– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 24 Mawrth 2021.
Yr eitem nesaf yw eitem 18, a dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid yw hyn ar ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r ddadl yma, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma ar ymchwiliad y pwyllgor i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol. Mi liciwn i ddiolch, ar y cychwyn, i bob un, wrth gwrs, gyfrannodd at yr ymchwiliad yma, ac i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd hefyd am ei hymateb hi i'n hadroddiad ni. Fe wnaethon ni 12 argymhelliad, ac rŷn ni'n falch iawn bod y Gweinidog wedi derbyn 11 ohonyn nhw yn llawn, a'r un arall mewn egwyddor. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Chomisiwn y Senedd am eu hymatebion nhw hefyd i'n hadroddiad ni.
Yn 2014, wrth gwrs, fe welon ni un o'r newidiadau mwyaf erioed yn setliad datganoli Cymru. Roedd Deddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datganoli pwerau dros drethi, gan gynnwys cyfraddau treth incwm Cymru, y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Er mwyn galluogi'r pwerau yn Neddf 2014 i gael eu gweithredu, daeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gytundeb ar ffurf y fframwaith cyllidol. Mae'r fframwaith cyllidol hefyd yn trafod terfynau benthyg Llywodraeth Cymru a'i hopsiynau ar gyfer rheoli'r gyllideb, ac mae'n ymdrin â sgil-effeithiau o ran polisi a threfniadau gweithredu. Wrth i ddiwedd y Senedd hon agosáu, roedden ni yn teimlo ei bod hi'n bwysig, felly, i ni edrych ar y ffordd y cafodd y pwerau hyn eu cyflwyno, ac i edrych hefyd ar effeithiolrwydd y fframwaith cyllidol.
Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, fe wnaethon ni estyn sawl gwahoddiad i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i roi tystiolaeth. Rŷn ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol sydd wedi ymgysylltu â ni ar yr ymchwiliad yma ac ynglŷn â’r adferiad ariannol yn sgil COVID-19, ond mi roedd hi'n siomedig bod y Prif Ysgrifennydd wedi gwrthod ein gwahoddiadau ni. Mae Deddf Cymru 2014 yn hanfodol i'r setliad datganoli, ac mae rolau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annatod wrth gyflawni amcanion y Ddeddf. Er ein bod ni'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol am ei gyfraniad ef, dim ond cwestiynau ynghylch ei gyfrifoldebau fe yr oedd e'n gallu eu hateb, wrth gwrs. Felly, doedden ni ddim yn gallu deall safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar nifer o faterion cyllidol pwysig, gan gynnwys y broses o ddatganoli trethi a chreu trethi newydd, tryloywder yn y broses o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch penderfyniadau cyllido a sut y gellir herio penderfyniadau o'r fath, y posibilrwydd o adolygu fformiwla Barnett, a hefyd doedd yna ddim cyfle i ni drafod cynyddu pwerau benthyg.
Yn dilyn hynny, fe ysgrifennais i at y Prif Ysgrifennydd mewn perthynas â'r materion hyn, ac fe gawsom ni ymateb neithiwr, a dweud y gwir. Yn anffodus, mae llawer o'r materion hyn yn parhau i fod heb eu datrys, ac mae'r ffaith bod y Prif Ysgrifennydd wedi gwrthod dod i gyfarfod wedi tanseilio gwerth y broses o ddatganoli cyllidol. Dyw ei lythyr ef hefyd ddim yn mynd i'r afael, gyda llaw, â sut mae'r Senedd i fod i graffu ar drefniadau cyllidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru os nad yw'r Prif Ysgrifennydd yn fodlon bod yn bresennol i ateb cwestiynau Aelodau ar y mater yma.
Fe ddechreuon ni'r ymchwiliad hwn yn ystod dyddiau cynnar y pandemig COVID-19, ac mae'r dystiolaeth a gawson ni, ochr yn ochr â'r materion ymarferol a ddaeth i'r amlwg o ran y trefniadau cyllido yn ystod y pandemig, wedi dangos bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig adolygu'r prosesau cyllido ar fyrder. Mae’r ymateb cyllidol i’r pandemig wedi arwain at swm sylweddol o arian yn cael ei wario ar lefel y Deyrnas Unedig sydd, wrth gwrs, wedyn wedi codi nifer o faterion o ran y ffordd y mae’r fframwaith cyllidol a’r fformiwla Barnett yn gweithredu yng Nghymru.
