– Senedd Cymru am 4:47 pm ar 23 Chwefror 2021.
Felly, awn at y datganiad ar ddiwygio cyllid myfyrwyr. Y Gweinidog Addysg i wneud y datganiad hwnnw, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn ôl yn hydref 2016, deuthum i'r Senedd hon i gyhoeddi'r newid mwyaf i gyllid myfyrwyr yng Nghymru mewn cenhedlaeth. Fel y gŵyr pob un ohonom ni, mae diwygio cyllid myfyrwyr yn fater cymhleth a dadleuol. Bu pleidiau gwleidyddol a Gweinidogion o bob argyhoeddiad, ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt, yn gwneud penderfyniadau anodd, ac weithiau'n wynebu'r canlyniadau.
Dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, rydym ni wedi creu consensws ac wedi dangos bod ffordd well ymlaen yn bosibl. Rydym ni wedi darparu system sy'n ymdrin â chostau ymlaen llaw, gan fuddsoddi yn ein prifysgolion, sy'n unigryw yn Ewrop. Wrth ddod i rym, cytunais ar gyfres o egwyddorion gyda'r Cabinet, sef ein fframwaith ar gyfer cyflawni diwygiad mor sylweddol. Roedd adroddiad Diamond yn glir nad oedd y system gyllid flaenorol yn gynaliadwy, ac roedd yn amheus ai grantiau ffioedd i israddedigion amser llawn oedd y buddsoddiad gorau, pa un a oedd yn cefnogi ein sefydliadau, a pha un a oedd y polisi hwnnw'n ehangu mynediad.
Ein hegwyddorion ar gyfer diwygio yw ein ffon fesur ar gyfer llwyddiant o hyd. Y rhain yw: ein bod yn cynnal yr egwyddor o gyffredinoli o fewn system flaengar; bod gennym ni ddull system gyfan ar draws moddau a lefelau astudio; bod y buddsoddiad hwnnw'n cael ei rannu rhwng y Llywodraeth a'r rhai sy'n elwa'n uniongyrchol; ein bod yn gwella hygyrchedd, gan fynd i'r afael â rhwystrau fel costau byw; a bod cymorth i fyfyrwyr ar gael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Llywydd, dylai fod yn destun balchder cenedlaethol ein bod ni yng Nghymru wedi cyflawni'r egwyddorion hyn a'u rhoi ar waith. Bellach mae gennym ni system sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi pob un o'n myfyrwyr, boed yn israddedigion amser llawn, yn raddedigion neu'n israddedig rhan-amser, ac rydym ni wedi gwneud hynny wrth fuddsoddi mwy mewn prifysgolion: mae grant CCAUC wedi cynyddu 80 y cant ers 2016.
Gadewch imi droi at yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni o ran niferoedd myfyrwyr a chyllid. Mae myfyrwyr amser llawn blwyddyn gyntaf o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig wedi cynyddu, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ers i ni gyflwyno ein diwygiadau. Bu cynnydd o 51 y cant yn nifer yr ôl-raddedigion amser llawn blwyddyn gyntaf o Gymru ers 2016, a chynnydd o 20 y cant yn y rhai rhan-amser cyfatebol, ac mae hyn ar ôl degawd o ddirywiad yn y niferoedd ledled y Deyrnas Unedig. Mae niferoedd y myfyrwyr rhan-amser ledled y DU hefyd wedi gostwng dros y degawd diwethaf, i lawr 70 y cant yn Lloegr yn unig. Ond, yma yng Nghymru, rydym yn trawsnewid bywydau drwy ein cefnogaeth i fyfyrwyr rhan-amser. Os edrychwch chi ar y Brifysgol Agored yng Nghymru yn unig, mae nifer y myfyrwyr rhan-amser yng Nghymru wedi cynyddu 81 y cant yn ôl ffigurau swyddogol. Ac mae myfyrwyr rhan-amser o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi cynyddu 23 y cant.
Mae'r grant cyfartalog nad yw'n ad-daladwy ar gyfer myfyrwyr amser llawn o Gymru bellach yn fwy na £7,000, gan helpu myfyrwyr i ymdrin yn uniongyrchol â chostau ymlaen llaw. Rydym ni hefyd wedi cyflwyno cynllun bwrsariaeth Meistr ar gyfer pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth ac ar gyfer y rhai sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gymell myfyrwyr i aros yng Nghymru neu i ddod adref i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig. Mae'r cynllun hwn wedi cefnogi sefydliadau addysg uwch Cymru i gymell recriwtio'r myfyrwyr mwyaf dawnus yng Nghymru, yn unol â'n cynllun gweithredu economaidd a'm hymateb i adolygiad Diamond. Wrth gwrs, rydym ni hefyd wedi cynnal y lwfans cynhaliaeth addysg, wedi buddsoddi'r symiau mwyaf erioed i gefnogi iechyd meddwl a llesiant, ac mae gennym ni yr unig sector addysg uwch cyflog byw go iawn yn y Deyrnas Unedig gyfan.
