– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 29 Ebrill 2020.
Felly fe wnawn ni ailgynnull y cyfarfod llawn—y rhith-gyfarfod llawn. Ac fe symudwn ymlaen nawr at y datganiad nesaf ar ein hagenda, sef datganiad gan y Gweinidog Busnes—mae'n ddrwg gennyf, gan y Gweinidog Addysg, ynglŷn â'r coronafeirws. Felly draw at y Gweinidog, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddechrau heddiw drwy ddiolch i'n hathrawon, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr gofal plant, darlithwyr, a'r holl staff sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Rwy'n hynod ddiolchgar am y ffordd y mae pawb wedi ymateb i her y pandemig hwn. Diolch o galon. Rydych chi wir wedi bod yn arwyr cenedlaethol.
Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i bob un ohonom ni, ond rwy'n falch o'r hyn y mae ein gweithwyr addysg proffesiynol wedi gallu ei gyflawni hyd yn hyn. Drwy Hwb, ein platfform dysgu ar-lein, gellir defnyddio ystod eang o adnoddau a chynnwys digidol dwyieithog mewn modd na ellid gwneud hynny erioed o'r blaen. Ac mae hyn yn golygu bod gan Gymru'r cyfrwng perffaith i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, ond hefyd i'w galluogi i barhau i ddysgu, yn ystod y cyfyngiadau symud. Drwy gydol mis Mawrth 2020, cynyddodd y defnydd o Hwb yn sylweddol, a chofnodwyd mwy na 2.8 miliwn o achosoion o fewngofnodi. Ac mae ein ffigurau diweddaraf yn dangos, ar gyfartaledd, bod 150,000 yn mewngofnodi bob dydd. Ni oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i sicrhau cytundeb trwyddedu cenedlaethol gyda Microsoft. A diolch i'r cytundeb hwnnw, gall bob un disgybl ac athro yn ein hysgolion gwladol ddefnyddio'r offerynnau Microsoft Office diweddaraf, gan gynnwys Minecraft Education Edition, ar eu dyfeisiau personol gartref.
Ac enghraifft arall o Gymru yn arwain y ffordd yw'r ffaith ein bod wedi cyflwyno Adobe Spark yn genedlaethol—y wlad gyntaf yn y byd i wneud hynny—sy'n golygu y bydd mwy na 500,000 o athrawon a dysgwyr yn gallu defnyddio Adobe Spark for Education. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda chewri maes technoleg fel Google, gan sicrhau bod offer fel Google Classroom ac amrywiaeth o offerynnau G Suite for Education ar gael yn y Gymraeg. Nawr, ni ddylem ni danbrisio'r cyflawniad hwn; y Gymraeg yw'r ail iaith leiaf—o ran siaradwyr—y mae G Suite ar gael ynddi.
Yn nes adref, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i warantu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim hyd nes bydd ysgolion yn ailagor, neu hyd at ddiwedd mis Awst. Gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r Llywodraeth hon wedi darparu £33 miliwn i helpu awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais 'Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu: datganiad polisi parhad dysgu'. Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo pawb sy'n ymwneud ag addysg i ymdrin ag effaith y coronafeirws. Elfen bwysig o hyn yw gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr heb gyfleoedd i ddefnyddio cyfryngau digidol, a gobeithiaf allu gwneud mwy o gyhoeddiadau yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran hyn. Rwy'n ffyddiog y byddwn ni, felly, yn gallu cadarnhau mwy o gynlluniau i ailgylchu cyfarpar presennol o ysgolion a'i ddyrannu i ddysgwyr sydd ei angen, gan ddefnyddio ein cyllid Technoleg Addysg.
Wrth gwrs, un cwestiwn mawr i bob un ohonom ni yw: pryd y bydd ysgolion yn mynd yn ôl i'r drefn arferol? Rhaid imi ddweud na fu'n fawr o gymorth i neb glywed sïon niferus o gyfeiriad San Steffan yn dweud pethau anghyson yn y cyswllt hwn. Nid yw hynny'n ffordd o ennyn hyder.
Mewn cyferbyniad, yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaethom ni gyhoeddi yr egwyddorion arweiniol y byddwn yn eu defnyddio i benderfynu pryd a sut y bydd ysgolion yn dychwelyd i ddarparu addysg ar gyfer mwy o ddisgyblion. Rwyf wedi'i gwneud yn glir y bydd hwn yn ddull graddol. Ac wrth wneud hyn, rwyf wedi rhoi sicrwydd y byddwn yn cyfleu unrhyw gyfarwyddiadau a phenderfyniadau mewn da bryd cyn unrhyw gamau gofynnol, gan sicrhau bod ysgolion a theuluoedd yn gallu cynllunio at y dyfodol.
Os gallaf nawr droi at addysg bellach, mae colegau ledled Cymru wedi cyflwyno mesurau i ymdrin â'r pandemig mewn lleoliadau addysg bellach. Ym mis Mawrth, fe wnaethon nhw ddechrau ar ddull graddol o ddysgu o bell a dysgu digidol. Mae dysgwyr yn cael cymorth i barhau â'u hastudiaethau ac i weithio tuag at gwblhau aseiniadau a chyrsiau, lle bo hynny'n bosib, gyda phwyslais penodol ar ddysgwyr agored i niwed y bydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i wneud hynny. Mae colegau addysg bellach yn ganolog i'w heconomïau lleol, ac rwyf wedi rhoi sicrwydd ynghylch cyllid i GolegauCymru i gefnogi'r sector a sicrhau sefydlogrwydd i sefydliadau a'u dysgwyr yn y cyfnod hwn. Drwy Prifysgolion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'n prifysgolion ac rwyf eisoes wedi cadarnhau bod y moratoriwm ar gynigion diamod yn parhau i fod ar waith yng Nghymru tan 1 Mai.
Ar ôl rhoi syniad dros dro i CCAUC o'r lefelau o gyllid a allai fod ar gael i'r sector eleni, rwyf eisiau symud ymlaen ar yr adeg iawn gyda phecyn o fesurau sy'n rhoi sicrwydd i fyfyrwyr, i brifysgolion ac i'r gymuned addysg uwch ehangach. Yn y cyfamser, rydym ni wedi datblygu adnoddau ar gyfer disgyblion blwyddyn 13, sy'n gobeithio mynd i'r Brifysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd yn yr hydref. Mae'r adnoddau hynny yno i helpu adeiladu sgiliau a hyder ac i'w helpu i gysylltu â phrifysgolion ledled Cymru.
Rwy'n cydnabod, hefyd, bwynt Universities UK sef y dylai pob un o'r pedair Llywodraeth barhau i weithio gyda'i gilydd ar faterion sy'n ymwneud â'r sector addysg uwch a bod maint yr her a wynebir gan y sector yn mynd ymhell y tu hwnt i'r adnoddau sydd ar gael o fewn cyllidebau llywodraethau datganoledig. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau dull cyson o ymdrin â materion megis gofynion fisa, asesiadau wrth gefn, gofynion cyrff proffesiynol a derbyniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. A byddwn yn parhau i weithio'n gyflym o fewn Llywodraeth Cymru a chyda'r sector ehangach yng Nghymru ar y materion hyn. Ond byddwn hefyd yn parhau i weithio ar sail pedair gwlad ar faterion megis cyllid ymchwil a chyllid gan Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. A gobeithiaf symud ymlaen o ran y materion hynny yn fuan.
