– Senedd Cymru am 3:33 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Eitem 5 yw'r eitem nesaf. Yr eitem yma yw'r ddadl ar y ddeiseb ar ddeddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth. Dwi'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, i wneud y cynnig. Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Craig Shuttleworth ym mis Mehefin ac fe gafodd 10,000 o lofnodion cyn diwedd mis Gorffennaf. Lywydd, mae hynny'n dweud wrthyf fod llawer o bobl yng Nghymru, ac ar draws y byd, yn hoff iawn o wiwerod coch. Ac er nad yw'n ganolbwynt i'r ddadl heddiw, hoffwn sôn am ddeiseb P-06-1225, 'Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir'. Mae'r ddeiseb hon yn codi materion ehangach ynghylch sut y gallwn ddiogelu cynefinoedd coetir ar gyfer yr holl greaduriaid sy'n byw yno.
Roedd y wiwer goch yn gyffredin ledled y DU ar un adeg, ond maent wedi diflannu o sawl ardal. Fodd bynnag, gallwch eu gweld o hyd mewn tair prif ardal yng Nghymru: ar Ynys Môn, yng Nghoedwig Clocaenog yng ngogledd Cymru, ac yng Nghlywedog yng nghanolbarth Cymru. Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Natur, mewn tua 150 mlynedd mae niferoedd gwiwerod coch wedi gostwng o tua 3.5 miliwn i 140,000 yn y DU. Mae'r prif fygythiad i'r rhywogaeth wedi deillio o gyflwyno'r wiwer lwyd, a ddygwyd drosodd o Ogledd America yn y 1870au. Maent yn wiwerod mwy o faint, sy'n bridio'n gyflymach, ac maent yn cystadlu am ffynonellau bwyd, gan wneud bywyd yn anos i'r wiwer goch. Gallant hefyd gario feirws brech y wiwer, a elwir hefyd yn parapox, nad yw'n gwneud niwed i wiwerod llwyd, ond sy'n angheuol i wiwerod coch. Lywydd, mae cathod a chŵn domestig, ffyrdd, colli a darnio cynefin hefyd yn fygythiad i'r wiwer goch. Yn 2020, rhyddhaodd Cymdeithas y Mamaliaid restr goch swyddogol o famaliaid Prydain, a dynnai sylw at y rhywogaethau sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Mae'r wiwer goch yn cael ei dosbarthu fel rhywogaeth 'mewn perygl' ac mae'n un o'r 19 rhywogaeth yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddiflannu ym Mhrydain. Ar lefel ryngwladol, mae ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o rywogaethau dan fygythiad.
Mae gwiwerod coch yn rhywogaeth â blaenoriaeth o dan fframwaith bioamrywiaeth ôl-2010 y DU. Fe'u diogelir o dan Atodlenni 5 a 6 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, fel y'i diwygiwyd. O dan y Ddeddf, mae'n drosedd lladd, anafu neu gymryd gwiwerod coch, neu ddifrodi, dinistrio neu rwystro mynediad at nyth neu unrhyw strwythur neu le arall y mae gwiwerod coch yn ei ddefnyddio ar gyfer cysgod neu ddiogelwch. Mae hefyd yn drosedd tarfu ar wiwer goch pan fydd yn defnyddio strwythur neu le ar gyfer diogelwch. Nid yw'r amddiffyniad hwn yn berthnasol i fannau lle mae gwiwerod coch ond yn bwyta'n unig. Gellir trwyddedu gweithgareddau a all effeithio ar wiwerod coch am resymau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod heddiw yn galw ar y Llywodraeth i fynd gam ymhellach na'r amddiffyniad sydd eisoes yn bodoli. Mae'n gofyn i'r Senedd hon wneud mwy i ddiogelu gwiwerod coch. Yn benodol, mae'n gofyn am gynnwys colli cynefin wrth ystyried trwyddedau cwympo coed, ac y dylai coedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth, nad oes angen trwydded arnynt, orfod asesu effaith gronnol cwympo coed ar boblogaeth y wiwer goch yn flynyddol. Gwyddom fod y Llywodraeth hon yn rhoi newid hinsawdd a natur wrth wraidd ei phenderfyniadau. Yn gynharach eleni, ym mis Mehefin 2021, fe wnaeth y Senedd hon ddatgan argyfwng natur. Felly, mae'r cwestiwn heddiw yn ymwneud â'r argyfwng natur hwnnw: sut y gallwn ddiogelu'r poblogaethau sydd gennym o wiwerod coch? Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, sut y gallwn wrthdroi'r dirywiad hanesyddol?
Lywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymateb y Gweinidog y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfraniad wiwer goch y Senedd ei hun—ein Darren Millar sionc fel y wiwer. Diolch yn fawr.
Ni fyddwn wedi gallu ei alw'n well. Darren Millar. [Chwerthin.]
