2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. O ran rôl Llywodraeth Cymru yn y cytundeb Brexit, mae'n amlwg fod llawer o weithgarwch prysur iawn—rydym i gyd wedi gweld hynny ar ein sgriniau teledu yn ystod y dyddiau diwethaf, y swper olaf heno ac yn y blaen—a gaf fi ofyn serch hynny, o safbwynt y Gweinidog, yn ystod y dyddiau a'r oriau olaf hyn, Weinidog, a allech chi amlinellu pa rôl rydych wedi'i chael ar ran Llywodraeth Cymru yn bwydo i mewn i'r sefyllfa sy'n mynd rhagddi i sefyll dros fuddiannau Cymru, neu a ydych wedi cael eich gwthio i'r ymylon eto?
Wel, yn fwyaf diweddar, mynychais gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, ddydd Iau diwethaf, lle gwneuthum y pwynt ynglŷn â'n blaenoriaethau fel Llywodraeth ar ran pobl Cymru, yn ogystal â chodi cwestiynau am lefelau cynnydd mewn perthynas â gwahanol agweddau ar negodi. Gwneuthum y pwynt mai'r peth hanfodol ar hyn o bryd, i'r ddwy ochr gyda llaw, oedd dangos hyblygrwydd, ond yn benodol, gan mai rhwymedigaeth Llywodraeth y DU yw gofalu am fuddiannau economaidd pobl y DU, y dylent roi'r flaenoriaeth i swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru, yn hytrach nag ar gysyniad afreal sofraniaeth.
Diolch ichi am hynny, ac os symudaf ymlaen yn awr at y gronfa ffyniant gyffredin, y cyfeiriwyd ati fwy nag unwaith heddiw. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, eich bod wedi cyhoeddi fframwaith newydd yn ddiweddar ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, fframwaith a fydd ar waith erbyn i gronfeydd yr UE ddechrau diflannu ddiwedd eleni. Weinidog, daeth eich datganiad diweddar ynglŷn â hyn i'r casgliad canlynol, ac rwy’n dyfynnu:
'mae ein gwaith o gyflawni'r Fframwaith hwn yn dibynnu ar ymgysylltu cadarnhaol â Llywodraeth y DU—rhywbeth sydd heb ei ganiatáu inni hyd yma. Rhaid i Gymru gael cyllid llawn sy’n parchu ein setliad datganoli.'
O ystyried lefel y mewnbwn a gawsoch felly, neu’r diffyg mewnbwn yn hytrach, yn rhan o broses negodi cytundeb Brexit dros y blynyddoedd, beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydd y sefyllfa yma'n wahanol yn y pen draw?
Wel, rwy'n gobeithio na fydd yr Aelod gweld gormod o hyder yn fy natganiad, oherwydd yn anffodus, mae'r profiad o geisio cael gwybodaeth am y meddylfryd sy'n sail i'r gronfa ffyniant gyffredin wedi bod yn un anodd. Fel Llywodraeth, fel y mae ei gwestiwn yn ei gydnabod rwy’n credu, rydym wedi ceisio dyfeisio trefniadau olynol mewn cydweithrediad â phobl yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny, o gofio pa mor bwysig ydynt, mae sylfaen eang o gefnogaeth i'r dull rydym yn ei hyrwyddo. Yn bersonol, pan fydd Llywodraeth y DU yn gallu darllen a dadansoddi'r darpariaethau a'r argymhellion yn y fframwaith hwnnw, credaf y byddant yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i gynigion na fyddent eisiau eu cefnogi ynddo a bod yn onest oherwydd bod eu ffocws ar annog busnesau cynhyrchiol, cefnogi cyflogaeth, ac yn y blaen, a gwn fod y pethau hynny ar eu rhestr hwy o flaenoriaethau hefyd. Felly, byddwn yn dweud y dylai Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod yr addewidion a wnaed i bobl Cymru yn cael eu cadw, o ran sut y caiff yr arian ei wario, ond hefyd, yn hollbwysig, o ran beth yw'r arian hwnnw. Wrth i ni sefyll yma heddiw, mae'r addewidion hynny wedi'u torri, ond nid yw'n rhy hwyr i gymryd cam yn ôl a rhoi trefniadau ar waith sy'n bodloni'r ymrwymiadau a wnaed i bobl Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. A gaf fi droi i orffen at y Bil marchnad fewnol rydym newydd fod yn ei drafod? Yn amlwg, pleidleisiodd y Senedd i atal ei chydsyniad i'r Bil hwn yn gynharach. Mae San Steffan yn annhebygol o wrando. Mae ganddi hanes o beidio â gwrando arnom fel Senedd pan fyddwn yn pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol. Felly, y cwestiwn sy'n codi yw: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd nesaf i ddiogelu datganoli ac amddiffyn democratiaeth Cymru—[Anghlywadwy.]—setliad datganoli dros y misoedd diwethaf? Os na, a fyddai'n agored i wneud hynny nawr?
