– Senedd Cymru am 4:34 pm ar 23 Medi 2020.
Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael agor y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, ar ein hymchwiliad ni i effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Fel rydyn ni'n gwybod, syniad go newydd yw amrywio cyfraddau trethi incwm ar draws y Deyrnas Gyfunol, gyda threth incwm ond yn cael ei datganoli’n rhannol i Gymru ers Ebrill 2019. Hyd yn hyn, dyw’r cyfraddau heb amrywio o rai Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymrwymo i beidio â chodi cyfraddau treth incwm yn ystod y pumed Senedd hon.
Gyda diwedd y Senedd hon yn prysur agosáu, fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid benderfynu ymchwilio i effeithiau posib cael cyfraddau treth incwm gwahanol ar draws ffin Cymru a Lloegr, yn enwedig o gofio faint o bobl sy’n byw’n agos at y ffin. Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at hyn, ac i’r Gweinidog cyllid hefyd am ei hymateb hi i’n hadroddiad ni, ac am dderbyn pob un o’r argymhellion, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.
Mae’r tebygolrwydd eich bod hi'n drethdalwr incwm yn is yng Nghymru nag yn y Deyrnas Gyfunol yn ei chyfanrwydd. Yn ôl arolwg incwm personol 2016-17, roedd 44 y cant o boblogaeth Cymru yn drethdalwyr incwm, a hyn yn cymharu â 47 y cant o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol—yn rhannol, wrth gwrs, oherwydd cyfraddau cyflogaeth is ac incwm is ar gyfartaledd hefyd. Mae tyfu sylfaen dreth Cymru yn elfen bwysig o godi refeniw treth ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru, ac rydyn ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar strategaethau arloesol i ddatblygu’r sylfaen dreth hon.
Fe wnaethom ni glywed ei bod hi’n gallu bod yn anodd rhagweld beth fydd ymddygiad pobl yng Nghymru yn sgil effeithiau newidiadau mewn treth mewn gwledydd eraill, ond mae yna ddeunydd sylweddol sy’n ymchwilio i faint mae trethdalwyr yn ymateb i sefyllfaoedd o'r fath sydd yn rhoi arweiniad gwerthfawr inni yn y maes yma. Er enghraifft, mae yna astudiaethau rhyngwladol sy'n dangos bod y rheini sydd ar incwm uchel yn ymateb cryn dipyn i gyfraddau treth; ei bod hi'n haws i rai proffesiynau sydd ar incwm uchel i symud—hynny yw, mae'n boblogaeth fwy symudol; a bod lle mae rhywun arni yn eu gyrfa hefyd yn gallu dylanwadu ar allu rhywun i adleoli. Mae'r pwyllgor, felly, yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu opsiynau polisi bydd yn helpu i ddenu’r grwpiau sy’n ymateb fwyaf i Gymru, fel y rheini sy’n ennill incwm uchel ac, wrth gwrs, graddedigion ifanc, a hynny er mwyn cynyddu ei refeniw treth.
Rydyn ni’n croesawu’r gwaith ymchwil y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu i ddatblygu modelau economaidd mwy cymhleth o economi Cymru, a hynny er mwyn dod i ddeall yn well yr effeithiau y byddai newidiadau i gyfraddau trethu yn eu cael. Fodd bynnag, mae ymchwilwyr yn nodi mai’r prif rwystr wrth lunio a datblygu eu model yw faint o ddata penodol i Gymru sydd ar gael. Rydym ni'n cydnabod bod materion sensitif ynghylch datgelu data treth, ond mae’n hanfodol bod data’n gwella er mwyn gallu deall strwythur sylfaen dreth Cymru a mynd ati wedyn i ddatblygu modelau economaidd ymhellach. Mae ein hadroddiad ni, felly, yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gydweithredu’n well er mwyn gwella’r gwaith o gasglu a lledaenu data am Gymru, yn ogystal â gweld sut mae modd defnyddio adran gwybodaeth, dadansoddi a deallusrwydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gefnogi gwaith ymchwil ym maes gwahaniaethau treth. Mae’r Gweinidog wedi nodi, gan adeiladu ar y dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno i’r pwyllgor, fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith ymchwil gyda Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i amcangyfrif effaith gwahaniaethau treth ar ymddygiad, ac mae’r datblygiad hwn yn rhywbeth rydyn ni fel pwyllgor yn ei groesawu.
Mae ein hadroddiad ni hefyd yn nodi rhagor o feysydd rydyn ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio iddyn nhw. Rydyn ni’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag academyddion ar astudiaeth hydredol am effaith gwahaniaethau mewn cyfraddau treth ar draws ffin Cymru a Lloegr. Mae’n galonogol bod y Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth yr Alban i ymchwilio i ba mor ymarferol yw cael set ddata hydredol i fesur effeithiau ar ymddygiad unrhyw newidiadau mewn treth incwm yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae tystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein hymchwiliad yn cyfeirio at ddylanwad ffactorau heblaw am drethi ar ble mae unigolyn yn dewis byw—ffactorau fel prisiau tai, costau byw, cyfleoedd gwaith, sydd hefyd yn bwysig, wrth gwrs, safon gwasanaethau cyhoeddus, sy'n elfen bwysig arall, a safon bywyd yn gyffredinol, wrth gwrs, sy'n allweddol iawn. Rŷn ni'n argymell bod yn rhaid ystyried ffactorau fel y rhain fel rhan o unrhyw ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i effaith amrywiadau treth incwm ar draws ffin Cymru a Lloegr.
