– Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
Eitem 7 ar ein hagenda yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar barth perygl nitradau Cymru gyfan a galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.
Weinidog, mae'n wirionedd trist fod eich mesurau parth perygl nitradau didostur rydych yn eu cyflwyno yn creu amheuaeth ynghylch gonestrwydd ac uniondeb eich Llywodraeth. Yn wir, o leiaf wyth gwaith rydych wedi addo peidio â gwneud unrhyw beth tra'n bod ynghanol pandemig COVID. Wrth ymateb i mi yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Chwefror, fe wnaethoch honni bod y cynllun gwirfoddol roeddech wedi gweithio gyda NFU Cymru i'w gyflawni wedi methu. Nid yw hynny'n wir. Yn wir, ni chafodd y dull ffermio baner las ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru pan wnaeth ffermwyr gais am gyllid drwy gynllun rheoli cynaliadwy'r cynllun datblygu gwledig.
Er bod canlyniadau prosiectau a safonau dŵr wedi cael eu rhannu mewn llythyrau atoch chi a'r Prif Weinidog ym mis Mawrth 2020, gan gynnwys argymhellion ar gyfer y camau nesaf a chyhoeddi ymateb gan swyddogion yn datgan y rhoddir ystyriaeth fanwl i'r safon dŵr, yn ôl yr hyn a ddeallaf mae'n warthus fod NFU Cymru yn dal i aros am ateb pellach. Er bod sefydliadau'r diwydiant yn ymrwymo i is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol a bod y grŵp wedi cyflwyno adroddiad cynnydd i chi gyda 45 o argymhellion ym mis Ebrill 2018, erbyn dechrau'r mis hwn nid oeddech wedi ymateb na hyd yn oed wedi cyfarfod â'r grŵp arbenigol. Yn amlwg, rydych wedi diystyru'r dull gwirfoddol ymhell cyn rhoi cyfle priodol iddo.
Yn gynharach y mis hwn, honnodd y Prif Weinidog nad ydym wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol. Nid yw hynny eto'n gywir. Rydych chi eich hun wedi cydnabod y bu cynnydd dros y pedair blynedd ddiwethaf. Roedd cyfarwyddwr gweithredol tystiolaeth, polisi a thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru wedi sôn am leihad cyson mewn digwyddiadau llygredd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a gwelwyd tuedd glir ar i lawr o 28 y cant dros y tair blynedd ddiwethaf. Wrth geisio cyfiawnhau'r rheoliadau hyn, rydych wedi fy nghyfeirio at brosiect llaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedwyd wrth y Senedd hon nad yw 50 y cant o'r ffermydd llaeth yr ymwelwyd â hwy yn cydymffurfio. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn ichi egluro pa gamau a gymerodd swyddogion i archwilio'r rhesymau dros beidio â chydymffurfio. Gwnaethoch ymateb ddydd Llun yn dweud y byddwch yn dadansoddi'r canlyniadau'n drylwyr pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau. Rwy'n credu eich bod yn gwybod i ble rwy'n mynd gyda hyn. Efallai y cofiwch hefyd yn y pwyllgor y mis hwn i chi ddweud wrthyf, ac rwy'n dyfynnu,
O ran y costau sy'n gysylltiedig â'r llygredd amaethyddol, fel y dywedais, mae cost uwch os na wnawn unrhyw beth.
Unwaith eto, rydych chi'n anghywir. Mae eich asesiad effaith rheoleiddiol eich hun yn amcangyfrif y gallai costau cyfalaf ymlaen llaw parth perygl nitradau fod yn £360 miliwn. Mae hynny £347 miliwn yn fwy na'r cymorth rydych yn ei gynnig mewn gwirionedd, £99 miliwn yn fwy na chyfanswm diweddaraf incwm ffermio yng Nghymru. Yn wir, yn ôl yr asesiad effaith rheoleiddiol, dros 20 mlynedd, mae cyfanswm y gost yn fwy na £1 biliwn i'n sector amaethyddol. Pam eich bod yn gwneud i ffermwyr wario'r symiau hurt hyn, arian nad oes ganddynt, rhwng nawr a 2040, am fuddion gwerth £153 miliwn? Mae'r costau £950 miliwn yn fwy na gwerth gwirioneddol y buddion. Yn wir, gallai bwlch enfawr Griffiths rhwng cost a budd fod hyd yn oed yn fwy, fel y dywed y memorandwm esboniadol, ac rwy'n dyfynnu:
Oherwydd yr ystod eang o gostau amgylcheddol posibl sy'n gysylltiedig â'r llygryddion hyn a'r amrywiaeth o fathau o ffermydd ac arferion, ni ellir bod yn sicr o'r gymhareb cost a budd.
Pam eich bod yn honni bod y rheoliadau hyn yn gymesur? Pam cynyddu nifer y daliadau y mae parthau perygl nitradau yn effeithio arnynt i dros 24,000, pan na fu unrhyw ddigwyddiadau mewn rhannau helaeth o Gymru yn ystod y degawd diwethaf? Pam gwawdio Brexit a datganoli drwy ddewis opsiwn Ewropeaidd pan ddylem fod yn edrych ar weithio gyda ffermwyr i ddatblygu ateb gwirfoddol i Gymru? Pam mynd ar drywydd parth perygl nitradau pan fo astudiaeth gan eich annwyl Gomisiwn Ewropeaidd wedi canfod nad oedd tua hanner y safleoedd monitro nitradau Ewropeaidd yn dangos unrhyw newid sylweddol, a bod 26.6 y cant arall yn cyflwyno tueddiadau cynyddol o nitradau? Pam gwthio Cymru i barth perygl nitradau tiriogaeth gyfan pan fo Denmarc ac Iwerddon wedi gwneud cais am randdirymiad?
