– Senedd Cymru am 4:50 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Eitem 8 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith COVID-19 ar chwaraeon. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu cyflwyno'r adroddiad hwn gan ein pwyllgor i'r Cynulliad heddiw, ac wrth wneud hynny, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i'r tystion a roddodd dystiolaeth i ni ac wrth gwrs, i staff y pwyllgor sy'n gwasanaethu ein pwyllgor yn eithriadol o dda.
Mae chwaraeon, fel rydym i gyd yn cytuno rwy'n siŵr, yn rhan hanfodol o'n bywyd fel gwlad, o lefel ryngwladol i chwaraeon proffesiynol elît i chwaraeon cymunedol ac i weithgarwch corfforol nad yw'n perthyn i'r categori chwaraeon mewn gwirionedd. Gwn ei fod yn agos iawn at galonnau llawer ohonom yn y Siambr hon. Cawsom ein hatgoffa eto gan Laura Anne Jones yn gynharach yn ein trafodaethau heddiw pa mor angerddol oedd Mohammad Asghar, er enghraifft, am ei griced.
Mae effaith uniongyrchol yr argyfwng ar chwaraeon wedi bod yn ddinistriol—'catastroffig' oedd y gair a ddefnyddiwyd gan y tystion. Ar unwaith, caewyd y cyfan yn llwyr. Ac roedd yr £8.5 miliwn a ryddhawyd ar unwaith—arian a gafodd ei addasu at ddibenion gwahanol—gan Chwaraeon Cymru i'w groesawu'n fawr. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr—dyma a ddywedwyd wrthym—ond wrth gwrs, mae'r cwestiwn ynghylch cymorth mwy hirdymor yn codi yn awr.
Clywsom yn ystod ein sesiynau tystiolaeth nad oedd pawb a oedd yn gweithio yn y sector wedi gallu cael cymorth, naill ai gan Lywodraeth y DU na chan gynlluniau Llywodraeth Cymru, a'r enghreifftiau a roddwyd oedd unigolion fel hyfforddwyr hunangyflogedig. Dyna pam ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd i sicrhau bod pawb sy'n gweithio yn y sector yn gymwys i gael elfen o gymorth ariannol. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw'r seilwaith dynol hwnnw. Dros y dyddiau diwethaf, clywais fod amheuaeth ynglŷn â'r fwrsariaeth caledi wreiddiol a gynigiwyd gan y Llywodraeth i dargedu'n benodol y bobl hunangyflogedig nad oeddent wedi cael eu helpu hyd yma. A heddiw, hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i gael trafodaeth bellach gyda chyd-Weinidogion i sicrhau, os na fydd y cynllun hwnnw'n mynd yn ei flaen, fod dewisiadau amgen ar gael i'r bobl sy'n gweithio yn y sector chwaraeon.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, fod rhai o'n hawdurdodau lleol, mewn ymateb yn rhannol i gyni, wedi creu ymddiriedolaethau hamdden i redeg eu cyfleusterau chwaraeon a hamdden. Clywsom yn ystod ein sesiynau tystiolaeth fod yr ymddiriedolaethau hyn yn wynebu anawsterau penodol yn awr. Wrth gwrs, nid oes ganddynt incwm ac ni fydd hyn ond yn gwaethygu ar ôl i'r cynllun ffyrlo ddechrau cael ei dapro. Dyna pam ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i ystyried y cymorth y gallai fod angen ei ddarparu i ymddiriedolaethau hamdden ac i fod yn barod i gynnig rhywfaint o gymorth cyhoeddus angenrheidiol. Mae'n wir, wrth gwrs, y gall y cyfleusterau hamdden hynny sy'n dal i fod yn nwylo llywodraeth leol gael rhywfaint o gymhorthdal o rannau eraill o'r awdurdod lleol; ni all yr ymddiriedolaethau annibynnol gael hwnnw wrth gwrs. Ni allwn fforddio colli'r cyfleusterau cymunedol hanfodol hyn.
Clywsom fod effeithiau ar gydraddoldeb o ran lefelau cyfranogi mewn chwaraeon ac yn y ffordd yr effeithiodd yr argyfwng ar glybiau a sefydliadau chwaraeon. Clywsom, er enghraifft, fod pêl-droed merched wedi cael ei effeithio'n anghymesur o gymharu â gêm y dynion. Clywsom hefyd, er bod rhai pobl wedi cymryd rhan mewn mwy o weithgarwch corfforol yn ystod y cyfyngiadau symud, mae eraill wedi bod yn gwneud llai. Mae pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn tueddu i wneud mwy nag y byddent wedi'i wneud cyn yr argyfwng ac mae llawer o'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn gwneud llai mewn gwirionedd. Dyna pam ein bod wedi argymell y dylai cynllun adfer Llywodraeth Cymru a chymorth ariannol i'r sector fynd i'r afael â'r bwlch cynyddol mewn anweithgarwch corfforol rhwng grwpiau, ac y dylai cymorth ariannol Chwaraeon Cymru ganolbwyntio ar y sefydliadau sy'n wynebu'r heriau mwyaf wrth inni symud ymlaen.
Ond ceir cyfleoedd hefyd. Mae'r ffaith bod yr holl Lywodraethau ar yr ynysoedd hyn wedi blaenoriaethu ymarfer corff trwy ganiatáu awr y dydd allan o'r tŷ trwy gydol y cyfyngiadau symud ac ar anterth yr argyfwng yn anfon neges glir iawn am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol. Nawr, mae'n rhaid i ni adeiladu ar hyn, a dyna pam ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru arwain sgyrsiau gyda chynrychiolwyr o'r sectorau iechyd a chwaraeon a gweithgareddau corfforol i osod cyfeiriad polisi cydgysylltiedig hirdymor ar gyfer gweithgarwch corfforol ac iechyd y cyhoedd. Ac mae'n hanfodol fod y cyfeiriad polisi hirdymor hwn yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y cyfeiriais atynt yn gynharach.
