– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 14 Hydref 2020.
Symudwn at eitem 5, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, endometriosis—gobeithio fy mod wedi ynganu hynny'n gywir—a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7304 Jenny Rathbone, Angela Burns, Suzy Davies, Vikki Howells
Cefnogwyd gan Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.
2. Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 o apwyntiadau meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.
3. Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor meddygol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.
Diolch, Lywydd dros dro. Pe bai dynion yn dioddef problemau'r prostad yn y ffordd y mae menywod yn dioddef o endometriosis, ni fyddem wedi aros cyhyd i sicrhau bod y cyflwr hynod wanychol a llethol hwn yn cael ei gydnabod a'i drin. Gan fod menywod wedi rhoi'r gorau bellach i ddioddef yn dawel, mae llawer mwy o sylw wedi'i roi i endometriosis.
Erbyn hyn mae tair 'endowall' yng Nghaerdydd. Ni allaf ddangos yr un a grëwyd gan Jaimee Rae McCormack yn Cathays, sef y gyntaf, ond fe'ch gwahoddaf i droi at fy ngwefan i weld honno a lluniau eraill o'r EndoMarch gan fenywod a'u teuluoedd yng Nghaerdydd ar y dydd Sadwrn olaf ym mis Mawrth y llynedd, a helpodd i addysgu'r cyhoedd am yr hyn y mae endo yn ei wneud i fenywod. Mae angen yr ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus hyn, oherwydd nid yw hanner y wlad erioed wedi clywed am endometriosis, er ei fod yn fwy cyffredin mewn menywod nag asthma neu ddiabetes.
Mae'r ddadl hon yn amserol, oherwydd mae'n digwydd wrth inni graffu ar y Bil cwricwlwm newydd. Gwrandewch ar brofiad un ferch: 'Pan oeddwn yn 13 oed, llewygais yn yr ysgol yn sgil poenau erchyll yn fy stumog. Cefais fy nghludo i adran ddamweiniau ac achosion brys lle gwnaethant brofion gwaed ac uwchsain. Dywedodd meddyg wrthyf fod popeth yn edrych yn iawn ar y sganiau felly nid oedd yn broblem gynaecolegol. Digwyddodd hyn yn rheolaidd dros gyfnod o bedair blynedd. Byddwn yn cael fy rhuthro i adran ddamweiniau ac achosion brys gyda'r un boen, cawn wybod nad oedd yn ddim byd a bod angen i mi ddysgu ymdopi â phoen mislif.'
Un bore roedd mor ddrwg nes i'w mam fynd â hi at y meddyg teulu ac oddi yno cawsant atgyfeiriad at gynaecolegydd, ac o'r diwedd, bum mlynedd ar ôl i'r stori ddechrau, cawsant y diagnosis hwnnw. Ceir miloedd o rai tebyg i'r fenyw ifanc hon, miloedd nad ydynt yn gwybod nad yw'n arferol i chi gael poen parhaus ar waelod eich bol, poen pan fyddwch yn mynd i'r toiled neu'n cael rhyw.
Felly gwrandewch, aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sy'n craffu ar y Bil cwricwlwm: rhaid i addysg lles mislif ddod yn rhan annatod o daith pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion iach a gwybodus. Mae angen i ferched a menywod ifanc, bechgyn a dynion ifanc hefyd, wybod beth sy'n fislif normal, ac os nad yw'n normal, ble y gallant gael help. Mae angen i nyrsys ysgol, athrawon, swyddogion presenoldeb i gyd wybod hyn hefyd, yn ogystal â'r meddyg teulu a'r gynaecolegydd.
Nid yw'n gyflwr newydd, ac nid yw'n benodol i Gymru ychwaith, ond mae'n annerbyniol ei bod yn cymryd wyth apwyntiad meddyg teulu i gael eich atgyfeirio at arbenigwr. Mae'n anfoddhaol fod rhai gynaecolegwyr yn methu canfod endometriosis a hynny'n unig am nad yw'n ymddangos ar uwchsain.
Treuliodd Debbie Shaffer, un o sylfaenwyr Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, 26 mlynedd yn ceisio cael diagnosis cywir, ac ar y pwynt hwnnw roedd gofal arbenigol y tu hwnt i gyrraedd. Datgelodd eu hymchwil nad yw'r rhan fwyaf o feddygon teulu a gynaecolegwyr lleol hyd yn oed yn ymwybodol fod canolfannau arbenigol ar gyfer trin endo'n bodoli.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â'r broblem. Yn 2017, sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys yr holl randdeiliaid, a chyflwynodd ei adroddiad trylwyr i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2018. Yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid i bob bwrdd iechyd lleol gael o leiaf un nyrs endometriosis arbenigol, a rhaid mai un o'u tasgau cyntaf yw darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth endo i feddygon teulu. Mae hyn i gyd yn dda, ond mae angen llawdriniaeth gymhleth ar o leiaf draean o'r menywod sydd ag endo a dim ond arbenigwyr all ddarparu hynny. Fel gyda'r rhan fwyaf o gyflyrau, po hwyaf y byddant yn aros, y mwyaf anodd a drud yw hi i'w drin.
Yn ne Cymru, yng Nghaerdydd, y mae'r unig ganolfan endometriosis sydd gan Gymru. Cyfeirir menywod yng ngogledd Cymru at Arrowe Park ym Mhenbedw. Mae gan dîm Caerdydd dri gynaecolegydd ymgynghorol gwych a'r unig nyrs endometriosis arbenigol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n cael ei chydnabod yn eang fel canolfan ragoriaeth. Daw gynaecolegwyr o bob rhan o'r DU i feithrin sgiliau i redeg y canolfannau arbenigol, sydd bellach yn ymddangos ledled Lloegr, ond nid yng Nghymru. Yn Lloegr, mae'r arian yn dilyn y cleifion. Mae tariffau fesul claf yn amrywio o £5,500 i £12,000. Yng Nghymru, mae byrddau iechyd yn dal i weithredu cytundeb hanesyddol lleol un i mewn, un allan, sy'n hurt ar gyfer llawdriniaethau sy'n para chwech i naw awr. Y llynedd, roedd pedair o bob 10 claf yng Nghaerdydd o'r tu allan i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Yn Lloegr, byddai hynny wedi cynhyrchu rhwng £300,000 a £600,000 i dalu am lawdriniaeth gymhleth, leiaf ymyrrol i'r pelfis. Yn hytrach, talwyd amdanynt gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Mae hyn yn anghynaliadwy yn ariannol. Mae'n amhosibl ehangu'r gwasanaeth i ateb y galw enfawr nas diwallwyd oni bai ei fod yn cael ei ariannu'n wahanol.