Er mwyn ffermio yng Nghymru, ac yn wir, i'n ffermwyr a cheidwaid ein cefn gwlad, mae angen inni atal cynnydd ar hyn. Weinidog, rwy'n eich parchu'n fawr, ac yn sylweddoli ei fod yn bortffolio mawr sy'n wynebu anawsterau. Mae un achos o lygredd yn un achos yn ormod. Ond rwy'n dweud wrthych, yn gwbl onest, ac o ddifrif: nid yw y tu hwnt i rywun i allu dweud, 'Rwy'n gwrando ar fy ffermwyr, rwy'n gwrando ar bobl Cymru, rwy'n gwrando ar fy nghyd-Aelodau etholedig yn y Senedd.' Newidiwch eich meddwl ar y penderfyniad hwn, Weinidog, a gadewch inni droi'r diffyg ymddiriedaeth yn barch yn awr. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a gofynnaf i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi uchelgais ffermio Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd o ran natur a’r hinsawdd ac ymuno â’r undebau ffermio i gydnabod bod un achos o lygredd amaethyddol yn un achos yn ormod.
Yn cydnabod bod ffermio yng Nghymru yn cynnig llawer o’r atebion pwysicaf i argyfwng yr hinsawdd, a bod llawer o ffermwyr Cymru eisoes wedi sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen i’w harferion ffermio.
Yn derbyn bod rheoli allyriadau amaethyddol yn rhan annatod o’r ymdrech i sicrhau allyriadau sero-net yng Nghymru ac ar draws y DU.
Yn cytuno mai’r cam cyntaf i daclo allyriadau amaethyddol yw cynnal y mesurau rheoli da sydd eisoes yn cael eu cynnal gan y rhan fwyaf o ffermwyr.
Yn ffurfiol.
Mi fydd Aelodau’n ymwybodol fy mod i wedi gosod cynnig i ddiddymu y rheoliadau yma, a fydd yn cael ei ddadlau a’i bleidleisio arno yr wythnos nesaf, ond mae’n dda cael cyfle i wyntyllu’r dadleuon wrth inni baratoi ar gyfer y bleidlais fawr honno. Wrth gwrs, mi fyddwn ni’n cefnogi'r cynnig yma heddiw.
Dwi’n gwrthwynebu’r rheoliadau yma nid am nad oes yna broblem ansawdd dŵr mewn rhai rhannau o Gymru; dwi’n gwrthwynebu y rheoliadau yma oherwydd nid y rheoliadau yma yw’r ateb cywir i fynd i’r afael â’r broblem. Mae’r rheoliadau yn anghymesur, maen nhw yn mynd i gael canlyniadau anfwriadol ar yr amgylchedd, ac, wrth gwrs, maen nhw’n mynd i danseilio hyfywedd nifer o ffermydd Cymru. Pam eu bod nhw’n anghymesur? Wel, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, wedi argymell dynodi 8 y cant o Gymru ar gyfer yr NVZs yma, yn targedu y rhannau hynny o Gymru lle mae yna broblem. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu hynny a mynd am 100 y cant o Gymru, hyd yn oed yr ardaloedd sydd heb weld unrhyw achosion o lygredd amaethyddol dros y ddegawd ddiwethaf. Rŷn ni’n gwybod bod y trend ar draws Cymru wedi disgyn pan ŷch chi’n edrych ar yr achosion—flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y tair blynedd diwethaf, lawr 28 y cant yn y cyfnod hwnnw. Felly, ie, targedwch lle mae angen targedu, gosodwch reoliadau lle mae angen rheoleiddio, ond nid gosod y baich afresymol yma ar bob un ffarm yng Nghymru ac ar bob un erw o dir Cymru hyd yn oed lle dyw e ddim yn fater sydd yn peri gofid. Mae angen i’r Llywodraeth yma fod yn llawer mwy soffistigedig ac yn llai cyntefig ar y mater yma. Dilynwch y data, dilynwch y wyddoniaeth—dyna yw mantra'r Llywodraeth pan mae'n dod i COVID. Wel, da chi, gwnewch yr un peth yn y cyd-destun yma.
