– Senedd Cymru am 7:37 pm ar 17 Tachwedd 2020.
Dadl ar adroddiad y grŵp cynllunio etholiadau yw eitem 13, ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Byddai etholiad y Senedd yn 2021 wedi bod yn un hanesyddol beth bynnag. Dyma'r etholiad cyntaf i'w gynnal o dan gyfreithiau wedi eu gwneud yma yng Nghymru. Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd gan bobl ifanc 16 a 17 oed a phobl o wledydd tramor yr hawl ddemocrataidd i bleidleisio ar eu dyfodol. Ond erbyn hyn, mae pandemig y coronafeirws wedi creu heriau mawr o safbwynt cynnal diogelwch a chywirdeb yr etholiad, ac i wneud y sefyllfa’n fwy cymhleth, mae Llywodraeth y DU wedi gohirio'r etholiadau ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu, felly byddant yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiad y Senedd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud unwaith eto mai bwriad clir y Llywodraeth yw cynnal yr etholiad ar 6 Mai y flwyddyn nesaf. Yn nes ymlaen yn y mis hwn, byddwn yn gosod deddfwriaeth i wneud gwelliannau 'busnes fel arfer' i'r Gorchymyn ymddygiad sy'n nodi'r rheolau ar gyfer yr etholiad.
Yn sgil y pandemig ym mis Mehefin, sefydlwyd y grŵp cynllunio etholiadau i ystyried effaith y coronafeirws ac yn benodol pa newidiadau deddfwriaethol a allai fod angen eu gwneud. Roedd y grŵp yn cynnwys nifer o bartneriaid a chynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol. Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r grŵp am eu trafodaethau meddylgar ac adeiladol. Rwyf i wedi cael sgyrsiau defnyddiol gydag arweinwyr y pleidiau gwleidyddol ar y grŵp er mwyn trafod rhai o’r materion hyn yn fanylach. Mae Cabinet Llywodraeth Cymru hefyd wedi trafod yr adroddiad. Rwy'n falch bod y grŵp wedi gallu dod i gonsensws ar nifer o faterion pwysig. Roedden nhw'n cytuno â Llywodraeth Cymru mai'r bwriad o hyd ddylai fod cynnal etholiadau'r Senedd ar 6 Mai ac, er mwyn cyflawni hyn, dylid ystyried gwneud y trefniadau etholiadol yn fwy hyblyg a chadarn gan ddilyn cyngor iechyd cyhoeddus ar y ffordd orau o sicrhau diogelwch a lles pawb sy'n cymryd rhan.
Mae Gweinidogion wedi gofyn i'n swyddogion weithio gyda phartneriaid i weithredu'r camau y daeth y grŵp i gonsensws arnynt, sef: annog pleidleiswyr bregus i ystyried gwneud cais am bleidlais bost, annog eraill hefyd i ystyried pleidlais bost, a gwneud cais yn gynnar os oes modd; mwy o hyblygrwydd o ran enwebu ymgeiswyr, pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy; a sicrhau nad yw rheoliadau'r coronafeirws yn achosi rhwystr i bleidleisio. Rydym hefyd yn parhau i ystyried amseriad yr hysbysiad etholiadol. Awgrymodd y grŵp y gallai gael ei gyflwyno'n gynt o bosib. Fe wnaeth y grŵp ystyried hefyd sut y gallai gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfri weithredu'n ddiogel. Bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud popeth y gallwn ni i helpu swyddogion canlyniadau i wneud y trefniadau angenrheidiol.
Dirprwy Lywydd, rydym yn canolbwyntio ar alluogi'r etholiad i ddigwydd yn ôl y bwriad, ond byddai'n anghyfrifol i ni beidio â gwneud cynlluniau wrth gefn rhag ofn bydd y pandemig mor ddifrifol ym mis Mai'r flwyddyn nesaf fel nad yw'n ddiogel cynnal yr etholiad. Ddoe, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Fil a fyddai'n galluogi Llywydd Senedd yr Alban i ohirio'r etholiad os bydd angen gwneud hynny oherwydd y coronafeirws. Gallaf gadarnhau ein bod ninnau, hefyd, yn paratoi i ddrafftio Bil i wneud darpariaeth debyg. Bydd hyn yn caniatáu i ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth i'r Senedd os yw'r sefyllfa ar ôl y Nadolig yn awgrymu y bydd angen gwneud hyn fel dewis olaf. Rydym ni'n cynllunio i gael y Bil yn barod i'w gyflwyno i'r Llywydd erbyn dechrau mis Ionawr.
Rwy'n sylweddoli y bydd rhoi'r pŵer i'r Llywydd i ohirio'r etholiad am hyd at chwe mis yn gam cyfansoddiadol mawr, felly, pe bai'n angenrheidiol, byddwn yn ystyried mesurau diogelu priodol. Gallai'r rhain gynnwys gofynion ymgynghori i sicrhau bod y Llywydd yn cael y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am iechyd y cyhoedd, a hefyd cadarnhad gan y Senedd drwy bleidlais fwyafrif o ddwy ran o dair cyn i'r pŵer gael ei arfer. Rwy'n rhagweld hefyd, os bydd angen defnyddio'r Bil, y bydd yn berthnasol i etholiad y flwyddyn nesaf yn unig. Rydym ni hefyd yn ystyried beth fyddai mantais cwtogi'r cyfnod diddymu. Bydd hyn yn galluogi'r Senedd i barhau i gyflawni ei rôl hanfodol wrth ymateb i'r pandemig am gyhyd â phosibl. Byddai hefyd yn galluogi'r Llywydd i arfer ei phŵer mor agos â phosibl at yr adeg bleidleisio.