A hefyd, rydym ni wedi cefnogi ein myfyrwyr i arddangos eu doniau ar y llwyfan byd-eang. Mae mwy o fyfyrwyr partner o Gymru yn cymryd rhan yn rhaglen ysgolheigion byd-eang Iâl nag unrhyw ranbarth neu genedl arall y tu allan i'r Unol Daleithiau. Dim ond un o ddwy Lywodraeth ydym ni i gael partneriaeth ryngwladol Gilman gyda Gweinyddiaeth Dramor yr Unol Daleithiau, ac mae gennym ni ein partneriaeth Comisiwn Fulbright gyntaf erioed. Mae gennym ni gytundebau symudedd ac academaidd gyda phartneriaid megis Fietnam ac rydym ni wedi datblygu ac ariannu cynllun symudedd allanol cenedlaethol cyntaf Cymru, Cymry Fyd-eang Darganfod gan ehangu mynediad i symudedd tramor drwy gyfleoedd tymor byrrach.
Llywydd, gwyddom fod ein system addysg yn ffynnu pan fydd gan bawb fudd cyffredin. Pan osodwn ni safonau uchel i bawb, pan wrthodwn ni dderbyn disgwyliadau is a phan siaradwn ni â'r byd yn hyderus, pan wnawn ni hynny, rydym ni mewn difrif calon yn cyflawni ein cenhadaeth genedlaethol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i gefnogi myfyrwyr o bob oed a chefndir, ac adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd diwethaf. Diolch yn fawr.
[Anghlywadwy.]—datganiad, Gweinidog. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i bawb yn y sector prifysgolion sydd wedi torchi llewys i helpu myfyrwyr drwy'r pandemig hwn? Gwn ein bod yn teimlo'r un fath ynghylch hynny. Rwy'n credu y byddwn bob amser yn ddiolchgar i'r rhai a ymatebodd i'r her ysgubol hon.
Ond mae diwygio cyllid myfyrwyr, wrth gwrs, wedi rhoi mwy o sicrwydd o gyllid i brifysgolion ac wedi tynnu sylw at astudio hyblyg, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond nid yw wedi diogelu myfyrwyr sy'n wynebu dyled bersonol enfawr ond heb gael y profiad addysg penodol y gwnaethant dalu amdano, boed hynny oherwydd streiciau neu mewn rhai achosion gostyngiad yn ansawdd y ddarpariaeth oherwydd COVID. Felly, fy nghwestiynau cyntaf yw: sut ydych chi'n credu y dylai Llywodraeth nesaf Cymru ymdrin â galwadau am ad-dalu ffioedd dysgu yn rhannol, o gofio'r egwyddorion yr ydych chi wedi'u nodi'n gynharach, a beth yw'r rhagolygon hirdymor ar gyfer ad-dalu benthyciadau myfyrwyr?
A gaf i fod yn agored a dweud fy mod yn croesawu unrhyw dwf yn y ffigurau, wrth gwrs fy mod i, a hefyd y cysylltiadau rhyngwladol hynny ledled y byd, nid dim ond ar ein stepen drws. Ond rydych yn aml wedi bychanu'r syniad o ddifidend Diamond, ac yn hynny o beth mae angen herio eich honiad yn agoriad y datganiad hwn o effaith drawsnewidiol. Rwy'n mynd i ddibynnu ar ddata'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch i wneud hynny, oherwydd mae 1,135 yn llai o israddedigion rhan-amser na thair blynedd yn ôl, y flwyddyn ddiwethaf cyn i Diamond frathu, a 3,000 yn llai na phum mlynedd yn ôl. Yn yr un tair blynedd cyn Diamond, roeddem eisoes wedi gweld cynnydd, nid gostyngiad yn nifer wirioneddol yr israddedigion amser llawn ac ôl-raddedigion amser llawn a rhan-amser. Felly, rwy'n gweld y bu saib o flwyddyn yn y duedd tuag i lawr ar gyfer israddedigion rhan-amser, ond nid wyf yn siŵr a yw hynny'n drawsnewidiol iawn pan fo nifer y myfyrwyr eraill yng Nghymru wedi bod yn codi beth bynnag, fel y maen nhw, mewn gwirionedd, ar wahân i israddedigion amser llawn, sydd, yn fy marn i, yn ddiddorol, ar draws y DU gyfan, lle nad ydyn nhw, wrth gwrs, wedi cael diwygiadau Diamond. Ac os ydych chi'n priodoli'r cynnydd yn niferoedd myfyrwyr eraill yng Nghymru i ddiwygiadau Diamond, yna mae'n siŵr y gellir priodoli'r gostyngiad mewn ffigurau israddedig rhan-amser yn 2019-20 i'r un peth hefyd.
