– Senedd Cymru am 6:09 pm ar 18 Ionawr 2022.
Felly, os nad oes neb yn gwrthwynebu'r grwpio hynny, fe fyddaf nawr yn galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gynnig y ddau gynnig—9 a 10. Jane Hutt.
Cynnig NDM7882 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef 'Adroddiad cyfamod yr Heddlu', 'Cynyddu’r gosb am ymosod ar weithiwr brys', Rhan 2, Pennod 1 'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol' (gan gynnwys 'Swyddogaethau sy'n ymwneud â thrais difrifol', 'Arfer swyddogaethau', 'Diwygiadau i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 etc', a 'Cyffredinol'), Rhan 2, Pennod 2 'Adolygiadau o laddiadau ag arfau tramgwyddus', 'Echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig: ymchwiliadau i droseddau etc, 'Cymhwyso adran 36 i blant ac oedolion heb alluedd', 'Gofynion ar gyfer darparu’n wirfoddol a chytuno', 'Cod ymarfer ynghylch echdynnu gwybodaeth', 'Rheoliadau ynghylch echdynnu gwybodaeth gyfrinachol', 'Personau awdurdodedig', 'Cynnydd yn y gosb am droseddau sy'n ymwneud â helwriaeth etc’, ac 'achosi niwsans cyhoeddus yn fwriadol neu'n ddi-hid', i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Cynnig NDM7883 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, sef 'Difrod troseddol i gofebau: dull treial', 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar brotestiadau un person', 'Trosedd yn ymwneud â byw ar dir heb ganiatâd mewn cerbyd neu gyda cherbyd', ‘Diwygiadau i bwerau sy’n bodoli', a 'Canllawiau ar arfer pwerau'r heddlu mewn perthynas â thresmasu ar dir etc', i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno dau gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd y DU i chi eu hystyried. Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn ddarn cymhleth a dadleuol o ddeddfwriaeth. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gyfuno'r hyn oedd yn dri Bil ar wahân wedi arwain at ddogfen sy'n cynnwys dros 179 o gymalau, 20 Atodlen a chyfanswm o 304 o dudalennau, ac roedd angen dadansoddi pob un ohonyn nhw yn fanwl. Rwyf wedi edrych ar y Bil yn ei gyfanrwydd ac mae rhai darpariaethau sy'n dod o fewn cymhwysedd y Senedd, sy'n gwneud newidiadau a fydd o fantais i Gymru. Fodd bynnag, mae darpariaethau hefyd yn y Bil o fewn cymhwysedd na ddylem eu derbyn, y mae rhai ohonynt yn achosion eithriadol o wastrodi hawliau pobl.
Rwyf wedi cyflwyno pedwar memorandwm ar wahân yn ystod y chweched Senedd mewn perthynas â'r Bil, ac roedd y rhain yn ymwneud â gwelliannau Llywodraeth y DU a gyflwynwyd yn ystod gwahanol gamau diwygio yn Senedd y DU. Y cymalau y cyfeiriaf atyn nhw heddiw yw rhifau'r cymalau fel y maen nhw'n ymddangos yn y Bil, a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2021. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith craffu ar y memoranda, a sylwaf fod y pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad arall ddoe. Daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'r casgliad y dylwn i ofyn am gydsyniad y Senedd i gymalau 1 a 2, cymalau 7 i 22, cymalau 23 i 35, cymalau 36 i 38 a 40 i 42, a chymal 46, yn ogystal â'r gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 4 Ionawr i gynyddu cosbau am ymlid ysgyfarnogod o fewn y Bil lle bernir bod y darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Nid oedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn cytuno â barn Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymalau 56 a 57 a chymalau 61 i 65. Fodd bynnag, am y rhesymau a nodir yng nghynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol Rhif 4, credaf fod angen cydsyniad y Senedd ar y cymalau hyn. Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ym mharagraff 9 yn cyfeirio at gymalau 54 i 55 a 59 i 63, ac mae hyn yn seiliedig ar fersiwn a gyhoeddwyd yn gynharach o'r Bil ac maen nhw yn anghywir. Rhifau'r cymalau cywir yw'r rhai yr wyf wedi cyfeirio atyn nhw ac a gyfeirir atyn nhw hefyd ym mharagraffau 34, 35, 39 a 41 o'r adroddiad.
Felly, Llywydd, trof at gynnig Rhif 1, sy'n ymwneud â chymalau yr wyf yn eu hargymell y mae'r Senedd yn cydsynio iddynt. Mae cymal 1 yn rhoi dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gyfamod yr heddlu a chyflwyno hyn i Senedd San Steffan. Mae cymal 2 yn cynyddu'r gosb o 12 mis i ddwy flynedd am ymosodiadau ar weithwyr brys, sy'n wrthun. Mae cymalau 7 i 22 ar y ddyletswydd trais difrifol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau gydweithio i atal a lleihau trais difrifol, sydd bellach yn cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol a ychwanegwyd o ganlyniad i welliant i'r Bil, a gefnogwyd gennyf yn llwyr. Ac rwyf yn cefnogi'r holl ddarpariaethau sy'n ymwneud â'r ddyletswydd trais difrifol, gan y byddant yn hwyluso ymateb lleol i helpu i atal a lleihau'r troseddau mwyaf difrifol a chyfrannu at ein darpariaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
A hoffwn ddweud fy mod i'n falch bod Llywodraeth y DU wedi ystyried pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch cymal 17. Yn dilyn trafodaethau rhyng-lywodraethol llwyddiannus, cyflwynwyd gwelliant y cytunwyd arno ynghylch ddrafftio cymal 17, gan ei gwneud hi'n ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn rhoi cyfarwyddyd i awdurdod datganoledig yng Nghymru. Yn flaenorol, dim ond cyn defnyddio pŵer i wneud cyfarwyddyd y bu'n ofynnol ymgynghori â Gweinidogion Cymru. Felly, roedd cael eu caniatâd yn welliant i'w groesawu.
Os symudaf ymlaen i gymalau 23 i 35, bydd adolygiadau o ddynladdiad drwy arfau tramgwyddus yn dwyn partneriaid diogelu ynghyd i gynnal adolygiadau ffurfiol ac yna gwersi i atal marwolaethau yn y dyfodol sy'n ymwneud ag arfau tramgwyddus, ac rwy'n falch y bydd Cymru'n gweithredu fel ardal arbrofol. Mae cymalau 36, 37, 38, 41, 42 a 43 yn gysylltiedig â thynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig, sy'n cyd-fynd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae gwelliant newydd i gynyddu cosbau am droseddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid hela, ac ati, er mwyn diogelu ysgyfarnogod drwy atal potsio, a wnaed ar 4 Ionawr 2022, nad oes ganddo gymal penodedig, hefyd yn gymal yr wyf yn awgrymu ein bod yn cydsynio iddo.