Ac mae'n rhaid i ni warantu amser theatr wedi'i neilltuo i'r tri meddyg ymgynghorol endometriosis presennol. Gan eu bod ar safle ysbyty'r Mynydd Bychan, maent yn colli eu slotiau theatr gwerthfawr yn gyson er mwyn gallu trin argyfyngau meddygol. Ac mae COVID wedi gwaethygu'r rhestrau aros hir iawn sydd eisoes ymhell y tu hwnt i'r targed rhwng atgyfeirio a thriniaeth o 36 wythnos. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, argymhellodd y grŵp gorchwyl a gorffen y dylid sefydlu canolfan endometriosis rithwir yn ne Cymru ar unwaith, ar draws Casnewydd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Roedd hynny dros ddwy flynedd yn ôl. I gefnogi hyn, mae meddygon ymgynghorol endometriosis Caerdydd yn awyddus i wneud sesiynau theatr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac mewn mannau eraill i gynyddu nifer y bobl â sgiliau llawfeddygol cymhleth. Mae angen o leiaf dri gynaecolegydd endometriosis arbenigol arall ar gyfer gwasanaeth trydyddol nad oes angen iddo fod ar safle'r Mynydd Bychan.
Mae'r rhain yn faterion cymhleth, sy'n anodd eu datrys ynghanol pandemig. Ond er mwyn parchu'r holl ymgyrchwyr ar lawr gwlad sydd wedi codi proffil endometriosis yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod gan bob menyw yng Nghymru sydd ei angen fynediad at ganolfan endometriosis arbenigol.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am awgrymu y dylem gynnal y ddadl hon, oherwydd mae hwn yn fater eithriadol o bwysig sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Un o'r pwyntiau a wnaeth Jenny ar y dechrau un yw nad mater menywod yn unig yw hwn, ond mewn gwirionedd mae'n rhywbeth sy'n effeithio'n fawr ar y dynion ym mywydau'r menywod sydd â'r salwch cronig a gwanychol hwn.
Roeddwn am ddarllen y diffiniad o endometriosis yn gyflym iawn, oherwydd nid yw pawb yn gwbl glir beth ydyw na beth y mae'n ei wneud i bobl. Mae'n gyflwr lle mae meinwe sy'n debyg i leinin y groth yn dechrau tyfu mewn mannau eraill, megis yn eich ofarïau neu eich tiwbiau ffalopaidd, a gall effeithio ar fenywod o unrhyw oed. Nawr, mae etholwyr a chyfeillion i mi y gwn eu bod yn dioddef, ac wedi dioddef o'r cyflwr ofnadwy hwn yn sôn am boen eithafol o erchyll drwy gydol eu bywydau. Yn aml, mae'n rhaid iddynt gael llawdriniaethau lluosog i geisio cael gwared ar y feinwe ormodol hon sy'n tyfu ym mhobman. Ac nid dim ond tyfu y mae; mae'n clymu yn ei gilydd ac yn glynu wrth rannau eraill o'ch organau—felly mae organau'n glynu yn ei gilydd, yn enwedig eich coluddyn â'ch stumog, eich ofarïau. A gall effeithio'n enbyd ar eich bywyd.
Rwy'n mynd i ddarllen dyfyniad gan un o fy etholwyr, cyn i mi siarad am un peth rwyf am roi sylw iddo. Cafodd un fenyw ifanc laparosgopi brys; bu'n rhaid iddi golli ofari, rhan o'r bledren a rhan o'i choluddyn. Mae ganddi boen cronig yn ei phelfis a thrwy ei chorff i gyd. Mae'n cael meigryn yn ddyddiol. Mae codi o'i gwely'n gyflawniad. Rhaid iddi gymryd poenladdwyr bob pedair awr. Ac mae'n dweud, pan ddaw ei mislif bob mis, mae'n uffern, fod endo yn gyflwr sy'n anablu ac mae wedi difetha ei bywyd, ac o'r hyn y mae wedi'i ddarllen ar-lein, mae wedi difetha llawer o fywydau eraill, a bod ei gobeithion a'i dyheadau wedi cael eu difetha gan y salwch hwn. Ac mae'n mynd rhagddi i siarad am yr effaith y mae wedi'i chael ar ei pherthynas ag eraill. Mae'n chwalu ei gobaith o allu cael teulu.
Ac felly un o'r pwyntiau a wnaeth Jenny yn glir iawn yn fy marn i oedd y ffordd y mae angen inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd, oherwydd mae'n effeithio ar fwy na dim ond yr unigolyn sy'n dioddef ohono. Mae pobl ag endometriosis yn aml iawn yn cael anhwylder straen wedi trawma, ac yn aml gallant ddioddef o sepsis, sydd, fel y gwyddom i gyd, yn gallu lladd. Nid yn unig ei fod yn chwalu gobaith pobl o allu cael plant, mae hefyd yn gwneud pethau fel IVF yn anos oherwydd bod y tiwbiau wedi blocio, ac wedi'u difetha i bob pwrpas. Ac mae IVF yn anodd beth bynnag—nid oes sicrwydd o lwyddiant—ac felly mae llai o obaith byth y gall pobl ag endometriosis feichiogi.
Cyfeiriais yn gynharach at nifer o lawdriniaethau, a gadewch inni feddwl am hynny o ddifrif. Mae'n rhaid i chi fynd i mewn unwaith y flwyddyn efallai, ddwywaith neu dair y flwyddyn efallai, i gael rhannau o'ch tu mewn wedi'u torri allan er mwyn i chi allu sefyll yn syth, eistedd heb boen, gallu bwyta, pî-pî, cael eich gweithio, gallu cael cyfnod heb fod mewn poen arteithiol. Waw—ni all neb wadu bod hwnnw'n ddyfodol llwm ar y naw.
Ac wrth gwrs, down at ryw wedyn. Rhyw a chyfathrach—yr hyn rydym i gyd yn ei ddeisyfu mewn perthynas dda ac iach. Mae hynny'n anodd iawn i'w gael, ac mae'n effeithio ar y dynion yn y berthynas hefyd, oherwydd nid ydynt am feddwl y gallent frifo'r un y maent yn ei charu. Nid ydynt yn gwybod sut i fynd atynt, pa bryd sy'n amser da, oherwydd y boen ofnadwy. Ac o'r hyn y mae'r menywod sydd wedi siarad â mi am hyn wedi'i ddweud, nid yw'n fater o gymryd dwy dabled paracetamol.
Felly, rwyf wedi cymryd rhan yn y ddadl hon oherwydd mai'r hyn rwy'n gofyn amdano yw mwy o ymdrech i helpu i ddod o hyd i ryw fath o ryddhad rhag poen sy'n wirioneddol gynaliadwy, ac yn anad dim, ffordd o leihau'r rhestr aros anhygoel o hir i allu cael diagnosis. Dywedodd Jenny—ac mae hi'n llygad ei lle—dywedir wrth ormod o bobl nad yw'n ddim ond blinder: 'Ydych, rydych chi'n gwaedu'n eithaf trwm y mis hwn; peidiwch â phoeni, fe fyddwch chi'n iawn.' Nid yw'r menywod hyn yn iawn, ac mae gwir angen iddynt gael meddygon cydymdeimladol sy'n deall go iawn fod hwn yn fater pwysig ag iddo effeithiau hirdymor ac y gall arwain at bobl yn gorfod colli'r cyfan neu ran o weithrediad y coluddyn hefyd. Felly, mae'n arwain at goluddyn llidus; mae'n arwain at bob math o broblemau eraill sy'n gysylltiedig â'r organau meddal yn rhan isaf ein habdomen.
