– Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
Eitem 8 yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am drefnu'r ddadl hon heddiw, oherwydd yng nghyd-destun y pandemig COVID, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fusnes y Senedd, yn briodol, yn canolbwyntio ar sut y gallwn gynorthwyo ein pobl, ein cymunedau a'n heconomi yn yr amserau digynsail hyn. Serch hynny, mae'r materion cyfansoddiadol rydym yn mynd i'r afael â hwy yn ein hadroddiad yn ganolog i ddemocratiaeth yng Nghymru, a'n gallu, fel Aelodau o'r Senedd, i gyflawni ein rolau cynrychioliadol, deddfwriaethol a chraffu. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y materion hyn gyda'r Aelodau.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, cawsom ddadl ar faint o Aelodau ddylai fod yn y ddeddfwrfa hon a sut y dylid eu hethol. Penderfynodd y Senedd, gyda mwyafrif clir, fod angen mwy o Aelodau, ond cytunwyd bod angen gwneud rhagor o waith i ystyried sut y gellid cyflawni hynny. Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd wedyn ym mis Medi 2019. Gofynnodd y Senedd i ni archwilio'r argymhellion a wnaed gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.
Yn ystod ein gwaith, clywsom dystiolaeth glir a grymus fod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd, y dylai ei haelodaeth fod yn fwy amrywiol, fod y system etholiadol bresennol yn cyfyngu ar ddewis pleidleiswyr ac atebolrwydd Aelodau a'i bod yn amhriodol nad oes mecanwaith ar gyfer adolygu ffiniau'r Senedd. Nid oes amser heddiw i mi amlinellu'r holl argymhellion, sy'n cynnwys, er enghraifft, y dylid ethol rhwng 80 a 90 o Aelodau o'r Senedd drwy'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, y dylid rhoi trefniadau ar waith i adolygu ffiniau'r Senedd yn barhaus, y dylid rhoi ymyriadau gwirfoddol a deddfwriaethol ar waith i oresgyn yr anghydraddoldebau strwythurol a'r rhwystrau cymdeithasol sy'n rhwystr rhag cael Senedd fwy amrywiol, a bod angen inni wneud mwy i gynyddu lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud a sut y mae ei gwaith yn gwneud gwahaniaeth i'r materion sydd o bwys i bobl.
Mae cost ynghlwm wrth fuddsoddi yn ein democratiaeth a byddai'n rhaid craffu'n ofalus ar y costau hynny wrth i'r Senedd ystyried unrhyw Fil diwygio. Ond ar sail yr amcangyfrifon y mae'r Llywydd wedi'u paratoi ar ein cyfer a'r dystiolaeth rydym wedi'i chael, credwn fod y gost ychwanegol nid yn unig yn bris sy'n werth ei dalu, ond mae'n fuddsoddiad angenrheidiol yn ein prosesau a'n sefydliadau democrataidd. Ar sail y dystiolaeth a glywsom, credwn y byddai Senedd fwy o faint yn gosteffeithiol. Byddai'n gwella safon llywodraethiant yng Nghymru, yn gwella trosolwg a chraffu ar Lywodraeth Cymru ac yn arwain at bolisi mwy effeithiol, gwariant mwy effeithlon a gwell deddfwriaeth.
Gallai hyd yn oed gwelliannau ymylol i wariant neu werth wrthbwyso cost deddfwrfa fwy o faint. Ond ni fyddwn yn gweld y gwelliannau hyn, ac ni fydd gan y Senedd a etholir yn 2026 nifer priodol o Aelodau i gyflawni ei chyfrifoldebau pwysig oni bai bod pleidiau gwleidyddol yn gallu dod i gonsensws ar gynigion i ddiwygio a chytuno i roi camau deddfwriaethol ar waith yn gynnar yn y chweched Senedd.
Yn 2017, cydnabu'r panel arbenigol nad oedd yna amser perffaith ar gyfer gwneud newidiadau cyfansoddiadol ac etholiadol, ond gofynnai'r cwestiwn: os nad nawr, pryd? Heriodd y Senedd i fod yn feiddgar ac i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiwygio'r sefydliad, i fywiogi democratiaeth Cymru ac i ennyn brwdfrydedd ac ysgogi pleidleiswyr fel bod etholiad 2021 yn darparu deddfwrfa sydd â'r gallu i gynrychioli'r bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu ac yn dod yn Senedd Cymru sy'n gweithio go iawn ar ran pobl Cymru.
Mae'r pwerau i ddiwygio ein Senedd wedi bod yn ein dwylo ers 2018. Mae'r camau cyntaf yn y broses ddiwygio eisoes wedi'u cymryd, ac o ganlyniad bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae gennym ragor i'w wneud cyn y gallwn ddweud ein bod wedi grymuso ein Senedd yn llawn i ddiwallu anghenion y rhai y mae'n eu cynrychioli—pobl Cymru. Credwn fod ein hadroddiad yn cynnig cynllun i arwain y chweched Senedd wrth iddi gymryd y camau nesaf yn y broses ddiwygio honno. Fodd bynnag, rydym yn realistig; gwyddom fod mwy i'w wneud i ennyn diddordeb y cyhoedd yn y materion hyn, a gwyddom fod gan Aelodau a phleidiau ar draws y Siambr safbwyntiau gwahanol. A gwyddom fod y rhain yn faterion gwleidyddol sensitif y mae'n anodd dod i gonsensws arnynt.
Fodd bynnag, fel deddfwyr ac Aelodau etholedig, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gydweithio i fuddsoddi yn ein democratiaeth yng Nghymru a'i chryfhau. Mae'r dystiolaeth yn glir: oni bai fod deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn gynnar yn y chweched Senedd, rydym mewn perygl o fethu sicrhau y gall ein deddfwrfa barhau i gyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru. Mae perygl y byddwn yn colli'r cyfle i sicrhau bod y gwaith o graffu ar bolisi, deddfwriaeth, gwariant a threthiant yn cael ei lywio gan safbwyntiau pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Ac mae perygl y byddwn yn colli'r cyfle i rymuso ac ennyn diddordeb pleidleiswyr drwy gyflwyno system etholiadol sy'n rhoi cymaint o ddewis â phosibl i'r pleidleiswyr, yn egluro atebolrwydd Aelodau ac yn sicrhau canlyniadau tecach a mwy cyfrannol.