Gwelsom ddechrau'r dychweliad at chwaraeon elît y tu ôl i ddrysau caeedig, ac mae hynny, wrth gwrs, wedi cael ei groesawu'n fawr. Ac yn amlwg, nid yw'n amser eto i'r torfeydd ddychwelyd, ac ni chawsom unrhyw dystiolaeth gan y sector yn awgrymu eu bod yn dymuno gwthio'r broses yn gyflymach na'r hyn sy'n ddiogel ar gyfer eu cynulleidfaoedd. Fodd bynnag, dywedodd tystion wrthym fod angen amser ar y sector i baratoi ar gyfer pan fydd modd iddynt groesawu eu cynulleidfaoedd yn ôl a bod angen mwy o eglurder arnynt. Felly, er enghraifft, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrthym fod angen diffiniad cliriach arnynt gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn y mae torf fawr yn ei olygu, a gwnaethant y pwynt y byddai torf fawr mewn stadiwm o un maint yn dorf fach iawn mewn stadiwm o faint arall. Felly, am y rhesymau hyn, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau ar dorfeydd mewn digwyddiadau chwaraeon, gan ddatblygu hyn mewn cydweithrediad â'r cyrff llywodraethu chwaraeon a darparwyr cyfleusterau, ac y dylent ddatblygu'r canllawiau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi lleoliadau chwaraeon i baratoi ar gyfer pan fydd cynulleidfaoedd yn gallu dychwelyd.
Ddirprwy Lywydd, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ganolog i'n hiechyd a'n lles fel unigolion, fel cymunedau ac fel cenedl. Mae'r sector ar hyn o bryd—a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn o hyn—yn agored iawn i niwed mewn nifer o ffyrdd. Mae arweinyddiaeth yn hanfodol er mwyn diogelu'r sector pwysig hwn. Rwy'n cymeradwyo ein hadroddiad i'r Senedd, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl hon.
Ddirprwy Lywydd, roedd hwnnw'n adroddiad llawn a chynhwysfawr iawn ar yr hyn y credaf ei fod yn adroddiad byr ardderchog a phwrpasol, adroddiad sydd wedi darparu cryn dipyn o ddata pwysig iawn am yr effaith ar chwaraeon. A'r pwynt pwysig ynddo i mi yw hwn mewn gwirionedd: yn gyntaf, mae'r effaith yn mynd i fod yn drwm iawn ar sefydliadau ar lawr gwlad yn ein cymunedau, a dyna lle mae angen inni ganolbwyntio.
Mae llawer o glybiau bellach yn paratoi i ddychwelyd. Rwy'n falch iawn fod rhai o'n cynghorau wedi bod yn ddigon darbodus i geisio gwneud gwaith i baratoi ar gyfer hynny. Er enghraifft, mae Rhondda Cynon Taf yn fy ardal i wedi bod yn torri'r gwair yn y caeau oherwydd y perygl o golli'r caeau hynny am flwyddyn neu ddwy am nad ydynt yn cael eu torri'n rheolaidd. Felly, mae o leiaf rai paratoadau wedi bod yn digwydd.
I mi, rwy'n credu mai'r hyn rydym wedi gallu dechrau ei nodi yw ffordd newydd o edrych ar chwaraeon. Oherwydd mae'r rhyngweithio rhwng chwaraeon, iechyd, morâl, cymuned, lles, y cysylltiadau rhwng addysg ac iechyd, mae'n ymddangos i mi, yn bwysig tu hwnt. A chredaf fod y modd yr awn yn ein blaenau, gan edrych ar chwaraeon a'r rôl y mae'n ei chwarae mewn ffordd wahanol, yn mynd i fod yn eithriadol o bwysig, ac roedd y pwynt hwnnw, wrth gwrs, i'w weld yn y dystiolaeth a gawsom.
Rwyf hefyd yn pryderu'n arbennig am rai o'r campau llai adnabyddus sy'n eithaf aml yn cael cryn dipyn o gefnogaeth: er enghraifft, pêl-fasged, tîm pêl-fasged Cymru, sydd wedi perfformio'n dda iawn, a thîm ParaCheer Cymru, a berfformiodd yn y Cynulliad hwn yn weddol ddiweddar. Nawr, nid ydynt yn perthyn i'r categorïau arferol o chwaraeon, ond chwaraeon ydynt—cyfuniad o chwaraeon a dawns. Ac wrth gwrs, mae yna chwaraeon eraill o gwmpas. Fe fyddwn i'n disgrifio rhai o'r ysgolion dawns fel chwaraeon mewn gwirionedd.
Yn fy etholaeth, mae gennym Dance Crazy Studios gyda 600 o ddisgyblion, sydd wedi cynhyrchu pencampwyr y DU o blith eu pobl ifanc. Mae'n gorff hollol anhygoel sy'n perfformio'n wych. Ond wrth gwrs, maent yn dal i fod yn yr un sefyllfa â champfeydd ac eraill, er enghraifft, sy'n methu perfformio, er bod cymaint o bobl ifanc, plant, a fyddai, yn ystod yr haf hwn, rwy'n meddwl, yn mwynhau'r cyfle yn awr i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau. Ac rwy'n gwybod, er enghraifft, gyda Dance Crazy, maent yn dweud, 'Edrychwch, fe wnawn ni hyn yn yr awyr agored; fe wnawn ni hyn gan gadw pellter cymdeithasol; fe wnawn bopeth sydd ei angen.' Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar rai o'r rhain yn ein cymunedau o ran y cyfraniad penodol y byddant yn ei wneud i les a llesiant pobl ifanc dros yr wythnosau nesaf.
Mae her bellach i'n canolfannau hamdden, sydd, fel y gwyddom, yn wynebu heriau gwirioneddol, a'r effaith ar awdurdodau lleol o ran yr incwm a gollir, ond hefyd o ran ffitrwydd, gan fod llawer o'n canolfannau hamdden wedi'u lleoli yn ein cymunedau dosbarth gweithiol yn bennaf. O'n cymunedau dosbarth gweithiol i raddau helaeth y daw'r gyfran o bobl sy'n eu defnyddio yn hytrach na defnyddio campfeydd preifat ac yn y blaen. Felly, cymorth i gynghorau sydd wedi colli'r incwm hwnnw, a hyd yn oed pan fydd y canolfannau hamdden hyn yn dechrau gweithredu eto, bydd y niferoedd a fydd yn eu mynychu'n is.