Fel y bydd fy nghyd-Aelodau yn gwybod yn iawn, gall sefyllfaoedd newid yn gyflym yn ystod pandemig. Gallaf eich sicrhau, fodd bynnag, y byddwn yn parhau i weithio o fewn ac ar draws y Llywodraeth a chyda'n partneriaid i ddarparu arweiniad a chyngor ac i sicrhau diogelwch pob un o'n staff a'n plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Suzy Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am y diweddariad yna a'r dystiolaeth a roesoch inni yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y diwrnod o'r blaen. A gaf i ategu eich sylwadau agoriadol am yr holl bobl y mae angen diolch iddyn nhw, ac ychwanegu rhai o'r swyddogion cyngor hynny, gan ei fod yn fy nharo i, bob tro y ceir cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, mae'n ymddangos i mi mai swyddogion a gweithwyr cyngor sy'n gwneud y gwaith caib a rhaw? Rwy'n gobeithio eich bod yn annog pawb sy'n gysylltiedig i gofnodi data am eu gweithgareddau, gan y bydd angen hynny arnom ni, nid yn unig i graffu arnoch chi a pherfformiad rhai o'r cyrff hyn, ond hefyd i ganfod a manteisio ar y syniadau da hynny ar gyfer ffyrdd mwy ystwyth, effeithlon ac effeithiol o weithio a fydd yn deillio o hyn.-
Rwy'n deall, wrth gwrs, bod pwyslais cryf wedi bod ar ysgolion, ond amharwyd ar fywydau dysgwyr achlysurol, fel pawb arall, ac roeddwn yn falch o'ch clywed yn dweud bod y cyfraniad ariannol i sefydliadau addysg bellach yn cael ei gynnal. Ond am hynny yr hoffwn i ofyn cwestiynau i chi, os caf i.
Rydym ni wedi cael eich diweddariad ar gymwysterau'r DU a gymerwyd yng Nghymru, a gaiff eu hasesu ledled y DU—y rhai sydd ag elfen ymarferol gref—ac edrychaf ymlaen at gael rhagor o wybodaeth am hynny. Ond, am y tro, a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae'r gwaith o asesu prentisiaethau a chynlluniau eraill dysgu seiliedig ar waith yn datblygu, a beth yw rhan cyflogwyr yn hynny o beth, o gofio bod digon iddyn nhw boeni amdano ar hyn o bryd? A yw Hwb a rhai o'r llwyfannau ar-lein eraill a grybwyllwyd gennych yn awr ar gael i fyfyrwyr coleg neu brentisiaid? Pa adborth ydych chi wedi'i gael gan golegau ynghylch defnyddio'r £2 miliwn yr ydych chi wedi'i roi iddyn nhw ar gyfer cymorth iechyd meddwl, ac unrhyw wybodaeth am y rhwystrau rhag ymgysylltu â myfyrwyr y maen nhw'n eu profi?
Os wnewch chi roi unrhyw wybodaeth i ni ynghylch yr hyn sy'n digwydd o ran cynlluniau eraill dysgu seiliedig ar waith Llywodraeth Cymru, sy'n aml yn seiliedig, wrth gwrs, ar sgiliau hanfodol ac sy'n cynnwys unigolion nad ydyn nhw efallai yn gallu defnyddio llawer o offerynnau TG yn rhwydd—beth yw'r sefyllfa. Ac, os oes gennym ni amser, eich syniadau ehangach ynghylch y Bil AHO sydd ar ei hynt yn y pumed Cynulliad.
Diolch. Gweinidog.
Diolch, Suzy, am y cwestiynau yna. Rydych chi'n hollol iawn: ni ddylai ymdrechion staff llywodraeth leol gael eu hanwybyddu. Rwy'n cyfarfod yn wythnosol ag arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr arweinydd a'r pennaeth addysg, ac rydym yn cadw mewn cysylltiad agos i sicrhau ein bod yn gweithio mewn cytgord agos â'n gilydd. Felly, mae gennyf sicrwydd ynghylch perfformiad awdurdodau lleol ac mae ganddyn nhw gyfle i roi adborth o lawr gwlad am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n amlygu eu hunain yn y cyfnod anodd hwn. Ac rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y ffordd y maen nhw wedi ymateb i'r argyfwng hwn mor gyflym ac ystwyth.
Dychmygwch os gallwch chi, dywedwyd wrthyn nhw ar brynhawn dydd Mercher y byddai ysgolion yn cau oherwydd diben statudol ddeuddydd yn ddiweddarach. Ond roedden nhw i gyd yn gallu sicrhau y gallai plant gweithwyr critigol a phlant sy'n agored i niwed gael gofal mewn ysgolion a addaswyd at ddibenion gwahanol erbyn y dydd Llun. Ac mae hynny'n dangos yr ymdrechion aruthrol a fu ar lawr gwlad i ymateb i'r argyfwng.
O ran addysg bellach, rydych chi'n gywir: rydym ni wedi bod mewn sefyllfa i allu rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch cyllid. Er, wrth gwrs, mae rhai o elfennau a gofynion y cyllid hwnnw yn anodd iawn eu cyflawni ar hyn o bryd. Ond, unwaith eto, mae colegau addysg bellach wedi gweithredu'n gyflym i barhau i ddarparu cymorth i fyfyrwyr ar-lein lle bo hynny'n briodol. Ac maen nhw wedi bod yn arbennig o awyddus i edrych ar elfennau gofal bugeiliol eu gwaith, gan gadw mewn cysylltiad agos â'r myfyrwyr hynny y mae astudio o bell efallai'n her wirioneddol, ac rwy'n ddiolchgar am eu hymdrechion yn hynny o beth.
O ran cymorth iechyd meddwl, byddwch yn ymwybodol, yn y dyraniad cyllideb ar gyfer eleni, ein bod wedi gallu dyfarnu £2 miliwn i gefnogi colegau addysg bellach a mentrau iechyd meddwl. Mae'r arian hwnnw ar gael o hyd i golegau ac maen nhw'n awyddus i ddarparu cymorth ar gyfer iechyd meddwl mewn amrywiaeth o ffyrdd, er nad yw sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb mewn colegau yn addas mwyach, ond maen nhw'n edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio'r adnodd hwnnw sydd ar gael iddyn nhw.
O ran cymwysterau galwedigaethol, rwy'n cydnabod ei bod wedi cymryd peth amser i allu rhoi eglurder i ddysgwyr galwedigaethol, nid yn y ffordd yr oeddem yn gallu gwneud hynny ar gyfer ein myfyrwyr TGAU ac A2 efallai. Mae hyn yn rhannol gan nad yw'r cyrff dyfarnu yng Nghymru yn unig; rydym yn ymwneud â chyrff dyfarnu sy'n gweithio ar sail y DU gyfan ac mae angen i ni weithio ar y cyd â nhw i sicrhau nad yw myfyrwyr o Gymru o dan anfantais.
Fel y dywedais wrth y pwyllgor ddoe, y myfyrwyr hynny sydd, fel rhan o'u prentisiaeth neu eu dysgu seiliedig ar waith, yn ymgymryd â chymwysterau sgiliau hanfodol, sy'n rhan o fwyafrif helaeth, y rhaglenni prentisiaethau, bydd y myfyrwyr hynny'n ennill gradd. I'r myfyrwyr hynny sy'n dilyn y cymwysterau galwedigaethol o ran gofal plant, sy'n gymwysterau i Gymru'n unig, byddant hwythau hefyd yn ennill gradd.
