– Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar gefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig COVID-19. Galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7827 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
b) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19;
c) ymdrechion staff GIG Cymru i sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus yn fyd-eang.
2. Yn credu, gyda'r sefyllfa a'r profiad arweinyddiaeth hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull byrddau iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i nodi a darparu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a thechnoleg brechlyn yn cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant brechlynnau byd-eang a fydd yn achub bywydau.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Braint o'r mwyaf yw cael cyflwyno'r ddadl heddiw ar bwnc dwi'n gwybod y mae nifer o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon hefyd yn teimlo'n angerddol amdano. Dim ond wythnos diwethaf, fe glywsom gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am yr amryw o brosiectau pwysig drwy'r rhaglen Cymru ac Affrica, a’i chefnogaeth hi i ymgyrch Brechlyn y Bobl. Rwyf yn gobeithio'n fawr felly, yn sgil y ddadl heddiw, y gallwn ni i gyd gyd-weithio ar draws y Siambr hon i sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i ddod â'r pandemig hwn i ben, neu o leiaf dan reolaeth, a gwarchod cymunedau ledled y byd.
Mae gennym ni yng Nghymru gyfrifoldeb, fel gwlad incwm uchel, i gynorthwyo gyda darparu cymorth ariannol byd-eang, cyflenwadau meddygol, ac yn hanfodol, rhannu cyflenwadau o'r brechlyn. Mae hyn yn golygu darparu mwy o gymorth i'r gwledydd y mae gennym gysylltiadau â hwy eisoes, estyn allan at wledydd eraill sydd mewn angen, a phwyso ar Lywodraeth y DU i wneud yr hyn sy'n foesol gywir ac ailddosbarthu brechlynnau i'r man lle mae eu hangen ac ildio hawliau eiddo deallusol ar y brechlyn.
Mae cymaint o fuddion i rannu'r ddarpariaeth fel y nodwyd yn ymgyrch Brechlyn y Bobl; nid yn unig ei fod yn anghenraid meddygol i achub bywydau ac ymladd COVID-19, ond mae hefyd yn rheidrwydd moesol ac yn flaenoriaeth economaidd. Ers dechrau'r pandemig, mae'n ofnadwy mai 0.7 y cant yn unig o'r holl ddosau o'r brechlynnau a weithgynhyrchwyd ledled y byd sydd wedi mynd i wledydd incwm isel. Ar yr un pryd, mae bron i 50 y cant o'r brechlynnau a werthwyd gan bedwar o'r gwneuthurwyr brechlyn COVID-19 mwyaf: AstraZeneca, Pfizer, Moderna, a Johnson & Johnson wedi'u dosbarthu i wledydd incwm uchel. Serch hynny, 16 y cant yn unig o boblogaeth y byd sy'n byw yn y gwledydd incwm uchel hyn. Gyda'i gilydd, mae AstraZeneca, Pfizer, Moderna, a Johnson & Johnson wedi dosbarthu 47 gwaith yn fwy o ddosau i wledydd incwm uchel nag i wledydd incwm isel. Mae dosbarthu brechlynnau COVID-19 yn seiliedig ar gyfoeth neu genedligrwydd, yn hytrach nag ar angen, yn peryglu bywydau, yn atal adferiad economaidd, ac yn ymestyn hyd y pandemig.
Mae Cynghrair Brechlyn y Bobl wedi tynnu sylw at y pum cam canlynol y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn darparu brechlyn y bobl yn llwyddiannus, sef: yr angen i frechu o leiaf 60 y cant o'r bobl ar y blaned; cael gwared ar hawliau eiddo deallusol ar frechlynnau a gwybodaeth am COVID-19; buddsoddi symiau mawr o arian cyhoeddus mewn gweithgynhyrchu mwy o ddosau o'r brechlynnau ar gyfer pob rhan o'r byd; darparu brechlynnau, triniaethau a phrofion yn rhad ac am ddim; a chynyddu cymorth ariannol byd-eang i'r gwaith o ehangu a gwella systemau iechyd y cyhoedd. Mae ymestyn hyd y pandemig, heb frechlyn y bobl, yn parhau i beryglu iechyd y cyhoedd ym mhobman, tra'n bygwth yr economi fyd-eang a safonau byw pobl. Gadewch inni sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan fel gwlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang drwy wneud popeth a allwn i gynyddu cynhyrchiant y brechlyn er mwyn achub bywydau pobl ym mhob rhan o'r byd. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill i'r ddadl heddiw. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Russell George i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth y DU wedi darparu £548 miliwn i ymrwymiad marchnad COVAX, sy'n darparu 1.8 biliwn o frechlynnau i hyd at 92 o wledydd er mwyn sicrhau mynediad teg byd-eang i frechlynnau COVID-19.
Yn cydnabod, fel rhan o Lywyddiaeth G7 y DU, fod Llywodraeth y DU wedi hyrwyddo mynediad teg i frechlynnau, therapiwteg a diagnosteg ac wedi sicrhau ymrwymiad AstraZeneca i ddosbarthu ei frechlyn ar sail ddi-elw.
Yn cydnabod bod rhwydwaith Llywodraeth y DU o gynghorwyr iechyd mewn gwledydd perthnasol yn cefnogi llywodraethau gwledydd hynny i dderbyn a darparu brechlynnau a bydd yn rhannu 100 miliwn dos ychwanegol erbyn mis Mehefin 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. A gaf fi ddiolch i Heledd a Phlaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma? Wrth edrych ar gynnig Plaid Cymru, roeddwn yn aelod o'r pwyllgor amgylchedd a fu’n craffu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a deddfwriaeth dda iawn oedd honno hefyd. Wrth gwrs, rwy’n croesawu rhannau helaeth o’r cynnig heddiw gan Blaid Cymru, yn enwedig yr ymdrechion, wrth gwrs, o ran cefnogi GIG Cymru. Gwelsom y brechlyn yn cael ei ddarparu'n wych ledled y DU, yma yng Nghymru, ac yn enwedig yn fy mwrdd iechyd fy hun, ym Mhowys, sydd wedi arwain y ffordd o ran y lefelau brechu fesul poblogaeth o gymharu â Chymru, a siroedd ar draws Lloegr hefyd. Felly, wrth gwrs, rydym yn diolch yn arbennig i'n staff a'n gweithlu gwych yn y GIG am bopeth a wnânt.