Mi fydd yna ganlyniadau anfwriadol i'r amgylchedd. Mae chwalu tail yn ôl y calendr yn wirion bost, ac mi roedd y Gweinidog ei hun wedi cydnabod gyda fi rhai misoedd yn ôl ei bod hi yn ei chael hi'n anodd derbyn mai dyna yw'r approach gorau. Wythnosau cyn y bydd y cyfnod i beidio â chwalu yn dod, ac wythnosau ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, mi fydd yna sbeics eithriadol yn lefelau nitradau yn y tir ac ar y dŵr wrth i bob ffarmwr yng Nghymru glirio'u storfeydd ar yr un pryd. Mi fydd hynny yn creu problemau llygru mewn ardaloedd lle does dim problemau llygredd ar hyn o bryd. A'r unig opsiwn, wrth gwrs, i nifer o ffermydd, yn enwedig yn yr ardaloedd llai ffafriol, sydd efallai'n cadw rhyw 20 neu 30 o wartheg, yw mynd allan o wartheg oherwydd y gost, ac mi fydd hynny'n golygu y byddwn ni'n colli'r cyfraniad amgylcheddol y mae pori'r gwartheg yna yn ei wneud o safbwynt cynefinoedd a bioamrywiaeth, yn enwedig yn yr ucheldir. Ac o golli'r gwartheg yna, beth welwch chi wedyn, wrth gwrs, yw ffermwyr yn gorfod cyflwyno mwy o ddefaid ar y tiroedd hynny, fydd yn pori'n galetach ac felly'n creu difrod i'r cynefinoedd hynny. Os ydych chi'n cadw, dywedwch, 20 o wartheg, mae'r gost o dalu am y seilwaith yma i storio gwerth tri neu bedwar mis o dail yn mynd i fod yn gwbl y tu hwnt i'ch cyrraedd chi. Mae'r Llywodraeth yn mynd i ddweud, 'Rŷn ni'n rhoi rhyw £11 miliwn i gynorthwyo'; wel, mae hynny'n chwerthinllyd. Mae hynny'n llai na £1,000 i bob daliad amaethyddol yng Nghymru. Dwi'n gwybod am un fferm sydd wedi quote o £300,000 i osod tŵr slyri ar y fferm i gwrdd â'r rheoliadau yma. Does dim unrhyw ffordd yn y byd y gall y ffarm yna fforddio'r buddsoddiad hwnnw, hyd yn oed petai'r Llywodraeth yn cyfrannu hanner y gost.
Fe wnaf i gloi gyda hyn—
A gaf fi ofyn i'r Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Ocê. Maen nhw'n rheoliadau anymarferol, maen nhw'n rheoliadau na ellir eu cyflawni heb greu difrod amgylcheddol na dinistr economaidd i'r ffermydd ar draws Cymru, ac maen nhw'n dod i rym wythnos cyn dyddiad gwreiddiol diddymu y Senedd yma. Mae etholiad mewn mater o wythnosau; peidiwch â rhuthro'r rheoliadau yma drwodd yn fyrbwyll. Cymerwch gam yn ôl ac ailystyriwch.
A gaf fi atgoffa'r holl Aelodau mai dadl 30 munud yw hi, a thair munud yw'r cyfraniadau? Mewn gwirionedd, mae gennym ormod o siaradwyr, felly bydd rhai ohonoch yn cael eich siomi. Jenny Rathbone.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig i sicrhau bod pobl yn sylweddoli yn y gymuned ffermio ein bod yn gwrando arnynt, ond credaf fod rhywfaint o orliwio wedi bod ynglŷn â beth yw'r broblem o ran yr hyn rydym yn ei ofyn gan ffermwyr. Rydym yn gofyn i ffermwyr beidio â llygru'r tir a pheidio â llygru'r afonydd, ac mae hwnnw'n ofyniad hollol resymegol a gwareiddiedig. Ni allwn barhau i gael bron i 3,000 o ddigwyddiadau llygredd yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth fel sydd wedi digwydd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rydym wedi cael mwy na thri digwyddiad bob wythnos yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae llawer iawn o drafod wedi bod rhwng y Gweinidog a chynrychiolwyr ffermwyr dros y pum mlynedd ddiwethaf, ac yn syml iawn nid yw'r gymuned ffermio wedi cynnig yr ateb y mae angen inni ei weld. Ni allwn gael parthau lle mae gennym reoliadau a pharthau heb reoliadau. Ni fyddech yn disgwyl gweld hynny mewn siop cigydd neu ysbyty—'Fe gawn ychydig o reoleiddio yma ond nid yno.' Mae'n ymddangos i mi fod angen inni wrando ar ein ffermwyr wrth gwrs, ond credaf eu bod wedi cael eu gwneud yn or-bryderus, ac nid yw gwneud dim yn opsiwn.
Mae'r Arglwydd Deben, sy'n cadeirio'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, yn dod i siarad â'r pwyllgor newid hinsawdd yma yfory, a byddai'n cael syndod mawr pe na baem yn gwneud popeth sydd angen inni ei wneud i leihau ein hallyriadau. Dyma un o'r ffyrdd y gallwn ei wneud. Mae arian ar gael i helpu ffermwyr bach i osod lleoedd addas ar gyfer storio'r tail y mae angen iddynt ei storio. Ceir ymadrodd fod yna bob amser arian i'w wneud o faw, ac nid wyf yn deall pam nad yw'n bosibl ei wneud yn nwydd y gellir ei farchnata er mwyn cyfoethogi'r tir a'i wneud yn well ac yn haws tyfu cnydau arno. Mae hwn i'w weld yn fater pwysig iawn i mi, a chredaf y bydd gor-arbenigedd mewn ffermio gyda'r ffermydd llaeth enfawr hyn yn ffynhonnell bwysig i'r broblem yma. Mae angen inni sicrhau bod yr economi gylchol yr un mor berthnasol i ffermio ag i boteli plastig.
Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn ddod o hyd i ateb i fanylion y broblem hon, ond mae'n debyg na ellir gwneud hynny mewn dadl 30 munud. Mae angen inni edrych ar hyn yn y pwyllgor newid hinsawdd i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau na fydd ffermwyr bach yn methu o ganlyniad i gydymffurfio â'r rheoliadau presennol, heb sôn am unrhyw beth y cred y Gweinidog fod angen inni ei wneud i'w gwella. Rhaid inni gofio bod hyn i gyd yn cael ei wneud yng nghyd-destun cael rhybudd fod traean o'r holl bysgod ac infertebratau dŵr croyw yn ein dyfroedd ffres yn mynd i gael eu difa yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, ac felly, rhaid inni weithredu yn awr i ddiogelu ein hamgylchedd, diogelu natur a sicrhau bod gennym ffermio cynaliadwy nad yw'n tanseilio agweddau eraill ar ein heconomi.
Weinidog, rwyf am fod yn glir ar y mater hwn, rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru, ond ni chredaf mai dyma ydyw. Gan gydnabod yr angen i ddiogelu ein hamgylchedd, ar ddechrau hyn oll, cefnogais y galwadau am gyfres gymysg o ddulliau i ffermwyr allu eu defnyddio i leihau lefelau nitradau ar ffermydd. Roeddwn yn cydnabod nad un ateb addas i bawb fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol ymlaen yn amgylcheddol na'r fwyaf sefydlog yn ariannol, ac rwy'n ei chael yn rhyfeddol eich bod wedi penderfynu cyflwyno parth perygl nitradau ar gyfer Cymru gyfan, er gwaethaf y dystiolaeth gymhellol a ddaeth ger eich bron. Hoffwn dynnu sylw'r siaradwr blaenorol at y ffaith bod gennym barthau perygl nitradau eisoes mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae fy ardal i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn un, ac nid oes angen i chi ei gael dros y wlad gyfan.
Dangosodd ymatebion gan ffermwyr a rheolwyr tir na fyddent yn gallu fforddio'r parth perygl nitradau Cymru gyfan arfaethedig, ac nid yw'r mwyafrif helaeth o ffermwyr yn defnyddio fawr iawn o wrtaith nitradau mewn gwirionedd. Nid oes gan 73 y cant o ffermydd sy'n cynhyrchu slyri ddigon o le storio ar eu ffermydd sy'n gallu bodloni'r gofynion arfaethedig i gael lle storio am ddau fis a hanner. Nid yn unig y bydd cost y gofyniad hwn yn golygu y bydd rhai ffermydd yn methu, bydd hyd yn oed y rhai a fydd yn penderfynu y gallant ei gyflawni yn wynebu problemau gyda chyllid, gyda chynllunio—ceisiwch gael caniatâd cynllunio—a'r gwaith ffisegol o'i wneud yn y cyfnod pontio byr. A chofiwch, Weinidog, mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar ffermwyr sydd eisoes dan bwysau ac sy'n ymdopi â cholli arian oherwydd COVID-19 ac ansicrwydd ynghylch y cynlluniau ôl-Brexit.
Wedyn ceir y cyfnodau gwaharddedig ar gyfer gwasgaru. Fel y bydd unrhyw ffermwr yn dweud wrthych, ni allwch ffermio yn ôl y calendr, rydych yn ffermio yn ôl yr amodau tywydd. Felly, er enghraifft, dyma ni ar ddiwedd mis Chwefror ac yn ddamcaniaethol gallai ffermwyr fod yn gwasgaru slyri mewn tywydd gwlyb iawn, ond ni fyddant wedi gallu manteisio ar yr holl gyfnodau sych rhwng 15 Hydref a 15 Ionawr. Canlyniad terfynol y gofyniad hwn fydd risg uchel iawn o lygredd cyn ac ar ôl y cyfnod gwaharddedig, rhywbeth sy'n gyffredin iawn yn Iwerddon.
Credaf mai'r prif faes arall rwyf am ei grybwyll yn fyr yw mater dim rhanddirymiadau ar gyfer terfyn N a gynhyrchir ar y fferm. Mae ffermwyr yn dweud wrthyf mai dyma'r broblem fwyaf gyda'r rheoliadau. Mae'r rheoliad yn pennu na all fferm fynd dros 170 kg N N/h. Ym mhob un o wledydd eraill y DU, cynigir rhanddirymiad sy'n codi'r ffigur hwn i 250 kg i ffermydd lle mae 80 y cant o'r fferm yn seiliedig ar borfa. Roedd yn y rheoliadau drafft, ond mae wedi mynd ar goll.