Os cymharwch y ddwy flynedd ddiwethaf â ffigurau 2017-18, sef y flwyddyn olaf cyn Diamond, yn bendant mae mwy o fyfyrwyr ôl-raddedig o Gymru a rhannau eraill o'r DU, sy'n newyddion gwych, ond a ydych yn derbyn, yn gyffredinol yn y DU, fod mwy o ôl-raddedigion mewn prifysgolion na dwy flynedd yn ôl ac nad yw prifysgolion Cymru, mewn gwirionedd, yn cael y gyfran lawn o'r twf, er gwaethaf Diamond? Efallai fod y niferoedd wedi cynyddu, ond gostyngodd canran y graddedigion sy'n hanu o Gymru sy'n astudio ym mhrifysgolion Cymru mewn gwirionedd yn y ddwy flynedd ddiwethaf, o 69.3 y cant i 63.1 y cant. Felly, er bod mwy o fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru ym mhrifysgolion y DU, maen nhw'n dal i ddewis mynd â'u talent dros y ffin. Felly, beth yn eich tyb chi sy'n gyfrifol am hynny?
Ac yna, yn olaf, a wnewch chi roi rhyw syniad inni o fanylion meysydd astudio ôl-raddedig ym mhrifysgolion Cymru ar hyn o bryd a sut y mae hynny'n adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru? Rwy'n derbyn, wrth gwrs, nad yw addysg yn ymwneud ag economi neu wasanaethau cyhoeddus Cymru yn unig, ond hoffwn weld rhyw faint o gysylltiad rhwng yr ymchwil hon a'r budd i Gymru. Diolch.
Diolch, Suzy, am y sylwadau yna, ac a gaf i ddiolch ichi am eich cydnabyddiaeth o waith caled darlithwyr a staff prifysgolion ar hyd a lled Cymru, sydd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol i gefnogi eu myfyrwyr? Ac rwy'n siŵr yr hoffai pob un ohonom ni yn y Siambr ategu'r sylwadau y bu pobl yn gweithio'n eithriadol o galed i allu gwneud hynny.
A gaf i ddweud ei bod yn ddrwg gennyf nad yw'r Aelod yn teimlo bod niferoedd myfyrwyr rhan-amser yn llwyddiant i Gymru? Rwy'n siŵr bod yr Aelod, fel fi, yn cyfarfod â'r Brifysgol Agored droeon, ac maen nhw'n dweud bod effaith diwygiadau Diamond wedi bod yn gwbl drawsnewidiol, ac mae nifer y myfyrwyr y maen nhw'n eu gweld nawr yn astudio'n rhan-amser gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn destun balchder mawr iddyn nhw ac yn cymharu'n anhygoel o ffafriol â phrofiad y Brifysgol Agored dros y ffin yn Lloegr. Yn wir, cefais y pleser yn ddiweddar o rannu llwyfan gydag is-ganghellor y Brifysgol Agored, ac roedd yn llawn canmoliaeth ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati o ran y parch cydradd a roddwn ar astudio rhan-amser a'r effaith drawsnewidiol sydd ganddo.
Y pwynt a wnaethoch chi ynghylch astudio yn rhan amser, yr amser astudio cyfartalog yw chwe blynedd, ac felly mae ffigurau HESA yr ydych wedi cyfeirio atynt yn cynnwys rhai materion cyn ein diwygiadau, a myfyrwyr newydd yw gwir fesur ein llwyddiant. A chredaf fod angen ystyried hynny wrth edrych ar astudiaethau HESA.
O ran ôl-raddedigion, un o'r cryfderau ac, yn wir, un o'r egwyddorion y cyfeiriais ato yn fy natganiad agoriadol yw bod ein cefnogaeth ar gael ar gyfer unrhyw le. Os oes gan fyfyriwr uchelgais i astudio ar lefel ôl-raddedig mewn sefydliad y tu allan i Gymru, nid wyf eisiau i'r diffyg cyllid nac, yn wir, diffyg cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru gyfyngu'r uchelgais hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn gwbl bwysig bod myfyrwyr sy'n hanu o Gymru yn gallu astudio mewn prifysgolion lle maen nhw'n dewis gwneud hynny. Ond yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, yw darparu cymorth ychwanegol o ran bwrsariaethau ychwanegol sydd ar gael i'r myfyrwyr hynny sy'n dewis astudio ar lefel ôl-raddedig yng Nghymru, yn enwedig ym maes STEMM, oherwydd gwyddom fod lefelau uwch o sgiliau yn y meysydd hynny'n gwbl hanfodol i dyfu economi Cymru. Ac mae bwrsariaethau eto i'r rhai sy'n dymuno astudio ar y lefel uchaf honno drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac felly rwy'n credu mai'r hyn y gallwn ni ei gyflawni yw rhoi dewis i fyfyrwyr o Gymru i allu ymgymryd â'u hastudiaeth ôl-raddedig gan wybod y bydd eu Llywodraeth yn eu cefnogi, ond bydd cymorth ychwanegol i'r myfyrwyr hynny os byddant yn dewis gwneud hynny mewn ardal sydd o fudd arbennig i economi Cymru mewn prifysgol yng Nghymru, neu i allu cefnogi ein cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a datblygu'r sgiliau hynny, a'r capasiti hwnnw gyda'n sefydliad, oherwydd nid yw'r gallu i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg o fudd i'r myfyriwr unigol sy'n dilyn y cwrs ôl-raddedig hwnnw yn unig, ond mewn gwirionedd mae'n helpu i feithrin y gallu ledled y brifysgol i ganiatáu i fyfyrwyr eraill elwa ar y capasiti hwnnw.