Credaf y byddai'n ddefnyddiol y prynhawn yma, yn y ddadl hon—ac mae'n ddadl dda iawn—inni dynnu sylw at ambell faes arall hefyd. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod £548 miliwn wedi'i roi i ymrwymiad marchnad ymlaen llaw COVAX, sy'n darparu cyfanswm o 1.8 biliwn o frechlynnau i 92 o wledydd—daw hynny gan Lywodraeth y DU ar ran y DU. Credaf fod hynny, wrth gwrs, yn gymorth enfawr i sicrhau mynediad teg ledled y byd at frechlynnau COVID-19. Ond nid ydym yn ddiogel, onid ydym, tan y bydd pawb yn ddiogel? Rwyf wedi clywed hynny mor aml, ac mae mor wir. Felly, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyfrannu at yr ymdrech i ddiogelu gwledydd eraill, addewid gan Lywodraeth y DU i roi 100 miliwn dos erbyn mis Mehefin 2022, gydag 80 y cant yn cael eu dosbarthu drwy COVAX a chredaf y bydd hynny'n hwb enfawr i'r gwledydd mwyaf agored i niwed.
Mae gan y G7, wrth gwrs, gyfrifoldeb mawr i weithredu hefyd. Mae'r pandemig, wedi'r cyfan, yn broblem fyd-eang. Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth y DU wedi defnyddio ei llywyddiaeth mewn ffordd gadarnhaol drwy hyrwyddo mynediad teg at frechlynnau, ac yn wir, drwy sicrhau'r ymrwymiad gan AstraZeneca i ddosbarthu eu brechlyn ar sail ddi-elw. Credaf fod cael un dull iechyd wedi'i nodi gan y DU a'r G7 yn gwbl hanfodol i oroesi'r pandemig hwn, gwella integreiddio a chryfhau mesurau atal a pharodrwydd ar gyfer y pandemig er mwyn diogelu iechyd pob enaid byw. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â darparu brechlynnau yn unig i'r gwledydd hynny; mae hefyd yn ymwneud â darparu arbenigedd a chyngor. Felly, rwy'n falch ein bod ni, y DU, hefyd yn rhoi cymorth yn hynny o beth er mwyn sicrhau nid yn unig fod brechlynnau'n cael eu darparu i wledydd eraill sydd mewn sefyllfa wahanol i ni, ond bod y Llywodraethau hynny'n cael cymorth i ddarparu'r brechlyn hefyd.
Mae Rhwydwaith Brechlynnau'r DU yn dod â diwydiant, y byd academaidd a chyrff cyllido perthnasol at ei gilydd i dargedu buddsoddiad mewn brechlynnau penodol a thechnoleg brechlynnau a chlefydau heintus sydd â'r potensial i achosi epidemig. Felly, credaf fod gan y DU—gyda Chymru'n rhan o'r DU honno—mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo ynglŷn â chyfraniad ein gwlad. Nid yw hynny'n golygu na ellir gwneud mwy wrth gwrs, gan y gellir gwneud mwy, ond yn sicr, credaf ei bod yn iawn inni dynnu sylw at yr hyn y mae ein gwlad wedi'i wneud o ran ei hymateb byd-eang. Ond fel rwy'n dweud, mae mwy i'w wneud. Ond mae'n rhaid inni gofio’r ymateb y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud ar ran gwledydd y DU hefyd. Diolch.
Roeddwn yn siomedig iawn o glywed gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y datganiad a wnaeth—yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, neu’r wythnos cynt, ond yn ddiweddar beth bynnag—nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud unrhyw ymrwymiadau mewn perthynas â lle mae'r brechlynnau a roddwyd gennym wedi mynd. Ond rwyf wedi gallu darganfod ein bod newydd anfon—mae Llywodraeth y DU wedi anfon—10 miliwn dos i COVAX ddiwedd y mis diwethaf, ac mae disgwyl iddynt anfon 10 miliwn dos arall yn ystod yr wythnosau nesaf. Gyda'r rhai sydd eisoes wedi'u danfon, mae hynny'n 30.6 miliwn dos.
Yn amlwg, pan fyddwch yn cymharu hynny â phoblogaeth Affrica, 1.4 biliwn, nid yw'n ddim mwy na diferyn bach yn y môr. Serch hynny, rydym yn wlad fach, ac mae angen inni sicrhau bod pob gwlad yn y byd datblygedig yn gwneud eu cyfraniad teg i'r gwledydd sy'n datblygu nad oes ganddynt allu i gynhyrchu eu brechlyn eu hunain yn y rhan fwyaf o achosion. Yn amlwg, mae llawer o'r cwmnïau fferyllol yn amharod i roi'r fformiwla iddynt i'w galluogi i wneud hynny oherwydd, yn y pen draw, pan fo gennych y fformiwla, ni all fod mor anodd â hynny i'w gynhyrchu.
Felly, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan er mwyn cynyddu nifer y dosau sydd ar gael i wledydd sydd wedi'u llethu'n llwyr gan hyn. At ei gilydd, mae nifer y bobl sydd wedi cael eu brechu yn warthus o fach. Serch hynny, rydym yn dal i ddisgwyl i'r gweithwyr iechyd yn y gwledydd hynny barhau i nyrsio pobl sydd wedi dal COVID heb y diogelwch y gallwch ei gael gan y brechlyn. Felly, nid oes yr un ohonom yn ddiogel tan y bydd pawb wedi cael eu brechu, oherwydd fel arall, bydd hyn yn gysgod dros fywydau pob un ohonom, ein holl weithgarwch economaidd, a llesiant pawb am yr holl amser hwnnw. Felly, mae'n fater hynod bwysig.
