10. & 11. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth a Chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

– Senedd Cymru am 4:56 pm ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:56, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Cynnig NDM7557 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.95 yn:

Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a gyflwynir yn y Senedd, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.

Cynnig NDM7558 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn:

Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw'n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel ag y mae yn yr Amserlen ar gyfer ystyried Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a osodwyd gerbron y Senedd ar 19 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynigion.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:57, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi blino ar ddweud a chlywed y gair 'digynsail', ond mae'n wir serch hynny bod pandemig y coronafeirws yn parhau i'n hwynebu gyda dewisiadau a phenderfyniadau na fyddem, mewn amgylchiadau eraill, yn sicr wedi'u hystyried ac y byddem wedi gorfod dod i arfer â byw gyda'r ansicrwydd hwnnw.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 6 Mai. Rwyf eisiau bod yn gwbl glir mai polisi'r Llywodraeth yw y dylai ddigwydd fel y trefnwyd ac rwyf eisiau i bawb sy'n ymwneud â'r etholiad baratoi ar y sail honno. Mae ar y Senedd angen Llywodraeth sydd â mandad newydd ar frys, yn enwedig i sefyll gydag awdurdod newydd yn erbyn ymdrechion digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio datganoli. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ymdrechion enfawr sy'n cael eu gwneud gan swyddogion canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol i sicrhau y gellir cynnal y bleidlais yn ddiogel ym mis Mai, a hoffwn fynegi fy niolch iddyn nhw. Serch hynny, er gwaethaf y ffaith bod lefelau'r haint yn dechrau gostwng, ni allwn ni heddiw fod yn sicr y bydd modd cynnal pleidlais ym mis Mai. Mae'r pandemig yn peri risg a allai atal pleidleiswyr rhag pleidleisio, boed hynny oherwydd salwch neu'r angen i gydymffurfio â'r gofynion i hunanynysu, neu oherwydd yr ofnau sydd ganddyn nhw ynghylch diogelwch mynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio'n bersonol. Yn yr un ffordd, mae lefelau uchel o salwch hefyd yn peri'r risg o beidio â chael digon o staff ar gael i weinyddu'r bleidlais, gyda hynny yn ei dro yn peryglu uniondeb yr etholiad ei hun.

Dirprwy Lywydd, dyna pam y gwnaethom ni sefydlu'r grŵp cynllunio etholiadau, a adroddodd ym mis Tachwedd yn cynnig addasiadau i ymateb i effeithiau'r feirws. Rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau y gweithredir y rhain a mesurau eraill i wneud etholiadau'n fwy diogel. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno dulliau cadw pellter cymdeithasol a hylendid mewn gorsafoedd pleidleisio, yn ogystal ag annog cofrestru ar gyfer pleidleisio absennol fel nad oes angen i bleidleiswyr fod yn bresennol yn bersonol os nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Ond gan fod y rheolau ar gyfer ein hetholiadau wedi'u nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, rydym ni wedi dod i'r casgliad bod angen i ni roi deddfwriaeth ar waith a fydd yn galluogi gohirio'r etholiad os—a dim ond os—yw'r Senedd yn cytuno bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ei gwneud hi'n amhosibl bwrw ymlaen.

Mae'r Bil hwn, os caiff ei basio, yn galluogi cytuno ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer gohirio'r etholiad pan fetho popeth arall pe bai'r pandemig yn fygythiad difrifol i gynnal yr etholiad yn ddiogel ac yn deg. Mater i'r Llywydd fydd cynnig dyddiad ar gyfer y bleidlais os bydd cynnig gan y Prif Weinidog i'w ohirio. Rhaid i'r dyddiad newydd a bennir ar gyfer yr etholiad fod o fewn chwe mis i 6 Mai ac mae angen cymeradwyaeth y Senedd drwy fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd. Fel amddiffyniad pellach, mae'r Bil yn cynnig swyddogaeth i'r Comisiwn Etholiadol mewn cysylltiad â gohirio. Os bydd y Llywydd neu'r Prif Weinidog yn gofyn, rhaid i'r Comisiwn Etholiadol roi cyngor iddyn nhw ar fater gohirio.

Felly, mae'r Bil hwn yn cynnwys llawer o fesurau diogelu i sicrhau bod gohirio nid yn unig yn cael ei ystyried mewn amgylchiadau gwirioneddol ddigynsail, ond os na fyddwn yn cyflwyno'r darpariaethau hyn, byddwn yn colli dewis wrth gefn pwysig wrth ymateb i'r pandemig. Rwyf i a'm cyd-Weinidogion yn credu'n gryf mewn gwneud pleidleisio'n haws ac yn fwy hyblyg, a byddwn wedi hoffi cyflwyno darpariaethau ar gyfer pleidleisio cynnar er mwyn rhoi mwy o ddewis i bobl o ran pryd i bleidleisio'n bersonol, ond rydym wedi derbyn cyngor y gymuned etholiadol y bydd etholiad y Senedd, fel y mae pethau, ac o dan yr amgylchiadau lle bydd etholiad y Senedd yn digwydd ar yr un pryd ag etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throseddu, sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ni ellir cyflawni hyn ar gyfer 6 Mai. Byddwn yn parhau i adolygu pleidleisio cynnar os caiff yr etholiad ei ohirio. Mewn amgylchiadau eithriadol o'r fath, rhaid inni ystyried pob dewis i alluogi pleidleiswyr i gymryd rhan yn yr etholiad. Felly, efallai y byddwn yn dychwelyd at hyn yng Nghyfnod 2.

Er bod y pwyslais yn y cyfryngau wedi bod ar ddyddiad yr etholiad ei hun, mae'r Bil hwn hefyd yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol pwysig eraill a fydd yn cynyddu'r hyblygrwydd ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy ac yn darparu amser ychwanegol o fewn yr amserlen ar ôl yr etholiad os bydd oedi yn y cyfrif.