Ac yn olaf, mae cymal 61 yn ymwneud â niwsans cyhoeddus ac yn amddiffyn unigolion rhag niwsans cyhoeddus pan fo niwsans yn creu risg o, neu'n achosi niwed difrifol i berson, gan gynnwys marwolaeth neu anaf personol. Felly, rwy'n cyflwyno cynnig Rhif 1 i'r Siambr ac yn gofyn i'r Aelodau gydsynio i'r cymalau hyn.
Cyn imi droi at yr ail gynnig, hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod darpariaethau yn y Bil yr ydym yn eu cefnogi, ond sydd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Er enghraifft, y newidiadau yn y gyfraith i gyflwyno'r drosedd voyeuriaeth bwydo ar y fron. Mae troseddau voyeuriaeth a throseddau eraill yn aflonyddu, yn tanseilio urddas, hawliau a rhyddid person, ac mae'n iawn bod y gyfraith yn gwahardd ymddygiad o'r fath.
A, Llywydd, neithiwr, cytunwyd ar welliant yn Nhŷ'r Arglwyddi i ychwanegu cymal newydd at y Bil yn ymwneud â chasineb at fenywod fel trosedd casineb. Roedd hyn yn hwyr neithiwr, a byddaf yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach mewn perthynas â'r gwelliant hwn maes o law. Ond mae'r Bil hefyd yn gwneud newidiadau i orchmynion adsefydlu ieuenctid, sydd â'r potensial i sicrhau bod y broses gyfiawnder yn gweddu orau i anghenion unigol y plentyn, gan eu hatal rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol a rhoi canlyniadau cadarnhaol, sy'n ddull sy'n cyd-fynd â'n glasbrint cyfiawnder ieuenctid.
Felly, trof yn awr at gynnig Rhif 2, sy'n ymwneud â chymalau yr wyf yn argymell nad yw'r Senedd yn cydsynio iddynt ac yn argymell bod Aelodau'r Senedd yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, sef Rhif 2.
Cymal 47: er bod dedfrydu mewn llysoedd yn fater a gadwyd yn ôl, mae henebion, cofebau a diwylliant wedi'u datganoli. Bydd y newidiadau y mae'r Bil yn eu cyflwyno yn ei gwneud hi'n bosib i berson gael ei roi ar brawf yn Llys y Goron a chael ei garcharu am hyd at 10 mlynedd ac, mewn rhai achosion, am oes, dim ond am achosi difrod troseddol i gofeb gyda gwerth o lai na £5,000. Yn fy marn i, mae'r dull hwn yn annheg ac yn anghymesur.
Mae cymalau 56, 57 a 62 yn caniatáu i'r heddlu, mewn rhai amgylchiadau, osod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus, cynulliadau cyhoeddus a phrotestiadau un person. O'u hystyried yn ei gyfanrwydd, mae'r cyfyngiadau didostur y mae'r Bil yn eu gosod ar yr hawl i brotestio yn atgas, a gadewch imi fod yn glir: mae'r ffordd y mae'r Bil yn ystyried protestio yn gyfystyr â rheolaeth y wladwriaeth ac yn diddymu'r hawl sylfaenol i brotestio. Rydym yn parhau i ddweud wrth Lywodraeth y DU na ellir ac na ddylid goddef y mesurau y maen nhw yn eu cynnig mewn perthynas â phrotest. A chefais fy nghalonogi o weld yr wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi ddoe ac yn croesawu trechu'r cymalau sy'n rhoi pwerau newydd i gyfyngu ar brotest a'r rhai sydd wedi'u hanelu at grwpiau, fel, er enghraifft, Insulate Britain. Galwaf ar Lywodraeth y DU i gymryd y pryderon hyn o ddifrif a meddwl eto.
Symudwn ymlaen i gymalau 63 i 65. Nid yw dull Llywodraeth Cymru o reoli gwersylloedd diawdurdod wedi newid. Rydym yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau a buddsoddi ar gyfer darparu safleoedd awdurdodedig yn ddigonol ar gyfer ein cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, gan alluogi awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion llety cymunedau Sipsiwn a Theithwyr - yn rhai preswyl ac yn rhai teithiol. Mae'r maes gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu eto yn y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, sy'n cynnwys nod penodol ar fynd i'r afael yn well ag anghenion llety'r cymunedau hyn. Mae'r cymalau arfaethedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn canolbwyntio ar orfodi a throi pobl yn droseddwyr, sy'n tanseilio ac yn peryglu ffordd lled-nomadaidd o fyw Sipsiwn a Theithwyr. Rwyf wedi codi'r pryderon mawr hyn gyda Llywodraeth y DU ac wedi gofyn iddynt ailystyried y dull gweithredu yn y Bil i wersylloedd diawdurdod, gan fy mod yn disgrifio hyn fel dull dros ben llestri a fydd yn effeithio'n anghymesur ar aelodau o'n cymunedau Sipsiwn a Theithwyr.
Felly, i gloi, Llywydd, rwyf felly'n cyflwyno cynnig Rhif 2 i'r Siambr, gan ofyn i'r Aelodau beidio â chydsynio i'r cymalau hyn.
Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gyfrannu. Huw Irranca-Davies.
Diolch eto, Llywydd. Rydym wedi cyhoeddi tri adroddiad ar y pedwar memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Hoffwn agor fy sylwadau drwy wneud rhai sylwadau cyffredinol iawn am ein profiadau o adrodd ar y memoranda hyn mewn perthynas â chylch gwaith ein pwyllgor. Bu'r Gweinidog yn myfyrio yn ei sylwadau agoriadol ar gymhlethdod y broses o gyflwyno Bil y DU hwn. Cytunwn â hynny. Nodwn hefyd o sylwadau'r Gweinidog y gellid gwneud mwy o welliannau mewn rhai meysydd, gan ychwanegu ymhellach at gymhlethdod craffu yn y Senedd hon. Ac eto, mae'r Bil hwn hefyd yn cyffwrdd â ffiniau datganoli, sy'n ychwanegu cymhlethdod pellach at y broses gydsynio. Felly, roeddem yn disgwyl i femorandwm cyntaf Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r cymhlethdod hwn yng nghyd-destun y caniatâd a geisir ac, yn unol â hynny, esbonio'n glir pam a'r amgylchiadau y gofynnwyd am gydsyniad ar eu cyfer. Ond, yn anffodus, nid oedd y memorandwm yn cynnwys yr wybodaeth honno; nid oedd yn rhoi digon o eglurder. Felly, roeddem wedi gofyn am yr wybodaeth yr oedd ei hangen arnom i ymgymryd â'n gwaith craffu drwy ohebiaeth.