Bydd angen inni helpu mewn sawl ffordd arall hefyd. Y ffyrdd y mae Cymru wedi chwarae ei rhan i sicrhau bod newid teg yn digwydd wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd—. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i'r arian rydym wedi'i addo i wledydd sy'n datblygu, ac fe wnaethom addo £10 biliwn y flwyddyn iddynt yn ôl yn 2009, ac nid ydym wedi llwyddo i ddarparu'r rhan fwyaf ohono tan nawr. Nid yw hynny'n ddigon da. Rydym yn byw mewn byd cydgysylltiedig. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn chwarae eu rhan, a bod y rheini sy'n lleiaf abl i helpu eu hunain yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt gan y rheini ohonom sydd yn y sefyllfa freintiedig rydym ynddi.
Rydym wedi clywed yr ymadrodd, 'Nid ydym yn ddiogel hyd nes y bydd pob un ohonom yn ddiogel' sawl gwaith y prynhawn yma. Mae hynny'n wir yma yng Nghymru a'r DU ac yn fyd-eang. Credaf fod pob un ohonom yn cytuno y dylem wneud popeth a allwn i sicrhau bod brechlynnau'n cael eu dosbarthu'n deg ym mhob cwr o'r byd.
Hoffwn drafod dwy elfen. Y gyntaf yw bod COVID-19 wedi llyncu cymaint o wahanol agweddau ar fywyd arferol, yn enwedig i'n GIG. Tra bo Cymru'n parhau i arwain yr ymdrechion i frechu rhag COVID, rydym hefyd yn brechu rhag y ffliw, ac mae plant yn cael y brechiadau rheolaidd ac ati. Ond ni ellir dweud yr un peth am wledydd yn hemisffer y de.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio y gallai fod diffyg o hyd at 2 biliwn o chwistrelli yn 2022. Nid yn unig y bydd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth o frechlynnau COVID, bydd hefyd yn effeithio ar frechiadau rheolaidd, yn enwedig i blant. Maent hefyd yn rhybuddio y gallai rhai gwledydd gymryd risg ac ailddefnyddio chwistrelli er mwyn cynnal rhaglenni brechu. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod ni, gan weithio gydag eraill, yn cyfrannu at ymdrech fyd-eang i sicrhau bod y gwaith o gyflawni rhaglenni iechyd cyhoeddus yn parhau ledled y byd. Mae hynny o fudd i bawb ohonom.
Mae'r ail bwynt yn ymwneud â gwelliant y Ceidwadwyr, ac mae'n ymwneud â meddwl yn hirdymor. Mae'r pandemig COVID-19 wedi gwrthdroi cynnydd datblygiadol yn llawer o wledydd tlotaf y byd, gan wthio 97 miliwn o bobl ychwanegol i mewn i dlodi eithafol. Felly, er bod yn rhaid i frechu teg fod yn sylfaen i'n brwydr yn erbyn bygythiad uniongyrchol COVID-19, mae'n rhaid inni ganolbwyntio hefyd ar ailgodi ac adferiad hirdymor wedi'r pandemig ar raddfa fyd-eang.
Felly, nodaf yr ymyriadau gan Lywodraeth y DU y mae'r gwelliant yn eu hamlinellu, ond mae'r Ceidwadwyr yn rhoi gydag un llaw ac yn cymryd yn ôl gyda'r llall. Mae eu toriadau anghyfrifol ac anystyriol i gymorth tramor wedi tanseilio a byddant yn parhau i danseilio ymdrechion i liniaru yn erbyn y niwed hirdymor a achoswyd gan y pandemig. Felly, mae gweithredu ar adeg o argyfwng yn un peth, ond mae'r gwahaniaeth i'w weld pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn hirdymor i greu byd tecach a mwy diogel. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Senedd gefnogi’r cynnig hwn yma heddiw, ac rwy'n apelio ar Lywodraeth Cymru i barhau i ddadlau dros weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cyfrannu tuag at sicrhau diogelwch a ffyniant byd-eang. Diolch yn fawr iawn.
Dwi’n falch iawn o gael cyfle i ddweud ychydig o eiriau yn y ddadl yma. Mae’n bwysig ein bod ni’n trafod hyn, a dwi’n meddwl ei bod hi’n annatod, mewn ffordd, fod pobl wedi edrych ar ein lles ein hunain dros y flwyddyn a naw mis diwethaf. Ac wrth hynny, mi allwn ni fod yn cyfeirio atom ni’n hunain fel gwlad, fel cymunedau, fel gweithwyr allweddol, fel teuluoedd neu fel unigolion hyd yn oed, ond un o hanfodion pandemig, fel mae’r enw yn ei awgrymu, ydy bod ei effaith o yn eang iawn, iawn, ac rydym ni’n sôn am rywbeth sydd wedi cael ei deimlo dros y byd i gyd. Mae’n bwysig, dwi’n meddwl, ein bod ni'n edrych rŵan a gofyn, tra rydym ni’n dal, wrth gwrs, yn ceisio gwneud popeth i edrych ar ein holau ni yn fan hyn, os oes yna fwy y gallwn ni fod yn ei wneud i helpu eraill sy’n dioddef. Arbed bywydau ydy’r nod yn fan hyn.
Mae anghyfartaledd mewn cyflenwad brechiadau ar draws y byd wedi ac yn dal i arwain at niferoedd uchel o farwolaethau diangen, ac yn enwedig mewn gwledydd incwm canolig neu isel y mae hynny yn wir. Mae llawer ohonyn nhw wedi gweld ton ar ôl ton yn sgubo drwy eu cymunedau nhw a heb allu cael mynediad nid yn unig at frechiadau, ond at bethau fel gwybodaeth iechyd, at brofion, at ocsigen, at gyfarpar diogelu personol a hyd yn oed hyfforddiant ar sut i ddefnyddio PPE. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi adrodd yn ddiweddar mai dim ond 14.2 y cant—un o bob saith—o heintiadau sy’n cael eu canfod yn Affrica, ac mae’r math yna o ystadegyn, dwi’n meddwl, yn dangos pam mae cefnogaeth Cymru i ymgyrch y People’s Vaccine neu Brechiad y Bobl mor, mor bwysig.