Mae'r Bil yn byrhau cyfnod y diddymiad er mwyn sicrhau y gellir galw'r Senedd yn ôl hyd yn oed ar ôl i'r ymgyrch etholiadol ddechrau os yw'n hanfodol iddi gyfarfod i ystyried busnes iechyd cyhoeddus brys ynglŷn â'r coronafeirws neu bennu'r dyddiad ar gyfer yr etholiad os bydd yn rhaid gohirio'r etholiad yn y pen draw. Mae diddymiad byrrach yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau ar ohirio yn nes at ddyddiad yr etholiad arfaethedig ac y gall y Senedd barhau i ymateb i'r pandemig, os bydd amgylchiadau'n mynnu bod hynny'n digwydd. Rydym i gyd yn rhy gyfarwydd â natur anrhagweladwy'r pandemig sy'n datblygu. Byddwn yn trafod gyda'r Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer busnes y Senedd yn ystod y cyfnod pan fyddai'r Senedd fel arfer yn cael ei diddymu, ond byddwn yn rhagweld na fyddem yn cyfarfod ar gyfer busnes arall ac eithrio gohirio'r etholiad nac ystyried newidiadau brys i ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â COVID.

Hyd yma, mae'r pandemig wedi gofyn am ddull cyflym a phragmatig, a fydd yn gofyn i ni gyd yn gynrychiolwyr etholedig ganolbwyntio'n fanwl er mwyn ymdrin â'r sefyllfa sy'n newid yn gyflym. Dyna pam yr ydym ni hefyd yn cynnig bod darpariaethau, wrth gefn, yn cael eu cynnwys i ohirio isetholiadau llywodraeth leol ymhellach.

Natur anrhagweladwy'r pandemig sy'n fy arwain i alw arnoch i gytuno i'r cynnig hwn heddiw a chaniatáu inni fwrw ymlaen â'r Bil hwn o dan weithdrefn y Bil brys. Fel Llywodraeth, byddai'n well gennym allu defnyddio proses arferol y Bil i ganiatáu i'r Senedd graffu'n llawn ar y Bil hwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymarferol yn yr amser sydd ar gael.

Gyda'r etholiad yn prysur agosáu, mae'n well rhoi unrhyw newidiadau i gyfraith etholiadol ar waith ymhell cyn y diwrnod pleidleisio. Mae hyn yn bwysig o ran cynorthwyo gweinyddwyr etholiadol i baratoi ar gyfer yr etholiad a rhoi eglurder iddyn nhw gyflawni eu swyddogaeth hanfodol. Er ein bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, rhaid inni ganiatáu cymaint o amser ag y gallwn iddyn nhw wneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol. Nid yw'r amser a adawyd rhwng nawr a'r diwrnod pleidleisio ym mis Mai yn ddigon i ganiatáu ar gyfer y broses graffu lawn ac i weinyddwyr wneud paratoadau.

Nod y Bil hwn yw cyflwyno newidiadau dros dro mewn ymateb i'r heriau uniongyrchol a gyflwynir gan y pandemig, ac ni fwriedir iddo wneud newidiadau parhaol i'n cyfreithiau etholiadol. Dim ond yn 2021 y bydd y darpariaethau yn y Bil yn berthnasol ac ni fyddant yn cael unrhyw effaith ar etholiadau yn y dyfodol. Mae cyfraith etholiadol yn bwnc cymhleth, ac fe ddylid craffu'n drwyadl ar newidiadau parhaol yn y maes hwn.

Ein hamserlen arfaethedig ar gyfer y Bil yw ei gyflwyno yfory, ac yna dadl Cyfnod 1 yr wythnos ganlynol. Bydd Cyfnod 2 a Chyfnodau 3 a 4 yn cael eu cynnal ar ddiwrnodau olynol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 8 Chwefror. O dan yr amserlen hon, gellir cael Cydsyniad Brenhinol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 15 Chwefror. Felly, anogaf yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig hwn a chaniatáu inni ddefnyddio proses y Bil brys ar gyfer y Bil hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:03, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflwyno Bil brys ar y sail bod angen ei ddeddfu'n gyflymach nag y mae proses ddeddfwriaethol arferol y Senedd yn ei ganiatáu, mae hyn yn ei hanfod yn symleiddio prosesau deddfu ac atebolrwydd y Senedd. Felly, dim ond pan fydd argyfwng gwirioneddol ac anrhagweladwy y dylid ei defnyddio.

Dim ond dwywaith o'r blaen y mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r dull hwn o ddeddfu, gyda Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 a Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Gellid dadlau bod eu cymhellion yn wleidyddol ar y ddau achlysur, ac ni ddylai hyn fod yn wir yn achos Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) y maen nhw bellach yn ceisio caniatâd gan y Senedd i'w gyflwyno.

Cyflwynwyd Bil Etholiad Cyffredinol yr Alban (Coronafeirws), sy'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth yr Alban i ohirio etholiad cyffredinol yr Alban y tu hwnt i 6 Mai, yn amodol ar bleidlais o Senedd gyfan yr Alban, yn Senedd yr Alban am y tro cyntaf ar 16 Tachwedd 2020. Er iddo gael ei basio drwy amserlen ar garlam, roedd gan Aelodau Senedd yr Alban dros bum wythnos o hyd i ystyried y Bil. Bydd amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil hwn, mewn cyferbyniad, yn rhoi ychydig dros bythefnos o graffu i Aelodau'r Senedd tan Gyfnod 3.