Mae’r pwyllgor yn cydnabod y lefel ddigynsail o ansicrwydd ynghylch cyllidebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i hadolygiad o wariant yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i ffactorau fel Brexit, etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, a’r pandemig COVID-19. Er ein bod ni'n deall yr anawsterau wrth ddarparu setliadau aml-flwyddyn o dan yr amgylchiadau presennol, rŷn ni’n pryderu bod Llywodraeth Cymru, yn ystod y tair blynedd diwethaf, wedi gorfod llunio cyllideb ddrafft ar sail dyraniad cyllidol o un flwyddyn yn unig, sydd wrth gwrs yn ei gwneud hi'n anodd i Lywodraeth Cymru wneud cynlluniau a phenderfyniadau cyllidol hirdymor. Mae hwn yn fater yr hoffem ni fod wedi ei drafod â’r Prif Ysgrifennydd. Fodd bynnag, rŷn ni yn falch bod y Gweinidog wedi cytuno â’n hargymhelliad ni i barhau i fynd i’r afael â’r angen am fwy o sicrwydd drwy ddyraniadau cyllid aml-flwyddyn ac eglurder ynghylch amseriad digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn 2019, fe argymhellodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y Deyrnas Unedig y dylai’r Trysorlys fynd i’r afael â’r diffyg tryloywder ynghylch penderfyniadau cyllido, ac fe dderbyniodd y Trysorlys yr argymhelliad hwnnw. Fodd bynnag, fe wnaethon ni ganfod bod y trefniadau ar gyfer cyllido Cymru yn gymhleth a bod diffyg tryloywder yn eu cylch. Fe glywon ni am ddiffyg ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cyfnod cyn yr adolygiad o wariant hefyd. Mae’r diffyg tryloywder hwn yn gwneud gwaith craffu effeithiol yn anoddach, gan ei bod yn anodd cael dealltwriaeth glir o’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
Rŷn ni’n croesawu ymateb y Gweinidog a oedd yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru’n cefnogi’n frwd camau i wella tryloywder y penderfyniadau cyllido ac y byddai’r Llywodraeth yn mynd hyd yn oed yn bellach drwy awgrymu y dylai trefniadau cyllido a gytunwyd ar y cyd gymryd lle’r system bresennol, gan ddod â bargeinion a chytundebau dwyochrog i ben er mwyn dod â chysondeb ac eglurder i drefniadau cyllidol yn y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal â’n pryderon ynghylch y ffordd y caiff penderfyniadau cyllido eu gwneud, rŷn ni hefyd yn pryderu bod y broses bresennol o herio penderfyniadau drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogol yn annigonol. Yn y bôn, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r rheithgor a’r barnwr yn y broses hon. Rŷn ni’n credu y dylid cael proses ddyfarnu annibynnol.
Mae’r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch hyblygrwydd cyllidol Llywodraeth Cymru mewn adroddiadau blaenorol ar gylchoedd y gyllideb. Rŷn ni’n parhau i gefnogi galwadau am hyblygrwydd ar gyfer cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn fwy strategol yn ei chynlluniau hirdymor. Mae’r pandemig presennol wedi pwysleisio’r achos o blaid hyblygrwydd fel hyn hyd yn oed yn fwy. Doedd trefniadau cyllidol Cymru ddim wedi’u dylunio ar gyfer pandemig byd-eang, ac mae’n hanfodol ein bod ni'n ystyried sut y gellir gwneud newidiadau yn sydyn, pan fydd angen gwneud hynny, i sicrhau ymatebion priodol gan lywodraethau datganoledig. Ar ôl dweud hynny, rydyn ni’n falch bod y Prif Ysgrifennydd wedi cytuno i gais Llywodraeth Cymru i gario ychydig o’i chyllid ychwanegol ar gyfer COVID ymlaen at y flwyddyn ariannol nesaf.
Er bod ymwybyddiaeth o ddatganoli cyllidol yng Nghymru yn cynyddu, fe glywon ni fod ymwybyddiaeth o drethi datganoledig yn isel ymhlith busnesau a gweithwyr proffesiynol. Hefyd, fe ddangosodd ein hymarfer ymgysylltu digidol fod ymwybyddiaeth o’r pwerau cyllidol sydd wedi’u datganoli i Gymru yn isel ymhlith y cyhoedd. Ac roedd hynny'n destun pryder penodol, y ffaith nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o gyfraddau treth incwm Cymru, er wrth gwrs bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn eu talu nhw’n rheolaidd. Dwi'n ailadrodd y sylwadau, felly, dwi wedi eu gwneud o’r blaen yn y Siambr yma, sef bod angen i'r Llywodraeth a’r Senedd wneud mwy i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r materion yma.
Rŷn ni’n falch bod y Gweinidog yn cytuno ei bod hi’n bwysig parhau i godi ymwybyddiaeth o drethi Cymru a’i bod yn cefnogi’r rôl bwysig sydd gan y Senedd o ran addysgu, ymgysylltu a hysbysu’r cyhoedd yng Nghymru ynghylch datganoli cyllidol. Rwy’n falch o glywed hefyd gan Gomisiwn y Senedd fod codi ymwybyddiaeth yn rhan o strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu'r Comisiwn ac y bydd yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid ar y mater hwn.
Roedd tystiolaeth a ddaeth i law yn awgrymu y dylid adolygu’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, ac mai nawr yw’r amser i Gymru roi ar waith trefniadau trethu mwy blaengar. Mae’r pwyllgor yn croesawu gwaith Llywodraeth bresennol Cymru i ymchwilio i ddichonolrwydd disodli’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig a rhoi treth gwerth tir lleol yn eu lle, yn ogystal â’i hymrwymiad i archwilio sut y byddai ailbrisio a diwygio’r dreth gyngor yng Nghymru yn effeithio ar y sylfaen drethu ac incwm aelwydydd er mwyn gwneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.
Fe roddodd Deddf 2014 yr hawl i Lywodraeth Cymru ofyn am y cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd ac fe ofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gymhwysedd dros dreth ar dir gwag nôl yn 2018, ond erbyn Cyfarfod Llawn olaf y bumed Senedd yma heddiw, dyw’r cymhwysedd hwnnw'n dal ddim wedi’i ddatganoli. Yn wir, fe glywon ni nad yw profiad Llywodraeth Cymru hyd yma o geisio cymhwysedd dros bwerau trethu ychwanegol wedi bod yn rhwydd nac yn syml. Er ein bod ni’n cydnabod y gallai’r dreth newydd gymryd yn hirach oherwydd y camau sy’n rhaid eu cymryd i sicrhau bod y broses yn un esmwyth, dyw’r dreth hon ddim yn un hynod ddadleuol, ac rwy’n siŵr nad oedd yr un ohonom ni’n disgwyl i’r broses gymryd cyhyd.