Felly, Weinidog, pe bawn yn gofyn am ychydig o bethau i ddeillio o'r ddadl hon, byddai'n cynnwys edrych yn hir ac yn ofalus ar sut y gallwn gael rhestrau aros byrrach ledled Cymru, a rhoi mwy o gyfarwyddyd i arbenigwyr ac i feddygon teulu fod hon yn broblem wirioneddol, ei bod yn effeithio nid yn unig ar y sawl sy'n dioddef ohoni, ond y teuluoedd o'u cwmpas, ac y dylid ei thrin â'r parch a roddwn i lawer o gyflyrau eraill. Teimlwn fod endimetriosis wedi'i drin fel 'dim ond un arall o'r pethau menywod hynny', a'i fod wedi'i wthio i'r cyrion braidd. Diolch am eich amser.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Hoffwn ddweud ychydig eiriau i dalu teyrnged i ddyfalbarhad fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn ymdrechu i sicrhau y gallwn drafod y pwnc hwn heddiw. Mae'n fater mor bwysig. Fel y dywedwyd, mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod y cyflwr creulon hwn yn effeithio ar 160,000 o fenywod yng Nghymru. Bydd meinwe'n tyfu ac yn glynu at yr organau yn eu pelfis, gan achosi llid a all arwain at boen sylweddol, poen yn y pelfis, y cefn, y coesau, yr afl—poen dirdynnol yn ystod mislif, yn ystod rhyw, wrth ddefnyddio'r toiled, neu ddim ond wrth fyw bywyd bob dydd. Gall effeithio ar y gallu i weithio neu fywyd y cartref, gan y gall poen wanychol wneud gweithgareddau cyffredin hyd yn oed yn anodd. Gall y boen arwain at flinder, iselder, anffrwythlondeb, neu hyd yn oed, fel y nododd adroddiad gan y BBC y llynedd, at feddyliau hunanladdol.
Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwybod gwir raddfa'r cyflwr. Mae rhai menywod yn dioddef y boen, yn ymdrechu'n daer i ymdopi, gan drin eu hunain, neu fel y soniodd Jenny Rathbone o'r blaen, efallai nad ydynt yn sylweddoli beth yn union y maent yn ei wynebu. Hyd yn oed os yw rhywun wedi cymryd y cam a mynd i siarad â'i meddyg, ceir tanddiagnosis neu gamddiagnosis o endometriosis, gan arwain at fenywod yn methu cael y cymorth cywir. Gall hefyd fod yn anodd iawn cael gafael ar gymorth arbenigol, pwynt a nodwyd yn ail bwynt y cynnig heddiw. Mae pwynt 5 yn cynnig un ateb i hyn, gan alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi i ddiwallu anghenion y genedl. Ac rwy'n falch o weld bod Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, sy'n gwasanaethu cynifer o fy etholwyr, yn cael ei ystyried gan ymgynghorwyr arbenigol fel canolfan ar gyfer llawdriniaeth bellach. Mae hyn yn gysylltiedig â'r ymchwil sydd ei hangen i ddyfnhau ein dealltwriaeth o achosion y cyflwr a hefyd yr ymyriadau mwyaf effeithiol, fel y noda pwynt 3 yn y cynnig.
Gwyddom y gall merched yn eu harddegau wynebu anhawster i gael triniaeth. Mae hyn yn creu perygl y bydd cyflwr heb ei drin yn achosi effaith gydol oes. Mae ein pedwerydd pwynt yn nodi'r atebion posibl i fynd i'r afael â hyn a chodi ymwybyddiaeth drwy sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif normal a phryd i ofyn am gyngor meddygol.
Wrth i mi gloi, rwyf am ystyried effaith y pandemig coronafeirws presennol ar fenywod yr effeithir arnynt gan endometriosis. Mae unrhyw un sy'n cael triniaeth neu sy'n aros am apwyntiad yn debygol o wynebu oedi neu ganslo. Os ydych yn aros am ymgynghoriad, mae'n debygol o gael ei wneud o bell. Mae Endometriosis UK wedi rhoi rhybudd clir y bydd y rhan fwyaf o lawdriniaethau'n cael eu hystyried yn rhai nad ydynt yn rhai brys, ac y bydd hynny'n golygu y cânt eu canslo neu eu hail-drefnu neu wynebu mynd ar restr aros hirach o lawer. Rwy'n falch fod yr elusen yn gweithio'n agos gyda Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr i fonitro'r sefyllfa hon. Ond mae'r ddadl heddiw yn ein hatgoffa'n amserol na allwn anghofio am y menywod y bydd eu bywydau'n cael eu newid gan y cyflwr hwn.
Gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi'r camau synhwyrol a amlinellwn fel y gallwn wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y menywod hynny yn eu tro yn cael eu cefnogi hyd eithaf ein gallu. Diolch.
Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon ac yn wir, rwy'n cefnogi pob rhan o'r cynnig. A gaf fi ddechrau drwy ganmol Jenny Rathbone am osod y cefndir ac egluro'r broblem gyda'r manylder llawn y mae'r mater cymhleth hwn yn ei haeddu?
Fel y soniwyd, mae endometriosis yn gyflwr lle mae leinin yr endometriwm—leinin y groth—mae rhannau ohono'n dechrau tyfu y tu allan i'r groth. Nid ydym yn gwybod pam mewn gwirionedd, ond mae'n dechrau tyfu mewn mannau eraill, fel yr ofarïau, tiwbiau ffalopaidd, y coluddyn, y bledren a rhannau eraill o'r pelfis. A gall ei effeithiau fod yn ddinistriol—yn syndod o gyffredin, fel y clywsom, ond gall yr effeithiau mewn rhai menywod fod yn ddinistriol o ran poen cronig, gwanychol, difrifol.
Nawr, rydym i gyd yn cael poen o bryd i'w gilydd, a phan fyddwn yng nghanol pwl poenus o beth bynnag, cawn ein calonogi fel arfer wrth wybod nad yw'n mynd i bara mor hir â hynny, boed yn boen yn y cymalau, y ddannoedd neu beth bynnag. Mae'n lefel gwbl newydd o boen sydd mor ddifrifol fel na allwch weld ffordd allan am ei fod yn tueddu i bara am fisoedd, wythnosau, blynyddoedd.
Mae cysylltiad ag adeg o'r mis, gan ei fod yn tueddu i fod yn waeth adeg y mislif, ond nid felly bob amser. Dyna pam y mae'n her i wneud y diagnosis yn y lle cyntaf, ac nid yw'r symptomau'n gysylltiedig â'r mislif bob amser ychwaith. Oes, mae poen difrifol cronig, ond gallwch hefyd gael symptomau fel rhwymedd a dolur rhydd pan fydd yr endometriosis yn gysylltiedig â'r coluddyn yn arbennig. Gall hyn i gyd gael effaith enfawr ar fywyd y fenyw ac ar fywydau pobl o'i chwmpas, fel y clywsom: ar berthnasoedd, ar y gallu i gael babi, ar ragolygon cyflogaeth. Felly, mae costau cymdeithasol enfawr i beidio â rheoli endometriosis yn effeithiol.