Wrth gyhoeddi ein hadroddiad, rwy'n annog pob Aelod a phob plaid wleidyddol i fyfyrio ar y dystiolaeth ac i ystyried ein casgliadau a'n hargymhellion yn llawn. Credaf y gall y chweched Senedd gydweithio i ddod i gytundeb ar y camau nesaf ar gyfer diwygio'r Senedd ac i sicrhau bod ein Senedd yn parhau i fod wrth wraidd democratiaeth ffyniannus yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid yw'r Llywydd wedi dethol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett, na gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton, er fy mod yn bwriadu galw ar y ddau Aelod i siarad yn y ddadl. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Mae hwn yn adroddiad cynhwysfawr, heb os, ac mae yna waith manwl wedi cael ei wneud gan Aelodau a staff y pwyllgor yma. Mae o'n siomedig, er hynny, ein bod ni erbyn hyn wedi colli'r cyfle yn y Senedd hon i weithredu ar dystiolaeth gweithgor manwl iawn arall a gafwyd tua dechrau'r bumed Senedd, sef yr un dan gadeiryddiaeth Laura McAllister. Ychwanegu at y dystiolaeth o'r angen am gryfhau'r Senedd yma a chreu democratiaeth sy'n gynrychioladol o'r holl leisiau yng Nghymru—dyna mai'r adroddiad yn ei wneud mewn gwirionedd, yn hytrach na'n symud ni ymlaen yn gyflym.
Dwi'n credu bod yr achos busnes yn amlwg ac yn glir i ni gyd erbyn hyn a bod yr amser wedi dod ar gyfer gweithredu. Fel rydych chi'n gwybod, mi oedd Plaid Cymru eisiau inni weithredu ar unwaith yn ystod y Senedd hon, mewn ymateb i adroddiad Laura McAllister, ac fe wnaethon ni roi'r cyfle, drwy gyfrwng cynnig ar lawr y Senedd ym mis Gorffennaf y llynedd, i'r perwyl hwnnw. Ar y pryd, fe wnaeth Llafur, am y tro cyntaf, gytuno mewn egwyddor fod angen cynyddu nifer yr Aelodau, ond doedden nhw ddim yn barod i ymrwymo i roi hynny ar waith ar y pryd. A'r Llywodraeth bresennol fydd yn rhaid ateb ynghylch pam y bu rhaid inni dreulio pum mlynedd ychwanegol gyda system fethedig. Mi fyddaf yn gwrando'n astud er mwyn clywed y bydd y Llywodraeth yn cefnogi yn ddiamwys y ddeddfwriaeth sydd ei hangen yn y Senedd nesaf.
Ers ei sefydlu, mae Senedd Cymru wedi bod yn flaengar fel deddfwrfa lle'r oedd cydraddoldeb wedi'i ysgrifennu mewn i'r DNA o'r cychwyn cyntaf, ond, yn amlwg, mae yna lawer iawn mwy o waith i'w wneud, ac am hynny, mae'r cyfrifoldeb ar ein Senedd fodern ni i arwain y ffordd unwaith yn rhagor i sicrhau bod y Senedd yn cynrychioli Cymru yn ei holl amrywiaeth. Os ydym ni'n barod i arddel yr enw 'Senedd', mae'n rhaid i ninnau fel ein cenedl fodern ac amrywiol fod yn Senedd i bawb yng Nghymru ac yn Senedd i Gymru gyfan. All yr holl gyfrifoldeb yma ddim syrthio ar bleidiau gwleidyddol yn unig. Mae'n amlwg bod angen elfen o weithredu cadarnhaol i wireddu'r nod. Mae yna rai camau bychain ond rhai digon clodwiw yn cael eu hargymell yn yr adroddiad: system o gasglu data ar amrywiaeth rhestr ymgeiswyr pob plaid wleidyddol, cronfa i gefnogi pobl ag anableddau, er enghraifft, i gefnogi ethol rhai o'r grwpiau hyn sydd wedi eu tangynrychioli i swydd gyhoeddus. Ond mae angen mynd ymhellach.
Rhannu swyddi—rydych chi wedi fy nghlywed i'n trafod hyn o'r blaen. Dwi ddim yn meddwl bod ishio gweithgor arall i edrych ar hyn. Dylai'r ffocws o'r cychwyn yn y Senedd nesaf fod ar weithredu hyn i mewn i gyfraith. Mae'r dystiolaeth eisoes yn bodoli. Ac mi fyddwn i'n awyddus i weld cynnwys cwotâu statudol i sicrhau cynrychiolaeth briodol i ferched a phobl o liw yn y ddeddfwriaeth newydd.
Does dim rhaid inni aros tan y Senedd nesaf cyn cychwyn gweithredu. Mae ffenest a chyfle hyd yn oed yn yr amserlen ddeddfwriaethol sy'n weddill o'r Senedd hon inni gymryd camau tuag at wneud democratiaeth Cymru yn fwy cynhwysol ac yn fwy cydradd, a hynny ar lefel llywodraeth leol. Mae Delyth Jewell wedi cyflwyno gwelliannau i'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei thrafod ar hyn o bryd ynglŷn â llywodraeth leol, ac mi fyddai pasio'r gwelliannau yn golygu cyflwyno STV i bob cyngor yn ddieithriad ynghyd â mesurau eraill i warchod hawliau mamolaeth cynghorwyr a sicrhau nad oes posib cael cabinet o ddynion yn unig. Dwi'n mawr obeithio y bydd y camau bychain hynny yn cael cefnogaeth y Llywodraeth ac y byddwn ni'n gallu symud hyd yn oed rŵan yn y Senedd yma ychydig bach o'r ffordd tuag at fod yn Senedd wir gynhwysol, wir gydradd.
Wel, mae gan Gymru lawer o broblemau ar hyn o bryd, ond nid wyf yn credu y gwelem lawer o bobl yn y byd y tu allan sy'n credu mai'r ateb i unrhyw un ohonynt yw mwy o wleidyddion, mwy o Aelodau o'r lle hwn. Y gwir amdani yw nad oes galw o gwbl ymhlith y bobl sydd wedi ein hethol i'r lle hwn am gynyddu maint y Senedd, a gwyddom hyn drwy edrych ar yr ystadegau etholiadol am yr 20 mlynedd diwethaf. Nid oes un etholiad lle rydym wedi llwyddo i gael y ganran sy'n pleidleisio i ethol Aelodau'r Senedd i 50 y cant. Mae arolygon barn diweddar wedi dangos dadrithiad cynyddol gyda'r lle hwn a galw cynyddol i gael gwared arno—tua 22 y cant yn yr arolwg barn diwethaf a welais. Mae'r syniad, fel y dywedwyd eiliad yn ôl, y byddai cynyddu maint y Senedd yn bywiogi democratiaeth yn eithaf chwerthinllyd ac mewn gwirionedd mae'n gondemniad o'r hyn ydym ni ar hyn o bryd—[Anghlywadwy.]