Fe ofynnon ni i’r Ysgrifennydd Gwladol a yw’r broses ar gyfer datganoli’r cymhwysedd dros gyflwyno trethi newydd yng Nghymru yn addas i’r diben, ac rŷn ni’n gwerthfawrogi’r ffaith ei fod e yn fodlon trafod y mater yma â’r Trysorlys, ond, wrth gloi, mae’n rhaid pwysleisio unwaith eto mai dyna'n union pam yr oeddem ni’n awyddus i siarad â’r Prif Ysgrifennydd ei hun yn uniongyrchol, gwahoddiad, wrth gwrs, y mae e wedi'i wrthod. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad. Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi bod yn ddiolchgar am ei arweinyddiaeth drwy gydol y Senedd hon hefyd, oherwydd, ers iddo ddod yn Gadeirydd, mae wedi arwain y pwyllgor fel Cadeirydd mewn ffordd sydd wedi dangos grym y system bwyllgorau a phŵer ei esiampl ei hun fel Cadeirydd. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am hynny, ac yn ddiolchgar hefyd i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor a staff ymchwil am eu gwaith caled.
Gobeithio eu bod yn gwybod ei fod yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Yn ei gyflwyniad, gwnaeth y Cadeirydd ein pwyntiau'n glir iawn, a chredaf fod adroddiad y pwyllgor yn glir yn ei gasgliadau, ac nid oes angen fawr o esboniad pellach ar lawer o'r pwyntiau a wnaethpwyd yn yr adroddiad hwnnw a'r argymhellion y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor. Fel aelodau eraill o'r pwyllgor, rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am eu hymagwedd hael tuag at yr adroddiad ac am dderbyn rhai o'n hargymhellion allweddol.
Mae'r pwyllgor yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar weithredu'r trethi newydd a ddatganolwyd i'r lle hwn. Mae'n ymddangos bod yr holl strwythurau treth newydd wedi'u hymgorffori'n gymharol hawdd a heb fawr ddim aflonyddwch, os o gwbl. Nid wyf wedi gweld fawr ddim tystiolaeth, os o gwbl, fod ein sefydliadau neu'r trethdalwyr wedi profi anawsterau o ganlyniad i'r newidiadau i'r system drethu, ac mae hyn yn bwysig, oherwydd mae'n dangos y gallwn newid strwythurau treth y Deyrnas Unedig yn sylfaenol a gwneud hynny heb yr aflonyddwch y mae llawer o bobl yn ei ofni ac y mae rhai gwleidyddion yn sicr yn ceisio'u cymell a chreu'r ofnau hynny. Mae wedi'i wneud yn gymharol syml a chymharol hawdd, a'i wneud am y tro cyntaf yn y ffordd honno, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt sylfaenol bwysig i'w wneud.
Ceir un agwedd nad yw wedi gweithio, wrth gwrs, sef y broses a ddisgrifiwyd gan y Cadeirydd yn rhan olaf ei sylwadau ynghylch trethiant newydd. Nid yw wedi gweithio oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi ei atal rhag gweithio, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny hefyd. Mae rhai ohonom, Ddirprwy Lywydd, yn ddigon hen i gofio dyddiau ofnadwy'r Gorchmynion cydsyniad deddfwriaethol a'r cynigion y treuliasom amser yn eu trafod yn Senedd 2007. Mae arnaf ofn ein bod yn dychwelyd at y dyddiau hynny heb ddysgu dim o wersi'r dyddiau hynny, ac yn sicr mae'n rhoi cyfle i'r rheini sydd ag awydd penodol i lesteirio ewyllys pobl Cymru, ewyllys Llywodraeth Cymru ac ewyllys ein Senedd, a chredaf fod hynny'n rhywbeth rydym yn ei weld yn digwydd ar hyn o bryd. Ond rydym yn bwriadu cymryd rhan yn y ddadl hon.
Hoffwn droi fy sylw hefyd at yr ohebiaeth a gawsom y bore yma gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys. Mae'n llythyr eithriadol mewn sawl ffordd, Ddirprwy Lywydd. Mae ar wahanol adegau yn haerllug, yn arwynebol, yn fawreddog, yn nawddoglyd, yn sarhaus, yn ddirmygus, yn rhwysgfawr—gallwn barhau, ond nid wyf am brofi amynedd pawb drwy wneud hynny. Ond yn fwy na dim, mae'n ymateb cwbl annigonol i'r materion a godwyd gan y pwyllgor, ac mewn sawl ffordd, mae'n tanlinellu'r pwyntiau a wnaethpwyd yn gynharach heddiw gan dri Gweinidog cyllid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n gwneud yr achos yn fwy pwerus nag y gallwn i ei wneud dros ailwampio fframwaith cyllidol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol. Ddirprwy Lywydd, gwrandewch ar yr iaith a ddefnyddir gan yr Ysgrifennydd cyllid yn y llythyr hwn. Ym mharagraff 10, 'Hyblygrwydd ariannol':
Rwyf wedi darparu hyblygrwydd ychwanegol sylweddol eleni, meddai—'Rwyf wedi darparu'. Ac mae'n parhau ym mharagraff 11:
Darparais warant ddigynsail o gyllid ymlaen llaw.
Ac mae'n parhau:
Cytunais hefyd y gallai Llywodraeth Cymru gario cyllid sy'n seiliedig ar Barnett yn ei flaen.
Mae hyn yn dangos yn glir nad oes sgwrs, dim negodi, dim democratiaeth, a fawr ddim atebolrwydd yn ein fframweithiau ariannol a'n strwythurau ariannol yn y Deyrnas Unedig. Rhaid bod hyn yn annerbyniol i unrhyw un sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig a dyfodol democratiaeth ac atebolrwydd yn y Deyrnas Unedig. Ni all strwythurau ariannol y DU a'r berthynas rhwng y Llywodraethau ar yr ynysoedd hyn gael eu pennu gan fympwy un Gweinidog, pwy bynnag y mae'r Gweinidog hwnnw'n credu ydyw. Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio—sylwais ar yr wyneb hwnnw, fe fyddaf yn gyflym—y byddwn yn gallu gweld yr adroddiad hwn nid fel pen draw, ond fel man cychwyn ar gyfer strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig a diwygio ac adfywio democrataidd.