Yn ogystal ag ymchwilio i oblygiadau unrhyw newidiadau i bolisi treth o safbwynt refeniw, fe wnaeth tystion bwysleisio pa mor bwysig yw ystyried sgil-effeithiau penderfyniadau o ran polisi treth—hynny yw spillover effects yn Saesneg. Er enghraifft, fe allai cynyddu'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm gynhyrchu refeniw, ond os yw e'n lleihau nifer trethdalwyr y gyfradd ychwanegol yng Nghymru, yn mi allai hynny arwain at sgil-effeithiau fel cyflogau is neu lai o gyfleoedd gwaith. Felly, rŷn ni yn argymell bod gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn ystyried sgil-effeithiau posib gan bolisi cyfraddau treth incwm Cymru ar bobl dan anfantais, fel, er enghraifft, y rheini sydd ar incwm isel ac unigolion sy'n talu treth incwm ac sydd yn derbyn y credyd cynhwysol.
Gan mai dim ond i incwm nad yw'n gynilion ac nad yw'n ddifidendau y mae'r pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm yng Nghymru'n berthnasol, clywsom y bydd Cymru'n arbennig o agored i drethdalwyr yn lliniaru eu rhwymedigaeth drwy newid o enillion i fathau eraill o incwm. Er enghraifft, gallai'r rheini sy'n hunangyflogedig ymateb i amrywiadau treth drwy gorffori eu busnes, er mwyn talu treth gorfforaeth ar elw a threth incwm ar gynilion difidend wrth dynnu elw allan, yn hytrach na thalu cyfraddau treth incwm Cymru ar enillion hunangyflogedig. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i effaith lliniaru treth incwm bersonol drwy gorffori a newid mathau o incwm, yn enwedig o gofio bod cyfran sylweddol o'r rhai sy'n talu ar y gyfradd uwch ac ychwanegol yn cael eu cyflogi yn y sector preifat yng Nghymru, ac felly'n gallu corffori eu gweithgareddau wrth gwrs. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o ystyriaeth i geisio datganoli incwm cynilion ac incwm difidend i Gymru ac asesu buddion a risgiau sicrhau'r pŵer hwn.
Yn olaf, er i ni gwblhau ein gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn cyn inni sylweddoli gwir raddfa pandemig COVID-19, mae'n amlwg y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar drethiant er mwyn helpu adferiad economaidd Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael iddi, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu opsiynau polisi ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymreig ac ystyried cynlluniau wrth gefn i ymdopi ag amodau economaidd niweidiol a thoriadau posibl mewn gwariant cyhoeddus. Felly, gyda'r sylwadau hynny, edrychaf ymlaen, Ddirprwy Lywydd, at glywed cyfraniadau'r Aelodau.
Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Nid yw'n rhywbeth sy'n llithro oddi ar y tafod yn hawdd o ddydd i ddydd, ond rwy'n croesawu cyfraniad agoriadol rhagorol y Cadeirydd y credaf ei fod yn esbonio'r cyd-destun i'r gwaith pwysig hwn.
Roedd yr adroddiad yn un diddorol iawn i ymwneud ag ef, oherwydd mae'n edrych ar faes sy'n allweddol i ddatganoli ar hyn o bryd—pwerau trethu newydd Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd, nid yn unig yn y ffordd ddamcaniaethol y buom yn sôn amdano ers cyhyd. Fel y dywed yr adroddiad, mae ffin Cymru'n boblog iawn, gyda 17 miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir iddi. Gyda 44 y cant o boblogaeth Cymru yn talu treth incwm, o'i gymharu â 47 y cant o boblogaeth y DU, roedd hi'n amlwg i ni ar y pwyllgor fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o ddatblygu sylfaen treth incwm Cymru a chynyddu refeniw treth i'r eithaf.
Os caf droi at yr argymhellion yn fyr. Yn argymhelliad 1 rydym yn argymell mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i wella'r broses o gasglu data yng Nghymru ac i ddefnyddio arbenigedd CThEM yn y maes hwn i gefnogi ymchwil. Yn y cyfamser, mae argymhelliad 3 yn galw am wella data sy'n benodol i Gymru, ac wrth gwrs, rydym i gyd am weld hynny. Mae diffyg data Cymreig yn her gyson i ddatganoli cyllidol. Yn wir, faint o ddadleuon a gawn yn y Siambr hon ac ar Zoom lle nad yw diffyg data Cymreig yn codi? Mae'n codi drwy'r amser, ac mae angen gwella hynny ar draws nifer o bortffolios.
Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at ymchwil a gyflawnwyd gan Brifysgol Caerdydd, 'A Welsh tax haven?'. Mae'n ddeunydd darllen diddorol iawn. Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad yw newidiadau yn y gyfradd sylfaenol yn cael fawr o effaith ar fudo ac arenillion treth, ond byddai effeithiau sylweddol i newidiadau i'r cyfraddau ychwanegol ac uwch. Roedd hynny'n fy atgoffa—rwy'n siŵr ei fod yn atgoffa Mike Hedges—o'r gwaith a wnaeth yr Athro Gerry Holtham rai blynyddoedd yn ôl yn y maes hwn, pan ddaeth i'r casgliad ei bod hi'n eithaf anodd yn ymarferol newid cyfraddau treth a chael effaith gadarnhaol, heblaw am ostwng y gyfradd uwch o drethiant oddeutu 10c yn y bunt, rhywbeth a allai annog entrepreneuriaid a thyfu sylfaen drethi Cymru. Ac mae hynny'n ganolog i'r broblem economaidd sy'n ein hwynebu yng Nghymru ac sydd wedi ein hwynebu ers peth amser. Yn y bôn, mae sylfaen drethi Cymru'n rhy fach. Rwy'n deall yn iawn pam, mewn cwestiynau cynharach i'r Gweinidog cyllid ac yn wir mewn trafodaethau gyda'r Prif Weinidog, y dangoswyd amharodrwydd i godi trethi, er y bu trafodaethau yn ystod y pandemig COVID ynglŷn ag a allai hynny fod yn anochel ar ryw adeg. Wrth gwrs, yng Nghymru, mae'r sylfaen drethi'n ddigon gwan fel y mae, felly byddai'n rhaid ystyried unrhyw gynnydd yn ofalus iawn a gallai gael effaith negyddol yn y pen draw.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol eisoes wedi dweud bod y bwlch y pen rhwng treth y DU a Chymru yn deillio o'r ffaith bod incwm cyfartalog is gan drethdalwyr Cymru. Wel, nododd 'A Welsh tax haven?' fod effeithiau mudo ac effeithiau amrywio'r gyfradd uwch ar refeniw yn dod yn gryfach dros gyfnod hirach, gyda gostyngiad yn y gyfradd ychwanegol o 45 y cant i 40 y cant yn ôl pob tebyg yn cael yr effaith fwyaf ar gynyddu refeniw treth Cymru ar gyfradd flynyddol o £55 miliwn ar ôl 10 mlynedd. Felly, ceir budd cronnol o doriadau treth dros amser, ond wrth gwrs, yr ochr arall i'r geiniog yw bod lleihau'r cyfraddau'n golygu, yn y tymor byr o leiaf, fod gostyngiad mewn refeniw a gwariant cyhoeddus, rhywbeth nad yw'n arbennig o dderbyniol, yn enwedig mewn pandemig.
Nawr, gwnaed rhai cymariaethau â'r Alban ac mae modelu wedi'i wneud yno i weld effaith cyfraddau treth incwm gwahaniaethol i'r gogledd a'r de o'r ffin, ond daeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad fod sefyllfaoedd yr Alban a Chymru yn rhy wahanol i allu gwneud cymhariaeth effeithiol. Yn wir, nid yw ceisio dod i gasgliadau o newidiadau treth mewn gwledydd eraill yn gweithio. Mae angen mwy o ymchwil sy'n benodol i Gymru yn y maes hwn ac mae hynny'n mynd i gymryd amser i ddatblygu. Ond mae'r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon heddiw yn dangos pa mor bell rydym wedi dod a pha mor bell y mae'r system dreth yma eisoes wedi esblygu. Ac mae datganoli pwerau trethu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn rhoi nifer o gyfleoedd i'r Senedd hon ddefnyddio'r system honno i annog entrepreneuriaeth, tyfu'r sylfaen drethi ac ysgogi'r economi. Yn achos gostwng trethi, yn y pen draw gallai hynny gynhyrchu mwy o refeniw treth a dylid edrych arno'n ofalus.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'r pandemig yn amlwg yn gwneud newidiadau mawr yn anodd ar hyn o bryd, ond mae polisi treth yn allweddol ac fe fydd yn parhau i fod yn allweddol wrth inni adeiladu'n ôl yn well y tu hwnt i'r pandemig. O'm rhan i, rwy'n credu bod angen inni gadw trethi yng Nghymru mor isel â phosibl ac rwy'n gobeithio bod hwn yn adroddiad a fydd yn cyfrannu at gorff cynyddol o waith fel bod gennym fwy o ddata sy'n benodol i Gymru ac inni allu gwneud y penderfyniadau sydd eu hangen arnom yng Nghymru i dyfu'r economi a chadw'r sylfaen drethi yma'n effeithlon ac yn effeithiol.