Tynnodd ein hadroddiad cyntaf ym mis Hydref 2021 sylw at y materion hyn, a thynnodd ein hail adroddiad sylw at rai materion pellach gyda chywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir ym memorandwm Rhif 2, ac roedd anawsterau amlwg hefyd o ran manylder gyda memorandwm Rhif 3, yr ymdriniwyd â nhw ym memorandwm Rhif 4. Felly, am y rheswm hwnnw, yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 4, a gyflwynwyd neithiwr, daethom i gasgliad a ystyrir, gobeithio, yn nodyn atgoffa parchus a thyner i'r Llywodraeth. Rydym wedi dweud o'r blaen fod darparu gwybodaeth amserol a chywir o fewn memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn gwbl sylfaenol i alluogi'r Senedd a'i phwyllgorau i graffu ar Lywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif am ei defnydd o Filiau'r DU i wneud darpariaeth ddeddfwriaethol mewn maes datganoledig yn benodol.
Felly, cyn troi at sylwedd y darpariaethau sy'n destun cydsyniad, a gaf i ddim ond dweud, Gweinidog, rydym ni'n croesawu'n fawr y tabl a gynhwysir, yn llythyr y Gweinidog atom ar 7 Ionawr, sy'n nodi rhifo'r cymalau yn y Bil fel y'u cyflwynwyd ac yna fel y'u diwygiwyd? Gwelsom fod hyn yn ddefnyddiol iawn yn wir, fel y mae yn aml, oherwydd y cymhlethdod, y rhifau cymalau anodd eu dilyn wrth iddynt newid, wrth i Fil basio rhwng dau Dŷ Senedd y DU. Nawr, gan wybod bod Gweinidogion eraill yn gwrando'n frwd ar y sylwadau hyn, ac yn wir mae'r Cwnsler Cyffredinol, sydd yma heddiw, hefyd yn cymryd diddordeb brwd yn hyn hefyd, dim ond gobeithio y gall hyn ddod yn rhan reolaidd o femoranda atodol a gyflwynwyd gerbron y Senedd o ganlyniad i welliannau i Filiau'r DU. Byddai'n help mawr, felly diolch am hynny.
Nawr, gan droi at y ddau gynnig sydd ger ein bron, cytunwn fod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig 1, ac eithrio cymal 61 sy'n ymwneud â throsedd cyfraith gyffredin niwsans cyhoeddus. Ein barn ni fel pwyllgor, yn seiliedig ar ein cyngor cyfreithiol, yw nad oes angen cydsyniad y Senedd, gan ein bod o'r farn bod y ddarpariaeth y tu allan i'r prawf pwrpas datganoledig yn Rheol Sefydlog 29.1. Y rheswm am hyn yw mai prif ddiben y ddarpariaeth yw cynnal trefn gyhoeddus a lleihau aflonyddwch i aelodau'r cyhoedd yn y cyffiniau, ac mae trefn gyhoeddus yn fater a gadwyd yn ôl o dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gan droi at gynnig Rhif 2, mewn perthynas â chymal 47 ynghylch difrod troseddol i gofebion a'r dull treialu, cytunwn fod angen cydsyniad y Senedd. Mae cymalau 56 a 57 o'r Bil yn diwygio adrannau o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 drwy ehangu'r amgylchiadau lle mae gan swyddogion yr heddlu'r pŵer i osod amodau ar orymdeithiau a chynulliadau cyhoeddus. Mae cymal 62 hefyd yn diwygio Deddf 1986 ac yn ymwneud â gosod amodau mewn perthynas â phrotestiadau un person. Mae'r rhain yn feysydd sydd, mewn cyd-destun polisi, yn ddadleuol iawn, ond ein cylch gwaith fel pwyllgor yw troi at eu priodoldeb cyfreithiol technegol. Ein barn ni yw nad oes angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn, gan ein bod unwaith eto o'r farn bod y darpariaethau y tu allan i'r prawf diben datganoledig yn Rheol Sefydlog 29.1. Er bod y darpariaethau'n ymwneud â rheoli lefelau sŵn gormodol, prif ddiben y darpariaethau yw cynnal trefn gyhoeddus a lleihau aflonyddwch i aelodau'r cyhoedd yn y cyffiniau, ac fel y nodais, mater a gadwyd yn ôl yw trefn gyhoeddus o dan Atodlen 7A i Ddeddf 2006. Mae cymalau 63 i 65 yn ymwneud â gwersylloedd diawdurdod. Nid ydym o'r farn bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn chwaith, oherwydd unwaith eto diben y darpariaethau hyn, waeth beth fo'r materion polisi, yw cynnal trefn gyhoeddus. Yn ein hisel swyddogaeth fel craffwyr cyfansoddiadol a chyfreithiol, mae gwahaniaeth barn cwrtais ond cyson rhyngom ni ar y mater hwn.
Nawr, yn olaf, gwnaeth ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 4 ddau argymhelliad. Roedd y cyntaf yn gofyn am eglurhad ar wybodaeth a gynhwysir ym memorandwm Rhif 3 yn ymwneud â nifer y gwelliannau y mae angen caniatâd arnynt. Rydym yn ddiolchgar am ymateb y Gweinidog i'r pwynt yma. Diolch. A sylwaf fod camgymeriad wedi digwydd wrth ddrafftio memorandwm Rhif 3, a ddylai fod wedi cyfeirio at 18 cymal sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd yn hytrach na'r 15 a nodwyd.
Roedd ein hail argymhelliad yn ymwneud â goblygiadau ariannol y Bil. Mae'r memorandwm cyntaf a memorandwm Rhif 2 yn nodi nad oes unrhyw oblygiadau ariannol i Gymru mewn perthynas â'r Bil. Fodd bynnag, mae memorandwm Rhif 3 a memorandwm Rhif 4 yn nodi
'y gall fod goblygiadau ariannol ond ni fydd hyn yn glir hyd nes y gweithredir y mesurau yn y Bil'.
Felly, fe wnaethom ofyn, fel pwyllgor, i'r Gweinidog egluro pam mae'r sefyllfa o ran goblygiadau ariannol wedi newid ac, er mwyn y Senedd eto, dywedaf ar goedd ein bod yn ddiolchgar am ymateb y Gweinidog ar y pwynt hwn. Sylwaf y dylai'r wybodaeth ynglŷn â'r ffaith y gallai fod 'goblygiadau ariannol' fod wedi'i chynnwys ym mhob un o'r memoranda a gyflwynwyd mewn perthynas â'r Bil.