Yn ddiau, deallaf y bydd gan fyfyrwyr bryderon am ansawdd yr addysgu y maen nhw wedi'i gael y tymor hwn o ganlyniad i COVID, yn enwedig lle mae'r rhan fwyaf o hwnnw wedi gorfod cael ei ddarparu o bell y tymor hwn. Mae prifysgolion wedi gweithio'n galed. Maen nhw wedi recriwtio staff ychwanegol i sicrhau bod y profiad addysgu hwnnw'n un da, ac rydym yn monitro'n ofalus iawn gyda'n cyngor cyllido ein hunain a'r cyrff rheoleiddio unrhyw lefelau o gwynion lle mae pobl yn teimlo nad yw eu hyfforddiant wedi bodloni eu safonau, ac mae'n rhaid i mi ddweud, hyd yma, nad ydym yn gweld cynnydd enfawr mewn cwynion o'u cymharu â rhai mewn blwyddyn arferol. Fodd bynnag, byddwn yn cydnabod yn llwyr yr effeithiwyd ar y profiad crwn hwnnw y tu hwnt i astudio yn unig—felly, effeithiwyd ar fynediad i'r holl bethau eraill sydd gan brifysgol i'w cynnig i unigolyn ar wahân i hyfforddiant yn unig, ac rydym yn cydnabod, i lawer o fyfyrwyr, y bu caledi penodol. Dyna pam yr wyf yn ddiolchgar iawn i brifysgolion Cymru am gydnabod hynny o ran ad-daliadau rhent i'r rhai sy'n byw yn eu llety eu hunain, ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi tua £40 miliwn, yn y cylch ariannu diweddaraf, i gynorthwyo gyda chaledi myfyrwyr. Er na allaf gael gwared ar COVID, rydym yn awyddus i gefnogi myfyrwyr i dynnu rhywfaint o'r straen a'r pwysau ariannol oddi ar fyfyrwyr drwy weithio mewn partneriaeth â'r sector a CCAUC i allu cynyddu arian ar gyfer caledi. Ond diolch i'r Aelod am ei chydnabyddiaeth o'r ymdrechion y mae'r sector wedi'u gwneud hyd yma. Diolch.
Mae'n wir dweud, fel y dywedodd y Gweinidog, y bu'r maes hwn yn un wleidyddol ddadleuol a chymhleth dros y blynyddoedd, a chan fy mod bellach yn gorffen fy swydd etholedig, hoffwn hel atgofion a dweud mai dyma sut y dechreuais, drwy fod yn llywydd myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ymgyrchu yn erbyn cyflwyno unrhyw ffioedd yma yng Nghymru, er gwaethaf y ffioedd ychwanegol a gyflwynwyd yn y pen draw gan y Llywodraeth Lafur, ac mae hynny wedi golygu'r llwybr llithrig tuag ar farchnadeiddio mewn sefydliadau addysg uwch pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio. Mewn byd delfrydol, hoffwn weld cyffredinolrwydd eto, hoffwn weld myfyrwyr yn peidio â gorfod talu am eu haddysg, ond y gwir amdani yw dyma lle yr ydym ni ac rwy'n credu, Gweinidog, eich bod wedi mynd ymhellach na lawer o Weinidogion eraill i sicrhau y gallwn edrych ar sut y caiff myfyrwyr eu cefnogi, eu costau byw, a chodi plant o dlodi, a dywedaf, o'm safbwynt i, yr hoffwn eich llongyfarch ar hynny, a dweud mai mater i bobl eraill yn y dyfodol fydd ymgymryd â'r gwaith i barhau â hyn pan fydd y ddau ohonom ni wedi mynd i leoedd eraill, dylwn i ddweud.
Rydym hefyd wedi cefnogi llawer o'r newidiadau yn niwygiadau Diamond, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud ei fod wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth drawsbleidiol, yn enwedig o ran dysgu rhan-amser a dysgu hyblyg. Hoffwn weld hynny'n datblygu ar ôl y pandemig, oherwydd y mae'n benderfyniad y mae pobl eisiau ei wneud, ac rwy'n credu ei bod yn glir bod pobl eisiau gwneud hynny ac maen nhw eisiau bod mor hyblyg ag y gallant gyda newidiadau mewn bywyd neu sefyllfaoedd teuluol fel y maen nhw ar hyn o bryd.