Yn sicr, fel y clywsom, mae angen mwy nag un ddarpariaeth drydyddol amlddisgyblaethol arbenigol fawr benodol ar gyfer endometriosis yng Nghymru. Mae uned Caerdydd yn ardderchog, ond dyna'r unig un. Ac o safbwynt meddyg teulu, mae ceisio cael menywod ag endometriosis wedi'u gweld mewn gofal eilaidd yn y lle cyntaf yn her anferthol—rhaid wrth lefel o ddifrifoldeb. Felly, mae'n anodd iawn cael pobl wedi'u gweld yn gynnar yn y broses cyn iddynt ddatblygu unrhyw symptomau difrifol. A weithiau, pan fydd gan fenywod symptomau difrifol, yr her anferthol wedyn yw eu gweld mewn gofal eilaidd hefyd. Gyda'r menywod sydd â math cymhleth o endometriosis sy'n gysylltiedig ag organau lluosog, cael eu gweld yng Nghaerdydd yw'r unig ffordd ymlaen mewn gwirionedd gan nad problem gynaecolegol yn unig ydyw—mae'n broblem i'r rhannau eraill hynny o'r anatomi hefyd. Mae'n broblem i lawfeddygon y colon a'r rhefr, mae'n broblem i wrolegwyr, llawfeddygon y bledren hefyd—nid mater gynaecolegol yn unig ydyw, a dyna pam y mae angen y canolfannau amlddisgyblaethol trydyddol arbenigol hynny.
At ei gilydd, credaf y dylid cael llwybr endometriosis penodol i Gymru gyfan, o'r ymweliad cyntaf â gofal sylfaenol—o'r adeg y mae'r fenyw'n dechrau cael y broblem—drwy ofal eilaidd, drwodd i ofal trydyddol. Dylid cael llwybr bathodynnau digidol pwrpasol, ac mae gan ein nyrsys arbenigol rôl amlwg i'w chwarae yn hynny.
Ond hefyd, o'r cychwyn cyntaf, rwy'n credu bod angen iddo fod yn rhan o addysg yn y Bil cwricwlwm, fel y soniodd Jenny Rathbone ar y dechrau. Mae angen iddo fod yn rhan o addysg mislif, yr hyn sy'n normal i ferched a menywod ei gael, ac mae angen i fechgyn a dynion ifanc wybod hynny hefyd fel bod empathi pan fyddant yn wynebu'r sefyllfaoedd hyn, oherwydd mae angen ystyried endometriosis pryd bynnag y bydd gan fenyw boen mislif difrifol, yn enwedig pan fydd wedi'i gyplysu â materion yn ymwneud ag anffrwythlondeb. Dylai fod ar frig y rhestr mewn diagnosis ac nid yw yno ar hyn o bryd, weithiau nid yw yno o safbwynt y fenyw ac yn sicr nid o safbwynt gofal sylfaenol, na gofal eilaidd weithiau hyd yn oed. Dylai poenau mislif difrifol, ynghyd ag anallu i feichiogi, fod yn arwydd rhybudd.
Ond at ei gilydd, wrth ddod â fy sylwadau i ben, a gaf fi ganmol Jenny Rathbone ac eraill sy'n cefnogi'r cynnig hwn? Mae'r cynnig yn haeddu llwyddo ac rydym yn haeddu cael gwell gwasanaeth arbenigol i'n menywod sydd ag endometriosis, ynghyd â gwell addysg ar ddechrau bywyd gyda mislif. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd yn rhy aml o lawer nid yw materion iechyd menywod yn gweld golau dydd. Nid ydynt yn cael eu trafod ac felly nid ydynt o reidrwydd yn cael sylw dyledus. Felly, mae endometriosis, fel y dywedodd pawb, yn gyflwr gwanychol iawn, ac o ganlyniad mae'n cael effaith ddinistriol ar iechyd menywod o ran ansawdd eu bywyd a'u gallu i feichiogi. Mae'r ddau'n effeithio ar les corfforol menyw ond hefyd ar eu lles iechyd meddwl.
Yn rhy aml o lawer, ac rydym wedi'i glywed yn cael ei ailadrodd yma heddiw, ceir oedi sylweddol rhwng yr adeg y mae merch neu fenyw yn mynd at ei meddyg gyntaf gyda symptomau a chael diagnosis pendant, a'r amser cyfartalog yw saith mlynedd. Dywedir yn aml fod y symptomau'n ddim mwy na mislif normal. Nid yw bod mewn poen arteithiol bob mis o bob blwyddyn yn normal—poen mor ddifrifol fel na allwch godi o'r gwely yn aml iawn, fel na allwch weithredu, na bwyta, na chysgu. Nid yw hynny'n normal. Nid oes dim yn normal yn ei gylch. Mewn geiriau eraill, mae'n rhywbeth i'w ddioddef, ac ni all hynny fod yn iawn. Nid yw'n iawn.
Y ffactor arall, wrth gwrs, yw bod yr amserlen hefyd yn golygu, erbyn i fenywod sylweddoli beth sy'n mynd o'i le, erbyn i'r proffesiwn meddygol wrando arnynt, mae'n rhy hwyr iddynt gael plant mewn llawer o achosion, oherwydd erbyn hynny—ac mae wedi cael ei grybwyll eisoes—mae'r hyn a allai fod wedi digwydd i helpu a galluogi menyw i feichiogi wedi mynd yn rhy bell. Nid oes help i'w gael ar ôl i chi gyrraedd y pwynt hwnnw.
Bydd menywod—a chafodd ei grybwyll—hefyd yn dioddef caledi ariannol a gall ei gwneud yn amhosibl iddynt weithio am sawl diwrnod o bob mis. Cafwyd adroddiad gan y grŵp gorchwyl a gorffen ar endometriosis a ddywedai fod cost i fusnesau, rhwng $200 a $250 mewn absenoldeb bob blwyddyn, ond mae cost i'r fenyw ei hun hefyd oherwydd pan fydd cyflogwyr yn edrych ar ddyrchafu menywod, pan fyddant yn edrych ar bethau fel dibynadwyedd, ac os ydynt yn edrych ar gofnod salwch sy'n dangos absenoldeb o dri neu bedwar diwrnod bob mis, nid ydynt yn debygol iawn mewn llawer iawn o achosion—am nad ydynt yn deall beth sy'n digwydd—o fod yn arbennig o gydymdeimladol a meddwl am roi cyfle iddynt gael dyrchafiad. Felly, mae'r effeithiau, unwaith eto, ar yr unigolyn, y teulu a'r busnes.
Yn aml, mae rheoli a thrin y cyflwr—ac fe ddywedodd Dai hyn yn eithaf da—yn galw am ymagwedd amlddisgyblaethol am na allwch roi llawdriniaeth fel gynaecolegydd ar endometriosis yn unig os oes rhaid i chi edrych ar yr organau y mae wedi'i gysylltu wrthynt. Dyna pam y mae'r llawdriniaethau mor hir, mor boenus ac mor gymhleth, oherwydd bydd gennych fwy nag un person yn y theatr yn cyflawni'r llawdriniaeth amlddisgyblaethol honno.