Wrth gwrs, mae'r pŵer i godi trethi yn un o bwerau mawr gwladwriaeth, ynghyd â deddfu a rôl deddfwr wrth wneud hynny, ac mae'r ffaith bod gennym bwerau yn awr i godi trethi yn ogystal â deddfu yn golygu ein bod yn dod yn Senedd aeddfed. Mae'n ymwneud â siapio'r wlad rydym am ei gweld, siapio'r math o gymdeithas a chymuned rydym am eu gweld yn y wlad hon yn y dyfodol, ac mae hefyd yn ymwneud ag aeddfedrwydd y lle hwn, nid yn unig fel lle ar gyfer trafod a dadlau ond hefyd ein disgwrs wleidyddol ehangach fel gwlad.
Gwnaeth y sylwadau rydym newydd eu clywed gan Nick Ramsay argraff fawr arnaf oherwydd, mewn sawl ffordd, yr etholiad y byddwn yn ei ymladd y flwyddyn nesaf yw'r etholiad aeddfed cyntaf a'r ddadl wleidyddol aeddfed gyntaf a gaiff Cymru fel gwlad, oherwydd byddwn yn trafod mwy na gwariant fel y gwnaethom dros yr 20 mlynedd diwethaf—rydym wedi cael dadleuon enfawr ynglŷn â sut y caiff yr arian ei wario, ond nid ydym erioed wedi gallu dadlau sut y caiff yr arian ei godi, ac mae honno'n ddadl sylfaenol wahanol. Mae'n wleidyddiaeth sylfaenol wahanol ac mae'n dangos bod ein gwleidyddiaeth yn aeddfedu'n helaeth ac mae'n rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr.
Gobeithio y byddwn yn gallu cael y sgyrsiau y mae Nick Ramsay newydd eu dechrau am natur y sylfaen drethi yng Nghymru, ond credaf fod angen inni fynd ymhellach na hynny. Credaf fod angen inni gael dadl am natur trethiant yng Nghymru, ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn un pwysig, a bod yn onest, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr, fel Cadeirydd, am ei arwain, ac i'r ysgrifenyddiaeth am y gefnogaeth y gallent ei rhoi i'r pwyllgor dros y cyfnod diwethaf y buom yn gwneud y gwaith hwn. Ac rwy'n dweud ei fod yn adroddiad pwysig am ei fod yn dangos yn glir iawn nad yw'r rhwystrau y gallai rhai pobl fod wedi dadlau eu bod yn her i bolisi trethiant Cymru yn bodoli mewn gwirionedd. Nid ydynt yno. Nid rhwystr a bennwyd gan Gytundeb Sir Drefaldwyn sawl canrif yn ôl ar y ffin sy'n bodoli mewn gwirionedd, ond rhwystr yn ein meddyliau ein hunain, ac yn ein creadigrwydd ein hunain a'n dychymyg ein hunain. A chredaf, fel gwleidyddion ac arweinwyr mewn gwahanol rannau o'r wlad, fod angen inni gael dadl wahanol iawn, ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn gosod sylfaen ar gyfer hynny. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon da i neb ar unrhyw ochr i'r Siambr, ble bynnag y maent yn eistedd yn y Siambr, ddweud, 'Rydym yn mynd i adeiladu'n ôl yn well ar ôl COVID', heb ddweud o ble y daw'r arian, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos y gallwn gael y ddadl honno.
Nid yw'n ddigon da dweud yn syml fod angen inni allu gwario mwy ar y gwasanaeth iechyd gwladol, fel y mae pob plaid yn ei wneud, heb ddweud o ble y daw'r arian. A byddwn yn cael dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma ar ail gartrefi—dadl sylfaenol bwysig am natur cymunedau ledled Cymru. Beth yw rôl trethiant wrth fynd i'r afael â'r mater hwnnw? Beth yw rôl trethiant wrth siapio'r ddadl honno? Beth yw rôl trethiant wrth siapio ein hymateb i newid yn yr hinsawdd? Credaf fod angen inni fynd ymhellach o lawer a diffinio trethiant fel rhan o ganghennau polisi'r Llywodraeth, fel arfogaeth y Llywodraeth, i'n galluogi i siapio gwahanol rannau o'n bywydau, ac mae newid yn yr hinsawdd yn enghraifft amlwg o hynny.
Ond rwyf hefyd yn meddwl bod angen inni ddysgu rhagor o wersi—[Anghlywadwy.]
Rydym wedi colli—
Mae'n ddrwg gennyf, pwysais y botwm anghywir. [Chwerthin.] Cefais fy nghyffroi ormod gan fy rhethreg fy hun. [Chwerthin.]