Gwn fod rhai o'n cyrsiau mynediad wedi achosi straen arbennig. Mae'r rhain fel arfer yn fyfyrwyr mwy aeddfed, rhieni eu hunain yn aml, sy'n dilyn cyrsiau gofal iechyd fel rhagflaenydd cyn mynd ymlaen i astudio ar lefel gradd, fel arfer ar gyfer cyrsiau sy'n ymwneud â nyrsio a bydwreigiaeth. A gwn y bu hynny yn her arbennig, a chytunwyd bellach nad oes rhaid i'r myfyrwyr hynny gwblhau eu holl aseiniadau—byddant hwythau hefyd yn cael eu trin yn yr un modd, a byddant yn cael gradd, gan eu galluogi nhw i symud ymlaen, gobeithio, i'r cyrsiau yr oedden nhw'n gobeithio eu gwneud ym mis Medi, heb unrhyw straen pellach.
Mae prentisiaethau yn her, yn enwedig i'r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi gallu cwblhau'r elfen seiliedig ar waith o'u cwrs, oherwydd efallai eu bod wedi cael eu rhoi ar ffyrlo neu efallai am nad yw eu cwmni neu eu cyflogwr yn gweithredu mwyach, ac rydym yn parhau i weithio drwy'r agweddau ymarferol ar sut y gallwn ni gefnogi'r myfyrwyr hynny. A byddwch yn ymwybodol ein bod wedi sôn ddoe am y myfyrwyr penodol hynny y mae cymhwysedd technegol yn rhan bwysig iawn o'u cwrs. Felly, os ystyriwn ni blymio a gosod nwy—yn amlwg, er mwyn cofrestru fel ymarferwr cymwys ceir arholiadau ymarferol ac asesiadau y mae angen eu cynnal. Unwaith eto, rydym yn gweithio gyda ColegauCymru i weld—a allwn ni lacio rhai o'r cyfyngiadau symud ar unrhyw adeg fel y gall rhai myfyrwyr ddychwelyd i ddysgu, mae'n debyg mai'r myfyrwyr penodol hynny fyddai un o'r cyfresi cyntaf o fyfyrwyr yn y sector addysg bellach y byddem yn dymuno darparu ar eu cyfer er mwyn iddyn nhw allu cwblhau eu cymhwyster, fel arall, efallai y byddwn mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid iddyn nhw ohirio'r elfen honno o'r cymhwyster hwnnw, ac rydym yn cynnal trafodaethau cynnar gyda cholegau ynghylch sut y gallent roi sylw i'r myfyrwyr hynny petai'r myfyrwyr yn methu gwneud hynny tan yn ddiweddarach, a hynny efallai yn mynd i'r flwyddyn academaidd nesaf.
[Anhyglyw.]—yr atebion yna. Mewn ymateb i ail ran fy nghwestiynau, efallai y gallech chi roi sylw i'r pwyntiau am AHO a mynediad i Hwb na wnaethoch lwyddo i'w cyrraedd.
Ond gan droi at sefydliadau addysg uwch, mae prifysgolion, wrth gwrs, yn sefydliadau preifat—statws y maen nhw'n ei warchod yn ffyrnig—ond maen nhw'n allweddol o ran gwella dyfodol ein hetholwyr a'n heconomi, felly mae gan lywodraethau, y ddwy ohonyn nhw, ran i'w chwarae i sicrhau'r cydnerthedd hwnnw. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni a ydych yn credu a oedd modd i brifysgolion yng Nghymru gael eu heffeithio yn anghymesur gan rai o'r anawsterau ariannol difrifol y mae prifysgolion y DU wedi sôn amdanyn nhw o ganlyniad i effeithiau'r feirws—fe gofiwch fod y mater ynghylch ymrwymiadau rhai o'n prifysgolion o ran cyllid wedi dod i'r Siambr hon o'r blaen, felly mae'n fater sy'n peri pryder difrifol—ac, yn sgil hynny, a ydych wedi cael unrhyw fanylion ganddyn nhw ynghylch y camau y maen nhw yn eu cymryd i sicrhau eu bod yn manteisio ar yr holl gynlluniau cymorth ariannol y mae'r ddwy Lywodraeth yn eu cynnig, megis ffyrlo, ond efallai fod enghreifftiau eraill hefyd.
Diogelu ein sail ymchwil—mae hynny'n eithriadol o bwysig yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig o ran cadw'r rhai mwyaf peniog o bob cwr o'r byd a helpu i fanteisio ar yr ystwythder a'r syniadau arloesol sydd wedi deillio o'r argyfwng hwn, os mynnwch chi. Felly, beth allwch chi ei ddweud wrthym ynghylch sut y mae ymchwil o ansawdd yn cael ei ddiogelu, ac eto a oes modd inni gael ein heffeithio yn anghymesur o ran fisâu?
Ac yna, yn olaf, gan y bydd yn debygol y gwelir colli miloedd o fyfyrwyr tramor a myfyrwyr cartref yn gohirio eu cyrsiau, bydd cystadleuaeth ffyrnig i'r rhai sydd am ddechrau cyrsiau yn yr Hydref, gan fod incwm myfyrwyr, wrth gwrs, yn hanfodol i hyfywdra cyrsiau, adrannau a hyd yn oed sefydliadau. Clywais yr hyn a ddywedsoch chi am reoli cynigion diamod sy'n dod i ben mewn ychydig ddyddiau, ond pa gamau eraill sydd eu hangen i sicrhau chwarae teg i bob sefydliad, ac a ydyn nhw, fel y banciau, yn rhy bwysig i fethu?
Mae'n ddrwg gennyf, maddeuwch i mi, Suzy. O ran Hwb, mae'n cael ei gyflwyno i ddysgwyr AB. Credaf fod y broses honno bron wedi'i chwblhau, ac felly mae'r adnoddau hynny ar gael i'r dysgwyr hynny.
O ran y Bil AHO, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, Suzy, bydd cyfraniad addysg bellach ac addysg uwch a dysgu seiliedig ar waith i ddyfodol economi Cymru wrth i ni ddod allan o hyn—sydd nid dim ond yn argyfwng iechyd cyhoeddus ond yn argyfwng economaidd—yn bwysicach nag erioed ac, felly, mae diwygiadau yn y sector hwnnw, rwy'n credu, yn bwysicach nag erioed. Byddwch yn ymwybodol bod y Bil wedi'i gyflwyno i Swyddfa'r Llywydd cyn i'r pandemig ddechrau, a'm bwriad oedd dod â hynny i'r pwyllgor ar ddechrau'r tymor hwn. Mae'r prosesau hynny, wrth gwrs, yn parhau. Mae'r Bil hwnnw'n barod i graffu arno, a byddaf yn parhau i drafod gyda'r Comisiwn y cyfleoedd a all fod ar gael wrth i'r Cynulliad ganfod ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni ei waith yn yr argyfwng hwn er mwyn gallu cyflwyno'r Bil hwnnw. Rwy'n sicr yn barod i wneud hynny. Efallai fod ystyriaethau ymarferol y bydd yn rhaid inni ymgodymu â nhw.
O ran y sector addysg uwch, byddwch yn ymwybodol o waith Universities UK sydd wedi ceisio mesur effeithiau'r argyfwng ar y sector addysg uwch. Mae rhai o'r rheini'n ddisyfyd o ran colli incwm ar hyn o bryd, boed hynny o gynadleddau, arlwyo, llety, ond, wrth gwrs, wrth inni edrych ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, gallai'r effeithiau hynny fod hyd yn oed yn fwy. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod yn edrych ar ostyngiad sylweddol mewn myfyrwyr tramor yn ofrgystal ag amharu ar farchnad y DU o bosibl os bydd rhai myfyrwyr yn penderfynu gohirio am flwyddyn a dewis peidio â mynd i'r brifysgol ar hyn o bryd, er bod yn rhaid i ni ddweud nad oes tystiolaeth o hynny ar hyn o bryd. A dweud y gwir, i'r gwrthwyneb: mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod llawer o bobl ifanc 18 oed sy'n daer am fynd i ffwrdd ym mis Medi ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ac efallai eu bod yn fwy penderfynol fyth o adael y nyth ar ôl profi'r cyfnod hwn o gyfyngiadau nag yr oeddent o'r blaen. Ond maen nhw'n gwestiynau dilys yr ydym ni'n ymgodymu â nhw.