A dyna natur gyflawn ein sylwadau mewn perthynas â hyn, Llywydd. Diolch yn fawr iawn.
Er y byddwn yn pleidleisio o blaid y ddau gynnig cydsyniad deddfwriaethol hyn ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, rydym yn ymwybodol o'r sensitifrwydd dan sylw. Wrth wneud hynny, rydym yn cydnabod y datganiad yn adroddiad Rhif 2 y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y Bil hwn bod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod bellach yn fodlon bod y Bil yn darparu amddiffyniad a mesurau diogelu priodol o ran y rhyngweithio ag awdurdodau datganoledig Cymru a materion datganoledig eraill. Rydym hefyd yn cydnabod y datganiad yn adroddiad memorandwm Rhif 3 a 4 y pwyllgor ar y Bil hwn nad oedd y pwyllgor yn cytuno â Llywodraeth Cymru bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer nifer o gymalau a nodwyd oherwydd, yn eu barn nhw, maen nhw y tu allan i'r prawf diben datganoledig a nodir yn y Rheolau Sefydlog.
Yn eu sesiwn friffio ar gyfer y Bil hwn, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â throseddau difrifol a hyrwyddo system cyfiawnder teg, ac yn falch o weld mesurau yn y Bil sydd â'r nod o leihau'r defnydd cynyddol o gadw plant yn y ddalfa yn ogystal â mesurau i hyrwyddo cyfiawnder agored a darparu ar gyfer presenoldeb cyfieithydd iaith arwyddion yn ystod trafodaethau rheithgor. Fodd bynnag, nodwyd pedwar maes sy'n peri pryder ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol: cysylltiadau byw mewn achosion troseddol; protest a threfn gyhoeddus; gwersylloedd diawdurdod; a thynnu gwybodaeth ddigidol o ddyfeisiau symudol.
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi mynegi pryder y bydd y ddeddfwriaeth hon yn gwahaniaethu yn erbyn Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a ddiogelir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, tra hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswydd statudol i ddarparu safleoedd preswyl digonol, safleoedd teithio o ansawdd a mannau aros, neu i gosbi awdurdodau lleol lle na chyrhaeddir dyletswyddau statudol. Yn yr un modd, mae etholwyr wedi ysgrifennu yn datgan y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn arwain at droi ein cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn droseddwyr ar y naill law gan eu cosbi ddwywaith am nad yw awdurdodau lleol Cymru wedi bodloni gofynion Deddf Tai (Cymru) 2014 eto ac wedi adeiladu digon o safleoedd ac wedi darparu rhwydwaith o safleoedd teithio a mannau aros. Mae'r cyfrifoldeb felly ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.
Yn wahanol i'r Senedd hon yng Nghymru, ein Senedd ni, mae gan Senedd y DU brosesau craffu deuaidd aml-haenog cadarn, fel y gwelwyd yn y gyfres o bleidleisiau neithiwr yn Nhŷ'r Arglwyddi yn erbyn mesurau yn y Bil, a oedd yn cynnwys mesurau na fyddant yn cael eu hanfon yn ôl i Dŷ'r Cyffredin a phleidlais o blaid gwelliant dan arweiniad y Farwnes Newlove, aelod Ceidwadol, y cyfeiriwyd ati gan y Gweinidog—y Farwnes yw cyn Gomisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr—i wneud casineb yn erbyn merched yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr. Felly, rhaid inni ymddiried yn ein cyd-aelodau yn Senedd y DU i wneud eu gwaith, yn union fel y disgwyliwn i bobl ymddiried ynom ni i wneud ein gwaith ni.
Mae eithafiaeth beryglus Llywodraeth bresennol y Torïaid yn San Steffan yn amlwg pan fydd yn annog Tŷ'r Arglwyddi i weithredu gyda'r penderfyniad a ddangosodd neithiwr, yn trafod hyd oriau mân y bore gan drechu cymal ar ôl cymal o'r hyn a ystyriwyd yn gynigion gormesol a chywilyddus y Llywodraeth, sy'n bygwth tanseilio hawliau sifil cyffredinol a hawliau sylfaenol. Llywydd, mae'n rhaid inni anfon neges yr un mor rymus o'r fan yma na fydd gennym ni unrhyw ran yn hynt Bil sy'n cynnwys mesurau didostur sydd, mewn llawer o achosion, yn hiliol, yn awdurdodol ac yn anghymesur, gan danseilio cydlyniant ein cymdeithas a'r gwerthoedd sy'n annwyl i ni, y mae ein democratiaeth yn dibynnu arnynt.
Am gynnig 1, mae Plaid Cymru unwaith eto am nodi ar y cofnod ein safbwynt mai Senedd Cymru ddylai ddeddfu mewn meysydd polisïau datganoledig, yn enwedig yn wyneb awydd digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio ein hawdurdod datganoledig, ein hunaniaeth fel cenedl, a'n hawl democrataidd i benderfynu yr hyn sydd o fudd i'n cymunedau ein hunain. Ni ddylwn gydsynio i hynny ar unrhyw achlysur. Ac o ran y Bil gwarthus hwn, rhaid inni wneud popeth posib i'w atal wrth iddo ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.
Mae'n anwybyddu pwerau datganoledig, bydd yn ymyrryd yn ddifrifol ar bolisïau a gwasanaethau yng Nghymru, ac efallai'n creu costau ychwanegol mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, fel addysg carcharorion, gwasanaethau iechyd meddwl, mesurau i daclo camddefnydd cyffuriau, a fframwaith Llywodraeth Cymru i geisio gostwng nifer y rhai sy'n ymuno â'r system cyfiawnder troseddol. Rydym ni felly yn gwrthwynebu y ddau gynnig sydd ger ein bron, ond hoffwn fanylu ar ein gwrthwynebiad penodol i rai o'r cymalau yng nghynnig 2.
Fel nifer ohonoch chi, rwyf wedi mynychu gorymdeithiau yn galw am hawliau cyfartal, neu am newid i'r drefn, ac fel nifer ohonoch chi, rwy'n cofio bod yn rhan o'r protestiadau oedd yn galw am ddemocratiaeth i Gymru a sefydlu Senedd i Gymru. Mae'n draddodiad ac yn hawl sy'n atseinio drwy ein hanes, ac mae nifer a erlynwyd yn y gorffennol am eu rhan mewn ymgyrchoedd bellach yn cael eu clodfori fel penseiri ein hawliau a'n sefydliadau. Ac fel nifer ohonoch, rwy'n gwybod fy hanes, ac yn deall grym symbolaidd a dylanwad ymarferol protest yn y broses o greu cyfiawnder cymdeithasol a newid democrataidd yng Nghymru, Prydain a'r byd.