Mae'n rhaid i'r Senedd gwrdd am y tro cyntaf o fewn 14 diwrnod ar ôl yr etholiad, ac fe hoffwn i ddiogelu hynny. Pleidleisiodd yr Aelodau i ymestyn y cyfnod hwn o saith diwrnod yn ddiweddar iawn yn y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr. Mae'r cyfnod o 14 diwrnod yn cael ei gyfrif o ddiwrnod y bleidlais, sy'n rhagdybio bod y cyfri yn cael ei gynnal dros nos. Yn ein barn ni, dylid diwygio hyn i gydnabod y gallai cyfri gael ei ohirio oherwydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio ein bod yn benderfynol o wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod pobl yn gallu pleidleisio pan fydd yr etholiad yn digwydd. Rwy'n arbennig o bryderus y gallai pobl fod yn awyddus i bleidleisio, ond yn ofni mentro i orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Mae llawer o waith cyfathrebu wedi'i gynllunio i annog pleidleisio drwy'r post ac i bwysleisio y bydd gorsafoedd pleidleisio yn ddiogel.
Yn ogystal, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ysgrifennu at swyddogion canlyniadau, y Comisiwn Etholiadol a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol i'w hysbysu ein bod yn ystyried sefydlu canolfannau pleidleisio cynnar. Byddai'r rhain yn cael eu sefydlu mewn adeiladau dinesig i roi cyfle i bobl bleidleisio yn ystod y dyddiau cyn yr etholiad. Byddai hyn yn rhoi mwy o ddewis ac yn lleihau'r siawns o orfod ciwio mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae'r dull hwn yn gweithio'n llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r byd ac, yn y cyfnod anarferol hwn, rwyf am i Gymru gael yr opsiwn hefyd os bydd hynny'n ymarferol. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn rhoi cyfrifoldeb arall ar dimau etholiadau sydd eisoes â llawer i ddelio ag ef, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar bob opsiwn i alluogi pobl i ddefnyddio'u hawl democrataidd yn wyneb coronafeirws.
Mae llawer o ystyriaethau cyfansoddiadol ac ymarferol yn yr hyn rwyf wedi'i amlinellu ac rwy'n edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau am y materion pwysig hyn. Diolch yn fawr.
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn i ddiolch hefyd i Aelodau'r grŵp cynllunio etholiadau am eu gwaith hanfodol ar y mater pwysig iawn hwn. O'r adroddiad, mae'n amlwg bod consensws ar amrywiaeth o faterion. Yn hollbwysig, mae cytundeb y dylai'r etholiadau gael eu cynnal ar 6 Mai y flwyddyn nesaf. Nid oes rheswm pam na all yr etholiadau gael eu cynnal ar 6 Mai o ystyried bod Sbaen, Gwlad Pwyl, Ffrainc a De Korea wedi cynnal rhai etholiadau'n ddiogel yn ystod y pandemig hwn. Yn rhai o'r ardaloedd hyn sydd wedi cynnal etholiadau, ni wnaeth cyfraddau trosglwyddo'r feirws wedi cynyddu, ond, wrth gwrs, rwy'n derbyn bod angen i ni, yma yng Nghymru, roi mesurau ar waith i sicrhau bod yr etholiadau hyn yn ddiogel.
Er y bu dau etholiad cyffredinol yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bydd wedi bod yn bum mlynedd ers i bleidleiswyr allu mynegi eu barn ar Lywodraeth Cymru a ni fel eu cynrychiolwyr. Felly, mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau y gall pleidleisio fynd rhagddo'n ddiogel y flwyddyn nesaf, a byddwn i'n ddiolchgar os gallai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni efallai yn ei ymateb i'r ddadl hon ynghylch y camau y mae ei swyddogion yn eu hystyried ar hyn o bryd. Byddai hefyd yn ddefnyddiol cael gwybodaeth fanwl o ran sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu rhai o'r meysydd consensws yn yr adroddiad, a sut y mae'n bwriadu gweithio gydag eraill i gyflawni rhai o'r cynigion yn yr adroddiad.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio at annog pobl a oedd yn gwarchod eu hunain i gofrestru i bleidleisio drwy'r bost, sy'n gwneud synnwyr llwyr. Efallai y gall y Prif Weinidog gadarnhau yn ei ateb pryd y bydd y rhaglen yn dechrau annog y rheini sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain yn y gorffennol i gofrestru ar gyfer pleidlais drwy'r post a phwy a fydd yn gyfrifol am hyn, a faint o bobl ym mhob ardal a allai fod yn debygol o gofrestru. Fel yr awgrymodd y Ceidwadwyr Cymreig yn ein tystiolaeth ysgrifenedig i'r grŵp cynllunio, er ein bod yn croesawu rhywfaint o'r hyblygrwydd yn yr adroddiad ynghylch pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy, mae'n hanfodol bod y dulliau cywir o ddiogelu ar waith i sicrhau bod gan bleidleiswyr a'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr etholiad ffydd yn y broses. Ac felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn manteisio ar y cyfle i'w gwneud yn glir nad yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo unrhyw gynlluniau i ymestyn pleidleisio drwy ddirprwy i alluogi aelod nad yw'n aelod o'r teulu i weithredu fel ddirprwy i fwy na dau berson, hyd yn oed os yw aelwyd gyfan yn hunan-ynysu, fel na fydd y system yn cael ei cham-drin o bosibl.
Wrth gwrs, mae ail hanner yr adroddiad yn canolbwyntio ar y meysydd lle na allai'r grŵp cynllunio ddod i gonsensws. Mae'r meysydd hyn yn hanfodol i gynnal etholiadau ac i sicrhau eglurder i bleidleiswyr. Yn gyntaf, rydym ni wedi'i gwneud yn glir iawn na ddylai deddfwriaeth gael ei chyflwyno yn y lle hwn i alluogi newid dyddiad yr etholiad, oherwydd ein barn ni yw y dylid cynnal yr etholiad ar 6 Mai. Rydym ni i gyd yn ymwybodol nad yw'r ganran sy'n pleidleisio yn etholiadau seneddol Cymru wedi bod yn uwch na 46 y cant yn ystod oes y lle hwn. Os ydym ni eisiau gweithio fel pleidiau gwleidyddol i wella cyfranogiad a'r nifer sy'n pleidleisio, yna mae angen i ni wybod y rheolau nawr er mwyn rhoi sicrwydd i bobl Cymru wrth symud ymlaen. Mae hynny'n golygu peidio â chaniatáu dryswch drwy drafod dyddiad yr etholiad ymhellach na chaniatáu newid dyddiad funud olaf. Drwy gael dyddiad penodol ar gyfer yr etholiad ar 6 Mai, gallwn ni sicrhau y gall pob agwedd ar broses yr etholiad fod mor ddiogel â phosibl. Mae angen y warant honno ar bobl Cymru, felly rwy'n bryderus iawn bod y Prif Weinidog yn awr yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ohirio etholiadau'r flwyddyn nesaf o bosibl. Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru wastraffu adnoddau'n ddi-angen yn edrych ar ddeddfwriaeth, ond yn hytrach, dylen nhw ganolbwyntio eu hymdrechion ar ddarparu proses etholiad ddiogel fis Mai nesaf. Fel y dywedais i'n gynharach, mae gwledydd eraill wedi llwyddo i gynnal etholiadau o dan yr amgylchiadau heriol hyn, felly nid wyf i'n gweld pam na allwn ni yma yng Nghymru gynnal yr etholiadau hynny y flwyddyn nesaf.