Ond mae angen inni ddysgu gwersi hefyd. I lawer ohonom, ymchwiliad ac ymholiad i ddysgu gwersi oedd hwn mewn sawl ffordd. Mae'r syniad o bolisi treth i Gymru yn newydd i ni yng Nghymru, ond nid yw'r syniad o bolisi treth gwahaniaethol mewn gwladwriaethau ffederal yn un newydd ledled y byd. Ac mae angen inni edrych lle mae gan wahanol wladwriaethau bolisïau treth gwahanol mewn gwahanol leoedd, treth a godir gan wahanol Lywodraethau, a sut y maent, gyda'i gilydd, yn helpu i siapio'r diriogaeth honno, y gymuned honno.
A gadewch i mi orffen drwy ddweud hyn: wrth gael y ddadl hon, mae angen inni gael dadl onest. Rwyf wedi clywed siaradwyr mewn gwahanol rannau o'r Siambr yn sôn am Gymru dreth isel yn erbyn Cymru dreth uchel, ac rydym wedi cael y sgwrs honno o'r blaen. Y realiti yw bod gennym sylfaen drethi isel iawn ar hyn o bryd. Mae gennym sylfaen drethi isel a lefelau trethiant isel, ac rydym bob amser wedi twyllo ein hunain—yr ymagwedd hynod anonest hon y gallwn gael gwasanaethau lefel Sgandinafaidd gyda lefelau trethiant Americanaidd. Ac mae honno'n ddadl nad ydym wedi'i chael mewn gwirionedd, ac rydym wedi'i gredu—rydym wedi bod yn ddigon gwirion i gredu ein rhethreg ein hunain. A chredaf fod angen inni symud oddi wrth hynny a chael dadl go iawn ynglŷn â ble mae trethiant yng Nghymru, ble y dylai fod. Rydym bob amser yn gartref i'r gwasanaeth iechyd gwladol pan fyddwn am fod yn falch ohono, ond a ydym yn barod i wario arian ar y gwasanaeth iechyd gwladol? Buom yn curo dwylo eleni, ond a wnawn ni roi ein dwylo—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
A dyna'r math o ddadl y mae gwir angen inni ei chael, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddadl ffrwythlon. Ac mae'n ddrwg gennyf am brofi eich amynedd, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid. A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â bron bopeth a ddywedodd Nick Ramsay a fy nghyfaill Alun Davies? Yr unig beth y byddwn yn ei ddweud wrth Nick Ramsay yw pe baem yn gostwng cyfradd uwch y dreth incwm 10 y cant, onid yw'n credu y byddai Lloegr, dros y ffin, yn gwneud yr un peth yn union, wrth inni gymryd rhan mewn ras i'r gwaelod? Dyna fy mhryder—os byddwn yn dechrau cystadleuaeth treth, fe fyddwn ni, fel y rhan lai o faint a gwannach yn colli.
Mae tair effaith i amrywio treth incwm: ymddygiad unigol, o ran symud i ardal dreth is; effaith ar ansawdd a lefel gwasanaethau cyhoeddus; a'r effaith wleidyddol a achosir drwy dalu mwy neu lai na'r rhai rydych yn gweithio ochr yn ochr â hwy neu'r rhai sy'n byw ychydig gannoedd o lathenni oddi wrthych efallai. Canolbwyntiodd yr astudiaeth a wnaethom yn llwyr ar y cyntaf o'r opsiynau hyn—beth fyddai pobl yn ei wneud. Wrth i Gymru nesáu at y drydedd flwyddyn ers datganoli treth incwm yn rhannol a blwyddyn olaf ymrwymiad Llywodraeth bresennol Cymru i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru, a blwyddyn etholiad, rwy'n credu ei bod yn briodol iawn i hyn gael ei drafod yn agored.
Mae gennym ffin, fel y dywedodd Nick Ramsay yn gynharach, gyda 17 miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir iddi. Mae llawer o bobl yn croesi'r ffin bob dydd i fynd i'w gwaith. A gwyddom hefyd, fel y byddai ein diweddar ffrind, Steffan Lewis, wedi dweud, 'Nid ydym yn unigryw yn hyn. Mae gan wledydd eraill ledled Ewrop a ledled y byd yr un pethau'n union; pam ein bod yn credu bod Prydain yn unigryw?' Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod yn dweud hynny'n rheolaidd iawn—rwy'n sicr yn ei gofio, ac rwy'n siŵr fod Aelodau eraill yn ei gofio. Rwy'n credu bod hynny'n hollol wir.