Er bod yr argyfwng pandemig wedi bod yma ers mis Mawrth 2020 ac y buom yn ymwybodol o'r dyddiad ar gyfer etholiad nesaf Senedd Cymru ers pum mlynedd, ni wnaeth y Prif Weinidog awgrymu newid mewn rheoliadau tan fis Tachwedd. Felly, rhaid i ni ofyn pam y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa lle mae angen iddi fod yn defnyddio gweithdrefnau brys o'r fath. Ble mae'r rhagwelediad, pan roedd hi'n amlwg y byddai'r pandemig yn dal i fod ar frig yr agenda? Gallai rhai ddweud y gallai'r gostyngiad yn ffydd y cyhoedd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig fod wedi dylanwadu ar eu cymhellion dros geisio'r Bil brys hwn nawr, ond does dim dichon i mi wneud sylw. Er y byddwn yn pleidleisio heddiw i gytuno y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil brys yn y Senedd, gan gydnabod yr angen posibl am oedi yn seiliedig ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n dirywio'n gyflym, dim ond rhoi benthyg ein pleidlais a wnawn. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud pa sefyllfa y mae angen i'r pandemig fod ynddi cyn gofyn am oedi yn yr etholiad, a byddai ein cefnogaeth barhaus yn ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi beth fyddai'r sefyllfa honno a fyddai'n peri i'r Prif Weinidog ofyn yn ffurfiol am oedi. Nodwn hefyd y byddai mwy o gynnwys yn y Bil, ac rydym yn cydnabod bod rhinwedd i rywfaint o hyn, gan gynnwys y gostyngiad yn y diddymiad i saith diwrnod calendr cyn etholiad. Fodd bynnag, rydym yn pryderu mai dim ond yn ddiweddarach y gellir cyflwyno rhywfaint o gynnwys arfaethedig fel gwelliannau Llywodraeth Cymru.

Fe wnaethom ni gymryd rhan yng ngrŵp cynllunio etholiadau Llywodraeth Cymru yr haf diwethaf, ac mae gennym ni nifer o bryderon o hyd o'r grŵp cynllunio hwnnw, gan gynnwys ymestyn pleidleisio dros nifer o ddiwrnodau, pan fydd pleidleiswyr yn cael eu difreinio pe baen nhw'n credu y byddai pleidleisio ar ddiwrnod arall i Senedd Cymru yn dal yn eu galluogi i bleidleisio dros y comisiynydd heddlu a throseddu; ymestyn oriau pleidleisio o 6.00 a.m. hyd 11:00 p.m. pan na chredir y byddai hyn yn cynyddu nifer y pleidleiswyr; a chynyddu nifer y pleidleisiau dirprwyol, lle na fyddem ni eisiau gweld unrhyw newidiadau a fyddai'n caniatáu i unigolyn weithredu fel dirprwy ar gyfer aelwyd gyfan lle nad ydyn nhw'n perthyn i'w gilydd. 

Byddai oedi etholiad cyffredinol Cymru sydd wedi'i amserlennu ar gyfer 6 Mai yn arwain at oblygiadau enfawr, gyda llawer yn teimlo eu bod wedi'u difreinio, yn enwedig gan fod y pandemig wedi taflu goleuni mor ddisglair ar Lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Cynhaliwyd etholiadau mewn nifer o wledydd yn ystod y pandemig, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Sbaen, Ffrainc, Canada, Seland Newydd a De Corea. Fel y dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol polisi iechyd cyhoeddus De Corea wedi hynny, ni nodwyd yr un achos yn ymwneud â'r etholiad yn ystod cyfnod magu'r clefyd o 14 diwrnod. Ac er bod Mr Trump yn honni bod hyn wedi caniatáu i bleidleisiau'r UD gael eu camgyfrif, nid yw hon yn farn eang yn y fan yma. Er nad yw'r Bil arfaethedig yn cynnwys llawer am bleidleisio drwy'r post, byddem yn croesawu rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd pobl yn cael eu hannog i gofrestru.

O ystyried bod etholiadau seneddol yr Alban, etholiadau maerol, etholiadau cynghorau Lloegr ac etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu hefyd i fod i gael eu cynnal y gwanwyn hwn, a wnaiff y Gweinidog ddweud hefyd a oes trafodaethau parhaus ynghylch dull cydgysylltiedig ledled y DU o ymdrin â'r etholiadau hyn? Mae'r Ceidwadwyr Cymreig bob amser wedi honni y dylai etholiadau Senedd Cymru gael eu cynnal ar 6 Mai 2021 ac eithrio mewn amgylchiadau brys eithriadol. Diolch. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:08, 26 Ionawr 2021

Mae etholiadau teg a rhydd yn sylfaen unrhyw ddemocratiaeth iach, ac mae'n hen bryd, i siarad yn blaen, i bobl Cymru gael y cyfle i roi chwistrelliad o egni newydd i'r Senedd yma ac i ddewis Llywodraeth newydd ar ôl tymor pum mlynedd o hyd, sy'n barod yn dymor hir iawn mewn termau cymharol—rhy hir yn fy marn i, ond nid yma i drafod hynny ydw i heddiw. Nid ar chwarae bach, felly, mae'r Senedd yma yn cael cais i gydsynio i'r Llywodraeth gyflwyno darn o ddeddfwriaeth fyddai'n galluogi oedi dyddiad etholiadau y Senedd. Wrth drafod adroddiad y grŵp cynllunio etholiadau yn ôl ym mis Tachwedd, mi ddywedodd Adam Price,

'mae'n anodd rhagweld sefyllfa lle byddai'n rhaid gohirio etholiadau'r Senedd erbyn hyn.'