Diolch, Lywydd. Ac fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yn y Senedd, rwy'n falch iawn o weld bod y ddadl hon wedi'i chyflwyno gan y Pwyllgor Deisebau. A chyn i mi fynd ymhellach, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant yn y ddadl hon fel aelod anrhydeddus o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru ac yn wir fel aelod o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog hefyd. A hoffwn dalu teyrnged i waith anhygoel y prif ddeisebydd, Dr Craig Shuttleworth, am drefnu'r ddeiseb, a'r gwaith anhygoel y mae'n ei wneud, o ddydd i ddydd, yn arwain ymdrechion cadwraeth gwiwerod coch ledled y wlad. Nid ef yw'r unig un, wrth gwrs—mae'r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Sŵ Mynydd Cymru a byddin gyfan o bobl eraill, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr, yn rhoi eu hamser, eu hymdrech a'u hadnoddau i frwydro dros y 'super furry animals' hyn.
Ers cael fy mhenodi'n hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yn ôl yn 2016, mae wedi bod yn wefr cael dysgu mwy am y rhywogaeth unigryw ac eiconig hon ac ymweld â llawer o'r prosiectau ledled Cymru a dysgu am yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i hybu ffyniant poblogaeth y wiwer goch a'i adfywio. Ers dros 10,000 o flynyddoedd, poblogaeth y wiwer goch oedd y boblogaeth fwyaf o wiwerod yma yng Nghymru. Ac nid yn unig hynny, roedd yn poblogi'r mwyafrif llethol o Ynysoedd Prydain. Ond gwyddom o'r hyn sydd eisoes wedi'i rannu heddiw fod y boblogaeth honno wedi lleihau'n sylweddol, ac mor ddiweddar â'r 1990au dim ond ychydig gannoedd o wiwerod coch oedd wedi'u gwasgaru ledled Cymru mewn pocedi poblogaeth bach, a oedd mewn perygl. Ond dyna'r adeg, cyn troad y mileniwm, y dechreuodd yr ymdrechion cadwraeth arwrol i adfywio'r rhywogaeth. A diolch i'r ymdrechion hyn, rwy'n falch o ddweud bod gan goedwig Clocaenog yn fy etholaeth i boblogaeth fach gynaliadwy, ond cynyddol o wiwerod coch. Yng nghanolbarth Cymru, rhyddhaodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent belaod, ysglyfaethwr wiwerod llwyd, ac mae'r prosiect hwnnw, hyd yma, wedi llwyddo i roi hwb i niferoedd y boblogaeth yno.
Ond yn fy marn i, o'r holl ymdrechion cadwraethol ar gyfer unrhyw anifail yng Nghymru, ar ynys Môn y gwelwyd y fuddugoliaeth fwyaf. Oherwydd, diolch i'w statws fel ynys, cafodd cynllun uchelgeisiol i gael gwared ar wiwerod llwyd ei greu, ac erbyn 2015, cyhoeddwyd bod Ynys Môn yn barth heb wiwerod llwyd. Ond mae'r holl ymdrechion hyn wedi'u tanseilio, a chawsant eu tanseilio oherwydd deddfwriaeth goedwigaeth hen ffasiwn, nad yw'n rhoi unrhyw ystyriaeth i boblogaethau bywyd gwyllt sydd mewn perygl. Sut y gall fod, er ei bod yn anghyfreithlon lladd neu anafu gwiwer goch neu darfu ar wiwer goch yn ei nyth—sut y gall fod nad yw coedwig sy'n eu cynnwys wedi'i gwarchod ac y gellir ei thorri? Ac eto, yn anffodus, dyna'r sefyllfa bresennol, o safbwynt y gyfraith, yma yng Nghymru. Oherwydd er bod angen trwydded gwympo coed i gynaeafu coed neu gwympo coed mewn coetir preifat yng Nghymru, mae'n sgandal na ellir gwrthod trwyddedau o'r fath os ydynt yn arwain at golli cynefin a dirywiad ym mhoblogaeth y wiwer goch. Ac wrth gwrs, nid oes angen trwydded ar goedwigoedd sy'n eiddo i'r Llywodraeth, ond cânt eu rheoli o dan gynlluniau 10 mlynedd. Yn anffodus, nid oes unrhyw rwymedigaeth o gwbl i ddiweddaru neu adnewyddu'r cynlluniau hynny i ystyried poblogaeth gwiwerod ar sail flynyddol a nodi lle maent yn nythu o fewn y coedwigoedd hynny. Ac o ganlyniad i hynny, rydym yn awr yn wynebu her anhygoel o weld coed mewn rhannau o Gymru yn cael eu torri, neu ceir bwriad i'w torri, a allai arwain at wrthdroi'r ymdrechion cadwraethol enfawr a welsom.