Gallwn sôn am y ffaith fy mod yn credu mai cwota ar gynhyrchu fesul hectar yw hyn ac y bydd yn effeithio ar bris tir a chanlyniadau i fusnesau yn y gadwyn sy'n deillio o ffermydd. Hoffwn i ni siarad am y materion iechyd meddwl, hoffwn siarad am anawsterau cadw cofnodion, ond rwy'n credu fy mod am orffen gyda fy rhwystredigaeth llwyr, oherwydd rwyf wedi eich lobïo chi a Gweinidogion blaenorol ar fynd i'r afael â'r pechaduriaid. Gallech fod wedi defnyddio ffon dafl a chael y bobl sy'n chwerthin, yn mynd i'r banc, yn chwerthin ar ben CNC, yn anwybyddu CNC, yn talu eu dirwyon, yn sathru ar eu cymunedau lleol a dal ati i wneud yr un peth. Yn hytrach, rydych wedi defnyddio gordd i dorri cneuen. Nid wyf yn credu mai dyma'r ffordd ymlaen, Weinidog, a chredaf y dylech wrthdroi eich penderfyniad.
Byddaf fi a fy ngrŵp yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr. Mae'r rheoliadau sy'n gweithredu set gyffredinol o reoliadau slyri ar gyfer diwydiant ffermio Cymru gyfan yn gwbl anghymesur, o ran cost a chyflawniad. Mae'n ymddangos unwaith eto fod y mwyafrif yn cael eu cosbi am weithredoedd y lleiafrif. Mae'n bosibl hefyd, hyd yn oed gyda'r lleiafrif, nad oedd modd osgoi'r rhan fwyaf o ddamweiniau llygredd neu eu bod, fel mewn bywyd yn gyffredinol, yn ddim ond mater o gamgymeriadau syml. Mae hyd yn oed y rhain, fel y dywedwyd o'r blaen, wedi gostwng dros 24 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi neilltuo £22 miliwn i helpu ffermwyr i weithredu'r newidiadau sydd eu hangen, ond bydd hyd yn oed cipolwg sydyn ar gost y seilwaith sydd ei angen yn dangos bod y swm yn gwbl annigonol. Amcangyfrifir mai tua £80,000 yw cost gyfartalog adeiladu cyfleusterau storio slyri. O ystyried bod 24,000 o ffermydd yng Nghymru y gallai'r rheoliadau hyn effeithio arnynt, cawn flas ar ba mor annigonol yw'r ffigur a neilltuwyd.
Mae'n amlwg mai'r ffermwyr eu hunain fydd yn ysgwyddo baich y gost o weithredu. Nid yw'r ffigur o £80,000 ond yn cynrychioli'r gost gychwynnol ar gyfer y seilwaith angenrheidiol. Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun o'r costau'n rhoi ffigur o £360 miliwn ar gyfer costau cyfalaf ymlaen llaw a chostau blynyddol parhaus o tua £22 miliwn, ac nid yw hyn yn cynnwys y taliad untro amcangyfrifedig o £7.5 miliwn o ffioedd caniatâd cynllunio. O ystyried bod y diwydiant ffermio ynghanol newid enfawr mewn perthynas â Brexit, heb sôn am yr aflonyddwch a achosir gan COVID, sut y mae'r Llywodraeth yn disgwyl i ffermwyr ymdopi â'r gost ychwanegol enfawr hon? Dywedir bod y banciau'n amharod i roi benthyciadau am y gost am nad ydynt yn effeithio'n gadarnhaol ar incwm ffermydd.
Mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain felly: beth yw'r manteision a gyflawnir dros yr 20 mlynedd nesaf? Wel, mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud y bydd oddeutu £300 miliwn, wedi'i osod yn erbyn cost o dros £800 miliwn ar gyfer ei weithredu. Unwaith eto, o'r 953 o'r dalgylchoedd dŵr a nodwyd ledled Cymru, dim ond 113, 12 y cant, oedd yn methu o ganlyniad i arferion ffermio. Ffordd lawer mwy cymesur a chosteffeithiol, does bosibl, o reoli'r problemau llygredd fyddai targedu'r ardaloedd sy'n methu.
Os bydd y mesurau llym hyn yn mynd rhagddynt, credaf y gwelwn lawer o'n ffermwyr sydd eisoes yn dlawd yn mynd i'r wal. Mae un ffermwr wedi dweud wrthyf y bydd yn rhaid haneru ei fuches odro os aiff y mesurau hyn yn eu blaen. Dywed y Gweinidog y bu ymgynghori helaeth â'r diwydiant ffermio, ond dywed y diwydiant ffermio wrthym fod bron bob un o'u hawgrymiadau a'u mewnbwn wedi'u hanwybyddu. O gofio mai ffermwyr Prydain yw rhai o'r ffermwyr mwyaf gweithgar ac arloesol yn Ewrop a'u safonau hwsmonaeth ymhlith yr uchaf yn y byd, dylem wneud popeth i helpu'r diwydiant, nid creu rhwystrau i'w goroesiad. Mae'n ymddangos bod y ffermwyr yn cael eu haberthu ar allor nodau amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Yn sicr, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau a fydd yn gweld Cymru gyfan yn cael ei dynodi'n barth perygl nitradau o 1 Ebrill wedi achosi llawer iawn o rwystredigaeth a phryder i ffermwyr yn fy etholaeth. Mae nifer y negeseuon e-bost rwyf wedi'u cael ar y mater hwn yn dangos hynny. Fel rhywun o deulu ffermio fy hun ac fel rhywun sydd wedi priodi i deulu ffermio llaeth, hoffwn feddwl fy mod yn ymwybodol iawn o'r effaith y bydd y cynigion hyn yn ei chael nid yn unig ar hyfywedd ariannol llawer o ffermydd ond hefyd ar iechyd meddwl ffermwyr, sy'n wynebu'r rheoliadau hyn yn ystod pandemig byd-eang. Yn wir, mae'r union ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dal ati i hongian y mater hwn uwchben y sector ffermio ers sawl blwyddyn bellach wedi achosi llawer o bryder, ansicrwydd, a rhwystredigaeth yn wir, ac mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cyflwyno'r rheoliadau hyn, yn enwedig pan wnaethant addo peidio â gwneud hynny yn ystod pandemig. Ni fydd y baich gormodol y bydd y rheoliadau hyn yn ei osod ar ffermwyr yn gwneud dim i ddenu pobl i ffermio, ac felly credaf y bydd yn niweidio'r diwydiant yn ddifrifol yn y tymor hir. Yn wir, mae'r negeseuon e-bost niferus rwyf wedi'u cael yn dweud wrthyf y bydd llawer o ffermwyr, yn anffodus, yn cael eu gorfodi i roi'r gorau iddi oherwydd y rheoliadau hyn.