Ymddengys bod gennym anawsterau technegol. A wnaiff y gweithredwr sain weld a allwn ailsefydlu cyswllt â Neil Hamilton?
Caewyd fy meic—
Do, mae'n ddrwg gennyf, Neil, roedd hi'n anodd eich clywed. Nid oedd y sain yn gweithio. Felly, rydym wedi'ch clywed hyd at funud a 34 eiliad, felly, yn amlwg, fe wnaf ganiatáu i chi gael yr amser angenrheidiol ar gyfer eich dadl.
Diolch yn fawr am hynny. Fe wneuthum gynnig mewn gwelliant—ac rwy'n deall, wrth gwrs, na chafodd ei ddewis—y dylem alluogi'r cyhoedd i roi ystyriaeth wirioneddol i hyn ar ffurf refferendwm. Dywedodd Angela Burns mewn dadl gynharach fod y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud 'na' wrth refferenda oherwydd yn y pen draw dylem gael pŵer i fwrw ymlaen neu beidio drwy ddefnyddio ein barn wleidyddol gyfunol yma, yn unol â'n mandadau. Wel, wrth gwrs, barn gyfunol gwleidyddion yw y dylid cael mwy o wleidyddion. Nid wyf yn credu bod honno'n ddadl argyhoeddiadol iawn i'r etholwyr. Gwyddom i gyd beth ddigwyddodd ar Brexit, lle roedd 85 y cant o Aelodau'r lle hwn am aros yn yr UE, ond roedd 53 y cant o boblogaeth Cymru am adael. Yn wir, roedd llawer o'r rhai a gynigiodd y ddadl hon dros gynyddu maint y Senedd am gael ail refferendwm ar refferendwm Brexit cyn gweithredu canlyniad y cyntaf hyd yn oed.
Dadl y Comisiwn yw y gall llais y bobl gael ei gynrychioli'n ddigonol gan yr hyn y maent yn ei alw'n gynulliad dinasyddion, ond wrth gwrs, nid llais y bobl fyddai hwnnw, dim ond llais sefydliad Bae Caerdydd. Byddai'n darian arall yn erbyn barn y cyhoedd, ac yn fy marn i, byddai'n union fel y seneddau ffug a welwn mewn gwledydd unbenaethol fel Gogledd Korea, lle maent yn stampiau rwber yn y bôn i gynhyrchu'r hyn y mae'r sefydliad am ei gael. Byddai'r sefydliadau hyn yn llawn o bobl yn ysu am gael bod yn wleidyddion, neu gynffonwyr Bae Caerdydd, neu bobl sy'n ariannu buddiolwyr sefydliadau Llywodraeth Cymru ac yn y blaen. Mae'r trydydd sector yn deilwng iawn rwy'n siŵr, ond maent i gyd yn lled-wleidyddion hefyd, ac maent i gyd yn sugno ar deth y trethdalwr, felly wrth gwrs fod ganddynt ddiddordeb personol mewn parhau â'r trefniant presennol. Mae llawer o'r sefydliadau hyn yn cael eu hariannu naill ai'n uniongyrchol gan gontractau neu grantiau Llywodraeth Cymru, felly nid wyf yn credu y dylem ystyried bod yr un ohonynt yn annibynnol, a chânt eu rhedeg gan gyfeillion gwleidyddol Llywodraeth Cymru. Nid democratiaeth yw Cymru, ond ffrindocratiaeth, fel y datgelwyd yn gynhwysfawr ym mlog Jac o' the North, i unrhyw un ohonoch sy'n ei ddarllen.
Ac yn ymarferol, a ydym yn gorweithio fel Aelodau o'r Senedd ar hyn o bryd? Rwy'n dweud nad ydym. Mae Aelodau o'r Senedd yn fy mhrofiad i yn gydwybodol iawn ac rwy'n talu teyrnged iddynt, ond rwy'n credu y gallant ymdopi â'r llwyth gwaith presennol. Am gyfnod roeddwn yn arweinydd grŵp plaid ac ar bedwar o bwyllgorau'r Cynulliad, ac ynghyd ag eraill, rwy'n cynrychioli'r Canolbarth a Gorllewin Cymru, sef y rhanbarth mwyaf amrywiol yng Nghymru yn ddaearyddol. Ac eto, gallwn ymdopi, ac roeddwn yn ei fwynhau, ac nid ydym ond yn eistedd yng Nghaerdydd ar dri diwrnod yr wythnos—deuddydd yn y Cyfarfod Llawn ac un diwrnod, fel arfer, ar bwyllgor. O'n cymharu â gwledydd eraill, nid ydym yn gorweithio. Yn yr Unol Daleithiau maent ar fin cael etholiad i Dŷ'r Cynrychiolwyr; mae 330 miliwn o etholwyr yn yr Unol Daleithiau, a bydd 450 o Aelodau o Dŷ'r Cynrychiolwyr yn eu cynrychioli. Mae'r Eidal newydd gael refferendwm yn gofyn a ddylid lleihau maint eu Senedd. Pleidleisiodd 70 y cant o'r bobl yn y refferendwm o blaid lleihau maint dau dŷ Senedd yr Eidal o 900 i 600.
Mae'r adroddiad hwn wedi anwybyddu dadl y rhai sy'n gwrthwynebu cynyddu maint y sefydliad, ac wrth gwrs ymddiswyddodd David Rowlands o'r pwyllgor, a chawsom—UKIP, hynny yw—un linell o sylw yn yr adroddiad. Felly, y cyfan y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud yn fy marn i yw cadarnhau bod y Senedd yn siambr atsain i wleidyddion Bae Caerdydd, ac nid llais y bobl mewn gwirionedd. Felly, edrychaf ymlaen at drafod hyn yn yr etholiad fis Mai nesaf, ac mae'n beth da iawn nad yw'n cael ei benderfynu, fel y dymunai Siân Gwenllian a'i chyd-Aelodau, yn ystod y Cynulliad hwn. Oherwydd credaf y bydd hwn yn fater hynod ddefnyddiol i'r rheini ohonom sy'n credu bod datganoli wedi bod yn fethiant yn ymarferol, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ymuno â'r frwydr yn yr hustyngau.