Ac mae a wnelo'r pwynt olaf a wnaf ag argymhelliad 3, sy'n ymwneud â'r pwynt a wnaeth Helen Mary Jones mor dda, sef mater anghydraddoldeb. Y cymunedau dosbarth gweithiol sy'n mynd i gael eu taro galetaf; y cymunedau mwyaf difreintiedig fydd yn cael eu taro galetaf yn ddiwylliannol, o ran gweithgarwch, o ran iechyd ac o ran mynediad. Mae'n ymddangos i mi mai un opsiwn atyniadol iawn fyddai i Lywodraeth Cymru wneud asesiad penodol iawn o gydraddoldeb mewn perthynas â chwaraeon a'r effaith ar ein cymunedau pan ddaw'n fater o flaenoriaethu'r union adnoddau sydd ar gael inni. Diolch.
A gaf fi gymeradwyo'r adroddiad hwn? Rwy'n credu ei fod yn ddarn da iawn o waith ac mae'n cyflwyno chwe argymhelliad cydlynol a chysylltiedig, ac rydym yn trafod hyn ar y diwrnod y mae gemau prawf criced yn dechrau eto. Nid wyf yn siŵr a fu yna chwarae'n bosibl yn Southampton heddiw, wrth i fis Gorffennaf barhau i esgus ei bod yn fis Hydref, ond mae gweld India'r Gorllewin eto—ac mae llawer o sylwebyddion yn credu mai dyma'r tîm gorau iddynt ei gael ers yr 1980au—yn codi'r galon. Mae llawer o bobl nad ydynt bellach yn chwarae criced, fel fi, yn dal i ddyheu am ei wylio. Felly, o ran ysbryd y cyhoedd, rwy'n credu bod chwaraeon elît yn bwysig iawn.
Mae gan ddau dîm Cymru yn y bencampwriaeth, Abertawe a Chaerdydd, obaith o gael lle yn y gemau ail-gyfle, yn enwedig Caerdydd, a hoffwn fynegi fy nymuniadau gorau. Roedd y canlyniad neithiwr ychydig yn siomedig, ond mae eu safon wedi codi'n ôl yn dda yn y gemau diwethaf ac maent wedi ennill pwyntiau gwerthfawr iawn. Felly, rwy'n dal i fod yn obeithiol iawn.
Rwy'n canmol y darlledwyr hefyd am roi cymaint o bêl-droed yr uwch gynghrair a'r bencampwriaeth ar deledu am ddim. Rwy'n wyliwr pêl-droed brwd. Mae gwylio'r gemau hyn y tu ôl i ddrysau caeedig yn brofiad rhyfedd, gwag, atseiniol ar hyn o bryd, ond mae'n llawer gwell na dim.
O ran rygbi ar y lefel elît, rwy'n poeni'n ddirfawr ei fod mewn llawer mwy o anhawster na phêl-droed hyd yn oed, ac mae pêl-droed, mae'n rhaid inni ddweud, ar lefel elît, yn eithaf llewyrchus rhwng yr uwch gynghrair a'r bencampwriaeth ac yna mae'r cynghreiriau is, nad ydynt yn cael incwm teledu yn wynebu llawer mwy o anhawster. Ond rwy'n credu bod rygbi proffesiynol yng Nghymru yn wynebu argyfwng. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein tîm cenedlaethol hefyd os nad ydym yn ofalus, ond yn sicr ar rygbi rhanbarthol, a'n gallu i ddenu digwyddiadau mawr a'r hyn rydym yn ei deimlo fel cenedl mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid edrych yn ofalus iawn ar y pethau hyn, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda'r awdurdodau proffesiynol i sicrhau bod cymaint o'n diwylliant rygbi ag sy'n bosibl yn goroesi.
Ond yn gwbl briodol, roedd ein prif ffocws ar le chwaraeon cymunedol i'r bobl, ac rwy'n credu bod y ffordd rydym wedi cysylltu pethau fel yr angen am weithgarwch corfforol, a'r angen i gysylltu chwaraeon ac iechyd y cyhoedd, yn allweddol iawn. Fel rydym newydd ei glywed gan Mick Antoniw, mae angen inni ganolbwyntio ein hadnoddau yn y cymunedau tlotaf, sy'n aml â'r nifer leiaf o fannau agored a chyfleusterau chwaraeon da. Felly, rwy'n gwybod bod cynghorau'n edrych ar hyn i sicrhau eu bod yn cael y cymorth mwyaf posibl wrth i bethau agor eto.
Rwy'n credu bod argymhelliad 2 yn bwysig iawn—y ffordd rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi chwaraeon a chlybiau cymunedol. Unwaith eto, dylid rhoi rhywfaint o flaenoriaeth, yn fy marn i, i'r rhai mwyaf anghenus yn y cymunedau mwy ymylol, oherwydd mae'r gwaith sy'n digwydd yno'n annog pobl o bob oed—. Mae chwaraeon ar gael i bawb eu chwarae; dyna ryfeddod y peth. Ond hefyd, i'n plant a'n pobl ifanc, mae cael cyfleoedd chwaraeon mor bwysig, ac nid yw'r cyfan wedi'i leoli yn yr ysgol; mae angen iddo fod wedi'i leoli yn y gymuned hefyd.