Wrth gloi, rwy'n dymuno ymddeoliad hir a hapus iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gweld colli rhoi prawf ar eich amynedd os caf fy ailethol i'r Senedd nesaf.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud y byddaf yn siŵr o weld colli eich herio i gadw at yr amser? Ond dyna ni; rwy'n credu i mi fethu yn hynny o beth. Mark Isherwood.
Diolch. Fel y dywed ein hadroddiad, mae Deddf Cymru 2014 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i ddatganoli pwerau trethu a benthyca i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd bryd hynny—Senedd Cymru erbyn hyn—a Llywodraeth Cymru. Roedd y pwerau hyn yn rhoi arfau pellach i Lywodraeth Cymru amrywio lefel y dreth a gwariant yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 2016, cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol newydd, a oedd yn benodol yn cefnogi datganoli treth tir y dreth stamp, y dreth trafodiadau tir erbyn hyn, treth tirlenwi, y dreth gwarediadau tirlenwi erbyn hyn, a chreu cyfraddau treth incwm Cymreig. Mae ein hadroddiad yn datgan bod
'y dystiolaeth a roddwyd i'r ymchwiliad, ochr yn ochr â'r materion bywyd go iawn a brofwyd gyda'r trefniadau cyllido drwy gydol pandemig COVID-19 wedi dangos bod angen i'r mecanweithiau cyllido gael eu hadolygu ar frys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.'
Er bod cyllideb Llywodraeth Cymru o tua £18 biliwn y flwyddyn yn cael ei hariannu'n bennaf drwy'r grant bloc a dderbynnir gan Drysorlys y DU, mae tua 20 y cant bellach yn cael ei ariannu o refeniw treth ddatganoledig, ac mae'n hanfodol fod hwn yn cynyddu atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru. Fel y dywed ein hadroddiad,
'Defnyddir Fformiwla Barnett i gyfrifo newidiadau i’r grant bloc yn seiliedig ar
gynnydd neu ostyngiad yng ngwariant Llywodraeth y DU mewn meysydd lle
mae’r ddarpariaeth gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wedi’i datganoli' ac
'wedi bod yn destun galwadau am ddiwygio ers amser maith'.
Fe'i haddaswyd fel rhan o gytundeb fframwaith cyllidol Cymru i gynnwys ffactor sy'n seiliedig ar anghenion, gan roi o leiaf £115 y pen i Lywodraeth Cymru am bob £100 y person o gyllid cyfatebol yn Lloegr, gan gydnabod yn benodol yr angen am wariant lefel uwch yng Nghymru. Fodd bynnag, cadarnhaodd adolygiad o wariant y DU yn 2020 y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £123 y pen yn 2021-22 am bob £100 y pen yn Lloegr, sy'n cyfateb i tua £1 biliwn yn fwy nag y cytunodd Llywodraeth Cymru ei fod yn deg i Gymru o'i gymharu â Lloegr. Mae ein hadroddiad yn datgan
'Cynigiwyd y byddai adolygiad cyfnodol o anghenion cymharol yng Nghymru yn cadw’r ffactor sy’n seiliedig ar anghenion yn gyfredol er mwyn sicrhau bod Cymru’n cael cyllid priodol. Mae’r potensial ar gyfer adolygu fformiwla Barnett yn faes y mae’r Pwyllgor yn bwriadu ei drafod ymhellach gyda’r Ysgrifennydd Gwladol.'
Fodd bynnag, fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan holwyd ef am hyn bythefnos yn ôl, ar hyn o bryd rydym yn gweithio o fewn system y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru, ac felly, yn ein barn ni, mae'n ddiangen ailedrych arni. Yn y bôn, yr hyn y gallwn ei wneud gyda rhywfaint o'r arian a'r mentrau y buom yn sôn amdanynt y bore yma yw cael llawer mwy ar ben yr hyn y mae Barnett yn ei ddarparu, ac unwaith eto, credaf fod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn ymlaen i Gymru a
Gwnaeth y Trysorlys yn sicr fod y symiau canlyniadol Barnett ar gael ymlaen llaw, gan gydnabod y byddai peidio â gwneud hynny ond yn creu oedi yn y system ac felly'n atal gallu Llywodraeth Cymru i gael arian i leoedd sydd ei angen ar frys.
Yn ei hymateb i'n hadroddiad, fel y clywsom, derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un ond un o'i 12 argymhelliad yn ymwneud â datganoli cyllidol a threthi Cymreig. Fodd bynnag, derbyniodd mewn egwyddor yn unig argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â'r argymhelliad a dderbyniwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y DU yr eir i'r afael â'r diffyg tryloywder ynghylch penderfyniadau ariannu, gan ddweud, er y byddai'n llwyr gefnogi mwy o dryloywder ynghylch penderfyniadau ariannu, mai mater i Drysorlys EM yw sicrhau ei fod yn bodloni unrhyw ymrwymiadau a wnaed i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y DU.