Ni chlywais y cwestiwn cyfan, ond rwy'n credu ei fod yn gofyn i mi pa gamau y byddem yn eu cymryd, ac rwyf wedi bod yn glir iawn y byddwn yn cymryd pob cam sydd ar gael i ni yn gyfreithiol i ddiogelu pwerau'r Senedd hon. Credaf na ddylem dybio—. Wel, ni ddylem ganiatáu'r argraff fod bwrw ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad y deddfwrfeydd datganoledig yn y DU yn ffordd dderbyniol i Lywodraeth y DU weithredu. A bod yn onest, fe wyddom fod angen ailwampio confensiwn Sewel o ran sut y mae'n gweithredu, ond wrth ei wraidd mae'r egwyddor na ddylid herio penderfyniadau'r Seneddau datganoledig heblaw mewn sefyllfaoedd eithafol iawn. Ac yn sicr nid yw'r amgylchiadau hyn yn cyrraedd y bar uchel iawn hwnnw, ac rwy'n ei ddisgrifio fel bar uchel iawn oherwydd gwn mai dyna sut y bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ei ddisgrifio hefyd.
Diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU ynghylch cytundebau masnach y tu allan i'r UE?
Gwnaf, yn sicr. Y prynhawn yma, tua 4 o'r gloch, byddaf yn mynychu cyfarfod nesaf y fforwm gweinidogol ar gyfer masnach, ac rwy'n disgwyl trafod ystod eang o faterion gyda'r Gweinidog perthnasol yn y fforwm hwnnw.
Rwy'n falch iawn eich bod yn cymryd rhan yn y fforwm hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi sefydlu llawer o gytundebau masnach y tu hwnt i'r UE ym mhob cwr o'r byd, yn amrywio o wledydd fel Periw a Japan i Israel a De Korea. Yn ogystal â hynny, mae ymgysylltu'n parhau gyda dwsin o wledydd eraill, gan gynnwys Mecsico, Singapore a Thwrci, ac mae'n amlwg iawn fod cytundebau masnach ar ôl Brexit yn cael eu paratoi i gyflawni disgwyliadau pobl pan wnaethant bleidleisio dros Brexit yn ôl yn 2016. Ac rwy'n obeithiol iawn y gallwn ni yma yng Nghymru fanteisio ar y cytundebau hynny.
Gwn fod y cyn-Weinidog cysylltiadau rhyngwladol wedi cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi hefyd yn parhau â'r gwaith hwnnw. Mae'r cyn-Weinidog a oedd yn gyfrifol am y portffolio masnach rhyngwladol wedi cydnabod yr ymgysylltiad, yr ymgysylltiad cadarnhaol, a ddigwyddodd ar y cytundebau masnach hyn. A gaf fi ofyn ichi: pa waith rydych yn ei wneud ar draws y Llywodraeth i sicrhau y gall Cymru fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r cytundebau masnach hyn yn eu cynnig ar 1 Ionawr?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'n gywir i ddweud, rwy'n credu, fod tua 22 o gytundebau wedi'u llofnodi, mae tua phump ar y gweill, ac mae tua 12 i'w datblygu o hyd. Yr hyn sy'n nodwedd gyffredin ym mhob un yw eu bod yn gytundebau parhad. Felly, i bob pwrpas, maent yn waith sylweddol iawn i gynnal y sefyllfa bresennol. Felly, mae'n bwysig ac yn hanfodol ein bod yn gallu eu cynnal, ond mae hefyd yn ymdrech enfawr i gynnal y trefniadau hynny sy'n bodoli'n barod. A gwn ei fod hefyd yn dymuno gweld cyfleoedd ar ben y rheini hefyd, ac yn amlwg rydym eisiau gweld hynny hefyd.