Ond ysgrifennais yn ddiweddar iawn, yr wythnos hon mewn gwirionedd, at fwrdd iechyd Hywel Dda am fy mod eisiau gwybod am y llwybr ar gyfer cleifion lle ceir amheuaeth o endometriosis neu lle cadarnhawyd eu bod yn dioddef o'r cyflwr. Fe'm hysbyswyd eu bod wedi gwneud cais am arian gan y grŵp gweithredu ar iechyd menywod i gyflogi uwch-nyrs poen pelfis endometriosis arbenigol ac maent hefyd wedi gwneud cais am gyllid ar gyfer ffisiotherapi, seicoleg a gwasanaethau poen, er mwyn gallu cynnig cynllun triniaeth endometriosis cyfannol. Nid ydynt wedi cael cadarnhad eto ynglŷn â'r cyllid hwnnw, a hoffwn ofyn a ydych chi'n gwybod, Weinidog, pryd y gallent ddisgwyl cael ateb.
Rwyf hefyd wedi cael gwybod—ac rwy'n dyfynnu, ac mae wedi'i ddweud eisoes—fod cleifion ag achosion difrifol o'r cyflwr yn cael eu cyfeirio at ganolfan endometriosis arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac rydym i gyd wedi clywed yn barod pa mor anodd yw cael pobl ar y llwybr hwnnw. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r hyn y mae Dai Lloyd wedi'i ddweud eisoes, fod yn rhaid cael llwybr clir i bobl, a hefyd i'r proffesiwn meddygol fel eu bod yn deall sut y maent i fod i gyfeirio pobl drwy'r system ac nad yw'r system yn rhwystr pellach i'r unigolion hynny sydd eisoes yn dioddef.
Rwy'n pryderu'n wirioneddol fod menywod—dyma ni, yn 2020—yn dal i gael eu hanwybyddu rywsut, oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn rhy aml yn fater nad yw ond yn effeithio ar eu mislif, nid eu bywyd na'r bywyd o'u cwmpas, a'n bod yn y sefyllfa hon yma heddiw. Rwy'n gwybod llawer iawn am endometriosis am fod gennyf ddau aelod o fy nheulu fy hun, yn agos iawn ataf, sydd wedi dioddef ohono, a gwelais y dioddefaint hwnnw, a gallaf ddweud un peth wrthych yn awr: nid yw'n ddymunol iawn.
Diolch yn fawr iawn am gyflwyno hyn, Jenny. Rwy'n credu ei bod yn un o'r dadleuon lle bydd pobl yn cael eu galw'n 'ddewr' am siarad. Credaf y bydd 'bwrw eich perfedd' yn magu ystyr ychydig bach yn fwy llythrennol yng ngweddill y ddadl hon nag y bydd eraill yn gyfforddus ag ef o bosibl.
Soniodd Joyce am yr effaith economaidd ar fenywod, ond rwy'n credu ei bod yn werth cofio hefyd fod ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn brif gyflogwyr menywod yng Nghymru, a bod y rhan fwyaf o bell ffordd o ofalwyr di-dâl yn fenywod, a phe bai un o bob 10 o'r rheini'n diflannu bob mis ar sail dreigl i ofalu amdanynt eu hunain wrth iddynt ddioddef pwl o endometriosis, byddai bwlch go fawr yn nifer y bobl sydd ar gael i ofalu am ein cleifion canser a'n cleifion dementia a'n cleifion iechyd meddwl, heb sôn am ein teuluoedd ein hunain.
Pan oeddwn yn fenyw ifanc, nid oeddwn erioed wedi clywed am endometriosis. Roedd fy ffrind agosaf yn gwybod beth ydoedd, oherwydd roedd wedi dioddef ohono fwy neu lai o'i glasoed—ni chafodd ddiagnosis tan lawer yn ddiweddarach wrth gwrs, fel y gallwch ddychmygu—ac rwy'n meddwl nawr ffrind mor ofnadwy oeddwn i, oherwydd ni ofynnais iddi erioed beth oedd yn digwydd iddi. Ni ofynnais iddi erioed faint oedd hi'n byw mewn ofn o'i mislif, sut yr ymdopai â diffyg urddas sydd ynghlwm wrth waed yn gollwng, sut yr arhosodd yn effro pan fyddai wedi bod yn anemig ac yn lluddedig yn sgil y boen arteithiol y clywsom amdani, sut y llwyddodd i roi un droed o flaen y llall, a sut brofiad oedd gwaedu, rai misoedd, am fwy o amser na pheidio.
Ewch ymlaen rai degawdau, a gadewch inni feddwl am fy nghyn-aelod o staff; rwyf wedi cael ei chaniatâd i'w chrybwyll. Mae ganddi radd, mae ganddi radd Meistr, a dim ond yn rhan amser y gallai weithio oherwydd effeithiau endometriosis a'i driniaeth. Roedd ganddi'r holl symptomau uchod. Dywedwyd wrthi y byddai'n cael anhawster i feichiogi. Cyflwynwyd menopos cynnar fel ymgais i drin hyn, rhyw fath o sbaddu cemegol i fenywod, gyda'r holl symptomau hyfryd hynny'n waeth am eu bod wedi'u cymell yn artiffisial. Drwy drugaredd, ni wnaed hynny, ond erbyn hyn mae hi'n cael meigryn yn fynych a gorbryder i'w ychwanegu at bopeth arall. Fel pob cyflwr cronig, ceir sbectrwm o ddifrifoldeb o ran sut y caiff ei ddioddef. Fodd bynnag, mae lefel yr anwybodaeth ynglŷn ag endometriosis yn syfrdanol, o ystyried cymaint sy'n dioddef ohono, a dyna pam rwy'n tynnu eich sylw at rannau 4 a 6 o'r cynnig hwn.
Yn ystod y Cynulliad diwethaf, cawsom ddadl ynglŷn ag a ddylid gwahardd merched tudalen 3, ac fe siaradais ynddi. Yn y bore, bu'n rhaid imi ymweld â siop bapur newydd i wneud cyfweliad â'r cyfryngau, gan fynd â dau berson ifanc ar brofiad gwaith gyda mi. Ac nid am y tro cyntaf, roeddwn yn cael mislif gwael. 'Fy oedran', meddyliais. 'Perimenopos', meddyliais. 'Rwyf yn fy 40au hwyr; dyma sut y bydd pethau am gyfnod.' Felly, ni feddyliais lawer mewn gwirionedd pam fod angen i mi newid eitemau mislif maint clustogau soffa sawl gwaith yr awr. Ni ofynnais pam fod bowlen y toiled yn edrych fel bwced cigydd. Pan oedd fy nghalon yn curo fel gordd a minnau bron â llewygu yn y lifft, barnais mai peidio â gwneud amser i fwyta a'r holl redeg o gwmpas gyda'r bobl ifanc yn eu harddegau oedd ar fai; nid anemia acíwt. Ac nid dyna'r tro cyntaf: 'Efallai y dylwn fynd at y meddyg, ond pryd a pham? Does bosibl nad yw hyn yn rhywbeth y mae pob menyw'n mynd drwyddo ar oedran penodol.' Ond fe ddaeth yr amser y diwrnod hwnnw i wneud rhywbeth, oherwydd pan oeddwn yn sefyll yma yn y Siambr hon, yn sôn am fenywod yn cael eu trin fel gwrthrychau rhyw, roedd cynnwys fy nghroth a Duw a ŵyr beth arall yn llifo i lawr fy nghoesau ac yn cronni yn fy esgidiau.