Ar ôl i mi ofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol yn y pwyllgor bythefnos yn ôl pa ymgysylltiad a gafodd â Llywodraeth Cymru neu'r Trysorlys ynghylch yr honiadau gan Lywodraeth Cymru nad yw'r mecanwaith ar gyfer datganoli cymhwysedd i gyflwyno trethi newydd i Gymru yn addas at y diben, dywedodd y byddai'n hapus iawn i godi hynny gyda'r Trysorlys. Fel y dywed Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ei ymateb i adroddiad y pwyllgor, mae fframwaith gwariant y DU wedi'i gynllunio i alluogi Llywodraeth y DU i reoli gwariant ar sail blwyddyn ariannol, gan gynnwys effaith gwariant Llywodraeth Cymru.
Dywedodd ei fod wedi darparu hyblygrwydd ychwanegol sylweddol eleni i gydnabod yr heriau a wynebir ac mae'n cytuno y gallai Llywodraeth Cymru gario unrhyw gyllid sy'n seiliedig ar Barnett uwchlaw'r £5.2 biliwn gwarantedig ymlaen i 2021-22 yn ogystal ag unrhyw ad-daliadau rhyddhad ardrethi busnes—hyn oll ar ben trefniadau Cronfa wrth Gefn Cymru.
Fel y dywed hefyd fodd bynnag, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r adnodd ychwanegol y mae'n ei gael o'r fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn effeithiol, ac mae'r trefniadau ar gyfer addasu'r grant bloc yn helpu i gynyddu ymreolaeth ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru, tra'n eu hamddiffyn rhag effeithiau DU gyfan, pwynt allweddol a hollbwysig. Diolch.
Mae yna lawer i'w groesawu yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yma. Mi wnaf i nodi nad ydw i'n aelod o'r pwyllgor ers peth amser erbyn hyn, ond mi hoffwn i ddiolch i Llyr Gruffydd am ei waith o yn cadeirio'r pwyllgor, ac i'r tîm, dwi'n gwybod, sydd yn ei gefnogi fo o ran y tîm clercio. Dwi wedi colli cael bod ar y pwyllgor yna.
O ystyried bod Deddf 2014 wedi bod yn weithredol ers pum mlynedd, a'n bod ni'n edrych ymlaen tuag at gyfnod o ailadeiladu ar ôl COVID, mae hwn yn amser da, dwi'n meddwl, i adolygu lle rydyn ni'n sefyll pan mae'n dod at bwerau ffisgal y Llywodraeth. Ar bapur, o leiaf, mae hwn wedi bod yn gyfnod arwyddocaol iawn o ran datblygiad pwerau a gallu ffisgal Llywodraeth Cymru. Mi oedd o'n gam hynod arwyddocaol ymlaen ein bod ni fel Senedd yn gyfrifol nid dim ond am wario arian yng Nghymru, ond am godi'r arian yna, ac wrth gwrs dyna'r sefyllfa rydyn ni eisiau bod ynddi hi.
Dwi'n cofio, pan drafodwyd y graddfeydd Cymreig o dreth incwm am y tro cyntaf yn y Senedd, mi ddywedais i ac eraill ein bod ni'n edrych ymlaen at weld sut y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau dros drethiant, ac dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud mai cyfyngedig fu'r datblygiadau. I fod yn deg, mae'r ymdrechion diweddar i gyflwyno treth tir gwag wedi cael eu gwneud yn anoddach drwy amharodrwydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dwi'n meddwl, i gydweithio ar gyflwyno hynny.
Ond os ydym ni'n edrych ar rywbeth fel treth cyngor, ychydig iawn mewn difrif sydd wedi cael ei wneud i fynd i'r afael â'r annhegwch rydym ni'n gwybod sydd yn bodoli efo treth cyngor, ac mae'r adroddiad yma yn cyfeirio at hynny. Do, mae'r Llywodraeth wedi cymryd rhai camau i liniaru pan mae'n dod at effaith treth cyngor ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas, ond ychydig sydd wedi'i wneud o hyd er mwyn adolygu a diwygio'r dreth ei hun. Mi ddywedodd y Gweinidog yr wythnos diwethaf y byddai unrhyw ddiwygiadau yn cymryd tymor cyfan o'r Senedd—ac, wrth gwrs, mae hynny'n iawn; mae'n dasg enfawr—ond mae yna fwy o siawns o gyrraedd pen eich taith os ydych chi'n cychwyn ar y daith honno mewn difrif. Oes, mae yna waith ymchwiliadol wedi bod yn mynd ymlaen. Mae yna beth astudio mapiau, os liciwch chi, wedi bod, ond mae'r handbrec yna'n dal ymlaen yn dynn. Dwi'n atgoffa'r Senedd eto o'r dystiolaeth sydd yna gan yr IFS, er enghraifft, am y problemau efo treth cyngor—y 10 y cant tlotaf mewn cymdeithas yn talu rhyw 8 y cant o'u hincwm mewn treth cyngor, a'r 40 y cant mwyaf cyfoethog yn talu dim ond 2 y cant. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hwn ar fyrder.
Yn symud ymlaen, mae'r pandemig wedi tanlinellu eto, onid yw, pa mor anaddas ydy'r cytundeb ffisgal presennol. Dwi, wrth gwrs, a Phlaid Cymru, yn cytuno efo canfyddiadau'r pwyllgor bod angen cynyddu ffiniau benthyg, ac y byddai hi'n dda o beth gweld rhagor o hyblygrwydd yn cael ei gyflwyno o ran gallu'r Llywodraeth i dynnu arian lawr o'r gronfa wrth gefn, er enghraifft. Dwi'n meddwl bod y diffyg hyblygrwydd yna, fel sydd wedi cael ei nodi droeon, wedi bod yn broblem yn ystod y flwyddyn eithriadol ddiwethaf yma, ac wedi atal y Llywodraeth rhag gallu gweithredu mewn ffordd dwi'n gwybod y byddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru eisiau gallu ei wneud. Ond hefyd, ar y llaw arall, mae'n bwysig nodi, hyd yn oed efo'r pwerau cyfyngedig sydd gennym ni, bod Gweinidogion ar brydiau wedi methu â defnyddio'r rheini, a beth rydyn ni angen dwi'n meddwl, fwy nag erioed, ydy Llywodraeth sydd yn barod i wthio ffiniau'r cytundeb ffisgal presennol. Dwi'n gweld ychydig iawn o dystiolaeth bod y Llywodraeth Lafur yma'n wirioneddol eisiau gwthio'r ffiniau yna.
