaf, wrth gwrs, er mwyn gallu gwneud hynny, ac mae'n dda gweld pan fo cyllid cyfalaf yn gallu cael ei ddyrannu o fewn cyllidebau blwyddyn i flwyddyn, ond, wrth gwrs, dydy hynny ddim yn ddigon wrth inni edrych ar sut i ddad-wneud blynyddoedd lawer o ddiffyg buddsoddiad yn isadeiledd Cymru.
Mae angen symiau mawr arnom ni, ac er mwyn datgloi'r symiau mawr yna mae angen bod yn greadigol ynglŷn â sut i wneud hynny. A beth wnaethon ni fel pwyllgor, fel rydym ni wedi'i glywed yn cael ei amlinellu'n barod, oedd edrych ar draws ystod o fodelau a gweld bod yna sgôp go iawn i fuddsoddi yn ein dyfodol mewn ffyrdd dydyn ni ddim wedi bod yn eu gwneud hyd yma. Ac, fel dywedodd y Cadeirydd hefyd, rydym ni'n feddwl agored iawn fel pwyllgor ynglŷn â'r sgôp i feddwl am ffyrdd a modelau newydd o gyllido buddsoddiad—modelau dydyn ni ddim hyd yma wedi gallu eu mireinio nhw.
Felly, mae'n rhaid, fel mae'r argymhellion yn eu rhestru, cynllunio'n ofalus ac i'r hirdymor sut i flaenoriaethu buddsoddiad. Mae'n rhaid cael darlun cwbl glir o beth ydy'r heriau, beth ydy'r rhwystrau rydym ni'n trio eu goresgyn, a sut mae'r cynlluniau sydd yn cael eu datblygu yn ymateb i'r heriau hynny. Mae eisiau dewis modelau cyllid cywir ar gyfer y sefyllfaoedd cywir, fel rydym ni wedi'i glywed yn cael ei grybwyll yn barod—cydweithio â llywodraeth leol, er enghraifft, yn y gwaith o sicrhau ein bod ni'n dewis y modelau iawn, a gwneud yn siŵr bod y model sydd yn cael ei ddewis yn adlewyrchu'r risg, fel sydd wedi cael ei grybwyll gan aelodau eraill o'r pwyllgor, a'r gwahanol fathau a gwahanol lefelau o risg sydd ynghlwm wrth brosiectau o wahanol natur.
Dyna, dwi'n meddwl, oedd un o broblemau mawr cynlluniau PFI yn y gorffennol. Mi oedd yna, heb os, dwi'n meddwl, wobrwyo buddsoddwyr preifat lle roedd y risg a oedd yn cael ei gymryd, mewn gwirionedd, yn isel iawn. Mae Mike Hedges wedi cyfeirio at beth o'r cytundebau hynny oedd yn gwobrwyo'n hael iawn am elfennau meddal o gytundebau. Gallwn ni ddim gwneud hynny, ac wrth inni symud tuag at fodelau newydd—MIM, er enghraifft—mae'n rhaid bod yn llawer mwy soffistigedig ynglŷn â sut mae'r cytundebau hynny yn cael eu llunio, ac mae hynny'n gorfod golygu buddsoddi mewn sgiliau sydd yn gallu dod â'r gwerth mwyaf i'r pwrs cyhoeddus drwy lunio cytundebau mewn ffyrdd effeithiol.
Ond mi wnaf i orffen efo'r pwynt yma: un peth mae'n rhaid inni fod yn barod i'w wneud ydy benthyca a buddsoddi mewn ffyrdd uwchlaw beth sydd wedi cael ei wneud yn y gorffennol. Mae'r gyfran o gyllideb Cymru sydd yn cael ei defnyddio i ad-dalu benthyciadau yn llawer iawn rhy isel—werth inni fod yn blaen. Mae'n rhaid inni fod mewn sefyllfa lle rydym ni'n gallu datgloi cyfalaf, sicrhau yn rhesymol pa gyfran o'n cyllideb rydym ni'n hapus ac yn gyfforddus i'w defnyddio i ad-dalu'r benthyciadau hynny, er mwyn symud ymlaen tuag at isadeiledd rydym ni'n gallu bod yn hyderus ynddo fo, sy'n mynd i roi cyfle inni gyrraedd potensial nad ydyn ni ddim wedi'i wneud o'r blaen. Mi ddylai'r Llywodraeth yma fod yn curo ar ddrws Downing Street yn ddyddiol yn mynnu'r pwerau yma er mwyn inni gael buddsoddi yn y modd hwn. Ond o leiaf rŵan, ac efo'r Llywodraeth wedi cytuno i'r argymhellion yma, mae yna, dwi'n meddwl, uchelgais yn datblygu ar y cyd i ddatgloi ein potensial ni.