A gaf fi ddweud 'da iawn' wrth Dawn Bowden am gadeirio pwyllgor ar fater dadleuol sydd o bwys arbennig i weithrediad y Senedd hon, Senedd Cymru, yn awr ac yn y dyfodol? Gwnaeth hynny'n fedrus tu hwnt, a chyda chymorth tîm bach rhagorol o glercod, er gwaethaf y tarfu annisgwyl yn sgil y pandemig a rhai heriau gwleidyddol lleol. Cadwaf fy sylwadau ar hynny at rywdro eto, ond nodaf yn syml fy mod yn teimlo ei bod yn ddyletswydd ar bob plaid wleidyddol yn y lle hwn i ymgysylltu â'r dadleuon a'r dystiolaeth ni waeth pa mor anodd yw hynny'n wleidyddol. A'n rôl fel seneddwyr weithiau yw bod yn arwyddbyst i'r dyfodol, nid dim ond ceiliogod y gwynt yn y gwyntoedd poblyddol sy'n chwythu.
Rwyf am gyffwrdd yn fyr â rhai o ganfyddiadau ac argymhellion allweddol ein hadroddiad, cyn troi at yr heriau sylweddol i wneud i hyn ddigwydd. Ac wrth wneud hynny, ni all yr un ohonom o fewn cyfyngiadau'r ddadl hon wneud cyfiawnder â'r manylion a'r dystiolaeth eang yn yr adroddiad. Hoffwn ddweud yn syml: ewch i'w ddarllen a'i dreulio.
Roedd y dystiolaeth a glywsom am faint y Senedd yn rymus ac yn glir ac yn hynod o gyson—fod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd ac y dylai gynyddu i rhwng 80 a 90 o Aelodau i wella ein trefniadau llywodraethu a'n cynrychiolaeth, gwella ein gwaith craffu a'n trosolwg ar Lywodraeth Cymru, a chyflawni polisi mwy effeithiol, gwariant mwy effeithlon a gwell deddfwriaeth.
Ar ddiwygio etholiadol, ac yn wyneb tystiolaeth hynod o gyson unwaith eto, down i'r casgliad y dylid cyflwyno system etholiadol y bleidlais sengl drosglwyddadwy i roi mwy o ddewis i bleidleiswyr gan barhau i gynnal y cysylltiadau clir rhwng Aelodau ac etholaethau, a chynhyrchu canlyniadau etholiadol mwy cyfrannol ac yn hollbwysig, gwneud i bob pleidlais gyfrif—gan ei gwneud yn werth pleidleisio mewn seddi nad ydynt erioed wedi cynhyrchu dim heblaw cynrychiolydd Llafur neu Geidwadol, er enghraifft; gwneud i bob Aelod weithio am bob pleidlais ym mhob etholaeth.
Ac ar amrywiaeth yr ymgeiswyr a'r Aelodau o'r Senedd, roedd y dystiolaeth yn glir fod cael Senedd fwy cynrychioliadol gydag ymgeiswyr a chynrychiolwyr mwy amrywiol yn mynd law yn llaw â diwygio'r system etholiadol a chynyddu nifer y cynrychiolwyr. Ond yr un mor glir roedd yr angen dirfawr i weld camau cadarnhaol i helpu i oresgyn yr anghydraddoldebau a'r rhwystrau strwythurol sy'n gwneud hyn mor anodd. Felly, dylai pleidiau gwleidyddol fwrw ymlaen â chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr etholiadol a nodi eu cynlluniau ar gyfer cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn y ffordd y maent yn gweithio. Ac mae angen mwy o waith trawsbleidiol ar sut y gallai rhannu swyddi Aelodau o'r Senedd a chwotâu amrywiaeth ar gyfer nodweddion gwarchodedig heblaw rhyw weithio'n ymarferol hefyd. Ac mae angen cymorth ariannol i bobl ag anableddau sydd am sefyll mewn etholiad—[Anghlywadwy.]
A wnaiff y gweithredwr sain geisio ailgysylltu eto â'r Aelod?
Lywydd Dros Dro, rwy'n deall nad wyf—
Ie, rydych chi wedi cael toriad o tua 20 eiliad. Roeddech yn trafod y pwynt am amrywiaeth ymgeiswyr. Os gallwch ailddechrau o'r fan honno.
Diolch, Lywydd dros dro. Y pwynt roeddwn yn ei wneud yw bod angen mwy o waith trawsbleidiol ar sut y gallai rhannu swyddi i Aelodau o'r Senedd a chwotâu amrywiaeth ar gyfer nodweddion gwarchodedig ar wahân i ryw weithio'n ymarferol. Ac mae angen cymorth ariannol i bobl ag anableddau sydd am sefyll mewn etholiad, gan newid y rheolau fel nad yw gwariant o ganlyniad i anabledd neu ofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill yn cyfrif tuag at derfynau gwariant ymgyrch etholiadol. A lle gall pleidiau fwrw ymlaen a gwneud y pethau hyn, dylent wneud hynny'n wirfoddol, ond lle mae angen deddfwriaeth ac o fewn ein pwerau, yn amodol ar eglurhad gyda Llywodraeth y DU, dylem weithio tuag at hyn hefyd.
Ond tan 2026, byddwn yn byw gyda chweched Senedd 60 Aelod, doed a ddelo. Felly, bydd angen mesurau dros dro ar frys i helpu'r 60 Aelod sydd eisoes dan bwysau i gyflawni eu rolau cynrychioliadol, craffu a deddfwriaethol yn effeithiol. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir ein bod eisoes wedi gwneud llawer o addasiadau ar gyfer y llwyth gwaith cynyddol yn ystod Senedd heb bwerau digonol ac wrth symud ymlaen i'r chweched Senedd, gallai hyn fod â goblygiadau anodd i batrymau gwaith y Senedd a rhai canlyniadau anfwriadol, nid yn unig o ran ansawdd ein gwaith ond o ran y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y mae'r Cynulliad hwn yn falch o anelu tuag at ei gyflawni. Ond efallai y bydd modd dysgu gwersi o ffyrdd newydd o weithio a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig COVID i roi cynnig ar opsiynau eraill rhwng nawr a diwedd y pumed Senedd. Nawr, mae llawer mwy i'w drafod nag y gellir ei drafod mewn pum munud, felly cyfeiriaf at fy sylw cynharach: darllenwch yr adroddiad yn fanwl; mae'n rymus.