A gallwn edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn astudiaethau rhyngwladol neu'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, ac mae'n debyg fod gennym lai o bobl yn cymudo na lleoedd fel Lwcsembwrg a gwledydd Benelux, a hefyd rhai o'r Länder yn yr Almaen. Ond dengys astudiaethau rhyngwladol fod pobl ar incwm uchel yn ymatebol i gyfraddau treth. Gallant benderfynu ble maent yn byw, ble mae ganddynt nifer o gartrefi, a gallant benderfynu pa un fydd eu prif gartref. Mae rhai proffesiynau, fel bargyfreithwyr, yn symudol iawn. Gwyddom hefyd nad ystyriaethau treth yw'r unig ffactorau sy'n dylanwadu ar fudo. Ni ellir tanbrisio dylanwad ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â threth—cyflogau, teulu, prisiau tai, a byddwn yn dweud prisiau tai yn enwedig, ac ansawdd bywyd—a rhaid iddynt fod yn rhan o ymchwil Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar effaith amrywiadau treth ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Dywedwyd wrthym mai ychydig o effaith a gaiff newid yng nghyfradd sylfaenol treth incwm ar fudo. Wel, pam y byddai'n cael effaith? Oherwydd nid yw arbed y symiau bach hynny o arian yn mynd i'ch cael i symud milltiroedd lawer. Gwyddom o'r dreth gyngor fod gennym amrywiadau enfawr yn y nifer ym mhob band, ac mae gennym amrywiadau enfawr hefyd yn y swm a delir. Nawr, gadewch i ni gymharu Blaenau Gwent a Mynwy. Mae gan Flaenau Gwent dros hanner eu heiddo ym mand A; mae gan Fynwy ychydig dros 1 y cant o'u heiddo ym mand A, a bron i 6 y cant yn y ddau fand uchaf. Praesept band D ym Mlaenau Gwent yw 1,712. Yng Nghasnewydd 1,198, a Mynwy 1,381. Ceir gwahaniaeth sylweddol. Ond os edrychwch ar brisiau eiddo a chostau morgais—maent hefyd yn amrywio'n sylweddol. Edrychais ar Zoopla—mae lleoedd eraill ar gael—i edrych ar dai i'w prynu: gallwch gael tŷ pâr tair ystafell wely neis iawn yn Nhredegar am £150,000. Fe gaiff y swm hwnnw fflat un ystafell wely i chi ym Mynwy.
Gwyddom gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod cystadleuaeth treth yn gyffredin ac yn digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd. Trethi ar incwm cyfalaf yw'r rhai mwyaf agored i symudedd y sylfaen drethu, wedi'u dilyn gan drethi incwm personol. Mae ffactorau eraill hefyd yn effeithio ar gystadleuaeth treth a symudedd y sylfaen drethu, megis prisiau tai, gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a theithio haws i'r gwaith. Hefyd, mae pobl yn aml yn byw mewn ardal lle cânt fanteision nad ydynt yn rhai ariannol—mynediad at gymorth teuluol, gofal plant teuluol, parciau, traethau a chyfleusterau hamdden. Credaf y byddai effaith wleidyddol codi trethi'n uwch na rhai Lloegr yn ddifrifol iawn. 'Pam ydw i'n talu mwy na rhywun yn Lloegr ar yr un incwm?' Bydd yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn pleidleisio.
Er ein bod yn gwybod bod grŵp 'Yes Cymru' yn barod i weld holl drethi Cymru'n codi dros 20 y cant, ni chredaf fod hon yn farn a goleddir gan bawb. Hefyd, gwyddom y byddai cynnydd o 1 y cant yn y gyfradd sylfaenol yn codi £200 miliwn. Mae hwnnw'n swnio'n swm mawr o arian, ond os rhowch hynny mewn persbectif, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos bod saith bwrdd iechyd Cymru, dros y tair blynedd diwethaf, £352 miliwn yn y coch.
Mae'r Alban wedi bod â gallu i amrywio treth incwm ers blynyddoedd lawer—ni wnaeth ei ddefnyddio. Gallai symud hyd at 3 y cant i fyny neu 3 y cant i lawr. Beth sy'n digwydd? Nid yw cynyddu treth incwm yn codi llawer o arian, mae'n gwneud pobl yn ddig, ac oni bai bod y cynnydd yn fawr nid yw'n cael unrhyw effaith sylweddol ar wariant cyhoeddus. Nid yw lleihau treth incwm yn costio llawer o arian ond mae'n lleihau gwariant ar wasanaethau. Dyna pam y cadwodd yr Alban y dreth yr un fath, ac rwy'n siŵr y byddwn ninnau'n gwneud hynny.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch. A diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gynnal yr ymchwiliad hwn a llunio ei adroddiad. Ystyriodd yr ymchwiliad rai materion gwirioneddol bwysig. Mae gwahaniaethau mewn treth incwm mewn gwahanol rannau o'r DU yn gysyniad cymharol newydd i ni ei ystyried, ac rydym yn dechrau deall yr effeithiau posibl ar ein cymunedau. Mae cael yr adroddiad hwn, ynghyd â mynediad at y data a'r dadansoddiadau perthnasol, yn hanfodol i'n dull o lunio polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.
I fod yn glir, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i beidio â newid cyfraddau treth incwm Cymru dros oes y Senedd hon. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn ystyried y dystiolaeth ar effaith debygol unrhyw amrywiadau ar drethdalwyr Cymru, a'u hymatebion ymddygiadol posibl, wrth inni ystyried ein polisi treth datganoledig yn y dyfodol.