Rydym yn cael brawddegau rhy ddeniadol braidd, ac sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd yn ôl pob golwg, gan y Prif Weinidog: dylem ddefnyddio'r cyllid rhataf yn gyntaf—sy'n swnio’n synhwyrol iawn—ac yna mae'r pwyllgor yn dweud y dylem baru ffynonellau cyllid â phrosiectau, sydd hefyd yn ymddangos yn synhwyrol iawn. Ond fel arfer, yn y sector preifat, pan fydd pobl yn siarad am baru cyllid â phrosiectau, maent yn paru cyllid risg uchel, enillion uchel â phrosiectau lle mae'r risg yn uchel, ac yn yr un modd, â chyllid lle mae’r enillion yn isel. Ond mewn gwirionedd, yn y dystiolaeth a glywodd ein pwyllgor, yr hyn a argymhellwyd i ni oedd y gwrthwyneb. Roedd Gerry Holtham yn dweud ei bod yn bwysig iawn os oedd prosiect yn un risg uchel, eich bod chi'n benthyca ar ei gyfer trwy giltiau, i bob pwrpas, oherwydd ychydig iawn y byddech yn ei dalu fel sicrwydd yn erbyn risg uchel. Pe baech chi'n mynd at ffynonellau amgen—y sector preifat o bosibl, MIM neu fel arall—dylech ei wneud lle byddai gan y sector preifat gyfraddau cymharol isel o gymharu â phrosiectau eraill y gallai eu hariannu.
Yn y senario honno, mae'r Llywodraeth yn derbyn ein hargymhelliad, ond nid wyf yn siŵr iawn fod y mater wedi'i ddatrys, oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ofyniad gwirioneddol iddo fod, oherwydd nid oes unrhyw arwydd ein bod yn mynd yn agos at y terfynau benthyca o £150 miliwn y flwyddyn neu gyfanswm o £1 biliwn, er eu bod yn gymharol isel fel cyfran o refeniw Llywodraeth Cymru ar 1 y cant ac ychydig yn llai na 7 y cant.
Felly, pan fyddwn yn siarad am MIM ac yn ei gymharu â PFI, credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw nad ydym yn defnyddio MIM yn y ffordd y defnyddiwyd PFI, ar rai adegau yn y gorffennol o leiaf, i guddio benthyca a gwthio benthyciadau'r Llywodraeth oddi ar y mantolenni er mwyn osgoi rheolau'r Trysorlys i gael pethau cyfalaf, na fyddech yn eu cael fel arall, pan fydd cost hynny’n waeth o lawer oherwydd, i bob pwrpas, rydych chi'n talu'r sector preifat i fenthyca i chi ar gyfraddau sylweddol uwch ac yna’n eu had-dalu gydag elw. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr.
Dylem droi at y sector preifat pan fydd ganddynt arbenigedd neu eu bod yn well am wneud rhywbeth nag y byddai'r sector cyhoeddus yn uniongyrchol, neu mewn rhai achosion, efallai y byddwn eisiau cael dull consortiwm partneriaeth o weithredu, lle mae'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn cynnig sgiliau a galluoedd gwahanol. Os yw'r sector cyhoeddus yno ac yn berchen ar ran o brosiect, bydd y sector preifat yn llawer mwy sicr o ymrwymiad y sector cyhoeddus iddo, yn enwedig mewn pethau fel cynllunio a rheoleiddio, lle gallai meddu ar ddealltwriaeth a chefnogaeth y sector cyhoeddus fod yn bwysig iawn i'r sector preifat.
Mewn rhai amgylchiadau, rwy’n credu y byddai'n dda i'r Llywodraeth gael sedd ar y bwrdd, cyfranddaliad mewn prosiect o bosibl—efallai y bydd yn cael llif gwell o wybodaeth ac mae hynny'n gadarnhaol. Weithiau, pan fyddwch yn cyfuno sgiliau a thalentau, yn bendant dyna'r ffordd y byddech chi eisiau mynd, ond nid yw'n ateb i bob dim pan fyddwch chi ond yn contractio gyda'r sector preifat am eich bod chi eisiau rhywbeth a’ch bod yn talu'r sector preifat amdano.