Gofynnodd y meddyg i mi a oedd gennyf hanes o ganser yr ofari yn y teulu. Ni wnaeth hynny i mi deimlo'n llawer gwell. A sawl mis yn ddiweddarach, ar ôl mân lawdriniaeth gwbl ddigyswllt, soniodd y llawfeddyg wrthyf yn ddidaro fod gennyf endometriosis cam 4, ac rwy'n dyfynnu: 'Mae'n llanastr, ac oherwydd eich oedran, mae'n debyg nad yw'n werth gwneud llawdriniaeth.' Cynnil iawn, ond cadarnhad, o leiaf, o ffynhonnell fy mhoen. Aelodau, mae'r cyflwr hwn yn gas, ac ar wahân i ymdopi â'r symptomau hyn, mae fy mhrofiad i'n dal yn gyffredin. Bydd menywod yn dweud wrthych fod y clefyd hwn yn gwneud iddynt deimlo'n fudr, yn gelgar ac yn bryderus ynglŷn â ble mae'r toiledau agosaf—mae cau toiledau'n fater ffeministaidd—mae'n cyfyngu ar eu libido ac yn difa cyfathrach, fel y nododd Angela. A bydd menywod hefyd yn dweud wrthych, er i mi ddisgrifio'r holl symptomau rwyf newydd eich dychryn chi â hwy, nad yw meddygon teulu'n meddwl am endometriosis pan fyddant yn eu clywed, a dyna'r pwynt yn ein cynnig; pwynt 2.
Byddwn hefyd yn dweud heb feirniadaeth nad oes gan arbenigwyr lawer o arfau bob amser i fynd i'r afael â'r clefyd hwn. Mae gormod nad ydynt yn ei wybod o hyd, ac fel y clywsom, nid oes llwybr ar gyfer triniaeth. Nawr, mae menywod am fod yn iach. Mae un o bob 10 ohonom yn gwthio drwy'r pethau hyn, fel y dywedodd Vikki, fis ar ôl mis, yn teimlo'n llegach, yn bodloni disgwyliadau cymdeithasol am fod siarad am y maen melin dinistriol hwn yn ormod o embaras. Weinidog, rwyf am i chi ddeall nad clefyd sinderela yw hwn; mae'n chwaer hyll iawn o glefyd—chwaer hyll go iawn—a gobeithio y bydd y ddadl hon yn dal eich sylw.
Diolch, Suzy. Y Senedd ar ei gorau, os caniateir i mi wneud sylwadau o'r Gadair. Galwaf yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel y clywsom, mae endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar nifer sylweddol o fenywod. Rydym hefyd wedi clywed am yr effaith ddofn y gall ei chael ar fywydau pobl yr effeithir arnynt a'u teuluoedd, gyda'r disgrifiadau o boen acíwt a chronig, y defnydd o boenladdwyr cryf a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar orchwylion a gallu menywod i weithredu o ddydd i ddydd, gan arwain at deimlo'n ynysig a cholli rheolaeth.
Mae'n wir, fel y bu i mi gydnabod, y gall gymryd nifer sylweddol o atgyfeiriadau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd cyn y gwneir atgyfeiriad at fath priodol o driniaeth ar gyfer y cyflwr. A gall diagnosis fod yn anodd oherwydd weithiau mae'r symptomau'n amrywio, a gall fod yn debyg i amryw o gyflyrau eraill. Gall y symptomau fod yn debyg i boen a achosir gan syndrom coluddyn llidus a chlefyd llid y pelfis, er enghraifft. Yn ychwanegol, gall aelodau o'r teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol fel ei gilydd gamgymryd neu normaleiddio mislif poenus, fel y clywsom yn y ddadl heddiw, ac mae endometriosis yn aml yn fwy cyffredin o fewn yr un teulu.
Er gwaethaf ymdrechion i newid pethau, gwyddom y gall fod diffyg dealltwriaeth o endometriosis o hyd ymhlith rhai gweithwyr iechyd proffesiynol, ac unwaith eto, clywsom hynny yn y ddadl heddiw. Ac yn sicr, yn fynych, nid yw'r ddarpariaeth bresennol yn cyrraedd yr hyn y dylem i gyd ei ddisgwyl. Mae hynny wedi arwain at oedi cyn cael diagnosis a gofal is na'r safon ar rai adegau, gyda'r effaith amlwg ar ansawdd bywyd y menywod yr effeithir arnynt. Mae gan fyrddau iechyd gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau gynaecolegol o ansawdd uchel. Mae'n hanfodol eu bod yn darparu gofal trylwyr ac effeithiol, gan gynnwys diagnosis cynharach, ar gyfer rheoli endometriosis yn unol â chanllawiau NICE.
Nawr, yn dilyn yr adroddiad blaenorol gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, sefydlasom grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu gwasanaethau endometriosis yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Richard Penketh—a chyfeiriwyd at waith y grŵp hwnnw eto yn y ddadl. Roedd yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o glinigwyr, academyddion ac yn hollbwysig, cleifion. Ystyriodd y grŵp gorchwyl a gorffen nifer o ffynonellau, gan gynnwys canllawiau NICE, ymchwil a thystiolaeth a gynhyrchwyd yng Nghymru, cyn cyhoeddi eu hadroddiad yn 2018. Mae canllawiau NICE yn darparu llwybr clir ar gyfer rhestru symptomau endometriosis, ac yn cyfarwyddo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â phryd y dylid atgyfeirio menywod at wasanaeth gynaecolegol ar gyfer uwchsain neu farn gynaecolegol. Ar ôl adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, ysgrifennodd fy swyddogion at fyrddau iechyd yn gofyn am sicrwydd fod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â chanllawiau NICE.
Mae'n bwysig fod materion iechyd difrifol sy'n effeithio ar fenywod yn cael eu trin yn effeithiol ac yn briodol. Dyna sy'n sail i'r rheswm pam y gwneuthum gyfarwyddo'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, prif weithredwr bwrdd iechyd Bae Abertawe, i ystyried argymhellion adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw, ynghyd â'i waith ar rwyll a thâp y wain. Nawr, sefydlwyd y grŵp iechyd menywod i ddarparu arweinyddiaeth strategol i sicrhau dull Cymru gyfan o chwalu rhwystrau a chysylltu llwybrau ar draws ein gwasanaeth. Ac wrth gwrs, dylid rheoli iechyd menywod yn y gymuned lle bynnag y bo modd, gyda'r angen lleiaf am ymyrraeth.
Nawr, gyda'r cynnig, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal, ond mae'n gefnogol ar y cyfan i'r cynnig a'i amcan. Ac yn sicr byddwn yn parhau i weithio i wella, ond nid ydym yn cefnogi'r cynnig penodol a'r geiriad ynglŷn â mwy o ymchwil i achosion a thriniaethau ar gyfer endometriosis, oherwydd, yn anffodus, nid oes gwellhad fel y cyfryw, yn ystyr arferol y gair, ac nid yw'n gyflwr y gellir ei atal. Yr hyn sy'n bwysig yw bod byrddau iechyd yn darparu model gwasanaeth sy'n ein galluogi i wneud diagnosis yn llawer cynharach ac atgyfeiriadau priodol at weithiwr iechyd a gofal proffesiynol sydd â chymwysterau addas gyda'r ystod lawn o sgiliau angenrheidiol, ymhlith pethau eraill, i allu cael gwared ar friwiau endometriosis. Dylid cyfuno hynny â chymorth rheoli poen a ffisiotherapi o ansawdd uchel i sicrhau gwell canlyniadau.