Rwy'n falch iawn bod prifysgolion wedi ufuddhau i'r moratoriwm ar drosi cynigion amodol i gynigion nad oes ganddyn nhw unrhyw amodau. Rwy'n ddiolchgar am eu cydweithrediad yn hynny o beth. Ond bydd y moratoriwm hwnnw, fel y gwyddoch, yn dod i ben, ac rydym yn trafod, ar sail y DU gyfan, cyflwyno—yn sicr, ar sail Cymru a Lloegr—rheolaethau ar niferoedd myfyrwyr dros dro. Nid yw hyn yn rhywbeth sy'n digwydd fel arfer yn systemau Cymru a Lloegr. Mae ganddyn nhw reolaethau ar niferoedd yn yr Alban oherwydd y gwahanol ffyrdd y maen nhw'n ariannu eu system, ond yng Nghymru a Lloegr nid oes gennym ni reolaethau ar niferoedd. Ond fel y byddwch chi'n gwybod o bapur Universities UK, mae hwn yn awgrym gan y sector ei hun ein bod yn cyflwyno rheolaethau rhif myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, a fyddai'n caniatáu i sefydliadau recriwtio eu niferoedd rhagamcanol ynghyd â 5 y cant, a gobeithio y gallwn wneud cyhoeddiad yng Nghymru yn fuan ar reolaethau niferoedd myfyrwyr, a fydd yn ychwanegu sefydlogrwydd ychwanegol ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd.
Mae cyllid ymchwil yn gwbl hanfodol ac mae mewn perygl arbennig gan fod hyn yn aml yn cael ei ariannu gan arian cyfatebol o'r ffioedd a gyflwynir i'r sector gan fyfyrwyr rhyngwladol, ac mae'r dyfodol a graddfa cyllid ymchwil yn parhau i fod yn bwnc sy'n cael ei drafod ar sail pedair gwlad oherwydd bod y graddfeydd—. Yn gyntaf oll, nid yw llawer o elfennau o gyllid ymchwil ac arloesi ar gyfer y sector wedi'u datganoli ac oherwydd maint rhai o'r ymyriadau yr ydym ni'n edrych arnyn nhw dylid eu gwneud mewn gwirionedd ar sail pedair gwlad. Cefais ragor o drafodaethau gyda'm Gweinidog cyfatebol yn San Steffan ynghylch hyn heddiw ac rydym ni—minnau, Gweinidog Gogledd Iwerddon a Gweinidog yr Alban—yn parhau i annog Llywodraeth San Steffan i ddod o hyd i arian newydd o'r Trysorlys i gefnogi'r sector addysg uwch ar yr adeg hon. Ond yn union fel y mae pob plaid yn gofyn i'r Gweinidog Cyllid yng Nghymru am adnoddau ychwanegol, nid wyf yn amau nad yw'r un peth yn wir am Ganghellor y Trysorlys, ac rydym yn cefnogi Gavin Williamson a Michelle Donelan yn eu galwadau i'r Trysorlys a'u hachos i'r Trysorlys i gefnogi'r sector.
Diolch. Petaem ni yn y Siambr, fe fyddwn wedi bod yn syllu'n galed iawn ar y Gweinidog. Rydym yn ceisio cael atebion byrrach i gwestiynau, ac roeddwn yn syllu'n galed arnoch chi, ond, wrth gwrs, ni allwch fy ngweld yn gwneud hynny. Felly, gallwn ni feddwl am atebion byrrach, os gwelwch yn dda? Siân Gwenllian.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn innau gymryd y cyfle i ddiolch o galon i holl staff ein sefydliadau addysg, i rieni a disgyblion a myfyrwyr am ymateb mewn ffordd mor gyfrifol i'r argyfwng yma ac am fod mor hyblyg wrth ddelio efo ffordd newydd o ddysgu ac addysgu.
Un o'r heriau mwyaf ydy ceisio sicrhau nad oes yr un plentyn yn dioddef yn sgil yr argyfwng yma, ac mae'n peri pryder i mi cyn lleied o blant yn y categori bregus sydd yn mynychu'r ysgolion: dim ond tua 600 ar draws Cymru. Hoffwn wybod, felly, mwy am y canllawiau cenedlaethol sydd ar waith er mwyn sicrhau bod cysylltiad cyson yn digwydd efo'r cohort yma o blant.
Hoffwn i wybod hefyd pa drefniadau ydych chi yn rhoi ar waith, neu'n disgwyl i gael eu gweld yn rhoi ar waith, i sicrhau bod pob plentyn yn cynnal cysylltiad efo'u hysgol, a pha drefniadau sydd ar waith i sicrhau bod pob plentyn yn gallu parhau i ddysgu? Heb ganllawiau clir, fy mhryder i ydy bod y bwlch cyrhaeddiad yn lledu yn gyflym gan adael miloedd o blant dan anfantais enfawr.
Mae'r bwlch digidol yn gadael plant ar ôl hefyd, am resymau tlodi neu ddaearyddiaeth, neu gyfuniad o'r ddau. Does gan rai miloedd o blant ddim ffordd o gael mynediad at ddysgu ar-lein. Does ganddyn nhw ddim dyfais a does ganddyn nhw ddim cysylltiad efo'r band eang, neu gyfuniad o'r ddau beth yna. Onid ydy hi'n sgandal ei bod hi wedi cymryd argyfwng i hyn gael sylw, ac onid ydy ymdrechion eich Llywodraeth chi i sicrhau bod gan bob plentyn ddyfais briodol wedi bod yn dila iawn hyd yn hyn? A gaf i ofyn jest un peth arall yn y darn yma? Ydy cynnal fideo byw rhwng athro a disgybl yn awr wedi cael ei wahardd?
Mae nifer y plant agored i niwed sy'n gymwys i fynychu ein canolfannau wedi bod yn isel, ond rwy'n falch o adrodd, ers diwedd yr hyn a fuasai'n doriad traddodiadol y Pasg, ein bod wedi gweld cynnydd yn y niferoedd hynny, a byddwn yn parhau i weithio gyda phob rhan o'r Llywodraeth a chyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod pob rhiant yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Rydym wedi cael sicrwydd gan awdurdodau lleol bod y plant hynny sydd â gweithiwr cymdeithasol wedi cael asesiad risg, a bod cyswllt yn cael ei gadw gyda'r plant hynny, naill ai gan eu gweithiwr cymdeithasol neu yn wir gan eu hathrawon. Gwyddom fod rhai plant yn agored i niwed ond nad oes ganddyn nhw weithiwr cymdeithasol, neu nad oes ganddyn nhw ddatganiad ar gyfer anghenion addysgol arbennig, a gwyddom fod ysgolion mewn sawl ardal wedi bod yn ddiwyd iawn yn gwneud archwiliadau lles ar blant y mae ganddyn nhw bryderon yn eu cylch, a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y plant cywir yn derbyn gwasanaeth yn y ffordd gywir. Ond gadewch i ni fod yn glir: rydym wedi dweud wrth rieni'n gyson mai'r cartref yw'r lle mwyaf diogel i'w plentyn, ac ni ddylai fod yn syndod i ni pan fydd rhieni wedi cymryd y cyngor hwnnw o ddifrif ac wedi cadw eu plant gartref.