Er hynny, mae profiad y misoedd diwethaf wedi dangos i ni na allwn ni ddim cymryd dim byd yn ganiataol, ac mae hynny mor wir. Ers hynny, mi gafodd amrywiolyn newydd o'r feirws ei ganfod, rydym ni'n ôl mewn cyfnod clo llym, a thra bod yr ymdrech frechu'n cynnig gobaith, mae yna gryn ffordd i fynd. Ac er ein bod ni wir eisiau i'r etholiad yma all cael ei chynnal ar 6 Mai, yn sydyn reit mae 6 Mai yn teimlo yn agos iawn. Rydym ni yn cefnogi cais y Llywodraeth i'r Senedd drin y Bil arfaethedig dan y weithdrefn frys, ond nid yn ddiamod. Er gwaethaf yr amserlen dynn, mae'n bwysig bod y craffu ar y Bil yn gadarn a chynhwysfawr. Mae eisiau i'r ddeddfwriaeth ddrafft gael ei chyhoeddi ar y cyfle cynharaf. Mae'r Aelod sydd yng ngofal y Bil eisoes wedi estyn allan at y gwrthbleidiau. Rydym ni'n disgwyl i hynny barhau, ac efo Comisiwn y Senedd hefyd, er mwyn llawn cydnabod y ffaith nad Bil arferol yw hwn a bod angen gwneud popeth i warchod integriti'r broses ddemocrataidd. Iechyd cyhoeddus ac iechyd ein democratiaeth fydd flaenaf yn ein meddyliau ni fel plaid a phob plaid arall, gobeithio, wrth ymdrin â hyn.

Roeddwn i'n sylwi bod datganiad y Llywodraeth sydd ynghlwm â'r cynnig yma yn dweud bod y pandemig yn cynrychioli dau risg i integriti yr etholiad: un i allu etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiad ei hun; yr ail i weinyddwyr allu cynnal yr etholiad. Dwi'n meddwl bod yna drydydd risg mawr: nid dyddiad 6 Mai sydd yn bwysig mewn gwirionedd, ond y cyfnod cyn hynny o ymgysylltu â phobl Cymru. Rydyn ni'n sôn am ethol Llywodraeth genedlaethol fydd yn ein tywys ni fel gwlad yn y cyfnod ar ôl COVID. Mae angen cael y drafodaeth honno yn llawn. Ar wahân i'r ffaith mai'r etholiad, tybiwn i, ydy'r peth olaf ar feddyliau llawer o bobl—rhai yn sâl, yn dioddef yn economaidd, rhai wedi colli anwyliaid hyd yn oed—mae yna ystyriaethau ymarferol iawn yn deillio o'r diffyg democrataidd, gwendid cymharol y wasg yng Nghymru, a'r diffyg gallu, hyd yn oed, i ddosbarthu taflenni yn rhannu gwybodaeth am yr etholiad, sy'n beth pwysig iawn mewn etholiad yng Nghymru oherwydd y diffyg yna yn y wasg.

Mae angen eglurder ar y pwynt olaf hwnnw. Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Siân Gwenllian, mi ddywedodd y Prif Weinidog bod dosbarthu taflenni etholiad yn anghyfreithlon dan reoliadau cyfyngiadau lefel 4. Mi glywais i sôn, rhywun yn dweud, 'Allwch chi rannu faint fynnir o bamffledi gwerthu pitsa ond dim taflenni yn ymwneud â phroses ddemocrataidd mor bwysig.' Ar y llaw arall, mae un o heddluoedd Cymru, dwi'n meddwl, wedi dweud y dylid ei ganiatáu, oherwydd bod rhannu taflenni yn waith na ellir ei wneud o gartref. Felly, mae eisiau eglurder ar hynny. Dwi'n deall bod gwledydd sydd wedi cynnal etholiadau yn y pandemig, fel America, hyd yn oed wedi caniatáu peth ymgyrchu drws i ddrws. Felly, mae eisiau gwybod yn union beth fyddai'n gallu cael ei ganiatáu.

Rŵan, tra bod y cyfryngau cymdeithasol yn opsiwn, dydy pawb ddim yn defnyddio y cyfryngau cymdeithasol—mae'n bwysig iawn cofio hynny. Mae'r post brenhinol yn ddrud iawn. Yn Arfon ar hyn o bryd dwi'n meddwl bod pobl wedi bod heb bost oherwydd COVID yn taro gweithwyr post. Ac o ran y gost, mi oedd y Siartwyr, wrth gwrs, o flaen eu hamser ar un adeg, ar flaen y gad yn eu galwad am wneud etholiadau yn rhydd ym mhob hanfod, nid dim ond i'r cyfoethog. Felly, er gwaethaf cyfyngiadau dealladwy iawn y pandemig, mae'n rhaid diogelu yr egwyddor hwnnw.

Rŵan, i gloi, yn aros efo'r thema tegwch ac integriti'r etholiad, mae yna degwch cynhennid, allwch chi ddadlau, yn y cyfnod diddymu er mwyn diogelu adnoddau cyhoeddus rhag y canfyddiad o gamddefnydd ac i beidio â ffafrio rhai ymgeiswyr dros y lleill. Mi fyddwn ni'n craffu'n ofalus ar y bwriad i gwtogi'r cyfnod diddymu o 21 diwrnod i saith, gan ystyried goblygiadau hynny i ganllawiau purdah y gwasanaeth sifil, trefniadau'r darlledwyr ac ati, ond, yn bwysicach na dim, wrth gwrs, y gafael ar ledaeniad yr haint. Y gwaethaf o'r ddau fyddai Llywodraeth a Senedd sy'n delio â'r don waethaf eto o'r pandemig ar y naill law ond ym merw ymgyrch etholiad ar y llall. Fel dwi'n dweud, mae'n hen bryd cael etholiad. Mi ddylai fo fod ar 6 Mai. Ein dymuniad ni fyddai iddo fo fod bryd hynny, ond, wrth gwrs, mae'r feirws yma wedi profi dros y flwyddyn ddiwethaf ei fod o'n gryn feistr arnom ni—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:14, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Gwnaf mewn eiliad. Mae'r feirws wedi profi ei fod o'n gallu bod yn feistr arnom ni; mae o'n dal yn ddylanwadol iawn, iawn ar ein bywydau a'n dewisiadau democrataidd ni ar hyn o bryd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mike Hedges.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Credaf, os yw'n bosibl o gwbl, y dylem gael etholiad ar 6 Mai. Ond ni fyddai gohirio etholiad yn unigryw. A ydych chi'n cofio bod disgwyl i etholiad cyffredinol 2001 fod ar 3 Mai i gyd-fynd ag etholiadau lleol? Ond, ar 2 Ebrill, gohiriwyd pleidleisiau tan 7 Mehefin oherwydd y cyfyngiadau symud gwledig a gyflwynwyd mewn ymateb i'r achosion o glwy'r traed a'r genau a ddechreuodd ym mis Chwefror.

