6. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brofion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff cartrefi gofal? TQ477
Diolch. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi y byddwn yn parhau â'r drefn bresennol o brofi wythnosol am bedair wythnos arall. Os yw nifer achosion COVID-19 yn parhau i fod yn isel, fel y maen nhw ar hyn o bryd, rwy'n disgwyl lleihau'r profion ar gyfer cartrefi gofal i bob pythefnos o 10 Awst. Byddaf yn parhau i adolygu ac addasu ein polisi profi yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf.
Diolch. Wel, hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Llywydd am fynd i'r afael â sarhad difrifol ar Senedd Cymru: y Gweinidog iechyd yn dewis gwneud datganiad mor bwysig y tu allan i'r Siambr hon. Nawr, ar ôl ystyried y datganiad ysgrifenedig, rwy'n croesawu'r ffaith ei fod wedi ymestyn y drefn brofi wythnosol am bedair wythnos arall, ond rwy'n dychryn o glywed y bydd lleihad o bosib yn y profion ar gyfer cartrefi gofal o 10 Awst ymlaen. Hoffwn atgoffa'r Gweinidog bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cael gwybod am 3,382 o farwolaethau pobl oedd yn preswylio mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth. Mae hynny 74 y cant yn uwch na'r marwolaethau a gofnodwyd am yr un cyfnod y llynedd. Mae 734 o breswylwyr cartrefi gofal wedi marw oherwydd amheuaeth neu gadarnhad o COVID-19, ac mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi disgrifio'r sefyllfa yn ein cartrefi gofal fel trasiedi. Dylid a gellid fod wedi gwneud mwy yn gynt i gefnogi preswylwyr a'r staff, sy'n gwneud cymaint i ofalu amdanynt.
Bu'n rhaid i ni, yma yng Nghymru, aros tan 15 Mehefin i ddechrau profi staff cartrefi gofal yn wythnosol, bron i dri mis ar ôl dechrau'r cyfyngiadau symud. Pam? Pam y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddewis datgan bod y polisi profi yn cael ei adolygu yn hytrach nag ymestyn profi ar gyfer staff ar unwaith? Siawns nad oedd estyniad yn rhesymol ac yn amlwg ar adeg pan fo nifer fawr o breswylwyr cartrefi gofal i oedolion yn dal i farw o bob achos—112 rhwng 4 a 10 Gorffennaf. At hynny, roedd yn bosib ac mae'n gwbl ymarferol ymestyn y profion wythnosol ar unwaith a chynnal hyn y tu hwnt i 10 Awst, o ystyried bod profion yng Nghymru yn dal i fod oddeutu 20 y cant o gapasiti yn unig. O gofio hynny, a ydych yn cytuno â mi y dylid ymestyn profi wythnosol i gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol rheng flaen eraill fel gweithwyr gofal cartref?
Fe wyddoch fy mod wedi codi hyn gyda chi, Gweinidog. Fe wyddoch ichi rannu'ch pryderon â mi—
Yn gyflym nawr, Janet—rwyf wedi bod yn hael iawn.
Iawn. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi datgan bod eu pryderon yn ymwneud â'r amser dychwelyd canlyniadau, gan fod 46.5 y cant o ganlyniadau profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru wedi'u dychwelyd o fewn diwrnod, a 66 y cant o fewn dau ddiwrnod. Mae hynny'n is na'r wythnos diwethaf. Pryd y byddwch yn mynd i'r afael ag amseroedd aros ar gyfer canlyniadau profion? Diolch, Llywydd dros dro.
Roedd cryn dipyn o bwyntiau yno, Dirprwy Lywydd dros dro, a byddaf yn ceisio mynd drwyddyn nhw cyn gynted â phosib. Nid wyf yn derbyn y cyhuddiad bod y cyhoeddiad heddiw a'r datganiad ysgrifenedig yn sarhad difrifol ar Senedd Cymru. A dweud y gwir, dim ond yn hwyr iawn neithiwr y bûm yn cymeradwyo'r strategaeth brofi newydd, ac rwy'n hapus iawn i ateb cwestiynau'r Aelodau ar ddiwrnod prysur iawn yn y Cyfarfod Llawn.
Ar y pwynt olaf a wnaeth Janet Finch-Saunders ynghylch amser dychwelyd canlyniadau, fel y clywodd gan y Prif Weinidog heddiw, mewn gwirionedd, nid yw'n gywir dweud bod hyn yn ymwneud â labordy GIG Cymru yn gweld gostyngiad; yn wir, gwelsom gynnydd yn ystod yr wythnos diwethaf o ran amseroedd dychwelyd canlyniadau. Roedd yna fater penodol, problem dechnegol, yn y labordy goleudy ym Manceinion sy'n gwasanaethu'r Gogledd, ac mae hynny wedi cael effaith sylweddol ar ein hamseroedd gweithredu. Fe fyddwch chi'n gweld yn ffigurau profion yr wythnos nesaf fod cynnydd mawr yn y profion dros y penwythnos, gyda dros 22,000 o ganlyniadau profion dros y penwythnos, y mwyafrif ohonynt yn labordai goleudy, ac rwy'n disgwyl inni barhau i wneud cynnydd wrth symud ymlaen. Rwyf yn sicr yn ymwybodol o bwysigrwydd dychwelyd canlyniadau yn gyflym drwy ein gwasanaeth olrhain cyswllt.
