2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn y datganiad ar y strategaeth ar gyfer dileu TB buchol ddoe, fe ddywedoch chi mai un o'r rhesymau pam eich bod yn rhoi'r gorau i ddal moch daear a chynnal profion arnynt, yn eich geiriau chi, yw oherwydd ei fod yn amhoblogaidd gyda ffermwyr. Fodd bynnag, gellid dadlau mai un o'r rhesymau a gyfrannodd at fethiant y rhaglen oedd bod rhestr o'r ffermydd a gymerodd ran wedi'i chyhoeddi yn 2018 mewn achos canfyddedig o dorri diogelwch data, gan arwain at fwlio ac aflonyddu ar y ffermwyr a gymerodd ran yn y rhaglen. Yn ogystal, dywedodd llywydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, John Davies:
'Ymddengys mai Llywodraeth Cymru yn unig sydd o'r farn y gellir dileu'r clefyd hwn heb ymdrin yn rhagweithiol ag anifeiliaid sydd wedi'u heintio mewn poblogaethau bywyd gwyllt yn ogystal â gwartheg.'
Gyda ffermwyr yn mynegi pryderon ynghylch gallu Llywodraeth Cymru i drin data sensitif a sicrhau dull digonol o ddileu'r clefyd heb strategaeth ddileu gyfannol a rhagweithiol, pa mor hyderus y gall ffermwyr fod y bydd eich Llywodraeth yn ennill y frwydr yn erbyn TB buchol?
Diolch. Un o'r rhesymau pam y dywedais fy mod am roi'r gorau i ddal moch daear a chynnal profion arnynt oedd oherwydd ei fod yn galw am lawer o adnoddau ac nid oedd wedi darparu cymaint o ddata â'r hyn y meddyliais y byddai'n ei wneud. Credaf y byddai'r cyllid a ddarperais ar gyfer y cynllun dal a phrofi yn y gorffennol wedi cael ei ddefnyddio'n well mewn cynllun brechu moch daear. Felly, dyna pam y cyhoeddais £100,000 ddoe. Rwy'n llwyr gydnabod yr hyn a ddywedwch am dorri diogelwch data—rwy'n ceisio cofio ai tair neu bedair blynedd yn ôl y digwyddodd, ond roedd ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn amlwg, fe wnaethom ymddiheuro. Ond rwyf eisiau i'n sector ffermio a'r gymuned fod â ffydd yn y rhaglen hon i ddileu TB. Fel y trafodwyd yn helaeth ddoe, credaf ei bod yn gweithio. Mae'n bryd ei hadnewyddu yn awr, gan fod pedair blynedd wedi bod ers inni ei chyflwyno, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Wel, Weinidog, bydd hynny'n siomedig, gan fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru yn credu bod cael gwared ar y cynllun dal a phrofi yn gam yn ôl.
Ond i symud oddi wrth TB a chanolbwyntio ar gymorth ariannol, yr wythnos diwethaf, clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig dystiolaeth gan yr undebau ffermio, pan ofynnwyd iddynt am eu pryderon ynghylch y ffaith bod cyllid rhaglen datblygu gwledig heb ei wario erbyn diwedd y rhaglen. Mynegodd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru eu siom fod traean o'r gyllideb wreiddiol yn dal heb ei wario ym mis Awst eleni, er i'r rhaglen ddod i ben y llynedd. Weinidog, a ydych yn rhannu'r pryderon hyn ac yn cytuno bod yn rhaid gwario cyllid y rhaglen datblygu gwledig yn effeithiol ac mewn modd tryloyw? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ffermwyr na fydd eich tanwariant yn cael unrhyw effaith ar unrhyw gytundebau ariannu yn y dyfodol?