Ar bwynt penodol Joyce Watson—a chododd eraill rai pwyntiau am yr amseroedd aros, nid yn unig yn Hywel Dda ond yn fwy cyffredinol ledled y wlad—cafodd gwaith y grŵp gweithredu ar iechyd menywod ei oedi yn sgil y pandemig COVID; bydd y grŵp gweithredu yn cyfarfod ym mis Tachwedd serch hynny i ystyried cynigion byrddau iechyd ar gyfer gwella. Felly, ni ddylai'r atebion y mae Hywel Dda a byrddau iechyd eraill yn aros amdanynt fod yn hir yn dod.
Y llynedd, cyhoeddwyd canllawiau gennym ar fyw gyda phoen barhaus yng Nghymru. Nod y canllawiau yw rhoi cyngor i'r rhai sy'n dioddef poen yn barhaus, eu teuluoedd a'r gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy'n eu cefnogi. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys camau gweithredu ar yr hyn y dylech ei ddisgwyl gan eich darparwr gofal iechyd fel unigolyn sy'n byw gyda phoen. Dylai'r canllawiau hyn helpu menywod y mae endometriosis yn effeithio arnynt i reoli eu lefelau poen er mwyn gallu byw eu bywydau'n well.
Fodd bynnag, argymhellodd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ymchwil mewn nifer o feysydd eraill, gan gynnwys datblygu offeryn effeithiol i godi ymwybyddiaeth o symptomau, gwerthuso'r prosesau dilynol ar ôl llawdriniaeth, dull amlddisgyblaethol o reoli symptomau, datblygu adnoddau addysgol, a monitro canlyniadau cleifion yn barhaus er mwyn deall a ydym yn fwy llwyddiannus. Cytunaf fod hynny'n rhywbeth y dylai'r grŵp iechyd menywod, a hefyd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ei ddatblygu, i helpu i nodi'r cyllid ymchwil sydd ar gael ar gyfer cwestiynau'n ymwneud ag endometriosis. Unwaith eto, dylai'r grŵp iechyd menywod ystyried y cam gweithredu hwn drwy eu gwaith sy'n canolbwyntio'n benodol ar endometriosis.
O ran yr argymhelliad ynglŷn ag ysgolion a sicrhau bod disgyblion yn cael gwybod am iechyd mislif arferol, cytunaf â llawer o'r sylwadau a wnaed. Gan feddwl yn ôl at fy mhrofiad fy hun fel bachgen yn ei arddegau, yn tyfu i fyny ac yn mynd i'r ysgol, mewn termau mecanyddol iawn yn unig y soniwyd am hyn wrth y bechgyn. Mae canllawiau'r cwricwlwm newydd i Gymru yn glir fod tyfu i fyny'n cael effaith sylfaenol ar iechyd a lles dysgwyr. Felly, mae angen i ysgolion a lleoliadau eraill ystyried sut i gynorthwyo dysgwyr i ddeall a rheoli'r newidiadau datblygiadol hyn, yn ogystal â sut y mae'r newidiadau hynny'n effeithio ar ddysgwyr mewn amryw o wahanol ffyrdd.
Mae maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn cydnabod bod amryw o gyflyrau'n effeithio ar ddysgwyr a bod angen iddynt allu eu hadnabod, eu deall a gofyn am gymorth ar eu cyfer. Yn y cwricwlwm newydd, rhoddir hyblygrwydd i ysgolion ymdrin â'r glasoed a mislif ar gam sy'n briodol yn ddatblygiadol, ac i roi gwybodaeth a hyder i ddysgwyr ofyn am gymorth a helpu i ymdopi â'r newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd drwy gydol ein bywyd. Comisiynodd y Gweinidog addysg weithgor addysg cydberthynas a rhywioldeb i gynnwys amrywiaeth o randdeiliaid ac addysgwyr. Mae'r grŵp hwnnw'n canolbwyntio ar ddatblygu cod addysg cydberthynas a rhywioldeb a chanllawiau ategol a fydd yn rhan o fframwaith newydd y cwricwlwm. Rwy'n disgwyl i'r grŵp hwnnw ystyried materion megis lles mislif fel rhan o'u gwaith. Mae'r grŵp gweithredu ar iechyd menywod yn gweithio i gynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer mislif er mwyn paratoi pobl ifanc yn well i ddeall beth sy'n fislif arferol, a phryd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hwn yn waith pwysig ac yn cyd-fynd ag un o brif argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar endometriosis. Roedd hwnnw'n pwysleisio pwysigrwydd addysg gynnar ynghylch endometriosis a mislif.
Nododd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen mai un ffactor allweddol sy'n achosi oedi a chanlyniadau gwael i fenywod ag endometriosis yw bod nifer sylweddol o gynaecolegwyr o'r farn nad oes ganddynt yr holl sgiliau sydd eu hangen i dynnu briwiau endometriosis. Bydd y rhan fwyaf o gynaecolegwyr yn cyflawni laparosgopi diagnostig yn lle hynny ac yna'n cynnig rheolaeth feddygol; neu fel arall, yn lleihau'r briwiau endometriosis. Mae'r dulliau hyn yn arwain at driniaethau a llawdriniaethau dro ar ôl tro. Hoffwn ailadrodd bod angen i fyrddau iechyd bwysleisio'r llwybr priodol er mwyn ei gwneud hi'n bosibl rhoi diagnosis cynnar cyn bod angen ymyrraeth arbenigol.
Rwy'n pryderu bod cyflwr sy'n effeithio ar tua un o bob 10 menyw yn cael ei ystyried yn rhywbeth na ellir ond ei drin gan arbenigwyr. Rwy'n disgwyl i'r grŵp iechyd menywod ystyried y mater hwn, ynghyd â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, i drafod y lefel briodol o hyfforddiant a ddarperir i gynaecolegwyr i'w galluogi i ddarparu'r ymyrraeth angenrheidiol i fenyw ag endometriosis cynnar. Ni ddylai fod angen arbenigwyr ac eithrio pan fydd y clefyd wedi datblygu'n rhy bell ac wedi mynd yn fwy cymhleth. Byddaf yn ysgrifennu at y byrddau iechyd i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau, ac i ofyn am sicrwydd pellach y bydd gwasanaethau gynaecolegol yn cynnig yr ystod lawn o driniaethau sydd eu hangen ar eu poblogaeth.