O ran a ddylem gael ein dychryn gan y cynnig pythefnos, na, nid oes angen cael ein dychryn. Yn wir, mae hyn yn newyddion da, ac mae'n newyddion da gan ei fod yn adlewyrchu'r nifer isel iawn o achosion o coronafeirws yn ein cartrefi gofal. Rydym yn awr ar gyfradd lle mae'r ystod o ganlyniadau positif o fewn yr ystod o ganlyniadau positif ffug—lle dychwelir canlyniadau positif ond nid ydynt o reidrwydd yn ganlyniadau positif gwirioneddol. Rydym hefyd mewn sefyllfa lle, gan fod yr Aelod eisiau ein cymharu â Lloegr, mewn gwirionedd, mae'n llai nag 1 y cant o nifer y staff cartrefi gofal—yn sylweddol is nag 1 y cant—ond yn Lloegr mae'n 2.4 y cant; gwahaniaeth sylweddol. Hefyd, nid ydynt yn Lloegr wedi cwblhau eu rhaglen profi cartrefi gofal yn llwyr. Mae ein sefyllfa'n wahanol, ac os byddwn yn parhau i weld lefelau isel iawn o achosion yn ein cartrefi gofal, yna gallwn leihau'r amlder i bythefnos yn ddiogel, ac ailbrofi bob pythefnos, sy'n dal i fod yn rhaglen reolaidd iawn o ailbrofi o fewn amgylchedd y cartref gofal ar gyfer ein staff.
Mae'r dystiolaeth a gaiff ei chyhoeddi'n ddiweddarach heddiw yn cadarnhau, o ran profion asymptomatig yn gyffredinol a'r prawf antigen presennol, nad yw'n ffordd dda o ddefnyddio'r prawf hwnnw er mwyn profi grwpiau mawr o bobl asymptomatig. Felly, ni fyddwn yn ei gyflwyno i grwpiau eraill yn ddiamod. Fel y nodir yn y strategaeth yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais heddiw, byddwn yn edrych ar dystiolaeth o ran lle'r ydym yn credu mai dyma'r peth iawn i ddefnyddio canlyniadau profion ar gyfer poblogaeth ehangach a mwy. Ac mae'n werth i'r Aelodau gofio'r datganiadau clir iawn gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr ynghylch yr angen i gael rhaglen brofi nad yw'n obsesiynol fod rhywbeth yn cael ei wneud a'i gyfrif; nid yw hynny'n arwydd o lwyddiant ein rhaglen. Mae'n rhaid cael pwrpas i'r profi. Os edrychwch ar gyfraddau nifer achosion y coronafeirws yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa dda iawn am amrywiaeth o resymau ac mae'r rhaglen brofi yn rhan o hynny. Ond mae'n ymwneud â sut yr ydym yn defnyddio'r profion a sut yr ydym yn parhau i gadw pobl yn ddiogel yma yng Nghymru.
Y cartrefi gofal sydd wedi dwyn baich argyfwng COVID-19, ac mae preswylwyr cartrefi gofal yn cyfrif am tua thraean o'r holl farwolaethau. Nawr, hyd at 23 Ebrill roedd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i drigolion heb eu profi fynd i gartrefi gofal o'r ysbyty, ac roedd hynny'n sgandal llwyr y bydd yn rhaid i Weinidogion fod yn atebol amdano mewn ymchwiliad sydd ar y gweill, hyd yn oed os nad ydyn nhw bob amser yn awyddus i ateb cwestiynau a ofynnir am hyn iddyn nhw gan Aelodau'r Senedd. Cymerodd fisoedd o bwysau cyn i Lywodraeth Cymru gytuno i gyflwyno strategaeth brofi wythnosol gynhwysfawr ar gyfer cartrefi gofal, a hyd nes y rhoddwyd pwysau arnynt, nid oedd strategaeth newydd ar waith.
Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod hynny wedi'i gyhoeddi heddiw, ond mae Fforwm Gofal Cymru wedi dweud na fu unrhyw ymgysylltu o gwbl gyda'r sector ynglŷn â'r hyn a oedd i fod digwydd. Cafodd cartrefi gofal eu siomi unwaith eto, a chredaf fod hynny'n gwbl annerbyniol. Ond a wnaiff y Gweinidog egluro'r rheswm dros roi'r gorau i'r profion hyn yn y lle cyntaf, o gofio bod gennym gapasiti dros ben, y rheswm pam nad oedd cynllun newydd yn barod i gael ei weithredu a'i gyhoeddi ar unwaith, a'i gyfiawnhad dros beidio ag ymgysylltu â'r sector i esbonio hyn? Yn olaf, a ydych chi'n derbyn, Gweinidog, fod yr oedi hwn cyn gadael i'r sector wybod beth fyddai'n digwydd tan y funud olaf wedi achosi trallod diangen?
Unwaith eto, roedd nifer o bwyntiau yno, Dirprwy Lywydd dros dro. O ran preswylwyr sy'n agored i niwed mewn cartrefi gofal a'r nifer sylweddol o farwolaethau ychwanegol, nid oes gennym dystiolaeth bod trefniadau rhyddhau o ysbytai yn ffactor perthnasol neu, os ydyn nhw, faint o effaith gafodd hynny ar nifer y marwolaethau ychwanegol ac, wrth gwrs, nid yw erioed wedi bod yn wir fy mod wedi gwrthod ateb cwestiynau'r Aelodau yma yn y Senedd.