Bydd y cynllun parhad dysgu yn parhau i addasu. Fe wnaethom ni gyhoeddi'r datganiad polisi yr wythnos diwethaf. Cam nesaf y gwaith hwnnw yw datblygu a chael cytundeb ledled Cymru ar yr hyn y dylai penaethiaid ac athrawon unigol ei ddisgwyl o ran y math newydd hwn o addysg yng Nghymru, ac yn wir byddwn eisiau olrhain gwireddiad y disgwyliadau hynny sydd gennym ni mewn gwirionedd ar lawr gwlad.
O ran y rhaniad digidol, nid wyf yn ei hystyried hi'n beth pitw mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd wedi sicrhau bod Microsoft Office ar gael i'w holl ddisgyblion a'i myfyrwyr. Ni yw'r cyntaf yn y byd, fel y dywedais, i sicrhau bod meddalwedd Adobe ar gael i bob myfyriwr. Rwy'n ymwybodol iawn, fodd bynnag, y bydd rhai myfyrwyr nad oes ganddyn nhw'r caledwedd na'r cysylltedd gartref i fanteisio ar ein hadnodd Hwb, ond, fel y dywedais, mae dros 150,000 o blant y dydd yn mewngofnodi i'r adnodd hwnnw. Dyna pam, fel y gwnaethom ni drafod yn gynharach yr wythnos hon, Siân, ac fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn gwneud datganiad yfory ar sut y byddwn yn defnyddio buddsoddiad Llywodraeth Cymru i ddarparu caledwedd ychwanegol i fyfyrwyr nad oes ganddyn nhw'r caledwedd hwnnw ar hyn o bryd, a chysylltiadau MiFi er mwyn iddyn nhw gael y cysylltiadau data y bydd eu hangen arnyn nhw i allu defnyddio adnoddau eraill yn y dyfodol. A bydd hynny i bob plentyn—nid i grŵp dethol o blant, sydd yn ôl pob golwg yn wir dros y ffin, lle mae'r pwyslais ar y plant hynny'n sy'n cymryd dosbarthiadau arholiad yn unig. Ond bydd angen i ni weithio gyda'n hawdurdodau lleol a'n hathrawon i adnabod y teuluoedd hynny sydd angen y cymorth hwnnw. Mae'n dipyn o gamp, ond rydym ni'n gwneud y gwaith hwnnw.
O ran ffrydio dosbarthiadau ar-lein yn fyw, ar hyn o bryd, rydym yn argymell nad yw ysgolion yn gwneud hynny, ac rydym wedi argymell ar hyn o bryd nad ydynt yn gwneud hynny oherwydd materion pwysig o ran amddiffyn a diogelu plant—er mwyn y plant eu hunain a'r staff. Mae Hwb yn galluogi athrawon i recordio eu gwersi a myfyrwyr i lawrlwytho ar adeg sy'n gyfleus i'r plant hynny. Mae hynny oherwydd, fel y gallwch chi ddychmygu, mae'n bosibl bod gennym ni rai plant ifanc iawn, ac athrawon yn gweithio o'u cartrefi, pryd efallai y byddai'n amhriodol i blant weld athrawon yn eu cartrefi eu hunain. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi gweld mwy o ystafelloedd gwely fy nghyd-Aelodau nag y byddwn wedi gobeithio yn ystod y broses hon o gyfarfodydd Zoom a Skype diddiwedd—nid yw hynny mewn gwirionedd yn briodol mewn amgylchedd addysgol.
Felly, rydym yn cymryd safiad gwrth-risg ar hyn o bryd, wrth i ni werthuso'r hyn sy'n ddiogel a beth yw'r peth priodol i'w wneud yn yr amgylchiadau newydd, heriol hyn. Felly, mae'n ddigon posib y gallwn ni newid y cyngor hwnnw, ond, ar hyn o bryd, ni argymhellir ffrydio gwersi'n fyw gan athrawon yn eu cartrefi i gartrefi plant—gan gydnabod hefyd y gall athrawon weld rhywbeth ar y sgrin honno y gellid ei gamddeall, ond y byddai dyletswydd broffesiynol arnyn nhw i adrodd am yr hyn a welsant. Felly, nid yw hi mor rhwydd â dweud y gallwn ni ganiatáu i athrawon ffrydio gwersi byw mewn amser real. Byddwn yn myfyrio ar hyn, byddwn yn parhau i gael trafodaethau gydag ymarferwyr addysgol a'r undebau, ac efallai y bydd y polisi hwnnw'n esblygu dros amser, ond, ar hyn o bryd, nid ydym yn ei argymell.
Diolch yn fawr iawn am yr eglurder yna ar y pwynt olaf. Gaf i eich holi chi am y cyflwr iechyd sy’n codi ymhlith rhai plant o ganlyniad i adwaith prin, ond hynod beryglus, sy'n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â coronafeirws? Allwch chi gadarnhau a oes yna unrhyw achosion o'r cyflwr yng Nghymru, ac, os oes yna, neu os daw rhai i'r amlwg, beth fyddai goblygiadau hynny ar eich cynlluniau i ailagor ysgolion? Jest ychydig o gwestiynau i gloi am brofi gweithwyr addysg: ddoe, fe ddaeth hi i'r amlwg mai dim ond 15 o athrawon ar draws Cymru sydd wedi cael profion COVID. Rŵan, mae gweithwyr addysg i fod yn cael eu cynnwys o fewn y categori 'gweithwyr critigol' ac felly i fod i gael eu blaenoriaethu ar gyfer profion. Ond ydych chi'n cytuno efo fi bod y cyhoedd wedi colli ffydd yn strategaeth profi y Llywodraeth, ac, wrth ichi gynllunio ymlaen ar gyfer y cyfnod nesaf, sut ydych chi am sicrhau y bydd athrawon a gweithwyr addysg yn cael profion, ac a wnewch chi warantu y bydd pob gweithiwr addysg a gofal plant sy'n dangos symptomau COVID yn gallu cael prawf?
Yn sicr. Yr wybodaeth sydd gennyf oddi wrth y Prif Swyddog Meddygol yw bod gennym ni un achos o glefyd Kawasaki mewn plentyn yng Nghymru. Mae'n bwysig cydnabod bod y cyflwr llidiol sylweddol a difrifol hwn yn eithriadol o brin, ond mae angen inni ystyried hynny. Dyna pam y rhoddwyd cyngor i bob un o'r bobl sy'n ateb galwadau 111, os yw rhiant yn ffonio ynghylch plentyn—. Y wybodaeth sydd ganddyn nhw yw y dylent ystyried a yw plentyn yn dangos symptomau o glefyd Kawasaki.
Y gwir yw ein bod yn dal i ddysgu llawer am y feirws hwn, ac nid oes gennym ni ddarlun llawn o hyd o ran i ba raddau y mae'r feirws yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Felly, yr wythnos hon, rydym ni wedi gweld datblygiad pryderus clefyd Kawasaki mewn nifer fach iawn o blant. Ar yr un pryd, bydd Aelodau wedi gweld y cyngor o'r Swistir heddiw y gall plant o dan 10 oed nawr ymweld â'u neiniau a'u teidiau, oherwydd, yng ngolwg Llywodraeth y Swistir, nid yw plant dan 10 oed yn peri risg epidemiolegol. Mae achosion, papurau, yn Ffrainc yn awgrymu y gall plant ysgol uwchradd gludo'r clefyd, ond mae rhai papurau yn Tsieina yn dweud rhywbeth gwahanol. Mae gennym ni lawer i'w ddysgu o hyd am y ffordd y mae'r clefyd yn effeithio ar blant a'r rhan y mae plant yn ei chwarae o ran trosglwyddo'r clefyd, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid i hynny fod yn un o'r prif ystyriaethau wrth inni ystyried beth fydd y cam nesaf mewn addysg.