A gadewch i mi roi enghraifft i chi o sut y mae'r trefniadau presennol yn methu yn hynny o beth: coedwig Pentraeth ar Ynys Môn. A gwn y bydd Rhun ap Iorwerth yn gyfarwydd â'r her hon. Mae'n gadarnle i'r wiwer goch—un o'r ychydig gadarnleoedd yng Nghymru. Ac eto, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi caniatâd i waith cwympo coed a fydd yn seiliedig ar ddata hen ffasiwn ar boblogaeth gwiwerod yn lleol, sydd dros 10 mlwydd oed, ac yn waeth byth, bydd yn caniatáu i'r gwaith cwympo coed ddigwydd yn ystod tymor bridio'r wiwer goch. Felly, er bod cenhedlaeth newydd o'r rhywogaethau hyn sydd mewn perygl yn setlo yn eu nythod, bydd y coed, sy'n dal y nythod hynny, yn cael eu torri. Ac nid ardal fechan o goetir sy'n cael ei chwalu; mae'n 17 erw—gwerth 6,500 tunnell bren o gynefin o'r radd flaenaf i wiwerod coch sy'n mynd i gael ei ddinistrio. Ac mae'n rhaid inni gofio bod hyn yn digwydd ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yn feirniadol o ddatgoedwigo byd-eang ac yn annog pob cartref yng Nghymru i blannu coeden. Felly, ni allwn ganiatáu i'r sefyllfa hon barhau. Mae'n rhaid inni weithredu yn awr os ydym eisiau gweld niferoedd y rhywogaeth hon yn parhau i wella.
Oes, mae angen inni fynd i'r afael â diffygion Deddf Coedwigaeth 1967. Mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi'i wneud yn yr Alban, felly mae gennym dempled y gallwn ei ddefnyddio a'i gymhwyso yma yng Nghymru. Mae arnom angen amserlen glir ar gyfer cyflawni'r gwaith hwnnw. Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau'r gwaith o gynllunio ar gyfer newid y ddeddfwriaeth honno. Ond mae angen gwneud gwaith hefyd i sicrhau bod y cynlluniau 10 mlynedd hyn yn cael eu diweddaru'n amlach o lawer fel y gallwn ddiogelu poblogaethau bywyd gwyllt—nid y wiwer goch yn unig, ond rhywogaethau bywyd gwyllt pwysig eraill hefyd—mewn coedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth ac sy'n cael eu cynnal gan y wladwriaeth ledled y wlad.
Felly, ar ran yr anifail bach, y 'super furry animal' hwn, rwyf am annog pawb i gefnogi'r ddeiseb sydd wedi galw am wneud y newidiadau hyn heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pellach.
Roedd yr unig wiwer goch a welais erioed ar Ynys Môn, ac felly galwaf ar Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi wnaf innau ddatgan fy mod innau yn aelod anrhydeddus o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, a dwi'n falch iawn o fod yn Aelod sy'n cynrychioli ynys sydd, yn ei chyfanrwydd, yn bencampwyr y creadur arbennig yma. Ryw flwyddyn yn ôl oedd hi pan oeddwn i'n rhedeg efo fy ngwraig lai na milltir o'm cartref i ac mi neidiodd wiwer goch fach o'r clawdd a dechrau sgrialu lawr y ffordd o'n blaenau ni—y fflach fach yma o gynffon goch yn bowndio lawr y ffordd. Ac mi redodd o'n blaenau ni am ryw hanner canllath dda, rhedeg efo ni cyn diflannu mewn i'r gwrych. Ac roedden ni wedi gwirioni, achos er i mi weld nifer o wiwerod dros y blynyddoedd, dyma'r tro cyntaf i fi weld y wiwer ar fy ngharreg drws fy hun. A dwi'n cofio fel hogyn bach yn tyfu i fyny ar yr ynys y balchder mawr oedd yna fod y creadur bach bendigedig yma wedi dewis ymgartrefu ym Môn.
Ond mi oedd o dan fygythiad, dan fygythiad gan y wiwer lwyd, fel rydyn ni wedi ei glywed, ac erbyn canol y 1990au mi oedd o bron â diflannu yn llwyr. A phan ddechreuodd y gwaith wedyn o achub y wiwer, o dyfu ei phoblogaeth eto, mi dyfodd ein balchder ni ymhellach. Mae'n dod â balchder economaidd erbyn hyn hefyd, wrth gwrs. Dwi'n gwybod am gydweithwyr o'r Senedd yma sydd wedi teithio i Ynys Môn yn unswydd er mwyn gweld y wiwer goch. Ond mae'r gwerth pwysicaf, dwi'n siŵr y gallwn ni gytuno, yn y gwerth cadwraethol ei hun, fel y clywon ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a chyfraniad poblogaeth wiwer goch iach at fioamrywiaeth yr ynys a bioamrywiaeth Cymru. A, rŵan, mae dwy ran o dair o wiwerod coch Cymru ym Môn unwaith eto.
Ond nid ar ddamwain ddigwyddodd hynny, mae'n bwysig, bwysig cofio, ac mae yna ddiolch rhyfeddol i'w dalu am waith diflino cadwraethwyr a gwirfoddolwyr lleol. Rydyn ni wedi clywed enw Craig Shuttleworth; mi allwn i enwi Raj Jones, a'r holl waith mae hi wedi'i wneud dros y blynyddoedd, yn sicrhau yr arwyddion yma a wnaeth ymddangos ar draws yr ynys—coedwig wiwer goch—yn datgan fel arwydd llythrennol fod y creadur bach yn ei ôl. A diolch byth, mae'r wiwer goch yn cael ei gwarchod gan ddeddfwriaeth. Mae'n drosedd i ddinistrio ei nythod hi, ond does yna ddim gwarchodaeth i'r coed a'r coedwigoedd maen nhw yn byw ynddyn nhw. Mae'r wiwer yn cael ei gwarchod, ond dydy ei chynefin hi ddim. A dyna mae'r ddeiseb yma yn galw am ei wneud.