O ran y mater o ymgysylltu â'r sector cartrefi gofal, bu ymgysylltu â swyddogion cyn i mi wneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo'r strategaeth brofi. Gwn y cafwyd sgwrs uniongyrchol â phrif weithredwr Fforwm Gofal Cymru cyn i'r strategaeth gael ei chwblhau. Nid yw hynny wedi dod o unrhyw gyfweliadau gan y cyfryngau neu draethodau gan wleidyddion ar unrhyw ochr i'r Senedd; mae'n dod oherwydd fy mod yn disgwyl hynny—ein bod yn cael sgyrsiau gyda'r sector yr effeithir arno. Ac nid wyf yn credu ei fod yn gyhuddiad rhesymol bod pobl yn cael eu gadael yn ddiymgeledd a heb unrhyw wybodaeth tra bod penderfyniad yn cael ei wneud.
Rydyn ni newydd gwblhau'r rhaglen brofi bedair wythnos. Gwnes benderfyniad neithiwr, a gyhoeddwyd heddiw, ynglŷn â bwrw ymlaen â'r rhaglen honno. Mae'n parhau i fod yn wythnosol, ac fel y dywedaf, mae'n newyddion da i bawb fod gennym nifer isel iawn o achosion o'r coronafeirws yn y wlad, ac yn arbennig yn y sector cartrefi gofal. Daw hynny o'r holl arwyddion yn ystod pedair wythnos gyntaf y rhaglen hon, a byddwn yn gallu lleihau amlder y profion yn ddiogel. Ni fydd hynny'n rhoi preswylwyr mewn perygl—bydd rhaglen ailbrofi aml a rheolaidd yn dal i fod ar gael, a byddwn yn parhau i ddilyn y dystiolaeth. A chredaf, ar ôl cyhoeddi'r dystiolaeth honno, y bydd gan bob Aelod ddiddordeb mewn gweld y dystiolaeth honno am brofion asymptomatig, oherwydd mae'n dangos bod angen i ni ddeall pwynt a phwrpas y profi, yn hytrach na'i weld fel nod ynddo'i hun. Mae'n offeryn i'n helpu i'n cadw ni'n ddiogel, ac mae'n bwysig ein bod ni'n deall sut i'w ddefnyddio, gan ei fod yn parhau i helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel yma yng Nghymru.
Gweinidog, sylwaf eich bod wedi gwneud datganiad newydd heddiw ynglŷn â sut y byddwch yn bwrw ymlaen â'r drefn brofi. Yn amlwg, yr hyn sy'n hollbwysig yw ymateb i'r profion hynny a chael canlyniadau'r profion yn ôl i'r bobl sydd wedi cael y prawf. Clywais eich ymateb i Janet Finch-Saunders, ond mae'n ffaith, wythnos ar ôl wythnos, bod y gyfradd ymateb yn lleihau, nad yw bron 20 y cant o ganlyniadau profion yn cael eu dychwelyd i'r unigolyn o fewn tri diwrnod, a dim ond 46 y cant o'r profion sy'n cael eu dychwelyd o fewn 24 awr, i lawr o 49 y cant. Felly, gan dderbyn eich bod chi wedi gwneud cyhoeddiad ynghylch trefn brofi newydd, sut ydych chi'n canolbwyntio eich egni i wneud yn siŵr, pa bynnag drefn brofi sydd ar waith, fod y canlyniadau'n dod yn ôl at y derbynnydd mor gyflym â phosib, fel y gallant naill ai fynd yn ôl i'r gwaith neu gymryd y camau angenrheidiol i ynysu a diogelu?
Dyna'r union fath o weithredu yr ydym yn bwriadu ei wneud. Ychydig wythnosau'n ôl, roeddem yn cydnabod bod angen inni wneud cynnydd pellach, ac nid oeddem yn gweld y cynnydd yr oeddem eisiau ei weld, felly roedd yn rhaid inni archwilio ystod o wahanol rannau o'r system. A chaiff hyn ei nodi nid yn unig yn y datganiad ysgrifenedig ond yn y strategaeth a gyhoeddwyd heddiw. Felly, rydym yn edrych o wythnos i wythnos—ac mae'n gyfnod eithaf bach o amser—ar beth yw'r ffigurau. Rydym wedi edrych ar yr hyn a wnawn o ran pa mor hawdd yw hi i bobl gael prawf—erbyn hyn rydym wedi cyrraedd y man lle gall pobl gael prawf yn gyflym ac yn hawdd. Yna, mae angen inni edrych ar yr hyn sy'n digwydd o'r pwynt profi i gael y prawf hwnnw i'r labordy. Rydym eisoes wedi cymryd enghraifft o labordai GIG Cymru, lle'r ydym wedi gwneud hynny'n gyflymach—rydym wedi newid y trefniadau cludo, fel y nododd y Prif Weinidog wrth ateb eich cwestiwn yn gynharach.