Felly, pleser mawr yw cael cymeradwyo'r adroddiad hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn, Ddirprwy Lywydd, fod amser wedi'i roi i drafod yr adroddiad hwn, fel a gafwyd yn ddiweddar i'n hadroddiad ar y sector celfyddydau. Mae'r rhain yn feysydd pwysig iawn, ond nid ydynt bob amser yn cael y sylw y maent ei angen o bosibl er budd iechyd ein bywyd cenedlaethol. Felly, unwaith eto, rwy'n cymeradwyo eich adroddiad. Diolch i'r Cadeirydd am ei harweiniad, ac i'n hysgrifenyddiaeth, a'n galluogodd i gyflawni'r gwaith ardderchog hwn.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Mae'n gyfle amserol i edrych ar effeithiau'r pandemig coronafeirws ar chwaraeon, a hefyd i graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru. Ar y nodyn hwnnw, roedd yn galonogol darllen bod cyrff chwaraeon ledled Cymru yn gadarnhaol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â hwy a'u helpu drwy'r argyfwng hwn, ac wrth gwrs, darparwyd yr arian hwnnw i gefnogi sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol y mae'r argyfwng wedi effeithio'n negyddol arnynt. Yn y cyfraniad hwn heddiw hoffwn ofyn i'r Gweinidog barhau i gefnogi'r sefydliadau hyn, gan gynnwys yr adnoddau gwych sydd gennym yma, yn cynnwys y grwpiau gweithgarwch corfforol a'r clybiau chwaraeon llawr gwlad. Wrth wneud hyn, Weinidog, rwy'n disgwyl i chi gofio'r llawenydd y gall chwaraeon ei roi i'r rhai sy'n cymryd rhan, ond hefyd i'r rhai sy'n gwylio, a gwn hyn yn dda iawn. Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi bod yn aros am y cyfle hwn, i sefyll yn Senedd Cymru—oherwydd mae'n iawn ein bod yn sefyll yn Senedd Cymru—a dweud hyn: yn ystod y cyfyngiadau symud, enillodd fy nhîm annwyl, Cei Connah, deitl Uwch Gynghrair Cymru, ac maent wedi cael tymor bendigedig, felly rwy'n siarad ar ran y Senedd hon ac etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy pan ddywedaf pa mor falch rydym ni fod y tlws yn dod yn ôl i Gymru. Blwyddyn wych i Gei Connah—maent wedi chwarae pêl-droed anhygoel, ac mae'n hyfryd gweld bod chwech o'r garfan a enillodd y bencampwriaeth yn nhîm y tymor. Gwn y bydd llawer o'n Haelodau yma ac Aelodau ledled Cymru'n falch iawn y bydd yna gemau pêl-droed Cynghrair y Pencampwyr yn cael eu cynnal yng Nghei Connah y flwyddyn nesaf.
Felly, Weinidog, a fyddech cystal ag ystyried y negeseuon pwysig yn yr adroddiad? Diolch yn wir i aelodau'r pwyllgor unwaith eto amdano. A wnewch chi ddiogelu clybiau llawr gwlad pob math o chwaraeon yng Nghymru, fel y soniodd Mick Antoniw yn ei gyfraniad, a chofiwch y llawenydd y gall chwaraeon ei gynnig.
Rwy'n credu bod y themâu cryf yn yr adroddiad sydd wedi cael eu hadleisio yn y Siambr heddiw yn bwysig iawn ac yn amserol iawn, ac yn ddefnyddiol iawn ar hyn o bryd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y pwyntiau a'r argymhellion yn cael eu gweithredu'n fuan.
Yn fy mhrofiad i, Ddirprwy Lywydd, yng Nghasnewydd mae gennym Gasnewydd Fyw, sef ymddiriedolaeth hyd braich a sefydlwyd gan yr awdurdod lleol. Fel y clywsom yn gynharach, mae yna fodelau gwahanol, wrth gwrs—rhai yn y sector preifat, rhai a gedwir gan awdurdodau lleol ac eraill a gedwir hyd braich—ond mae pob un ohonynt yn gwneud gwaith pwysig iawn yn darparu'r cyfleoedd hamdden sy'n golygu cymaint i bobl, ac sy'n cysylltu'n helaeth iawn ag iechyd a mynd i'r afael ag amddifadedd. Mae gan Gasnewydd Fyw, er enghraifft, rai cyfleusterau da iawn, megis felodrom Geraint Thomas, y pwll nofio 25m, Canolfan Casnewydd, sy'n ganolfan hamdden, ond sydd hefyd ar gyfer adloniant ac yn cynnwys campfa a phwll nofio i'r teulu yn ogystal, a cheir cyfleusterau eraill fel y ganolfan denis. Felly, mae'r rhain i gyd yn wirioneddol bwysig i bobl allu cadw'n heini ac yn iach a chael cyfleoedd chwaraeon, ar lefel elît, ond ar lefel llawr gwlad hefyd. Yn wir, mae felodrom Geraint Thomas ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adsefydlu COVID-19, sy'n wirioneddol drawiadol i'w weld—y sefydliad yn estyn allan a gweithio gyda'r ganolfan iechyd yn y ffordd honno mewn argyfwng fel yr un sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Maent yn gwneud llawer iawn o ran addysg cwricwlwm amgen, ymdrin â ffactorau amddifadedd drwy fynd â chwaraeon a gweithgarwch i'r cymunedau mwyaf difreintiedig. Credaf fod ehangder a dyfnder yr holl waith hwnnw, Ddirprwy Lywydd, yn atgyfnerthu'r cyfle i adeiladu partneriaethau newydd rhwng y sectorau hamdden, chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac iechyd. Rwy'n falch fod hynny wedi'i amlygu yn yr adroddiad ac mae'n dda clywed Aelodau eraill yn ategu hynny hefyd. Mae'n hen bryd i hynny ddigwydd a dylai fod yn rhan gref nid yn unig yn y tymor hwy ond hefyd yn yr hyn a wnawn yn y tymor byr.
Mae clwb pêl-droed Casnewydd, wrth gwrs—rwy'n llongyfarch Jack ar lwyddiant Cei Connah—ond gwn fod clwb pêl-droed Casnewydd hefyd yn agos at galon Jack, ac un o'r rhesymau am hynny yw'r gwaith da iawn y mae'r clwb wedi'i wneud ar faterion iechyd meddwl, ac mae Jack a Jayne Bryant wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw. Rydym i gyd wedi bod yn cefnogi hynny. Mae'n enghraifft, unwaith eto, o'r clwb pêl-droed yn deall ei bwysigrwydd i Gasnewydd o ran synnwyr pobl o hunaniaeth a pherthyn, a'r gwaith ehangach y gallant ei wneud drwy ddefnyddio'r grym, y statws a'r rôl sydd ganddynt. Mae wedi bod yn bwerus iawn o ran eu hymgyrch iechyd meddwl, ac mae wedi cyrraedd llawer o bobl ac mae'n rhywbeth y maent yn dymuno ei gryfhau a'i ddatblygu ymhellach.