A dwi'n croesawu'r ddeiseb a'r hyn mae'r deisebwyr yn galw amdano fo—dros 10,000 ohonyn nhw; 1,700 ohonyn nhw o fy etholaeth i—sef maen nhw am newid y system drwyddedu fyddai'n ein galluogi ni i osod amodau cyn caniatáu torri coed, er enghraifft, amodau i beidio â thorri yn ystod tymor bridio. Ar hyn o bryd, mae torri coed yn gallu digwydd hyd yn oed heb arolwg o faint o nythod wiwerod sydd yna. Rydyn ni'n gweld hynny yn digwydd yn rhy aml yn fy etholaeth i. Pam, ar ôl yr holl waith i adfer y boblogaeth, fydden ni am i'w chynefin hi ddod dan fygythiad? Dwi wedi cael etholwyr yn cysylltu efo fi am gynlluniau gan Cyfoeth Naturiol Cymru i glirio, neu i ganiatáu clirio coedwigaeth, ar sawl safle ar Ynys Môn—Niwbwrch, Pentraeth, fel rydyn ni wedi'i glywed, Mynydd Bodafon, cynefinoedd rydyn ni'n gwybod sydd yn drysorau o ran y wiwer goch. Mae pobl yn poeni am ddyfodol Penrhos yng Nghaergybi, hefyd yn poeni bod dim digon o sylw yn cael ei roi i warchod y cynefin hwnnw.
Mae'r Alban eisoes wedi newid deddfwriaeth. Gwnaeth Deddf Cadwraeth Natur (Yr Alban) 2004 roi cymal mewn yn Neddf Coedwigaeth 1967 sy'n caniatáu yn benodol gwrthod trwydded torri coed neu roi amodau ynghlwm wrthi—
'at ddiben gwarchod neu wella fflora, ffawna neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol, neu harddwch naturiol neu amwynder, unrhyw dir.'
Does yna ddim cymal o'r fath wedi'i ychwanegu at ddeddfwriaeth Cymru, ac mae'n amser i ni i'w weld o. A thu hwnt i ddeddfwriaeth, mae'n rhaid dweud, mae'n wir bryder i fi bod yna ddiffyg deialog gadarn rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff gwarchodaeth. Mae'n rhywbeth dwi wedi'i godi dro ar ôl tro. Mae partneriaeth yn gorfod bod yn rhan o'r ateb i warchod y wiwer.
I gloi, dwi'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog, ei hymateb i'r ddadl yma. Dwi'n dal yn disgwyl am ateb i ohebiaeth i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pwnc yma o fis Gorffennaf a mis Hydref eleni. Mi fuaswn i a'r 10,000 a mwy o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yn falch o glywed os ydy hithau yr un mor frwd â ni dros warchod yr anifail prin a hyfryd, hyfryd yma.
Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddeiseb bwysig hon heddiw, a diolch i Jack Sargeant am agor y ddadl. Mae'r ddeiseb wedi tynnu sylw at gyfle pwysig i ni yma yng Nghymru i weithredu i ddiogelu ein bywyd gwyllt. Rydym yn wynebu argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd, ac mae'n rhaid inni roi ystyriaeth ddifrifol i'r bioamrywiaeth a gollir os na roddir camau ar waith i ddiogelu rhywogaethau natur fel y wiwer goch.
Fel y nododd Jack, un o'r bygythiadau mwyaf i wiwerod coch yw colli a darnio cynefin, a gall Llywodraeth Cymru weithredu yn hyn o beth. Yn yr Alban, gellir gwrthod trwyddedau cwympo coed neu eu rhoi i wella neu warchod bywyd gwyllt, diolch i newid yn y gyfraith, gan ddangos ymrwymiad i ddiogelu rhywogaethau. Yn anffodus, nid oes unrhyw amddiffyniadau o'r fath yn bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae trigolion Ynys Môn hefyd wedi cysylltu â mi i leisio pryder ynglŷn â'r datblygiad arfaethedig ym Mhenrhos. Mae'r warchodfa natur yn gynefin pwysig i wiwerod coch, yn ogystal â gwerddon i drigolion lleol ei mwynhau. Bydd y datblygiad yn golygu bod 27 erw o goed yn cael eu torri, a bydd hynny'n cael effaith ddifrifol ar gynefin y gwiwerod, gan gael gwared ar lawer o'u nythod a'u rhedfeydd. Credaf yn gryf y dylid ystyried yr effaith y bydd prosiect yn ei chael ar fywyd gwyllt lleol wrth ei gymeradwyo, boed hynny'n gwympo coed fel rhan o reoli coetiroedd neu ailddatblygiad fel yr un ym Mhenrhos. Felly, rwy'n croesawu'r ddeiseb hon a gyflwynwyd gan Craig Shuttleworth, ac yn gobeithio y bydd rheoliadau yn cael eu rhoi ar waith yn y dyfodol fel y caiff bioamrywiaeth a diogelu rhywogaethau eu trin fel blaenoriaeth ledled Cymru.
Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cyflwyno'r ddeiseb hon, ac rwyf eisiau cofnodi fy niolch, mewn gwirionedd, i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, sydd wedi bod yn hyrwyddwr rhagorol i'r gwiwerod coch. Mae'n bwysig ein bod ni, fel hyrwyddwyr—gwn fod Mark Isherwood wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar am y gwaith y mae'n ei wneud ar y gylfinir—mae'n bwysig ein bod o ddifrif ynglŷn â'n rôl ac fel bod pawb yn gwybod, fi yw hyrwyddwr y llamhidydd yng Nghymru.
Yn ôl adroddiad 'Cyflwr Mamaliaid yng Nghymru', er y bu gostyngiad amlwg yn nosbarthiad gwiwerod coch ers adolygiad 1995, mae'n ymddangos bod y boblogaeth yng Nghymru yn sefydlog ar hyn o bryd, a gall fod yn ehangu'n lleol hyd yn oed. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn wir y gallai'r rhagolygon fod yn wael. Mae'r boblogaeth o 9,200 yn gostwng. Mae pedair ardal benodol yng Nghymru lle gellir dod o hyd i'r cymeriadau annwyl hyn: Ynys Môn, rhwng Powys a Cheredigion, a choedwig Clocaenog. Mae etholwyr yn nyffryn Conwy yn fy etholaeth yn cofio gweld gwiwerod coch yno rai degawdau'n ôl; heddiw, byddai'n rhaid iddynt deithio dros 20 milltir am gyfle i weld un arall yn y gwyllt. Felly, oni fyddai'n wych pe gallai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu i gysylltu'r poblogaethau rhwng Clocaenog ac Ynys Môn?
Byddwn yn falch o glywed a yw'r adolygiadau cyfnodol o brif safleoedd wedi'u cynnal ers yr ymrwymiad yn y 'Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru' 2018, ond mae'n dal i fod yn wir fod yna oddeutu 300,000 o wiwerod llwyd—dros 30 gwaith yn fwy na'r cochion. Ac fel rhywun sy'n mwynhau bwydo adar, rhaid imi gyfaddef fod gennyf dair gwiwer ddrwg sy'n dod ac yn gwneud yn eithaf da o'r byrddau adar yn fy nghartref. Gydag amcangyfrif fod cost dileu gwiwerod llwyd yng Nghymru yn gymaint â £76 miliwn, gallai'r dasg ymddangos yn anghyraeddadwy. Fodd bynnag, mae 'Cynllun Gweithredu Cymru i Reoli'r Wiwer Lwyd' yn cyfeirio at opsiynau rheoli angheuol heb greulondeb. Byddwn yn falch pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny.
Mae'r ddeiseb hefyd yn iawn i ganolbwyntio ein sylw ar reoli coedwigoedd. Yn wir, mae'r 'Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru' yn nodi bod
'angen i gamau cadwraeth i ddiogelu gwiwerod coch ar safleoedd tir mawr ganolbwyntio ar sicrhau bod cynefin addas ar gael'.
Yn 2018, nodwyd bod system cynllunio coedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfyngiad. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i rwystro cynnydd. Mae'n rhaid i'r sefydliad hwn egluro pam nad yw wedi gwario ar fonitro gwiwerod coch mewn 10 mlynedd. Gallai'r Senedd hon gynnal adolygiad o'r gofynion ar gyfer trwydded gwympo coed, er mwyn sicrhau bod ystyriaeth deg yn cael ei rhoi i bioamrywiaeth a cholli cynefin. Weinidog, gallech fynd ati'n syth i gywiro'r ffaith na chynhelir asesiadau blynyddol o effaith gronnol cwympo coed ar gyfer coedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Diolch.
O ffrind y Gruffalo i Squirrel Nutkin Beatrix Potter, mae'r wiwer goch, unig rywogaeth wiwer frodorol y DU, wedi bod yn rhan annwyl iawn o gefn gwlad y DU ers miloedd o flynyddoedd. Yn anffodus, mae eu niferoedd wedi lleihau dros y degawdau diwethaf am sawl rheswm, a'r prif reswm oedd cyflwyno'r wiwer lwyd anfrodorol. Yn anffodus, mae llawer mwy o wiwerod llwyd nag o wiwerod coch yn y Rhondda ac ardal ehangach de Cymru. Mewn gwirionedd, rwy'n cael problemau gyda gwiwerod llwyd yn fy ngardd, sydd fel pe baent yn meddwl ei bod yn ddoniol dwyn nid yn unig bwyd yr adar, ond y cyfarpar bwydo ei hun hefyd. Ond o ddifrif, gwn pa mor bwysig yw hi ein bod nid yn unig yn cynnal niferoedd y gwiwerod coch yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ond ein bod yn sicrhau ein bod yn gweld y niferoedd yn dechrau codi eto. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu gyda chynllun cadwraeth y gwiwerod coch a'r cynllun gweithredu i reoli'r wiwer lwyd, ond gallai'r rhain fod yn ofer os na wneir newidiadau i feini prawf y drwydded gwympo coed, fel y nodwyd yn briodol gan y deisebydd.