Os ydych chi'n gyfranddaliwr ynddo, byddwch yn lliniaru gwrthdaro o’r fath rywfaint, ond nid ydych yn datrys y broblem fod y sector cyhoeddus yn talu am rywbeth y mae ei eisiau a'r sector preifat yn ei ddarparu er mwyn gwneud elw—nid ydych ond yn lliniaru hynny ar yr ymyl a bydd gwrthdaro o hyd y mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn wrth ei reoli. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw cael rhywun sy'n gyfrifol o fewn y sector cyhoeddus, boed yn Weinidog neu'n swyddog a enwir ar gyfer prosiect hir a chymhleth, rhywun sydd â pherchnogaeth arno ac sy'n deall sut i reoli'r contract trwy gydol y prosiect.
Nawr, pan wnaethom yr adroddiad hwn, buom yn siarad am fenthyca darbodus a chefnogi hynny, ond roeddwn yn pryderu bod benthyca darbodus yn golygu benthyca diderfyn, neu’r perygl o hynny fan lleiaf. Dywedodd y Gweinidog cyllid mewn tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn y dylai gosod y terfyn hwnnw fod yn fater i ni, ond byddem yn gwneud hynny mewn trafodaeth â'r Cynulliad Cenedlaethol.
Rwy'n pryderu bod hwnnw'n ofyniad hynod o radical, y dylem ni, yng Nghymru, allu benthyg cymaint ag y dymunwn ac nad oes a wnelo Llywodraeth y DU ddim â'r peth. Rhaid i unrhyw dalaith yn yr Unol Daleithiau gael cyllideb gytbwys. Yn yr Undeb Ewropeaidd, boed yn Sbaen, yr Eidal, neu’r Almaen, rhaid iddynt gytuno eu benthyca gyda'r Comisiwn Ewropeaidd a gellir dwyn camau gorfodi yn eu herbyn neu osod dirwyon os ydynt yn benthyca mwy nag y mae cyfraith yr UE yn ei ganiatáu. Yn yr un modd, yma, nid wyf yn credu ei bod yn realistig i Lywodraeth Cymru allu benthyca beth bynnag y mae ei eisiau tra'i bod yn rhannu system lywodraethol ac arian cyfred yn y DU. Hyd yn oed pan oedd Llywodraeth yr Alban—[Torri ar draws.]—hoffwn barhau, gan mai ychydig iawn o amser sydd gennyf—yn ceisio mynd am annibyniaeth, roedd yn rhaid iddi ddatrys y cwestiwn bryd hynny ynglŷn â sut rydych chi'n cytuno ar fenthyca tra'ch bod yn rhannu arian cyfred. Naill ai drwy'r bwrdd arian cyfred, ac nid oes gennych fenthyciwr pan fetho popeth arall, neu mae angen i chi ymdrin â gweddill y DU.
Felly, yn yr achos hwn, cefais fy nghalonogi gan dystiolaeth y Gweinidog y bore yma, lle ymddengys mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw negodi terfyn uwch ar y benthyca a'r ddyled gyda Llywodraeth y DU. O ystyried pa mor isel yw'r terfynau yn awr, mae hynny'n rhywbeth y buaswn yn ei gefnogi, ac rwy’n gobeithio gweld cefnogaeth ar draws y Siambr, ac mae hwnnw'n amcan realistig, ond nid yw cael benthyca diderfyn heb unrhyw reolaeth o gwbl yn amcan realistig. Diolch.
Fel eraill, hoffwn ddiolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor a Chadeirydd y pwyllgor am y gwaith a wnaethant i gynorthwyo'r pwyllgor yn yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am dderbyn holl argymhellion y pwyllgor. Rwy'n credu bod gweld y Llywodraeth yn derbyn argymhellion fel hyn yn rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr.
Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol fod y defnydd o bwerau benthyca a drosglwyddwyd i Lywodraeth Cymru gan Ddeddf 2014 a Deddf 2017 yn destun gwaith craffu. Yn fy marn i, mae'r ymchwiliad wedi dangos, er bod y dull strategol cyffredinol sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru yn ddull da ac effeithiol o wneud y mwyaf o werth cyhoeddus y ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael iddi, ar yr un pryd mae angen bod yn fwy ystwyth ac efallai'n fwy deallus yn y cynlluniau tymor canolig a hirdymor ar gyfer rheoli'r cyllid hwn.