Mae'n wir dweud, Ddirprwy Lywydd, fod clybiau fel Casnewydd yn dibynnu'n fawr ar yr arian sy'n dod drwodd pan fydd ganddynt gemau cartref, ac nad ydynt yn yr un sefyllfa freintiedig â rhai o'r clybiau eraill ar frig y pyramid pêl-droed, lle mae ganddynt lawer iawn o arian a llawer o gyfoeth wedi'i grynhoi ymhlith y perchnogion. Mae gwir angen inni ailfeddwl, rwy'n credu, am fodel pêl-droed llawer mwy cynaliadwy, sy'n ymwneud mwy â chlybiau llawr gwlad a'r clybiau ar lefelau is y pyramid pêl-droed, ac mae angen i'r holl arian hwnnw yn yr uwch gynghrair lifo i lawr yn fwy effeithlon nag sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae hwn yn gyfle yn awr—y materion sy'n codi gyda COVID-19 a'r byd pêl-droed—i edrych ar hynny i gyd a symud at fodel llawer mwy cynaliadwy, ac un a fyddai'n ennyn llawer mwy o gefnogaeth y cyhoedd. Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn gyfarwydd iawn â phobl sydd â barn sinigaidd iawn, a realistig iawn, yn fy marn i, ar bêl-droed ar y lefel uchaf a'r arian sydd ar gael a'r ffordd y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio a sut y gellid ei ddefnyddio'n llawer gwell ar gyfer clybiau llawr gwlad a chlybiau ar lefelau is y pyramid. Unwaith eto, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n deillio o'r argyfwng presennol hwn ac yn cael ei gryfhau gan waith ein pwyllgor a'r adroddiad.
Un mater olaf, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n ymwneud â gweithgareddau. Rydym yn meddwl llawer iawn am yr ysgolion ar hyn o bryd, o ran dychwelyd at gymaint o normalrwydd ag sy'n bosibl, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Agwedd arall ar hynny yw'r holl weithgareddau y mae plant yn eu gwneud, y dosbarthiadau y maent yn eu mynychu, yr hyfforddiant y maent yn ei gael, boed yn griced, pêl-droed, tenis, athletau, dawns, gymnasteg. Mae'n rhan wirioneddol bwysig o ddatblygiad plant a'u mwynhad o fywyd. Roeddent yn ei fwynhau, maent yn gweld ei golli, ac mae'n rhywbeth y maent hwy a'u teuluoedd eisiau dychwelyd ato cyn gynted â phosibl.
Rwy'n deall fy mod weithiau'n rhoi'r argraff fy mod yn treulio mwy o amser yn gwylio chwaraeon nag a dreuliaf yn cymryd rhan, ac mae'r misoedd diwethaf wedi fy nysgu am beryglon cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond y prynhawn yma, os caf, hoffwn wneud yr achos, am rai munudau, dros edrych eto ar sut y gallwn ailagor y cyfleusterau sy'n galluogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn ein cymunedau.
Mwynheais ddarllen adroddiad y pwyllgor. Teimlwn fod cydbwysedd da iawn yn yr adroddiad rhwng ei ffocws ar y prif chwaraeon wedi'u trefnu—ac rwy'n cytuno'n gryf â'r dadansoddiad a ddarparwyd i'r pwyllgor gan gynrychiolwyr y chwaraeon hyn—ac effaith COVID hefyd ar faterion ehangach yn ymwneud â ffitrwydd, iechyd a llesiant yn ein cymdeithas, materion y mae John Griffiths newydd fod yn eu disgrifio yng Nghasnewydd. A gallai fod wedi gwneud yr araith honno am Flaenau Gwent ac am lawer o gymunedau eraill ar hyd a lled y wlad hefyd. Ceir nifer o ardaloedd lle mae chwaraeon yn bwysig i'n hiechyd a'n llesiant meddyliol cyffredinol.
Tua blwyddyn yn ôl bellach, roeddwn yn Ysgol Gynradd y Cwm yn fy etholaeth yn cymryd rhan yn y filltir ddyddiol a'r gweithgarwch corfforol roedd y plant yn ei wneud yn yr ysgol honno. Roedd y pennaeth yn glir iawn fod canlyniadau'r gweithgarwch corfforol hwnnw i'w gweld yng nghanlyniadau addysgol y disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â'u hiechyd a'u llesiant. Ac o ystyried y sefyllfa rydym wedi bod drwyddi dros y misoedd diwethaf, rwy'n ymwybodol iawn fod y plant a'r bobl ifanc hyn, yn enwedig yn yr achos hwn, yn colli'r cyfleoedd hynny.
Ond rydym hefyd yn gwybod—ac roeddwn yn credu bod yr adroddiad yn glir iawn yn hyn o beth—ein bod, dros y tri mis diwethaf, wedi gweld lefelau gwahaniaethol o weithgarwch corfforol yn ein cymunedau; fod cymunedau cyfoethocach, teuluoedd cyfoethocach, pobl gyfoethocach i'w gweld yn gallu cynyddu gweithgarwch corfforol a gwneud mwy o ran iechyd a llesiant, ond gwelsom bobl dlotach, pobl sy'n dod o gefndiroedd tlotach ac sy'n byw mewn cymunedau tlotach, yn gwneud llai o weithgarwch corfforol ac yn cael llawer llai o gyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a chefnogi llesiant.
Yr hyn y mae hynny'n ei wneud, wrth gwrs, yw cynyddu ac ehangu'r anghydraddoldebau a welwn eisoes yn ein cymunedau o ran iechyd a llesiant ehangach, ac mae perygl gwirioneddol y bydd COVID yn cael yr effaith glir ac amlwg a gaiff y feirws ar ein cymunedau ar unwaith, ond bydd hefyd yn gadael gwaddol o anghydraddoldeb yn ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn. Hoffwn weld sut y mae'r Llywodraeth yn llunio cynllun i agor y cyfleusterau a fydd yn sail i iechyd a llesiant gwahanol gymunedau, yn deall sut y gellir ailagor pyllau nofio, yn deall sut y gellir ailagor canolfannau hamdden eto, ynghyd â champfeydd a stiwdios ffitrwydd.