Nawr, ar wahân i newid dyddiad yr etholiad, archwiliodd y grŵp cynllunio opsiynau o ran newid yr amseroedd a'r dyddiau y gall pobl bleidleisio arnyn nhw. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi, mae'n annhebygol iawn y bydd pobl yn pleidleisio am bump neu chwech yn y bore na mor hwyr ag 11 neu 12 y nos. Bydd dryswch pellach hefyd os yw'r dyddiau y gall pobl bleidleisio arnyn nhw wedi'u gwahanu mewn gwirionedd. Rwy'n deall yr awydd i gael y bobl fwyaf agored i niwed o COVID-19, fel pobl hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol, bleidleisio ar un diwrnod a phawb arall ar ddiwrnod arall, a gallai hynny helpu i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i'r feirws, ond bydd effaith fawr hefyd ar y rhai sy'n cymryd rhan yn yr etholiad yn ogystal.
Bydd agor gorsafoedd pleidleisio ar sawl diwrnod hefyd yn cael effaith andwyol ar y gwasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, a fydd yn gorfod dod o hyd i staff a thalu iddyn nhw reoli'r gorsafoedd pleidleisio am gyfnod estynedig. A bydd cwestiynau hefyd ynghylch diogelwch y pleidleisiau, er enghraifft, ble bydd blychau pleidleisio'n cael eu storio dros nos rhwng diwrnodau pleidleisio ac yna'r cyfrif, a phwy fydd yn cael gweld trosglwyddo'r blychau hynny? Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn mynd i'r afael â'r pryderon dilys hyn drwy ymrwymo i sicrhau y bydd y pleidleisio'n digwydd ar 6 Mai rhwng 7 a.m a 10 p.m? Dirprwy Lywydd, gyda hynny, a gaf i ddiolch eto i aelodau'r grŵp cynllunio etholiadau am eu gwaith ar yr adroddiad hwn? Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda phob plaid ar y mater hwn dros yr wythnosau nesaf a'r misoedd nesaf.
Yn y lle cyntaf, hoffwn i ddiolch i aelodau'r grŵp cynllunio etholiadau am eu gwaith, ac roedd fy mhlaid i'n hapus iawn i gymryd rhan yn y gwaith hwnnw. Er gwaethaf rhai o'r penawdau sydd wedi bod o gwmpas y grŵp yma, mae'n bwysig cofio bod gwaith y grŵp a nifer o argymhellion yr adroddiad, sydd eisoes wedi ei gyhoeddi, yn canolbwyntio'n bennaf ar y trefniadau y dylid eu rhoi ar waith i sicrhau y gall yr etholiad fynd yn ei flaen, a hynny'n ddiogel.
Mae'n rhaid dweud, mae'n anodd rhagweld sefyllfa lle byddai'n rhaid gohirio etholiadau'r Senedd erbyn hyn. Mae etholiadau wedi parhau o amgylch y byd yn ystod y misoedd diwethaf fel dŷn ni eisoes wedi clywed, o Belarus i Wlad y Basg, o Serbia i Singapore, ac wrth gwrs yn America yn fwyaf diweddar, lle atgoffwyd ni mewn modd pwerus iawn o bwysigrwydd etholiadau rhydd, a grym y bobl i ddefnyddio'u llais a bwrw'u pleidlais, fel y gwnaeth pobl yr Unol Daleithiau drwy ddewis cyfeiriad newydd yn nhywyllwch y pandemig. Er hynny, fel mae profiad y misoedd diwethaf wedi dangos i ni allwn ni ddim cymryd dim byd yn ganiataol.
Felly, mae'n rhesymol bod gennym ni'r gallu yng Nghymru i ymateb i bob sefyllfa all ein hwynebu, waeth pa mor fychan yw'r tebygolrwydd o hynny bellach. Mae'r gallu hwnnw eisoes gan Weinidogion San Steffan, ac fe'i defnyddiwyd, wrth gwrs, yn achos etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiadau comisiynwyr heddlu Cymru oedd i fod i fynd rhagddynt ym mis Mai eleni. Ac ar y nodyn hynny, wrth gwrs, mae'n siomedig, ond nad yn annisgwyl efallai, i weld bod Llywodraeth Prydain wedi dod at y mater yma mewn modd anghydweithredol, gyda'r Gweinidog Chloe Smith yn ysgrifennu at bob swyddog canlyniadau yng Nghymru tra oedd y grŵp cynllunio yma yn dal i gyfarfod—gyda'r Blaid Geidwadol yn rhan ohono fe—i ddatgan y byddai etholiadau comisiynwyr heddlu yng Nghymru yn mynd yn eu blaenau fel y cynlluniwyd, doed a ddelo, heb lawn gydnabod, mae'n ymddangos, arwyddocâd y ffaith mai etholiad cyffredinol Cymreig sydd gennym ni wedi'i gynllunio yng Nghymru y flwyddyn nesaf, gydag etholiadau'r comisiynwyr heddlu yn digwydd bod yn syrthio ar yr un pryd oherwydd y gohirio eleni. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Prydain mewn meddylfryd cwbl wahanol. Yn sgil cyndynrwydd Llywodraeth Prydain i ystyried unrhyw fath o newid i etholiadau'r comisiynwyr heddlu, deallaf fod hynny wedi cyfyngu ar yr opsiynau posib roedd y grŵp yn eu hystyried ar gyfer cyflwyno canolfannau pleidleisio cynnar, gan ymestyn, fel y clywsom ni, nifer y diwrnodau y bydd pleidleisio, i hwyluso pleidleisio i grwpiau bregus—syniad roedd y gweinyddwyr etholiad yng Nghymru yn llwyr gefnogol iddo. Beth yw bwriad Llywodraeth Cymru neu farn Llywodraeth Cymru o ran symud y syniad yma yn ei flaen yn wyneb gwrthwynebiad Llywodraeth Prydain o ran efelychu'r un peth gyda'r etholiadau comisiynwyr heddlu?