Nawr, dywed Llywodraeth Cymru wrthym fod angen y rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd dŵr, ond mae'r porth sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, a anfonwyd ataf gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau, yn dangos mai dim ond hyd at 15 y cant o'r achosion o lygredd a achoswyd gan ddigwyddiadau amaethyddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fel y dywedodd Angela Burns, mae'r rheoliadau hyn yn ordd i dorri cneuen. Nawr, mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru hefyd yn methu ystyried peth o'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan ffermwyr ledled Cymru. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, mae prosiect arddangos ffermio sensitif i ddalgylch afon Cymru yn enghraifft o gynllun gwirfoddol llwyddiannus iawn a gafodd dderbyniad da gan ffermwyr. Roedd cynllun gwrthbwyso a gâi ei weithredu'n llwyddiannus gan grŵp o ffermwyr First Milk yn nalgylch Cleddau, dan arweiniad y ffermwyr lleol, Will Pritchard a Mike Smith, hefyd yn darparu dewis ymarferol arall i sicrhau gostyngiadau mesuradwy mewn nitradau. Felly, roedd yn siomedig iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio adeiladu ar y gweithgaredd hwn a datblygu ateb sy'n gweithio gyda'n sector ffermio ac nid yn ei erbyn.
Nawr, fel y byddech yn disgwyl, mae ffermwyr lleol yn sir Benfro wedi codi sawl mater gyda'r rheoliadau, er enghraifft, nid yw'r cyfnodau gwaharddedig, fel y clywsom eisoes, ar gyfer gwasgaru yn ystyried amodau tywydd y mae'n rhaid i ffermwyr weithio gyda hwy, ac mae'r cyfnod hir o dywydd gwlyb yn effeithio ar y gallu i wasgaru a storio slyri. Fel y dywedwyd eisoes, mae pryderon hefyd ynghylch y rheoliad sy'n pennu na all ffermydd yng Nghymru wasgaru mwy na mesur penodol o nitrogen yr hectar, tra bo'r terfynau'n llawer mwy hyblyg mewn rhannau eraill o'r DU. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae un busnes wedi dweud yn glir y bydd yn rhaid iddynt naill ai ddod o hyd i 125 erw arall o dir i gynnal eu nifer bresennol o stoc neu leihau eu lefelau stoc, a fydd yn effeithio'n sylweddol ar eu hallbwn ac felly ar eu busnes. Dengys hyn yr effaith wirioneddol y bydd y rheoliadau hyn yn ei chael ar ffermwyr, a sut y caiff rhai ohonynt eu gorfodi yn awr i wneud penderfyniadau enfawr a fydd yn effeithio ar eu bywoliaeth.
Ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol i ffermwyr er mwyn eu helpu i gydymffurfio â'r rheoliadau, ond nid yw'r £13 miliwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ffermio'n ddigonol, ac nid oes sôn yn natganiadau Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth y dylai Llywodraeth Cymru ei darparu i fusnesau sydd wedi gorfod lleihau eu lefelau stoc oherwydd y rheoliadau hyn. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog fanteisio ar y cyfle heddiw i nodi'n union pa gymorth a gynigir i ffermwyr sydd wedi gorfod lleihau stoc neu gael tir ychwanegol i gydymffurfio â'r rheoliadau hyn.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, credaf y bydd y rheoliadau hyn yn niweidio dyfodol y sector yn y tymor hir, ac ni wnânt fawr ddim i ddenu'r genhedlaeth iau i ffermio, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl ganlyniadau ehangach hyn a dod o hyd i ddull o fynd i'r afael â llygredd dŵr sydd nid yn unig yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gymesur ond sy'n gweithio gyda'r diwydiant yn y pen draw, dull nad yw'n dadsefydlogi ei ddyfodol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig.
A gaf fi alw yn awr ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth, rydym yn cefnogi uchelgais ffermwyr Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd tuag at natur a'r hinsawdd, gan adeiladu ar enw da am safonau lles anifeiliaid uchel, safonau amgylcheddol uchel ac ansawdd uchel y bwyd y maent yn ei gynhyrchu. Mae'r uchelgais hwn dan fygythiad oherwydd y niwed ecolegol a'r niwed i enw da a achosir gan lygredd eang yn deillio o arferion amaethyddol gwael.