Roedd hi'n ddiwrnod Dr Martin Luther King ddoe. Ystyriwch am eiliad hanes heb Selma, heb y march on Washington. Ni allwn glodfori Dr King neu Nelson Mandela, neu'r syffrajéts, a chaniatáu mesurau a fyddai'n mygu hawl ein pobl ein hunain i alw am newid. Mae ymgais y Bil i dawelu yn llythrennol llais gwrthwynebiad nid yn unig yn groes i'n hawliau dynol sylfaenol, ond hefyd yn gam tuag at awtocratiaeth.
Fe hoffwn i droi'n awr at y ffordd y mae Rhan 4 o'r Bil yn targedu pobl Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn fwriadol. Mae darpariaeth yn y Bil sy'n troi tresmasu o fod yn drosedd sifil i fod yn drosedd, gan ganiatáu i'r heddlu arestio pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac atafaelu eu cartrefi, eu cerbydau, os ydynt yn stopio mewn mannau nad ydynt wedi'u dynodi ar eu cyfer. O ystyried na all safleoedd awdurdodedig a mannau aros letya'r bobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd eu hangen, mae hon yn weithred ffiaidd ac yn ymosodiad ffiaidd ar leiafrif sy'n agored i niwed. Gyda'u cartrefi wedi'u hatafaelu a'u rhieni'n cael eu harestio, mae plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn debygol o gael eu cymryd i ofal. Mae clymblaid o gynrychiolwyr ac eiriolwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru ac sy'n gysylltiedig â nhw wedi datgan bod y Bil yn cynrychioli un o'r bygythiadau mwyaf difrifol i hawliau sifil yn hanes diweddar, gan roi pwerau newydd ysgubol i danseilio ffordd nomadaidd o fyw Sipsiwn a Theithwyr.
Gofynnaf inni wrando ar y lleisiau hyn. Ein dyletswydd ni fel cynrychiolwyr pobl Cymru yw gwneud hynny. Bydd hyn nid yn unig yn tanseilio deddfwriaeth a pholisi presennol Cymru; nid yw'n cael ei gefnogi gan y rhan fwyaf o'r heddlu chwaith. Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Chymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi dweud mai'r diffyg llety digonol a phriodol i Sipsiwn a Theithwyr yw prif achos achosion o wersylla anawdurdodedig a datblygiad anawdurdodedig gan y grwpiau hyn. Nid yw'r mesurau yn y Bil hwn yn ymdrin â'r prif fater hwnnw, sef diffyg safleoedd teithio a phreswyl priodol. Fel y clywsom gan Mark Isherwood, gellir a dylid gwneud mwy i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn cyflawni eu dyletswydd statudol i ddarparu safleoedd a mannau aros digonol, yn hytrach na throi teuluoedd nomadaidd yng Nghymru yn droseddwyr, sy'n cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosib.
Gallwn fynd ymlaen i fanylu ar ein gwrthwynebiad i nifer o gymalau eraill y Bil maith hwn, sy'n mynd i effeithio'n andwyol ac yn anghymesur ar leiafrifoedd, ar fenywod, ar blant, ar ein hawliau sifil, ac a fydd yn sicr o waethygu'r anghydraddoldebau presennol yn ein system cyfiawnder troseddol. Ond fe wnaf i gloi drwy ddatgan bod y Bil yn enghraifft arall o pam mae angen i ni ddatganoli cyfiawnder i Gymru. Mae datganoli pwerau dros gyfiawnder yn hanfodol er mwyn darparu system gyfiawnder decach, mwy dyngarol a mwy atebol, a fydd ag anghenion, gwerthoedd a budd pobl Cymru wrth ei chalon. Diolch.
Rwy'n cytuno yn llwyr â'r sylw olaf y mae Sioned Williams newydd ei wneud yn y fan yna. Mae Mark Isherwood yn anghywir pan yw'n sôn am natur ddeuaidd Senedd y DU. Wrth gwrs, mae'n ddeuaidd o ran ei natur, ond nid yw o ran deddfu, pan wneir amrywiaeth eang o welliannau ar ôl i Dŷ'r Cyffredin eisoes ystyried y Bil. Mae hynny'n gam-drin proses, a'r unig reswm y bydd Aelodau Seneddol yn cael pleidlais ar rai o'r cymalau hyn yn awr yw oherwydd i'r Arglwyddi eu gwrthod neithiwr. Nid rhannu deddfwrfa yn ddwy siambr yw hynny ar ei orau, mae'n gam-drin Gweithredol ar ei waethaf, ac rwy'n credu y dylem ni fod yn gwbl glir am hynny.
Mae hwn yn Fil gwael. Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud, a byddaf yn pleidleisio dros y cynnig cyntaf ar y mater hwn heno, oherwydd mae pethau da mewn unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth. Ond mae'n gyfraith wael—mae'n ddrwg mewn egwyddor, mae'n ddrwg yn ymarferol, mae'n ddrwg mewn proses, mae'n ddrwg mewn gwleidyddiaeth, ac mae'n ddrwg mewn termau athronyddol. Ni ddylem ni fod yn ymdrin â hyn. A chan Lywodraeth Geidwadol, gadewch imi ddweud, dyma'r darn mwyaf angheidwadol o ddeddfwriaeth y gallaf ei chofio.
Rydym ni wedi clywed, Llywydd—ac rydych chi wedi bod yn eithriadol o amyneddgar dros y misoedd diwethaf wrth wrando arnynt—Aelod Ceidwadol ar ôl Aelod Ceidwadol yn sgrechian am osod cyfyngiadau, weithiau rhai eithaf bach eu natur, ar adegau eraill yn fwy ymwthiol, wedi'u rhoi ar waith dros dro i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Rydym wedi clywed Aelod Ceidwadol ar ôl Aelod Ceidwadol yn dod yma i siarad am osod y cyfyngiadau hyn. Ac ar drawiad y cloc, am hanner nos, heb unrhyw ddadl yn y Siambr etholedig, mae arnyn nhw eisiau tynnu hawliau dynol sylfaenol oddi ar bawb yn y wlad hon, ac maen arnyn nhw eisiau gwneud hynny'n barhaol, heb unrhyw apêl, heb unrhyw awdurdodaeth, a heb unrhyw ymgais i adolygu'r math hwnnw o ddeddfu. Mae'n anghywir o ran proses, mae'n anghywir mewn egwyddor, ac mae'n anghywir yn y bôn. Nid dyna sut y dylid llywodraethu'r wlad hon. Mae hwn yn ymosodiad ar ein hawl ddemocrataidd i brotestio yn erbyn polisi Llywodraeth yr ydym yn anghytuno ag ef.