Roeddwn yn falch o weld bod y rhan fwyaf o'r tystion yn teimlo bod y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn syniad da. Awgrymodd llawer o bobl fod gwelliannau y gellid eu gwneud iddo, ond ynddo'i hun câi ei ystyried yn rhan sefydledig o'r fframwaith ariannu cyffredinol a weithredir gan Lywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n ystyriaeth bwysig i ni edrych arni wrth ddadlau a thrafod sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli cyfleoedd cyllid cyfalaf.
Ond yn fwy na dim i mi, Ddirprwy Lywydd—prif ganfyddiad y pwyllgor oedd bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy craff wrth reoli'r rhaglen buddsoddi cyfalaf. Dyfynnwyd yr Athro Holtham eisoes y prynhawn yma, ac roeddwn yn teimlo ei fod wedi disgrifio hyn yn dda—fod angen i gynllunio fod yn y tymor hwy, gan ddeall risg mewn ffordd ddyfnach. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n ganfyddiad pwysig iawn i'r pwyllgor hwn. Mae Aelodau eraill y prynhawn yma wedi trafod yr un pwynt mewn gwahanol ffyrdd, ac mae wedi bod yn rhy hawdd yn rhy hir i Lywodraeth Cymru ac i Weinidogion ddweud yn syml, 'Fe ddefnyddiwn y ffynhonnell rataf yn awr ac fe wnawn hyn dros y tymor hwn a'r llall', yn hytrach nag edrych ar sut rydych yn rheoli gwariant cyfalaf dros dymor llawer hwy, a pharu'r risg sy'n gysylltiedig â'r cyfalaf sydd ar gael. Rwy'n falch o weld nad oedd y Gweinidog wedi mynd ati mewn ffordd rhy ideolegol i ymdrin â rhai o'r materion hyn, a'i bod wedi mabwysiadu agwedd ddidostur o bragmatig at y ffordd yr ymdriniwn â'r materion hyn. Ac rwy'n credu bod honno'n ymagwedd dda iawn.
Er fy mod yn gweld bod y cynllun MIM newydd sy'n cael ei argymell gan y Llywodraeth yn sicr yn welliant ar fodelau cynharach, model PFI ydyw o hyd; rwy'n credu ein bod yn twyllo ein hunain os credwn ei fod yn rhywbeth gwahanol. PFI ydyw. Nid wyf yn gweld sut y gellir dadlau nad yw hynny'n wir, ond rwy'n cytuno â'r Llywodraeth ei bod yn iawn ac yn briodol inni sicrhau ein bod yn paru arian o'r math hwn â phrosiectau penodol. Hon fydd y ffordd orau o ariannu rhai o'n rhaglenni cyfalaf ond nid ein rhaglen gyfalaf i gyd, ac rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedwyd am y gwasanaethau meddal lle nad ydym am weld rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus yn cael eu preifateiddio.
A gaf fi orffen ar un pwynt nad yw siaradwyr yn y ddadl hon wedi mynd i'r afael ag ef hyd yn hyn, sef sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei hasedau? Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf wedi fy argyhoeddi—ac mewn gwirionedd, ni chefais fy argyhoeddi yn y 13 blynedd y bûm yma—fod gan Lywodraeth Cymru afael gadarn ar reolaeth yr asedau yn ei pherchnogaeth ac o dan ei rheolaeth. Rwy'n synnu'n gyson i ddarganfod bod Llywodraeth Cymru yn berchen ar siop yng Nglynebwy neu'n landlord ar floc o fflatiau yng Nglynebwy, neu ble bynnag, ac yn berchen ar eiddo ym mhob man. Nid wyf erioed wedi cael fy argyhoeddi gan unrhyw Weinidog, naill ai mewn Llywodraeth neu y tu allan i'r Llywodraeth, fod y Llywodraeth yn deall beth y mae'n berchen arno, gwerth yr hyn y mae'n berchen arno a sut i reoli ei hasedau yn y ffordd orau ar draws y Llywodraeth. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael ag ef yn fwy trylwyr. Yn y gorffennol, mae Gweinidogion wedi gweld rheoli asedau yn syml fel ffordd o werthu swyddfeydd mewn gwahanol rannau o'r wlad; rydym wedi gweld hynny'n digwydd ar wahanol adegau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond rwy'n gobeithio yn y dyfodol y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld ei hasedau fel rhan werthfawr, nid yn unig o'r ystâd gyhoeddus yng Nghymru, ond yn y byd cyhoeddus, ac fel dull mwy deallus a phellgyrhaeddol o reoli ei hasedau, boed hynny'n gysylltiedig â gwireddu neu ddiddymu'r asedau hynny, neu eu defnyddio mewn ffordd fwy trwyadl er mwyn cyflawni ei rhagolygon polisi. Ond rwy'n credu, yn gyffredinol, fod hwn yn adroddiad sy'n ceisio bod yn gadarnhaol iawn a chredaf fod y pwyllgor ei hun yn gweithredu mewn ffordd gadarnhaol iawn. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl heddiw ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y mater pwysig hwn ac am eu hadroddiad, ac rwyf hefyd yn falch iawn, fel y clywsom, o allu derbyn yr holl argymhellion a wnaed gan y pwyllgor.