Rwy'n cytuno â chi y dylid ei wario'n llawn; nid wyf yn rhannu pryderon na fydd hynny'n digwydd. Rwy'n dal i fod yn hyderus y bydd arian y rhaglen datblygu gwledig i gyd wedi'i wario erbyn diwedd 2023, sef yr adeg y mae'n rhaid i'r arian fod wedi'i wario. Rwy'n siŵr y byddwch yn deall y bu heriau sylweddol i rai prosiectau oherwydd effaith y pandemig ac effaith barhaus y ffaith ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddar, cyhoeddais estyniadau i gontractau amaeth-amgylcheddol Glastir am ddwy flynedd, drwy'r rhaglen datblygu gwledig, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael croeso mawr. Oherwydd roeddwn eisiau rhoi sicrwydd i'r prosiectau amgylcheddol hynny nad oeddem wedi colli'r enillion a gawsom drwyddynt, cyn trosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'r ymrwymiad lefel prosiect presennol yn £764.7 miliwn ac mae hynny'n ymrwymiad o 91.2 y cant o gyllid yn erbyn cyfanswm gwerth y rhaglen o dros £838 miliwn.
Diolch. Fe sonioch chi am y prosiectau amgylcheddol, ac ar fater taliadau rhaglen datblygu gwledig effeithiol a thryloyw, mae ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cyfran gynyddol o gronfa creu coetir Glastir Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio i ariannu prosiectau plannu coed ar dir fferm yng Nghymru a brynwyd gan fusnesau tramor, heb unrhyw fudd i Gymru na'n cymunedau ac yn groes i'n hymdrechion ein hunain i fynd i'r afael â newid hinsawdd. O ystyried bod busnesau mawr o'r tu allan i Gymru yn gwneud defnydd o grantiau Glastir, a ffermwyr lleol fel David Mills o Bowys yn cael eu cosbi a'u dirwyo o filoedd o bunnoedd am wneud y peth iawn drwy blannu coed, a wnewch chi ddatgelu i'r Siambr faint o arian trethdalwyr, a ddyrannwyd drwy gronfa creu coetir Glastir, sydd wedi'i roi i fusnesau gwerth miliynau o bunnoedd i blannu coed yng Nghymru?
Felly, rwy'n ymwybodol o'r achos y cyfeiriwch ato, ac ni allaf wneud sylw oherwydd, yn amlwg, mae'n mynd drwy broses.
Mewn perthynas â chwmnïau rhyngwladol yn prynu tir yng Nghymru, mae'n amlwg fod hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i mi a chyfarfûm â'r undebau ffermio yr wythnos diwethaf a gofyn iddynt a oeddent yn gallu darparu tystiolaeth. Roedd y ddau undeb wedi ei ddwyn i fy sylw. A dywedodd un o'r undebau wrthyf fod llawer ohono'n anecdotaidd, felly byddai'n well gennyf gael ffeithiau cadarn, ac maent wedi ymrwymo i wneud hynny, oherwydd credaf ei bod yn bwysig inni wybod pa dir sy'n cael ei brynu.
Fodd bynnag, rwy'n clywed drwy'r amser fod parseli mawr o dir yn cael eu prynu a bod coed yn cael eu plannu. Fe fyddwch yn ymwybodol nad ydym wedi cyrraedd ein targedau plannu coed ers amser maith. Felly, rwy'n ceisio sicrhau cydbwysedd, ond mae angen cynnydd sylweddol mewn gwaith creu coetir ac rwy'n credu mai ein ffermwyr sydd yn y sefyllfa orau i allu gwneud hynny i ni.
Felly, credaf fod dau beth gwahanol yno. Rwy'n credu bod angen inni wybod i bwy rydym yn gwerthu ein tir. Yn anffodus, fel y dywedwch, mae rhywfaint o'r cyllid yn mynd i gyfeiriadau nad ydynt yng Nghymru. Nid wyf yn credu ei fod mor sylweddol ag yr awgrymwch. Ac unwaith eto, os oes gennych dystiolaeth, anfonwch hi ataf, ond credaf ein bod i gyd yn cytuno bod llawer ohoni'n anecdotaidd. Ond wrth edrych ar y cynllun ffermio cynaliadwy, o fewn hynny, rwy'n awyddus iawn i allu helpu ein ffermwyr sy'n awyddus i blannu coed, sy'n awyddus i blannu gwrychoedd a lleiniau ac i allu eu cynorthwyo i wneud hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch, Llywydd. Wrth inni edrych y tu hwnt i COP26, mae'n rhaid inni, erbyn hyn wrth gwrs, droi ein geiriau yn weithredoedd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yn ystod y gynhadledd, cafwyd diwrnod amaethyddiaeth ac fe wnaeth arweinwyr y sector ffermio yng Nghymru ymrwymiadau uchelgeisiol a chadarn iawn i helpu Cymru gyrraedd y nod o fod yn net sero.