O edrych ar argymhelliad 10 yn yr adroddiad, mae hynny yn rhoi pwyslais ar y mater rydyn ni'n ymwybodol ohono fo ers talwm, sydd wedi dod yn fwy amlwg yn ddiweddar, sef yr angen am fwy o sicrwydd amlflwyddyn neu multi-year funding allocations. Dwi'n gobeithio y gallwn ni gyd gytuno ar yr angen am eglurder hefyd ar amseru prif ddigwyddiadau ffisgal Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ydy, mae COVID wedi bod yn sbaner yn y wyrcs yn hynny o beth, ond wrth symud ymlaen mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth, dwi'n meddwl, ar gyfer gwella'r sefyllfa bresennol.
Fel mae'r adroddiad yn pwyntio allan, mae ymgysylltu cyhoeddus ar faterion ffisgal yn bwysig iawn hefyd. Mae angen i waith diweddar sydd wedi cael ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru rŵan y gallu i amrywio trethi barhau i mewn i'r Senedd nesaf, fel mae argymhellion 1 a 2 yn eu nodi. Ac i gloi, Dirprwy Lywydd, yn y Senedd nesaf dwi'n meddwl bod yna lawer o waith sydd angen ei wneud er mwyn gwella gallu a chapasiti ffisgal Llywodraeth Cymru. Wrth i ni ddod allan o'r pandemig rŵan mi fydd angen i'r Llywodraeth nesaf fod yn barod, fel dwi'n dweud, i wthio ffiniau'r cytundeb presennol a bod yn barod i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddi lle mae hi'n briodol i wneud hynny.
Mae wedi bod yn fraint cael eistedd fel aelod o Bwyllgor Cyllid Senedd Cymru, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â gwaith y pwyllgor hwn yn edrych ar Ddeddf Cymru 2014, deddf a arweiniodd at y newidiadau mwyaf i setliad datganoli Cymru mewn dros 800 o flynyddoedd. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd am ei waith caled ac i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am gydweithio'n ddyfal, er gwaethaf gwahaniaethau ideolegol a gwleidyddol, ac rwy'n codi fy het ddiarhebol i'r Cadeirydd yn hyn o beth.
Roedd yn galonogol clywed tystiolaeth fod gweinyddu trethi datganoledig yn gweithio'n dda, gan gynnwys gweinyddiaeth Awdurdod Cyllid Cymru, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o weithredu trethi Cymreig yn llwyddiannus. Fodd bynnag, fel y dywedwyd, ceir materion y mae'r adroddiad hwn yn ceisio tynnu sylw atynt—materion sydd o bwys mawr i Gymru. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar gasgliad 5 yr adroddiad, sef:
'ynghyd â’r angen am dryloywder ar gyfer y penderfyniadau cyllido a wneir gan Lywodraeth y DU, mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen proses annibynnol ar gyfer herio’r penderfyniadau hyn.'
Nodaf er gwybodaeth baragraff 276 o'r adroddiad sy'n datgan bod y pwyllgor
'yn pryderu am y mecanwaith a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i wneud penderfyniadau cyllido a’r broses i Lywodraeth Cymru herio penderfyniadau o’r fath. Mae angen tryloywder ar gyfer y penderfyniadau cyllido a wneir gan Lywodraeth y DU, ac mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen proses annibynnol ar gyfer herio’r penderfyniadau hyn—nid yw’r llwybr presennol o herio penderfyniadau drwy Gyd-bwyllgor y Gweinidogion yn foddhaol gan nad yw’n ddyfarniad annibynnol.'
Wrth i ddatganoli yng Nghymru aeddfedu, 21 mlynedd wedi iddo ddod i fodolaeth, mae'r angen i Lywodraeth y DU ddangos mwy o barch tuag at bwerau Senedd Cymru, a dealltwriaeth ohonynt, yn amlwg iawn. Ac yn fyr, os caf, roedd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Gymru—ac rwy'n pwysleisio 'dros'—yn ŵr digon hoffus yn wir, ond methodd ateb y cwestiynau a ofynnwyd yn llwyr. Er hynny, a bod yn deg, methodd prif swyddog y Trysorlys ymddangos ger bron y pwyllgor ac ymhellach, ymddengys ei fod wedi methu sicrhau unrhyw dryloywder i'n gwaith craffu o Gymru drwy'r post. Ac ar adeg dyngedfennol pan fo'r DU yn gadael yr UE a'r DU yn adfer cronfeydd strwythurol yr UE, mae hyn, yn fy marn i, yn sarhad sylfaenol ar y lle hwn, ac mae'n cryfhau virement ymreolaeth ariannol blaenorol Cymru yn ôl i Whitehall. Enghraifft o hyn—ac yn groes i eiriau'r Ysgrifennydd Gwladol—yw bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, amcan 1, 2, 3 a 4 yn flaenorol, heb gael ei gynnwys yng nghylchoedd ariannu diweddaraf y DU. Felly, bydd yn fater a fydd, mae'n siŵr, yn codi yn yr etholiad sydd i ddod ac yn chweched Senedd Cymru, pan gaiff ei hethol—mater o bwys mawr i Gymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans?