I mi, mae'r ddadl heddiw'n tynnu sylw at ddau fater pwysig iawn, a'r cyntaf yw canlyniadau anfwriadol cwympo coed. Cawsom lifogydd dinistriol yn Rhondda y llynedd, yn dilyn y cwympo coed uwchben Pentre. Bu'n rhaid torri'r coed oherwydd eu bod wedi'u heintio, ond dioddefodd cannoedd o gartrefi a busnesau lifogydd o ganlyniad. Yn debyg iawn i'r hyn a ddywedir yn y ddeiseb,
'Er bod angen trwydded torri coed er mwyn cwympo coetir, ni ellir gwrthod y trwyddedau hyn hyd yn oed os ydyn nhw’n arwain at golli cynefin a dirywiad ym mhoblogaeth y wiwerod coch.'
Mae'n rhaid inni sicrhau, yn y dyfodol, nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn digwydd o ganlyniad i gwympo coed, ac mae'n rhaid i hyn olygu ystyriaeth o golli cynefin a bioamrywiaeth gan arwain at ddirywiad yn y boblogaeth.
Yr ail fater yw colli rhywogaethau sydd mewn perygl ac sydd dan fygythiad. Gwn fod llawer o bobl yn dadlau y dylem adael i natur ddilyn ei chwrs, ond gyda phob parch, rwy'n anghytuno, yn enwedig mewn perthynas â rhywogaethau sydd â delwedd gyhoeddus wych fel y wiwer goch. Bydd tynnu sylw at eu brwydr yn arwain at ddiddordeb ehangach a dealltwriaeth o sut y mae bioamrywiaeth a cholli poblogaeth yn effeithio ar bob un ohonom. Os gallwn gamu i'r adwy i ddiogelu'r rhywogaethau hyn, dylem wneud hynny. Diolch i'r deisebydd am godi'r mater eithriadol o bwysig hwn.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf finnau'n ddiolchgar iawn i'r deisebydd a hefyd i Jack Sargeant, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, am gyflwyno'r mater pwysig hwn, sydd, fel y dywedodd ef a llawer o rai eraill, nid yn unig yn diogelu gwiwerod coch, ond sydd hefyd yn diogelu mathau eraill o fywyd gwyllt yn ystod gwaith cwympo coed. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn rhoi camau ar waith i gynnal a gwella rhywogaethau pwysig iawn, ac nid yw hwn ond yn un o nifer o gamau gweithredu a nodwyd yn 'Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru 2020-21' i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru.
Rwy'n ymwybodol iawn o gyfyngiadau'r Ddeddf Goedwigaeth a natur yr amodau y gall Cyfoeth Naturiol Cymru eu cymhwyso o dan drwydded gwympo coed. Gall y cyfyngiadau hyn, fel y nodwyd gan lawer o'r Aelodau, arwain at ddatgysylltiad rhwng y Ddeddf Goedwigaeth a deddfwriaeth amgylcheddol arall, gan arwain at fylchau o ran diogelu bywyd gwyllt. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd camau i fynd i'r afael â hyn drwy lythyrau cynghori neu gynlluniau rheoli coedwigaeth hirdymor ar gyfer perchnogion tir, yn sicr nid yw'r rhain yn mynd i'r afael â'r mater yn llawn, fel y nododd nifer o'r Aelodau.
Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gynnwys darpariaethau yn y Bil amaethyddiaeth sy'n diwygio'r Ddeddf Goedwigaeth er mwyn caniatáu ar gyfer ychwanegu amodau at drwyddedau cwympo coed. Byddwn hefyd yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio, atal neu ddirymu trwyddedau cwympo coed ar ôl iddynt gael eu rhoi. Bydd y diwygiadau hyn yn helpu i ddarparu gwell amddiffyniad i fywyd gwyllt, er enghraifft, mewn perthynas â'r eithriad o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac yn darparu gwell cydgysylltiad rhwng rheoliadau coedwigaeth a rheoliadau amgylcheddol eraill. Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol i ddiwygio'r Ddeddf Goedwigaeth yn cael ei chyflwyno'n fuan iawn.