Soniais am y Llywydd o'r blaen; mae hi a minnau wedi treulio peth amser yn eistedd ar strydoedd a ffyrdd gyda'n gilydd yn y gorffennol. Roeddem yn creu anghyfleustra enfawr, ac, rwy'n awgrymu, roeddem ni'n swnllyd. Mae protest yn anghyfleus, mae protest yn swnllyd, ac mae protest yn ddemocratiaeth ar waith. A gadewch imi ddweud wrthych chi, rwyf wedi dioddef anghyfleustra noson yn y celloedd ar sawl achlysur o ganlyniad i'm safiad yn erbyn Llywodraeth awtocrataidd, yn fy marn i. Mae gennyf hawl i wneud hynny, ac rwy'n derbyn canlyniadau hynny. Allwch chi ddim cael Senedd heb brotest, ac ni allwch gael gwleidyddiaeth heb brotest. Mae protest yn gymaint rhan o'n system wleidyddol â phan fyddwn yn pleidleisio ymhen ychydig funudau.
Mae'r gyfraith hon yn anghywir. Mae'n anghywir yn ymarferol ac mae'n anghywir mewn egwyddor. Mae'n ymosodiad ar ein hawliau sylfaenol. Nid yw'n ddarn o ddeddfwriaeth Brydeinig, nid yw'n ddarn o ddeddfwriaeth Geidwadol. Mae'n ymosodiad ar ryddid sylfaenol. Byddaf yn pleidleisio dros gynnig 1, cyn i'n chwipiaid fy ffonio. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae gen i galon drom iawn ar y mater hwn. Dylem fod yn unedig fel gwleidyddion, yn unedig ar draws pleidiau gwleidyddol, gan ddweud bod hawl pobl i wneud ein bywydau'n anghyfforddus yn bwysicach na'n hawl i gadw pobl yn dawel, ac i wneud hynny yn heddwch hanner nos. Nid yw hynny'n ffordd o ddeddfu. Nid yw'n ffordd o lunio deddfwriaeth ac nid dyna'r gyfraith y dylem ni fod yn ei gweithredu.
Mae torri'r gyfraith yn rhan bwysig o brotest, os yw'r mater yn ei haeddu. Ac mae llawer o'r bobl sy'n torri'r gyfraith yn achos cyfiawnder cymdeithasol yn dod yn brif weinidogion neu lywyddion yn y pen draw, felly mae angen inni feddwl am hynny'n ofalus iawn. Diolch i Lywodraeth Cymru am ganiatáu i'r memorandwm gael ei rannu'n ddwy bleidlais ar wahân. Rwy'n fodlon cydsynio i rai cynigion cwbl ddi-nod sy'n diogelu cymunedau.
Mae Rhan 4, ar y llaw arall, sy'n effeithio ar y gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn ffiaidd, oherwydd mae'n bwriadu gwneud tresmasu gyda'r bwriad o breswylio'n drosedd, gan fynd ati'n fwriadol i wahaniaethu yn erbyn Sipsiwn, Roma a Theithwyr, grwpiau ethnig sydd neu a ddylai gael eu diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn hytrach, bwriad Rhan 4 o'r Bil yw eu herlyn am eu ffordd o fyw. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, byddai'n golygu bod teuluoedd heb unrhyw le cyfreithiol ar gael i barcio eu cerbydau yn cael eu cartrefi wedi eu hatelfaelu, gan eu amddifadu o'u dillad gwely, eu cyfleusterau coginio a'r modd i'w cadw'n gynnes, yn ogystal â'u cludiant a'u hoffer, a fyddai'n eu hatal rhag ennill eu bywoliaeth. Rwy'n gobeithio na fydd Aelodau'r Senedd yn cydsynio i'r rhan warthus hon o'r Bil heddlu hwn, ond nid oes gennyf fawr o obaith y bydd Llywodraeth bresennol y DU yn gwrando o gwbl ar y pryderon hyn. Mae'n debygol iawn y byddant yn cyflwyno'r cynigion hyn drwy Dŷ'r Cyffredin fel rhan o'u hymgyrch 'achub ci mawr' i dynnu sylw o'u harferion celwyddog, afreolus.
Mae hefyd yn ysgytwad i Lywodraeth Cymru. Mae Rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol a dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i asesu angen a darparu darpariaeth breswyl a theithio ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal. Roeddwn yn ymwneud â chraffu ar y ddeddfwriaeth hon, felly cofiaf yn glir y sicrwydd gan y Gweinidog ar y pryd, Carl Sargeant, y gwneid Rhan 3 o'r Ddeddf yn rhywbeth parhaol. Felly, Gweinidog, pa awdurdodau lleol sy'n darparu digon o safleoedd preswyl, gyda mynediad i ysgolion, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, heb sôn am ddigon o leoedd aros, er mwyn i gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma allu byw eu bywydau yn gyfreithlon?
Wyth mlynedd ar ôl Deddf tai 2014, rwy'n credu bod tri awdurdod lleol o hyd sydd eto i ddarparu unrhyw safleoedd preswyl o gwbl, ac mae'n rhaid i hynny newid. Yr esgusodion llipa a glywsom y llynedd gan yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, sy'n dal i fod yn gynghorydd yn sir Ddinbych, nad oes unman yn sir Ddinbych gyfan sy'n addas naill ai ar gyfer aros neu ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr parhaol—nid yw hynny'n gredadwy. Mae'n fethiant gwarthus o ran arweinyddiaeth. A hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw unrhyw ymdeimlad o ddyletswydd gyhoeddus, efallai y byddan nhw'n cael eu hysbrydoli gan y sylweddoliad, os bydd Sipsiwn a Theithwyr yn mynd yn anghenus, lle'r awdurdodau lleol fydd gofalu am eu plant gyda'r holl ofid a chostau a ddaw yn sgil hynny.