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron. Mae cyflwyno trethi Cymreig, ymestyn pwerau benthyca, a gweithredu'r fframwaith cyllidol wedi bod yn ddatblygiadau sylweddol ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn adlewyrchiad amserol o'r hyn a gyflawnwyd hyd yma, ac yn bwysicach, o'r hyn sydd i'w wneud o hyd. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at amrywiaeth o faterion allweddol, a materion ar gyfer y tymor hwy mewn llawer o achosion. Rwy'n falch o dderbyn 11 o'r 12 argymhelliad a derbyn mewn egwyddor argymhelliad 11, sy'n dweud mai Cyfrifoldeb Trysorlys EM yw cyflawni.
Mae argymhellion 1 i 3 yn mynd i'r afael â'r mater heriol o godi ymwybyddiaeth o drethi Cymreig ymhlith dinasyddion a sefydliadau. Er bod y cynnydd o 14 y cant mewn ymwybyddiaeth o gyfraddau treth incwm Cymreig yn galonogol, cytunaf y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddatblygu'r gwaith hwn, gan ymgysylltu, lle bo'n briodol, â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a'r Senedd.
Fel yr adlewyrchir yn argymhelliad 4, ceir rhyng-gysylltiadau pwysig rhwng trethiant a pholisïau eraill, ac un o'r rhai mwyaf allweddol yw'r ffordd rydym yn cryfhau sylfaen drethi Cymru. Rhoddir crynodeb o waith diweddar Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn fy adroddiad diweddaraf ar bolisi treth yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn. Fodd bynnag, bydd hon yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n falch bod y pwyllgor yn cytuno, yn argymhelliad 5, y dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau deddfwriaethol i weithredu'n gyflym a lle bo angen i ymateb i newidiadau i'r polisi treth. Dylai'r hyblygrwydd hwn atal colli refeniw treth a gwyrdroi ymddygiad economaidd.
Mae fy ymateb ysgrifenedig i argymhelliad 6 yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o archwilio dichonoldeb cael treth gwerth tir leol yn lle'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Rhoddir rhagor o fanylion yn fy adroddiad, 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau', a gyhoeddais ddiwedd mis Chwefror.
Yn fy ymateb ysgrifenedig, roeddwn yn falch o nodi barn Llywodraeth Cymru ar ddatganoli treth ar enillion cyfalaf i Gymru, fel y gofynnwyd amdani yn argymhelliad 7. Mae pryderon am ganlyniadau anfwriadol, heriau ymarferol, a'r effaith bosibl ar ffrydiau refeniw Cymru, ynghyd â'n profiad hyd yma o'r broses o ddatganoli trethi newydd, yn golygu nad yw hon yn dreth y bwriadwn geisio ei datganoli ar yr adeg hon.
Mewn ymateb i argymhelliad 8, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill ar lunio set ddata incwm hydredol a fyddai'n ein galluogi i olrhain effeithiau cyfraddau treth incwm Cymreig. Disgwyliwn i CThEM ddatblygu hyn yn ystod y chwe mis nesaf. Rwyf wedi darparu ymateb ysgrifenedig i argymhelliad 9 sy'n gofyn sut rydym yn adolygu gwaith CThEM i leihau gwallau codio. Er fy mod wedi bod yn falch o weld y gostyngiad yn nifer y gwallau dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, bydd hwn yn parhau i fod yn fater pwysig i'w fonitro. Mae argymhellion 10 ac 11 yn adlewyrchu rôl a chyfrifoldebau pwysig Llywodraeth y DU i roi eglurder a sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynghylch cyllid. Rydym yn parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU dros adolygiadau gwariant aml-flwydd a mwy o sicrwydd a rhybudd ynghylch amseriad digwyddiadau cyllidol y DU, fel y nodir yn argymhelliad 10. Cytunaf yn llwyr ag argymhelliad 11 y pwyllgor y dylid cael mwy o dryloywder ynghylch penderfyniadau ariannu. Fodd bynnag, cyfrifoldeb Trysorlys EM yw cyflawni ei ymrwymiadau i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mewn ymateb i argymhelliad 12, rwy'n derbyn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyfrifiadau o'r symiau canlyniadol a gafwyd yn sgil cyhoeddiadau gwariant Llywodraeth y DU. Er, fel yr amlygwyd yn fy ymateb ysgrifenedig, yn aml gall diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU ei gwneud yn anodd amcangyfrif yr effaith y tu allan i ddigwyddiadau cyllidol.
Hefyd, rwy'n croesawu'r pum casgliad y daeth y pwyllgor iddynt yn ei adroddiad. Rwy'n ategu ei ganmoliaeth i Awdurdod Cyllid Cymru, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn y broses o gyflwyno trethi Cymreig, yn enwedig llwyddiant ei fuddsoddiad technolegol. Rwy'n falch o nodi ystyriaeth y pwyllgor fod strategaeth dreth Llywodraeth Cymru wedi sicrhau, ar y cyfan, fod trethi Cymreig yn deg i'r busnesau a'r unigolion sy'n eu talu, ac mae hon yn egwyddor allweddol ar gyfer trethi Cymreig. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y pwyllgor i gynyddu terfynau benthyca cyfalaf, mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio cronfa wrth gefn Cymru a mwy o dryloywder mewn penderfyniadau ariannu a wneir gan Lywodraeth y DU, ac mae'r rhain i gyd yn feysydd rydym wedi bod yn mynd ar eu trywydd gyda Llywodraeth y DU.