Mae'r alldro diweddar a'r alldro rhagamcanol ar gyfer yr Alban wedi dangos y gallai fod gwahaniaethau mawr yn nhwf refeniw gwahanol rannau o'r DU, wedi'i gronni i raddau helaeth ar ben uchaf y dosbarthiad incwm. Felly, rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor ac yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor yn llawn neu mewn egwyddor. Yn wir, fel y mae fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor yn dweud yn glir, mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn gyson â fframwaith strategaeth dreth bresennol Llywodraeth Cymru ac yn cadarnhau mai egwyddorion ein strategaeth drethu bresennol yw'r rhai cywir i Gymru.
Rwy'n cydnabod bod angen llawer mwy o waith i ddeall yn llawn effaith debygol amrywiadau mewn treth incwm ar boblogaeth Cymru. Mae hwn yn faes ymchwil sy'n esblygu yng nghyd-destun y DU, a bydd adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn ychwanegu at y corff cynyddol o dystiolaeth. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i asesu sut y mae'r trefniadau presennol yng Nghymru yn perfformio, gan sicrhau cydbwysedd priodol rhwng ysgogiadau treth datganoledig a pherygl o risg ariannol. Bydd y cydbwysedd rhwng buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, cystadleurwydd economi Cymru a'r effaith ar drethdalwyr yn flaenllaw mewn penderfyniadau ar drethi datganoledig. Felly hefyd y ffordd y byddwn yn defnyddio trethi fel ysgogiad i hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb, gan ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol, gan gynnwys cyfiawnder a diogelwch economaidd.
Felly, gan droi at rai o'r argymhellion penodol, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio'n agos ac yn adeiladol â dadansoddwyr ledled Llywodraeth y DU, gan gynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae'r cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM yn cynnwys mesurau perfformiad a gynlluniwyd i sicrhau bod ffocws parhaus ar nodi a chynnal cofnod cywir a chadarn o boblogaeth Cymru sy'n drethdalwyr.
Bydd y data alldro ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf—blwyddyn lawn gyntaf datganoli treth incwm Cymru—yn dechrau dod ar gael o haf 2020-21, a bydd set ddata fanwl ar gyfer y flwyddyn honno ar gael yn 2022. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda CThEM i sicrhau y gellir darparu'r data hwnnw mewn ffordd hygyrch a defnyddiol i ymchwilwyr. At hynny, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ymchwilio gyda CThEM i effeithiau posibl amrywio trethi. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor eisoes gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ymchwiliad hwn.
Fel y mae'r adroddiad yn cydnabod, nid ystyriaethau o ran treth yw'r unig ffactorau sy'n dylanwadu ar fudo. Rhaid i ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â threth, megis cyflogau, teulu, prisiau tai ac ansawdd bywyd fod yn rhan o unrhyw ymchwil yn y dyfodol ar effaith amrywio trethi ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Felly, mae rhan o'n gwaith yn cynnwys ystyried set ddata hydredol i ddarparu ymchwil fwy soffistigedig i effaith ymddygiadol newidiadau treth incwm a gwahaniaethau posibl o fewn y DU. Drwy gydweithio â CThEM, bwriadwn gynhyrchu set ddata a fyddai'n briodol i ymchwilwyr y Llywodraeth ac ymchwilwyr anllywodraethol, gan barhau i barchu cyfrinachedd data treth.
Mae'r pwyllgor yn argymell rhoi ystyriaeth bellach i fater datganoli treth ar gynilion ac incwm difidend i Gymru. Cytunaf fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Wrth gwrs, mae'n ddyddiau cynnar o hyd ar ddatganoli treth incwm yma yng Nghymru, ond serch hynny, dylem fod yn agored i ddatblygiadau pellach o ran datganoli trethi lle mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod achos dros newid.
Dywed y pwyllgor fod yr hinsawdd bresennol yn golygu y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar drethiant i helpu'r adferiad economaidd. Mae'r cynnydd dros dro i'r trothwy ar gyfer dechrau talu'r dreth trafodiadau tir ar eiddo preswyl ar gyfer prynwyr tai yn dangos ein gallu a'n parodrwydd i ddefnyddio ein polisïau treth ochr yn ochr ag ysgogiadau cyllidol eraill i helpu Cymru i wella o'r pandemig byd-eang.
Felly, wrth inni symud ymlaen, bydd y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn helpu i lunio polisïau treth yng Nghymru yn y dyfodol, a'r rôl a chwaraeir gan drethi datganoledig wrth archwilio'r cyfleoedd ac ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Nid oes neb wedi dweud eu bod yn dymuno ymyrryd. Felly, galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl. Llyr.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl—ac yn enwedig i'r Gweinidog, wrth gwrs, fel yr oedd hi'n cyfeirio ato fe yn gynharach, am dderbyn yr holl argymhellion, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor? Dwi'n nodi yn enwedig, wrth gwrs, ei bod hi'n agored ei meddwl i ddatganoli pellach ar bwerau trethiannol i Gymru.