Ond fe hoffwn i ganolbwyntio ar rai meysydd allweddol, os yw hynny'n iawn. Dywedoch wrthyf mewn ymateb i gwestiwn addysg yn 2019 nad oedd recriwtio mewn prifysgolion yn gwestiwn i chi, ac eto mae gennym ni sefyllfa lle mae bron hanner yr israddedigion newydd yng Nghymru yn gadael ein gwlad bob blwyddyn, ac nid wyf yn credu bod hynny'n dderbyniol, a hoffem allu gwrthdroi hynny. Rwy'n cydnabod eich bod wedi gwneud hynny, ac rydych yn gweithio tuag at wneud hynny gydag astudiaethau ôl-raddedig, ond pan fyddwn yn gweld cynifer o bobl ifanc yn gadael Cymru, byddwn eisiau ceisio edrych ar ddewisiadau amgen i geisio eu hannog yn ôl o leiaf, o bosibl drwy astudiaethau ôl-raddedig, ond hefyd i feddwl am aros yng Nghymru yn y lle cyntaf, a chredaf o ddifrif y dylai Llywodraeth gynnig mwy o arweiniad yn hyn o beth a pheidio â'i gadael i'r sefydliadau addysg uwch wneud hynny. Rydym ni eisiau gweld Llywodraeth yn cymryd camau mawr ymlaen. Bydd, bydd gan bobl eu dewis eu hunain ynghylch lle i fynd, ond os ydym ni eisiau datblygu ein heconomi, os ydym ni eisiau datblygu'r cymunedau o amgylch ein sector addysg uwch, mae academyddion a'r rhai mewn sefydliadau addysg uwch yn dweud wrthyf ei bod yn angenrheidiol bod myfyrwyr yn teimlo eu bod eisiau astudio mwy yma yng Nghymru, fel y gellir datblygu'r rhwydwaith cymunedol cyfan yma yng Nghymru. Felly, hoffwn glywed eich barn. Credaf y bydd yn wahanol i fy marn i, mae'n debyg, ond dyma lle yr ydym ni.
O ran cydnerthedd y sector addysg uwch, ni allwn anwybyddu rhai o'r materion sydd wedi codi neu sydd wedi dod i'r amlwg mewn cysylltiad â COVID. Y ffaith yw bod llawer o brifysgolion Cymru yn cael trafferthion ariannol, ac nid yw'n ymwneud â COVID yn unig. Mae llawer o sefydliadau'n ei chael hi'n anodd cystadlu mewn amgylchedd addysg uwch sydd ar drugaredd y farchnad i raddau helaeth iawn. Mae tair o'r 21 o brifysgolion yn y DU y nodwyd eu bod yn wynebu'r risg fwyaf o ansolfedd, yng Nghymru. Felly, pan fyddwn yn sôn am gydnerthedd, beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod prifysgolion yma yng Nghymru yn cael eu diogelu i'r dyfodol?
A'm pwynt olaf yw fy mod yn cytuno bod llawer wedi'i wneud i newid y rhagolygon mewn addysg uwch, ond rydym ni wedi gweld toriadau i addysg bellach ac, wrth gwrs, mae llawer o gyrsiau addysg uwch yn cael eu darparu mewn amgylchedd addysg bellach. Felly, hoffwn glywed eich barn ynghylch sut y gallwn geisio gwrthdroi'r dirywiad hwnnw yn y dyfodol, er fy mod yn deall ichi ddod i gytundeb â Phlaid Cymru ynghylch arian ychwanegol yn y gyllideb ddiwethaf. Ond rwy'n credu bod addysg bellach wedi cael ei hanghofio weithiau yn y ddadl ar y materion hyn, a hoffwn weld mwy o bwyslais ar hynny. Ond, diolch am eich holl waith caled yn y maes hwn.
Diolch i Bethan. Mae hi'n iawn—nid wyf yn credu y gall unrhyw blaid wleidyddol ddweud bod ganddynt ddwylo hollol lân o ran ffioedd myfyrwyr, a hoffwn ei hatgoffa o ba bleidiau oedd mewn Llywodraeth yng Nghymru yn 2009 pan gyflwynwyd y ffioedd ychwanegol. Felly, rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni bleidiau lle bu'n rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn, boed hynny yn San Steffan neu yng Nghymru, ynglŷn â sut rydym yn cefnogi'r sector prifysgolion a sut rydym yn cefnogi myfyrwyr.
Ond mae'r Aelod yn berffaith iawn i ddweud mai'r hyn yr ydym ni wedi gallu ei gyflawni yng Nghymru drwy adolygiad Diamond yw lefel o gonsensws nad ystyriwyd ei fod ar gael mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a hynny oherwydd, rwy'n credu, cafodd pob plaid wleidyddol gyfle i gyfrannu at adolygiad Diamond, i ddod â'u syniadau ger bron ac i weithio'n galed i ddatblygu'r consensws hwnnw. Felly, credaf fod Diamond wedi rhoi'r cyfle hwnnw i dynnu rhywfaint o'r wleidyddiaeth galed allan o'r penderfyniadau cymhleth iawn hyn, ac wedi caniatáu i bawb fod yn rhan o'r drafodaeth ac i helpu i ddatblygu consensws sydd, yn fy marn i, wedi dod â budd gwirioneddol, nid yn unig i'r sector, ond i fyfyrwyr unigol.