Ond yn fy sylwadau olaf, hoffwn drafod i ble yr awn o'r fan hon, ac mae hyn i gyd yn dibynnu ar ewyllys y lle hwn ar hyn o bryd, ond hefyd ar ddechrau'r chweched Senedd. Mae'r pwyllgor wedi ceisio bod o wasanaeth i'r Senedd drwy fapio'n glir iawn yr amserlenni tynn ar gyfer gweithredu'r diwygiadau mawr hyn mewn pryd ar gyfer yr etholiadau i'r seithfed Senedd. Maent yn heriol, gyda cherrig milltir allweddol i'w cyflawni a phenderfyniadau i'w gwneud yn ystod y misoedd cyntaf, heb sôn am ddwy flynedd gyntaf y Senedd nesaf. A bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair i gyflawni'r diwygiadau mawr hyn. Mae'r rhain yn fynyddoedd uchel i'w dringo, ond hyd yn oed cyn inni gyrraedd y mynyddoedd uchel hynny mae cadwyn gyfan arall i'w goresgyn, ac mae hynny'n galw ar arweinyddiaeth y prif bleidiau gwleidyddol—pob un ohonynt—i fod yn barod i fynd â'r materion hyn yn ôl at eu pleidiau eu hunain, eu trafod a dod i gasgliad. I Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, rwy'n tybio y bydd y mynyddoedd hynny'n edrych yn gymharol fach. I fy mhlaid fy hun, byddwn yn gweld rhai uchelfannau'n codi o'n blaenau. Credaf y gallai'r Blaid Geidwadol fod wedi penderfynu eisoes i beidio â thrafferthu o dan yr arweinyddiaeth bresennol—nid wyf yn gwybod—ac mae eraill amrywiol eisoes wedi cefnu ar yr her, neu hyd yn oed ar Gymru neu'r Senedd yn barod.
Ond yn y pen draw, Lywydd dros dro, mae ein pwyllgor wedi gwneud yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud. Gwnaethom y penderfyniad yn gynnar fel pwyllgor, gyda llaw, ac rwy'n cymeradwyo hynny, i gyfyngu ar ein gweithgareddau wrth gydnabod bod ymateb i'r feirws o'r pwys mwyaf. Ond ar ôl cwblhau ein gwaith gystal ag y gallwn o dan yr amgylchiadau anodd hyn, ac ar ôl dod i gasgliadau clir, rydym yn awr yn dychwelyd at y gwirionedd sylfaenol roeddem i gyd yn ei gydnabod yn y dechrau: yn y pen draw, mater i bleidiau gwleidyddol ei ddatrys yw hwn, mater i arweinyddiaeth wleidyddol y pleidiau hynny ac ar gyfer arweinyddiaeth y Prif Weinidog nesaf a'r Llywydd yn y Senedd hon. Mae mynyddoedd i'w dringo, ond rydym yn wlad fynyddig ac yn arfer eu dringo. Ugain mlynedd ar ôl datganoli, ar ôl o leiaf bum newid sylweddol i lywodraethiant Cymru, ac eto heb unrhyw ddiwygio etholiadol yn gysylltiedig â hynny—
Rhaid i chi ddod i ben. Mae hyn yn dechrau teimlo fel Everest heb ocsigen. Nawr gorffennwch os gwelwch yn dda.
Fe ddof i ben yn wir, Lywydd dros dro. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r llwybr i'w ddilyn ar gyfer camau nesaf y diwygio. Y cwestiwn yw a ydym yn fodlon cymryd y camau ar hyd y llwybr i sicrhau bod gennym y ddemocratiaeth a'r ddeddfwrfa rydym eu hangen ac yn eu haeddu yng Nghymru. Diolch.
Diolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw, a hefyd am yr adroddiad mawr a llawn gwybodaeth a gynhyrchwyd ganddynt. Nawr, roedd Huw'n sôn am y ffyrdd newydd o weithio a chredaf fod pob un ohonom yn dysgu ar y foment sut i weithredu o dan y normal newydd fel y'i gelwir. Mae'n anffodus fod argyfwng enfawr COVID-19 wedi digwydd pan wnaeth, pan oedd y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol eisoes wedi gorffen y rhan fwyaf o'i waith, oherwydd bydd COVID yn cael effaith fawr ar sut y gweithiwn yn y dyfodol, ac nid yw'r effaith honno wedi llywio canfyddiadau'r adroddiad hwn mewn unrhyw ffordd. Nid bai'r pwyllgor yw hynny, wrth gwrs; amseru anffodus yn unig ydyw.
Fel y dywedais, mae hwn yn adroddiad swmpus sydd wedi archwilio nifer o faterion a oedd o ddiddordeb i'r pwyllgor yn drylwyr. Y broblem yw nad oedd atebion eraill, fel cynllunio'n fanwl sut i barhau i weithredu gyda 60 o Aelodau, o fawr ddim diddordeb iddo. Felly, prin fod yr adroddiad yn cyffwrdd â hyn. Fel y soniodd Huw, mae'n sôn ychydig am hynny, ond y rhagdybiaeth sylfaenol yw y bydd yn rhaid inni yn y pen draw gael bron i 90 o Aelodau yma. Felly, mae arnaf ofn fod yn rhaid i mi anghytuno'n llwyr â'r rhagdybiaeth hon.
Yr obsesiwn â chael Aelodau ychwanegol oedd man cychwyn yr adroddiad hwn, felly mae'n debyg i'r hen jôc pan fydd rhywun ar wyliau moduro dramor ac maent yn gofyn i rywun lleol, 'A allwch chi ddweud wrtha i pa ffordd yw'r gyflymaf i ganol y ddinas?', ac mae'r unigolyn lleol yn dweud, 'Wel, fyddwn i ddim yn dechrau o'r fan hon.' Dyna fy mhroblem gyda'r adroddiad hwn: ni fyddwn wedi dechrau o'r fan hon. Ni fyddwn wedi dechrau o'r rhagdybiaeth na all y lle hwn weithredu'n iawn heb 25 i 30 Aelod arall. Rydym yn eistedd yma am ddeuddydd yn y Cyfarfod Llawn bob wythnos. Yn Nhŷ'r Cyffredin, maent yn eistedd am bedwar diwrnod yr wythnos. Cawn ein talu bron gymaint ag Aelodau Seneddol; yn sicr, telir cyflog amser llawn inni. Felly, os ydym yn orlwythog â gwaith, pam nad ydym yn cael Cyfarfod Llawn am fwy na deuddydd yr wythnos?
Un broblem fawr yw busnes pwyllgorau. Mae hwn yn fater o bwys. Ond pan drafodwyd hyn gennym yn 2017, awgrymais y gellid edrych ar nifer y pwyllgorau, nifer y cyfarfodydd pwyllgor a nifer yr Aelodau Cynulliad y byddai'n rhaid iddynt eistedd ar bwyllgorau. Cafodd fy sylwadau eu trin braidd yn ddeifiol. Ac wele, ychydig fisoedd yn ddiweddarach cawsom ad-drefnu a phenderfynodd y Pwyllgor Busnes nad oedd angen wyth Aelod ar bwyllgorau wedi'r cyfan; gallem gael chwech.