Hoffwn i glywed, yn yr un modd, gan y Prif Weinidog, am yr effaith bosib o anghydweld rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain ar bleidleisiau procsi. Yn ymarferol, rwy'n credu bydd pobl Cymru am inni sicrhau cymaint o gysondeb rhwng y ddau etholiad, ac eu bod mor rhwydd â phosib i bobl gymryd rhan ynddynt, dim ots lle mae'r grym dros yr etholfraint yn gorwedd ar ddiwedd y dydd. Byddai'n rhyfedd iawn, er enghraifft, pe bai'r procsi'n gallu gweithredu ar ran pedwar neu bump o bobl yn etholiadau'r Senedd, ond dim ond ar gyfer dau o bobl yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu.
I gloi, mae'r Prif Weinidog yn sôn am y posibilrwydd o ddeddfwriaeth ym mis Ionawr i'r Senedd, a fyddai'n ymestyn gallu'r Llywydd i ohirio dyddiad etholiadau'r Senedd o'r mis presennol i hyd at chwe mis. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno deddfwriaeth debyg gerbron Senedd yr Alban. Heddiw, mae'n briodol mai'r Llywydd fyddai'n parhau i ddal y grym yma, gan adlewyrchu natur amhleidiol y swyddogaeth, ond mae'n bwysig bod y Senedd yn cael cyfle i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig yn llawn, felly gorau po gynted i'w chyflwyno i'r Senedd mewn ffurf drafft. Mae deddfwriaeth yr Alban yn cynnwys darpariaeth ar gyfer pleidleisiau post yn unig ar gyfer ailgynnal etholiad petai'r etholiad ym mis Mai yn cael ei ohirio. Nid oedd adroddiad y grŵp yng Nghymru yn argymell hyn, felly gall y Prif Weinidog gadarnhau a fydd darpariaeth Mesur drafft Llywodraeth Cymru ynghylch pleidleisiau post? Byddwn i'n cytuno gyda'r awgrym y dylid rhoi amod dwy ran o dair i basio unrhyw newid, gan ddiogelu'r egwyddor y dylai fod yna gefnogaeth eang y tu hwnt i'r blaid lywodraethol i wneud unrhyw newid i drefniadau etholiadol.
Rwyf mewn sefyllfa braidd yn rhyfedd o gytuno ag elfennau o'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ond hefyd arweinydd Plaid Cymru ac arweinydd y Ceidwadwyr; rwy'n credu bod rhai pwyntiau cryf wedi'u gwneud ym mhob un o'r sylwadau agoriadol hynny. Gobeithio y byddwn ni'n gallu dod o hyd i ffordd gytûn ymlaen ar hyn. Nid wyf yn credu y dylai hyn fod yn fater i'w drafod yn bleidiol. Rwy'n credu y dylai hyn fod yn rhoi ein democratiaeth o flaen yr holl ystyriaethau eraill. Gobeithio hefyd—ac rwy'n credu bod—mwyafrif tawel yn y lle hwn i sicrhau ein bod yn cael etholiadau bob pedair blynedd, ac nid bob pum mlynedd. Nid wyf erioed wedi cefnogi'r symudiad i bum mlynedd, a gobeithio y cawn gyfle, Dirprwy Lywydd, cyn y diddymiad, i drafod y mater ehangach hwn hefyd.
Nid wyf wedi clywed unrhyw ddadl argyhoeddiadol bod angen y pwerau arnom i ohirio etholiad am hyd at chwe mis. Yn fy marn i, mae'n rhaid cynnal yr etholiad ym mis Mai. Mae'r lle hwn wedi eistedd yn rhy hir. Mae wedi bodoli'n hirach na'r hyn y dylai fod ei dymor a'i fandad yn fy marn i. Mae angen etholiad arnom ac mae gan bobl Cymru hawl i'r etholiad hwnnw, ac ni ddylem ni fod yn chwilio am wahanol ffyrdd o beidio â chynnal yr etholiad hwnnw ar yr adeg briodol. Nid wyf yn credu ei bod yn gredadwy i unrhyw un ddadlau y gallwn ni ymweld ag archfarchnad poblog neu hyd yn oed cael pryd o fwyd mewn tafarn, ond na allwn ni ymweld â gorsaf bleidleisio. Nid wyf yn credu y bydd pobl Cymru yn derbyn y ddadl honno.
Felly, mae angen i ni chwilio am ffyrdd y gall yr etholiad hwn ddigwydd mewn modd diogel a phriodol, a dyma le yr wyf i'n anghytuno ag arweinydd yr wrthblaid, oherwydd rwy'n credu bod ffyrdd a dulliau i hynny ddigwydd. Rwyf wedi credu ers tro byd fod y traddodiad o gynnal etholiadau ar ddydd Iau yn anacroniaeth y dylem ni edrych y tu hwnt iddo. I mi, byddai'n well gennyf i etholiadau gael eu cynnal, er enghraifft, ar benwythnos, ddydd Sadwrn a dydd Sul, i alluogi pobl i bleidleisio mewn ffordd nad yw'n teimlo dan bwysau o amgylch gwaith a chyfrifoldebau teuluol eraill, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny.