Rwy'n credu ei bod yn werth dechrau drwy ystyried y cyd-destun ariannol sydd wedi siapio ein cynlluniau buddsoddi mewn perthynas â chyfalaf dros y degawd. Yn 2010-11 Roeddem yn wynebu toriadau sylweddol i'n cyllidebau cyfalaf o ganlyniad i bolisi cyni Llywodraeth y DU, a chan barhau i alw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau arfaethedig, aethom ati i archwilio pob llwybr a manteisio ar bob cyfle i wneud y gorau o'n pŵer gwario cyfalaf i gynnal buddsoddiad cyfalaf hanfodol er mwyn ysgogi a thyfu'r economi ac i ddiogelu swyddi.
Yn 2012 gwnaethom gyhoeddi'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a nododd ein cynlluniau i ddefnyddio adnoddau cyfalaf presennol, sicrhau ffynonellau cyllid ychwanegol, a defnyddio mathau newydd, arloesol o gyllid hefyd i gynyddu lefel y cyfalaf a oedd ar gael inni a gwneud y defnydd gorau o'n holl adnoddau er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau buddsoddi mewn seilwaith. Rwy'n falch iawn o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Felly, ers i ni gyhoeddi'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, rydym wedi dyrannu mwy na £15 biliwn, wedi cynhyrchu £2 biliwn arall o ganlyniad i'n mentrau cyllid arloesol, a hefyd, wrth gwrs, wedi sicrhau'r pwerau benthyca newydd hynny.
Er gwaethaf camau diweddar gan Lywodraeth y DU i gynyddu gwariant cyfalaf, mae ein cyllideb gyfalaf ar sail debyg am debyg yn 2021 yn dal i fod £100 miliwn yn llai na'r hyn ydoedd ar ddechrau'r degawd mewn termau real, ac wrth gwrs, mae'r tirlun polisi'n newid hefyd ac ni allwn golli golwg ar yr heriau y bydd angen inni fynd i'r afael â hwy a'r heriau a fydd yn llywio ein dull o fuddsoddi mewn seilwaith dros y tymor hwy.
Felly, rydym yn wynebu cyfleoedd yn ogystal â heriau o ran y boblogaeth sy'n heneiddio ac yn newid, y datblygiadau mewn technoleg sy'n effeithio ar ddyfodol ein heconomi, ble rydym yn byw a sut rydym yn teithio, ac yn amlwg mae taer angen inni fynd i'r afael â'r agenda newid hinsawdd a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac mae hynny'n galw am ddull newydd o weithredu.
Yn y gyllideb ddrafft, rwyf wedi nodi ystod eang o fesurau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, ac yn erbyn y cefndir hwn rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud popeth a allwn i hybu'r adnoddau sydd ar gael a gwneud y gorau o'n dulliau cyfalaf i gefnogi Cymru fwy llewyrchus a mwy gwyrdd.
Mae datblygu olynydd i gynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru dros y blynyddoedd i ddod yn rhoi cyfle inni nodi'r blaenoriaethau strategol i sbarduno penderfyniadau ynghylch buddsoddi, gan gadw'r hyblygrwydd i ymateb i raddfa a chyflymder y newid y bydd ei angen ar fuddsoddiad seilwaith.