Hoffwn hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor nad wyf eto wedi cael ymateb i fy llythyr at Lywodraeth y DU ynglŷn â sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru, llythyr a anfonais ar 4 Chwefror. Roedd y llythyr yn mynegi parodrwydd Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU ac yn nodi'r amodau y byddai angen eu bodloni. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau ein hymrwymiadau i waith teg ac y byddai gwaith diogelu'r amgylchedd yn cael ei gynnal a sicrwydd y byddai unrhyw borthladd rhydd yng Nghymru yn cael yr un lefelau ariannu ag a ddarperir yn Lloegr, ac rwy'n siomedig nad wyf wedi derbyn ymateb eto.
Felly, i gloi, Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid am ei adroddiad ac am y ffordd drylwyr ac adeiladol y mae wedi ymgymryd â'i rôl yn craffu ar y modd y cafodd pwerau Deddf Cymru 2014 eu gweithredu dros y pum mlynedd diwethaf. Diolch yn fawr.
Diolch. Nid oes unrhyw Aelod wedi dweud eu bod yn dymuno gwneud ymyriad, ac felly galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad, wrth gwrs, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl yma. Dwi eisiau diolch yn arbennig, hefyd, i'r Gweinidog, nid yn unig am ei hymateb hi heddiw, ond am y modd y mae hi wedi ymwneud â gwaith y pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yn sicr wedi cyfoethogi a bod yn help mawr i'n hystyriaethau ni fel pwyllgor. A gan fod Aelod neu ddau wedi cyfeirio at y Dirprwy Lywydd, dwi'n awyddus i ategu'r dymuniadau gorau a diolch i chi, hefyd, am y cyfraniad mawr rŷch chi wedi'i wneud i waith y Senedd yma dros nifer o flynyddoedd. Yn sicr, mi fydd yna golled ar eich ôl chi.
Jest i bigo lan ar un neu ddau o'r sylwadau'n sydyn, o fewn y cyfyngiadau amser. Mae'n glir bod y broses o ofyn am gymhwysedd dros drethi newydd ddim yn gweithio. Tair blynedd, fel yr oeddwn i'n ei ddweud wrth agor y ddadl, ar ôl gofyn am gymhwysedd dros dreth ar dir gwag, dŷn ni dal ddim callach; dŷn ni ddim yn teimlo ein bod ni fymryn yn nes i'r lan. Ac, os oes yna fwriad am resymau gwleidyddol i wrthod, wel, dywedwch hynny, Lywodraeth y Deyrnas Unedig, achos mae rhywun yn teimlo weithiau ein bod ni'n mynd rownd mewn cylchoedd. Os oes yna broblemau ac os oes yna gwestiynau dilys i'w gofyn, gofynnwch nhw, neu, fel arall, dywedwch yn syth beth yw'ch bwriad chi.
Mae ambell Aelod wedi cyfeirio at y ffaith bod y pandemig, wrth gwrs, wedi amlygu rhai o'r gwendidau yn y trefniadau cyllidol. Wel, gadewch inni felly roi'r rheini mewn trefn. Un o'r pethau sydd wedi fy siomi i fwyaf, a dweud y gwir, dros y flwyddyn ddiwethaf yw ein bod ni'n cael un dehongliad o beth maen nhw'n ei ddyrannu i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac ein bod ni'n cael dehongliad gwahanol iawn o beth maen nhw'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. A dyw hynny ddim yn adlewyrchu'n dda ar ddim un o'r ddwy Lywodraeth, heb sôn, wrth gwrs, am y fframwaith cyllidol a'r setliad datganoli. Mae e i gyd yn amlygu, yn fy marn i, pa mor annigonol yw'r trefniadau sydd yn eu lle.
Nawr, mae arwyddocâd cyfansoddiadol yr adroddiad a'r ddadl yma, i fi, yn mynd i galon datganoli, ac mae e yn sicr yn mynd i galon y berthynas weithredol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru. Gallaf i ddim ond pwysleisio y bydd yn rhaid cymryd camau ychwanegol, wrth gwrs, yn ystod y chweched Senedd, i gefnogi'r gwaith o ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rŷn ni fel pwyllgor wedi awgrymu, yn ein hadroddiad gwaddol, bod y Pwyllgor Cyllid nesaf yn gweithio gyda'r Llywodraethau datganoledig eraill a chyda Phwyllgor Materion Cymreig San Steffan er mwyn trio annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgysylltu yn well â'r darnau hynny o waith sy'n berthnasol iddyn nhw; dŷn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw ddod ger ein bron ni bob tro rŷm ni'n teimlo ein bod ni eisiau clywed ganddyn nhw. Ond yn sicr pan dŷn ni'n sôn am Ddeddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol, mae rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl greiddiol i'n hystyriaethau ni ynglŷn â sut mae'r broses a'r trefniadau hynny'n gweithio neu beidio.
Nawr, mae craffu ar faterion cyllidol yn un o'n cyfrifoldebau mawr ni fel Aelodau o'r Senedd, a dwi eisiau diolch o waelod calon i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor dros y bum mlynedd ddiwethaf. Mae hefyd wedi bod yn fraint cael cadeirio y Pwyllgor Cyllid. Ond dwi yn cadw'r diolch olaf a'r diolch mwyaf i'r rhai sydd wedi gweithio y tu ôl i'r llenni, y rhai sydd wedi gweithio'n dawel o'r golwg i gefnogi'n gwaith ni ar y pwyllgor. Ac mae'r tîm clercio, tîm clercio'r pwyllgor, o dan arweiniad Bethan Davies, a thîm ymchwil y Senedd wedi bod yn gefn mawr inni fel Aelodau ac wedi sicrhau bod gwaith y pwyllgor yn raenus ac yn effeithiol bob tro. Gwnaf gloi, felly, drwy ddweud wrthyn nhw yn benodol, ar ran holl aelodau presennol ac aelodau blaenorol y Pwyllgor Cyllid, diolch o galon i chi i gyd.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.