Ac yna o ran effeithlonrwydd o fewn y labordai, mae'n esboniad nid esgus fod problem dechnegol gan y labordy penodol ym Manceinion sy'n gwasanaethu rhannau helaeth o'r Gogledd, sy'n golygu bod arafu wedi digwydd. Mae dau bwynt yno. Un pwynt yw, er nad ydym ni'n rheoli'r labordai hynny, os ydyn nhw'n cael y broblem honno, mae'n rhaid inni gael gwybod hynny'n gynt o lawer, ac felly nad ydym yn cael clywed am y broblem ar ddiwedd yr wythnos. Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae'r wybodaeth honno yn llifo'n uniongyrchol oddi wrth y labordai goleudy i'n system ni. Felly, cyn gynted ag y bo'r canlyniadau ar gael, maen nhw'n mynd i'n timau olrhain cyswllt lleol. Yn wir, mae olrhain cyswllt yn dal i fod yn ymdrech lwyddiannus iawn yma yng Nghymru, gyda thros 90 y cant o gysylltiadau dros y tair neu bedair wythnos diwethaf wedi'u cysylltu a mynd ar eu hôl yn llwyddiannus.
Y pwynt olaf yw'r rhaglen wella sydd gennym yn labordy GIG Cymru—bydd ganddi berthynas fwy uniongyrchol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth gwrs. Ac rydyn ni'n edrych ar wella'r newid o fewn y labordai hynny a beth fydd hynny'n ei olygu o ran cost, o ran y model staffio, a sut rydym yn bwrw ymlaen â hynny. Er bod gennym gyfraddau isel iawn o ran y nifer o achosion, mae angen inni wneud hyn yn iawn cyn symud i mewn i dymor yr hydref a'r gaeaf, pan wyddom y bydd mwy o brofion yn cael eu cynnal oherwydd heintiau'r llwybr anadlol sy'n rhan gyffredin o dymhorau'r hydref a'r gaeaf. Felly, newyddion da fod gennym nifer isel o achosion. Rydym yn ymwybodol bod problemau sydd angen eu datrys—rydym yn ymdrin â'r rheini, a byddwn yn agored gyda'r cyhoedd a'r Aelodau ynghylch y camau gwella hynny, a byddwn yn parhau i gyhoeddi'r ffigurau i ddangos pa mor llwyddiannus yr ydym o ran gwella'r amseroedd dychwelyd hynny.
Yn gyntaf, gaf i ddweud ei bod hi'n drueni mai dim ond drwy benderfyniad y Llywydd i ymestyn yr amser ar gyfer y cwestiwn amserol yr ydyn ni'n cael cyfle i drafod y strategaeth yma rŵan? Achos mi ddylid fod wedi amserlennu y datganiad yma ynddo fo'i hun, oherwydd bod profi ac olrhain mor ganolog i'r frwydr yn erbyn y coronafeirws, ac y mae'r strategaeth dros y misoedd nesaf mor ganolog i'n llwyddiant ni. Mae dal yn fethiant, dwi'n meddwl, i beidio â defnyddio'r capasiti sydd ar gael. Dwi'n derbyn yn llwyr, gyda llaw, nad mewn rhyw ffordd ffwrdd â hi mae gwneud penderfyniadau ynglŷn â phrofi—mae'n rhaid bod yn strategol a phrofi i bwrpas, ond (1) dwi yn meddwl bod cynllunio i leihau profi staff cartrefi gofal, o'r profion wythnosol presennol i brofion bob pythefnos o fis Awst, yn gam diangen a cham llawn risg diangen ar hyn o bryd, o ystyried y capasiti sydd ar gael.
A (2) dwi'n siomedig nad oes yna gyfeiriad at yr angen i brofi asymptomatig o weithwyr gofal sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl. Dwi wedi galw am ymestyn profion asymptomatig, yn sicr i'r holl weithwyr iechyd a gofal hynny sydd â mwyaf o risg iddyn nhw eu hunain ac i'r bobl y maen nhw mewn cysylltiad â nhw, a siawns bod y bobl hynny sy'n mynd i mewn i dai pobl eraill i roi gofal iddyn nhw—nifer o bobl o fewn diwrnod—yn gorfod dod i mewn i'r categori hwnnw. Ydy, mae nifer yr achosion wedi lleihau ac rydyn ni'n ymfalchïo yn hynny, ond gadewch inni ei gadw felly a gofalu am y bobl fwyaf bregus. Felly, gawn ni ymrwymiad i brofi'r bobl sydd yn mynd i mewn i gartrefi pobl i ofalu amdanyn nhw?
Rwy'n credu ei bod yn werth myfyrio ar y—. Cyfeiriais yn gynharach, Dirprwy Lywydd dros dro, at y sylwadau a wnaed gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr; mae'n werth atgoffa'r Aelodau o'r hyn a ddywedwyd ganddyn nhw. Dywedodd Llywydd Coleg Brenhinol y Patholegwyr:
Nid yw profi yn rhywbeth sy'n cael ei wneud a'i gyfrif yn unig. Mae'n broses sydd â dibenion clinigol ar gyfer cleifion unigol, i'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw ac i'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae'n ddefnydd ymwybodol sydd wedi'i dargedu o ddeunyddiau gwerthfawr a gweithwyr proffesiynol medrus o fewn cyd-destun llwybr a phwrpas.