O ran y cynnig rhan-amser, rwy'n falch bod Bethan wedi cydnabod hyn, oherwydd mae'r gallu hwnnw i astudio mewn ffordd wahanol ac i gydnabod nad y disgybl traddodiadol hwnnw'n gadael ysgol yn 18 oed o reidrwydd yw myfyriwr, yn wirioneddol bwysig. Dywedais wrth ateb Suzy Davies fod effaith aruthrol a chynnydd aruthrol yn y niferoedd a welsom yn y Brifysgol Agored, ond mae hefyd yn bwysig cydnabod bod ein prifysgolion mwy traddodiadol hefyd yn ymateb i'r agenda hon, nid yn unig drwy gynnig graddau israddedig rhan-amser a graddau rhan-amser, ond rydym wedi gweld diddordeb cynyddol a phenderfyniad cynyddol yn y sector i gynnig micro-gymwysterau i allu cefnogi pobl sy'n chwilio am rai cymwysterau a rhai achrediadau sy'n eu galluogi i symud ymlaen yn eu maes gwaith neu'n caniatáu iddyn nhw chwilio am waith newydd. Credaf fod yr hyblygrwydd sy'n cael ei ddangos yn y sector i'w groesawu'n fawr ac yn cydnabod eu bod yn gwybod bod ganddyn nhw ran enfawr i'w chwarae yn adferiad COVID yn ein cenedl wrth symud ymlaen. Felly, mae'n bwysig iawn bod ein prifysgolion mewn sefyllfa i ymateb yn gadarnhaol a gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adferiad ôl-COVID hwnnw, ac rydym wedi gallu gwneud hynny drwy sicrhau ein bod wedi gallu cefnogi ein prifysgolion drwy'r cyngor cyllido mewn ffordd nad oeddem yn gallu ei wneud o'r blaen o dan yr hen system. Rydym wedi gweld swm sylweddol o arian yn mynd i gyllideb CCAUC i gefnogi prifysgolion, ac rydym wedi ymateb yn gadarnhaol fel Llywodraeth yn ystod yr argyfwng hwn i'w cefnogi, wrth symud ymlaen.
Ar y mater o ble mae pobl ifanc yng Nghymru yn dewis mynd i'r brifysgol, Bethan, nid wyf eisiau i'r dewis fod ar gael i'r myfyrwyr hynny sy'n gallu ei fforddio yn unig, a ffordd wahanol o fynd ati fyddai, yn fy marn i, un lle—. Rydym ni wedi ceisio gwneud hynny ym maes ôl-radd lle mae cefnogaeth y tu hwnt i'r hyn y byddech yn ei gael, ond rwy'n credu mewn gwirionedd mai mater i'r unigolyn yw penderfynu ble y mae eisiau mynd i'r brifysgol. Ac nid wyf yn credu y dylem o reidrwydd ei weld fel peth hollol wael os bydd pobl ifanc yn penderfynu treulio cyfnod o amser yn astudio yn rhywle arall, efallai. Rwy'n gweld hyn yn fy nheulu fy hun. Does dim byd anwlatgar ynghylch person ifanc yng Nghymru yn penderfynu ei fod eisiau mynd i astudio mewn gwlad wahanol am gyfnod o amser. Yn wir, os edrychaf o amgylch bwrdd y Cabinet, credaf fod y mwyafrif llethol o Weinidogion wedi astudio mewn prifysgolion mewn mannau eraill ac wedi dod yn ôl i wneud cyfraniad i Gymru. Felly, nid wyf eisiau gorfodi dewis a system ganfod wahaniaethol, lle mae gan y rhai sy'n gallu fforddio mynd i wahanol brifysgolion y dewis hwnnw, ac mae'n rhaid i'r rhai sy'n dibynnu ar gymorth gan Lywodraeth Cymru yn unig fynd i brifysgolion y mae Llywodraeth Cymru eisiau iddyn nhw fynd iddynt. Ond dyna'r gwahaniaeth, rwy'n dyfalu, rhwng eich persbectif chi ar fywyd a'm persbectif i, gan fy mod yn gwerthfawrogi'r dewis unigol hwnnw a'r rhyddid unigol hwnnw i gyflawni potensial pobl.
Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod prifysgolion Cymru yn hynod lwyddiannus wrth recriwtio o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae gennym ni gynnig cryf sy'n ddeniadol iawn, iawn, iawn i unigolion sy'n byw yma yng Nghymru ac sy'n dewis dod i astudio yng Nghymru. Mae gennym ni rywbeth i bawb ac enw da iawn yn wir. Mae ein prifysgolion yn sgorio'n uwch o ran boddhad myfyrwyr nag unrhyw sector arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae ansawdd ein hymchwil yn golygu ein bod yn rhagori ar y system o ran ein maint—rydym yn cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl yn hynny o beth. Felly, mae gennym ni lawer i'w argymell, ond nid wyf eisiau cyfyngu ar le mae unigolion eisiau mynd i'r brifysgol drwy newid y system.