Fel dwi’n dweud, pandemig ydy o, rhywbeth sy’n cael effaith ar boblogaeth eang—yn yr achos yma, y byd i gyd—ac mae gwyddonwyr wedi rhybuddio o’r dechrau mai dim ond ymateb byd eang a all fod yn effeithiol wrth drio ymateb i’r pandemig yma a chael rheolaeth arno fo. Felly, mae brechiad yn gorfod cael ei weld fel rhywbeth sy’n dod â budd byd eang. Fel sydd wedi cael ei ddweud sawl tro, allwn ni ddim dweud bod unrhyw un yn ddiogel tan mae pawb yn ddiogel. A drwy gyfyngu ar gyflenwad y brechiadau mewn rhai gwledydd, rydym ni’n ymestyn oes y pandemig yma, o bosib, ac rydym ni’n creu cyfleon i amrywiolion newydd ddatblygu, yn ychwanegu at y bygythiad rydym ni’n ei wynebu. Ac mae cynghrair Brechiad y Bobl yn ofni y gallai methu â chynyddu'r ganran sy’n cael eu brechu yn fyd eang olygu bod brechiadau yn y gwledydd mwy cyfoethog, sy’n eu rhoi nhw’n eang iawn i’w pobl, yn mynd yn aneffeithiol mewn cyn lleied â blwyddyn. Felly, ystyriwch hynny.
Mi oedd yna ymateb gwyddonol rhyfeddol, wrth gwrs, i’r pandemig yma. Mi wnaeth ymchwilwyr yn y sectorau meddygol a fferyllol ymateb mewn ffordd ddigynsail. Maen nhw'n haeddu pob clod am hynny. Ond, wrth gwrs, pan ydych chi’n sôn am rai o gwmnïau pharma mwyaf y byd, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith bod hyn wedi creu cyfleon economaidd mawr a digynsail hefyd, ac mae gen i ofn bod y cwmnïau pharma wedi cymryd y camau arferol i warchod eu buddiannau eu hunain drwy, er enghraifft, wrthod rhannu eu gwybodaeth a’u heiddo deallusol efo’r COVID-19 Technology Access Pool yn Sefydliad Iechyd y Byd. Mae ganddyn nhw’r grym i gynnal prisiau drwy reoli’n ofalus faint sy’n cael ei gynhyrchu, a beth sydd gennym ni ydy rhwystrau i ganiatáu i wledydd incwm canolig ac isel gynhyrchu eu brechiadau eu hunain. Y cyfiawnhad, fel arfer, dros ymddwyn fel yma, ydy bod cwmnïau fferyllol mawr, ac yn ddealladwy, wrth gwrs, yn gorfod adennill y buddsoddiad enfawr maen nhw'n ei roi i mewn i ddatblygu meddyginiaethau newydd. Ond cofiwch yn yr achos yma gymaint o gyfran o'r gost datblygu sydd wedi dod o goffrau cyhoeddus. Dwi'n meddwl bod rhywbeth fel 97.6 y cant o'r arian i ddatblygu brechiad AstraZeneca wedi dod o ffynonellau cyhoeddus neu philanthropic, ac eto roedden ni'n gweld yn y dyddiadau diwethaf y cwmni yna'n dweud eu bod nhw'n tynnu'n ôl o'r addewid i weithredu mewn ffordd nid er elw. Ac er eu bod nhw'n dweud y bydd y gwledydd tlotaf yn dal i gael eu trin fel yna, mae yna, dwi'n meddwl, yn ôl Oxfam, 75 o wledydd incwm canolig sydd ddim yn rhan o'r cytundeb yna. Felly, gadewch imi gloi fel hyn, drwy awgrymu, os oes gennym ni frechiad wedi cael ei ddatblygu a'i dalu amdano fo gan y bobl, fod yn rhaid iddo fo weithio ar ran y bobl, a hynny yn fyd-eang.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr heddiw fel ffordd i Gymru a'r Senedd gydnabod ein bod yn rhan o'r gymuned fyd-eang, a bod y gymuned fyd-eang yn wynebu her aruthrol wrth ymdopi â'r pandemig. Nid yw COVID-19 yn cydnabod unrhyw ffiniau rhwng gwledydd. Mae'n brofiad y mae'r byd yn mynd drwyddo ar y cyd ar hyn o bryd yn anffodus, ac mae angen ymateb iddo yn unedig ac ar y cyd. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw. Rydym wedi dangos llawer iawn o gyfrifoldeb ac ymgysylltiad rhyngwladol drwy, er enghraifft, ein rhaglen ar gyfer Affrica, ac mae sawl agwedd ar honno'n gysylltiedig ag iechyd. Rydym wedi darparu clinigau iechyd mewn gwledydd yn Affrica Is-Sahara; rydym wedi cael llawer o gyfnewid rhwng meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Mae wedi bod yn wych gweld hynny'n digwydd, ac rwy'n credu ei fod yn fuddiol iawn i ni ein hunain a'r gwledydd eraill dan sylw.
Yn amlwg, mae'r pandemig yn her bwysig i'r systemau iechyd rydym wedi helpu i'w datblygu a'u cefnogi, a rhan hanfodol o ymdopi â'r pandemig yw'r brechlyn. Gwyddom pa mor bwysig a buddiol y bu'r brechlyn i Gymru a'r DU a gwledydd eraill lle cyflwynir y brechlyn yn effeithiol ac yn helaeth, ond yn anffodus, nid dyna'r sefyllfa mewn llawer o wledydd sydd â systemau iechyd llai datblygedig ac economïau llai cryf a chadarn. Felly, fel rhan o'n rhwymedigaethau rhyngwladol, drwy'r rhaglen ar gyfer Affrica ac fel arall, credaf y dylai Cymru chwarae rhan yn dadlau'r achos a helpu'r gwledydd eraill hynny i gael rhaglenni brechu effeithiol.