Er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i ffermio yng Nghymru bydd rhaid gallu manteisio ar alw cynyddol yn y wlad hon ac yn rhyngwladol am gynnyrch gwirioneddol gynaliadwy. Credaf fod gan ein ffermwyr arbenigedd a phenderfyniad i gyflawni hyn, a chredaf fod y cyhoedd am i'r gefnogaeth sylweddol iawn a roddwn i'r sector ffermio ar eu rhan ganolbwyntio ar sicrhau'r cynaliadwyedd hwnnw i'r economi wledig ac i dreftadaeth naturiol Cymru. Rwy'n ymwybodol fod llawer iawn o wybodaeth anghywir wedi bod ynghylch bwriadau'r Llywodraeth wrth ymdrin â llygredd amaethyddol, a bod rhai wedi ystyried mai eu rôl oedd creu gorbryder ac ansicrwydd ymhlith cymunedau ffermio, yn hytrach na chraffu'n ofalus, cyflwyno syniadau adeiladol, a hysbysu'r cyhoedd yn gyfrifol am y materion sy'n codi. Cyfeiriodd Jenny Rathbone at y gorliwio ynghylch gofyn i ffermwyr beidio â llygru. A gawn ni gofio mai eu dyletswydd statudol yw peidio â llygru? Yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n croesawu'r cyfle ar gyfer y ddadl hon yn y Senedd fel y gallwn geisio dod i gonsensws ar yr angen am newid ac ar yr angen i gefnogi'r sector i weithredu mesurau ymarfer da presennol fel cam cyntaf tuag at wneud ein sector ffermio a'n hamgylchedd naturiol yn fwy gwydn.
Yn gynharach y mis hwn, gwneuthum reoliadau gerbron y Senedd i osod targed allyriadau sero-net yng Nghymru mewn cyfraith. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y Senedd hon yn rhannu'r uchelgais hwn ar gyfer ymateb brys a chynyddol i'r argyfwng hinsawdd. Gwn fod undebau ffermio Cymru'n cefnogi'r uchelgais yn gryf, ac maent hwy eu hunain wedi gosod nod sero-net ar gyfer y sector. Mae'r dystiolaeth wyddonol yn glir: mae maint yr her sero-net yn golygu na allwn fforddio gohirio tan yfory y gostyngiadau mewn allyriadau y gallwn eu cyflawni heddiw. Nid yw'n gredadwy i'r gwrthbleidiau ddweud eu bod yn cefnogi'r nod sero-net os nad ydynt yn fodlon dilyn y cyngor gwyddonol ar y mesurau y mae angen inni eu cymryd i'w gyflawni a'r amserlenni y mae'n rhaid inni weithio o'u mewn, lle nad oes lle i oedi neu wrthdroi. Y cyfan a glywais gan Aelodau'r gwrthbleidiau y prynhawn yma yw galwad i beidio â gweithredu; mae'r Llywodraeth hon yn un sy'n gweithredu.
Mae gweithredu arferion da ym maes rheoli maetholion yn golygu cynllunio ble, pryd a sut i wasgaru slyri mewn ffordd sy'n lleihau'r colledion i'r amgylchedd sydd fel arall yn cynyddu ein hallyriadau i lefelau anghynaliadwy. Mae gan y sector ffermio gyfraniad eang iawn i'w wneud i ddarparu'r atebion sydd eu hangen arnom i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae codi safonau rheoli maetholion fel mai'r safon dda y mae llawer eisoes yn ei chyrraedd yw'r safon ofynnol yn un o'r camau pwysicaf a mwyaf uniongyrchol y gallant eu cymryd, a gobeithio y gall y Senedd gyfan gytuno bod angen y camau hyn yn awr.
Yn anffodus, oherwydd diffygion yn y modd y rheolir maetholion mewn rhai rhannau o'r sector ffermio, mae'n dal i fod yn wir ein bod yn parhau i weld llawer gormod o achosion o lygredd amaethyddol y gellir eu hatal. Hyd yn oed ar drothwy'r ddadl hon, cefais wybod neithiwr am achos sylweddol o lygredd slyri ar afon ac aber yn sir Benfro. Ni hunanadroddwyd am y digwyddiad ac felly mae ymchwiliadau ar y gweill gan CNC. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod un digwyddiad yn ormod; wel, gadewch imi ddweud wrthych fod dros 100 bob blwyddyn am dros 20 mlynedd yn ormod o lawer. Mae'r digwyddiadau hyn yn lladd bywyd gwyllt, maent yn gwenwyno ein haer, ein pridd a'n dŵr. Maent yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac maent yn niweidio enw da ffermio yng Nghymru. Rwy'n gobeithio, felly, y gall yr holl Aelodau o'r Senedd gytuno â mi a'r rhai yn ein cymunedau ffermio a'r cyhoedd yn ehangach sy'n dweud ein bod wedi cael digon ar y digwyddiadau hyn; nid ydym am dderbyn yr arferion gwael sy'n eu hachosi mwyach. Ac rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders—mae un achos o'r fath yn un achos yn ormod.