Nid wyf yn rhannu pryderon arweinydd yr wrthblaid, ond rwy'n cydnabod ei bryderon, ynghylch diogelwch y blwch pleidleisio. Rydym ni eisoes, wrth gwrs, yn caniatáu i bleidleisio digwydd dros nifer o wythnosau gyda phleidleisiau post, ac nid yw diogelwch hynny erioed wedi'i ystyried. Ac felly, rwy'n credu bod ffyrdd a dulliau y gallwn ni eu defnyddio i ddiogelu diogelwch y bleidlais, a hoffwn i weld pleidleisio'n digwydd dros nifer o ddyddiau, os oes angen hynny.
Hoffwn i hefyd weld—a dyma lle yr wyf i'n cytuno ag arweinydd Plaid Cymru—ddeddfwriaeth a fyddai'n galluogi etholiad yn gyfan gwbl drwy'r post, os oes angen hynny. Nawr, rwy'n cydnabod bod rhai materion ymarferol iawn gyda hynny, a rhai rhwystrau ymarferol iawn, ond nid wyf yn credu eu bod yn anorchfygol. Rydym ni wedi gweld, yn yr wythnosau diwethaf, sut y mae dyfodiad nifer fwy o bleidleisiau post wedi sbarduno'r nifer a bleidleisiodd yn Unol Daleithiau America, ac er gwaethaf ymdrechion Donald Trump a Darren Millar, ystyrir mai'r etholiad hwnnw yw un o'r etholiadau mwyaf diogel a gynhaliwyd yn hanes y wlad honno. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ffyrdd o wneud hyn.
Y pwynt olaf yr hoffwn i ei wneud yw bod angen nid yn unig etholiad diogel arnom ni, ond bod angen etholiad glân arnom ni. Er nad yw grŵp cynllunio'r etholiad wedi trafod hyn, rwy'n pryderu'n fawr—ac rwyf newydd drafod y mater hwn gyda'r Prif Weinidog yn breifat—am gamddefnyddio data, defnyddio a chamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, a'r arian tywyll a ddefnyddir weithiau mewn ymgyrchoedd etholiadol. Nid wyf yn credu bod y ffordd yr ydym ni yn rheoleiddio ein hetholiadau yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn ddiogel nac yn darparu ar gyfer y rheoliad y dylai fod yn ofynnol mewn democratiaeth. Rydym ni wedi gweld adroddiad yn y Western Mail heddiw am sefydliad braidd yn amheus o'r enw y Centre for Welsh Studies, sy'n defnyddio data mewn pob math o wahanol ffyrdd. Nawr, dydw i ddim yn gwybod beth sy'n digwydd yno, ond rwy'n gwybod digon i wybod fy mod i'n anghyfforddus iawn, yn anghyfforddus iawn â'n sefyllfa ni. Felly, mae angen etholiad diogel arnom ni, ond mae angen etholiad glân arnom ni hefyd. Ond mae'n rhaid i ni gael etholiad. Mae'n rhaid i'r etholiad hwnnw ddod. Mae'n rhaid diddymu'r lle hwn, ac mae'n rhaid i'r bobl gael dweud eu dweud.
Gwnaeth Alun Davies rai pwyntiau synhwyrol am ddiogelwch yr etholiad, ond yna aeth i'r agweddau ehangach ar gynllwynio ynghylch data ac arian tywyll ac etholiadau nad ydyn nhw o dan reolaeth. Oni bai ei fod yn adnabod unigolion y Centre for Welsh Studies a beth yn union y maen nhw'n ei wneud gyda'r data, yna 'mae grymoedd tywyll yn peryglu ein democratiaeth'—nid dyna fy marn i. A dweud y gwir, mae'n chwerthinllyd i'r Aelod gredu mewn cynllwyn o'r fath. Bydd yr etholiad yn ddiogel. Mae consensws ynghylch ein systemau etholiadol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ei gefnogi. Hoffwn i ddiolch hefyd i aelodau'r pwyllgor neu'r panel a oedd yn gweithio gyda'r Prif Weinidog ar y materion hyn. Rwy'n credu ei fod wedi cynnig nifer o syniadau synhwyrol i gefnogi'r nifer sy'n bwrw pleidlais ac etholiad diogel o ran COVID. Mae'n anodd gweithredu rhai o'r rheini heb gydgysylltu â Llywodraeth y DU oherwydd, wrth gwrs, mae etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu wedi'u trefnu ar gyfer yr un diwrnod. Dywedodd Adam Price y gallai Llywodraeth y DU ohirio etholiadau—ie, o ran etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu, ond wrth gwrs mae Tŷ'r Cyffredin wedi'i gyfyngu gan Ddeddf Seneddau Cyfnod Penodol 2011 o ran y tymor pum mlynedd yno.
Hoffwn ddweud fy mod yn ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y ffordd y gwnaeth ymgynghori yn agored ynghylch y broses hon ac am yr amser a roddodd i mi i drafod y materion hyn gydag ef. Nid wyf o'r farn ei fod yn gwneud hyn nac yn cynnig o bosibl i gymryd pwerau o safbwynt pleidiol, ac nid wyf yn gwneud unrhyw awgrym o'r fath. Ond dylai'r etholiad fynd yn ei flaen ar 6 Mai y flwyddyn nesaf; bydd yn bum mlynedd ers yr etholiad diwethaf.
Nawr, fe wnaeth Prif Weinidog y DU ddisgrifio datganoli fel trychineb, ac eto'r pwerau hyn i bennu ein tymor seneddol ein hunain, dim ond cael pleidlais yma ar gynnig Llywodraeth Cymru neu'r Llywydd neu fwyafrif o 50 y cant neu ddwy ran o dair, beth bynnag y penderfynwn ni—rydym ni newydd ymestyn ein tymor ein hunain—a ragwelwyd hynny pan ddechreuodd datganoli? A oedd Boris yn cysgu wrth yr olwyn pan oedd yn Ysgrifennydd Tramor a chytunwyd ar Ddeddf Cymru 2017? Os nad ydych chi eisiau gweld y tymor hwn yn cael ei ymestyn a'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio fel hyn, pam ar y ddaear y gwnaethoch chi eu datganoli?