Mae 'Safon Coedwigaeth y DU' yn nodi y dylid
'rheoli coetiroedd mewn ffordd sy'n gwarchod neu'n gwella bioamrywiaeth' ac y dylid adlewyrchu hynny mewn cynlluniau rheoli coedwigoedd. Mae gan bob rhan o ystâd goetir Llywodraeth Cymru gynllun adnoddau coedwig 10 mlynedd, sy'n ofynnol ar gyfer ardystio coedwigoedd, ac mae cynlluniau'n cynnwys manylion unrhyw rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd y gallai gweithrediadau rheoli effeithio arnynt, a chynhelir arolygon safle gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddatblygu'r cynlluniau, ac mae mesurau i liniaru effeithiau wedi'u cynnwys, er enghraifft, drwy gadw ardaloedd o gynefin. Rhoddir ystyriaeth hefyd i anghenion cynefin rhywogaethau ar lefel y dirwedd. Mae'r broses honno'n cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid allanol, megis y grwpiau gwiwerod coch. Mae cynlluniau hefyd yn cael eu rhoi ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru i alluogi sylwadau pellach—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am amlinellu sut y caiff y cynlluniau eu llunio, ac rydych wedi dweud bod ymgynghori ac ymgysylltu'n digwydd â rhanddeiliaid ar ddatblygu'r cynlluniau hynny, ond oherwydd mai bob 10 mlynedd y mae hynny'n digwydd, ni roddir ystyriaeth i'r newid yn y boblogaeth a'r effaith ar fannau eraill. Sylwais hefyd eich bod wedi dweud eich bod yn mynd i gyflwyno newid deddfwriaethol, ac mae'n amlwg fy mod yn croesawu hynny'n fawr, ond ni wnaethoch bennu amserlen, fe ddywedoch chi 'yn fuan', dim mwy na hynny. Pa mor fuan yw 'yn fuan'?
Rwy'n dod at y pwynt ynglŷn â 10 mlynedd. Nid wyf yn mynd i ddweud mwy nag 'yn fuan', oherwydd rydym yn trafod amser ar ei gyfer yn y Cyfarfod Llawn, ond yn fuan iawn—rydym yn ymwybodol o'r brys.
Felly, fel roeddwn yn dweud, er nad oes ei angen yn gyfreithiol, mae CNC yn gofyn am gymeradwyaeth gan eu tîm trwyddedu cwympo coed i sicrhau bod eu cynlluniau'n cydymffurfio â safon coedwigaeth y DU. Cynhelir arolygon pellach o safleoedd cyn i weithrediadau cwympo coed ddechrau ac os oes angen, gellir rhoi mesurau lliniaru pellach i'r contractwr.
Ar y pwynt hwn, roeddwn am ddweud ein bod wedi cael nifer o sgyrsiau gydag CNC ers i ni ddod i rym ym mis Mai, fy nghyd-Aelod, Lee Waters, a minnau. Nid wyf yn ymwybodol, Rhun, o lythyrau sydd i ddod i chi, felly os hoffech dynnu fy sylw'n ôl atynt, byddwn yn ddiolchgar, oherwydd hyd y gwn i, nid oes gennyf ôl-groniad. Mae rhywbeth wedi mynd o'i le yno, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallwch dynnu fy sylw atynt.
Un o'r ystyriaethau rydym yn eu trafod yw pa mor agos at y gwaith cwympo ei hun y dylid cael ail adolygiad o'r safle ar gyfer amodau cynefin gwahanol o'r arolwg gwreiddiol, a pha ffactorau y mae'n rhaid iddynt eu hystyried er mwyn rhoi hynny ar waith. Ni fyddech am wneud hynny ar gyfer pob un, ond bydd ffactorau i'w hystyried. Felly, dim ond dweud ein bod yn cael sgyrsiau ar faterion o'r fath.
Un o'r pethau a ddysgwyd gennym o COP26 oedd sgwrs â'r hyn a elwir yn wladwriaethau is-genedlaethol eraill y Cenhedloedd Unedig megis Quebec ar newidiadau i arferion coedwigaeth lle nad yw cwympo clir yn digwydd mwyach a lle cedwir gorchudd canopi bob amser, hyd yn oed mewn coedwigoedd pren cynaliadwy cynhyrchiol. Rydym yn awyddus iawn i CNC symud at y dull cynhyrchu hwnnw mor gyflym ag y gallwn. Nid oes modd gwneud hynny dros nos. Ni allaf wneud i hynny ddigwydd bore yfory. Ac mae llawer o amodau eraill sy'n berthnasol i goetiroedd Cymru, gan gynnwys yr angen i roi camau ar waith i atal lledaeniad clefydau. Mae'n dal i fod gennym goedwigoedd pinwydd ungnwd ac yn y blaen. Felly, ni fydd yn digwydd dros nos, ond rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i wneud hynny. Yn wir, rydym yn ymrwymedig iawn i'r ymdrech fyd-eang i gael gorchudd canopi parhaus ar gyfer diogelu cynefinoedd, gan gynnal diwydiant pren cynhyrchiol ar yr un pryd. Felly, rydym yn sicr yn awyddus i wneud hynny.