Mae Mike Hedges wedi tynnu sylw at y ffaith, wrth gwrs, pan oedd Nick Ramsay'n cyfeirio at gymaint o bobl oedd yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ddyddiol, dyw hwnna ddim yn rhywbeth unigryw i Gymru. Yn sicr, os rhywbeth, byddwn i'n tybio ei fod e'n digwydd ar lefel uwch mewn gwledydd eraill ar draws y byd yma. Felly, dyw e ddim yn reswm inni beidio â mynd i'r afael â newid y graddfeydd trethiannol os oes angen. Dwi ddim yn meddwl roedd Nick yn awgrymu bod hynny'n rwystr, ond yn sicr mae'n rhywbeth y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohono fe. Ond, fel yr oedd Alun Davies ac eraill yn dweud, mae yna enghreifftiau ar draws y byd o le mae hyn wedi digwydd a lle mae hyn yn cael ei reoli yn effeithiol. Felly, dwi yn teimlo—mae perig i hwnna droi mewn i fwgan mewn ffordd na ddylai fe fod, ac mae'n bwysig ein bod ni'n ymwybodol o hynny.
Mi gyfeiriodd Nick hefyd, wrth gwrs, at amharodrwydd Llywodraeth Cymru i ystyried amrywio'r graddfeydd trethi ar hyn o bryd. Dwi'n deall efallai pam eu bod nhw'n dweud hynny, ond yn sicr mae'r drafodaeth a'r adroddiad yma a'r ddadl yma yn rhan o'r sgwrs genedlaethol yna sydd angen ei chael nawr. Oherwydd, fel yr oedd Alun eto'n ein hatgoffa ni, mae yn arwydd o Senedd yn dod i oed ein bod ni â pholisïau neu â phwerau trethiannol, ond, wrth gwrs, mi fydd y dimensiwn hwnnw yn ychwanegu dimensiwn newydd iawn i'r etholiad fydd o'n blaenau ni o fewn rai misoedd, gyda pleidiau yn cyhoeddi maniffestos. A dwi yn gobeithio bydd gwaith y pwyllgor yn y maes yma efallai yn help i'r drafodaeth honno o fewn y pleidiau, ond hefyd yn ehangach yng Nghymru, ynglŷn â ble rŷn ni'n mynd o safbwynt polisi treth. Oherwydd, fel y dywedodd e, un peth yw trafod sut mae rhywun yn gwario pres, ond mae'n drafodaeth gwbl wahanol pan ydych chi angen trafod sut rydych chi'n gwario'r pres rydych chi yn ei godi, a sut rydych chi'n codi'r pres yna sydd ei angen arnoch chi er mwyn cwrdd â'ch ymrwymiadau gwariant.
Mae'r ffactorau amrywiol wedi cael eu cyfeirio atyn nhw hefyd. Un elfen yw trethiant, wrth gwrs, i'r hyn sydd yn penderfynu ar symudoledd pobl, ac mae Aelodau wedi bod yn berffaith iawn i gyfeirio at bethau fel lefelau cyflog, prisiau tai, ansawdd bywyd a rhwydweithiau teuluol hefyd, sydd yr un mor bwysig, wrth gwrs, i nifer o bobl.
Un peth sy'n amlwg, wrth gwrs, yw bod yna lawer mwy o waith sydd angen ei wneud, ac mae hynny'n cynnwys cael darlun mwy eglur efallai o sylfaen dreth Cymru. Mi gyfeiriodd y Gweinidog at yr angen i archwilio'r alldro o flwyddyn gyntaf cyfraddau treth incwm Cymru yr haf nesaf. Mae angen gwella'r gwaith o gasglu a rhannu data yng Nghymru ac mae hwnnw'n rhywbeth sydd wedi dod drwyddo'n glir yn y ddadl yma, ac ystyried ymhellach beth sy'n lliwio ymddygiad trethdalwyr a sut y gallwn ni ddenu mwy o'r grwpiau yna sydd angen eu denu efallai i gynyddu refeniw.
Ond megis dechrau y mae ein taith ni o ran datganoli trethi, ac rŷn ni'n cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru wedi dod ar eu traws nhw wrth geisio rhagweld beth fydd trethdalwyr yn ei wneud o ran symud o ran osgoi trethi, ac ymatebion economaidd eraill i newidiadau posib i dreth incwm yng Nghymru.
Ond mae'n bwysig cydnabod y rôl y gall cyfraddau treth incwm Cymru ei chwarae o ran datblygu economi Cymru. Mae'n gyfle felly inni feddwl yn wahanol, inni fod yn arloesol, ac inni ddatblygu polisïau sy'n helpu'r economi i adfer, wrth gwrs, o'r sefyllfa rŷn ni'n ffeindio’n hunain ynddi ar hyn o bryd.
Ond, fel rwy'n dweud, gobeithio bod adroddiad y pwyllgor a'r ddadl yma y prynhawn yma wedi cyfrannu at y drafodaeth honno, ac mae honno'n drafodaeth, wrth gwrs, fydd yn parhau i fewn i'r etholiad ym mis Mai a thu hwnt.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.