Rwy'n credu ei bod yn anghywir i ni gymryd neu ddefnyddio'r pwerau hynny, beth bynnag fo'r union ddull. Ac mae mwyafrif o ddwy ran o dair, rwy'n dyfalu, yn well na pheidio â bod â mwyafrif o ddwy ran o dair, ond, y tro diwethaf, y mwyafrif o ddwy ran o dair, pan ailenwyd y sefydliad hwn, drwy'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn pleidleisio, yn fy marn i—wel, rwy'n nodi yr hyn y mae'r Rheolau Sefydlog yn eu dweud o ran didueddrwydd, ond beth ddigwyddodd felly. A ragwelir eto y caiff y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd ymuno â Llafur a Phlaid Cymru unwaith eto i roi'r mwyafrif hwn o ddwy ran o dair? Dylid cael etholiad ar 6 Mai. Ni ddylid bod â deddfwriaeth i'w ohirio. Mae'n anghywir; ni ddylem ni wneud hynny.
Fe wnaf ddechrau trwy gytuno â Mark Reckless y dylid cynnal etholiad, yn wir, ar 6 Mai. Rwy'n credu, mewn sawl ffordd, ein bod ni i gyd yn cytuno ar hynny. Y broblem yw—beth oedd yr ymadrodd hwnnw gan Donald Rumsfeld—y pethau anhysbys hysbys a'r pethau anhysbys anhysbys hefyd. Rydym yn sylweddoli y gallem ni fod mewn sefyllfa yma lle mae rhywbeth yn ei gwneud yn amhosibl cynnal yr etholiad hwnnw ar 6 Mai. Rwyf eisiau iddo fynd yn ei flaen; rwy'n credu bod pawb yma yn y Senedd eisiau i'r etholiad hwnnw fynd yn ei flaen.
Rwy'n cytuno â phwynt Alun, sef ein bod wedi cyrraedd pwynt lle mae angen adfywiad, adnewyddiad a mandad democrataidd ar gyfer Senedd newydd i Gymru—yn gwbl gywir. Ond rwy'n credu bod angen i ni hefyd fod â'r opsiwn sicrwydd wrth gefn hwnnw yn y cefndir rhag ofn ein bod yn y sefyllfa lle na allwn ni ei gynnal yn ddiogel. Nawr, nid wyf i'n rhagweld y bydd hynny'n digwydd. Rwy'n credu bod ffyrdd o wneud hyn yn ddiogel a soniwyd eisoes bod gwledydd eraill sydd wedi gallu gwneud hyn, hyd yn oed yng nghanol pandemig COVID. Ond rwy'n credu, o ystyried yr opsiwn hwnnw, er ei bod yn rhaid iddo fod yn ddewis olaf llwyr pan fydd popeth arall wedi methu, pan na ellir ei gynnal yn ddiogel, rwy'n credu mai dyma'r peth synhwyrol i'w wneud, mae'n debyg, oherwydd oni fyddai'n hurt cyrraedd y pwynt hwnnw a gweld nad ydym ni wedi rhoi'r dulliau i ni'n hunain gymryd yr opsiwn hwnnw pe byddai mwyafrif llethol y Senedd yn penderfynu hynny?
Ond hoffwn i ddiolch i aelodau'r grŵp cynllunio etholiadau, gan gynnwys yr arweinwyr gwleidyddol a ymgysylltodd â ni, oherwydd rwy'n credu ei fod wedi cyflwyno cyfres ymarferol o gynigion, ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf ohonyn nhw—gallai rhai, mae'n debyg, fynd yn eu blaen ychydig. Rwy'n falch, mewn ffordd ymarferol, eu bod nhw wedi ystyried rhoi mwy o hyblygrwydd o ran gwneud cais i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy, wrth roi'r mesurau diogelu ar waith. Rwy'n credu bod hynny'n ffordd synhwyrol ymlaen i sicrhau y gallwn ni yn wir gynnal yr etholiad hwnnw ar 6 Mai.
Rwy'n falch, ond byddai gennyf ddiddordeb yn yr amserlen ar gyfer hyn, eu bod yn mynd i edrych ar hyrwyddo pleidleisio drwy'r post er mwyn tynnu rhywfaint o'r pwysau oddi ar y diwrnod pleidleisio—neu'r diwrnodau pleidleisio, fel y deallwn ni yn awr—fel na fydd yn rhaid i bobl â chyflyrau iechyd sy'n agored i niwed neu o oedran penodol, os ydyn nhw'n poeni, fynd i orsaf bleidleisio, gallan nhw, yn wir, bleidleisio drwy'r post. Ond byddai gennyf i ddiddordeb, fel y mae eraill wedi ei ddweud, mewn gwybod pryd fydd hynny'n digwydd a phryd bydd yr ymgyrch hwnnw i argyhoeddi pobl bod hynny'n opsiwn ymarferol yn mynd i ddigwydd.
Ond hoffwn i sôn am un neu ddau o bethau y gwnaeth y Prif Weinidog sylwadau arnyn nhw. Roedd yn ddiddorol eich bod wedi crybwyll, Prif Weinidog, y ffaith y gallech chi edrych ar ddiwrnodau pleidleisio ychwanegol cyn union ddyddiad yr etholiad. Yn rhyfedd iawn, roeddwn i'n mynd i ddadlau, fel yr wyf i wedi dadlau'n draddodiadol, y dylem ni, fel y dywedodd Alun Davies, edrych mewn gwirionedd ar beidio â'i wneud ar un diwrnod yn unig ond ar ddau neu dri diwrnod a fyddai'n fwy cyfleus i bobl. Rwy'n credu bod democratiaeth, y dyddiau hyn, iawn mae'n rhaid iddi fod—nid hawl yn unig ydyw, mae'n gyfrifoldeb, ond dylid rhoi'r opsiynau i bobl allu gwneud hyn yn hawdd, yn enwedig yng nghanol COVID. Ond rydych chi wedi awgrymu yn y fan yna y byddwch chi'n rhoi diwrnodau ychwanegol cyn dyddiad yr etholiad. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol synhwyrol ac ymarferol. Mae'n golygu y gall pobl wneud dewis, er mwyn gwneud i'r etholiad hwn ddigwydd ar y dyddiad yr ydym ni eisoes wedi penderfynu arno a pheidio â mynd am estyniad, y gallen nhw fynd i mewn yn gynharach ac osgoi'r ofnau a allai fod ganddyn nhw o sefyll mewn ciw neu beryglu eu hiechyd mewn unrhyw ffordd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol iawn.