Rydym hefyd yn ystyried effaith gronnol cwympo coed ar gynefinoedd fel rhan o drefn y drwydded gwympo coed. Rydym yn gwneud mwy nag ystyried beth sy'n digwydd pe baem yn cwympo'r clwstwr hwn o goed heb ystyried beth fydd yn digwydd i roi pwysau ar y clwstwr o goed draw acw, a allai fod yno o hyd ond a fydd yn dod yn gyrchle i fywyd gwyllt wedi'i ddadleoli. Yn ystod lansiad cynllun cadwraeth y gylfinir, roeddwn yn awyddus iawn i ymgysylltu â phobl sy'n awyddus i warchod glaswelltir ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i ymylon glaswelltiroedd gyda choedwigoedd ynddynt os bydd cwympo'n digwydd mewn mannau eraill yn y cynefin a'r mathau o ysglyfaethwyr sy'n cael eu symud ar eu traws ac yna'n ysglyfaethu ar y glaswelltir.
Mae pawb ohonom yn gwybod hyn, Ddirprwy Lywydd, ond mae'r ecosystem rydym yn siarad amdani'n gymhleth iawn. Mae'n fwy na'r darn hwn o dir, mae'r cyfan yn rhyngweithio. Felly, rydym yn awyddus iawn i CNC ystyried yr effeithiau cronnol hynny ac ystyried anghenion rhywogaethau mewn perthynas â cheisiadau presennol a newydd am drwyddedau cwympo coed, yn ogystal â'u cynlluniau adnoddau coedwigoedd mewnol eu hunain. Er mwyn cynorthwyo gyda'r broses honno, mae gennym bellach gytundeb rhannu data ffurfiol gyda chanolfannau cofnodion lleol ledled Cymru i ddiweddaru eu cronfa ddata system gwybodaeth ddaearyddol eu hunain gyda data arolwg newydd. Rydym hefyd wedi cyhoeddi contract i fonitro ac asesu poblogaethau o wiwerod coch ar Ynys Môn, a fydd yn cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2022. Mae gwiwerod coch eisoes yn cael eu monitro yn y ddau safle canolog arall y mae'r Aelodau wedi sôn amdanynt, yng Nghlocaenog ac yng nghanolbarth Cymru.
Os ydym am elwa'n llawn o'r cyfraniad y gall ein coetiroedd ei wneud i natur ac argyfyngau hinsawdd, mae angen inni blannu a rheoli mwy o goed. Bydd angen inni sicrhau'r cydbwysedd cywir wrth wneud hyn er mwyn gallu rheoli a phlannu coetiroedd yn effeithiol i ddiwallu ein hangen i wella cynefinoedd a bioamrywiaeth, yn ogystal â darparu pren ar gyfer tai carbon isel, er enghraifft.
Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, rydym yn llwyr gydnabod yr angen am ganllawiau clir ar sut a phryd y defnyddir y pwerau newydd sy'n deillio o welliannau i'r Ddeddf Coedwigaeth. Bydd CNC yn cyhoeddi canllawiau drafft cyn y ddeddfwriaeth yn fuan iawn. Diolch.
Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Craig Shuttleworth a holl lofnodwyr y ddeiseb hon am roi'r pwnc hwn ar yr agenda heddiw. Credaf ei bod yn glir o'r cyfraniadau a wnaed gan yr holl Aelodau, ac o ymateb y Gweinidog, fod consensws trawsbleidiol clir, nid yn unig ar y rheswm pam y mae angen inni weithredu i ddiogelu gwiwerod coch, ond hefyd ar y camau sydd angen eu rhoi ar waith. Clywsom gan Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys fy nghyd-Aelod, Carolyn Thomas, fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, a hefyd fy nghyd-Aelod a fy 'super furry animal' o Orllewin Clwyd, am ddeddfwriaeth a newidiadau i ddeddfwriaeth. Rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog i'r pwyntiau hynny a'r ymdeimlad o frys a'r gydnabyddiaeth fod yna frys, ac mai nawr yw'r amser i weithredu. Felly, byddwn yn cadw llygad barcud ar y gwelliannau i ddeddfwriaeth a'r hyn a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru. Ond fel y mae llawer o bobl wedi dweud hefyd, rydym eisiau diolch i'r holl wirfoddolwyr sydd allan yno ledled Cymru yn gweithio i ddiogelu'r rhywogaethau eisoes—Partneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru i enwi dim ond un neu ddau. Ond diolch i bawb arall allan yno hefyd.
Ddirprwy Lywydd, wrth i Gymru ddechrau ar gynllun i blannu mwy o goed a chreu coedwig genedlaethol i Gymru, rwy'n credu bod rhesymau dros fod yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Cyn bo hir, bydd y Senedd yn cau ei drysau i gael ei gaeafgwsg byr, felly rwy'n gobeithio heddiw fod y ddadl hon wedi cynnig cyflenwad digonol o syniadau ac wedi arddangos angerdd Aelodau ar draws Siambr y Senedd, o bob lliw gwleidyddol, fel y gallwn ddychwelyd yn y flwyddyn newydd yn ymrwymedig i wneud Cymru'n wlad lle gall y wiwer goch oroesi a chryfhau ei niferoedd fel na fyddwn bellach yn ystyried y wiwer goch yn rhywogaeth sydd mewn perygl yng Nghymru. Ac unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, wrth gloi'r ddadl hon, am ei hymdeimlad o frys ac am gydnabod y gwaith sydd angen ei wneud. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.