Gwyddom nad yw'r heddlu'n awyddus i weithredu mesur o'r fath. Roedd pedwar o bob pum heddlu ym Mhrydain yn gwrthwynebu'r cynigion hyn yn yr ymgynghoriad yn 2018, gan ddweud bod y gyfraith bresennol yn gymesur ac yn ddigonol i ddelio â gwersylloedd diawdurdod sy'n achosi niwsans. Maen nhw'n gwrthwynebu troseddoli'r gymuned hon ac felly y dylem ninnau. Nid bai'r cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma yw nad oes unrhyw le cyfreithiol i barcio; methiant awdurdodau lleol—yn lleol ac yn genedlaethol—yw gweithredu. Hoffwn wybod sut fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn erbyn awdurdodau lleol Cymru sy'n parhau i anwybyddu eu rhwymedigaethau lleol wrth inni bleidleisio yn erbyn y mesur gwarthus hwn.
Diolch, Weinidog a diolch hefyd i Huw Irranca-Davies am ei waith a gwaith ei bwyllgor hefyd.
Mae hwn yn gyfraniad byr iawn, oherwydd cytunaf yn llwyr â'r ddau gyfraniad diwethaf. Fe hoffwn gytuno'n arbennig â chyfraniad Alun Davies. Mae'r Bil hwn yn niweidiol ac yn tanseilio ein hawl i brotestio. Mae rhannau helaeth o'r Bil 300 tudalen yn ddinistriol ac yn ddidostur ac yn tanseilio cyfreithiau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu pobl y mae angen mesurau diogelu arnynt, er enghraifft o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a Deddf Trefn Gyhoeddus 1986. Mae'r hawl i ymgynnull a phrotestio'n heddychlon yn hawl ddynol sylfaenol ac mae bob amser wedi bod yn rhan hanfodol o'n cymdeithas ddemocrataidd. Bygwth gwanhau gallu pobl i herio'r Llywodraeth, unrhyw Lywodraeth, yw gweithred unbeniaid a gormeswyr, nid democratiaid. Sefydlwyd y Senedd hon ar sail tryloywder, atebolrwydd, cydraddoldeb a chyfranogiad i bawb mewn cymdeithas. Mae'r Bil hwn wrth wraidd yr egwyddorion hynny, a chredaf y dylai'r Senedd hon wrthod cydsyniad ar gyfer y Bil peryglus hwn. Diolch.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei hagwedd at y materion hyn, y gwaith y mae hi wedi'i wneud ar y Bil hwn, o ran sut y byddai'n effeithio ar Gymru a chymunedau yng Nghymru, ac yn gwahanu ein hystyriaeth heddiw i'r ddau gynnig. Hoffwn gefnogi atal cydsyniad o ran cynnig 2 ac am lawer o'r rhesymau yr ydym ni eisoes wedi'u clywed, Llywydd.
Ac o ran Rhan 4, hoffwn, fel y soniodd Jenny Rathbone, ac fel y mae eraill wedi sôn, ganolbwyntio ar yr effaith ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, oherwydd byddai'n effaith ddifrifol iawn yn wir. Gwyddom eisoes fod ffordd o fyw'r bobl hyn, dros nifer o flynyddoedd, wedi'i gwneud yn anodd ac wedi'i herydu gan drefoli graddol, diffyg mannau aros, a diffyg darpariaeth safleoedd angenrheidiol fel y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato'n gynharach, unwaith eto. Mae'n brawf o gymdeithas a gwladwriaeth a gwlad, rwy'n meddwl, Llywydd, na ddylem oddef ond annog a hwyluso gwahanol ffyrdd o fyw. Mae gan bobl hawl i fyw'n wahanol, yn wahanol i'r mwyafrif, yn wahanol i'r norm. Dylid parchu a deall hynny a'i hwyluso. Ac nid yw hynny'n wir yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwyddom fod gennym ni rywfaint o waith i'w wneud i roi trefn ar ein tŷ ein hunain o ran darparu safleoedd, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol.
Ond gwyddom hefyd y byddai'r ddeddfwriaeth hon, fel y'i cynigiwyd, yn gwneud y sefyllfa honno'n llawer gwaeth. Byddai'n troi pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn droseddwyr pan fyddan nhw'n stopio yn rhywle heb ddewis cyfreithiol arall i'w defnyddio yn yr ardal honno, a byddai'n caniatáu i awdurdodau lleol atafaelu eu cartrefi ac atafaelu cerbydau. Felly, byddai hynny'n atal teuluoedd rhag byw fel y maen nhw'n byw ar hyn o bryd a chael to uwch eu pen ar adeg benodol, a byddai'n eu hatal rhag cael y modd i arfer eu bywoliaeth ar adeg benodol. Ac eisoes mae'r teuluoedd hyn yn dioddef cryn anfantais o ran darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, yn economaidd ac yn gymdeithasol, a byddai hynny'n cael ei wneud yn llawer gwaeth gan y mesurau didostur hyn, a fyddai, ar amrantiad, yn caniatáu atafaelu cartrefi a'r modd o ennill bywoliaeth.
Mewn gwirionedd, byddai cyfres ddifrifol iawn o ganlyniadau yn dilyn os caniateir i'r ddeddfwriaeth hon ddod i rym yng Nghymru. A byddai'n mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru dros flynyddoedd lawer a deddfwriaeth yr ydym ni wedi'i deddfu yma yng Nghymru drwy'r Cynulliad a'r Senedd. Ac er bod diffygion, fel y dywedais i eisoes, o ran darparu safleoedd, gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n fawr i weithio gydag awdurdodau lleol i unioni'r diffygion hynny, ac y byddai hynny, unwaith eto, yn cael ei wneud yn llawer anoddach pe bai'r deddfiadau hyn yn dod i rym yng Nghymru. Felly, rwy'n llwyr gefnogi safbwynt y Gweinidog a'r rhai sydd wedi gwrthwynebu cynnig 2 yn y ddadl hon heddiw, Llywydd, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n pleidleisio yn unol â hynny.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl nawr—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau grymus iawn i'r ddadl hon? A gaf i ddechrau, serch hynny, drwy ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eich adroddiadau ac ystyriaeth eich aelodau o'r darn cymhleth hwn o ddeddfwriaeth, a'ch cyfraniad y prynhawn yma? Rydw i, fel y dywedodd y Cadeirydd—Huw Irranca-Davies—wedi ymateb i bryderon a godwyd yn sylwadau agoriadol Huw Irranca-Davies, ac rwy'n ddiolchgar am gydnabod nid yn unig gymhlethdod y Bil, ond hefyd y ffyrdd yr ydym ni efallai wedi ymateb mewn modd fydd o gymorth, er enghraifft gyda'r tabl a gyflwynwyd ar 7 Ionawr. Mae'n ddefnyddiol dysgu o anogaeth ac ymateb y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y materion cymhleth iawn hyn.