Y rhan yr wyf yn cytuno ag Alun arno yw—rwy'n chwilfrydig ynghylch pam yr ydym wedi dileu'n llwyr y syniad o fynd ymhellach fyth ar y pleidleisiau drwy'r post eu hunain. Oherwydd os ydym ni mewn sefyllfa lle mae'r dewis rhwng gohirio etholiad am chwe mis neu fod wedi annog pobl i gofrestru i bleidleisio drwy'r post yn eu miloedd, rwy'n gwybod pa un y byddai'n well gennyf i. Ar y sail y dylem ni fod yn cynnal yr etholiad hwn ar y diwrnod yr ydym ni wedi penderfynu arno y byddwn i'n pwyso ymhellach fyth am fwy o bleidleisio drwy'r post ymlaen llaw. Ond, yn absenoldeb hynny, rwy'n credu mai'r cynllun wrth gefn yw'r un iawn—y cynllun wrth gefn o orfod dod yn ôl i'r Senedd. Yr hyn y byddwn i'n ei ofyn yn y sefyllfa honno, Prif Weinidog, yw pa un ag oes angen cyflwyno dyddiad i'r Senedd, felly, oherwydd mae hwnnw hyd at chwe mis. Fy newis i fyddai'r tymor byrraf posibl, yn seiliedig ar y cyngor meddygol a gwyddonol sydd ar gael bryd hynny, yn seiliedig ar ragamcaniadau, ond y byddai dyddiad yn cael ei gyflwyno i'r Senedd o fewn y cynnig hwnnw gan y Llywydd, pe bai'n cael ei gyflwyno.
Ond, i gloi, gadewch i mi ddiolch i'r rhai hynny sydd wedi dod â hyn at ei gilydd. Mae hwn yn un anodd, oherwydd mae'n gywir bod yn rhaid i ni adnewyddu ein mandad democrataidd. Mae'n gwbl iawn ein bod ni'n ceisio anelu at 6 Mai. Y meysydd lle y byddwn yn gwyro oddi wrth Mark Reckless a hefyd oddi wrth lefarydd y Ceidwadwyr yn gynharach, yw dweud fy mod yn credu bod angen i ni hefyd gymryd cynllun wrth gefn yma, oherwydd efallai y cawn ni ein hunain mewn sefyllfa lle na allwn ni gynnal yr etholiad ar 6 Mai. Dydw i ddim yn credu ei fod yn debygol ar hyn o bryd, ond mae'n bosibl, ac, o'r herwydd, mae angen i ni fod â cham ymarferol ar waith a fyddai'n caniatáu i ni fynd y tu hwnt, os oes angen. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Nid oes gennyf i unrhyw un sydd eisiau ymyrryd, ac felly galwaf ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd, doedd y botwm dad-dawelu ddim yn fodlon gweithio. Felly, diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Fy man cychwyn yw'r un a nodais yn fy sylwadau agoriadol: rwyf eisiau bod ag etholiad ar 6 Mai. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rwy'n credu bod angen adnewyddiad democrataidd ar y Senedd. Rwy'n credu ei bod yn iawn i bobl yng Nghymru allu dewis y cynrychiolwyr y maen nhw eu heisiau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod a'i wneud yn unol â'r amserlen arferol. Dyna fy man cychwyn yn sicr.
Os ydym ni i gynnal etholiadau ym mis Mai y flwyddyn nesaf, byddwn ni yn dal i'w cynnal nhw dan gysgod y coronafeirws. Ni fydd wedi diflannu, bydd yn dal i fod â rhan bwysig iawn ym mywyd pawb, a dyna pam yr ydym ni'n cynnig diwygio'r rheolau ar gyfer etholiad ym mis Mai i roi cyfleoedd pellach i bobl gymryd rhan ac arfer eu hawliau democrataidd, boed hynny drwy bleidleisio drwy'r post neu bleidleisio drwy ddirprwy, neu drwy gael dyddiau estynedig ar gyfer pleidleisio. Nid yw'n ddigon da i arweinydd yr wrthblaid ddadlau dros etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac yna anwybyddu'r amodau ar gyfer ei gynnal. Doeddwn i ddim yn gallu credu gwendid ei ddadl yn erbyn mwy o ddyddiau i bleidleisio. Os bydd yn rhaid i ni gau cwrt badminton am ychydig o ddyddiau er mwyn caniatáu i bobl yng Nghymru bleidleisio'n ddiogel, nid wyf yn credu bod hynny'n bris y dylem ni ei osgoi. Mae'r pethau hyn yn gwbl ymarferol yn y modd hwnnw.
Rydym ni'n gwybod bod yna bobl yng Nghymru sy'n ofni am eu hiechyd eu hunain oherwydd y coronafeirws. Gobeithio y byddan nhw'n defnyddio pleidlais bost, ond, i rai pobl, mae mynd i'r orsaf bleidleisio a bwrw eich pleidlais yn bersonol yn rhan bwysig iawn o'u cyfraniad i ddemocratiaeth, ac yr wyf i eisiau iddyn nhw allu gwneud hynny ym mis Mai y flwyddyn nesaf heb ofni y gallan nhw beryglu eu hunain drwy wneud hynny, ac mae dyddiau estynedig o allu pleidleisio dim ond yn cynnig yr opsiynau hynny i bobl fynd ar adegau tawelach, nid i deimlo y byddan nhw'n ciwio gyda llawer o bobl eraill. Mae'n syml iawn—. Rwy'n credu mai Huw Irranca-Davies a ddywedodd mai estyniad ymarferol ydoedd i sicrhau y gellir cynnal etholiad o'r fath yn ddiogel.
Nid wyf yn rhannu pryderon arweinydd yr wrthblaid am fwy o bleidleisio trwy ddirprwy, ond mae ef yn adleisio, fe wyddom ni, y thema atal pleidleiswyr y mae ei blaid wedi'i mabwysiadu gan eu ffrindiau yn America. Rwy'n benderfynol y byddwn ni, wrth gynnal etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesaf, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gall pob dinesydd o Gymru sy'n dymuno cymryd rhan wneud hynny ac y gallan nhw arfer eu hawliau democrataidd, a dyna ochr y ddadl y bydd Llywodraeth Cymru yn pwyso a mesur.