Un tensiwn cyson sy'n ein hwynebu yw'r un rhwng yr angen i ddarparu'r sicrwydd hirdymor a hefyd y setliadau ariannol cyfyngedig o ran amser a gawn gan Lywodraeth y DU. Ond er gwaethaf y cyfyngiadau a wynebwn, rydym yn darparu'r sicrwydd mwy hirdymor lle gallwn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ein rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a ddechreuwyd gennym yn 2012 ac a fydd yn gweld buddsoddiad rhagamcanol o £2.3 biliwn ar draws Cymru, gan gefnogi oddeutu 200 o brosiectau i ailadeiladu ac adnewyddu ysgolion a cholegau.
O ran eu natur, mae i fuddsoddiadau cyfalaf a buddsoddiadau seilwaith yn arbennig amseroedd arwain cymharol hir, sy'n galw am lawer iawn o gynllunio hirdymor. Mae hyd oes yr asedau a gyflawnir trwy fuddsoddi mewn seilwaith hefyd yn golygu bod golwg hirdymor ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu hefyd yn hollbwysig, a rhaid inni gynllunio'r rheini mewn ffordd sy'n sicrhau'r effaith fwyaf posibl dros ddegawdau. Gan ddeall yr angen i ddarparu'r sail fwy hirdymor honno ar gyfer cynllunio seilwaith, rydym yn archwilio cyfleoedd i ddeall yn gliriach beth allai ein gofynion cyfalaf fod yn y dyfodol, gan ddefnyddio ystod o fodelau senario ar gyfer ein cyllid grant bloc i nodi'r cyfleoedd mwyaf priodol i ddefnyddio benthyca a chyllid preifat.
Os bydd angen benthyca y tu hwnt i'r £1 biliwn sydd ar gael ar hyn o bryd, rydym yn cydnabod bod paru ffynonellau ariannu â risg prosiect ar draws cylch bywyd prosiect yn ffactor pwysig iawn i'w ystyried, a chredaf fod y pwynt wedi'i wneud yn y ddadl nad yw cost cyllid a gawn drwy'r gronfa benthyciadau gwladol ar hyn o bryd yn dibynnu ar risg prosiect. Yr un yw'r gost ni waeth beth fo'r prosiect. Ond pan fydd mwy o gyfryngau ariannol yn dod ar gael i ni a phan fydd gennym ffynonellau cyllid ychwanegol, bydd yna gyfleoedd i wneud y mwyaf o'r cymysgedd posibl o gyllid y byddem yn ceisio ei ddefnyddio.
Cydnabyddwn ein bod, fel rheol, wedi mynd ati i ddefnyddio'r ffynonellau ariannu rhataf yn gyntaf, ac mae hynny'n caniatáu inni fuddsoddi'n sylweddol yng Nghymru mewn modd na ellid ei fforddio fel arall yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, a byddwn yn adolygu'r dull hwn o fynd ati fel rhan o'r datblygiadau ar olynydd i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru presennol.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y pwyllgor yn cydnabod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud ar ddefnyddio cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol, gan gynnwys y cynllun Cymorth i Brynu £520 miliwn a'r amrywiaeth o gronfeydd busnes a ddarperir drwy Fanc Datblygu Cymru.
Rwyf wedi nodi yn y Siambr hon o'r blaen yr heriau sy'n ein hwynebu wrth fynd ati i ddefnyddio'r math hwn o gyllid yn effeithiol, ond rydym yn parhau'n ymrwymedig i ddefnyddio pob punt sydd ar gael i'w buddsoddi mewn seilwaith a hybu twf economaidd yn y tymor hir. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i rannu arferion gorau ac enghreifftiau o sut y defnyddir trafodiadau ariannol. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i archwilio datblygiad cynlluniau sy'n rhoi cymysgedd o arian grant a benthyciadau cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol i landlordiaid cyhoeddus cofrestredig, a bydd hynny'n eu helpu i leihau'r angen i gael gafael ar gyllid preifat ar gost uwch. Rwy'n credu bod honno'n ffordd wirioneddol arloesol o edrych ar y defnydd posibl o gyfalaf trafodiadau ariannol ac mae'n sicr yn ymateb, rwy'n credu, i un o'r meysydd diddordeb a oedd gan y pwyllgor yn ystod ei ymchwiliad.