Fel y dywedais wrth y pwyllgor ddoe, y ffigurau sydd gennyf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw bod 15 o athrawon wedi'u profi, a dau ohonyn nhw'n gadarnhaol. Ond ailadroddaf eto—fel y gwneuthum ddoe ac fel yr wyf wedi gwneud ar fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol—mae gan unrhyw athro sydd â symptomau'r clefyd, neu, yn wir, os yw aelod o'r teulu â symptomau'r clefyd, yr hawl i gael ei brofi, dylai gael ei brofi, a dylai ofyn am brawf.
Diolch, Gweinidog, am yr holl waith yr ydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud ar hyn o bryd. Mae penaethiaid, staff addysgu ac wrth gwrs rhieni a phobl ifanc wedi gallu addasu'n rhyfeddol yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n gwybod bod llawer o athrawon a staff yn gwneud llawer mwy nag y gofynnir ganddynt i wneud yn siŵr bod eu disgyblion yn parhau i ddysgu ac yn cadw'n ddiogel, ac ni ellir tanbrisio hyn.
Pan fyddwn ni o'r diwedd yn gallu anfon disgyblion yn ôl yn raddol ac yn ddiogel i'r ysgol, bydd cyfathrebu clir a phendant yn hanfodol. Rhaid i rieni a staff fod yn dawel eu meddwl ynghylch eu diogelwch, a rhaid i bawb ddeall y rhesymeg y tu ôl i'r ffaith y bydd rhai plant yn dychwelyd cyn eraill. Rydych chi wedi sôn yn eich datganiad bod cyfathrebu'n allweddol er mwyn i'r cyfnod trosi fod mor esmwyth â phosibl. Pa weithdrefnau a roddir ar waith i sicrhau y bydd y bobl ifanc hynny sy'n gweld ysgol yn lloches, a'r gweithlu addysgu sydd wedi bod drwy gymaint, yn cael cymorth yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol?
Diolch, Jayne. Byddwch yn gwybod fy mod wedi cyhoeddi ddoe y pum egwyddor a fyddai'n fy helpu i feddwl am sut olwg fydd ar gam nesaf addysg yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn, gan gydnabod bod dros 500 o ysgolion a lleoliadau ar agor bob dydd eisoes.
Y cyntaf o'r egwyddorion hynny yw diogelwch, lles meddyliol, emosiynol a chorfforol y staff yn yr ysgolion hynny, a'r plant a'r bobl ifanc sy'n eu mynychu, a dyna'r brif flaenoriaeth. Ond rydych chi'n iawn: soniodd egwyddor Rhif 3 am ffydd rhieni a staff a myfyrwyr, ac mae hynny'n ymwneud â rhannu'r dystiolaeth sy'n sail i'r penderfyniadau hyn â nhw, rhoi gwybodaeth iddyn nhw, a hefyd caniatáu amser iddyn nhw gynllunio fel y gallant wneud y trefniadau a'r addasiadau angenrheidiol.
Ac, wrth gwrs, mynd yn ôl i'r ysgol, bydd rhaid i ni gydnabod, ar gyfer staff a myfyrwyr fel ei gilydd, y bydd yn rhaid cael cyfnod o ailaddasu, pryd y byddwn yn canolbwyntio o ddifrif ar iechyd meddwl a lles y plant hynny cyn y gallwn ni ddechrau eu dysgu drachefn. Yr hyn yr ydym yn ei wybod am addysgeg dda yw mai cael lles yn iawn yw'r cam cyntaf tuag at sicrhau bod plant yn gallu dysgu, a bydd angen inni adlewyrchu hynny pan fydd myfyrwyr yn dechrau dychwelyd i'r ysgol.
Diolch. Mohammad Asghar. Mae'n ddrwg gennyf, nid ydym yn clywed Mohammad Asghar. Eiliad os gwelwch yn dda. A wnaiff rhywun helpu, os gwelwch yn dda? Na. A allaf—? Byddaf yn dychwelyd—. A all rhywun gynorthwyo gyda meicroffon Mr Asghar, a dof yn ôl ato? Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cwestiwn sydd gennyf i ynglŷn ag athrawon llanw, athrawon sydd yn gwneud gwaith allweddol iawn mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru, ond mae llawer ohonyn nhw wedi canfod eu hunain yn syrthio rhwng sawl stôl ar hyn o bryd, fel mae'r Gweinidog yn ei wybod, ac yn methu â chael cefnogaeth ar ôl iddyn nhw golli eu cyflogaeth yn ystod y cyfnod yma.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog i gyhoeddi canllawiau cwbl eglur, fel nad oes yna unrhyw amryfusedd yn y fan hyn, fel ein bod ni'n gwybod yn union cyfrifoldeb pwy ydy cynnig cefnogaeth i athrawon llanw, a bydd ysgolion ac asiantau athrawon llanw ac awdurdodau lleol yn gwybod yn union beth ydy'r cyfrifoldebau sydd arnyn nhw a beth ydy'r sgôp sydd ganddyn nhw i sicrhau bod yr athrawon llanw gwerthfawr yma yn cael eu cefnogi drwy'r cyfnod hwn?
Diolch. Cyhoeddais lythyr agored i'r gweithlu athrawon cyflenwi ar 1 Ebrill, ac mae cynnwys y llythyr hwnnw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae Rhun yn llygad ei le: mae ein gweithlu athrawon cyflenwi yn rhan bwysig o'r teulu addysg, ac mae ein cyngor i awdurdodau lleol ac ysgolion unigol yn glir—os ydyn nhw'n ei chael hi'n anodd staffio eu canolfannau ar hyn o bryd, gwn fod athrawon cyflenwi yn barod, yn barod ac yn gallu helpu yn yr ymdrech honno i ofalu am blant ein gweithwyr hanfodol a'n plant agored i niwed. Ond, er bod polisi addysg wedi'i ddatganoli i Gymru, nid felly cyfraith cyflogaeth.
O ran—. Rydym wedi darparu cyngor i awdurdodau lleol: pan fo athro mewn contract cyflenwi hirdymor, yna nid yw'n ofynnol i'r awdurdodau lleol gadw at hynny, ond ein cyngor ni yw y dylen nhw wneud hynny. O ran yr asiantaethau cyflenwi sydd o fewn ein fframwaith cenedlaethol, mae Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru, ar fy nghais i, wedi cysylltu â'r holl asiantaethau o fewn y fframwaith hwnnw i roi cyngor iddyn nhw ar allu'r asiantaeth honno i roi'r gweithwyr hynny ar ffyrlo. Os yw gweithwyr yn cael eu talu ar gynllun talu wrth ennill, mae ganddyn nhw'r hawl i fod yn rhan o gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU. Rydym wedi dweud wrth yr asiantaethau hynny y dylen nhw wneud hynny, ac mae'r mwyafrif helaeth o'r asiantaethau hynny wedi cytuno i wneud hynny.
Rydym ni hefyd—. Mae'r GCC hefyd wedi cyhoeddi cyngor caffael Swyddfa'r Cabinet i asiantaethau ac i awdurdodau lleol, sy'n nodi disgwyliadau pob un o'r sefydliadau hynny o ran yr hyn y dylen nhw ei wneud a sut y dylen nhw wneud hynny. Rwy'n ymwybodol y bu pryderon parhaus, ac, oherwydd natur gymhleth iawn rhai o'r problemau cyflenwi o ran cyflogaeth, pan nad yw rhywun yn cael ei gyflogi gan awdurdod lleol neu pan nad yw rhywun yn gweithio i un o'n hasiantaethau fframwaith cymeradwy, efallai y bydd bylchau. Ond, unwaith eto, byddwn i'n dweud, yn y lle cyntaf, y dylai'r holl athrawon cyflenwi gysylltu â'u cyflogwr i drafod eu sefyllfa nhw.