Felly, o gofio hynny, a gawn ni edrych yn awr hefyd ar nifer y pwyllgorau sydd gennym neu'n fwy defnyddiol efallai, faint o waith sy'n cael ei wneud? Gallem geisio lleihau nifer y cyfarfodydd pan fyddwn yn gwneud y blaenraglen waith oherwydd fel y gwyddom, mae gwaith yn ehangu i lenwi'r amser sydd ar gael. Dyfynnwyd tyst yn dweud hynny yn yr adroddiad hwn. Pan fydd pwyllgorau wedi'u sefydlu, maent yn hoffi teimlo'n bwysig, ac maent yn hoffi cael rhaglen waith lawn, ond gadewch inni fod yn onest: nid ydym yn trafod deddfwriaeth drwy'r amser ar bwyllgorau, ydym ni?
Hyd yn oed os ydym yn dadlau am ddeddfwriaeth, pa les fyddai Aelodau ychwanegol yn ei wneud? Rydym yn gweithredu yma mewn system wleidyddol bleidiol gyda chwipiaid pleidiau. Caiff Aelodau eu chwipio o ran sut i bleidleisio ar ddeddfwriaeth. Nid dim ond eistedd yno a gwrando ar y dystiolaeth a phenderfynu drostynt eu hunain wedyn sut y bwriadant bleidleisio a wnânt —dywedir wrthynt sut i bleidleisio gan chwipiaid y pleidiau. Pe bai gennych 20 Aelod Llafur arall yma, pa les fyddai hynny'n ei wneud? Ni fyddent yn darparu lefel uwch o graffu gan y byddai'r Aelodau ychwanegol hynny'n dal i gael gwybod sut i bleidleisio gan chwipiaid eu plaid. Byddai'r system yr un fath pe bai gennym 60 o Aelodau, 90 Aelod neu 100 o Aelodau, a byddem yn dal i weld gwelliannau da gan y gwrthbleidiau'n cael eu gwrthod gan y Llywodraeth. Dyna realiti gwleidyddiaeth plaid, ac mae'r realiti hwnnw'n cael ei anwybyddu'n llwyr yn yr adroddiad hwn.
Mae hwn yn gyfnod o ansicrwydd ym maes cyllid cyhoeddus. Mae pobl yn y byd go iawn yn colli eu swyddi a'u bywoliaeth. Dyma'r adeg waethaf un i geisio argyhoeddi'r cyhoedd o'r angen am 30 yn fwy o Aelodau i'r Siambr hon, ar gost o filiynau o bunnoedd y flwyddyn. Am y rheswm hwnnw, er fy mod yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd wedi'i wneud yn yr adroddiad hwn, rhaid imi wrthwynebu ei ganfyddiadau'n llwyr. Mae llawer o aelodau o'r cyhoedd yn dod i'r casgliad nad oes arnom angen 90 o Aelodau o'r Senedd. Nid oes angen 60 arnom hyd yn oed. Nid oes angen unrhyw Aelodau o'r Senedd, gan nad ydym angen y lle hwn. Ond peidiwch ag ymddiried yn fy marn i; gofynnwch i'r cyhoedd eu hunain yn uniongyrchol mewn refferendwm os ydynt am gael 30 Aelod arall, neu a fyddai'n well ganddynt ddiddymu'r Cynulliad yn gyfan gwbl. Gwn pa ffordd y byddwn i'n pleidleisio. Diolch yn fawr iawn.
Allaf i ddiolch i'r Cadeirydd am ei chyflwyniad arbennig ar y cychwyn ac i glercod ac ymchwilwyr y pwyllgor am eu gwaith dygn a chaled dros fisoedd lawer? Nawr, ffurfiwyd y pwyllgor yma wedi penderfyniad gan y Senedd yma. Dwi'n gresynu, felly, nad oedd pob plaid wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau'r pwyllgor, er taw penderfyniad y Senedd oedd o. Dylid parchu penderfyniadau y Senedd hon.
Roedd mwyafrif llethol y dystiolaeth fanwl a dderbyniasom dros fisoedd yn darogan bod angen mwy o Aelodau ar y Senedd yma a bod angen eu hethol gan system o gynrychiolaeth gyfrannol STV. Hyn i gyd i wella craffu. Mae gwell craffu yn creu gwell deddfwriaeth a hefyd yn arbed arian. Dyna beth ddywedodd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddiweddar ar y mater hefyd. Yn wir, arbed digon o arian i ariannu'r Aelodau ychwanegol.
Ond, wrth gwrs, mae yna bobl sydd yn gwrthwynebu hyn i gyd. Rydym ni wedi eu clywed nhw. Gwrthwynebu holl fodolaeth y Senedd yma er canlyniad dau refferendwm, gyda refferendwm 2011 yn dangos bod 64 y cant o boblogaeth Cymru o blaid mwy o bwerau i'r Senedd yma. Er hynny, mae yna bobl yn dal i wrthwynebu cydnabod Cymru fel endid gwleidyddol o gwbl, yn enwedig wedi Brexit. Maent eisiau cael gwared â'n Senedd, cael gwared â'n gwlad, a'n sgubo ni i ffwrdd o wyneb daear a mynd â ni'n ôl i ryw oes aur dyddiau'r ymerodraeth Brydeinig lle nad oedd yr haul yn machlud ar y coch ar y map yn yr ysgol.
Ond mae Cymru wedi goroesi er yr holl ormes, a byddwn yn dal i oroesi. Ond mae angen cryfhau ein strwythurau gwleidyddol. Mae angen cryfhau ein Senedd. Ie, drwy gael mwy o Aelodau o wahanol gefndiroedd gyda mwy o bwerau. Mae 60 o Aelodau yn fan hyn, yn llai na nifer o'n cynghorau sir. Mae 72 o gynghorwyr sir yn siambr cyngor dinas Abertawe er mwyn Duw; 90 o Aelodau o'r Cynulliad Deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon; a 797 o Arglwyddi yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn cynyddu'n wastadol, heb etholiad, yn ddyddiol, a gwario £5 biliwn i drwsio San Steffan a neb yn grwgnach dim. Na, yr ydym wedi gwrthsefyll cael ein dileu fel Cymry o wyneb daear ers wyth canrif bellach. Cryfhau ein Senedd ydy'r cam nesaf ac annibyniaeth yn y pen draw: dyna ydy'r unig ateb i'r holl rymoedd hynny sy'n ceisio cael gwared â'n Senedd a'n gwlad. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Llywydd yn awr.