Hefyd, o ran defnyddio ein hasedau ein hunain mewn ffordd well, rwy'n cydnabod pwysigrwydd hynny, a dyna pam ein bod wedi sefydlu is-adran tir Llywodraeth Cymru. Felly, yn y lle cyntaf, byddwn yn edrych ar y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno ac yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio hwnnw mewn ffordd well yn y dyfodol, mewn ffordd sy'n ein helpu i ymateb i'n buddiannau ar draws y Llywodraeth. Felly, ein diddordeb arbennig yn y lle cyntaf yw sut y gallwn ddefnyddio tir Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol ledled Cymru. Ond dim ond dechrau yw hyn, ac rwy'n credu bod mwy o gyfleoedd o'n blaenau drwy is-adran y tir a'r gwaith y mae honno'n ei wneud, ond hefyd y ffordd y gallwn ddangos arweiniad i rannau eraill o'r sector cyhoeddus allu defnyddio eu hasedau mewn ffordd sy'n edrych ar y gwerth y tu hwnt i'r gwerth ariannol yn unig ac edrych i weld beth arall y gallant ei gyflawni.
Rwy'n nodi ac yn croesawu argymhellion y pwyllgor ynghylch ein gwaith ar y model buddsoddi cydfuddiannol. Mae Llywodraeth Cymru'n rhannu cydnabyddiaeth y pwyllgor o bwysigrwydd mwy o dryloywder, ac rydym wedi datblygu'r model buddsoddi cydfuddiannol gyda'r egwyddor hon mewn cof. Rydym wedi sicrhau bod y gofynion adrodd yn rhan annatod o gynllun y model a byddwn yn eu hymgorffori fel ymrwymiadau contract yn ein cytundebau. Bydd gan y sector cyhoeddus hawl hefyd i enwebu cyfarwyddwr ar fwrdd y cwmnïau prosiect sy'n cyflawni'r cynlluniau MIM hynny, gan sicrhau bod budd y cyhoedd yn ddylanwadol yno.
Bydd angen i bob cynllun MIM ddefnyddio'r model pum achos ar gyfer datblygu'r achosion busnes gofynnol, ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid asesu fforddiadwyedd a gwerth am arian cyn bwrw ymlaen â phrosiect. At hynny, mae pob cynllun yn destun haen drylwyr o graffu ychwanegol gan ddefnyddio ein hadolygiadau o'r pwyntiau cymeradwyo masnachol.
Rydym hefyd yn sicrhau bod trefn reoli contractau effeithlon ar waith i oruchwylio'r cynlluniau hyn, ac rydym yn bwriadu sefydlu swyddogaeth rheoli contractau MIM cyn i'r cynllun MIM cyntaf ddechrau adeiladu yn 2020. Ar y pwynt hwnnw, dylwn egluro bod y cynllun MIM yn cael ei ddefnyddio i ariannu rhannau 5 a 6 o'r A465 ac nad yw wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhannau blaenorol o'r ffordd honno. Byddem yn disgwyl i gyfranogwr llwyddiannus ar gyfer rhannau 5 a 6 gael eu cyhoeddi yn chwarter 2 o 2020. Rhoddwyd blaenoriaeth i'r cynllun hwn am ei fod yn addo manteision economaidd i rai o'r rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru.
Gallaf weld fy mod yn brin o amser, ond rwy'n nodi argymhelliad y pwyllgor i barhau i ddefnyddio'r MIM lle bo'n briodol.
Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd cyllideb y DU yn digwydd ar 11 Mawrth, a disgwyliwn y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei strategaeth seilwaith genedlaethol, gan gynnwys yr adolygiad cyllid, bryd hynny. Yn y Siambr yr wythnos diwethaf, ymrwymais i adlewyrchu unrhyw newidiadau sylweddol yn ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf mewn cyllideb atodol gynnar, ac yn amlwg, byddaf yn ystyried goblygiadau'r strategaeth wrth ddatblygu ein cynllun buddsoddi mewn seilwaith. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi'r cynnig y prynhawn yma, ac unwaith eto rwyf am gofnodi fy niolch i'r pwyllgor a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu yn y ddadl.
Diolch. A gaf fi alw ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i'r ddadl hon? Rwy'n credu efallai fod Mike wedi cyfleu'r teimlad sy'n rhedeg fel llinyn arian drwy'r ymchwiliad hwn, sef na fydd y sector preifat yn rhoi unrhyw beth inni am ddim. Ond awn i mewn i hynny gyda'n llygaid yn agored, oni wnawn? Ac rydym yn ymwybodol o hynny.