Mae gan addysg bellach ran wirioneddol bwysig i'w chwarae. Mae angen i ni sicrhau bod addysg bellach ac addysg uwch yn cydweithio ac nad ydynt yn cystadlu. Mae Bethan yn llygad ei lle wrth ddweud fod prifysgolion ar drugaredd y farchnad a'r difrod a ddaw yn sgil hynny weithiau. Credaf, yng Nghymru, ein bod yn rhy fach i hynny. Mae gan ein sector a'n sefydliadau rywbeth unigryw iawn i'w gynnig i'w cymunedau a'n cenedl, ac mae angen iddynt weithio mewn partneriaeth ag addysg bellach. A dyna pam y mae'n siomedig i mi nad ydym wedi gallu symud ymlaen gyda'n diwygiadau addysg drydyddol, a fyddai, yn fy marn i, wedi caniatáu i ni greu amgylchedd cynllunio a allai fod wedi torri drwy rywfaint o'r gystadleuaeth honno a rhywfaint o'r marchnadeiddio hwnnw, a gallem fod wedi cael agenda gydweithredol glir iawn rhwng pwy sy'n gwneud beth mewn addysg yng Nghymru—rydym yn manteisio ar ein cryfderau ac mae llwybr clir i fyfyrwyr unigol symud yn ddi-dor rhwng gwahanol lefelau ar adeg sy'n iawn iddyn nhw.
Cyfeiriodd y Gweinidog at fwy o gonsensws yng Nghymru ar addysg uwch. Credaf fod rhywbeth i'w ddweud dros hynny, mae'n debyg. Nid wyf yn siŵr a yw hi wedi fy narbwyllo'n llwyr eto gyda'r rhaglen ar gyffredinoliaeth gynyddol, ond beirniadais adroddiad Diamond i ddechrau am gynnig grantiau cynhaliaeth i deuluoedd sydd â hyd at £80,000 y flwyddyn o incwm, a oedd, yn fy marn i, yn llawer rhy uchel, ond daeth y Gweinidog â hwnnw i lawr, mi gredaf, i rywbeth yn nes at £50,000. A chytunaf â llawer o'r hyn a ddywedodd nawr, ac yn sicr mae'n llawer gwell gennyf hynny na dull llefarydd y Blaid a'r galw am arweinyddiaeth ynghylch aros yng Nghymru yn y lle cyntaf. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog nad yw'n anwlatgar o gwbl i benderfynu mynd i brifysgol y tu allan i Gymru. Cofiaf y sefyllfa hurt pan ymosododd y Prif Weinidog blaenorol, mi gredaf, ar Adam Price am fanteisio ar y cyfle i astudio yn Harvard. Credaf y dylem ni i gyd gael y cyfleoedd hynny i elwa ar astudio mewn mannau eraill.
A lle rwy'n cytuno'n wirioneddol â'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yw y dylai cymorth i fyfyrwyr fod ar gael ledled y Deyrnas Unedig. Hoffwn ddweud pa mor wahanol fu ymagwedd Llywodraeth Cymru i ymagwedd Llywodraeth yr Alban. Roedd erthygl ddiddorol iawn yn The Economist yr wythnos diwethaf a gyfeiriodd at bolisi addysg Llywodraeth yr Alban yn gwanhau'r bondiau sy'n uno'r deyrnas. Awgrymodd The Economist mai bwriad yr SNP oedd gwneud hyn, atal pobl pan fyddan nhw'n ifanc rhag gadael yr Alban ac o bosibl mynd i Loegr a rhai efallai'n aros yno, ac i sicrhau eu bod yn aros yn yr Alban ac felly'n fwy tebygol o gefnogi'r SNP. Maen nhw'n cael addysg am ddim yn y brifysgol os ydyn nhw'n aros yn yr Alban ond yn gorfod talu £9,250 y flwyddyn os ydyn nhw'n mynd i Loegr, felly nid yw'n syndod bod llawer mwy yn aros yn yr Alban. Yr hyn a welir yw symudedd o'r Alban yn gostwng yn sylweddol iawn. Yng Nghymru, credaf fod 2 y cant o bobl bob blwyddyn yn mynd i wlad arall neu ranbarth arall yn Lloegr, o'i gymharu â'r Alban, lle mae dim ond 0.5 y cant yn gwneud hynny, ac mae hynny'n wahaniaeth enfawr. Mae wedi cynyddu'n fawr, ac mae hynny, yn rhannol o leiaf, rwy'n credu, yn ganlyniad i'r system cyllid myfyrwyr. Felly, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog a'i chymeradwyo am yr hyn y mae wedi'i wneud yn y maes hwn, hyd yn oed i'r graddau o roi mwy o gynhaliaeth a chefnogaeth os bydd myfyriwr yn astudio yn Llundain, oherwydd y gost uwch. Rwy'n credu bod gwahaniaeth enfawr rhwng yr hyn y mae hi a Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'i gymharu â'r hyn y mae'r SNP a'r Alban wedi'i wneud ac, efallai, yr hyn y byddai Plaid Cymru efallai yn hoffi iddo ddigwydd yma. Felly, da iawn chi am hynny.