Rheswm posibl arall yw na ellir casglu'r post, felly ni fyddai pleidleisiau post yn cyrraedd—rhywbeth y soniodd Rhun ap Iorwerth amdano ynglŷn â phost pan oedd yn gwneud ei ddatganiad—neu fod blychau post wedi eu cau. Mae pobl yn cofio streiciau post—pan oedd blychau'n llawn, cawsant eu cau. Credaf y dylem ni gael y cyfnod diddymu byrraf posibl ar gyfer y Senedd cyn diwrnod y bleidlais, a fydd yn galluogi'r Senedd i gyfarfod pe bai angen, er mwyn trafod a chytuno ar ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â'r pandemig, neu ystyried argymhellion gan y Llywydd i ohirio'r bleidlais. Hoffwn i'r diddymiad fod am 5 o'r gloch ar y dydd Mercher cyn y diwrnod pleidleisio, gan alluogi deddfu ar unrhyw ddeddfwriaeth pandemig newydd cyn yr etholiad. Cyn i gyfreithwyr y Llywodraeth ddweud ei fod yn amhosibl, pa newidiadau deddfwriaethol fyddai eu hangen i'w alluogi?

Mae'n rhaid inni gofio i etholiad yr Unol Daleithiau gael ei gynnal yn ystod y pandemig. Byddwn yn siomedig iawn pe na bai modd cynnal etholiad y Senedd. Os bydd y Ceidwadwyr yn gohirio etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throseddu ac etholiadau cynghorau Lloegr, ni fyddai hynny'n rheswm i ni ohirio etholiad y Senedd. Un peth y gallem ni ofyn i bob plaid ei ystyried yw dychwelyd at dymor etholiadol pedair blynedd—mae pum mlynedd yn rhy hir. Fe'i cyflwynwyd am y rhesymau gorau i gydweddu â Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011. Yn fy marn i, nid oes unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth erioed wedi bod yn fwy diystyr. Mae'n rhaid i hwn fod y tymor pum mlynedd olaf.

Rwyf nawr eisiau troi at fy nghais yr wy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ei weithredu: sef bod swyddogion canlyniadau yn ysgrifennu at bawb ynghylch y bleidlais bost yn cynnig un iddyn nhw. Un o'r problemau ynghylch pleidleisiau post yw'r gyfradd uchel o rai sy'n cael eu gwrthod. Achosir hyn gan ddau beth: pobl yn rhoi dyddiad llofnodi yn hytrach na'u dyddiad geni, a llofnodion nad ydyn nhw'n cyfateb. Y cynigion yw y cysylltir dros y ffôn â'r rhai sydd wedi nodi dyddiad postio yn hytrach na'u dyddiad geni, os yw'n bosibl, i gadarnhau eu dyddiad geni; ac y cysylltir â'r rhai sydd â llofnodion nad ydyn nhw'n cyfateb i gadarnhau eu bod wedi dychwelyd eu pleidlais. Un o'r prif resymau pam nad yw'r llofnodion yn cyfateb yw bod yr etholwr wedi cael problemau iechyd, megis strôc neu glefyd Parkinson, ers iddyn nhw wneud cais am y bleidlais bost, sy'n effeithio'n wirioneddol ar lofnodion pobl. Rydym ni eisiau cael etholiad teg lle gall pawb sydd eisiau pleidleisio wneud hynny, ac y cyfrifir eu pleidlais.

Gan droi at bleidleisiau drwy ddirprwy, ar hyn o bryd mae'n rhaid i fyfyrwyr gael ffurflen wedi'i llofnodi gan diwtor y cwrs. Credaf y byddai pobl yn cytuno bod hynny bron yn amhosibl ar hyn o bryd. Roeddwn yn ffodus bod fy merch wedi gwneud ei un hi yn ôl ym mis Tachwedd; ychydig iawn o bobl oedd yn meddwl am etholiadau Senedd mis Mai ym mis Tachwedd. Byddwn yn annog y Llywodraeth i ystyried deddfwriaeth i alluogi aelodau uniongyrchol o'r teulu, sy'n golygu priod, rhiant neu blentyn, i gael pleidlais drwy ddirprwy ar alw. Mae hyn yn gydbwysedd rhwng atal casglu pleidleisiau a chaniatáu cyfrif pleidleisiau pawb.

Yn olaf, ynglŷn â'r cyfrif. Rwy'n cefnogi cyfrif y diwrnod wedyn, er fy mod yn disgwyl cysgu'r nos rhwng y diwrnod pleidleisio a'r diwrnod wedyn. O ran y cyfrif, unwaith eto, a allwn ni ddysgu wrth edrych ar America, lle mae'r nifer o bleidleisiau a fwriwyd yn y llyfr pleidleisio a phleidleisiau post dilys a dderbynnir erbyn diwedd y diwrnod pleidleisio yn cael eu cyfrif ar y dydd Gwener, gydag estyniad ar gyfer pleidleisiau post os oes problemau o ran eu dychwelyd oherwydd problemau post, a phenodir barnwr i benderfynu pa mor hir y dylai'r estyniad hwnnw fod? Credaf ein bod i gyd eisiau etholiadau rhydd a theg. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried fy awgrymiadau, ond, os nad ydy hi, yna y bydd yn esbonio pam.