Rwy'n credu, ynglŷn â'r tensiwn rhwng PFI a MIM—nid wyf yn rhy hoff o acronymau, ond dyna ni—a yw MIM mor wahanol â hynny i PFI? Gellir cwestiynu hynny yn fy marn i. Cyfeiriais yn fy sylwadau agoriadol, rwy'n credu, at rai manteision, ond eto i gyd mae nifer o elfennau sy'n dal yn debyg iawn. Ac rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Mark Reckless, y gellid defnyddio MIM i guddio benthyca yng Nghymru—ac wrth gwrs mae'n costio mwy i ddefnyddio'r benthyca hwnnw drwy'r sector preifat—yn rhywbeth y credaf ein bod yn effro iawn iddo.
Mae'r pwyntiau hirdymor sy'n rhedeg drwy'r adroddiad a'r ddadl, rwy'n credu, yn bwynt y tynnodd Darren sylw atynt eto, ac mae'n rhoi mwy o eglurder pan fydd y llif clir hwnnw o brosiectau seilwaith o'ch blaen, ac mae hynny'n helpu i gyflwyno mwy o ddewisiadau o ran buddsoddiad. Mae a wnelo â'r cydbwysedd rhwng y benthyca rhataf a lle mae'r risgiau'n ffactor, oherwydd pan allwch rannu risg, hyd yn oed os yw ychydig yn ddrutach, efallai y byddai'n gwneud mwy o synnwyr ei ddefnyddio yn y ffordd honno.
Cawsom ein hatgoffa gan Rhun fod hon yn broses barhaus lle mae angen i ni adolygu a datblygu modelau'n barhaus, ac mae angen inni fod yn effro i'r cyfleoedd a bod yn ddigon hyblyg i ddefnyddio rhai o'r cyfleoedd hynny. Ond wrth gwrs, mae angen inni fod yn gyfrifol wrth wneud hynny hefyd, a daw hynny â mi at yr elfen fenthyca darbodus y cyffyrddwyd arni. Byddai gennym i gyd farn ynglŷn â pha gyfyngiadau y dylid neu na ddylid eu gosod ar fenthyca Llywodraeth Cymru, ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw na ddylai unrhyw Lywodraeth fenthyca mwy nag y mae'n gallu ei fforddio.
Nawr, rwy'n ddiolchgar i Alun Davies—[Torri ar draws.] Ewch amdani, Mike.
Nid yw pennu faint rydym yn ei fenthyg yn ymwneud â faint y gallwch ei fforddio. Faint rydych chi'n ei ad-dalu sy'n bwysig, onid e?
Mae'n wir, ac rydym i gyd yn ymwybodol fod benthyca'n costio, a dyna'n union y mae angen i ni ei gofio. Ond wrth gwrs, os yw'n ddigon da i lywodraeth leol, ni allaf weld pam nad yw'n ddigon da i Lywodraeth Cymru, cyn belled â'i fod yn cael ei wneud yn y ffordd iawn.
Cawsom ein hatgoffa gan Alun Davies, neu fe gwestiynodd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rheoli ei hasedau, ac rwy'n credu fy mod yn cofio'r Athro Holtham yn dweud wrthym yn y pwyllgor, ac efallai fy mod yn aralleirio yma, os yw'n werth mwy i rywun arall, ac nad yw mor bwysig i Lywodraeth Cymru fel ased, beth am ryddhau'r gwerth hwnnw i'w fuddsoddi yn rhywle arall. Yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf fod angen inni ei wneud yn well.
Ac mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithredu mewn hinsawdd anodd iawn, gyda thoriadau i'r gyllideb gyfalaf yn sgil cyni'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth fod yn hyblyg a chreadigol. Ond wrth gwrs, cawsom ein hatgoffa gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, neu fe awgrymodd yn y pwyllgor y bore yma, efallai nad yw'r cynnydd yn y gyllideb a welsom eleni a'r flwyddyn nesaf yn ddim mwy na gosteg dros dro yn y storm, felly efallai y bydd angen inni fod yr un mor hyblyg a chreadigol yn y dyfodol hefyd.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, ond wrth gwrs nid ydym yn sefyll yn llonydd. Credaf fod rhywfaint o gonsensws ynghylch ein hadroddiad, ac mae hynny'n adlewyrchu awydd yr Aelodau i fod yn greadigol ond i esblygu'r modelau hyn sy'n agored inni'n barhaus. Ac yn y math hwnnw o ysbryd adeiladol, edrychwn ymlaen at barhau i fod yn gyfaill beirniadol i Lywodraeth Cymru pan ddaw'n fater o graffu ar ffynonellau cyllid cyfalaf. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.