I gloi, rwyf am ailddatgan fy ymrwymiad, ac ymrwymiad y Llywodraeth, i bob agwedd ar iechyd menywod, ac yn arbennig i ofalu am y menywod y mae endometriosis yn effeithio ar eu bywydau, a'u teuluoedd a'u ffrindiau. Fel rwyf wedi amlinellu, rydym yn gweithio i gynyddu lefelau ymwybyddiaeth o'r mislif ymhlith pobl ifanc, ac i alluogi merched i ofyn am gyngor meddygol pan fo angen ac ar y cam cynharaf posibl. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer, a darparu'r ystod lawn o wasanaethau gynaecolegol sydd eu hangen i gydymffurfio â chanllawiau NICE. Wrth orffen, rwyf am ddweud hyn: pe bai'r un nifer o ddynion yn byw gyda'r un anghysur y mae endometriosis yn ei achosi, ni chredaf y byddai ymateb y gwasanaeth iechyd yn galw am y gwelliant pellach heddiw, ac mae'n amlwg fod galw amdano o hyd. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn ystod y tair blynedd diwethaf, ond mae gennym lawer mwy i'w wneud.
Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf fi ddweud pa mor ddiolchgar ydw i i Jenny Randerson, fel y mae llawer o rai eraill wedi dweud eisoes, am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn—[Torri ar draws.] Rathbone—rwyf wedi disgyn i ryw fath o ystumdro amser. Mae'n ddrwg iawn gennyf, rwyf wedi drysu fy Jennys. Ymddiheuriadau. Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Jenny am gyflwyno hyn ac i bawb sydd wedi'i gefnogi. Mae hwn yn fater mor bwysig ac rydym wedi cael cynifer o gyfraniadau gwirioneddol bwysig heddiw.
Ni allaf ymateb i'r holl bwyntiau sydd wedi'u codi, ond gobeithio y bydd pobl yn maddau i mi os dechreuaf gyda Suzy Davies, oherwydd credaf fod y lefel honno o onestrwydd a didwylledd ynglŷn â sut y mae'r materion hyn yn effeithio ar ein bywydau mor bwysig. A phan fydd menywod fel ni, sydd â rolau mewn bywyd cyhoeddus, sy'n cael eu gweld, efallai, yn llwyddiannus ac yn hyderus—os siaradwn yn agored am effaith y mathau hyn o faterion arnom, bydd yn codi ymwybyddiaeth a bydd yn helpu i rymuso menywod eraill i godi'r materion yn eu bywydau eu hunain. Felly, yn bersonol rwy'n ddiolchgar iawn i Suzy am fod mor agored a gonest gyda ni heddiw. Credaf eich bod yn iawn i ddweud, Ddirprwy Lywydd dros dro, fod hon yn enghraifft o'r Senedd ar ei gorau.
Codwyd cynifer o faterion: effaith—a soniodd Angela am hyn—yr artaith gorfforol, a soniodd llawer o bobl eraill am hynny; yr effaith ar ein bywydau. Pwynt Joyce Watson am yr effaith ar fywydau gwaith menywod a'r effaith economaidd hirdymor y gall hynny ei chael dros oes gyfan, ac mae eraill wedi nodi hynny.
Dechreuodd Jenny, wrth gwrs, drwy siarad am bwysigrwydd ymwybyddiaeth, ac mae ein cynnig yn glir iawn ynglŷn â hynny. A chyn imi sôn am eraill, hoffwn ddod yn ôl, os caf, at rai o sylwadau'r Gweinidog. Nawr, mae'n dda iawn ei fod wedi cydnabod y problemau gyda nifer yr atgyfeiriadau a'r amser y mae'n ei gymryd, ac mae'n pwysleisio cyfrifoldebau'r byrddau iechyd lleol, ac mae hynny'n wir wrth gwrs. Ond rwy'n falch o'i glywed yn ymrwymo heddiw i ysgrifennu at y byrddau iechyd unwaith eto, oherwydd beth bynnag sydd eisoes wedi'i ddweud, mae'n amlwg nad yw'r neges yn cael ei chlywed. Mae'n dweud wrthym fod canllawiau NICE yn rhoi llwybr clir. Wel, rydym wedi clywed gan Dr Dai Lloyd nad yw hwnnw'n llwybr roedd ef, fel meddyg teulu, yn ymwybodol ohono ac yn gallu gweithio gydag ef a chyflawni. Felly, mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud yno o ran ymwybyddiaeth o'r llwybr hwnnw. A byddwn yn awgrymu wrth y Gweinidog efallai y gallai ofyn i'r grŵp iechyd menywod archwilio'r llwybr hwnnw a gweld a yw'n addas i'r diben yma yng Nghymru, neu a oes pethau eraill y mae angen eu gwneud.
Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth yn gefnogol ar y cyfan ac yn deall mai'r hyn sy'n arferol iddynt yw ymatal, ond cefais fy siomi braidd gan yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am ymchwil, oherwydd mae'n amlwg fod angen mwy o ymchwil a chyfeiriodd at hynny'n ddiweddarach yn y cyfraniad hwn. Ac mae'n dweud nad oes gwellhad yn awr. Wel, wrth gwrs nad oes gwellhad yn awr. Wyddoch chi, ddegawdau'n ôl, nid oedd gwellhad i bob math o afiechydon y gallwn eu gwella bellach. Ac mae hyn yn dod yn ôl at y pwynt y mae llawer o siaradwyr wedi'i wneud, a chyfeiriodd y Gweinidog ato ei hun yn wir: pe bai hwn yn afiechyd sy'n effeithio ar ddynion ac yn gwanychu dynion yn y ffordd y mae'n effeithio ar fenywod ac yn eu gwanychu, byddem wedi cael yr ymchwil a byddem wedi cael gwellhad.
Ac mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y canllawiau ar fyw gyda phoen. Wel, rhaid imi ddweud wrth y Gweinidog heddiw nad yw menywod sy'n dioddef o'r cyflwr hwn am i'w poen gael ei reoli, maent am iddo ddiflannu. Ac mae arnom wir angen mwy o ymchwil i'n galluogi—. Oherwydd bydd achos ffisiolegol dros hyn a lle ceir achos ffisiolegol, bydd gallu i ymyrryd. A dywedodd y Gweinidog ei hun pe bai hwn yn gyflwr roedd dynion yn dioddef ohono, byddai rhywbeth wedi'i wneud. Wel, mae angen yr ymchwil i gael hynny wedi'i wneud, ac nid dim ond ymchwil i reoli poen sydd ei hangen arnom, er bod hynny'n bwysig ynddo'i hun.
Cynifer o gyfraniadau pwerus iawn—Vikki Howells yn sôn am faint y broblem; Angela Burns, fel y dywedais, yn sôn am y ffordd y mae'n effeithio ar fywydau menywod; Joyce unwaith eto'n tynnu sylw at ryw fath o brofiadau teuluol, y caledi ariannol. Mae cynifer o negeseuon pwysig yn dod allan o'r ddadl heddiw. Rwy'n falch o gymryd o gyfraniad y Gweinidog ei fod yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrtho'n glir iawn yw y bydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod yn mynd ar drywydd hyn. Byddwn yn cadw llygad ar yr ymrwymiadau y mae wedi'u gwneud, a lle teimlwn fod angen iddo fynd ychydig ymhellach, byddwn yn ei wthio. Oherwydd fel rydym wedi clywed yng nghyfraniad Suzy ac fel y gwn o brofiadau cyfaill agos iawn i mi, nid yw hwn yn gyflwr y dylid gofyn i fenywod fyw gydag ef. Mae arnom angen gwellhad.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.