A chanfûm broblem dros y penwythnos: talu'r blaendal. Maen nhw eisiau i'r blaendal gael ei dalu—yn Abertawe, o leiaf—drwy drosglwyddiad electronig, ond rhaid iddo ddigwydd ar yr un pryd yn union ag y derbynnir y ffurflen enwebu. Nawr, os ydyn nhw'n dilyn y dehongliad yn fanwl, bydd hynny bron yn amhosibl. Felly, credaf eich bod yn y diwedd—. Rydych chi'n ciwio—. A gwyddom beth sy'n digwydd wrth gyflwyno ein papurau enwebu. Byddwn yn annog y Gweinidog i gael rhai trafodaethau gyda swyddogion canlyniadau ynghylch hynny, oherwydd credaf ei bod yn bwysig bod pobl yn talu eu blaendal. Awgrymais eich bod yn ei dalu cyn i chi gyflwyno eich papurau enwebu, ond dywedwyd wrthyf na allai hynny ddigwydd. Credaf fod gwir angen inni ddatrys rhywfaint o fecanwaith hyn cyn i bethau ddechrau mynd o chwith.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:19, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rhaid imi ddweud ar y dechrau mai fy newis i yw i etholiadau'r Senedd fynd rhagddynt fel y bwriadwyd ar 6 Mai, ond dim ond os yw'n ddiogel gwneud hynny, oherwydd rydym ni yng nghanol pandemig anrhagweladwy sy'n lladd cannoedd o bobl yng Nghymru bob wythnos. Mae miloedd o bobl wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae miloedd yn fwy yn cael trafferth anadlu neu'n brwydro yn erbyn blinder ofnadwy am fisoedd lawer, ac mae'r cyfan oherwydd y clefyd ofnadwy hwn—clefyd sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae hanner ein gwelyau critigol a chwarter ein hysbytai yn llawn cleifion â COVID-19. Mae wedi arwain at ganslo arholiadau ar gyfer plant ysgol am yr ail flwyddyn yn olynol, a rhieni ar draws y wlad yn ei chael hi'n anodd addysgu eu plant gartref. Ac mae wedi arwain at lyffetheirio rhannau helaeth o'n heconomi, miloedd o fusnesau'n methu a degau o filoedd yn colli eu swyddi. Mae feirws SARS-CoV-2 wedi mwtadu, mae wedi dod yn fwy ffyrnig ac mae'n dal i heintio cannoedd o'n dinasyddion bob dydd. Ond mae gennym ni obaith, gobaith nad oedd gennym ni yr adeg hon y llynedd. Mae gennym ni ddau frechlyn yn cael eu darparu, gyda mwy ar y ffordd gobeithio. Er ein bod wedi dechrau'n dda, dim ond i tua 8 y cant o'r boblogaeth yr ydym ni wedi darparu'r dos cyntaf. Nid ydym ni yn disgwyl i bawb gael eu brechu tan ddiwedd eleni. Felly, yng ngoleuni hyn i gyd, sut y gallwn ni gynnal etholiadau rhydd a theg?

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi clywed eraill yn tynnu sylw at y ffaith bod democratiaethau mwy wedi cynnal etholiadau, gan gyfeirio'n bennaf at yr Unol Daleithiau, ond nid yw eu hetholiadau fel ein hetholiadau ni, ac mae gan ddinasyddion yr Unol Daleithiau wythnosau i bleidleisio. Mae gennym ni 15 awr. Dibynna dinasyddion yr Unol Daleithiau ar ddadleuon ar y teledu i gael gwybodaeth am eu hymgeiswyr, ac rydym ni yn curo ar ddrysau pobl i gyflwyno ein hunain. Felly, oni bai ein bod yn newid y ffordd yr ydym ni'n cynnal etholiadau'n sylweddol, mae'n anodd gweld sut y gallem gynnal etholiadau'n ddiogel tra bo'r pandemig yn parhau i fod yn rhemp.

Rhaid inni hefyd ystyried a oes gennym y gweithlu i gynnal etholiad hyd yn oed. A ddylem fod yn dargyfeirio adnoddau o'r gwaith o geisio dod â'r pandemig i ben yn gyflym tuag at gynnal etholiad? Wrth gwrs, gallem weld gwelliannau enfawr dros yr ychydig fisoedd nesaf, a fyddai'n caniatáu inni gynnal etholiadau rhydd a theg, ond yn yr un modd, gallem weld pethau'n gwaethygu. Pwy a ŵyr beth a ddaw yn sgil yr amrywiolion newydd? Wrth i fwy o bobl gael eu heintio, mae mwy o siawns gan y feirws hwn i fwtadu. Felly, Duw a'n gwaredo os gwelwn ni amrywiolyn sy'n gwrthsefyll y brechlynnau.

Felly, os yw'r flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae'r pandemig hwn yn anrhagweladwy. Felly, mae'n gwneud synnwyr inni obeithio am y gorau, ond paratoi ar gyfer y gwaethaf. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni gynnal etholiadau ym mis Mai, ond mae'n rhaid i ni gyflwyno'r Bil brys hwn fel y gallwn ni eu gohirio os nad yw'n ddiogel eu cynnal ymhen 14 wythnos, ac mae diogelwch y cyhoedd o'r pwys mwyaf. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:22, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth y prynhawn yma, a hefyd yn cefnogi'r Llywodraeth pan ddaw'r ddeddfwriaeth sylwedd ger ein bron yr wythnos nesaf. Yn un o'r Gweinidogion a gyflwynodd ddeddfwriaeth frys, rwyf wedi ystyried hyn o ddifrif, oherwydd mae'n fecanwaith na ddylid ond ei ddefnyddio pan fydd yr amgylchiadau'n mynnu hynny. Cawsom wybod heddiw ein bod wedi colli mwy o bobl i COVID yn ystod yr wythnos ddiwethaf nag a wnaethom ni ar unrhyw adeg arall yn y pandemig. Byddai wedi bod yn anghyfrifol pe na bai'r Llywodraeth wedi cymryd y camau hyn, heb gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon na chynnal y ddeddfwriaeth yn y ffordd y mae'n bwriadu gwneud.