Diolch. Rwy'n galw yn awr ar yr Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad o hyd at funud. Llyr Gruffydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am fynd ar drywydd yr honiad fod Llywodraeth Cymru yn darparu digon o arian i ffermwyr allu ymateb i'r gofynion newydd hyn. Rwy'n credu bod oddeutu £11.5 miliwn yn cael ei ddarparu. Yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, byddai hynny'n ddigon i dalu am anghenion Ynys Môn yn unig, heb sôn am weddill Cymru. Mae'r amcangyfrifon senario cost isel gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod angen £109 miliwn, a'r senario cost uchel yn £360 miliwn, ac rydych yn darparu £11.5 miliwn, rwy'n meddwl. Felly, gadewch inni beidio â chredu'r hyn a glywsom gan rai o'r Aelodau yn y ddadl hon—fod y Llywodraeth yn darparu'r cymorth sydd ei angen.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Russell George i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Gweinidog yn sôn am weithredu; wel, mae'r gymuned ffermio, Weinidog, am eich gweld chi'n gweithredu. Nawr, yr unig faes y gallaf gytuno yn ei gylch y siaradoch chi amdano y prynhawn yma, Weinidog—a Jenny Rathbone—oedd bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y gwaith o wella ansawdd dŵr. Mae hynny'n gywir—mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae, yn cynnwys busnesau a ffermwyr, ac mae ffermwyr yn derbyn y rôl honno. Ond mae'n rhaid i unrhyw reoliadau fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur ac wedi'u targedu, ac nid yw'r rheoliadau rydych wedi'u cynnig ac a gaiff eu cyflwyno yr wythnos nesaf yn ddim o'r pethau hynny. Weinidog, mae'n ymddangos y byddwch yn cyflwyno'r rheoliadau hyn yr wythnos nesaf i gyflwyno parth perygl nitradau Cymru gyfan, ac wrth wneud hynny, rydych wedi torri eich ymrwymiad i ffermwyr Cymru a'r Senedd hon na fyddech yn cyflwyno'r rheoliadau hyn yn ystod y pandemig, ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd yn cadarnhau ein bod yn dal i fod ynghanol y pandemig.
Nawr, clywais gyfraniadau Jenny Rathbone. Cefais fy synnu. Mae'n sôn am orliwio. Mae'n sôn am fethu cyflwyno parthau. Dyna pam y cânt eu galw'n barthau perygl nitradau. Gwneir hyn ym mhob rhan o Ewrop. Ni allaf gredu'r cyfraniad hwnnw gan Jenny Rathbone.
O ran yr Aelodau eraill, tynnodd Janet Finch-Saunders a Llyr ac eraill sylw at yr effaith ddinistriol ar ffermwyr a'r busnesau niferus a fydd yn dibynnu ar y busnesau ffermio hynny, y dulliau cymhleth o gadw cofnodion rheoliadau a fydd yn destun trawsgydymffurfio, arolygu a'r gosb, gan adael fawr o ddewis heblaw troi at ymgynghoriadau costus na all busnesau ffermio eu fforddio. Fel y nododd Janet Finch-Saunders ac eraill, mae eich asesiadau effaith eich hun yn sôn am y costau ymlaen llaw o £360 miliwn i'r diwydiant, ac yna ceir y dystiolaeth sy'n dangos bod llawer o ddalgylchoedd ledled Cymru heb weld unrhyw achosion o lygredd amaethyddol dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae Llyr, wrth gwrs, yn cyfeirio'n gywir hefyd at dystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cefnogi hynny.
Dros y 48 awr ddiwethaf, cefais gannoedd o negeseuon e-bost gan ffermwyr ar draws fy etholaeth yn Sir Drefaldwyn, yn fy annog i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau yr wythnos nesaf. Weinidog, rydych wedi clywed gan y gwrthbleidiau, rydych wedi clywed gan undebau ffermwyr, rydych wedi clywed gan y gymuned ffermio, a'ch ymateb yw, 'Rwy'n mynd i anwybyddu hynny a dal ati', sydd mor siomedig. Cyfarfûm â—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Diolch, Lywydd. Cyfarfûm â Ffermwyr Ifanc Maldwyn neithiwr, ac roeddent yn gwneud llawer o'r pwyntiau y credaf fod Paul Davies ac Angela—Angela Burns—wedi'u gwneud ar y goblygiadau i iechyd a diogelwch o ruthro mewn perthynas â rheoli slyri a'r amserlen sydd ynghlwm wrth hynny.
Wrth ddod i ben, Ddirprwy Lywydd, rwy'n eich annog chi, Weinidog, i ailfeddwl ynglŷn â hyn. Hoffwn annog aelodau o feinciau cefn Llafur i archwilio'r dystiolaeth, i archwilio pa mor gymesur ydyw, i archwilio a yw'r dull wedi'i dargedu yn gywir ai peidio. A hoffwn annog Dafydd Elis-Thomas fel Aelod annibynnol o'r Llywodraeth i feddwl yn annibynnol iawn pan fydd yn pleidleisio yr wythnos nesaf, ac annog Kirsty Williams i wrando—
Ie. Mae'r Gweinidog—
—a chefnogi ein cynnig—
Mae angen i'r Aelod ddod i ben. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf wrthwynebiadau, felly pleidleisiwn o dan yr eitem hon yn ystod y cyfnod pleidleisio.