Yn fy ardal i, Ddirprwy Lywydd, mae gennym Love Zimbabwe, sefydliad gwych sy'n meithrin cysylltiadau rhwng Cymru a Zimbabwe. Cynhaliwyd ymweliadau yn ystod y pandemig—yr haf diwethaf, er enghraifft. Mae Love Zimbabwe yn dweud wrthyf fod llawer o broblemau'n codi, fel y byddech yn ei ddisgwyl, wrth fynd ati i ymdrin yn effeithiol â'r pandemig yn Zimbabwe. Mae profion llif unffordd, er enghraifft, yn costio tua £25 i'w cynnal, ac mae'n amlwg nad yw llawer o bobl yn gallu fforddio hynny, sy'n ei gwneud yn anodd asesu nifer yr achosion a graddau COVID-19 yn y wlad honno, gan greu problemau mawr wrth i'r system iechyd gynllunio ymateb digonol. Hefyd, er bod brechu'n digwydd, nid yw'r mwyafrif llethol o'r boblogaeth o 15 miliwn wedi'u brechu, a'r brechlyn a ddefnyddir yw'r un Tsieineaidd, nad yw'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny'n creu problemau, oherwydd, er nad yw Zimbabwe bellach ar y rhestr goch o wledydd Llywodraeth y DU mewn perthynas â COVID, mae'r ffaith bod y brechlyn Tsieineaidd hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn golygu bod problemau gyda chwarantin a phrofion cyn gadael ar gyfer teithio o Zimbabwe i'r DU. Mae hynny'n creu llawer o oblygiadau i boblogaeth Zimbabwe ac wrth gwrs, i'r ffordd yr ymgysylltwn â hwy drwy Love Zimbabwe a grwpiau a sefydliadau eraill.
Felly, rwy'n falch iawn fod y ddadl hon yn digwydd heddiw fel y gallwn gydnabod a deall y materion hyn. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn cryfhau ein llais yn awr yn yr ymgyrch i sicrhau bod brechu'n digwydd yn effeithiol mewn gwledydd ledled y byd, ac y byddwn yn gwneud yr hyn a allwn yn fwy uniongyrchol mewn perthynas â'n rhaglen ar gyfer Affrica, a'n hymdrechion eraill, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldeb fel rhan o'r byd ffyniannus a sefydlog hwnnw, a deall pa mor ffodus rydym i fod yn y sefyllfa honno yma yng Nghymru.
Mae cyfrifoldeb yn greiddiol i'r ddadl hon—ie, safbwynt Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ond yn ddyfnach na hynny, yr rwy'n ei olygu yw'r ymdeimlad sydd wedi bod gyda ni drwy gydol y pandemig fod y camau a gymerwn yn arwain at ganlyniadau nid yn unig i ni ein hunain ond i bawb o'n cwmpas. Rywsut, nid yw'r neges honno wedi gadael ei hargraff ar arweinwyr a Llywodraethau byd-eang. Maent yn parhau i weithredu fel pe na bai'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i'n ffiniau yn cael fawr o effaith ar ein sefyllfa ansicr ein hunain ac yn cau eu llygaid i'r ffaith, os yw'r feirws yn lledaenu yn unrhyw le, na fydd unman yn ddiogel. Ond mae cyfnodau pandemig yn gyfnodau o eithafion ac ni fydd torri corneli'n mynd â chi'n bell iawn.
Mae ein dadl heddiw yn ymwneud â mwy na thegwch mewn perthynas â dosbarthu brechlynnau i wledydd tlotach y byd, mae'n ymwneud â synnwyr cyffredin, oherwydd mewn pandemig byd-eang, bydd y camau y mae pawb ohonom wedi'u cymryd ers 20 mis i gadw ein hunain a theuluoedd a ffrindiau'n ddiogel i gyd yn ofer os bydd y feirws yn parhau i ledaenu mewn gwledydd lle nad oes ymwrthedd wedi datblygu drwy frechlynnau, gan ganiatáu i COVID newid a dod yn fwy marwol byth. Hyd yn oed os edrychwn ar y mater drwy brism hunan-les yn unig, mae'n gwneud synnwyr i ddosbarthu brechlynnau'n deg ar draws y byd, a pheidio â'u pentyrru a blaenoriaethu ein diogelwch ein hunain, oherwydd ni fydd neb yn ddiogel hyd nes y caiff pawb y sicrwydd hwnnw.
Felly, beth sy'n atal hynny rhag digwydd? Yn syml, Ddirprwy Lywydd, trachwant corfforaethol. Mae llywodraethau hemisffer y gogledd yn caniatáu i'r cwmnïau fferyllol mawr sathru ar y ddynoliaeth sy'n ein huno wrth geisio gwneud elw, ac mae'r un anghydraddoldebau a amlygwyd gan y pandemig yn dyfnhau yn hytrach na'u lleihau. Mae Moderna, BioNTech a Pfizer yn gweld elw anferthol i'w cyfranddalwyr oherwydd bod ganddynt fonopolïau ar batentau. Gadewch i ni edrych ar hynny: yr elw y maent yn ei weld, yr amcangyfrifir ei fod mor uchel â 69 y cant, dyna'r elw y maent yn ei wneud o gynnyrch a oedd i fod i achub bywydau pobl. Mae'r elw hwnnw'n fwy am mai hwy yn unig sydd wedi cael caniatâd i gynhyrchu'r brechlynnau. Mae trachwant a rhyfyg wedi sicrhau bod y cwmnïau mawr yn mynd yn gyfoethocach ar draul amlwg tlodion y byd. Fel y nododd Dinah Fuentesfina o ActionAid International:
'Rydym yn creu biliwnyddion brechlyn ond yn methu rhoi brechlyn i biliynau o bobl sydd mewn angen dybryd.'
Y ddeuoliaeth hyll honno yw natur bwystfil cyfalafiaeth ddilyffethair, y grechwen nodweddiadol ar ei wyneb a'r cyfarthiad yn ei frathiad sy'n golygu, er mwyn i'r cyfoethog fynd yn gyfoethocach, fod yn rhaid i'r tlawd ddioddef. Ni fyddai wedi bod yn ddigon i'r cwmnïau hyn gael hawl cyntaf ar rysáit y brechlyn, maent wedi eithrio eraill rhag eu datblygu.