Ac yn syml iawn, nid wyf yn cytuno â chasgliad yr Aelod mai mesur peryglus yw dangos y bydd profion cartrefi gofal yn lleihau ym mis Awst, os byddwn yn parhau i weld lefelau isel iawn o achosion. Mae'n arwydd o'n llwyddiant y byddem yn dal i gynnal rhaglen reolaidd, ond ar gylch gwahanol. A bydd ein gallu wedyn i weithredu o hyd, lle mae gennym achosion positif o coronafeirws, yn aros yn ddigyfnewid, a byddwn yn gallu symud yn gyflym i brofi carfannau cyfan, os bydd angen.
A bod yn deg, fodd bynnag, rwyf i wedi cael y fantais o weld cyngor diweddaraf y grŵp cynghori technegol ar brofion asymptomatig, ac rwy'n credu, pan fydd yr Aelod yn cael cyfle i'w ddarllen, pan gaiff ei gyhoeddi heddiw, y bydd yn gweld nad yw mor syml â gweithredu profion asymptomatig ar gyfer pob unigolyn fel modd o gadw'r wlad yn ddiogel. Mae heriau gwirioneddol yn enwedig o ran y profion positif ffug sy'n deillio ohono, pan fo gennym nifer mor isel o achosion. Felly, mae'n ymwneud â phrofi ar gyfer pwynt a phwrpas a dyna'n union beth yr ydym wedi'i amlinellu heddiw ac mae'n seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf sydd gennym.
Pan ddaw'n fater o weithwyr gofal cartref, rwyf eisoes wedi nodi y byddwn yn ceisio cynnwys gweithwyr gofal cartref yn y don nesaf o brofion gwrthgyrff, er mwyn deall y lefel gwyliadwriaeth, o safbwynt gwyliadwriaeth, o'n sefyllfa o ran coronafeirws. Felly, rydym yn ystyried beth i'w wneud, sut i gadw gweithwyr yn ddiogel a sut i gadw'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt yn ddiogel, ac mae hynny'n sail i'r ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn, fel yr ydym wedi gwneud erioed, wrth inni geisio cadw Cymru yn ddiogel a pharatoi, rwy'n ofni, ar gyfer gaeaf mwy anghyfforddus na'r arfer.
A gaf i gytuno â'r sylwadau a'r cwestiynau a ofynnodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders wrth agor y sesiwn cwestiynau amserol hon? Gweinidog, mae llawer wedi'i ddweud am bwysigrwydd profi ac olrhain a'r problemau yn y sector gofal cartref. Gwn fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi pwyslais arbennig yn ddiweddar ar brofi cleifion cyn iddyn nhw adael yr ysbyty i fynd i gartref gofal neu yn ôl i'w cartref eu hunain i leoliad gofal cartref. Mae hynny'n ymddangos yn arfer eithaf synhwyrol. A yw hynny'n gyffredin ledled Cymru, ac a ydych yn edrych am ffyrdd o allu ymestyn profion fel hyn a ffyrdd eraill o wneud y sector gofal cartref mor rhydd o COVID â phosib?
Diolch am y cwestiwn. Wel, mewn gwirionedd, mae'r cyfeiriad a wnaethoch at Aneurin Bevan yn ddull gweithredu cenedlaethol o ran rhyddhau o'r ysbyty, ac mae'n rhan o ddull sy'n seiliedig ar risg. Pan newidiwyd y polisi profi ar ryddhau cleifion o'r ysbyty, roedd hynny'n ymwneud yn bennaf â rhoi hyder i'r sector gofal preswyl. Nid oedd y dystiolaeth a'r cyngor, bryd hynny, yn cefnogi, ar sail gwyddoniaeth, cynnal profion ar bawb a oedd yn asymptomatig. Mae bob amser wedi bod yn wir y dylai pobl sydd â symptomau fod wedi'u profi cyn eu rhyddhau o'r ysbyty. Yna, cawsom sefyllfa lle'r oeddem yn cydnabod bod y sector, mewn gwirionedd, yn mynd i ddechrau lleihau atgyfeiriadau, a fyddai wedi bod yn arbennig o anodd i bobl, oherwydd caiff niwed ei achosi pan fydd pobl yn barod i adael yr ysbyty ac nid ydyn nhw'n gallu gwneud hynny. Felly, roedd yn ddewis ymarferol ynglŷn â rhoi hyder a chadw'r gwasanaeth cyfan yn symud fel y gallai pobl ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain i raddau helaeth, yn hytrach na chael eu derbyn o'r newydd gan bobl nad ydyn nhw wedi bod mewn amgylchedd cartref gofal o'r blaen.