[Anhyglyw.]—dylai ysgolion yng Nghymru gau mewn ymateb i COVID-19, ac eithrio gwneud darpariaeth ar gyfer plant sy'n agored i niwed neu blant y mae eu rhieni yn rhan hanfodol o'r ymateb i COVID-19. Fe ddywedsoch fod plant sy'n agored i niwed yn cynnwys y rhai sydd â chynlluniau gofal a chymorth a datganiadau o anghenion addysgol arbennig, ac rwy'n cymeradwyo'r holl staff ar y rotâu ar gyfer hyn, gan gynnwys fy mab ieuengaf.
Sut ydych yn ymateb, felly, i'r swyddog prawf sy'n byw yn Wrecsam a gysylltodd â mi y bore yma, sydd â mab awtistig sy'n bodloni'r meini prawf ond nad yw wedi cael unrhyw ddarpariaeth addysgol ers dechrau'r argyfwng oherwydd, yng ngeiriau'r rhiant, bod y pennaeth yn gwrthod agor darpariaeth arbennig ar gyfer plant anabl? Neu'r fam o Sir y Fflint a gysylltodd â mi neithiwr, y mae gan ei merch awtistiaeth ddifrifol, anabledd dysgu difrifol ac ADHD ac sydd hefyd yn bodloni'r meini prawf, a ddywedodd wrthyf, er ein bod yn ein chweched wythnos o gyfyngiadau symud, nid oes newyddion o hyd ynghylch pryd y bydd canolfan yn agor?
Rydym yn annog pob awdurdod lleol i sicrhau bod ganddyn nhw ddarpariaeth arbenigol ar gael, ac mae'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw yn gwneud hynny. Rydym yn glir iawn y dylai fod darpariaeth arbenigol ar gael i ddiwallu anghenion rhieni, ac fe wnaed hynny yn llwyddiannus mewn llawer lle. Ond hefyd, gadewch i ni fod yn glir, hyd yn oed pan fydd gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a chynllun gofal a chymorth, efallai mai dewis y rhieni yw i'r plant beidio â mynychu lleoliad. Ac, oherwydd ein bod ni'n gweithio allan o ganolfannau, weithiau nid yw model y ganolfan honno'n briodol ar gyfer plentyn, oherwydd byddai'n rhaid iddyn nhw, efallai, wynebu rota o athrawon mewn lleoliad anghyfarwydd, a allai, mewn gwirionedd, fod yn niweidiol i'w lles. Ond y disgwyl yw i bob awdurdod lleol gynnig darpariaeth arbenigol. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud, Mark, yw, os oes gennych y cyfryw achosion hynny, yna dylech eu trosglwyddo i mi a byddaf yn eu codi gyda'r cynghorau sir a'r awdurdodau addysg lleol dan sylw.
Gweinidog, roeddwn wrth fy modd yn clywed mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyhoeddi y byddwn yn darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys drwy gydol yr haf, drwy ddarparu'r £33 miliwn hwnnw i'n hawdurdodau lleol, ac y bydd gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i ddarparu gwerth tua £20 y plentyn yr wythnos yn fras yn y ffordd sy'n gweithio orau'n lleol. Ac rydych chi wedi amlinellu tri phosibilrwydd, sef talebau a delir i'r teuluoedd, trosglwyddo arian i'r cyfrifon banc drwy gyfrifon BACS, neu ddanfon bwyd i deuluoedd disgyblion cymwys. A gaf i ofyn, Gweinidog, a ydych yn cydnabod gwerth ychwanegol ysgolion sy'n cadw mewn cysylltiad â rhai disgyblion drwy ddarparu bwyd yn uniongyrchol, nid yn unig ar gyfer gwerth maethol, wrth gwrs, ond oherwydd y bydd rhai disgyblion a rhai teuluoedd yn arbennig yn elwa o'r cyswllt parhaus, er bod hynny mewn cyd-destun gwahanol iawn, gyda'r union bobl hynny sydd bellach yn cyflenwi i rai o'n teuluoedd a phlant mwyaf agored i niwed, sef y penaethiaid, y staff addysgu, a staff ysgolion rhai o'n hysgolion sydd bellach wedi ymgymryd â'r swyddogaeth hon? Ac a wnaiff hi ymuno â mi i ddiolch i'r Aelodau hynny o staff ysgol sydd wedi cytuno i wneud hyn? Mae'r rhain yn ei weld fel estyniad o'u swyddogaeth fugeiliol arferol. Mae'r argyfwng hwn wedi amlygu'r gorau mewn llawer ohonom ni, a rhai o'r arwyr cudd yw staff yr ysgol a'r penaethiaid sy'n ymdrechu i roi cymorth i'r teuluoedd hynny sydd ei angen fwyaf nawr. Maen nhw'n haeddu ein canmoliaeth a'n diolch.
Diolch, Huw, a hoffwn ategu'r sylwadau hynny. Fe wnaethom ni lwyddo i sicrhau bod £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i sicrhau bod plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn cael cymorth dros wyliau'r Pasg, ac rydym wedi darparu £33 miliwn ychwanegol i'n cario naill ai i'r adeg pan fydd ysgolion yn agor neu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd. Mae'n £19.50, sy'n uwch na'r swm sydd ar gael yn yr awdurdodaeth y drws nesaf i ni.
Rydych chi'n iawn: mae awdurdodau lleol yn defnyddio nifer o ddulliau. Mewn rhai awdurdodau lleol, mae ganddyn nhw fwy nag un dull, gan eu bod yn ceisio diwallu anghenion teuluoedd unigol, felly rydym ni eisiau rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol wneud yr hyn sydd orau i'r boblogaeth y maen nhw'n ei gwasanaethu. I rai, taleb archfarchnad yw hynny, ond fel y cefais fy atgoffa ac fel yr wyf yn gyfarwydd iawn â lle'r wyf yn byw, efallai na fydd hynny'n berthnasol ac, felly, mae taliad BACS i deuluoedd yn llawer mwy defnyddiol. Ond mae'n ddewis cyfreithlon i awdurdodau lleol ddarparu parseli bwyd neu i ddosbarthu bwyd, ac mae hynny'n darparu pwynt cyswllt pwysig lle gallan nhw holi'r plentyn hwnnw a'r teulu hwnnw i weld sut mae pethau'n mynd.
Yr hyn sy'n ddiddorol iawn, a'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu eisoes, yw bod dros hanner yr awdurdodau lleol yn adrodd ar hyn o bryd bod y nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim naill ai'n gyfartal neu'n fwy mewn gwirionedd nag y bydden nhw fel arfer yn ystod amser ysgol, oherwydd, wrth gwrs, yn ystod amser ysgol, rhaid i chi fod yn yr ysgol i gael y bwyd. Mae'r ffaith ein bod yn symud i system wahanol yn golygu, mewn gwirionedd, fel y dywedais, fod hanner yr awdurdodau lleol wedi gweld eu derbyn naill ai ar y lefel ddisgwyliedig neu eu bod mewn gwirionedd yn rhoi mwy o gymorth i fwy o blant.