Ac mae Llywodraethau hemisffer y gogledd hefyd wedi ymddwyn yn warthus. Nid archebu'r sypiau cyntaf o frechlynnau'n unig a wnaethom; rydym wedi gorarchebu'n drychinebus. Gallai o leiaf 100 miliwn o frechlynnau gyrraedd pen eu hoes heb eu defnyddio yng ngwledydd y G7 yn 2021. Yn ôl y sôn, mae'r DU yn eistedd ar hyd at 210 miliwn o frechlynnau dros ben, ac mae cais rhyddid gwybodaeth diweddar yn awgrymu bod mwy na 600,000 dos o'r brechlyn wedi'u dinistrio yn y DU ym mis Awst 2021—wedi'u dinistrio. Gobaith biliynau o bobl wedi'i daflu allan fel sbwriel. Mae'n swnio fel moeswers hunllefus ein bod wedi cyrraedd moment yn hanes y ddynoliaeth lle mae gennym allu gwyddonol i greu'r fformiwlâu hyn, ond eu bod wedi'u dal yn ôl gan hunanoldeb a thrachwant. Fe fu alcemyddion yn chwilio am ganrifoedd am fformiwla hud a fyddai'n troi metel sylfaenol yn aur, ond heddiw rydym wedi canfod y gwrthwyneb, a throi serwm bywhaol y brechlynnau yn elifiant neu'n garthion a arllwysir i lawr y draeniau.
Mae Dinah Fuentesfina wedi tynnu sylw hefyd at y ffaith, er bod cannoedd o filiynau o bobl wedi'u heintio gan y feirws a bod mwy na 5 biliwn o bobl—5 miliwn o bobl, maddeuwch i mi—wedi marw,
'mae o leiaf naw biliwnydd newydd wedi'u creu diolch i COVID.'
Ddirprwy Lywydd, mae'r byd wedi torri drwy rwystrau gwyddonol yn y pandemig hwn. Anghydraddoldeb yw'r rhwystr terfynol sy'n bygwth baglu ymdrechion misoedd a miliynau. Rydym yn gwybod beth a ddylai ddigwydd. Dylid ystyried brechlynnau yn nwyddau cyhoeddus byd-eang, nid eu rhoi dan glo a'u storio hyd nes eu bod wedi mynd heibio i'w hoes ddefnyddiol. Dylid dileu hawliau eiddo deallusol, hepgor patentau a rhannu technoleg brechu. Gadewch inni wneud yr hyn sy'n iawn tra bod gennym amser.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ar gyfer y prynhawn yma ac am y cyfraniadau a glywsom hyd yma heddiw. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'u safbwynt. Ac wedi'r cyfan, fel y soniodd Jane Dodds, nid oes yr un ohonom yn ddiogel hyd nes y bydd pob un ohonom yn ddiogel. Fodd bynnag, mae'r dull y maent wedi'i gyflwyno ychydig yn rhy simplistig, ychydig yn rhy naïf ac ychydig bach yn haerllug o ystyried bod Plaid Cymru, ychydig wythnosau yn ôl, yn argymell brechu pob plentyn er bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell yn erbyn hynny.
Beth bynnag, mae'r rhaglen frechu yn llwyddiant heb ei ail. Aethom o sero dos ychydig dros flwyddyn yn ôl i fod ar y trywydd iawn i roi 12 biliwn dos o frechlyn erbyn diwedd y flwyddyn, a 24 biliwn dos erbyn canol y flwyddyn nesaf. Ymhen ychydig fisoedd yn unig, bydd y cyflenwad o frechlynnau yn llawer uwch na'r galw, oherwydd mentrodd y DU ar hap ac archebu brechlynnau cyn ein bod yn gwybod y byddent yn gweithio. Rydym ar y blaen yn ein rhaglenni brechu. Rydym yn brechu ein poblogaeth yn gyflym, ac eto rydym yn dal i ddarparu brechlynnau i weddill y byd.
Y DU yw un o'r cyfranwyr mwyaf i gynllun COVAX. Gweithredir COVAX gan y gynghrair fyd-eang ar gyfer brechlynnau ac imiwneiddio, neu Gavi yn fyr. Ac mae'r DU yn un o chwe chyfrannwr gwreiddiol Gavi ac yn un o ddim ond dwy wlad sy'n cyfrannu at Gavi drwy bob un o'r pedair sianel ariannu. Mae ein gwlad wedi darparu bron i £2.2 biliwn ar gyfer y cynllun. Fel y noda ein gwelliant, defnyddiwyd ein llywyddiaeth o'r G7 i wthio am fynediad teg at frechlynnau, therapiwteg a diagnosteg, a sicrhau ymrwymiad AstraZeneca i ddosbarthu eu brechlyn ar sail ddi-elw. Mae cwmnïau fferyllol a biotechnoleg eraill yn dilyn eu hesiampl. Mae Moderna wedi cytuno i roi 0.5 biliwn dos o'u brechlyn COVID i COVAX. Ddoe ddiwethaf, cytunodd Pfizer i drwyddedu'r cyffuriau gwrthfeirysol y mae wedi'u datblygu i wledydd tlawd yn rhydd o freindaliadau. Mae'r cwmnïau fferyllol a biotechnoleg hyn wedi buddsoddi biliynau i ddatblygu'r cyffuriau, ac eto maent yn eu rhoi am ddim am eu bod yn deall eu rhwymedigaeth foesol i helpu'r ddynoliaeth yn ei hawr o angen.
Mae'r rhai sy'n galw arnynt i hepgor eu hawliau eiddo deallusol yn naïf. Nid ar gyfer COVID y datblygwyd ac y defnyddiwyd y fiotechnoleg mewn llawer o'r brechlynnau a'r therapiwteg, ond fe'i haddaswyd i ymladd COVID. A phan fydd y pandemig ar ben, caiff ei defnyddio i ddatblygu brechlynnau a chyffuriau eraill sy'n achub bywydau. Pam y byddai cwmni'n rhoi technoleg a ddatblygodd ar gost fawr am ddim i eraill, yn enwedig pan nad oes angen? Mae'r sector fferyllol a biotechnoleg wedi cynyddu'r ymdrechion i ymladd COVID yn aruthrol a chyn bo hir byddant yn cynhyrchu digon o frechlynnau i ddiogelu pob person ar y Ddaear sawl gwaith drosodd.
Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, drwy weithio law yn llaw â chyrff tebyg ledled y byd, wedi mabwysiadu cynllun pum pwynt i sicrhau bod gweithgynhyrchwyr, llywodraethau a sefydliadau anllywodraethol yn cydweithio i roi camau brys ar waith i fynd i'r afael ag annhegwch brechu. Maent wedi canolbwyntio ar gynyddu rhannu dosau'n gyfrifol a gwneud y mwyaf o gynhyrchiant heb beryglu ansawdd na diogelwch. Dyma'r ffordd orau o sicrhau ein bod i gyd yn cael ein diogelu rhag y feirws COVID-19, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Rwyf bob amser yn awyddus i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r rheini ar draws y GIG yng Nghymru a'n gwasanaethau cyhoeddus am ddarparu ein rhaglen frechu fwyaf llwyddiannus yn fyd-eang fel y cyfeirir ati yn y cynnig. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw pawb o gwmpas y byd wedi bod yn ddigon ffodus i gael yr un mynediad at y brechiadau a'r offer arall sydd wedi bod gennym yma yng Nghymru.
Nawr, drwy gydol yr ymateb i COVID-19, mae wedi bod yn glir i bob un ohonom nad yw'r clefyd hwn yn parchu ffiniau a'i fod wedi cael effaith ddinistriol ym mhob cwr o'r byd. Ond gwyddom fod yr effaith hon wedi'i theimlo'n arbennig o ddifrifol mewn gwledydd incwm isel. Yn 2015, torrodd y Senedd hon dir newydd gyda'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol arloesol, a thrwyddi deddfodd y Senedd i'w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, weithio tuag at wireddu Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Ac efallai nad yw hyn erioed wedi bod yn bwysicach nag y bu dros y cyfnod y buom yn ymladd COVID-19.
Mae llawer o wledydd, yn enwedig yn Affrica, yn dal i brofi tonnau mynych o heintiau sy'n ysgubo drwy eu cymunedau, gan gynyddu'r tebygolrwydd drwy'r amser y bydd amrywiolion newydd yn datblygu. Ac os ydym yn mynd i alw ein hunain yn wlad sy'n wirioneddol gyfrifol ar lefel fyd-eang, rhaid inni chwilio am gyfleoedd i roi'r offer i bobl i'w helpu mewn cyfnod anodd. O ystyried nad oes neb yn ddiogel hyd nes y bydd pawb yn ddiogel, fel y mae cynifer o bobl wedi dweud heddiw, mae'n hanfodol fod pawb yn y byd, lle bynnag y maent, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddiogelu eu hunain rhag COVID-19. A dyna pam ein bod yn falch o gefnogi'r cynnig heddiw.
Wrth gwrs, o ystyried bod brechlynnau'n cael eu caffael ar sail y DU gyfan, mater i Lywodraeth y DU yw dosbarthu brechlynnau yn rhyngwladol. Fodd bynnag, ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog brechlynnau Llywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn rheolaidd, ac rwyf wedi dadlau dros gyfrannu ymhellach i COVAX. Yn benodol, rydym wedi pwyso ar Weinidogion Llywodraeth y DU i gyfrannu cyflenwadau o frechlynnau i wledydd Affricanaidd rydym wedi datblygu cysylltiadau cryf â hwy, fel Uganda, Lesotho a Namibia. O'n rhan ni, rydym yn monitro ein gofynion mewn perthynas â'r brechlyn yn ofalus er mwyn sicrhau nad oes dosau gormodol o frechlynnau yn cronni yng Nghymru pan ellid gwneud gwell defnydd ohonynt yn COVAX.
Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn ffyrdd eraill i helpu'r rhai rydym wedi datblygu cysylltiadau rhyngwladol â hwy i ymateb i COVID-19, mewn ymateb i'n dyletswydd i fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Er enghraifft, ym mis Medi eleni, roedd Llywodraeth Cymru yn falch o roi cyflenwad sylweddol o gyfarpar diogelu personol a oedd dros ben i Namibia i'w helpu yn eu brwydr yn erbyn COVID-19. Roedd y pecyn yn cynnwys dros 1.1 miliwn o fasgiau wyneb, 300,000 o brofion llif unffordd, 500,000 o gynau, 100,000 o ffedogau diogelu a gwerth dros £1 filiwn o ddiheintydd dwylo. Roedd hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth go iawn. Fe wnaethom i gyd weithio gyda'n gilydd: Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Prosiect Phoenix ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia er mwyn cael y cyfarpar diogelu personol hwn i leoedd a oedd wedi bod yn galw am gymorth a helpu'r rhai sydd mewn gwir angen.
Er na allwn ni ein hunain anfon brechlynnau o Gymru, mae gwaith pwysig y gallwn ei wneud i gefnogi, a dyna pam dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.5 miliwn yn ychwanegol i sefydliadau Cymreig er mwyn gweithio mewn partneriaeth â llawer o wledydd yn Affrica i frwydro yn erbyn COVID-19.
Ochr yn ochr â'r gwaith yma, fe wnaeth Llywodraeth Cymru addasu cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn 2020 i ddefnyddio cysylltiadau oedd wedi eu sefydlu dros nifer o flynyddoedd i ariannu grantiau ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â COVID-19. O ganlyniad i'r cysylltiadau hyn, llwyddodd sefydliadau Cymru i ymateb yn gyflym i'r pandemig yn Affrica is-Sahara trwy gydol 2020 a 2021, gan weithio gyda'u partneriaid yn Affrica i adnabod lle roedd angen cymorth fwyaf a sut i gael y cymorth hwnnw i'r bobl gywir yn gyflym.
Mewn cyfanswm, rŷn ni wedi buddsoddi bron i £3 miliwn mewn prosiectau i ymateb ac addasu i COVID-19 dramor. Mae'r cymorth hwn yn darparu cyflenwadau ocsigen hanfodol mewn ysbytai, yn hyfforddi nyrsys i ddefnyddio'r ocsigen yna ac yn helpu plant i fynd nôl i'r ysgol. Mae'n darparu dŵr glân, a sebon a PPE hanfodol; mae'n codi ymwybyddiaeth am COVID-19; mae'n cael gwared ar gam-wybodaeth, ac yn pwysleisio pwysigrwydd derbyn y brechlyn; ac mae'n helpu pobl i gael mynediad at gymorth digidol mewn ardaloedd lle nad oedd modd darparu hynny o'r blaen.