O ran y dull gweithredu sy'n seiliedig ar risg, rydym wedyn yn edrych ar beth yw'r perygl yn gyffredinol os na fydd y profi hwnnw'n digwydd. Ac mae hynny'n wahanol iawn i ddull heb dystiolaeth lle nad ydym yn deall y peryglon o ran cyflwyno profion asymptomatig yn ehangach, ac rwy'n cael fy annog yn rheolaidd i wneud hynny gan amrywiaeth o bobl. Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf, yn fy marn i, yn rhywbeth sydd o wir ddiddordeb i'r Aelodau o bob ochr. Rwy'n deall eu bod yn gofyn cwestiynau oherwydd eu bod yn pryderu am eu hetholwyr a sut rydym yn cynnal y llwyddiant a welsom, fel gwlad, i gyrraedd y pwynt lle mae gennym gyfraddau isel iawn o achosion o'r coronafeirws, gan ein bod am lwyddo nid yn unig i ddod allan o'r cyfyngiadau symud, yn y camau terfynol, ond i aros allan o'r cyfyngiadau symud. A dyna pam rydyn ni'n ailystyried sut y dylem ail-gydbwyso’r GIG gyda pharthau coch a gwyrdd. Dyna pam rydyn ni'n ystyried amrywiaeth o bethau. Mae'r strategaeth brofi yn rhan o hynny, a dyna pam rwyf wedi gosod y strategaeth brofi heddiw. Ac rwyf mewn sefyllfa i ateb y cwestiynau hyn heddiw gan fy mod wedi cymeradwyo'r strategaeth honno yn hwyr neithiwr. Rwyf wedi bod yn awyddus i gael pethau'n iawn ac yna i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu darparu hynny i'r Aelodau a'r cyhoedd. Mae'r datganiad sydd ger eich bron heddiw, a'r strategaeth, yn rhan o hynny.
Os yw'r dystiolaeth yn newid, rwy'n siŵr y byddai Mr Ramsay ac Aelodau eraill yn disgwyl imi adolygu fy marn ac adolygu'r ffordd yr wyf yn disgwyl i'r gwasanaeth ymddwyn. Ond dyna'r dystiolaeth a'r cyngor diweddaraf, ac rwy'n mynd i barhau i weithredu'n seiliedig ar y wyddoniaeth. Ond yn y pen draw, fy mhenderfyniadau i yw'r rhain, fel y Gweinidog iechyd, ynglŷn â sut rydym yn cadw Cymru yn ddiogel.
Fel minnau, mae'r Gweinidog yn fyfyriwr hanes, ac, yn amlwg, wrth ei fod yn cymeradwyo'r rheoliadau hyn neithiwr, byddai wedi bod yn gwylio rhaglen ddogfen wych S4C ar y ffliw Sbaenaidd o 1918, a ddatgelodd fod brig cyntaf mawr, yna digwyddodd dim am bedwar mis—dim achosion, dim cleifion, dim byd o gwbl—ac yna cafwyd ail frig enfawr, gyda 10 gwaith yn fwy o farwolaethau na'r brig cyntaf. Felly, dyna beth mae hanes yn dangos i ni. Ond, yn amlwg, o ran cynllunio neu liniaru unrhyw ail don bosib, mae profi, olrhain a diogelu yn gwbl allweddol. Felly, a all y Gweinidog sicrhau yn awr, gyda'r holl dystiolaeth a gawsom yn y pwyllgor iechyd dros y misoedd diwethaf, flaenoriaeth timau iechyd cyhoeddus lleol? Maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol yma yng Nghymru, ac yn y bôn mae'n dal yn wasanaeth cyhoeddus yma. Ond a all warantu hefyd fod cynifer o'r rheini—bod y profi sydd wedi digwydd yn ein labordai yma yng Nghymru hefyd, yn ein hysbytai ac yn ein prifysgolion, fel gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer y pecynnau profi cartref a ddanfonir gan gludwyr i labordai preifat yn Lloegr, sy'n dangos pam na allwch gael y canlyniad yn ôl o fewn 24 awr—. Felly, yn amlwg, o ran olrhain cysylltiadau, mae cael canlyniad yn ôl o fewn 24 awr yn gwbl allweddol, a dyna pam mae angen inni sicrhau bod gennym y gallu i brofi yma yn ein prifysgolion a'n labordai ysbytai ni. A allwch sicrhau y bydd hynny'n mynd—o ran 100 y cant? Oherwydd dyna sut rydyn ni'n mynd i gael y canlyniadau o fewn 24 awr, a hefyd gynnwys y meddygon teulu. Y gwendid o gael system breifat o'r fath sy'n gysylltiedig â'r DU yw na all y meddygon teulu weld y canlyniadau hynny. Rydyn ni wedi ein torri i ffwrdd yn llwyr. Nid yw pobl yn gwybod hyn, ac yn amlwg nid oes gan y sector preifat unrhyw gysylltiad â'r GIG o ran profi. Felly, mae yna wendidau, ac os na cafodd y gwendidau hynny eu cynnwys yn eich rheoliadau, tra oeddech chi'n astudio neithiwr ac yn gwylio'r rhaglen ddogfen hon—sylweddolaf fod gennych lawer ar eich plât—a allwch chi adolygu hynny ar gyfer unrhyw reoliadau yn y dyfodol? Diolch yn fawr.
[Anghlywadwy.] Sori, rwyf wedi fy nhawelu. Ni ddylai fod yn syndod i'r Aelod na phobl eraill i glywed nad oeddwn i'n gwylio rhaglen ddogfen S4C tra oeddwn i'n gweithio neithiwr. Gallaf amldasgio a choginio, ond alla i ddim gwylio'r teledu a gwneud y gwaith y mae angen imi ei wneud ar yr un pryd.