Ond heddiw rydym yn ystyried y cymalau hynny sydd wedi'u hasesu gan Lywodraeth Cymru fel rhai sy'n effeithio ar faterion datganoledig, ac mae'n effaith ar faterion datganoledig sydd, yn ein barn ni, o fewn cymhwysedd y Senedd. Rydym yn cydnabod, gyda llawer ohonyn nhw, y rhan fwyaf o'r cymalau hyn, fy mod yn argymell bod y Senedd yn cydsynio, gan eu bod yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau, a dyna'r mater o ran yr effaith ar ddatganoli, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru. Ond rwyf hefyd wedi bod yn glir iawn heddiw, Llywydd, fod rhannau o'r Bil sydd o fewn cymhwysedd sy'n llechwraidd, ac sy'n effeithio'n negyddol ar hawliau pobl. Mae clywed gan Aelodau heddiw wedi bod yn bwysig cydnabod a chymeradwyo'r safbwynt yr wyf wedi'i arddel.
Felly, croesawaf yn fawr drechu'r cymalau sy'n ymwneud â chyfyngu ar brotest yn Nhŷ'r Arglwyddi ddoe, ac rwy'n diolch i Sioned Williams am eich cyfraniadau grymus i'r perwyl hwnnw. Byddaf yn parhau i bwysleisio i Lywodraeth y DU na ellir ac na ddylid goddef y mesurau y maent yn eu cynnig mewn perthynas â phrotest. Fel y mae Aelodau wedi dweud heddiw, rhaid inni roi'r hawl i bobl leisio eu barn mewn protest heddychlon mewn ffordd sy'n cadw at y gyfraith. Fel y mae Aelodau hefyd wedi dweud heddiw, rydym ni, cymaint ohonom ni, wedi gweld hynny fel bywyd ein gwleidyddiaeth, o'n lleisiau, a'r ffordd y gallwn alluogi pobl i fynegi hynny sy'n allweddol i fywyd ein democratiaeth, fel y gwelwn ar risiau ein Senedd, fel y gwelwn yn y gorymdeithiau, y protestiadau, y martsio, y gwyddom eu bod yn ymwneud â chryfder y safbwyntiau yr ydym ni wedyn am ymateb iddynt.
Ond hefyd, byddwn yn dweud 'diolch' eto wrth Jenny Rathbone, Jane Dodds, wrth Sioned Williams ac wrth John Griffiths am y safbwyntiau, y pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud, am y ffyrdd y mae'r Llywodraeth yn ceisio, fel y dywedais i, yn mynd dros ben llestri gyda gwersylloedd diawdurdod. Rydym yn gwrthwynebu'n sylfaenol troi cymunedau Sipsiwn/Teithwyr/Roma yn droseddwyr. Fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae'n groes i bob agwedd ar ein strategaeth 'Teithio Ymlaen', ac rwy'n diolch i chi, Jenny, wrth gwrs, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma. Mae hyn yn ymwneud â sut y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol weithredu a chyflawni'r Ddeddf, ac wrth gwrs, yn Neddf Tai 1985 mae'n ddyletswydd gyfreithiol i asesu angen, yn breswyl ac yn deithiol. Gwn fod arfer da ledled Cymru ymhlith ein hawdurdodau lleol, a'r arfer da hwnnw y mae'n rhaid ei gyflawni ym mhob cymuned ar gyfer ein cymunedau Teithwyr/Sipsiwn/Roma. Felly, diolch eto am roi'r cyfle imi fynegi hynny.
Hoffwn ddiolch hefyd i Alun Davies am ei gyfraniad heddiw. Rydych chi eto, Alun, wedi amlygu diffygion dwfn y ddeddfwriaeth hon. Mae Jane Dodds yn ei alw'n 'niweidiol'. Dyna pam y collodd y Llywodraeth 14 pleidlais yn Nhŷ'r Arglwyddi ar fanylion y Bil hwn, gan ychwanegu at bum gorchfygiad blaenorol mewn dadleuon cynharach, a chawsant eu trechu neithiwr o 261 i 166 o bleidleisiau.
Felly, mae'n ddeddfwriaeth gymhleth. Rydym wedi ymdrin â hi mewn ffordd benodol y prynhawn yma. Gobeithio y byddwch yn awr yn cefnogi cynnig Rhif 1, sy'n cynnwys cymalau rwy'n argymell cydsynio iddynt, ac fe'ch anogaf i wrthod cynnig Rhif 2, sy'n cynnwys y cymalau yr wyf yn argymell peidio â chydsynio iddynt. Ac rwy'n annog y Ceidwadwyr Cymreig i ymuno â ni i atal cydsyniad, gan gydnabod yn arbennig y sylwadau y mae Mark Isherwood wedi'u gwneud am yr effaith andwyol y gallai'r cymal 4 penodol hwn ei chael mewn perthynas â'n cymunedau Sipsiwn/Teithwyr/Roma yma yng Nghymru. Diolch yn fawr, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 10? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
A chyn inni symud ymlaen i'r bleidlais honno, rwyf am alw ar Janet Finch-Saunders i wneud datganiad o fuddiant ôl-weithredol.
Diolch, Llywydd. Yn ystod fy nghwestiwn, fy nghwestiwn atodol, i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, ac wrth fyfyrio am y peth, rwy'n credu y byddai wedi bod yn briodol imi gyfeirio Aelodau at fy natganiad o fuddiant. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i wneud hynny'n awr, a diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch, Janet Finch-Saunders. A, gan mai dyma'r ail wythnos y mae angen i mi wneud hyn a galw am ddatganiadau o fuddiant ôl-weithredol—nid chi yr wythnos diwethaf, Janet, rhywun arall oedd wrthi bryd hynny—mae angen imi atgoffa'r holl Aelodau, os ydych chi'n gynghorydd neu os ydych chi'n berchen ar fusnes ac os yw eich cwestiynau neu'ch datganiadau yn cyfeirio mewn unrhyw ffordd at y materion hynny, yna cofiwch eich datganiad o fuddiant—cofiwch eich bod yn gynghorydd neu eich bod yn berchen ar fusnes—a gwnewch y datganiadau hynny yn ystod eich cyfraniad. Nid wyf am ddatblygu arfer o ganiatáu eitem ar ddatganiadau o fuddiant ôl-weithredol ar ddiwedd pob Cyfarfod Llawn. Felly, gobeithio mai chi fydd yr olaf y bydd angen i mi ei alw ar y sail honno, Janet.
Iawn, nawr fe symudwn ni ymlaen a chymryd seibiant byr cyn i ni gynnal y bleidlais.