Rydym eisoes yn sôn am y modd y mae chwaraeon awyr agored wedi gallu ailgychwyn dros yr wythnosau diwethaf, ond chwaraeon dan do hefyd. Rwy'n noddwr y clwb chwaraeon cadair olwyn yng Nglynebwy, ac rwyf wedi gweld sut y mae'r clwb chwaraeon cadair olwyn yno wedi gallu datblygu, nid yn unig y clwb o ran eu gweithgareddau, ond hefyd o ran y ffordd y maent yn mynd i'r afael â materion sylfaenol a phwysig fel iechyd a llesiant eu haelodau. A phan fyddwn yn sôn am chwaraeon, rwy'n credu bod angen inni fabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol tuag at yr hyn yw chwaraeon mewn gwirionedd. Nid gwylio rhai o'r gemau cenedlaethol a rhyngwladol yn unig ydyw, mae hefyd yn golygu'r hyn sy'n digwydd ar brynhawn Sadwrn, bore Sadwrn a nos Fawrth yn ein cymunedau ar hyd a lled y wlad.
Byddwn mewn helynt ofnadwy gartref pe na bawn yn defnyddio'r cyfle hwn hefyd i ddweud bod fy mab naw oed yn awyddus iawn i fynd allan i chwarae pêl-droed eto, ac rwy'n siŵr bod yna deuluoedd â meibion naw oed ar hyd a lled y wlad sydd eisiau mynd allan i chwarae pêl-droed neu rygbi neu beth bynnag. Felly, mae angen i ni edrych ar sut y gallwn wneud hyn.
Gadewch imi orffen ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd; rwy'n gwybod fy mod yn profi eich amynedd. Dyma adroddiad arall sy'n dangos diffyg ymgysylltiad effeithiol ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig â Llywodraeth Cymru. Mae hon wedi bod yn broblem gyson drwy gydol y misoedd diwethaf, ac rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, wrth dderbyn yr adroddiad y prynhawn yma, y bydd Senedd Cymru hefyd yn nodi bod angen i ni fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol hon o ddiffyg ymgysylltiad ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Gobeithio y gwnewch chi faddau i mi am sefyll a chyfrannu at y ddadl hon. Yn amlwg, dyma fy niwrnod cyntaf, ond roeddwn yn llefarydd Ceidwadol dros chwaraeon yn 2003 felly roeddwn yn teimlo'r angen i sefyll a dweud rhywbeth. Yn gyntaf oll, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad fy hun; roeddwn yn credu ei fod yn—. Yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones; hoffwn ddiolch iddi am hynny a diolch i'r pwyllgor. Roeddwn yn meddwl eu bod yn argymhellion synhwyrol iawn ac yn argymhellion angenrheidiol iawn.
Rwy'n credu bod chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi chwarae rhan hanfodol yn llesiant pobl yn ystod y cyfyngiadau symud dros y tri mis diwethaf. Rwy'n gwybod, gan fy mhlant fy hun, ei fod wedi achub ein bywydau mewn llawer o ffyrdd. Mae yna ŵr bonheddig o'r enw Joe Wicks—nid wyf yn siŵr a ydych chi'n gwybod amdano—a oedd yn gwneud ymarfer corff yn ei gartref. Ond eto, i'r teuluoedd heb iPads gartref nac unrhyw fath o gyfrifiadur, ni fyddent yn cael hynny. I'r rhai a allai fforddio'r pethau hynny, roedd yn wych eu bod yn eu galluogi i ddefnyddio hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno, wrth symud ymlaen—y dylai ysgolion fabwysiadu'r rôl honno efallai yn hytrach na gorfod dibynnu ar enwogion tebyg iddo ef. Ond roeddwn yn credu bod yr hyn a gyflawnodd yn wych.
Hefyd, rwyf wedi bod yn mwynhau tenis gyda fy mab, oherwydd mae hynny wedi dychwelyd o ran hyfforddiant un-i-un yn awr, sy'n wych—mae gwneud unrhyw fath o chwaraeon yn wych, a minnau wrth fy modd â chwaraeon fy hun, a fy mhlentyn, yn amlwg. Ond rydym yn edrych ymlaen at weld hynny'n datblygu er mwyn galluogi mwy o blant i chwarae gyda'i gilydd mewn gemau ac yn y blaen.
Rwyf hefyd eisiau gwneud pwynt nad yw wedi'i godi eto—rydych i gyd wedi gwneud pwyntiau da iawn; Mick Antoniw, John Griffiths, ac ati—fod angen inni edrych ar y plant sy'n agored i niwed, fel rwyf newydd ei amlinellu. Dyma'r rhai y mae angen inni eu targedu, yn enwedig o ran chwaraeon, ac mae angen i ni eu cyrraedd, oherwydd mae'r manteision mor enfawr, o ran iechyd a llesiant ac yn y blaen. Ond mae'n rhaid i ni sylweddoli, wrth i bethau agor yn awr, yn y gaeaf mae'n debyg, y bydd glaw yn rhwystro unigolion rhag chwarae mewn rhai mannau. Er enghraifft, yng Nghasnewydd, mae gennych doreth o gaeau 3G a 4G i chwarae arnynt, felly mae'n sicrhau bod gan blant y dilyniant hwnnw a'u bod yn gallu parhau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Rwyf eisiau inni gofio, mewn ardaloedd gwledig, er bod Trefynwy yn cael ei hystyried yn ardal gefnog i raddau helaeth, nid yw hynny'n wir—mae gennym bocedi difrifol o amddifadedd. Ond o ran cyfleusterau a darpariaeth chwaraeon mewn ardaloedd gwledig, rydym yn dlawd iawn, ac yn llythrennol, ni allwn chwarae pêl-droed na rygbi nac unrhyw beth ar lawr gwlad. Ac rwy'n meddwl am chwaraeon fy mhlant yma; mae'n hanfodol fod ein plant yn cael cymryd rhan mewn chwaraeon, ac ni allant wneud hynny os nad yw'r cyfleusterau ar gael. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor hwn yn perswadio'r Llywodraeth i edrych ar ardaloedd gwledig, a sicrhau bod gennym yr un cyfleusterau a'r un cyfleoedd â'r rheini yn ein dinasoedd a'n trefi mwy o faint. Diolch.