Diolch, Gadeirydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor ac i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad pwysig yma, sydd wedi helpu i gynnal momentwm y drafodaeth ynghylch gwaith y Senedd i'r dyfodol. Fel mae'r Aelodau'n gwybod, trafododd cylch gwaith y pwyllgor amrywiaeth o bynciau a nodwyd yn adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol a sefydlais i ym mis Chwefror 2017.
Fel yr Aelod oedd yn gyfrifol am Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, rwy'n falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma o ran estyn yr etholfraint, ond ar adeg cydsyniad y Ddeddf honno, mynegais i fy siom bersonol i ynglŷn â'r diffyg consensws o blaid deddfu ar faint y Senedd a'r system bleidleisio a ddefnyddir i'w hethol. Felly, rydw i'n croesawu heddiw gasgliad y pwyllgor ac rydw i'n dyfynnu, fod,
'tystiolaeth glir a chryf bod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd'.
Mae'r Senedd ei hun hefyd wedi mynegi'r farn hon fwy nag unwaith gyda phleidleisiau o blaid cynyddu nifer yr Aelodau.
Mae nifer wedi cyfeirio eisoes at argyfwng COVID-19, ac mae'n wir i ddweud bod hwn wedi newid y ffordd rŷm ni'n gweithio yma. Mae wedi ein dysgu pa mor anodd yw rhagweld pa heriau y byddwn ni'n eu hwynebu yn y dyfodol ac wedi ein hatgoffa o'r angen am Senedd sy'n fwy hyblyg ac yn fwy cadarn, hyd yn oed. Mae'r pandemig hefyd wedi gwneud y ddadl o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith hyd yn oed yn gliriach i ni, ac yma yn y Senedd, fel yn y gymdeithas yn ehangach, rydym yn gofyn i'r Aelodau wneud mwy mewn llai o amser. Ac yn fy marn i, mae mwy o gyfrifoldeb heb fwy o gapasiti'n ein gadael ni'n agored i ddirywiad o ran ansawdd gwaith craffu, sef ein prif swyddogaeth fel Senedd. Oherwydd hyn, rwy'n croesawu'r argymhelliad y dylid cyflwyno deddfwriaeth yn gynnar yn nhymor nesaf y Senedd i ethol rhwng 20 a 30 yn fwy o Aelodau i'r Senedd yn 2026.
Rwyf hefyd yn croesawu'r argymhelliad y dylid gweithredu mesurau i leddfu'r pwysau capasiti yn y chweched Senedd, ac mae nifer wedi cyfeirio at yr angen i wneud hynny hefyd wrth i ni gychwyn gwaith y chweched Senedd. Yn fy marn i, dylem barhau i ystyried pob mesur posib er mwyn lleddfu'r pwysau sy'n wynebu'r 60 Aelod; y rhai ohonom ni yma yn y presennol a'r rhai fydd yma yn y dyfodol yn dilyn yr etholiad nesaf.
Yn fy rolau fel Cadeirydd y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Senedd, byddaf yn ceisio sicrhau bod adolygiad o'r mesurau a gymerir yn y Senedd hon i fynd i'r afael â phwysau capasiti yn rhan o'r gwaith etifeddiaeth ac yn barod ar gyfer ei weithredu yn y chweched Senedd. Byddai hyn yn cynnwys ystyried sylwadau eraill y pwyllgor ar y ffyrdd o weithio, fel y rhai a amlinellwyd mewn gohebiaeth ddiweddar gan Gadeirydd y Pwyllgor, Dawn Bowden, ataf i, ac rydw i'n ddiolchgar iddi am y sylwadau a'r argymhellion hynny.
Gan droi at yr argymhellion eraill a wnaed i Gomisiwn y Senedd, fel corff, byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i sut rydym yn monitro effaith ymgyrchoedd gwybodaeth ac addysg gyhoeddus a'r posibilrwydd o ddatblygu dull systematig a rhagweithiol o asesu effaith gwaith craffu a goruchwylio'r Senedd. O'm rhan i, byddaf yn sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei rôl yn hyn o beth fel y gallwn ddarparu Senedd sy'n craffu ar y Llywodraeth ac yn gwasanaethu pobl Cymru hyd eithaf ei gallu.
Galwaf ar Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith caled iawn. Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ac fel y mae pawb wedi dweud, mae COVID-19 wedi amharu'n llwyr ar ein prosesau ac wedi cael blaenoriaeth ym mhob un o'n llwythi gwaith. Ond mewn cyfnod o ansicrwydd digynsail lle mae pob un ohonom dan straen, mae'r pwyllgor wedi cynhyrchu adroddiad cynhwysfawr iawn a hoffwn dalu teyrnged arbennig i Gadeirydd y pwyllgor, Dawn Bowden, am ei hymrwymiad a'i gwaith caled yn hyn o beth.
Mae'r diwygiadau y soniwn amdanynt eisoes ar y gweill wrth gwrs. Bydd etholiadau'r Senedd yn 2021, am y tro cyntaf yng Nghymru, yn rhai lle bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys yn gallu chwarae rhan lawn yn ein democratiaeth. Mae'r pwyllgor wedi amlinellu nifer o argymhellion i helpu'r Senedd i fod yn fwy amrywiol ac i gynrychioli'r bobl y mae'n eu gwasanaethu'n well. Mae llawer o'r argymhellion hynny i'r Senedd nesaf eu hystyried, ond mae'r pwyllgor hefyd wedi nodi ychydig o faterion mwy uniongyrchol, a heddiw, Lywydd dros dro, oherwydd diffyg amser, cyfyngaf fy sylwadau i'r rheini.
Rwy'n croesawu'n arbennig argymhellion y pwyllgor ar alluogi pobl anabl i sefyll mewn etholiad. Rydym wedi bod yn gweithio ar ein hagenda amrywiaeth a democratiaeth ers 2018. Rydym yn gweithredu ar hyn mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, rydym yn cyflwyno deddfwriaeth yr hydref hwn i eithrio gwariant sy'n gysylltiedig ag anabledd o derfynau gwariant ymgyrch etholiadol. Ac yn ail, rydym yn sefydlu cronfa beilot 'mynediad at swyddi etholedig'. Bydd yn rhoi cymorth ariannol i helpu pobl anabl i sefyll mewn etholiad, a bydd ar agor ar gyfer etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf yn ogystal ag ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Drwy ddileu rhwystrau fel hyn, ein nod yw helpu i greu Senedd lawer mwy amrywiol a chynrychioliadol.
Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion cysylltiedig eraill y credaf eu bod yn eithriadol o bwysig. Rydym eisoes wedi derbyn yr argymhelliad ynghylch cychwyn adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, pan gafodd ei wneud gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r argymhellion ynghylch eithriadau gwariant ehangach a chymorth ariannol i helpu grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Nid yw'r syniad o Senedd fwy o faint yn un newydd, ac fel y mae pawb wedi nodi, cafodd ei argymell gan gomisiwn Richard yn 2004 a'r panel arbenigol annibynnol yn 2017. Rhoddodd y refferendwm yn 2011 hwb ysgubol i'r sefydliad hwn, ac nid wyf yn credu bod angen i ni ei ailystyried, fel y mae nifer o bobl sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon wedi ceisio'i wneud.
Rwy'n bwriadu cyhoeddi ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i argymhellion y pwyllgor yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ystyriaeth y pwyllgor ac unwaith eto hoffai ddiolch iddynt am lunio eu hadroddiad er gwaethaf yr amgylchiadau heriol iawn.
Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd dros dro, ar adegau o argyfwng y byddwn yn gweld yn fwyaf amlwg yr angen am Senedd gref a chynrychioliadol i'n cenedl. Mae gwaith y pwyllgor yn cyfrannu'n sylweddol at hynny, ac rwy'n talu teyrnged iddynt. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Dawn Bowden i ymateb i'r ddadl.
A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma am y sylwadau cefnogol at ei gilydd a gafodd eu gwneud? Mae Siân, Huw, Dai, y Llywydd a'r Gweinidog i gyd wedi nodi rhai o elfennau allweddol yr adroddiad ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, consensws gwleidyddol, ffyrdd newydd o weithio, craffu, gwell deddfwriaeth, a'r angen am Senedd gryfach. Dyna y mae'r adroddiad hwn yn anelu at ei wneud.
O ran cyfraniadau Neil Hamilton a Gareth Bennett, roeddent yn gwbl rhagweladwy. Mae Neil Hamilton yn sôn na chymerwyd tystiolaeth ar y dewisiadau eraill, ond wrth gwrs cymerwyd tystiolaeth gan ystod eang iawn o randdeiliaid. Cafodd pawb gyfle i gyflwyno eu tystiolaeth a chyflwyno eu safbwyntiau, a mater iddynt hwy oedd a oeddent yn dewis gwneud hynny. O ran refferenda, unwaith eto, rydym eisoes wedi clywed nad oes gofyniad yn y gyfraith am refferendwm. Rydym wedi cael dau refferendwm ar sefydlu'r lle hwn ac ar bwerau, ac ni fyddai angen trydydd refferendwm oni bai bod yr Aelod a fyddai'n gyfrifol am fynd â'r ddeddfwriaeth drwy'r chweched Senedd yn nodi mai dyna fyddai'n ei ddymuno i fod yn rhan o'r broses ddeddfwriaethol.
Lywydd, er bod gwneud hyn oll yn fater o fwy o Aelodau, ceisio denu'r penawdau yn y ffordd honno a gwyro oddi wrth unrhyw beth arall yn gweddu i agenda wleidyddol boblyddol rhai o'r bobl yma, rwy'n credu bod yn rhaid inni gydnabod bod honno'n elfen ganolog o'r diwygiadau arfaethedig wrth gwrs. Pe baem wedi cael proses ymgynghori gynrychioliadol ac ystyriol gyda'r cyhoedd fel roeddem wedi bwriadu ei wneud—ac roedd sylwadau Neil Hamilton am gynulliad dinasyddion yn dangos i mi ei bod hi'n amlwg nad yw'n deall beth yw cynulliad dinasyddion a sut y mae'n gweithio, oherwydd mae'n broses ymgynghori gydgynghorol iawn. Gall uno ystod eang o bobl. Roeddem wedi bwriadu gwneud hynny nes i'r pandemig ein taro, ond mae angen o hyd i ni argyhoeddi pobl o'r angen am yr hyn y bwriadwn ei wneud.
Felly, mae llawer mwy i'w wneud o hyd mewn perthynas ag argymhellion yr adroddiad hwn. Mae'n ymwneud â sut y mae'r Senedd hon yn cynrychioli pobl Cymru drwy gynwysoldeb ac amrywiaeth, a sut y gall pobl Cymru ddarparu cynrychiolwyr sydd o ddifrif yn adlewyrchu eu barn gyda system etholiadol sy'n sicrhau bod pawb yn y lle hwn yn uniongyrchol atebol i etholaeth sy'n eu hethol. Ac unwaith eto, mae'n rhaid i mi ddweud wrth Neil Hamilton, nid wyf yn gwybod beth mae'n ei wneud yn ystod ei amser fel Aelod o'r Senedd, ond i'r rhan fwyaf ohonom, mae hon yn swydd 24/7, ac nid tri diwrnod yr wythnos yn eistedd yn Nhŷ Hywel neu yn y Senedd. Mae'n ymwneud â'r gwaith a wnawn yn ein hetholaethau, gyda'n cymunedau yn ogystal â'r gwaith a wnawn yn y lle hwn.
Lywydd, cyn belled yn ôl â 2004, sefydlwyd comisiwn gennym i edrych ar y materion niferus yn ymwneud â phwerau a threfniadau etholiadol ar gyfer y Senedd hon. Argymhellodd y comisiwn hwnnw y dylid cael mwy o bwerau a mwy o Aelodau. Cawsom y cyntaf, ond nid yw'r ail wedi dilyn eto. Er gwaethaf y comisiwn ac adolygiad McAllister, pleidleisiau yn y Senedd ac adroddiad y pwyllgor hwn, rydym yn dal i drafod y materion sylfaenol hyn. Ond faint yn rhagor o gomisiynau, adolygiadau ac adroddiadau sydd eu hangen arnom i ddweud wrthym beth rydym eisoes yn ei wybod? Mae'n ymwneud yn awr â bod yn ddigon dewr i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd byddai'r pecyn cyfan o fesurau'n sicrhau deddfwrfa fwy atebol, mwy ymatebol i anghenion pobl Cymru, a mwy abl i sicrhau llywodraethiant da a llywodraeth dda. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd hon yn cymeradwyo'r adroddiad hwn, ac y gallwn greu consensws gwleidyddol a chyhoeddus a fydd o'r diwedd yn cyflawni'r newidiadau arfaethedig.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf Aelodau'n gwrthwynebu, ac felly gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.