Wrth gwrs, rŷn ni'n deall bod angen diwydiant ffermio hyfyw ar Gymru i sicrhau nad ŷn ni'n gweld llai o gamau'n cael eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd naturiol a llai o gyfraniadau economaidd gan y sector i economi Cymru. A dŷn ni ddim, yn sicr, eisiau gweld effeithiau negyddol ar yr hinsawdd drwy fewnforio cynnyrch fferm o wledydd tramor, fel ŷn ni wedi clywed bydd yn bosibl—o Awstralia a Seland Newydd.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cyhoeddodd Hybu Cig Cymru ddiweddariad i'w hadroddiad, 'Perffeithio'r Ffordd Gymreig', sy'n cynnwys canllawiau ar ffermio defaid a chynhyrchu cig eidion mewn ffordd gynaliadwy. Cyhoeddodd NFU UK hefyd adroddiad cynhwysfawr ar sut y gall y sector arwain y ffordd i fod yn net sero. Ac mae hyn yn wahanol iawn i'r geiriau gwag rŷn ni wedi eu cael gan y Torïaid ar newid hinsawdd. A yw'r Gweinidog yn cytuno, felly, fod cyfraniad ffermwyr yn hollbwysig i gyrraedd net sero a'u bod nhw'n rhan o'r ateb ac nid y broblem?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi eu bod yn rhan o'r ateb ac yn sicr rwy'n meddwl—. Fe sonioch chi am Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar lefel y DU, ond mae NFU Cymru, yn fy marn i—fe wnaethant nodi eu strategaeth cyn i ni wneud hynny. Credaf eu bod wedi bod yn glir iawn eu bod yn gweld eu hunain fel rhan o'r ateb ac nad ydynt yn dod atom i ofyn cwestiynau—maent yn dod gydag atebion. Felly, credaf eu bod wedi arwain y ffordd go iawn mewn perthynas â hynny.
Roeddwn yn falch iawn o weld adroddiad newydd Hybu Cig Cymru, 'Perffeithio'r Ffordd Gymreig'. Mae hwnnw eto'n cydnabod y camau y bydd angen i ffermwyr da byw Cymru eu cymryd tuag at gyflawni'r targedau cynaliadwyedd rydym wedi'u gosod ac maent yn darparu canllawiau ar gyfer gwelliant parhaus. Mae gennym bryderon hefyd ynglŷn â chytundebau masnach y DU â Seland Newydd ac Awstralia y cytunwyd arnynt mewn egwyddor ac mae swyddogion yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU.
Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, dyw'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ddim yn unig wedi torri addewidion ynglŷn â newid hinsawdd am yr ail flwyddyn yn olynol. Rŷn ni wedi gweld addewidion wedi cael eu torri ar gyllid i amaeth yng Nghrymu. Mae toriadau cymharol i ddyraniad cyllid amaeth a datblygu gwledig a gyhoeddwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant fis diwethaf yn torri addewid maniffesto'r Ceidwadwyr i beidio â thorri cyllid gwledig. Dangosodd yr adolygiad gwariant, a rŷch chi'n cofio am 'not a penny less', y byddai £300 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd yn cael ei ddyrannu i Gymru ar gyfer amaeth dros y tair blynedd nesaf. Nawr, mae hyn yn golygu £37 miliwn yn llai na'r gyllideb a ddyrannwyd yn 2019, yn y flwyddyn lle wnaeth y Ceidwadwyr yn eu maniffesto addo na fyddai toriadau yn y gyllideb i ffermwyr yn digwydd. Mae hyn yn golygu y bydd amaethyddiaeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf, y pedair blynedd nesaf, yn gweld gostyngiad o £248 miliwn, gan ddatgelu mewn gwirionedd y gwagedd y tu ôl i'r addewidion a wnaed gan y Torïaid, y Brexiteers, yn eu maniffesto yn 2019.