A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas? Mae'n ddrwg gennyf, ni allwn eich clywed chi. A allech chi roi cynnig arall arni? Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Weinidog, nid ydym yn eich clywed ar hyn o bryd. Tybed a all rhywun—neu ai'r botwm sain ar eich clustffonau yw'r broblem?
A yw hynny'n well? Dyna ni—a yw hynny'n well?
Dyna ni. Gallwn eich clywed nawr. Na, ni allwn eich clywed chi nawr. Beth bynnag a wnaethoch ynghynt a wnaeth y tric, gyda'r botwm sain ar y clustffonau, mwy na thebyg. Dyna'r ateb i'r broblem yn ôl pob tebyg. A gawn ni ychydig funudau o egwyl technegol? Cawn ychydig funudau o egwyl technegol, ac yna efallai y bydd rhywun yn gallu gweld a allant gael y Dirprwy Weinidog i ymateb. Felly, rydym am gael egwyl am ychydig funudau. Felly gobeithio y gall y technegwyr ddatrys y broblem, a gobeithio y gallwn ailgychwyn yn fuan.
Mae hynny'n iawn nawr, Ddirprwy Weinidog.
Gaf i ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl a diolch am y cyfle i gael dadl fel hyn am chwaraeon ac effaith yr argyfwng iechyd cyhoeddus ar chwaraeon, sy'n debyg i'r ddadl a gawsom ni ar y celfyddydau? Dwi'n meddwl ei bod hi'n ardderchog bod y Cynulliad yn gallu cyfrannu fel hyn i osod agenda i'r Llywodraeth wrth i ni ymateb i'r argyfwng rydym ni ynddo fo.
Helen Mary Jones, diolch am bwysleisio'r cyfraniad rydyn ni wedi'i wneud trwy Chwaraeon Cymru. Chwaraeon Cymru yw ein corff sydd yn gweithredu polisi chwaraeon yng Nghymru ac mae'r £8.5 miliwn yn sicr yn mynd i sicrhau bod yna fwy o gymryd rhan mewn chwaraeon yn y wlad yn gyffredinol. Rydym ni wedi bod yn ceisio datblygu, ers tair blynedd, polisi o ddefnyddio cyllid iechyd mewn partneriaeth gyda chwaraeon, a medraf i'ch sicrhau chi y bydd hynny'n parhau.
Diolch i Mick Antoniw am bwysleisio'r pwysigrwydd o chwaraeon llai amlwg, megis pêl-fasged, a hefyd y cwmni Dance Crazy ges i gyfle i weld pan wnaethon nhw berfformio yn y Senedd, a hefyd i bwysleisio'r angen i osgoi anghyfartaledd yn y defnydd o ganolfannau hamdden. Mae hynny'n sicr yn fater y byddaf am ei drafod gyda llywodraeth leol a gyda'r rhai sy'n gyfrifol o fewn Chwaraeon Cymru yn ogystal.
Diolch i David Melding am sôn an griced ac am bwysleisio'r modd y mae chwaraeon yn cynnal morâl y cyhoedd a'r angen i gael darpariaeth briodol yn rhanbarthol ac ar draws Cymru. Mae'n dda gen i ddweud ein bod ni wedi bod mewn trafodaethau yn ddiweddar gydag Undeb Rygbi Cymru. Rydym yn ymwybodol o'u hargyfwng cyllido presennol nhw ac rydym yn chwilio am ffordd o helpu i ddatrys hynny.
Diolch yn fawr i Jack Sargeant am bwysleisio pêl-droed yn y gogledd. Dwi wedi bod yn gwylio Connah’s Quay Nomads a dwi'n meddwl eu bod nhw wedi gwneud yn rhagorol. Bechod bod y Bala ddim cweit wedi cyrraedd yr un safon, ond rydym ni'n ymwybodol iawn o'r angen i gryfhau rôl pêl-droed cymunedol ac mi fyddwn ni'n gwneud hynny drwy gydweithrediad â'r cyllid rydym ni'n ei rhoi yn gyson i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Diolch i John Griffiths am dynnu sylw, unwaith eto, at yr amrywiaeth ardderchog sydd yna o chwaraeon yng Nghasnewydd. Rydym ni wedi cael cyfle yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf i ymweld sawl gwaith â Chasnewydd ac i gefnogi datblygiad y felodrom, y pwll nofio a gweithgareddau eraill sy'n digwydd. Felly, mae'r bartneriaeth a'r ysbrydoliaeth sy'n cael eu cynnig i ddinas Casnewydd gan Newport County fel tîm yn fodel, gobeithio, y gallwn ei ddilyn drwy Gymru.
Ac yna, Alun Davies, diolch am bwysleisio'r cysylltiad, unwaith eto, rhwng ffitrwydd ac iechyd meddwl. Mae hon yn wers bwysig i ni yn yr argyfwng yma, oherwydd wrth inni ddeall pwysigrwydd chwaraeon, rydym ni'n gallu gweld y modd y mae cymuned gyfan yn gallu dod allan o argyfwng. Rwy'n meddwl bod yr ysbrydoliaeth y mae chwaraeon yn gallu ei gynnig mewn sefyllfa fel hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei ganmol yn arbennig.
Gaf i hefyd ddiolch i Laura Anne Jones? Mae'n braf ei gweld hi yn ôl, ond mewn amgylchiadau trist, wrth gwrs—ac am ei sylwadau ar bwysigrwydd gwahanol chwaraeon, megis tenis, megis cael meysydd 3G mewn ardaloedd gwledig, nid jest mewn ardaloedd trefol, ac efallai y gallwn ni gael sgwrs benodol ar hynny er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu datblygu hyn.