Rwyf wedi nodi amryw o'r mesurau y mae angen inni baratoi ar eu cyfer ac, mewn gwirionedd, mae adroddiad yr Academi Gwyddorau Meddygol, a gomisiynwyd ar ran Llywodraeth y DU ynglŷn â Lloegr, yn amlwg, yn berthnasol i raddau i ni yma yng Nghymru, wrth inni geisio paratoi ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Ac rwyf wedi cyfeirio at y ffaith bod angen inni wneud defnydd o'r amser sydd gennym yn awr yn yr haf i baratoi ar gyfer yr hyn a allai ddigwydd. Rydym yn gwybod y bydd mwy o heintiau'r llwybr resbiradol a mwy o symptomau; rydym yn gwybod y bydd mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'n gallu i brofi yma yng Nghymru, a dyna pam rydym wedi'i adeiladu yn awr. Byddwn yn disgwyl defnyddio mwy ohono pan fydd angen defnyddio mwy ohono, pan fydd llawer mwy o bobl â symptomau—fel y crybwyllwyd o'r blaen—naill ai eisiau gwybod bod ganddynt y coronafeirws a bod angen iddyn nhw barhau i hunanynysu, neu y byddant yn cael eu rhyddhau drwy ganlyniad positif i ddychwelyd at eu bywyd bob dydd. Felly, byddwn yn bendant eisiau manteisio i'r eithaf ar y defnydd a wneir o labordai GIG Cymru, a dyna pam mae'r gwaith sy'n cael ei wneud ar wella effeithlonrwydd y labordy hwnnw mor bwysig.
Bydd angen inni wneud dewisiadau anodd, rwy'n credu, oherwydd bod ein cyllidebau dan straen mawr a than bwysau, ond bydd angen inni ddod o hyd i ffordd o gyflwyno model staffio sy'n caniatáu staffio mwy sylweddol yn ein labordai yn GIG Cymru er mwyn gwneud y gorau nid yn unig o'r capasiti, y gallu dyddiol ymarferol, ond y gallu i newid hynny'n gyflym i gael olrhain cyswllt effeithiol. Ond mae gennym system yr ydym wedi bod yn falch o'i chreu fel gwasanaeth cyhoeddus, sy'n darparu cyswllt effeithiol iawn gyda lefelau llwyddiant uchel iawn, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae'r cynghorau wedi'i wneud, ynghyd â'r GIG, ledled y wlad.
O ran eich pwyntiau ynglŷn â'r labordai goleudy a'r ffordd y maen nhw wedi'u datblygu—mae'r rhaglen honno yn y DU wedi llwyddo i ddarparu capasiti ychwanegol sylweddol, a dyma'r hyn yr ydym yn ei ddefnyddio'n bennaf gyda'r canolfannau profi drwy ffenest y car yr ydym wedi'u creu wrth sgwrsio â Llywodraeth y DU. Mae hynny wedi golygu bod gennym gapasiti ychwanegol sylweddol bellach ar gyfer, yn benodol, y bobl symptomatig y cyfeiriwyd atynt mewn rhannau o'r system gofal. Nawr, mae hynny'n golygu, fodd bynnag, fod gennym her—. A dyna pam na wnaethom ni ymuno â rhaglen brofi'r DU yn gynharach, oherwydd nid oeddem yn gallu cael y data, a'ch pwynt am feddygon teulu yn ddall i hynny—wel, mewn gwirionedd doedden ni ddim yn gwybod o gwbl. Byddem wedi gwybod bod pobl wedi cael profion, ond heb wybod beth oedd y canlyniadau, a dyna'r sefyllfa yr oedd gwledydd eraill yn ei chael eu hunain ynddi'n gynharach.
Rydym bellach mewn sefyllfa lle gall y ddau ohonom gyhoeddi nifer y profion—mae gennych gyhoeddiad unedig bob dydd o brofion sy'n cael eu cynnal yng Nghymru—ac rydym yn gweld y llif nid yn unig yn mynd i'n system olrhain cysylltiadau o'r labordai goleudy hynny, ond mae'n mynd drwy'r system fraich, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â hi, ond nid felly y bobl eraill nad ydynt yn digwydd gweithio yn y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n golygu ei fod yn mynd yn ôl i gofnod y claf. Nawr, doedden ni ddim wedi cael hynny'n gynharach. Mae bellach ar gael inni. Felly, dylai pobl sy'n darparu gofal i unigolion weld hynny ar gofnod claf unigol, a bydd yn ein galluogi i ddilyn y drefn briodol o olrhain cysylltiadau. Felly, mae gennym y niferoedd ar gyfer y profion a gynhelir ond, fel y cawsom ein cynghori i gyd gan Goleg Brenhinol y Patholegwyr, mae'n golygu profi am bwrpas, ac mae'r pwrpas hwnnw'n rhan o sut yr ydym yn cadw Cymru yn ddiogel.
Yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Roedd profi mewn cartrefi gofal yng Nghymru wedi dod yn rhy hwyr i ormod o bobl, ac mae ei effeithiolrwydd, fel offeryn mewn blwch offer, yn mynnu bod cartrefi gofal yn gweithredu ar sail gynaliadwy o ran adnoddau. Wrth siarad yn Senedd rithwir Cymru ar 3 Mehefin, cyfeiriais at gartref nyrsio a oedd wedi ysgrifennu yn dweud bod pum preswylydd wedi marw yn gysylltiedig â COVID-19, ac nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd yn hyn wedi cyfrannu'r un geiniog tuag at argyfwng COVID-19. Nodwyd y broblem hon yng ngwobrau 'cheapskate' dilynol Fforwm Gofal Cymru, sef bod hanner y 10 awdurdod lleol isaf yng Nghymru a oedd yn talu ffioedd cartrefi gofal yn ystod argyfwng coronafeirws yn y Gogledd, ac mai Sir y Fflint oedd y gwaethaf.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 15 Mehefin mewn gohebiaeth fod y bwrdd iechyd yn cydweithio'n agos â Fforwm Gofal Cymru a byrddau iechyd eraill ledled Cymru i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cynllun cymorth ariannol ar gyfer gofal nyrsio a chartrefi gofal ledled Cymru. Ond cefais e-bost gan Fforwm Gofal Cymru wythnos i ddydd Mercher diwethaf yn dweud, 'Does dim cyhoeddiad o hyd, i'n rhwystredigaeth gynyddol.' Pryd fyddwch yn datrys hyn, oherwydd mae'r cartrefi gofal yn dweud wrthyf bod taer angen hyn?
Wel, rwy'n credu bod y cwestiwn hwnnw'n datgelu'r gwahaniaethau a'r rhaniadau mawr mewn safbwyntiau pobl ar lefel unigol a lleol a'r sgyrsiau sydd gennym ar lefel genedlaethol gyda chyrff rhanddeiliaid. Ceir sgwrs reolaidd gyda phobl sy'n rhedeg gofal preswyl—awdurdodau lleol sy'n dal i ddarparu a chomisiynu rhannau helaeth o'r sector gofal preswyl, yn ogystal â'r darparwyr annibynnol hefyd. Ac mae hynny'n cynnwys sgyrsiau rheolaidd gyda Fforwm Gofal Cymru. Felly, nid wyf yn derbyn ei fod yn adlewyrchiad cywir nad oes unrhyw sgwrs â'r sector gofal preswyl. Ceir sgyrsiau rheolaidd rhwng swyddogion yn y Llywodraeth ac awdurdodau lleol a'r sector gofal ei hun. Ac mae hefyd yn rhan o'r her am yr iaith a ddefnyddiwn. Nid wyf yn credu mai'r gwobrau 'cheapskate' oedd moment orau Fforwm Gofal Cymru, ac nid oedd yn ffordd ddefnyddiol o ddefnyddio'r cysylltiadau a adeiladwyd yn fwriadol gennym yng Nghymru, lle mae partneriaid yn dod i siarad â'i gilydd ac yn parhau i gael sgyrsiau sy'n heriol—nid ydynt yn sgyrsiau cynnes a chysurus rhwng comisiynwyr a darparwyr, nac yn wir y Llywodraeth a Fforwm Gofal Cymru—a'r hyn y mae angen inni ei wneud yw cael perthynas sy'n cael sgwrs gadarn a gonest. A dyna'r hyn rwy'n credu sydd gennym ni. Nid wyf yn derbyn ei bod wedi bod yn rhy hwyr i ormod o bobl yn y ffordd rydyn ni wedi gweithredu. Byddwn yn gweld y dystiolaeth, a bydd yn rhaid i mi ystyried y dystiolaeth, unwaith y bydd yno, am yr effaith ar y sector hwnnw, am y dewisiadau a wnaed gennym a'r hyn y mae hynny wedi'i olygu o ran helpu i achub bywydau.
Hoffwn, er hynny, atgoffa Mr Isherwood, o ran Betsi Cadwaladr, nad yw'r syniad nad ydyn nhw wedi cyfrannu ceiniog tuag at argyfwng COVID yn wir, nid yn unig o ran y gwaith y maen nhw wedi'i wneud gyda chartrefi gofal a'r profion a ddarparwyd, y ffordd y maen nhw wedi defnyddio adnoddau'r GIG i gefnogi pobl, ond y ffordd y mae Betsi Cadwaladr—yn wir bob rhan arall o'n GIG yma yng Nghymru—wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gadw pobl yn iach, yn ddiogel ac yn fyw, a'r ffordd y byddwn yn galw ar ein gwasanaeth iechyd i wneud hynny eto drwy'r gaeaf nesaf hwn.
Ac, fel y clywsom, mae hwn yn sector sydd wedi cael cefnogaeth fwriadol, ein gwasanaeth iechyd gwladol ni, nid yn unig o ran pobl yn clapio y tu allan i'w drysau, ond yn y gwerthfawrogiad gwirioneddol o'r ymdrechion rhyfeddol a wnaed mewn cyfnod o amser eithriadol. O safbwynt y sector gofal preswyl, mae'n ffaith bod degau o filiynau o eitemau o gyfarpar diogelu personol wedi'u darparu ar gost o fwy na £25 miliwn am ddim i'r sector hwnnw; mae cymorth staffio wedi'i ddarparu gan amrywiaeth o fyrddau iechyd i gefnogi'r sector hwnnw hefyd, gan fod staff wedi cael trafferthion. A byddwn yn parhau yn y ffordd ymarferol iawn honno i helpu'r sector, i ofalu am rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, i gadw cynifer o bobl yn iach ag sy'n bosib, ac i helpu i gadw pobl ledled Cymru, lle bynnag y maen nhw'n byw—i gadw pob un ohonom yn ddiogel.
Diolch i'r Gweinidog. Yr eitem nesaf yw'r cwestiwn amserol sydd i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, ac mae'r cwestiwn i'w holi gan Alun Davies.