Fel eraill, rwyf eisiau gweld yr etholiad yn cael ei gynnal ar 6 Mai. Rwyf wedi gwneud y pwynt hwn nifer o weithiau mewn gwahanol ddadleuon ac mewn cwestiynau. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y Senedd hon yn cael ei hadnewyddu a'i hadfywio. Mae angen mandad ar bob Llywodraeth, ond mae angen mandad newydd arnom ni i gyd, ac, fel Mike Hedges, hoffwn weld y Llywodraeth yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 yn mynd yn ôl i dymhorau pedair blynedd, yn hytrach na pharhau â'r tymor pum mlynedd presennol.

Ond mae gennyf i dri chwestiwn yr hoffwn eu gofyn i'r Gweinidog wrth gefnogi'r Llywodraeth y prynhawn yma. Y pwynt cyntaf yw tryloywder a bod yn agored. Mae'n iawn ac yn briodol bod pob Aelod yn ymwybodol o'r meini prawf y bydd y Llywodraeth yn eu defnyddio wrth ddod i gasgliadau ar hyn. A fydd y Llywodraeth yn edrych ledled Cymru ar y rhif R, ar nifer yr achosion? A fydd materion yn ymwneud â thwf neu ddirywiad y pandemig mewn gwahanol rannau o'r wlad? Er enghraifft, ym Mlaenau Gwent, mae'r niferoedd wedi bod yn gostwng dros yr wythnosau diwethaf, ond nid yw hynny yr un fath â Sir y Fflint na Wrecsam, lle maen nhw wedi bod yn cynyddu mewn termau cymharol. Felly, beth yw'r meini prawf y bydd y Llywodraeth yn eu defnyddio er mwyn penderfynu a ellir cynnal etholiad yn ddiogel?

Roedd y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth hefyd yn gwbl hanfodol, oherwydd mae gan y Llywodraeth ddyletswydd i sicrhau bod etholiad yn cael ei gynnal yn ddiogel, ond mae dyletswydd arni hefyd i sicrhau bod yr etholiad yn ddemocrataidd ac yn deg. Gwyddom i gyd ac rydym ni i gyd yn cydnabod, rwy'n credu, a ninnau'n Aelodau, fod gennym ni fantais gan ein bod ni eisoes wedi cael cyfnod yn y swydd, ac y bydd gan y prif bleidiau fanteision pellach sef adnoddau a fydd yn eu galluogi i ymladd etholiad electronig, ar-lein, mewn ffordd na all pleidiau llai, a byddai ymgeiswyr unigol yn ei chael yn anoddach. Mae'n bwysig bod yr etholiad nid yn unig yn ddiogel, ond yn deg, yn rhydd ac yn ddemocrataidd, ac mae angen inni ddeall beth yw'r meini prawf i'r Llywodraeth o ran dod i'w chasgliadau o ran democratiaeth, o ran tegwch, yn ogystal ag o ran diogelwch.

Byddwn hefyd, felly—. Mae'r ail gwestiwn o ran amserlen. Mae nifer o Aelodau wedi awgrymu bod angen i ni adael y penderfyniad hwn mor hir â phosibl, ac mae gennyf gydymdeimlad â hynny. Ond rwy'n credu hefyd bod angen i ni ddeall beth sydd gan y misoedd nesaf i'w gynnig i bobl. A hoffwn ddeall gan y Llywodraeth pryd y mae hi'n bwriadu neu pryd y mae hi'n credu y gall hi wneud rhai penderfyniadau ar y materion hyn. Beth yw'r amserlen ar gyfer dod i benderfyniad ar y materion hyn? Sut y bydd yn pennu'r amserlen honno, a phryd y gallwn ni ddisgwyl bod yn rhan o'r ymgynghoriad a'r sgwrs honno?

A'r cwestiwn olaf yw hwn, Gweinidog: mewn etholiad diogel, mewn etholiad teg ac mewn etholiad democrataidd, mae'n bosibl gwneud pethau'n wahanol. Er enghraifft, rydym ni wedi clywed grŵp cynllunio'r etholiad yn dweud y byddai'n well ganddynt gyfrif y diwrnod ar ôl yn hytrach na dros nos, a chytunaf â hynny. Ond pe baem yn defnyddio peiriannau cyfrif pleidleisiau etholiadol, fel y defnyddiwyd yn yr Alban ac sy'n cael eu defnyddio mewn mannau eraill, yna gallem ymdrin â'r materion hyn mewn ffordd fwy amserol ond gan ddefnyddio llai o adnoddau hefyd. Ac rwy'n credu hefyd fod angen i ni edrych ar bleidleisio ar ddydd Sul neu benwythnos, etholiadau aml-ddiwrnod, ac edrych ar wahanol ffyrdd o gynnal ein democratiaeth. Mae ein democratiaeth yn beth gwych a gwerthfawr. Gwelsom sut y cafodd democratiaeth ei gohirio yn 2001 o ganlyniad i glwy'r traed a'r genau, ac roedd hynny'n angenrheidiol a'r penderfyniad cywir. Byddwn yn cefnogi, rwy'n credu—y byddai dwy ran o dair o'r Aelodau yma'n cefnogi oedi, pe baem yn gallu deall pam yr oedd yr oedi hwnnw'n digwydd, a phe baem yn egluro i'r bobl yr ydym yn ceisio eu cynrychioli pam y mae'r oedi hwnnw'n digwydd. Ond mae angen i ni wneud hynny hefyd mewn ffordd sy'n dryloyw, sy'n agored ac sy'n atebol, a phryd y gallwn ni sicrhau y caiff ein democratiaeth werthfawr ei diogelu a'i dyfnhau. Diolch.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:27, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Nid ydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon gan Lywodraeth Cymru oherwydd, yn syml iawn, nid ydym yn credu ei bod hi'n angenrheidiol. Mae etholiadau rhydd a theg yn nodwedd ddiffiniol o ddemocratiaeth sy'n gweithio, felly wrth gwrs mae'n rhaid inni gymryd y broses o ddifrif. Ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn etholiadau rheolaidd, ac os yw tymor y ddeddfwrfa yn bum mlynedd, yna byddai'n rhaid inni gael rheswm da iawn dros ddymuno gwneud y tymor hwnnw'n hwy na phum mlynedd.