Felly, sut mae'r toriad hwn yn effeithio ar ymrwymiadau blaenorol y Gweinidog o ran cynnal cyllid cynllun y taliad sylfaenol i ffermwyr dros y blynyddoedd nesaf, a pha gamau y mae hi'n mynd i'w cymryd i sicrhau na fydd y toriadau hyn yn effeithio nac yn tanseilio ffermydd teuluol na'r economi wledig?
Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cam â'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig yma yng Nghymru. Fel y dywedwch, byddwn ar ein colled o dros £106 miliwn o gyllid yn lle arian yr UE dros gyfnod yr adolygiad o wariant. Mae hynny ar ben y £137 miliwn y llynedd na chafodd ei ddarparu ar gyfer fy nghyllideb gan Lywodraeth y DU. Ni fyddai'r cyllid hwnnw wedi'i netio pe byddem yn dal i fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Fel y gwyddoch, mae'n debyg, a byddwch wedi clywed y Gweinidog cyllid yn ei chwestiynau yn dweud nad yw'r rhethreg hon—a rhethreg oedd hi, onid e—ynghylch yr un geiniog yn llai yn dwyn ffrwyth, a gwn fy mod i a'r Gweinidog cyllid wedi cwyno'n barhaus am y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n siomedig iawn na wnaethant fabwysiadu dull gwahanol o weithredu eleni yn dilyn ein sylwadau y llynedd.
Felly, mae'n golygu bod llawer llai o arian gan y Gymru wledig na phe byddem wedi aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, yn amlwg yn awr, bydd yn rhaid i bob un ohonom ystyried hyn fel Cabinet cyn cyhoeddi ein cyllideb ar 20 Rhagfyr.
Diolch. Mae'n amlwg felly nad yw cefnogi ffermwyr Cymru yn uchel ar flaenoriaeth y Torïaid yn San Steffan.
Gan symud ymlaen i edrych yn fwy arbennig ar bolisi ffermydd yn y dyfodol, y tu hwnt i'r cyllid presennol, un o'r pryderon sy'n cael eu mynegi gan y sector yw capio ar daliadau. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymrwymo i gapio taliadau a fyddai'n gwneud y mwyaf o'r arian sy'n mynd i ffermydd teuluol bach. Ochr yn ochr â'r materion o ran diffinio beth yw ffermwyr gweithredol—active farmer—byddai rhoi'r gorau i gapio taliadau yn agor y drws i unigolion preifat a chyrff mawr gymryd arian oddi wrth ffermydd teuluol bach a chymunedau gwledig.
Nawr, o 2023 ymlaen, fel rŷch chi'n gwybod, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cymryd camau breision i ailddosbarthu'r cymorth ariannol yn decach i ffermwyr, ac mae hyn yn golygu diffiniad cliriach o beth yw ffermwr gweithredol. A all y Gweinidog leddfu pryderon y sector heddiw felly drwy ymrwymo'n benodol i gynnal neu leihau'r cap presennol ar daliadau, a dilyn esiampl y cap newydd sydd yn cael ei argymell gan yr Undeb Ewropeaidd er mwyn rhoi chwarae teg i ffermwyr Cymru?
Wel, fel y gallwch ddeall rwy'n siŵr, gan fod y cynllun ffermio cynaliadwy wrthi'n cael ei ddatblygu, mae'n amlwg na allaf ymrwymo i hynny yma yn y Siambr, ond daw sylwadau i law yn rheolaidd ynghylch capio taliadau, a byddaf yn sicr yn edrych ar hynny fel rhan o'r cynllun ffermio cynaliadwy.