A gaf i hefyd ei holi'n fyr am COVID? Yn gyntaf, a oes unrhyw obaith y gallai myfyrwyr gael rhyw fath o ad-daliad am y sefyllfaoedd ofnadwy y mae cynifer wedi'u dioddef dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae hynny'n dal i barhau o ran y gwerth sydd ganddyn nhw? Beth yw ei barn am hynny? Yn ail, cofiaf, tua blwyddyn yn ôl, fod Llywodraeth y DU wedi rhoi capiau—yn Lloegr o leiaf—i geisio diogelu rhai o'r sefydliadau is eu safle rhag gweld llawer mwy o fyfyrwyr yn mynd i'r sefydliadau uwch eu safle ar gyfer y flwyddyn honno neu fwy oherwydd effaith COVID ac oherwydd nad oedd ganddyn nhw fyfyrwyr rhyngwladol. Credaf fod y Gweinidog, a hynny'n gwbl briodol, wedi cwyno am y camau unochrog hynny a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a effeithiodd ar Gymru a sut y byddai wedi bod yn well o lawer pe bai hynny wedi'i wneud ar sail gydgysylltiedig yn y DU. A wnaiff hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd ar y mater hwnnw?
A gaf i ddiolch i Mark Reckless am ei sylwadau? Fel y dywedais, mae'n egwyddor bwysig i mi fod y pecyn ar gael yn unrhyw le, gan ganiatáu i fyfyrwyr wneud dewisiadau ynghylch ble maen nhw'n astudio. Dydw i ddim yn gwybod ynghylch ceisio gwanhau bondiau'r undeb yn fwriadol, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n peri i system Cymru gymharu'n ffafriol iawn â'r Alban yw symudedd cymdeithasol—dydw i ddim yn gwybod am symudedd allanol, ond symudedd cymdeithasol mewn gwirionedd—yn nifer y myfyrwyr sy'n mynd i brifysgol a'r cefndiroedd y maen nhw'n dod ohonyn nhw. Gan fod capiau ar nifer y lleoedd, i bob pwrpas, ym mhrifysgolion yr Alban, mae'n golygu, byddwn yn dadlau, efallai nad ydynt wedi gweld y twf yn nifer y myfyrwyr o gefndiroedd tlotach sy'n mynd i'r brifysgol y mae ein system cyllid myfyrwyr ni wedi ei ganiatáu. Felly, nid wyf yn gwybod am symudedd allanol, ond rwy'n credu bod ein system yn cymharu'n ffafriol wrth gefnogi symudedd cymdeithasol ac o ran sicrhau, ni waeth beth yw eich cefndir, bod gennych chi gyfle i elwa ar addysg uwch os oes gennych yr awydd a'r gallu academaidd i wneud hynny, ac nad yw hynny wedi ei lesteirio gan allu eich rhieni na'ch gallu ariannol i wneud hynny. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor bwysig iawn.
O ran cymorth i'r sector ac i fyfyrwyr, rydym wedi creu, pro rata, y lefel fwyaf o gymorth i fyfyrwyr yn ystod y cyfnod COVID hwn o'i gymharu ag unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, rwy'n credu, gyda'r £50 miliwn yr ydym ni wedi'i ddarparu. Fel y dywedais wrth ateb Bethan Jenkins a Suzy Davies, ni allwn ddileu'r holl darfu ac effaith COVID, ond gallwn gefnogi myfyrwyr ar hyn o bryd sy'n poeni'n ariannol neu y mae'r profiad y maen nhw wedi mynd drwyddo wedi effeithio ar eu llesiant. Mae'r arian hwnnw wedi ei gyflwyno i geisio mynd i'r afael â hynny. Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar gyfer ad-dalu ffioedd myfyrwyr. Mae hynny'n rhannol oherwydd—ac mae Mr Reckless yn gwybod cymaint ag unrhyw un yn y Siambr am hyn, mae'n debyg—mater y Trysorlys a'r llyfr benthyciadau sy'n cael ei gynnal yn San Steffan, a rhai o'r ffactorau cymhleth sy'n gwneud hwn yn benderfyniad nad yw o reidrwydd yn un hawdd ei wneud ar sail unochrog.
O ran rheoli niferoedd myfyrwyr, roedd hi'n destun gofid y llynedd nad oeddem yn gallu cydweithio ar draws y Deyrnas Unedig. A gaf i ddweud fy mod nawr yn cyfarfod yn rheolaidd iawn â'm cyd-weinidog Michelle Donelan o Lywodraeth San Steffan? Rwy'n siŵr y byddai sefyllfa o'r fath yn cael ei hosgoi eleni oherwydd bod cyfathrebu a chyfarfodydd wedi gwella'n fawr. Rwy'n siŵr y gallwn osgoi sefyllfa eleni, oherwydd rydym ni wedi ymrwymo—fi a Michelle—i osgoi'r sefyllfa y cawsom ein hunain ynddi y llynedd.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.