Nawr, sylweddolaf, wrth gwrs, ein bod yng nghanol argyfwng byd-eang, ac mae iechyd pobl Cymru o'r pwys mwyaf, ond os edrychwn ledled y byd, mae etholiadau wedi'u cynnal mewn llawer o wledydd heb unrhyw broblemau gwirioneddol. Manylodd Mark Isherwood ar rai o'r etholiadau hyn yn ei gyfraniad. Felly, credaf fod angen inni fwrw ymlaen ar y sail bod etholiad y Cynulliad yn cael ei gynnal ar ddydd Iau cyntaf mis Mai, yn ôl y bwriad, oni bai bod perygl gwirioneddol i iechyd y cyhoedd bryd hynny a fyddai'n gorfodi newid. Ond hyd yn oed os oes perygl, gwyddom fod pŵer eisoes o fewn y Cynulliad hwn, gan y Llywydd, i ohirio etholiad hyd at fis, o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Felly, o'n safbwynt ni, mae'r ddeddfwriaeth newydd arfaethedig hon yn eithaf diangen.

Nawr, efallai fod gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru resymau ei hun dros ddymuno gohirio unrhyw etholiad. Tybed a yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ofni'r etholwyr? Tybed a yw eisiau gohirio etholiad oherwydd ei bod yn ofni ei bod ar fin colli ei mwyafrif? Tybed a yw'n arswydo oherwydd y gallai rhyw blaid leiafrifol godi ei phen sydd eisiau siglo'r cwch a chael gwared ar y pot mêl o'r enw Cynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru? Bydd pleidleiswyr yn sicr o ddod i'w casgliadau eu hunain. Wrth gwrs, nid wyf yn gwneud unrhyw honiadau yma, dim ond nodi'r posibiliadau. Ond a gaf i ddweud hyn hefyd: mae pum mlynedd bron ar ben ac mae Cymru bellach wedi cael mwy na digon o'r Llywodraeth Lafur anghymwys hon. Am ba hyd y mae'n rhaid inni barhau i'w dioddef? Mae ein tymor bron ar ben, mae hynny'n berthnasol i bob un ohonom ni, ac mae'n bryd inni gael ein dwyn i gyfrif gan yr unig bobl sy'n cyfrif, pleidleiswyr Cymru. Rhaid inni roi'r gorau i ohirio ac oedi, a chynnal yr etholiad. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:29, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sy'n dymuno ymyrryd, felly galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl. Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl. Ac, fel y dywedais ar y dechrau, nid ein bwriad yw gohirio dyddiad yr etholiad, dyna fydd y dewis olaf ac i'w ddefnyddio dim ond lle mae'n gwbl angenrheidiol oherwydd y bygythiadau i iechyd y cyhoedd a achosir gan y coronafeirws. Ond, fel y mae llawer o Aelodau wedi cytuno, a ninnau yn Llywodraeth gyfrifol, mae'n rhaid i ni baratoi i'n galluogi i ymateb i sut allai'r coronafeirws danseilio uniondeb yr etholiad. Gwnaeth nifer o Aelodau bwyntiau ynghylch y trefniadau ar gyfer diddymu, y trefniadau ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad o ran y Llywodraeth bresennol, a nifer o faterion eraill sydd o bwys ymarferol.

Yn hytrach nag ymdrin â'r holl bwyntiau niferus hynny nawr, hoffwn gynnig i holl arweinwyr a llefarwyr y gwrthbleidiau, ac i Aelodau fy mhlaid fy hun fel grwpiau o feincwyr cefn, os hoffen nhw gael cyfres o gyfarfodydd un i un gyda mi i drafod rhai o fanylion cymhleth hynny, rwyf yn fwy na pharod i gynnig hynny yn ystod y dyddiau nesaf, oherwydd bod gan y Bil amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol, ac rydym ni eisiau i bobl gael cymaint o ymgysylltu ag sy'n bosibl. Felly, gwnaf y cynnig hwnnw i unrhyw un sydd eisiau ei dderbyn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i'r Comisiwn a swyddfa'r Llywydd a chithau am ymgysylltu â ni ynghylch hyn hyd yma hefyd.

Fel y mae pawb wedi dweud, heb y Bil hwn, byddwn yn colli dewis wrth gefn pwysig yn ein paratoadau ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai. Ein gobaith, wrth gwrs, yw y gall yr etholiad fynd yn ei flaen yn ôl y bwriad a bod yr etholwyr yn gallu pleidleisio'n rhydd ac yn ddiogel ar 6 Mai. Ond fel y cydnabu pawb yn y ddadl, nid yw cwrs y pandemig wedi bod yn llyfn ac mae'n iawn i ni yn Llywodraeth gyfrifol roi cynllun wrth gefn ar waith, hyd yn oed os yw'n un yr ydym ni'n gobeithio na fydd byth yn rhaid ei ddefnyddio. Os yw'r Bil am gyflawni'r swyddogaeth honno fel mesur wrth gefn, mae'n hanfodol y caiff ei gyflwyno fel Bil brys er mwyn ei basio mewn pryd ar gyfer yr etholiad ym mis Mai.

Cyn imi orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddweud—wrth Mark Isherwood yn benodol—fy mod yn cael cyfarfod bob pythefnos gyda'r Aelod Seneddol Chloe Smith, y Gweinidog etholiadau yn Llywodraeth y DU. Rydym wedi bod yn trafod drwy gydol y paratoadau hyn yr angen am ddull tawel, digyffro ac anwleidyddol o ymdrin â'r etholiadau hyn, a byddwn yn argymell y dull hwnnw iddo'n benodol. Ac ar y nodyn hwnnw, Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:32, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 10. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:32, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 11. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiadau yn y fan yna, felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon eto tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.