Wrth gwrs, nid Llywodraeth Cymru sy'n cynnal yr etholiadau, ac ni ddylem ni ychwaith. Cynhelir etholiadau gan swyddogion canlyniadau yn y gwahanol awdurdodau lleol, ac nid fy lle i yw ateb nifer o'r cwestiynau a ofynnwyd yn ystod y ddadl. Byddai'n gwbl amhriodol pe byddem nhw ar fy nghyfer i. Mater i'r bobl sy'n gyfrifol, nad ydyn nhw'n aelodau o unrhyw blaid wleidyddol ac nad oes ganddyn nhw fuddiant o'r math hwnnw mewn etholiad, yw gwneud y penderfyniadau ymarferol hynny. Rhan o'r rheswm dros sefydlu grŵp a oedd yn cyfuno pleidiau gwleidyddol â gweinyddwyr etholiadau yw sicrhau bod y rhai hynny y mae'n rhaid iddyn nhw, yn y pen draw, gynnal ein hetholiadau, yn gwneud hynny wedi'u llywio gan farn y rheini ohonom ni sy'n cymryd rhan ym musnes ymarferol democratiaeth.
Y gwahaniaeth mwyaf yn y drafodaeth yw a oes angen i ni gymryd y cam rhagofalus o ddod â Bil gerbron y Senedd ai peidio, yn erbyn y posibilrwydd sydd o bosib yn fach, ond sy'n amhosibl ei anwybyddu y gallai amgylchiadau ym mis Mai y flwyddyn nesaf fod mor anodd fel na fyddai'n bosibl cynnal etholiad yn ddiogel ac yn agored yn ddemocrataidd. Unwaith eto, mae arweinydd yr wrthblaid yn dweud na all weld unrhyw reswm pam na allai ddigwydd, ac eto roedd ei Lywodraeth ef, yn gynharach eleni, yn gweld pob rheswm pam y bu'n rhaid gohirio etholiadau ar gyfer awdurdodau lleol, meiri, comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn Lloegr.
Y cyfan yr ydym ni'n ei ddweud yw y dylai'r Senedd fod â'r un trefniant wrth gefn rhag ofn y gallai fod yn angenrheidiol. Prin ein bod bythefnos allan o'r cyfnod atal byr a gawsom ni yma yng Nghymru, lle'r oedd pobl wedi'u gorchymyn i aros gartref a pheidio â gadael eu cartrefi heblaw am nifer cyfyngedig iawn o resymau. A yw'n bosibl i unrhyw un yn y Senedd hon fod mor gwbl hyderus fel eu bod yn gwybod am drywydd y coronafeirws dros y misoedd i ddod fel y gallan nhw ddweud wrthym heb unrhyw amheuaeth o gwbl na fyddwn ni efallai'n wynebu'r mathau hynny o anawsterau eto'r flwyddyn nesaf? Rwy'n gobeithio'n llwyr na fyddwn ni, rwyf i yn sicr eisiau bod ag etholiad ar 6 Mai, ond ni fyddai'n gyfrifol—ni fyddai'n gyfrifol o gwbl i beidio â dod i'r Senedd gyda chynigion a fyddai'n caniatáu i'n hetholiad gael ei gynnal mewn ffordd ddiogel, mewn ffordd drefnus, a chyda'r cyfle gorau posibl y bydd pobl yng Nghymru'n teimlo y gallan nhw gymryd rhan ynddo. Dywedodd Adam Price na allwn ni gymryd unrhyw beth yn ganiataol, ac rwy'n cytuno â hynny. Rwy'n credu ei fod yn gam rhagofalus synhwyrol a chyfrifol i'w gymryd. Rydym ni'n cynnwys mesurau diogelu ynddo, fel yr awgrymais yn fy sylwadau agoriadol. Byddai'n rhaid i'r Llywydd gyflwyno cynigion, byddai'n rhaid iddyn nhw sicrhau mwyafrif o ddwy ran o dair ar lawr y Senedd, a byddai pob Aelod yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar y pryd pe byddai'r amgylchiadau hynny'n berthnasol.
Yn olaf, Llywydd, mae nifer o'r Aelodau wedi codi mater etholiad a fyddai'n gyfan gwbl drwy'r post. Ni chafodd ei godi gan unrhyw blaid wleidyddol yn ystod ystyriaethau'r grŵp, hyd y gwn i. Yn sicr, nid oes unrhyw beth yn ei gylch yn adroddiad y grŵp, felly nid yw'n fater lle gallaf gynghori'r Senedd gan nad yw, hyd y gwn i, wedi'i ystyried gan y grŵp a sefydlwyd i ystyried hyn. Rwy'n gwybod nad yw pawb yn barod i bleidleisio drwy'r post, ac, er y gall fod rhai manteision i etholiadau sy'n gyfan gwbl drwy'r post, nid wyf yn credu y dylem ni wneud rhagdybiaeth hawdd taw dim ond manteision sydd yna ac nad oes anfanteision. Yn sicr, hoffwn i weld cyngor swyddogion canlyniadau a'r bobl hynny y byddai'n rhaid iddyn nhw wireddu'r uchelgais hwnnw'n ymarferol cyn cynghori Aelodau yma ohonynt.
Yn y cyfamser, gofynnir i'r Aelodau nodi adroddiad y grŵp, ac rwy'n ategu y diolchiadau y mae eraill wedi'u rhoi i gynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol, ond yn enwedig i'r rheini sy'n gyfrifol am gynnal etholiadau'n ddiogel ac yn briodol, am y cyngor y maen nhw'n ei roi i ni. Rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at y mater hwn dros y misoedd sydd i ddod.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad, felly gohiriwn bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn gohirio'r cyfarfod yn awr cyn symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio, a bydd cymorth TGCh wrth law i helpu gydag unrhyw faterion yn ystod y cyfnod hwn.