I gloi, fe fydd Aelodau’n ymwybodol, ym mis Mawrth 2020, comisiynodd fy rhagflaenydd adolygiad o weithgareddau iechyd rhyngwladol Cymru mewn ymateb i strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru a’r ymrwymiad i Gymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Cynhaliwyd yr adolygiad hwn gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol, a chyhoeddodd yr ymddiriedolaeth ei chanfyddiadau a'i hargymhellion yng nghynhadledd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica yn gynharach ym mis Tachwedd. Gan gofio'r pwysau sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wrth i ni wynebu her pwysau'r gaeaf ar y naill law ac ymateb i COVID ar y llaw arall, dwi wedi gofyn i fy swyddogion ystyried yr argymhellion gyda phartneriaid allanol, a byddaf yn diweddaru'r Senedd wrth i'r gwaith yna fynd yn ei flaen yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Dwi'n gobeithio bod y wybodaeth dwi wedi ei darparu heddiw yn rhoi tystiolaeth bendant i Aelodau o ba mor ddifrifol mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei dyletswydd i gyflawni Cymru sy'n gyfrifol ar lefel byd-eang, a hefyd yn rhoi blas o'r camau rŷn ni wedi'u cymryd, camau sydd wedi helpu'r rhai mwyaf anghenus mewn cyfnod o argyfwng byd-eang, a chamau y gallwn ni yma yng Nghymru fod yn hynod o falch ohonyn nhw. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Heledd Fychan i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Rhaid imi ddweud fy mod yn bersonol yn ei chael hi'n eironig i fod yn agor a chau'r ddadl benodol hon ar ddiwrnod pan wyf fi fy hun wedi cael prawf positif am COVID, a phan wyf yn teimlo'n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael dau ddos o'r brechlyn am ddim, ac felly wedi cael mwy o amddiffyniad i ymladd y feirws. Mae'n fy ngwneud yn ymwybodol iawn y dylid rhoi'r un cyfle i bawb.
Os caf droi at y gwelliannau i ddechrau, ac esbonio efallai pam na fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd. Mewn gwirionedd, fe gyfeiriaf at fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, a'r pwynt a wnaeth ynghylch ateb i gais rhyddid gwybodaeth yn ddiweddar a awgrymai fod dros 600,000 o frechlynnau wedi'u dinistrio ym mis Awst 2021 yn y DU. Gadewch i'r ffaith honno suddo i mewn. Clywsom Gareth Davies yn ei gyfraniad, lle cafwyd cryn dipyn o sarhad, byddwn yn dweud, o ran ein bod yn simplistig, ac yn y blaen, ond rwy'n ei chael yn eithaf rhyfeddol eich bod yn llongyfarch Llywodraeth y DU am bentyrru brechlynnau, sydd wedyn wedi arwain at gyflenwad dros ben, a dinistrio brechlynnau. Rwy'n credu bod angen inni gwestiynu dull Llywodraeth y DU o weithredu yn hynny o beth.
Yn yr un modd gyda Russell George, rwy'n falch eich bod yn croesawu rhannau helaeth o'n cynnig heddiw, ond credaf fod angen inni ystyried cyfraniad y DU yma, a sut y mae'n cyd-fynd â'r ffaith mai Llywodraeth y DU sydd wedi bod yn gwneud y cyfraniad lleiaf: fel y soniais, pentyrru brechlynnau yma yn y DU, a'r syniad ein bod yn rhoi ein hunain yn gyntaf a pheidio â meddwl am gyfrifoldeb byd-eang. Pan edrychwn wedyn ar yr effaith fyd-eang, mae'r uned Economist Intelligence yn amcangyfrif y bydd gwledydd sydd â llai na 60 y cant o'u poblogaeth wedi'u brechu erbyn canol 2022 yn dioddef colledion cynnyrch domestig gros o $3.2 triliwn rhwng 2022 a 2025, a bydd niwed economaidd o'r fath yn bwrw'r gwledydd hyn i ddyled hirdymor, yn cynyddu tlodi ac yn lleihau gwariant ar systemau iechyd, gan waethygu'r pandemig hwn ymhellach a chynyddu anghydraddoldebau.
Roeddwn yn falch iawn o glywed yr holl sylwadau cadarnhaol a chefnogol gan Jenny Rathbone, Jane Dodds, Rhun, John Griffiths a Delyth Jewell, ac yn enwedig gan y Gweinidog, Eluned Morgan. Diolch, ac rwyf am ategu eich diolch i weithwyr y GIG hefyd. Rwy'n falch o gael eich cefnogaeth ac roedd yn wych clywed eich bod wedi bod yn dadlau dros gyfraniadau pellach i COVAX. Pan wyddom fod gwledydd COVAX yn dal i eistedd ar hyd at 210 miliwn o ddosau dros ben, credaf ei bod yn hanfodol fod pob gwlad yn chwarae ei rhan i sicrhau ei fod yn ymateb byd-eang, a'n bod i gyd yn wledydd sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Rhaid imi ddweud, wrth wrando ar y Gweinidog, cefais fy argyhoeddi yn fwy nag erioed pam fod angen i Gymru fod yn wlad annibynnol, a sut y cawn ein dal yn ôl drwy fod yn rhan o'r DU, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno.
I gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi dweud y byddant yn cefnogi heddiw, a byddwn yn gweithio gyda phawb i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan. Pan feddyliwch fod y DU wedi brechu dros 65 y cant o'i phoblogaeth yn llawn, ond mai 1.9 y cant yn unig o bobl mewn gwledydd incwm isel a chanolig sydd wedi cael un dos, gallwn ddeall pam y mae'r pandemig byd-eang hwn yn parhau. Nid oes un mesur ar ei ben ei hun yn mynd i allu ein helpu allan o'r pandemig, ond drwy ddarparu mwy o gyllid a chymorth rhyngwladol, cyflenwadau meddygol a chefnogi ymgyrch Brechlyn y Bobl, gallwn sicrhau mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r pandemig, cefnogi'r economi, diogelu dinasyddion a'u buddiannau tra'n achub bywydau ym mhob rhan o'r byd. Felly, gobeithio y cawn eich cefnogaeth heddiw i'n dadl a'n cynnig, ond nid i'r gwelliant. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.