Ac yna, gaf i bwysleisio, wrth gloi, bod gen i nid yn unig gyfrifoldeb am chwaraeon ac am y celfyddydau, fel yr wythnos diwethaf, ond hefyd bod gen i gyfrifoldeb cyffredinol i gael trosolwg ar weithgaredd corfforol? A dwi'n meddwl mai'r ymrwymiad garwn i roi, am weddill fy nhymor, fel Gweinidog chwaraeon, ydy y byddaf i'n rhoi sylw arbennig i'r trosolwg cyfrifoldeb yma, fel y gallwn ni ddathlu gweithgaredd corfforol yn gyffredinol, fel un o'n rhinweddau cenedlaethol. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Mae'n amhosibl ymateb i'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud wrth gwrs, ac rwy'n meddwl bod llawer o themâu cyffredin y deuaf atynt mewn munud, ond mae'n rhaid i mi sôn am un neu ddau Aelod unigol. Ni allaf beidio â llongyfarch Cei Connah neu ni fyddai Jack Sargeant byth yn maddau i mi. Mae'n gamp fawr, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd am ategu llongyfarchiadau Jack Sargeant yn y Senedd y prynhawn yma. A rhaid i mi yn bersonol groesawu Laura Anne Jones yn ôl i'n Senedd, er o dan amgylchiadau trasig iawn. Bu Laura a minnau, wrth gwrs, yn gwasanaethu gyda'n gilydd yn y gorffennol, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n braf iawn gweld menyw arall yn y Siambr. Felly, croeso nôl.
Rwy'n credu mai'r hyn a wnaeth fy nharo, Ddirprwy Lywydd, oedd y themâu cyffredin a ddeilliodd o gyfraniadau'r holl Aelodau: y ffordd y gall chwaraeon ein hysbrydoli, y modd y gall godi ein hysbryd ar adegau anodd—soniodd David Melding am fod yn falch o weld y criced yn ôl—ond hefyd thema gyffredin anghydraddoldeb a pha mor bwysig yw hi i sicrhau bod pobl yn ein cymunedau tlotaf yn gallu manteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Ac roeddwn yn falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ar ddiwedd ei gyfraniad am yr ymrwymiad i hyrwyddo pob math o weithgarwch corfforol, nid yr hyn a ystyriwn yn draddodiadol yn chwaraeon yn unig.
Yng nghyfraniad John Griffiths, fe'm trawyd yn fawr gan ei wybodaeth fanwl am y byd chwaraeon yn ei gymuned a'i etholaeth ei hun. A chredaf fod hynny'n cael ei rannu'n gyffredinol ar draws y Siambr. Yn sicr, roedd yn amlwg yng nghyfraniad Alun Davies. Cyfeiriodd yr Aelodau hefyd at bwysigrwydd aruthrol gweithgarwch corfforol i blant. Rwy'n siŵr bod llawer o fechgyn a merched naw oed—gan ddychwelyd at gyfraniad Alun Davies—yn ysu am gael mynd allan a gallu chwarae gyda'i gilydd eto, cyn gynted ag y bydd yn ddiogel iddynt wneud hynny.
Cyfraniad Mick Antoniw, lle tynnodd sylw unwaith eto at bwysigrwydd adnoddau cyhoeddus i alluogi pobl dlotach i barhau i gymryd rhan neu ddechrau cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, pobl na allant fforddio ymaelodi â champfa breifat er enghraifft—. Ac rwy'n gobeithio'n fawr, pan fydd y Dirprwy Weinidog yn ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad, y bydd yn trafod mater yr ymddiriedolaethau hamdden a'r cyfleusterau nad ydynt yn nwylo awdurdodau lleol yn llawn mwyach ac a allai wynebu heriau mwy na'r canolfannau hamdden sy'n dal i fod yn eiddo i'r awdurdodau lleol hyd yn oed.
Rwy'n ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau, fel y dywedais, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn sôn am awgrym Mick Antoniw y dylid cynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Nid yw'n argymhelliad ffurfiol gan y pwyllgor, ond mae'n sicr wedi deillio o gyfraniadau pawb heddiw, ac fe gododd yn y trafodaethau a gawsom fel pwyllgor. Gwyddom na allwn—. Ni fydd byth ddigon o arian i wneud popeth i bawb. Ac rwy'n credu bod yna neges glir i'r Llywodraeth, o'n pwyllgor ni ac o'r Siambr hon fod yn rhaid i ni gynorthwyo'r bobl sy'n cael y lleiaf o gyfleoedd wrth inni bennu blaenoriaethau. Er enghraifft, ni chawsom unrhyw dystiolaeth ffurfiol, dan y sesiwn hon, ynglŷn â chyfranogiad pobl dduon a phobl o liw mewn chwaraeon ar lefel gymunedol. Ond gwyddom, o waith blaenorol, y gallent fod yn wynebu mwy o her o ran sicrhau mynediad.
Felly, byddwn yn awgrymu wrth y Gweinidog, wrth iddo geisio blaenoriaethu yn y dyfodol, ei fod yn cynnal asesiad o effaith y cymorth sydd eisoes wedi'i ddarparu ar gydraddoldeb. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, fod y gefnogaeth sydd eisoes wedi'i darparu drwy Chwaraeon Cymru wedi cael croeso cynnes iawn gan y sector pan roesant dystiolaeth inni. Ond roeddent yr un mor glir—a gwn fod y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog yn gwybod hyn—na fydd y gefnogaeth honno, er ei bod wedi cael croeso mawr, yn ddigon ynddi ei hun i'n cario drwodd.
Felly, rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon a phawb, unwaith eto, a gymerodd ran ym mhroses y pwyllgor, y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar ac wrth gwrs, fel y mae eraill, gan gynnwys David Melding, wedi sôn, rydym fel pwyllgor yn ddiolchgar iawn i'n staff eithriadol. Edrychwn ymlaen at ymateb ffurfiol y Llywodraeth i'n hadroddiad, y gwyddom y bydd yn dod maes o law. Ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ymateb yn anffurfiol yn y ddadl ar yr adeg hon.
Gyda hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd ac edrychaf ymlaen at graffu ymhellach ar y Llywodraeth, wrth i'w cefnogaeth i'r sector chwaraeon ac yn bwysig iawn, i'r sector gweithgarwch corfforol barhau drwy'r cyfnod anodd hwn.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.