Gweinidog, rwyf fi eisiau gofyn rhywbeth am y sector addysg uwch, plîs. Mae'r prif sylw wedi bod ar sicrhau parhad mewn addysg yn y sector ysgolion, yn enwedig bod angen blaenoriaethu beth mae disgyblion blwyddyn 12 yn ei wneud ar gyfer lefel A, ond gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd, wrth gynllunio'r dyfodol, ar sicrhau amharu cyn lleied â phosibl ar ddilyniant dysgu yn y meysydd dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau a cholegau?
Ac a throi at gefnogaeth iechyd meddwl, allwch chi plîs sicrhau y bydd addysg bellach yn cael yr un mynediad at wasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl i ddelio ag effaith yr argyfwng presennol yn yr un modd ag ysgolion?
Yn olaf, beth yw eich asesiad o effaith mwy eang y coronafeirws ar niferoedd myfyrwyr addysg uwch, a beth fydd goblygiadau hynny yng nghyd-destun sefyllfa ariannol bregus prifysgolion Cymru yn y flwyddyn i ddod?
Fel y dywedais yn gynharach, rydym wedi sicrhau bod £2 miliwn ar gael i'r sector addysg bellach i gefnogi mentrau iechyd meddwl i fyfyrwyr. Yn amlwg, mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r rheini mewn ffyrdd gwahanol i'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol, ond mae'r arian hwnnw'n ddiogel ac yn sicr, ac mae ar gael iddyn nhw ei ddefnyddio.
O ran cynllunio ar gyfer beth yn union yw'r cyfnod nesaf mewn addysg, yna gallaf eich sicrhau bod gennym ni gynrychiolydd o ColegauCymru sy'n rhan o weithgor Llywodraeth Cymru ac mae gennym ni bennaeth coleg sy'n rhan o'r grŵp hwnnw hefyd, oherwydd, yn amlwg, bydd yr hyn yr ydym yn cynghori ysgolion i'w wneud yn uniongyrchol berthnasol i golegau addysg bellach ac, mewn rhai ffyrdd, yn berthnasol i addysg uwch hefyd. Felly, rydym ni'n cadw mewn cysylltiad agos ag addysg uwch o ran y gwaith hwnnw.
A gaf i ddweud ein bod, ar gyfer myfyrwyr sy'n agored i niwed yn y sector addysg bellach, yn cynnal yr holl daliadau lwfans cynhaliaeth addysg ar hyn o bryd? Er bod elfen o bresenoldeb ynghlwm wrth dderbyn yr arian hwnnw, mae'n amlwg nad yw hynny'n briodol, ond nid ydym ni eisiau amddifadu myfyrwyr o'r adnoddau ariannol gwerthfawr hynny a'r taliadau hynny, yn ogystal â grantiau dysgu'r Cynulliad, a fydd yn parhau i gael eu talu. O ran myfyrwyr addysg uwch, gwn eu bod yn pryderu, ar ôl gadael y brifysgol, efallai, a dychwelyd i'w cyfeiriad cartref, y gallai hynny effeithio ar eu taliad benthyciad i fyfyrwyr am yr haf, gan fod cyfradd gostyngol ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n byw gartref. Ni fydd hynny'n digwydd. Byddant yn dal i allu hawlio'n llawn, p'un a ydyn nhw wedi aros yn eu prifysgol neu wedi dychwelyd adref.
Fel y dywedais yn gynharach wrth Suzy Davies, mae'r effaith bosibl ar y sector addysg uwch yn enfawr. Ein blaenoriaeth uniongyrchol yw gallu helpu gydag anawsterau llif arian uniongyrchol, ac rydym yn gwneud hynny drwy gadw mewn cysylltiad agos â CCAUC a'r sector. Rydym yn edrych wedyn i ddod â chymaint o sefydlogrwydd â phosib i'r dechrau newydd i'r flwyddyn academaidd newydd, ac yn amlwg bydd angen cefnogaeth barhaus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, o bosib, oherwydd yr effaith—yn bennaf oherwydd colli incwm o fyfyrwyr tramor, ond nid dyna'r unig her sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd.
Byddaf yn awr yn ceisio galw eto, Mohammad Asghar. Mohammad, os gallwch chi ein clywed ni.
Dirprwy Lywydd, allwch chi fy nghlywed i?
Gallaf, mae hynny'n iawn, diolch. Gofynnwch eich cwestiwn i'r Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Hoffwn i ofyn am effaith cyfyngiadau symud ar ddarparu hyfforddiant sgiliau yn y sector addysg bellach. Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi y bydd camau'n cael eu cymryd i ddyfarnu cymwysterau galwedigaethol yr haf hwn i ddysgwyr y mae argyfwng y feirws wedi effeithio arnyn nhw. A wnaiff y Gweinidog roi mwy o fanylion i mi am y broses a'r amserlenni ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau hyn a gyfrifir er budd gorau prentisiaid a'r rhai sy'n ymgymryd â hyfforddeiaethau yng Nghymru?
Yn ychwanegol at y pwynt hwn, a wnewch chi roi rhywfaint o syniad o ran pryd y gellid cyflwyno hyfforddiant wyneb yn wyneb yn raddol, a phryd y gallwn ddisgwyl i asesiadau cymhwysedd galwedigaethol gael eu hailgyflwyno, yn enwedig mewn sectorau sgiliau allweddol? Mae rhai staff addysg bellach wedi gweld cynnydd yn eu llwyth gwaith oherwydd bod angen cymorth ac arweiniad ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl y dysgwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gweinidog, mae cynnal yr un nifer o staff yn hanfodol i gefnogi dysgwyr i barhau â'u hastudiaethau a'u cadw'n brysur, er bod faint y mae staff ar gael a diogelwch staff yn hollbwysig hefyd ar yr adeg dyngedfennol hon.
A gaf i ofyn i chi gloi, os gwelwch yn dda? Rwy'n gwybod eich bod wedi cael anhawster i ddod i mewn. Gorffennwch, os gwelwch yn dda.
A fyddech cystal, Gweinidog, â chytuno i fynd i'r afael â'r cylch cyllid nesaf, gan y byddai methu â gwneud hynny yn golygu bod gweithgarwch a ariennir sydd eisoes wedi digwydd yn wastraff ac y bydd effaith niweidiol yn sgil hynny ar y bwlch sgiliau yng Nghymru?
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu fy mod i, mewn atebion blaenorol i fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma, wedi mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau y mae Mr Asghar wedi eu codi. Byddaf yn ailadrodd: o ran cymwysterau, mae Cymwysterau Cymru yn glir iawn ar ei wefan am y ffordd y byddan nhw'n dyfarnu cymwysterau galwedigaethol. Pan fo modd cyfrifo gradd, bydd hynny'n digwydd. Pan nad oes modd cyfrifo, dylid ystyried addasu asesiadau presennol, a bydd hynny yn digwydd hefyd. Ond i rai—a soniodd Mr Asghar am gymwyseddau proffesiynol—mae'n bosibl y bydd yn rhaid gohirio hynny, ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector i ganfod ffyrdd o amgylch hyn. Mae'n wir dweud na fydd yn bosibl, efallai, i rai o'r asesiadau technegol hynny gael eu cynnal o dan yr amodau presennol, ond byddwn yn parhau i adolygu hynny.
Fel y dywedais yn gynharach, rydym wedi rhoi sicrwydd i golegau ynghylch natur eu cyllid wrth symud ymlaen, ac rydym wedi sicrhau bod £2 miliwn ar gael i gefnogi mentrau iechyd meddwl ym maes addysg bellach. Hoffwn i ganmol y sector am y gwaith rhagorol y mae wedi bod yn ei wneud i gadw mewn cysylltiad â'r dysgwyr, yn arbennig y dysgwyr mwyaf agored i niwed. Maen nhw wedi bod yn gwneud hynny yn dda iawn.
Diolch yn fawr, Gweinidog.