Ein gweledigaeth yw sicrhau ein bod yn cynrychioli buddiannau allforwyr Cymru yn ein trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, fel y gallwn sicrhau bod y rheini'n cael eu hystyried yn y negodiadau hynny. Rwy'n credu y bydd wedi gweld, efallai, yr asesiad a gyhoeddais ddoe mewn perthynas ag effaith cytundeb Japan ar economi Cymru, er enghraifft. Felly, bydd wedi gweld y dystiolaeth yn y fan honno, rwy'n credu, o'n dadleuon ni fel Llywodraeth. Gwn fod fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr economi, hefyd yn buddsoddi ymhellach mewn cynghorwyr masnach rhyngwladol, fel y gall busnesau ac allforwyr yng Nghymru gael y cyngor gorau i'w cefnogi pan nad ydynt yn cael y cymorth hwnnw'n fewnol. Wrth gwrs, rhan o'u rôl fydd cynorthwyo ein hallforwyr sy'n wynebu biwrocratiaeth newydd o ganlyniad i'r trefniadau masnachu y mae Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno, ac yn amlwg unwaith eto, mae hwnnw'n waith sy'n rhedeg er mwyn aros yn yr unfan yn yr ystyr hwnnw, ond wrth edrych y tu hwnt i hynny, bydd cymorth ar gael gan y Llywodraeth i allforwyr lle bynnag y dymunant allforio.
Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod y gwaith cadarnhaol, fel y dywedais, ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod yn cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud nid yn unig i ymgysylltu â'r gwledydd hynny lle mae gennym drefniadau masnach drwy'r trefniadau parhad ar gyfer masnach, ond hefyd y gwledydd newydd y byddwn yn masnachu â hwy ar sail masnach rydd ar ôl 1 Ionawr. Roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthyf am sefyllfa Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chytundebau masnach â Chanada, Seland Newydd ac Awstralia yn y dyfodol. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed a ydych wedi gwneud unrhyw waith i nodi buddiannau Cymreig penodol mewn perthynas ag unrhyw gytundebau masnach y gellid eu gwneud, ac unrhyw sylwadau y gallech fod wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Fel y gwyddoch, cafwyd cefnogaeth sylweddol ymhlith y cyhoedd ar draws y DU i gytundeb masnach tebyg i CANZUK. Mae llawer o arweinwyr busnes wedi galw am y math hwnnw o gytundeb masnach, ac mae llawer o wleidyddion wedi'i gefnogi ar sail drawsbleidiol hefyd. Felly, o ystyried bod hwnnw'n gytundeb masnach posibl y gallem ei weld yn y dyfodol, byddai'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol nawr ac yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ef. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa fath o drafodaethau sydd wedi'u cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â manteision posibl masnach ar ffurf CANZUK?
Mae Llywodraeth y DU yn arwain ar drafodaethau masnach rhyngwladol, fel y gwn y byddai'n derbyn, ac fel y byddwn yn dychmygu y byddai'n ei gefnogi. Felly, ein tasg fel Llywodraeth yw bwydo safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran economi Cymru, a busnesau Cymru, allforwyr Cymru, i'r trafodaethau hynny. Dyma'r mathau o bethau a fydd ar agenda'r drafodaeth heddiw.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn edrych ar hyn yn y cyd-destun byd-eang. Byddwn eisiau sicrhau y bydd unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol o'r math y mae'n eu disgrifio yn sicrhau'r budd mwyaf posibl i allforwyr yng Nghymru, ond hefyd i fusnesau a chynhyrchwyr sydd eisoes yng Nghymru. Felly, er enghraifft, ceir penderfyniadau anodd sy'n codi wedyn yng nghyd-destun cynnal negodiadau masnach gydag allforwyr amaethyddol pwysig, ac mae Awstralia a Seland Newydd yn y categori hwnnw. Felly, mae'r penderfyniadau'n eithaf anodd eu gwneud yn aml, ond ein blaenoriaeth fel Llywodraeth yw sicrhau'r cyfle mwyaf i Gymru, i economi Cymru.
Ond rwy'n credu fy mod eisiau ei roi yn y cyd-destun y byddai hyd yn oed Llywodraeth y DU yn dweud bod effaith economaidd y negodiadau masnach hynny i'r DU yn debygol o fod yn ffracsiynau o 1 y cant. Nid yw hynny'n golygu na ddylid mynd ar eu trywydd, dylid mynd ar eu trywydd yn sicr, ond nid wyf yn credu y byddai'n iawn inni annog pobl i ddisgwyl y gall y cytundebau masnach hynny ynddynt eu hunain wneud iawn am absenoldeb perthynas fasnachu dda â'n bloc masnachu mwyaf ar draws y sianel, gan ein bod yn siarad am wahanol raddfeydd yma, fel y gwn y bydd yn ei dderbyn.